– Senedd Cymru ar 5 Rhagfyr 2018.
Daw hyn â ni at yr eitem nesaf, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar berfformiad Llywodraeth Cymru. Ac i gyflwyno'r ddadl, rydw i'n galw ar Paul Davies i wneud y cynnig. Paul Davies.
Cynnig NDM6892 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu ers mis Rhagfyr 2009:
a) fod amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn y GIG yng Nghymru wedi cynyddu;
b) fod perfformiad yn erbyn y targedau 4 a 12 awr yn adrannau brys Cymru wedi dirywio;
c) nad yw’r targedau trin canser yng Nghymru erioed wedi cael eu cyrraedd;
d) fod nifer y gwelyau mewn ysbytai yng Nghymru wedi gostwng;
e) fod perfformiad TGAU wedi dirywio yng Nghymru gyda chyrhaeddiad graddau A * - C ar gyfer haf 2018 ar y lefel waethaf ers 2005;
f) fod sgoriau OECD PISA Cymru yn waeth mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth a bod y canlyniadau diweddaraf yn waeth nag yn 2009, gan roi sgoriau Cymru yn hanner gwaelod sgoriau byd-eang yr OECD ac ar waelod sgoriau'r DU;
g) fod nifer fawr o ysgolion yng Nghymru wedi'u cau'n barhaol;
h) fod incwm gwario gros aelwydydd fel canran o gyfartaledd y DU wedi gostwng;
i) fod gan Gymru gyfradd twf cyflog gyfartalog gwaethaf gwledydd y DU;
j) fod ardrethi busnes yng Nghymru wedi dod yn llai cystadleuol na rhannau eraill o'r DU; a
k) fod nifer y cartrefi newydd sy'n cael eu hadeiladu yn flynyddol yng Nghymru wedi gostwng.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod ei methiannau, gan roi’r gorau i’w pholisïau sy’n methu, a chyflawni'r newid cadarnhaol sydd ei angen ar Gymru.
Diolch Lywydd. A ninnau ar fin clywed yfory pwy fydd arweinydd newydd y Blaid Lafur yng Nghymru, mae'n amserol i ni fyfyrio ar berfformiad Llywodraeth Cymru o dan arweiniad y Prif Weinidog cyfredol—y llwyddiannau, y methiannau a'r gwersi ar gyfer y dyfodol. Mater i eraill fydd rhoi barn ar waddol y Prif Weinidog, ond heddiw rwyf eisiau canolbwyntio'n benodol ar bolisi a'r bwlch cynyddol rhwng addewidion a chyflawniad.
Am wyth a hanner o naw mlynedd y Prif Weinidog, cafwyd Prif Weinidog Ceidwadol yn Stryd Downing, ac i'r Gweinidogion yma, mae'r demtasiwn i chwarae gwleidyddiaeth plaid wedi bod yn rhy gryf. Yn rhy aml, mae Prif Weinidog Cymru wedi chwarae rôl arweinydd yr wrthblaid i Lywodraeth y DU, yn hytrach na gweithredu fel arweinydd Llywodraeth yma yng Nghymru. Yn ymgyrch y Blaid Lafur ar gyfer etholiad y Cynulliad yn 2011, prin y cafodd meysydd datganoledig eu crybwyll, gan eu bod yn awyddus i fanteisio ar y lefelau isel o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd ynglŷn â beth oedd cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru.
Nawr, wrth gwrs, byddai'n anfoesgar imi beidio â chydnabod bod yna rai llwyddiannau wedi bod dros y naw mlynedd ddiwethaf a rhai mannau lle y cafwyd cytundeb rhwng y pleidiau: mae'r cynllun i godi tâl o 5c am fagiau siopa, a gyflwynwyd gyda chefnogaeth drawsbleidiol, wedi helpu i newid ymddygiad siopwyr ac mae wedi lleihau nifer y bagiau siopa untro sydd mewn cylchrediad; cafodd y Mesur hawliau plant a'r system sgorio hylendid bwyd eu cyflwyno yn ystod y naw mlynedd diwethaf hefyd. Llwyddodd pob plaid i weithio gyda'i gilydd ar y refferendwm llwyddiannus i sicrhau mwy o bwerau deddfu i'r Cynulliad—penderfyniad a ddilynwyd gan ddatganoli treth, a rymusodd y Siambr hon i wneud penderfyniadau gwell ar gyfer pobl Cymru. Mae'r llwyddiannau hynny, yn anffodus, wedi bod yn brin iawn.
Mae record Llywodraeth Cymru ers 2009, yn anffodus, yn un o fethiant a chyfleoedd a gollwyd, ac mae hynny'n arbennig o wir yn achos y gwasanaeth iechyd gwladol. Er iddo ymgyrchu ar sail maniffesto arweinyddiaeth a oedd yn addo diogelu gwariant ar iechyd, Carwyn Jones yw'r unig un o arweinwyr unrhyw blaid wleidyddol fodern yn y DU i orfodi toriadau mewn termau real i'r GIG. Yng nghyllideb gyntaf Carwyn Jones fel Prif Weinidog, cafwyd toriad o £0.5 biliwn i'r GIG yng Nghymru. Erbyn 2014, roedd y gyllideb iechyd bron 8 y cant ar ei cholled mewn termau real, sy'n cyfateb i £1 biliwn.
Nid yw'r GIG wedi gallu dod dros effaith toriadau'r Blaid Lafur i'r gyllideb o hyd. Heddiw, mae byrddau iechyd yn wynebu'r diffyg cyfunol uchaf erioed, sef £167.5 miliwn. Mae'r effaith ar amseroedd aros a safonau wedi bod yn drychinebus. Ym mis Rhagfyr 2009, nid oedd unrhyw glaf yng Nghymru yn aros am fwy na 36 wythnos rhwng diagnosis a dechrau triniaeth. Eto i gyd, mae'r ffigur hwnnw bellach yn 13,673 erbyn heddiw. O'r rhain, mae mwy na 4,000 o gleifion yn aros mwy na blwyddyn am lawdriniaeth ar hyn o bryd. Pan ddaeth Carwyn Jones i'w swydd, roedd 224,960 o gleifion yn aros i ddechrau triniaeth. Mae'r ffigur hwnnw bellach wedi dyblu i 443,789 o gleifion.
Mewn naw mlynedd, ceir rhai targedau perfformiad allweddol nad ydynt wedi cael eu cyrraedd unwaith. Nid yw'r targed i sicrhau bod 95 y cant o gleifion adrannau damweiniau ac achosion brys yn cael eu gweld o fewn pedair awr wedi ei gyrraedd ers 2009, ac mae perfformiad yn gwaethygu. Ym mis Hydref eleni, 80 y cant yn unig a gafodd eu gweld o fewn pedair awr, ac yn Ysbyty Maelor Wrecsam, 54 y cant yn unig oedd y ffigur hwnnw—y gwaethaf erioed.
Yn frawychus, mae nifer y cleifion sy'n aros dros 12 awr i gael eu gweld mewn adrannau damweiniau ac achosion brys wedi codi 4,000 y cant ers 2009. Yn gynharach eleni, disgrifiodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys y sefyllfa yn adrannau damweiniau ac achosion brys Cymru fel un 'enbyd' ac 'arswydus' a bod y profiad i gleifion 'yn anniogel, yn anurddasol ac yn ofidus'. Mae capasiti yn y GIG wedi crebachu gyda nifer y gwelyau'n gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn nes ei bod yn is nag erioed heddiw—2,000 yn llai o welyau nag yn 2009, ac mewn rhai byrddau iechyd, mae cyfradd gyfartalog defnydd gwelyau yn torri'r terfynau diogel ar sail ddyddiol. Mae'r dirywiad hwn ym mherfformiad y GIG wedi cyd-daro â phenderfyniadau Llywodraeth Cymru i barhau i israddio a chanoli gwasanaethau'r GIG, gan orfodi cleifion i deithio ymhellach am ofal hanfodol, a rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar wasanaethau a gedwir. Toriadau, cau ac israddio—dyna a welsom yn y GIG ers mis Rhagfyr 2009.
Nawr, yn ystod ei ymgyrch am yr arweinyddiaeth, ymrwymodd y Prif Weinidog i wario 1 y cant yn fwy na'r grant bloc ar addysg bob blwyddyn hyd nes y byddai'r bwlch ariannu fesul disgybl rhwng Cymru a Lloegr yn cael ei ddileu. Mae naw mlynedd wedi bod ers hynny ac mae'r bwlch ariannu'n dal i fodoli, ac mae'r gyllideb addysg 7.9 y cant yn llai mewn termau real na'r hyn ydoedd yn 2011. Yn y 10 mlynedd hyd at 2016, caewyd 157 o ysgolion, yn bennaf yng nghefn gwlad Cymru, ac ar draws y wlad heddiw, mae 40 y cant o ysgolion yn wynebu diffyg yn eu cyllideb. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.20 am bob £1 sy'n cael ei wario ar ysgolion yn Lloegr. Mae perfformiad TGAU wedi dirywio ers 2009, gyda'r safon aur o bum gradd A* i C yn gostwng eleni i'w lefel isaf ers 2005. Mae Cymru wedi mynd ar i lawr ym mhrofion Rhaglen Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, gyda sgoriau gwaeth mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, gyda'r canlyniadau diweddaraf yn rhoi Cymru yn hanner gwaelod system raddio'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a hi yw'r wlad â'r sgôr isaf yn y DU. Mae targedau ac amserlenni i wella safle system addysg Cymru i gyd wedi cael eu hanghofio, eu diddymu a'u newid yn ddistaw bach i guddio'r methiannau.
