– Senedd Cymru ar 16 Mai 2018.
Rydym yn symud ymlaen at y ddadl ar dlodi plant, a galwaf ar Bethan Sayed i gynnig y cynnig. Bethan.
Cynnig NDM6723 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnydd diweddar mewn tlodi plant.
2. Yn nodi gwaith ymchwil ar gyfer Achub y Plant Cymru a ganfu, erbyn iddynt droi’n bump oed, fod 'tua thraean o’r plant sy’n byw mewn tlodi (30-35 y cant) eisoes yn colli tir mewn amrywiaeth o ddeilliannau gwybyddol (h.y. geirfa, datrys problemau, deheurwydd a chydsymud) o’i gymharu ag un o bob pump o’r rhai sy’n dod o deuluoedd mwy cyfoethog (20-21 y cant)'.
3. Yn credu bod y cyfrifoldeb dros y cynnydd mewn tlodi plant a dros fynd i'r afael â thlodi plant, yn nwylo Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
4. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dirwyn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ben heb werthuso ei heffeithiolrwydd na darparu cynllun i gymryd ei lle.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau mynediad cyfartal at addysg plentyndod cynnar o ansawdd uchel a gofal i bob plentyn yng Nghymru, gyda ffocws penodol ar ddarparu cymorth ychwanegol i'r holl blant sy'n byw mewn tlodi, fel yr argymhellwyd gan Achub y Plant Cymru.
6. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gymryd yr holl gamau o fewn ei phwerau i fynd i'r afael â thlodi plant fel rhan o'r cynllun newydd ar gyfer dileu tlodi plant, sy'n cynnwys targedau SMART yn hytrach na datganiadau amwys.
7. Yn credu na all cynllun o'r fath lwyddo heb reolaeth weinyddol dros nawdd cymdeithasol ac y dylai sicrhau'r pwerau hyn fod un o brif amcanion strategol y cynllun newydd.
Diolch. Mae tlodi plant yn bla ar ein gwlad. Nid wyf yn mynd i roi siwgr ar y bilsen i unrhyw un yma heddiw, ac nid wyf yn mynd i geisio camarwain neb ynglŷn â'i achos na'i effeithiau. Nid yw'n rhoi unrhyw bleser i mi agor y ddadl hon heddiw mewn gwirionedd, i drafod yr un sgandal o dlodi sy'n bodoli yng Nghymru, tlodi sydd ond wedi gwaethygu yn ystod y degawd diwethaf. Yn syml, mae plant yn byw mewn tlodi pan fo'u haelwyd yn ennill llai na 60 y cant o'r enillion canolrifol. Felly, mewn gwirionedd, tlodi oedolion sydd â phlant dibynnol yw tlodi plant. Mae'n broblem gymdeithasol a hefyd yn broblem economaidd ddofn a strwythurol y mae llawer o gymunedau yng Nghymru wedi'i hwynebu ers degawdau. Rydym yn gwybod llawer o'r ystadegau, ac nid wyf am eu hailadrodd yma heddiw, gan y bydd fy nghyd-Aelodau hefyd yn amlinellu'r rheini'n fwy manwl, ond dengys y ffigurau llinell uchaf yn glir iawn pa mor enbyd yw'r sefyllfa sy'n wynebu'r genhedlaeth nesaf yng Nghymru.
O'r 600,000 o blant yng Nghymru, mae un o bob tri—200,000—yn byw mewn tlodi; mae 90,000 yn byw mewn tlodi difrifol. Mae dros hanner y plant mewn teuluoedd incwm isel yn poeni sut y mae eu rhieni'n mynd i dalu am hanfodion sylfaenol. Ni ddylai unrhyw blentyn orfod wynebu'r math hwnnw o straen. Ac yn anffodus, nid yw'r sefyllfa'n gwella dim, gyda'r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol yn rhybuddio, erbyn 2021, y bydd tlodi plant yn cynyddu 7 pwynt canran, gyda 4 pwynt canran yn uniongyrchol gysylltiedig â thoriadau a newidiadau lles.
Rydym yn gwybod yn rhy dda beth yw effeithiau tlodi plant yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod plentyn sy'n cael ei fagu ar aelwyd dlawd yn llawer llai tebygol na'i gyfoedion ar aelwydydd incwm canolig neu uwch o gyrraedd yr un lefel o gyrhaeddiad addysgol. Gwyddom fod plant sy'n byw mewn tlodi yn fwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd meddwl, ynghyd â phroblemau iechyd ehangach. Effaith fwyaf tlodi plant, fodd bynnag, yw'r canlyniadau hirdymor i ddyfodol ein cenedl.
Cefais fy magu yn y 1980au ym Merthyr Tudful ac rwyf wedi byw drwy Thatcheriaeth a'r dinistr a achosodd i fy nghymuned a chymunedau eraill ledled Cymru. Yn rhy aml, gwelsom fod cenhedlaeth o blant a gafodd eu magu mewn tlodi yn ystod y cyfnod hwnnw wedi aros yn dlawd wrth iddynt dyfu'n oedolion ac wedi dod yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol. Roeddwn yn ceisio meddwl am enghraifft o sut yr adwaenwn dlodi ar oedran cynharach yn fy mywyd a chofiais am brofiad a gefais pan oeddwn ar brofiad gwaith yn y llysoedd ym Merthyr Tudful gyda chwmni o gyfreithwyr lleol. Sylweddolais fy mod yn adnabod cryn dipyn o'r bobl ifanc a oedd yn mynd i'r llys y diwrnod hwnnw, a chyfarfûm â rhai ohonynt wedyn. Mewn gwirionedd, pan euthum yno fel tyst i'r profiad hwn, ar brofiad gwaith, roedd rhywun yn credu fy mod yn gariad i rywun a oedd yn cael ei gyhuddo y diwrnod hwnnw. Rwy'n credu mai dyna pryd y gwnaeth fy nharo, oherwydd nid oeddwn yn hapus nac yn gyffyrddus iawn â'r ffaith bod llawer o fy nghyfoedion yn fy ngrŵp oedran ysgol yn wynebu'r profiad hwnnw yn eu bywydau. Ac ni ddylent fod wedi bod yn y system cyfiawnder troseddol, ond ni chawsant eu cefnogi drwy gydol eu bywydau, oherwydd y tlodi yr oeddent yn byw ynddo, oherwydd yr amgylchiadau y cawsant eu magu ynddynt ym Merthyr yn y 1980au. Ac mae'n parhau i ddigwydd hyd heddiw mewn llawer o'n cymunedau ledled Cymru.
Ond y gwahaniaeth rhwng nawr a'r 1980au yw bod gennym Lywodraeth Cymru, ac nid oedd honno gennym bryd hynny. Ond ble mae Llywodraeth Cymru? Nid wyf yn bwriadu awgrymu mai ei chyfrifoldeb hi'n unig yw hyn, er na fyddent byth yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw beth bynnag, fel rydym wedi'i weld yn eu gwelliant heddiw. Gwn fod y gymysgedd wenwynig o economeg asgell dde a'r newidiadau niweidiol i les a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU wedi bod yn achos ac yn rhwystr i'r broblem hon, ond ni ddylai fod unrhyw ymdeimlad o hunanfodlonrwydd nad oes mwy y gellir ei wneud gan y Llywodraeth hon ym Mae Caerdydd. Nid ydym am ddisgrifio'r broblem yn barhaus; rydym am ganfod atebion go iawn yma yng Nghymru.
Mae gwelliant y Blaid Lafur heddiw yn dangos nad ydynt o ddifrif ynglŷn â'r mater hwn, yn anffodus. Oes, mae yna gydnabyddiaeth ei bod hi a Llywodraeth y DU yn gyfrifol, ac mae wedi amlinellu rhai prosiectau teilwng ac rydym yn cytuno gyda'r prosiectau hynny. Ond yn ein barn ni, ni all unrhyw Lywodraeth honni ei bod o ddifrif ynglŷn â sgandal ein tlodi oni bai ei bod yn awyddus i ddal yr holl ddulliau o newid a allai effeithio ar dlodi yma yng Nghymru. Y gwir amdani yw na chaiff anghenion lles ein holl ddinasyddion eu diwallu'n gyfartal. Nawr, ar hyn o bryd, a ydych o ddifrif yn fodlon sefyll ar y cyrion? Mae eu hanghenion yn cael eu tanseilio yn yr un modd gan Lywodraeth y DU ac mae'n peri rhwystredigaeth, dro ar ôl tro, i glywed bod yn rhaid inni wneud hyn mewn ffordd gyfartal pan fo'n ras i'r gwaelod ar hyn o bryd. A ydym o ddifrif am adael y pwerau i ddiwygio lles yn nwylo'r Ceidwadwyr yn y DU yn hytrach na chymryd yr awennau ein hunain, cael ein barn ein hunain ar y prosiectau hyn? Dyna rwy'n ei gael yn sylfaenol anodd i'w ddeall o'r meinciau Llafur yma yng Nghymru. Sut y gall Llafur ymosod ar newidiadau lles Torïaidd fel prif achos problem tlodi plant a hwythau'n gwbl wrthwynebus i hyd yn oed geisio ennill rheolaeth dros yr union bwerau a allai leddfu effaith, neu hyd yn oed atal rhai o'r newidiadau hynny? I ni, mae'n dangos diffyg egni sylfaenol a diffyg awydd i fod yn ddim mwy na chorff dosbarthu grantiau rhanbarthol.
