– Senedd Cymru am 4:50 pm ar 26 Medi 2018.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar P-05-826: 'Mae Sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg!' Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor i wneud y cynnig—David Rowlands.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyflwyno'r ddadl hon ar ddeiseb sy'n ceisio gwarchod y ddarpariaeth o wasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Dosbarth Cyffredinol Llwynhelyg yn Sir Benfro.
Mae hon yn ddeiseb o bwys, o ran ei phwysigrwydd i bobl yn y gymuned leol a nifer y llofnodion a gasglwyd. Llofnododd 40,045 o bobl y ddeiseb i gyd. Rwy'n deall mai dyma'r ddeiseb fwyaf a gyflwynwyd i'r Cynulliad ers cyflwyno'r broses ddeisebu ffurfiol yn 2007. Cafodd lefel y gefnogaeth i'r ddeiseb ei gadarnhau pan gafodd ei chyflwyno i'r Cynulliad ym mis Gorffennaf, gyda nifer sylweddol o gefnogwyr wedi teithio o Sir Benfro. Rwyf am gydnabod y gefnogaeth i'r ddeiseb ac ymrwymiad y rhai a ymgyrchodd i gasglu'r llofnodion.
Rwyf am droi'n fyr at rywfaint o gefndir cyn mynd i'r afael â'r materion a godwyd yn y ddeiseb. Ar 19 Ebrill eleni, lansiodd bwrdd iechyd Hywel Dda ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar gynigion i newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd ar draws yr ardal. Daeth hyn yn sgil ymarferiad mewnol i geisio nodi'r heriau a wynebir gan y bwrdd iechyd a'r opsiynau ar gyfer newid. Mae'n deg nodi bod bwrdd iechyd Hywel Dda wedi pwysleisio bod y broses hon wedi'i harwain gan staff clinigol o'r cychwyn cyntaf.
Roedd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cynnwys tri chynnig ar gyfer newidiadau i wasanaethau ysbyty. Mynegodd mai ei nod cyffredinol yw symud mwy o wasanaethau o ysbytai i gymunedau a lle bo'n bosibl, darparu gwasanaethau yng nghartrefi cleifion eu hunain. O dan bob un o'r argymhellion, byddai ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd yn cael ei israddio o fod yn ysbyty cyffredinol dosbarth i ddod yn un o rwydwaith o ysbytai cymuned. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 12 Gorffennaf. Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, ystyriwyd canlyniadau'r ymgynghoriad ac argymhellion mewn cyfarfod eithriadol o fwrdd iechyd Hywel Dda yn gynharach heddiw. Adroddwyd yn y cyfryngau fod cais wedi'i wneud i'r bwrdd gymeradwyo sawl argymhelliad clinigol. Mae'r rhain yn cynnwys datblygu model newydd yn gyflym a fersiwn ddiwygiedig o opsiwn B o'r ymgynghoriad.
Bydd opsiwn B yn golygu, ymhlith pethau eraill, cau adrannau damweiniau ac achosion brys yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili ac adeiladu ysbyty newydd rhwng Arberth a Sanclêr. Y bwriad yw addasu Llwynhelyg a Glangwili i fod yn ysbytai cymuned. Cymeradwywyd y cynigion hyn gan y bwrdd iechyd a'r cam nesaf yw ystyried strategaeth iechyd ddrafft ym mis Tachwedd.
Cydnabu'r Pwyllgor Deisebau lefel y gefnogaeth i'r ddeiseb pan drafodwyd hyn am y tro cyntaf yn union cyn toriad yr haf. Roedd y pwyllgor hefyd yn ymwybodol o natur sensitif i amser y mater. O gofio hyn, cytunwyd y byddai'n briodol cyfeirio'r ddeiseb ar unwaith ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn. Mae'r pwyllgor yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Busnes am gytuno i drefnu'r ddadl hon ar y cyfle cynharaf posibl. Er hynny, mae'n amlwg yn anffodus iawn, er gwaethaf yr ymdrechion hynny, fod y ddadl hon yn digwydd ar ôl cyfarfod y bwrdd iechyd y bore yma.
Rwy'n siomedig hefyd fod y wybodaeth a gafodd y pwyllgor gan Hywel Dda yn anghywir. Nododd y byddai adroddiad cau ymgynghoriad ac argymhellion yn cael eu cyflwyno i gyfarfod cyhoeddus o'r bwrdd yfory, ar 27 Medi, yn hytrach na heddiw. Serch hynny, rwy'n siŵr y bydd y bwrdd iechyd yn dymuno rhoi sylw manwl i'r materion a godir yn ystod y ddadl y prynhawn yma ac i'r safbwyntiau a fynegir gan yr Aelodau.
Rwyf am symud ymlaen yn awr at y pryderon a fynegwyd yn y ddeiseb. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar yr effaith y bydd cael gwared ar yr adran damweiniau ac achosion brys o ysbyty Llwynhelyg yn ei chael ar y pellter y byddai angen i lawer o bobl ei deithio i gyrraedd eu hadran damweiniau ac achosion brys agosaf.
O dan y cynlluniau, bydd Llwynhelyg yn cynnal uned mân anafiadau. Fodd bynnag, mae'r deisebwyr yn credu y bydd y newid yn arwain at amseroedd teithio o awr neu fwy i adran damweiniau ac achosion brys i bobl sy'n byw ar ochr orllewinol Sir Benfro. Maent hefyd yn mynegi pryder y gallai'r amser hwn fod yn llawer hwy mewn gwirionedd i gleifion sydd angen ambiwlans i'w cludo i'r ysbyty. Mae pawb ohonom yn gwybod cymaint y mae cymunedau lleol yn gwerthfawrogi eu gwasanaethau iechyd, a pha mor emosiynol y gall argymhellion i'w newid fod. Nid yw honno'n ddadl dros beidio â gwneud newidiadau byth wrth gwrs. Ond dylai fod yn ddadl dros sicrhau y gall cynifer o leisiau ag y bo modd gael eu clywed a dros roi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r pryderon.
I'r perwyl hwn, hoffwn nodi ar gyfer y cofnod hefyd fod y Pwyllgor Deisebau wedi derbyn deiseb yn ddiweddar mewn perthynas â'r argymhellion sydd wedi'u cynnwys yn yr un ymgynghoriad ar gyfer gwneud newidiadau i wasanaethau a ddarperir yn ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli. Bydd y pwyllgor yn ystyried hyn yn y dyfodol agos.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n siŵr y bydd y pwyntiau a godir yma heddiw o ddiddordeb mawr i'r deisebwyr. Mae'n amlwg hefyd y bydd y penderfyniadau a wnaethpwyd gan y bwrdd iechyd yn gynharach heddiw yn siom fawr i'r rhai a lofnododd y ddeiseb hon ac i nifer o bobl yn Sir Benfro a gorllewin Cymru yn ehangach. Rwyf hefyd yn siŵr fod nifer fawr o'r Aelodau yma heddiw yn dymuno siarad ar y pwnc hwn, ac fe'i gadawaf i eraill ymhelaethu ar yr egwyddorion a'r dadleuon sy'n ganolog i'r mater hwn. Y cyfan sydd ar ôl i mi ei ddweud yw y bydd y Pwyllgor Deisebau yn dychwelyd i ystyried y ddeiseb ymhellach yn y dyfodol yng ngoleuni'r drafodaeth yma heddiw, ac y bydd y cyfraniadau amrywiol y byddwn yn eu clywed yn cefnogi'r ystyriaethau hynny'n fawr. Diolch yn fawr.
Diolch. Fel y dynodwyd, mae nifer o bobl yn dymuno siarad, ac felly a gaf fi ddweud wrth bawb ohonoch: nid fy mrifo i fyddwch chi pan ewch dros yr amser, ond efallai y byddwch yn atal un o'ch cyd-Aelodau rhag siarad. Felly, os gallwch gadw hynny mewn cof, os gwelwch yn dda. Paul Davies.
Diolch, Ddiprwy Lywydd. Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl. Ar y cychwyn cyntaf, hoffwn gofnodi fy niolch i drefnydd y ddeiseb, Myles Bamford Lewis, a'r nifer dirifedi o ymgyrchwyr lleol sydd wedi mynd allan o'u ffordd i ymgyrchu dros ddiogelu gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg.
Mae heddiw'n ddiwrnod tywyll iawn i bobl Sir Benfro yn dilyn y newyddion trychinebus y bydd ysbyty Llwynhelyg yn colli ei statws fel ysbyty cyffredinol dosbarth ddydd a nos, ac ar y cychwyn gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymyrryd ar frys mewn perthynas â'r mater hwn a rhoi camau ar waith ar unwaith i ddiogelu ein gwasanaethau lleol. Yn wir, mae'r ffaith bod ychydig dros 40,000 o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb hon ynddi'i hun yn dangos cryfder y teimlad ynglŷn â gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru ac yn ei gwneud yn gwbl glir na fydd pobl Sir Benfro yn ildio eu gwasanaethau heb frwydr.
Fel y mae'r Aelodau eisoes yn gwybod, dyma ymgyrch rwyf wedi'i chefnogi gyda balchder ers blynyddoedd, ac yn fy rôl fel yr Aelod Cynulliad lleol byddaf yn parhau i wneud popeth yn fy ngallu i wrthwynebu unrhyw gynlluniau a fydd yn arwain at symud gwasanaethau o'r ysbyty. Yn fy marn i ni fydd israddio gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg yn arwain at wneud gwasanaethau'n fwy diogel neu'n fwy cynaliadwy yn y dyfodol.
Nawr, wrth agor y ddadl hon, tynnodd y Cadeirydd sylw at yr ymgynghoriad a lansiwyd gan fwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda ar ei argymhellion ar gyfer newid y ffordd y darparir gwasanaethau iechyd ar draws ardal y bwrdd iechyd, a chadarnhaodd y byddai ysbyty Llwynhelyg, o dan bob un o'r tri argymhelliad, yn cael ei hisraddio o fod yn ysbyty cyffredinol dosbarth. Mewn geiriau eraill, ni chafodd pobl Sir Benfro unrhyw ddewis yn yr ymgynghoriad hwn gan fod y penderfyniad eisoes wedi'i wneud i israddio'r ysbyty i fod yn ysbyty cymuned. Nid ymgynghoriad yw peth felly.
