– Senedd Cymru am 2:27 pm ar 9 Hydref 2018.
Eitem 4, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar wasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf. Rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Vaughan Gething.
Diolch ichi, Llywydd. Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig ddydd Gwener, roeddwn i'n meddwl ei bod yn bwysig i ddiweddaru'r Aelodau ar y camau sy'n cael eu cymryd i gefnogi gwasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Mae'r adroddiadau dros yr wythnos ddiwethaf yn amlwg yn peri pryder, a bydd Aelodau yn dymuno deall sut y digwyddodd y sefyllfa hon. Fel rhiant, rwy'n gwerthfawrogi faint o bryder y mae hyn wedi ei achosi i bawb sydd wedi'u heffeithio. Rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd ddarparu cymorth i'r teuluoedd ac i fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch canfyddiadau'r adolygiad unigol ac unrhyw gamau gwella sydd eu hangen. Er na ellir bob amser atal canlyniad anffafriol, mae'n bwysig bod gofal yn cael ei adolygu er mwyn nodi unrhyw beth y gellir ei ddysgu. Yn ddealladwy, efallai y bydd gan y teuluoedd gwestiynau y mae angen atebion iddyn nhw hefyd.
Pan fydd menywod yn mynd i'r ysbyty, rydym yn briodol yn disgwyl iddyn nhw gael gofal diogel o ansawdd da. Gall adeg geni plentyn fod yn amser anodd, ond mae hefyd yn brofiad sy'n dod â llawenydd, felly mae'n rhaid i les menywod a'u babanod fod yn flaenoriaeth inni. Rwyf wedi ei gwneud yn glir, drwy fy sgyrsiau â chadeirydd y bwrdd iechyd, fy mod i'n disgwyl i bob cam posibl gael ei gymryd i sicrhau bod gwasanaethau yn darparu gofal diogel a thosturiol. Mae fy swyddogion hefyd yn monitro'r sefyllfa yn ofalus ac yn gofyn am sicrwydd o'r fath.
Rwy'n gwerthfawrogi hefyd bod hwn yn gyfnod anodd iawn i'n staff, ac mae'n rhaid eu cefnogi hwythau yn briodol hefyd. Mae'n rhaid rhoi pwyslais allweddol ar sicrhau lefelau staffio diogel ac arweinyddiaeth glinigol gref. Ar lefel yr arweinyddion, rydym yn sicrhau bod cymorth bydwreigiaeth uwch a chymorth rheoli meddygol ychwanegol ar waith i ddarparu goruchwyliaeth a chyngor. Llwyddodd y bwrdd iechyd i benodi bydwraig ymgynghorol ac mae wedi recriwtio 15 o fydwragedd ychwanegol, ac mae staff sydd newydd gymhwyso cyfwerth ag amser llawn o 4.8 yn dechrau yn eu swyddi yr wythnos hon. Mae cymorth gan fydwragedd profiadol hefyd yn cael ei ddarparu gan fyrddau iechyd cyfagos, gan gynnwys goruchwyliwr clinigol bydwragedd, ac mae camau ar y gweill i gynyddu nifer y staff meddygol, gan gynnwys penodi meddyg gradd ganol ychwanegol.
Gwn fod pryderon wedi'u mynegi bod y dosbarthiadau cynenedigol i rieni wedi eu canslo, ond rwyf wedi cael gwybod y byddan nhw'n ailddechrau o fewn wythnosau—yn gynnar y mis nesaf—wrth i lefelau staffio wella.
Bydd fy swyddogion yn cael diweddariadau rheolaidd ar y sefyllfa staffio. Byddan nhw'n ymweld yr wythnos hon, ac mae ganddyn nhw bresenoldeb rheolaidd, wrth symud ymlaen. Mae fy swyddogion hefyd wedi briffio Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn llawn, felly gallant benderfynu ar y camau yr hoffen nhw eu cymryd.
Sefydlwyd nifer o systemau i gefnogi diogelwch cleifion. Mae hyn yn cynnwys rota ar alwad 24/7 ar gyfer cyngor uwch fydwraig, a briffiau diogelwch wrth drosglwyddo pob sifft, i sicrhau bod pryderon posibl yn cael eu trin heb oedi. Gwnaed diwygiadau i'r system o roi gwybod am ddigwyddiadau, gan gynnwys adolygiad dyddiol o ddata, i sicrhau nad oes unrhyw gyfle ar gyfer adrodd anghyflawn. Bydd uned cyflenwi'r GIG yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i adolygu ar fyrder ei threfniadau ar gyfer cofnodi digwyddiadau ac ymchwilio, yn ogystal â rhoi trosolwg o'r digwyddiadau mamolaeth sy'n cael eu hadolygu.
Bydd yn rhaid i'r holl sefydliadau gael trefniadau cadarn yn eu lle ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau, ynghyd â threfniadau angenrheidiol o ran cynnydd. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion geisio cael sicrwydd gan yr holl fyrddau iechyd yn hyn o beth. Mae'n bwysig ein bod yn dysgu yn sgil hyn, ac yn deall beth ddigwyddodd i arwain at y sefyllfa hon. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol fy mod i, yng ngoleuni difrifoldeb y sefyllfa, wedi cyhoeddi ddydd Gwener y dylid comisiynu adolygiad allanol annibynnol gan Lywodraeth Cymru. Roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig cymryd y camau hyn i sicrhau hyder y cyhoedd yn y broses. Mae'r prif swyddog nyrsio a'r prif swyddog meddygol mewn cysylltiad â Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd. Rwy'n gobeithio y bydd yr adolygiad yn weithredol o fewn wythnosau. Bydd hyn yn disodli'r adroddiad allanol yr oedd y bwrdd iechyd yn bwriadu ei gomisiynu, ond bydd yn adeiladu i raddau helaeth ar yr adolygiad y maen nhw wedi ei gyflawni hyd yn hyn. Bydd y cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad, ac, yn y pen draw, ei ganfyddiadau yn cael eu cyhoeddi, wrth gwrs.
Mae'n rhaid inni gofio bod y mwyafrif helaeth o fenywod, ledled Cymru, yn derbyn gofal mamolaeth rhagorol. Ers cyflwyno 'Gweledigaeth Strategol ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru' yn 2011, bu gwelliannau sylweddol ledled system GIG Cymru yn ei chyfanrwydd. I sicrhau ymdrech gyson ar gyfer gwelliant, pennwyd dangosyddion perfformiad cenedlaethol sydd yn cynnwys meysydd fel rhoi'r gorau i ysmygu, rheoli pwysau, cymorth i fenywod sydd â salwch meddwl difrifol, cyfraddau toriadau Cesaraidd, bwydo ar y fron, a lefelau staffio. Cynhelir byrddau perfformiad mamolaeth yn flynyddol, lle mesurir perfformiad yn erbyn y dangosyddion hyn, yn ogystal â rhannu arferion newydd neu arloesol. O ran gweithlu, gofynnir i'r holl fyrddau iechyd a ydyn nhw'n cydymffurfio â Birthrate Plus ar gyfer staffio bydwreigiaeth ac yn cydymffurfio â Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr o ran safonau presenoldeb obstetryddion ymgynghorol ar wardiau esgor.
Mae gan bob menyw ddewis ynghylch lleoliad genedigaeth ei phlentyn, yn ddibynnol ar ei hamgylchiadau personol a ffactorau risg, boed hynny yn y cartref, dan arweiniad gofal bydwragedd, mewn uned ar ei phen ei hun neu uned ochr yn ochr, neu ofal dan arweiniad obstetrig. Mae twf wedi bod mewn gofal dan arweiniad bydwragedd, ac erbyn hyn mae gan bob bwrdd iechyd fydwraig ymgynghorol i roi arweiniad a chefnogi bydwragedd. Mae gan bob bydwraig yng Nghymru oruchwylwraig glinigol ddynodedig sy'n fydwraig brofiadol, i'w chefnogi yn ei gwaith. Ac rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y toriadau Cesaraidd a wneir yng Nghymru o ganlyniad i ddarparu rhagor o wybodaeth a chefnogaeth i fenywod.
