– Senedd Cymru am 3:37 pm ar 19 Mehefin 2018.
Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiad gan arweinydd y tŷ, 'Wythnos Ffoaduriaid—Cymru, Cenedl Noddfa'. Ac rwy'n galw ar arweinydd y tŷ, Julie James.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n Wythnos Ffoaduriaid yr wythnos hon, dathliad o gyfraniad ffoaduriaid i'n cymdeithas, a digwyddiad i annog dealltwriaeth well rhwng cymunedau. Mae'n ugain mlynedd eleni ers ei lansio, ac mae trefnwyr Wythnos Ffoaduriaid yn gofyn i bobl gymryd rhan drwy gyflawni un weithred syml i gefnogi ffoaduriaid. Gall hyn fod mor syml â chael sgwrs gyda chymydog sy'n ceisio noddfa, neu ddysgu ychydig eiriau o iaith gwlad y ffoadur. Gallai pob un ohonom yma yn y Siambr hon wneud un peth pwysig, syml iawn, a hynny yw dangos ein cefnogaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru drwy groesawu'r cysyniad o Gymru fel cenedl noddfa.
Rwy'n gobeithio bod rhai ohonoch wedi clywed y rhyfeddol Oasis World Choir cyn y Cyfarfod Llawn heddiw. Mae'r côr yn cynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches o bedwar ban byd, ac maen nhw wedi dod yma heddiw fel rhan o Wythnos Ffoaduriaid. Roedd rhai ohonyn nhw yn yr oriel yn gynharach—rwy'n amau nad ydyn nhw erbyn hyn. Ond rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn awyddus i ymuno â mi i'w croesawu nhw yma i'r Senedd.
Cafodd 'Cenedl Noddfa–Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches' Llywodraeth Cymru ei ddatblygu wrth ymateb i argymhellion a wnaed gan adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb, a Llywodraeth Leol '"Roeddwn i'n arfer bod yn rhywun": Ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru'. Mae'r cynllun allan ar gyfer ymgynghoriad ar hyn o bryd. Cafodd ei gynhyrchu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, sefydliadau cymorth i ffoaduriaid, sefydliadau yn y sector cyhoeddus, ac, yn bwysicaf oll, y ceiswyr lloches a'r ffoaduriaid eu hunain. Rydym yn gwbl ymrwymedig i wneud popeth o fewn ein gallu yng Nghymru i gynorthwyo pobl sy'n chwilio am noddfa i ailadeiladu eu bywydau a chyflawni eu posibiliadau.
Mae Cymru yn genedl groesawgar. Mae'n amlwg ar unwaith, o siarad â phobl sy'n ceisio lloches a'r rhai sy'n eu cefnogi, fod y rhan fwyaf o ffoaduriaid sy'n dod i Gymru yn hynod ddiolchgar am y cymorth a gânt yma. Gallwn fod yn falch o'r ffaith honno. Serch hynny, mae gennym lawer i'w wneud eto i sicrhau y gall ffoaduriaid a cheiswyr lloches integreiddio yn effeithiol ac ailadeiladu eu bywydau. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac amddiffyn hawliau dynol. Credwn y dylid trin pob unigolyn yn deg, yn enwedig y rhai sydd fwyaf ar yr ymylon ac sy'n cael yr anhawster mwyaf i gael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddiwallu eu hanghenion sylfaenol.
Mae Llywodraeth Cymru yn credu'n gryf y dylid dechrau integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches y diwrnod y byddan nhw'n cyrraedd. Mae'r dull hwn yn hanfodol ar gyfer sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i unigolion a chymunedau. Gwyddom fod cefnogaeth gref ymysg y cyhoedd i ddyfodiaid ddysgu Cymraeg neu Saesneg—neu'r ddwy iaith, o gofio bod llawer o ffoaduriaid yn meddu ar sgiliau iaith rhagorol—ac rydym yn awyddus i'w cefnogi i wneud hyn. Byddai cefnogi cynlluniau gwirfoddoli ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn cyfrannu at y gymdeithas Gymreig gan hefyd gefnogi dysgu iaith, adfer iechyd meddwl a gwella cyflogadwyedd unigolion. Rydym yn anelu at ddull cyfannol, lle mae'r camau yn y cynllun yn ategu ei gilydd i gyflawni newid cadarnhaol cyffredinol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Mae'n bwysig pwysleisio nad yw integreiddio pobl sy'n ceisio lloches yn golygu proses unochrog o roi. Daw ffoaduriaid â chyfoeth o brofiad ac ystod o sgiliau a galluoedd i Gymru. Mae'r GIG yng Nghymru wedi elwa ar Grŵp Meddygon Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Caiff hwn ei ddarparu gan Ddeoniaeth Cymru a Displaced People in Action, sy'n cefnogi meddygon sy'n ffoaduriaid i gael cydnabyddiaeth o'u cymwysterau meddygol presennol a dod o hyd i gyflogaeth yn y GIG. Amcangyfrifir fod y cynllun wedi arbed o leiaf £25 miliwn i drethdalwyr dros y 15 mlynedd diwethaf, wedi rhoi'r gallu i ffoaduriaid ddefnyddio eu sgiliau i dalu'n ôl i Gymru, ac arbed bywydau dirifedi hefyd.
Y Swyddfa Gartref yn unig a all ddatrys rhai o'r materion a godwyd gan ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn 2017. Nid yw'n gyfrinach ein bod yn teimlo'n rhwystredig yn aml yn sgil penderfyniadau Llywodraeth y DU o ran materion lloches a mudo. Ond mae'n rhaid inni dderbyn nad yw'r materion hyn wedi'u datganoli i Gymru. Serch hynny, rydym wedi cymell y dylid cynyddu'r cymorth ariannol i geiswyr lloches sy'n aros am benderfyniadau, rhoi arian ychwanegol i awdurdodau lleol sy'n cynorthwyo ceiswyr lloches yn eu bro, a safonau gwell o lety lloches, ymysg pethau eraill. Yn anffodus, a dweud y lleiaf, nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth y DU wedi ymgorffori ein hargymhellion wrth ddylunio eu contractau llety lloches sydd ar y gweill nac ychwaith wedi cynyddu'n sylweddol y cymorth ariannol i'r system lloches. Byddwn yn gwneud cymaint ag y gallwn i liniaru effeithiau negyddol polisïau Llywodraeth y DU ar integreiddio yn y gymuned yng Nghymru a byddwn yn ceisio gweithio'n adeiladol gyda'r Swyddfa Gartref i nodi a chodi pryderon lle byddant yn dod i'r amlwg.
Mae ein cynllun cenedl noddfa yn canolbwyntio ar gynigion o fewn y meysydd datganoledig hynny y gall Llywodraeth Cymru ddylanwadu arnynt. Mae'r cynllun yn amlinellu ehangder y gwaith yr ydym yn ymgymryd ag ef i sicrhau lleihad yn yr anghydraddoldebau i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, cynnydd yn y cyfleoedd a ddaw i'w rhan, a bod cysylltiadau rhwng y cymunedau hyn a'r gymdeithas ehangach yn gwella.
Rydym wedi blaenoriaethu'r materion allweddol y soniodd ffoaduriaid a cheiswyr lloches amdanynt wrthym yn ystod y gwaith paratoi ar gyfer yr ymgynghoriad hwn. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y gall unigolion gael gwybodaeth a chyngor i'w helpu i ymsefydlu yn eu hamgylchoedd newydd, cefnogi cyfleoedd i ddysgu'r iaith a dod o hyd i gyflogaeth, dod o hyd i ffyrdd o osgoi amddifadedd, a gwella mynediad i wasanaethau iechyd.
Wrth ddatblygu'r camau, rydym wedi ceisio rhwystro'r problemau mwyaf niweidiol y mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn eu profi yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys digartrefedd, cyflyrau iechyd meddwl, llety llwm a'r perygl o amddifadedd. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd calonogol yn rhai o'r meysydd hyn eisoes ond mae llawer o waith i'w wneud eto i wella canlyniadau.
Rydym yn parhau i ystyried gwelliannau er mwyn cefnogi'r rhai sy'n ceisio lloches, gan gynnwys edrych ar ymestyn cymhwysedd am grantiau addysg a thrafnidiaeth ratach i geiswyr lloches. Mae'r rhain yn feysydd cymhleth a sensitif, a gallai rhuthro i ymestyn cymhwysedd arwain at ganlyniadau anfwriadol ar gyfer ceisiadau am loches. Mae angen hefyd i Lywodraeth y DU gydnabod ein hawydd i sicrhau y gall pob aelod o gymdeithas Cymru integreiddio, a chytuno i beidio â thanseilio'r bwriad hwn drwy roi ffrydiau ariannu Llywodraeth Cymru ar restr yr arian cyhoeddus gwaharddedig yn y rheolau mewnfudo . Rydym wedi ymrwymo i'r egwyddor o ymestyn hawliau er budd integreiddio cymunedol a lles personol. Ond mae angen inni weithio drwy broblemau posibl yn ofalus i sicrhau ein bod yn gwneud pethau yn well ar gyfer pobl mewn perygl o amddifadedd ac nid yn waeth.
