– Senedd Cymru ar 18 Ebrill 2018.
Eitem 10 ar yr agenda yw dadl UKIP ar ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality. Galwaf ar Caroline Jones i wneud y cynnig. Caroline.
Cynnig NDM6697 Neil Hamilton
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi ac yn croesawu ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality (WASPI) i gael trefniadau pensiwn gwladol trosiannol teg ar gyfer yr holl fenywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu'r hyn a ganlyn i'r holl fenywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt:
a) pensiwn pontio sy'n cyflenwi incwm hyd at oedran pensiwn y wladwriaeth, nad yw'n ddarostyngedig i brawf modd;
b) iawndal am absenoldeb pensiwn pontio i'r rhai sydd eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth;
c) iawndal i bawb sydd heb ddechrau cael pensiwn pontio erbyn dyddiad priodol, a fyddai'n ddigon i adennill llog ariannol a gollwyd; a
d) iawndal i fuddiolwyr yr ystadau'r rhai sydd wedi marw a heb gael pensiwn pontio.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig hwn heddiw a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Neil Hamilton. Rhaid imi ddatgan buddiant ar y dechrau, Ddirprwy Lywydd: rwy'n fenyw yr effeithiwyd arni'n annheg gan y newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth, ac yn un o'r menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth (WASPI).
Yn 1995, cyflwynodd y Llywodraeth Geidwadol ar y pryd Ddeddf Pensiynau newydd, a fyddai wedi codi oedran ymddeol i fenywod i 65—yr un oedran â dynion—erbyn 2020. Byddai hyn wedi rhoi o leiaf 15 mlynedd i fenywod newid eu cynlluniau ymddeol—15 mlynedd yn fwy o gynilion i helpu i ateb y diffyg yn eu cronfeydd pensiwn. Fodd bynnag, newidiodd Llywodraeth glymblaid y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol y cynlluniau hyn. Cyflymodd Deddf Pensiynau 2011 y newidiadau, a olygodd y byddai oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod yn codi o 63 yn 2016 i 65 ym mis Tachwedd eleni, ac mae'n parhau. Roedd y Ddeddf hefyd yn datgan y dylai oedran pensiwn y wladwriaeth i ddynion a menywod godi i 66 erbyn 2020. Fel miloedd o fy nghydwladwyr, ni chefais fy hysbysu'n bersonol ynghylch y newidiadau hyn. Ni chefais lythyr; ni chefais unrhyw esboniad. Ni ddywedodd neb wrthyf y byddai fy nghynlluniau ymddeol yn gorfod newid, ond yn wahanol i lawer o fenywod eraill yn y sefyllfa hon, rwy'n ffodus: rwy'n dal mewn gwaith; nid wyf yn wynebu tlodi. Yn anffodus, effeithiodd y newidiadau hyn yn ddrwg ar lawer o fenywod, ac rwyf wedi clywed am o leiaf un fenyw a gyflawnodd hunanladdiad o ganlyniad i'r twll du ariannol roedd hi ynddo. Ni ddylid trin neb fel hyn—neb. Nid oes neb yn anghytuno na ddylai oedran dynion a menywod fod yr un fath. Fodd bynnag, ni ddylid bod wedi cyflwyno'r newidiadau hyn heb ddegawdau o rybudd, blynyddoedd i gynllunio ac amser i wneud trefniadau ariannol ychwanegol.
Fel y mae pethau, cyflwynwyd y newidiadau i bensiynau menywod yn rhy gyflym, ac yn rhy ar hap. Digwyddais glywed am y newidiadau drwy sylw didaro a wnaed wrthyf un diwrnod, ac mae fy sefyllfa ymhell o fod yn unigryw. Gwneir i fenywod ddioddef oherwydd diffyg rhagwelediad a chynllunio gan Lywodraethau olynol y DU. Gwneir i fenywod ddioddef oherwydd polisi cyni'r Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol. A gwneir i fenywod ddioddef oherwydd bod Llafur wedi camdrin arian cyhoeddus a'u methiant i ddiddymu Deddf 1995. Gofynnaf i'r gwleidyddion Llafur sy'n cefnogi mudiad WASPI—roeddech yn Llywodraeth rhwng 1997 a 2010—pam na roesoch gamau ar waith bryd hynny? Yn anffodus, ni allwn gywiro camgymeriadau'r gorffennol, ond gallwn liniaru'r effeithiau y mae'r camgymeriadau hynny yn eu cael ar fenywod a anwyd yn ystod y 1950au.
Mae ein cynnig sydd ger eich bod heddiw yn galw am bensiwn pontio sy'n cyflenwi incwm hyd at oedran pensiwn y wladwriaeth nad yw'n ddarostyngedig i brawf modd, iawndal am absenoldeb pensiwn pontio i'r menywod sydd eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth, iawndal i bawb sydd heb ddechrau cael pensiwn pontio erbyn dyddiad priodol a fyddai'n ddigon i adennill llog ariannol a gollwyd, a iawndal i fuddiolwyr ystadau'r rhai sydd wedi marw a heb gael pensiwn pontio. Nid yw hyn yn ormod i'w ofyn, a gobeithio y bydd yr Aelodau yma'n cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n ymladd dros fenywod WASPI, a gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn gweld synnwyr.
Mae yna bethau y gallwn eu gwneud yma yng Nghymru heb aros i Lywodraeth y DU gydnabod y boen a'r dioddefaint y mae'r polisïau wedi eu creu. Mae menywod a aned yn ystod y 1950au bellach yn gorfod gweithio am chwe blynedd arall a gall Llywodraeth Cymru eu cynorthwyo i ddod o hyd i waith a sicrhau bod cyflogwyr yn cyflogi gweithwyr sy'n agos at oed ymddeol, gan ymladd dros sicrhau ar yr un pryd fod menywod y 1950au yn cael yr hyn sy'n ddyledus iddynt. Cafodd arian ei ddwyn oddi wrthynt.
Soniwyd wrthyf am enghreifftiau niferus o fenywod yn methu cael gwaith oherwydd eu hoedran. Cysylltodd menyw â mi, a dywedodd, 'Rwy'n 62 oed, nid wyf yn cael pensiwn a oedd wedi'i addo i mi. Rwy'n anghyflogadwy oherwydd fy oedran. Rwy'n dlawd ac yn dibynnu ar ffrindiau a theulu.' Ni ddylai fod fel hyn, ond yn sicr, nid yw'n unigryw.
Rhaid inni annog cyflogwyr i weld manteision cyflogi pobl ym mlynyddoedd olaf eu bywyd gwaith. Bydd y menywod hyn yn cynnig oes o brofiad, cyfoeth o wybodaeth ac etheg gwaith a ffurfiwyd drwy ddegawdau o waith caled. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i annog cyflogwyr i fuddsoddi mewn menywod WASPI, i weithio gyda chyflogwyr i sicrhau bod gwaith ystyrlon ar gael ar gyfer y rhai a orfodir i weithio am gyfnod hirach, ond sydd hefyd yn brwydro i oroesi ac eisiau'r hyn sy'n ddyledus iddynt.
Rwy'n annog yr Aelodau i ddangos eu cefnogaeth i fenywod WASPI drwy gefnogi'r cynnig hwn sydd ger eich bron heddiw. Dangoswch eich cefnogaeth i fenywod WASPI drwy ddweud wrth Lywodraeth y DU fod y modd y mae'r menywod hyn yn cael eu trin yn annerbyniol. Ni fyddai newidiadau pensiwn wedi cael llawer o effaith ar fenywod yn eu 30au a'u 40au efallai, ond maent wedi cael effaith ddinistriol ar fenywod yn eu 50au a'u 60au. Yn amlwg, nid yw Llywodraeth y DU yn poeni am effaith y polisïau hyn, fel yr amlygwyd gan eu gwrthodiad pendant i ddiddymu'r newidiadau.
Bellach mae'n fater i bob un ohonom yma heddiw sicrhau bod effaith y newidiadau hyn yn cael eu lliniaru a bod pobl yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo. Nid wyf am weld unrhyw fenyw arall yn cael ei gorfodi i ddewis rhwng byw mewn tlodi dybryd neu gyflawni hunanladdiad. Mae'r menywod hyn wedi gweithio'n galed ers degawdau, ni ddylent orfod wynebu tlodi wrth iddynt ymddeol. Dylent gael y pensiwn a addawyd iddynt am ddegawdau o waith caled.
