– Senedd Cymru am 2:17 pm ar 16 Hydref 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud y datganiad. Julie James.
Diolch, Llywydd. Mae sawl newid i fusnes yr wythnos hon. Yn ddiweddarach heddiw, bydd y Gweinidog dros yr Amgylchedd yn rhoi datganiad ar effaith llifogydd storm Callum; Byddaf i'n gwneud datganiad ar 'Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol'; a bydd y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol yn rhoi datganiad i drafod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu. Mae'r rhain yn disodli datganiadau am ddiweddariad band eang—y byddaf i yn eu traddodi yr wythnos nesaf—a chanfyddiadau'r rhaglen garlam annibynnol i adolygu galwadau oren, sydd wedi'i ohirio tan 6 Tachwedd. Hefyd, mae'r datganiad ar ddiweddariad blwyddyn 2 y rhaglen tai arloesol wedi ei gwtogi i 30 munud. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymhlith y papur cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Arweinydd y Tŷ, a gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â'r broses y mae hi'n ei defnyddio i benderfynu ar y cynigion i gau ysgolion a atgyfeiriwyd iddi gan y sefydliadau amrywiol hynny sydd â'r gallu i wneud hynny? Bydd hi'n ymwybodol bod un cynnig cau ysgol wedi bod ar ddesg yr Ysgrifennydd Cabinet—neu, yn sicr, ar ddesg yn Llywodraeth Cymru—am 31 mis heb ei drafod. Ers pum mlynedd bellach, mae ansicrwydd ynghylch y cynnig penodol hwn i gau Ysgol Llanbedr yn fy etholaeth i yn Sir Ddinbych. Anfonwyd y cais cyntaf i'r Gweinidogion, a chafodd ei wrthod. Gwnaed ail gais wedyn gan Sir Ddinbych i gau'r ysgol, a gyfeiriwyd gan yr Eglwys yng Nghymru yn ôl yn 2015, ac mae'r ansicrwydd yn parhau ynglŷn â'r ysgol. Ond er gwaethaf hynny, mae'r niferoedd yn yr ysgol yn galonnog, maen nhw wedi ymrwymo i gytundeb ffedereiddio gydag ysgol leol arall, ac ymddengys ei bod yn mynd o nerth i nerth ac yn cael llwyddiant mawr. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi fod ansicrwydd o'r fath am gyfnod mor hir yn gwbl annerbyniol, ac y dylid gwneud penderfyniad ar y mater ar fyrder. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi datganiad i egluro'r broses a'r amserlenni priodol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
A gaf i alw hefyd am ddatganiad ynglŷn â chael gafael ar feddyginiaethau modern? Ces gyfarfod y bore yma gyda'r Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig ynglŷn â chael gafael ar rai meddyginiaethau mwy modern, gan gynnwys Orkambi, sydd wedi'i brofi i gael effaith sylweddol wrth leddfu symptomau ac arafu cynnydd ffeibrosis systig mewn hyd at 47 y cant o achosion. Gallai oddeutu 200 o bobl sy'n dioddef o ffeibrosis systig yma yng Nghymru elwa ar hyn, ond hyd yma nid yw'r cyffur ar gael, er gwaethaf y ffaith ei fod ar gael yn Awstria, Denmarc, yr Almaen, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd, yr Eidal, Iwerddon, Groeg, yr Unol Daleithiau, a Sweden. Yn amlwg, mae'n gyffur modern, mae'n ddrud, ac rwy'n ymwybodol fod angen i ni warchod y pwrs cyhoeddus, ond mae'n gwneud gwahaniaeth i'r rhai sy'n gallu cael gafael arno, ac rwy'n credu y byddai diweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus i drafod y sefyllfa arbennig hon yn ddefnyddiol, ac yn enwedig i egluro pa un a fu unrhyw drafodaethau â Vertex, gwneuthurwr y cyffur penodol hwn, Llywodraeth Cymru, a GIG Cymru o ran galluogi cleifion i ddefnyddio'r cyffur. Byddwn yn ddiolchgar pe gallwn gael y ddau ddatganiad hynny felly, os gwelwch yn dda.
Mae'r ail un eisoes yn destun i gwestiwn gan un o'ch cyd-aelodau Ceidwadol yn ystod y cwestiynau yfory, rwy'n yn siŵr bydd cyfle i drafod y mater gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar yr adeg honno. O ran y mater o gau ysgolion a grybwyllwyd gennych, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi arwydd i mi ei bod yn fodlon ysgrifennu atoch i drafod y mater.
Arweinydd y Tŷ, yn ôl ym mis Mai yn rhan o'r datganiad busnes, crybwyllais y ffaith fy mod wedi cael sylwadau gan feddygon yng Nghymru sy'n hyfforddi ym maes histopatholeg a oedd yn dweud eu bod, ers peth amser bellach, wedi wynebu bwlch cyflog yn ystod eu hyfforddiant o ryw £40,000 o'i gymharu â meddygon cyfatebol yn Lloegr. O ganlyniad i'r ohebiaeth rhyngof i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd am y mater hwn, mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r bwlch cyflog. Mewn gwirionedd, fe wnes grybwyll y mater gyntaf mewn cwestiwn ysgrifenedig yn ôl ym mis Tachwedd 2016, ac eto, ddwy flynedd yn ddiweddarach mae'r bwlch yn parhau i fodoli.