Rydym yn parhau i weithio i roi ein cefnogaeth i blant sy'n ceisio lloches ar eu pennau eu hunain. Er na ofynnwyd inni yn y pen draw gan Lywodraeth y DU i groesawu cymaint o blant i Gymru dan y cynllun Dubs ag yr oeddem wedi cynllunio ar eu cyfer, rydym wedi gallu cynnig diogelwch a dechrau newydd i nifer fechan ac rydym yn dymuno'r gorau iddyn nhw yn eu bywydau yma. Ynghyd â'r Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ac â'n Gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth yr Alban, rydym wedi ceisio dylanwadu ar Lywodraeth y DU yn rheolaidd ar ystod o faterion sy'n ymwneud â'r plant hyn. Nid yw'r ymatebion a gawsom wedi bod mor gadarnhaol, rhagweithiol nac mor ddefnyddiol ag y byddem wedi eu dymuno, mae'n ddrwg gennyf ddweud, Dirprwy Lywydd. Er hynny, rydym wedi gwneud cynnydd ar y camau gweithredu a argymhellwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau o ran y plant hyn, a byddwn yn parhau i wneud hynny.
Fel y soniais, mae'r cynllun cenedl noddfa yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd a bydd y cynllun yn parhau i gael ei ddatblygu a'i ddiwygio i adlewyrchu'r ymatebion a'r awgrymiadau a geir pan ddaw'r cyfnod ymgynghori i ben ddydd Llun nesaf, 25 Mehefin. Mae'r cynllun yn cynnwys camau gweithredu y byddwn yn ceisio'u cymryd yng ngweddill y tymor Cynulliad hwn. Felly, mae'n llunio rhan bwysig o'r nod hirdymor o gael Cymru yn genedl noddfa wirioneddol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Ceir stondin Wythnos Ffoaduriaid yn yr Oriel yr wythnos hon, gan gynnwys ffilm newydd a gynhyrchwyd gan y Comisiwn Hawliau Dynol a Chydraddoldeb, a chyfle i'r cyhoedd ddatgan pa weithred syml y gallant ei chyflawni i gefnogi pobl sy'n ceisio lloches yng Nghymru. Roeddwn yn falch iawn ein bod wedi gallu gwneud hynny gyda'i gilydd amser cinio heddiw, Dirprwy Lywydd. Rwy'n eich annog chi i ymweld â'r stondin a chynnwys eich gweithred eich hun. Hoffwn ddiolch hefyd i aelodau'r Oasis World Choir a ddaeth yma heddiw i ganu i ni. Gadewch inni ddangos iddynt sut y gall democratiaeth weithio er budd holl drigolion y genedl, a bod Cymru, y genedl fechan, yn gwneud llawer mwy na'r disgwyl o ran rhoi noddfa i bobl. Diolch.
Diolch yn fawr am eich datganiad yn ystod Wythnos Ffoaduriaid. Nid wyf i'n credu y cewch unrhyw anghytundeb gwirioneddol â'r wybodaeth a'r teimladau a fynegwyd gennych. Rydych yn dweud y dylai pob un ohonom yn y Siambr yma wneud un peth syml i ddangos ein cefnogaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches drwy gofleidio'r cysyniad o Gymru yn Genedl Noddfa. Rwy'n falch i mi wneud yn siŵr fod hynny yn ymrwymiad ym maniffesto Ceidwadwyr Cymru 2016 ac, fel y cofiwch efallai, i mi noddi a chroesawu'r Noddfa yn y digwyddiad yn y Senedd tua diwedd 2016 yn unol â hynny.
Roeddech yn cyfeirio at gefnogaeth i blant sy'n ceisio lloches ar eu pennau eu hunain. Pan gawsom ddatganiad ym mis Tachwedd 2016, dyna'r adeg y clywsom fod y gwersyll jyngl ofnadwy yn Calais yn cael ei gau, a bod Llywodraethau Prydain a Ffrainc yn cofrestru plant ar eu pennau eu hunain a oedd yn gobeithio ymuno â pherthnasau yn y DU. Gofynnais bryd hynny a oedd gan Lywodraeth Cymru unrhyw arwydd fod y ffigurau a roddwyd yn iawn, neu faint o'r plant hynny oedd wedi dod, neu oedd ar fin dod i Gymru. Rwy'n gofyn tybed a oes gennych unrhyw wybodaeth ddiweddarach erbyn hyn, 18 mis yn ddiweddarach, ynghylch a gyrhaeddodd y plant hynny yma—a faint ohonyn nhw—, a pha gymorth penodol a gawsant.
Rydych yn cyfeirio at integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Eto, efallai y byddwch yn ymwybodol fy mod i yn gynnar fis diwethaf wedi croesawu digwyddiad i'r Cynulliad o'r enw 'Gadewch inni integreiddio gyda cherddoriaeth a chelfyddyd', a gynhaliwyd gan Gymdeithas Gogledd Cymru ar gyfer Integreiddio Amlddiwylliannol, yr wyf yn llywydd anrhydeddus ohoni, a KIRAN a leolir yng Nghwmbrân, sef y Knowledge-based Intercommunity Relationship and Awareness Network, a ddaeth i fodolaeth, yn ôl y sôn, am fod angen cael cymuned ymgysylltiedig lle mae gan aelodau wybodaeth o wahanol gefndiroedd cymdeithasol a diwylliannol. Bythefnos yn unig yn ôl, fe wnes i gyfarfod â Chyngor Ffoaduriaid Cymru, Cymdeithas Gogledd Cymru ar gyfer Integreiddio Amlddiwylliannol a'r elusen CAIS, sydd yn gweithio gyda'i gilydd i gael gwared ar y rhwystrau a chynyddu'r ddealltwriaeth o ddiwylliannau eraill. Felly, o ran cefnogi'r neges integreiddio, sut ydych yn ymgysylltu â'r sefydliadau arloesol hyn sydd yn gwneud eu rhan ac yn gynyddol yn adeiladu rhwydwaith cydgysylltiedig i gyfleu'r neges integreiddio honno yn ymarferol yn ein cymunedau, ar ein strydoedd ac yn ein hardaloedd gwledig hefyd ledled Cymru?
Yn drist iawn, fel y gwyddoch, mae rhai ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn mynd yn ysglyfaeth i gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl. Gwn fy mod yn gwyro ychydig oddi wrth y mater wrth law yn y fan hon, ond mae yna nifer o elusennau sy'n gweithio eto yn y maes hwn, gan gynnwys Hafan y Golau yn y Gogledd, yn cynnal fforwm caethwasiaeth fodern ar 12 o fis Hydref. Felly, o ran yr agenda hon, sut ydych yn ymgysylltu nid yn unig gyda'r Comisiynydd ond gydag asiantaethau eraill, statudol a thrydydd sector, i gydweithio ar faterion penodol ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n ymwneud â'r grŵp hwn o ddioddefwyr?
Mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â derbyn ffoaduriaid. Mae'r ffigurau a gyhoeddwyd ar gyfer ffoaduriaid yn ymgartrefu yng Nghymru y llynedd yn dangos mai Merthyr Tudful a Chastell-nedd Port Talbot oedd yr unig gynghorau na wnaethant dderbyn unrhyw ffoaduriaid, yn y ffigurau a gafwyd ganddynt. Sir Gaerfyrddin oedd yr uchaf gyda 51, ac Abertawe gyda 33. Yn y Gogledd, roedd gan Sir Ddinbych 21, ond roedd hyn yn disgyn i bump yn Sir y Fflint a dim ond dau yng Nghonwy. Felly, sut ydych chi'n helpu awdurdodau lleol i sefydlu'r ddealltwriaeth a'r ymwybyddiaeth o'r màs critigol a'r ewyllys i sicrhau, efallai, ddosbarthiad gwell fel y gall yr arweiniad a roddwyd yn un rhan o Gymru gael ei atgynhyrchu mewn mannau eraill? Diolch ichi.
Diolch ichi am y gyfres yna o gwestiynau. Nid yw'r union nifer gennyf yma, felly byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod am union nifer y plant a oedd dan y cynllun Dubs. Ond cafwyd rhai materion difrifol ynglŷn â pham nad oeddem yn gallu cymryd cymaint ag y byddem yn ei hoffi a gwnaf yn siŵr y bydd yr Aelod yn cael neges am yr union rif.