Mae rhwydwaith mamolaeth cenedlaethol yn darparu cyngor clinigol arbenigol. Rhan o'i waith fu mynd i'r afael â chyfradd y marw-enedigaethau yng Nghymru. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r rhaglen amlweddog hon wedi gweld: cyflwyno protocolau asesu twf cenedlaethol—protocol asesiad tyfiant a phwysau gorau posibl yn gysylltiedig â beichiogrwydd—siartiau tyfiant ffetws GROW; safonau cenedlaethol newydd ar gyfer rheoli diabetes yn ystod beichiogrwydd; cyflwyno hyfforddiant ymarferol amlbroffesiynol obstetrig—hyfforddiant amlddisgyblaethol PROMPT i wella cyfathrebu a gwneud penderfyniadau o fewn timau; adnodd newydd ar gyfer adolygu marwolaethau amenedigol a chanllawiau i staff ar geisio post mortem; yn ogystal â gwell cardiotocograffeg—hyfforddiant monitro ffetws â chardiotocograffeg; a safonau ar gyfer clustfeiniad ysbeidiol deallus. Cynhaliodd y rhwydwaith ymgyrch lwyddiannus ar gyfer beichiogrwydd mwy diogel, a oedd yn hybu negeseuon pwysig i fenywod o ran yr hyn y gallent ei wneud i ofalu am eu hunain yn ystod beichiogrwydd. Dangosodd gwerthusiad fod lefel uchel o wybodaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith mamau beichiog o'r hyn y mae angen iddynt ei wneud, gyda chymorth eu bydwragedd.
Bu datblygiadau a buddsoddiadau sylweddol mewn gofal newyddenedigol hefyd. Cyhoeddodd y rhwydwaith newyddenedigol safonau newyddenedigol diwygiedig ym mis Medi 2017. Mae'r rhain yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf a chanllawiau arfer gorau, i'w gwneud yn berthnasol yn glinigol ac yn weithredol. A chânt eu dylanwadu gan ddatblygiadau newyddenedigol ledled y Deyrnas Unedig, gan gymryd i ystyriaeth argymhellion Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain, y rhaglen archwilio newyddenedigol cenedlaethol, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, Bliss, a safonau eraill a gyhoeddwyd yn Lloegr a'r Alban.
Gan adeiladu ar lwyddiant cynllun 2011, caiff gweledigaeth newydd ar gyfer gwasanaethau mamolaeth gofalus eu llunio mewn cydweithrediad â gweithwyr proffesiynol a'i llywio gan arolwg o bron 4,000 o fenywod a roddodd enedigaeth yng Nghymru. Bydd hefyd yn bwysig sicrhau bod unrhyw wybodaeth a ddaw o adolygiad Cwm Taf yn hysbysu'r cynllun i sicrhau addysg a gwelliant trwy Gymru gyfan. Byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynnydd i'r Aelodau.
Roedd nifer o'r Aelodau yn hwyr ar gyfer dechrau'r datganiad hwn, ac os bydd amser, byddaf yn galw arnoch, ond byddaf yn galw'n gyntaf ar yr Aelodau hynny a oedd yma i glywed y datganiad cyfan. Un a oedd yn bresennol, Angela Burns.
Diolch i chi, Llywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn nodi ar gof a chadw pa mor ofnadwy o ddrwg yr wyf yn teimlo dros y teuluoedd yr effeithir arnynt. Dylai hon fod wedi bod yn eiliad o'r llawenydd mwyaf iddyn nhw, ond datblygodd yn ddigwyddiadau o anobaith dychrynllyd, a chawsom ein brawychu gan yr hyn a ddigwyddodd.
Ym mis Gorffennaf eleni, daeth pâr ifanc i'm gweld i. Sefyllfa frawychus yw hon a rhan annatod o'r hyn sydd wedi digwydd yma: ymgynghorydd nad oedd wedi ymweld â'r fam wrth ymyl ei gwely oherwydd ei fod yn ddig am iddo gael ei roi ar rota nad oedd ef yn ei disgwyl; anwybyddu arwyddion o rybudd; baban, prin yn fyw, a gafodd ei symud i ysbyty arall a'i roi mewn crud oer, a hynny'n ofer. Ar ôl darllen eu stori arswydus, yr hyn a'm trawodd i, Ysgrifennydd y Cabinet, oedd ymateb y bwrdd iechyd. Fe wnaethon nhw ysgrifennu at y prif swyddog gweithredol am yr hyn oedd wedi digwydd gan ofyn am help i ddeall beth ddigwyddodd a mwy o wybodaeth. I bob pwrpas, cawsant eu trosglwyddo at sylw aelod staff iau a oedd yn amharod i ymgysylltu â nhw. Roedd yn ymddangos bod diffyg cydymdeimlad llwyr â phobl pan oeddent yn teimlo'n isel iawn, a chafwyd agwedd ddiystyriol, llusgo traed, diffyg ymddiheuriad o unrhyw sylwedd—ac nid sôn am arian yr wyf i yma, ond rwy'n sôn am ddidwylledd. Ni chafwyd ymateb prydlon i lythyrau.
Felly, sut wnewch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, sicrhau bod y bwrdd iechyd yn rhoi cymorth priodol i'r teuluoedd hyn yr effeithiwyd arnynt? Yn eich datganiad, rydych yn dweud eich bod yn disgwyl iddyn nhw roi cymorth i'r teuluoedd. Ond gallaf ddweud wrthych, o'r dystiolaeth a welais i, yr adroddiadau a ysgrifennwyd a'r llythyrau a anfonwyd at y cwpl ifanc, na ddigwyddodd hynny. Felly, hoffwn ddeall ym mha ffordd ystyrlon y gallwch chi sicrhau bod y bwrdd iechyd hwn yn gwneud yr hyn a ddylent ac, yn wir, yn dod i fan cyfarfod â'r teuluoedd hyn.
Wrth gwrs, ar y pryd, nid oeddwn yn sylweddoli bod hyn yn ymddangos fel rhyw fath o fethiant systemig. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, yr adolygiad annibynnol yr ydych yn mynd i'w gyflwyno—a fyddan nhw'n mynd drwy bob achos eu hunain, oherwydd yn eich datganiad ysgrifenedig rydych chi'n dweud yr adroddwyd ar rai ohonyn nhw erbyn hyn a'u bod cael eu harchwilio yn llawn? Unwaith eto, o'r gwaith papur a roddwyd imi gan y cwpl ifanc, o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf, ysgrifennodd pediatregydd annibynnol adroddiad a oedd yn bur ddeifiol ynghylch yr hyn a ddigwyddodd iddyn nhw, a chafodd ei anwybyddu gan y bwrdd iechyd. Felly, a fyddwch yn gallu gwneud i'ch adolygiad annibynnol, neu ofyn i'r adolygiad annibynnol, yn ei gylch gwaith, fynd at asgwrn y gynnen mewn gwirionedd mewn achosion unigol i sicrhau nad oes modd i'r digwyddiadau hyn fynd yn angof neu i dryloywder gael ei ddileu, oherwydd credaf fod y teuluoedd yn haeddu hynny o leiaf? Ac a oes gennych amserlen ar gyfer pryd yr ydych yn gobeithio cael adroddiad yr adolygiad hwn yn ei ôl?