O dan oruchwyliaeth y Prif Weinidog cyfredol, mae targed arall, i Gymru gyrraedd 90 y cant o werth ychwanegol gros cyfartalog y DU erbyn 2010, wedi cael ei anghofio. Cymru sydd â'r twf cyflog isaf o holl wledydd y DU o hyd. Mae cyfleoedd i greu'r amodau ar gyfer twf busnesau bach cynhenid a mwy o fewnfuddsoddi wedi cael eu colli wrth geisio rheoli a gor-drethu busnesau. Mae trefn ardrethi busnes Llywodraeth Cymru wedi arwain at y gyfradd uchaf yn y DU o siopau gwag ar y stryd fawr, gyda gormod o adeiladau gwag ac adeiladau wedi'u bordio. Bellach, Cymru yw'r rhan ddrutaf yn y DU ar gyfer gwneud busnes. Fodd bynnag, mae'n dda gweld, o'r sylwadau ddoe yn y ddadl ar y gyllideb, fod Llywodraeth Cymru o'r diwedd yn gwrando ar ein galwadau am gamau gweithredu mewn perthynas â hyn. Serch hynny, mae'r Llywodraeth Lafur hon yn dal i fethu cydnabod bod economïau treth isel yn fwy hyfyw, yn fwy cystadleuol, ac mewn gwirionedd, yn cynhyrchu mwy o refeniw oherwydd bod hynny'n ei gwneud hi'n haws sefydlu busnes. Dylai creu amodau i fusnesau allu ffynnu, a lle y caiff buddsoddwyr eu denu i ymsefydlu yng Nghymru, fod wedi cael llawer mwy o flaenoriaeth dros y naw mlynedd ddiwethaf, er mwyn ysgogi twf a chynyddu lefelau ffyniant.
Mae Llafur wedi methu darparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy'n addas i'r diben, felly nid oes dewis amgen yn lle'r car o hyd. Ni allwn fesur llwyddiant neu fethiant y fasnachfraint newydd eto, ond mae'n deg dweud bod y dyddiau cynnar wedi bod yn simsan ar y gorau. Mae nifer o brosiectau ffyrdd mawr wedi cymryd mwy o amser nag y dylent o ganlyniad i din-droi gan Weinidogion, tra bod llawer o'r rhai a adeiladwyd wedi gweld gorwario enfawr, gan gynnwys y gwaith o ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd.
Mae signalau ffonau symudol a seilwaith band eang annigonol yn parhau i fod yn broblem, o ganlyniad i gynnydd araf ar fynd i'r afael â mannau gwan.
Byddai creu'r amodau ar gyfer twf economaidd wedi helpu i fynd i'r afael â thlodi cylchol, sy'n dal i ddifetha gormod o'n cymunedau. Mae'r addewid blaengar i gael gwared ar dlodi plant wedi cael ei anghofio, tra bo tystiolaeth yn dangos na chafodd y cannoedd o filiynau o bunnoedd a arllwyswyd i mewn i Cymunedau yn Gyntaf unrhyw effaith ar lefelau ffyniant, ac ar ôl 20 mlynedd o Lafur, mae'r cymunedau hyn yn dal i fod mor dlawd ag erioed.
Mae'r Prif Weinidog cyfredol wedi sicrhau bod perchentyaeth y tu hwnt i gyrraedd llawer, ac wedi gwadu'r hawl i denantiaid tai cymdeithasol brynu eu heiddo. Mae adeiladu tai wedi cael ei gyfyngu gan fiwrocratiaeth, gan greu argyfwng cyflenwad tai sydd wedi codi prisiau a'i gwneud yn anos i bobl gamu ar yr ysgol eiddo. Yn anffodus, mae hon wedi bod yn Llywodraeth sydd wedi gwario biliynau ar drin symptomau tlodi yn hytrach na buddsoddi'n briodol yn yr agenda ataliol i sicrhau rhagolygon gwell i'r genhedlaeth nesaf na'r olaf. Mae'r naw mlynedd diwethaf wedi'u difetha gan gamreoli, yn enwedig ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, heb sôn am sgandalau Cronfa Buddsoddi Adfywio Cymru a Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru gyfan, gan ddiffyg penderfyniad a diffyg gweithredu ynglŷn â diwygio ardrethi busnes, ffordd liniaru'r M4, a diffyg adeiladu tai, a phenderfyniadau gwael, torri cyllideb y GIG a diddymu'r hawl i brynu.
Er mwyn y 3 miliwn o bobl rydym yn eu gwasanaethu, mae angen syniadau gwreiddiol, ymagwedd ffres ac arweinyddiaeth newydd ar Gymru. Er fy mod yn dymuno'n dda i'r Prif Weinidog yn y dyfodol, rwy'n fwy argyhoeddedig nag erioed fod Cymru angen Llywodraeth newydd i gyflawni ei gwir botensial, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.
Diolch. Rwyf wedi dewis y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn ei henw yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Julie James
Dileu popeth ar ôl Cymru a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod:
a) Bod bron i naw o bob 10 o bobl yn cael eu trin o fewn yr amser targed o 26 wythnos
b) Bod y buddsoddiad yn GIG Cymru ar lefel na welwyd o’r blaen
c) Bod mwy o bobl nag erioed yn goroesi canser yng Nghymru ac yn cael eu trin o fewn yr amser targed
d) Bod cyfran y disgyblion a gafodd y graddau TGAU uchaf, A* i A, wedi cynyddu i 18.5% yn 2018
e) Bod 8.7% o ddisgyblion wedi cael A* yn eu harholiadau Safon Uwch yn 2018 – y canlyniadau gorau yng Nghymru ers cyflwyno’r radd yn 2010
f) Bod incwm gwario gros aelwydydd (GDHI) yn 2016 yn £15,835 i bob person, sy’n cyfateb i 81.5% o GDHI y DU, cynnydd ers 2015
g) Bod enillion wythnosol gros cyflogeion sy’n gweithio’n amser llawn yng Nghymru yn 2018 wedi cynyddu 2.1% ers 2017
h) Bod 1.5m o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru yn ystod y tri mis hyd at fis Medi 2018, cynnydd o 4.2% o’i gymharu â’r un cyfnod flwyddyn ynghynt—y cynnydd mwyaf yn unrhyw un o wledydd neu ranbarthau’r DU
i) Bod tri chwarter busnesau bach Cymru yn cael cymorth â’u biliau ardrethi ac nad yw eu hanner yn talu unrhyw ardrethi annomestig o gwbl
j) Y bydd 20,000 o dai fforddiadwy newydd yn cael eu hadeiladu drwy gyllid Llywodraeth Cymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
2. Yn diolch i’r Prif Weinidog am ei arweiniad a’i waith yn ystod ei naw mlynedd yn y swydd.
Yn ffurfiol.
Diolch. Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydw i'n deall, wrth gwrs, beth fyddai'n cymell y Ceidwadwyr i gyflwyno cynnig fel hyn. A ninnau'n dod at ddiwedd amser y Prif Weinidog presennol, mi allem ni fod wedi cyflwyno rhestr o fethiannau—fel yr ydym yn eu gweld—gan y Llywodraeth ein hunain. Ond rydw i'n meddwl ei bod yn dweud llawer am y Ceidwadwyr, yn y rhestr hirfaith yma, nad oes yna gyfeiriad at dlodi plant, digartrefedd, allyriadau carbon, ac yn y blaen. Mae Llywodraeth Cymru, drwy eu gwelliant nhw, yn ymateb yn y ffordd, mae'n siŵr, y gallem ni fod wedi ei ddisgwyl: yn rhestru rhes hir o ystadegau heb gyd-destun, neu wedi cael eu defnyddio—waeth i ni fod yn blaen—mewn modd camarweiniol, a hynny er mwyn cyfiawnhau eu gweithredoedd. Gallaf i gyfeirio yn benodol at yr 20,000 o gartrefi fforddiadwy y maen nhw'n cyfeirio atyn nhw. Wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys cartrefi wedi eu gwerthu drwy Gymorth i Brynu—Cymru, cynllun lle mae traean y tai wedi eu gwerthu dros £200,000 mewn pris, sydd ddim yn gallu cael ei roi dan bennawd 'fforddiadwy', pa bynnag ffordd yr ydych chi'n edrych arno fo.
Felly, mi adawn ni i'r Ceidwadwyr a Llafur chwarae eu ping-pong nhw heddiw. Mi fyddwn ni yn ymatal yn y bleidlais yma, ond mi wnaf i ddefnyddio'r cyfle yma i wneud ychydig o sylwadau fy hun hefyd—nid wrth restru yn y ffordd y mae'r Ceidwadwyr wedi ei wneud, mor foel a diddychymyg, ond wrth edrych ar rai o'r ffactorau sylfaenol yna sydd yn broblematig, rydw i'n meddwl, yn y ffordd y mae Llafur, dan y Prif Weinidog yma, wedi ceisio llywodraethu Cymru. Mae'n nhw'n batrymau ac yn themâu cyson, sydd wedi cael eu hadlewyrchu mewn cyfresi o adroddiadau pwyllgor, gan yr archwilydd cyffredinol, gan lawer o'r amrywiol gomisiynau a grwpiau gorchwyl a gorffen y mae'r Llywodraeth wedi eu creu i guddio'u diffyg gweithredu.