Rydym wedi gweithio'n hynod o galed i wneud yn siŵr ein bod yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid i sicrhau bod gennym gyfres mor integredig â phosibl o ymatebion. Rydym wedi cyflawni ar argymhelliad ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i hyfforddi gweithwyr cymdeithasol, er enghraifft, i asesu oedran plant a phobl ifanc. Ac, yn gynharach eleni, cynhaliwyd pum sesiwn ledled Cymru a chafodd bron i 100 o weithwyr cymdeithasol ac eiriolwyr eu hyfforddi. Roedd pecyn cymorth yn cyd-fynd â'r hyfforddiant, sydd wedi cael ei ddiwygio ac a gyhoeddir yn fuan, o ganlyniad i'n hymgysylltu â rhanddeiliaid wrth inni weithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod gennym ymateb sydd mor gydgysylltiedig â phosib.
Rydym yn gweithio'n galed iawn hefyd i wneud yn siŵr ein bod yn integreiddio gan ddysgu o'r cynllun gweithredu caethwasiaeth fodern. Wrth gwrs, mae Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran cael cydlynydd ar gaethwasiaeth fodern, ac mae gennym ein cyd-drefnwyr rhanbarthol yn gweithio'n galed hefyd i sicrhau bod gennym gynllun rhanddeiliaid mor gyfoes ag y bo modd. Ond ar ddiwedd y dydd, nid yw polisi ymfudo a lloches wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Mae llawer o'r atebion i lawer o'r anawsterau a wynebir gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches i'w cael gan y Swyddfa Gartref. Y broblem wirioneddol i ni yw sut i leihau effaith a chyffredinolrwydd yr achosion o amddifadedd, y system les nad yw'n ddatganoledig a'r penderfyniadau ar loches a chymhwysedd ar gyfer ariannu, sydd i gyd yn ffactorau gwirioneddol ddylanwadol ar y rhai sy'n byw yn y sefyllfa hon.
Cawsom ein siomi'n fawr gan y diffyg cydweithrediad ar y contract newydd ar gyfer llety, er enghraifft. Yn ddiweddar iawn, rydym wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU unwaith eto, ynghyd â'r Alban, oherwydd nid yw Llywodraeth y DU wedi dymuno inni sefydlu panel o arbenigwyr i'n helpu i lywio penderfyniadau ar y strategaeth llety, Dirprwy Lywydd. Felly, rydym yn siomedig iawn â hynny oherwydd ein bod yn credu nad y ffordd gywir ymlaen, mae'n amlwg, yw dweud ei bod yn fasnachol gyfrinachol. Un o'r problemau mawr gydag integreiddio yw sicrhau bod ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn cael eu rhoi mewn llety yn y cymunedau cywir gyda chymorth priodol o'u cwmpas.
Fe wnaeth yr Aelod ofyn pam mae'r ystadegau a ddyfynnwyd ganddo yn anghyson, ond, wrth gwrs, nid ydynt yn ystadegau cyfredol. Mae Castell-nedd Port Talbot, er enghraifft, wedi cymryd nifer fawr o bobl yn y gorffennol. A cheir materion ynglŷn â chyllido hefyd, oherwydd dim ond tua 55 y cant o'r cyllid sydd ar gael ac mae problem fawr gyda fformiwla Barnett a'r ffordd y mae rhai o'r cynlluniau wedi'u rhoi at ei gilydd fel na all Cymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon gael gafael ar rywfaint o'r arian sydd ar gael. Felly, rydym wedi gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod Llywodraeth y DU yn sylweddoli bod cyfosod amryw o bolisïau weithiau yn golygu canlyniadau anfwriadol i bobl yn y categori hwn.
Mae’r nod o greu cenedl noddfa yng Nghymru yn un y mae Plaid Cymru yn ei gefnogi, wrth gwrs, ac yn ei gefnogi yn llwyr ac yn ymgyrchu drosto, ond rwy’n credu ei bod hi’n bwysig cydnabod bod yna nifer o rwystrau’n bodoli wrth geisio gwireddu’r uchelgais. Mae llawer o’r rhwystrau hyn yn deillio o’r ffordd y mae’r drafodaeth gyhoeddus ar fudo wedi cael ei llywio—yn rhy aml, rhagfarn, camwybodaeth a chanfyddiadau anghywir sydd yn llywio’r ddeialog. Mae’n rhaid i unrhyw gynllun i integreiddio ceiswyr lloched a ffoaduriaid, ac i greu cenedl noddfa, gydnabod hynny a cheisio creu’r newid diwylliannol yn ogystal â’r newid gwleidyddol. Felly, a fedrwch chi amlinellu beth y mae eich Llywodraeth chi yn ei wneud i gywiro’r rhagfarn a’r canfyddiadau anghywir?
Mae’r datganiad heddiw yn cydnabod bod llawer o’r problemau sy’n wynebu ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn dod o ganlyniad i faterion sy’n deillio o’r Swyddfa Gartref. Er enghraifft, rŷm ni’n gwybod bod fisas wedi cael eu gwrthod i dros 2,000 o ddoctoriaid yn unol â pholisi mudo’r Deyrnas Unedig. Yn anffodus, mae’ch plaid chi wedi gwrthod caniatáu i Lywodraeth Cymru gyhoeddi fisas yn seiliedig ar anghenion gweithlu Cymru. O gofio’r angen dybryd am ddoctoriaid, a ydych chi’n fodlon ailystyried y safbwynt yma?
Mae’r newidiadau i fudd-daliadau a chyflwyno credyd cynhwysol yn cael effaith pellgyrhaeddol ar fywydau ffoaduriaid. Mae’r Welsh Refugee Coalition yn dweud bod eisiau ceisio ffyrdd i liniaru effeithiau negyddol diwygio lles ar ffoaduriaid, yn ogystal â monitro hynny. Mi fyddwch yn gwybod—rydych chi wedi fy nghlywed sawl gwaith yn dadlau—y byddai datganoli elfennau o weinyddu’r gyfundrefn les yn ein galluogi ni yng Nghymru i liniaru rhai elfennau ac i greu diwylliant mwy dyngarol. Felly, a gaf i ofyn ichi eto i edrych yn ofalus ar y posibiliadau a dysgu gwersi gan yr Alban? Rydw i'n credu y byddai ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gwerthfawrogi ymrwymiad gan eich Llywodraeth chi heddiw i ystyried, o leiaf, y posibilrwydd ac i ddod ag adroddiad llawn gerbron y Cynulliad sydd yn edrych yn fanwl ar y manteision a'r anfanteision. Nid ydym ni wedi cael y dadansoddiad trwyadl yna cyn belled, ac rydw i'n meddwl y byddai fo'n fuddiol iawn i gael hynny.
Mae eich datganiad yn sôn am lety ar gyfer ffoaduriaid, ac ar hyn o bryd mae'r Swyddfa Gartref wrthi'n penderfynu pa ddarparwr preifat fydd yn darparu llety i geiswyr lloches yng Nghymru ar gyfer y 10 mlynedd nesaf. A fedrwch chi amlinellu beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i sicrhau bod safon y llety yn cael ei wella, a bod y darparwr ei hun yn cael ei ddal yn gwbl atebol ar gyfer cyfnod y cytundeb yn ei gyfanrwydd? Rydym ni'n gwybod bod digartrefedd, yn anffodus, yn broblem fawr ymhlith ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a'r wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd Crisis ei gynllun uchelgeisiol i roi terfyn ar ddigartrefedd yn y Deyrnas Unedig. Mae rhan o'r cynllun yn sôn am fudwyr a'r newidiadau deddfwriaethol penodol sydd eu hangen. A fedrwch chi ymrwymo i edrych yn fanwl ar argymhellion Crisis gan lobïo am y newidiadau y maen nhw am eu gweld yn yr ardaloedd sydd ddim wedi eu datganoli?
Ac yn olaf, rydw i eisiau trafod dileu'r grant MEAG i awdurdodau lleol—y grant pwysig yma, y grant addysg cyflawni ar gyfer lleiafrifoedd ethnig. Mae hwn yn hanfodol i sicrhau bod sgiliau iaith yn cael eu dysgu mewn ffordd briodol i blant sydd ddim yn siarad Cymraeg na Saesneg, ond mae diflaniad y grant yma am ei gwneud hi'n anodd iawn i blant ffoaduriaid a cheiswyr lloches ddysgu dwy iaith ein gwlad ni. Felly, fy nghwestiwn i ydy: onid oes angen atgyfodi'r MEAG? Wedi'r cyfan, mae sgiliau iaith yn hanfodol er mwyn integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn llawn yn ein cenedl noddfa, a hynny, yn y pen draw, ydy'r ffordd orau o ddileu rhagfarn a bod yn groesawgar yng ngwir ystyr y gair.