Ac, wrth gwrs, fel y gwyddoch, rydym ar hyn o bryd, ledled Cymru, yn mynd drwy agenda drawsnewid sylweddol iawn; mae llawer o ganoli yn digwydd mewn byrddau iechyd eraill ar hyn o bryd. Felly, sut fyddwch yn sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd o brofiad Cwm Taf mewn gwirionedd yn cael eu trosglwyddo'n dda i'r holl fyrddau iechyd eraill hynny? Oherwydd credaf fod angen inni roi rhybudd i'r byrddau iechyd hyn os ydym yn bwriadu gwneud y pethau hyn, fod yn rhaid i ni eu gwneud mewn ffordd ddiogel ac mae'n rhaid inni gofio mai'r claf sy'n bwysig, a bod y mamau a'r babanod hyn—ble bynnag y bônt yng Nghymru—yn haeddu'r cyfle i gael canlyniad llwyddiannus?
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n bryderus iawn hefyd nad oedd yn ymddangos bod y duedd hon wedi cael ei nodi'n gynt. Felly, a fydd eich adolygiad annibynnol yn edrych ar hynny? A fyddan nhw'n edrych i weld a oedd yr asiantaethau sydd yn gyfrifol am fonitro perfformiad a chanlyniadau o fewn Byrddau Iechyd yn gwneud hynny ai peidio—ymhle yr oedden nhw? Pam na sylwyd arno'n gynharach? A wnaeth unrhyw un sefyll a dweud, 'Arhoswch funud, mae rhywbeth o'i le yma,' oherwydd mae'r ffigurau marwolaethau ar gael inni? Dylem wybod beth ddylai'r duedd iawn fod a beth na ddylai fod.
Byddwn i'n dweud bod fy nghwpl ifanc i nawr yn nwylo diogel Aelod o'r Cynulliad ar fainc arall i'r un yr wyf i arni, gan mai'r unigolyn hwnnw mewn gwirionedd yw Aelod Cynulliad eu hetholaeth. Ond hoffwn ddweud bod pob un o'r teuluoedd hyn yr effeithiwyd arnynt, os yw eu straeon unrhyw beth yn debyg i'r cwpl ifanc a ddaeth i'm gweld i gyda'u bwndel o waith papur, gan ddweud wrthyf am yr ofn sydd ganddyn nhw o geisio am blentyn arall, ar ôl colli eu merch fach yn chwe diwrnod oed oherwydd cyfres o gamgymeriadau nad oeddent yn ddim i'w gwneud â nhw, yna dylem fod yn hollol benderfynol o wneud yn siŵr bod Cwm Taf yn cael ei ddal i gyfrif, a'r bobl iawn yn cael eu dwyn i gyfrif, pwy bynnag ydynt, a'n bod yn dysgu'r gwersi hyn mewn ffordd ystyrlon. Mae bwrdd iechyd mawr iawn yn Lloegr sy'n mynd drwy broses ddigon tebyg i hon ar hyn o bryd. Dylem fod yn dysgu oddi wrth ein gilydd. Ni ddylai hyn ddigwydd. Trasiedi wirioneddol yw hon.
Rwy'n diolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i chwestiynau, ac, wrth gwrs, rwyf innau'n teimlo'n flin dros unrhyw deulu sy'n mynd trwy golli baban neu blentyn ifanc. Ni fyddwn yn dymuno i unrhyw deulu deimlo fel yr oeddech chi'n ei ddisgrifio. Nawr, yn amlwg, ni allaf roi sylwadau ar yr amgylchiadau unigol, ond hoffwn fod yn glir mai rhan o bwrpas yr adolygiad hwn yw ceisio dysgu o'r hyn sydd wedi digwydd. Rydym yn edrych ar 44 o achosion ar hyn y bryd yn y clwstwr o achosion sydd i'w hadolygu. Nid yw'n eglur ar hyn o bryd fod rhywbeth wedi mynd o'i le ar y gofal yn unrhyw un neu ym mhob un o'r achosion hynny, ond y clwstwr o achosion sy'n peri pryder yw'r rheswm pam mae'n rhaid ymchwilio i hyn. Felly ceir yr adolygiad annibynnol nawr gyda'r ddau goleg brenhinol, a goruchwyliaeth gan y prif nyrs a'r prif swyddog meddygol.
Wrth gwrs, mae gan y bwrdd iechyd bellach y craffu ychwanegol hwnnw a amlinellais yn fy natganiad—craffu ychwanegol a chymorth i edrych ar ymarfer clinigol, diwylliant clinigol, ond hefyd un o'r pwyntiau a wnaethoch chi—arweinyddiaeth glinigol. Yn wir, mae'r adolygiad yn digwydd ar hyn o bryd oherwydd bod pennaeth newydd y gwasanaethau bydwreigiaeth wedi gweld peth o'r data a'i nodi yn achos pryder, ac mae hynny wedi arwain at ddwysau’r mater. Ond rhan o'n her ni yw gwneud yn siŵr nad oes angen cael set o lygaid ychwanegol ffres ar y lefel honno.
Felly, mae rhesymau da dros gael yr adolygiad a bod yn awyddus i ddysgu ohono, ond byddwn yn ochelgar ynghylch dweud y cafwyd methiant o ran gofal ym mhob achos unigol. Dyna pam mae gennym yr adolygiad—i edrych ar yr amgylchiadau unigol hynny, i ddeall yr hyn sy'n unigol, yn ddiwylliannol, beth mae'n ei ddweud wrthym am arfer, a'n helpu i wneud argymhellion ar gyfer y dyfodol hefyd.
Nawr, rwyf wedi bod yn glir yn fy natganiad ar gyhoeddi, felly bydd yr argymhellion ac unrhyw ymateb i'r argymhellion hynny o'r adolygiad yn cael eu cyhoeddi. Yr hyn na allaf ei ddweud wrthych yw bod amserlen. Mae gwleidyddion yn aml eisiau pennu amserlen sy'n brydlon neu'n hir, yn dibynnu ar y sefyllfa. Credaf ei bod yn bwysig i'r colegau gael y cylch gorchwyl i'w galluogi i wneud yr hyn y mae angen iddynt ei wneud mewn modd hollol annibynnol a chadarn, ac nid wyf yn gosod amserlen artiffisial, ond, yn amlwg, byddwn yn dymuno i'r adolygiad ddigwydd cyn gynted â phosibl. Po gyntaf y cawn rywbeth sy'n gadarn a dealladwy, yna po gyntaf y gallwn ddeall pa fesurau sydd eu hangen neu beidio, a hefyd yr hyn sy'n unigryw am y bwrdd iechyd a'r hyn sy'n addysg i'r system gyfan, a'r hyn sy'n her system gyfan ledled Cymru.
Ar eich pwynt am ganoli, nid yw'r gwasanaethau hyn wedi eu canoli eto, ac felly nid yw'r model ei hun, y model newydd, yn ffactor cyfrannol. Rydym yn edrych ar arfer, ond rwy'n siŵr bod dadleuon y bydd y colegau yn dymuno edrych arnyn nhw o ran y trefniant gorau posibl o'r gwasanaeth. Serch hynny, gwyddom yn y gorffennol fod ein colegau brenhinol wedi dweud mai'r symudiad yw tuag at fodel gwell i ddarparu gofal gwell. Wel, rwy'n siŵr y bydd sylwadau ar y materion hyn yn yr adolygiad, ac, fel y dywedaf, bydd yn cael ei gyhoeddi ynghyd ag unrhyw ymateb iddo.
