2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 13 Mehefin 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Faint mae hi'n mynd i gostio i haneru nifer y cynghorau sir yng Nghymru?
Mi fydd y gost yna yn adlewyrchu'r math o fframwaith y byddwn ni'n penderfynu arno fe.
Nid ydw i'n meddwl bod hynny'n ateb y cwestiwn, ac a bod yn onest, mae o'n ateb byrrach na'r un ces i gan y Prif Weinidog y diwrnod o'r blaen pan wnes i ofyn yr un cwestiwn. Ond, ateb yn union yr un mor ddisylwedd â hwnnw y ces i, ac mae'n rhaid imi ddweud, mae ymdrechion Gweinidogion dro ar ôl tro i wrthod ateb cwestiynau syml yn sarhad ar y Senedd yma.
Mae yna waith wedi cael ei wneud ar y gost gan nifer o gyrff gwahanol. Mi gafodd gwaith ei gyflwyno i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gan arbenigwr uchel ei barch, yr Athro Malcolm Prowle, yn ddiweddar, efo rhai cyrff yn amcangyfrif y gallai'r cynigion ailstrwythuro gostio hyd at £268 miliwn. Mae'r ymchwil gan yr Athro Prowle hefyd yn dangos tystiolaeth o Loegr ac yn rhyngwladol sy'n dangos bod uno ac ailstrwythuro llywodraeth leol yn cael canlyniadau ariannol negyddol. Ai'r gwirionedd felly ydy, un ai nid ydych wedi gwneud unrhyw asesiad o beth fydd y gost, neu rydych chi'n gwrthod rhyddhau'r wybodaeth? Mae hynny yn ei dro wedyn yn amddifadu llywodraeth leol a'r Cynulliad yma o'r ffeithiau hollbwysig rydym ni eu hangen yn ystod y drafodaeth yma.
Llywydd, beth fuasai'n hynod sarhadus fyddai pennu ymgynghoriad ddoe a dweud beth ydy'r penderfyniad heddiw, heb ystyried dim un o'r atebion rydym ni wedi'u cael yn ystod y misoedd diwethaf. Mi fuasai hynny yn sarhadus i'r bobl sydd wedi bod yn rhan o'r drafodaeth yma. Ond a gaf i ddweud hyn yn glir? Mi wnes i gyfarfod â'r Athro Prowle yr wythnos diwethaf, ac mi ges i sgwrs hir a gwelais i ei gyflwyniad e pan oedd e'n trafod y fath o ffigurau y mae'r Aelod wedi crybwyll heddiw. Ond, a gaf i ddweud hyn wrthoch chi? Mi wnaeth ef bennu ei gyflwyniad drwy ddweud buasai naw cyngor yn well i Gymru.
Wel, gadewch i ni symud ymlaen o'r cwestiwn o gost am ychydig, felly, a throi at un o'r cwestiynau y gwnes i eu gofyn i chi pan gawsoch chi eich penodi fel Ysgrifennydd Cabinet dros lywodraeth leol. Y cwestiwn hwnnw oedd pa fath o steil yr oeddech chi am ei fabwysiadu wrth ddelio efo llywodraeth leol. Mae'n wir, efallai, nad ydym ni wedi gweld y fath lefel o ffraeo a checru yn y cyfryngau rhyngoch chi a'r awdurdodau lleol, ond mae'r anghytuno croch yn parhau, a'r gwirionedd ydy nad oes yna gefnogaeth gan gynghorau lleol i gynigion y Papur Gwyrdd.
Mae Debbie Wilcox, fel rydych chi'n gwybod yn iawn, wedi dweud bod unrhyw amcangyfrif synhwyrol yn dangos na fuasai uno cynghorau yn arbed arian. 'Tynnu sylw diangen', meddai arweinydd cyngor Caerffili, a ddoe, fel y clywsom ni, mi gawsom ni ymateb ffurfiol gan Gyngor Sir Ddinbych hyd yn oed, sef un o'r ychydig gynghorau a oedd yn barod i uno yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf, a Dinbych yn nodi nad oes achos credadwy dros newid wedi'i wneud yn nogfen ymgynghori'r Papur Gwyn. Pan ddechreuoch chi yn y rôl yma, dywedoch chi ei bod hi'n bryd cael perthynas newydd efo llywodraeth leol. Ai creu anghytundeb llwyr rhwng y Llywodraeth ac awdurdodau lleol a oedd gennych chi mewn golwg?
