2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, mae bron i flwyddyn ers y cyhoeddodd yr Ysgrifennydd cyllid ei newidiadau i'r dreth trafodiadau tir, gan symud y trothwy safonol ar gyfer taliad o £150,000 i £180,000. Pa asesiad a wnaeth eich adran o effaith debygol hyn ar brynwyr tro cyntaf yng Nghymru?
Diolch yn fawr am y cwestiwn, ac wrth gwrs, mae'r penderfyniad ynghylch y dreth trafodiadau tir yn golygu na fydd oddeutu 80 y cant o brynwyr tro cyntaf yng Nghymru yn talu treth, gyda'n trothwy o £180,000. Dyma'r un gyfran o brynwyr tro cyntaf ag yn Lloegr, wrth gwrs, gyda'u treth dir y dreth stamp. Ar hyn o bryd, mae pris tŷ cyfartalog yma yng Nghymru yn £140,000, felly yn fy marn i mae'n anghywir ac yn annheg awgrymu ym Mhapur Gwyn y Blaid Geidwadol a ryddhawyd yr wythnos hon nad oes unrhyw ryddhad ar gyfer prynwyr tro cyntaf, gan fod hynny'n gamarweiniol—mae oddeutu 80 y cant brynwyr tro cyntaf yn cael eu gwarchod rhag y dreth honno.
Wel, Weinidog, pan gyflwynwyd y polisi hwn, roedd yn dilyn llwybr gwahanol i'r opsiwn a oedd ganddynt yn Lloegr. Yno, mae prynwyr tro cyntaf yn cael rhyddhad hyd at £300,000, ac ar eiddo sydd wedi'i brisio ar y lefel honno, nid oes treth stamp o gwbl. Rydych yn nodi pris tŷ cyfartalog—rwy'n credu eich bod wedi dweud £140,000; nid wyf yn credu bod hynny'n gywir. Ar hyn o bryd, rwy'n credu mai'r pris cyfartalog yw £180,000 neu oddeutu hynny, ac mae hwnnw'n swm sylweddol. Ar gyfer eiddo sydd rhwng £180,000 a £250,000, sef y pris cyfartalog mewn llawer o awdurdodau lleol ar hyn o bryd, ni fydd prynwyr tro cyntaf yn cael rhyddhad llawn; byddant yn cael rhan o hwnnw ar £180,000, ond ni fyddant yn cael yr un fargen ag y byddai'r prynwyr hynny yn ei chael yn Lloegr.
Gadewch imi egluro beth y mae hynny'n ei olygu. Yng Nghaerdydd, mae'n golygu bod ein prynwyr tro cyntaf, o gymharu â rhai cyfatebol yn Lloegr, yn talu £1,700 yn fwy mewn treth. Yn sir Fynwy, maent yn talu £5,400 yn fwy mewn treth, a hyd yn oed ar Ynys Môn, mae prynwyr tro cyntaf yno yn talu mwy na £1,000 mewn treth yn ychwanegol at yr hyn y byddent yn ei dalu pe baent yn Lloegr. A gredwch ei bod yn deg nad yw ein prynwyr tro cyntaf yng Nghymru yn cael cystal bargen ag y maent yn ei chael yn Lloegr?
Wel, mae asesiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o'r rhyddhad i brynwyr tro cyntaf wedi dangos na fyddai'n gwneud llawer i helpu prynwyr tro cyntaf, a byddai'n codi prisiau tai ac yn arwain at fawr iawn o bryniannau ychwanegol gan brynwyr tro cyntaf. Felly, nid ydym eisiau ailadrodd rhyddhad nad ystyrir ei fod yn effeithiol. Ac yn wir, mae ein dull o weithredu yn llawer tecach yng Nghymru, oherwydd rydym yn awyddus i gynorthwyo pawb sy'n ei chael hi'n anodd prynu tŷ i wneud hynny. Felly, nid oes rhaid i chi fod yn brynwr tro cyntaf i elwa ar y gostyngiad yn y dreth trafodiadau tir yma yng Nghymru. Ac mewn gwirionedd, credaf fod hwnnw'n beth teg i'w wneud. Mae pobl yn cael trafferth prynu eu hail dŷ, mae pobl yn cael trafferth symud, a'n dull o weithredu yw helpu pobl sy'n cael trafferth, yn hytrach na phrynwyr tro cyntaf fel grŵp cyfan.