Fel yr wyf wedi'i ddweud o'r blaen, mae'n amlwg fod cyflogau, ymhlith ffactorau eraill, yn bwysig i feddygon dan hyfforddiant wrth iddyn nhw benderfynu ble y dylent hyfforddi ac astudio. Mae'r meddygon sy'n dewis hyfforddi yng Nghymru yn haeddu cydraddoldeb â meddygon cyfatebol ar draws y ffin. Mae'r meddygon dan hyfforddiant wedi dweud wrthyf eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cosbi'n ariannol am ddewis gweithio yng Nghymru. Nid yw'r sefyllfa'n deg, nid yw'n gneud dim lles i ysbryd, ac yn y tymor hir mae'n tanseilio ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddenu meddygon i hyfforddi a gweithio yn y GIG.
Wrth ateb y cwestiwn ysgrifenedig a ddanfonais ym mis Gorffennaf eleni, cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet at drafodaethau gyda BMA Cymru a Deoniaeth Cymru, a dywedodd ei fod yn disgwyl y byddai adroddiad ar y mater yn barod erbyn mis Medi. Oes modd felly i mi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet i gyflwyno datganiad, boed yn llafar neu'n ysgrifenedig, sy'n egluro safbwynt Llywodraeth Cymru ar gau'r bwlch cyflog hwn rhwng Cymru a Lloegr ym maes hyfforddiant histopatholeg, gyda golwg o ddod â'r annhegwch hwn i ben cyn gynted â phosibl?
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dangos i mi ei fod yn fodlon iawn i gyflwyno datganiad ar y mater hwnnw.
Diolch. Roeddwn yn awyddus i drafod mater parhaus sgandal Windrush. Mae'n fwy na thebyg fod arweinydd y tŷ yn ymwybodol fod y Swyddfa Gartref wedi lansio dau dasglu ers i sgandal Windrush ddod at sylw'r cyhoedd yn gynharach eleni, gyda'r bwriad o gysylltu â'r rhai sydd wedi'u heffeithio gan y sgandal ac i helpu i ddatrys eu statws. Fodd bynnag, yr wyf yn deall, er gwaethaf ymweld â 52 o leoedd yn y DU, fod y tasglu o'r diwedd yn dod i Gymru ac, yr wyf yn deall, hynny ddim ond ar ôl i Hilary Brown, y cyfreithiwr sydd wedi ymladd llawer o'r achosion mewnfudo hyn, brotestio, a byddant ond yn ymweld â dau le, Caerdydd a Chasnewydd. Bydd ail dasglu digolledu yn dod am un diwrnod yn unig, ac rwy'n credu bod llawer o ddicter, mewn gwirionedd, am fod y rhai yng Nghymru sydd wedi'u heffeithio gan Windrush yn cael eu hepgor a'u trin yn eilradd. Wrth gwrs, mae'n effeithio arnom ni yma yn y Cynulliad gan ei fod yn gysylltiedig â rhai o'r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig yn y Cynulliad hwn.
Felly, nid wyf yn gwybod pa un a yw arweinydd y tŷ wedi gallu codi'r mater hwn gyda swyddogion y Swyddfa Gartref, neu os yw hi'n bwriadu codi'r mater gyda swyddogion y Swyddfa Gartref. Efallai y gallem gael datganiad gan y Llywodraeth o ran yr hyn sy'n digwydd gyda'r rhai sydd wedi'u heffeithio gan Windrush yma yng Nghymru.
Ie, digwydd bod, ces gyfle ddoe i gwrdd â Gweinidog Llywodraeth y DU dros Fewnfudo, Caroline Nokes, ac roedd hyn ar yr agenda i'w drafod. Cadarnhaodd fod y tasglu yn dod i Gymru, a chafwyd ychydig o drafodaeth am y sefyllfa yma yng Nghymru. Dim ond 62 o bobl o Gymru, rhoddodd hi gadarnhad o hynny i mi, sydd wedi defnyddio'r llinell gymorth, ac er nad ydym yn gwybod gwir faint y gymuned sydd wedi'i heffeithio, yn bersonol rwy'n credu, o sgyrsiau gyda'r gymuned—a gwn fod Julie Morgan wedi cael sgyrsiau tebyg—mai dim ond cyfradd fach iawn o'r rhai sydd wedi'u heffeithio yw hynny mewn gwirionedd.
Cefais drafodaeth gadarn am y sefyllfa gyda'r Gweinidog a chyda fy nghyfatebydd yn yr Alban, a thrafodwyd pa wybodaeth y mae disgwyl i bobl ei chyflwyno a pha mor rhesymol yw hynny, a pha bethau y maen nhw'n eu defnyddio i brofi hynny o ran tryloywder a rhesymoldeb, a'r mathau hynny o bethau. Fe wnaeth hi fy sicrhau bod gan y tasglu ddiddordeb mawr mewn cefnogi unigolion drwy gydol y broses, a chafwyd cyfle i ni gyfnewid barn ynghylch y ffaith fod y gymuned angen sicrwydd trwyadl fod y broses ar gael, er mwyn amddiffyn eu diddordebau ac i'w digolledu os ydynt wedi cael unrhyw anawsterau. Felly, rhoddodd y Gweinidog sicrwydd o ran y pethau hynny, ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut y bydd y tasglu'n symud ymlaen.