A dyna lle wnaf i ddechrau, o bosib—yr holl grwpiau gorchwyl a gorffen, y paneli adolygu yma, llawer ohonyn nhw yn ddiangen, ac yn hytrach—maen nhw'n cael eu gweithredu dro ar ôl tro ar ôl tro, yn berffaith blaen fel tacteg oedi, yn hytrach na gwneud penderfyniadau. Ystyriwch ddigartrefedd a'r cwestiwn o ddiddymu'r angen blaenoriaethol, sydd bellach yn destun adolygiad. Pam adolygiad arall? Mi gomisiynodd y Llywodraeth Brifysgol Caerdydd i adolygu cyfraith ddigartrefedd nôl yn 2012, a'r argymhelliad oedd i ddiddymu angen blaenoriaethol. Nid oes yna ddim byd wedi digwydd o hyd, a beth sy'n digwydd ydy bod pobl yn dal, y gaeaf oer yma, i gysgu allan, yn marw ar ein strydoedd ni, oherwydd oedi gan y Llywodraeth cyn cyrraedd penderfyniad.
Mae yna themâu eraill hefyd. Targedau—mae yna gyfeiriad yn y cynnig ei hun, ac yng ngwelliannau y Llywodraeth, at dargedau. Rydym ni'n gallu gweld beth sy'n digwydd o ran targedau: mae targedau y Llywodraeth yma, dro ar ôl tro, yn cael eu gosod yn is na'r Alban a Lloegr—yn dal i gael eu methu, gyda llaw—fel ymgais i wneud i'r Llywodraeth edrych fel pe bai nhw yn perfformio. Diffyg uchelgais ydy'r broblem graidd yn y fan hyn, rydw i'n meddwl. Cymerwch honiad y Llywodraeth yn y gwelliant bod bron i naw o bob 10 claf yn cael ei drin o fewn 26 wythnos: wel, 77 y cant ydy'r ffigur hwnnw go iawn, ar gyfartaledd, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ôl StatsCymru, nid naw allan o bob 10. Yn yr Alban a Lloegr, 18 wythnos ydy'r targed, ac, o leiaf yn yr Alban, mae bron i naw mewn 10 claf wir yn cychwyn ar eu triniaeth o fewn 18 wythnos.
Problem arall: amharodrwydd y Llywodraeth yma i ddysgu o arfer da. Mi ddywedodd Comisiwn Williams bod arfer da yn teithio yn wael dan law y Llywodraeth yma. Faint o weithiau a ydym ni wedi clywed am yr arferion da ar raddfa fach sydd wedi methu â chael eu hehangu neu eu rowlio allan? Mi allwn i fynd ymlaen—mae amser yn brin.
Un peth a wnaeth fy nharo i'n gynharach y prynhawn yma—un o broblemau sylfaenol y Llywodraeth yma ydy eu hamharodrwydd nhw i arwain. Dilyn y mae'r Llywodraeth yma, yn llawer iawn yn rhy aml. Ac roeddwn i'n clywed un Ysgrifennydd Cabinet yn siarad yn gynharach am ei gefnogaeth bybyr o i ddatganoli heddlu a'r drefn gyfiawnder. Wel, grêt—rydw i wrth fy modd yn gweld y Llywodraeth yma'n cefnogi hynny rŵan, ond tu ôl i'r curve fel bob amser, ac rydym ninnau ym Mhlaid Cymru yn falch mewn un ffordd o weld y Llywodraeth yn ein dilyn ni ac yn cefnogi'n safbwynt ni ar hynny neu ar dreth ar ddiodydd â siwgr ynddyn nhw ac ati, ond o mae o'n rhwystredig o weld Llywodraeth yn colli cyfleon i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.
I'r Ceidwadwyr, gwrandewch, dewch â'ch syniadau eich hunain i'r bwrdd hefyd. Nid ydy rhestr negyddol fel hyn, heb gynnig syniadau yn eu lle nhw, byth yn edrych yn dda yng ngolwg y cyhoedd.
Gwaddol y Prif Weinidog sydd o dan y chwyddwydr heddiw. Rydym ond newydd lunio ein polisi ein hunain yr wythnos hon ar sut i wella tai a darpariaeth ar gyfer hynny yng Nghymru, felly ni allwch ddweud nad oes gennym syniadau. Ond nid heddiw yw'r dydd ar eu cyfer hwy. Byddwch yn cael digon gennym dros yr ychydig flynyddoedd nesaf—peidiwch chi â phoeni am hynny.
Yn ôl y disgwyl, wrth gwrs, pe bai'r Prif Weinidog wedi bod yma heddiw, byddai wedi ceisio ymateb i'r diffygion yn ei Lywodraeth drwy roi'r bai ar Lywodraeth y DU, ond mae addysg wedi'i ddatganoli'n llwyr ers 20 mlynedd, ac mewn gwirionedd—a chredaf fy mod yn fwy tebygol o gael hyn gennych chi, arweinydd y tŷ—byddai'n well gennyf glywed dadansoddiad o'r hyn y credwch sydd wedi mynd yn iawn neu wedi mynd o chwith o dan ei oruchwyliaeth ef mewn perthynas ag addysg.
Gallaf sôn yn gyflym am arian, gan fod cysylltiad yno â Llywodraeth y DU, ac wrth gwrs, tôn gron Llywodraeth Cymru ynglŷn â diffyg arian—rydym ni'n dweud cynnydd mewn cyllid o un flwyddyn i'r llall; rydych chi'n dweud toriadau mewn termau real. Ond mae'r ddau safbwynt yn codi cwestiwn ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru wedi dewis gwario'r hyn a gaiff ar roi'r cyfle cyntaf i blant gael gwell dyfodol. Yn ei ymgyrch am yr arweinyddiaeth, cydnabu'r Prif Weinidog fod addysg yng Nghymru yn cael bargen wael gan ei Lywodraeth ei hun ar y pwynt hwnnw, ac nid Llywodraeth y DU oedd honno. Roedd ei gynnig yn cynnwys ymrwymiad, ac rwy'n dyfynnu, 'i wario 1 y cant yn fwy na’r grant bloc bob blwyddyn hyd nes y byddwn mewn sefyllfa lle bydd cyllid y pen disgyblion yma yn gydradd â'r hyn a geir yn Lloegr'.
Wel, naw mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal i fod heb gael cyllid y pen i ddisgyblion sy'n gydradd â Lloegr, ac mae ffigurau Lloegr ei hun wedi gostwng yn y cyfamser. Yr hyn a gawsom yn y cyfnod hwnnw, yn sicr ers i mi fod yma, yw gostyngiad mewn termau real o 7.9 y cant—a chi sy'n hoffi ffigurau mewn termau real—o ran y gwariant gros a gyllidebwyd ar gyfer addysg, a thoriad o 7.5 y cant mewn termau real yn y gwariant fesul disgybl. Rydych yn cael 20 y cant yn fwy i'w wario fesul disgybl nag yn Lloegr, ac eto, ers blynyddoedd, rydych wedi gwario llai fesul disgybl nag yn Lloegr. Ni ellir gwadu hynny, ac rydym mewn sefyllfa bellach lle mae cynghorau Llafur yn dweud nad ydynt yn gallu diogelu gwariant ar ysgolion. Cafodd Llywodraeth Cymru naw mlynedd i gadw at yr addewid yr etholwyd y Prif Weinidog arno, yn gyntaf fel arweinydd ei blaid, ac yna fel arweinydd y wlad, ac ni chadwyd at yr addewid hwnnw. Yn ei dermau ei hun, mae hynny'n fethiant.
Ond nid oes a wnelo addysg ag arian yn unig, rhag ofn bod unrhyw un yn meddwl hynny; mae'n ymwneud â diwylliant ehangach o safonau cystadleuol, creu gweithlu bodlon ac uchelgeisiol, gan gynnwys yr addysgwyr eu hunain, ac yn fwyaf oll, plant ac oedolion cryf, iach, creadigol sydd â diddordeb yn y byd ac sy'n awyddus i gyfrannu ato hyd eithaf eu gallu. Ac er bod angen arian ar Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, mae a wnelo llwyddiant addysg lawn cymaint â'r athroniaeth a'r cyfeiriad polisi. Mae effeithiau blynyddoedd o bolisi Llafur—wel, rydym wedi eu hailadrodd lawer gwaith; soniodd Paul Davies am rai ohonynt. Am y pedwerydd tro mewn degawd, rydym ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill y DU mewn perthynas â chanlyniadau PISA—gyda'r rhai mwyaf diweddar hyd yn oed yn waeth nag yn 2009—yn benodol mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, a graddau TGAU A i C eleni, a oedd unwaith eto'n waeth na'r llynedd, sef y flwyddyn isaf o ran cyflawniad ers 2006, roedd mathemateg, Saesneg, bioleg, cemeg a ffiseg, yn ogystal â Chymraeg iaith, yn adlewyrchu'r canlyniadau PISA hynny, er eu bod wedi eu mesur mewn ffordd hollol wahanol. Mae 45 o sefydliadau addysg ledled Cymru yn destunau mesurau arbennig neu angen eu gwella'n sylweddol; mae un ohonynt yn y sefyllfa honno ers pedair blynedd. Fel y dywed Estyn yn yr adroddiad ddoe:
'Er gwaethaf mentrau amrywiol, gan gynnwys bandio a chategoreiddio... nid oes digon yn cael ei wneud i’w cynorthwyo', sef yr ysgolion hyn, neu i ddatblygu strategaethau cynaliadwy ar gyfer ysgolion. A chyda chymaint o ymdrech ac arian yn mynd tuag at y mentrau amrywiol hyn, yn enwedig mewn perthynas â safonau—rydym yn sôn am gonsortia rhanbarthol, Her Ysgolion Cymru; roedd Jenny Rathbone yn sôn am hynny yn gynharach—pam fod mwy na hanner ein hysgolion uwchradd yn dal i gael adroddiadau arolygu nad ydynt yn dda neu'n rhagorol? Nawr, mae hwn yn fethiant o un flwyddyn i'r llall ers i mi fod yn y lle hwn.
