– Senedd Cymru am 2:21 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
A gaf i alw nawr ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad ymddiswyddo? Y Prif Weinidog.
Diolch, Llywydd. Yn nes ymlaen y prynhawn yma, byddaf i'n ysgrifennu at Ei Mawrhydi'r Frenhines i ymddiswyddo ar ôl naw mlynedd fel Prif Weinidog Cymru. Roedd hi yn fraint i olynu fy nghyfaill a’m mentor Rhodri Morgan, ac mae wedi bod yn fraint enfawr i wasanaethu Cymru yn y swydd ac i fod wrth y llyw mewn cyfnod heriol tu hwnt, cyfnod allweddol yn ein hanes hefyd fel cenedl. Wrth baratoi i ildio’r awenau, mae’r teimladau yn gymysg, wrth gwrs. Teimladau chwerwfelys, os yw hwnnw’n air yn y Gymraeg, i gyfieithu o’r Saesneg. Dyna’r teimlad sydd gyda fi, fel pawb arall sy’n gadael swydd a fu’n ganolog i’w bywyd, rwy’n siŵr. Tristwch wrth sefyll i lawr, ond ar y cyd â balchder am y gwaith sydd wedi cael ei gwblhau.
Llywydd, yn nes ymlaen y prynhawn yma, byddaf yn cyflwyno fy ymddiswyddiad i'w Mawrhydi y Frenhines, wedi naw mlynedd yn Brif Weinidog Cymru. Braint oedd dilyn fy ffrind a'm hathro Rhodri Morgan. Braint enfawr fu gwasanaethu Cymru yn y swydd hon a bod wrth y llyw mewn cyfnod heriol iawn, cyfnod tyngedfennol yn hanes ein cenedl. Wrth i mi ymbaratoi i drosglwyddo'r awenau, mae'r teimladau, rwy'n tybio, yn felys ac yn chwerw, sy'n brofiad cyffredin i bawb, rwy'n siŵr, sy'n gadael swydd a fu'n ganolog i'w bywydau. Ceir tristwch, wrth gwrs, wrth ymadael â'r swydd, ynghyd â balchder yn y gwaith sydd wedi'i gyflawni.
Mae'r swydd yr ymgymerais â hi yn 2009 wedi newid yn sylweddol ers i mi ddechrau arni, a'r byd o'n cwmpas ni hefyd. Roedd pobl yn fwy tebygol o ysgrifennu llythyr na thrydar, ac roedd 'selfie' yn fwy perthnasol i Paris Hilton na gwleidyddion, a gellid dadlau mai felly y dylai fod o hyd. [Chwerthin.] Efallai, yn bwysicach, mae'r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru yn sefydliadau gwahanol iawn hefyd, gyda mwy o bwerau, mwy o ysgogiadau a disgwyliadau uwch o ran cyflawniad. Pe byddai rhywun wedi dweud wrthyf i ym 1999 y byddwn yn gadael swydd Prif Weinidog—wel, byddai hynny wedi fy synnu i, ond yn gadael swydd Prif Weinidog Cymru mewn Senedd sydd â phwerau amrywio trethi ac yn deddfu, byddwn wedi fy synnu ac yn falch iawn o'r herwydd.
Mae gennym yr arfau hynny. Rydym wedi cyflawni llawer iawn, hyd yn oed yn yr amseroedd anodd iawn hyn. Mae datganoli wedi ymsefydlu, nid yn unig yn y gyfraith, nid yn unig mewn ffaith, ond bellach yng nghalonnau pobl Cymru, a'r holl amheuon wedi eu chwalu.
Ond, os wyf i wedi cyflawni unrhyw beth yn ystod y cyfnod hwn, mae hynny wedi digwydd gyda chymorth gan lawer, lawer un arall. Rwyf wedi dysgu mai dim ond ychydig iawn y byddwch chi'n ei gyflawni ar eich pen eich hun yn eich bywyd. Gall ein Senedd ni fod yn fwy pwerus, ond mae'n dal yn ifanc ac, yn fy marn i o leiaf, mae'n rhy fach ei maint. Ac mae hynny'n golygu fod yna bwysau enfawr ar bawb yn y Siambr hon i rymuso Llywodraeth. Y ddyletswydd ddemocrataidd hanfodol o graffu priodol, sef yr orchwyl yr ydych chi i gyd wedi ymroi iddi'n ddifrifol iawn—yn rhy ddifrifol weithiau at fy nant i—. Ond serch hynny, dyna'r hyn yr wyf i yma i'w wneud. Ond rwy'n rhoi teyrnged i bawb yn y Siambr am yr hyn yr ydych yn ei wneud i'n herio ni i wneud yn well.
Fe hoffwn i, os caf i, grybwyll rai pobl. Yn gyntaf oll, fy nheulu: fy ngwraig Lisa, sydd yma heddiw, ac rwyf wedi bod yn briod â hi ers 24 mlynedd; Caron, fy nhad, sydd yma heddiw hefyd ac roedd ef yma naw mlynedd yn ôl; roedd fy mam yn fyw yr adeg honno, ond bu farw chwe diwrnod ar ôl imi ddod yn Brif Weinidog, ac mae hi yn un, wrth gwrs, sydd ar fy meddwl heddiw; a'm dau blentyn, Seren a Ruairi, sydd wedi gorfod byw gyda thad a oedd bob amser yn y Llywodraeth a'r embaras a ddaw gyda hynny. Felly, mae fy niolch iddyn nhw hefyd.
Diolch yn fawr, blant, a diolch yn fawr, Lisa a dad.
A gaf i ddiolch i'r Ysgrifenyddion Parhaol sydd wedi gwasanaethu yn ystod fy amser i—dau Forgan ac un Jones—ac i'r gwasanaeth sifil? Oherwydd, wrth gwrs, gwleidyddion sy'n dyfeisio polisïau a syniadau ac, weithiau, gweision sifil sydd yn gorfod rhoi'r rheini ar waith. Nid y peth hawsaf yn y byd mo hyn bob amser, ac rwy'n diolch iddyn nhw am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud. Rwy'n diolch i'r grwp Llafur a Phlaid Lafur Cymru am y cymorth y maen nhw wedi ei roi i mi dros y naw mlynedd diwethaf, ac rwy'n edrych ymlaen, wrth gwrs, at wneud yn siŵr bod cymorth ar gael i'm holynydd hefyd, ac afraid dweud hynny, wrth gwrs. I chi, Llywydd, wrth gwrs, nid yw bob amser yn hawdd rheoli'r Siambr hon, mae tipyn o golli tymer weithiau—credaf fod Adam a minnau'n euog o hynny, yn fwy na thebyg, a gwelsom ni hynny neithiwr yn y rhaglen ddogfen—[Torri ar draws.] Cwm Aman, wel, pen uchaf Cwm Aman—fe allem ni drafod pa ben o Gwm Aman sydd orau. Ac, wrth gwrs, holl Aelodau'r Cynulliad, oherwydd, fel y dywedais i, mae craffu yn rhan hynod bwysig o Lywodraeth. Pe na fyddai unrhyw waith craffu, yna i'r gwellt yr âi'r Llywodraeth a mynd yn aneffeithiol. Dyna pam mae craffu ar bob un ohonom ni yn y Siambr hon yn bwysig i roi min ar Lywodraeth a gwneud yn siŵr bod Llywodraeth yn deall beth sydd angen ei wneud er mwyn gwneud deddfwriaeth neu bolisi yn effeithiol.
Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd—ergyd ddwbl cyllidebau llai ac effaith y toriadau i fudd-daliadau ar Gymru, ac yna, wrth gwrs, fater bychan Brexit. Er y byddai wedi bod yn anghyfrifol i unrhyw arweinydd anwybyddu'r materion hyn, rwyf i bob amser wedi siarad â'm Cabinet am bwysigrwydd cyflawni, er gwaethaf y materion amlwg hyn, a beth yw hwnnw? Wel, mae'n aros yr un peth: mae pobl yn awyddus i weld ysgolion da, swyddi da a GIG da, i'w ddefnyddio yn rhad ac am ddim; maen nhw'n awyddus i weld yfory gwell ar gyfer eu plant a'u hwyrion a'u hwyresau. Felly, mae 118 o ysgolion newydd sbon yng Nghymru a 41 arall yn cael eu hadeiladu ac mae'r plant yn yr ysgolion hynny'n ennill mwy o'r graddau uchel. Yn y dyfodol, byddan nhw'n dysgu mwy eto, nid pynciau traddodiadol yn unig, ond sut i fod yn ddinasyddion da. Nid yw ein system addysg yn doredig oherwydd cystadleuaeth ddinistriol. Mae ein hysgolion a'n hathrawon yn gweithio gyda'i gilydd er budd y wlad i gyd.
Ac mae degau o filoedd o bobl yn fwy mewn gwaith heddiw, gan gynnwys, wrth gwrs, ym Mhort Talbot, Trostre, Llanwern a Shotton; mae degau o filoedd o bobl ifanc yn ymgymryd â phrentisiaethau sy'n newid bywyd; mae gennym ni'r mewnfuddsoddi mwyaf erioed; rhoddwyd cyfleoedd i 18,000 o bobl ifanc drwy ein rhaglen Twf Swyddi Cymru; mae 20,000 yn llai o bobl ifanc nad ydyn nhw mewn addysg na hyfforddiant. Mae mwy o bobl yn goroesi canser nag erioed o'r blaen; mae oedi wrth drosglwyddo gofal ar ei lefel isaf erioed; rydym wedi gwella cyfraddau goroesi oherwydd ein model ymateb ambiwlans newydd; ac mae'r rhain yn fwy na geiriau slic, maen nhw'n wirioneddau sylfaenol ynglŷn â'r modd y mae bywyd yn newid i bobl yng Nghymru. Oherwydd, beth mae ysgol newydd yn ei olygu? Nid cadw at ryw addewid wleidyddol yw hyn; mae'n golygu dyfodol gwell i blentyn. Boed hynny yn y Rhyl, Aberdâr neu yn nwyrain Caerdydd, mae plant 11 mlwydd oed yn cerdded i mewn i ysgolion newydd, llachar gyda chaeau chwarae'r drydedd genhedlaeth y tu allan a'r dechnoleg ddiweddaraf ar flaenau eu bysedd y tu mewn.
Nid yw buddsoddiad ychwanegol yn ein GIG yn golygu mwy o feddygon a nyrsys a dyna i gyd, mae hefyd yn golygu bod 700 o bobl wedi gallu cael gafael ar feddyginiaeth i atal HIV yn ein gwlad. Nid oes unrhyw un o'r bobl yng Nghymru sydd wedi cael proffylacsis cyn-gysylltiad wedi mynd ymlaen i gael HIV. Ac un o'r newidiadau rhyfeddol, ers i mi fod yn fy arddegau, ac yn y brifysgol, oedd trechu AIDS. Roedd cysgod y clefyd hwnnw'n frawychus yn ôl yn yr 1980au. Ni fyddai neb yn y cyfnod hwnnw erioed wedi credu y byddai ffordd, nid yn unig o ddileu AIDS, ond ei reoli. A thros y blynyddoedd, rydym wedi gweld newid mawr yn hynny o beth, ac mae hynny, i mi, wedi bod yn brawf anhygoel o'r ymchwil feddygol a gyflawnwyd.
Rydym wedi bod yn esiampl i'w hefelychu drwy'r byd: cyflwyno cydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau; diddymu ffioedd i gladdu plant; arwain y byd o ran ailgylchu; deddfu i amddiffyn tenantiaid ac atal digartrefedd; diddymu'r hawl i brynu yng Nghymru; ac rydym wedi diwygio'r system gofal cymdeithasol yng Nghymru; ac rydym wedi ailddiffinio'r iaith. Bu'r iaith, ar yn adeg, a bydd llawer ohonom yn cofio hynny, yn gocyn hitio gwleidyddol; nid felly nawr. Bellach mae iaith y mae pawb yn gwybod ei bod yn destun balchder cenedlaethol, p'un a ydyn nhw'n siarad Cymraeg neu beidio. Ac rydym wedi ymrwymo, wrth gwrs, i wneud Cymru y lle mwyaf diogel yn Ewrop ar gyfer menywod. Ni chyflawnwyd hynny eto, mae tipyn i'w wneud o hyd, a dyna nod y Llywodraeth nid yn unig ar hyn o bryd, ond nod y Llywodraeth yn y dyfodol.
Pan gawsom ein cythruddo fel cenedl, fe wnaethom sefyll yn gadarn. Yr ymosodiadau hynny ar ein GIG yng Nghymru, y llinell rhwng bywyd a marwolaeth, fe wnaethom ymateb gydag urddas, a chefnogi ein meddygon a'n nyrsys diwyd, nid yn unig gydag arian ychwanegol, ond gyda rhywbeth mwy gwerthfawr, a pharch yw hwnnw. Llunio polisi ar gyfer Cymru, nid ar gyfer y cyfryngau yn Llundain.