Arweinydd y Tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ynglŷn â phengliniau â microbrosesyddion sydd ar gael yn y GIG yng Nghymru? Mae'r pengliniau hyn, a elwir yn MPKs, ar gyfer pobl sydd wedi colli coes uwch ben y pen-glin ac felly heb ben-glin nac ychwaith gweddill y goes. Cysylltodd etholwr â mi yn ddiweddar, roedd wedi colli ei goes dde hyd at y glun ar ôl i'r lori yr oedd yn ei gyrru droi drosodd mewn gwyntoedd uchel ar bont Hafren. Mae MPKs wedi bod ar gael ar y GIG yn Lloegr ers 2016, a chânt eu cynnig i bobl sy'n gymwys ac wedi colli coes yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban hefyd. Fodd bynnag, dywedodd clinig fy etholwr wrtho nad ydyn nhw ar gael yng Nghymru. Arweinydd y Tŷ, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am ddatganiad i egluro pam nad yw manteision MPKs, a allai newid bywydau, ar gael i bobl yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Rwyf ar ddeall eich bod eisoes mewn gohebiaeth â'r Ysgrifennydd dros iechyd ar y mater hwn, a'i fod eisoes wedi ateb i'ch ymholiad.
Cyhoeddwyd y bydd y ddesg flaen gyhoeddus yng ngorsaf heddlu Caerffili yn cau unwaith eto, gan olygu, i bob pwrpas, y bydd tref Caerffili yn cael ei gadael heb orsaf heddlu, a hynny dim ond ychydig dros flwyddyn ar ôl iddi gael ei hailagor. Mae prynu ac adnewyddu'r orsaf wedi costio £315,000 i'r pwrs cyhoeddus. Ac er, wrth gwrs, fy mod yn derbyn nad yw plismona yn fater sydd wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu—bron i 150 yn ardal Gwent yn unig. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn mynegi barn, a phryder efallai, fod tref fawr, yn colli ei gorsaf i bob pwrpas, ac, yn hollbwysig, y bydd hi'n anoddach i bobl Caerffili ddefnyddio gwasanaethau sy'n cael eu hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru ei hun?
Nid oeddwn i'n ymwybodol o hynny. Nid wyf yn gwybod os yw ef wedi ysgrifennu at fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus. Os nad ydyw, rwy'n awgrymu ei fod yn gwneud hynny, a gallaf fod o gymorth iddo gael ymateb.
O ran llosgydd y Barri, a yw'r Gweinidog wedi penderfynu ar ba un a oes angen asesiad o'r effaith amgylcheddol i gyd-fynd â'r cais cynllunio diweddaraf ar gyfer tŵr dŵr a maes parcio? Ac a yw'r Gweinidog yn ymwybodol bod y Barry Docks Incinerator Action Group o'r farn bod y prosiect cyfan angen asesiad o'r effaith amgylcheddol i gyd-fynd â'r cais cynllunio yn 2015?
Nid yw'r Gweinidog dros yr Amgylchedd wedi gwneud penderfyniad hyd yma o ran yr angen am asesiad o'r effaith amgylcheddol i gyd-fynd â'r cais cynllunio sydd bellach gerbron Cyngor Bro Morgannwg, yn ymwneud â thanc dŵr a maes parcio. Rwy'n disgwyl, fodd bynnag, pan fydd y Gweinidog yn cyhoeddi llythyr penderfyniad, y bydd yn ymdrin â'r mater o asesiad o effaith amgylcheddol ar gyfer y cais am ganiatâd cynllunio amlinellol yn 2015.
A gaf i alw am ddau ddatganiad? Mae'r cyntaf yn ymwneud â syndrom ôl-polio yn arwain at Ddiwrnod Syndrom Ôl-Polio a gynhelir ddydd Llun nesaf, 22 Hydref. Fe'i lansiwyd yn 2013 i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd yn gyffredinol, a dewiswyd y dyddiad, 22 Hydref, er mwyn bod yn agos at Ddiwrnod Polio'r Byd, a gynhelir ar y 24 Hydref, gan ymgyrch End Polio Now a gynhelir gan y Rotary.
Gall pobl mewn rhanbarthau anghysbell sydd â'r syndrom fod yn anodd iawn eu cyrraedd. Mae mentrau allgymorth wedi'u cynnal yn yr Alban ac yn ne-orllewin Lloegr ac, yn amlwg, bydd pobl mewn rhannau anghysbell o Gymru sydd â'r syndrom, sy'n byw bywydau ynysig, ac mae angen eu cyrraedd. Mae hyn wedi'i ei gydnabod fel cyflwr niwrolegol. Bydd hyd at 80 y cant o'r rhai sydd wedi cael polio yn datblygu'r syndrom ar ôl nifer o flynyddoedd, ac yn gweld cynnydd mewn gwendid, blinder, poen, problemau gyda'r llwnc, sensitifrwydd i oerfel, a llawer o bethau eraill. Does dim triniaeth benodol i gynnig gwellhad, ond o reoli'r cyflwr yn gywir, mae modd ei sefydlogi ac arafu ei ddatblygiad, gan leddfu'r gost ar y GIG a gwella ansawdd bywyd yr unigolion sydd wedi'u heffeithio. Mewn arolwg gan YouGov ddwy flynedd yn ôl, gwelwyd bod 86 y cant o bobl yn gyfarwydd â chlefyd Parkinson, clefyd Alzheimer, ac epilepsi, ond mai dim ond 7 y cant oedd yn gyfarwydd â'r syndrom hwn. Mae'r British Polio Fellowship yn galw ar seneddwyr ledled y DU i helpu i wella ymwybyddiaeth ar draws y boblogaeth gyfan, gan gynnwys Cymru, yn arbennig o ystyried anghenion y boblogaeth sydd wedi'u heffeithio. Rwy'n galw am ddatganiad ar hynny.