Pan ofynnoch chi'r cwestiwn, mi wnes eich ateb chi fan hyn yn y Siambr, a hefyd ar fy mlog, ac rydych chi wedi fy nghwestiynu i ar hynny ers i mi gyhoeddi'r erthygl. Ac roeddwn i'n hollol glir ar y pryd fod gen i weledigaeth ar gyfer y dyfodol ac mae gen i weledigaeth o lywodraeth wahanol yng Nghymru—llywodraeth lle rydym ni yn datganoli o'r lle yma, ac mi rydych chi a'ch Plaid wedi gwneud digon—. Rydw i wedi clywed digon o areithiau gan Plaid Cymru ar hynny dros y blynyddoedd, ac nawr rydw i'n cynnig hynny. Rydw i'n cynnig datganoli o fae Caerdydd i Ddinbych, i sir Fôn, i Gaernarfon, hyd yn oed i Fangor. Ac rydw i'n cynnal y drafodaeth honno gyda llywodraeth leol, ond hefyd y tu hwnt i lywodraeth leol. Gormod o weithiau yn y fan hyn rydym ni'n sôn amboutu llywodraeth fel taw ni a chynghorwyr sydd ei phiau hi. Rydw i'n meddwl mai pobl Cymru sydd biau'r ffordd yr ydym ni'n llywodraethu, nid gwleidyddion.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw’n syndod nad yw eich Papur Gwyrdd ar ddiwygio llywodraeth leol yn plesio rhyw lawer ar nifer o awdurdodau lleol a'r rhai sy'n gweithio o fewn y sector ledled Cymru. Yn wir, ar ôl derbyn nifer sylweddol o'r un ymatebion i'ch ymgynghoriad fy hun, ceir tystiolaeth glir eisoes fod eich cynigion yn cael eu hystyried yn anymarferol, heb ystyried yr heriau enfawr sy'n wynebu awdurdodau lleol, ac nad ydynt, mewn gwirionedd, yn ddim mwy nag ailwampiad syml o gynlluniau Gweinidog blaenorol. Mae rhai o'r ymatebion fel a ganlyn: Bro Morgannwg—addawodd yr Ysgrifennydd Cabinet blaenorol 10 mlynedd o sefydlogrwydd; nid yw’r Ysgrifennydd Cabinet hwn wedi sicrhau gwerth 10 mis o sefydlogrwydd hyd yn oed. Casnewydd: mae'r cynigion yn tynnu sylw oddi wrth yr her o ddarparu gwasanaethau a diwallu anghenion cymunedau sy'n gynyddol gymhleth. Sir Fynwy: nid yw'r Papur Gwyrdd yn trafod y materion craidd sydd wrth wraidd y ddadl. Caerffili: ni allwn weld bod ad-drefnu llywodraeth leol yn llwyr yn rhywbeth y dylid ei ystyried. Mae'r manteision ariannol yn ddadleuol ar y gorau. Ynys Môn: mae angen i'r Prif Weinidog roi ei Bapur Gwyrdd yn y bin lle mae i fod.
Nawr, o gofio bod awdurdodau lleol a'r rheini sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i'n pobl fwyaf agored i niwed yn ddyddiol wedi'u cythruddo, eu digalonni a’u dadrithio gan eich Papur Gwyrdd, a bod y cynigion hyn, mewn termau real, yn peri ansefydlogrwydd ac yn tynnu sylw oddi wrth eu darpariaeth sydd eisoes wedi'i chyfyngu, pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i adlewyrchu'r nifer o leisiau gwybodus sy'n codi llais er mwyn atal y cynigion cythryblus a thrychinebus hyn rhag mynd rhagddynt?
Mae'r Aelod Ceidwadol yn defnyddio cyni fel pe bai'r rhodd fwyaf y mae llywodraeth leol erioed wedi ei chael. Gadewch imi ddweud hyn: mae yna broblemau sylweddol yn wynebu llywodraeth leol heddiw. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn deillio o ganlyniad i'r cyfyngiadau ariannol y maent yn eu hwynebu, ond nid pob un ohonynt. Mae llywodraeth leol Cymru wedi bod yn glir sawl gwaith ei hun fod 22 awdurdod lleol yn ormod ac nad yw'n gynaliadwy. Maent wedi dweud hynny ar sawl achlysur. Nawr, yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw edrych am ffordd ymlaen.
