– Senedd Cymru ar 6 Mehefin 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adnewyddu trefol ac rwy'n galw ar David Melding i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6734 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd ardaloedd trefol yng Nghymru fel peiriannau o dwf economaidd, dysgu a chreadigrwydd.
2. Yn credu bod gofyn am strategaeth genedlaethol uchelgeisiol ar gyfer adfywio trefol yng Nghymru a fyddai'n helpu i wneud ein trefi a'n dinasoedd yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif.
3. Yn croesawu papur gwyn Ceidwadwyr Cymru, 'Dinasoedd Byw', sy'n ceisio adeiladu dinasoedd ac ardaloedd trefol sy'n gynhwysol yn gymdeithasol, yn gynaliadwy'n amgylcheddol, ac wedi’u seilio ar yr egwyddor o sicrhau iechyd a llesiant dinasyddion.
Diolch yn fawr, Lywydd. Yn wir, rwy'n falch iawn o wneud y cynnig ac agor y ddadl hon y prynhawn yma. Am y tro cyntaf mewn hanes, mae'r rhan fwyaf o boblogaeth y byd yn byw mewn cymunedau trefol. Yn 2010, cyfrifwyd bod tua 66 y cant o boblogaeth Cymru yn byw yn ei hardaloedd trefol ac mae'r ganran hon wedi parhau i dyfu o flwyddyn i flwyddyn. Ni ddylai hyn fod yn syndod i'r un ohonom mewn gwirionedd gan fod dinasoedd a threfi yn ganolfannau menter, arloesi a dysgu. Maent yn creu cyfoeth ac yn gwella safonau byw, tra'n darparu rhwydwaith a rhyngweithiad sy'n ein gwneud yn fwy creadigol ac yn fwy cynhyrchiol.
Mae'r crynhoad o dalent a chreadigrwydd yn gwneud dinasoedd yn beiriannau arloesi ac yn beiriannau twf economaidd—lleoedd y dylem eu dathlu, ac yn yr ysbryd hwnnw rydym wedi cyflwyno pwynt 1 ein cynnig y prynhawn yma, sy'n ceisio cydnabod pwysigrwydd ardaloedd trefol Cymru. Am y rheswm hwnnw, rwy'n gwrthod gwelliant Llywodraeth Cymru, gan ein bod yn ei ystyried yn rhy eang i ddibenion y prynhawn yma. Yn sicr, mae angen triniaeth lawn, a thriniaeth gydategol, ar ardaloedd gwledig, ond daw hynny'n bennaf drwy'r polisi gwledig, a heddiw, rwyf eisiau canolbwyntio o ddifrif ar yr heriau a'r cyfleoedd trefol sydd ger ein bron.
Buaswn yn dweud nad ydym, mewn trefi a dinasoedd yng Nghymru, yn derbyn y lefel o weledigaeth ac uchelgais rydym ei hangen gan y Llywodraeth i alluogi ein gwlad i gyrraedd ei photensial llawn. Rydym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig wedi cydnabod hyn, ac rydym wedi cyflwyno ein gweledigaeth i greu trefi a dinasoedd sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Rydym yn credu ei bod yn hanfodol creu dinasoedd y gellir byw ynddynt ac ardaloedd trefol sy'n dda i'r economi, sy'n gynhwysol yn gymdeithasol, sy'n amgylcheddol gynaliadwy, ac sydd wedi'u hadeiladu ar egwyddor iechyd a llesiant ein dinasyddion. Mae angen iddynt gynnig yr ansawdd bywyd a'r cyfleoedd sy'n gwneud i ddinasyddion fod eisiau byw ynddynt, ond hefyd sy'n gwneud i fusnesau fod eisiau buddsoddi, ac i'r busnesau hynny ddod o bell ac agos.
Mae gennym gyfle i ddenu pobl ifanc fedrus iawn sydd ar hyn o bryd yn cael eu gwthio allan o Lundain a rhanbarth gorboeth de-ddwyrain Lloegr. Rwy'n credu o ddifrif fod gan y dinasoedd ar hyd arfordir de Cymru, yn ogystal â'r ardaloedd trefol yng ngogledd Cymru, botensial mawr yma pan fo cymaint o dalent na fydd yn cael yr un lefel o gyfle economaidd a chymdeithasol ag y byddent yn dymuno ei chael yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Mae'n gyfle gwych. Mae'n un o'r ardaloedd economaidd mwyaf gorboeth yn y byd, a dylem fod yn edrych arni fel adnodd, fel y mae llawer o ddinasoedd yng ngogledd Lloegr yn ei wneud yn barod. Mae gennym amgylchedd gwych mewn dinasoedd fel Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe, felly mae'n rhaid i ddinasoedd mawr Cymru fod yn ganolfannau rhagoriaeth ar gyfer ein pobl ifanc, ac entrepreneuriaid cymdeithasol, creadigol a busnes yfory. Gallwn adeiladu dinasoedd newydd, modern o'r radd flaenaf ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a fydd wedyn yn gosod y bar ar gyfer dinasoedd eraill yn Ewrop, Asia ac America, os oes gennym weledigaeth uchelgeisiol iawn. O ystyried maint optimwm, mewn llawer o ffyrdd, ein dinasoedd, gallwn ymestyn y safonau rydym eisiau eu gweld ar gyfer bywyd modern.
Yng Nghymru, fodd bynnag, nid ydym eto wedi gweld y twf economaidd sylweddol sydd wedi'i wireddu mewn llawer o ddinasoedd eraill ledled y DU. Rwyf eisoes wedi crybwyll Llundain, ond yn fwy penodol i ni, Manceinion, Birmingham a Chaeredin, ond hefyd gallwn grybwyll Leeds a Sheffield. Nid ein cystadleuwyr ni yw'r dinasoedd hyn mewn gwirionedd—credaf fod cymaint o gyfleoedd yno—ond maent wedi dangos mwy o fenter ac uchelgais yn y ffordd y maent yn symud ymlaen, ac nid ydym eisiau cael ein gadael ar ôl.
Nawr, gyda dyfodiad bargeinion dinesig Caerdydd ac Abertawe, a'r cydweithrediad hwnnw rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, mae'n wir ein bod yn gweld mwy o gyfle a mwy o uchelgais, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Ond er bod y bargeinion hyn yn arwyddocaol iawn, ac yn amlwg i'w croesawu'n fawr, maent hefyd yn creu heriau mawr, oherwydd rydym angen ailwampio ein polisi trefol a'n gweledigaeth fel ein bod yn gweld y math o dwf rydym ei eisiau mewn gwirionedd i rymuso a bod o fudd llawn i'n dinasyddion, yn ogystal â bod yn gynaliadwy.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
Diolch i'r Aelod. Bydd gennyf rai geiriau caredig i'w dweud am yr hyn y mae'n ei gynnig yn nes ymlaen, ond ar y mater penodol hwn—mae wedi sôn am y bargeinion dinesig. Onid yw'n gweld nad yw'r bargeinion dinesig sy'n cael eu hyrwyddo gan ei Lywodraeth ei hun yn San Steffan yn ystyried yr agenda gynaliadwyedd y mae'r ddadl hon ac i fod yn deg, y papur a gyhoeddwyd, yn ceisio mynd i'r afael â hi mewn gwirionedd?
Wel, mae angen iddi fod yn ganolog i'r weledigaeth honno, ac rwy'n sicr yn credu bod y cwmpas mwy y mae'n ei gynnig ar gyfer cynllunio a datblygu rhanbarthol yn bwysig iawn. Ond mae ein gweledigaeth ni, fel y dywedwch, wedi'i nodi yn y papur hwnnw, ac rydym yn credu ei bod yn hollol gydnaws â'r cydweithrediad rydym yn ei weld rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Ond i dynnu sylw at y pryder a adlewyrchwyd yn sylwadau Simon efallai, rydym wedi gweld yn rhy aml fod diffyg arloesi a chynllunio cynaliadwy wedi arwain at felltith amddifadedd, gorlenwi a blerdwf trefol mewn nifer o ddinasoedd o gwmpas y byd. Felly, rydym angen polisïau cynllunio mwy effeithiol, a gwn fod hynny'n destun datblygu polisi ar hyn o bryd, a byddwn yn chwarae rhan weithredol yn ei ddatblygu.
Felly, fel y dywedais, mae angen i'n dinasoedd berthyn i holl bobl Cymru, sy'n cynnwys y rhai mewn ardaloedd gwledig, ac mae angen y peiriannau twf, creadigrwydd a dysgu hyn, ac yn anad dim, mae'n rhaid iddynt roi pobl yn gyntaf. Mae ein Papur Gwyn yn cyflwyno ein cynigion polisi i drawsnewid ein cymunedau drwy wella'r etifeddiaeth drefol wych a drosglwyddwyd i ni, ond i ychwanegu at hynny ymdeimlad newydd o uchelgais ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n defnyddio'r cysyniad hwn o addasrwydd ar gyfer byw ynddynt fel rhan ganolog o strategaeth drefol effeithiol, a theitl ein dogfen yw 'Dinasoedd Byw: strategaeth adnewyddu trefol Cymru'. Mae'n cyflwyno 25 o gynigion polisi i drawsnewid ein hamgylcheddau trefol.
Diolch i chi am ildio. Rwy'n sicr yn cefnogi'r agenda dinasoedd byw, ond mae yna broblem anodd yn ymwneud â pholisi cyhoeddus y mae angen i ni fynd i'r afael â hi. Mae yna dystiolaeth dda i ddangos bod dinasoedd yn tyfu ar draul ardaloedd pellennig yn aml. Mae'n gêm swm sero yn aml. Felly, beth yw'r farn ar yr hyn y gellir ei wneud i helpu'r ardaloedd sydd wedi cael eu gadael ar ôl?
Nid cyhoeddi strategaeth ar gyfer dinasoedd yn unig a wnaethom; mae'n bwysig iawn ein bod yn pwysleisio ardaloedd trefol a gallwch edrych ar ardal Cymoedd de Cymru fel ardal sydd, o bosibl, yn ardal drefol fwy cydgysylltiedig. Os edrychwch ar Abertawe ac ymestyn ar draws i Lanelli a thu hwnt, mae'n bwysig iawn. Rwy'n derbyn bod yna berygl y gallwch sugno gormod i graidd y dinas-ranbarthau hyn, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i gynllunio da sicrhau ein bod yn ei osgoi.
Felly, beth bynnag, mae ein polisïau yn ymwneud â'r tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir ac yn mynd i'r afael â phedair thema allweddol sef ffordd o fyw, trafnidiaeth, tai a dylunio. Dylwn ddweud y bydd y manylion hynny ar ein polisi tai yn cael mwy o sylw mewn dogfen strategaeth ar wahân y byddwn yn ei chyhoeddi yn yr Hydref. Ond beth bynnag, mae'r meysydd rydym wedi edrych arnynt yn cynnwys parciau a mannau gwyrdd, cysylltedd rhyngrwyd, beicio a cherdded, cerbydau trydan, effeithlonrwydd ynni mewn tai, a chynyddu'r nifer o goed a thoeau gwyrdd. Roeddwn yn falch iawn o weld bod strategaeth gynaliadwyedd Prifysgol Caerdydd yn pwysleisio'r angen am fwy o fioamrywiaeth ar draws eu hystâd, nid yn unig yn yr ardaloedd gwyrdd a'u gerddi ond mewn toeau gwyrdd. Felly, dyna rywbeth rydym eisiau gweld ein prifysgolion yn ei arwain ar sawl ystyr.
