5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Diwygio Llywodraeth Leol — Y camau nesaf

– Senedd Cymru am 4:29 pm ar 17 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:29, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Eitem 5 yw Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Diwygio Llywodraeth Leol—y camau nesaf. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Alun Davies.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:30, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Y tro cyntaf imi siarad â llywodraeth leol Cymru fis Tachwedd diwethaf, dywedais i wrthyn nhw fy mod i’n credu yn lles y cyhoedd a’r diben cyhoeddus, ac rwy'n credu’n gryf mewn llywodraeth leol. Yr egwyddorion hyn, Dirprwy Lywydd, sy’n ysgogi’r Llywodraeth hon.

Ers cryn amser, mae llawer o grwpiau ac unigolion, gan gynnwys arweinwyr llywodraeth leol, wedi bod yn dweud wrthyf fi nad yw’r system a’r strwythurau presennol ar gyfer llywodraeth leol, yn syml, yn gynaliadwy. Mewn ymateb i hyn fis Mawrth eleni, cyhoeddais yr ymgynghoriad Papur Gwyrdd 'Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros Ein Pobl' i adfywio’r ddadl am ddyfodol llywodraeth leol.

Roedd y Papur Gwyrdd yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer awdurdodau lleol cryfach, mwy grymus sy'n gallu darparu arweinyddiaeth leol eofn, benderfynol â phwyslais. Cynghorau â lle i ffynnu, i arloesi, i gydweithio'n effeithiol â’i gilydd ac â phartneriaid, gyda llinellau atebolrwydd clir at ddinasyddion. I mi, nid mater o ddaearyddiaeth neu faint y boblogaeth yw hwn, ond mater o rymuso cynghorau lleol. Nid yw’n ddadl ddogmatig sy’n seiliedig ar niferoedd yn unig; mae'n ddadl bragmatig, ond egwyddorol a ddylai fod wedi’i seilio ar y math o ddemocratiaeth leol yr hoffem ni ei gweld fel gwlad, gan gydnabod hefyd ein cymunedau, ein hunaniaethau lleol a’n lleoedd.

Rwyf wedi dweud yn glir yr hoffwn i lywodraeth leol adeiladu ar eu cryfderau. Rwy'n gweld awdurdodau lleol fel llunwyr a gwneuthurwyr lleoedd, sy’n gweithio i gael y canlyniadau gorau ar gyfer y bobl y maen nhw'n eu gwasanaethu. Hoffwn i lywodraeth leol fod yn rhydd i wneud penderfyniadau sy’n eu helpu i gyflawni gwasanaethau o’r safon a’r ansawdd y mae eu cymunedau yn eu disgwyl ac yn eu mynnu.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:31, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Roedd yr ymgynghoriad Papur Gwyrdd yn amlinellu cynigion i greu cynghorau mwy o faint, cryfach a mwy cynaliadwy, fel y nodwyd yn ein maniffesto. Roedd y Papur Gwyrdd yn cynnig tri llwybr posibl i gyflawni hyn: uno gwirfoddol; uno graddol gydag uno cynhwysfawr yn yr etholiadau llywodraeth leol ar ôl y nesaf; ac uno cynhwysfawr cyn gynted â phosibl. Roedd hefyd yn tynnu sylw at gynigion eraill i’w hystyried, gan gynnwys cydnabyddiaeth ehangach i gyfraniad gwerthfawr aelodau etholedig, y cwmpas posibl ar gyfer rhannu gwasanaethau a phwerau ychwanegol, a hyblygrwydd i awdurdodau lleol. Roedd hefyd yn cydnabod pwysigrwydd parhau â gwaith rhanbarthol clir, penderfynol gan awdurdodau, sydd eisoes yn gweld manteision i lawer o wasanaethau.

Roedd y Papur Gwyrdd yn cynnig ôl troed penodol ar gyfer dyfodol diwygio llywodraeth leol. Roeddwn i’n glir iawn o'r dechrau fy mod i’n credu y byddai ôl troed o'r fath yn bwysig i gyflawni newid cyson a thryloyw, ac rydym wedi bod yn cymryd rhan mewn trafodaeth ynglŷn â sut y gallai hyn edrych, os a sut y gellid ei ddefnyddio.

At ei gilydd, Llywydd, cawsom dros 170 o ymatebion i'r ymgynghoriad hwn, a heddiw, byddaf yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion hynny. Rwy’n falch ein bod wedi cael ymatebion o bob rhan o gymdeithas Cymru a bod llawer o aelodau o'r cyhoedd wedi ymateb, gan ddangos y gwerth y maen nhw'n ei roi ar atebolrwydd democrataidd lleol. Roedd y mwyafrif o'r rhai a ymatebodd o blaid creu nifer llai o awdurdodau lleol mwy o faint, a chafodd hyn ei adlewyrchu’n arbennig yn yr ymatebion gan y cyhoedd. Ar yr un pryd, doedd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol ddim yn gefnogol i newid o'r fath mewn egwyddor, er eu bod yn agored i newid gwirfoddol wedi’i arwain yn lleol.

Rwyf wedi dweud drwy gydol yr ymgynghoriad hwn nad oeddwn wedi ymrwymo i unrhyw un map a fy mod yn gwahodd dadleuon a chynigion ar gyfer dewis amgen i’r opsiynau a amlinellwyd gennym ni. Mae'n glir o'r ymatebion i'r Papur Gwyrdd nad oes cytundeb clir ar fap penodol, ond ar yr un pryd, does dim dewis arall wedi cael ei gynnig.

Rwyf wedi gwrando'n astud drwy gydol yr ymgynghoriad ac wedi dweud erioed yr hoffwn i weithio gyda llywodraeth leol i gytuno mewn partneriaeth ar ffordd i sicrhau dyfodol cynaliadwy i gymunedau lleol. Fodd bynnag, dydy dim newid ddim yn opsiwn, nac ychwaith dod o hyd i fwy o arian ar adeg o gyni a dryswch parhaus dros Brexit. Hoffwn i weithio gyda llywodraeth leol i gytuno ar weledigaeth a rennir ar gyfer y dyfodol, ac i ddatblygu atebion ar y cyd i'r heriau sy’n eu hwynebu. Wnaiff yr heriau hynny, ynghylch sut i gynnal gwasanaethau cyhoeddus blaengar yng nghyd-destun cyfnod o gyni hirdymor, ddim mynd i ffwrdd.