Mae ein hyder a'n hunan-gred fel Llywodraeth, fel gwlad, wedi datblygu hyd yn oed wrth wynebu degawd o gyni. Ond, wrth gwrs, nid oes unrhyw un o'r polisïau a'r cyflawniadau hyn yn bodoli ar wahân. Maen nhw i gyd gyda'i gilydd, yn fy nhŷb i, yn ategu'r hyn yr wyf bob amser yn ei ddeisyfu i Gymru, a hynny yw tegwch a gobaith. Yn union fel yr oedden nhw'n eiriau pwysig yng ngolwg fy rhieni i gartref, dyna oedd fy ngeiriau pwysig innau yn y Llywodraeth. A dyna fydd y geiriau, rwy'n credu, a fydd yn agos at galon yr unigolyn y byddaf yn pleidleisio drosto i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru. Mark yw hwnnw, i wneud hynny'n glir. [Chwerthin.] Pleser mawr i mi fu gweithio ochr yn ochr â chi, Mark, a holl Aelodau eraill y Cabinet, yn y gorffennol a'r presennol, sydd wedi rhoi imi'r fath gefnogaeth ardderchog am gynifer o flynyddoedd. Mae Mark yn rhywun a all gydweddu egwyddorion a phragmatiaeth yn ddidrafferth, ac nid oes amheuaeth gennyf y bydd yn gwneud Prif Weinidog rhagorol i Gymru.
Fe'm hysbyswyd mai Geraint Thomas yw pencampwr Cymru o ran gollwng y microffon ar ôl iddo ennill y Tour de France, felly ni fyddaf i'n ceisio gorffen yn yr un ffordd, ac mae'n debyg na fyddai'n bosibl i mi beth bynnag. [Chwerthin.] Yn hytrach, hoffwn i ddiolch i bawb sydd yma, ond yn bwysicach i bobl Cymru, y cefais y fraint o'u gwasanaethu nhw. Pob ysgol neu ysbyty, pob busnes a welais, ar faes yr Eisteddfod, neu ar faes Sioe Frenhinol Cymru, wrth siopa allan gyda'r teulu, neu'n gwylio'r rygbi, ble bynnag y bûm, deuthum wyneb yn wyneb â charedigrwydd a chwrteisi, ac ni allaf byth ddiolch digon i chi.
Mae wedi bod yn anrhydedd.
Mae wedi bod yn anrhydedd. Diolch yn fawr. Diolch. [Cymeradwyaeth.]
I ymateb i'r datganiad, felly, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, fel y dywedwyd gennych, rydych wedi arwain eich plaid a'ch gwlad am naw mlynedd, ac fel y dywedwyd eisoes yn y Siambr hon yn gynharach heddiw, rydych wedi bod yn aelod o Gabinet Llywodraeth Cymru ers dros 18 mlynedd—bron cyn hired â'ch cyn gyd-Aelod yn y Llywodraeth, yr Aelod dros Fro Morgannwg. Wrth gwrs, yn ystod y cyfnod hwnnw, rydych wedi bod â llawer o bortffolios mawr—addysg, yr amgylchedd, amaethyddiaeth a Chwnsler Cyffredinol—yn ogystal â'r swydd gyhoeddus uchaf yng Nghymru. Ychydig iawn o bobl sy'n ennill y fraint o arwain eu gwlad, heb sôn am wneud hynny am gyfnod o ddegawd bron iawn.
Mae etifeddiaeth yn bwysig mewn gwleidyddiaeth, ac mae'n wir dweud y bydd llawer o bobl yn cofio eich amser yn Brif Weinidog am wahanol bethau ac am wahanol resymau. Gall y penderfyniadau a wnawn ni'r gwleidyddion, yn enwedig pan fyddwn mewn swydd uchel, gael effaith sylweddol ar ein cenedl ac ar bobl unigol. Gallan nhw effeithio ar bobl er gwell ac er gwaeth. Ambell waith ni fyddwn yn gallu ystyried y canlyniadau y bydd ein penderfyniadau yn eu cael, ond fe fyddan nhw'n cael eu heffaith, serch hynny. Byddwn yn dymuno ein bod wedi gwneud rhai penderfyniadau ynghynt, a byddwn yn edifar am rai eraill, ond maen nhw i gyd yn rhan o'n stori a'r etifeddiaeth a fydd yn waddol ar ein holau.
Yn bersonol, yn Aelod o'r Cynulliad ers 2007, rwyf wedi eich cael chi'n hawdd troi atoch ac yn ddidwyll, yn arbennig pan wyf wedi codi materion a oedd yn peri pryder. Mae bod yn gynrychiolydd etholedig yn rhoi cyfrifoldebau ychwanegol arnom, ac mae hynny'n burion, gan ein bod yn mynd i mewn i fyd gwleidyddiaeth gyda'n llygaid yn agored. Ond mae'n rhoi cyfrifoldebau ychwanegol ar ein teuluoedd hefyd, a gall hynny fod yn anodd iawn weithiau. Rydym yn gofyn llawer gan ein teuluoedd a'n hanwyliaid o bryd i'w gilydd. Yn Brif Weinidog, rwy'n deall y craffu ychwanegol a'r pwysau a fu ar eich teulu, ac rwy'n siŵr bod eu teimladau preifat o ryddhad yn sgil eich penderfyniad i ymddiswyddo yn hafal i'r edmygedd a'r balchder am y gwaith yr ydych wedi ei wneud yn ystod y naw mlynedd diwethaf.
Er ein bod ni wedi tynnu'n groes yn wleidyddol lawer tro ac wedi mynegi barn bendant ar benderfyniadau a pholisïau Llywodraeth Cymru, rwyf wedi bod â'r parch mwyaf atoch chi fel deiliad swydd y Prif Weinidog, a'r modd yr ydych wedi ymgymryd â'ch gwaith. Rydym wedi gwrthdaro sawl tro yn y Siambr hon, yn arbennig yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ond beth bynnag fo'n gwahaniaethau gwleidyddol, fel pobl, rwy'n hyderus bod yna fwy sy'n ein huno ni nac yn ein gwahanu ni. Ac yn wir, bu adegau pryd y bu i ni gydweithio er mwyn y genedl. Bu pob plaid yn y Siambr hon yn ymgyrchu gyda'i gilydd yn refferendwm 2011 ar bwerau deddfu, ond rydym wedi rhannu rhywfaint o dir cyffredin ar bolisi hefyd: sgoriau hylendid bwyd, iechyd y cyhoedd, gofal plant rhad ac am ddim ac ardollau am fagiau siopa i enwi ond ychydig. Ac rwy'n gwybod eich bod yn yr wythnosau diwethaf wedi ymweld â nifer o brosiectau a gwblhawyd yn ystod eich amser yn eich swydd a hefyd nifer o adeiladau ysgol newydd drwy gyfrwng awdurdodau lleol a rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain Llywodraeth Cymru.