Yn 1964, lansiodd yr Unol Daleithiau—a dyfynnaf—'y rhyfel ar dlodi', Deddf cyfle economaidd, ac mae ei theitl hir yn dweud,
Deddf i gynnull adnoddau dynol ac ariannol y Genedl er mwyn trechu tlodi.
Nid wyf yn awgrymu bod gennym yr un amrywiaeth o offer i efelychu'r cynllun penodol hwnnw, ond mae teimlad ac ysgogiad Llywodraeth sy'n defnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael iddi i fynd i'r afael ag argyfwng cenedlaethol ar goll yma yng Nghymru.
Hoffwn gyffwrdd ar rywbeth pwysig hefyd. Mae hon yn ddadl sy'n digwydd yn y gwledydd datganoledig eraill, ac mae'r gwledydd datganoledig hynny'n gwneud yn well na'n gwlad ni. Yng Ngogledd Iwerddon, er gwaethaf y gwahaniaethu strwythurol, cymdeithasol ac economaidd enfawr a wynebir gan gynifer o'r boblogaeth, ac ansefydlogrwydd y trafferthion a'i Llywodraeth ddatganoledig a ddeilliodd o gytundeb Dydd Gwener y Groglith, mae ganddi gyfradd tlodi plant sy'n is nag un Cymru. Mae cyfradd tlodi plant yr Alban hefyd yn is nag un Cymru, er na ddefnyddiodd lawer o'r pwerau cyllidol a'r manteision sydd ganddi tan yn ddiweddar iawn. Mae twf economaidd y ddwy wlad a'u cynnyrch domestig gros, o gymharu â chyfartaledd y DU, wedi bod yn gryfach nag yng Nghymru. Ar ddiwedd y 1990au, roedd gan Gymru gynnyrch domestig gros uwch nag Iwerddon. Gallwch ddyfalu lle'r ydym arni heddiw gyda hynny. Bydd pobl yng Nghymru yn gofyn yn gwbl briodol ble mae ein difidend datganoli ar ôl dau ddegawd o reolaeth Lafur. Gall Llywodraeth Cymru nodi eu rhaglenni presennol, ond beth am y degawd diwethaf? Rwy'n credu bod angen i Lafur ofyn cwestiwn difrifol a didwyll iddi ei hun: sut y mae eisiau i'w hoes fel Llywodraeth yn y cyfnod hwn o ddatganoli gael ei chofio?
Fel y soniais, rwy'n cofio sut beth oedd tyfu i fyny yn yr ardal y cefais fy magu ynddi, mewn man a oedd yn dioddef tlodi a dirywiad—ac mae wedi gwella. Mae arnaf ofn fod y tlodi a oedd yn fwy gweladwy yn yr 1980au o ran ffatrïoedd yn cau a mannau diwydiannol segur yn fwy cudd bellach. Rydym yn byw drwy ein hail gyfnod o dlodi eang yng Nghymru yn ystod fy oes, os bu iddo ddiflannu o gwbl mewn gwirionedd. Ar y pwynt hwn, bydd llawer o bobl yn ystyried oes Llafur Cymru dros y degawd diwethaf fel oes tlodi, oes dirywiad, oes ymlafnio. Nid wyf yn cael unrhyw lawenydd pleidiol yn yr argraff honno; nid oes ond tristwch a rhwystredigaeth i mi wrth feddwl am genhedlaeth arall eto sydd wedi cael cam.
Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 1. Paul Davies
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod lefelau tlodi plant yng Nghymru yn uwch na lefel y DU gyda chyfraddau'n codi cyn y dirwasgiad diwethaf.
2. Yn nodi gwaith ymchwil ar gyfer Achub y Plant Cymru a ganfu, erbyn iddynt droi’n bump oed, fod 'tua thraean o’r plant sy’n byw mewn tlodi (30-35 y cant) eisoes yn colli tir mewn amrywiaeth o ddeilliannau gwybyddol (h.y. geirfa, datrys problemau, deheurwydd a chydsymud) o’i gymharu ag un o bob pump o’r rhai sy’n dod o deuluoedd mwy cyfoethog (20-21 y cant)'.
3. Yn cydnabod er bod polisi Llywodraeth y DU mewn meysydd sydd wedi'u cadw hefyd yn gymwys yng Nghymru, fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am hyrwyddo ffyniant a rhaglenni trechu tlodi, gan gynnwys Cymunedau yn Gyntaf, yng Nghymru ers 1999.
4. Yn nodi pwysigrwydd mynediad at ofal ac addysg plentyndod cynnar o ansawdd uchel ar gyfer plant yng Nghymru a'r angen am gymorth wedi'i dargedu ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi.
5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gymryd yr holl gamau o fewn ei phwerau i fynd i'r afael â thlodi plant fel rhan o'r cynllun newydd ar gyfer dileu tlodi plant, sy'n cynnwys targedau SMART yn hytrach na datganiadau amwys.
Diolch. Er bod tlodi plant yng Nghymru wedi gostwng yn fras i lefel y DU yng nghanol y degawd diwethaf, dechreuodd godi uwchlaw lefelau'r DU eto cyn y cwymp ariannol a'r dirwasgiad, ac ni ddechreuodd ddisgyn tan ar ôl i Lywodraeth y DU newid yn 2010. Ar 28 y cant, roedd lefelau tlodi plant yng Nghymru yn dal i fod yn uwch na rhai'r Alban a Gogledd Iwerddon y llynedd. Yn ôl data awdurdodau lleol Dileu Tlodi Plant, ym mis Ionawr, ystyriwyd bod 178,676 o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi ar ôl costau tai gyda thlodi plant yng Nghymru yn uwch y pen na chyfartaledd y DU, lle mae un o bob tri yn byw mewn tlodi ar ôl costau tai, o gymharu ag un o bob pedwar yn yr Alban a Lloegr.
Ni ellir edrych ar dlodi plant ar ei ben ei hun. Ar ôl 19 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru, gan Gymru y mae'r cyfraddau uchaf o dlodi o holl wledydd y DU ar 24 y cant, y lefel uchaf yng Nghymru ers 2007-08. Gan Gymru hefyd y mae'r cyfraddau tlodi ail uchaf o holl ranbarthau'r DU. Ymhellach, canfu adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree, 'Tlodi yng Nghymru 2018'
'Mae'r gyfran o gartrefi yn byw mewn tlodi incwm yng Nghymru... [yn] parhau i fod yn uwch nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon' ac
'Mae tlodi ymysg cyplau gyda phlant wedi bod yn codi ers 2003/06.'
Yn ystod tymor diwethaf y Blaid Lafur fel Llywodraeth yn y DU, gwelwyd cynnydd o 1 filiwn yn nifer y bobl ddi-waith, gwelwyd cynnydd o 44 y cant mewn diweithdra ymhlith ieuenctid a gwelwyd nifer y cartrefi lle nad oes neb erioed wedi gweithio bron yn dyblu. Mae lefelau cyflogaeth y DU bellach ar ei lefel uchaf erioed, mae diweithdra'n is nag y bu ers 40 mlynedd, ac mae nifer y bobl ifanc sy'n ddi-waith bron 408,000 yn is ers 2010.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Fe gymeraf un ymyriad, yn sicr.
A ydych yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am weithredoedd eich plaid mewn Llywodraeth am unrhyw rai o'r ystadegau rydych newydd eu darllen?
Yr ystadegau rwyf wedi'u darllen, na, oherwydd maent yn ymwneud â'r patrwm dros 20 mlynedd a mwy, yn hytrach na chyfnod byr o amser diweddar.