A gaf i ddweud fy mod innau hefyd, nid yn lleiaf fel rhiant, yn teimlo dros bawb yr effeithir arnyn nhw a'r rhai sydd yn bryderus? Efallai y gallaf ddechrau, mewn gwirionedd, drwy ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, pe byddech yn gallu dweud wrthym pa wasanaethau a gaiff eu rhoi ar waith yn lleol i roi cymorth i'r rhai yr effeithir arnyn nhw neu a allai fod yn bryderus ynghylch rhoi genedigaeth yn ardal Cwm Taf.
Mae angen inni fod yn siŵr ynglŷn â'r hyn a ddigwyddodd. Dyna ddiben adolygiadau. Mae angen hefyd inni fod yn siŵr i ba raddau y digwyddodd ac, yn sicr, rwy'n croesawu camau'r Llywodraeth wrth gymryd yr awenau yn y broses o gomisiynu adolygiad. Mae'n hanfodol, wrth gwrs, i adfer hyder bod yr ymchwiliad i'r hyn sydd wedi digwydd yn wirioneddol annibynnol, ac nid wyf yn credu y byddai adolygiad mewnol wedi cyflawni hynny. A wnewch chi gadarnhau y bydd hwn, yn wir, yn adolygiad annibynnol a chyda'r cwmpas i ehangu'r ymchwiliad os oes angen, fel sydd wedi digwydd yn swydd Amwythig? Ac rwy'n credu bod hyn hefyd yn bwysig, oherwydd, ar Good Evening Wales ar BBC Radio Wales ddydd Iau diwethaf, roedd hi'n ymddangos bod y cyfarwyddwr nyrsio dros dro yn awgrymu bod hwn rywsut yn ymarfer yr oedd pob bwrdd iechyd yn ymgymryd ag ef a bod yr heriau eu hunain yn cael eu hwynebu gan bob gwasanaeth mamolaeth yn y DU. Ond credaf fod nifer y digwyddiadau difrifol yr ydym yn sôn amdanyn nhw yma yn awgrymu yn amlwg y gallasai fod yn broblem fwy difrifol. Tybed a yw'n ofid gennych ei bod yn ymddangos eisoes i'r Bwrdd ddefnyddio, i bob golwg, ddull o reoli argyfwng cysylltiadau cyhoeddus er mwyn ceisio bychanu difrifoldeb y sefyllfa rywsut, sydd yn rhywbeth nad yw Llywodraeth Cymru, i fod yn deg, yn ei wneud.
Gan symud ymlaen at staff, awgrymwyd yn gryf fod prinder staff yn ffactor yma. Mae eich datganiad yn dweud fod un meddyg a 15 o fydwragedd wedi eu recriwtio, gyda 4.8 o fydwragedd cyfwerth ag amser cyflawn yn dechrau'r wythnos hon. Nid wyf yn siŵr pam yr ydych yn mynd o swyddi i niferoedd cyfwerth ag amser llawn ochr yn ochr â'i gilydd. A wnewch chi roi'r niferoedd gwirioneddol sy'n dechrau'r wythnos hon, fel y gallwn wybod ble rydym yn sefyll ar hyn o bryd?
Bydd gennym amser i archwilio llawer o faterion, ond dyma un neu ddau: mae'r datganiad hefyd yn cyhoeddi nifer o systemau newydd i wella diogelwch, gan gynnwys rota ar alwad 24/7 ar gyfer cyngor uwch-fydwraig a briffio ar ddiogelwch gyda phob trosglwyddiad. Pam nad oedd y pethau hyn ar waith eisoes, gan eu bod yn ymddangos yn eithaf sylfaenol i mi? Ac mae eich datganiad yn dweud wrthym hefyd y bydd dosbarthiadau cynenedigol yn ailddechrau o fewn wythnos wrth i lefelau staffio wella. Nawr, mae'r ffaith bod y rhain wedi cael eu canslo yn y lle cyntaf yn gwneud darlun o doriadau difrifol iawn yn y gwasanaethau yn ddiweddar. Felly, a gaf i ofyn beth yw'r systemau larwm sydd gan Lywodraeth Cymru i nodi pan ddaw'r mathau hyn o effeithiau negyddol ar ein traws, os hoffech chi, ac a oes ar hyn o bryd unrhyw systemau larwm cynnar ar waith yn eich rhybuddio am broblemau mewn mannau eraill?
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. O ran y cymorth a roddwyd i'r bwrdd iechyd, rwyf wedi amlinellu hynny yn fy natganiad. Mae fy swyddogion i a'r uned cyflenwi yn rhoi cymorth a her yn ogystal â chyfethol cymorth uwch arweinyddiaeth gan fydwragedd profiadol mewn byrddau iechyd cyfagos, yn ychwanegol, wrth gwrs, at y camau a gymerwyd gan y bwrdd iechyd ei hun.
Ac rwy'n nodi'r pwynt a wnewch am niferoedd y staff. Y pwynt yr oeddwn yn ei wneud yn syml oedd bod llawer o'r staff o'r 15 sydd wedi eu recriwtio i fod i ddechrau'r wythnos hon, yn hytrach na recriwtio 15 ac na fydden nhw o reidrwydd ar gael i weithio yn y gwasanaeth am rai misoedd. Felly, dyna pam y gallwn fod yn hyderus y bydd dosbarthiadau cynenedigol yn dechrau yn y dyfodol agos, oherwydd bydd ganddyn nhw staff ychwanegol o fewn yr wythnos.
O ran y pwynt olaf a wnaethoch—y pwynt am yr oruchwyliaeth—unwaith eto, yn y datganiad a wneuthum cyfeiriais at nifer o bwyntiau gwahanol sy'n ein helpu i gael trosolwg a chipolwg: yr adnodd Birthrate Plus yr ydym yn edrych arno ar gyfer nifer y staff a'r ffaith eu bod wedi tynnu'n ôl y dosbarthiadau oherwydd yr her fyrdymor o ran niferoedd staff. Mae'r rheini'n bethau yr ydym yn bendant yn eu hystyried, yn ogystal â'r byrddau perfformiad ehangach yn mynd trwy'r ystod o faterion a amlinellais yn fy natganiad. Bydd yr holl bethau hynny yn bwysig, a bydd y prif nyrs a'i swyddogion yn adolygu'r pethau hynny ynghyd â'r bwrdd iechyd.
Nawr, nid wyf yn ymwybodol, ac nid yw fy swyddogion yn ymwybodol, o fater tebyg sy'n peri pryder yn unrhyw fwrdd iechyd arall yng Nghymru. Fodd bynnag, nid ydym wedi aros nes bod problem yn codi. Mae fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad uniongyrchol â byrddau iechyd, ac mae'r prif nyrs wedi ysgrifennu at bob bwrdd iechyd i geisio sicrwydd ffurfiol am ansawdd y gofal a ddarperir, gan gynnwys materion staffio, ac i'r sicrwydd hwnnw gael ei roi o fewn y pythefnos nesaf. Felly, nid ydym yn disgwyl canfod her. Rydym yn ceisio'r sicrwydd hwnnw, fel yr wyf yn siŵr y byddech yn disgwyl inni ei wneud.
Nid wyf yn credu bod y bwrdd iechyd yn bychanu difrifoldeb yr her. Maen nhw'n deall yn dda iawn bod hwn yn fater difrifol y mae angen ei adolygu mewn modd priodol, fel y byddai unrhyw fwrdd iechyd arall yn ei wneud. A'r hyn a ddylai ddigwydd ym mhob bwrdd iechyd arall, wrth gwrs, yw bod digwyddiad difrifol yn cael ei adolygu a bod rhywbeth yn cael ei ddysgu o hynny. Dyna, yn fy marn i, yw'r broses arferol y cyfeiriwyd ati, ond, wrth gwrs, nid yw'r mesur ychwanegol hwn na'r mesurau hynny y mae'r byrddau iechyd eu hunain yn cynnig ymgymryd â nhw yn ddigwyddiadau arferol, sy'n digwydd o ddydd i ddydd. Nid yw yn gofyn i ddau goleg brenhinol ddod i adolygu eich arferion yn ddull dyddiol a safonol o weithredu.