Nawr, nid wyf wedi clywed ymateb gan lefarydd y Ceidwadwyr ar ffordd gadarnhaol ymlaen. Y peth hawsaf yn y byd i’w wneud yw darllen y papurau newydd i Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol, ond buaswn yn awgrymu mai ymateb annigonol yw hynny i'r heriau sy'n ein hwynebu. Nawr, dywedais yn glir iawn fy mod am weld dadl gadarnhaol; rwyf am weld dadl gyfoethog. Rwyf am weld dadl ynglŷn â sut y byddwn yn datganoli pwerau ledled Cymru, a sut y grymuswn awdurdodau lleol, a sut y grymuswn ddinasyddion. A byddaf yn gwbl glir, fel yr oeddwn mewn ateb cynharach i'r Aelod dros Arfon, nad gwleidyddion, mewn neuaddau sirol neu’r lle hwn, sy'n berchen ar lywodraethiant ein gwlad; pobl y wlad hon sy'n berchen ar lywodraethiant y wlad hon.
Ysgrifennydd y Cabinet, ymatebais i’ch ymgynghoriad fy hun; rwy’n awgrymu nad ydych wedi ei ddarllen eto. Rydych yn parhau i ailadrodd yr un hen ddadl nad yw'r Papur Gwyrdd ond yn nodi'r ddadl ar ddiwygio llywodraeth leol a chyfuno cynghorau, ond nid yw hynny'n wir, ydy e? Ym mis Ebrill, deuthum yn ymwybodol fod y Blaid Lafur ei hun yn cael trafodaethau mewnol ynglŷn â sut i orfodi'ch cynigion ac mai un o'r syniadau a drafodwyd yw haneru nifer y cynghorwyr mewn ardaloedd a unwyd, a chynyddu eu tâl 62 y cant ar yr un pryd, o £13,600 i oddeutu £22,000 y flwyddyn, er mwyn gwneud y fargen yn fwy derbyniol ar gyfer uno, a thorri niferoedd yr aelodau etholedig. Efallai y byddwch yn synnu fy mod yn gwybod hyn, neu efallai na fyddwch yn gwybod eich hun—rydych chi mor bell oddi wrth y gymuned llywodraeth leol yng Nghymru. I'r rhai sydd wedi gwasanaethu, ac sydd am roi’r gorau i fod yn gynghorwyr, cynnig arall gan Lafur Cymru yw talu tua £500 y flwyddyn yn seiliedig ar nifer o flynyddoedd o wasanaeth i gynghorwyr a fyddai'n colli eu seddau sy'n golygu y byddai rhywun a wasanaethodd am 20 mlynedd yn cael cil-dwrn o £10,000. Mewn difrif, Ysgrifennydd y Cabinet, ai dyma’r ffordd y dylech chi, neu Lywodraeth Lafur Cymru, neu unrhyw Lywodraeth, fynd ati i ddiwygio llywodraeth leol, lle mae'n bwysicach gwneud bargeinion ystafell gefn gyda'ch cynghorwyr Llafur eich hun na thrwy gyrraedd consensws trawsbleidiol â phawb o bob cwr o Gymru? Byddech yn dechrau yn y Siambr hon; yn ystod eich cyfraniad diwethaf, roedd eich cefnwyr meinciau cefn eich hun yn siarad yn erbyn y cynigion hyn. Yn sicr, nid yw hyn yn ddim mwy na chil-dwrn dan din i gynghorwyr Llafur. Yn bersonol, rwy'n credu bod pobl Cymru'n haeddu'n well—trueni nad ydych chi.
Lywydd, roeddwn yn meddwl tybed a fyddai gennyf gyfle arall i siarad y prynhawn yma. Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n credu ei bod wedi iselhau ei hun yn y cyfraniad hwnnw. Credaf fod yna gwestiwn yno rywle, er fy mod yn ei chael hi'n anodd dod o hyd iddo. Gadewch i mi ddweud hyn: yn sicr ni fu unrhyw drafodaeth o fewn y Blaid Lafur o'r math hwnnw, ac fel y dywedais, mae wedi iselhau ei hun yn y cyfraniad hwnnw. Efallai ei bod hi'n cyfeirio at adroddiad panel Cymru ar gydnabyddiaeth ariannol, sy'n banel annibynnol, ac, os oes ganddi unrhyw sylwadau i'w gwneud ar y rheini, yna dylai eu cofnodi, ac wynebu'r hyn y mae'n ei ddweud yno. Ond mae'n rhaid i mi ddweud hyn wrthi: rwy'n ystyried adroddiad y panel cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer Cymru; nid wyf wedi gwneud unrhyw benderfyniadau yn ei gylch, a phan fyddaf yn gwneud penderfyniad arno, fe'i cyhoeddaf. A bydd yr adroddiad hwnnw'n dod gan banel annibynnol. Rwy'n gobeithio y bydd hi'n defnyddio ei chwestiwn nesaf fel cyfle i dynnu rhai o'i sylwadau yn ôl.