Ar ôl bron i ddau ddegawd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru, mae Cymru wedi'i gadael ar ôl—14 y cant o blant yng Nghymru yn byw ar aelwydydd heb waith o gymharu ag 11 y cant ar gyfer y DU. Gan Gymru y mae'r gyfradd gyflogaeth isaf a'r gyfradd anweithgarwch economaidd uchaf ym Mhrydain, a'r gyfradd uchaf o ddiweithdra yng ngwledydd y DU. Dywed crynodeb Sefydliad Bevan ar gyflogaeth ym mis Mawrth 2018, er bod cael sicrwydd gwaith yn galluogi gweithwyr i gynllunio eu bywydau bob dydd a chael incwm diogel, mae'r gyfran mewn gwaith nad yw'n barhaol, gan gynnwys trefniadau dim oriau, yn uwch yng Nghymru nag yn Mhrydain ac mae wedi aros yn gymharol uchel, tra bo'r gyfran wedi gostwng ym Mhrydain. Ym mis Ionawr, adroddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod anghydraddoldeb incwm wedi gostwng dros y degawd diwethaf a bod gan aelwydydd fwy o incwm gwario nag ar unrhyw adeg o'r blaen—fe hawliaf glod am hynny—gydag incwm yr aelwydydd tlotaf bron £2,000 yn uwch o gymharu â'r lefelau cyn y dirwasgiad. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n dweud hynny, nid gwleidydd.
Fodd bynnag, er bod cyflogau gwirioneddol y DU bellach yn codi'n gyflymach na phrisiau, gweithwyr Cymru bellach sy'n cael y cyflogau wythnosol isaf o holl wledydd y DU, gydag enillion wythnosol gros £46 yn is na lefel y DU. Ugain mlynedd yn ôl, roedd pecynnau cyflog wythnosol gweithwyr Cymru a'r Alban yn union yr un fath, ond 20 mlynedd yn ddiweddarach, mae pecyn cyflog wythnosol yr Alban yn cynnwys £43 yn fwy na phecyn cyflog yng Nghymru.
Felly rwy'n cynnig gwelliant 1, sy'n cynnig
'bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
'1. Yn nodi bod lefelau tlodi plant yng Nghymru yn uwch na lefel y DU gyda chyfraddau'n codi cyn y dirwasgiad diwethaf.
'2. Yn nodi gwaith ymchwil ar gyfer Achub y Plant Cymru a ganfu, erbyn iddynt droi'n bump oed, fod "tua thraean o'r plant sy'n byw mewn tlodi (30-35 y cant) eisoes yn colli tir mewn amrywiaeth o ddeilliannau gwybyddol".
'3. Yn cydnabod er bod polisi Llywodraeth y DU mewn meysydd sydd wedi'u cadw hefyd yn gymwys yng Nghymru, fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am hyrwyddo ffyniant a rhaglenni trechu tlodi, gan gynnwys Cymunedau yn Gyntaf, yng Nghymru ers 1999.
'4. Yn nodi pwysigrwydd mynediad at ofal ac addysg plentyndod cynnar o ansawdd uchel ar gyfer plant yng Nghymru a'r angen am gymorth wedi'i dargedu ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi.
'5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gymryd yr holl gamau o fewn ei phwerau i fynd i'r afael â thlodi plant fel rhan o'r cynllun newydd ar gyfer dileu tlodi plant, sy'n cynnwys targedau SMART yn hytrach na datganiadau amwys.'
Rydym yn cytuno'n fawr â Phlaid Cymru yn hynny o beth. Gorffennodd Llywodraeth Cymru ei rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ar ôl gwario bron i £0.5 biliwn arni. Dywedodd Sefydliad Bevan,
'na lwyddodd Cymunedau yn Gyntaf i leihau'r prif gyfraddau tlodi yn y mwyafrif helaeth o gymunedau, a llai fyth yng Nghymru yn ei chyfanrwydd.'
Ychwanegodd
'y dylai rhaglen newydd gael ei chyd-gynhyrchu gan gymunedau a gweithwyr proffesiynol, ac nid o'r brig i lawr', y dylai fod yn seiliedig
'ar ddamcaniaeth glir o newid, gan adeiladu ar asedau pobl a chymunedau, ac nid ar ddiffygion' ac
'y dylai gweithredu lleol gael ei arwain gan sefydliadau a leolir yn y gymuned a chanddyn nhw hanes cryf o ddarparu, ac sy’n ymgysylltu’n gryf â'r gymuned.'
Roeddent hefyd yn dweud os yw pobl yn teimlo bod polisïau'n cael eu gorfodi arnynt, nad yw'r polisïau'n gweithio.
Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Julie James yn ffurfiol.
Diolch—
Na, na, cynnig y gwelliant rydych chi, dyna i gyd.
Gwelliant 2. Julie James
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn credu bod y cyfrifoldeb dros fynd i'r afael â thlodi plant yn nwylo Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
2. Yn nodi gyda phryder bod dadansoddiad diweddaraf y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dangos y bydd diwygiadau treth a lles Llywodraeth y DU yn gwthio 50,000 o blant ychwanegol i dlodi erbyn 2021/22.
3. Yn croesawu ffocws Llywodraeth Cymru ar gyflogaeth fel y llwybr gorau allan o dlodi a’r camau gweithredu uchelgeisiol a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi a’r Cynllun Cyflogadwyedd.
4. Yn croesawu’r buddsoddiad parhaus yn Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, y Grant Datblygu Disgyblion a Rhaglen Plant Iach Cymru er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posibl yn eu bywydau.
5. Yn credu y dylid diwallu anghenion lles holl ddinasyddion y DU yn gyfartal ac nad yw datganoli budd-daliadau lles yn cefnogi’r egwyddor hon.
Ymddiheuriadau. Rwy'n cynnig yn ffurfiol. Mae'n ddrwg gennyf.
Diolch.
Roeddwn yn barod i fwrw iddi. Roeddwn yn rhy awyddus—rwy'n ymddiheuro.
Iawn. I'w gynnig yn ffurfiol, felly—
Yn ffurfiol.
Diolch. Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydw i am ganolbwyntio fy sylwadau i ar yr angen i sicrhau mynediad cyfartal i blant i addysg blynyddoedd cynnar. Mi gychwynnaf i drwy rannu ystadegyn gyda chi: mi fydd dros hanner y plant o ardaloedd difreintiedig Cymru yn cychwyn ysgol efo sgiliau cyfathrebu diffygiol. Yn wir, mi fydd plant o'r 20 y cant mwyaf tlawd o'r boblogaeth, erbyn eu bod nhw'n dair oed, bron i flwyddyn a hanner y tu ôl i'r plant cyfoethocaf o ran datblygiad iaith. Nawr, meddyliwch am hynny; pan rydych chi ddim ond yn dair oed, rydych chi eisoes blwyddyn a hanner ar ei hôl hi. Mae hyn yn bwysig oherwydd dyma un o'r mesurau sicraf sydd yna o ragolygon rhywun nes ymlaen mewn bywyd. Mae sgiliau gwan plant o ran lleferydd, iaith a chyfathrebu yn cael effaith mawr ar ystod eang o ganlyniadau nes ymlaen mewn bywyd, yn cynnwys ymddygiad, iechyd meddwl, parodrwydd ysgol a chyflogadwyedd hefyd.
Nawr, mi oedd Bethan yn cyfeirio yn gynharach at y system gyfiawnder a phobl ifanc o fewn y system gyfiawnder. Mae 60 y cant o'r bobl ifanc sydd yn yr ystâd gyfiawnder ieuenctid ag anawsterau cyfathrebu. Mae gan bron i 90 y cant o'r dynion ifanc sydd wedi bod yn ddiwaith am yr hirdymor anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Heb gymorth effeithiol, mi fydd treian o blant ag anawsterau cyfathrebu heddiw angen triniaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl pan fyddan nhw'n oedolion. Mae'r dystiolaeth yn glir mai darpariaeth addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd ar gael i bawb yw'r ffordd orau i godi plant allan o dlodi—a dyna beth mae Plaid Cymru eisiau ei weld.
Oni wnewch chi dderbyn bod cynnydd wedi'i wneud gyda Dechrau'n Deg i gael plant o ddwy i dair? Ac mae'r hyn a ddywedoch ar y dechrau yn rhywbeth rwyf wedi ysgrifennu amdano ac wedi ei ddweud dros y saith mlynedd diwethaf: mae gormod o blant yn dechrau yn yr ysgol flwyddyn neu ddwy flynedd ar ei hôl hi, ac mae'n rhaid iddynt geisio cau'r bwlch yn y saith mlynedd nesaf. Ond mae'n rhaid ystyried bod Dechrau'n Deg yn gynnydd.