Mae’r ymgynghoriad wedi awgrymu bod awydd ymhlith llywodraeth leol i gydweithio i fwrw ymlaen ag uno gwirfoddol ac i gynyddu a gwella gweithio rhanbarthol. Felly, rwy’n bwriadu cyflwyno’r Bil llywodraeth leol (Cymru) yn gynnar y flwyddyn nesaf i ddeddfu er mwyn galluogi hyn i symud ymlaen cyn gynted â phosibl. Cafodd hyn, Llywydd, ei gadarnhau gan y Prif Weinidog yn gynharach heddiw. Bydd y Bil hefyd yn darparu ar gyfer diwygio etholiadol, newidiadau i drefniadau llywodraethu a pherfformiad llywodraeth leol, a nifer o gynigion eraill, gan gynnwys y pŵer cymhwysedd cyffredinol, a gefnogwyd yn fras yn yr ymgynghoriad.

Ond ni allwn anwybyddu'r angen am ddiwygio mwy sylfaenol, na symud oddi wrtho. Felly rwy’n bwriadu sefydlu, mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gweithgor annibynnol i lunio ymagwedd a rennir a fydd yn llywio dyfodol llywodraeth leol a chyflenwi gwasanaethau yn y dyfodol. Rwy’n falch iawn o ddweud bod Derek Vaughan wedi cytuno i ymgymryd â swyddogaeth cadeirydd y grŵp hwn, a bydd aelodaeth y grŵp yn dod yn bennaf o lywodraeth leol gyda chefnogaeth ysgrifenyddiaeth ar y cyd o Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Byddan nhw'n ystyried yr ystod eang o safbwyntiau a syniadau a fynegwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori a’r ddadl. Bydd y grŵp yn gyfrifol am gynnig ffordd ymlaen o ran strwythurau, pwerau ychwanegol, hyblygrwydd a chymorth i newid. Yr allbwn fydd cynllun pellweledol a hirdymor ar gyfer newid, a bydd yn cynnwys cynigion ar gyfer newid strwythurol a ysgogir gan lywodraeth leol a beth fyddai'r ffordd orau o gefnogi’r newidiadau hynny a'r broses hon a'r rhaglen ddiwygio, gan a thrwy Lywodraeth Cymru.

Llywydd, byddaf yn parhau i ddiweddaru'r Aelodau am waith y grŵp wrth iddo fwrw ymlaen.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 4:36, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich datganiad. Nawr, o'r dechrau, gwnaethom ni fel Ceidwadwyr Cymreig godi pryderon cychwynnol ynghylch cynigion y Papur Gwyrdd. Rydych chi a’ch rhagflaenwyr, dros y tair neu bedair blynedd diwethaf, wedi bod yn chwarae â chalonnau, meddyliau a bywydau llawer o bobl sy’n gweithio o fewn ein sefydliad llywodraeth leol. Nod eich Papur Gwyrdd fis Mawrth, yn honedig, oedd bywiogi'r ddadl am lywodraeth leol yng Nghymru, a gwnaethoch chi sôn ar y pryd am eich gweledigaeth ar gyfer awdurdodau lleol cryfach, mwy grymus, yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth leol. Ac eto, y realiti yw eich bod chi wedi pwyso botwm cythrwfl, digalondid ac ansefydlogrwydd unwaith eto o fewn swyddfeydd a siambrau cynghorau ledled Cymru.

Efallai eich bod chi'n gweld hyn fel ystwytho cyhyrau eich pŵer, ond, a dweud y gwir, roedd llawer o bobl, gan gynnwys aelodau o’ch plaid chi eich hun, yn meddwl bod eich gweithredoedd yn ansensitif ac yn gyfrwys. Gwnaethoch chi danseilio deallusrwydd ac ymroddiad arweinwyr ein grŵp cyngor, ein cynghorwyr a’n swyddogion pan wnaethon nhw wrthod eich cynigion hurt. Rydych chi’n ymffrostio am 177 o ymatebion i ymgynghoriad y Papur Gwyrdd, ond o boblogaeth o dros 3 miliwn o bobl, nid yw'n llawer, ac, a bod yn onest, rwyf i’n cymryd y clod am rai o'r rheini, oherwydd roeddem ni’n ysgrifennu am y peth yn ein colofn newyddion yn y papurau lleol ac yn gwneud pobl ledled Cymru yn ymwybodol o'r ymgynghoriad hwn, oherwydd, yn rhy aml, mae'r rhain yn mynd dros bennau’r union bobl y maen nhw’n effeithio ar eu bywydau.

Rydych chi hefyd yn gwybod bod yr awdurdodau lleol yn anfon copïau o'u hymatebion ataf fi ar fy nghais, felly roeddem ni ar flaen y gad o ran dadansoddi'r ymatebion hyn, ac rydym ni wedi eich herio a chraffu arnoch chi ers mis Mawrth, a drwy gydol yr amser, roedd pobl yn bryderus iawn mewn llywodraeth leol am beth roeddech chi’n symud tuag ato. Roedd hyn yn amlwg yn profi eich bod chi’n mynd ar genhadaeth ymhell dros ben y bobl dda hyn sy'n gweithio mewn llywodraeth leol, yn darparu gwasanaethau hollbwysig.

Mae yna ffyrdd eraill o fynd ati i gyflawni rhai o’r hanfodion rydych chi’n anelu atynt. Rydych yn dweud nad oes neb yn cyflwyno cynigion amgen, ond byddwn i’n anghytuno. Mae awdurdodau lleol a CLlLC wedi sôn yn fras am lwyddiant parhaus gwaith partneriaeth cydweithredol a rhanbarthol, a hoffen nhw gael amser hirach i roi'r egwyddorion hyn ar waith a’u sefydlu nhw. Un peth sy’n destun pryder, fodd bynnag, yw na wnaethoch chi ofyn am awgrymiadau amgen a dweud y gwir, dim ond cynnig y tri llwybr posibl hyn tuag at orfodi uno. Rydych chi’n sôn am rymuso awdurdodau lleol, ond ychydig iawn a roddodd eich Papur Gwyrdd iddynt. Oni fyddech chi’n cytuno â mi bod disgwyl ymatebion i gwestiwn na wnaethoch chi ei ofyn yn ffordd wael iawn o gynnal ymgynghoriad?