Er ei bod yn deg dweud ichi gymryd yr awenau oddi wrth un o gewri gwirioneddol gwleidyddiaeth Cymru, bydd gan eich olynydd chi esgidiau mawr i'w llenwi hefyd. Rwyf i'n wir o'r farn bod pob un ohonom ni yn y Siambr hon, er ein bod wedi teithio yma ar hyd llwybrau amrywiol, o wahanol rannau o Gymru, rydym ni wedi ein huno gan ymrwymiad at wasanaeth cyhoeddus. Rydym i gyd yn awyddus i gael y gorau i'n gwlad. Rydym yn awyddus i weld Cymru iachach, fwy ffyniannus, fwy amgylcheddol gyfeillgar a thecach, a thrwy ddadl frwd yn y Siambr hon rydym i gyd yn pleidleisio er lles y bobl yr ydym yn eu cynrychioli, a gwn eich bod chi'n rhannu'r dyhead hwnnw, Prif Weinidog. Ac, ar ran grŵp Ceidwadwyr Cymru a Phlaid Geidwadol Cymru, hoffwn ddiolch i chi am eich cyfraniad aruthrol yn ystod eich cyfnod fel Prif Weinidog, a'r cyfraniad a wnaethoch yn ystod 18 mlynedd yn Llywodraeth ein Cynulliad Cenedlaethol ac ar gyfer Cymru.
Yn Aelod Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr, gwn y byddwch yn parhau i fod â rhan weithredol yng ngwleidyddiaeth Cymru yn y lle hwn a thu hwnt hefyd, a gwn fod gwasanaeth cyhoeddus yn eich gwythiennau. Felly, rwy'n siŵr bod dyfodol i chi wrth weithio ar gyfer pobl Cymru mewn bywyd cyhoeddus. Diolch i chi am eich ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus, Carwyn. Llongyfarchiadau ar eich cyflawniadau yn eich swydd a hoffwn ddymuno pob llwyddiant yn y dyfodol i chi a'ch teulu. [Cymeradwyaeth.]
Brif Weinidog, rwy'n siŵr taw chi fyddai'r cyntaf i gytuno nad ydym ni bob amser wedi gweld llygad yn llygad dros y blynyddoedd. Ond, eto i gyd, nid oes gen i ddim amheuaeth bod buddiannau ein gwlad wedi bod yn flaenllaw yn eich meddyliau chi drwy gydol eich oes fel Prif Weinidog. Pan gymeroch chi'r awenau, chi oedd dim ond yr ail Brif Weinidog yn ein hanes, ac mi fydd yr anrhydedd arbennig honno o eiddo i chi am byth, wrth gwrs.
Un o'ch prif orchwylion mewn sawl ffordd oedd adeiladu ar lwyddiant eich rhagflaenydd, a'r sawl y gwnaethoch chi ei alw'n gynharach yn fentor, sef Rhodri Morgan—un a fu'n allweddol wrth ennyn cefnogaeth y bobl i'n hegin Gynulliad Cenedlaethol, sefydliad newydd a oedd, wrth gwrs, ar seiliau simsan iawn yn y dyddiau cynnar hynny. Fe gymeroch chi'r cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif, gan gydweithio yn y glymblaid roedd fy mhlaid i yn rhan ohoni ar y pryd. Fe wnaethoch chi fwrw ymlaen â chynnal y refferendwm yr oeddem ni wedi cytuno rhwng y ddwy blaid i roi ar waith gan sicrhau bod gan y Senedd hon heddiw y pwerau sy'n caniatáu i ni ddeddfu dros Gymru a'i phobl heddiw ac i'r dyfodol. Roedd honno'n gamp fawr, Carwyn, ac rwy'n awyddus i roi hynny ar y cofnod heddiw. Drwy gydweithio rhwng ein dwy blaid ni, cafwyd refferendwm llwyddiannus yn 2011 a oedd yn garreg filltir hanesyddol o bwys. Rydym yn defnyddio'r geiriau hynny'n aml iawn fel gwleidyddion, ond roedd hwn yn hanesyddol o ran twf a datblygiad sefydliadau cenedlaethol ein gwlad.
Rwy'n credu y bydd y ffordd huawdl rydych chi wedi amlinellu eich gweledigaeth chi o'r math o fframwaith cyfansoddiadol y mae'n rhaid i Gymru ei gael er mwyn iddi fod yn wlad mwy llwyddiannus yn cael ei gweld fel eich cyfraniad pwysicaf. Yn ogystal â datblygu pwerau deddfu'r Senedd, gwelwyd dechrau ar y gwaith o weithredu cyfrifoldebau dros amrywio trethi hefyd yn ystod eich cyfnod wrth y llyw. Bydd y pwerau hyn yn angenrheidiol er mwyn inni gael polisi economaidd mwy cyflawn at y dyfodol. Rydych chi hefyd wedi dadlau'r achos yn gryf dros awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru a sefydlu'r comisiwn ar gyfiawnder a fydd yn siŵr o fwrw'r agenda hwnnw yn ei flaen. Yn wir, rwy'n hyderus y bydd arweinwyr Cymru annibynnol yn y dyfodol yn ddiolchgar i chi am eich cyfraniad yn hyn o beth.
Y tu hwnt i hynny, rydych chi wedi gwneud nifer o gyfraniadau yn fwy cyffredinol ar lefel y Deyrnas Unedig, gan alw am ragor o gydweithio rhwng y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth Prydain. Rŷch chi wedi galw am strwythur ffederal ar gyfer y Deyrnas Unedig, gyda'r gwledydd datganoledig yn cael eu cynrychioli mewn ail siambr wedi'i diwygio. Mae hyn, wrth gwrs, wedi agor y drws ar y camau nesaf yn esblygiad y berthynas rhwng gwledydd yr ynysoedd hyn, sydd yn anochel o ddigwydd dros y ddegawd nesaf. Mae'n siŵr y bydd gennych chi gyfraniad pellach i'w wneud i'r drafodaeth honno.
Yn ystod yr amser hwn, yn nes adref, wrth gwrs, yn sefyll wrth y blwch dogfennau yn y Siambr hon, fel yr ydych wedi cyfeirio ato eisoes, rydych chi ar y cyfan—er gwaethaf ein hangerdd dros gwm Aman—wedi cynnal urddas tawel, os caf i ddweud, wrth ymwneud â'ch cydweithwyr. Rydych wedi goruchwylio briff eang iawn â hunanfeddiant meistrolgar. Rwyf i, yn un, wedi eich cael yn wrthwynebydd sy'n anodd eich tynnu'n ddarnau. A gawn ni ddweud, yn syml, ei bod yn anodd eich taflu oddi ar eich echel, Carwyn?
Bydd rhai y tu allan i ymrafaelion y bywyd gwleidyddol yn ei chael yn anodd deall y straen a'r pwysau sy'n effeithio arnom ni i gyd yn anochel, ac nid yn lleiaf ar ein teuluoedd, yr ydym i gyd yn dibynnu arnyn nhw. Felly, yn ogystal â rhoi teyrnged bersonol i chi, rwy'n credu ei bod yn briodol inni gydnabod hefyd y cymorth a gawsoch gan eich gwraig Lisa, a'ch plant, Seren a Ruairi, a chan eich tad, Caron.