Wrth wraidd yr ymrwymiadau sydd gennym—fel y dywedais, mae yna 25—efallai y gellid ystyried bod y rhai craidd yn anelu at sicrhau mai Caerdydd yw dinas garbon niwtral gyntaf y DU. Drwy farchnata Caerdydd yn y ffordd hon ac arwain y ffordd, yn hytrach nag aros 10 mlynedd ac yna gwneud yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud oherwydd pwysau cyhoeddus a'r hyn y mae dinasoedd eraill yn ei wneud, rwy'n credu y gallwn fod ar y blaen go iawn a defnyddio hyn i hybu delwedd Caerdydd fel dinas sy'n edrych tua'r dyfodol. Rydym eisiau treialu gwaharddiad dinas gyfan ar blastig untro yng Nghymru ac rydym yn agored i gynigion o ran lle y dylid cynnal treial o'r fath. Rydym eisiau sicrhau bod gan bob datblygiad masnachol dros 1,000 metr sgwâr do gwyrdd dros o leiaf 50 y cant o gyfanswm arwynebedd to'r datblygiad. Mae llawer o ddinasoedd o gwmpas Gogledd America ac Ewrop bellach yn gwneud hyn a hoffwn gyfeirio at Sheffield yn y DU fel arweinydd yn y maes. Rydym eisiau i safleoedd tir llwyd trefol dan berchnogaeth gyhoeddus gael eu darparu ar ostyngiad er mwyn datblygu ardaloedd eco trefol. Byddai'r rhain yn ddatblygiadau tai â gerddi a rennir, sy'n ddatblygiadau dwysedd uchel, cynaliadwy ac yn cynnig cymysgedd o ddeiliadaethau. Siaradais yn gynharach am fentrau cydweithredol, ac rwy'n credu y byddai hwn yn faes allweddol ar eu cyfer. Rydym eisiau datblygu parthau aer glân yng Nghasnewydd, Abertawe, Caerdydd a Wrecsam. Ac yn olaf, a gaf fi ddweud ein bod yn anelu i gydgysylltu ein polisïau trefol fel y gall mwy o strydoedd prysuraf Cymru ddod yn barthau cerddwyr?
Felly, dyna ein strategaeth. A gaf fi ddweud fy mod yn credu ein bod wedi darparu gweledigaeth gydlynol iawn o'r ffordd ymlaen? Ac felly, ni fyddaf yn cefnogi gwelliant 2 Plaid Cymru, ond byddaf yn cefnogi gwelliant 3, sy'n cyffwrdd â mater pwysig iawn mewn perthynas â strategaeth drefol. Rydym yn hapus i ymgorffori hwnnw gan ein bod yn ei ystyried yn adeiladol. Felly, rwy'n falch iawn o gychwyn y ddadl hon y prynhawn yma, Lywydd, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig ac os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James.
Gwelliant 1—Julie James
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi pwysigrwydd cefnogi cymunedau ledled Cymru, rhai trefol a gwledig, i sicrhau eu bod yn ddeniadol i fuddsoddi, gweithio, byw, ymweld ac astudio ynddynt.
Yn credu bod cefnogi twf cynhwysol a chreu cymunedau cydnerth y mae’n bosib byw ynddynt yn galw am ddull ar y cyd o fynd i’r afael ag ymyriadau allweddol, gan gynnwys datblygu economaidd, buddsoddiadau adfywio, trafnidiaeth, datblygu seilwaith, cynllunio a sgiliau.
Yn nodi bod Cynllun Gweithredu Economaidd diweddar Llywodraeth Cymru, Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, Cynllun Gweithredu Tasglu’r Cymoedd ac ymgynghoriad y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn sail ar gyfer dull trawslywodraethol gwirioneddol i gefnogi twf cynhwysfawr a chreu cymunedau cydnerth, y mae’n bosibl byw ynddynt.
Yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio â phartneriaid gan gynnwys awdurdodau lleol, rhanbarthau bargeinion dinesig a thwf, cymdeithasau tai, Trafnidiaeth Cymru a Banc Datblygu Cymru i hyrwyddo’r broses o greu lle.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Simon Thomas, felly, i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Simon Thomas.
Diolch yn fawr, Llywydd. Os caf i ddechrau, er gwaethaf ein gwelliant ni, drwy groesawu'r drafodaeth rŷm ni'n ei chael heddiw. Nid wyf i'n meddwl ei bod yn briodol ein bod ni'n croesawu'n ffurfiol papur sydd wedi cael ei gynhyrchu gan unrhyw blaid, mewn ffordd, ond rwy'n croesawu'r drafodaeth, rwy'n croesawu'r hyn sydd yn y papur ac nid oes gennyf i ddim byd y byddwn i'n bersonol yn anghytuno ag e yn y papur.
Mae yna ambell le lle byddwn i yn mynd ymhellach, yn enwedig ym maes ynni adnewyddol, ond rwy'n croesawu’r ffaith ein bod ni'n cael trafodaeth integredig ar sut mae'r gwahanol elfennau yma yn adeiladu i mewn i amgylchedd trefol mwy iach a mwy buddiol i'n dinasyddion ni. Rwyf i am bwysleisio 'trefol'. Mae teitl y papur yn sôn am ddinasoedd, ond, a dweud y gwir, nid oes gyda ni ddinasoedd yng Nghymru; trefi mawr sydd gyda ni yng Nghymru i bob pwrpas. Efallai y bydd pobl Caerdydd yn anghytuno, ond, o safbwynt patrwm datblygiad gorllewin Ewrop, trefi mawr yn benodol sydd gyda ni yng Nghymru. Ond, yn bwysicach, trwy dde Cymru a hefyd mewn rhannau o ogledd Cymru, cyfres o drefi yn ymwneud â'i gilydd, ac mae cysylltedd rhwng y trefi yna a chadw cydbwysedd amgylcheddol o dan Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol yn hollbwysig yn y cyd-destun hynny. Mae syniadau yn y papur yma—rhai newydd, rhai hen. Nid oes dim byd yn bod ar hen syniadau. Os nad ydyn nhw wedi cael eu gweithredu eisoes, ar bob cyfrif ailgylchwch y syniadau nes eu bod nhw'n cael eu gweithredu.
Y prif feirniadaeth sydd gyda fi o hyn—ac fe gaf i hwn mas o'r ffordd cyn bod yn fwy adeiladol—yw ei fod yn cael ei awgrymu gan blaid sydd wedi bod mewn Llywodraeth am wyth mlynedd yn San Steffan a heb wneud unrhyw gynnydd ar rai o'r pwyntiau yma. Felly, mae gorboethi dinas Llundain yn dal i fynd ymlaen o dan gyfundrefn macro-economaidd y blaid bresennol. Mae'r cwynion a'r atebion ynglŷn â datblygu seilwaith cerbydau trydan, er enghraifft, yn amlwg, ond eto nid ydym ni wedi gweld unrhyw ddatblygiad neu brin fuddsoddiad yng Nghymru o Lywodraeth San Steffan yn y maes yma. Mae'r gagendor rhwng y syniadau yn y papur yma a rhai o weithredoedd go iawn y Llywodraeth a'r Blaid Geidwadol yn Llywodraeth San Steffan yn rhywbeth i'w weld. Ond, rwy'n gosod hynny i fyny i bobl sylwi arno a gwneud eu sylwadau eu hunain.
Fel mae prif welliant Plaid Cymru yn ei wneud yn glir, rydym ni am ychwanegu—ac rwy'n falch bod David Melding wedi derbyn bod hwn yn rhywbeth adeiladol—angen am Ddeddf awyr glân ehangach yng Nghymru. Byddai hynny'n effeithio ar bob rhan o Gymru, wrth gwrs. Mae yna agweddau yn y papur y mae'n dda gennyf i eu gweld. Jest i gymryd un enghraifft, mae'r papur yn sôn am fonitro awyr tu fas i feithrinfeydd ac ysgolion ac ati. Rwy'n cefnogi hynny. Rwyf wedi sôn am hynny fy hunan. Y cwestiwn yw: beth ydych chi'n gwneud ar ôl ichi fonitro? Pa gamau wedyn ydych chi'n eu defnyddio i sicrhau bod yr awyr yn cael ei glanhau? Achos rwy'n amau, pe byddem ni'n gwneud monitro bywyd go iawn, yn y funud, yn yr eiliad, y byddem ni'n gweld y monitro rydym ni'n ei weld yn y ffigurau cyhoeddus. Mae yna ansawdd awyr gwael iawn tu fas i rai o'r llefydd lle mae ein pobl fwyaf bregus ni—pobl ifanc i ysgolion a phobl hŷn i ysbytai—yn mynd. Y cwestiwn yw: beth ydych chi'n gwneud i weithredu hynny? Dyna pam rŷm ni'n sôn am yr angen am Ddeddf awyr glân i Gymru yn fwy eang, ac nid yn unig i greu y parthau awyr glân roedd David Melding yn sôn amdano, ond i roi hawliau i gymunedau hefyd i fynnu'r wybodaeth yna a defnyddio'r wybodaeth honno i chwilio am welliant yn yr ansawdd awyr lleol.
Rhaid gwneud yn siŵr hefyd fod gan awdurdodau lleol, sydd yn gyndyn iawn ar hyn o bryd yng Nghymru i fentro ar unrhyw fath o bris i dalu naill ai i barcio neu i deithio drwy ddinasoedd ar adegau gwahanol—. Nid yw hynny'n cael ei drafod yn y papur, er bod David Melding wedi crybwyll hwn yn y gorffennol yn y Siambr, rwy'n meddwl. Os ydym ni am fynd i'r afael â rhai o'r problemau yma, mae'n rhaid i ni fynd yn syth i'r afael â'r ffaith fod lorïau mawr disel yn mynd drwy ganol ein dinasoedd ni ar yr adeg pan fo plant yn cerdded i'r ysgol. Mae'n rhaid stopio hynny rhyw ffordd neu ei gosbi mewn ffordd nes bod dewisiadau amgen economaidd yn dod yn ei le. Felly, dyna pam yr ydym ni am annog strategaeth fwy eang ynglŷn ag awyr iach tu fewn i'r cyd-destun hynny.
Fe wnaf i fennu jest drwy ganu trwmped Plaid Cymru, wrth gwrs, fel y byddech chi'n disgwyl mewn dadl fel hon. Rwy'n falch iawn fod y Ceidwadwyr yn sôn am y pethau hyn; mae Plaid Cymru wedi sôn am nifer ohonyn nhw ers rhai blynyddoedd. Ond, yn fwy na hynny, rŷm ni yn fodlon, er yn wrthblaid, i fynd i mewn i drafod gyda Llywodraeth Cymru i roi arian tuag at ateb rhai o'r problemau hyn. Felly, mae £2 filiwn wedi cael ei glustnodi ar gyfer datblygu seilwaith cerbydau trydan drwy Gymru, ac mae £0.5 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer mynd i'r afael â llygredd plastig, yn benodol drwy'r cynllun blaendal poteli, er enghraifft. Rwy'n credu bod gweithredoedd fel yna yn rhywbeth pwysig iawn i'w weld mewn gwleidyddiaeth. I'r blaid sydd wedi cynnig rhai o'r syniadau da yma, rwy'n gofyn iddyn nhw ystyried hefyd beth mae eu plaid hwythau yn gwneud wrth iddyn nhw fod mewn Llywodraeth.