Ni ddylai fod gan unrhyw Lywodraeth hawl i dorri'r addewidion a gorfodi'r menywod hyn i fyw mewn tlodi. Cynlluniodd y menywod hyn eu hymddeoliad yn ôl yr addewidion, a thorwyd yr addewidion hynny. Nid oes gan neb hawl i fynd â'u harian. Mae'n werth nodi, ar ôl 43 mlynedd o waith corfforol caled, na all rhai menywod weithio rhagor, a chânt eu gadael heb eu pensiwn. Felly, rhaid inni weithredu. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu. Rhaid gorfodi Llywodraeth y DU i weithredu. Rwy'n annog pawb ohonoch i gefnogi'r cynnig a gyflwynais ger eich bron heddiw.
Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig a galwaf ar arweinydd y tŷ i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn ei henw yn ffurfiol.
Gwelliant 1. Julie James
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DU i roi terfyn ar yr anghyfiawnder a ddioddefir gan fenywod y mae’r newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt.
Gwelliant 2. Julie James
Ym mhwynt 2, dileu 'weithio gyda' a rhoi 'annog' yn ei le.
Yn ffurfiol.
Diolch. Vikki Howells.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn groesawu'r cyfle i drafod y mater pwysig hwn heddiw. Mae penderfyniadau a wnaed yn San Steffan gan Lywodraeth allan o gysylltiad ac angharedig wedi effeithio'n ofnadwy ar filiynau o fenywod Prydain, gan gynnwys oddeutu 200,000 o fenywod yma yng Nghymru. Mae menywod WASPI, sydd wedi cyfrannu ar hyd eu hoes i fywyd ein gwlad, wedi cael eu hamddifadu i bob pwrpas. I lawer ohonom, y menywod hynny yw ein ffrindiau, ein cydnabod, teulu agos a'r menywod a welwn o'n hamgylch yn ein cymunedau bob dydd.
Gyda'r newyddion diweddar am genhedlaeth Windrush, mae'n ymddangos mai torri'r ymrwymiad cymdeithasol sydd wedi cadw ein gwlad at ei gilydd ers degawdau yw unig uchelgais y Torïaid yn San Steffan. Fodd bynnag, oherwydd mai Gweinidogion y DU sydd wedi achosi'r broblem hon, ac yn wir, mewn ysbryd o gyfiawnder a thegwch, dyna pam y mae angen inni roi camau unioni ar waith ar frys. Dyna pam rwy'n cefnogi gwelliannau'r Llywodraeth heddiw. Y canlyniad gorau o'r ddadl heddiw i fenywod WASPI fydd ein bod yn anfon neges glir a diamheuol i San Steffan fod yr hyn a wnaeth Gweinidogion y DU yn anghywir.
Dylai pawb ohonom fod yn gyfarwydd â'r hyn sydd wedi digwydd yn yr achos hwn. Roedd deddfwriaeth yn 1995 yn nodi bwriad i oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod godi i 65 erbyn 2020. Cafodd y newidiadau hyn eu gorfodi drwy'r Senedd gan Iain Duncan-Smith, sy'n brolio ei fod yn gallu byw ar £53 yr wythnos ond a hawliodd bron i £100 mewn treuliau am staplwr newydd. Cyflymodd ei Ddeddf Pensiynau 2011 yr amserlen, gan symud y newid i fis Tachwedd eleni a chodi'r oed eto i 66 oed erbyn 2020. Ni chadwyd ei addewidion ar gyfer trefniadau pontio. Ac ar gyfer pwy y sicrhawyd y trefniadau pontio hyn? Byddent wedi helpu'r miliynau o fenywod a aned yn y 1950au sydd bellach yn wynebu codi'r oedran pan oeddent yn disgwyl gallu hawlio pensiwn y wladwriaeth—pensiynau y maent wedi'u talu, wedi gweithio'n galed amdanynt, ac wedi cyfrannu tuag atynt ar hyd eu hoes.
Yr hyn sy'n waeth yw bod y newidiadau hyn wedi'u gwneud heb fawr o rybudd os o gwbl, a'u gorfodi drwodd heb amser i wneud cynlluniau amgen. Felly, erbyn hyn, rhaid i fenywod WASPI weithio am gyfnod hirach, neu ddod o hyd i waith newydd yn wir. Dangosodd tystiolaeth gan Age UK yr heriau i rai mewn swyddi corfforol sy'n gorfod gweithio am gyfnod hirach, y pwysau ychwanegol, y straen a'r salwch. Er nad yw newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth yn cynnig unrhyw her bersonol i'r Prif Weinidog, Theresa May, nid yw hynny'n wir i'r rhan fwyaf o fenywod eraill, yn enwedig rhai sy'n gweithio mewn rolau corfforol, er enghraifft, gofalwyr, glanhawyr neu swyddi manwerthu. Ar ben hynny, ceir heriau mewn perthynas â sgiliau yn y gweithle. Clywais am y rhwystrau sy'n wynebu un fenyw WASPI yn fy ardal leol. Ar ôl ymddeol ar sail gwybodaeth gamarweinol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, mae angen iddi ddychwelyd i'r gweithle yn awr, ond nid yw'n cael unrhyw lwyddiant. Fel y dywed, 'Ni allaf ddefnyddio cyfrifiadur a phwy sydd eisiau cyflogi rhywun 62 oed heb sgiliau sydd wedi blino'n lân?'
Ffactor arall sy'n cymhlethu pethau ymhellach yw bod llawer o'r menywod hyn hefyd wedi eu caethiwo gan faich dwbl. Mae cyfrifoldebau gofalu di-dâl am wyrion, eu priod neu efallai eu rhieni oedrannus eu hunain hyd yn oed yn mynd â gormod o amser ac egni. Yn fyr, cafodd cynlluniau ymddeol eu chwalu gyda chanlyniadau trychinebus.
Daw'r geiriau hyn o ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality.
Yr unig beth cadarnhaol a ddeilliodd o hyn yw'r ffordd y mae menywod y 1950au wedi brwydro'n ôl mor drawiadol, gan drefnu ac ymgyrchu i dynnu sylw at yr anghyfiawnder a wnaed iddynt. Bydd llawer o Aelodau'r Cynulliad wedi cyfarfod ag ymgyrchwyr a byddant wedi creu argraff arnynt drwy eu penderfyniad a'u dewrder, yn enwedig pan fo hon yn rôl nad oedd llawer ohonynt yn disgwyl y byddai'n rhaid iddynt ei chwarae.
Siaradais yn ddiweddar mewn digwyddiad i nodi 100 mlynedd ers Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 yn Amgueddfa Cwm Cynon. Gyda mi ar y panel roedd cydgysylltydd y grŵp WASPI lleol. Dywedodd wrthyf am yr ystod o weithgareddau codi proffil y maent yn eu cynnal, ond hefyd am y gwaith ymarferol caib a rhaw a wnânt yn cefnogi cyfoedion drwy eu helpu i gwblhau ffurflenni technegol a gwaith papur diddiwedd, a chynnig cyfeillgarwch a chefnogaeth. Wrth i ni ddathlu canmlwyddiant menywod yn ennill y bleidlais, mae'n dda gweld ysbryd y swffragetiaid yn dal yn fyw.
Yn 1918, rhoddodd Llywodraeth y DU y bleidlais i gydnabod gwaith ymgyrchu a gwaith ymarferol menywod yn ystod y rhyfel. Dyletswydd Llywodraeth y DU yn awr yw gwneud newidiadau, gweithredu'r trefniadau pontio y gweithiodd y genhedlaeth hon o fenywod ar hyd eu hoes amdanynt, er mwyn iddynt gael yr hyn sy'n ddyledus iddynt, eu gobaith a'u dyfodol.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod UKIP wedi wedi cyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr y prynhawn yma, a rhaid imi ddweud ei bod hi'n anodd ychwanegu at gyfraniad angerddol a rhagorol Caroline Jones wrth agor, cyfraniad a oedd yn cwmpasu cymaint o wahanol feysydd ac agweddau, nid yn unig o ran sut y daethom i'r sefyllfa hon, ond hefyd y dioddefaint go iawn y mae rhai menywod yn mynd drwyddo yn y sefyllfa hon. Fe roesoch eich profiad personol yn ogystal.