Carwyn, drwy holl gyfnod eich swydd, rydych chi wedi amlygu gwytnwch clodwiw, sy'n rhinwedd yr wyf yn siŵr y bydd ei hangen ar eich olynydd, pwy bynnag fydd hwnnw. [Chwerthin.]
A gaf i ddymuno yn ddiffuant pob dymuniad da i chi a'ch teulu at y dyfodol, a diolch o waelod calon ar ran pobl Cymru am eich blynyddoedd o wasanaeth? [Cymeradwyaeth.]
Diolch i chi am eich datganiad, Prif Weinidog, a diolch i chi am eich sylw caredig i'r cwestiynau yr wyf i a grŵp UKIP wedi eu gofyn i chi dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf. Rydym wedi anghytuno o bryd i'w gilydd, ond rwy'n teimlo mai gwahaniaethau barn wleidyddol oedd y rhain, ac yn sicr, o'm rhan i fy hun, ni theimlais unrhyw ddrwgdeimlad personol yno. Rwyf wedi mwynhau ein brwydrau. Wrth gwrs byddwn yn dal i'ch gweld yn y Siambr, ond bydd braidd yn rhyfedd inni beidio eich gweld yn y sedd yr ydych wedi bod ynddi drwy gydol fy amser i yn y fan hon. Byddwn yn dweud nad wyf i wedi cytuno â'ch atebion bob amser, ond ar y cyfan yr ydych wedi dangos meistrolaeth dda o'ch portffolio eang iawn fel Prif Weinidog Cymru, fel y crybwyllodd Adam Price yn awr. Rydych chi wedi dangos cryn dipyn o wytnwch hefyd wrth aros yn y swydd cyhyd. Credaf eich bod chi a Jane Hutt ymhlith y Gweinidogion hiraf eich gwasanaeth yn hanes gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig.
Cafwyd sylwadau yn y gorffennol am eich tebygrwydd i Derek Brockway, dyn y tywydd ar y teledu, a chafwyd perfformiad ar gyfer Comic Relief ychydig flynyddoedd yn ôl pan fu'r ddau ohonoch yn cyfnewid safle. Yn bersonol, nid oeddwn yn gweld y tebygrwydd hwnnw. Yn gynyddol, rwy'n drysu rhyngoch chi a hyfforddwr rygbi Cymru, Warren Gatland. [Chwerthin.] A yw'n wir nad oes unrhyw un erioed wedi eich gweld chi ac yntau yn yr un ystafell gyda'ch gilydd? Beth bynnag, wrth i chi fyfyrio ar hynny, rwy'n dymuno'n dda i chi, Prif Weinidog, yn eich gyrfa i'r dyfodol, ar ran grŵp UKIP a minnau. Diolch i chi.
Anrhydedd i mi yw cael siarad heddiw ar ran y grŵp Llafur, i roi teyrnged i'r dyn sydd wedi arwain ein plaid a'n gwlad dros y naw mlynedd diwethaf. Mae'r heriau wedi bod yn sylweddol ar adegau. Fel y gwn eich bod wedi ei ddweud o'r blaen eich hun, Carwyn, daethoch i'ch swydd yn dilyn y chwalfa ariannol fyd-eang, wedi eich llesteirio gan ymrwymiad gwleidyddol yn San Steffan i gyni, ac wrth gwrs, mae'r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod dan deyrnasiad Brexit. Bu dyddiau duon yn wir, ond drwy'r cyfan, Carwyn, rydych chi wedi arwain yn egwyddorol ac angerddol, ag arweinyddiaeth sydd wedi sefyll dros Gymru, sydd wedi cydweithio i lunio Cymru well, ac mae'r hyn a gyflawnwyd wedi bod yn sylweddol—nid y lleiaf o'r rhain fu eich llwyddiant yn arwain Llafur Cymru i ennill dau etholiad.
Roedd yr arolygon barn yn dweud wrthym yn gyson, Carwyn, mai chi oedd y gwleidydd uchaf ei barch yng Nghymru—yn ased etholiadol i Lafur Cymru. Cefais innau ychydig o brofiad o'r hud, a melys yw cofio ymgyrchu gyda chi yn Aberpennar ychydig cyn yr etholiad yn 2016. Roedd y cymorth a roesoch chi i mi fel ymgeisydd am y tro cyntaf yn dderbyniol dros ben, fel, rwy'n gobeithio, yr oedd y croeso cynnes a gawsoch chi gan drigolion lleol yn y farchnad wythnosol brysur. Yn yr un modd, roedd y grŵp o fenywod y gwnaethom gyfarfod â nhw yn llyfrgell Abercynon ychydig wedyn yn falch iawn o gyfarfod â seren enwog. Ond roedd gennych chi ffordd o ymgysylltu â nhw a gwneud iddyn nhw deimlo'n gartrefol—i'r fath raddau eu bod nhw, pan ddychwelais i ychydig funudau yn ddiweddarach, yn hapus i roi cyngor i chi ar sut i liwio'ch gwallt. [Chwerthin.] Yna, fe aethon nhw ymlaen i'ch canmol chi am y rhaglenni cerdded a'ch darllediadau hwyliog ar noson waith, ac yna fe gwympodd y geiniog. Roedden nhw'n credu fy mod i wedi dod â'r dyn tywydd poblogaidd am ymweliad â'r lle.
Ond, er gwaethaf yr achos hwnnw o gamadnabyddiaeth, mae eich arweinyddiaeth yn y llywodraeth wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yng Nghymru. Mae wedi gwneud gwahaniaeth i'r bobl sydd nawr mewn gwaith neu â chymwysterau. Mae wedi gwneud gwahaniaeth i'r niferoedd uchaf erioed yn staff y GIG a'u cyflogau. Mae wedi gwneud gwahaniaeth i'r bobl sy'n ceisio cael gafael ar driniaethau newydd, heb orfod aros mor hir am brofion diagnostig neu drosglwyddo gofal, ac yn goroesi cyflyrau fel canser.