Yn gyntaf oll, a gaf fi groesawu'r ddadl a'r ffordd y mae David Melding wedi'i chyflwyno? Gobeithiaf y bydd yn rhan o gyfres y bydd y Ceidwadwyr yn ei chyflwyno mewn modd adeiladol, fel y mae David wedi'i wneud heddiw.
Mae'n hollol wir fod angen i ni gydnabod pwysigrwydd ardaloedd trefol Cymru fel peiriannau twf economaidd, dysgu a gweithgarwch. Yn fwy penodol, y canolfannau trefol mawr sy'n creu cyflogaeth a chyfoeth ar raddfa fawr. Nid oes ond angen i ni edrych ar Lundain, neu ar raddfa fyd-eang, Efrog Newydd a Tokyo, neu edrych ar ddinasoedd llawer llai adnabyddus ledled Ewrop, lleoedd fel Mannheim ac Aarhus. Dyma pam rwyf mor awyddus i greu dinas-ranbarthau. Tra bod economi dinas-ranbarth Caerdydd yn cynnwys symud sylweddol o'r ardaloedd cyfagos i Gaerdydd, mae dinas-ranbarth bae Abertawe yn cynnwys llawer o symud i ac o Abertawe a rhannau eraill o'r rhanbarth.
Mae trefi a dinasoedd llwyddiannus bob amser wedi bod yn ganolog i ddatblygiad economaidd a chreu ffyniant. Boed fel marchnadoedd neu ganolfannau menter, gwybodaeth, diwylliant, dysgu ac arloesi, mae economi'r wlad yn dibynnu ar eu llwyddiant. Dylai pob ardal drefol gyflawni eu potensial economaidd a mwynhau twf sylweddol a ffyniant cynyddol. Fodd bynnag, dylid sicrhau bod ffyniant yn cael ei rannu'n decach, ac nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Mae cyfoeth a chyfleoedd yn aml yn bodoli ochr yn ochr â thlodi ac arwahanrwydd, yn aml o fewn yr un dinasoedd.
Dylai sgiliau amrywiol a chefndiroedd pawb gael eu defnyddio'n briodol, gan alluogi pawb i gyflawni eu potensial heb eithrio neb. Mae hyn yn bwysig er mwyn gallu creu cymdeithas ofalgar a chynhwysol. Mae hyn hefyd yn gwneud synnwyr economaidd da gan y bydd yn helpu i gynyddu potensial twf yr economi yn y tymor hir. Mae angen i leoedd llwyddiannus allu denu a chadw busnesau, yn seiliedig ar ddeall eu hanghenion. Mae dadansoddiad o leoedd llwyddiannus a lleoedd llai llwyddiannus yn awgrymu nifer o ffactorau sy'n hanfodol i ffyniant economaidd trefi a dinasoedd. Y pedwar ffactor canlynol yw'r allwedd i lwyddiant economaidd: yn gyntaf, diwylliant o fenter ac arloesedd, lle mae lleoedd yn addasu'n gyflym i gyfleoedd newydd a gall pawb rannu posibiliadau a gwobrau llwyddiant busnesau, ac mae hyn yn cynnwys manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil y chwyldro ym maes technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, deallusrwydd artiffisial, a gwyddorau bywyd hefyd; buddsoddiad preifat, gan gynnwys mynediad at gyfalaf menter, sy'n hanfodol i gychwyn a thyfu busnesau, ac i ddarparu swyddi a chyfleoedd i bawb; pobl sydd wedi'u harfogi â'r sgiliau y mae cyflogwyr eu hangen, ac â chymhelliant a chyfle i weithio—diwylliant o ddysgu gydol oes, sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd cyflogaeth gan alluogi ymateb hyblyg i gyfleoedd sy'n newid ac annog cwmnïau i ddod i drefi a dinasoedd ac aros ynddynt. Yn llawer rhy aml, mae gennym gwmnïau'n dod i mewn, yn cymryd y grantiau ac yna'n symud allan. Hefyd, system drafnidiaeth effeithlon a dibynadwy, sy'n sicrhau bod deunyddiau crai yn cael eu cyflenwi'n effeithlon i ddiwydiant, a nwyddau i'r farchnad, a darparu mynediad effeithlon at swyddi, gan wneud trefi a dinasoedd yn lleoedd gwell i fyw ynddynt a helpu i fynd i'r afael ag allgáu cymdeithasol.
Felly, beth y mae hyn yn ei olygu'n benodol ar gyfer dinas-ranbarth bae Abertawe? Mae angen i gynllunio economaidd a chynlluniau trafnidiaeth fod yn seiliedig ar y rhanbarth. Mae angen inni adeiladu ar gryfderau'r brifysgol. Mae gormod o fyfyrwyr, gan gynnwys llawer o'r ardal, yn symud i ffwrdd y diwrnod ar ôl iddynt raddio, neu y mis ar ôl iddynt raddio. Mae angen i ni gael parciau gwyddoniaeth ynghlwm wrth brifysgolion fel y gallwn eu defnyddio fel canolfannau arloesi ac arbenigo mewn sectorau economaidd allweddol, ac mae gwyddorau bywyd a TGCh yn ddau sy'n cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer twf. Rydym hefyd angen canolfan entrepreneuriaeth ac arloesedd sy'n gallu darparu platfform sylfaen a deori i fyfyrwyr, entrepreneuriaid ifanc a buddsoddwyr ddod at ei gilydd a sicrhau ein bod yn tyfu ein heconomi. Mae angen i ni ddarparu cyfleoedd i fusnesau allu cychwyn, ond pan fyddant yn cychwyn, maent angen mynediad at gyfalaf, nid yn unig ar y cam cychwynnol, ond ar y ddau gam pwysig o dwf, o fod yn fentrau bach i fod yn fentrau canolig ac yna o fod yn fentrau canolig i fod yn fentrau mawr. Fel y gwyddom, yn rhy aml, mae busnesau canolig eu maint yn gwerthu i gwmnïau y tu allan i'r ardal ac mae llai o fanteision economaidd i'n hardal. Gan weithio gyda'r prifysgolion a'r colegau addysg bellach, mae angen i ni wella sgiliau ein poblogaeth.
Yn olaf, trafnidiaeth, a allai fod yn ddadl ynddi ei hun ac a fyddai'n fy nghadw i fynd yn llawer hwy na'r pum munud a ganiateir i mi. Ond yn fyr, mae angen i ni ailagor gorsafoedd rheilffordd, ac rwy'n croesawu'r sylwadau a wnaed gan y Gweinidog, neu Ysgrifennydd y Cabinet, yn gynharach heddiw. Ond mae angen inni gael cyfnewidfeydd bws a thrên. Yn llawer rhy aml, mae'r bws yn aros mewn un lle, ac er mwyn dal y trên, mae gennych daith gerdded o 10 munud—sy'n eithaf braf ar ddiwrnod fel heddiw, ond mae dyddiau fel heddiw yn anarferol. Pan fo'n oer ac yn wlyb, mae'n daith annymunol. Mae angen i ni gael llwybrau beicio diogel. Nid yw'n ddigon da cael llwybrau beicio ar gyfer 80 neu 90 y cant o'r daith; mae'n rhaid iddynt fod ar gyfer 100 y cant o'r daith. Mae'n llwybr beicio diogel a braf cyhyd â'ch bod yn anghofio am y 100 llath lle mae'n rhaid i chi feicio ar y brif ffordd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Mike, os oes gennych amser?
Gwnaf, yn sicr.
A fyddech chi hefyd yn cytuno â mi, o ran y gwasanaethau bws—ac rwyf wedi gweld hyn yn fy mhrofiad fy hun o deithio i Gaerdydd weithiau—un peth yw cael bws i'ch cludo yno yn y bore, ond mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr fod gwasanaeth bws yn ôl wedyn ar ôl 5.30 p.m., neu fel arall rydych mewn twll ac mae'n rhaid i chi ddibynnu ar dacsis a mathau eraill o drafnidiaeth?
Yn hollol. Dyna beth roeddwn am ei ddweud: rydym angen gwasanaethau bysiau sy'n cysylltu ardaloedd preswyl, gwaith a hamdden, ac sy'n mynd ar yr adegau y mae pobl eisiau mynd i'r gwaith a mannau hamdden.
I gloi, er mwyn tyfu ein heconomi yn ne-orllewin Cymru, mae angen i ni ddatblygu ac ehangu'r cyfleoedd economaidd yn ninas-ranbarth bae Abertawe ac mae angen i ni i gyd weithio gyda'n gilydd. Felly, diolch i chi, David Melding, am gyflwyno'r ddadl hon.
Yn ôl y cyfrifiad diweddaraf, mae mwy na dwy ran o dair o bobl yng Nghymru yn byw mewn ardaloedd trefol. Wrth i fwy o bobl wasgu i mewn i'n dinasoedd, mae problemau yn sgil cynllunio gwael, gorlenwi a diffyg hygyrchedd yn dod yn fwy amlwg. Yr her a wynebwn, felly, yw creu dinasoedd lle mae pobl eisiau byw ynddynt: lleoedd lle y gellir cyrraedd siopau, swyddi, cyfleusterau cymdeithasol a mannau agored yn rhwydd; lleoedd lle mae'r broses gynllunio'n ystyried datblygiad cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Dyma pam rwy'n croesawu'r cynnig a gynhwyswyd yn ein strategaeth ar gyfer datblygu trefol neu adnewyddu trefol yng Nghymru. Mae'n rhaid i ddinas lwyddiannus sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae'n rhaid iddi sicrhau bod anghenion ei dinasyddion yn flaenoriaeth yn ei holl weithgareddau cynllunio. Ni fydd aneddiadau trefol sy'n cael eu rheoli'n wael yn gallu dal i fyny gydag ehangu trefol, a bydd mwy o iechyd gwael, tlodi, aflonyddwch cymdeithasol ac aneffeithlonrwydd economaidd yn sgil hynny.
Peryglon amgylcheddol sy'n gyfrifol am yr achosion mwyaf cyffredin o afiechydon ac afiachedd ymhlith tlodion trefol. Un o'r rhai mwyaf blaenllaw o'r rhain yw llygredd aer. Yn 2016, cofnododd Caerdydd, Abertawe, Casnewydd, Port Talbot a Chas-Gwent lefelau llygredd aer anghyfreithlon a niweidiol. Ddirprwy Lywydd, cafwyd dros 143 o farwolaethau mewn blwyddyn yng Nghaerdydd yn 2013 oherwydd llygredd aer. Mae pum dinas yn Lloegr a phedair dinas yn yr Alban yn arwain y ffordd drwy gyflwyno parthau aer glân. Mae'r toriad sylweddol a welwyd mewn allyriadau ym Merlin—dinas yn yr Almaen—dros 10 mlynedd yn ôl yn dangos beth y gellir ei gyflawni, oherwydd mae honno'n un o'r dinasoedd glanaf yn Ewrop gyfan erbyn hyn. Dylem sicrhau bod gwella ansawdd aer yn flaenoriaeth drwy gyflwyno parthau aer glân yn Wrecsam, Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe, a dylem fynd ymhellach i ddiogelu iechyd ein plant. Dylai pob ysgol a meithrinfa gael monitorau llygredd aer ar y ffyrdd prysuraf o fewn 10m i'w safle.