A gaf fi ddechrau drwy ddweud bod gennyf gydymdeimlad mawr, fel pob AC, â'r menywod yr effeithiwyd arnynt gan y newidiadau hyn i bensiwn y wladwriaeth ac fel y dywedais, yr hyn y maent yn mynd drwyddo ar hyn o bryd? Mae un o aelodau fy staff mewn sefyllfa debyg i'r un a nodwyd gan Caroline Jones mewn gwirionedd, felly mae'n fater sensitif yn fy swyddfa ac yn agos at adref i mi. Felly, nid siarad am y mater hwn o bell rwyf fi heddiw, gan nad wyf yn WASPI fy hun wrth gwrs—[Anhyglywadwy.]—ond o brofiad personol ffrindiau a chydweithwyr.
Rwy'n siŵr fod yr holl ACau yma wedi clywed ar ryw bwynt gan fenywod yn y sefyllfa hon, ac fel y gwnaeth Caroline Jones heddiw, mae menywod WASPI yn dadlau eu hachos yn gryf ac angerddol, felly mae'n anodd iawn i ni beidio â chael ein cymell gan yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud. Ac fel gwleidyddion, Aelodau'r Cynulliad, dyna yw ein gwaith. Mae rhai o'r straeon a grybwyllodd Vikki Howells yn cyffwrdd â'r galon.
Wrth gwrs, nid yw'n wir dweud mai mater a ddigwyddodd o dan y Llywodraeth hon yn y DU yw hwn. Yn sicr, rydych yn gywir i dynnu sylw at rai o'r newidiadau a ddigwyddodd yn 2010-11, ond fel y dywedoch, mae'r newidiadau, mewn gwirionedd, yn deillio o gyfnod mor bell yn ôl â Deddf Pensiynau 1995, a osododd y pethau hyn ar waith. Bryd hynny, cafodd y newidiadau eu dal yn ôl yn fwriadol am gyfnod o amser gyda'r bwriad, o leiaf, i roi amser i'r menywod yr effeithiwyd arnynt gynllunio ar gyfer eu hymddeoliad. Nawr, wrth gwrs, gwyddom fod y broses honno—. Wel, mae dweud ei bod ymhell o fod yn berffaith yn bell iawn o'r gwir; mae'n amlwg nad yw wedi gweithio.
Er mai Llywodraeth Geidwadol sydd mewn grym ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae hyn wedi digwydd o dan nifer o Lywodraethau. Digwyddodd o dan Lywodraeth glymblaid, ac mae'n mynd yn ôl at y 1990au o dan Lywodraeth Geidwadol a'r Llywodraeth Lafur yn y canol wrth gwrs. Felly, ar hyd y cyfnod, gwelwyd methiant olynol i gyfathrebu'n effeithiol rhwng Llywodraeth y DU a menywod WASPI ac mae hynny'n destun gofid, ond fel rydych wedi dweud, Caroline, mae'n anodd, er nad bob amser yn amhosibl, ond mae'n anodd cywiro camgymeriadau'r gorffennol, ac felly yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud, fel y dywedodd Vikki Howells hefyd, yw gweld sut y gallwn gefnogi'r menywod hynny yn y ffordd orau.
Nawr, nid yw hwn yn fater sydd wedi'i ddatganoli; nid yw Julie James wedi bod ag unrhyw ran, wel, fawr iawn o ran yn y newidiadau yn y ddeddfwriaeth ar lefel y DU. Rhaid imi ddweud, er hynny, roeddwn yn teimlo bod gwelliant y Llywodraeth, sy'n newid yr alwad ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, i Lywodraeth Cymru i 'annog' Llywodraeth y DU ychydig yn bedantig. Rwy'n siŵr fod rhyw—. Wel, mae'n debyg y gallwch egluro'r rheswm dros y drafftio. Ond credaf na fyddai gwahaniaeth gan y cyhoedd, Julie, pe bai Llywodraeth Cymru, er nad yw'n gyfrifoldeb sydd wedi'i ddatganoli, yn gweithio gyda Llywodraeth y DU yn yr achos hwn mewn gwirionedd. Mae gennym ddwy Lywodraeth, fel y gwyddom—mae gennym Lywodraeth y DU ar ben arall yr M4, fel y mae Plaid Cymru'n aml yn awyddus i nodi, ac mae gennym Lywodraeth Cymru yma. Felly, credaf fod angen cydweithredu. Er bod y grym i weithredu ar hyn yn San Steffan, credaf fod angen ymdrech gyfunol yma i gael Llywodraeth y DU—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn y man.
I gael Llywodraeth y DU i adolygu'r sefyllfa.
Diolch ichi am hynny. A gaf fi ofyn, felly, o ran hynny, pa ymyriadau a wnaethoch, fel Ceidwadwyr Cymreig—a chyflwyno sylwadau—iddynt ynglŷn â'r mater hwn?
Ie. Fel y dywedais yn gynharach, Rhianon, fel ACau eraill, mae etholwyr benywaidd WASPI wedi cysylltu â mi ac rwyf wedi bod yn hapus i ddweud wrth Lywodraeth y DU, 'Edrychwch, nid yw hyn i'w weld fel pe bai wedi gweithio'n dda iawn, a chredaf y dylech edrych eto ar hyn.' Fel pob un ohonom yma, nid wyf yn rhan o Lywodraeth y DU. Rwyf yma fel Aelod o Gynulliad Cymru, felly gan nad oes rhan uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i'w chwarae yn hyn, nid oes gennyf fi ychwaith, ond serch hynny, mae gan bawb ohonom Aelodau Seneddol sy'n cynrychioli ein hardaloedd, felly gobeithio ein bod i gyd yn mynd i leisio ein pryderon.
Roedd yna sail resymegol dros y newidiadau ar y pryd, sef cydymffurfio â chyfreithiau cydraddoldeb yr UE—nad yw'n mynd i fod mor bwysig am lawer iawn o amser mwyach, ond dyna oedd y rheswm bryd hynny. Roedd angen cadw pensiynau ar sail gynaliadwy gyda phoblogaeth a oedd yn heneiddio a chredaf mai dyna oedd rhan o'r rheswm a oedd yn sail i rai o'r newidiadau a wnaed yn 2010-11. Felly, roedd yna resymau, ond yn amlwg aeth rhywbeth o'i le ar y cyfathrebu drwy'r broses hon. Rwy'n fwy na pharod, Rhianon—a hoffwn i'r Aelodau eraill wybod—i drosglwyddo fy mhryderon i Lywodraeth y DU. Rwy'n credu ein bod yn y sefyllfa rydym ynddi, ond gadewch inni ddal ati i bwyso er mwyn sicrhau bod y menywod yr effeithir arnynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, eu bod yn cael eu caniatáu i weithio yn y ffyrdd ac am y cyfnod o amser sydd angen iddynt ei wneud er mwyn sicrhau nad ydynt yn dioddef wrth wynebu eu blynyddoedd hŷn, wrth dyfu'n hŷn, gan nad dyna oedd y bwriad gwreiddiol ac yn sicr nid felly y dylai fod.
Hoffwn i, i ddechrau, longyfarch WASPI am eu hymgyrch rymus yn dwyn sylw at yr annhegwch rydym ni'n ei drafod heddiw. Yn fy ardal i, mae nifer o ferched wedi dod at Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon, Liz Saville-Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, a minnau, ac rydym ni wedi bod yn gweithio efo'r merched yna i sefydlu grwpiau WASPI lleol. Erbyn hyn, mae gennym ni grŵp WASPI Arfon a Môn a grŵp WASPI Dwyfor Meirionnydd. Rydym ni'n parhau i gefnogi eu hymdrechion nhw ac yn parhau i dynnu sylw at yr annhegwch sydd wedi cael ei greu gan y newidiadau i'r Ddeddf pensiynau gwladol. Rydw i'n gwybod bod yna grwpiau WASPI eraill hefyd ar draws Cymru, ac rydw i'n eich llongyfarch chi ar eich gwaith.
