– Senedd Cymru am 4:29 pm ar 27 Mehefin 2018.
Symudwn ymlaen at eitem 7, sef dadl ar ddeisebau P-04-472, 'Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf', a P-04-575, 'Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar gyfer Cloddio Glo Brig'. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i wneud y cynnig—David Rowlands.
Cynnig NDM6747 David J. Rowlands
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddeiseb P-04-472, 'Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf a Deiseb P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig— Crynodeb o’r ystyriaeth', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch ichi am y cyfle i gael y ddadl hon am adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddwy ddeiseb yn ymwneud â chloddio glo brig. Cyflwynwyd y ddwy ddeiseb yn ystod y tymor Cynulliad blaenorol ac maent wedi bod yn destun trafodaeth ers cryn dipyn o amser. Felly, hoffwn ddechrau drwy gydnabod y gwaith a wnaed ar y materion hyn gan Aelodau yn y Cynulliad cyfredol a'r Cynulliad blaenorol. Yn benodol, hoffwn gofnodi ein diolch i'r Pwyllgor Deisebau blaenorol.
Mae deiseb P-04-472, a gyflwynwyd gan Dr John Cox ac a ddenodd 680 o lofnodion, yn ymwneud â statws 'Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 2: Glo ', a elwir yn fwy cyffredinol yn MTAN 2. Dadl Dr Cox yw y dylai cynnwys y MTAN gael ei wneud yn orfodol yng nghyfraith gynllunio Cymru. Yn benodol, mae wedi cyfeirio at y gofyniad i gael clustogfa o 500m o amgylch gweithfeydd glo brig ac mae wedi darparu enghreifftiau o ble na chafodd hyn ei orfodi.
Mae'r ail ddeiseb i'r Cynulliad, P-04-575, yn galw am alw i mewn pob cais cynllunio cloddio glo brig i'w penderfynu gan Lywodraeth Cymru. Fe'i cyflwynwyd gan Grŵp Gweithredu United Valleys, dan arweiniad Terry Evans, a chasglwyd 180 o lofnodion. Hoffai'r Pwyllgor Deisebau gydnabod y modd cydwybodol, penderfynol ac amyneddgar y mae'r ddwy set o ddeisebwyr wedi ymwneud â'r Cynulliad yn ystod y cyfnod y bu'r deisebau hyn dan ystyriaeth.
Gosodwyd ein hadroddiad ar y deisebau hyn yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill. Mae'r adroddiad yn cynnwys trosolwg o'r dystiolaeth a gawsom yn ystod ein hystyriaeth o'r materion hyn, yn y pedwerydd a'r pumed Cynulliad. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod y dystiolaeth a gawsom, boed yn ysgrifenedig neu ar lafar, hefyd ar gael i'r cyhoedd drwy wefan y Cynulliad.
Fe siaradaf am beth o'r dystiolaeth yn ystod gweddill y cyfraniad hwn. Mae canllawiau MTAN yn cwmpasu amrywiaeth eang o faterion sy'n ymwneud â datblygiadau glo, gan gynnwys dewis safleoedd, diogelu'r amgylchedd a lleihau effaith cloddio glo ar gymunedau lleol. Dylid ei ystyried mewn penderfyniadau cynllunio, fel polisïau a chanllawiau cynllunio eraill, ond ni cheir gofyniad statudol penodol i'w ddilyn.
Mae deiseb Dr Cox yn galw am roi'r MTAN ar sail statudol a gorfodol mewn cyfraith gynllunio. Cafodd y ddeiseb ei hysgogi gan y broses gynllunio a ddilynodd gais am waith glo brig yn y Farteg yn Nhorfaen. Gwn ei fod yn fater a godwyd yn y Siambr hon ar nifer o achlysuron blaenorol, yn arbennig gan Lynne Neagle, ac rydym yn cydnabod ei chyfraniad sylweddol i'r trafodaethau ynghylch MTAN.
Roedd y cais hwn yn mynd yn groes i agweddau ar y canllawiau MTAN, gan gynnwys mewn perthynas â'r glustogfa o amgylch y gwaith arfaethedig. Gwrthodwyd y cais gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, ond daeth yn destun apêl gan y datblygwr yn dilyn hynny. Barn Dr Cox oedd bod yr arolygydd cynllunio wedi anwybyddu'r canllawiau MTAN yn ystod y gwrandawiadau ac wrth wneud y penderfyniad i gymeradwyo'r cais. Y canlyniad oedd honiad y ddeiseb y dylid cryfhau'r canllawiau drwy eu rhoi ar sail statudol.
Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau bod angen i bolisïau cynllunio fod yn hyblyg mewn modd na fyddai'n bosibl pe baent yn gyfraith. Fodd bynnag, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi datgan ei barn y dylid ystyried polisi cynllunio ar bob cam yn ystod y broses gynllunio. Mae'r pwyllgor yn cytuno â hyn. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi lleisio pryderon ynghylch graddau'r oruchwyliaeth o fewn yr Arolygiaeth Gynllunio ei hun, a pha un a ddylid cynnal archwiliadau ar y penderfyniadau a wneir gan arolygwyr. Credwn fod hyn yn hynod bwysig ar gyfer sicrhau dull sylfaenol gyson o weithredu, yn enwedig mewn perthynas ag apeliadau.
Roedd y ddeiseb gan Grŵp Gweithredu United Valleys yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru alw i mewn pob cais cynllunio cloddio glo brig dros faint penodol. Byddai hyn yn ffordd o sicrhau'r cysondeb hwnnw o bosibl. Mae'r deisebwyr wedi dadlau bod goblygiadau'r datblygiadau hyn yn bellgyrhaeddol a hirsefydlog, gydag effeithiau y tu hwnt i'r ardal leol. Felly, maent yn teimlo y dylid ystyried ceisiadau o'r fath ar sail genedlaethol.
Mae'r pwyllgor yn nodi bod y broses galw i mewn yn ymwneud â'r cwestiwn ynglŷn â phwy ddylai wneud penderfyniad cynllunio, yn hytrach na rhinweddau, neu fel arall, unrhyw gais penodol. Gall y seiliau ar gyfer galw i mewn gynnwys achosion lle y gallai cais gael effaith y tu hwnt i'r ardal gyfagos; mae'n debygol o effeithio'n sylweddol ar ardaloedd tirwedd neu natur; neu mae'n groes i bolisïau cynllunio cenedlaethol. Dadl y deisebydd yw bod y meini prawf hyn oll yn berthnasol i geisiadau ar gyfer datblygiadau glo brig. Ar ben hynny, maent wedi mynegi pryderon ynglŷn ag i ba raddau y ceir arbenigedd a gwybodaeth dechnegol mewn awdurdodau cynllunio lleol i ymdrin yn effeithiol â cheisiadau cynllunio o'r math hwn. Fodd bynnag, mae Gweinidogion o'r farn y dylid defnyddio'r pŵer i alw ceisiadau i mewn yn ddetholus. Felly, nid yw Llywodraeth Cymru yn ystyried bod polisi hollgynhwysol ar gyfer galw i mewn pob cais cynllunio o'r math hwn yn briodol.