Yn Sir Benfro, rydym wedi dioddef yn y gorffennol oherwydd diffyg tryloywder, didwylledd a hyder yn ein bwrdd iechyd, ac mae hynny'n sicr wedi cael effaith ar y ffordd y cafodd y cynigion diweddaraf hyn eu derbyn yn lleol gan bobl. Mae'r bobl leol yn cofio dogfen gynllun 'gwario i arbed' y strategaeth gwasanaethau iechyd gwledig a gafodd ei datgelu'n answyddogol i'r wasg a'i thynnu'n ôl wedyn, a'r modd y soniai am ganoli gwasanaethau i ffwrdd o ysbyty Llwynhelyg. Roedd y ddogfen honno'n ei gwneud hi'n glir mai'r unig wasanaethau craidd yr oedd y bwrdd iechyd am eu darparu o Lwynhelyg oedd canolfan gofal brys: dim adran damweiniau ac achosion brys, asesiadau pediatrig wrth aros ar gyfer trosglwyddo i Langwili, gwasanaethau llawfeddygol dewisol arhosiad byr, obstetreg risg isel, a gofal dan arweiniad bydwragedd. Wel, gwibiwch ymlaen i 2018, a dyna'n union ble rydym bron iawn.
Ymgynghoriad presennol y bwrdd iechyd yw'r ddiweddaraf mewn cyfres hir o ymdrechion i ddileu gwasanaethau'n barhaus yn ysbyty Llwynhelyg dros y blynyddoedd diwethaf, ac i fod yn gwbl onest, mae'r bobl leol wedi cael llond bol ar orfod ymladd i gadw gwasanaethau hanfodol yn eu hysbyty lleol. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld gwasanaethau megis gwasanaethau orthodontig a'r uned gofal arbennig i fabanod yn cau ac yn cael eu canoli i ffwrdd o Sir Benfro, ac rydym wedi gweld gwasanaethau pediatrig amser llawn yn cael eu hisraddio.
Mae'r erydu parhaus hwn ar wasanaethau yn cael effaith ddilynol ar gynaliadwyedd gwasanaethau eraill. Er enghraifft, mae israddio gwasanaethau pediatrig amser llawn yn barhaus yn naturiol yn effeithio ar yr adran damweiniau ac achosion brys yn ysbyty Llwynhelyg, yn enwedig o gofio bod 25 y cant o'r rhai sy'n cael eu derbyn i adran damweiniau ac achosion brys yn blant. Yn wir, mae'r ffaith bod y bwrdd iechyd hyd yn oed yn ystyried israddio'r adran damweiniau ac achosion brys yn uned mân anafiadau yn profi'r pwynt a wnaed ar y pryd y byddai israddio gwasanaethau pediatrig amser llawn yn effeithio ar gynaliadwyedd gwasanaethau eraill. Dyma roedd pobl fel fi ac eraill yn ei ddweud ychydig flynyddoedd yn ôl, ac yn anffodus, cawsom ein profi'n gywir. Ar y pryd, cawsom ein cyhuddo o godi bwganod.
Gadewch i ni gofio hefyd fod argymhellion y bwrdd iechyd yn golygu y bydd cleifion bellach yn gorfod teithio ymhellach i gael gwasanaethau hanfodol mewn rhan o Gymru lle mae'r rhwydwaith trafnidiaeth yn creu nifer o heriau. Ychydig o sylw a roddwyd i rwydwaith trafnidiaeth treuliedig gorllewin Cymru, a fydd yn gorfod ymdopi â mwy a mwy o bobl yn teithio tua'r dwyrain o Sir Benfro. Unwaith eto, mae hyn yn dangos lefel y flaenoriaeth a roddir i ddarparu gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru, a rhaid i Lywodraeth Cymru roi diwedd yn awr ar gynlluniau'r bwrdd iechyd ac anfon datganiad clir na oddefir camau cyson i symud gwasanaethau o Sir Benfro mwyach.
Ddirprwy Lywydd, fe wyddom hefyd nad yw bwrdd iechyd Hywel Dda a Llywodraeth Cymru wedi gwneud dim i helpu i ddenu meddygon a staff meddygol i'r ardal drwy israddio a dileu gwasanaethau, ac nid yw hynny yn ei dro yn gwneud dim i ddiogelu'r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau. Yn awr, yn fwy nag erioed, mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn ymyrryd ac yn rhoi diwedd ar gynlluniau trychinebus y bwrdd iechyd unwaith ac am byth.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ailadrodd eto fy nghefnogaeth i'r ddeiseb hon ac ategu safbwyntiau pobl Sir Benfro ar y mater hwn? Mae'r neges yn hollol glir: rhowch y gorau i israddio ein hysbyty. Cefnogir y neges hon gan gynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol ac ar bob lefel o lywodraeth. Yn wir, ymgyrch 'tîm Sir Benfro' yw hi, dan arweiniad pobl leol sy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â gwasanaethau iechyd lleol.
Mae'n braf gallu siarad fel aelod o'r Pwyllgor Deisebau a llefarydd Plaid Cymru ar iechyd. Rydw i'n mynd i siarad am yr egwyddorion o israddio a cholli gwasanaethau brys.
Mae'r ddeiseb yma, wrth gwrs, rydym ni'n ei thrafod heddiw yn adlewyrchiad eto fyth o'r consýrn sy'n codi'n gyson pan fyddwn yn sôn am ad-drefnu gwasanaethau ysbytai, ac yn benodol yr argymhellion sydd wedi bod yn achosi pryderon yn y rhan yma o Gymru bellach ers blynyddoedd. Mae pryderon yn cael eu hanwybyddu yn aml gan wleidyddion sydd yn dweud, 'O, mae'n rhaid inni fynd drwy broses o newid. Mae'n rhaid derbyn hyn.' Efallai y clywn ni gyfeiriadau rhethregol heddiw at yr adolygiad seneddol o ofal iechyd yng Nghymru yn y dyfodol, ond cyn ichi fynd i chwilio'ch hun, mi allaf i addo nad oes yna gyfeiriad yn yr adroddiad hwnnw at unrhyw beth tebyg i'r ad-drefnu sydd yn cael ei argymell yma ar gyfer ardal Hywel Dda. Credwch chi fi, mae'n bwysig ein bod ni yn gwrando ar y deisebwyr a'r protestwyr, achos rydw i'n meddwl bod hawl gan bobl i dderbyn gwasanaethau hanfodol o fewn pellter rhesymol i le maen nhw'n byw, ac mae adran frys ysbyty yn hanfodol, siawns.
Rydw i wedi galw yn y gorffennol am ddatblygu fframweithiau o fewn y gwasanaeth iechyd yn nodi pa wasanaethau a ddylai gael eu darparu ar ba lefel, hynny ydy, rhai gwasanaethau o fewn eich cymunedau neu yn agos iawn at eich cymunedau—eich meddyg teulu chi, fferyllfeydd ac yn y blaen. Mae angen nodi bod rhai gwasanaethau arbenigol mae'n rhaid inni dderbyn bod yn rhaid teithio ymhellach i'w cael nhw, ac rydw i'n cynnwys yn hynny—rydw i wedi cael fy argyhoeddi—gwasanaethau brys trawma arbenigol. Mi wnaf i nodi yn fan hyn ei bod hi'n adlewyrchiad gwael iawn ar benderfyniadau hanesyddol fod cleifion yn y gogledd yn gorfod mynd i Stoke am y gwasanaethau trawma yma yn hytrach na bod buddsoddiad wedi cael ei wneud mewn datblygu gwasanaeth o'r math yna a allai gwasanaethu'r gogledd yng Nghymru. Nid ar chwarae bach, wrth gwrs, mae datblygu'r gwasanaethau hynny rŵan.
Ond, o edrych ar wasanaethau brys yn gyffredinol, mi edrychais i ar adroddiad diweddar a gafodd ei gyhoeddi yn Health Services and Delivery Research—astudiaeth a oedd yn cymharu allbynnau rhwng ardaloedd sydd wedi gweld gwasanaethau A&E yn cael eu canoli ac ardaloedd eraill. Nid yw'r astudiaeth yna ddim yn gweld bod yna fudd wedi dod o ganoli. Newyddion da i chi: wrth ganoli, nid oedd cynnydd mawr yn cael ei weld mewn niferoedd marwolaethau, ond mi oedd hynny oherwydd bod camau lliniarol wedi cael eu cymryd. Oedd, mi oedd yna gynnydd yn y risg o farwolaethau o ganoli ond, yn gyffredinol, nid oedd pethau ddim llawer gwaeth ar ôl canoli, os ydych chi'n cymryd cysur o hynny. Ond, mi oedd yna dystiolaeth o bwysau ar y gwasanaeth ambiwlans o ganlyniad i ganoli, ac mae'n werth nodi hefyd fod yr ardaloedd yr edrychwyd arnyn nhw fel rhan o'r astudiaeth yna yn rhai llai gwledig na'r rhan arbennig yma o orllewin Cymru.
Rydw i'n meddwl hefyd y gallai fod yn ddefnyddiol edrych ar ganfyddiadau astudiaeth Prifysgol Sheffield, yn ôl o 2007, a wnaeth astudio 10,500 o achosion brys a chanfod bod 10 km yn rhagor mewn pellter o adran frys yn cyfateb i 1 y cant o gynnydd mewn marwolaethau. Ac mi oedd y ffigwr yn waeth, wedyn, ar gyfer pobl a oedd â chyflyrau anadlu neu gyflyrau anadlol. Felly, mae pellter o adran frys yn gwneud gwahaniaeth i allbynnau.