Gall mynediad hawdd at amwynderau trefol drwy gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus ddileu'r angen i ddefnyddio ceir a lleihau lefelau llygredd aer ymhellach. Un o'r rhwystrau mwyaf i feicio yw diogelwch: prinder lonydd beicio. Yn y Deyrnas Unedig, Ddirprwy Lywydd, yn 2013, cafwyd dros 1,700 o farwolaethau ar y ffyrdd, sy'n gwbl annerbyniol. Rydym yn cynnig datblygu seilwaith i hyrwyddo cynnydd yn nifer y rhai sy'n beicio drwy ddarparu lonydd beicio ychwanegol mewn ardaloedd trefol. Ein targed yw dyblu hyd llwybrau beicio mewn ardaloedd trefol erbyn 2040. Byddai cronfa feicio gymunedol yn galluogi cymunedau lleol i ariannu a chynllunio eu rhwydweithiau beicio eu hunain gyda'r nod o sicrhau mynediad at amwynderau lleol.
Mae mwy o ddefnydd o strydoedd ar gyfer cerddwyr yn unig yn lleihau cysylltiad pobl â lefelau gormodol o sŵn a llygredd aer. Mae astudiaeth yn Nenmarc yn dangos hefyd y gall roi hwb calonogol i'r economi a manwerthwyr lleol. Rydym eisoes yn darparu tocynnau bws teithio rhatach i'n pobl hŷn. Credaf fod pobl ifanc hefyd angen y cymorth angenrheidiol i gael mynediad at addysg, swyddi a hyfforddiant. Dyna pam ein bod yn cynnig cyflwyno cynllun cerdyn gwyrdd newydd i ddarparu mynediad am ddim at deithiau bws diderfyn ar gyfer bob person 16 i 24 oed yng Nghymru.
Mae mannau gwyrdd yn hanfodol er mwyn gwella ansawdd bywyd yn ein dinasoedd. Mae mannau gwyrdd yn hanfodol i ddiogelu ein hamgylchedd ac i wella iechyd ein dinasyddion. Rydym angen strategaeth mannau agored sy'n rhoi parciau ac adfer tir diffaith â thir heb ei ddatblygu wrth wraidd adfywio trefol. Byddai hyn yn cynnwys ymrwymiad i blannu rhagor o goed trefol. Mae coed trefol yn gwella golwg ardal ac maent hefyd yn cynhyrchu manteision fel gostwng tymereddau trefol a gwella ansawdd aer.
Ddirprwy Lywydd, mae'r cynigion yn y ddogfen hon yn ymwneud â gwella ansawdd bywyd y bobl sy'n byw yn ein dinasoedd, a dylem fod ar y blaen yn y Deyrnas Unedig yn rhoi'r bywyd glân gorau posibl i'n dinasyddion. Maent yn ymwneud â gwella'r economi a sicrhau amgylchedd glân a diogel ar gyfer ein dinasyddion a chenedlaethau'r dyfodol. Credaf eu bod yn haeddu cefnogaeth y Cynulliad hwn a'r genhedlaeth nesaf i ddod. Diolch.
Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl heddiw. Rydym yn cefnogi'r hyn y maent yn galw amdano heddiw yn fras. Mae'r cynnig ei hun yn niwlog braidd, ond mae'n ein cyfeirio at eu Papur Gwyn, 'Dinasoedd Byw'. Mae'r Papur Gwyn yn ddiddorol ac mae'n canolbwyntio, ymhlith pethau eraill, ar feysydd sylfaenol trafnidiaeth a thai, a chredaf y dylent fod wedi ychwanegu cyflogaeth, sy'n elfen gysylltiedig, at y rheini hefyd. Ac mae Oscar Asghar newydd grybwyll y mater hwnnw yn ei gyfraniad ef, felly mae'n amlwg eich bod yn ymwybodol fod hynny'n rhan o'r tapestri rydych yn ceisio'i wau yma yn ogystal.
Rydych yn mynd i'r afael â llawer o feysydd polisi yn 'Dinasoedd Byw', felly bydd yn rhaid i mi gyfyngu fy hun i nodi rhai yn unig o'r meysydd a drafodir. Ceir cynigion yn ymwneud â throi tir nad yw wedi cael ei ddatblygu yn dir parc, mentrau gwrth-sbwriel, gwaharddiad plastigau—pethau da iawn i gyd y byddem, unwaith eto, yn eu cefnogi'n fras—a cheir cynigion i annog mwy o lwybrau beicio a mwy o gerdded. Wel, byddai pawb ohonom yma yn tueddu i gefnogi'r math hwnnw o uchelgais yn gyffredinol, ond y broblem yw sut rydym yn ei gyflawni.
Mae gan Lywodraeth Cymru raglen teithio llesol eu hunain sy'n anelu at hwyluso'r union bethau hyn, ond y broblem mewn gwirionedd yw troi amcanion da yn gamau gweithredu ystyrlon. Crybwyllwyd beicio yn y cyfraniad diwethaf. Gyda beicio, mae yna broblem o ran lle, fel y soniodd Oscar. Nid yw beicwyr eisiau beicio ar ffyrdd prysur am yr union resymau sydd newydd gael eu disgrifio: perygl gormod o draffig ar y ffyrdd a cherbydau nwyddau trwm yn eu plith, ac rwy'n credu bod Simon Thomas wedi crybwyll hynny'n gynharach heddiw—o bosibl yn y ddadl hon. Felly, oherwydd y materion hyn, mae beicwyr yn tueddu i feicio ar y palmentydd yn aml—sy'n ddealladwy.
Mae llwybrau beicio mewn dinasoedd yn tueddu i uno â llwybrau cerdded, felly mae beicwyr yn mynd i blith cerddwyr. Rwy'n cerdded 50 munud i'r gwaith bob dydd, ac yn ôl, ar hyd llwybr a ddefnyddir fel llwybr beicio hefyd. Fel cerddwr, rwy'n gwrthwynebu gorfod cael fy rhoi mewn perygl gan feicwyr sy'n mynd rhy gyflym heb ddefnyddio clychau. [Torri ar draws.] Ni chlywais hynny, Jenny. Rwy'n cytuno â'r nod o annog mwy o bobl i feicio, ond a bod yn onest, nid wyf eisiau rhannu llwybr cerdded â hwy mewn gwirionedd.
Rwyf eisiau pwysleisio, er bod beicwyr yn gallu achosi perygl i gerddwyr, nad yw hynny'n ddim o'i gymharu â cheir. Felly, credaf fod gyrru peryglus yn broblem lawer mwy sylweddol na beicio gwael.
Ie, gwnaed y pwynt gan Simon Thomas yn gynharach, a buaswn yn cytuno mai ceir sy'n achosi'r perygl mwyaf. Rwy'n credu mai'r pwynt rwy'n ei wneud yw nad yw'r tri pheth gwahanol yn cymysgu o gwbl. Ceir, beiciau, cerddwyr, yr anhawster yw ceisio dod o hyd i ffordd ymarferol o annog beicwyr a cherddwyr i wneud rhagor o ymarfer corff a defnyddio'r math hwnnw o drafnidiaeth heb i'r naill beth ymyrryd ar y llall. Felly, fel cerddwr, rwy'n credu bod hwn yn anhawster gwirioneddol. Gwn eich bod yn beicio llawer, Jenny, felly rwy'n ceisio edrych ar y mater o safbwynt cerddwr. Felly, credaf fod yna anhawster. Rwy'n credu mai'r broblem yw: lle mae'r gofod ar gyfer hyrwyddo'r gwahanol fathau hyn o drafnidiaeth mewn ffordd hyfyw?
Problem fawr yw bod gormod o geir ar y ffordd erbyn hyn. Ni chafodd ein trefi a'n dinasoedd presennol eu cynllunio ar gyfer cynifer o geir, felly mae angen i ni leihau nifer y ceir ar y ffordd, sy'n ein harwain at un o syniadau'r Ceidwadwyr, sy'n ymwneud ag annog pobl i ddefnyddio bysiau, fel roedd Oscar, unwaith eto, yn ei ddisgrifio yn ei gyfraniad.
Ceir argymhelliad i ddarparu trafnidiaeth am ddim i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed ar y bysiau. Byddai hwn yn gam beiddgar. Gallaf weld y gallai arwain at newid diwylliant, ac mae'n werth meddwl amdano. Yn y tymor hir, gallai esgor ar fanteision enfawr yn ddamcaniaethol. Y broblem yw, yn y tymor byr, beth fyddai'r gost gyllidebol i Lywodraeth Cymru o ddarparu'r math hwn o gyfleuster. Byddai cam o'r fath, pe baem yn ei gymryd, yn gallu annog llawer o bobl ifanc i beidio â defnyddio ceir drwy'r amser. Ni fydd yn annog pob un ohonynt, oherwydd ni fydd rhai ohonynt yn ystyried defnyddio bysiau oherwydd nad yw bysiau yn cŵl. O ran y rhai a fydd yn defnyddio'r cardiau bws arfaethedig, bydd y cardiau hyn hefyd yn eu hannog i gerdded o'u cartrefi i'r safle bws, felly gallai annog y syniad o gerdded hefyd, oherwydd ar hyn o bryd, nid oes gan lawer o bobl ifanc ddiddordeb mewn gwneud dim, yn anffodus, ond cerdded o'r soffa at y car sydd wedi'i barcio y tu allan i'r tŷ. O fewn ychydig flynyddoedd, gallai llawer o'r bobl ifanc hyn fod yn ordew a bod yn draul ar y GIG, felly mae'n rhaid inni edrych ar yr arbedion hirdymor posibl. Does bosib nad dyma'r math o feddwl hirdymor y mae ein comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn dueddol o'i annog, felly tybed beth fyddai ei barn hi am eich polisi o gynnig teithiau bws am ddim i bobl ifanc. Tybed beth sydd gan Weinidog y Llywodraeth i'w ddweud am y peth heddiw. Wrth gwrs, rydym angen prisio hyn hefyd a meddwl sut ar y ddaear y byddem yn ei ariannu.
Rwy'n credu bod fy amser yn dirwyn i ben. Roedd llawer o faterion i'w trafod. Rydym yn cytuno'n fras â'r Ceidwadwyr; o ran gwelliannau Plaid Cymru, rydym yn cefnogi'r un am aer glân. Gwyddom eich bod yn gwneud llawer o gynlluniau Llywodraeth, ond rydym yn meddwl tybed pa mor effeithiol ydynt, oherwydd mae yna lawer o amheuon ynglŷn â pha mor effeithiol yw'r Ddeddf teithio llesol, felly rydym yn gwrthwynebu eich gwelliannau heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n credu bod digonedd i'w hoffi yn y strategaeth hon, ond yr hyn sy'n arbennig o ddeniadol yw pa mor berthnasol ydyw i fy rhanbarth fy hun yng Ngorllewin De Cymru, sy'n ranbarth trefol yn bennaf, ac felly rwyf am ddechrau, yn eithaf dewr, rwy'n credu, gydag un cynnig rwy'n credu y gellid ei wella, os na fyddaf yn ennyn dicter David yma.