Trof yn awr at ddatblygiadau cyffredinol diweddar mewn perthynas â chloddio glo, a pholisïau cynllunio Llywodraeth Cymru yn benodol. Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet hi'n glir ar sawl achlysur mai bwriad Llywodraeth Cymru yw symud tuag at economi carbon isel ac oddi wrth y defnydd parhaus o danwydd ffosil. Mae'r ymgynghoriad diweddar ar newidiadau i 'Polisi Cynllunio Cymru' yn cadarnhau'r cyfeiriad teithio hwn. O ran cloddio glo brig, nododd y fersiwn o'r polisi a oedd yn destun ymgynghori,
'Ni ddylid caniatáu cynigion ar gyfer datblygiadau glo brig, pyllau glo dwfn na gwaredu gwastraff pyllau glo.'
Croesawodd y Pwyllgor Deisebau y dull hwn o weithredu yn ein hadroddiad. Mae'r ymgynghoriad bellach wedi cau, ac wrth gwrs, byddai gennym ddiddordeb mewn unrhyw ddiweddariadau y gall Ysgrifennydd y Cabinet eu darparu heddiw ar yr agwedd hon ar bolisi cynllunio cenedlaethol yn y dyfodol.
Hoffwn gyffwrdd yn fyr hefyd ar faterion etifeddiaeth a gwaith adfer. Amlygwyd nifer o enghreifftiau i ni lle roedd gwaith adfer ar safleoedd glo brig yn annigonol, neu hyd yn oed heb ddigwydd o gwbl. Dadleuai'r ddwy set o ddeisebwyr yn gryf fod angen gwneud llawer mwy ar hyn, gan gynnwys yr angen i awdurdodau lleol gael blaendal sy'n cyfateb i gostau llawn y gwaith o adfer y safle ymlaen llaw. Rydym yn nodi bod y mater hwn hefyd wedi bod yn destun sylw gan y cyfryngau yn ddiweddar. Unwaith eto, dyma fater sydd wedi'i gynnwys yn 'Polisi Cynllunio Cymru'. Fodd bynnag, er bod y polisi drafft yn pwysleisio pwysigrwydd gwaith adfer, nid yw'n gwneud blaendal llawn yn ofynnol ymlaen llaw. Mae'n amlwg fod y dull hwn o weithredu wedi arwain at broblemau yn y gorffennol pan na fu'n bosibl i awdurdodau lleol adennill y costau angenrheidiol ar gyfer gwneud gwaith adfer. Daeth y pwyllgor i'r casgliad fod yn rhaid cael gwarantau effeithiol gan y rhai sy'n gyfrifol am ddatblygiadau cloddio glo brig. Gallai hyn gynnwys blaendal ymlaen llaw ar gyfer holl gostau adfer safle. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru gadw effeithiolrwydd polisi cenedlaethol yn hyn o beth o dan adolygiad manwl.
I gloi, yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd dros gyfnod sylweddol o amser, daeth y pwyllgor i bedwar casgliad. Rydym yn falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi mynegi ei chefnogaeth yn dilyn hynny i bob un o'r rhain. Ar hyn o bryd mae'n ymddangos yn annhebygol y bydd Cymru'n gweld rhagor o geisiadau ar gyfer cloddio glo brig yn y dyfodol. At hynny, os yw polisi cynllunio yn cael ei ddiwygio ar hyd y llinellau a argymhellwyd, byddai'n ymddangos yn debygol y byddai unrhyw geisiadau o'r fath yn cael eu gwrthod. Er y byddai hyn yn rhywfaint o gysur i'r bobl sydd wedi cyflwyno deiseb i'r Cynulliad ar y pwnc hwn, mae hefyd yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau cynllunio lleol yn mynd ati'n effeithiol i orfodi'r polisïau hyn sy'n bodoli er mwyn diogelu cymunedau lleol a'r amgylchedd. Rhaid i hyn gynnwys sicrhau bod polisïau cynllunio cenedlaethol yn cael eu dilyn a'u cynnal, heblaw, efallai, mewn amgylchiadau eithriadol, ac y gellir gwarantu a defnyddio darpariaeth ddigonol i adfer safleoedd ar gyfer eu defnyddio mewn modd addas gan gymunedau lleol. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch iawn o wneud cyfraniad byr yn y ddadl hon. Fel y nododd David Rowlands, cyflwynwyd y ddeiseb 'Gwnewch y MTAN yn gyfraith' gan un o fy etholwyr, Dr John Cox, ac rwyf wedi gweithio'n agos gydag ef ar y ddeiseb honno ac wedi rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Deisebau ym mis Mai 2013. Fel y dywedodd David Rowlands, cyflwynwyd y ddeiseb wedi i gyngor Torfaen wrthod y cais ar gyfer cloddio glo brig yn y Farteg. Roedd y cais hwnnw ar gyfer cloddio ychydig fetrau'n unig o gartrefi trigolion ac ysgol gynradd leol.
Rwy'n credu'n bendant fod cyngor Torfaen wedi gwneud y peth iawn. Fe wnaethant edrych ar y MTAN a gweld fod clustogfa yno, ac ar sail honno, gwrthodwyd y cais. Gallai awdurdod lleol wynebu risg drwy wrthod cais gan fod posibilrwydd bob amser o apêl ac awdurdodau lleol prin o arian yn gorfod ysgwyddo costau pe baent yn colli'r apêl. Fodd bynnag, fe wnaeth Cyngor Torfaen y peth iawn yn gwrthod, ond yn anffodus, apeliodd y datblygwyr a chynhaliwyd ymchwiliad cynllunio llawn.
Ar y pwynt hwnnw, roedd hi'n ymddangos bod yr arolygydd cynllunio wedi diystyru'r canllawiau yn y polisi MTAN ynglŷn â'r glustogfa ac wedi argymell cymeradwyo'r cais. Felly, aeth yn gwbl groes i bolisi Llywodraeth Cymru, a pholisi a gytunwyd yn unfrydol gan y Cynulliad hwn. A dyna a arweiniodd at y ddeiseb hon, mewn gwirionedd, oherwydd nid oeddem yn credu y dylid cael diffyg cydlyniad o'r fath rhwng polisi Llywodraeth Cymru, polisi y Cynulliad, a'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad.