Wel, mae rhyddhad naill ai'n ddefnyddiol, neu nid yw'n ddefnyddiol, felly rwy'n credu bod angen i chi benderfynu ynglŷn â hynny. Ac ni fuaswn yn hoffi mynd allan ar strydoedd Caerdydd, neu i Fynwy neu Ynys Môn, a dweud wrth y prynwyr tro cyntaf yno, sy'n talu llawer mwy na'r hyn y byddent yn ei dalu pe baent yn Lloegr, fod y dreth ychwanegol hon nac yma nac acw. Credaf fod honno'n neges wael iawn. Rwy'n cytuno â'r pwynt arall ein bod angen ystod ehangach o bolisïau, a'r gyfradd adeiladu yw'r peth allweddol, mewn gwirionedd, o ran darparu gwell marchnad a marchnad fwy cystadleuol ar gyfer ein prynwyr tro cyntaf. Felly, yn eich barn chi, sut y mae'r gyfradd adeiladu isaf erioed bron, yn helpu prynwyr tro cyntaf yng Nghymru?
Wel, yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu graddau a chyflymder adeiladu, ac un o'n hymrwymiadau yn 'Ffyniant i Bawb' oedd gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol i wneud hynny. Ac rydym yn gallu gwneud hynny yn awr o ganlyniad i'r cynnydd—neu o ganlyniad i gael gwared ar y terfyn benthyca, y bu Llywodraeth Cymru yn ymgyrchu o blaid ei wneud ers peth amser. Rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed o adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yn ystod y Cynulliad hwn, a heddiw byddwch wedi sylwi ein bod wedi cyhoeddi 'Polisi Cynllunio Cymru', sy'n amlwg yn ein symud ymlaen, o ran chwalu rhai o'r rhwystrau mewn perthynas â chynllunio. Felly, sicrhau bod adeiladu'n digwydd yn yr ardaloedd sy'n cael eu cyflwyno ar gyfer cynllunio, yn hytrach na'r hyn a welwn ar hyn o bryd gyda lleiniau o dir yn cael eu cynnwys mewn cynlluniau datblygu lleol, ac yn codi gwerth y tir hwnnw wedyn, ond heb wneud fawr ddim i wella'r gyfradd adeiladu tai mewn gwirionedd. Felly, buaswn yn dweud bod 'Polisi Cynllunio Cymru' yn gam pwysig ymlaen o ran gallu chwalu rhai o'r rhwystrau a welwn yn arafu'r broses o adeiladu tai ledled Cymru.
Llefarydd Plaid Cymru—Leanne Wood.
Diolch, Lywydd. Weinidog, fe siaradoch chi yn y gynhadledd Crisis yn ôl ym mis Mehefin ar roi diwedd ar ddigartrefedd, ac rwy'n siŵr eich bod wedi darllen yr adroddiad a gynhyrchwyd yn y digwyddiad hwnnw, sy'n amlinellu'r hyn y gellir ei wneud i roi diwedd ar ddigartrefedd. Mae'n adroddiad cynhwysfawr iawn, gydag argymhellion ar gyfer yr holl Lywodraethau, gan gynnwys eich Llywodraeth chi. A allwch chi ddweud wrthym beth a ddysgoch o'r digwyddiad hwnnw ac o'r adroddiad, a sut y mae'n dylanwadu ar eich penderfyniadau?