I symud ymlaen at uno gwirfoddol, wrth adolygu ymatebion awdurdodau lleol, rhaid imi gyfaddef na wnes i sylwi ar yr awydd rydych chi’n ei ddisgrifio, o hyd, am uno gwirfoddol ymhlith awdurdodau lleol. Dywedodd Sir Ddinbych,

'Dydy profiad rhai awdurdodau o uno gwirfoddol ac ymateb y Llywodraeth iddynt yn y gorffennol ddim yn union yn galonogol.'

Nododd Conwy,

Dydym ni ddim yn cytuno nawr bod uno awdurdodau lleol yn briodol.

Cafodd y cyfle hwnnw ei golli pan wrthododd Leighton Andrews nhw yn swta ar y pryd. Dywedodd Bro Morgannwg eu bod nhw,

'o’r farn bod uno ag unrhyw awdurdod lleol arall yn bosibilrwydd annaliadwy o ran sicrhau ansawdd y gwasanaethau a ddisgwylir yn ddigon teg gan ein dinasyddion.'

Nawr, o ystyried bod adrannau 3 i 10 Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 eisoes yn rhoi’r cyfle i awdurdodau lleol uno'n wirfoddol, a allwch chi ddweud pam, os yw’r fath awydd yn bodoli, nad ydych chi’n hybu’r model hwnnw? Mae hyn, yr hyn yr ydych chi'n ei gyflwyno nawr, yn ymddangos fel ymgais arall i ailgylchu cynlluniau Leighton Andrews. Pam nad ydych chi’n ystyried newid y Ddeddf yn hytrach na chyflwyno tomen arall o ddeddfwriaeth newydd gostus?

Rwyf hefyd yn nodi hefyd eich cynnig i sefydlu gweithgor newydd gyda CLlLC. O ganlyniad i’r holl waith hwn o ad-drefnu llywodraeth leol dros y blynyddoedd, rydym wedi gweld sefydlu Comisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus, a nawr mae gennym ni gyngor partneriaeth gweithlu. Felly, beth yw diben sefydlu grŵp costus arall i awdurdodau lleol gyfrannu ato? Beth am ystyried symleiddio'r strwythurau hyn? Rydych chi’n dweud nad yw dod o hyd i fwy o arian yn opsiwn. Fodd bynnag, rydym ni’n gwybod erbyn hyn bod cysylltiad cynhenid rhwng llywodraeth leol, tai, addysg, gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd. Pam, o pam, na wnewch chi geisio gweithio gydag Aelodau eraill eich Cabinet o amgylch y bwrdd a cheisio diwygio ein holl wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru mewn modd eang, gan gael gwared ar yr holl haenau costus o fiwrocratiaeth a gwastraff sy'n bodoli ym mhob un o bum maes cyflenwi’r gwasanaethau hyn, ac sydd a dweud y gwir wedi tyfu mewn 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru?

Rhoddodd comisiwn Williams 62 o argymhellion inni, ac eto dim ond ar bedwar o’r rhain y mae eich Llywodraeth a’ch rhagflaenwyr wedi gweithredu erioed—pob un yn ymwneud â diwygio llywodraeth leol. Onid yw'n amser nawr inni edrych ar yr adroddiad hwnnw eto, chwythu’r llwch oddi arno, a gweithio gyda'r panel, a oedd yn unigolion trawsbleidiol da iawn, i ailystyried y cynigion hynny, a gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol tuag at ddiwygiad eang o gyflenwi ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? Hyd nes ichi fod yn ddigon dewr i fynd i'r afael â hynny, byddwn ni’n mynd ymlaen ac ymlaen ar y gylchfan hud hon.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:42, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae arnaf ofn fy mod i am ddechrau fy ymateb y prynhawn yma drwy dorri calon Janet. Rwy’n siŵr nad dyma oedd ei bwriad hi, ond rwyf wir yn meddwl bod ei sylwadau o gymorth mawr, ac a dweud y gwir, rwy’n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedodd. Rwy’n gwybod bod hyn braidd yn anarferol; gallaf weld bod y Llywydd yn edrych braidd yn syn hefyd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Na, dim ond gwenu wyf i. Mae'n diwedd y tymor; rwy'n gwenu.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Gallwn ni gytuno ar rai pethau. Mae llawer o'r hyn a ddywedodd llefarydd y Ceidwadwyr, rwy’n meddwl, yn gwneud llawer o synnwyr, a dyma pam rwy’n gobeithio y gallwn ni gydweithio â CLlLC a bwrw ymlaen â rhaglen ddiwygio mewn modd sy’n gwneud mwy na dim ond edrych ar y strwythurau, ond sydd hefyd yn edrych ar sut yr ydym ni’n gweithio gyda'n gilydd fel Llywodraeth a systemau llywodraethu o fewn y wlad hon. Rwy’n cytuno bod llawer o gymhlethdod, ac rwy’n cytuno, ac rwy’n gwybod bod fy nghyd-Aelodau yn y Llywodraeth yn cytuno, mai un amcan sydd ei angen arnom ni wrth fwrw ymlaen â’r materion hyn yw symleiddio’r strwythurau presennol, a symleiddio'r prosesau presennol, i wneud y Llywodraeth yn briodol a heb fod mor fawr ag efallai y gallwn ni. Byddwn ni’n bwrw ymlaen â hyn mewn ffordd a fydd yn edrych yn glir ar y mathau o strwythurau sydd ar waith, ond rwy’n gobeithio na fydd hynny’n gyfyngedig i ddadl sych a diffrwyth am naill ai nifer yr awdurdodau lleol sydd gennym ni yn y wlad hon nac am ffiniau’r awdurdodau lleol hynny. Rwy’n gobeithio y gallwn ni gael sgwrs lawer mwy ysgogol am y mannau gorau o gyflenwi gwasanaethau a’r ffyrdd gorau o gyflenwi gwasanaethau i ddinasyddion.

Ac rwy'n meddwl, os caf i ddweud hyn, mai lle rwy’n anghytuno â llefarydd y Ceidwadwyr yw ei diffyg pwyslais ar y dinesydd ac ar le a hawliau'r dinesydd. Rydym ni i gyd yn bodoli i wasanaethu pobl y wlad hon. Mae awdurdodau lleol a'r Llywodraeth hon a'r lle hwn yn bodoli i wasanaethu pobl, a dylem ni ganolbwyntio ein meddyliau ar y bobl yr ydym ni’n eu gwasanaethu, nid dim ond ar y strwythurau sy'n bodoli er mwyn darparu'r gwasanaethau hynny.