Felly, mae yna ffactorau risg ymhlith y newidiadau arfaethedig, ac mae gan bobl, felly, yr hawl i fod â chonsýrn. Ac, wrth gwrs, nid oes gennym ni ddim mo'r manylion rydym ni eu heisiau ar hyn o bryd i wneud gwerthusiad llawn o'r hyn sydd yn cael ei gynnig. Nid oes argymhelliad am ofal allan o oriau; dim cynnydd sylweddol mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol; dim cynlluniau i fuddsoddi yn y gwasanaeth ambiwlans, ac yn y blaen. Yn hytrach, beth sydd gennym ni yw abwyd o ysbyty newydd sbon, ac rydw i'n addo i chi, o bawb rydw i wedi siarad efo nhw, maen nhw'n amheus iawn y caiff hynny ei ddelifro: £350 miliwn, o bosib, o fuddsoddiad—yr holl wariant cyfalaf mewn blwyddyn yng Nghymru. Beth rydym ni angen ei wneud, wrth gwrs, ydy gwella'r elfennau hynny o'r gwasanaeth sy'n mynd i wneud gwahaniaeth go iawn i bobl: cryfhau gofal sylfaenol, buddsoddi mwy mewn hyfforddiant meddygol, taclo problemau recriwtio ac ati, a chadw staff yn y ffordd yna.
I gloi, nid yw tynnu gwasanaethau hanfodol o ardaloedd helaeth o Gymru am wella ein gwasanaeth iechyd ni, mae gen i ofn, ac rydw i'n ddiolchgar iawn i'r deisebwyr am sicrhau un o'r niferoedd uchaf erioed o enwau ar ddeiseb i gael ei hystyried gan ein pwyllgor ni, achos rydych chi'n cynrychioli nid yn unig y bobl yn ardal Hywel Dda, ond pobl ledled Cymru sy'n trysori eu gwasanaeth iechyd lleol nhw.
Yn amlwg mae hwn yn fater anodd, wynebu mecaneg newid. Yr achos a wnaed gan fwrdd iechyd Hywel Dda yw'r un dros gynaliadwyedd gwasanaethau, nid yn awr, ond ymhen 10 mlynedd, ac rydym eisoes yn gweld bod ein gwasanaethau ysbyty yn ei chael hi'n anodd o dan y galw ychwanegol a goblygiadau poblogaeth sy'n heneiddio heddiw. Eisoes ceir prinder gofal y tu allan i oriau ar nifer o benwythnosau yn yr unedau sy'n gysylltiedig â'r ysbytai'n unig, heb sôn am y pwysau ar y wardiau, lle mae oedran cyfartalog cleifion ysbyty'r Tywysog Philip yn 82 mlwydd oed.
Yn amlwg, mae angen adlewyrchu'r newidiadau hyn yn y gymdeithas yn y ffordd yr ydym yn gweithredu ac yn trefnu ysbytai. Rwy'n credu bod cytundeb cyffredinol ynglŷn â hynny. Daw'r anhawster o'r wleidyddiaeth ac ymgysylltiad â'r cyhoedd a'r claf ar oblygiadau hynny i'n hysbytai lleol. Yn amlwg, nid yw hynny'n hawdd, ac rwyf wedi bod yn feirniadol o'r ffordd yr ymgysylltodd Hywel Dda yn hynny o beth wrth geisio rheoli'r ddadl, peidio â chymryd rhan mewn cyfarfodydd cyhoeddus, dosbarthu dogfen ymgynghoriad cyhoeddus a oedd bron yn annealladwy. Felly, mae'r ffordd y maent wedi cynnal yr ymgynghoriad yn amherffaith, ond credaf na ellir dadlau bod angen wynebu newid. Ond wrth gwrs, rydym am weld newid er gwell.
Rwy'n falch o'r cyhoeddiad y bore yma fod opsiwn A wedi'i dynnu'n ôl. Gyda phoblogaeth o faint Llanelli, o ystyried y rôl y mae ysbyty'r Tywysog Philip yn ei chwarae yn ecosystem ysbytai Hywel Dda fel canolfan hyfforddiant, nid wyf yn credu y byddai wedi bod er lles gorau'r bwrdd iechyd nac er budd pobl Sir Gaerfyrddin i israddio hwnnw'n ysbyty cymuned. Ac rwy'n falch fod y bwrdd iechyd wedi gwrando ac ystyried yn amyneddgar y dadleuon a gyflwynwyd, nid yn unig gennyf fi a fy nghydweithiwr, Nia Griffith AS, ond hefyd gan yr ymatebion i'r ymgynghoriad, lle dywedodd eu staff eu hunain mewn ymateb i'r ymgynghoriad nad oedd opsiwn A yn dderbyniol, a bod opsiwn B yn ateb gwell. Felly, i'r graddau hynny, mae'n rhyddhad i mi fod y canlyniad fel y mae. Fel y dywedodd David Rowlands ar y dechrau, mae deiseb gan ymgyrch SOSPPAN, yr ymgyrch 'achubwch ein gwasanaethau', sydd i ddod gerbron y Pwyllgor Deisebau—deiseb o 13,000 o lofnodion—eto i gael ei chlywed.
Gan edrych ar ganlyniad y penderfyniad y bore yma gan y bwrdd iechyd, credaf fod nifer o bethau y maent wedi cytuno iddynt mewn ymateb i'r ymgynghoriad yn galonogol, ond mae angen inni gadw llygad gofalus arnynt. Un yw argymhelliad 7, sef datblygu cynllun manwl i fynd i'r afael â'r pryder mawr a glywyd ynglŷn â mynediad. Yn benodol, maent yn bwriadu gweithio gyda gwasanaeth ambiwlans Cymru i edrych ar gludiant cleifion—ac edrych ar fodelau newydd ar gyfer symud pobl o gwmpas. Dyma fan gwan y newid i mi. Pan nad oes gan 25 y cant o bobl gar at eu defnydd, a phan fo'r rhai sydd â char at eu defnydd awr i ffwrdd o ysbyty—. Bydd rhai o fy etholwyr yn agosach at ysbyty Treforys; byddant yn agosach at ysbyty Tywysog Cymru; byddant yr un mor agos at ysbyty Mynydd Bychan ag y byddant i'r ysbyty yn Hendy-gwyn ar Daf. Felly, yn amlwg, mae mynediad yn mynd i fod yn allweddol ar gyfer gwneud i unrhyw newidiadau weithio.
Yr argymhelliad arall, argymhelliad 8, yw'r defnydd o dechnoleg, a oedd yn un na chafodd ei ddatblygu'n ddigonol o gwbl yn yr argymhellion a gyflwynwyd gan Hywel Dda. Clywais ar y gweddarllediad y bore yma Dr Alan Williams, sy'n arweinydd clwstwr ar gyfer Llanelli, yn dweud bod eu cynllun i fanteisio i'r eithaf ar y defnydd o dechnoleg, a ddangoswyd ar sleidiau drwy iPhone—. Dywedodd mai'r realiti yn y GIG heddiw yw'r ffaith nad iPhone fydd hyn yn ei olygu; y gwir amdani yw mai defnydd o beiriant ffacs fydd hyn yn ei olygu. Rydym wedi trafod yn y Siambr hon o'r blaen beth yw realiti cyflwr digidol y GIG heddiw. O ystyried cyflymder y newid y mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi gallu ei sicrhau hyd yma, er bod hyn 10 mlynedd yn y dyfodol, rhaid bod rhywfaint o amheuaeth ynglŷn ag a ydynt yn mynd i allu ei gyflawni o ran y strwythur sydd iddo a'r adnoddau sydd ganddo ar hyn o bryd. Felly, yn amlwg, rhaid unioni hynny, oherwydd mae'r potensial i leihau'r angen i deithio yn y lle cyntaf drwy ddefnyddio gwasanaethau digidol, fel y gall pobl gael mynediad at wasanaethau heb orfod mynd i ysbyty, yn enfawr ac ni fanteiisir ar hynny, naill ai yng nghynlluniau Hywel Dda na chan y GIG yng Nghymru yn fwy cyffredinol.
Mae rhai pethau'n dal i beri pryder yn yr ymateb o safbwynt fy etholwyr, ac mae lefelau ymddiriedaeth yn isel. Maent yn dweud y ceir adolygiadau cynhwysfawr o hyd—. Er y bydd gwasanaethau acíwt yn aros yn ysbyty'r Tywysog Philip, bydd angen adolygiadau cynhwysfawr wrth gynllunio'r newid i'r gwasanaeth er mwyn sicrhau bod meddygaeth acíwt yn mynd i fod ar gael ym mhob ysbyty. Felly, ar ôl dweud ar y naill law y bydd meddygaeth acíwt yn cael ei chadw yn ysbyty'r Tywysog Philip, mae yna rybudd braidd yn sinistr y gallai fod brwydrau yn y dyfodol o hyd, ac yn sicr byddaf yn cadw llygad barcud ar hynny. Diolch.
Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am gyflwyno hyn mewn ffordd mor bwyllog a chytbwys. Rydym yn sôn am oddeutu 40,000 o lofnodion. Y tu ôl i bob llofnod mae yna lais. Rydym yn siarad am oddeutu 40,000 o leisiau a fu'n ymdrechu i gael eu clywed am dros ddegawd; 40,000 o leisiau blinedig a rhwystredig iawn, sy'n byw mewn ofn parhaus am nad yw'n ymddangos eu bod byth yn llwyddo i effeithio mewn unrhyw ffordd o gwbl ar unrhyw gynlluniau sydd gan eraill ar gyfer eu bywydau.
Dyma'r trydydd ymgynghoriad yn fy nghyfnod fel Aelod Cynulliad dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Deuthum i mewn ar gefn y ddogfen 'Cynllun Cyflenwi', a oedd yn drychineb llwyr. Roedd rhyw nonsens o ymgynghoriad tua phum mlynedd yn ôl a aeth i'r gwellt yn ôl ei haeddiant, a bellach rydym wedi cael yr ymgynghoriad hwn.