Rwy'n falch ein bod yn trafod yr adroddiad hwn heddiw, ac rwy'n mawr obeithio bod David Rowlands yn iawn i edrych ymlaen at glywed beth sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud, a gobeithiaf na fyddwn yn gweld ceisiadau glo brig newydd. Ond nid wyf yn hollol glir o'r adroddiad hwn sut y mae hyn yn mynd i ddiogelu cymunedau wrth symud ymlaen rhag yr un math o beth ag a ddigwyddodd yn y Farteg. Mae angen inni gael rhywfaint o sicrwydd, lle mae polisi ar waith, fod arolygwyr cynllunio yn mynd i'w ddilyn.
Diolch i David Rowlands am ei eiriau caredig i mi, ond roeddwn am fynegi pryderon am y cyfnod hir iawn o amser y mae wedi cymryd i'r ddeiseb hon ddwyn ffrwyth yma. Mae wedi cymryd pum mlynedd, a chredaf fod yn rhaid i ni gydnabod pan fydd dinasyddion neu gymunedau yn troi at y Pwyllgor Deisebau, maent yn gwneud hynny oherwydd eu bod angen ein help a'n cymorth gyda phroblem yn y fan a'r lle, mewn gwirionedd. Credaf ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom i geisio ymateb i'r pryderon hynny mor amserol â phosibl. Nid wyf yn gwybod pam y mae wedi cymryd cymaint o amser i hyn ddod yn ddadl heddiw, ond credaf fod angen inni edrych ar hynny, gan nad oes unrhyw ddiben cael Pwyllgor Deisebau os na allwn ymateb mewn modd amserol ac effeithiol i bryderon dinasyddion Cymru.
Edrychaf ymlaen at glywed sicrwydd Ysgrifennydd y Cabinet na fydd cymunedau eraill yng Nghymru—a gobeithio, yn sicr, fy nghymuned i'n arbennig—byth yn cael eu rhoi yn y sefyllfa y cafodd trigolion y Farteg a chyngor Torfaen eu rhoi ynddi rai blynyddoedd yn ôl.
Cyn i mi orffen, hoffwn gofnodi fy niolch mawr iawn i Carl Sargeant a oedd â digon o synnwyr, diolch byth, i wrthod y cais yn groes i argymhelliad yr Arolygiaeth Gynllunio. Felly, diolch yn fawr iawn oddi wrthyf fi a phreswylwyr y Farteg i Carl Sargeant. Diolch.
Mark Reckless.
Diolch, Lywydd dros dro, ac rwy'n siŵr y bydd gan rai o'r Aelodau o Gynulliadau blaenorol atgofion melys wrth eich gweld yn y Gadair. A gaf finnau hefyd gofnodi fy llongyfarchiadau ar eich arwisgo â CBE ddoe gan y Tywysog Charles?
Y Pwyllgor Deisebau, cefais syndod o weld y Pwyllgor Deisebau yn dod yma heddiw er cymaint o amser a aeth heibio ers i'r deisebau hyn gael eu cyflwyno gyntaf. Mae'n bosibl fod rhesymau penodol dros yr oedi, ond o'm rhan i, hoffwn ddiolch i David Rowlands fel Cadeirydd, a'r pwyllgor, am barhau i fynd ar drywydd hyn, ac nid oedd y ffaith ei fod wedi bod yno ers amser maith yn rheswm dros ei anghofio, ond o leiaf, roedd ei gyflwyno heddiw ar gyfer dadl yn rhywbeth cadarnhaol yn fy marn i.
Rwy'n credu bod Lynne wedi siarad yn glir am yr anawsterau penodol, a buaswn yn cytuno â'i beirniadaeth o adroddiad yr arolygydd ar y cais i gyngor Torfaen, ond yn y pen draw, fe wnaeth y Gweinidog y penderfyniad cywir a oedd yn gyson â'r canllawiau. Ac mae'n ymddangos i mi fod y gyfundrefn ganllawiau yn darparu lefel synhwyrol o ddisgresiwn lleol, a bydd pob cais a phob datblygiad arfaethedig yn wahanol, ac mae'n ymddangos i mi yn synhwyrol fod gan Weinidogion, Llywodraeth a'r Cynulliad hwn fewnbwn ar gyfer darparu canllawiau ar yr hyn sy'n bethau priodol i'w hystyried. Wedyn gall y pwyllgor cynllunio ystyried sefyllfaoedd lleol, a'r un mor bwysig, safbwyntiau lleol. Mae'n amlwg nad yw cloddio glo brig yn boblogaidd yn aml iawn, a lle y cafodd ei gyflwyno, yn gyffredinol cafwyd gwrthwynebiad sylweddol. Nid wyf yn gweld unrhyw reswm pam na fyddai pwyllgor cynllunio a etholwyd yn lleol yn rhoi ystyriaeth briodol i'r gwrthwynebiadau gan y bobl sy'n byw yn eu hardal, a chredaf fod y gyfundrefn honno'n well wrth gefnogi lleoliaeth yn ôl pob tebyg, ac rydym ni ar y meinciau hyn yn gefnogol iawn i hynny, yn hytrach na gwneud y canllawiau'n statudol neu gael gofyniad y dylech alw cais i mewn ym mhob achos, ni waeth beth yw manylion penodol yr ardal leol, os yw'n fwy na rhyw faint penodol.
Fodd bynnag, credaf fod y deisebwyr wedi llwyddo i raddau helaeth yn eu hamcanion. Efallai y bydd y Gweinidog yn ein goleuo ymhellach pan fydd yn siarad. Ond credaf fod drafft Polisi Cynllunio Cymru 10, y daeth yr ymgynghoriad yn ei gylch i ben ganol mis Mai, i'w weld wedi tynhau'r polisi'n eithaf sylweddol, ac mae'n anodd gweld sut y gall cloddio glo brig wneud ei ffordd drwyddo. Rhoddodd Cadeirydd y pwyllgor y frawddeg gyntaf; mae'n parhau:
'Pe bai cynigion yn cael eu cyflwyno o dan amgylchiadau cwbl eithriadol, byddai’n rhaid iddynt ddangos yn glir pam eu bod eu hangen yng nghyd-destun targedau lleihau allyriadau newid yn yr hinsawdd a diogelwch ynni.'