I gloi, rwy'n hapus i ymdrin â'ch pwynt am y prinder staff a allai fod yn ffactor, a bydd y colegau brenhinol yn gwneud hynny hefyd. Mae hynny'n rhan o'r pryder a bydd yn rhan o delerau'r colegau i ystyried a yw prinder staff yn chwarae rhan ai peidio. Bydd hynny hefyd yn rhan o'u hystyriaeth o ymarfer clinigol neu arweinyddiaeth clinigol—yr ystod gyfan o ffactorau y byddem yn awyddus i'w deall yn iawn er mwyn gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol. O ran hynny, pe bai'r Colegau Brenhinol yn dymuno mynd ymhellach, yna ni fydd eu cylch gorchwyl yn eu cyfyngu i adolygiad artiffisial. Bydd ganddyn nhw'r sgôp i edrych ble bynnag y mae'r angen, a rhoi'r math o adolygiad y bydden nhw eu hunain, yn broffesiynol, yn dymuno ymgymryd ag ef, a rhoi i ni a'r cyhoedd ehangach y math o hyder y byddai pawb yn dymuno ei gael.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad, ac a gaf innau hefyd fynegi ar goedd fy nghydymdeimlad dwysaf a'm consýrn ag unrhyw un a gafodd ei effeithio gan y sefyllfa ym mwrdd iechyd Cwm Taf? Fel y byddech yn disgwyl, rwyf wedi cael trafodaethau hir a manwl gyda bwrdd iechyd Cwm Taf am y sefyllfa yno a sut y daeth hyn i fod. Ni chefais unrhyw syniad nac argraff eu bod mewn unrhyw ffordd yn bychanu difrifoldeb yr hyn sydd wedi digwydd yno, ond ymddengys i mi, pan nad yw gwasanaeth hanfodol yn cael ei gyflwyno yn ôl y disgwyl, fel gyda'r adolygiad o'r canlyniadau andwyol hyn, mae angen inni wneud dau beth allweddol i dawelu meddwl y menywod sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn yn ogystal â'r cyhoedd. Yn gyntaf, mae angen inni, fel yr amlinellwyd gennych eisoes, ddarparu cyfrwng annibynnol i edrych ar yr amgylchiadau ac adrodd am unrhyw bwyntiau gweithredu ar gyfer dysgu pellach a gwelliannau i sicrhau bod hyder yn y system. Byddwn yn gobeithio y bydd eich camau chi, yn ogystal â'r camau a gymerwyd eisoes gan y bwrdd iechyd ar yr adolygiad gan fyrddau eraill y maen nhw'n ei gyflwyno, yn cyflawni'r gwelliannau angenrheidiol y byddai fy etholwyr yn eu disgwyl gan y gwasanaeth yn y dyfodol. Ni fyddent yn disgwyl dim llai.
Yn ail, a ydych yn cytuno â mi fod yn rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn parhau i annog diwylliant lle nad yw'r systemau iechyd a gofal, yn enwedig yn ein byrddau iechyd, mewn unrhyw ffordd yn cael eu hannog i beidio â nodi problemau neu faterion eu hunain, sef yr hyn oedd yn wir yng Nghwm Taf lle nododd y bwrdd iechyd ei hun fethiannau ei broses ei hun? Dylem bob amser ddangos i'r byrddau iechyd lleol a'r staff fod adrodd am eu pryderon, fel yn achos y canlyniadau andwyol hyn, yn ddefnyddiol ar gyfer cael ymateb gan y system iechyd ehangach lle mae hynny'n angenrheidiol. A'r un mor bwysig, er bod yn rhaid i'n hymateb ni gael ei drin mewn modd sensitif a chadarn, ni ddylai fod yn wleidyddol ac ni ddylid ei orliwio, o ystyried pwysigrwydd y gwasanaethau yr ydym yn eu trafod a'r angen i roi sicrwydd.
Ydw. Rwy'n croesawu'n benodol eich pwynt chi am beidio â cheisio gorliwio'r hyn sydd wedi digwydd ac, yn yr un modd, ar yr un pryd ni ddylid ceisio bychanu difrifoldeb y pryder sy'n bodoli. Mae'n hollol bosibl cydnabod y sefyllfa ddifrifol, gyda 44 o achosion yn cael eu hadolygu—43 oedd y rhif, ond rydym wedi nodi'n ddiweddar iawn achos pellach y dylid ei adolygu fel rhan o hyn. Mae'n hawdd iawn dechrau ymosod ar y gwasanaeth pan fo gennych bryderon sylweddol i'w hadolygu, ond rwyf i o'r farn ei bod yn bwysig ymwrthod rhag neidio i ddyfarniad yn yr achos hwn. Ond bydd raid i hynny gydredeg â chael y sicrwydd annibynnol, priodol yr ydych yn cyfeirio ato.
Rwyf hefyd yn falch eich bod wedi cael sgyrsiau uniongyrchol â'r bwrdd iechyd, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig eu bod yn agored gyda'r holl randdeiliaid, ac mae hynny wrth gwrs yn cynnwys Aelodau'r Cynulliad, yn ogystal â'r cyhoedd, a hefyd y teuluoedd yr effeithir arnyn nhw'n uniongyrchol.
Y pwynt o ran yr adolygiad annibynnol yw bod y bwrdd iechyd yn gwneud y peth iawn wrth ofyn i'r colegau brenhinol ddod i mewn ac adolygu'r hyn sydd wedi digwydd. Ond ceir her bob amser gyda'r argraff o annibyniaeth ac mae hynny'n wirioneddol bwysig os yw'r cyhoedd am gael hyder ynddo. Dyna pam y penderfynais wneud yn siŵr mai Llywodraeth Cymru oedd yn ei gomisiynu, fel na chrëir unrhyw argraff bod y bwrdd iechyd yn cael caniatâd i farcio ei waith ei hun. Rwy'n credu y byddai hynny wedi bod yn anghywir i'w wneud. Nid wyf yn credu y byddai hynny wedi helpu bwrdd iechyd, na'r staff na'r menywod sy'n dibynnu ar y gwasanaeth.
Credaf fod eich ail bwynt yn bwysig iawn hefyd, sef gwneud yn siŵr fod yna ddiwylliant agored a phriodol sy'n nodi ac yn mynd i'r afael â heriau yn gynnar, fel nad yw pobl yn ofni trafod yr heriau neu'r pryderon sydd ganddyn nhw gyda'r gwasanaeth, ac er mwyn gwneud yn siŵr nad oes gennych ddisgwyliad rywsut o rwystro neu gelu newyddion drwg posibl, gan fod hynny yn y pen draw yn gwaethygu'r sefyllfa. Mae pobl yn colli ffydd a hyder mewn proses y dylai'r cyhoedd ymddiried ynddi, ond hefyd oherwydd collir cyfleoedd i ddysgu wedyn. Bydd yn bwysig deall hynny yn yr adolygiad, ac o safbwynt diwylliannol ac ymarferol o'r ffordd y cyflenwir y gwasanaeth ynddo, a oes gennym ni'r diwylliant cywir a'r arferion ar waith ac, os na, rhaid bod yn agored i ymdrin â hynny. Fel y dywedais yn fy natganiad, caiff gwasanaethau mamolaeth a gwasanaethau bydwreigiaeth yng Nghymru eu cydnabod ledled y Deyrnas Unedig am eu bod wedi gwneud gwelliannau sylweddol. Felly, rwy'n awyddus i weld y gwelliant hwnnw'n parhau. Ond mae'r adolygiad hwn yr un mor bwysig yn yr ystyr o wneud yn siŵr ein bod yn cadw hyder y cyhoedd yn ein system ac yn ein gallu i edrych yn briodol ac yn feirniadol pan fo rhywbeth o bosib wedi mynd o'i le.