Mae fy ngalwad olaf yn gofyn am ddatganiad ar gaethwasiaeth fodern. Ddydd Sadwrn diwethaf, es i i fforwm caethwasiaeth fodern gogledd Cymru, cyn yr wythnos caethwasiaeth fodern yr wythnos hon, a Diwrnod Atal-caethwasiaeth a gynhelir ledled y DU ar 18 Hydref. Cafodd ei drefnu gan sefydliad trydydd sector, Haven of Light, ond roedd gennym gynrychiolwyr o'r sector busnes, y sector cyhoeddus, a'r sector preifat, yn ogystal â'r Cydgysylltydd Atal-caethwasiaeth, Jeff Cuthbert, fel yr arweinydd atal-caethwasiaeth ar gyfer yr heddlu a chomisiynwyr troseddu, a llawer mwy. Clywsom mai'r boblogaeth sy'n cael ei heffeithio fwyaf erbyn hyn, mewn gwirionedd, yw'r Prydeinwyr sy'n masnachu pobl. Clywsom fod caethwasiaeth fodern yn bodoli mewn busnes, amaethyddiaeth, lletygarwch, mewn troseddau a cham-fanteisio rhywiol ledled y gogledd, yng nghymunedau gwledig Cymru, yn y trefi, ym mhob un sir, a llawer mwy hefyd. Yn amlwg, mae hyn yn amserol o ystyried yr wythnos, ond mae'n amlwg ei fod yn fater parhaus hefyd, gyda chynnydd o 56 y cant yn yr adroddiadau am bobl a gafodd eu masnachu y llynedd, a chwe mis cyntaf y flwyddyn hon hefyd yn dangos ffigurau lluosog, a hynny ddim ond yng Nghymru.
O ran caethwasiaeth fodern, rwy'n falch iawn o gael dweud mai ni yw'r wlad gyntaf, wrth gwrs, i benodi'r cydgysylltydd a'r hyrwyddwr caethwasiaeth fodern, ac mae wedi bod yn gweithio'n galed iawn ledled Cymru gyfan yn gwella ymwybyddiaeth a sicrhau bod pobl yn adnabod caethwasiaeth pan eu bod yn ei weld. Rydym yn hynod falch gyda niferoedd yr adroddiadau sydd wedi ein cyrraedd, ac rydym yn gweld hyn fel cydnabyddiaeth yn hytrach nag arwydd o gynnydd mewn niferoedd, ac mae'n amlwg bod gwella ymwybyddiaeth wedi arwain at wella'r gyfradd adrodd. Ac mae ef wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar hynny.
Rwy'n fodlon iawn i gyflwyno datganiad ynglŷn â'n cynnydd, ond nid wy'n credu y bydd yn barod o fewn yr wythnosau nesaf, gan fy mod i eisiau trafod sawl un o'i weithgareddau. Ond, Llywydd, yr wyf yn hapus iawn i drefnu datganiad maes o law, pan fyddwn wedi cyrraedd diwedd y rhaglen benodol hon o ddigwyddiadau. Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt da iawn am godi ymwybyddiaeth, a pha mor bwysig yw hynny. Ac roeddwn i'n falch iawn o allu codi'r mater gyda Caroline Nokes AS, pan wnes i gwrdd â hi ddoe, yng nghyd-destun pobl sy'n agored iawn i niwed ac sydd wedi cyrraedd pen y system lloches a ffoaduriaid, ac sydd yna'n diflannu i'r farchnad ddu. Cawsom sgwrs adeiladol iawn am yr hyn y gallwn ei wneud, y ddwy Lywodraeth ar y cyd, er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n agored iawn i niwed ddim yn cael eu dal gan gaethwasiaeth fodern, a hynny'n ganlyniad anfwriadol o ddau bolisi penodol yn dod at ei gilydd. Felly, roeddwn yn falch iawn â'r drafodaeth honno.
O ran y syndrom ôl-polio, mae'r Aelod yn ddiwyd iawn wrth dynnu sylw at ei ymdrechion i noddi digwyddiadau o'r fath ledled Cymru. Credaf eich bod wedi gwneud gwaith rhagorol heddiw wrth wneud hynny. Rwyf yn edrych ymlaen at fod yn ei ddigwyddiad.