Mae bob amser yn canolbwyntio ar israddio Llwynhelyg—un o ysbytai mwyaf anghysbell Cymru, sy'n gwasanaethu un o bobloaethau mwyaf anghysbell Cymru: poblogaeth sy'n anghymesur o oedrannus o gymharu â chyfartaledd cenedlaethol Cymru. Beth sy'n tueddu i fod yn gyffredin ymhlith pobl oedrannus? Nid ydynt yn tueddu i fod yn hynod o llythrennog mewn TG. Yn aml nid oes ganddynt gar at eu defnydd. Maent yn ei chael hi'n flinedig ac yn anodd defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. 'Ond hei, dyfalwch beth, chi hen werin Sir Benfro? Rydym yn mynd i symud eich ysbyty ymhellach i ffwrdd o'r mathau o wasanaethau y gallai fod eu hangen arnoch.' Mae'n boblogaeth sydd â nifer uchel hefyd o bobl dan anfantais, pobl dlawd, yn byw yn Sir Benfro—poblogaeth sydd eisoes yn cael trafferth i recriwtio a chadw meddygon teulu a nyrsys, gweithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd a staff ysbyty. Ac mae'r tri cyntaf—meddygon teulu, nyrsys, gweithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd—oll yn hanfodol os ydym am adeiladu ar y gwasanaethau cymunedol hyn y soniwn amdanynt. Ond rwy'n dweud wrthych: y drol o flaen y ceffyl? Oherwydd dylem adeiladu ar y gwasanaethau cymunedol hynny cyn inni ddechrau cael sgwrs am yr ysbytai hyn.
Dyma boblogaeth sydd â'r practis meddygon teulu mwyaf yng Nghymru, gyda dros 25,000 o gleifion a bron ddwywaith y cyfartaledd cenedlaethol o lwyth gwaith ar gyfer pob meddyg teulu yn y practis hwnnw—poblogaeth sy'n gyson yn gweld gwasanaethau'n cael eu llusgo tua'r dwyrain. A gallaf gofio prif weithredwyr amrywiol, cadeiryddion amrywiol dros fy 11 mlynedd fel Aelod Cynulliad, yn fy ffonio ar fy ffôn symudol i ddweud, 'Angela, rwyf am i chi wybod ymlaen llaw fod gennym broblem gyda haematoleg. Mae gennym broblem yn hyn, histopatholeg. Bydd yn rhaid inni fynd ag ef o Lwynhelyg, dim ond am dri mis—o, pedwar mis. O, nid ydym wedi gallu ei gael yn ôl eto'. Dro ar ôl tro—ei ladd drwy fil o doriadau.
Dyma boblogaeth sydd â seilwaith trafnidiaeth gwael iawn: ffyrdd bach, yr A477 lle bu damwain drychinebus arall eto yr wythnos diwethaf, yr A40 nad yw wedi cael ei deuoli—a gwrandewais ar y bwrdd iechyd heddiw pan gawsant eu cyfarfod mawr yn neuadd y dref Caerfyrddin, neu neuadd y sir, a dywedodd un o'r aelodau annibynnol, 'O, mae angen inni ddeuoli'r A40'. Wel, pob lwc gyda hynny. Credaf ein bod wedi dweud hynny sawl gwaith, onid ydym, Paul Davies? Ac rwyf wedi edrych ar y cynllun trafnidiaeth ar gyfer dinas-ranbarth bae Caerdydd: nid oes dim rhwng 2015 a 2020, nid oes dim yn ddyheadol ar gyfer 2020 i 2023, ar y gwaith o ddeuoli'r A40.
Dyma boblogaeth a wasanaethir gan staff ymroddedig mewn ysbyty lleol poblogaidd, ond ysbyty nad oes ganddo wasanaeth casglu a throsglwyddo meddygol brys 24 awr y dydd, ysbyty heb siart 24 awr y dydd, felly, wyddoch chi beth? Os digwyddwch fod yn y cylch 12 awr anghywir, gallech fod mewn cryn drafferth yn ceisio cyrraedd unrhyw wasanaeth arall.
Ac yn awr, damweiniau ac achosion brys: mae hyn yn rhywbeth y mae Paul Davies a minnau wedi'i godi dro ar ôl tro yma, ynglŷn â'r ffaith, cyn gynted ag y gadawodd y gwasanaeth pediatreg Sir Benfro, y byddai damweiniau ac achosion brys yn diflannu'n syth ar ei sodlau, oherwydd mai pediatreg yw 25 y cant o dderbyniadau brys. Heb bediatreg—os nad ydych yn darparu gwasanaeth pediatreg, ni allwch gael eich gwasanaeth damweiniau ac achosion brys, ac nid ydym yn cael ein gwasanaeth damweiniau ac achosion brys. Maent yn dweud wrthym ei fod yn ymwneud yn llwyr â diogelwch clinigol, ond ymddengys ei fod yn ymwneud yn llwyr â Llwynhelyg. A oes bygythiad i'r ysbytai yn Betsi Cadwaladr sy'n perfformio'n wael, ac sydd wedi gorwario'n helaeth? A yw'r holl drafodaethau a chynlluniau a luniwyd erioed yn sôn o gwbl am ysbyty Bronglais neu ysbyty'r Tywysog Philip sy'n cael eu diogelu'n wleidyddol?
Roeddwn yn mynd i orffen drwy ddweud bod fy iselder ynglŷn â hyn wedi dwysáu pan edrychais ar y ddogfen derfynol a ystyriwyd gan y bwrdd heddiw. Ac yn y ddogfen derfynol honno, mae'n debyg, edrychodd grŵp ar wahân o randdeiliaid a staff nad oedd wedi cymryd rhan yn y broses o ddatblygu'r opsiynau i weld lle byddent yn graddio'r meini prawf. Felly, ansawdd a diogelwch: 18 y cant, yn bendant. Derbynioldeb i'r cyhoedd yn gyffredinol: 7 y cant. Dyna'r maen prawf isaf ar gyfer pam y dylem gadw Llwynhelyg yn ysbyty dosbarth cwbl weithredol, mae'n debyg. Mae'r 40,000 o leisiau hynny'n chwythu yn y gwynt.
Safbwynt o'r tu allan i'r ardal, ond safbwynt rhywun arall a oedd ar y Pwyllgor Deisebau: un peth a wyddom o'r ddeiseb yw bod nifer fawr iawn o bobl eisiau gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Llwynhelyg. Mae deiseb o 40,045 o lofnodion yn ddigynsail. Mae angen ichi gael 5,000 o lofnodion er mwyn i'r Pwyllgor Deisebau ofyn i'r Pwyllgor Busnes os gallwn gael dadl ar y mater. Gallem gael wyth dadl ar hyn, oherwydd mae'r ddeiseb yn fwy nag wyth gwaith hynny. Rwy'n meddwl ei bod yn dangos faint o ddiddordeb sydd yn hyn a faint o wrthwynebiad a geir i'r syniad o gau'r adran damweiniau ac achosion brys yn Llwynhelyg. A gallaf ei ddeall. Y syniad yw na fydd adran damweiniau ac achosion brys weithredol yn Sir Benfro mwyach; caiff ei disodli gan uned mân anafiadau ar safle Llwynhelyg. Wrth wneud hynny, bydd cleifion sydd angen gofal brys yn Sir Benfro yn wynebu taith sylweddol. Ac rwy'n siarad fel rhywun sy'n aml yn teithio i ogledd Cymru, am fod fy merch ym Mhrifysgol Bangor, ac rwy'n gwybod, o fewn dwy awr a hanner, gallaf gyrraedd Machynlleth, neu o fewn dwy awr a hanner i lle rwy'n byw, gallaf gyrraedd Birmingham. Rwy'n gwybod pa un sydd bellaf, ond os gall unrhyw un deithio ar gyflymder cyfartalog o dros 40 mya mewn ardaloedd gwledig, hoffwn eich llongyfarch, ac a allwch chi egluro sut y llwyddwch i wneud hynny? Y tractorau—ers pryd y mae ambiwlansys yn gallu hedfan dros ben tractorau? Y broblem a gewch gyda lorïau Mansel Davies—heb amarch i Mansel Davies, ond mae eich lorïau'n creu tagfeydd ar y ffordd—a threlars, yn enwedig yn yr haf, pan fydd gennych lawer o garafanwyr yn symud carafanau. Mae'r rhwydwaith ffyrdd yn warthus. Angela Burns—a bydd Paul Davies yn ategu hyn—nid chi yw'r unig bobl sydd wedi bod yn gofyn am ddeuoli ffordd yr A40. Rwyf wedi gofyn am hynny, rwyf wedi ysgrifennu yn ei gylch, rwyf wedi galw am wneud hynny. [Torri ar draws.] Yn sicr.
A gaf fi dynnu sylw at yr eironi? Rydych newydd draddodi araith ar liniaru effeithiau newid hinsawdd, ac rydych yn dadlau yn awr o blaid deuoli ffordd fawr.
Ydw.
Saethu o'ch ochr eich hun. [Chwerthin.]
Gwn nad yw Lee Waters yn derbyn hyn, ond gall gwell ffyrdd leihau allyriadau. Os oes yn rhaid i chi deithio i ysbyty, sut arall ydych chi'n awgrymu bod pobl yn teithio i adran damweiniau ac achosion brys—drwy feicio neu gerdded i'r mannau hynny?
Mae Sir Benfro yn byw mewn perygl—. Mae darparu gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig yn anodd, ond nid yw'n amhosibl. Mae pobl eraill yn ei wneud.
Gwyddom hefyd fod deiseb debyg ynghylch gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Llanelli wedi dod i law, ac rwy'n siŵr nad yw Lee Waters am gau rhai o'r ffyrdd deuol o amgylch Llanelli er mwyn lleihau—[Torri ar draws.]—er mwyn lleihau allyriadau.
Nid wyf yn credu bod Hywel Dda yn gweithio fel bwrdd iechyd. Rwyf wedi'i ddweud droeon. Nid wyf yn credu bod Hywel Dda yn gweithio fel bwrdd iechyd. Mae'r ardal a gwmpesir yn rhy fawr. Ym Mhrifysgol Abertawe Bro Morgannwg, mae'n gymharol hawdd i'r rhan fwyaf o bobl deithio rhwng Treforys, Singleton a Baglan. Gallwch deithio ar fws—nad yw o reidrwydd yn hawdd iawn. Gallwch deithio mewn car yn gymharol hawdd. Mae teithio o gwmpas y pedwar prif ysbyty yn Hywel Dda yn anodd iawn yn y car, ac mewn llawer o achosion, buaswn yn awgrymu ei fod bron yn amhosibl ar drafnidiaeth gyhoeddus. Os gall Powys gael ei bwrdd iechyd ei hun, pam na all Sir Benfro? Crëwyd Powys yn 1973, ond mae Sir Benfro wedi bodoli ers canrifoedd.