Mae'r newidiadau yn bryder i filiynau o bobl ar draws y Deyrnas Gyfunol, ac mae yna fwy a mwy yn dod yn ymwybodol o'r effaith. Nid ydy pawb, hyd heddiw, yn ymwybodol o'r effaith pellgyrhaeddol y gall hyn ei gael ar fywydau nifer fawr o fenywod a'u teuluoedd nhw hefyd.
Mae'n bwysig nodi bod Plaid Cymru yn cefnogi'r egwyddor o greu cydraddoldeb ynglŷn ag oedran derbyn y pensiwn gwladol. Nid oes yna reswm pam fod disgwyl i fenyw ymddeol yn gynharach na dyn. Nid ydy hynny yn briodol nac yn berthnasol mewn oes o gydraddoldeb cyfoes. Nid oes gwrthwynebiad i'r egwyddor, felly, ond rwyf yn gwrthwynebu'n gryf y broses sydd wedi cael ei mabwysiadu i yrru'r newid yma ymlaen. Beth sydd ei angen ydy cyfnod trosiannol teg ar gyfer pob menyw sydd wedi cael ei geni yn y 1950au ac sy'n cael ei heffeithio gan y newidiadau yma. Nid ydy'r amserlen fel y mae hi ar hyn o bryd yn rhoi amser i ferched sy'n cael eu heffeithio i gynllunio ar gyfer eu hymddeoliad, ar gyfer y gostyngiad yn y pensiwn, yn wahanol i'r hyn oedden nhw'n cynllunio ar ei gyfer o, a dyna ydy'r neges rydw i'n ei glywed tro ar ôl tro gan y menywod yr wyf i'n gweithio efo nhw yn ein grŵp lleol ni yn Arfon.
A gawn ni oedi am funud hefyd ar sefyllfa merched yn gyffredinol? Fe fydd merched yn Arfon, ac, yn wir, merched yng Nghymru, yn cael eu taro yn arbennig o galed gan y newidiadau yma. Mae pobl yn byw yn hirach yn Lloegr nac ydyn nhw yng Nghymru. Mae incwm y pen yng Nghymru yn is nac ydy o yng nghenhedloedd eraill y Deyrnas Gyfunol, ac, ar ben hynny, mae merched Cymru yn ennill llai ar gyfartaledd na dynion Cymru—bron i £5,000 y flwyddyn yn llai. Pum mil ar hugain o bunnoedd ydy'r cyfartaledd cyflog i ddynion, £20,000 i ferched—anghydraddoldeb mawr yn fanna.
Felly, tra ydym ni'n croesawu trin menywod yn gydradd o ran oed derbyn pensiwn, mae angen trin menywod yn gydradd ym mhob maes, yn y gweithle, o ran cyflogau, ac o ran cyfleon bywyd. Mae'n ddiddorol gweld, onid ydy, fod Llywodraeth San Steffan yn ddigon bodlon gwthio ymlaen yr agenda cydraddoldeb pan fo hynny yn eu siwtio nhw, pan fo'n golygu torri'r gyllideb lles, ond beth maen nhw'n ei wneud ynglŷn â chydraddoldeb yn gyffredinol, ynglŷn â'r diffygion cyffredinol? Beth maen nhw'n ei wneud ynglŷn â datblygu agweddau eraill o gydraddoldeb a dileu anghydraddoldeb? Ac, efo pob parch, os caf i ofyn i UKIP: faint o bwyslais maen nhw'n ei roi ar gydraddoldeb yn gyffredinol i ferched? Mae'n hawdd dod â mater fel hwn gerbron, sydd yn eu siwtio nhw, ond beth am yn gyffredinol?
Rydym ni felly yn cytuno â WASPI. Mae angen cyflwyno creu cydraddoldeb ynglŷn ag oedran pensiwn, ond gwneud hynny dros amser hirach—rhoi amser i ferched baratoi yn iawn ar gyfer eu dyfodol. Mae'r merched yma yn haeddu cael eu trin yn deg. Gwnaf i gloi efo hyn: mae gen i achos yn fy etholaeth i o ddynes a gafodd ei geni 24 awr yn rhy hwyr, a rŵan, mae'n rhaid iddi weithio dwy flynedd a thri mis yn ychwanegol. Nid dyna oedd ei dymuniad hi, ond dyna mae hi'n gorfod ei wneud. Nid ydy hynny'n deg, ac mae Plaid Cymru wedi galw yn gyson am drefniadau trosiannol, a byddai pensiwn pontio ac iawndal yn mynd yn bell iawn i leddfu'r newid ac i greu sefyllfa lawer iawn mwy derbyniol. Ond cofiwch fod Plaid Cymru hefyd yn benderfynol o sicrhau gwir gydraddoldeb i fenywod Cymru ym mhob maes. Diolch.
Diolch. Michelle Brown.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Mae'r sefyllfa y mae menywod WASPI ynddi yn seiliedig ar frad. Drwy gydol eu bywydau gwaith, cawsant addewid y byddent yn cael pensiwn yn gyfnewid am eu trethi a'u hyswiriant gwladol ac y byddent yn ei gael o'r adeg y byddent yn 60 oed ymlaen. Mae menywod wedi adeiladu bywydau o amgylch y disgwyliad y byddai Llywodraeth y DU yn cadw at ei gair. Mae dweud wrth fenywod sydd eisoes wedi bod yn gweithio mwy na 25 mlynedd yn 55 oed, yn hytrach na bod gofyn iddynt weithio am bum mlynedd arall, y bydd yn rhaid iddynt weithio ddwywaith mor hir â hynny'n ddigon anodd, ond i waethygu pethau, ni chafodd menywod WASPI eu hysbysu mewn digon o amser i allu rhoi trefniadau amgen ar waith. Fel y clywsom eisoes heddiw, ni chafodd rhai wybod o gwbl.
Mae'n ymddangos bod y newidiadau wedi cael eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU heb fawr o ystyriaeth o'r effaith ar y menywod dan sylw, os o gwbl. Dywedodd comisiwn Turner y dylai'r cyfnod rhybudd fod yn 15 mlynedd; dywedodd Saga y dylai fod yn 10 mlynedd. Ymddengys bod Llywodraeth y DU wedi eu hanwybyddu hwythau yn ogystal. Nid ydym yn sôn am fenywod sy'n ennill cyflogau mawr. Rydym yn sôn am fenywod sydd wedi dioddef anghydraddoldeb cyflog drwy gydol eu bywydau gwaith yn y lle cyntaf, menywod nad oeddent yn cael eu talu ddigon am eu gwaith yn ôl pob tebyg o ran ei werth i gymdeithas, megis y nyrsys WASPI sydd wedi ymddeol y datblygwyd y GIG ar eu llafur. Rydym hefyd yn sôn am fenywod a oedd yn annhebygol o allu fforddio pensiwn preifat.
Rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Cymru yn ein hatgoffa ni i gyd mai yn San Steffan y mae'r pwerau sydd eu hangen i unioni'r anghyfiawnder hwn ac nid ym Mae Caerdydd, ac wrth gwrs byddent yn gywir. Fodd bynnag, nid yw gweithgaredd milwrol tramor wedi ei ddatganoli fwy nag yw darpariaeth pensiwn, ac os gall Prif Weinidog Cymru roi gwybod i'r byd ei fod yn cefnogi bomio Syria, gall adael i Lywodraeth y DU wybod yn blwmp ac yn blaen beth yw barn Llywodraeth Cymru am yr anghyfiawnder i fenywod WASPI yng Nghymru. Gall hefyd weithio gyda Llywodraeth y DU i ddod o hyd i ateb.