Ysgrifennydd y Cabinet, ar bwynt o drefn, ni ddylech fod yn sefyll yno’n dweud wrthyf fy mod yn iselhau fy hun. Mae gennyf bob hawl i fod yma, i graffu ar eich gwaith a’ch herio chi—ac rwy’n mynd i graffu ar eich gwaith a’ch herio. Rwyf wedi bod yn siarad â'r gymuned llywodraeth leol ledled Cymru—awgrymaf y dylech chi wneud hynny. Daeth eich ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd i ben ddoe. Dyma, mewn termau real, yw’r unfed ddogfen ar bymtheg gan Lywodraeth Cymru sy'n amlinellu diwygiadau o ryw fath i strwythur neu waith lywodraeth leol ers 2004. Ac yn wir, yn yr 20 mlynedd ers datganoli, mae llywodraeth leol wedi cael ei basio o gwmpas y bwrdd 10 gwaith—mae yna 10 Gweinidog llywodraeth leol wedi bod. Nid yw hynny'n rhoi llawer o bwys ar y gymuned hon, sy'n darparu'r gwasanaethau mwyaf hanfodol. Nawr, yn—. Eleni, ym mis Ebrill, gofynnodd y tri awdurdod tân ac awdurdodau lleol i chi sut y bydd eich proses o ddiwygio llywodraeth leol yn cyd-fynd â diwygio eu strwythurau—gan eich bod hyd yn oed yn ceisio eu herio ar hyn o bryd—ac nid ydych wedi ateb y cwestiwn hwnnw. Yn ogystal, gwyddom fod gan lywodraeth leol gysylltiadau annatod â meysydd darparu gwasanaethau cyhoeddus eraill, megis y gwasanaeth iechyd, addysg, darparu tai a gofal cymdeithasol, ac yn arbennig, y pryderon sylweddol sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, gan gynnwys prinder nyrsys a meddygon, methiannau systematig i gadw at amseroedd aros, gorwariant byrddau iechyd—
Credaf fod angen i chi ddod at eich trydydd cwestiwn yn awr.
—parhad rheolaeth uniongyrchol y llywodraeth ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rwyf wedi gofyn i chi o'r blaen, ac fe ofynnaf i chi eto, ac fe gaiff ei gofnodi eto: pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch Ysgrifenyddion Llywodraeth Cymru eraill, sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus hynny, ynglŷn â chydweithio mewn ffordd strategol, neu a yw'n wir nad yw'r trafodaethau hynny wedi digwydd, a’r hyn sydd gennym yma yw chi’n crwydro oddi ar y testun i ail-greu hen gynlluniau treuliedig a gafodd eu diddymu’n gadarn unwaith o’r blaen?
Efallai y bydd yn syndod i’r Aelodau ganfod ein bod yn cael sgyrsiau rhwng gwahanol Weinidogion bron bob dydd, ac rwyf wedi trafod y mater hwn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid y bore yma; byddaf yn trafod yr union fater hwn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar ddiwedd ein busnes heddiw. Byddaf yn trafod y materion hyn gyda Gweinidogion eraill yn wythnosol. Ond yn fwy na hynny, i ateb y cwestiwn hwn, Lywydd, rwyf am fynd yn ôl at gynnig gwahanol. Yr hyn sydd ei angen arnom yng Nghymru—. Ac mewn gwirionedd, bron trwy ddamwain, efallai y bydd llefarydd y Ceidwadwyr yn gywir ynglŷn ag un peth: dros gyfnod o 20 mlynedd, nid ydym wedi cyrraedd perthynas aeddfed gytûn â llywodraeth leol, ac mae hynny'n gyfrifoldeb, nid yn unig i’r Ysgrifennydd Cabinet hwn, ond yn gyfrifoldeb i’r lle hwn, y sefydliad hwn, ie, y Llywodraeth, a llywodraeth leol hefyd. I mi, nid bargen rhwng gwleidyddion sy’n bwysig, boed mewn ystafell gefn neu mewn ystafell flaen, ond gweithio er budd dinasyddion y wlad hon, er mwyn grymuso pobl, i sicrhau bod gennym atebolrwydd democrataidd mewn trefi a neuaddau sir ar hyd a lled Cymru, ac i ddatganoli pŵer o'r lle hwn i ganolfannau gwneud penderfyniadau ledled Cymru, ac i sicrhau ein bod yn gwarchod ac yn amddiffyn gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus tra’u bod yn cyflawni ein gwasanaethau. Ac a wyddoch chi beth sydd gan yr holl bobl hynny yn gyffredin? Nid oes yr un ohonynt wedi awgrymu wrthyf fod angen mwy o gyni neu fwy o bolisïau Ceidwadol.FootnoteLink
Llefarydd UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Lywydd. Roedd gennyf ddiddordeb yn rhai o'ch sylwadau yn gynharach, Weinidog, mewn ymateb i gyfraniad Janet Finch-Saunders, yn enwedig pan siaradoch chi am rymuso'r dinasyddion ac mai'r mater allweddol sy'n wynebu llywodraeth leol yw sut i rymuso dinasyddion ac fe ddywedoch chi hefyd mai'r bobl sy'n berchen ar y wlad, sy'n syniadau urddasol iawn.