Credaf fod hynny'n ddiddorol, ac yn heriol mewn rhai ffyrdd, oherwydd mae'n gosod y cyfrifoldeb am yr eithriad ar ystyriaethau cenedlaethol, a DU gyfan mae'n debyg, ynghylch targedau newid hinsawdd a diogelwch ynni. Tybed, o fewn hynny, a geir argymhelliad a wnaed gan Lywodraeth y DU a pholisi—credaf iddo gael ei gefnogi o'r blaen, i raddau, gan Lywodraeth Cymru—y dylid dirwyn glo i ben yn raddol erbyn canol i ddiwedd y 2020au rwy'n credu, pe bai rhywun yn dweud yn y cyfamser, 'Wel, dyna'r polisi, dyna a gytunwyd, ond o ran sicrwydd ynni, onid yw'n well ei gynhyrchu gartref yn hytrach na dibynnu ar fewnforion o bell?' Rwy'n meddwl tybed beth fyddai arolygydd cynllunio yn ei wneud o'r ddadl honno, ac fe edrychwn ymlaen at weld y canllawiau terfynol y bydd y Gweinidog yn eu cyflwyno yn y maes hwn.
Mae'r Cymoedd wedi symud ymlaen ers dyddiau'r gweithfeydd glo a'r adeg pan oedd hi'n ardal lofaol fwyaf blaenllaw'r byd o bosibl, ac yn sicr o ran ansawdd y glo. Cawsom rywfaint o gloddio glo brig, ond mae wedi bod yn eithaf amhoblogaidd ar yr adegau pan gafodd ei gynnig. Gwn fod yna gynnig wedi bod ynghylch Dowlais Top lle roedd gan bobl safbwyntiau cryf iawn yn ei erbyn. Hefyd, ardal gorllewin Rhyd-y-car, lle y cafwyd cynigion o'r blaen ar gyfer cloddio glo brig—mae'n gyffrous iawn fod Marvel yn awr yn cyflwyno cynnig sylweddol iawn ar gyfer datblygiad y gobeithiaf, o leiaf, y bydd yn fwy poblogaidd na chloddio glo brig, canolfan eira dan do, parc sglefrio a beicio, parc dŵr dan do, a llety gwyliau a chartrefi, ac mae buddsoddiad sylweddol iawn eisoes wedi mynd tuag ato a diolch iddynt am eu gwahoddiad i ddigwyddiad gwybodaeth ddydd Gwener.
Ond credaf fod mater galw i mewn a gwneud penderfyniadau lleol—yn amlwg, mewn rhai ardaloedd, mae ceisiadau penodol yn heriol tu hwnt ac yn anodd iawn a cheir manylion niferus iawn ynghlwm wrthynt. I awdurdodau lleol sy'n brin o arian, yn enwedig rhai bach, gallant fod yn bethau sylweddol iawn. Ond credaf fod pwysigrwydd democratiaeth leol yn allweddol, ac rwyf wedi cyflwyno cwestiwn ysgrifenedig ar hyn, a deallaf yr anawsterau, os yw'n dod at Weinidogion yn dilyn apêl ac arolygydd cynllunio, nad ydych chi eisiau rhagfarnu pethau, ond tybed a allai Llywodraeth Cymru wneud mwy i ddarparu cymorth cynllunio neu adnoddau, efallai, y gallai awdurdodau lleol eu defnyddio ar gyfer ceisiadau arbennig o fawr ar lefel ganolog, gan sicrhau ar yr un pryd na fyddai'r ddarpariaeth o adnoddau ac arbenigedd cyffredinol yn rhagfarnu unrhyw apêl ddiweddarach y gallai Gweinidogion orfod ymdrin â hi.
Rwy'n llongyfarch y deisebwyr a'r Pwyllgor Deisebau am ymdrin â hyn o'r diwedd, ac edrychaf ymlaen hefyd at glywed beth fydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud.
Yn sicr a gaf fi ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r adroddiad hwn i'w drafod? Nid oeddwn yma pan gyflwynwyd y deisebau hyn yn wreiddiol, ond rwy'n ymwybodol iawn o frwydr fy nghyd-Aelod, Lynne Neagle, ac rwy'n wynebu brwydrau tebyg yn awr yn fy etholaeth gyda'r ceisiadau ar gyfer Nant Llesg y byddaf yn eu trafod mewn eiliad. Felly, rwyf wedi dilyn yr ystyriaeth o'r deisebau gyda diddordeb, oherwydd ers cael fy ethol fel AC dros Ferthyr Tudful a Rhymni, mae cloddio glo brig wedi bod yn ystyriaeth bwysig yn y gwaith rwy'n ei wneud, ac ym mhryderon yr etholwyr a gynrychiolaf. Mae'r gwaith glo brig presennol yn Ffos-y-frân ym Merthyr Tudful wedi bod o ddiddordeb mawr i fy etholwyr, oherwydd bod mater adfer y safle wedi bod yn llusgo yn ei flaen. Bellach, rydym wedi cael cais ar gyfer Nant Llesg yng Nghwm Rhymni uchaf, a chyflwynwyd y ddeiseb, yr ail ddeiseb, mewn perthynas â hynny. Roedd nifer o fy etholwyr yn rhan o'r broses o gyflwyno'r ddeiseb honno i alw i mewn pob cais ar gyfer cloddio glo brig, gan gynnwys Terry Evans, y cyfeirioch chi ato, David Rowlands, ac mae'r bobl hynny wedi bod yn rhan fawr o'r ymgyrch groch yn erbyn datblygiad Nant Llesg yng Nghwm Rhymni uchaf.
Ond mae gennyf ddiddordeb mewn dau faes yn benodol: adfer, ac rwyf eisoes wedi cyfeirio at hynny, a cheisiadau yn y dyfodol. Felly, fel y dywedais eisoes, yn ystod yr amser byr y bûm yn Aelod Cynulliad, mae'r dirwedd o gwmpas Merthyr Tudful wedi newid yn llwyr o ganlyniad i ddatblygiad Ffos-y-frân, wrth i'r glo gael ei gloddio ac wrth i waith adfer graddedig ddigwydd. Yn fwy diweddar, fodd bynnag, testun pryder i mi oedd yr achos llys rhwng perchnogion y gwaith yn Ffos-y-frân a'r awdurdod lleol. Nawr, mae fy safbwynt yn glir ac yn gwbl ddiamwys. Erys budd cyhoeddus hollbwysig i sicrhau, ar ôl cwblhau'r gwaith cloddio glo brig presennol, fod yn rhaid i'r perchenogion adfer y safle mewn cydymffurfiaeth â'u rhwymedigaethau. Hynny, a hynny'n unig, yw'r budd gorau ar gyfer y cyhoedd yn y mater hwn. Fodd bynnag, o ystyried yr ymgyfreitha parhaus ar hynny—a chredaf y gallem gael penderfyniad yn yr achos llys hwnnw heddiw—nid wyf yn bwriadu dweud mwy na hynny. Fodd bynnag, mae'n fy arwain at y pwynt mwy cyffredinol o egwyddor, sef y dylai awdurdodau lleol, yr Arolygiaeth Gynllunio a Llywodraeth Cymru sicrhau bod darpariaeth ariannol addas ar gyfer gwaith adfer yn cael ei gweithredu, ei monitro a'i gorfodi'n effeithiol, y pwynt y credaf ei fod yn cael ei nodi yng nghasgliad 3 o adroddiad y pwyllgor. Ni ddylai unrhyw gymuned byth orfod wynebu'r ansicrwydd o etifeddu problemau wedi i weithredwyr gwneud miliynau o bunnoedd o'u gweithfeydd.