Efallai fod Llafur yn teimlo y gallant anwybyddu'r anghydraddoldeb hwn gan na fydd y menywod yr effeithiwyd arnynt yn gwneud cymaint o sŵn â sêr y cyfryngau a'r byd chwaraeon sy'n ceisio cydraddoldeb. Neu efallai nad oes digon ohonynt i wneud gwahaniaeth i gyfrifiadau etholiadol y Blaid Lafur. Eto dyma'r gweithwyr heb lais y mae Llafur yn dweud eu bod yno i'w gwasanaethu, i ymladd drostynt. Ond byddai'n ymddangos nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw beth o gwbl. Mae'r ffaith bod gwelliant Llafur yn nodi'r geiriau 'annog Llywodraeth y DU' yn lle 'gweithio gyda Llywodraeth y DU' yn enghraifft ohonynt yn gwneud dim. Mae'n hawdd annog eraill i weithredu, a thrwy wneud hynny maent yn gwneud y synau iawn ac yn chwifio'r faner iawn. Ond os ydych am helpu menywod WASPI Cymru rhaid i chi fod yn barod i weithredu eich hunain.
Yr unig beth y gall fy mhlaid ei wneud yn y lle hwn ar ran menywod WASPI yw gwneud y cynnig hwn a lobïo. Ond mae gan Lywodraeth Lafur Cymru y dulliau a'r sianeli cyfathrebu i ddwyn pwysau ar Lywodraeth y DU i weithredu'n deg ar y mater hwn. Pensiwn pontio a/neu iawndal ar gyfer y rhai sydd eisoes wedi cyrraedd oedran ymddeol yw'r unig ffordd ystyrlon o unioni'r cam, ac rwy'n gobeithio o ddifrif eich bod i gyd yn cytuno â mi. Nid oes amheuaeth mai rhoi iawndal i fuddiolwyr ystadau yr effeithir arnynt—mae'n ddrwg gennyf, rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â hyn—yw'r peth cywir i'w wneud. Fel y dywedais ar y dechrau, mae menywod WASPI wedi'u bradychu yn y modd mwyaf sinigaidd gan eu Llywodraeth.
Yn olaf, rwy'n derbyn na all Llywodraeth Cymru ddeddfu ei hun i unioni'r cam hwn, ond mae menywod WASPI Cymru yn dibynnu ar Lywodraeth Cymru i fynd i weithio ar Lywodraeth y DU ar eu rhan yr un mor galed ag y maent yn gweithio i gyflawni nodau eraill, mwy rhyngwladol. Yn syml, nid yw unrhyw beth sy'n llai na hynny yn ddigon, ac rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch.
Diolch. Dawn Bowden.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel Siân Gwenllian, a gaf fi ddechrau, cyn gwneud fy nghyfraniad, drwy dalu teyrnged i lawer o gydweithwyr, yn y byd gwleidyddol ac fel arall, dros gyfnod sylweddol o amser—nid yw hynny'n cynnwys UKIP, a dweud y gwir—sydd wedi bod mor weithgar yn yr ymgyrch WASPI sy'n ceisio cyfiawnder i'r menywod hyn? Mae yna gynifer o agweddau ar—
A wnewch chi dderbyn ymyriad? A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na wnaf.
Mae yna gynifer o agweddau ar y busnes truenus hwn y gallwn siarad amdanynt: y caledi ariannol a ddioddefwyd, y llu o gwynion ynghylch camweinyddu, y ffordd annheg y cyflwynwyd y newidiadau, y gwahaniaethu digywilydd a chamreoli newidiadau, ond gan i mi gael fy ngalw'n hwyr yn y ddadl hon, rwy'n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau ar y ffordd warthus y cafodd menywod wybod, neu yn hytrach, yn fwy cywir, y ffordd na chawsant wybod am newidiadau yn eu trefniadau pensiwn y wladwriaeth a'r effaith ar un o fy etholwyr i ddangos pa mor eang a chyffredinol y mae'r effaith wedi bod.
Fel Aelodau eraill, rwy'n gwybod, rwyf wedi cyfarfod â menywod sydd wedi dweud wrthyf na chawsant fawr o rybudd gan Lywodraeth y DU am y penderfyniad hwn sy'n newid bywydau, ac yn wir, fel y gwyddom, ni chafodd rhai rybudd o gwbl, oherwydd ym mis Mawrth 2011 rhoddodd y Llywodraeth y gorau i ysgrifennu at fenywod yr effeithiwyd arnynt oherwydd newidiadau pellach a oedd yn yr arfaeth, ac nid aethant ati i ailddechrau ysgrifennu at y menywod yr effeithiwyd arnynt tan fis Ionawr 2012. Effaith hyn oedd bod llawer o fenywod WASPI wedi cael llythyr yn rhoi gwybod iddynt fod oedran pensiwn y wladwriaeth yn mynd i godi'n sylweddol pan oeddent yn 59, sef o fewn blwyddyn i godi oedran pensiwn y wladwriaeth yn sylweddol a blwyddyn yn unig o'r dyddiad yr oeddent wedi disgwyl cael eu pensiwn. Na foed unrhyw gamargraff: fel y clywsom sawl cyfrannwr yn dweud, mae'r newid hwn yn arwain at galedi gwirioneddol. Mae'n golygu colli incwm disgwyliedig i gymaint o fenywod, sydd, ar gymaint o fyr rybudd, heb gael amser i baratoi ar gyfer y newidiadau hyn.
Ond gadewch i mi amlinellu hanes un o fy etholwyr, a gafodd ei heffeithio gan y newidiadau nid drwy orfod gweithio am gyfnod hwy ond oherwydd ei hanabledd. Fe'i ganed yn 1954 ac mae ganddi anableddau dysgu sylweddol. Yn 63 oed, mae'n methu darllen, ysgrifennu, dweud yr amser na rheoli arian—dibynnai ar ei rhieni fel gofalwyr. Ar ôl i'w thad farw 10 mlynedd yn ôl, ei phrif ofalwr oedd ei mam, y bu'n rhaid iddi ymdrin â'i holl faterion ariannol a biwrocratiaeth y Llywodraeth ynghylch budd-daliadau ac ati. Yn ddealladwy, roedd ei mam yn ymdrin â'i holl faterion, ac roedd y rhan fwyaf o'r gwaith papur yn enw ei mam. Yn anffodus, bu farw ei mam hefyd ychydig flynyddoedd yn ôl. Ar ôl colli ei mam, daeth chwaer fy etholwr i gymryd rhan yn ei chynorthwyo gyda'i hanghenion. Ychydig ddyddiau'n unig ar ôl marwolaeth eu mam, daeth chwaer fy etholwr adref i'w gweld yn ofidus iawn, yn dweud bod rhywun wedi ei ffonio i ddweud bod yn rhaid iddi fynd i rywle. Ond gan nad oedd hi'n gallu cofio gwybodaeth yn dda, ni allai ddweud i ble roedd yn rhaid iddi fynd, na hyd yn oed pwy oedd wedi cysylltu â hi, ac aeth yn fwyfwy gofidus.
I dorri stori hir iawn yn fyr, yn y pen draw llwyddodd ei chwaer i sefydlu mai'r Adran Gwaith a Phensiynau a oedd wedi ffonio fy etholwr ynglŷn ag asesiad addasrwydd i weithio. Ar y pwynt hwn dechreuodd chwaer fy etholwr sylweddoli nad oedd ei chwaer anabl ei hun yn cael pensiwn y wladwriaeth eto, fel roedd hi bob amser wedi cymryd y byddai. Wrth gwrs, pe bai hi wedi bod ar bensiwn y wladwriaeth yn 60 oed, ni fyddai'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi bod yn ei ffonio ynghylch asesiad addasrwydd i weithio. Dyna pryd y dechreuodd hunllef o asesiadau ar gyfer pennu addasrwydd i weithio, lle'r oedd fy etholwr yn mynd yn fwy a mwy ofnus, pryderus a gofidus. Nid oedd yn gwybod beth oedd yn digwydd iddi—roedd yn hunllef na fyddai byth wedi gorfod ei ddioddef pe bai wedi cael ei phensiwn yn 60 oed.