Roeddwn i'n meddwl tybed a allwn ni gael dadl am draffig cyffredinol a mesurau rheoli llygredd ar brif ffyrdd Cymru, os gwelwch yn dda? Mae hyn yng nghyd-destun y ffaith fy mod i, neithiwr, wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus gorlawn i drafod y bwriad o gau cyffordd 41 tua'r gorllewin. Nawr, bydd hyn yn cael effaith niweidiol ar bobl Port Talbot. Ac mae yna ffyrdd eraill yng Nghymru lle rwy'n credu bod angen inni drafod lefelau llygredd, a sut y gallwn gynnwys y cyhoedd yn y mathau hyn o ymgynghoriadau. Er enghraifft, mae gennym adroddiad ar hyn o bryd ar y newidiadau arfaethedig ar gyfer yr M4 ger Port Talbot, ond mae'n adroddiad eithaf hir a swmpus, ac mae'n eithaf manwl, ac yn anodd ei ddarllen ar brydiau. Ac rwy'n credu bod—. Pan ddaw'r ymgynghoriad i ben ar 2 Tachwedd, sut ydym ni'n mynd i ennyn brwdfrydedd y bobl hyn i ymgysylltu ac i geisio lleddfu rhai o'r problemau hyn, os nad yw'r Llywodraeth yn rhoi digon o amser, neu ddigon o barch, o bosibl, i siarad â'r gymuned am hynny? Nawr, rydym ni wedi ymladd yr ymgyrch hon eisoes yn 2013-14, a llwyddwyd i'w atal rhag digwydd; nawr, mae'r mater wedi codi dod i'r wyneb unwaith eto, ac wrth reswm mae'r cyhoedd yn flin am y cynnig hwn. Felly, rwy'n awyddus i geisio ymgysylltu â nhw mewn ffordd gadarnhaol, i edrych ar ddewisiadau arall yn hytrach na chau, i edrych ar ddewisiadau sy'n well i'r amgylchedd na'r cau, fel ein bod ni'n wybodus yn y ddadl, yn hytrach na dim mwy na thystion i benderfyniad sydd eisoes wedi'i wneud.
Mewn gwirionedd, nid yw hynny'n hollol wir. Wrth gwrs, mae'r ymgynghoriad yn dal i fod ar waith ar hyn o bryd, ac yn sicr rydym yn cydnabod y gefnogaeth leol i gadw Cyffordd 41 yr M4 yn agored. Mae gennym ni ddyletswydd gyfreithiol i gyflwyno dewisiadau yn rhan o'r broses ymgynghori, proses sy'n cael ei chwblhau ar y funud. Yr ymgynghoriad yw cam nesaf y broses, ac wrth geisio barn ar y mesurau arfaethedig, rydym yn ystyried sut i leihau'r lefelau niweidiol o nitrogen deuocsid mewn pum lleoliad yng Nghymru. Un ohonyn nhw, fel y mae'r Aelod yn gywir i ddweud, yw'r drosffordd ym Mhort Talbot a chyffordd 41. Mae'n rhaid inni ystyried y mesurau yn erbyn y meini prawf sydd wedi'u gosod, ac yn erbyn ein hamcanion, a chofio fod bod yn agored i lefelau uwch o lygredd aer yn fygythiad i fywyd. Nid defnyddwyr y ffordd yw ein prif bryder bob amser, mae'n rhaid ystyried y bobl sy'n byw ac yn gweithio yn agos at y ffyrdd dan sylw hefyd. Ac er nad yw'n sicr yn un o'r mesurau â ffefrir, ni ellir ei ddiystyru ar hyn o bryd. Mae'n rhan o'r ymgynghoriad, ac rydym yn argymell fod barnau pobl yn cael eu cynnig yn rhan o'r ymgynghoriad ar y mesurau arfaethedig. Er gwybodaeth i'r holl Aelodau sydd â diddordeb ac i'r cyhoedd, Llywydd, mae'r ymgynghoriad yn agored tan 2 Tachwedd 2018.
Arweinydd y Tŷ, roedd hi'n Ddiwrnod Digartref y Byd yr wythnos diwethaf, diwrnod rhyngwladol i godi ymwybyddiaeth ac i annog cymunedau lleol i helpu'r rhai sy'n ddigartref, y rhai sy'n cysgu ar y stryd neu sydd â llety ansefydlog. Roeddwn yn falch iawn, yr wythnos diwethaf, o gael ymuno â'm cyfaill a'm cyd-Aelod Bethan Sayed i werthu The Big Issue yng nghanol Dinas Caerdydd, rhywbeth y bu fy nhad a Bethan yn ei wneud y llynedd. Llwyddais i werthu pum cylchgrawn, eithaf da yn fy marn i—[torri ar draws.]—a llwyddodd Bethan i dorri ei record hefyd. Felly, da iawn hi.
Mi wnaeth e'n well na fi. [Chwerthin.]
O'r profiad, dysgais bwysigrwydd oedi a chael sgwrs, gan y gall hynny fod o gymorth mawr i rywun, ac nid prynu'r cylchgrawn yn unig. Rwyf wedi dweud sawl gwaith o'r blaen y gall gwên ar y stryd achub bywyd rhywun. Felly, yr wythnos hon, rwyf yn edrych ymlaen hefyd at gael ymuno ag un o'm hetholwyr, Adam Dandy, o siop SHARE, am noson ar y strydoedd ddydd Iau er mwyn codi ymwybyddiaeth a chysgu ar y stryd.
Rwy'n credu ei bod bob amser yn bwysig i ni edrych ar yr arfer gorau os ydym ni am roi terfyn ar yr epidemig o ddigartrefedd, gan fod 300,000 o bobl yn ddigartref ledled y DU—sy'n golygu bod un o bob 200 yn ddigartref—ac y bu cynnydd o 169 y cant ers 2009. Bellach, a mawr ein cywilydd, ar gyfartaledd mae tri o bobl yn y DU yn marw ar ein strydoedd bob wythnos. Os ydym yn cymharu hynny â'r Ffindir, Arweinydd y Tŷ, lle maen nhw wedi mabwysiadu model tai yn gyntaf yn 2008—ers hynny, maen nhw wedi gweld gostyngiad o 18 y cant mewn digartrefedd, o ganlyniad i'r fenter hon. Tybed a allai'r Llywodraeth gyflwyno datganiad ar y math hwn o fodel, yr agwedd tai yn gyntaf, ac a allai hynny weithio yma yng Nghymru, ac os felly, pryd y byddwn ni'n ei weld? Diolch.