Wel, os ydych wedi ysgrifennu ac wedi siarad amdano am saith mlynedd, nid oes angen ichi ddweud wrthyf fi; dylech ddweud wrth eich Llywodraeth eich hun. Fe ddof at Dechrau'n Deg mewn munud, oherwydd rydych yn gwneud pwynt dilys, ond fe ddof at hynny mewn munud.
Felly, rydw i wedi amlinellu pam rydw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n ymrwymo i ddarparu gofal plant am ddim i bob plentyn tair i bedair oed yng Nghymru, fel ffordd i fynd i'r afael â'r anghyfartaledd yma rydw i wedi cyfeirio ato fe. Ac mae'r ddadl yma yn amserol, oherwydd dim ond y bore yma roeddem ni'n cychwyn ar graffu'r Bil cyllido gofal plant y mae'r Llywodraeth yma yn ei gyflwyno, ac mae'r polisi hwnnw, wrth gwrs, gan y Llywodraeth, yn cyfyngu'r gofal plant am ddim i deuluoedd sy'n gweithio. Nawr, fe fyddai rhywun yn dadlau—mae'r Llywodraeth yn dadlau—bod hynny'n dod â budd iddyn nhw, er bod yna gwestiynau, yn fy marn i ac eraill, ynglŷn â’r dystiolaeth i danlinellu hynny, ond mae e hefyd, yn fy marn i, yn cynyddu’r risg y bydd y plant yna o’r teuluoedd mwyaf difreintiedig, y teuluoedd di-waith, yn cael eu gadael hyd yn oed ymhellach ar ei hôl hi. Mae Plaid Cymru eisiau torri’r cylch dieflig yna o ddifreintedd a chyrhaeddiad isel.
Mae’r comisiynydd plant, Achub y Plant ac eraill yn rhannu safbwynt Plaid Cymru fod allgau plant o gartrefi di-waith o’r cynnig gofal yma yn mynd i ehangu’r bwlch addysg yn lle ei gau. Ac mae’n rhaid imi ddweud, mae peth o’r dystiolaeth rŷm ni wedi ei chlywed yn ddamniol. Mi ddywedodd y comisiynydd plant, er enghraifft:
Nid yn unig fod y Bil hwn yn debygol o roi plant o aelwydydd heb waith o dan anfantais anghymesur, mae hefyd yn annhebygol o gyflawni ei brif nod.
Mae hi hefyd yn dweud:
Felly, nid wyf wedi fy argyhoeddi bod y buddsoddiad hwn yn seiliedig ar dystiolaeth nac wedi'i dargedu'n dda... Nid wyf yn credu bod y polisi sy’n sail i'r Bil hwn yn dangos y bydd y cynllun yn addas ar gyfer y tymor hir.
Nawr, safbwynt y comisiynydd plant yw hwnnw.
A wyddoch chi, gyda llaw, y bydd cyplau sy'n ennill hyd at £199,000 y flwyddyn yn gymwys ar gyfer y cynnig gofal plant am ddim? Nawr, mae'r Llywodraeth yn dweud wrthym fod gan y rheini sy'n llai cefnog fynediad at Dechrau'n Deg—ac rwy’n mynd i'r afael â'r pwynt a wnaethoch, Mike. Nid yw'r mwyafrif o blant dan anfantais, wrth gwrs, yn byw yn ardaloedd Dechrau'n Deg, a dyna'r broblem: mae'n gyfyngedig yn ddaearyddol. Bydd y polisi hwn yn cau'r drws ar hanner ein plant tlotaf, mwyaf difreintiedig, mwyaf bregus, sydd mewn perygl o gael eu gadael ar ôl am na fyddant yn gallu cael gofal plant am ddim, tra bo teuluoedd sy'n ennill £199,000 y flwyddyn o bosibl yn cael gofal plant am ddim gan y Llywodraeth Lafur hon. Ai dyna yw Llafur bellach? Oherwydd, os felly, rydych yn amlwg wedi colli eich ffordd. Gwrandewch ar y comisiynydd plant, gwrandewch ar Achub y Plant ac eraill, gwrandewch ar Blaid Cymru: sicrhewch fod y cynnig gofal plant ar gael i bawb, fel y gall pawb, gan gynnwys ein plant tlotaf, gael y dechrau gorau mewn bywyd hefyd.
Wel, ni wnaf unrhyw esgusodion am ailadrodd rhai o'r ffigurau a ddefnyddiwyd gan Bethan Sayed ac eraill, oherwydd maent yn haeddu cael eu hailadrodd dro ar ôl tro. Mae tua 600,000 o blant yn byw yng Nghymru. O'r rheini, mae un o bob tri, neu 200,000, yn byw mewn tlodi; mae 90,000 yn byw mewn tlodi difrifol. Mae mwy na hanner y plant yng Nghymru sy'n byw mewn teuluoedd incwm isel yn poeni bod eu rhieni'n ei chael hi'n anos talu am hanfodion pob dydd megis gwresogi, bwyd a dillad.
Yn anffodus, mae'r rhethreg yn y Siambr hon yn beio'r toriadau i fudd-daliadau fel prif achos tlodi. Ond nid yw hynny'n wir. Prinder swyddi a chyflogau da yw'r ffactor mwyaf sy'n effeithio ar dlodi yng Nghymru, pa un a yw'n dlodi plant neu'r sector cyfan. Methiant Llywodraeth Cymru i ddarparu'r swyddi hyn yw'r rheswm am y sefyllfa erchyll a ffigurau tlodi yng Nghymru. Esgus tila yw beio toriadau Llywodraeth y DU i fudd-daliadau, er mor annymunol ydynt, am y nifer gynyddol o fanciau bwyd a dangosyddion eraill o dlodi yng Nghymru. Yr unig lwybr go iawn a pharhaus allan o dlodi yw cyflogaeth—gwaith da am gyflog da. Mae Llywodraeth Cymru yn honni bod lefelau diweithdra yn is nag erioed ond yn celu'r ffaith bod llawer o'r gwaith hwnnw'n rhan-amser, neu'n waeth, drwy'r system anghyfiawn o gontractau dim oriau.
Rwy'n credu bod ymdrechion glew yn cael eu gwneud yn awr gan Lywodraeth Cymru i liniaru'r broblem hon: rhaglenni prentisiaeth gwell, system addysg sy'n cyd-fynd yn llawer gwell ag anghenion busnesau a nifer o ymyriadau a gynlluniwyd i sicrhau bod pobl sy'n ddi-waith yn hirdymor yn cael gwaith. Ond mae hyn oll yn erbyn cefndir o 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru—Llywodraeth a addawodd ddileu tlodi erbyn 2020, ac afraid dweud nad oes llawer o amser i gyflawni'r nod hwnnw. A hoffwn dynnu sylw at y ffaith bod Llywodraeth Lafur yn Senedd y DU am 13 o'r 20 mlynedd. Ugain mlynedd a oedd yn cynnwys llanastr y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, yr addawodd y Llywodraeth y byddai'n rhoi diwedd ar dlodi yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig, ac nad yw wedi cyflawni fawr ddim mewn gwirionedd, ar wahân i rai achosion unigol: £410 miliwn i lawr y draen. Mae'r dystiolaeth i'w gweld yn y ffigurau a ddyfynnir uchod. Tybed faint o swyddi hirdymor go iawn a fyddai wedi'u creu pe baem wedi rhoi £1 filiwn, gyda mesurau rheoli priodol, i 410 o entrepreneuriaid profedig.
Mae'n bryd bellach i Lywodraeth Cymru gyflawni ei haddewidion. Mae pobl Cymru, yn enwedig y rhai a gondemniwyd i fywyd o dlodi, yn haeddu gwell na'r hyn a gyflawnwyd yn yr 20 mlynedd diwethaf.
Beth bynnag fo'ch lliw gwleidyddol, gallwn i gyd gytuno na ddylai'r un plentyn dyfu i fyny mewn tlodi. Ni ddylai'r un plentyn wynebu'r gwarth a'r stigma a ddaw yn sgil tlodi.
Rwyf am ddechrau drwy amlinellu'r cyd-destun i fy ngalwad am newid. Rydym wedi clywed yr ystadegau. Mae tlodi plant yma yn uwch nag unrhyw wlad arall yn y DU. Beth y mae hyn yn ei olygu i'n plant? Mae'n golygu bod traean o blant yn wynebu brwydr ddyddiol, brwydr ddiraddiol, sy'n eu gadael yn llwglyd, yn sâl, yn agored i eraill bigo arnynt, a heb obaith am ddyfodol gwell.