Roeddwn yn mynd i ddweud nad oes neb yn gweld Dyfed fel uned ar gyfer darparu gwasanaeth mwyach, ond nid wyf am ddweud hynny, oherwydd gwn fod un person, yr unig berson yng Nghymru mwy na thebyg, yn dweud hynny. Mae arnaf ofn mai ychydig iawn o bobl sy'n byw yn yr ardal sy'n ei gweld fel uned synhwyrol ar gyfer darparu gwasanaeth. Gofynnaf i unrhyw un o'r Aelodau eraill sy'n cynrychioli ardal o fewn Dyfed, os ydynt yn gweld ardal synhwyrol ar gyfer darparu gwasanaeth, i godi ar eu traed i fy nghywiro.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rydych chi a minnau'n cynrychioli'r un ardal, lle mae Ysbyty Treforys wedi'i leoli. A ydych yn rhannu fy mhryderon, os yw'r holl wasanaethau hyn yn cael eu gwthio tua'r dwyrain, byddant yn cyrraedd cyn belled â Threforys, sydd eisoes wedi ei orlwytho gan y galwadau eraill sydd arno? Er ei bod hi'n wych fod gennym bethau, gobeithio, fel llawdriniaeth thorasig yn dod atom fel arbenigedd, pan fydd gennych wasanaethau argyfwng, mae angen i chi fod yn agos at y man lle mae'r argyfwng yn digwydd.
Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny, ac mae hynny'n rhan fawr o ran nesaf fy araith. Ond un peth a ddywedaf, cyn imi orffen, yw bod yna bethau sy'n gweithio. Y model prif ganolfan a lloerennau ar gyfer y gwasanaethau arennol y mae'r ardaloedd yn Hywel Dda a'r ardaloedd yng ngweddill bwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn elwa ohonynt—rwyf wedi sôn am hynny ers saith mlynedd, ac ni fu'r twf mewn modelau gwasanaeth prif ganolfan a lloerennau agos mor gyflym o ran darparu gwasanaethau ag y buaswn i, a'r rhan fwyaf o bobl eraill mae'n debyg, yn ei hoffi.
Mae'r gallu i gyrraedd adran damweiniau ac achosion brys yn rhywbeth y mae pobl am ei gael mor agos i'w cartrefi â phosibl. Does bosibl na ddylai fod yn ormod gofyn am un yn sir hynafol Penfro.
Mae llawer wedi newid mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru ers i mi siarad ddiwethaf am faterion iechyd yma yn y Siambr hon. Un peth nad yw wedi newid yw'r ffaith syml nad oes gan lawer o bobl mewn cymunedau yn y gorllewin hyder ym mwrdd iechyd Hywel Dda, nid ydynt yn ymddiried ynddo i weithredu er eu budd, ac nid ydynt yn credu, pan fydd yn ymgynghori ar newidiadau arfaethedig, ei fod yn gwrando arnynt ac yn ymateb iddynt. A dyna'r rheswm dros y ddeiseb sydd wedi sbarduno'r ddadl hon heddiw, ac fel eraill, rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno hyn.
Peth arall, wrth gwrs, sydd heb newid yw arferiad Llywodraeth Cymru o ymbellhau o'r newidiadau arfaethedig, er bod y byrddau iechyd yn llwyr atebol i Lywodraeth Cymru a pholisi Llywodraeth Lafur Cymru sydd y tu ôl i'r ymgyrch hon i ganoli gwasanaethau.
A pheth arall eto, wrth gwrs, nad yw wedi newid yw'r ffordd braidd yn gywilyddus y mae gwleidyddion etholedig yn enw Plaid Lafur Cymru yn dal ati i ymgyrchu, ac weithiau'n arwain ymgyrchoedd, yn erbyn y newidiadau arfaethedig i wasanaethau sy'n cael eu gyrru gan bolisïau eu Llywodraeth eu hunain—annealladwy, cwbl annealladwy. Yn wyneb y newidiadau arfaethedig presennol, mae Plaid Cymru, fel y mae fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth wedi dweud eisoes, wedi ceisio mabwysiadu ymagwedd gyfrifol. Rydym wedi datblygu ac wedi cyflwyno argymhellion amgen yn dilyn ymgynghori ag aelodau o'r gymuned a gweithwyr proffesiynol yn y rhanbarth. Ac os bydd amser yn caniatáu, fe gyfeiriaf at rai o fanylion yr argymhellion hynny mewn eiliad.
Mae'n hanfodol, Ddirprwy Lywydd, fel y mae pobl eraill wedi dweud, ein bod yn cydnabod bod y pryderon a godwyd gan y rhai sy'n cefnogi'r ddeiseb hon yn ddilys. Maent yn seiliedig ar brofiad blaenorol o newidiadau i wasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg dros y 15 mlynedd diwethaf—newidiadau sydd wedi arwain at broblemau sylweddol iawn—ac mae'n bwysig myfyrio ar y gwersi a ddysgwyd o'r ad-drefnu hwnnw. Os caiff gwasanaethau hanfodol dan arweiniad meddygon ymgynghorol eu dileu neu eu hadleoli, gwyddom ei bod hi'n hanfodol fod asesiadau risg effeithiol yn cael eu cynnal a mesurau lliniaru yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod y cleifion cywir yn cyrraedd y lle iawn i gael eu trin yn y mannau iawn, a rhaid i'r mesurau hyn fod yn gadarn.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cofio na ddigwyddodd hyn mewn rhai achosion trasig, yn dilyn, er enghraifft, y newidiadau i wasanaethau mamolaeth. Bydd yn cofio canfyddiad yr ombwdsmon yn 2016 fod babi wedi marw o ganlyniad i ofal gwael a methiant i asesu lefel y risg yn briodol yn ystod beichiogrwydd, pan anwybyddwyd cais y claf i roi genedigaeth mewn lleoliad mwy arbenigol yng Nglangwili. Nawr, hyderaf fod y gwersi o'r achos unigol hwn wedi'u dysgu, ond mae'n hanfodol ein bod yn cofio bod yr achos hwn yn ffurfio rhan o'r cefndir i bryderon y gymuned ynglŷn â newidiadau arfaethedig pellach i wasanaethau a arweiniodd at y ddeiseb hon. Gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet a'r bwrdd iechyd yn trin y pryderon hyn y gellir eu cyfiawnhau gyda'r difrifoldeb y maent yn ei haeddu. Yn anffodus, o ystyried yr hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol, nid wyf yn obeithiol.
Nid yw Plaid Cymru'n credu y bydd argymhellion y bwrdd iechyd yn ymdrin â sut y bydd gwasanaethau'n gwella yn y tymor byr i'r tymor canolig. Maent yn cyfeirio, er enghraifft, yn eu datganiad heddiw at yr angen i weithio'n agosach gydag awdurdodau lleol, ond nid yw'n dweud dim ynglŷn â sut. A buaswn yn cytuno gyda'r hyn a ddywedodd eraill ei bod hi'n bwysig aros am y manylion, ond does bosibl fod raid inni aros 20 mlynedd arall am y manylion hyn. Nid yw'n dweud dim ynglŷn â sut, ac a dweud y gwir, rydym wedi clywed y cyfan o'r blaen. Nid ydym wedi ein hargyhoeddi y byddai'r uwchysbyty newydd arfaethedig yn datrys yr holl broblemau y mae'r bwrdd iechyd yn ei obeithio, ac rydym ymhell o fod wedi ein hargyhoeddi, a dweud y gwir, y caiff ei adeiladu o gwbl, er cymaint y bydd rhai ohonom efallai'n gobeithio gweld hynny.
Nid yw amser yn caniatáu imi nodi ein hargymhellion amgen yn fanwl, ac rwy'n ymwybodol o gyfarwyddiadau'r Dirprwy Lywydd. Wrth gwrs, byddwn yn hapus i rannu'r argymhellion hyn eto gyda'r bwrdd iechyd a chydag Ysgrifennydd y Cabinet. Mae un peth yn hollbwysig: rhaid peidio ag ad-drefnu gwasanaethau acíwt hyd nes y bydd y newidiadau a ragwelir a datblygiadau mewn gwasanaethau cymunedol ac arferion gwaith yn eu lle, a hyd nes y bydd y gwasanaethau acíwt newydd yn eu lle. Rhaid inni gael dulliau newydd o weithio ar y cyd rhwng y byrddau iechyd a'r awdurdodau lleol, a rhaid inni gael darpariaeth iechyd a gofal integredig a chyfannol a ddarperir yn lleol, gydag un linell reoli ac atebolrwydd. A rhaid inni sicrhau, os ydym yn trosglwyddo cleifion o ysbytai i leoliadau brys, fod y ddarpariaeth briodol ar waith. Mae angen uned sefydlogi trawma y gallai claf fynd iddi ym mhob ysbyty, ym mhob lleoliad, ac mae dirfawr angen cynlluniau recriwtio a datblygu ar gyfer y sector cyfan ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Mewn gwlad o faint Cymru, ni allaf ddeall pam na allwn gynllunio ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn briodol, a buaswn yn dadlau bod arnom angen dyblu nifer y myfyrwyr meddygol sy'n hyfforddi yn Abertawe, er enghraifft, oherwydd gwyddom y bydd y myfyrwyr hynny'n aros yng ngorllewin Cymru.
Ddirprwy Lywydd, nid oes neb ym Mhlaid Cymru yn awgrymu na ddylai gwasanaethau iechyd newid; nid wyf yn dychmygu bod unrhyw un yn y Siambr hon yn awgrymu hynny. Mae'n wir fod gennym, i ryw raddau, batrwm ugeinfed ganrif o wasanaethau nad ydynt yn bodloni anghenion yr unfed ganrif ar hugain. Ond wrth gyflawni'r newid hwnnw, mae angen inni adeiladu'r ymddiriedaeth yn y cymunedau y mae'r gwasanaethau hynny yno i'w gwasanaethu, ac ni allwn wneud hynny os ydym yn gwrthod eu pryderon dilys. Mae angen i'r bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru wrando ar y pryderon a leisiwyd gan y rhai sydd wedi llofnodi'r ddeiseb hon. Ni ddylid gwneud unrhyw newidiadau pellach i wasanaethau yn Llwynhelyg nac unrhyw ran arall o'r rhanbarth hwn hyd nes y bydd gwasanaethau amgen effeithiol yn eu lle. Diolch yn fawr.