Ie, wel, fe wnaeth Jack Sargeant yn dda iawn i werthu cymaint. Mae'n rhaid cyfaddef, mae hynny'n curo fy record innau hefyd. Ond mae'n rhoi syniad da i chi o sut beth ydyw mewn gwirionedd i sefyll yno fel gwerthwr stryd, a chael pobl yn eich anwybyddu fel pe na byddech chi yno. Ni allaf bwysleisio digon, ar y cyd gydag ef a Bethan, a gwn ei bod hithau wedi gwneud hyn ers cryn amser hefyd, cymaint o wahaniaeth y gallai siarad â rhywun ei wneud, a dweud, os na allwch chi brynu un, pam na allwch chi wneud hynny ac yn y blaen? Rwy'n prynu fy nghopi i o'r Big Issue gan yr un person bob tro, gan egluro i eraill bob amser pam yr wyf i'n credu y dylwn roi fy arian i rywun yr wyf wedi bod yn ei chefnogi ers tro byd bellach.
Ond hoffwn hefyd dynnu sylw'r Aelodau at y ffaith bod apiau ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd y cynghorau yng Nghymru bellach—StreetLink neu apiau cysgu ar y stryd; Gallwch chwilio Google amdanynt—maen nhw'n rhoi gwybodaeth am yr hyn y gallwch chi ei wneud os ydych chi'n gweld rhywun sy'n agored iawn i niwed, rhywun yr ydych chi'n meddwl sydd angen cymorth dewisiadau digartref neu'r dewisiadau tai neu beth bynnag a gynigir gan eich cyngor lleol—. Ac rwy'n argymell bod pobl yn cael gafael ar y rhain, oherwydd gallen nhw fod yn ddefnyddiol iawn, ac maen nhw yn dweud beth yw'r peth gorau i'w wneud os nad ydych yn dymuno rhoi arian—i brynu bwyd neu ddillad neu beth bynnag, neu rywbeth y gallai'r person ei ddefnyddio ar unwaith i'w gynnal am ychydig, ac i'w cyfeirio at y mannau cywir. Felly, cymeradwyaf y pethau hynny i gyd.
Hefyd, Llywydd, rwyf am ymhyfrydu ychydig, os gwnewch chi ganiatáu i mi wneud hynny, trwy ddweud fy mod i'n falch iawn bod pêl-droed digartrefedd yn dod i Gymru hefyd—pêl-droed ar y stryd—ac fy mod i'n wirioneddol falch o hynny. Rwy'n gefnogwr brwd o'r fenter honno yn fy etholaeth fy hun, a gwn y bydd Cymru yn falch iawn i'w gynnal yma.
Arweinydd y Tŷ, mae'r gaeaf ar y gorwel, ac unwaith eto, mor anochel â'r nos ar ddiwedd dydd—byddaf yn fwy gofalus gyda'm hymadroddion yn y dyfodol—mae'r A4042, sy'n llwybr strategol allweddol yn fy etholaeth i rhwng y gogledd a'r de, wedi cau unwaith eto yn Llanelen, o ganlyniad i lifogydd—problem gyffredin. A gaf i ofyn am y newyddion diweddaraf gan Lywodraeth Cymru o ran ein sefyllfa wrth wella'r rhan hon o'r ffordd? Gwn y bu trafodaethau yn y gorffennol rhwng Llywodraeth Cymru a thirfeddianwyr lleol o ran canfod ateb ar gyfer y ffordd. Unwaith eto, y mae wedi achosi problemau enfawr i gymudwyr yn ogystal â phobl leol, a chyda'r ganolfan gofal critigol yn prysur ddatblygu yn Llanfrechfa Grange yng Nghwmbrân, bydd yn bwysicach nag erioed fod y ffordd hon yn agored bob amser, fel bod ambiwlansys, a fu'n arfer cludo pobl i Ysbyty Nevill Hall, bellach yn gallu cyrraedd y ganolfan gofal critigol arbenigol yn Llanfrechfa. Felly, mae pwysigrwydd y llwybr yn cynyddu yn hytrach na lleihau, ac mae'r bobl leol yn gofyn am atebion gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer y tymor byr a'r tymor hwy, fel nad yw pobl leol yn dioddef y tarfu y maen wedi'i ddioddef yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae llifogydd, wrth gwrs, wedi bod yn fater difrifol o ran ffyrdd ac mewn meysydd eraill ar hyd a lled Cymru. A dweud y gwir, mae'r Gweinidog yn bwriadu gwneud datganiad yn fuan ar ganlyniad y llifogydd, gan gynnwys yr adolygiad ynglŷn ag effeithiolrwydd y mesurau sydd ar waith a beth y gellir ei wneud am y peth. Felly, yr wyf yn siŵr y bydd yr Aelod yn derbyn atebion i'r rhan fwyaf o'r cwestiynau a godwyd ganddo yn y fan yna.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, os gwelwch yn dda? Y cyntaf yn ymwneud â chyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw eu bod nhw am gynnal adolygiad annibynnol ar sut fydd arian amaeth yn cael ei ddosbarthu ymhlith y gwledydd o fewn y Deyrnas Unedig yn y cyfnod ar ôl Brexit. Oherwydd mae'n gwbl allweddol bod hwn yn cael ei wneud yn gywir o safbwynt buddiannau'r sector amaeth yng Nghymru, lle, wrth gwrs, rŷm ni'n cynrychioli 4.7 y cant o'r boblogaeth ond yn derbyn 9.4 y cant o'r ariannu CAP sy'n dod i'r Deyrnas Unedig. Mae hynny, wrth gwrs, yn adlewyrchu natur wledig a phwysigrwydd cymharol amaeth i'r economi Gymreig.