Y mis diwethaf yn unig cadarnhaodd Ymddiriedolaeth Trussell fod defnydd o fanciau bwyd yng Nghymru yn parhau i gynyddu. Wedi'i chladdu yn yr ystadegau hynny roedd y ffaith mai plant oedd 35,403 o'r rhai sy'n gorfod dibynnu ar barseli bwyd. Nawr, gwn nad yw'r Gweinidog yn falch o'r ffigurau hyn, ond Llafur sydd mewn grym. Mae gan Lafur bŵer i newid pethau, ac felly Llafur sy'n gorfod ysgwyddo cyfrifoldeb am y sefyllfa ofnadwy hon.
Rwyf hefyd yn cydnabod bod y Ceidwadwyr yn San Steffan yn cadw rheolaeth dros rywfaint o'r dulliau a allai helpu i godi plant allan o dlodi: mae'r cymal trais rhywiol, sy'n golygu bod menywod sydd â thrydydd plentyn yn gorfod profi eu bod wedi cael eu treisio cyn y gallant dderbyn credydau treth, neu'r system taliad cymorth profedigaeth newydd sydd wedi torri'r cymorth ariannol a gynigir i'r rheini sydd wedi colli anwyliaid o 20 mlynedd i 18 mis, ac yna, wrth gwrs, cawsom anhrefn y credyd cynhwysol—mae'r modd carbwl y cyflwynodd San Steffan ddiwygiadau mawr i fudd-daliadau wedi gwneud teuluoedd yn ddiobaith ac yn ddigartref hyd yn oed. Mae'r rhain yn bolisïau sy'n achosi dioddefaint i'r rheini sydd eisoes yn dioddef. Dywedir mai diwygiadau i fudd-daliadau fel y rhain yw un o'r rhesymau craidd dros y cynnydd mewn tlodi plant. Yn wir, canfu'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y bydd polisïau diwygio lles yn gwthio 50,000 yn fwy o blant yng Nghymru i fyw mewn tlodi, ac mae hynny'n warth sy'n rhaid ei newid.
Felly, beth y gellir ei wneud i newid y sefyllfa hon? Yn gyntaf, rhaid i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i dorri ei chyllid i'r rhai sydd angen cymorth. Yr wythnos diwethaf cawsom ein gorfodi i drafod penderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri'r grant ar gyfer gwisg ysgol i'r plant tlotaf. Yr wythnos hon mae Llafur dan bwysau i wrthdroi eu penderfyniad i ddileu'r grant byw'n annibynnol yng Nghymru. Yn y gwelliant heddiw i gynnig Plaid Cymru, mae'r Llywodraeth yn nodi'r cynllun gweithredu economaidd fel ffordd o liniaru tlodi. Nawr, hoffwn wahodd y Gweinidog i ymyrryd i ddweud wrthyf faint o weithiau y defnyddir y gair 'tlodi' yn y cynllun gweithredu hwnnw. A oes gennym cwestiwn yno? A ydych yn gwybod faint o weithiau y crybwyllir y gair 'tlodi' yn y cynllun gweithredu?
Rwy'n hapus i ymyrryd. Ni fyddwch yn synnu nad wyf yn gwybod sawl gwaith y defnyddir y gair 'tlodi' yn y cynllun, ond mewn gwirionedd, mae'r strategaeth tlodi plant yn dal ar waith a byddwn yn cyflwyno adroddiad yn 2019, fel y dywedodd fy rhagflaenydd yn y swydd hon. Hefyd, nid yn unig ein bod yn diffinio'r ymosodiad ar dlodi a'r cynnydd mewn ffyniant yn y cynllun hwnnw, ond hefyd gyda'r cynllun cyflogaeth y byddwn yn ei gyflwyno, a phob elfen o feddwl y Llywodraeth. Mae wedi'i ymgorffori ar draws y Llywodraeth. Felly, ni allaf chwarae gêm faint o eiriau sydd mewn dogfen, ond gallaf ddweud bod mynd i'r afael â thlodi yn rhedeg drwy holl feddwl y Llywodraeth hon.
Wel, gallaf eich helpu. Gallaf ddweud wrthych fod eich cynllun gweithredu economaidd, y byddwch yn dibynnu'n helaeth arno i leihau tlodi, yn sôn unwaith yn unig am 'dlodi'. Mae ar dudalen 24, ac mae'n ymddangos mewn rhestr.
Nawr, tlodi uchelgais y Llywodraeth hon sy'n arwain at dlodi ein plant. Yr wythnos diwethaf gelwais ar y Gweinidog i ymuno â Phlaid Cymru i gefnogi datganoli'r gwaith o weinyddu lles, a beth oedd ymateb y Llywodraeth Lafur hon i hynny? Fwy neu lai fod y Ceidwadwyr yn San Steffan yn fwy abl na chi eich hunain i ddarparu budd-daliadau ar gyfer y bobl hynny.
Nawr, gadewch imi wneud ychydig o ffeithiau'n glir ynglŷn â datganoli'r gwaith o weinyddu lles. Bydd yn—[Torri ar draws.] Ewch ymlaen.
Ni ddywedais fod Llywodraeth y DU yn fwy abl i weinyddu lles, roeddwn yn dweud nad yw Llywodraeth Cymru eisiau gorfod gweinyddu toriadau Torïaidd Llywodraeth y DU.
Rydych wedi gwrthod cymryd cyfrifoldeb ac rydych yn fwy na pharod i barhau i feio'r Torïaid am rywbeth a allai fod gennych chi i'w roi. Hefyd, byddai datganoli budd-daliadau'n niwtral o ran cost oherwydd fe addaswyd y grant bloc i Lywodraeth yr Alban ar i fyny er mwyn adlewyrchu trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros les.
Drwy wneud rhai newidiadau, gallem liniaru pwysau ar y GIG a gwasanaethau eraill sydd wedi'u datganoli, gan arwain at arbed arian mewn gwirionedd. Rhaid bod y casgliad yn un syml: nid plaid egwyddor yw Llafur ond yn hytrach, plaid hwylustod gwleidyddol, sy'n gwrthod cyfrifoldeb er mwyn sicrhau amwysedd gwleidyddol defnyddiol.
Rwyf am orffen fy araith drwy alw am weithredu gan y Llywodraeth hon. Galwaf arnoch i roi'r gorau i esgeuluso eich cyfrifoldeb. Chi yw'r Llywodraeth. Chi sy'n gyfrifol. Cymerwch reolaeth ar weinyddu lles a chodwch y plant hyn allan o dlodi.
Yn haf 2017 fe gyhoeddwyd adroddiad 'Cymunedau yn Gyntaf—Yr hyn a ddysgwyd' gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yr wyf i yn aelod ohono fo. Roedd argymhelliad 4 yn yr adroddiad yn dweud hyn:
'Rydym yn argymell yn gryf bod strategaeth glir ar gyfer trechu tlodi yn cael ei chyhoeddi, un sy’n dwyn ynghyd yr elfennau niferus o waith i leihau tlodi i helpu i ddarparu cyfeiriad clir ac i helpu’r Cynulliad i graffu ar ddull y Llywodraeth. Dylai’r strategaeth gynnwys dangosyddion perfformiad clir i sicrhau rheoli perfformiad effeithiol, yn ogystal â nodi sail dystiolaeth ehangach i helpu i ategu gwerthusiad effeithiol o wahanol ddulliau o drechu tlodi.'
Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad yna. Ymateb y pwyllgor oedd hyn, sef dweud ein bod ni
'yn siomedig o hyd bod yr argymhelliad hwn wedi’i wrthod. Teimlwn fod fframwaith a ddarperir gan Strategaeth neu Gynllun Gweithredu yn hollbwysig er mwyn ein galluogi ni i graffu ar p’un a yw polisïau’r Llywodraeth yn gweithio. Mae cynllun gweithredu clir yn allweddol, gyda dangosyddion perfformiad sy’n cael eu dadansoddi yn ôl ardal a rhyw…Byddai cynllun gweithredu hefyd yn helpu i ddangos pa mor dda y mae dull Llywodraeth Cymru wedi’i integreiddio, a sicrhau bod gwaith ar draws portffolios i gyd yn gweithio tuag at yr un nod.'
Mae'n sgandal nad oes gan y Llywodraeth hon strategaeth glir ar gyfer trechu tlodi. Mae ystyfnigrwydd y Llywodraeth yn awgrymu un o ddau beth. Un, nad ydy trechu tlodi yn flaenoriaeth, neu nad ydyn nhw wir yn credu bod modd trechu tlodi ac y byddai methu cyrraedd targedau yn arwydd o fethiant, ac felly mae'n well jest peidio â chael targedau a pheidio â chael cynllun. O ran y strategaeth tlodi plant—oes, mae yna un, ond ymddengys fod honno wedi aros yn ei hunfan ers 2015.