Fel y soniais yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, rwy'n gwybod bod cyfleoedd ar gyfer plant a phobl ifanc wedi bod yn bwysig i chi, ac mae'n amlwg bod eich Llywodraeth chi wneud gwahaniaeth yn y fan hon hefyd: cymorth wedi'i dargedu i deuluoedd sydd ei angen fwyaf; y cynnig mwyaf hael o ofal plant yn y DU; camau i gefnogi myfyrwyr; cadw'r lwfans cynhaliaeth addysg; gwelliannau o ran canlyniadau arholiadau. Yn fwyaf amlwg, Carwyn, fel y soniodd siaradwyr eraill, mae eich ymrwymiad i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael eu haddysgu mewn cyfleusterau modern sy'n addas i'r diben. Mae bron £4 biliwn wedi ei glustnodi ar gyfer hyn, a bydd dros 150 o ysgolion a cholegau wedi eu hadeiladu neu eu hadnewyddu erbyn 2019. Mae fy etholaeth i, cwm Cynon, wedi elwa'n fawr ar hyn. Mae buddsoddiad gwerth dros £100 miliwn yn golygu bod disgyblion o un ysgol uwchradd newydd sbon a saith ysgol gynradd newydd sbon nawr yn cael eu haddysgu mewn cyfleusterau blaengar a modern. Ac mae'r gwelliannau hyn yn ymestyn i'r sector addysg bellach hefyd. Cof arall y byddaf i'n ei drysori yw bod gyda chi wrth ichi dorri'r dywarchen ar gyfer campws £22 miliwn newydd Coleg y Cymoedd Aberdâr yn yr eira a'r cesair iasol. A thra byddai llawer o arweinwyr eraill wedi gadael ar frys o dan y fath amodau ofnadwy, fe wnaethoch chi benderfynu dringo ar y bws a oedd wedi dod yno ar gyfer y gweithwyr a thraddodi araith fyrfyfyr yno ar eu cyfer nhw. Credaf fod hynny'n dweud rhywbeth wrthym ni am y dyn.
Carwyn, rydych hefyd wedi gwneud gwahaniaeth drwy eich gwaith yn helpu i sicrhau canlyniad cadarnhaol o ran ymgyrch 2011 ar bwerau deddfu ac yn y ffordd y mae eich Llywodraeth chi wedi defnyddio'r pwerau hyn oddi ar hynny. Yr un mor bwysig fu'r pwerau trethu a roddwyd i'r Cynulliad hwn i sicrhau'r trethi cyntaf a wnaed yng Nghymru yn yr oes fodern.
Gwn na fydd eich ymddiswyddiad yma heddiw yn golygu diwedd eich cyfraniad i fywyd cyhoeddus yng Nghymru. Gwn hefyd y bydd Lisa, Seren, Ruairi a Caron wrth eu boddau o allu treulio mwy o amser gyda chi.
Fel rhywun sydd wedi astudio ac wedi bod yn dysgu hanes Cymru, rwy'n hyderus y bydd eich lle yn llyfrau hanes Cymru yn un amlwg. Felly, diolch yn fawr, Carwyn, a dymuniadau gorau i'r dyfodol. [Cymeradwyaeth.]
Prif Weinidog, mae'n bleser gennyf ddweud ychydig o eiriau yn y datganiad hwn, fel yr ydych chi a minnau wedi cystadlu yn y Siambr hon am bron saith o'r naw mlynedd yr ydych chi wedi gwasanaethu fel Prif Weinidog. Ni wnaeth y dadlau a'r etholiadau hynny yn eich erbyn fawr o les i mi—[Chwerthin.]—chi wnaeth aros yn y gadair acw ac fe arhosais i ar yr ochr hon. Ond rwy'n cofio'r tro cyntaf y gwnaethom ni'n dau gyfarfod, a hynny pan oeddwn i'n Gadeirydd Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, ac fe ddaethoch chi'n siaradwr gwadd i Glwb Cymdeithasol Heddlu De Cymru yn Waterton. Rhyw 17 mlynedd yn ddiweddarach, a dyma ni, yn sefyll yn y Siambr hon yn sefydliad sydd wedi ei drawsnewid ei hun yn Senedd o'r iawn ryw. Ac rydych chi'n deilwng o lawer iawn o'r clod am hynny, yn sgil eich cyfnod yn Weinidog ond hefyd yn Brif Weinidog. Ac yn eich datganiad ar ein cyfer ni'r prynhawn yma, fe wnaethoch chi roi canmoliaeth i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y daith hon ar ddatganoli, gan nodi, yn gwbl briodol, y llwyddiant yr ydych wedi ei gael fel Prif Weinidog, ac yn eich Llywodraethau. Fe nodoch chi, eto yn gwbl briodol, y bobl hynny sydd wedi eich cefnogi ar hyd y daith honno. Oherwydd fel y gwyddom ni'r gwleidyddion, taith unig yw hon yn aml iawn, a bydd rhai o'r penderfyniadau a wnewch chi, yn enwedig mewn llywodraeth, yn benderfyniadau y bydd yn rhaid i chi fel unigolyn eu gwneud. Ac felly rwy'n rhoi teyrnged i'ch cyfnod yn y Llywodraeth, a'ch amser yn Weinidog a'ch amser yn Aelod Cynulliad, a fydd, yn amlwg, yn parhau tan 2021.
Mae gwasanaeth cyhoeddus yn eich gwythiennau chi, heb os nac oni bai. Nid oes neb yn rhoi'r amser na'r ymrwymiad yr ydych chi wedi eu rhoi heb fod gwasanaeth cyhoeddus yn eu gwythiennau, a gellir eich canmol yn fawr am yr ymdrechion yr ydych wedi eu gwneud i wella bywyd pobl Cymru. Rydym yn wahanol iawn yn wleidyddol, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny, ond dyna yw natur gwleidyddiaeth—lluosogrwydd—ac mae hynny'n rhywbeth y dylem ni ei ddathlu, mae'n siŵr.
Rwy'n cofio'r adeg yn dda pan wnaethoch chi gyhoeddi eich bod yn ymddiswyddo yn ôl ym mis Ebrill, ac roeddech chi'n rhoi teyrnged i'r staff a oedd wedi rhoi cefnogaeth dda i chi. Rwy'n credu y gallem ni i gyd roi teyrnged i'r staff sydd wedi ein cefnogi, oherwydd, pan wnaethoch chi'r cyhoeddiad hwnnw, ar ddydd Sadwrn oedd hynny, ac fel y mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n fy adnabod i a'm cefndir ffermio yn gwybod, dyna'r amser y byddaf i'n ei dreulio yn y marchnadoedd da byw i lawr yn y gorllewin, ac roedd pennaeth fy staff mewn parti 'stag' yn Las Vegas, a'm swyddog y wasg yng ngêm bêl-droed Tottenham Hotspur yn Wembley, a rhyngom ni—er bod fy niffygion i o ran technoleg yn faen tramgwydd, a dweud y lleiaf—fe wnaethom ni lwyddo i lunio datganiad i'r wasg, ond roeddech chi wedi ein synnu ni bryd hynny, oeddech wir.