Diolch ichi am hynna. Mae amrywiaeth o wahanol faterion wedi'u codi yn y fan honno. Yn amlwg, holl ddiben Wythnos Ffoaduriaid yw brwydro yn erbyn rhai o sylwadau’r cyfryngau. Cytunaf yn llwyr â Siân Gwenllian mai rhan fawr o'r broblem fu peth o'r—ni wn sut i'w ddisgrifio—hysteria a'r ormodiaith. Adroddiadau niweidiol iawn ydyn nhw, a chwbl anghywir, fel arfer. Credaf fy mod yn barod i ddweud eu bod yn hollol anghywir, yn y rhan fwyaf o achosion, ynglŷn â'r canfyddiadau am geiswyr lloches a ffoaduriaid. Mewn gwirionedd, mae arolygon barn dro ar ôl tro wedi dangos nad yw llawer o'r cyhoedd yn deall y gwahaniaeth rhwng ystyr y geiriau 'mudwr', 'ceisiwr lloches', 'ffoadur' ac ati, sy'n dangos ynddo'i hun beth o'r hysteria sydd wedi bod o amgylch y sefyllfa hon, a cheir dadl ehangach ynglŷn â holl fater ymfudo yn y cyd-destun hwnnw hefyd. Ond beth bynnag, dyna holl bwynt yr wythnos hon, mewn gwirionedd, a dyna pam rydym ni'n cael y datganiad hwn a pham rydym ni'n tynnu sylw ato. Oherwydd, Dirprwy Lywydd, rydym yn wir yn dymuno tynnu sylw at fanteision enfawr y bobl sydd, wedi'r cyfan, yn ffoi rhag yr amgylchiadau mwyaf ofnadwy—bod y sgiliau a'r doniau y maen nhw'n eu rhoi i'n cymdeithas â'n diwylliant yn cael eu canmol a'u cydnabod. Dyna hollol ddiben hyn, a chytunaf â hi ar hynny.
Fel y dywedais, mae gennym raglen i gydnabod cymwysterau meddygon. Rwy'n gadeirydd y fforwm ffydd yma yng Nghymru ar ran y Prif Weinidog—ef yw'r cadeirydd ac rwyf innau'n gyd-gadeirydd, ac, yn aml, fi yw'r cadeirydd yn ymarferol. Cawsom ddadl fywiog iawn ar sut y gellid ymestyn y rhaglen honno allan i glinigwyr iechyd eraill, ac, mewn gwirionedd, i'r holl geiswyr lloches a'r ffoaduriaid sydd â chymwysterau proffesiynol y mae eu hangen ar ein gwlad. A beth bynnag, rydym yn awyddus i alluogi pobl i ddefnyddio'u sgiliau i'r eithaf. Nid wyf yn cytuno y dylem fod yn ceisio rheoli polisi mewnfudo ac ymestyn fisâu, ond rwyf yn cytuno y dylem fod yn pwyso ar y DU—rydym wedi gwneud hyn yn llwyddiannus iawn—o ran peidio â chael polisïau chwerthinllyd ynglŷn â chyfyngu ar fudo—heb sôn am geiswyr lloches a ffoaduriaid—pobl sydd â'r sgiliau hanfodol ar gyfer ein GIG a meysydd eraill ein heconomi. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl.
O ran gweinyddu'r wladwriaeth les, Dirprwy Lywydd, mae arnaf ofn eich bod yn mynd i dorri ar fy nhraws cyn i mi orffen os dechreuaf fynd drwy'r holl ddadleuon manwl ar hynny. Ond mae'n ddigon i mi ddweud nad ydym yn argyhoeddedig y gallwn liniaru peth o'r effeithiau gwaethaf yn y system les drwy ei gweinyddu ychydig yn wahanol. Byddwn yn edrych yn fanwl ar yr adroddiad argyfwng, ond rydym cydweithredu'n llwyddiannus iawn gyda'r Rhaglen Hawliau Lloches, a gyflwynodd Cyngor Ffoaduriaid Cymru mewn consortia, sy'n cynnwys Tros Gynnal Plant, dwyrain BAWSO, Asylum Justice, Dinas Noddfa, a phrosiect Displaced People in Action. Felly, mae gennym ni ddarn cydlynol a da ledled Cymru, sydd wedi gweld, gobeithio, benllanw'r cynllun da iawn hwn mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor. Ac rwy'n atgoffa pawb yng Nghymru, Dirprwy Lywydd, y daw'r ymgynghoriad i ben ddydd Llun nesaf.
Arweinydd y Tŷ, o ran adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r ymatebion a wnaeth Llywodraeth Cymru, tybed a wnewch chi roi mwy o fanylion a sicrwydd o ran rhai materion.
Yn gyntaf, y cynllun cydlyniant cymunedol: yr ymateb gan Lywodraeth Cymru oedd y byddai hwnnw'n cael ei gyhoeddi yn yr haf 2017 ac y byddai'n cynnwys camau gweithredu arbennig o ran naratif mwy cadarnhaol ynglŷn â ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd wedi setlo yma yng Nghymru. Felly, o ystyried ei bod yn haf 2017 a'r ffaith nad yw wedi'i gyhoeddi eto, tybed a wnewch chi ddweud wrthyf i pryd y caiff ei gyhoeddi a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi sylw i'r angen hwnnw am naratif mwy cadarnhaol yma yng Nghymru.
Ac o ran y gwasanaeth gwarcheidiaeth, gwn fod ymgynghoriad ar hyn o bryd ar weithredu i archwilio barn ar sefydlu gwasanaeth o'r fath. Eto, tybed beth yw amserlen y gwaith hwnnw, a pha bryd fydd y Llywodraeth mewn sefyllfa i egluro a fydd cynllun o'r fath.
Ar lety, arweinydd y tŷ, roedd llawer o bryder ynghylch gwiriadau hawl i rentu, y gwn eich bod yn teimlo i'r byw yn ei gylch, a'r ffaith y gallai hynny arwain at wahaniaethu. Rydym yn galw am asesiad ar unwaith o effaith Deddf Mewnfudo y DU, ac, yn wir, cafodd yr angen am yr asesiad hwnnw ei dderbyn. Felly tybed a ddigwyddodd hynny, ac os na, pa bryd fydd yn digwydd, a hefyd pa bryd y disgwylir cyflwyno gwiriadau hawl i rentu yma yng Nghymru, gan nad ydym yn ymwybodol o hynny eto.
Dim ond dau fater terfynol yn gyflym, Dirprwy Lywydd —
Yn gyflym iawn, os gwelwch yn dda.
Yn gyflym iawn. Nid yw'r cynllun ymgynghori drafft bob amser yn cynnwys amserlenni ar gyfer cyflawni, felly tybed a fydd gan y cynllun terfynol ddyddiadau clir ar gyfer cyflawni pob cam gweithredu, ac a fydd cyllid gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddyrannu i'r ymrwymiadau a wnaed yn y cynllun gweithredu drafft. Diolch.
Rydym wedi gwneud llawer o gynnydd yn y flwyddyn ddiwethaf, ond rydym yn rhwystredig iawn, fel y dywedais ynghynt: Llywodraeth y DU yn gwrthod rhannu manylion y contractau—y contractau cefnogi llety lloches sydd ar y gweill—oherwydd, fel y mynegodd John Griffiths yn hollol gywir, mae'r system llety yn hanfodol i sicrhau lles y rhai sy'n hawlio lloches. Ac, wrth gwrs, bydd y system yn effeithio yn anochel ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a cheiswyr lloches sy'n byw yma oherwydd yr holl faterion sy'n codi o ganlyniad i hynny, gan gynnwys iechyd meddwl gwael, integreiddio gwael ac ati. Rydym wedi gwneud nifer o ymdrechion i gael golwg ar y contractau, ond nid ydym wedi bod yn llwyddiannus. Nid yw hynny'n golygu ein bod wedi rhoi'r ffidil yn y to, rydym yn parhau i bwyso'n gryf iawn ar hynny.
Rydym hefyd wedi codi nifer o argymhellion y Pwyllgor gyda Llywodraeth y DU lle mae'r cyfrifoldeb yn llwyr, neu'n rhannol, gyda nhw. A bydd yna rai gwelliannau yn y dyfodol: mae hynny'n cynnwys hyfforddiant cydraddoldeb i ddarparwyr llety lloches ac rydym ni'n falch iawn o weld hynny'n cael ei gynnwys; proses gwyno sy'n annibynnol ar y darparwr llety; a rhywfaint o gyngor ychwanegol mewn cyfnod o symud ymlaen ar gyfer ffoaduriaid newydd. Ond nid ydym wedi llwyddo ym mhob un o'r meysydd, fel y dywedais sawl gwaith.