A dyna pam y mae'r adolygiad presennol o 'Polisi Cynllunio Cymru' i'w groesawu hefyd, o ystyried y ceisiadau y cyfeiriais atynt sy'n peri pryder ac sydd heb gael eu datrys eto, gan gynnwys Nant Llesg. Gwrthodwyd cais Nant Llesg eisoes gan yr awdurdod lleol. Nid yw'n rhan o gynllun datblygu lleol yr awdurdod hwnnw. Caiff ei wrthwynebu bron yn unfrydol gan y gymuned leol. Ac eto mae'n destun apêl ar hyn o bryd. Felly, rwy'n gobeithio, yn unol â chasgliad 2 yr adroddiad, y bydd y polisi yn y dyfodol nid yn unig yn atgyfnerthu barn Llywodraeth Cymru ar ddyfodol cloddio am danwydd ffosil, ond y bydd hefyd yn parchu hawl cymunedau lleol i benderfynu a oes gwaith o'r fath yn digwydd ar garreg eu drws. Oherwydd er na allwn ddianc rhag hanes cloddio glo yn ein gorffennol ac yn ein cymunedau yn y Cymoedd—yn wir, rwy'n credu ein bod yn ymfalchïo ynddo—mae'n glir hefyd, fel y dywedodd Mark Reckless, fod y cymunedau hyn wedi symud ymlaen oddi wrth y math hwnnw o ddiwydiant, ac mae'n amlwg nad ydynt am weld diwydiannau sy'n seiliedig ar garbon a diwydiannau dibynnol yn cael eu hatgyfodi a fyddai'n dinistrio'r tirweddau hardd sydd ganddynt yn awr ac yn niweidio'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Felly, ar hyn o bryd, Gadeirydd, mae tystiolaeth Ysgrifennydd y Cabinet i'r Pwyllgor Deisebau a'r cyfeiriad y mae Llywodraeth Cymru yn mynd iddo ar hyn yn rhoi tawelwch meddwl i mi. Fodd bynnag, mae'n hanfodol, drwy'r broses briodol, ein bod yn gweld yr adolygiad o'r polisi cynllunio yng Nghymru yn mynd ar drywydd hyn.
Diolch i chi am yr adroddiad hwn. Rwyf wedi bod yn ymwneud â'r maes hwn ers amser hir, ynghyd ag ACau eraill, gan fy mod wedi cadeirio Cymru yn Erbyn Cloddio Glo Brig yma yng Nghymru, felly mae hynny'n fy rhoi mewn sefyllfa unigryw o bosibl i siarad am y rhai yn fy ardal i, ond rwyf hefyd yn gwybod cryn dipyn am lo brig mewn ardaloedd eraill. Yn fy ardal fy hun, er enghraifft, mae gennym Ochr y Waun ac East Pit yn Nghwmllynfell, lle y gwyddom fod cloddio hanesyddol wedi bod yn digwydd yn anghyfreithlon, lle mae estyniadau wedi digwydd yn erbyn ewyllys y bobl. Yng Nghynffig, ym Margam, yn fy rhanbarth i, mae gennym ehangder enfawr o ddŵr lle na fu unrhyw weithredu gyda gwaith adfer o hyd, sy'n gwbl droseddol yn fy marn i—fod cwmnïau'n gallu gwneud hyn. Gwelwn ym Merthyr, gyda Ffos-y-frân, gwelwn broblemau'r ffaith nad yw'r cwmni'n talu. Maent bellach wedi newid eu henw o Miller Argent i—beth y gallaf ei ddweud—Blackstone, er mwyn ceisio dianc rhag yr enw drwg y maent wedi'i gael dros y flwyddyn. Dylent fod yn talu'r rhandaliadau hynny i adfer y tir er mwyn adfer normalrwydd i bobl y dref honno ac fel nad oes raid iddynt fyw bywyd yn poeni am eu hiechyd, a pharhau i wneud cwynion am y ffordd y mae Miller Argent wedi gweithio yn yr ardal honno. Mae'r un peth yn wir am weithfeydd eraill ar draws de Cymru.
Nawr, er fy mod yn falch fod gennym yr adroddiad hwn, rwy'n sinigaidd braidd hefyd ynghylch casgliad 1 yn arbennig, fod cymaint o ffydd yn cael ei roi yn Llywodraeth Cymru, er nad yw'n ei groesawu, oherwydd y newidiadau polisi, y byddai i'w weld
'yn golygu bod datblygiadau glo brig newydd yn annhebygol iawn yn y dyfodol'.
Wel, gyda hyn yn bolisi, a MTAN yn dal i fod yn ganllaw, mae arnaf ofn nad wyf yn gwbl argyhoeddedig y dylem fod mor fodlon â'r hyn y mae'r casgliad hwn i'w weld yn ei adlewyrchu. Nid wyf o reidrwydd yn cytuno bod angen inni roi MTAN ar sail statudol, oherwydd teimlaf fod gormod o eithriadau yn y MTAN. Rwy'n credu bod angen inni fod wedi diwygio'r MTAN yn llwyr a chreu proses ddeddfwriaethol newydd lle rydym yn diffinio'r eithriadau hynny, yn diffinio beth fyddai ystyr derbyniol neu annerbyniol, a gwneud hynny'n gyfraith. Cyhyd ag y bo'n ganllaw, cyhyd â'i fod yn bolisi, bydd arolygwyr cynllunio allan yno, bydd awdurdodau lleol allan yno, a fydd yn gallu dweud, yn yr amgylchiadau eithriadol hyn, sy'n eithaf mawr—maent yn bellgyrhaeddol, yn edrych ar dueddiadau'r DU yn y diwydiant—gallent fwrw ymlaen yn y dyfodol. Felly, hoffwn fod mor gadarnhaol â chi, ond wedi cael y profiad a gefais, nid wyf yn teimlo mor gadarnhaol yn bersonol, a dyna pam yr hoffwn weld Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd ymhellach. Mae hoelio ein gobeithion ar y polisi hwn yn iawn i rai, ond nid yw'n iawn i mi, mae arnaf ofn.