Aeth miloedd o rieni a neiniau a theidiau plant a phobl ifanc drwy system addysg a oedd yn ennyn cenfigen a pharch, nid yn unig yn y DU, ond ledled y byd, a bellach, nid yw'r plant hynny'n cael yr un fraint, gan fod y sytem yn cael ei gweithredu gan weinyddiaeth Lafur esgeulus, mea culpa hwyr gan y Prif Weinidog ac ymagwedd fiwrocrataidd tuag at godi safonau. Ni fydd dweud bod gan fwy o bobl ifanc gymwysterau TGAU, neu gymwysterau cyfatebol, nag yn y 1990au yn ddigon. Nid yn unig fod hynny'n wir am weddill y DU, ond mae gweddill y DU wedi gwneud gwaith gwych o gymharu. Wrth ymgymryd â'r portffolio hwn rwy'n wynebu tswnami o adolygiadau—tswnami o adolygiadau—ac ar hynny, gyda llaw, os ydych am fwy o arian—nid wyf yn gwybod ble mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar hyn o bryd—mae'n bryd i chi dorchi llewys mewn perthynas ag adolygiad Reid. Mae digon o arian yn aros amdanom yno, os dilynwch yr argymhellion hynny.
Credaf fod y llu o adolygiadau yn arwydd fod Llywodraeth Cymru yn derbyn ei bod wedi gwneud llanastr o bethau ers amser maith, a bod yn rhaid dechrau o'r dechrau. Yn sicr, mae'n teimlo felly. I'n pobl ifanc a'u dyfodol, fodd bynnag, nid yw newid arweinydd plaid yn golygu newid o ran sylwedd. Ni wnaiff yr holl adolygiadau yn y byd newid unrhyw beth tra bo'r un llaw farw ar y llyw wrth i long Llafur Cymru suddo.
Rwy'n cefnogi'r cynnig hwn. O dan y Blaid Lafur, mae pobl Cymru wedi gorfod dioddef gwasanaeth iechyd diffygiol, system addysg sy'n methu a pholisïau economaidd a llywodraeth leol nad ydynt yn gwneud unrhyw synnwyr busnes o gwbl. Unwaith eto, mae Llafur wedi cynnig cyfres o welliannau sy'n dangos eu bod yn gwadu'r problemau a achoswyd ganddynt yn llwyr, ac yn anffodus, mae'n rhaid imi ddweud mai eu tueddiad i wadu sy'n peri i lawer o'r problemau barhau.
Mae Llywodraeth Cymru yn brolio ym mhwynt e) eu gwelliannau fod myfyrwyr Safon Uwch wedi cael y canlyniadau gorau eleni ers 2010. Mae hwnnw'n newyddion da, wrth gwrs, ond mae canlyniadau PISA 2016, fel y crybwyllwyd eisoes, yn rhoi darlun braidd yn wahanol i'r un hyfryd a ddisgrifir yng ngwelliant y Blaid Lafur. Roedd y canlyniadau mewn darllen a gwyddoniaeth yn waeth yn 2016 nag yr oeddent yn 2006, ac er bod gwelliant ymylol wedi bod mewn mathemateg, gwahaniaeth o chwe phwynt yn unig mewn 10 mlynedd ydoedd, a go brin fod hynny'n welliant syfrdanol.
Yng Nghymru, mae canran y disgyblion yr ystyrir eu bod yn cyflawni ar y brig mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn llai na hanner y ffigur cyfatebol dros y ffin yn Lloegr. Mae llythrennedd a rhifedd yn elfennau hanfodol o addysg, ac os na all Llywodraeth Lafur Cymru sicrhau bod disgyblion yn ddigon llythrennog a rhifog i'w galluogi i ddysgu'r sgiliau a'r disgyblaethau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd ac i fod yn annibynnol yn ariannol fel oedolion, prin fod gobaith y gallant wneud unrhyw beth arall yn iawn chwaith.
Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gael trefn ar ei blaenoriaethau a chanolbwyntio ar y pethau sylfaenol yn lle ceisio beio rhieni, gorchymyn pa werthoedd a ddysgir i blant ac ymyrryd â deinameg y berthynas rhwng rhiant a phlentyn heb unrhyw reswm dros wneud hynny ar wahân i nodi gwerthoedd ac agwedd elitaidd eu bod yn gwybod yn well na'r rhieni. Nid yw'n adlewyrchu'n dda ar eu gallu i lywodraethu os yw rhywbeth sydd ar ei orau ers saith neu wyth mlynedd yn dal i fod yn waeth na'r hyn ydoedd 12 mlynedd yn ôl.
Ym mhwynt f), maent yn dweud bod incwm gwario yn 2016 yn uwch nag yn 2015, ac ym mhwynt g), maent yn dweud bod cyflogau wedi cynyddu 2.1 y cant. Gallai hyn swnio'n gadarnhaol iawn hyd nes y cofiwch eu bod wedi bod mewn grym yng Nghymru ers 20 mlynedd. Mae'r ymffrost ynglŷn â chodiadau cyflog yn eithriadol o wirion pan ystyriwch fod chwyddiant yn 2.4 y cant ar hyn o bryd. Mewn termau real, mae gweithwyr Cymru wedi cael toriad cyflog, ond mae Llafur nid yn unig yn gwadu hynny, maent yn ceisio'i ddarlunio fel codiad cyflog. Mae'n siŵr y bydd Llafur yn dweud bod y bobl o'u plaid gan eu bod yn parhau i'w hethol yn Llywodraeth, ac eto, ni wnaethant ennill yr etholiad diwethaf, mewn gwirionedd. Ar hyn o bryd, maent yn dal eu gafael ar fwyafrif yn y lle hwn drwy roi dwy swydd yn y Cabinet i bleidiau eraill i sicrhau bod eu polisïau'n cael eu derbyn, ac nid dyma'r tro cyntaf i Lafur Cymru orfod cael eu cynnal gan rywun arall.
Nid oes ffordd well o brofi eu hanallu i redeg cyrff cyhoeddus na sgandal barhaus Betsi Cadwaladr. Mae Llafur wedi cymryd rheolaeth uniongyrchol ar y bwrdd iechyd, ac mae amseroedd aros ar gyfer rhai gwasanaethau yn dal i waethygu. Os yw eu cyfraniad uniongyrchol yn gwneud pethau'n waeth, neu'n arwain at fawr iawn o gynnydd os o gwbl, sut y gallant hawlio mai hwy yw'r bobl iawn i osod y targedau a'r strategaethau cyffredinol ar gyfer y GIG neu unrhyw beth arall? Wrth i ffigurau poblogaeth gynyddu, mae nifer gwelyau ysbyty yn lleihau o gymharu â'r boblogaeth honno, ac mae'r un peth yn wir am leoedd hyfforddi ar gyfer meddygon a nyrsys. Mae Llafur Cymru yn gwrthod gwneud y penderfyniadau anodd sy'n angenrheidiol er mwyn rhoi'r GIG aflwyddiannus yn ôl ar y trywydd iawn. Dyna fersiwn Llafur o'r GIG.
Wrth i gystadleuaeth gynyddu gan bobl ifanc dawnus dros y ffin, gartref a thramor, mae ysgolion Cymru ar waelod y tabl PISA ar gyfer y DU. Dyna fersiwn Llafur o system addysg. Wrth i lai a llai o bobl bleidleisio dros Lafur, maent yn gwadu bod hynny'n digwydd oherwydd eu bod yn gwneud unrhyw beth yn anghywir, ac yn mynnu nad oes angen iddynt newid, a phan yw pobl Cymru yn pleidleisio i adael yr UE, maent yn ailysgrifennu hanes, yn nawddoglyd tuag at yr etholwyr, yn cyhuddo eu gwrthwynebwyr o ddweud celwydd ac yn cynllunio ffordd o lesteirio ewyllys y bobl. Dyna fersiwn Llafur o ddemocratiaeth.
Yn olaf, polisïau diffygiol ym mhob maes, diffyg parch tuag at yr etholwyr a geiriau slec diddiwedd sy’n beio pobl eraill. Dyna yw fersiwn Llafur o Lywodraeth, ac mae’n hen bryd newid er mwyn rhoi i bobl Cymru yr hyn y maent ei angen a’r hyn y maent yn ei haeddu. Dyna pam rwy'n cefnogi'r cynnig hwn. Diolch.
Syr Christopher Wren oedd prif bensaer y broses o ailadeiladu Llundain wedi’r tân mawr ym 1666. Fe’i claddwyd o dan lawr ei adeilad mwyaf enwog, eglwys gadeiriol St Paul. Mae cromen goeth yn nodi'r man lle’i claddwyd. Yn lle hynny, ceir arysgrif ar y llawr sy'n dweud,
Os ydych yn chwilio am ei gofeb, edrychwch o'ch cwmpas.
Ddirprwy Lywydd, pe baem yn edrych o gwmpas Cymru heddiw am gofeb y Prif Weinidog, byddai'n brofiad llawer llai dymunol. Byddem yn gweld canlyniad trist naw mlynedd arall a wastraffwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru. Naw mlynedd yn ôl, nododd y Prif Weinidog ei weledigaeth ar gyfer Cymru yn ei faniffesto ar gyfer yr arweinyddiaeth. Ei enw oedd 'Amser i Arwain'. Wrth lansio ei faniffesto, dywedodd y Prif Weinidog
Mae'n rhaid i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus fel y GIG ac addysg fod yn flaenoriaeth i ni.