Rwy'n credu mai lle'r ydym yw ein bod wedi cael dogfen ymgynghori, rydym wedi cael argymhellion ac rydym wedi cael deisebau, gyda phobl yn amlwg yn mynegi pryderon am y argymhellion hynny. Rwy'n byw yn Hwlffordd. Gwn yn iawn lle mae ysbyty Llwynhelyg, a gwn hefyd am y cryfder teimlad a'r ofn sy'n bodoli mewn pobl a allai fod angen gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn gyflym. Wrth symud ymlaen, fel y dywedwyd yn yr araith hir dros chwe munud o hyd gan Helen Mary, rwy'n credu ein bod cydnabod yr angen i newid ffurf gyfredol y ddarpariaeth iechyd i ateb y galw a wynebwn yn y dyfodol i gyflawni hynny. Ac mae llawer iawn o newidiadau y bydd yn rhaid eu gwneud, gydag ymagwedd systematig, i ateb yr heriau hynny.
A'r her fwyaf oll—. Wel, mae yna ddwy her, ond os ydym yn canolbwyntio ar y bobl rydym yn ceisio eu gwasanaethu, mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio—mae llawer o bobl wedi dweud hynny—pan fyddant yn mynd i'r ysbyty, mae ganddynt anghenion lluosog, ond nid yw bob amser yn golygu nad oes cyfleoedd ar hyd y ffordd i'r anghenion hynny gael sylw cyn inni gyrraedd yr ysbyty ac iddynt gael sylw wedi i bobl adael yr ysbyty. Ac mae'n ymddangos i mi, ble bynnag y bûm yn siarad â phobl, fod yr un ofn gwirioneddol sydd ganddynt yn ymwneud â'r ddarpariaeth o welyau cymunedol, neu welyau yn y gymuned, fel y gallant ymweld â chleifion oedrannus a'u cadw yn nes at adref hefyd, oherwydd bydd y cleifion hynny'n gwneud yn llawer iawn gwell os ydynt mewn lleoliad lle y gall eraill ddod i'w cefnogi.
Yr her fawr sy'n ein hwynebu mewn lleoliad meddygol sy'n esblygu yw'r staff i gyflawni hynny. Yr hyn sydd gennym ar hyn o bryd, yn amlwg, yw prinder mawr o staff meddygol ar bob lefel. Nid yw hynny'n unigryw i Gymru, i Sir Benfro, i Ddyfed nac i unman arall. Mae'n wir ar draws y wlad. Ni allwn esgus nad yw Brexit yn digwydd, ac nid oes neb wedi crybwyll hynny heddiw mewn gwirionedd, a'r pwysau y gallai hynny ei greu ymhellach inni o ran—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—nid ar hyn o bryd, na wnaf—cael gafael ar y staff meddygol hyfforddedig sydd eu hangen arnom a'r profiadau y gallai'r staff hynny eu cael o rannau eraill o'r byd. Felly, rwy'n mynd i gynnwys hynny yn y gymysgedd, oherwydd mae'n bendant iawn yn rhan o'r gymysgedd ar hyn o bryd.
Yr hyn y credaf sydd ei angen arnom o'r ymgynghoriad hwn ar hyn o bryd yw ychydig o gig ar yr esgyrn. Sut beth ydyw mewn gwirionedd? Pan fyddwn yn sôn am ganolfannau cymunedol, beth yn union a olygwn? Ble maent yn mynd i fod, a beth y maent yn mynd i'w ddarparu ar gyfer pobl sy'n wahanol i nawr? A yw hynny hefyd yn mynd i helpu i gadw a dod o hyd i feddygon teulu yn ein cymunedau, sydd hefyd yn her anferth arall? A oes angen inni fynd i'r ysbyty bob tro ar gyfer pob un o'r apwyntiadau y bydd pobl yn eu cael ar hyn o bryd a theithio'r milltiroedd y maent yn eu teithio ar hyn o bryd? Credaf fod angen inni gael dadl resymegol yma ac edrych ar yr ad-drefnu go iawn y bydd yn rhaid ei gael.
A'r cwestiwn arall rwy'n ei ofyn yw hwn: a ddylem wrthod yn ddifeddwl yr hyn a allai fod yn gyfle pendant i adeiladu ysbyty yng ngorllewin Cymru a allai ddatrys yr holl broblemau a dod â buddsoddiad enfawr yn y newid y bydd pobl ei angen mewn 10 neu 20 o flynyddoedd a fydd yn para am y 30, 40 neu 50 mlynedd nesaf, pan na fydd llawer ohonom yn y Siambr o gwmpas i weld y newid hwnnw, mae'n debyg? Rhaid inni feddwl yn awr, yn amlwg, a ran y bobl a fydd angen inni wneud hynny yn awr, i fod ychydig yn ddewr, ond i sicrhau ar yr un pryd nad oes newid ar hyn o bryd i wasanaethau cyn bod cyfle i fanteisio ar y systemau newydd sydd ar waith.
Rwy'n cytuno â Joyce Watson; mae angen i ni gael dadl resymol am y gwasanaethau iechyd, a chredaf fod y ddadl hon wedi bod yn rhesymol. Bu rhai areithiau angerddol, wrth gwrs, yn anochel, oherwydd mae pobl yn teimlo'n gryf iawn, yn Sir Benfro yn arbennig, eu bod yn cael eu hanghofio, eu hesgeuluso a'u hamddifadu gan y gwasanaeth iechyd ac nad yw eu hanghenion yn cael sylw priodol yn awr, heb sôn am yn y dyfodol pe bai'r cynlluniau hyn yn cael eu rhoi ar waith.
Nid oes neb yn gwadu'r problemau anhydrin sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd ledled y Deyrnas Unedig—mae cyllid yn broblem ym mhob man ac mae'r anghenion, fel y gwyddom, yn tyfu. Mae gennym wasanaeth iechyd gwladol, ond nid yw'r gwasanaeth iechyd gwladol yn ddim os nad yw'n wasanaeth lleol hefyd. Nid oes ond angen i chi edrych ar fap i weld daearyddiaeth ardal Hywel Dda. Mae Sir Benfro'n gwthio allan i'r môr, ac rwy'n credu bod pobl Sir Benfro yn teimlo fel pe bai Hywel Dda yn palu anferth o ffos rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin a Cheredigion a'u bod yn arnofio ymhellach ac ymhellach i ffwrdd o ganol pethau. Ni all neb fychanu'r ymdeimlad dilys o bryder ac ofn a gynrychiolir gan y ddeiseb ddigynsail hon yr ydym yn ei thrafod heddiw.
Y broblem sylfaenol sy'n ein hwynebu yma yw bod y gwasanaeth iechyd yn gwbl annemocrataidd, a chaiff y penderfyniadau pwysig eu gwneud gan dechnocratiaid anetholedig na allwn eu diswyddo, ac anatebol yn y pen draw. Ni chaiff y cynghorau iechyd cymuned eu hethol a gellir yn hawdd eu llenwi ag aelodau ufudd nad ydynt yn cyrraedd disgwyliadau'r bobl y maent yno i'w gwasanaethu. Rwy'n credu bod yr ymarfer hwn o ymgynghoriad rydym yn edrych arno heddiw yn enghraifft o hyn hefyd. Cyfeiriodd Lee Waters ati fel dogfen annealladwy ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef—mae hi gennyf yn y fan hon. Nid oes ond angen ichi edrych arni i weld bod y penderfyniad, i bob pwrpas, wedi'i wneud hyd yn oed cyn i'r ymgynghoriad ddechrau. Nid yw'n syndod ym mharagraff 1.106 mai'r casgliad yw bod cefnogaeth y cyhoedd i'r hyn y mae'r bwrdd iechyd yn mynd i'w hyrwyddo bellach wedi'i yrru gan leoliad. Wel, beth fyddech chi'n ei ddisgwyl? Mae pobl am gael gwasanaethau ysbyty sy'n agos at ble maent yn byw. Hynny yw, mae'n ffaith amlycach na'r un y gallech ei dychmygu; nid oes angen ymgynghoriad â'i holl gost er mwyn dod i'r casgliad hwn. Ychydig baragraffau cyn hynny, mae'r bwrdd iechyd yn dweud:
Mae'n bwysig cydnabod bod cefnogaeth gyhoeddus gref iawn i ddewis arall amgen ar draws sawl rhan o Sir Benfro.
Mewn geiriau eraill, nid yw pobl Sir Benfro eisiau'r un o'r dewisiadau—ac nid yw hynny'n cael ei gynnig. Pe bai hwn yn ymgynghoriad go iawn, byddai wedi cynnwys y dewis amgen a allai fod wedi bod yn dderbyniol i bobl Sir Benfro. Mae wedi bod yn ymgynghoriad eithriadol. Mae'n 'anymgynghoriad' i'r rhan fwyaf o bobl yn Sir Benfro, ac mae hynny, fe gredaf, yn gwbl annerbyniol.
Rwy'n cytuno'n llwyr hefyd â'r hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth ar ran Plaid Cymru. Mae gan bobl hawl i ddisgwyl bod y prif wasanaethau y maent yn mynd i fod eu hangen, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae'r cysylltiadau trafnidiaeth yn wael, lefelau tlodi'n uwch ac oedran y boblogaeth yn tueddu i fod yn uwch hefyd—mae ganddynt hawl i ddisgwyl i'w gwasanaethau fod o fewn pellter rhesymol.
Rwy'n cytuno hefyd gyda'r hyn a ddywedodd Helen Mary Jones, ac mae eraill wedi cyfeirio at hyn hefyd, na allwn roi'r drol o flaen y ceffyl. Rhaid inni beidio â chynllunio i gau cyfleusterau pwysig sy'n diwallu angen hanfodol hyd nes y bydd gennym y blociau adeiladu ar gyfer yr hyn sy'n mynd i gymryd eu lle. Felly, credaf fod hyn wedi cael ei drin yn y ffordd fwyaf ansensitif.