Mae yna drafod wedi bod ynglŷn â phwysigrwydd Barnett a pheidio â defnyddio Barnett fel cynsail i hyn, ac rŷm ni wedi clywed synau cadarnhaol i'r cyfeiriad yna, ond mi oedd yna frawddeg arwyddocaol yn rhai o'r adroddiadau yn dweud:
ni chaiff fformiwla Barnett ei defnyddio ar ei phen ei hun fel sail i ddosbarthu arian i ffermwyr ar ôl 2022.
A ydy hynny'n awgrymu, efallai, y bydd Barnett yn rhannol ran o'r hafaliad? Ac os bydd e, yn amlwg fe allai hynny achosi problemau mawr i ni yng Nghymru. Felly, fe fyddwn i'n licio gwybod, er enghraifft, beth oedd mewnbwn Llywodraeth Cymru i gylch gorchwyl yr adolygiad sydd wedi cael ei sefydlu, pa ymwneud fydd gan Lywodraeth Cymru yn newis y cynrychiolydd Cymreig a fydd yn eistedd ar y panel, ac, wrth gwrs, beth fydd y model y bydd Llywodraeth Cymru yn awyddus i'w hyrwyddo fel rhan o'r adolygiad yna?
A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad llafar? Rydym ni wedi cael cyhoeddiad heddiw gan yr Ysgrifennydd Cabinet enw cadeirydd interim Cyfoeth Naturiol Cymru. O'r datganiad ysgrifenedig cymharol fyr, mae yna un frawddeg yn sôn am gefndir yr unigolyn yma, yn bennaf yn y sector iechyd. Mae'n ymddangos nad oes unrhyw brofiad o safbwynt y sector amaeth na'r sector amgylchedd, sef, wrth gwrs, brif ffocws Cyfoeth Naturiol Cymru, na chwaith brofiad o weithio yng Nghymru ac adnabyddiaeth o'r strwythurau ac yn y blaen. Mae hynny'n un peth, ond yn fwy difrifol, mae'n rhaid imi ddweud, wrth edrych ar ychydig o gefndir yr unigolyn yma, mae'n ymddangos yn 2006 y gadawodd e gyngor dinas Lerpwl o dan gwmwl gyda chyhuddiadau ei fod e wedi pasio dogfennau sensitif ymlaen i'r Llywodraeth. Yn yr un flwyddyn, mi ysgrifennodd 22 Aelod Seneddol lythyr agored yn dweud na fedren nhw weithio gydag ef wedi iddo fe gael ei apwyntio yn brif weithredwr y bwrdd iechyd rhanbarthol. Yn 2010, fe apwyntiwyd ef yn brif weithredwr ysbyty Alder Hey, gan ysgogi'r dyn a oedd am ailadeiladu'r ysbyty i ymddiswyddo mewn protest. Ac mae'r person sydd bellach yn gomisiynydd heddlu Glannau Merswy yn ei ddisgrifio fe fel, ac rwy'n dyfynnu,
Dyn nad oes gen i unrhyw ffydd ynddo, nac unrhyw barch tuag ato.
Nawr, rydw i'n meddwl y dylem ni gael o leiaf ddatganiad llafar llawn ar lawr y Senedd yma, yn hytrach nag un frawddeg fer mewn datganiad ysgrifenedig, er mwyn deall pam fod yr Ysgrifennydd Cabinet a Llywodraeth Cymru â hyder yn yr unigolyn yma, pan ei bod hi'n amlwg bod cymaint o bobl heb rannu'r hyder hynny.
O ran yr ymgynghoriad tir, eglurwyd y cynigion ar gyfer diwygio hynny, sydd wedi'u nodi yn ymgynghoriad 'Brexit a'n tir', gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig mewn llythyr agored ym mis Medi. Yr un cynigion yn union yw'r cynigion hynny. Mae'r ymgynghoriad yn cau ar 30 Hydref. Rydym yn derbyn ymatebion yn gyflym iawn. Mae'n rhy gynnar i gynnig dadansoddiad o'r ymatebion a welsom hyd yma. Nid wyf yn credu ein bod wedi cael unrhyw fewnbwn i ymgynghoriad Llywodraeth y DU wedi'i gyhoeddi i'r cwestiwn hwnnw. Yn amlwg, ar ôl i'r ymgynghoriad gau, bydd dadansoddiad o ganlyniadau'r ymgynghoriad ar y cynigion.
O ran cadeirydd dros dro Cyfoeth Naturiol Cymru, cafwyd datganiad ysgrifenedig. Mae sawl ffordd y gall yr Aelod ofyn cwestiwn sy'n ymwneud â datganiad ysgrifenedig; rwy'n awgrymu iddo eu defnyddio.