Ond nid ydych erioed wedi ein synnu ni gyda'ch ymrwymiad a'ch ymroddiad i Gymru. Rydych wedi tynnu sylw ni at un o'r swyddogaethau mawr yr ydych wedi ei chyflawni, sef codi proffil Cymru nid yn unig yma yn y Deyrnas Unedig, ond ledled y byd, ac rwy'n rhoi teyrnged lawn i chi am wneud hynny. Flynyddoedd lawer yn ôl, byddai llawer o bobl o Gymru yn mynd dramor, a phan fyddai rhywun yn eich holi mewn arolwg neu holiadur, 'O ble rydych chi'n dod?' a byddech chi'n dweud, 'Caerdydd', neu efallai, 'Cymru'—'Beth? Ble mae lle felly?' fyddai'r ymateb, ac yna byddech chi'n dweud 'Llundain' neu 'Lloegr', ac yna'r ymateb fyddai 'O! Rwy'n deall nawr'. Wel, heddiw mae pobl yn gwybod lle mae Cymru ac mae pobl yn gwybod rhywbeth am Gymru, ac mae llawer o'r clod am hynny i chi fel Prif Weinidog ac ymdrechion eich Llywodraeth.
Rwy'n diolch i chi'n ddidwyll iawn fel Aelod Cynulliad am eich cwrteisi i mi yn yr amser yr wyf wedi bod yn Aelod Cynulliad, ond hefyd am y cwrteisi yr ydych wedi ei ddangos i mi fel arweinydd y grŵp Ceidwadol yma yn y Cynulliad. Rwy'n dymuno'r gorau i chi a'ch teulu i'r dyfodol. Pan fyddwn yn mynd adref fin nos ac yn cau'r drws, ar ôl cael diwrnod arbennig o anodd, y teulu sy'n ein cofleidio ni ac yn rhoi cysur i ni, ac rwy'n siŵr bod eich teulu chi yn ffynhonnell fawr o nerth i chi. Rwy'n dymuno'n dda i chi i'r dyfodol ac, yn y ddwy neu dair blynedd arall sydd gennym ni cyn yr etholiad Cynulliad nesaf, rwy'n gobeithio y gwelwn Carwyn Jones yn weithgar iawn yn y Siambr hon. Dymuniadau gorau, Prif Weinidog. [Cymeradwyaeth.]
Am y chwe blynedd a hanner y bûm i'n arweinydd fy mhlaid, roedd Carwyn Jones yn Brif Weinidog, ac mae'n deg dweud, fel y dywedodd llawer un yn barod y prynhawn yma, nad ydym wedi cydweld bob amser. Ar adegau bu anghytundeb eithaf cryf rhyngom ni, fel y dylai fod rhwng pleidiau gwleidyddol sy'n wynebu ei gilydd. Ond credaf ei bod yn deg dweud bod yr anghytundebau hynny wedi digwydd mewn ffordd barchus ar y cyfan, ac maen nhw wedi digwydd mewn ffordd sydd wedi galluogi'r ddwy blaid i gydweithio pan fo'r angen wedi codi, ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr iawn y trafodaethau preifat a gawsom ni.
Carwyn, o'm profiad i o weithio ochr yn ochr â chi, gwn eich bod o ddyhead gwirioneddol i lunio Cymru lle nad yw pobl yn dioddef gwahaniaethu. Pe byddai hynny'n golygu rhoi'r adain dde eithafol yn ei lle ar gwestiwn hiliaeth ac ymraniad neu ar gwestiwn hawliau menywod, rydych chi wedi gweithredu mewn dull egwyddorol a moesegol a chredaf eich bod yn haeddu cydnabyddiaeth am hynny.
Rydych chi hefyd wedi bod yn ddiffuant yn eich awydd i weld Cymru yn symud ymlaen. Ac er fy mod wedi teimlo'n rhwystredig ynghylch y diffyg cefnogaeth i weld cynnydd cyflymach, yn enwedig ar gyfansoddiad Cymru, o ran pwerau, a'r diffyg cefnogaeth yr ydych wedi ei gael gan eich ASau yn arbennig, mae'r ffaith eich bod chi bellach wedi dechrau arni o ran datganoli'r system cyfiawnder troseddol, yn ogystal â gweithio gydag eraill i sicrhau pleidlais 'ie' lwyddiannus yn ôl yn 2011, yn dangos ble'r ydych yn sefyll yn wleidyddol ar y cwestiynau hyn. Rwy'n mawr obeithio y bydd y gwaith yr ydych wedi ei gychwyn ar y system cyfiawnder troseddol yn dwyn ffrwyth a hynny'n fuan.
Nawr, gwn fod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn i chi yn bersonol, ac eraill o'ch cwmpas, a gwn o'm profiad fy hun sut y gall bywyd yn llygad y cyhoedd effeithio ar y rhai sy'n agos atom, hyd yn oed pan fyddwn ni'n ceisio eu diogelu rhag hynny. Yr agwedd honno ar y swydd, fwy na thebyg sydd fwyaf anodd. Felly rwy'n gobeithio, ar ôl heddiw, y bydd gennych fwy o amser i'w dreulio gyda'r rhai sy'n agos atoch a'ch anwyliaid. Wedi'r cyfan, dyna'r peth pwysicaf.
Felly, pob lwc i chi.
Dymuniadau gorau i chi a'ch teulu i'r dyfodol. [Cymeradwyaeth.]
Llywydd, credaf fod yna naw ohonom ni yma heddiw, naw Aelod Cynulliad—hen begoriaid—sydd wedi bod yma ers y cychwyn cyntaf, ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys Carwyn, chi a minnau. [Chwerthin.]
Bobol bach! Diolch, John. [Chwerthin.]
Llawer o ddoethineb a gwybodaeth a gronnwyd, Llywydd. [Chwerthin.]
Ie, ie.
Rwy'n credu ei bod yn deg dweud ein bod ni i gyd wedi gweld datblygiad a thwf cyflymach o ran datganoli ac, yn wir, o ran Cymru ein gwlad ers 1999, ac rydym erbyn hyn yn senedd ym mhopeth ond yr enw, ac rwy'n gobeithio y bydd yr enw hwnnw'n dilyn cyn bo hir. Ac mae dyfnder ac ehangder ein cyfrifoldebau, a'r offerynnau sydd gennym ni nawr i weithio er mwyn pobl Cymru, gyda chymunedau yn fwy o lawer nag yr oedden nhw, a chredaf eu bod yn cael eu defnyddio yn effeithiol er gwell.
Dros y cyfnod hwnnw, Llywydd, rydym wedi datblygu o reoliadau malltod tatws yr Aifft i'r dirgelion hynny—y Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol—a Biliau Cynulliad, a bellach hyd at Ddeddfau. A wyddoch chi, rydym wedi gweld rhai Deddfau pwysig, sylweddol mewn gwirionedd, yn fy marn i, yn wirioneddol gyflawni o ran y defnydd o'r pwerau hynny ar gyfer pobl Cymru: Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol, Deddf yr Amgylchedd, Deddf Lles a Gwasanaethau Cymdeithasol, y ddeddfwriaeth ar roi organau, ac, fe ddywedwn i, y Ddeddf Teithio Llesol, yr oedd yn fraint i mi fod â rhan ynddi pan oeddwn i yn y Llywodraeth. Felly, rydym wedi cyflawni tipyn. Am naw mlynedd o'r amser hwnnw, y cyfnod hwnnw o ddatblygiad a thwf, darpariaeth well a mwy effeithiol ar gyfer Cymru, mae Carwyn wedi arwain Llywodraeth Cymru ac arwain ein gwlad, ac arwain y gwaith hwnnw o adeiladu datganoli yng Nghymru, yn y refferendwm fel y soniwyd yn gynharach ac yn gyffredinol, ac wedi arwain ar weithredu gwirioneddol a defnydd o'r pwerau hynny, sydd, wrth gwrs, yn gwbl hanfodol.