Rydw i'n troi rŵan at fater y grant gwisg ysgol, ac mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi eu bod nhw'n bwriadu diddymu hwn, mewn cyfnod pan mae plant a theuluoedd yn brwydro yn erbyn heriau cynyddol o bob math. Yng Ngwynedd, diolch i bolisi Plaid Cymru, mi fydd y cyngor yn dal i gynnig y grant hollbwysig yma, er gwaetha'r toriad gan y Llywodraeth. Bydd dros 800 o blant yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan y cyngor er mwyn cynorthwyo rhieni sy'n cael trafferth i gwrdd â gofynion ariannol gwisgoedd ysgol.
Rydw i'n falch iawn fod Cyngor Gwynedd wedi medru dal ati i gynnig y grant yma y mae cymaint o deuluoedd yn dibynnu arno fo. Fe gafodd cyfanswm o 842 o bobl ifanc gefnogaeth gan Wynedd yn ystod 2016-17. Bryd hynny, roedden nhw'n cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru hefyd, ond mae honno i ddiflannu. Ond mi fydd y gefnogaeth yn parhau yng Ngwynedd, ac mi fydd 800 o ddisgyblion yn gallu elwa ohoni. Mae'r cyngor yn gwneud hynny oherwydd un o egwyddorion sylfaenol Plaid Cymru ydy cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd difreintiedig. Mae gwisgoedd ysgol yn nwyddau hanfodol a ddim yn bethau sydd, efallai, yn neis i'w cael.
Mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi dileu contractau dim oriau i bob gweithiwr, oni bai am y rhai sy'n dymuno eu cael nhw, ac wedi cyflwyno'r cyflog byw i bawb. Dyna mae Plaid Cymru yn ei wneud pan fydd gennym ni'r awenau a lle rydym ni mewn llywodraeth.
I gloi, mae angen gweithredu—mae angen gweithredu ar frys. Brynhawn yma, mae Plaid Cymru wedi cynnig nifer o ffyrdd ymarferol y gellid eu mabwysiadu. Y peth cyntaf i'w wneud ydy creu cynllun strategol i drechu tlodi. Mi fedrid datganoli elfennau lles er mwyn inni greu system mwy dyngarol; creu pecyn cymorth gofal plant pwrpasol, sy'n cynnwys teuluoedd efo rhieni di-waith, yn ogystal â'r rhai sydd mewn gwaith, er mwyn creu mynediad cyfartal i blant at addysg blynyddoedd cynnar; dileu cytundebau dim oriau yn y gwasanaethau cyhoeddus a chyflwyno'r cyflog byw.
Dim ond ychydig o syniadau ydy'r rheini y medrid eu gweithredu yn syth petai'r dymuniad yma i wneud hynny. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ymddiheuro am fod braidd yn rhy gynnar yn gynharach. A gaf fi ddechrau drwy groesawu'n ddidwyll y ffocws ar dlodi plant yn y ddadl hon? Mae'n iawn inni ganolbwyntio ar hyn, oherwydd gwyddom fod tlodi plant, heb ei ddatrys, yn gallu cyfyngu ar fywyd cynnar plentyn a chyfyngu ar eu cyfleoedd mewn bywyd ymhellach wrth iddynt deithio tuag at fod yn oedolion ac yn eu bywydau fel oedolyn.
Gadewch i mi droi ar y cychwyn at rai o'r cyfraniadau a wnaed eisoes a diolch i bawb am wneud y cyfraniadau hynny. Nododd Bethan yn briodol mai pla yw tlodi plant ac effaith negyddol y newidiadau treth a budd-daliadau hefyd. Cawsom ein herio ganddi am deimlo'n hunanfodlon—fe drof at hynny mewn eiliad, oherwydd ni chredaf ein bod yn hunanfodlon—ond hefyd heriodd ni i beidio â sefyll ar y cyrion. Byddaf yn troi at hynny mewn eiliad hefyd, oherwydd ni chredaf fod y Llywodraeth hon yn sefyll ar y cyrion. Gofynnodd, 'Beth am weinyddiaeth polisi Llywodraeth y DU?' Byddaf yn troi at hynny'n syth, ond a gaf fi ddweud na ddylem fod yn weinyddwyr polisi Llywodraeth Geidwadol y DU? Fe drof at hynny mewn eiliad.
Cyfrannodd Mark Isherwood at y ddadl a siaradodd am lefelau ystyfnig o uchel o dlodi plant yng Nghymru. Mae'n gywir, a dyna pam na allwn fod yn hunanfodlon. Mae tlodi plant yn ystyfnig o uchel, ond gadewch imi gywiro a chofnodi yma nad yw'n gywir, yn gyntaf oll, i ddweud, fel y byddai rhai pobl yn ei awgrymu, fod tlodi plant yng Nghymru wedi cynyddu. Yn wir, dengys y data aelwydydd islaw'r incwm cyfartalog diweddaraf a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni fod tlodi plant cymharol wedi gostwng dau bwynt canran yng Nghymru am y tair blynedd hyd at 2016-17 ar ôl talu costau tai, o gymharu â ffigurau—y llynedd, mae'n ddrwg gennyf, o gymharu â ffigurau a gyhoeddwyd yn 2017.
Hefyd, nid yw'n gywir i ddweud bod lefelau tlodi plant yng Nghymru yn uwch na lefel y DU, oherwydd roedd yr un data aelwydydd islaw'r incwm cyfartalog a gyhoeddwyd ym mis Mawrth yn dangos bod tlodi plant cymharol ar ôl costau tai yn y DU yn 30 y cant ar hyn o bryd.
Fe gymeraf yr ymyriad.
A wnewch chi gytuno bod data awdurdodau lleol Dileu Tlodi Plant a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, a ehangai'r diffiniad o dlodi plant er mwyn ystyried ffactorau demograffig ehangach, wedi canfod mewn gwirionedd mai Cymru oedd â'r lefel uchaf o dlodi plant yn y DU? Daeth y lleihad mewn tlodi plant y cyfeiriais ato o ystadegau'r Llywodraeth, o gronfeydd data'r Llywodraeth, ac nid o rywbeth rwyf wedi'i dynnu o'r aer neu o ddogfen friffio un o'r pleidiau.
Rydym yn chwarae o gwmpas gyda setiau data gwahanol yma, ond mae'r ystadegau hynny'n bendant ac maent yn annibynnol ac maent wedi'u profi. Fodd bynnag, lle y gallwn gytuno yw ei fod yn rhy uchel—mae'n ystyfnig o uchel—ac mae angen inni ddefnyddio'r holl ddulliau o dan ein rheolaeth i ddod â lefelau tlodi plant i lawr.
Os caf droi at rai o'r sylwadau gan Llyr, cyfeiriodd, fel llawer o rai eraill, at effeithiau niweidiol tlodi plant, a chymerodd yr ymyriad gan Mike Hedges, a nododd, mewn gwirionedd, yr effaith fuddiol y mae rhaglen Dechrau'n Deg yn ei chael—wedi ei chael yn wir—yn yr ardaloedd lle mae'n bodoli. Mae angen inni wneud yn siŵr y gwelir yr un effeithiau hynny y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg, naill ai gyda'r rhaglen honno neu raglenni eraill sydd gennym yn ogystal. Mewn gwirionedd, mae ein cynnig gofal plant sydd wedi'i dargedu'n dda iawn, fel y dywedais pan ymddangosais gerbron y pwyllgor—. Mae'r rhan fwyaf o'r rhai sy'n gwneud defnydd o fewn y flwyddyn gyntaf, o saith awdurdod lleol y cynllun peilot, yn is na'r cyflog canolrifol yng Nghymru—y rheini sydd fwyaf o angen cael y cynnig gofal plant yw'r rhai sy'n cymryd y cynnig hwnnw o fewn y flwyddyn gyntaf y buom yn asesu hynny, ond byddwn yn cyflwyno dadansoddiad yn yr hydref hefyd.
David, a gaf fi ddweud yn syml, gyda phob parch, nad esgus tila yw tynnu sylw at gyfrifoldeb Llywodraeth y DU yn hyn o beth? Mae gennym ddulliau o dan ein rheolaeth; nid oes gennym yr holl ddulliau i chwarae â hwy mewn gwirionedd. Ond roedd yn dda eich clywed yn canmol ymdrechion Llywodraeth Cymru ar bethau fel mynd i'r afael â threfniadau dim oriau.