Rwyf innau'n adleisio teimladau'r Aelodau am y dilyniant trasig tu hwnt hwn o ddigwyddiadau a arweiniodd at yr achosion yn amlwg yn dod i sylw'r cyhoedd. Mae'n werth nodi bod bwrdd iechyd Cwm Taf, o lefel rheoli uwch, wedi bod wrthi'n ddiwyd yn uno ag Ysbyty Tywysoges Cymru, a byddwn yn ddiolchgar i gael deall gan Ysgrifennydd y Cabinet a yw'r uniad hwnnw wedi tynnu oddi wrth rediad y bwrdd iechyd o ddydd i ddydd. Fel y deallaf, y ddau faes sy'n peri pryder yw, un, y staffio, a, dau, adrodd am ddigwyddiadau. Nawr, rheolaeth a strwythur darpariaeth y gwasanaeth o ddydd i ddydd sy'n gyfrifol am y ddau beth hyn. Mae'n dda gennyf glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet fod nifer sylweddol o fydwragedd wedi cael eu cyflogi gan y bwrdd iechyd yn ddiweddar, ond ni allwn ond dyfalu pam y gadawyd y broblem mor enfawr o ran staffio gyhyd. Os oedden nhw 15 bydwraig yn brin, pam y gadawyd i'r sefyllfa honno ddigwydd yn y lle cyntaf?
Ac yn ail, a all ef ddweud wrthym ar ba lefel yr oedd yr adroddiadau am ddigwyddiadau ar y ward yn methu â dod drwy'r system fel y gellid edrych ar ddigwyddiadau ac y gellid edrych ar bob achos? Yn anad dim, byddwn yn gobeithio—ac rwy'n credu fy mod wedi clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn iawn—y bydd yr adolygiad a gomisiynwyd ganddo yn edrych ar holl feysydd y ddarpariaeth ac na fydd yn gaeth mewn cylch gorchwyl cyfyng iawn y gallai'r Gweinidog fod yn ei nodi. Gobeithio y bydd gan y bwrdd adolygu y gallu i edrych ar feysydd y maen nhw'n eu hystyried yn angenrheidiol i gwblhau eu hymchwiliad, fel y gallwn fod yn hyderus bod yr holl feysydd cyflawni wedi cael eu hystyried.
Diolch i chi am eich tri chwestiwn, yn fras. Ar y pwynt cyntaf, nid wyf yn ymwybodol bod yr uniad arfaethedig wedi cael unrhyw effaith ar gyflenwad y gwasanaethau; nid oedd hwnnw'n bwynt a godwyd gan unrhyw un â phryderon bod hynny, rywsut, yn ffactor yn ansawdd y gofal ac yn y clwstwr hwn o achosion sy'n peri pryder. Cofnodi digwyddiadau difrifol yw'r hyn sydd wedi ein harwain ni i edrych eto ar y clwstwr o achosion, eu nifer, cyflymder yr adroddiadau a'r hyn a ddysgwyd ohonynt. Bu adolygiadau mewnol i bob un o'r rhain, ond er mwyn edrych unwaith eto i ddeall hynny, ar gyfer y nifer hwn oedd yn clystyru o fewn y bwrdd iechyd, dylid achub ar y cyfle i adolygu materion nawr a pheidio ag aros am gyfeirbwynt eto. A dyna pam rwyf wedi comisiynu'r adolygiad annibynnol. Dyna pam rwyf wedi bod yn eglur yn fy natganiad a'm cyhoeddiad heddiw, ac rwyf i o'r farn y bydd y cylch gorchwyl yn ddigon eang i'r ddau goleg brenhinol, pe byddent yn credu bod angen edrych ymhellach, oherwydd digwyddodd y clwstwr hwn o achosion dros gyfnod o ddwy flynedd yn fras. Pe bydden nhw'n dymuno edrych yn ôl ymhellach, yna dylai fod ganddyn nhw'r gallu i wneud hynny. Yn sicr nid wyf yn bwriadu pennu amserlen naill ai i atal hynny na chylch gorchwyl i lyffetheirio'n ddiangen yr hyn y bydden nhw'n dymuno ei adolygu ac ymchwilio iddo, ar gyfer rhoi i ni—fel y dywedais wrth roi ateb i Angela Burns, Dawn Bowden a Rhun ap Iorwerth—y math o adolygiad a'r math o adroddiad y bydden nhw'n barod i roi enwau proffesiynol y ddau goleg brenhinol arno, i roi i'r cyhoedd y math o hyder a sicrwydd y byddem i gyd yn ei ddymuno ac, yn gydradd â hynny, i roi argymhellion ar gyfer gwelliant a gweithredu ymhellach, boed hynny yn y bwrdd iechyd hwn neu, yn fwy cyffredinol, ledled y system gofal iechyd gyfan.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. A ydych yn awyddus i wybod sut all gwasanaeth mamolaeth ddarganfod yn sydyn ei fod 15 bydwraig yn brin? Pa bryd wnaethon nhw ddarganfod eu bod 15 bydwraig yn brin? Mae'n rhaid bod staff ymroddedig a gweithgar, y byddwch yn ddiamau yn cuddio y tu ôl iddyn nhw heddiw, wedi seinio'r larwm am brinder staff a chanlyniadau hynny ers amser hir; mae'n rhaid nad oedd neb yn gwrando arnyn nhw. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ei fod yn amser anodd iawn i'r staff; byddwn yn awgrymu bod hynny'n dweud llawer llai na'r gwir. Ni all dim fod yn fwy o ofid i weithiwr gofal iechyd proffesiynol na gweld cleifion, yn arbennig babanod, yn marw oherwydd methiannau sefydliadol y maen nhw'n ddi-rym i wneud unrhyw beth yn ei gylch. Nid yw'r ffaith bod pethau'n gweithio'n dda ar gyfer y rhan fwyaf o deuluoedd yng Nghymru o unrhyw gysur i'r teuluoedd mewn profedigaeth, ac yn wir, mae fy nghalon i'n gwaedu dros y teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth oherwydd y methiannau hynny.
Fodd bynnag, mae hyn yn amlygu'r hunanfodlonrwydd nodweddiadol sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd wrth ymateb i fethiannau yn y gwasanaeth iechyd y mae'n gyfrifol amdano. Mae'n rhaid bod pymtheg yn gyfran eithaf mawr o'r staff bydwreigiaeth. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pam yr oedd bwrdd iechyd Cwm Taf yn credu y gallen nhw ymdopi gyda chyn lleied o fydwragedd cyn y daeth y sefyllfa hon i'r amlwg? A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn pryderu wrth sôn am adolygiad gan fyrddau eraill bod y byrddau eraill hyn hefyd yn methu â darparu gofal a chanlyniadau da ar gyfer eu cleifion? Mae'r GIG wedi mynd rhwng y cŵn a'r brain gan y Llywodraeth hon a cheir cyflawni gwael gan GIG y Blaid Lafur ym mhobman o'ch cwmpas. I ble y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn awgrymu eu bod yn troi am adolygiad priodol gan gymheiriaid, ac oni ddylem fod yn pryderu ynghylch y ffaith fod gan fwrdd GIG ymddiriedaeth mor wan yn ei ddyfarniad ei hun fel ei fod yn mynd at ymddiriedolaethau eraill i ofyn am ail farn? Oni ddylen nhw wybod beth mae gwasanaeth da a diogel yn ei olygu a'r hyn nad yw'n ei olygu?