Felly, gan hynny, rydym yn ystyried sut y gallwn leihau effaith ac amlder amddifadedd mewn system les heb ei datganoli. Rydym wedi cymryd peth amser i ddatblygu'r cynllun newydd, fel y nododd John Griffiths, i sicrhau ein bod yn cyd-gynhyrchu cynllun gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi, i sicrhau y bydd y cynllun mewn gwirionedd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lesiant. Rwy'n amharod i ymrwymo i amserlen bendant iawn, ond deallaf fod hynny wedi mynd yn dda iawn, ac rydym yn gobeithio cyhoeddi rhywbeth yn weddol fuan. Mae'n bwysig iawn fod y cynllun hwnnw yn golygu rhywbeth i'r sefydliadau sy'n cyfrannu ato. Nid wyf yn dymuno torri'r broses honno'n fyr; credaf fod hynny'n bwysig iawn. Ac, wrth gwrs, byddem yn awyddus i weld canlyniadau realistig a dylanwadol. Felly, byddaf yn sicrhau bod y rheini yn bodoli, ac rwy'n siŵr y bydd y Pwyllgor yn cymryd diddordeb manwl iawn yn hynny o beth. Rwy'n hapus iawn i drafod hynny gyda'r Pwyllgor, wrth inni fynd yn ein blaenau.
Y peth olaf yr oeddwn yn dymuno'i ddweud yw ein bod wedi ariannu cyfres o grwpiau ffocws gyda phlant a phobl ifanc sy'n ceisio lloches ar eu pennau eu hunain er mwyn deall mwy am eu safbwyntiau a'u profiadau o'r gwasanaethau a gawsant. Bydd yr adroddiad hwnnw yn cael ei gyhoeddi'n fuan hefyd a bydd yn helpu i lywio ein gwaith i'r dyfodol, gan gynnwys y gwaith ar y cynllun. Felly, rydym yn gobeithio gweithio'n agos iawn gyda'r pwyllgor yn y dyfodol.
Mae gan Brydain draddodiad balch o groesawu ffoaduriaid, o'r Huguenotiaid yn yr ail ganrif ar bymtheg hyd at Asiaid Uganda yn y 1970au. Dylem—yn wir, mae'n rhaid inni—gadw at y traddodiad hwnnw. Y broblem sydd gennym heddiw yw bod y gwahaniaeth rhwng ceiswyr lloches gwirioneddol a mudwyr economaidd wedi mynd yn aneglur. Mae hyn yn arbennig o wir am y cyhoedd. Felly ceir adlach annheg yn erbyn ffoaduriaid gwirioneddol, er enghraifft y rhai sy'n dianc rhag rhyfel yn Syria, y mae gennym rwymedigaeth foesol enfawr i dderbyn ein cyfran deg ohonynt, gan inni ganiatáu ein hunain i gymryd rhan yn y gwrthryfel yn erbyn Assad. Ac er na fyddem, wrth gwrs, yn amddiffyn ei fath ef o drefn, daeth yn amlwg fod unrhyw fath o drefn yn well na chyflafan a distryw diatal a gododd yn sgil cyfranogiad y gorllewin mewn gwlad arall eto yn y dwyrain canol.
Am gannoedd o flynyddoedd, rydym wedi derbyn ffoaduriaid, ond degau o filoedd y flwyddyn oedd niferoedd y rhain. Rhoddwyd llety i'r bobl hyn a'u hintegreiddio yn ein cymdeithas yn hawdd. Mae Asiaid Uganda yn enghraifft wych o hyn. Er hynny, dros y degawd diwethaf, rydym wedi wynebu'r dasg o letya cannoedd o filoedd bob blwyddyn, sydd, wrth gwrs, yn effeithio ar ein gallu i ddarparu holl seilwaith ac anghenion cymdeithasol y bobl hyn, sydd eto yn effeithio ar y rhai sydd â'r angen mwyaf dybryd am ein cymorth. Nid pryder yn y Deyrnas Unedig yn unig yw hyn. Teimlir aflonyddwch cymdeithasol a straen economaidd ledled Ewrop yn wyneb lefelau o ymfudo nas gwelwyd o'r blaen. Mae'r anallu i wahaniaethu rhwng ceiswyr lloches gwirioneddol a mudwyr economaidd yn peri aflonyddwch a gwrthwynebiad mewn gwledydd fel yr Almaen, yr Eidal, Gwlad Belg a Sbaen.
Mae'n rhaid bod gennym, felly, reolaethau ffin priodol fel y gallwn asesu'r rhai hynny sydd ag angen dybryd a phriodol am loches, ond gyda rheolaethau llymach ar y rhai sy'n dod yma am resymau economaidd. Wrth gwrs mae UKIP yn cefnogi'r holl fesurau a gynigir yn y datganiad hwn. Rydym yn cydnabod y trawma a brofodd llawer o'r bobl hyn sydd wedi'u dadleoli, ac rydym yn cydnabod yr angen i ddarparu ymyriadau i helpu i roi croeso i'r bobl hyn, a chysur ac integreiddiad llawn yn ein cymdeithas yng Nghymru. Felly, dim ond un cwestiwn sydd gennyf i chi, arweinydd y tŷ, sef: pa waith sy'n cael ei wneud i wahaniaethu rhwng ceiswyr lloches a ffoaduriaid a mudwyr economaidd ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol?
Wel, rwy'n falch eich bod yn cefnogi'r egwyddor, ond rwy'n anghytuno yn sylfaenol gyda'ch dadl chi, mae'n rhaid imi ddweud. Dechreuodd Wythnos Ffoaduriaid, fel y dywedais, yn y DU ym 1998 yn ymateb uniongyrchol i elyniaeth yn y cyfryngau ac yn y gymdeithas gyffredinol tuag at ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Erbyn hyn, mae'n un o fentrau mwyaf blaenllaw y DU sy'n gweithio i wrthsefyll yr hinsawdd negyddol hon, fel y dywedais wrth Siân Gwenllian ynghynt, sy'n amddiffyn pwysigrwydd noddfa a'r manteision a ddaw i ffoaduriaid a'r cymunedau lletyol fel ei gilydd, ac fe gaiff ei dathlu'n eang mewn llawer gwlad arall—Awstralia a'r Unol Daleithiau, er enghraifft, a Ffrainc, a gynhaliodd eu Hwythnos Ffoaduriaid gyntaf yn 2016. Felly mae'n stori o newyddion da sy'n lledaenu.
Ond nid wyf i'n hoffi—. Wel, yn gyntaf oll, nid yw'r ystadegau hyn y mae David Rowlands yn eu dyfynnu yn bethau yr ydym yn eu cydnabod yma yng Nghymru. Mater bach iawn yw mudo yma. Fel rhywun a dreuliodd y rhan fwyaf o'i bywyd dramor oherwydd roedd fy nheulu yn fudwyr economaidd, pan geisiodd fy nhad am waith ledled y byd er mwyn rhoi bywyd gwell i'w deulu, ni allaf fod mor galon galed â dweud bod rhywun sy'n ffoi rhag rhyfel yn ffoadur priodol ond nad yw rhywun sy'n ffoi rhag newyn a thlodi mawr yn ffoadur priodol. Felly, Dirprwy Lywydd, ni allaf gytuno ag unrhyw beth, ar wahân i'r gefnogaeth gyffredinol, a ddywedodd David Rowlands.
A gaf i groesawu'r datganiad, yn ystod Wythnos Ffoaduriaid Cymru, ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, 'Cenedl Noddfa—Cynllun Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid '? Mae'r ffaith fod y cynllun hwn wedi'i lunio ar y cyd â Chyngor Ffoaduriaid Cymru a phartneriaid eraill yn arwydd o ddull cynhwysol blaengar Llywodraeth Cymru, gan dynnu, i raddau helaeth, ar argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
Eleni, rydym yn dathlu dengmlwyddiant a thrigain sefydlu'r GIG, ac rwy'n falch eich bod wedi tynnu sylw at weithredu cynnar a gymerais yn Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi rhaglen meddygon ffoaduriaid Cymru—roedd y meddygon ffoaduriaid yn awyddus i gyfrannu eu sgiliau i'r GIG. O ganlyniad i'r cynllun hyfforddiant, iaith a chymorth arloesol, defnyddiwyd eu sgiliau yn fuan, gan arwain at 85 o ffoaduriaid yn cael eu cofrestru yn feddygon gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol, gan ymarfer dros yr 16 mlynedd diwethaf. Am gyfraniad. Arweinydd y tŷ, a ymunwch â mi i longyfarch y meddygon hyn, sy'n gweithio ledled y GIG yn y DU, o ganlyniad i'r fenter hon, yn sgil, i raddau helaeth, Aled Edwards o Cytûn yn dod ataf i ac yn dweud, 'Fe allwn ni wneud hyn, Jane', a dyna a wnaethom ni.