Mae £1.3 biliwn wedi'i neilltuo ar gyfer bargen ddinesig bae Abertawe, ac mae hwnnw'n ymwneud yn llwyr â thwf economaidd, gweithgarwch economaidd a dysgu, fel sy'n cael ei nodi yn y cynnig. Mae hynny'n cynnwys buddsoddiad, yn benodol, mewn man arbrofi ar thema'r rhyngrwyd i gefnogi arloesedd gyda chysylltedd symudol 5G. Felly, hoffwn awgrymu mai ardal fetropolitanaidd ehangach Abertawe, yn hytrach na Chaerdydd, a ddylai fod yn un o'r lleoedd cyntaf yn y DU i gyflwyno 5G, oherwydd mae'r cynlluniau eisoes wedi dechrau cael eu datblygu. Mae'r arian yno, ac wrth gwrs mae'n cyrraedd y tu hwnt i'r ddinas ei hun. Rydym yn sôn am ardal drefol, ac nid yw trefol yr un peth â dinesig, sy'n bwynt a wnaed gan eraill heddiw.
Rhan o'r feddylfryd y tu ôl i ddinas-ranbarth digidol oedd gostyngiad mewn anghenion trafnidiaeth traddodiadol, a bydd hynny'n wir i ryw raddau, ond bydd pobl eisiau cysylltu â'u hamgylchedd ffisegol ehangach o hyd, rwy'n credu, sy'n datblygu i fod yn brofiad llai braf ym Mhort Talbot ac Abertawe—rhan o fy rhanbarth i—yn enwedig oherwydd y llygredd diwydiannol ynghyd â'r nitrogen deuocsid o'r traffig sydd, fel y clywsom, wedi cyrraedd lefelau anghyfreithlon, a go niweidiol wrth gwrs. Gwn ein bod wedi trafod hyn o'r blaen gyda Gweinidog yr amgylchedd.
Nid problem i ganol y ddinas yn unig yw hon. Credaf y bydd yn ddiddorol gweld a fydd ffordd osgoi Hafod, er enghraifft, yn lleihau'r effaith ar Ysgol Pentrehafod, neu a fydd y ffaith bod y trenau'n cael eu gadael yn segur am 10 awr neu fwy yng Nglandŵr yn dileu effaith y darn hwnnw o gynllunio trefol. Felly, rwy'n falch o weld gwelliant Plaid Cymru hefyd mewn perthynas a Deddf aer glân, ond rwy'n credu y gallem fwrw ymlaen â pharthau aer glân yn awr, fel yr awgrymai'r strategaeth.
Mae cysylltu â'r amgylchedd ehangach yn golygu ein hamgylchedd cerdded hefyd, ac mae'r gwaharddiad plastigau, wrth gwrs, yn ffordd werthfawr iawn o fynd i'r afael â'r broblem o sbwriel ar y strydoedd, ond gwnaeth cynlluniau Caerdydd i dargedu'r gwaith o lanhau o flaen tai a drysau, a bagiau gwrth-wylanod argraff arbennig arnaf. Rwy'n eithaf hyderus nad oes gan wylanod y penwaig yn Abertawe unrhyw syniad o gwbl sut beth yw pennog. Maent yn gallu torri i mewn i gartonau byrgyr Styrofoam yn gyflymach na thîm pêl-droed o dan 10 oed ac mae'r rhan fwyaf ohonynt i'w gweld yn fwy o faint ac yn llawer mwy digywilydd na'r plentyn 10 oed cyffredin hefyd. Mae honno'n broblem ynddi'i hun, oherwydd gwyddom am lygod mawr a sbwriel, ond pan fydd yn amser nythu neu pan fydd yn amser i'r cywion sydd wedi'u magu ar nygets cyw iâr ddysgu sut i hedfan, mae gwylanod llawndwf yn troi'n fomiau, ac maent yn beryglus iawn. Yr unig ochr gadarnhaol i hyn yw eu bod yn hoffi beicwyr ar balmentydd yn arbennig, ond mae hynny'n wir amdanaf fi hefyd.
Nawr, cyn i bobl wylltio am hynny, pam fod rhai pobl yn beicio ar balmentydd? Weithiau mae'n deillio o anwybodaeth go iawn ac weithiau o ystyfnigrwydd, ond yn aml iawn mae'n deillio o'r ffaith bod wyneb y ffordd yn rhy beryglus, yn ogystal â'r traffig, ac mae pawb ohonom yn gwybod am hynny, ac yn aml iawn, am fod lonydd beicio wedi'u hôl-osod yn y lle anghywir neu oherwydd bod yr awdurdod lleol yn credu ei bod yn bwysicach cael gwely o lilïau llin ynghanol y ffordd, yn hytrach na defnyddio'r gofod hwnnw'n greadigol i greu man beicio diogel.
Dyna pam y caf fy nenu at y gronfa feicio gymunedol—soniodd Oscar amdani'n gynharach—oherwydd mae'n enghraifft wych o gydgynhyrchu yn y lle cyntaf, oherwydd mae'n golygu mai cymunedau lleol sy'n dylunio eu rhwydweithiau beicio a'u seilwaith eu hunain, fel parciau beic diogel. Mae hefyd yn rhoi cyfle i feicwyr wneud cais i gael defnyddio rhai—ond nid pob un—o'r palmentydd presennol a'r ardaloedd i gerddwyr yn unig, oherwydd gall beicwyr a cherddwyr ddefnyddio rhai yn ddiogel os yw'r defnydd o'r gofod sydd ar gael wedi'i gynllunio'n dda, er fy mod yn cydnabod pwynt Gareth nad yw rhannu gofod yn ddelfrydol bob amser. Mae'n llawer gwell os ydynt yn cael eu cynllunio ar wahân yn y lle cyntaf.
O ran creu parthau cerddwyr, credaf fod gennym rai gwersi i'w dysgu o'r gorffennol. Mae gennym enghreifftiau gwych yng Nghaerdydd, ynghyd â pharcio cyfleus o ansawdd lle mae'n gwahodd siopwyr ac ymwelwyr eraill i aros am gyfnod hir o amser a cherdded—a beicio weithiau—yn yr ardal, ond mae yna enghreifftiau ofnadwy yn ogystal, fel Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ogystal ag effaith y rhyngrwyd a pharciau manwerthu, mae'r stryd fawr yno yn cau yn raddol o ganlyniad i'r ffaith bod gormod o barthau cerddwyr wedi cael eu creu. Mae bellach yn llawn o bobl yn gofyn am danysgrifiadau neu roddion. Mae'r strydoedd hyn, a arferai fod yn brysur iawn, wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu cleientiaid, os mynnwch—siopwyr manion ychwanegol, pobl sy'n mynd i dorri eu gwalltiau, coffi cyflym. Nid yw'r meysydd parcio'n ganolog iawn ac mae'r ffyrdd prysur drwy'r dref yn peri i bobl a allai gael eu temtio i gerdded i ganol y dref beidio â gwneud hynny, a daw hynny â mi, wedyn, at y gofod preswyl. Nid oes gennyf amser i roi'r sylw y mae'n ei haeddu i'r mater hwn: tai sy'n pontio'r cenedlaethau, y lleoliad ac ati. Rwyf am adael hynny ar gyfer diwrnod arall.
Roeddwn eisiau sôn am y mannau gwyrdd. Mae effeithiau llesiant y rheini wedi'u cofnodi mor dda, ac mae'n un o'r rhesymau pam rwy'n ei chael hi mor anodd deall penderfyniad cyngor Abertawe i adeiladu ysgol ar safle Parc y Werin—yr unig fan gwyrdd o'i fath yng nghanol tref Gorseinion—pan fo mwy nag un safle amgen ar gyfer yr ysgol honno.
Yn bwysicaf oll ac yn olaf, mae'n rhaid i ni gynllunio gyda gweledigaeth yn hytrach na phanig. Mae peidio ag adeiladu dim am flynyddoedd ac yna cyflwyno'r ystadau enfawr hyn filltiroedd oddi wrth y cyfleusterau trefol y soniodd Oscar amdanynt yn ystumio cymunedau ac yn arwain at fywyd mewn car, nid beicio a cherdded, pan allem fod yn byw mewn dinasoedd gwirioneddol dda i fyw ynddynt. Diolch.
Rwy'n croesawu'r ddadl a gyflwynwyd gan David Melding yn fawr, ac rwy'n credu bod yna lawer o syniadau diddorol iawn yn y papur a gyflwynodd yn nghynhadledd ei blaid ei hun. Rwy'n falch iawn o ddweud bod datgarboneiddio'n flaenoriaeth allweddol yng nghynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru, felly rwy'n credu bod llawer o syniadau cyffrous y gallwn fwrw ymlaen â hwy wrth wneud yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud i gyflawni ein rhwymedigaethau newid yn yr hinsawdd. Rydym wedi gweld yr hyn y gellir ei wneud os ydym yn uchelgeisiol, fel gydag ailgomisiynu gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r gororau, sydd â llawer o nodweddion amgylcheddol, gan gynnwys y ffaith bod rhai o'r llinellau yn eco 100 y cant, a chredaf fod hynny'n arwydd pwysig iawn o'r hyn y gallwn ei wneud. Cytunaf yn llwyr fod Caerdydd o'r maint optimwm, ac yn bendant nid ydym eisiau ei gweld yn tyfu i fod yn rhyw fath o flerdwf trefol erchyll, a dyna a fydd yn digwydd oni bai bod awdurdodau lleol a'r Ddeddf cynllunio yn atal hynny rhag digwydd, oherwydd, yn sicr, dyna fyddai'r datblygwyr yn ei hoffi. Felly, mae angen i ni orfodi'r llain las yn ddi-ildio o gwmpas ein prifddinas os ydym am osgoi'r math o flerdwf trefol graddol a fyddai'n cael gwared ar bopeth rydym yn ei ddathlu ynglŷn â Nghaerdydd.
Buaswn wrth fy modd pe bai Caerdydd yn dod yn ddinas garbon-niwtral gyntaf y DU, a chredaf ei bod yn wych fod David Melding yn mynegi'r uchelgais hwnnw. Credaf fod y llwybrau gwyrdd ar o leiaf 50 y cant o ddatblygiadau masnachol yn bendant yn rhywbeth y dylem anelu ato. Mae'r fflatiau sydd wedi cael eu hadeiladu uwchben Dewi Sant 2 yng nghanol y ddinas yn arwydd da o'r hyn y gellir ei wneud wrth gynllunio'n briodol ymlaen llaw, oherwydd mae yna erddi yn yr awyr y mae preswylwyr y fflatiau hynny yn gallu eu mwynhau, er eu bod mewn ardal sy'n amlwg yn goncrid drwyddi draw, gan ei bod yng nghanol y man siopa. Ond credaf mai dyna'r math o beth y dylem ei ddisgwyl mewn unrhyw ddatblygiadau pellach eraill yng nghanol dinasoedd—[Torri ar draws.] Gwnaf.