Leanne, rwy'n deall eich bod wedi canolbwyntio ar nodi faint o eiriau a geir mewn dogfennau penodol ar dlodi. Yr hyn na wnaethoch, rhaid imi ddweud, yw edrych ar y polisïau o fewn y strategaethau hynny sy'n cael eu cyflawni yn awr ar lawr gwlad ac sy'n gwneud gwahaniaeth; yr offer a'r dulliau go iawn. Fe drof at rai ohonynt mewn eiliad.
Soniodd Siân nad oes gan Lywodraeth Cymru bolisi a strategaeth ar fynd i'r afael â thlodi plant. Wel, oes mae gennym un, a byddwn yn ei ddiweddaru ac yn bwrw ymlaen i wneud cynnydd ar hwnnw yn 2019.
Ond yr hyn sydd gennym hefyd, Siân, yw rhaglen drawslywodraethol ar gyfer cynyddu ffyniant i bawb. Fe godoch chi'r mater hefyd, gyda llaw—. Nid wyf yn siŵr a oes gennyf amser i—
A ydych yn barod i dderbyn ymyriad?
Gwnaf mewn munud. Siân, fe wnaethoch chi hefyd grybwyll mater y grant ar gyfer gwisg ysgol. Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg eisoes wedi egluro ei bwriad i gyflwyno cynllun gwell o fis Medi 2018—cynllun a fydd yn fwy hyblyg, yn fwy perthnasol i anghenion dysgwyr dan anfantais. Mae fy swyddogion eisoes wedi cymryd rhan mewn trafodaethau ynglŷn â datblygu'r cynllun newydd hwn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a fydd yn gwneud cyhoeddiad yn ystod yr wythnosau sy'n dod. Ac rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.
Sôn ydw i am gynllun strategol ar draws Llywodraeth—trosolwg efo targedau clir ynglŷn a thaclo tlodi. Rwy'n cydnabod bod yna strategaeth taclo tlodi plant ond, wrth gwrs, mae plant yn rhan o deuluoedd ac mae'n rhaid cael strategaeth taclo tlodi sydd uwchben hynny. Ac nid oes yna un, ac mae'n sgandal o beth nad oes yna un.
Rwy'n cytuno bod tlodi'n sgandal ar ba lefel bynnag, ond fe drof at rai o'r polisïau ymarferol sy'n newid hynny mewn gwirionedd yn hytrach na geiriau mawr mewn strategaethau a'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd. Nid oes unrhyw ymdeimlad o hunanfodlonrwydd oherwydd mae angen inni wneud mwy.
Felly, gadewch imi ddweud yn gyntaf oll lle y gallwn gytuno. Ein dyletswydd foesol eglur yw gwneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â thlodi drwy'r dulliau sydd gennym wrth law yng Nghymru. Ond mae'n iawn inni gydnabod hefyd, fel y gwnawn yn ein gwelliant, fod y cyfrifoldeb am drechu tlodi plant ar ysgwyddau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Er mwyn y plant ifanc hynny, rydym angen i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan hefyd. Dyna pam yr ysgrifennais i, arweinydd y tŷ a'r Gweinidog Tai ac Adfywio at Lywodraeth y DU yn galw am ymateb ar frys ganddi i adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a oedd yn darogan mai polisïau treth a lles Llywodraeth y DU a allai wthio 50,000 yn fwy o blant i fyw mewn tlodi. Dyma'r diweddaraf o nifer o sefydliadau uchel eu parch sy'n haeru y bydd diwygiadau treth a lles Llywodraeth y DU mewn perthynas â theuluoedd dan anfantais yn ysgogi cynnydd sylweddol mewn tlodi plant yn y blynyddoedd i ddod er gwaethaf yr hyn a wnawn, ac er gwaethaf yr hyn a wnânt yn yr Alban, gyda llaw, yn ogystal.
Ond gallwn wneud gwahaniaeth drwy ein polisi yng Nghymru. Fel Llywodraeth, rydym yn cydnabod pwysigrwydd sylfaenol buddsoddiad yn y blynyddoedd cynnar, a all drawsnewid iechyd a datblygiad hirdymor plant a'u cyflawniadau yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae ein strategaeth tlodi plant yn tanlinellu pwysigrwydd dull ataliol o ymdrin â thlodi plant drwy weithredu trawslywodraethol, ac mae ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb', y cyfeiriwyd ati'n gynharach, yn tynnu sylw at y blynyddoedd cynnar a chyflogadwyedd fel meysydd blaenoriaeth ar gyfer mynd i'r afael â thlodi. Mae'n nodi nid yn unig ein gweledigaeth, ond hefyd y camau gweithredu allweddol a roddwn ar waith yn ystod tymor y Cynulliad hwn i sicrhau bod plant yng Nghymru o bob cefndir, beth bynnag fo'u hamgylchiadau, yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.
Rydym yn croesawu adroddiad Achub y Plant a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni. Roedd yn heriol, ond fel roedd yr adroddiad yn cydnabod, mae Llywodraeth Cymru yn bendant wedi buddsoddi mewn amrywiaeth eang o raglenni blynyddoedd cynnar. Ymhlith y rhain mae rhaglenni arloesol Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf. Os yw Tessa Jowell yn edrych i lawr arnom yn awr, bydd yn edrych i lawr ar y rhaglenni Dechrau'n Deg rydym yn eu darparu yma yng Nghymru ac yn eu hehangu gyda balchder, a bydd yn edrych ar draws y ffin ac yn meddwl tybed beth sydd wedi digwydd i Sure Start.
Maent wedi newid bywydau rhai teuluoedd gydag anghenion dwys: ein buddsoddiad mewn datblygiad ac addysg y blynyddoedd cynnar; y grant datblygu disgyblion, sydd wedi lleihau'r bwlch cyrhaeddiad addysgol rhwng plant sy'n cael prydau ysgol am ddim a'r rhai nad ydynt yn eu cael; ein rhaglen Plant Iach Cymru i bob plentyn hyd at saith mlwydd oed; Cefnogi Teuluoedd, i helpu ein plant i wireddu eu potensial; y cyfnod sylfaen mewn addysg ar gyfer plant tair a phedair blwydd oed, i helpu ein plant i ffynnu; y cynnig gofal plant, sydd hyd yn oed yn y cyfnod treialu—rwy'n ymddiheuro, Ddirprwy Lywydd, cymerais ychydig o ymyriadau. A ydych yn fodlon i mi barhau?
Gallwch gael tua 30 eiliad i ddirwyn i ben.
Iawn. Wel, gadewch imi droi at ddatganoli lles neu reolaeth weinyddol. Nid ydym yn cefnogi hyn ar sail egwyddor ac ymarferoldeb clir. O ran yr egwyddor, credwn y dylem oll gael hawl i hawliad cyfartal gan wladwriaeth les sy'n darparu cymorth pan fo angen ac yn mynd i'r afael â thlodi yn Abertawe ac yn Swindon, ym Mangor, ond hefyd yn Bognor. Yn ymarferol hefyd, mae system cymorth lles ar sylfaen ehangach yn gallu gwrthsefyll ergydion economaidd a dirywiadau cylchol lleol na all system lai ei wneud, a dylem fod yn hynod o ofalus, Ddirprwy Lywydd, rhag rhuthro i newidiadau yn y system nawdd cymdeithasol cyn asesu'r costau. Mae'r costau i'r Alban yn sylweddol, gan gynnwys £66 miliwn ar gyfer gweinyddu a swm untro o £200 miliwn ar gyfer gweithredu eu pwerau lles datganoledig newydd. Oni ddylem roi hwnnw i wasanaethau rheng flaen sy'n trechu tlodi? Gallwn wneud mwy, Ddirprwy Lywydd, heb geisio datganoli pellach. Gallwn wneud mwy, ac rydym yn bwriadu gwneud mwy. Mae torri'r cylch amddifadedd—
Rydych wedi cael mwy na 30 eiliad.
Rwy'n cloi, Ddirprwy Lywydd. Ond mae torri'r cylch o amddifadedd a thlodi, Ddirprwy Lywydd, yn ymrwymiad hirdymor i'r Llywodraeth hon. Mae'n ategu ein strategaeth genedlaethol a'n cyfrifoldeb i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae'n rheidrwydd moesol hefyd, ond mae'n rhaid i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw yn awr ar Bethan Sayed i ymateb i'r ddadl? Bethan.