Ond hefyd, a gawn ni, ledled y Siambr, ddiolch i bawb yn ein hetholaethau a gefnogodd y cynllun ffoaduriaid o Syria, a'm tref innau, y Barri, yn rhoi croeso a chefnogaeth i deuluoedd dros y tair blynedd diwethaf—teuluoedd sydd bellach yn setlo ac yn cyfrannu at y gymuned hon â'u sgiliau a'u talentau? Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r grŵp gwirfoddol Enfys, grŵp ar gyfer rhai o ethnigrwydd du a lleiafrifol, sy'n darparu cyfeillgarwch a chymorth personol a chymdeithasol i fenywod PDDLLE ym Mro Morgannwg. Ond rwy'n bryderus i ddeall a yw Llywodraeth Cymru yn cael y parch dyledus a'r cydweithrediad o ran integreiddio'r teuluoedd hyn yn ein cymunedau gan y Swyddfa Gartref, sydd yn amlwg yn arwain y cynllun hwnnw. Byddwn yn ddiolchgar am eich ymateb i hynny. Hefyd, arweinydd y tŷ, byddwch yn ymwybodol o fentrau cymunedol ledled Cymru, megis Croeso Llanilltud Fawr, sydd yn dilyn Croeso Arberth, yn croesawu teulu o ffoaduriaid o Syria i Lanilltud Fawr. Yn olaf, fel noddwr i BAWSO, dymunaf gydnabod y gwaith a wneir gan yr elusen arbenigol hon i gefnogi menywod sy'n dianc rhag trais, gan gynnwys menywod sy'n ffoaduriaid.
Ie, wrth gwrs, rwy'n hapus iawn i gydnabod gwaith nifer fawr o sefydliadau ledled Cymru sydd wedi gweithio'n galed iawn i gydgynhyrchu ein cynlluniau, ac sydd, wrth gwrs, yn gweithio bob dydd i wneud yn siŵr bod ffoaduriaid a phobl sy'n ceisio lloches ledled Cymru yn cael eu hintegreiddio. Bydd mudiad Croeso, gobeithio, yn mynd ymhellach hyd yn oed; mae hi'n fenter ragorol. Ond, fel y dywedais, mae nifer fawr o sefydliadau eraill wedi gweithio yn ofalus gyda ni, oherwydd ein bod yn awyddus iawn i'r cynllun hwn fod yn rhywbeth a gynhyrchwyd ar y cyd gyda'r cymunedau, fel ei fod yn ystyrlon iddyn nhw mewn gwirionedd.
Rydym yn ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am gynhyrchu ei adroddiadau cynhwysfawr, ac rydym wedi gweithio'n ofalus iawn drwy'r argymhellion gyda'r cymunedau i'w cefnogi. Ceir nifer o bethau penodol iawn y gallwn ei ddweud. Rwyf wedi dweud rhywbeth am y siom ynglŷn â llety. Ond byddwn yn gweithio gyda phartneriaid awdurdodau lleol i wneud yn siŵr y gallwn ymyrryd, a'n bod yn gwneud felly, a bod pobl yn byw mewn llety sy'n addas at y diben. Fel y dywedais, ceir nifer o welliannau eraill ynghylch y broses gwynion ac ati y gellir eu rhoi ar waith.
Rydym yn cydnabod hefyd y mater gwirioneddol ynglŷn ag amddifadedd. Felly rydym wedi rhoi nifer o wasanaethau cynghori ar waith i helpu pobl i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Hoffwn ddweud eto, Dirprwy Lywydd, wrth Lywodraeth y DU ein bod yn awyddus iawn iddynt beidio â rhoi arian Llywodraeth Cymru ar restr y cynllun 'na cheir gofyn cymorth arian cyhoeddus', fel y gallwn ni, yma yng Nghymru, wneud yn siŵr nad oes gennym ffoaduriaid a cheiswyr lloches tlawd ar garreg ein drws ac y gallwn ymestyn ein harian cyhoeddus iddynt yn briodol.
Credaf mai'r peth cyntaf yr wyf yn dymuno'i ddweud heddiw yw fy mod yn siŵr fod rhai ohonom wedi gweld y golygfeydd yn America lle mae plant yn cael eu cipio'n llythrennol o freichiau eu rhieni a'r niwed a wneir i rieni, a hefyd i'r plant, ac i'r genedl. Felly, gyda pharch, byddwn yn gofyn ichi a ydych yn condemnio'r gweithredoedd hynny. Rwy'n falch hefyd nad ydym yn dilyn y camau hynny yma yng Nghymru. Mae'n gwbl warthus, mae'n gwbl annynol ac ni allaf gredu—ac rwy'n siŵr na all neb arall yma gredu—y gallwch weld Arlywydd un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd yn sefyll ar ei draed ac yn dweud mewn gwirionedd bod hynny'n ymddygiad derbyniol. Felly, diolch ichi am ganiatáu amser i mi ddweud hynny heddiw.
Yn y modd hwnnw, rwy'n tybio, yr wyf i'n codi yma heddiw. Ceir erthygl yn The Guardian, ac mae gennyf gopi yma—nid sbwriel ydyw, felly efallai ei bod yn iawn i mi ei ddal i fyny—astudiaeth sydd yma o'r hunanladdiadau sydd wedi digwydd am fod y system mor araf yn prosesu—yn aml iawn—bobl ifanc dan oed. Dywedir wrthynt yn glir iawn, yn 17 a hanner oed, os nad ydyn nhw wedi setlo, y bydd yn rhaid iddynt adael y wlad, ac maen nhw eisoes wedi bod drwy'r sefyllfaoedd hynod drawmatig hyn lle maen nhw wedi dioddef yn gorfforol ac yn feddyliol er mwyn cyrraedd y cam hwn lle maent yn awr. Ac yna maen nhw'n canfod bod eu holl obeithion a'u breuddwydion am gael eu . Felly fy nghwestiwn yw hyn, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddau grŵp. Un grŵp yw'r rhai dan oed ar eu pennau eu hunain sy'n cael eu hunain mewn sefyllfa o amddifadedd, yn aml iawn, ac wedyn yn anobeithio, ac wedyn maen nhw'n anafu eu hunain, ac wedyn, yn olaf, yn cymryd eu bywydau eu hunain. Ac mae hynny wedi digwydd yma yng Nghymru hefyd. Rwy'n cofio mynd i Noddfa Ffoaduriaid y Gelli Gandryll, Aberhonddu a Thalgarth, a chyflwyno araith yno wrth iddynt goffáu un o'u plith, a'r effaith aruthrol a gafodd hyn ar y bobl hynny, fel grŵp, a oedd wedi gwneud popeth yn eu gallu i helpu'r unigolyn hwnnw i gael bywyd gwerth ei fyw.
Y grŵp arall yr wyf yn awyddus iawn i ganolbwyntio arno—a menywod ydyn nhw, fwy neu lai—yw'r rheini sy'n cael eu hunain yn ddioddefwyr ymosodiadau rhywiol a thrais, a'r cyfan sy'n dod yn sgil hynny, ond nid menywod yn unig sy'n dioddef: mae rhai dynion yn dioddef hefyd. Nodaf, yn eich datganiad, fod yna ymarfer cwmpasu i ganfod y prif anawsterau a wynebir gan geiswyr lloches a ffoaduriaid sydd wedi profi hynny, fel y gallwch chi gymryd camau. Rwy'n edrych ymlaen, arweinydd y tŷ, at ganlyniad hwnnw. Ac a oes gennych unrhyw syniad o gwbl pryd y gallem ddisgwyl canlyniadau rhai o'r ymarferion cwmpasu hynny?
Mae Joyce Watson yn crybwyll nifer o faterion pwysig iawn. Fel rwy'n dweud, rydym ni wedi cael pum sesiwn ledled Cymru, ac mae bron i 100 o weithwyr cymdeithasol ac eiriolwyr wedi cael eu hyfforddi i asesu oedran plant a phobl ifanc, fel nad ydym ni'n gweld peth o'r camweinyddu cyfiawnder a welsom ni yn y system. Byddwn yn cyhoeddi cyfres o adnoddau gwybodaeth a chyngor a fydd yn helpu gweithwyr cymdeithasol i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n ceisio lloches heb gydymaith, i roi cyngor ynglŷn â gofalwyr maeth cyfredol a phosibl, ac i gynghori'r plant a'r bobl ifanc eu hunain. Mae hyn yn bodloni'r ymrwymiad i gynhyrchu'r wybodaeth honno sydd yn strategaeth pedair cenedl Llywodraeth y DU i ddiogelu plant sy'n ceisio lloches heb gydymaith, y mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu ati. Rwy'n gwybod fod yr Aelod yn wirioneddol bryderus ynglŷn â'r mater hwn o gaethwasiaeth fodern, yn ogystal ag am bobl sy'n ffoi rhag trais rhywiol yn arbennig, sydd yn aml yn cael eu dal gan bobl sy'n manteisio yn fawr yn hynny o beth.