Mae gennyf ddiddordeb yn yr hyn y buoch yn ei ddweud yn y cyfryngau yn ddiweddar, gyda'ch galwad am ail refferendwm ar Brexit—pleidlais y bobl fel y’i gelwir. Roeddwn yn chwilfrydig ynglŷn â hyn gan fy mod yn meddwl ein bod eisoes wedi cael pleidlais i’r bobl. Yn fy niniweidrwydd, credais mai'r refferendwm ei hun oedd pleidlais y bobl, ond mae eich safbwynt cyhoeddus yn ddiddorol ac yn sicr mae'n rhywbeth y gallwn ei ddatblygu heddiw o bosibl.
Nawr, un o'r problemau sydd gennym yng Nghymru yw bod gennym, ar lefel llywodraeth leol, system y cyntaf i’r felin, felly mae hynny'n tueddu i olygu y gallwn gael cynghorau wedi’u hethol—cynghorau Llafur fel arfer, mae'n rhaid dweud—sy’n ennill mwy na 50 y cant o seddi'r cyngor ar lai na 50 y cant o'r bleidlais. Nawr, rwy'n cyffredinoli, rwy’n derbyn hynny, ond mae'n ddarlun cyffredinol o’r hyn sy’n digwydd gyda llywodraeth leol yng Nghymru, ac rwy’n siŵr y byddech yn cydnabod hynny. Rydych wedi argymell bod cynghorau'n ystyried symud tuag at system wahanol, sef y bleidlais sengl drosglwyddadwy. Yn sicr, byddai'r system honno'n fwy democrataidd, ond o ystyried eich ymrwymiad enwog i egwyddorion democrataidd, pa mor bell fyddwch chi'n gwthio cynghorau lleol yng Nghymru i symud tuag at y system fwy democrataidd hon?
Mae fy marn ar gefnogaeth i gynrychiolaeth gyfrannol yn hysbys iawn ac maent eisoes wedi’u cofnodi. Nid yw polisi'r Llywodraeth hon wedi newid ers i mi wneud datganiad llafar ar y mater hwn ym mis Ionawr.
O’r gorau. Rwy'n credu y gallwn dderbyn yr anhawster o gael cynghorau lleol, a arweinir gan y Blaid Lafur, ac sy'n gwneud yn dda o dan drefn y cyntaf i'r felin, i newid i system wahanol. Rwy'n credu y gallech chi gydnabod y gallai hynny fod yn broblem. Ond fe symudwn ymlaen.
Maes arall lle mae gennym ddiffyg democrataidd yng Nghymru yw’r system gynllunio. Mae llawer o gymunedau lleol yn teimlo nad oes ganddynt rym o gwbl pan fyddant yn uno i ffurfio grwpiau protest ac ymgyrchu yn erbyn datblygiadau lleol diangen, fel priffyrdd a phrosiectau tai mawr. Ac yna fe welant, er gwaethaf gwrthwynebiad lleol llwyr bron, fod y cynllun yn cael caniatâd cynllunio beth bynnag. Mae UKIP yn honni y dylem ganiatáu ar gyfer refferendwm lleol yn yr achos hwn. Byddai'r canlyniad yn gyfreithiol rwymol. Byddai'r polisi hwn yn democrateiddio'r broses gynllunio. Unwaith eto, gan feddwl am eich sylwadau yn gynharach ynglŷn â sut i rymuso dinasyddion lleol, a wnewch chi feddwl eto am fabwysiadu'r polisi hwn eich hun?