Felly, dewch imi ddweud hyn: nid yw'n iawn i awgrymu bod y broses hon wedi creu cythrwfl neu ansefydlogrwydd, neu ei bod hi’n ansensitif, sef y geiriau a ddefnyddiodd y Ceidwadwyr. Yn wir, un mater rwyf i’n clywed amdano’n gyson, ac sy’n cael ei roi ger fy mron yn gyson, gan bobl fel gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus a gan arweinwyr etholedig ledled y wlad yw effeithiau caledi ar eu cyllidebau a'u gallu i gyflenwi gwasanaethau. Yn yr holl ddadleuon rydym ni wedi eu cael yma—ac rwyf wedi dweud hyn wrthi hi o'r blaen, ac rwy’n mynd i’w ddweud wrthi unwaith eto, mae arnaf ofn—does dim un arweinydd awdurdod lleol, dim un, ledled Cymru yn dweud mai’r hyn sydd ei angen arnom ni yng Nghymru yw'r math o bolisïau Ceidwadol a ddarperir yn Lloegr. Does neb yn dweud hynny—neb o gwbl. Rwy’n meddwl ei bod hi’n deg dweud y gall hi ddarllen yr ymgynghoriadau drwy gydol ei thoriad haf, ond mai ychydig iawn o dystiolaeth o hynny y bydd hi’n ei gweld yn unrhyw un o'r ymatebion a gawsom. Yr hyn yr hoffem ni allu ei wneud, fodd bynnag, yw gwneud rhywbeth sy'n wahanol iawn. Hoffem ni gymryd y gorau o’r gweithio cydweithredol a rhanbarthol y mae hi'n ei ddisgrifio, ac rwy’n derbyn bod hynny'n rhan bwysig a chanolog o sut i ddatblygu'r rhain. Hoffem ni roi grym i awdurdodau lleol, ond hoffem ni roi grym i bobl leol hefyd. Hoffem ni allu sicrhau nawr ein bod ni’n darparu'r mathau o strwythurau yng Nghymru sy'n briodol i wlad sydd â Llywodraeth ddatganoledig, ac sy’n briodol i wlad o 3 miliwn o bobl. Rwy’n gobeithio y gallwn ni wneud hynny mewn ymgynghoriad â’n gilydd, ac y byddwn ni’n gweld rhaglen ddiwygio lawer mwy o faint, mwy pellgyrhaeddol a mwy pellweledol sy’n mynd y tu hwnt i sgwrs sych a diffrwyth am nifer yr awdurdodau lleol yng Nghymru.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:46, 17 Gorffennaf 2018

Diolch yn fawr am y datganiad. Mae’r datganiad heddiw, wrth gwrs, yn cadarnhau beth adroddwyd yn y wasg yn sgil cynhadledd y WLGA yn Llandudno, sef, wrth gwrs, eich bod chi yn rhoi’r gorau i’ch cynlluniau i orfodi cynghorau i uno—am y tro, o leiaf. Diolch am wneud y datganiad yn y Siambr, sef y lle priodol ar gyfer cyhoeddi newidiadau polisi pwysig.

Mi oedd y Papur Gwyrdd yn ddiffygiol o ran nad oedd dim dadansoddiad costau wedi’i wneud. Mae’ch crynodeb chi o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd yn dweud bod un rhan o dair o’r rheini a ymatebodd wedi gwneud sylwadau am yr achos ariannol. Awgrymwyd nad oedd yr achos ariannol wedi’i wneud ac nad oedd y costau yn y Papur Gwyrdd wedi’u cwblhau, bod pobl yn credu y byddai costau uno yn uwch nag y rhagwelwyd, neu fod yr arbedion a ragwelwyd eisoes wedi’u gwneud gan lywodraeth leol. Dyma’r ddadl y bues i yn ei chyflwyno’n gyson dros yr wythnosau diwethaf yma, ac un y gwnes i ei chlywed yn aml iawn gan arweinwyr cyngor ar draws Cymru.

Mae’n rhaid imi ddweud, wnes i erioed deall pwrpas y newid cyfeiriad o drywydd rhanbartholi eich rhagflaenydd. Drwy gyflwyno’r Papur Gwyrdd, fe wastraffwyd amser gwerthfawr ac fe grëwyd ansicrwydd diangen. Felly, rydym ni yn cymryd cam yn ôl unwaith eto, ac rydym ni yn edrych—neu rydych chi yn edrych—i greu deddfwriaeth o gwmpas galluogi uno gwirfoddol. Ond, hyd y gwelaf i, dim ond dau gyngor sydd yn fodlon ystyried hynny, sef Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Ond, hyd yn oed fan hyn, mae anghytundeb am yr amserlen, efo Abertawe eisiau uno yn gyflym tra bod Castell-nedd Port Talbot yn gweld rhywfaint o rinwedd uno ag Abertawe erbyn 2026. Felly, mae’n amlwg nad ydy cynghorau yn barod i uno yn wirfoddol. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i ydy hwn: pa mor hyderus ydych chi y bydd unrhyw gynghorau yn fodlon gwirfoddoli i uno yn sgil y ddeddfwriaeth yma?

Gan na fydd y ddeddfwriaeth newydd yn dod â chynigion radical gerbron, felly, o ran ad-drefnu cynghorau, efallai y dylem ni droi ein golygon at agweddau eraill o’r ddeddfwriaeth newydd a cheisio gweld i ba ddiben positif y gellid troi’r Bil newydd. Efallai, yn wir, bod yna gyfleon wrth greu darpariaeth ar gyfer diwygio etholiadol. Rydw i'n gwybod eich bod chi, fel fi, yn cefnogi pleidleisiau cyfrannol fel ffordd o fywiogi etholiadau a chynyddu cyfranogiad. Fe soniodd eich rhagflaenydd am gyflwyno pleidleisiau cyfrannol i etholiadau lleol, ond nid oedd o am wneud hynny’n fandadol. I mi, mi ddylai hyn ddigwydd yn gyson ledled Cymru fel nad oes yna system cod post yn cael ei greu, ac, os nad yw’n cael ei wneud yn fater mandadol ar draws cynghorau Cymru, mae perig na fydd o'n digwydd. Felly, fy ail gwestiwn i ydy hyn: a wnewch chi gyflwyno pleidleisio cyfrannol mandadol i etholiadau lleol fel rhan o’r ddeddfwriaeth newydd yma?