Mae'r adroddiad yn crybwyll yr hyn y maen nhw'n mynd i'w wneud—cyflogi meddyg newydd a nifer o aelodau eraill o staff—ond nid yw'n cyfeirio at yr hyn y maen nhw'n credu sydd wedi mynd o'i le hyd yn hyn mewn gwirionedd. Felly, beth yn union a arweiniodd at farwolaethau 43 o fabanod yn 2016? Rwy'n credu bod pawb yn haeddu cael gwybod. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu y dylai'r cyhoedd sydd yn cael eu gorfodi i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn gael ychydig mwy o syniad am yr hyn sydd wedi mynd o'i le hyd yma? Os yw'r bwrdd o'r farn y bydd cyflogi 15 o fydwragedd eraill a meddyg canolig ychwanegol a rhai swyddi eraill yn helpu i ddatrys y broblem, mae'n rhaid eu bod yn credu eu bod yn gwybod rhywbeth am sut y crëwyd y problemau yn y lle cyntaf. Os nad ydynt yn gallu neu'n dymuno dweud wrthym sut y cododd y sefyllfa ofnadwy hon, pa gysur sydd i'w gael o'u cynigion presennol ar gyfer ceisio ei gwella? Nid yw datganiad yr ysbyty ond yn dweud y byddan nhw'n rhannu eu canfyddiadau o'r hyn a aeth o'i le gyda'r teuluoedd dan sylw. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet wneud adduned nawr, er mwyn diogelwch cleifion i'r dyfodol, i rannu'r canfyddiadau gyda'r lle hwn?
Mae llawer o bobl yn dweud ac yn credu bod y GIG uwchlaw gwleidyddiaeth bleidiol ac mae rhyw rinwedd yn hynny. Felly, byddwn yn gobeithio na fuasai Ysgrifennydd y Cabinet yn cuddio unrhyw ganfyddiadau er mwyn lleihau embaras ei blaid wleidyddol ef yn sgil y mater hwn. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r sicrwydd hwnnw i ni?
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gorchymyn adolygiad o'r bwrdd iechyd, ond nid oes modd inni gymryd unrhyw gysur o'r addewidion a'r sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet oherwydd hyd yn oed pan fydd y Llywodraeth hon yn cymryd rheolaeth uniongyrchol o fwrdd, fel y gwnaethoch gyda Betsi Cadwaladr, mae'r Llywodraeth hon weithiau yn llwyddo i wneud pethau'n waeth. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrth y Cynulliad hwn beth fydd yn ei wneud i sicrhau, yn wahanol i'r achosion a welwyd hyd yn hyn, na fydd triniaeth cleifion yn gwaethygu hyd yn oed wedi i'w Lywodraeth ef ymyrryd? Clywsom yn ddiweddar nad yw Betsi Cadwaladr wedi dysgu gwersi o'r cwynion nac o'r adolygiadau niferus o'r methiannau yno. Felly, pa sicrwydd a ellir ei roi i fenywod beichiog a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y gwasanaeth o'r datganiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet heddiw y bydd gwelliannau yn digwydd? Dim llawer iawn, awgrymaf. Rhoddaf daw arni nawr.
Wel, roedd rhan gyntaf eich cwestiwn yn hollol resymol yn fy marn i, sef gofyn eto ynglŷn â phrinder staff, ac mae hynny'n rhan o'r adolygiad sydd wedi ei gomisiynu. Mae'r bwrdd iechyd ei hunan wedi cydnabod y gallai prinder staff fod yn rhannol gyfrifol am y methiant i adrodd am rai o'r materion hyn mewn da bryd. Mae adolygiad annibynnol yn golygu deall yn briodol ac mewn modd cadarn a fu unrhyw fethiannau o ran gofal, ac i ba raddau y bu i unrhyw fethiannau mewn gofal gyfrannu at hyn, a oes unrhyw bwyntiau ychwanegol o ran dysgu, a fu problemau o ran gofal neu beidio.
Fel y dywedais, rydym yn defnyddio adnodd Birthrate Plus ac, yn fwy cyffredinol, mae ein system yn cydymffurfio â Birthrate Plus a dylem fod yn falch o'r ffaith honno oherwydd y buddsoddiad ychwanegol a wnaethom dros gyfnod sylweddol o amser i hyfforddi mwy o fydwragedd. Felly, mae'r rhain yn faterion sy'n cael eu hadolygu'n rheolaidd, fel y dywedais yn fy natganiad ac yn benodol wrth ateb nifer o'r cwestiynau a ofynnwyd gan Rhun ap Iorwerth.
Mae'n ddrwg gennyf ddweud bod rhan helaeth o'r sylwadau yr union beth yr oedd Dawn Bowden yn galw arnom ni i beidio â'i wneud, sef defnyddio iaith sy'n gorliwio yn fwriadol ac sy'n ymosod ar wleidyddion neu staff o fewn y bwrdd iechyd. Nid wyf yn ceisio cuddio y tu ôl i'n staff, yn sicr i chi. Rwyf wedi cymryd y cyfrifoldeb dros gomisiynu adolygiad annibynnol. Rwyf mewn gwirionedd yn fy rhoi fy hun ar y blaen ac yn ganolog, oherwydd byddaf yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi, ynghyd ag unrhyw argymhellion ac, wrth gwrs, unrhyw ymateb i hynny. Gweithred o gymryd cyfrifoldeb yw hon yn hytrach na chuddio oddi wrtho.
Yr adolygiad: rwy'n sylweddoli efallai nad oeddech wedi clywed na gwrando ar yr holl sylwadau a wnaed, ond mae'r adolygiad ei hun yn adolygiad annibynnol gan golegau brenhinol. Dyna'r adolygiad sy'n digwydd. Bydd adroddiadau unigol yn cael eu rhannu gyda theuluoedd unigol, ac yn sicr ni fyddwn yn disgwyl cyhoeddi unrhyw adroddiadau unigol; y teuluoedd eu hunain fydd yn cael y rheini. Yr hyn y byddwn yn gallu ei roi, fel y dywedais sawl gwaith cyn i'r Aelod godi ar ei thraed, yw'r adroddiad y gallwn ei ddarparu a'i gyhoeddi gydag argymhellion ac ymateb. Ond rwyf yn credu, wrth ichi sôn am y bwrdd iechyd yn llwyddo i osgoi'r bai, wrth ichi sôn am fabanod yn marw oherwydd methiannau sefydliadol, rydych yn dangos eich hun fel rhywun sydd â llawer mwy o ddiddordeb mewn cyfalaf gwleidyddol nag yn y materion gwirioneddol yr ydym yn eu hwynebu.
Llywydd, a gaf innau hefyd roi ar gofnod fy nghydymdeimlad â'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw mewn unrhyw ffordd drwy'r hyn a ystyrir yn ganlyniadau andwyol y gellid, o bosib, fod wedi eu hatal? Yn amlwg, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn hollol iawn: bydd yn rhaid inni aros am archwiliad pellach o'r dystiolaeth. Credaf, pan fydd digwyddiad fel hyn yn digwydd ac yn gofyn am ymchwiliad—o ganlyniad i'r newidiadau strwythurol parhaus yn y gwasanaeth y datgelwyd yr anomaleddau ystadegol ac afreoleidd-dra wrth gofnodi—. Wyddoch chi, mae'r rheini'n faterion difrifol ynddyn nhw eu hunain. Credaf fod gan y Siambr hon yr hawl i ddisgwyl cael sicrwydd clir iawn, ar ran pobl Cwm Taf. Dyfynnaf yr hyn a ddywedwyd gennych y prynhawn yma eich bod wedi ceisio sicrwydd gan y bwrdd iechyd bod gwasanaethau yn ddiogel ac yn cydymdeimlo a, chan ddyfynnu:
'Mae fy swyddogion hefyd yn monitro'r sefyllfa yn agos ac yn chwilio am sicrwydd o'r fath.'