Diolch yn fawr iawn i chi am hynny. Fel rydych yn ei ddweud, mynychais y digwyddiad hwnnw, ac rwyf wedi darllen y ddogfen helaeth iawn—credaf ei bod tua 2 fodfedd o drwch. Felly, mae'n sicr yn llawn tystiolaeth, ac rydym o ddifrif ynglŷn â'r dystiolaeth honno. Dysgais yn y gynhadledd honno am bwysigrwydd cefnogi pobl sy'n profi digartrefedd yn uniongyrchol a gwrando ar bobl sydd wedi cael y profiad o fod yn ddigartref. Oherwydd, wrth gwrs, arhosais am fwy o amser na fy slot fy hun yn y gynhadledd honno, a llwyddais i glywed yn uniongyrchol gan bobl sydd wedi cael y profiad o fod yn ddigartref, a chredaf mai dyna'r ateb sy'n mynd i lywio ein hymateb. Dyma un o'r pethau cyffrous y mae Abertawe yn ei wneud, gyda'r cyllid ychwanegol y gallasom ei ddarparu iddynt ar gyfer mynd i'r afael â chysgu ar y stryd. Maent yn gwneud gwaith gyda Shelter ar gasglu straeon unigol pobl sy'n cysgu ar y stryd, fel y gallwn ddeall ar ba bwynt y gellid bod wedi ymyrryd er mwyn atal y bobl hyn rhag cysgu ar y stryd, sut y gallem fod wedi helpu pobl rhag cysgu ar y stryd yn llawer cynt, a sut y gallwn atal pobl rhag colli eu deiliadaeth yn y dyfodol.
Diolch i chi, Weinidog. Ers rhai blynyddoedd bellach, ym Mhlaid Cymru, rydym wedi bod yn dadlau'r achos dros gael gwared ar angen blaenoriaethol yn raddol. Nawr, bythefnos yn ôl, mewn ymateb i fy nghyd-Aelod, dywedasoch fod hynny'n destun adolygiad. Ond wrth gwrs, yn 2012 comisiynodd eich Llywodraeth chi Brifysgol Caerdydd i adolygu cyfraith digartrefedd, ac argymhellodd y dylem ddiddymu angen blaenoriaethol, argymhelliad a gymeradwywyd eleni gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, ac wrth gwrs, ceir yr argymhelliad hwn yn adroddiad Crisis. Felly, pam y mae eich Llywodraeth wedi gwrthod argymhellion yr adolygiadau hyn, ac wedi gofyn am un arall yn lle hynny?
Wel, rydym yn edrych o ddifrif ar angen blaenoriaethol, a deallaf yn llwyr o ble y daw'r alwad ar hyn, ac rwy'n cydymdeimlo â'r alwad honno, ond ar yr un pryd, mae angen i ni ddeall unrhyw ganlyniadau anfwriadol posibl. Er enghraifft, pan edrychwn ar y sefyllfa yn yr Alban, lle maent wedi diddymu angen blaenoriaethol, fe welwch fod grwpiau mwy o bobl yn aros yn llawer hwy mewn llety dros dro, ac nid yw hynny'n rhywbeth y byddem eisiau ei weld yma yng Nghymru. Felly, mae angen i ni wneud hyn ochr yn ochr â chynyddu'r cyflenwad tai, yn ogystal â chyflwyno tai yn gyntaf, er enghraifft.
Yn sicr, mae hwn yn faes rydym yn edrych arno, ond ni ellir gwneud hynny ar ei ben ei hun, oherwydd mae yna ganlyniadau anfwriadol yno. Ac os edrychwch chi ar yr Alban, lle maent wedi diddymu angen blaenoriaethol, gallwch gerdded o gwmpas Caeredin neu ddinas arall, a bydd yna bobl yn cysgu ar y strydoedd, felly nid yw'n ateb pob problem o bell ffordd. Mae'n rhaid iddo fod yn rhan o ddarlun mwy o faint.