Mewn perthynas â gwaith adfer, rwy'n cytuno â chasgliad 3 y Pwyllgor Deisebau, byddwch yn falch o glywed, ond unwaith eto, mae angen inni fod yn siarad am waith adfer yn awr. Mae yna gwmnïau sy'n anwybyddu'r hyn y dylent fod yn ei wneud yma. Mae yna gwmnïau sydd ag arian a ddylai fynd tuag at waith adfer. Mae yna gymunedau sydd wedi byw gyda'r cefndir hwn yn eu cymdeithas ers blynyddoedd lawer, a dylai diffyg gweithredu gan y cwmnïau hyn fod yn embaras i'r awdurdod lleol ac i Lywodraeth Cymru am nad ydynt wedi gweithredu ar hyn yn gynt. Ceir deddfau sydd mewn grym eisoes i ddwyn y cwmnïau hyn i gyfrif, ac maent yn rhoi eu harian mewn cyfrifon tramor, maent yn seiffno'u cronfeydd i wahanol rannau o'r byd. Felly, ni allant fod yn atebol, ac rwy'n credu bod hynny'n hollol annerbyniol.
O ran galw i mewn, mynychais y gynhadledd a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ychydig flynyddoedd yn ôl ar gymhwysedd mewn perthynas ag awdurdodau cynllunio mwynau awdurdodau lleol, ac roeddwn yn meddwl y byddai wedi bod yn syniad gwell i uno awdurdodau cynllunio mwynau yn hytrach na symud yn syth at alw ceisiadau i mewn fel opsiwn, oherwydd, os gallwn gael arbenigedd ar lefel leol, rhannwch yr arbenigedd hwnnw ar bob cyfrif, yn hytrach na throi'n syth at y broses alw i mewn. Nawr, gwn efallai nad yw John Cox ac eraill yn cytuno â mi ar hynny, ond nid wyf yn credu mai troi at broses wneud penderfyniadau genedlaethol yn syth ddylai fod yn ystyriaeth gyntaf, ond yn hytrach dylem geisio adeiladu arbenigedd drwy system yr awdurdod lleol lle y gellir gwneud hynny, ac nid wyf yn gwybod a gafodd hynny sylw pan basiwyd y portffolio i rywun arall yn Llywodraeth Cymru oherwydd, ar y pryd, roeddem yn clywed gan swyddogion fod hynny'n rhywbeth y byddent yn ei ystyried o ddifrif. Nid yw'n ymddangos yn iawn i mi y byddai'r Llywodraeth o bosibl am wneud y penderfyniadau hyn a hwythau wedi dweud beth bynnag nad ydynt eisiau gweld cloddio glo brig. Felly, os oes polisi'n mynd i fod yn erbyn cloddio glo brig, rhaid iddo dreiddio drwy ein holl bolisïau. Mae gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae gennym bolisïau datblygu cynaliadwy yn ganolog yn Llywodraeth Cymru ac mae hynny'n golygu bod angen inni arfer yr hyn a bregethwn mewn perthynas â hyn a sicrhau mai perthyn i'r gorffennol y mae cloddio glo brig.
Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am gyflwyno'r ddadl heddiw. Rhoddwyd sylw i lawer o faterion. Mae gan Bethan lawer mwy o wybodaeth na mi am yr arferion cloddio glo brig eu hunain.
Hoffwn fynd i'r afael â rhywbeth a gododd Lynne Neagle, sef pam y mae wedi cymryd cymaint o amser rhwng cael deiseb yn 2013 i'w thrafod yma yn y Siambr. Nid yw'r holl atebion gennyf. Roeddwn yn aelod o'r Pwyllgor Deisebau am flwyddyn gyntaf y tymor hwn a chredaf mai un broblem a gawsom ar y Pwyllgor Deisebau, y ceisiodd y Cadeirydd, sef Mike Hedges ar y pryd, ymdrin â hi'n go gyflym, oedd ein bod wedi etifeddu llawer iawn o ddeisebau. Ceir llawer o ddeisebau, ac eir ar drywydd rhai ohonynt yn fwy egnïol nag eraill, ac roedd yn ymddangos i ni mai'r broblem oedd bod gormod ohonynt heb eu cau pan oeddent y tu hwnt i'r cam lle y gallem wneud unrhyw beth ystyrlon â hwy mewn gwirionedd. Felly, roedd gennym gymaint o wahanol ddeisebau fel na allem weld beth oedd beth yn iawn, a chredaf fod Mike wedi ceisio symud yn gyflymach drwy'r deisebau, gan gau'r rhai na allem wneud unrhyw beth â hwy, ac yna gallem edrych ar y rhai lle y gallem wneud rhywbeth â hwy. Credaf eich bod yn iawn fod angen i'r broses fod yn llawer cyflymach os yw'r Pwyllgor Deisebau yn mynd i weithio mewn ffordd ystyrlon. Credaf ei fod yn gweithio'n well erbyn hyn. Yn amlwg, nid wyf yn aelod ohono mwyach, ond rwy'n siŵr ei fod yn gweithio mewn ffordd symlach nag o'r blaen. Felly, gobeithio y bydd hynny'n ateb y broblem, gyda deisebau'n cyrraedd yma yn llawer cyflymach, oherwydd fel y dywedwch, mae'n hurt ei bod wedi cymryd cyhyd i drafod y mater hwn.
Ar y materion sy'n ymwneud â glo brig, mae'n amlwg fod yna lawer o broblemau. Mae Bethan, Dawn Bowden ac eraill wedi rhoi sylw iddynt. Mewn llawer o ffyrdd, mae cloddio glo brig yn waeth na chloddio tanddaearol, am ei fod yn digwydd uwchben y ddaear, fel bod y baw a'r llwch yn lledaenu i'r atmosffer lleol, ac mae'n llai llafurddwys na chloddio tanddaearol hefyd, felly mae llai o bobl yn cael budd masnachol ohono. Yn sicr mae gennym gyfres gyfan o gymunedau'r Cymoedd yng Nghymru a adeiladwyd ar gloddio glo tanddaearol, ond nid oes gennym unrhyw gymunedau yng Nghymru a adeiladwyd ar gloddio glo brig. Yr hyn a gawsom dros y 25 mlynedd diwethaf yw llawer o gymunedau'n cwyno ynglŷn â chloddio glo brig, yn protestio ynghylch cloddio glo brig ac yn ymgyrchu yn erbyn cloddio glo brig. Weithiau, ni wrandawyd ar leisiau'r cymunedau hynny'n iawn, ac maent wedi cael cam gan y broses cynllunio, o ran y cynlluniau a ganiatawyd a hefyd y problemau a nodwyd heddiw ynglŷn ag adfer y safleoedd ar ôl iddynt orffen eu gweithio.