Arweinydd y Tŷ, a gaf i ymuno â'r galwadau sydd wedi dod gan feinciau Plaid Cymru am ddatganiad Cabinet gan Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig o ran y person y mae hi'n debygol o'i enwebu, os yn wir y bydd hi'n cynnig enwebiad, ar gyfer y grŵp arolygu a sefydlwyd gan Michael Gove i ymchwilio i ddewisiadau ariannu ar gyfer y DU gyfan? Roeddynt yn newyddion da yr wythnos diwethaf i ddeall y na fydd unrhyw gyllid yn y dyfodol yn cymhwyso fformiwla Barnett, ac y byddai rhagor o ailddosbarthu arian os bydd galw am hynny. Ond yn amlwg bydd y grŵp arolygu yn cynnig yr argymhellion i sefydliad Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn ogystal â'r Trysorlys, felly byddai'n dda i ddeall ym mha ffyrdd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at yr adolygiad, ac, yn wir, gofynnwyd iddyn nhw enwebu rhywun ar gyfer hynny. Felly, bydd deall pwy allai'r enwebai fod yn hanfodol bwysig o ran dylanwadu ar ganlyniad yr adolygiad.
Yn ail, yn eich swyddogaeth fel arweinydd y tŷ, a gaf i eich holi sut y gellid bwrw ymlaen gyda chyhoeddiad y cynnig am ffordd liniaru ar gyfer yr M4? Mae'r Prif Weinidog wedi nodi y bydd e'n gwneud y penderfyniad hwnnw—y Prif Weinidog presennol, ychwanegaf. O ystyried bod y cloc yn tician bellach, gyda dim ond saith wythnos ar ôl cyn bydd y Prif Weinidog presennol yn gadael y swydd, gofynnais yr un cwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet yn y ddadl fer yr wythnos diwethaf, heb ennyn llawer o ymateb. Ond mae hyn yn fusnes y Llywodraeth. Chi yw arweinydd y tŷ, chi sy'n cyflwyno busnes y Llywodraeth, felly byddwn yn ddiolchgar pe cawn wybod a oes gennych chi ddealltwriaeth o bryd y bydd y Prif Weinidog yn gwneud y cyhoeddiad hwnnw, ac, yn wir, sut y gallai gael ei gyflwyno, oherwydd credaf ei bod yn hollbwysig i'r cyhoeddiad hwnnw gael ei draddodi ar lawr y Senedd yn hytrach na thrwy'r wasg. Oes modd i chi roi'r sicrwydd hwnnw i ni y bydd hynny'n digwydd, ac mai dyna'r amserlen y mae'r Llywodraeth yn ei defnyddio? Fel y dywedais, rydym yn gwybod beth y mae'n rhaid i'r amserlen fod—mae'n rhaid iddo fod o fewn saith wythnos—felly gobeithio y gallwch roi rhywfaint o eglurder ar y mater hwnnw.
Hefyd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth o ran caffaeliad y trenau newydd a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017—cyhoeddwyd y byddai pum trên dosbarth newydd 769 yn cael eu prynu ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd Cymru. Rydym yn croesawu'r cyhoeddiadau ynghylch y buddsoddiad cadarnhaol yng ngwasanaeth trenau Cymru, ond hyd yma nid yw'r cyhoeddiad a wnaed ym mis Gorffennaf 2017 a ddywedodd y byddai'r trenau hyn yn cyrraedd rhwydwaith Cymru erbyn mis Mai 2018 wedi digwydd. Nid yw'r trenau hynny wedi cyrraedd rhwydwaith Cymru, ac mae chwe mis wedi mynd heibio ers y dyddiad hwnnw erbyn hyn. Mae'n bwysig i bobl fod yn ffyddiog y caiff cyhoeddiadau newydd a gyflwynir eu gwireddu. Os edrychwch chi ar y cyhoeddiad hwn, a wnaed, fel y dywedais, ym mis Gorffennaf 2017, hyd yma nid yw'r trenau hynny wedi cyrraedd y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru, er gwaethaf eu bod ar gael, neu i fod ar gael, ers mis Mai 2018. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet i egluro pryd y bydd y cerbydau hyn ar gael ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd Cymru, yn enwedig a ninnau ar drothwy'r gaeaf, a ninnau'n gwybod y bydd yr elfennau yn heriol i'r rhwydwaith. Byddai mwy o gerbydau yn lleddfu rhywfaint o'r pwysau sydd ar y cyhoedd sy'n teithio.
Diolch. O ran yr un diwethaf yna, fe ofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet ysgrifennu at yr Aelod, gan nodi ble'r ydym ni arni o ran yr amserlen.FootnoteLink
O ran amserlen yr M4, mae'r amserlen bresennol ar gyfer materion y Llywodraeth yn dangos bod dadl wedi'i threfnu ar gyfer yr wythnos sy'n dechrau ar 4 Rhagfyr, rwy'n credu—wythnos olaf ond un tymor y gaeaf, beth bynnag, yw'r wythnos sydd wedi'i phenodi ar hyn o bryd ar gyfer dadl yr M4, gyda'r amserlen yn mynd ar yn ôl o'r fan honno.
Rwy'n credu fy mod i wedi ateb y ddau beth arall y gofynnodd yr Aelod wrth ymateb i Llyr.
Diolch i arweinydd y tŷ.