Rydych wedi cael ers 2012 i ddatrys canlyniadau anfwriadol hyn, ac mae niferoedd y bobl sy'n cysgu ar y stryd yn codi. Mae pobl yn mynd yn ddigartref ac yn aros yn ddigartref oherwydd eich tactegau oedi, ac mae angen gweithredu ar hyn yn awr. Nawr, mae eich cydweithiwr Andy Burnham ym Manceinion wedi addo cael gwared ar gysgu ar y stryd erbyn 2020, wyth mlynedd yn gynt na'ch Llywodraeth chi, saith mlynedd yn gynt na tharged y Torïaid, ac yn rhan o hynny, treuliodd yr hydref yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddarparu gwely ar gyfer pob person sy'n cysgu ar y stryd y gaeaf hwn, bob nos, mewn amrywiaeth o letyau, gan gynnwys lleoedd ar gyfer menywod yn unig a lleoedd sydd hefyd yn caniatáu i bobl fynd â'u cŵn. Gall aelodau o'r cyhoedd lawrlwytho ap y gallant ei ddefnyddio i gyfeirio pobl sy'n cysgu ar y stryd at leoedd lle y gallant gael cymorth. Pam fod uchelgais a gweithredu fel hyn yn bosibl ym Manceinion, ond nad yw'n bosibl gan eich Llywodraeth chi?
Wel, mae'n amlwg nad ydych yn ymwybodol o'r gwaith rydym yn ei wneud drwy ein rhaglen tai yn gyntaf, a hefyd, drwy'r cynllun gweithredu ar gyfer pobl sy'n cysgu ar y stryd a gyhoeddwyd y llynedd, a'r ffaith ein bod wedi gofyn i bob awdurdod lleol unigol yng Nghymru gyflwyno cynllun lleihau digartrefedd a chynllun i fynd i'r afael â digartrefedd sy'n canolbwyntio'n benodol ar gysgu ar y stryd. Pan edrychwch ar nifer y lleoedd sydd ar gael, o'i gymharu â nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd, mewn llawer o achosion mewn gwirionedd, mae'r gwelyau ar gael. Ond rwy'n deall nad ydynt yn ddeniadol i'r bobl sy'n cysgu ar y stryd oherwydd, mewn llawer o achosion, mae pobl sy'n cysgu ar y stryd yn dweud wrthyf nad ydynt eisiau mynd i fannau penodol am na allant fod o gwmpas pobl sy'n cymryd cyffuriau neu'n yfed alcohol, neu mae pobl eisiau aros gyda'u cŵn, neu mae pobl eisiau mynd fel pâr. Felly, rydym wedi gofyn i awdurdodau lleol fynd i'r afael â hyn yn eu cynlluniau gweithredu ar dai, y byddant yn eu cyflwyno i'r Llywodraeth cyn diwedd y mis.
Llefarydd UKIP—Gareth Bennett.
Diolch, Lywydd. Mae adroddiadau diweddar yn y wasg wedi dangos mai cyngor Caerdydd yw'r ail gyngor uchaf yn y DU gyfan mewn perthynas â chasglu dirwyon lonydd bysiau. Cafodd tua chwarter miliwn o yrwyr ddirwy mewn cyfnod o flwyddyn. Cyngor Glasgow yn unig a roddodd fwy o ddirwyon i yrwyr na Chaerdydd mewn gwirionedd. Nawr, rwy'n derbyn yr angen i lynu wrth y cyfyngiadau gyrru lleol, ond weithiau mae camgymeriadau diniwed yn digwydd am nad yw gyrwyr yn gyfarwydd ag ardal. Gyda chymaint o bobl yn cael dirwy, mae'r RAC yn dweud ei bod yn debygol fod pethau fel arwyddion a chynlluniau ffyrdd yn achosi problemau go iawn i yrwyr. A ydych yn credu bod perygl efallai fod cynghorau fel Caerdydd yn rhy barod i gosbi wrth gasglu dirwyon gan yrwyr am y mathau hyn o fân droseddau gyrru?