Rydym ni wedi ariannu cyfres o grwpiau ffocws gyda phlant a phobl ifanc sy'n ceisio lloches heb gydymaith, i ddeall mwy am eu safbwyntiau a'u profiadau o'r gwasanaethau y maen nhw wedi'u derbyn yng Nghymru. Fel y dywedais wrth John Griffiths yn gynharach, bydd yr adroddiad hwnnw yn cael ei gyhoeddi cyn hir, a bydd yn helpu i lywio ein gwaith yn y dyfodol, gan gynnwys y cynllun cyflawni terfynol ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Rydym ni hefyd wedi cefnogi'r gwaith o ddarparu hyfforddiant i ofalwyr maeth y plant sy'n ceisio lloches heb gydymaith, a'r rhai fydd o bosibl yn gofalu amdanyn nhw yn y dyfodol, fel ein bod yn ceisio sicrhau bod plant yn cael y profiad gorau posibl. Rwy'n rhannu arswyd Joyce Watson wrth edrych ar rai o'r golygfeydd a welsom ni yn yr Unol Daleithiau. Rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod y DU yn hollol o ddifrif, yn rhan o'r broses Brexit, ein bod yn aros yn rhan o'r protocolau yn Ewrop sy'n caniatáu ailuno teuluoedd, oherwydd mae hynny'n rhan sylweddol iawn o'r hyn sydd wedi dod yn sgil ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, ac mewn gwirionedd, rwy'n dymuno, yn fawr iawn, parhau â hynny, os yw'n bosibl.
Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn ichi, Dirprwy Lywydd, a diolch ichi am alw arnaf i siarad ar yr ymgynghoriad pwysig iawn hwn, yr wyf yn gobeithio y bydd yn ein helpu i fod yn genedl sy'n noddfa wirioneddol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ond nid wyf i o'r farn y dylem ni fyth ddiystyru faint o hiliaeth a rhagfarn y mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn ei wynebu yn feunyddiol. Rwy'n gefnogol iawn o'r faith fod y cynllun hwn yn cael ei lunio ar y cyd â'r ffoaduriaid a'r ceiswyr lloches; credaf fod hynny'n gwbl hanfodol. A chredaf fod y neges a roddodd arweinydd y tŷ yn un bwysig iawn, mai ein cyfrifoldeb ni i gyd yw gwneud i'r bobl deimlo croeso. Mae enghreifftiau gwych o hynny wedi'u crybwyll. Rwy'n gwybod fod Arberth a Llanilltud Fawr wedi'u crybwyll heddiw, ac rwy'n gwybod nod Grŵp Dinas Noddfa Gelli, Aberhonddu a Thalgarth wedi bod yn cynnal digwyddiadau ym mhob cwr o Bowys mewn neuaddau pentref, gan roi diwrnod i'r brenin yng nghefn gwlad i ffoaduriaid i roi ymdeimlad o groeso iddynt, ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus iawn. Ond, fel y dywedodd arweinydd y Tŷ, nid system unffordd mohoni oherwydd rydym ni yn wir ar ein hennill yn sgil pobl sydd wedi dod yma i'n gwlad.
Roeddwn yn meddwl tybed a allai arweinydd y tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn ag a fu unrhyw gynnydd yng ngallu ceiswyr lloches i weithio, oherwydd un o'r problemau mwyaf yr wyf i wedi'u hwynebu â cheiswyr lloches yw eu hanallu i gael swydd oherwydd polisi Llywodraeth San Steffan. Mae llawer o bobl wedi dweud wrthyf, 'Fy unig ddymuniad yw gweithio', ac nid ydyn nhw wedi gallu gwneud hynny.
Mae'r fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru a gyflwynodd Jane Hutt ynglŷn â meddygon yn cael eu cymwysterau yn gwbl wych. Roeddwn yn falch iawn fod arweinydd y tŷ wedi dweud y gellid ystyried hyn efallai ar gyfer yr holl gymwysterau eraill. Felly, nid wyf yn gwybod a oes unrhyw gynlluniau yn bod i wneud hynny. Os oes yna, efallai y gallech chi roi'r manylion inni.
Ac yna'r mater arall yr wyf yn teimlo'n bryderus iawn amdano yw pobl ifanc sy'n ceisio lloches yn dymuno mynd i brifysgol, oherwydd mae'r ceisiadau hyn am loches yn rhygnu ymlaen am flynyddoedd weithiau. Rwyf wedi gweld llawer o enghreifftiau o geiswyr lloches ifanc neu blant sy'n geiswyr lloches, nad ydyn nhw wedi gallu manteisio ar leoedd mewn prifysgolion oherwydd nad ydyn nhw wedi gallu cael arian. Felly, nid wyf yn gwybod a oes unrhyw gynnydd ynglŷn â hynny, neu unrhyw beth y gall y Llywodraeth ei wneud.
Hoffwn orffen drwy sôn am fenter wych yn Ysgol Uwchradd Llanisien yn fy etholaeth i, sydd newydd dderbyn statws Ysgol Noddfa. Mae Siân Owens, aelod o staff yno, wedi arwain rhaglen ymwybyddiaeth wych ble'r aeth pobl ifanc i siarad â gwahanol grwpiau, a dysgu am yr hyn sy'n digwydd mewn canolfannau cadw, a derbyn hyfforddiant gan HOPE not hate. Mae'n ymddangos yn fenter wirioneddol wych, ac rwy'n siŵr y bydd hi yn awyddus i ategu fy llongyfarchiadau iddyn nhw ar yr hyn y maen nhw wedi'i wneud.
Ydy, mae honno'n fenter wirioneddol wych. Gorau po fwyaf y gallwn ni ei annog i sicrhau bod gan bobl ifanc gyd-ddealltwriaeth o sut y daethant i fod yn lle y maent, a beth maen nhw'n ei roi i'r ystafell ddosbarth.
Gofynnodd nifer o gwestiynau, y gallaf ddweud rhywbeth amdanynt yn gyflym. Mae gennym ni ddiddordeb mawr mewn edrych ar y cynlluniau i gydnabod cymwysterau eraill, ond mewn gwirionedd beth rydym ni eisiau ei wneud yn gyntaf yw gweld a allwn ni ymestyn yr un meddygol i glinigwyr eraill, ac yna ei ymestyn allan. Rwyf i fod i gael sgyrsiau gyda'r gwahanol Ysgrifenyddion Cabinet ynghylch sut y gallwn ni wneud cynnydd yn hynny o beth yn rhan o'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud, oherwydd rwy'n awyddus iawn y dylem ni ganiatáu pobl i wneud y cyfraniad llawn y gallant ei wneud i'n cymdeithas.
O ran y gwaith, nid ydym ni wedi gwneud unrhyw gynnydd, mae'n ddrwg gennyf ddweud, o ran caniatáu i geiswyr lloches weithio, ond mae problem hyd yn oed gyda gwirfoddoli, oherwydd mai dim ond gydag elusen y gallwch chi wirfoddoli. Mewn rhannau helaeth o Gymru wledig, os na allwch chi wirfoddoli gyda busnes, yna nid ydych chi mewn gwirionedd yn mynd i allu gwirfoddoli o gwbl. Felly, rwyf wedi sôn yn gadarn iawn am hynny droeon i Weinidogion Llywodraeth y DU, ac rydym ni yn obeithiol y byddant yn edrych ar y darn hwnnw o leiaf. Ond does dim unfrydedd barn ynglŷn â'r agwedd o waith yn gyffredinol.
O ran yr hyn y gall ceiswyr lloches ei roi yn ôl—ac wedi'r cyfan, Dirprwy Lywydd, mae hwn yn ddathliad o ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac rydym ni wedi taro nodyn braidd yn ddigalon gyda rhai o'r problemau—dim ond i dynnaf sylw at y ffaith, yn fy etholaeth fy hun, yn ogystal ag mewn llawer o rai eraill y mae llawer o Aelodau eisoes wedi crybwyll, ceir prosiect ysgrifennu gwych gyda cheiswyr lloches. Maen nhw'n ysgrifennu'r straeon a'r cerddi mwyaf anhygoel, weithiau am eu profiadau, ond am bethau cyffredinol weithiau. Mae'n gynllun gwych. Mae gennyf nifer o lyfrau y gallaf, am gyfraniad bach i elusen o'm dewis, eu rhannu â chi. Gallwch eu darllen yn fy ystafell os nad ydych yn barod i roi eich llaw yn eich poced ar gyfer yr elusen, ond mae gen i gyflenwad mawr ohonynt, os yw Aelodau eisiau manteisio ar hynny, oherwydd rwy'n cefnogi'r prosiect hwnnw.