Fodd bynnag, mae'r realiti ychydig yn wahanol—yn wahanol iawn.
Yn ystod ei gyfnod yn y swydd, mae'r Prif Weinidog wedi gwneud toriadau mewn termau real i'r gyllideb iechyd yng Nghymru. Ni chyrhaeddwyd targedau perfformiad allweddol. Ym mis Rhagfyr 2009, nid oedd unrhyw glaf yn aros am fwy na 36 wythnos am driniaeth. Heddiw, mae'r ffigur hwnnw yn fwy na 13,500. Mae mwy na 4,000 o'r cleifion hyn wedi bod yn aros ers dros flwyddyn am lawdriniaeth. Ym mis Rhagfyr 2009, roedd 225,000 o gleifion yn aros i ddechrau triniaeth. Heddiw, mae bron i 444,000 o bobl yn aros ar restrau aros. Mae perfformiad yn erbyn y targed pedair awr a’r targed 12 awr mewn adrannau brys yng Nghymru wedi gwaethygu. Nid yw’r targed ar gyfer atgyfeirio achosion brys o ganser ar gyfer triniaeth, sy'n dweud y dylai cleifion a atgyfeirir drwy’r llwybr brys ddechrau eu triniaeth o fewn 62 diwrnod, erioed wedi'i gyrraedd o dan y Prif Weinidog hwn.
Yn 'Amser i Arwain', addawodd y Prif Weinidog gynyddu gwariant ar addysg 1 y cant yn uwch na'r grant bloc. Fodd bynnag, ers 2011, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud toriadau mewn termau real i wariant addysg. Mae perfformiad TGAU wedi gwaethygu. Yr haf hwn, cafwyd y cyrhaeddiad gwaethaf o ran y graddau TGAU uchaf ers 2005. Mae asesiad rhyngwladol PISA yn dangos mai system addysg Cymru sy’n perfformio waethaf yn y Deyrnas Unedig. Mae sgorau PISA ar gyfer darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn waeth nag yn 2009, gan osod Cymru yn hanner gwaelod tabl byd-eang y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Yn ystod y 10 mlynedd rhwng 2006 a 2016, caewyd 157 o ysgolion gan Lywodraeth Cymru, mewn ardaloedd gwledig yn bennaf.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
O’r gorau.
A fyddech yn cytuno â barn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod Cymru'n symud i'r cyfeiriad iawn o ran diwygio addysg?
Nid wyf ond yn rhoi'r ffeithiau a'r ffigurau sydd i’w cael yn gyhoeddus ichi. Mewn cyfweliad gyda’r Western Mail yn lansiad ei faniffesto, dywedodd Carwyn Jones
Rydym yn gwybod bod addysg yn llwybr allan o dlodi i lawer o bobl yng Nghymru.
Diolch i'w bolisïau addysg, mae'r Prif Weinidog wedi rhoi rhwystrau sylweddol ar y llwybr hwnnw.
Hoffwn sôn am addewid arall a wnaed yn 'Amser i Arwain', sef adeiladu mwy o dai cyngor a thai fforddiadwy newydd. O dan ei arweiniad, mae nifer y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu bob blwyddyn yng Nghymru wedi gostwng. Mae gweinyddiaethau olynol o dan ei arweinyddiaeth wedi methu creu digon o gartrefi i fynd i’r afael ag argyfwng tai parhaus Cymru. Dros y degawd diwethaf, mae nifer y cartrefi newydd sy'n cael eu hadeiladu wedi gostwng o dros 10,000 y flwyddyn yn 2008 i 6,000 yn unig eleni. Mae'r Prif Weinidog wedi gosod targed i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy, ond o gofio ei hanes o fethu cyrraedd targedau mewn perthynas â’r GIG ac addysg yng Nghymru, pa hyder y gallwn ei gael yng ngallu'r Llywodraeth hon i ddarparu digon o gartrefi newydd?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
O'r gorau.
Mae gennych restr siopa hir o bethau yr hoffech roi mwy o arian iddynt. A allech ddweud wrthym beth y credwch y dylai gael llai o arian er mwyn talu am hynny?
Y peth yw, nid yw Cymru wedi gweld unrhyw ochr arall i'r geiniog. Dim ond am berfformiad y Blaid Lafur rwy'n sôn. Nid oes angen Llywodraeth Lafur newydd ar Gymru. Mae angen Llywodraeth newydd ar Gymru yma.
Mae 200,000 o blant tlawd yn byw mewn tlodi yng Nghymru—200,000. O ran tlodi, yr economi, teuluoedd, ethnigrwydd ac anabledd, rydym yn waeth na'r Deyrnas Unedig. Ceir rhestr hir o amddifadedd materol, tlodi parhaus, tlodi mewn gwahanol ardaloedd ac amddifadedd yng Nghymoedd de Cymru. Nid ydych wedi dihuno ers Margaret Thatcher. Yn y bôn, gallwch ddweud llawer o bethau am y peth, ond chi yw'r rhai sy'n rhedeg y Llywodraeth ers 1999, ac nid oes dim wedi'i wneud, ac mae'n gywilydd ar Lywodraeth Lafur Cymru yn gyffredinol.
Byddaf yn pleidleisio o blaid y gwelliant i'r cynnig hwn a gynigiwyd gan Julie James AC.
Mae cynnig y Torïaid yn sinigaidd ac yn wleidyddol oportiwnistaidd. Mae cynnig y Torïaid hefyd yn sylfaenol ddiffygiol. Fe wyddom fod dau etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod ers 2009. Y ddau dro, mae'r Cymry wedi mynd i bleidleisio, a'r ddau dro, ffurfiwyd Llywodraeth Lafur Cymru yn ddemocrataidd wedi'r etholiadau. Nid yw pobl Cymru yn ffyliaid. Nid ydynt yn cefnogi Llafur Cymru o deyrngarwch di-gwestiwn. Rydym yn sôn am boblogaeth Gymreig sy'n ymwybodol o'i hanes a'n dyfodol blaengar. Mae Llafur Cymru yn gweithio i adnewyddu'r berthynas glos iawn sy'n bodoli rhyngddi a'r Cymry, a byddwn yn parhau i wneud hynny gyda pholisïau ffres, fel eithrio meithrinfeydd rhag talu ardrethi busnes a'r cynnig gofal plant gorau yn y DU.
Mae polisïau cyni Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi tra-arglwyddiaethu dros y degawd diwethaf. Toriadau bwriadol i gyllideb Cymru, toriadau bwriadol i rwyd diogelwch lles, gan gynyddu tlodi ac anghydraddoldeb, toriadau bwriadol i'r sector cyhoeddus, sy'n aml yn ymdrin â'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. A chyni—mae'r enw ei hun yn enghraifft o athrylith bwriadol, mewn gwirionedd, nid polisi o ddewis toriadau, ond sefyllfa ddiofyn anochel rhywun arall. Mae cyni wedi bod yn ymosodiad ideolegol milain a phenderfynol ar allu'r wladwriaeth i ymyrryd, i gefnogi'r rhai tlotaf mewn cymdeithas gyda dulliau'r DU, fel yr amlygwyd nid mewn un ond mewn dau adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig ar gyflwr difrifol y tlodi a orfodwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU ar ei phobl.
Er gwaethaf ymosodiadau Torïaidd parhaus, mae datganoli, Llafur Cymru a'n Llywodraeth ni wedi darparu rhywfaint o amddiffyniad i bobl Cymru rhag polisïau Llywodraeth Dorïaidd asgell dde. Yng nghysgod tywyll y cyni gorfodol hwn, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi sicrhau bod 83,000 yn fwy o bobl mewn gwaith ers 2010; £1.4 biliwn o fuddsoddiad drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain; 41 o ysgolion newydd, gan gynnwys Ysgol Islwyn, ysgol uwchradd wefreiddiol gwerth £22 miliwn yn fy etholaeth i; yr amseroedd aros diagnostig byrraf ers 2010; mae Cymru ar flaen y gad yn y DU o ran ailgylchu gwastraff cartrefi, ac ymysg y tair gwlad orau yn y byd. Yn y Cynulliad diwethaf, darparwyd 10,000 o gartrefi fforddiadwy newydd gennym ac yn y Cynulliad hwn, rydym ar y trywydd iawn i ddarparu 20,000 yn ychwanegol.
Mae Llafur Cymru wedi gwneud hyn oll yng nghysgod dirwasgiad byd-eang a achoswyd gan drachwant, a'r cyfnod hwyaf o gyni bwriadol o fewn cof. A'r Ceidwadwyr a waethygodd hynny drwy wanhau ein rheoliadau ariannol yn flaenorol, ac yn gefndir i'r cyfan hyn, ansicrwydd Brexit a fydd hefyd yn arwain at ansicrwydd cenedlaethol.
Mae cyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019 5 y cant yn is, neu £850 miliwn mewn termau real o gymharu â 2010-11, rhywbeth nad yw ein pobl yn ei haeddu, a rhywbeth sydd hefyd, unwaith eto, yn ganlyniad i bolisi'r Ceidwadwyr Cymreig. Mae cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019 4 y cant yn is, neu £650 miliwn mewn termau real o gymharu â 2010-11. Mae cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 10 y cant yn is, neu £200 miliwn mewn termau real o gymharu â 2010-11. O ran arweinyddiaeth, mae Llafur Cymru a'n holyniaeth o arweinwyr wedi cynnig a darparu arweinyddiaeth egwyddorol. Cymharwch hynny â nerth a sefydlogrwydd y llanastr anhrefnus a welwn yn Llundain gan Theresa May a gweddill Llywodraeth Dorïaidd anniben y DU.