Lywydd, nid oes gennyf gyfrifoldeb am y materion a godwyd gan yr Aelod. Yr hyn a ddywedaf yw mai mater i'r awdurdod lleol yw cyflawni eu cyfrifoldebau fel y gwelant yn dda, a mater i breswylwyr ac etholwyr yng Nghaerdydd yw dwyn y cyngor i gyfrif am y penderfyniadau hynny.
Rwy'n derbyn yr angen am ddemocratiaeth leol ac i benderfyniadau gael eu gwneud yn y blwch pleidleisio, fel y dywedwch. Ond wrth gwrs, mae pobl yn gwneud penderfyniadau yn y blwch pleidleisio yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, nid yn unig ar ba un a ydynt wedi cael dirwy am yrru ar lôn fysiau neu beidio. Felly, gan fod gennych drosolwg ar lywodraeth leol yng Nghymru, tybed a ydych yn effro i'r posibilrwydd y gallai cynghorau fod mewn perygl, heb enwi unrhyw gyngor penodol, yn yr achos hwn efallai—[Torri ar draws.] Wel, gadewch i ni anghofio fy mod wedi enwi'r cyngor hwnnw, a oes posibilrwydd damcaniaethol—? I blesio'r Gweinidog ac efallai i geisio cael ateb mwy goleuedig, a oes posibilrwydd damcaniaethol y gallai cynghorau fod yn rhy barod i gosbi, efallai, wrth gasglu'r mathau hyn o ddirwyon?
Mae'n bosibl fod hynny'n wir yn ddamcaniaethol. Gadewch i mi ddweud hyn wrth yr Aelod dros Ganol De Cymru, sy'n amlwg yn cael trafferth gyda'r mater hwn: nid wyf yn credu ei bod yn iawn i Weinidogion sy'n sefyll yma yn y lle hwn wneud sylwadau ar y penderfyniadau y mae llywodraeth leol yn eu gwneud wrth gyflawni ei swyddogaethau. Rydym yn atebol yma am benderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru, nid gan awdurdodau lleol unigol.
Yn wir, rydych yn gywir yn dweud hynny. Mewn perthynas â dirwyon yn gyffredinol—rwy'n credu y gallwn gytuno ar y pwynt hwn—fe wyddom fod llywodraeth leol mewn sefyllfa anodd ar hyn o bryd yn ariannol. A yw'n bosibl efallai fod cynghorau'n rhy barod i gosbi weithiau gyda sawl math o ddirwy ac y gallent fod yn defnyddio'r trethdalwyr lleol fel peiriannau pres?
Lywydd, fe ddarparaf restr o gyfrifoldebau Gweinidogion i arweinydd UKIP cyn ein sesiwn nesaf yn y lle hwn [Chwerthin.] Rwyf wedi bod yn glir iawn gydag ef, ac Aelodau eraill, a bod yn deg, sydd wedi ymdrechu yr un mor galed i fy nhemtio i ddweud rhywbeth annoeth iawn—[Torri ar draws.] Ond ni chaf fy nhemtio ar yr achlysur hwn i wneud sylw ar benderfyniadau unrhyw gyngor lleol mewn unrhyw ran o'r wlad. Mae'n iawn ein bod wedi trafod yr anawsterau sy'n wynebu llywodraeth leol mewn perthynas â threfniadau ariannol a sut y bydd yn arfer ei chyfrifoldebau yn y dyfodol, a byddwn yn gwneud hynny eto, ond fy mholisi i o hyd yw peidio â gwneud sylwadau ar benderfyniadau unigol awdurdodau unigol. Mater iddynt hwy yw hwn, ac maent yn atebol i'w hetholwyr, nid i'r lle hwn.