Fe all y ddeddfwriaeth newydd hefyd ddechrau mynd i'r afael â'r diffyg amrywiaeth mewn llywodraeth leol. Ar hyn o bryd, dim ond 27 y cant o gynghorwyr Cymru sydd yn ferched, ac mae angen newidiadau pellgyrhaeddol os ydy breuddwyd y Prif Weinidog am Gymru ffeministaidd yn mynd i ddod yn fyw. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cychwyn ymchwiliad i hyn, gan edrych yn benodol ar sut i orchfygu rhai o'r rhwystrau sydd yn bodoli. Beth am i chithau feddwl am ddulliau i greu newid drwy'r ddeddfwriaeth newydd—cyflwyno cwotâu, er enghraifft, neu ganiatáu rhannu swyddi ymhlith cynghorwyr?

Felly, i gloi, a wnewch chi ymrwymo i gyflwyno newidiadau etholiadol yn y Bil newydd a fydd yn arwain at greu llywodraeth leol mwy amrywiol a chydradd? Diolch.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:50, 17 Gorffennaf 2018

Mi fuaswn i'n hapus iawn i wneud hynny. Rydym ni wedi bod yn trafod ers rhai misoedd y rhannau o'r ddeddfwriaeth a fydd yn delio â diwygio etholaethol, ac fel y mae'r Aelod wedi cydnabod yn ei chyfraniad hi, fel hi, rydw i'n cytuno â PR, pleidleisio cyfrannol, ac rydw i'n credu y buasai hynny yn help i greu lot fwy o amrywiaeth tu fewn i lywodraeth leol ac i sicrhau bod gan lot fwy o bobl y cyfle i sefyll ac i gael eu hethol fel cynghorwyr lleol, a liciwn i weld hynny. Os oes gan yr Aelod unrhyw awgrymiadau ychwanegol i sicrhau ein bod ni'n gallu gwneud hyn trwy newid y gyfraith, rydw i'n hapus iawn i ystyried hynny, ac rydw i'n hapus iawn i ystyried gofyn i'r gweithgor ystyried opsiynau gwahanol i sicrhau bod yna fwy o amrywiaeth tu fewn i lywodraeth leol. Rydw i'n fodlon iawn sicrhau bod gyda ni'r cyfle, gofod a lle i drafod hynny yn ystod yr wythnosau nesaf a'r misoedd nesaf.

Pan fo'n dod i bleidleisio cyfrannol, mae'r Aelod yn ymwybodol o'r datganiad a wnes i ym mis Ionawr am beth ydy cynigion y Llywodraeth yn y maes yma. Rydym ni eisiau cynnig i gynghorau'r grym i newid y system eu hunain. Mi liciwn i gyflwyno polisi fydd yn sicrhau bod gyda ni bleidleisio cyfrannol fan hyn ac i gynghorau ar draws Cymru, ond mae'r Aelod yn ymwybodol nad yw'r gefnogaeth ar gyfer hynny ar gael i ni. Felly, nes bod yna gefnogaeth i hynny, mi fyddwn ni yn parhau gyda'r polisi presennol, ond rydw i'n hapus iawn i ymuno â'r Aelod i ymgyrchu dros bleidleisio cyfrannol ar draws Cymru ac ym mhob rhan o'n sefydliadau democrataidd, o gynghorau i'r lle yma, ein Senedd ni, a Senedd San Steffan. Rydw i'n meddwl ei fod yn bwysig newid ein gwleidyddiaeth ni.

Pan fo'n dod i'r newidiadau, a gaf i ddweud hyn? Mae'r llefarydd Plaid Cymru, Llywydd, wedi canolbwyntio ar un ochr o hyn, sef uno, ac uno cynghorau. Liciwn i edrych yn ehangach na hynny. Beth sy'n bwysig i fi yw ystyried pwysigrwydd y dinesydd ac edrych ar sut ydym ni yn sicrhau bod y dinesydd, lle bynnag maen nhw'n byw, beth bynnag yw'r ddaearyddiaeth, pa bynnag y math o gymuned lle maen nhw'n byw—canol y ddinas neu bentref gwledig—yn cael y math o wasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, a'n bod ni yn creu'r math o ddemocratiaeth, atebolrwydd democrataidd a strwythur democratiaeth i sicrhau bod hynny yn digwydd.

Rydw i'n meddwl bod gyda ni gyfle yn fan hyn i fynd lot bellach na sôn dim ond amboutu uno. Nid ydw i eisiau'r drafodaeth yr ydym ni'n mynd i'w chael dros y misoedd nesaf ganolbwyntio ar uno yn unig. Beth rydw i eisiau ei weld yw sut ydym ni'n rhedeg systemau rhanbarthol, sut ydym ni'n penderfynu bod rhai gwasanaethau yn cael eu rhannu rhwng awdurdodau gwahanol, y berthynas rhwng llywodraeth leol a rhannau eraill o'r sector gyhoeddus, y berthynas rhwng llywodraeth leol a'r gwasanaeth iechyd, er enghraifft, sut mae llywodraeth leol yn sicrhau ei bod yn chwarae rôl mwy mewn datblygu economaidd—mae yna sawl cwestiwn yn fan hyn i ni ei ateb, ac mae sawl trafodaeth yr ydym ni'n gallu ei chael dros y misoedd nesaf.

So, rydw i'n gobeithio y byddwn ni'n cael trafodaeth sy'n ehangach na thrafod uno, a thrafodaeth a fydd yn fyw cyfoethog na hynny. Ac rydw i'n credu bod y broses yn ystod y misoedd diwethaf wedi creu sylfaen ac wedi creu sefyllfa wahanol, lle mae arweinwyr llywodraeth leol yn cydnabod bod yn rhaid cael newid ac yn fodlon trafod pa fath o newid rydym ni'n mynd i'w gael. Rydw i'n edrych ymlaen at y math o drafodaeth y cawn ni dros y misoedd nesaf. 