Ac yna, wrth gwrs, down at yr eliffant yn yr ystafell ar ffurf yr Ysgrifennydd iechyd, oherwydd yn y pen draw, mae Hywel Dda bellach o dan ei oruchwyliaeth ef, fel y mae Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru, ac ni all Llywodraeth Cymru olchi ei dwylo rhag bod yn gyfrifol am yr hyn sy'n digwydd yma. Yn y pen draw, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw darparu'r arian ar gyfer pob un o ardaloedd y byrddau iechyd, ac nid wyf yn bychanu'r problemau sy'n wynebu'r Ysgrifennydd cyllid wrth wneud i'w rifau wneud synnwyr. Mae'n amhosibl gwneud popeth y mae pobl yn ei ddisgwyl ac am ei gael gan y gwasanaeth iechyd. Iaith blaenoriaethau yw sosialaeth fel y dywedodd rhywun enwog amser maith yn ôl—yn wir, os cofiaf yn iawn, rwy'n credu mai'r dyn a sefydlodd y gwasanaeth iechyd, Aneurin Bevan, a ddywedodd hynny mewn gwirionedd. Wel, mae pobl Sir Benfro yn disgwyl y byddant yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac os cânt eu hamddifadu gan yr Ysgrifennydd iechyd, caiff ei gofio nid fel y cofir am Aneurin Bevan heddiw, fel achubydd a sylfaenydd y gwasanaeth iechyd, ond fel Pontiws Peilat y gwasanaeth iechyd, a wnaeth gam â phobl Sir Benfro yn y pen draw.
A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol mai dim ond yn gynharach heddiw y cyflwynodd bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda ganlyniadau eu hymgynghoriad diweddar ar drawsnewid gwasanaethau clinigol, ac maent wedi cadarnhau'r ffordd ymlaen y maent hwy yn ei hargymell ar gyfer newidiadau i wasanaethau ar draws ardal y bwrdd iechyd. Cyflwynwyd yr argymhellion gan glinigwyr sy'n gweithio yng ngorllewin Cymru, ac mae'r clinigwyr hynny'n gwneud achos dros ddyfodol gofal iechyd yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, a chredaf eu bod yn haeddu ein parch. Beth bynnag yw ein barn am y dyfodol, maent yn haeddu ein parch am wneud achos dros newid mewn amgylchedd anodd a hynod ddadleuol.
Fe fyddwch yn gwybod hefyd nad yr argymhellion y mae'r bwrdd iechyd ond newydd eu cadarnhau yw diwedd y broses. Mae'r trefniadau ar gyfer argymell newidiadau sylweddol i wasanaethau iechyd yng Nghymru wedi'u nodi yn y canllawiau ar gyfer ymgynghori ar newidiadau i wasanaethau iechyd, ac mae'r canllawiau hynny'n nodi'n glir beth yw fy rôl i yn y broses, yn cynnwys y gellir galw arnaf i wneud penderfyniadau terfynol ar gynlluniau bwrdd iechyd os na ellir dod i gytundeb yn lleol. Felly, fe fyddwch yn deall, er gwaethaf yr holl anogaeth garedig a thyner—a llai caredig a thyner—na fyddaf yn rhoi sylwadau penodol ar unrhyw un o'r argymhellion y mae bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda wedi'u cadarnhau heddiw, gan y gallai gwneud hynny beryglu unrhyw rôl a allai fod yn rhaid i mi ei chwarae yn y broses yn y dyfodol.
Felly, y prynhawn yma bydd fy sylwadau yn gyfyngedig i atgoffa'r Aelodau pam y mae'n rhaid i wasanaethau ar draws Cymru newid—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—na, rwy'n mynd i fwrw ymlaen gyda fy sylwadau—os ydym am ddarparu'r gwasanaeth iechyd y mae pobl Cymru ei angen ac yn ei haeddu, oherwydd mae newid gwasanaeth yn galw am aeddfedrwydd ac arweinyddiaeth gan bob un ohonom. Mae'r heriau sy'n wynebu iechyd yng Nghymru heddiw yn hysbys. Maent yn cynnwys poblogaeth oedrannus sydd ar gynnydd, anghydraddoldebau iechyd parhaus, niferoedd cynyddol o gleifion â chyflyrau cronig ac wrth gwrs, hinsawdd ariannol heriol. Ni allai'r ddihareb 'os nad yw wedi torri, peidier â'i drwsio' fod yn fwy amhriodol, oherwydd mewn gofal iechyd, mae aros hyd nes y bydd wedi torri yn golygu aros hyd nes yr achosir niwed go iawn y gellir bod wedi'i osgoi ac ni ddylai unrhyw was cyhoeddus ystyried gwneud hynny.
Derbynnir yn gyffredinol fod prinder gweithwyr iechyd proffesiynol mewn rhai arbenigeddau ledled y DU sy'n achosi anawsterau o ran recriwtio, fel y crybwyllwyd yn y ddadl. Rydym hefyd yn gwybod lle y darperir gwasanaethau mwy arbenigol, fod angen i feddygon weld nifer ofynnol o gleifion er mwyn cynnal eu sgiliau a'u harbenigedd i fodloni safonau ansawdd gofal. Ceir cyfoeth o dystiolaeth sy'n dangos bod canoli rhai gwasanaethau arbenigol mewn llai o ganolfannau yn gwella canlyniadau i gleifion. Peidiwch â chymryd fy ngair i am hynny: dyna un o'r negeseuon clir a diamwys o'r adolygiad seneddol annibynnol a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol.
Felly, mae'r rhain yn heriau ledled Cymru, a dro ar ôl tro rwyf wedi bod yn glir fy mod am weld cynnydd yng nghyflymder diwygio yng Nghymru, oherwydd ni ellir osgoi'r realiti y bydd yna bob amser ddewisiadau dadleuol i'w gwneud ym mhob ardal o Gymru. Felly, rydym naill ai'n cymryd rhan yn y ddadl honno yn awr ac yn wynebu rhai o'r heriau hynny ac yna'n helpu i wneud dewisiadau dan arweiniad clinigol, neu rydym yn gohirio hynny ac yn ei gwneud hyd yn oed yn llai tebygol y bydd newid yn digwydd tan bwynt o argyfwng pan fydd gwasanaeth yn methu, ac ni chredaf mai dyna'r peth cyfrifol i'w wneud. Ac unwaith eto, dyna neges glir iawn a ddaeth o'r adolygiad seneddol annibynnol, a ddywedodd wrthym nad yw ein system gyfredol yn addas ar gyfer y dyfodol. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i gymryd Nick ac Angela wedyn.
Rwy'n siŵr eich bod, yn eich swydd, yn gorfod gwneud dewisiadau anodd, ond a fyddech chi'n cytuno, ar wahân i ofyn a yw'n iawn diwygio'r gwasanaethau yn y ffordd a argymhellwch ai peidio, fod yna gwestiwn ehangach a godwyd gan Neil Hamilton ymhlith eraill—nad ydych chi'n mynd â phobl gyda hi yn y broses hon, felly mae gennym y ddeiseb hon, sydd wedi'i chyflwyno gyda'r holl lofnodion hyn, ac felly rydym yn cael y ddadl hon heddiw? Yn ne-ddwyrain Cymru, yr ardal a gynrychiolaf, mae gennym Dyfodol Clinigol Gwent, a gefnogir yn unfrydol bron ar draws Gwent, heb y mathau hyn o gwynion. Felly, hyd yn oed os ydych yn meddwl eich bod yn gywir gyda'r penderfyniadau a wnewch, y rhai mae'r bwrdd iechyd yn eu gwneud, beth sydd wedi mynd o'i le gyda'r broses hon a pham fod yna gymaint o bobl nad ydynt yn ymddiried yn eich Llywodraeth?
Wel, nid yw hwn yn ddewis y mae'r Llywodraeth yn ei wneud. Y dewis eang yw inni ddiwygio neu beidio. Rwy'n glir fod angen diwygio ein system iechyd a gofal. Dywedodd yr adolygiad seneddol wrth bob un ohonom fod angen diwygio ein system iechyd a gofal. Nid yw aros fel yr ydym yn addas ar gyfer y dyfodol. Yng Ngwent gwneuthum benderfyniad i alluogi ysbyty newydd i gael ei adeiladu yng nghanol y system ddiwygiedig honno o iechyd a gofal. Mae gwahanol sgyrsiau'n digwydd mewn gwahanol rannau o Gymru. Ni allwch orfodi'r ffordd y mae pobl yn ei wneud mewn un rhan o'r wlad ar ran arall. Ond rhaid i ymgysylltu â'n staff ac ymgysylltu â'r cyhoedd fod yn allweddol yn hyn i gyd. Mae angen inni fod yn ddigon gonest i ddweud na fydd yr holl bobl o reidrwydd yn cytuno yn y pen draw, ond mae angen gwneud penderfyniad er hynny.
Fe gymeraf ymyriad Angela ac yna byddaf yn symud ymlaen ac yn gwneud mwy o gynnydd.
Diolch. Dim ond pwynt o eglurhad oedd gennyf mewn gwirionedd, oherwydd gallaf dderbyn, mewn ffordd, eich sylwadau eich bod yn dweud nad ydych am roi sylwadau ar y cynlluniau manwl hyn oherwydd gallai fod yn rhaid ichi wneud penderfyniad terfynol ar ryw bwynt. Mae hynny ar yr un llaw. Ar y llaw arall, fodd bynnag, ni fydd y bwrdd iechyd yn gallu bwrw ymlaen â'u hysbyty newydd gwerth miliynau o bunnoedd—dywedodd Rhun £350 miliwn, maent wedi dweud £500 miliwn wrthyf fi—heb gael arian ychwanegol, a bydd yn rhaid iddo ddod gan y Llywodraeth. Felly, sut y gallwch chi gysoni'r ddau beth os oes yn rhaid i chi gadw'n annibynnol, a phenderfynu wedyn mewn gwirionedd a ydych yn ymrwymo i'r cynllun hwnnw ai peidio?