Felly, er iddynt dderbyn nad oedd hi'n addas ar gyfer gweithio yn y diwedd, a newid ei budd-daliadau yn unol â hynny, nid yw'n ddigon hen o hyd i gael pensiwn y wladwriaeth. Ar adeg o drallod emosiynol mawr, ar ôl colli ei mam—ei chydymaith cyson, ei hunig ffrind a'i phrif ofalwr—a heb fod wedi byw'n annibynnol erioed, o fewn mater o ddyddiau roedd yn rhaid iddi ymdopi â biwrocratiaeth Llywodraeth ynghylch addasrwydd i weithio, a'r cyfan oherwydd ei bod hi ar oedran pn nad oedd menywod yn cael pensiwn y wladwriaeth mwyach ac nid oedd neb yn gwybod hynny. Dyn a ŵyr beth fyddai wedi digwydd iddi pe na bai ganddi chwaer a ddaeth i'r adwy i fabwysiadu'r rôl gofalu ac chefnogi honno.
Dyma un enghraifft yn unig o'r nifer o anawsterau a achosir gan y newid yn oedran pensiwn y wladwriaeth, newid nad oedd fy etholwr na'i theulu yn gwybod amdano, ac felly ni wnaed unrhyw gynlluniau na darpariaeth ar gyfer ymdopi â'r peth. Digwyddodd o ganlyniad i ddiffyg gofal wrth gyfathrebu pwysigrwydd y newidiadau hyn a beth fyddai'r effaith ariannol ar lawer o unigolion, a chafodd hyn oll ei waethygu gan y ffaith nad yw Llywodraeth y DU yn barod i ddatrys y sefyllfa drwy gyflwyno trefniadau pontio teg i'r menywod hyn, nad oeddent yn barod am y fath galedi ariannol, yn gallu ymddeol. Sut y gall —
A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
—hynny fod yn iawn? Sut y gall hynny fod yn iawn? Sut y gallwn beidio â chefnogi'r menywod yn yr ymgyrch hon? Sut bynnag y cyraeddasom y fan hon—
A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
—mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom, beth bynnag y gallwn ei wneud, i unioni'r anghyfiawnder hwn.
Diolch. Jane Hutt.
Hoffwn dalu teyrnged i fenywod yn fy etholaeth, Bro Morgannwg, yr effeithir arnynt gan anghydraddoldeb pensiwn, ac ymrwymo eto heddiw i barhau i'w cefnogi, a'u croesawu yma heddiw yn yr oriel.
Roeddwn yn falch iawn o gynnal cyfarfod yn y Barri y llynedd, yng Nghanolfan Gymunedol Highlight Park, a chefnogi ymgyrchwyr fel Kay Ann Clarke, a ddaeth â menywod at ei gilydd i ddysgu mwy am yr ymgyrch ac effaith y newidiadau annheg hyn—newidiadau sy'n effeithio'n andwyol ar eu bywydau ar ôl blynyddoedd o gyfrifoldebau gofalu a gweithio.
Nawr, mae Kay Clarke wedi tynnu sylw Ysgrifennydd Gwladol Cymru at nifer o bwyntiau'n ymwneud â'i neges ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, pan godwyd y mater hwn yn lleol ac yn genedlaethol. Yn ei neges, dywedodd Kay wrth yr Ysgrifennydd Gwladol: Fe ddywedoch fod 44,000 yn rhagor o fenywod mewn gwaith yng Nghymru bellach nag a oedd yn 2010, a bod Llywodraeth y DU yn gwneud camau breision yn sicrhau'r newidiadau a chreu'r amodau sy'n ofynnol i fenywod o bob cefndir sydd am ehangu eu gorwelion a gwella'u huchelgais. A gaf fi awgrymu wrthych fod nifer helaeth o'r menywod hyn mewn gwirionedd yn cael eu gorfodi i barhau i weithio am fod y Llywodraeth wedi symud y pyst gôl mewn perthynas ag oedran pensiwn y wladwriaeth? Fe sonioch chi hefyd y bydd dynion a menywod fel ei gilydd ym mhob rhan o Gymru yn cymryd rhan mewn rhaglenni trawiadol o ralïau, cyngherddau, gweithdai, cynadleddau a pherfformiadau i gyfleu'r neges fod angen cynnal ymwybyddiaeth a gweithgarwch i sicrhau bod cydraddoldeb menywod yn cael ei ennill a'i gynnal ym mhob agwedd ar fywyd. Trefnwyd y ralïau y cyfeirioch chi atynt yn bennaf i brotestio wrth y Llywodraeth am y modd annheg y caiff menywod eu trin mewn perthynas â newidiadau i bensiwn y wladwriaeth. Fe fyddwch yn ymwybodol fod WASPI wedi trefnu un o'r ralïau hyn, ac ar ôl clywed am y rali hon ar y cyfryngau cymdeithasol, ymunodd llawer o sefydliadau â ni yng nghanol y ddinas i roi gwybod i'r cyhoedd am yr anghyfiawnder mawr a ddioddefodd y menywod a aned yn y 1950au. Er bod ganddynt nifer o ymrwymiadau ar y diwrnod hwnnw, daeth nifer fawr o wleidyddion i siarad yn ein rali.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
Diolch i'r Aelod am ildio. A gaf fi dynnu ei sylw at y cyfarfod a gynhaliwyd yng Ngogledd Caerdydd ac a drefnwyd gan Anna McMorrin AS, pan fu'n rhaid i fenywod giwio ar hyd y ffyrdd sy'n arwain at glwb rygbi'r Eglwys Newydd oherwydd cryfder y teimlad? Yn wir, bu'n rhaid cynnal y cyfarfod mewn dwy ystafell a'r cyntedd am fod pobl yn teimlo mor angerddol ynglŷn â hyn. Hoffwn dynnu sylw'r Aelod at hynny.
Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig cydnabod, yn y rali a gynhaliwyd yng Nghaerdydd, wrth gerflun Nye Bevan, lle y cynhelir cymaint o ralïau pwysig yn ein prifddinas, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, fod llawer o bobl a'r cyhoedd wedi ymuno yn y rali honno. Siaradodd Julie Morgan yn y rali yn ogystal â fi, i gefnogi achos WASPI.
Ond credaf ei bod yn bwysig fod Kay wedi dweud yn ei neges i Ysgrifennydd Gwladol Cymru: 'Roeddech chi yng Nghaerdydd y bore hwnnw mewn gwirionedd ar fusnes gweinidogol, yn gwrthod ein gwahoddiad i annerch menywod Cymru, pan gawsoch gyfle i esbonio pam y mae'r Llywodraeth yn parhau i symud y pyst gôl yng nghyswllt y ddadl a'r camau priodol i liniaru'r camweinyddu cyfiawnder hwn i fenywod Cymru. Hoffwn ofyn pam na wnaethoch fanteisio ar y cyfle i wneud hynny.'
Felly, diolch i Kay heddiw am y cwestiynau hyn i'r Ysgrifennydd Gwladol ac am ganiatáu imi rannu'r rhain heddiw yn y ddadl bwysig a difrifol hon, lle y credaf ein bod yn ymrwymedig i barhau i ymladd yr achos hwn ar ran y menywod yr effeithir arnynt. Wrth gwrs, mae llawer o gefnogaeth i'r achos, a rhaid i ni sicrhau bod pob un ohonom yn cyflwyno ein sylwadau i Lywodraeth y DU ar y mater hollbwysig hwn i fenywod Cymru.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar arweinydd y tŷ, Julie James?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o godi yn y ddadl hon. Mewn gwirionedd, rwy'n ddiolchgar iawn i UKIP am gyflwyno'r ddadl. Mae'n fater o gryn bwys i bob un ohonom. Mae angen i minnau hefyd ddatgan buddiant gan fy mod yn un o'r menywod yr effeithiwyd arnynt, gan i mi gael fy ngeni yn y 1950au. Yn ffodus, fel Caroline Jones, rwy'n dal i fod mewn gwaith ac felly heb gael fy effeithio mor wael ganddo, ond mae nifer fawr iawn o fy ffrindiau, teulu, etholwyr a chydweithwyr wedi'u heffeithio gan hyn. Mae llawer ohonynt bellach yn dioddef caledi a thlodi parhaus o ganlyniad i'r newidiadau na wyddent ddim oll amdanynt. Ni all hyn fod yn iawn ac ni ddylid gadael iddo barhau. Bydd llawer o'r menywod yn y grŵp oedran hwn wedi gweithio mewn swyddi rhan amser ac ar gyflogau isel, neu wedi cymryd amser o'r gwaith i ofalu am blant neu berthnasau oedrannus, ac wedi bod yn destun anghydraddoldeb rhwng y rhywiau am lawer o'u bywydau fel oedolion, gan mai dyma'r menywod yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y newidiadau a gyflwynwyd gan fudiad y menywod yn syth ar ôl yr ail ryfel byd. Felly, mae'n eironig braidd mai dyma'r grŵp yr effeithir arnynt fwyaf gan hyn.