Gallaf roi sicrwydd i bobl Cymru y bydd Prif Weinidog nesaf Llafur Cymru yn parhau i sefyll dros Gymru ac yn darparu arweinyddiaeth sosialaidd gref, egwyddorol a moesol, ac yn rhoi ein polisïau sosialaidd cadarn ar waith. Diolch.
Credaf ei bod yn eithaf dadlennol ar ddechrau'r ddadl hon, pan nad oedd ond un Gweinidog ar fainc y Llywodraeth, ac un aelod o'r blaid sy'n llywodraethu ar y fainc gefn i amddiffyn ei gweithredoedd mewn dadl a oedd yn edrych yn ôl dros y naw mlynedd diwethaf, yn ôl at 2009. Mae hynny'n dweud ei stori ei hun wrthych ynglŷn ag ymwneud y blaid sy'n llywodraethu mewn dadleuon yma y prynhawn yma.
Mae'n bleser sefyll yma heddiw, ac mae'n werth myfyrio hefyd ar weithgareddau a chyflawniadau'r Prif Weinidog presennol. Yr adeg hon wythnos nesaf, ni fydd yn Brif Weinidog, ac mae rhywun sydd wedi cyflawni rôl ers naw mlynedd ac wedi bod ynghanol y Llywodraeth am y rhan fwyaf o'r cyfnod ers datganoli—credaf ei fod wedi dod i'r Llywodraeth yn 2000-01—yn deilwng o gydnabyddiaeth a chanmoliaeth yn ogystal, oherwydd mae hwnnw'n gyfnod mewn swydd gyhoeddus sy'n haeddu sylw digonol gan y gwrthbleidiau a'r blaid sy'n llywodraethu yn ogystal, cyfnod ymrwymiad rhywun i wasanaeth cyhoeddus.
Ond mae'n iawn myfyrio ar y cyfleoedd a gollwyd hefyd, yn enwedig dros gyfnod estynedig o amser. Weithiau, yn hytrach nag edrych ar y materion mawr, rhaid ichi edrych ar y materion bach iawn a gweithio i fyny o'r materion bach i'r materion pwysig. Heddiw, er enghraifft, roeddwn yn nhref y Barri, lle y cafwyd ymgyrch egnïol ynglŷn â'r llosgydd a leolwyd yno, sydd wedi cael caniatâd cynllunio drwy'r broses arferol. Cytunodd Gweinidog yr amgylchedd, yn ôl ym mis Chwefror, i ystyried gwneud asesiad effaith amgylcheddol ar y llosgydd hwnnw. Gofynnais y cwestiwn i arweinydd y tŷ ddoe, a thua 300 diwrnod yn ddiweddarach, mae'r gymuned honno'n dal i aros am y penderfyniad hwnnw gan y Llywodraeth. Os ydych mewn Llywodraeth, mae gennych allu i wneud pethau. Mae gennych allu—fel y cyfeiriodd Mohammad Asghar ar dudalen flaen maniffesto'r Prif Weinidog, 'Amser i Arwain'—i arwain, a chael effaith gadarnhaol mewn cymunedau mewn gwirionedd. Mewn perthynas â'r gymuned arbennig honno, mae syrthni o ran gwneud y penderfyniad hwn yn ddrych o lawer o'r pethau mwy o faint y mae'r Prif Weinidog, ac yn wir ei Lywodraethau olynol, wedi methu eu cyflawni dros Gymru.
Ni allwch gerdded oddi wrth y tablau PISA olynol sydd wedi dangos, yn anffodus, nad ydym wedi cael y llwyddiant y mae pawb ohonom am ei weld ym maes addysg—tynnwch y wleidyddiaeth allan ohono; mae pawb ohonom am weld system addysg well. Nid yw'n fawr o werth dweud, 'Gallwn aros tan 2022 pan ddaw'r cwricwlwm newydd i mewn.' Beth am y genhedlaeth sy'n mynd drwy'r ysgolion ar hyn o bryd? Rwy'n dad i bedwar o blant. Un cyfle y maent yn ei gael ac rydych am i hwnnw fod y cyfle gorau posibl. Felly, beth a ddywedwn: 'Yr 20 mlynedd diwethaf—o, wel, mae'n ddrwg gennym am hynny, ond fe'i cawn yn iawn ar gyfer y genhedlaeth nesaf'?
Nid yw ffigurau rhyngwladol yn dweud celwydd. Wyddoch chi, byddai'n werth i'r blaid sy'n llywodraethu a'r meinciau sy'n llywodraethu fyfyrio ychydig ar ble mae pethau wedi mynd o chwith a ble y gallwn unioni pethau. Fi yw'r cyntaf i gydnabod bod ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi sicrhau gwelliant mewn ysgolion ar hyd a lled y wlad hon, ond nid oes fawr o werth mewn cael adeiladau newydd sbon os nad yw'r canlyniadau sy'n dod allan o'r adeiladau newydd sbon hynny'n cael eu hailadrodd yng nghyflawniadau ein pobl ifanc. Rwyf lawn mor uchelgeisiol â neb i weld ein pobl ifanc yn cyflawni hyd eithaf eu gallu yn eu bywydau, ond mae'n rhaid iddo fod ar y cerdyn sgorio y gallai'r Llywodraeth fod wedi gwneud yn well.
Os edrychwch ar yr economi dros y ddwy flynedd diwethaf, mae'n ffaith bod gweithwyr Cymru yn mynd â llai o gyflog adref heddiw o'i gymharu â'u cymheiriaid yn yr Alban pan ddechreuasant yn 1999—£55 yr wythnos yn llai, mewn gwirionedd. Nawr, mae'r blaid sy'n llywodraethu yn sôn am gyni. Nid wyf wedi clywed awgrym amgen cydlynol yn cael ei gynnig ynglŷn â sut y gallem fod wedi glanhau'r llanastr a adawodd Gordon Brown ar ei ôl, a gofyniad benthyca sector cyhoeddus o £160 biliwn, a fyddai wedi cadw hyder y marchnadoedd fel na fyddem wedi gweld dirwasgiad mawr. Ond yr hyn a welais yw polisïau economaidd Llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru yn arwain at gyflogau salach yn hytrach na chyflogau gwell mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae'n ffaith: ni yw'r economi sydd â'r cyflogau isaf yn y Deyrnas Unedig. Mae honno'n ffaith. Ni allwch wadu hynny.
O ran y GIG, mae'n ffaith bod penderfyniad gwleidyddol wedi'i wneud yn 2011-12 i dorri gwariant iechyd yma yng Nghymru. Roedd hwnnw'n benderfyniad gwleidyddol a wnaed. Dyma'r unig Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig, ac yn wir, y Prif Weinidog yw'r unig arweinydd Llywodraeth sydd wedi gwneud y penderfyniad ymwybodol hwnnw i dorri gwariant. A'r ddadl ar y pryd oedd bod angen i'r arian fynd i golofnau eraill i gefnogi gwasanaethau eraill, ac mae hynny'n iawn os mai dyna yw'r dewis gwleidyddol, ond y ffaith amdani yw bod y penderfyniad wedi'i wneud ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth wynebu'r canlyniadau oherwydd hynny. Yn 2009, er enghraifft, roedd yr amser aros o 36 wythnos yn GIG Cymru yn sero—sero. Heddiw, mae'n 13,500 o bobl yn aros 36 wythnos neu ragor i gael triniaeth. Dyna'r mesur y mae pobl yn ei ddefnyddio i fesur llwyddiant y GIG, o ran pa mor amserol y gallant gael eu gweld pan fyddant yn mynd at feddyg i holi ynglŷn â salwch neu gyflwr. Ac ar y cerdyn sgorio, rhaid nodi hynny fel methiant.
Felly, rwy'n fwy na pharod i sefyll yma a chanmol gwasanaeth cyhoeddus y Prif Weinidog presennol—record sy'n haeddu ei chanmol—ond mae'r Llywodraethau olynol y mae wedi'u harwain wedi methu cyflawni'r gwelliannau gwirioneddol a addawyd ar ddechrau datganoli a thrwy gyfnod y Llywodraethau y mae wedi'u harwain. Nawr, nid bai datganoli yw hynny, ond y dewisiadau gwleidyddol a wnaed, a gadewch inni fyfyrio ar hynny, oherwydd mae'r wythnos nesaf yn adeg ar gyfer myfyrio ac yn adeg i uno a newid y record fel y gallwn newid y canlyniadau. A dyna pam y gobeithiaf y bydd y Cynulliad yn cefnogi'r cynnig sydd ger eu bron y prynhawn yma.
A gaf fi alw yn awr ar Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, Julie James?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Wel, pleser mawr yw dechrau drwy ddiolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon heddiw oherwydd mae wedi rhoi cyfle amserol inni fyfyrio ar, a dathlu cynnydd sylweddol Llywodraethau Llafur Cymru olynol—felly, Llywodraethau Llafur Cymru olynol a etholwyd gan bobl Cymru—yn ystod amser Carwyn Jones fel Prif Weinidog. Fel y mae ein gwelliant yn ei ddweud, dyma gyfle i ddiolch iddo am ei waith a'i arweiniad fel Prif Weinidog, Prif Weinidog y bûm yn falch iawn o'i wasanaethu.