Cytunaf â'r hyn rydych newydd ei ddweud ynghylch datblygiadau fel Dewi Sant 2. Peth arall sy'n wych am y math hwnnw o ddatblygiad yw bod y meysydd parcio ceir, sy'n ddefnyddiol iawn ar hyn o bryd, wedi'u hadeiladu yn y fath fodd fel y gellid eu trawsnewid yn fflatiau yn y dyfodol; gallai hwnnw i gyd fod yn ofod preswyl. Felly, mae'n bwysig diogelu adeiladau ar gyfer y dyfodol hefyd, a gwneud yn siŵr fod hynny yn y system gynllunio er mwyn darparu ar gyfer y byd yfory, nid heddiw yn unig.
Dyna syniad gwych. Nid oeddwn wedi sylweddoli hynny, ond fe af ati i edrych ar hynny ar unwaith, oherwydd un o'r problemau sydd gennym yng Nghaerdydd yw bod gennym dros 1,000 o leoedd parcio yng nghanol y ddinas, sydd, yn amlwg, yn galluogi pobl i wneud y peth anghywir. Dylent fod yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus neu'n defnyddio'r gwasanaeth parcio a theithio, yn hytrach na cheisio parcio yng nghanol y ddinas; mae'n gwbl wallgof. Yn amlwg, mae angen lleoedd parcio ar gyfer y bobl sy'n byw yn y fflatiau hynny, ond nifer fach iawn yw'r rheini.
Roeddwn eisiau siarad ychydig am y polisi cynllunio eco-drefi a lansiwyd gan Lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU yn 2008, ac a gynlluniwyd i ddarparu tai ychwanegol a lliniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd. Yn anffodus, yn drasig, rhwygwyd y polisi hwnnw gan y Llywodraeth glymblaid a'i holynodd—y codisil enwog i ddatganiad yr Hydref yn 2015 gan George Osborne, lle y llwyddodd i gynnwys troi cefn ar y rheoliadau adeiladu di-garbon y gallem fod yn eu mwynhau heddiw fel arall. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych o ddifrif ar gyflwyno hyn fel na fydd yn rhaid i ni ôl-osod y tai y byddwn yn eu hadeiladu yn y dyfodol gyda chladin amgylcheddol pellach pan na ddylem fod wedi caniatáu iddynt adeiladu tai o ansawdd mor wael yn y lle cyntaf.
Dair blynedd ar ôl y drychineb honno, rwy'n credu bod nifer o drefi o amgylch y DU sy'n edrych ar ffyrdd newydd o ddatblygu mannau trefol cynaliadwy. Er enghraifft, mae gan Solihull ardal drefol gynaliadwy newydd o gwmpas y gyfnewidfa HS2 ger yr M42, sy'n cysylltu Maes Awyr Birmingham, y Ganolfan Arddangos Genedlaethol, Gorsaf Ryngwladol Birmingham a'r orsaf HS2 newydd gyda cherbyd hollol awtomatig ar gyfer cludo pobl, sy'n cael ei ddarparu gan gwmni o'r enw Urban Growth Company. Ym Mryste—yn nes atom—mae ganddynt Grow Bristol, ac nid fferm gyffredin mohoni. Caiff ei rhedeg o gynwysyddion llongau wedi'u hailgylchu, gan ddefnyddio ffyrdd arloesol o ffermio pysgod a llysiau salad yn gynaliadwy a'u gwerthu'n uniongyrchol i ddefnyddwyr Bryste a masnach fwytai'r ddinas. 'Rydym yn sôn am fetrau bwyd, nid milltiroedd bwyd', meddai un o sylfaenwyr y cwmni. Mae hyn yn rhywbeth y gwn fod rhai o aelodau cabinet Cyngor Caerdydd yn edrych arno'n agos, oherwydd mae hon yn system hydroponig, acwaponig ar gyfer tyfu llysiau gwyrdd deiliog a ffermio tilapia, gyda gwastraff y pysgod yn cael ei ddefnyddio i fwydo'r planhigion. Mae'r Cynghorydd Michael Michael, yr aelod cabinet dros yr amgylchedd, yn ystyried cynllun tebyg yma yng Nghaerdydd oherwydd mae angen i ni wneud y math hwn o beth. Gyda Brexit yn agosáu, rydym o bosibl mewn perygl mawr o golli'r rhan fwyaf o'r llysiau rydym yn eu mewnforio o Ewrop ar hyn o bryd. Felly, mae angen i ni feddwl yn gyflym iawn am hyn.
Rwy'n sylweddoli bod fy amser wedi dirwyn i ben, ond credaf fod gennym yr arbenigedd yma yng Nghaerdydd, drwy lawer o'r arbenigedd ym maes datblygu cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd, i adeiladu tai cynaliadwy a chreu rhaglenni bwyd cynaliadwy. Felly, credaf fod angen i ni feddwl yn greadigol a bwrw ymlaen o ddifrif â'n rhwymedigaethau newid hinsawdd.
Croesawaf y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon, a hoffwn longyfarch y prif siaradwr ar gyflwyno dogfen bolisi mor ddiddorol a deinamig, sy'n ceisio mynd i'r afael â llawer o'r cwestiynau rydym ni, fel aelodau etholedig, yn eu derbyn gan ein hetholwyr os ydym yn cynrychioli dinasoedd fel Caerdydd, Abertawe, Casnewydd, neu yn wir ein trefi mwy o faint megis y Drenewydd, Wrecsam, neu'r Barri. Oherwydd, mewn gwirionedd, nid oes raid i ni briodoli'r ddogfen hon i'r ardal drefol yn unig; gall ymestyn i'n trefi mwy a'n trefi marchnad ar hyd a lled Cymru. Un peth sy'n amlwg yn syth pan fyddwch yn darllen y rhagair i'r ddogfen yw bod bron 70 y cant o boblogaeth Cymru bellach yn byw mewn ardal drefol. Gallech ddweud 'Diffiniwch "ardal drefol" a thrafodwch', ond mae gan y rhan fwyaf o bobl ddelwedd o Gymru—ac maent yn gywir i fod â delwedd o Gymru—fel gwlad werdd hyfryd, oherwydd mae'r mwyafrif helaeth o dir Cymru yn wyrdd ac yn hyfryd. Ond pan fyddwch yn ei hystyried ar sail poblogaeth, mae hyn yn effeithio ar nifer enfawr o'n cydwladwyr sy'n troi at eu gwleidyddion i liniaru melltith llawer o benderfyniadau gwael a gafodd eu gwneud gan genedlaethau blaenorol, yn enwedig wrth gynllunio trefi, ac yn enwedig yn ystod cyfnod briwtalaidd y 1960au a'r 1970au, lle y cafodd jynglau concrit eu creu a phan gafodd yr atebion rydym yn dweud y dylid eu rhoi ar waith heddiw mewn perthynas â mesurau trafnidiaeth eu diystyru'n llwyr, pan oedd llawer mwy o gyfle i glirio safleoedd a chreu'r gofod trefol hwnnw, y mannau addas i fyw ynddynt, y soniodd David amdanynt yn ei sylwadau agoriadol, ac y dylem fachu arnynt yn awr a bwrw ymlaen â hwy.
Credaf ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru, ac ar bob plaid wleidyddol, i ganfod yr atebion a llunio'r trywydd y mae'r ddogfen hon yn ei nodi'n glir, yn sicr, fel cynnig y Ceidwadwyr Cymreig i lawer o'r cwestiynau perthnasol hyn ac yn wir, rhoi llinell amser i'r atebion y byddwch yn eu rhoi ar waith, oherwydd mae'r ddogfen yn mapio llinell amser rhwng 2025 a 2040, sef pryd y byddem ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, yn hoffi gweld llawer o'r polisïau hyn ar waith i wneud gwahaniaeth. Gadewch i ni beidio ag anghofio ein bod ar ei hôl hi oherwydd y meiri metro a'r meiri dinasoedd yn Lloegr, ar hyd Clawdd Offa, o Fryste hyd at Lerpwl a Manceinion, a Birmingham rhyngddynt—caiff llawer o feiri dinasoedd eu hethol yn y blwch pleidleisio ar sail eu gallu i wneud y gwelliannau mawr hyn, yn economaidd ac yn amgylcheddol, yn niwylliannau'r dinasoedd y maent yn llywyddu drostynt yn awr. Nid yw'n bolisi canolog gan y Llywodraeth i ddarparu'r rhan fwyaf o'r mentrau hyn ar lawr gwlad bellach; cyfrifoldeb y meiri metro a'r meiri dinasoedd yw gwneud hynny.
Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â datganoli cyfrifoldebau i'n hardaloedd trefol fel y gallant ddefnyddio deinameg yr economi leol a'r atebion lleol y gellir eu rhoi ar waith ar gyfer rhai o'r enillion cyflym a chynnar rydym angen eu cyflawni, ac yna'r atebion mwy hirdymor y mae angen eu rhoi ar waith gyda system gynllunio fwy cydgysylltiedig. Dro ar ôl tro, pan edrychaf ar yr amgylchedd cynllunio o amgylch Caerdydd, y cefais y pleser o'i gynrychioli yn y Siambr hon ers bron i 12 mlynedd bellach—. Nid Caerdydd yn unig ydyw; yn ei ymyriad yn gynharach, gofynnodd yr Aelod dros Lanelli 'beth am yr ardaloedd pellennig?' Nid oes ond angen i chi deithio ar hyd yr A40 yn y bore i weld y cymudo i mewn i Gaerdydd, ac yna teithio'n ôl i'r cyfeiriad arall i weld y cymudo o Gaerdydd, i ddangos mai'r dinasoedd yw'r peiriannau twf ar gyfer y rhanbarth ehangach sy'n amgylchynu'r ardal honno. Felly, mae'n rhaid i ni gael system gynllunio sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, yn hytrach na'r 1950au a'r 1960au, a'r trydydd degawd yr ydym ar ei drothwy o'r unfed ganrif ar hugain honno.
Rwyf wedi eistedd yn y Siambr hon dros y 12 mlynedd diwethaf ac wedi clywed amryw o Weinidogion cynllunio, o'r dadleuon a'r datganiadau gwych roeddem yn arfer eu cael gan y gŵr â'r un enw a mi, Andrew Davies, a'r cynllunio gofodol—beth bynnag y câi ei alw. Roedd yn arfer bod yn artaith i ni, a bod yn onest, nifer y dadleuon yr arferem eu cael.
Cynllun gofodol Cymru.
Y cynllun gofodol—beth bynnag a ddigwyddodd i hwnnw. Yna, yn sydyn, rydym yn clywed nifer o gyhoeddiadau yn awr ynglŷn â sut y mae'r Llywodraeth yn bod yn flaengar gyda'i syniadau ynglŷn â'r system gynllunio. Wel, mewn gwirionedd, nid yw'n ymddangos bod llawer o gynnydd, buaswn yn awgrymu, yn sicr yng ngorllewin Caerdydd, y mae trigolion yn gallu cyfeirio ato ar hyn o bryd i ddweud eu bod yn teimlo bod eu lleisiau a'u hanghenion yn cael eu clywed a'n bod yn cael y dinasoedd modern sydd ag atebion amgylcheddol, megis y mannau gwyrdd ar y toeau. Mae'r ddogfen hon yn pwysleisio, yn Singapôr, er enghraifft, fod yna 100 hectar o fannau gwyrdd ar doeau'r tai yn Singapôr. Dyna 240 erw i'r hen imperialwyr fel fi yn y Siambr hon, sy'n mesur pethau mewn erwau. Mae hynny, yng nghanol un o'r dinasoedd mwyaf poblog, yn dangos beth y gellir ei gyflawni os ydych yn agor eich meddwl i rai o'r atebion hyn.