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 4:55, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Mae'n ymddangos ein bod ni mewn sefyllfa eithaf od nawr gyda’r broses hir hon o ad-drefnu llywodraeth leol, ac rwy’n sylweddoli ei bod hi’n broses hir cyn ichi ddod i’r swydd, felly dydw i ddim yn lladd ar eich ymdrechion hyd yma—o leiaf ddim yn lladd ar eich ymdrechion hyd yma yn llwyr. Mae'n ymddangos ein bod ni mewn sefyllfa lle mae’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn cael eu hannog i fynd am uno gwirfoddol nawr, er bod llawer, neu yn wir y rhan fwyaf ohonyn nhw, eisoes wedi awgrymu’n gryf eu bod nhw yn erbyn uno o unrhyw fath.

Mae yna dystiolaeth bod llawer ohonyn nhw nawr yn gweithio ar y cyd ar rannu gwasanaethau ag awdurdodau cyfagos. Yn wir, dydy hyn ddim wir yn ddewis iddyn nhw, o ystyried y prinder arian mewn llywodraeth leol; mae'n fwy o reidrwydd ariannol. Bydd rhaid i gynghorau gydweithio mwy yn yr hinsawdd ariannol hon neu y dewis arall fydd torri mwy o wasanaethau. Felly, mae gweithio ar y cyd yn dod, beth bynnag yr hoffai cynghorau ei wneud.

Un peth sydd ddim mor glir yw a ydym ni’n symud gydag unrhyw ddiben o gwbl tuag at uno gwirioneddol. Mae'r Gweinidog nawr yn cynnig sefydlu gweithgor ar y cyd â CLlLC i sôn am uno posibl—a materion eraill, mae’n siŵr. Mae'n siŵr bod y grŵp hwn yn syniad da mewn rhai ffyrdd, gan ei fod yn cynrychioli rhyw fath o ymgynghoriad. Ond, fel y dywedais ar ddechrau fy ymateb, mae hyn wedi bod yn digwydd ers cryn amser nawr, yr holl ad-drefnu hwn. Felly, ar ryw adeg, yn ôl pob tebyg, bydd yn rhaid i chi neu ryw Weinidog llywodraeth leol arall benderfynu a ddylid gwneud unrhyw uno ai peidio. Mae eich grŵp chi, o dan gadeiryddiaeth Derek Vaughan, yn swnio ychydig fel cicio’r tun i lawr y ffordd. Pryd ydych chi'n meddwl y gallwn ni nawr ddisgwyl penderfyniad ar uno? A gawn ni benderfyniad terfynol erbyn yr haf nesaf, er enghraifft?

Nawr, mae'n fy nharo i nad yw cynghorau Cymru yn ymddangos yn rhy awyddus i uno, ond maen nhw’n gwneud y gwaith hwn ar y cyd. O gofio hyn, oni fyddai'n syniad da i symud i ffwrdd ychydig oddi wrth y syniad o uno a mwy tuag at gydweithredu? Dydw i ddim yn sôn am gefnu ar y syniad o uno, ond o leiaf ddechrau ar gwrs cyfochrog o blaid cydweithio. A allech chi efallai fonitro cydweithrediad, a’i gymell, yn effeithiol, a gwobrwyo’r cynghorau hynny sy'n gallu dangos eu bod nhw’n arbed arian i'r pwrs cyhoeddus yn effeithiol drwy gydweithio fel hyn? A fyddai hyn yn ffordd ymlaen?

Nawr, os gallwch chi sicrhau uno gwirfoddol, byddai hynny'n ganlyniad da, ond mae angen inni gadw draw o uno wedi’i orfodi mewn modd unochrog, hynny yw, bod un awdurdod lleol yn bwriadu meddiannu awdurdod lleol arall. Mae gennym enghraifft leol cyngor sir Caerdydd, sydd wedi mynegi yr hoffen nhw uno â Bro Morgannwg, fel y dangosodd datganiadau diweddar Huw Thomas. Wel, aethom ni drwy hyn y tro diwethaf—doedd Bro Morgannwg byth am uno â Chaerdydd. Wnaethon nhw erioed fynegi unrhyw awydd i uno â Chaerdydd. Yn wir, pan oedd y syniad o uno gwirfoddol ganddyn nhw y tymor diwethaf, gwnaethon nhw fynegi dymuniad i uno gyda Phen-y-bont ar Ogwr. Felly, o gofio nad yw’r Fro erioed wedi awgrymu bod ganddynt unrhyw awydd i uno â Chaerdydd, a allech ein sicrhau na chawn ni’r canlyniad hwn os yw'n amlwg yn wir nad oes gan y rhan fwyaf o gyngor y Fro ddim awydd am y canlyniad hwn?

Yn olaf, dydy Mike Hedges ddim yma heddiw, ond mae ef fel arfer yn bresennol ar yr adegau hyn. Rwy’n meddwl ei fod ef wedi codi pwynt eithaf dilys ar sawl achlysur, sef—. Mae'n sôn am y ffaith bod ad-drefnu llywodraeth leol wedi digwydd yma yn rheolaidd, tua bob 20 i 25 mlynedd, a bod pob un yn cael ei alw’n ad-drefnu diffiniol, ac yna, 20 mlynedd yn ddiweddarach, rydym ni’n dechrau sôn am un arall. Yr un pwynt y mae ef wedi’i wneud sy'n deillio o hynny yw: a allwn ni ddangos o unrhyw un o’r ad-drefniadau bod cynghorau mwy o reidrwydd yn arwain at arbedion cost sylweddol? Rwy'n meddwl bod angen inni edrych ar hyn a gweld a oes unrhyw sail dystiolaeth y bydd cynghorau mwy o reidrwydd yn arwain at ostwng costau i bwrs y wlad. Hefyd, ceir enghraifft y byrddau iechyd mwy yn ogystal. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:59, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy’n ddiolchgar, Llywydd, am y sylwadau. A gaf i ddweud hyn? Dydw i erioed wedi dadlau o blaid dull gweithredu unffurf i ddiwygio llywodraeth leol a dydw i erioed wedi dadlau bod, o reidrwydd, cynghorau mawr iawn bob amser yn beth da. A dweud y gwir, os edrychwch chi ar sail lawer ehangach na dim ond Cymru, fe welwch chi nad yw’r cynghorau a oedd yn cael eu cynnig yn y Papur Gwyrdd yn fawr eu hunain. Dydy’r rhain ddim yn sefydliadau mawr iawn. Mae llawer o'r awdurdodau lleol ar draws y ffin yn Lloegr yn llawer mwy na'r awdurdodau a oedd yn cael eu cynnig yma, felly dydyn ni ddim yn sôn am sefydliadau mawr iawn.