Am naw mlynedd, mae'r Prif Weinidog wedi arwain Llywodraeth Cymru drwy rai o'r adegau mwyaf anodd y mae'r wlad hon a'r DU gyfan yn wir wedi eu profi ers diwedd yr ail ryfel byd: adegau anodd y byddai'r Ceidwadwyr yn awyddus iawn inni beidio â rhoi sylw iddynt byth eto. Yn ystod y naw mlynedd, gwelwyd dirwasgiad byd-eang, wedi'i ddilyn gan y cyfnod hwyaf o gyni o fewn cof, a gadewch inni beidio ag anghofio fod rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi wedi disgrifio'r cyni hwnnw y mis diwethaf fel dewis gwleidyddol gan Lywodraeth Geidwadol y DU.
A Brexit a gafodd y prif sylw dros flynyddoedd olaf deiliadaeth y Prif Weinidog hwn, ffrae gathod ddiarhebol y Blaid Geidwadol, heb sôn am y llanastr a achoswyd gan negodiadau fflip-fflop Prif Weinidog y DU a'r aelodau o'r Blaid Dorïaidd a ddisgrifiwyd gan aelod o gylch mewnol David Cameron unwaith fel 'hurtynnod llygatgroes'. Trechwyd y Llywodraeth deirgwaith yn y Senedd ddoe: nid rhywbeth i ymfalchïo ynddo.
Ddirprwy Lywydd, drwy hyn oll, mae Llywodraethau olynol o dan arweiniad Llafur Cymru wedi cynnal eu hymrwymiad i weithio tuag at Gymru fwy ffyniannus ac wedi cyflawni ar gyfer pobl Cymru. Ddoe, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid unwaith eto yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft yr effaith y mae cyni wedi ei chael ar ein cyllideb. Mae'n werth ei ailadrodd heddiw.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Yn sicr, Janet.
Gyda phob dyledus barch, rydych chi'n cynrychioli Abertawe fel etholaeth—Gorllewin Abertawe, ie—ac ni allaf fod yr unig un yma sy'n cael negeseuon e-bost yn ddyddiol am fethiant ein system iechyd yng Nghymru. Pan fydd gennych etholwr sy'n dod atoch gyda'r fath amseroedd oedi cyn cael triniaeth, y fath ddiffyg cydgysylltiad yn ein gwasanaethau iechyd, a ydych yn dweud, 'Bai Llywodraeth y DU ydyw, ar y polisi cyni y mae'r bai', neu a ydych yn dweud y gwir, yn dweud wrthynt mai chi sy'n rhedeg y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru? Lle mae'r realiti yn y ddadl hon, Julie?
Wel, dyna'r realiti. Roeddwn am fynd ymlaen i ddweud. Ond mewn gwirionedd, os ydych am gael gwybod beth rwy'n ei ddweud wrth fy etholwyr yn Abertawe, Janet, rwy'n dweud bod y Llywodraeth Dorïaidd wedi canslo trydaneiddio; mae wedi canslo morlyn llanw bae Abertawe; ni allant ymdrin ag unrhyw broblemau seilwaith. Mae'n draed moch llwyr. Felly, chi a ofynnodd y cwestiwn: dyna'r ateb a gewch.
Felly, fel y dywedais ddoe, unwaith eto fe nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft yr effaith y mae cyni wedi'i chael ar ein cyllideb.
Diolch. Hoffwn glywed arweinydd y tŷ. Diolch.
Mae'n werth ei ailadrodd heddiw: pe na baem geiniog yn well ein byd mewn termau real nag yr oeddem yn 2010, byddai gennym £850 miliwn yn fwy i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen heddiw. Nawr, pe bai gwariant—
Mae'n bwynt difrifol. Rydych wedi dweud yn union beth a ddywedwch wrth eich etholwyr. Cytunaf â chi'n llwyr ynglŷn â'r niwed a achoswyd gan ddegawd o gyni'r Torïaid, ond does bosibl eich bod yn gallu osgoi'r bai ac osgoi cymryd cyfrifoldeb am y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar iechyd a materion eraill.
Fe ddof at hynny, Rhun.
Pe bai gwariant ar wasanaethau cyhoeddus wedi codi gyfuwch â'r twf yn yr economi ers 2010, byddai gennym £4 biliwn yn ychwanegol i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. A phe bai Llywodraeth Geidwadol y DU wedi rhoi'r un lefel o fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus a gyflawnwyd gan bob Llywodraeth dros yr 50 mlynedd diwethaf, byddai gan Gymru £8 biliwn yn fwy i'w wario.
A beth fyddai wedi digwydd pe bai'r Llywodraeth Lafur wedi cael eu hethol drachefn yn 2010 a bod cynlluniau gwariant Mr Darling wedi'u rhoi mewn grym? Sut y byddai hynny wedi effeithio ar eich gwariant presennol?
Wel, fel y gwyddoch, David, roedd Gordon Brown eisoes wedi gweddnewid yr economi ac roedd gennym dwf. Tagodd y Blaid Geidwadol y twf hwnnw ar unwaith yn ei ddyddiau cynnar. Felly, nid oes gennyf unrhyw bryderon o gwbl ynglŷn â beth a fyddai wedi digwydd. Roedd y Blaid Dorïaidd a ddaeth wedyn yn un o'r rhai mwyaf anghyfrifol yn ariannol yn hanes Prydain.
Lywydd, yn wyneb y dirwasgiad byd-eang, cyni a Brexit, mae ein Llywodraeth wedi, ac yn parhau i gyflawni dros Gymru ym mhob agwedd ar fywyd datganoledig. Mae mwy o bobl yn dechrau'r driniaeth sydd ei hangen arnynt o fewn yr amser targed. Mae bron 90 y cant o gleifion yn aros llai na 26 wythnos am driniaeth; mae cyfraddau goroesi canser yn parhau i wella, ac yn gyson mae'r GIG yng Nghymru'n gweld ac yn trin mwy o gleifion canser nag erioed o'r blaen. Bellach mae gennym gronfa triniaeth newydd gwerth £80 miliwn sydd wedi sicrhau mynediad cyflymach at 137 o feddyginiaethau newydd ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau sy'n bygwth bywyd ac sy'n cyfyngu ar fywyd.
Eleni, byddwn yn cwblhau canfed prosiect y rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, carreg filltir go iawn mewn rhaglen uchelgeisiol a fydd wedi arwain at fuddsoddi mwy na £3.7 biliwn ar ailadeiladu ysgolion ein plant i roi amgylchedd dysgu gwell iddynt. Mae perfformiad TGAU ar y graddau uchaf un wedi gwella, ac mae'r gyfradd lwyddo gyffredinol ar gyfer safon uwch yn uwch nag erioed. Mae Cymru bellach yn perfformio'n well na Lloegr ar y graddau uchaf.
Mae ein heconomi wedi gwella. Er gwaethaf adferiad araf y DU o'r dirwasgiad ac effaith negyddol polisïau Llywodraeth y DU, rydym wedi gweld gwelliant pwysig, ac mewn rhai meysydd, rydym yn perfformio'n well na rhannau eraill o'r DU. Roedd 1.5 miliwn o bobl mewn gwaith yng Nghymru yn y tri mis hyd at fis Medi 2018, cynnydd o 4.2 y cant o'r un cyfnod flwyddyn yn gynharach—y cynnydd mwyaf o blith unrhyw wlad neu ranbarth yn y DU. [Torri ar draws.] Mae wedi bod yn llai na degawd ers—. Roeddech am inni beidio â chymryd y clod am hynny, ond i gymryd y bai am gyni. Gwych, Darren, ond yn afresymol braidd.
Mae llai na degawd ers inni gael pwerau deddfu sylfaenol o dan arweiniad y Prif Weinidog, ac rydym yn eu defnyddio i arwain y ffordd yn y DU. Rydym wedi gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus yn yr awyr agored, wedi deddfu i atal, diogelu a chefnogi dioddefwyr trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rydym wedi cyflwyno deddfwriaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol i roi buddiannau cenedlaethau'r dyfodol ar y blaen wrth wneud penderfyniadau, ac wedi deddfu ar gyfer Cymru ddwyieithog. Cyflwynasom y system gyntaf o gydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau yn y DU, ac rydym wedi cyflwyno tâl o 5c am fagiau plastig.
Ar ddechrau'r tymor Cynulliad hwn, nodasom raglen lywodraethu uchelgeisiol arall; fe wnaethom gynnydd da ar ei chyflawni. Rydym wedi codi'r swm o arian y gall pobl ei gadw cyn eu bod yn gorfod ariannu cost lawn eu gofal preswyl i £40,000. Rydym wedi ymestyn nifer y lleoedd y gall rhieni sy'n gweithio gael gafael ar 30 awr o ofal plant am ddim ar gyfer eu plant tair a phedair oed, gyda mwy na hanner yr awdurdodau lleol yn rhan o'n cynlluniau peilot bellach.
Rydym yn gwneud cynnydd sylweddol tuag at gyflawni'r rhaglen o 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pobl o bob oed gyda 16,000 wedi dechrau yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn hon yn unig. Rydym wedi cyflwyno'r pecyn ariannol mwyaf hael i fyfyrwyr yn y DU wrth i ni barhau i ddarparu cymorth ariannol i'n pobl ifanc a'n dysgwyr sy'n oedolion sy'n dymuno parhau neu ddychwelyd i addysg bellach. Bydd holl fyfyrwyr Cymru bellach yn cael cymorth tuag at gostau byw sy'n gyfwerth â'r cyflog byw cenedlaethol yn y DU.