Diolch. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu yma heddiw. Hoffwn ddechrau ar y pwynt a wnaed mewn perthynas â datganoli'r gwaith o weinyddu lles a'r pwyntiau a wnaed mewn ymyriadau gan Rebecca Evans a Huw Irranca-Davies. Nid wyf yn deall y rhesymeg, oherwydd mae i'w weld yn awgrymu—. Rydym mewn sefyllfa lle bydd y toriadau diwygio lles hyn yn digwydd beth bynnag ac yn sicr, os ydym yn cydnabod y ffaith nad oes gennym reolaeth dros yr hyn sy'n digwydd yng ngweddill y DU, yna byddem am gael rheolaeth dros y gyfran o les y gallai fod yn bosibl i ni gael dylanwad arni. Yn wir, rydym yn cydnabod hynny yn y pwyllgor cydraddoldebau. Pan gawsom dystiolaeth gan y rhai a ddaeth i lawr o'r Alban i roi tystiolaeth, rydym yn cydnabod y gallech newid natur y ddadl drwy gael y pwerau hynny yn eich gafael. Darllenwch y dystiolaeth honno os gwelwch yn dda—rydym yn dweud wrth ein gilydd am ddarllen dogfennau penodol yn y Siambr hon—darllenwch y dystiolaeth honno i ddangos sut y gallwn wneud pethau'n wahanol, oherwydd na, wrth gwrs nad ydym am i'r diwygiadau lles ddigwydd, ond maent yn mynd i digwydd, ac yn sicr byddech am gael y pwerau hynny yma yng Nghymru yn hytrach na'u bod yn cael eu darparu ar ein cyfer gan rai nad ydynt mewn cysylltiad, nad ydynt yn gallu deall bywydau pobl Cymru.
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Pe baem yn meddwl y byddai datganoli'r gwaith o weinyddu neu rywbeth arall o ran hyn yn datrys y broblem yn syml, yna byddai'n rhywbeth gwerth mynd i'r afael ag ef. Ond a gytunwch, mewn gwirionedd, wrth edrych ar hynny, fod angen inni fod yn ofalus iawn o'r canlyniadau anfwriadol a'r costau a fyddai'n dod gyda hynny a'r perygl i'r undod cymdeithasol sy'n diogelu'r gwead mewn gwirionedd?
Rwyf wedi rhoi sylw i'r costau nes fy mod yn goch yn fy wyneb yn y Siambr hon, ac nid wyf am fynd dros fater y gost, a dweud y gwir. Rydym wedi egluro'r fframwaith cyllidol yn glir iawn ac roedd Llafur yr Alban i'w gweld yn cefnogi hynny. Mae'n un arf; nid wyf yn dweud ei fod yn ateb i bopeth, ond yn sicr mae'n un arf yn y blwch o faterion ehangach y gallwn gael rheolaeth drostynt yma yng Nghymru.
O ran rhai o'r cyfraniadau eraill, fe af yn gyflym drwy rai ohonynt. Rhoddodd Mark Isherwood gryn dipyn o wybodaeth i ni am dlodi, ond ni chlywais ef yn ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw beth y mae'r Ceidwadwyr yn ei wneud ar lefel y DU, ac efallai y byddai ychydig o ostyngeiddrwydd yn braf o bryd i'w gilydd. [Chwerthin.]
Llyr, rydym ni'n gweld—
A ddarllenoch chi lythyr eich arweinydd yr wythnos diwethaf?
Beth? A ydym am gael dadl am hynny yma yn awr? Nid wyf yn meddwl bod hynny'n briodol.
Na, nid oes unrhyw ddadl ar draws y Siambr, os gwelwch yn dda. Parhewch.
Fe wnaeth Llyr Huws Gruffydd siarad am sgiliau cyfathrebu diffygiol sydd yn dod o'r system addysg os nad yw pobl yn cael yr un cyfleon a'i gilydd, gyda 60 y cant o bobl ifanc yn y system gyfiawnder yn cael problemau cyfathrebu. Eto, dyna pam rydym ni'n dweud fel plaid fod angen i ni gael y pŵer yma yng Nghymru, er mwyn ceisio ymdrin â'r sefyllfa yma.
Yng nghyd-destun gofal plant, rydym ni wedi clywed eto ar y pwyllgor cydraddoldeb y ffaith y dylai hyn fod yn rhywbeth sydd ar gael i rieni gyda phlant o bob oed oherwydd, ar hyn o bryd, pan fydd hyn yn cychwyn yn dair neu bedair oed, maen nhw wedi colli'r cyfle i fynd yn ôl i mewn i'r gwaith. Dyna pam rydym ni o'r meddylfryd hynny.
David Rowlands, fe ddywedoch chi nad diwygio lles oedd prif achos tlodi ac mai esgus tila yw beio diwygio lles. Credaf y byddai'n dila i ni beidio â bod eisiau gwneud dim amdano, a dweud y gwir. Felly, ni fuaswn ond yn cytuno â chi hyd at bwynt, sef lle rydym wedi dweud ar sawl achlysur yr hoffem geisio cael rhywfaint o reolaeth dros y system honno. Ond rwy'n cytuno â chi, er nad wyf yn cytuno gydag UKIP bob amser, ar yr agenda sgiliau a'r agenda swyddi. Os rhown y posibiliadau hynny i'n pobl ifanc, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y gallwn ei gefnogi.
Soniodd Leanne am y cymal trais a bod y credyd cynhwysol wedi gadael llawer o deuluoedd mewn anobaith, a bod 50,000 o bobl newydd yn byw mewn tlodi o ganlyniad i ddiwygio lles. Ac unwaith eto, fe wnaeth y pwynt am ddatganoli'r gwaith o weinyddu lles yn go gadarn, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth nad ydym yn mynd i'w ennill yma heddiw, ond byddwn yn parhau gyda'r ddadl benodol honno.
Siân Gwenllian yn dweud nad oes fframwaith clir o ran trechu tlodi, eu bod nhw'n methu â chyrraedd targedau, ac efallai dyna pam nid ydynt yn rhoi’r targedau hynny yn eu lle rhagor. Roeddwn i’n sylwebu ar dlodi plant pan ges i fy ethol yn gyntaf, ac roedd y targedau yna am reswm er mwyn ein bod ni’n gallu tracio'r hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Heb y targedau hynny, nid yw hynny’n bosib. Da iawn hefyd i Gyngor Gwynedd sydd wedi ceisio dileu contractau dim awr a hefyd wedi adfer y grant gwisg ysgol yng Ngwynedd. Mae’n bwysig ein bod ni’n siarad lan am yr hyn sydd yn digwydd yn bositif ar lefel awdurdodau lleol.
Rwy'n credu fy mod am orffen gyda'r ddogfen yr ydym wedi sôn amdani. Ie, wyddoch chi, gallwn drafod sawl gwaith y sonnir am dlodi, ond y ffaith amdani yw, nid oes unrhyw ffordd ddiriaethol o olrhain sut y symudwn ymlaen o fewn y ddogfen hon. Mae'n darllen yn dda ac mae'n darllen fel dogfen Llywodraeth dda iawn, ond wedyn ni allwn weld sut y gallwn ddefnyddio unrhyw dargedau i ysgogi ein gwaith craffu ar y strategaeth arbennig hon yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac rwy'n credu mai dyna y mae pobl y tu allan i'r Siambr hon eisiau inni allu ei wneud. Felly, os oes cynllun gweithredu a allai ddeillio o hon, gyda mwy o fanylion ynglŷn â thargedau ac ynglŷn â chyflawni, buaswn yn sicr yn croesawu hynny, ac nid wyf yn gwybod a oes rhywbeth gan y Gweinidog i'w ddweud ar y mater.
Ie, yn syml er mwyn helpu i egluro fel rhan o'r ddadl. Felly, mae'r dangosyddion perfformiad allweddol yn parhau i fod ar waith, ac un o'r pethau yr ydym yn edrych arnynt ar draws y Llywodraeth ac ar draws Gweinidogion y Llywodraeth yw cerrig milltir sy'n sail i'r dangosyddion perfformiad allweddol hynny. Felly, rydym eisoes yn gwybod pethau megis nifer y bobl sy'n mynd i mewn i'r categori NEET, beichiogrwydd ymhlith yr ifanc, ac ati, ac ati, ac ati—rhai o'r dangosyddion allweddol hyn. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud y gellid ei fesur mewn gwirionedd fel ein bod yn gallu gweld cynnydd yn cael ei wneud.
Iawn. Diolch yn fawr iawn. Dyna'r cyfan roeddwn am ei ddweud. Diolch.
Diolch. Rwy'n falch ein bod wedi cyrraedd diwedd y ddadl honno heb unrhyw ymyriadau pellach. Mae hynny'n dda. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, byddwn yn pleidleisio ar yr eitem hon yn y cyfnod pleidleisio.