Nawr, gan droi at y deisebau eu hunain, y ddwy ddeiseb rydym yn edrych arnynt, cafodd y gyntaf ei chychwyn gan Dr Cox, sy'n awyddus i wneud y MTAN yn orfodol yn y gyfraith—felly, pan wneir penderfyniadau cynllunio, ni all fod yn ganllaw yn unig; mae angen iddo fod yn orfodol. Un o'r pwyntiau y mae'n ei godi yw nad yw ceisiadau glo brig i fod i gael caniatâd oni bai bod o leiaf 500m rhwng y gwaith a'r tai agosaf. Yn amlwg, yn achos y Farteg, nid oedd hynny'n wir, ac ni chymhwyswyd y canllaw. Nawr, mae Dr Cox yn honni bod yr arolygydd cynllunio a oedd yn dyfarnu yn y gwrandawiad hwnnw wedi dweud nad oedd yn bwriadu dilyn MTAN 2 gan mai arweiniad yn unig ydoedd. Mae'n ymddangos bod gennym broblem gyda hyn. Os nad yw'r arolygwyr cynllunio yn dilyn canllawiau'r Llywodraeth, i bwy y maent yn atebol? A ydynt yn rhoi digon o sylw i bryderon lleol? Yn UKIP rydym wedi dadlau drwy gydol y pumed Cynulliad nad yw'r system gynllunio'n ddemocrataidd iawn. Technocratiaeth ydyw lle y gall arolygwyr cynllunio sy'n fiwrocratiaid anetholedig sathru ar benderfyniadau democrataidd a wnaed gan gynghorwyr etholedig. Yna mae gennym y cynghorwyr yn ofni dyfarnu yn erbyn ceisiadau cynllunio dadleuol ar gyngor eu swyddogion cynllunio eu hunain, sy'n dweud wrthynt y bydd y cais yn sicr o ennill ar apêl i'r arolygiaeth gynllunio.
Rhaid inni ddod â'r arolygwyr cynllunio hyn o dan ryw fath o reolaeth ddemocrataidd. Rhaid inni geisio democrateiddio'r broses gynllunio ac yn UKIP rydym yn dweud mai'r ffordd o wneud hynny yw cyflwyno darpariaeth ar gyfer refferenda lleol wedi'u rhwymo mewn cyfraith pan geir ceisiadau cynllunio sydd o bwys mawr yn lleol ac yn achosi pryder mawr yn lleol. Rydym yn parhau i wneud yr alwad honno. Hyd yn hyn, ni yw'r unig blaid yng Nghymru sy'n galw am y mesur hwnnw. Hyd nes y caiff y system gynllunio ei democrateiddio, rydym yn cytuno y dylid gwneud MTAN 2 yn orfodol, fel yr awgryma Dr Cox, ac fel y mae ei ddeisebwyr yn cytuno. Rydym hefyd yn cytuno gyda'r ail ddeiseb y dylai Gweinidog cynllunio Cymru alw i mewn yr holl geisiadau cloddio glo brig o faint penodol ac o oedran penodol yn awtomatig. Mae'r system gynllunio yn gwbl anghywir ac mae angen ei diwygio ar frys. Ni yw'r unig blaid sy'n dweud hynny, ond yn y cyfamser rydym yn hapus i gefnogi'r cynnig heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch, Lywydd dros dro. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau, yr un presennol a'r un blaenorol, am ei ystyriaeth drylwyr iawn o faterion yn ymwneud â chloddio glo brig, gan gynnwys y MTAN ar lo. Fel y crybwyllodd Lynne Neagle, mae wedi digwydd dros nifer o flynyddoedd, ac mae wedi cynnwys amryw o sesiynau tystiolaeth. Credaf mai canlyniad hynny yw adroddiad cytbwys iawn ac yn llawn gwybodaeth, ac rwy'n cefnogi'r cynnig.
Cyn troi at gasgliadau'r adroddiad a'r cwestiynau a godwyd, unwaith eto hoffwn godi mater creu lleoedd a'i ffocws yn y 'Polisi Cynllunio Cymru' diwygiedig fel ffordd o greu cymunedau cynaliadwy a ffyniannus. Mae hyn yn bendant yn cofleidio egwyddorion y Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n rhoi nodau llesiant ar flaen y trafodaethau sy'n effeithio ar gymunedau a'r amgylchedd adeiledig a naturiol. Gallwch ofyn pam y mae creu lleoedd yn berthnasol i'r ddadl heddiw, a hoffwn ddweud pam y credaf ei fod yn berthnasol. Mae'n berthnasol oherwydd ei fod yn cynnwys pob math o ddatblygiad a'r diwydiant glo oedd y sylfaen ar gyfer llawer o leoedd yng Nghymru, a chredaf fod Dawn Bowden wedi gwneud y pwynt hwnnw, ac fe ddarparodd waith lleol a dalai'n dda iawn. Ond rydym yn symud tuag at ddyfodol yn seiliedig ar dechnolegau wedi'u datgarboneiddio, felly rhaid inni sicrhau ein bod yn annog datblygiadau o ansawdd uchel gydag effaith gadarnhaol ar yr economi, yr amgylchedd a'n cymunedau. Mae angen inni feddwl yn drwyadl ac yn gadarn ynglŷn â'r nifer o elfennau sy'n cystadlu ac sy'n rhaid inni ymdrin â hwy wrth ystyried datblygiadau, gan gynnwys sut y gallwn wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau. Rhaid inni sicrhau y cawn y datblygiad cywir yn y lle iawn. Dyma yw ffocws y polisi cynllunio diwygiedig, ac mae'n berthnasol wrth feddwl am bob math o ddatblygiad.
Felly, os caf droi'n benodol at y casgliadau yn yr adroddiad. O ran casgliad 1, rwyf wedi ymgynghori ar bolisi diwygiedig yn 'Polisi Cynllunio Cymru' i wneud yn siŵr ei fod yn cyd-fynd â'r nodau llesiant ac yn cefnogi cynnydd ar ein hagenda ddatgarboneiddio. Fel y nodwyd yn yr adroddiad, mae'r polisi diwygiedig arfaethedig ym Mholisi Cynllunio Cymru yn gyfyngol a bydd yn anghymell ceisiadau ar gyfer safleoedd glo brig yn y dyfodol. Os caiff y polisi ei gadarnhau, bydd yn berthnasol i bob cais cynllunio ar gyfer datblygiadau glo brig sydd eto i'w penderfynu.
Mae mynd i'r afael â chasgliad 2 yn dilyn o'r dull polisi a ddilynais ym Mholisi Cynllunio Cymru. Os ydym yn anghymell safleoedd newydd ar gyfer gweithfeydd glo brig rhag cael eu cyflwyno yng ngoleuni ein dyheadau datgarboneiddio a'n hymgyrch i sicrhau ynni adnewyddadwy diogel, yna mae'n dilyn na fyddai raid inni ystyried defnyddio pwerau galw i mewn. Hoffwn dynnu sylw'r Aelodau hefyd at y cyfarwyddyd hysbysu presennol sydd ar waith. Mae hwn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol gyfeirio ceisiadau i mi os ydynt yn bwriadu rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu mwynau nad yw'n cyd-fynd ag un neu fwy o ddarpariaethau'r cynllun datblygu. Unwaith eto, daw hyn â ni at y pwynt fod cynllun datblygu lleol a fabwysiadwyd yn hanfodol. Y cynllun datblygu lleol sy'n caniatáu i awdurdod cynllunio fynegi ei weledigaeth ar gyfer ardal ac i ddarparu sail gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau.