Felly, hoffwn ofyn i chi yn syml: pryd fyddwch chi'n gallu dychwelyd i'r Siambr hon a rhoi sicrwydd inni eich bod wedi archwilio'r mater a'ch bod o'r farn bod safon y gwasanaethau mamolaeth bellach yn ddiogel? Oherwydd nid ydych wedi dweud hynny'r prynhawn yma, ac rydym yn awyddus i gael gwybod pryd y byddwch chi mewn sefyllfa i ddweud hynny.
Diolch i chi am y sylwadau. Wrth gwrs, y rhain—. Gyda phob parch, rwy'n anghytuno ag ef ar y pwynt cyntaf mai'r newid strwythurol hwn a dynnodd sylw at yr anghysonderau. Mewn gwirionedd roedd yn fater o bennaeth newydd y gwasanaethau bydwreigiaeth yn dod i mewn a gwneud yr hyn y dylai ei wneud drwy adolygu'r sefyllfa ac edrych ar y clwstwr o achosion a chydnabod bod angen dwysáu'r materion hynny. Felly, mewn gwirionedd, arweinydd proffesiynol ddaeth i wneud ei gwaith a gwneud ei gwaith yn iawn a dwysáu'r pryderon hynny. Ac mae hynny wedi cael ei ddwysáu yn briodol, a bellach rydym yma yn y fan hon gydag adolygiad gwirioneddol annibynnol yn digwydd.
Mae'r sicrwydd yr wyf wedi ei geisio yn sicrwydd ar gyfer pob bwrdd iechyd yng Nghymru, ac rwyf eisiau dod yn ôl a gallu gwneud datganiad i'r Aelodau am y sicrwydd hwnnw'n cael ei ddarparu. Rwyf wedi gofyn am hynny o fewn pythefnos, ond rwyf i o'r farn y dylai menywod a menywod beichiog yng Nghwm Taf barhau i gael hyder yn nhrugaredd y gofal y maen nhw'n ei dderbyn ac yn ei ansawdd, gyda'r staff ychwanegol sydd ar fin cyrraedd. Dylai unrhyw fenyw sy'n bryderus drafod hynny gyda'i bydwraig—unrhyw bryderon o gwbl, naill ai am y pwyntiau mwy cyffredinol sydd wedi codi'n gyhoeddus neu am ei gofal unigol hi.
Ac mae'n rhaid imi ddweud mai rhai o'r bobl fwyaf ysbrydoledig yr wyf wedi eu cyfarfod yn y gwasanaeth iechyd yw bydwragedd, sydd wedi ymrwymo i ddysgu a gwella'r gofal a roddant. Ac rydym wedi gweld newid sylweddol mewn gofal bydwreigiaeth yn y pump i 10 mlynedd diwethaf—symudiad tuag at gael mwy o ofal dan arweiniad bydwragedd ac ail-normaleiddio hynny, gan beidio â chael ymyriad meddygol sylweddol fel y peth arferol, ac mae hynny o ganlyniad wedi bod yn well i'r mamau a'r babanod. Ond wrth gwrs fel hyn y dylai fod, fel y dywedwch, os ceir materion sylweddol sy'n peri pryder, mae angen inni fod yn barod i'w hadolygu, i edrych ar hynny, a dysgu mewn modd priodol a gwneud yr addysg yn berthnasol er mwyn gwella gwasanaethau eto yn y dyfodol. Ond byddaf yn rhoi nodyn ysgrifenedig i bob Aelod, a'i droi'n ddatganiad ysgrifenedig a fydd ar gael i'r cyhoedd, am y sicrwydd pan fyddwn yn ei dderbyn gan bob un bwrdd iechyd yn y wlad.
Hoffwn innau hefyd roi ar gofnod fy nghydymdeimlad ag unrhyw deuluoedd o fewn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf a gafodd eu heffeithio gan y canlyniadau andwyol hyn. Rwy'n croesawu'r ffaith, yn eich datganiad y prynhawn yma, Ysgrifennydd y Cabinet, ei bod yn ymddangos bod y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad hwn yn hyblyg a gall gynnwys nifer o wahanol elfennau. Rwyf wedi bod â rhan mewn un achos yn ymwneud â gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Tywysog Siarl pan wnes i a'm swyddfa gefnogi'r teulu yr effeithiwyd arno'n agos iawn. Yno, dywedwyd wrthym mai dim ond un uwch fydwraig oedd yn cwmpasu Ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar y pryd. Felly, rwy'n croesawu eich sylwadau wrth ymateb i gwestiynau gan Rhun ap Iorwerth y bydd yr adolygiad yn ystyried a yw prinder staff yn rhan o'r materion hyn. Gyda llif y cleifion o'r rhan fwyaf o Gwm Cynon yn symud i gyfeiriad Ysbyty'r Tywysog Siarl, pa sicrwydd allwch chi ei roi am barhad yn y ddarpariaeth o wasanaethau mamolaeth ar y safle? Ac mae hynny'n benodol mewn cysylltiad â'r cyfnod hollbwysig hwn yn y cyfamser, cyn i ganfyddiadau unrhyw adolygiad gael eu cyhoeddi.
Ydw. Rwy'n hapus i roi sylwadau ar y ddau bwynt. Y pwynt ehangach am ansawdd gwasanaethau bydwreigiaeth a mamolaeth yn fwy cyffredinol: fy nealltwriaeth i, a'r sicrwydd a gefais gyntaf gan swyddogion, yw y dylai menywod barhau i fod â hyder yn ansawdd a thosturi'r gofal dan arweiniad bydwragedd a gwasanaethau mamolaeth yn fwy eang yng Nghwm Taf. Rwyf wedi ymrwymo i wneud yn siŵr fy mod i—nid yn unig o fewn Cwm Taf, ond ledled y system gyfan—yn dod yn ôl ar ôl pythefnos i roi'r sicrwydd hwnnw i'r Aelodau yn fwy cyffredinol, a gwnaf yn siŵr y caiff hynny ei gynnwys yn benodol o fewn Cwm Taf hefyd. Yr hyn a lwyddwyd i'w wneud yw darparu cymorth bydwreigiaeth uwch ychwanegol. Fel yr amlinellais yn fy natganiad, mae hynny'n cynnwys trosglwyddo pennaeth gwasanaethau bydwreigiaeth Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i helpu am gyfnod cyfyngedig o amser i roi cymorth arweinyddiaeth ychwanegol o fewn Cwm Taf ar hyn o bryd. Mae hynny'n dangos ein system yn gweithio mewn ffordd hyblyg i wneud yn siŵr bod byrddau iechyd cyfagos yn helpu eraill i roi'r ansawdd addas yn y gwasanaeth. Pan fyddaf yn cyflwyno'r nodyn ysgrifenedig y dywedais y byddaf yn ei gyflwyno i'r Aelodau, byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod yn gallu rhoi sylw i'r pwyntiau ehangach a godwyd gan yr Aelodau heddiw am weithredu ar unwaith, yr effaith uniongyrchol ar niferoedd staffio, yr hyn a olygir gam arweinyddiaeth, a'r sicrwydd y bydd mamau ledled y wlad yn awyddus i'w glywed, yn ogystal, wrth gwrs, â mamau a menywod beichiog o fewn Cwm Taf.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.