Efallai y dylech wrando ar eich cyd-Aelod, Nick Ramsay, oherwydd cafwyd cytundeb ar draws Gwent ar sail drawsbleidiol eto, ar draws y gymuned, ynglŷn â chynllun newydd ar gyfer darparu iechyd a gofal. Cytunwyd ar hynny cyn i'r Llywodraeth ddweud bod yna swm pendant o arian ar gyfer cyflenwi ysbyty newydd yn ganolog iddo. Credaf mai'r pedwerydd neu'r pumed Gweinidog iechyd a wynebodd y dewis hwnnw oeddwn i, ac fe wneuthum benderfyniad. Rwy'n awyddus inni wneud dewisiadau er mwyn cadw ein system i ddal ati i ddiwygio ac wynebu'r heriau a wynebwn heddiw a heriau'r dyfodol. Felly, nid wyf yn gweld unrhyw her o gwbl mewn peidio â gwneud sylw ar y dewisiadau manwl yn awr, ond rwyf hefyd yn rhoi sicrwydd, wrth gwrs, ar gyfer unrhyw fenter Llywodraeth—gallai fod gofyn i mi, neu gallai fod gofyn i rywun arall wneud dewis ynghylch gwariant cyfalaf a chefnogaeth i gyflawni'r cynllun hwnnw'n derfynol. Oherwydd bydd newid yn digwydd ar draws iechyd a gofal. Naill ai ein bod yn gadael i'r newid hwnnw ddigwydd mewn modd anhrefnus wedi'i arwain gan argyfwng neu rydym yn grymuso ein GIG, ein staff a'r cyhoedd i gymryd perchnogaeth ar y dyfodol. Oherwydd nid oes unrhyw ffordd hawdd o gael sgwrs am weddnewid ein GIG. Bydd yna farn bob amser—a barn onest, rwy'n derbyn—ynglŷn â pham na ddylai newid, yn enwedig ar lefel leol neu unigol, ddigwydd mewn unrhyw ran a phob rhan o'r wlad lle yr argymhellir newid.
Mae ein cynllun hirdymor ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, 'Cymru Iachach', yn disgrifio sut y byddwn yn gweithredu argymhelliad yr adolygiad. Mae'n nodi gweledigaeth ar gyfer y dyfodol ac yn esbonio sut y dylem addasu i wynebu heriau'r dyfodol er mwyn trawsnewid y ffordd y darparwn iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hynny'n golygu esblygu ffyrdd traddodiadol o weithio i ddarparu dull o weithredu sy'n fwy rhagweithiol. Dylai hynny gael cleifion ifanc, hen neu fregus, a phawb yn y canol ac o amgylch y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, pan fydd eu hangen arnynt.
Wrth gwrs, bydd yna adegau pan gaiff newidiadau eu hargymell i wasanaethau ysbyty, a gwn fod hyn yn ymwneud â llawer mwy nag adeiladau. Mae gan bobl ymlyniad emosiynol grymus i'r lleoliadau lle y darperir gofal iechyd, ond mae'n ymwneud â buddsoddi mewn cymunedau, denu meddygon, nyrsys, therapyddion, gwyddonwyr, drwy weithredu system gofal iechyd fodern i wneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol ac i gadw ysbytai ar gyfer y rhai sydd eu gwir angen. Dyna pam y mae angen inni adeiladu capasiti mewn gofal sylfaenol a chymunedol, er mwyn darparu mwy o ofal yn nes at adref, mewn gwir bartneriaeth â gofal cymdeithasol a'r trydydd sector. Gwelir enghraifft ardderchog o hyn mewn gofal llygaid, sy'n arbennig o berthnasol gan mai'r wythnos hon yw Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid. Mae gwasanaeth gofal llygaid GIG Cymru yn galluogi optometryddion i ddarparu gofal lleol, hygyrch, o ansawdd uchel ac i leihau nifer y cleifion sy'n cael eu cyfeirio i ysbytai. Cefais y pleser o ymweld â phractis stryd fawr heddiw.
Fe geisiaf ddirwyn fy sylwadau i ben, Ddirprwy Lywydd. I ateb yr heriau sy'n wynebu Hywel Dda, dechreuodd y bwrdd iechyd ymgysylltu â'r cyhoedd ar raglen weddnewid gwasanaethau clinigol y llynedd. Derbyniodd yr ymgynghoriad dros 5,000 o ymatebion holiadur, 275 o gyflwyniadau, a chynhaliwyd dros 160 o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb. Daeth pum deiseb i law, gan gynnwys un y ddadl heddiw. Ond yn dilyn y broses honno, mae'r bwrdd iechyd wedi bod drwy broses arall o ailystyried. Cafodd yr ystod lawn o safbwyntiau a goblygiadau eu hasesu a chyflwynwyd yr opsiynau eraill, ac mae canlyniad hynny wedi'i gyflwyno i'r bwrdd iechyd heddiw. Ond fel y dywedais yn gynharach, nid dyma ddiwedd y broses, ac o ystyried y rôl y gallai fod gennyf i'w chwarae o hyd, fel y disgrifiais yn gynharach, gŵyr yr Aelodau na allaf roi sylw ac ni wnaf roi sylw ar y penderfyniadau a wnaed gan y bwrdd iechyd heddiw.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar David Rowlands i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gwnaf fy ngorau—. Yn gyntaf oll, rhaid diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon, ac yn amlwg, mae teimladau angerddol iawn ynghlwm wrth y ddadl hon, felly rwy'n mynd i gymryd peth amser i geisio ailadrodd rhai o'r pethau y mae pobl wedi bod yn eu dweud.
Yn gyntaf, gofynnodd Paul Davies i Ysgrifennydd y Cabinet ymyrryd a gwrthwynebu cau'r adran damweiniau ac achosion brys yn Llwynhelyg, ond roedd y penderfyniad wedi'i wneud eisoes, felly ni allai hon fod yn broses ymgynghorol. Hefyd, soniodd am yr erydu parhaus ar wasanaethau yn Sir Benfro, ac na allai hyn barhau. Ailadroddodd Rhun ap Iorwerth honiad Paul Davies ynglŷn ag israddio gwasanaethau, gan nodi hefyd fod gwasanaethau brys yn hanfodol i bob cymuned. Soniodd hefyd am y pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans yn sgil canoli gwasanaethau ysbyty. Unwaith eto, tynnodd sylw at y canfyddiad o ddiffyg cynlluniau amgen.
Siaradodd Lee Waters am broses ymgynghori Hywel Dda, ac roedd yn falch fod opsiwn B wedi'i gymryd yn hytrach nag opsiwn A. Roedd mynediad yn allweddol ar gyfer gwneud i unrhyw newidiadau weithio—hynny yw bod mynediad i ysbytai yn allweddol i wneud i unrhyw newidiadau weithio. Soniodd am ddefnyddio cyfathrebu digidol i gynnig rhyw fath o ateb i broblem teithiau pellach. Soniodd Angela Burns am rwystredigaeth y 40,000 a lofnododd y ddeiseb wrth i Hywel Dda fethu cymryd sylw ohonynt dros yr amrywiol brosesau ymgynghori fel y'u gelwir. A soniodd hefyd am gau'r adran damweiniau ac achosion brys yn Llwynhelyg fel rhywbeth sy'n anochel.
Siaradodd Mike Hedges am y gwrthwynebiad mawr i gau'r adran damweiniau ac achosion brys, a nododd anhawster teithio mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig yn Sir Benfro yn ystod misoedd yr haf. Mynegodd ei bryder ynghylch maint yr ardal a gwmpesir gan Hywel Dda hefyd.
Nododd Helen Mary Jones fod yna lawer o bobl heb unrhyw hyder ym mwrdd Hywel Dda, a siaradodd am fethiant i gadw addewidion yn y gorffennol a bod argymhellion amgen gan ei phlaid y dylid eu hystyried cyn i Hywel Dda roi unrhyw gamau pellach ar waith.
Siaradodd Joyce Watson am ofn y bobl yr effeithir arnynt gan y newidiadau, yn enwedig yr argymhelliad o welyau cymunedol. Soniodd am brinder staff clinigol fel rhywbeth sy'n rhan o'r gymysgedd. A yw'r newidiadau arfaethedig hyn yn gwneud recriwtio meddygon a nyrsys yn anos, a'r posibilrwydd o gael ysbyty newydd sbon yng ngorllewin Cymru?
Soniodd Neil Hamilton am bwysigrwydd trafod y materion hyn mewn ffordd gynhwysfawr, gyda'r gymysgedd gyffredinol o wasanaethau clinigol yn cael eu symud o'r dwyrain i'r gorllewin, a beirniadodd gymhlethdod y ddogfen ymgynghorol. Nid oedd unrhyw ddewis amgen priodol yn lle cau'r adran damweiniau ac achosion brys yn Llwynhelyg, ac ni roddir unrhyw seilwaith go iawn yn ei le.
Os caf droi at Ysgrifennydd y Cabinet a'i ymateb, mae'n dweud bod Hywel Dda yn haeddu parch am eu hymdrechion i newid y gwasanaethau iechyd ar draws y bwrdd, a soniodd am yr angen i ganoli gwasanaethau arbenigol a staff clinigol arbenigol. A mynnodd fod angen diwygio, ac y bydd yna bobl bob amser yn anghytuno â'r hyn a gaiff ei argymell. Soniodd am yr angen i gael gofal yn nes at adref ac os yn bosibl, yn y cartref.
Credaf fy mod wedi ymdrin yn gynhwysfawr â sylwadau'r rhan fwyaf o bobl ar hyn, felly unwaith eto, diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Rwy'n addo iddynt y bydd y Pwyllgor Deisebau yn dychwelyd i ystyried y ddeiseb eto mewn cyfarfod yn y dyfodol, ac wrth wneud hynny, byddwn yn ceisio ystyried ymateb y deisebwyr i'r pwyntiau a godwyd heddiw. Wrth gwrs, byddwn yn ystyried y penderfyniadau a wneir heddiw gan fwrdd iechyd Hywel Dda. Felly, ar ran y Pwyllgor Deisebau, rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau ac am y cyfle i drafod y mater hwn heddiw. Diolch.
Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.