Yr hyn yr wyf i’n poeni amdano yw creu sefydliadau sy'n gynaliadwy, ac rwy’n meddwl ei bod hi’n deg dweud—a dydw i heb glywed dadl eto y prynhawn yma, ac yn sicr dydw i heb glywed dadl yn ystod y misoedd diwethaf—bod y 22 o awdurdodau lleol sydd gennym ni ar hyn o bryd yng Nghymru yn strwythur cynaliadwy. Does neb yn dadlau o blaid 22 awdurdod lleol. Rydych chi’n tueddu i weld bod pobl yn dadlau o blaid, 'Fy awdurdod lleol i, ac rwy’n cytuno ag uno ym mhen arall y wlad.' Dyna beth rydych chi’n tueddu i’w weld yn y ddadl hon. Rwy’n meddwl bod angen dadl fwy aeddfed arnom ni, ac rwy’n credu bod angen dadl sy'n seiliedig ar y dinesydd ac yn seiliedig yn y dinesydd, nid yn seiliedig ar beth allai fod yn gyfleus i wleidyddion a beth y gellid ei alw'n ddosbarth gwleidyddol. Felly, rwy’n meddwl y dylem ni seilio ein dadl ar yr hyn sy’n iawn ac sy'n briodol i ddinasyddion y wlad hon ac nid yn yr hyn sydd hawsaf i ni ein hunain.

Wna’i ddim ateb y cwestiwn na rhoi unrhyw sicrwydd ynglŷn â dyfodol Bro Morgannwg, Llywydd. Nid fy lle i yw gwneud hynny. Mae'n ymddangos braidd yn rhyfedd i ddechrau proses o ddadl a thrafod drwy nodi cyfres gyfan o fuchod cysegredig ar ddechrau'r broses honno. Wna’i ddim gwneud hynny. Yr hyn y byddwn i’n ceisio ei wneud yw dweud bod yr Aelod yn hollol iawn yn ei farn bod hyn wedi bod yn digwydd ers cryn amser. Mae wedi bod yn digwydd ers bron i 20 mlynedd. Y pwynt a wneuthum—a chyfeiriodd llefarydd Plaid Cymru at hyn yn ei chyfraniad—y pwynt yr oeddwn yn ceisio ei wneud yn fy araith yn Llandudno ychydig wythnosau'n ôl yw nad oes perthynas aeddfed wedi bod rhwng y lle hwn a llywodraeth leol a rhannau eraill o’r sector cyhoeddus ers sefydlu'r Llywodraeth ddatganoledig yn 1999. Ac mae'n gyfrifoldeb ar bob rhan i sicrhau ein bod ni’n datblygu perthynas fwy aeddfed. Dydw i ddim yn ceisio bwrw bai am hyn na phwyntio bysedd. Yr hyn yr wyf i’n ceisio ei ddweud yw bod llawer o gyfleoedd a llawer o gynigion ar gyfer newid wedi bod dros flynyddoedd lawer, ond am bob math o wahanol resymau rydym ni’n dal i gael y ddadl hon, a byddwn ni’n parhau—ac rwy’n mynd i fod yn glir iawn am hyn—byddwn ni’n parhau i gael y ddadl hon, a bydd pobl sy'n ein dilyn ni yn y lle hwn yn parhau i gael y ddadl hon, a bydd Gweinidogion yn y dyfodol yn parhau i gael y ddadl hon, oherwydd dydyn ni heb setlo’r materion sylfaenol hyn o ran llywodraethu.

Nes inni wneud setlo’r materion hyn o ran llywodraethu, beth bynnag am Bapurau Gwyn neu Bapurau Gwyrdd, bydd gwlad o 3 miliwn o bobl yn meddwl tybed pam maen nhw’n cael eu llywodraethu gan gynifer o wahanol fudiadau, cyrff a sefydliadau, ac nad yw’n ymddangos bod yr un ohonyn nhw’n siarad ac yn gweithio gyda'i gilydd yn effeithiol. Mae gan bobl Cymru hawl i ddisgwyl bod eu cynrychiolwyr etholedig, ym mha bynnag siambr y maen nhw’n eistedd, yn cymryd y materion hyn o ddifrif ac yn dod o hyd i atebion i'r materion hyn. Nid yw'n ddigon da i unrhyw wleidydd o ba blaid y mae’n ei chynrychioli, neu ym mha bynnag siambr y mae’n eistedd, yn syml anobeithio a chwyno am atebion pobl eraill. Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i drin y mater hwn yn fwy difrifol na hynny.

Felly, rwy’n gobeithio y gwelwn ni dros y misoedd nesaf raglen i ddiwygio'r sector cyhoeddus sy'n mynd ymhell y tu hwnt i ddadl sych a diffrwyth ynghylch llinellau ar fapiau neu uno awdurdodau unigol neu beidio, ond adolygiad sylfaenol o sut y mae'r sector cyhoeddus yn gweithredu yng Nghymru, sut rydym ni’n cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a sut y gallwn ni sicrhau bod ein holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i fod yn seiliedig ar ddinasyddiaeth, yn seiliedig ar ddinasyddiaeth weithredol a dinasyddiaeth wedi'i grymuso.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 5:04, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy’n cytuno’n llwyr â chi bod uno gorfodol yn annhebygol o arwain at lywodraeth leol dda, oherwydd bydd pobl yn canolbwyntio ar hynny yn hytrach nag ar y gwasanaethau y mae angen iddyn nhw eu cyflenwi. Felly, rwy’n croesawu’n fawr iawn eich cynnig i fwrw ymlaen ag uno gwirfoddol lle mae awdurdodau lleol yn teimlo'n gyfforddus ynghylch uno, ond yn amlwg mae gennym ni rai heriau sylweddol o'n blaenau, fel rydych chi’n ei ddweud, nid lleiaf nad oes dim mwy o arian yn dod gan Lywodraeth y DU. Yn wir, y perygl yw y bydd rhaid cymryd arian oddi ar lywodraeth leol i dalu am addewid Mrs May o fwy o arian ar gyfer y GIG. Ond, hyd yn oed pe na bai hynny’n wir, hoffwn glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch effaith cynnig Llywodraeth y DU i ddileu pob grant cynnal ardrethi a ariennir yn ganolog o awdurdodau lleol yn Lloegr a beth fydd effaith hynny ar y grant bloc y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael ar gyfer poblogaeth Cymru. Yn amlwg, mae eu cynnig i ganiatáu i awdurdodau lleol nofio neu foddi yn seiliedig ar drethi cyngor annheg ac ardrethi busnes annheg yn peri pryder mawr i bobl yn Lloegr, ond rhaid i’n pwyslais ni fod ar Gymru.