Mae adfer yn cael sylw yn gwbl briodol yng nghasgliad 3, ac ni allaf orbwysleisio pwysigrwydd gwaith adfer. Er y bydd fy mholisi arfaethedig yn cyfyngu ar ddatblygiadau cloddio glo brig, rwyf wedi manteisio ar y cyfle hefyd i awgrymu newidiadau er mwyn cryfhau polisïau sy'n ymwneud â darparu sicrwydd ariannol i sicrhau bod gwaith adfer yn digwydd. Mae gwaith adfer yn hanfodol. Nid yw datblygu heb gynlluniau adfer effeithiol a'r modd o sicrhau ac ariannu cynlluniau o'r fath yn dderbyniol, ac nid yw erioed wedi bod yn dderbyniol. Rwy'n cytuno hefyd ei bod hi'n bwysig cadw effeithiolrwydd polisi cynllunio o dan adolygiad. Mae hyn eisoes yn digwydd fel mater o drefn. Mae hefyd yn bwysig i awdurdodau cynllunio lleol fonitro safleoedd gwaith unigol mewn ffordd gadarn. Dylent wneud defnydd o'r holl ddulliau sydd ar gael iddynt, gan gynnwys y drefn fonitro ffioedd a thrwy sefydlu pwyllgorau cyswllt.
Mewn ymateb i gasgliad 4, gallaf eich hysbysu bod yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar Polisi Cynllunio Cymru yn cael eu hystyried yn awr gan swyddogion a bwriadaf gyhoeddi'r polisi diwygiedig terfynol yn yr hydref. Felly, yn olaf, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor unwaith eto am adroddiad trylwyr ac ystyrlon, ac i Aelodau'r Cynulliad am eu cyfraniadau y prynhawn yma.
David Rowlands i ymateb i'r ddadl.
Diolch—nid wyf yn siŵr a ddylwn ddweud 'Dirprwy Ddirprwy Lywydd'. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Mae rhai, wrth gwrs, wedi bod yn ymwneud â hyn ers peth amser—mae Bethan Sayed a Lynne Neagle wedi chwarae rhan fawr yn y materion hyn. Soniodd Lynne Neagle am gost apeliadau a'r arolygiaeth gynllunio'n mynd yn groes i reoliadau MTAN. Nododd Dr Cox mai geiriau agoriadol yr arolygydd yn apêl y Farteg oedd, 'Canllawiau'n unig yw'r MTAN, fi sy'n deddfu yma', sy'n rhyw fath o dweud nad yw'r MTAN mor gryf ag y dylai fod.
Siaradodd Mark Reckless yn erbyn gwneud MTAN yn statudol ar y sail y dylai pwerau fod ar sail leol. Hefyd gwnaeth y pwynt y dylai ceisiadau cynllunio ystyried diogelwch ynni ar gyfer y wlad a'i effaith bosibl ar y ceisiadau cynllunio hynny. Soniodd Dawn Bowden am Ffos-y-frân wrth gwrs, fel y byddai'n ei wneud gan mai hi yw'r Aelod dros Ferthyr Tudful, ac wrth gwrs tynnodd sylw at fater tra phwysig gwaith adfer—fod yn rhaid i berchnogion adfer y safle ar ôl i'r gwaith ddod i ben. Soniodd fod yna geisiadau cynllunio i mewn hefyd ar gyfer gwaith cloddio glo brig arall yn ei hardal a sut roedd y gymuned leol yn ei wrthwynebu'n llwyr.
Siaradodd Bethan Sayed am y diffyg gwaith adfer hefyd mewn hen weithfeydd yn ei hardal, ac mae hwnnw'n fater parhaus yn yr ardaloedd hynny wrth gwrs. Hefyd, soniodd am waith adfer yng Nghymru yn gyffredinol. Soniodd am y ffaith y dylem ailysgrifennu'r gyfraith MTAN yn llwyr o bosibl. Efallai fod hynny'n rhywbeth y dylem edrych arno. Galwodd am greu mwy o arbenigedd mewn awdurdodau lleol, gan gadw penderfyniadau ar lefel leol, a chredaf fod hwnnw'n bwynt pwysig dros ben i'w wneud.
Siaradodd Gareth Bennett am yr oedi cyn ymdrin â'r ddeiseb hon a nododd fod yna ôl-groniad mawr iawn o ddeisebau, mater a gafodd sylw yn gyntaf gan Mike Hedges pan oedd yn Gadeirydd y pwyllgor, ac mae'n broses sydd ar y gweill gennym yn barhaus. Rydym yn ceisio cyflymu'r broses, ond roedd Lynne Neagle yn llygad ei lle pan ddywedodd y dylai rhywbeth y tynnwyd ein sylw ato cyn belled yn ôl â 2013, rwy'n credu, fod wedi dod gerbron y Cynulliad hwn beth amser yn ôl.
Os caf droi at y pwyntiau a wnaed yn awr gan Ysgrifennydd y Cabinet, credaf fod yna gytundeb cyffredinol gan Ysgrifennydd y Cabinet fod yn rhaid inni edrych yn ofalus iawn ar unrhyw geisiadau cynllunio newydd, yn enwedig ar gyfer cloddio glo brig, ac mae'n braf ei chlywed yn ailddatgan ymrwymiad llwyr Llywodraeth Cymru i Gymru ddi-garbon gan wneud y tebygolrwydd o ddatblygiadau o'r fath yn annhebygol iawn yn y dyfodol.
Felly, daw'r ddadl heddiw ag ystyriaeth y pwyllgor o'r deisebau hyn i ben. Gobeithiaf fod y broses a ddilynwyd, ac rwy'n cydnabod eto iddi fod yn un hir, wedi cynorthwyo'r deisebwyr ac eraill i fynegi eu pryderon a'u cynigion. Cawn weld eto, wrth gwrs, beth fydd yn digwydd yn y dyfodol mewn perthynas â chloddio glo brig yng Nghymru ac a welwn unrhyw geisiadau newydd. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw y bydd proses ddeisebau'r Cynulliad yn aros yn agored i bobl leisio eu pryderon ynglŷn â materion cenedlaethol megis polisi cynllunio yn ôl yr angen. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.