Gofynnodd Nick Ramsay i mi pam yr oeddem yn rhoi 'annog' yn lle 'gweithio gyda', ac rwy'n dweud wrtho'n syml iawn: oherwydd ein bod wedi ei chael hi'n amhosibl gweithio gyda Llywodraeth y DU ar hyn. Ysgrifennais at Guy Opperman, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Bensiynau a Chynhwysiant Ariannol, ddiwedd mis Chwefror i ailadrodd ein pryderon, ac yn eu hannog i ailystyried trefniadau pontio, ar ôl ysgrifennu'n gyntaf at Lywodraeth y DU yn ôl yn 2016 i fynegi ein pryderon am y ffordd y cafodd y newid i gymorth pensiwn y wladwriaeth cyfartal ei gyfathrebu a'i weithredu. Rwyf wedi ychwanegu fy llais hefyd ar nifer o blatfformau a sawl rali yn fy etholaeth ac mewn mannau eraill yng Nghymru at leisiau'r rhai sy'n annog Llywodraeth y DU i ailystyried y trefniadau pontio yn ddi-oed, fel bod y system yn deg i bawb ac nad yw'n gwaethygu anghydraddoldeb rhwng y rhywiau i leiafrif o bobl. Mae ei ymateb yn cyfeirio at gynnydd mewn disgwyliad oes, fforddiadwyedd a chynaliadwyedd fel rhesymau pam nad oes gan Lywodraeth y DU gynlluniau i ailedrych ar y polisi a pham nad yw'n bwriadu gwneud unrhyw gonsesiynau pellach. Felly, mae arnaf ofn nad wyf yn gweld pwynt gweithio gyda rhywun sydd mor wrthwynebus i ymgyrch dros gyfiawnder, a dyna pam y newidiais y cynnig i 'annog', oherwydd rydym yn parhau i'w hannog yn gryf i newid eu meddwl ac ailedrych ar y trefniadau pontio y mae llawer o'r Aelodau wedi nodi'r angen amdanynt yn y Siambr hon heddiw. Yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Mawrth, ailadroddais fy ymrwymiad i dynnu sylw Llywodraeth y DU unwaith eto at bryderon Llywodraeth Cymru a'r Siambr hon, ac rwy'n adnewyddu'r ymrwymiad hwnnw eto heddiw a byddaf yn ysgrifennu ar unwaith i fynegi ein safbwyntiau yn dilyn y ddadl hon.
Credaf fod llawer o'r Aelodau wedi nodi hefyd nad y newid i gydraddoldeb o ran oedran pensiwn y wladwriaeth sydd dan sylw yma ond y modd y cafodd y newidiadau eu cyfathrebu, cyflymder eu gwneud, a chael gwared ar y trefniadau pontio yn 2011 sy'n peri problem ddifrifol i ni. Mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb tuag at y menywod y maent wedi'u rhoi yn y sefyllfa hon, i unioni cam a sicrhau na chaiff cydraddoldeb rhwng y rhywiau ei beryglu. Mae oddeutu 195,000 o fenywod yng Nghymru yn fenywod WASPI yr effeithiwyd arnynt gan y newidiadau yn y Ddeddf hon. A chredaf fod llawer o'r Aelodau wedi nodi hyn hefyd, ond mae rhai pethau calonogol iawn yma hefyd, oherwydd, fel y mae Jane Hutt a Siân Gwenllian a llawer o rai eraill wedi nodi, mae'n anhygoel meddwl cymaint y mae'r grŵp hwn o fenywod yn gweithredu gyda'i gilydd wedi'i gyflawni eisoes, o gael y neges wedi'i chynnwys yn y cyfryngau prif ffrwd, yr ymgyrch ariannu torfol a gododd dros £100,000 mewn tair wythnos, ffurfio grwpiau ledled y wlad, a bod yn allweddol yn y broses o ffurfio'r grŵp hollbleidiol seneddol ar anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth i fenywod.
O ganlyniad i'w hymgyrch, mae menywod ledled y wlad wedi cyflwyno cwynion camweinyddu yn erbyn yr Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch yr hyn a welant fel cyfathrebu annigonol ynglŷn â newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth. Araf iawn fu'r cynnydd ar y cwynion a gyflwynwyd i'r Archwilydd Achosion Annibynnol ond fis Tachwedd diwethaf, cafodd y cwmni cyfreithiol a logir gan WASPI lwyddiant, a chamodd yr Ombwdsmon Seneddol a'r Gwasanaeth Iechyd i mewn a chytuno gyda'r Archwilydd Achosion Annibynnol y bydd yn symleiddio'r broses yn uniongyrchol yn y dyfodol, a soniaf am hynny yn y Siambr er mwyn dangos cryfder yr ymgyrch a'r ymgyrchu.
Soniodd Julie Morgan, wrth ymyrryd ar Jane Hutt, am y ciw o fenywod y tu allan i'r cyfarfod a drefnwyd gan Anna McMorrin, ac rydym wedi cael profiadau tebyg yn ogystal. Mae hyn wedi ennyn teimladau cryf iawn, yn gwbl briodol felly, oherwydd mae'n anghyfiawnder ofnadwy. Bu nifer o ddadleuon yn y Tŷ Cyffredin, er nad ydynt yn rhwymol ar y Llywodraeth, a chyflwynodd Carolyn Harris Fil Aelod preifat ym mis Medi ar ran y grŵp seneddol hollbleidiol, sy'n galw am adolygu'r sefyllfa, ac yn benodol am wneud gwaith costio ar gyfer y cynllun iawndal. Mae ei Ail Ddarlleniad wedi'i ohirio yn anffodus, ond mae ganddynt ymgynghoriad ar-lein sy'n gwahodd grwpiau sy'n ymgyrchu ar y mater hwn i ymateb, felly os oes unrhyw un yn gwybod am grŵp sydd heb ymateb, os gwelwch yn dda anogwch hwy i wneud hynny. Gwn eu bod wedi cael dros 100 o ymatebion hyd yn hyn. Maent yn mynd i gyflwyno canlyniadau'r arolwg hwnnw ar 25 Ebrill, a'i ddiben yw ceisio nodi ateb y gall nifer fawr o'r Aelodau ei gefnogi, a gall hynny lywio'r Bil Aelod preifat, a bydd y Llywodraeth hon hefyd yn ceisio cefnogi mewn unrhyw ffordd a allwn.
Oherwydd bod Michelle Brown wedi dweud nad oedd yn credu ein bod yn gwneud unrhyw beth, Ddirprwy Lywydd, rwyf am ddweud bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan wasanaethau cynghori lles cymdeithasol yn helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus ac arfer eu hawliau i gyfiawnder sifil o ran y mathau hyn o broblemau. Rydym yn parhau'n ymrwymedig i gynorthwyo darparwyr cyngor di-elw sydd wedi bod yn allweddol iawn yn rhoi cyngor i fenywod ynghylch sut i gyflwyno cwyn, oherwydd teimlwn yn hyderus y dylai rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas gael mynediad at gyngor annibynnol am ddim ar ddyled, rheoli arian a materion pensiwn, ac y dylent gael eu cefnogi yn y modd hwn. Felly, yn ystod y flwyddyn ariannol hon, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £5.97 miliwn mewn arian grant i wasanaethau cynghori di-elw sy'n helpu pobl ledled Cymru i ddod o hyd i gyngor annibynnol am ddim ar broblemau'n ymwneud â chael budd-daliadau lles, cyngor ar ddyledion, tai ac ati.