Rwy’n meddwl y bydd angen inni annog awdurdodau lleol mewn nifer o ffyrdd os nad ydyn nhw'n teimlo'n barod i uno, yn amlwg, i ganolbwyntio ar sut y maen nhw'n mynd i gydweithio i leihau costau gwasanaethau y mae angen iddyn nhw eu darparu, yn ogystal â’u hail-lunio nhw i ddiwallu anghenion pobl yn well. Rwy’n cael trafferth i ddeall pam na fyddai’n bosibl rhannu cyflogres ar draws 22 o awdurdodau lleol heb golli dim atebolrwydd democrataidd, a tybed a yw hynny'n rhywbeth yr ydych chi’n meddwl y byddai eich cydweithwyr mewn llywodraeth leol yn barod i’w ystyried.

Heblaw am hynny, rwyf wedi siarad cyn hyn am y gwaith cydweithredol pwysig iawn sy’n digwydd drwy fyrddau gwasanaethau cyhoeddus, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny'n rhoi awydd i awdurdodau lleol gydweithio a ffurfio partneriaethau ar draws gwasanaethau cyhoeddus ac yn y dyfodol, gobeithio, ar draws ffiniau’r awdurdodau lleol presennol.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 5:07, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae’r Aelod dros Ganol Caerdydd wedi gwneud ei phwynt yn dda iawn, iawn—mae’r heriau sydd o'n blaenau yn ddifrifol ac yn sylweddol. O ystyried y modd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, wrth weithredu fel Llywodraeth Lloegr, yn ceisio lleihau cymorth i awdurdodau lleol i bron ddim a gwneud i awdurdodau lleol—gorfodi awdurdodau lleol—i fod yn hunangynhaliol, bydd yn amlwg yn cael effaith ar yr ochr hon i'r ffin yn ogystal.

Mae'n gwestiwn da iawn—beth yn union fydd effaith hynny. Byddwn i wrth fy modd, Llywydd, yn gallu rhoi ateb i hynny i’r Aelod. Dydw i ddim yn gwybod beth fydd yr effaith. Yn amlwg, mae'n gwestiwn pwysig i ddyfodol y setliad, ond mae'n fater y mae angen inni roi sylw iddo o ddifrif.

Rwy’n meddwl, o ran cymharu gwahanol ddulliau o gefnogi llywodraeth leol, y byddwch chi’n gweld dargyfeirio sylweddol dros y blynyddoedd nesaf. Wrth i Lywodraeth y DU yn Lloegr gefnu ar lywodraeth leol a cheisio lleihau a gwanhau awdurdodau lleol, sy'n lleihau rôl democratiaeth leol, yng Nghymru hoffem ni fuddsoddi yn nyfodol llywodraeth leol a buddsoddi yn nyfodol democratiaeth leol. Hoffwn i weld awdurdodau lleol, o ganlyniad i'r gweithgor hwn, yn gwneud mwy ac nid llai. Hoffwn i eu gweld nhw’n cael mwy o bwerau ac nid llai o bwerau. Hoffwn i eu gweld nhw’n gallu gweithredu fel llunwyr a gwneuthurwyr cymunedau a lleoedd mewn ffordd y mae llawer yn methu â’i wneud heddiw, a hoffwn i i’n hawdurdodau lleol ni allu bod yn gynaliadwy yn y dyfodol.

Mae sut i gyflawni hyn yn amlwg yn destun sgwrs. Llywydd, mae’r Aelod dros Ganol Caerdydd yn codi mater byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Rwy’n credu bod byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn ffordd dda o ddarparu gwasanaethau ar draws ardal ddaearyddol ehangach, ac mae gennyf ddiddordeb mewn deall sut y gellid defnyddio byrddau gwasanaethau cyhoeddus fel modd o gynllunio gwasanaethau a chyflenwi gwasanaethau ar y cyd yn well, ac rwy’n meddwl bod hwn yn gyfle da iawn inni i seilio llawer o waith cychwynnol, o leiaf, y gweithgor yn y model byrddau gwasanaethau cyhoeddus o ddarparu gwasanaethau.

O ran materion eraill, mae mater y gyflogres yn enghraifft ddiddorol i’w defnyddio, o ran pa wasanaethau y gellid eu rhannu a sut y byddem ni’n cyflenwi gwasanaethau a rennir yn y dyfodol. Rwy’n gwybod bod llawer o arweinwyr llywodraeth leol—ac rwyf wedi trafod yr union fater hwn gyda rhai arweinwyr llywodraeth leol—ar hyn o bryd yn gobeithio sicrhau bod mwy o gyfrifoldeb cyffredin dros gyflenwi rhai o'r swyddogaethau gweinyddol hynny, ac rwy’n clywed rhai syniadau gwirioneddol arloesol, cyffrous a chreadigol gan lywodraeth leol ynghylch sut y gellir datblygu hynny yn y dyfodol.

Diben y gweithgor hwn, Llywydd, yw dod â’r syniadau hyn at ei gilydd, ystyried y dyfodol a datblygu a chyflawni cynllun sydd ddim yn ymwneud yn syml ag uno, ond sy'n diwygio’r sector cyhoeddus yn ehangach yng Nghymru, ac sy’n symleiddio ac yn llyfnhau’r ffordd yr ydym ni’n cynnal Llywodraeth yng Nghymru, ac yna gyflawni hynny dros gyfnod hirach. Rwy’n credu bod honno’n agenda gyffrous iawn, iawn, ac rwy’n gobeithio y gwnaiff Aelodau ar bob ochr i'r Siambr hon gyfrannu at y weledigaeth honno.