Hoffwn ddweud hyn: mae Wythnos Ffoaduriaid yn ŵyl ymbarél. Mae'r digwyddiadau yn cynnwys amrywiaeth eang o sefydliadau celfyddydol, gwirfoddol a ffydd, sefydliadau cymunedol ffoaduriaid, grwpiau o fyfyrwyr ysgol a mwy, ac maen nhw'n cynnwys gwyliau celfyddydol, arddangosfeydd, dangosiadau ffilm, perfformiadau dawns a theatr, cyngherddau, twrnameintiau pêl-droed a thrafodaethau cyhoeddus, yn ogystal â gweithgareddau creadigol ac addysgiadol mewn ysgolion. Felly, Ddirprwy Lywydd, er gwaethaf yr anobaith a'r digalondid yr ymddengys ein bod wedi eu profi, yr wyf yn ei ddeall yn llwyr, dymunaf bwysleisio bod hon yn Ŵyl i ddathlu'r cyfraniad y mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn ei wneud i'n cymdeithas.
Yn olaf, Bethan Sayed.
Diolch. Doeddwn i ddim yn mynd i siarad ac yna teimlais fy mod eisiau gwneud, oherwydd rwyf wedi gwneud cryn dipyn o waith yn y maes hwn, a phan soniodd rhywun yn gynharach am y 'bobl hyn' meddyliais yn sydyn am y ffaith nad y 'bobl hyn' yn unig ydyn nhw, mae ganddyn nhw enwau: mae Ahin Ahmed, Ibrahim Saba yn ddim ond rhai o'r rhai hynny yr wyf i wedi eu cyfarfod. Credaf ein bod, weithiau, yn siarad am bobl heb ystyried eu bod mewn gwirionedd yn fodau dynol yn ein cymdeithas, ac rwy'n credu mai dyna sut y mae angen inni gyflwyno'r ddadl, a bod ganddyn nhw gymaint i'w roi i ni yn ogystal. Felly, yr agwedd gadarnhaol yr hoffwn ei chyflwyno yw nid yn unig ein bod ni yn eu helpu nhw, ond y gallan nhw ein helpu ni, boed hynny drwy ddiwylliannau newydd, boed hynny drwy ffyrdd newydd o fyw, defodau newydd y gallwn ni ddysgu amdanynt, bwydydd newydd neu flasau newydd, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem ni i gyd ei ddysgu gan y rhai sy'n dod i Gymru.
Credaf ei bod hi'n bwysig, oni fyddech chi'n cytuno â mi, bod sefydliadau megis Bloom yn Abertawe a'r Prosiect Ymateb Cymorth Dyngarol Abertawe yn werth eu crybwyll? Oherwydd mae llawer o arwyr di-glod yn hyn oll—gwirfoddolwyr sydd naill ai wedi ymddeol neu bobl ifanc sydd yn jyglo, yn helpu ceiswyr lloches drwy gyfieithu, yn ceisio bod mor gefnogol ag y gallan nhw, a danfon nwyddau i eraill. Ymwelais â cheisiwr lloches yr wythnos diwethaf ac roedd ei phram yn syrthio'n ddarnau. O fewn pum munud i mi ofyn ar Facebook, roedd rhywun wedi danfon pram i mi ac es ag ef iddi ddydd Sadwrn. Roedd hwn yn ddarn drud iawn o gyfarpar na fyddai hi wedi gallu ei fforddio oni bai am letygarwch rhywun yr oeddwn yn ei adnabod. Felly, credaf mai dyna'r elfen gadarnhaol a ddaw o hyn i gyd.
Yr unig faterion oedd gennyf oedd eisiau gofyn rhai cwestiynau i chi o ran y cynllun adsefydlu ffoaduriaid o Syria. Mae hwnnw'n dod i ben yn fuan, felly meddwl wyf i tybed a wyddoch chi a fydd digon o ddilyniant, ac oherwydd bod y ffrydiau ariannu hynny yn dod i ben a wyddom ni nad yw ffoaduriaid o Syria yn mynd i gael eu gadael yn ynysig, ac yn mynd i gael y mecanweithiau cymorth i'w cefnogi.
Byddwn hefyd yn dweud nad yw'r dyraniadau tai yn ddigon da o lawer ar hyn o bryd. Byddaf yn ymweld â theuluoedd sydd ar ben bryniau, yn gwthio pramiau, heb fynediad at lwybrau bysiau, ac maen nhw'n teimlo'n ynysig. Maen nhw yn y tŷ drwy'r dydd, a wyddoch chi beth? Rwy'n credu bod Llywodraeth y DU yn dymuno i hynny ddigwydd yn aml iawn. Maen nhw eisiau iddyn nhw aros yn eu tai, wedi'u hynysu, oherwydd nad ydyn nhw eisiau iddyn nhw wneud ffrindiau, nid ydyn nhw eisiau iddyn nhw deimlo'n rhan o'r gymuned, oherwydd mae hynny'n ddefnyddiol iddyn nhw pan fydd hi'n bryd penderfynu eu halltudio, yn aml iawn. Efallai fy mod yn sinigaidd, ond credaf fod gan hynny rywbeth i'w wneud â'r dyraniadau a lle mae'r tai hynny. Felly, rwy'n eich annog i ddefnyddio'r holl ddylanwad sydd gennych chi mewn perthynas â hynny.
Er enghraifft, yng Nghastell-nedd Port Talbot, nid oes gennym ni unrhyw un sy'n gwerthu bwyd halal. Mae'n rhaid iddyn nhw deithio i Abertawe i gael y bwyd hwnnw. Rwyf wedi ysgrifennu at Tesco, rwyf wedi ysgrifennu at siopau gwahanol yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn gofyn a ellir darparu bwyd halal, ac maen nhw'n dweud na, nid yw'r galw ganddyn nhw. Wel, os yw hynny'n wir, sut maen nhw'n darparu ar gyfer yr union bobl hynny sy'n fwyaf agored i niwed, na fyddant ond yn bwyta'r bwyd hwnnw yn eu bywydau bob dydd?
Yr hyn yr oedd arnaf i eisiau gorffen ag ef oedd hyn: roeddwn wedi synnu y diwrnod o'r blaen, eto wrth ymweld â theulu, a ddywedodd y gwrthodwyd grant gwisg ysgol i'w phlant oherwydd nad oedden nhw yn ffoaduriaid o Syria. Yn ôl pob tebyg nid oes unrhyw system ddwy-haen, ond os ystyrir nad yw ei phlant sy'n dod o wlad wahanol ddim mor bwysig â ffoaduriaid o Syria, yna mae hynny'n mynd i greu tensiwn rhwng ffoaduriaid a cheiswyr lloches nad oes ei angen mewn oes lle maen nhw eisoes yn teimlo eu bod yn cael eu herlid. Felly, pe gallech chi wneud unrhyw beth o ran ag anfon canllawiau diwygiedig i ysgolion, byddwn yn ddiolchgar iawn am hynny.
O ran hynny, os hoffech chi ysgrifennu ataf gyda manylion penodol, gallaf wneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Nid ydym yn hoffi'r system ddwy-haen, Dirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i leihau anghysondebau drwy sicrhau bod holl ffoaduriaid yn gymwys ar gyfer cynlluniau Llywodraeth Cymru yng Nghymru. Felly, rydym yn gwneud ein gorau. Mae system ddwy-haen wedi ei rhoi ar waith gan Lywodraeth y DU, ond rydym yn gwneud ein gorau i wneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd.
Yn anffodus, rwy'n rhannu sinigiaeth Bethan Sayed am y strategaeth llety. Credaf mai rhywbeth arbed arian ydyw ac yn rhywbeth sy'n gorfodi pobl i beidio ag integreiddio cystal ag y gallent. Rhan fawr o'r hyn a wnawn yw ceisio gwneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd, felly mae'n golygu rhywfaint o ymdrechu.
Ond roeddwn eisiau mynd yn ôl at yr hyn y dechreuodd ag ef, mewn gwirionedd, Dirprwy Lywydd, oherwydd mae Bloom a SHARP yn ddau sefydliad yr wyf yn gyfarwydd iawn â nhw yn ardal Abertawe, ond mae eraill, ar draws Cymru, ac mae'n galonogol iawn pan rydych chi'n gwneud apêl ar gyfryngau cymdeithasol neu mae un o'r rheini yn rhoi rhestr fach i fyny o'r pethau sydd eu hangen yn arbennig ar gyfer teulu, mae pobl Cymru yn hynod o hael yn eu hymateb i hynny. Mae bob amser yn codi fy nghalon, beth bynnag, i weld hynny'n digwydd, wedi'r cyfan, Dirprwy Lywydd, rydym ni mewn gwirionedd yn genedl noddfa.
Diolch yn fawr iawn.