Rwy'n credu bod yna lawer o ddadleuon o blaid democratiaeth uniongyrchol a cheir enghreifftiau mewn gwahanol rannau o'r byd lle mae'n gweithio'n dda. Mae Califfornia yn enghraifft dda iawn, rwy'n credu, a rhannau o'r Unol Daleithiau, a gallai'r Swistir fod yn enghraifft lle nad yw'n gweithio cystal o bosibl. Ond mae'n rhan o ffordd o lywodraethu—nid polisi ydyw y gallwch ei osod mewn model, a gynlluniwyd fel arall i weithio mewn gwahanol ffyrdd. Yr hyn sy'n bwysig i mi yw bod gennym atebolrwydd. Nid wyf yn credu bod gennym atebolrwydd effeithiol ym mhob rhan o Gymru ar hyn o bryd o ran sut rydym yn darparu llywodraeth leol ac rwyf am gryfhau'r atebolrwydd hwnnw, ond rwyf hefyd am weld sut y gallwn sicrhau bod gennym amrywiaeth o ran cynrychiolaeth mewn llywodraeth leol. Cafwyd nifer o adroddiadau ger bron y lle hwn dros nifer fawr o flynyddoedd a ddylai ddisgrifio'r diffyg amrywiaeth mewn llywodraeth leol. Bydd yr Aelod dros Arfon yn gwneud cyfraniad yn ddiweddarach heddiw, a byddaf yn edrych ar sut y bydd ein holl brosesau diwygio yn cryfhau atebolrwydd ac amrywiaeth mewn llywodraeth leol. Ond i mi, yr uchelgais gwirioneddol allweddol yw grymuso a chryfhau prosesau gwneud penderfyniadau lleol.
Mae amrywiaeth yn rhywbeth yr ydym ar fin ei archwilio yn y pwyllgor llywodraeth leol, felly byddwn yn bwydo i mewn i'r broses honno gobeithio, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n ymwneud â ni. Rhoesoch ateb diddorol ynglŷn â mater y refferendwm lleol, gan gyfeirio at Galiffornia fel enghraifft, felly mae hynny'n galondid. O gofio eich diddordeb yn y syniadau hyn a'r gwahanol ffurfiau ar ddemocratiaeth—democratiaeth gynrychioliadol, democratiaeth uniongyrchol ac ati—byddai'n ddiddorol gweld sut y ceisiwch ymgorffori'r syniadau hyn wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, a fyddech yn derbyn bod yna broblem o ran canfyddiad y cyhoedd o'r system gynllunio yng Nghymru—nid yng Nghymru'n unig, ond yn y DU—a'i bod yn ymddangos fel pe na bai'n cynrychioli dinasyddion lleol yn ddigon da?
Na, ni fuaswn yn derbyn hynny, ac wrth gwrs, mae fy ffrind, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig newydd ateb cwestiynau ar y materion hyn, ac felly nid wyf am fynd ar drywydd unrhyw ddadl neu drafodaeth bellach ar gynllunio yn benodol. Yr hyn a ddywedaf wrth geisio ateb y cwestiwn mewn ffordd gadarnhaol yw eich cyfeirio at y pwyntiau a wneuthum ynglŷn â'r ffaith mai dinasyddion sy'n berchen ar lywodraethiant y wlad hon ac nid gwleidyddion. A'r hyn sy'n bwysig i mi yw ein bod yn gallu edrych am ffyrdd a dulliau newydd a gwahanol o'n dwyn ni fel gwleidyddion, fel Gweinidogion, fel Aelodau Cynulliad a chynghorwyr awdurdodau lleol i gyfrif. Ond hefyd, sut y mae grymuso gwahanol lefelau o lywodraeth leol? Cefais gyfarfod da iawn gyda phanel o gynghorau tref a chymuned y bore yma, yn dadlau a thrafod rhai o'u cynigion, a fydd, gobeithio, yn cael eu cyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf. Ond i mi, mae hyn yn gadarnhaol ac yn cyfoethogi dadl ynglŷn â grymuso; nid dadl syml ydyw am linellau ar fapiau, prosesau uno a sut i naill ai gynnig neu osgoi'r materion hynny. I mi, y mater gwirioneddol bwysig am y ddadl ar ddiwygio llywodraeth leol yw'r uchelgais, y pen draw, y weledigaeth ac nid y broses yn unig.