Gallwn fod ar flaen y gad yn dyfeisio'r dechnoleg hon ac yn datblygu'r dechnoleg honno, ac rwy'n gobeithio mewn gwirionedd y bydd y Gweinidog, yn ei hymateb, yn cynnig map o sut y mae Llywodraeth Cymru yn ateb rhai o'r cwestiynau anodd hyn. Oherwydd, mewn gwirionedd, mae'r gwelliant heddiw yn rhoi'r argraff fod yna lawer o weithgarwch ar y gweill, ond fel nofiwr sy'n cicio'n wyllt o dan y dŵr ond nad yw'n symud ymlaen rhyw lawer mewn gwirionedd—yn sicr dyna'r teimlad rwy'n ei gael pan fyddaf yn edrych ar lawer o weithgarwch Llywodraeth Cymru mewn perthynas â nifer o'r materion hyn. Oes, mae yna lawer o grwpiau y gallwch eu crybwyll, a melinau trafod sy'n rhoi cyngor, ond nid ydym yn gweld atebion sy'n gwneud gwahaniaeth sylweddol yn cael eu rhoi ar waith, ac mae angen i ni weld hynny oherwydd, fel y dywedais, mae 70 y cant o boblogaeth Cymru yn byw mewn amgylchedd trefol ac os ydym am fod yn economi lwyddiannus a deinamig ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, mae'n rhaid i ni ddatblygu'r amgylcheddau trefol hynny sy'n llefydd da i fyw ynddynt, sydd â'r deinameg economaidd hwnnw, ac yn anad dim, sy'n batrwm o ragoriaeth y mae gwledydd eraill yn edrych arnynt ar gyfer datrys y problemau y maent yn eu hwynebu. Dyna pam rwy'n annog y tŷ i gefnogi'r cynnig a gyflwynwyd yn enw'r Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma.
A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans?
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw a'r ysbryd y cafodd ei chyflwyno gan David Melding. Nid wyf yn credu fy mod wedi mwynhau dadl cymaint ag y mwynheais y ddadl hon heddiw ers cryn amser, oherwydd rydym wedi clywed cyfraniadau adeiladol ac ystyrlon iawn. Mae 'Ffyniant i Bawb', ein strategaeth genedlaethol, yn ei gwneud yn glir fod cymunedau yn ased cenedlaethol, a byddwn yn buddsoddi ynddynt, yn gymunedau trefol a gwledig fel ei gilydd, fel y mae ein gwelliant i'r ddadl yn ei nodi'n glir. Felly, byddwn yn sicrhau bod cymunedau ar hyd a lled Cymru yn ddeniadol i fyw ynddynt, i weithio ynddynt, i fuddsoddi ynddynt, i astudio ynddynt ac i ymweld â hwy. I wneud hyn, mae angen y math o ymagwedd gydgysylltiedig, drawslywodraethol sy'n seiliedig ar le yr ydym yn ei mabwysiadu yn ein cynllun gweithredu economaidd, ein rhaglen targedu buddsoddiad mewn adfywio gwerth £100 miliwn, ein cynllun cyflawni tasglu'r Cymoedd a'r fframwaith datblygu cenedlaethol rydym yn ymgynghori arno. Felly, dyma enghreifftiau o'r pethau a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol yr oedd Andrew R.T. Davies yn chwilio amdanynt yn ei gyfraniad. Mae gofyn i ni weithio'n agos â'n partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, rhanbarthau bargeinion dinesig a bargeinion twf, cymdeithasau tai, Trafnidiaeth Cymru a Banc Datblygu Cymru.
Ond mae ein ffocws heddiw ar ein cymunedau trefol, ac wrth geisio deall yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu canol ein trefi a'n dinasoedd, mae'n bwysig ein bod yn ymdrin ag ymchwil ac arbenigedd. Yn gynharach eleni, mwynheais drafodaeth ddefnyddiol iawn gydag Ymddiriedolaeth Carnegie y DU am eu gwaith ymchwil rhyngwladol 'Trefi Trawsnewid', yn ogystal â'r adroddiad penodol ar Gymru, sy'n edrych ar yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu ein hardaloedd trefol yma.
Mae'r heriau wedi'u trafod yn helaeth, ac mae llawer yn ymwneud â'n patrymau newidiol fel defnyddwyr, ond mae yna hefyd gyfleoedd i'n trefi a'n dinasoedd fanteisio ar bethau na ellir eu diwallu ar-lein: ein hawydd am brofiadau, am hamdden, am ddiwylliant, am ymgysylltiad, am gysylltiad personol ac am wasanaeth cwsmeriaid rhagorol, yn ogystal â'n hangen am dai fforddiadwy o ansawdd da yn yr ardal rydym yn byw ac yn gweithio ynddi. Gyda'n cymorth ni, gall ardaloedd trefol addasu ac esblygu: trawsnewid banciau sydd wedi cau yn dafarnau, siopau gwag yn gartrefi, a thir diffaith yn fannau gwyrdd agored.
Gwyddom pa mor bwysig yw'r mannau gwyrdd agored hynny a pha mor bwysig yw darparu atebion yn seiliedig ar natur gan gynnwys seilwaith gwyrdd. Dyma un o flaenoriaethau cenedlaethol polisi cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar adnoddau naturiol. Mae'n ganolog i'n gweledigaeth ar gyfer creu parc tirlun y Cymoedd, sydd â'r potensial i helpu cymunedau lleol i ddefnyddio eu hadnoddau naturiol ac amgylcheddol ar gyfer twristiaeth, cynhyrchu ynni a iechyd a llesiant da, a dyna pam ein bod yn buddsoddi yng nghynllun gwobrau'r Faner Werdd. Dyna pam fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhannu tystiolaeth ar orchudd canopi coed trefol gyda byrddau gwasanaeth cyhoeddus i ddylanwadu ar eu cynlluniau llesiant lleol.
Dylid gofalu am fannau trefol sy'n dda i fyw ynddynt ac sy'n hyrwyddo iechyd a llesiant da, ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu mewn sawl modd i fynd i'r afael â'r defnydd o blastig. Rydym yn arweinydd byd mewn ailgylchu, ac rydym eisiau sicrhau mai ni fydd y genedl ail-lenwi gyntaf yn y byd. Rydym yn buddsoddi £6.5 miliwn yng nghronfa buddsoddi cyfalaf yr economi gylchol ac yn fwy cyffredinol, a hithau'n Flwyddyn y Môr, rydym yn falch o lofnodi adduned plastig Moroedd Glân Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig, a sefydlwyd partneriaeth moroedd glân Cymru i greu etifeddiaeth hirdymor o'n profiad o gynnal Ras Hwylio Volvo i leihau'r defnydd o blastig.
Dylai mannau trefol sy'n dda i fyw ynddynt ac sy'n hyrwyddo iechyd a llesiant da fod yn haws i gerdded a beicio ynddynt a hefyd yn haws i bobl ddefnyddio mathau eraill o drafnidiaeth gynaliadwy. Yn ddiweddar, cyhoeddasom £60 miliwn ychwanegol o gyllid i wella rhwydweithiau cerdded a beicio lleol ac mae cyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid hefyd yn cael ei ddefnyddio gyda theithio llesol mewn cof. Fel y dywedodd Simon Thomas yn ei gyfraniad, rydym yn buddsoddi £2 filiwn mewn mannau gwefru trydan ychwanegol ar gyfer cerbydau trydan gyda ffocws ar fannau gwefru cyflym, a byddwn yn chwilio am fuddsoddiad preifat cynaliadwy ar gyfer mannau gwefru i fanteisio i'r eithaf ac adeiladu ar y buddsoddiad cyhoeddus hwn, fel rhan o'n hymrwymiad i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwella ansawdd aer. Mae gwella ansawdd aer yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydym yn ymgynghori ar barthau aer glân, yn cymryd camau i leihau allyriadau yn y lleoliadau mwyaf llygredig ac rydym wedi cyflwyno cronfa aer glân newydd gwerth £20 miliwn i gefnogi gwelliannau sydd eu hangen ar lefel leol. Mae ein cynllun aer glân ehangach ar gyfer Cymru, a fydd yn ymdrin â mwy na llygredd traffig ffyrdd, wedi'i gynllunio ar gyfer yn ddiweddarach eleni.
Fel Gweinidog Tai ac Adfywio, rwy'n angerddol ynglŷn ag adfywio wedi'i arwain gan dai. Mae ein rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid wedi bod yn llwyddiannus yn cyflawni hyn mewn nifer o gymunedau, ond rwy'n gweld y potensial i gynyddu hyn drwy ein rhaglen targedu buddsoddiad mewn adfywio gwerth £100 miliwn. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn buddsoddi £90 miliwn yn ein rhaglen tai arloesol—
Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am dderbyn ymyriad. A ydych yn cydnabod mai'r ffordd orau o gael yr atebion gorau ar adfywio, yn enwedig mewn amgylchedd lleol, yw datganoli cymaint o gyfrifoldeb i lawr, o ran adfywio, i'r cymunedau a'r awdurdodau lleol a'r busnesau hynny fel y gallant benderfynu beth sy'n bwysig yn eu hardaloedd eu hunain, yn hytrach na'r model canoliaethol iawn rydych yn ei weithredu ar hyn o bryd?
Mae'r rhaglen targedu buddsoddiad mewn adfywio yn rhoi ffocws mawr ar atebion lleol ar gyfer adfywio lleol. Caiff ei wneud ar sail ranbarthol, ond cynhelir y trafodaethau hynny ymhlith yr awdurdodau lleol yn y rhanbarth a mater i'r awdurdodau lleol yw defnyddio eu gwybodaeth leol i benderfynu sut i wario'r £100 miliwn. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cyfarwyddo sut y buddsoddir yr arian hwnnw; caiff ei benderfynu'n bendant iawn ar sail penderfyniadau lleol a gwybodaeth leol a'r wybodaeth sydd gan ein hawdurdodau lleol.
Felly, ochr yn ochr â'n buddsoddiad mewn tai arloesol, rydym yn defnyddio'r rhaglen honno i gefnogi cynlluniau a fydd yn ysgogi dylunio a darparu cartrefi newydd fforddiadwy o safon er mwyn cynyddu'r cyflenwad fel rhan o'n targed o 20,000 o dai newydd fforddiadwy, a hefyd i gyflenwi cartrefi ar gyfer y farchnad yn gyflymach. Mae hefyd yn ein galluogi i dreialu modelau tai newydd a dulliau o gyflenwi sy'n mynd i'r afael â materion megis yr angen taer am dai, tlodi tanwydd, newid demograffig a newid yn yr hinsawdd. Am y tro cyntaf, rwyf wedi agor y gronfa hon i fusnesau bach a chanolig a hefyd i'r sector preifat, ond gwn y bydd yn arbennig o ddiddorol ar gyfer busnesau bach a chanolig, sydd â hanes cryf o fentro ac o fod y bobl gyntaf i arloesi. Bydd hynny, ochr yn ochr â'n cronfa safleoedd segur a'n cronfa datblygu eiddo, yn eu cynorthwyo i ddychwelyd at adeiladu tai mewn ffordd nad ydynt wedi gallu ei wneud cyn y blynyddoedd diwethaf. Bydd yn arbennig o bwysig yn ein hardaloedd trefol mewn safleoedd mewnlenwi a hap-safleoedd, er enghraifft.