Y rheswm pam rwy'n nodi hynny yw oherwydd bod nifer o'r Aelodau wedi cysylltu'r anghyfiawnder i fenywod WASPI yn gwbl briodol â mater tlodi a menywod sy'n byw mewn tlodi. Dengys ffigurau fod nifer y menywod dros 60 oed sy'n hawlio lwfans cyflogaeth a chymorth ym Mhrydain wedi cynyddu 410 y cant rhwng mis Awst 2013 a mis Awst 2017. Nid yw'n anodd deall pam. Roedd y cynnydd ymhlith menywod dros 60 oed sy'n hawlio credyd cynhwysol a lwfans ceisio gwaith yn 110 y cant. Canfu data a gasglwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn ei adroddiad ar gyfer 2017, 'Can't wait to get my pension: the effect of raising the female state pension age on income, poverty and deprivation', fod incwm aelwydydd menywod rhwng 60 a 62 oed wedi gostwng oddeutu £32 yr wythnos ar gyfartaledd. Mae'r gostyngiad yn debyg yn nhermau arian parod ar gyfer aelwydydd cyfoethocach a thlotach, sy'n golygu, er bod y gostyngiad cyfartalog mewn termau cyfrannol yn 12 y cant, mae'r gostyngiad yn sylweddol fwy, ar gyfartaledd, ar gyfer cartrefi incwm isel: gostyngiad o 21 y cant, o'i gymharu ag aelwydydd incwm uwch, lle mae oddeutu 4 y cant. Felly, mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu mai'r rhai sydd eisoes o gwmpas y ffin tlodi sydd eisoes wedi gweld y colledion mwyaf yn eu hincwm o ganlyniad i effeithiau diwygio lles, o gymharu â grwpiau incwm eraill.
Siaradais yn gynharach yn y Siambr, Ddirprwy Lywydd, wrth ateb cwestiynau, am ganlyniadau anfwriadol nifer o bolisïau'n dod at ei gilydd ac yn cael effaith lawer mwy nag a fwriadwyd, a byddwn yn gwneud y pwynt hwnnw unwaith eto wrth Lywodraeth y DU, gan fod y modd y cyflwynodd y credyd cynhwysol, y ffordd y mae'n ymateb i geiswyr gwaith a'r ffordd y mae'n ymateb i'r newid i daliadau personol annibynnol, ynghyd â chodi oedran pensiwn y wladwriaeth, yn cael yr effaith gronnol fwyaf anffodus ar nifer fawr o fenywod yng Nghymru, ac mae'n iawn ein bod yn tynnu sylw at hynny.
Mae credyd cynhwysol bellach wedi'i gyflwyno mewn wyth awdurdod lleol yng Nghymru, gyda Sir Ddinbych yn mynd yn fyw ym mis Ebrill. Rwy'n falch o ddweud bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi diwygio'u hamserlen gyflwyno i gynnwys mwy o amser i'r system ar-lein Gymraeg lawn fod ar gael, ond mae'n golygu bod y menywod sy'n cael eu dal yn y sefyllfa hon hefyd yn cael eu dal yn y trefniadau pontio, sy'n anffodus iawn. Rydym yn dal i fod yn bryderus iawn ynglŷn â diffygion sylfaenol y system, ac rydym yn siomedig iawn fod Llywodraeth y DU yn parhau â'r cyflwyno, er gwaethaf ein galwadau ni ac eraill arnynt i atal y cyflwyno a mynd i'r afael â'r nifer o broblemau, yn cynnwys y broblem hon, y dylid ymdrin â hwy yn rhan o'r broses gyflwyno.
Felly, Ddirprwy Lywydd, rydym yn cefnogi'r menywod WASPI yn llwyr yn eu hymgyrch. Byddaf yn parhau i annog Llywodraeth y DU i newid ei meddwl a pheidio â gwrthwynebu trefniadau pontio a threfniadau eraill, a byddwn yn parhau i wneud popeth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi ymgyrchoedd dewr ac effeithiol iawn menywod WASPI ledled y wlad. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw ar David Rowlands i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl, ac mewn modd mor gadarnhaol gan mwyaf? A gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch y rhai sy'n gysylltiedig â WASPI am y gwaith a wnaethant, ac y maent yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth am y sefyllfa gwbl anfoddhaol hon?
Mae deddfwriaeth a basiwyd gan Lywodraeth y DU wedi golygu bod oddeutu 2.6 miliwn o fenywod ym Mhrydain wedi wynebu oedi o hyd at chwe blynedd yn oedran pensiwn y wladwriaeth. Digwyddodd y newid hwn heb i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gael eu hysbysu'n ddigonol ynghylch y canlyniadau a heb rybudd priodol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, gan eu gadael heb ddigon o amser i baratoi'n ddigonol ar gyfer eu dyddiad ymddeol hwyr. Yn wir, ar ôl y ddeddfwriaeth yn 1995, roedd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dal i anfon gohebiaeth yn nodi mai 60 oedd yr oed ymddeol i fenywod. Nodai'r ddeddfwriaeth wreiddiol y byddai oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod yn codi o 60 i 65 oed erbyn y flwyddyn 2020, ond cafodd ei newid gan Ddeddf bellach yn 2011, yn ei gyflwyno'n gynt yn 2018 a'i godi i 66. Mae'r newidiadau i'r gyfraith a methiant i gyfathrebu canlyniadau'r newidiadau i'r rhai yr effeithiwyd arnynt wedi arwain at lawer o fenywod ar draws y wlad yn cael eu gadael heb bensiynau digonol ar ôl ymddeol. Mae llawer bellach heb fawr o arian neu'n byw ar incwm pitw.
Gwnaeth Vikki Howells y pwynt fod y menywod hyn o'n cwmpas ym mhobman, gan gynnwys perthnasau a ffrindiau, a nododd y wybodaeth anghywir sydd ar gael i fenywod WASPI. Nododd Nick Ramsay fod hyn i gyd wedi dechrau yn 1995. Cyfeiriodd eto hefyd at y wybodaeth anghywir, ac fel y byddem yn disgwyl, dywedodd fod hyn wedi'i wneud o dan Lywodraethau Toraidd a Llafur. Yn briodol iawn, llongyfarchodd Siân Gwenllian y gwaith a wneir gan grwpiau WASPI ledled Cymru a mynegodd ei chefnogaeth i'r grwpiau hynny. Dywedodd Michelle Brown fod menywod wedi adeiladu eu bywydau o gwmpas ymddeol yn 60 oed, i ganfod yn hwyr iawn, mewn llawer o achosion, fod y pyst gôl wedi cael eu symud gan beri anfantais fawr i fenywod WASPI.
Canolbwyntiodd Dawn Bowden ar y wybodaeth anghywir, neu'r diffyg gwybodaeth. Rhaid imi ddweud—ac mae gennyf barch mawr tuag at Dawn—fod ei beirniadaeth o 'ddiffyg ymwneud' honedig UKIP yn anwybyddu'r ffaith nad oedd y Blaid Lafur yn ymwneud â hyn hyd nes i WASPI ddod i fodolaeth, ac wrth gwrs, cafodd y Blaid Lafur 13 blynedd i ddiddymu Deddf 1995 ac ni wnaeth hynny. Siaradodd Jane Hutt hefyd am grwpiau WASPI a disgrifiodd y rali yng Nghaerdydd a'i hawydd i helpu i barhau i ymladd yr achos. Dywedodd Julie James y byddai llawer o'r menywod WASPI—ac nid oedd neb wedi cyfeirio at hyn, mewn gwirionedd—wedi bod mewn gwaith rhan amser ar gyflogau isel, sy'n gwneud eu sefyllfa o ran pensiynau hwyr hyd yn oed yn fwy trychinebus. Roedd hi'n dda clywed y bydd—a chredaf y gallaf ddefnyddio'r ymadrodd hwn—yn dyblu ei hymdrechion i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU, ac roedd hi'n nodi'n eithaf manwl rai o'r ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio eu gwneud i wneud bywyd yn haws i fenywod WASPI.
Rydym ni yn UKIP yn galw ar y Siambr hon i bwyso ar Lywodraeth y DU i roi adnoddau ar waith a/neu newid y ddeddfwriaeth i leddfu dioddefaint y menywod hyn y mae llawer ohonynt wedi gweithio ar hyd eu hoes ac wedi cyfrannu'n sylweddol tuag at gyfoeth y wlad. Rwy'n eich annog i gefnogi'r ddadl hon.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.