Ddirprwy Lywydd, ni fyddwn yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw. Dyma blaid sy'n dal i fynnu bod popeth a wnawn yng Nghymru i'w feio tra'n methu cydnabod y llanastr ofnadwy y mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn ei wneud yn San Steffan. Llywodraeth y mae'n rhaid i chi feddwl tybed, o un awr i'r llall, a yw'n dal i fod mewn grym. Yn sicr nid yw mewn rheolaeth. O'r toriadau lles i gyflwyno gorfodol y credyd cynhwysol, mae wedi gadael pobl yn amddifad ac yn llwgu. O gyflwyniad blêr yr amserlenni newydd i fethiant parhaus ei threfniadau ar gyfer masnachfreintiau'r rheilffyrdd, o ddiflaniad gofal cymdeithasol o rannau helaeth o Loegr ganol i'r dirywiad ym mherfformiad y GIG yn Lloegr, y gwir fethiant yw'r un sy'n digwydd dros y ffin o dan oruchwyliaeth y blaid gyferbyn.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch o fod wedi gwasanaethu Carwyn Jones fel Prif Weinidog Cymru. Fe ddeil ei waddol brawf amser, ac ni ellir dweud hynny am Brif Weinidog presennol y DU. Rydym yn cefnogi'r gwelliant. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl?
Rydych wedi fy nal yn ddirybudd braidd; rwy'n dal i gael trafferth—llawer o nodiadau ofnadwy. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r holl gyfranwyr? Cyfeiriodd Paul Davies at beth llwyddiant a pheth cytundeb trawsbleidiol a nododd mai Llafur, o dan Lywodraeth Carwyn Jones, oedd y blaid gyntaf yn unrhyw le yn y DU a wnaeth doriadau mewn termau real i'r GIG. Cyfeiriodd at israddio, canoli a chau gwasanaethau GIG, at y bwlch cyllido sy'n dal i fodoli rhwng arian y pen i ddisgyblion Cymru a Lloegr, at gael gwared ar darged y Blaid Lafur i gau'r bwlch ffyniant â gweddill y DU a'r ffaith mai Cymru yw'r rhan fwyaf costus o'r DU ar gyfer rhedeg busnes. Tynnodd sylw at y ffaith nad yw refeniw trethi uwch i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn dod o economïau trethiant uchel. Soniodd fod Llafur wedi creu argyfwng cyflenwad tai, a gwn yn bersonol eu bod wedi anwybyddu rhybuddion yn mynd yn ôl dros 15 mlynedd o ran ble y byddai hyn yn arwain pe na baent yn rhoi camau ar waith, ac ni wnaethant hynny. Maent wedi gwario biliynau, meddai, ar symptomau tlodi yn hytrach na thargedu'r achosion a dywedodd fod angen arweinyddiaeth newydd a syniadau newydd ar Gymru.
Cyfeiriodd Rhun ap Iorwerth at dactegau oedi Llywodraeth Cymru, eu hadolygiadau mynych yn hytrach na gweithredu, a chyfeiriodd at ddigartrefedd fel un enghraifft. Cyfeiriodd at Lywodraeth Cymru'n gosod targedau'n is nag yn Lloegr a'r Alban ac yna'n methu eu cyrraedd, ac am eu hamharodrwydd i ddysgu o arferion da mewn mannau eraill.
Clywsom gan Suzy Davies—dyma ni; cefais hyd i'r dudalen oedd ar goll—[Torri ar draws.] Mae pawb ohonom yn colli ein tudalennau weithiau, hyd yn oed aelodau o Lywodraeth Cymru. Clywsom gan Suzy Davies a ganolbwyntiodd ar sut y mae Llywodraeth Cymru'n gwario'r arian sydd ganddi i'w wario, yn hytrach na'r swm yn unig. Dywedodd eu bod yn cael 20 y cant yn fwy y pen i'w wario nag yn Lloegr ar hyn o bryd, ac eto maent yn gwario llai ar ddisgyblion ysgol, fod 45 o sefydliadau addysg yn destunau mesurau arbennig, y dull biwrocrataidd o godi safonau, a chyfeiriodd at Lafur Cymru fel llong sy'n suddo.
Cyfeiriodd Michelle Brown at Lywodraeth Cymru yn paentio darlun hyfryd i guddio'r gwirionedd, at agwedd elitaidd 'ni sy'n gwybod orau' Llywodraeth Cymru, at Lafur ond yn llwyddo i fod yn Llywodraeth drwy roi rolau i ddau Aelod Cynulliad nad ydynt yn aelodau Llafur, ac at amarch y Blaid Lafur tuag at yr etholwyr.
Nododd Mohammad Asghar nad oedd targedau perfformiad allweddol yn cael eu cyrraedd a bod perfformiad wedi dirywio mewn meysydd allweddol. A chyfeiriodd eto at fethiant Llywodraethau Cymru olynol i adeiladu cartrefi fforddiadwy a thai cyngor, nid dros bum neu 10 mlynedd, ond dros ddau ddegawd.
Os dof at Rhianon Passmore—a gaf fi ddiolch i Rhianon am beidio â rhoi araith swnllyd, er bod y cynnwys yn weddol debyg? Disgrifiodd ffeithiau fel diffygion, cyfeiriodd at gyni, felly gadewch i ni obeithio y tro nesaf y bydd Llywodraeth Lafur yn credu y gall dorri'r cylch economaidd, a gosod pwysau ar y rheoleiddwyr ariannol i beidio â bod yn rhy llawdrwm, y byddant yn cofio'r boen y mae hynny wedi'i hachosi i genedlaethau olynol. Cyfeiriodd at y cynnydd mewn cyflogaeth yng Nghymru ers 2010, pan ddaeth Llywodraeth y DU i rym wedi i Gymru fod ar ei hôl hi ers blynyddoedd lawer cyn hynny, a chyfeiriodd at wanhau'r rheoliadau ariannol. Wel, os darllenwch yr adroddiadau olynol yn dilyn y cwymp ariannol, fel y gwnes i, fe fyddwch yn gwybod bod y rheini'n nodi mai'r Meistri Blair, Brown a Balls oedd y dadreoleiddwyr ariannol mawr yr arweiniodd eu hymyrraeth wleidyddol—[Torri ar draws.]—darllenwch yr adroddiad—at gwymp y banciau, er iddynt gael eu rhybuddio flynyddoedd ymlaen llaw os na fyddent yn gweithredu, mai dyma fyddai'r canlyniad.
Soniodd Andrew R.T. Davies am golli cyfleoedd a disgyblion ond yn cael un cyfle, ac nad oes pwynt cael adeiladau newydd sbon os nad yw'r canlyniadau'n gwneud yn well. A soniodd nad oedd neb yn aros am 36 wythnos yn y GIG yn 2009, ac mae'r nifer sy'n gwneud hynny bellach yn y miloedd.
Rhoddodd arweinydd y tŷ, gan siarad ar ran Llywodraeth Cymru, yr hyn a swniai'n araith dda iawn ar gyfer cynhadledd Llafur Cymru, ond fe osgodd y dewisiadau gwleidyddol allweddol a gymerwyd dros bron 20 mlynedd o Lafur a Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur, sydd wedi arwain at y methiannau a ddisgrifiwyd yn y ddadl hon. Cyfeiriodd at y £850 miliwn yn fwy a fyddai gennym ar gyfer gwasanaethau rheng flaen pe na bai'r arian wedi diflannu a llinell gredyd y DU wedi bod dan fygythiad o gau yn 2010. Cyfeiriodd at ddiffyg cyfraniad ymddangosiadol Llywodraeth y DU i Gymru—wel, fe roesant y cyllid gwaelodol i'r fformiwla sy'n sicrhau bod Cymru yn cael mwy y pen nag yn Lloegr, fe roesant bron £0.75 biliwn i'r bargeinion dinesig a'r bargeinion twf yng Nghymru—ac rydym yn dal i aros i glywed gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â gogledd Cymru—ac fe roesant £10 miliwn tuag at y prosiect cymwysiadau lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghaerdydd, £82 miliwn ar gyfer contract amddiffyn yn sir Ddinbych, ac maent yn pwmpio miliynau o bunnoedd i mewn i RAF Sealand, drwy leoli'r rhaglen F-35 yno.
Felly, gadewch inni edrych ar rai ystadegau ffeithiol yn yr amser sydd ar ôl gennym. O adroddiadau swyddogol diweddar, Cymru yw'r wlad leiaf cynhyrchiol yn y DU. Mae lefelau tlodi ac amddifadedd yn uwch yng Nghymru nag mewn unrhyw wlad arall ym Mhrydain. Mae enillion canolrifol yr awr yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a'r Alban. Mae enillion cyfartalog yng Nghymru yn is ac wedi tyfu'n arafach nag yng ngwledydd eraill y DU. Gan Gymru y mae'r twf cyflog hirdymor isaf o blith gwledydd y DU. Mae gan Gymru gyfradd tlodi incwm cymharol sy'n uwch nag yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban, cyfran uwch o oedolion sy'n gweithio ac sy'n byw mewn tlodi nag unrhyw wlad arall yn y DU, a chyfradd tlodi pensiynwyr yng Nghymru sy'n llawer uwch nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU. Mae Cymru'n dioddef yn sgil un o'r Llywodraethau gwaethaf a oddefwyd gan unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig ers dyfodiad yr etholfraint gyffredinol. Nid yn unig hynny—un o'r Llywodraethau mwyaf adweithiol, a'i hunig weithgarwch yw adweithio yn erbyn Llywodraeth y DU a'i hunig bolisi yw beio Llywodraeth y DU am ei methiannau difrifol a chyson ei hun dros ormod lawer o amser, a megino fflamau'r dryswch ymysg y cyhoedd ynglŷn â'u cyfrifoldeb am y llanastr rydym ynddo ac ychwanegu at ddiffyg atebolrwydd cyhoeddus sydd wedi eu cadw yn eu lle ers cyhyd, a chymaint o boen.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Rydym yn gohirio'r bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.