Rydym hefyd yn cefnogi cynllun benthyciadau canol tref gwerth £27 miliwn i helpu i ddod â safleoedd ac adeiladau gwag yn ôl i ddefnydd ymarferol mewn 34 o ganol trefi. Rwyf eisoes yn gweld enghreifftiau gwych o'r arian hwn yn cael ei ddefnyddio, gan sicrhau newid go iawn. Y peth cyffrous am y buddsoddiad hwn yw y gellir ei ailgylchu sawl gwaith, gan gefnogi mwy o brosiectau adfywio gwych dros gyfnod o 15 mlynedd.
Mae ardaloedd gwella busnes yn galluogi busnesau lleol i weithio gyda'i gilydd a sicrhau arian ychwanegol gan y sector preifat a buddsoddi yn ein hardaloedd trefol. Ar hyn o bryd, ceir wyth ardal gwella busnes ledled Cymru, a byddant yn cynhyrchu dros £500 miliwn o fuddsoddiad preifat yn ystod eu tymor, sy'n elw sylweddol iawn ar ein buddsoddiad o £240,000. Yn ddiweddar cyhoeddais £270,000 o gyllid pellach i gefnogi datblygiad hyd at naw ardal gwella busnes newydd. Mae hyn yn hynod o gyffrous oherwydd mae'r gymuned fusnes mewn sefyllfa dda i arwain adfywio a datblygu economaidd yn eu hardaloedd lleol, ac yn gweithio'n agos gyda phartneriaid ehangach mewn ysbryd o greadigrwydd ac arloesedd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Mae'n ymwneud â'r pwynt penodol ynghylch ardaloedd gwella busnes, ac mae'n bwynt allweddol. Gwn eu bod yn gweithio'n dda iawn mewn llawer o ardaloedd, ond yn sicr yn fy ardal i, gwn fod y Fenni wedi cael yr opsiwn o gael ardal gwella busnes a'u bod wedi'i wrthod. Felly, a fyddech yn cytuno ei bod hi'n bwysig, pan fyddwch yn sefydlu ardal fusnes o'r fath, ichi gael cefnogaeth ymlaen llaw gan y busnesau lleol a chan y bobl leol? Oherwydd os na chewch gefnogaeth y bobl y mae i fod i'w helpu, nid yw'n debygol o fynd i unman mewn gwirionedd.
Rwy'n cytuno bod yn rhaid iddo gael ei arwain a'i gyflawni'n lleol, a dyna pam y mae'n bwysig i'r ardaloedd sy'n cael cyfle i ddod yn ardaloedd gwella busnes i edrych ar y llwyddiant a gynhyrchwyd mewn rhannau eraill o Gymru, lle mae aelodau lleol a busnesau lleol wedi penderfynu bwrw iddi.
Gallaf weld bod amser yn brin, felly rwyf am ddod â phethau i ben drwy sôn yn fyr iawn am y ffaith ein bod yn parhau i ddefnyddio arian yr UE i gefnogi gweithgaredd adfywio drwy ein rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol gwerth £50 miliwn. Cyhoeddwyd eu prosiect cyntaf yn ddiweddar ym Mhontypridd ac edrychaf ymlaen at wneud cyhoeddiadau pellach cyn bo hir. Mae'n bwysig iawn nad ydym yn ceisio mabwysiadu dull unffurf o fynd ati i adfywio. Mae pob lle'n wahanol, a bydd angen dull pwrpasol ym mhob man. Mae ein cefnogaeth yn hyblyg a dyna'n union y mae'n ei alluogi i ddigwydd. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, rhaid ei gyflawni mewn partneriaeth a chafodd hynny ei gydnabod yn bendant yn y gwaith Carnegie y cyfeiriais ato ar ddechrau fy nghyfraniad. Ni ellir hyrwyddo canolfannau trefol, cryf drwy waith Llywodraeth genedlaethol yn unig. Er y byddwn yn dangos arweinyddiaeth, mae angen i'r cymunedau sydd ynghlwm wrth hyn ei berchnogi, ac yn yr ysbryd hwnnw y byddwn yn parhau.
Galwaf yn awr ar Nick Ramsay i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roedd y Gweinidog yn hael iawn yno yn cymryd fy ymyriad, o gofio fy mod ar fin sefyll. Croeso i chi gymryd rhywfaint o fy amser, os dymunwch.
Na, rwy'n credu bod y Dirprwy Lywydd yn fwy hael yn caniatáu i hynny ddigwydd.
Wrth gwrs. Diolch.
Fe wnaf barhau â fy sylwadau. Gosododd cyflwyniad hynod adeiladol David Melding y cywair ar gyfer y ddadl hon—ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu? Fe siaradoch yn huawdl fel arfer, David. Fe ddefnyddioch chi nifer o dermau allweddol megis 'dinasoedd fel peiriannau trefol' a 'chanolfannau arloesi' ac fe siaradoch am yr angen i hybu adnewyddu trefol, ac i gydnabod pwysigrwydd y dinas-ranbarth fel rhywbeth sy'n ymwneud nid yn unig â'r craidd trefol, ond â phopeth o'i amgylch yn ogystal. Credaf mai Lee Waters a wnaeth ymyrryd i wneud y pwynt am yr angen i wneud yn siŵr nad yw popeth yn cael ei sugno i mewn i'r craidd trefol hwnnw, ond yn oes fodern y dinas-ranbarth, ein bod yn cydnabod ei bwysigrwydd fel calon yr ardal, ond nid ei ben draw.
Cyfeiriodd David at ein polisi adnewyddu trefol a lansiwyd yn ddiweddar, a rhai o'n hamcanion allweddol i wneud Caerdydd yn ddinas garbon niwtral. Gallwn wneud hynny; gallwn osod yr agenda o ddifrif. Gallwn achub y blaen ar y lliaws mewn perthynas â Chaerdydd a gosod y cywair newydd hwnnw. Os ydych yn mynd i gael eich gorfodi i wneud hynny yn y dyfodol beth bynnag, pam na ddylid ceisio gosod yr agenda yma yng Nghymru? A bydd Llywodraeth Cymru yn cael ein cefnogaeth i geisio gwneud hynny.
Fe sonioch chi hefyd am y syniad o sut y bydd pobl yn y dyfodol—. Soniwn yn aml am broblem tai a phrinder tai. Yn y dyfodol, ni fydd pobl o anghenraid angen yr un mathau o dai a'r un mathau o ofod trefol ag a oedd ganddynt yn y gorffennol, ac yn sicr ni fyddai'r syniad o gartrefi dwysedd uwch gyda gerddi wedi'u rhannu yn gweddu i bawb, ond byddai'n sicr yn gweddu i bobl ifanc, yn enwedig pobl iau sydd am gael troed ar yr ysgol dai.
Edrychwch, pa un a ydych yn cefnogi polisi'r Ceidwadwyr Cymreig yn y maes hwn ai peidio—a chefais y teimlad o'r ddadl fod llawer o bobl yn ei gefnogi—credaf fod pob Aelod yn cytuno bod hon yn ddadl gwerth ei chael. Rydym wedi cael y ddadl hon ar ffurfiau amrywiol dros y blynyddoedd, a dyma agwedd arall ar hynny, a gwn fod gan bob plaid eu syniadau a'u polisïau a'u strategaethau, sydd oll yn gallu cydblethu â pholisi'r Ceidwadwyr Cymreig yn y maes hwn a bwrw ymlaen o ddifrif â'r hyn rydym am ei wneud, sef gwneud ein hardaloedd trefol yn lle gwell i'r rhai sy'n byw ynddynt.
Credaf fod un peth yn glir: ni allwn adael i ardaloedd trefol fwrw ymlaen ar eu pen eu hunain a gobeithio rywsut y byddant drwy ryw hud a lledrith yn datblygu yn y modd gorau posibl. Gwelsom yn ôl yn yr 1970au a'r 1980au yr arwyddion cyntaf o'r hyn a fydd yn digwydd os gwnewch chi hynny—yn yr Unol Daleithiau gyda dinasoedd fel Los Angeles, a dinasoedd Califfornia yn enwedig, lle y daeth y car yn frenin a'r hyn a oedd gennych yn y pen draw oedd dinasoedd ar ffurf toesenni, lle roedd datblygiadau manwerthu ar yr ymylon a dim byd yn y canol o gwbl yn y diwedd, math o dir diffaith. Ac rydym wedi dechrau—mewn gwirionedd, fe wnaethom gychwyn i'r cyfeiriad hwnnw yn rhai o'n trefi a'n dinasoedd ym Mhrydain, ond gwnaethom yn siŵr ein bod yn rhoi'r gorau i'r llwybr hwnnw i ddifancoll a cheisio gwella pethau. Mae angen inni wneud yn siŵr yn y dyfodol nad yw hynny'n digwydd eto ar unrhyw gyfrif.
Felly, themâu allweddol: cynllunio trafnidiaeth gyhoeddus, ansawdd aer. Fel y dywedodd Suzy Davies yn ei chyfraniad, cynllunio gyda gweledigaeth. Gall y cyhoeddiad am fasnachfraint newydd Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddar fod yn elfen allweddol yn y broses adnewyddu hon wrth gwrs. Ceir rhai amcanion da iawn yno; mae angen inni wneud yn siŵr y caiff yr amcanion eu gwireddu. Ond yn sicr, mae'r cyfeiriad teithio o ran Trafnidiaeth Cymru yn dda. Ac mae trafnidiaeth yn allweddol. Ymyrrais yn ystod araith Mike Hedges, oherwydd rwyf wedi ceisio fy hun—. Buaswn wrth fy modd yn teithio o fy mhentref yn Sir Fynwy i'r Cynulliad ar drafnidiaeth gyhoeddus, a gallaf wneud hynny'n hawdd iawn ar y bws o Raglan i Gasnewydd, ac yna ar y trên o Gasnewydd i Gaerdydd. Ond ceisiwch chi ddychwelyd ar ôl 17:30 o Gasnewydd i fy mhentref. Ac nid wyf yn byw mewn man cwbl anghysbell; mae ar yr A449. Ond mae bron yn amhosibl ei wneud. Felly, ceir meysydd yma lle y gall cynllunio a Llywodraeth Cymru wneud gwahaniaeth mawr yn y dyfodol.
Rwy'n sylweddoli bod amser yn brin, Ddirprwy Lywydd, ac rydych wedi bod yn hael iawn wrthyf heddiw, felly nid wyf am rygnu ymlaen. Ond cymerwch y ddadl hon—
Na, peidiwch â gwneud hynny, os gwelwch yn dda.
Roeddwn yn gwybod na fyddech yn gadael i mi wneud. Cymerwch y ddadl hon o lle y daw: ymgais yw hi, fel y dywedodd David Melding ar y dechrau, i fod yn gyfraniad adeiladol at ddadl y gwn fod pawb ohonom am ei chael, dadl y mae angen i bawb ohono ei chael, a gadewch inni fwrw ymlaen gyda'r gwaith o wneud ein hardaloedd trefol yng Nghymru yn lle gwell i bawb sy'n byw ynddynt.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.