Mae hwn wedi bod yn gyfle aruthrol i Carwyn, ac yn gyfrifoldeb, yn fraint ac yn anrhydedd aruthrol, ac yn un y gwn ei fod yn ymwybodol iawn ohono bob amser wedi amgyffred y cyfan a ddaw yn sgil y cyfrifoldebau hynny. Rwy'n credu bod Carwyn wedi cyflawni'r cyfrifoldebau hynny, Llywydd, gydag ymrwymiad, ymroddiad, gallu a bri, ac mae honno'n deyrnged ardderchog i'r dyn.
Ar ddechrau'r Cynulliad, Llywydd, daeth Alun Pugh, a oedd yn cynrychioli Gorllewin Clwyd ar y pryd, a minnau'n ffrindiau da yn gyflym, y tri ohonom, ac mae'n deg dweud ei bod wedi dod yn amlwg i Alun a minnau fod gan Carwyn nodweddion cryf o ran arweinyddiaeth. Credaf, hyd yn oed yr adeg honno, fod hynny wedi ei gydnabod, nid yn unig gennym ni, ond ar draws y pleidiau yn y Cynulliad ar y pryd, ar draws Aelodau'r Cynulliad, ac yn y cyfryngau ac yn fwy eang na hynny. Deuthum i wybod am y nodweddion hynny o ran arweinyddiaeth, i'm cost fy hunan, yn gynnar iawn pan wnes i ymladd Carwyn am swydd fawreddog Cadeirydd Pwyllgor Rhanbarth y de ddwyrain. [Chwerthin.] Roedd hwnnw'n ddyrchafiad cynnar i Carwyn, ond wnaeth hynny ddim pylu dim ar ein cyfeillgarwch ni mewn unrhyw ffordd.
Ond, y tu allan i'r Cynulliad, Llywydd, ychydig iawn o frwdfrydedd a ddangoswyd i fy ymdrechion i gael Carwyn i chwarae yn nhimau pêl-droed a chriced y Cynulliad, credaf ei bod yn deg dweud, er bod Carwyn wedi chwarae a chymryd rhan. A thra'r oedd ef yn effeithiol weithiau—[Chwerthin.]—
Rydych chi'n rhy hael o lawer.
—roeddwn i'n cael Carwyn yn awyddus i arddangos ei wybodaeth pan ddeuai'r cyfle i gymryd rhan mewn cwis. Ac rwy'n credu bod hynny'n rhannol oherwydd bod gan Carwyn wybodaeth gyffredinol sylweddol ac, yn wir, ef oedd seren ein tîm cwis. Roedden ni'n gydradd gyntaf yn y gystadleuaeth, Llywydd, a phan ddaeth hi'n amser wedyn i ddewis rhwng y ddau dîm ar y brig, roedd Carwyn yn awyddus iawn i ddangos ei wybodaeth ymhellach a bod yr aelod o'n tîm a fyddai ar y llwyfan ar gyfer y gêm a fyddai'n penderfynu'r enillwyr. Yn anffodus, ac yn annisgwyl, nid cwestiwn fyddai'n penderfynu'r enillwyr, ond dawns. [Chwerthin.] Llywydd, nid âf ymhellach na dweud nad wyf yn credu bod dawn Carwyn i ddawnsio yn gwbl hafal i'w wybodaeth gyffredinol a'i feistrolaeth o gwisiau.
Ond, beth bynnag, yn gynnar iawn, Llywydd, cymerodd Carwyn swydd yn y Cabinet a chynnal Cymru drwy argyfwng ofnadwy clwy'r traed a'r genau, y bydd, unwaith eto, llawer ohonom yn ei gofio'n dda iawn—yr anhawster ysol a ddaeth i'n cymunedau gwledig a Chymru gyfan, a chyfrifoldeb cynnar i Carwyn, yn gynnar yn ei amser ef yn y Cabinet, oedd tywys Cymru drwy hynny. Roedd honno'n her fawr ac, unwaith eto, mae'n deyrnged i ysbryd Carwyn ei fod yn gallu ymateb i'r her a thywys Cymru drwy'r amser hwnnw o argyfwng mawr. A phan ddaeth Carwyn yn Brif Weinidog, roedd yn fraint fawr i mi wasanaethu yn y Llywodraeth gyda Carwyn a chael y cyfle, fel y dywedais yn gynharach, i gyflwyno deddfwriaeth megis y Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.
Llywydd, credaf ei bod yn deg dweud, fel y soniodd eraill, ac fel y soniodd Carwyn ei hunan, fod Carwyn wedi adeiladu ar sylfeini cadarn Rhodri Morgan. Ac mae'r ddau ohonyn nhw, yn fy marn i, yn weddol debyg mewn nifer o ffyrdd o ran eu brwdfrydedd dros Gymru a datganoli, eu brwdfrydedd dros rygbi a chwaraeon yn gyffredinol, a'u hymrwymiad i'r gwaith o arwain Cymru a chyflawni gwaith Prif Weinidog. Ac mae'n deyrnged i'r ddau ohonyn nhw eu bod yn uchel eu parch yng Nghymru a chyfeirir atyn nhw wrth eu henwau cyntaf, eu henwau bedydd, ac mae hynny, yn fy marn i, yn dweud cyfrolau o ran yr hoffter a'r parch sydd iddyn nhw yng ngolwg pobl Cymru.
Llywydd, mae safle Carwyn yn hanes cynnydd Cymru a'r DU yn ddiogel, a gwn y bydd pob un ohonom ni yma heddiw yn dymuno'r gorau i Carwyn i'r dyfodol a hefyd ei wraig Lisa, eu plant a'i dad Caron. Diolch yn fawr, Carwyn. [Cymeradwyaeth.]
Diolch. A chyn i fi alw ar y Prif Weinidog i ymateb, a gaf i hefyd, fel old-timer—[Chwerthin.]—ddiolch i'r Prif Weinidog am ei wasanaeth ar ran holl Aelodau'r Senedd yma? Ar hyd y blynyddoedd, mae wedi bod yn bleser ac yn braf i gydweithio. A gaf i anghytuno â'r Prif Weinidog ar un peth, sef ei farn e ar selfies mewn gwleidyddiaeth, a dweud wrth y Prif Weinidog taw'r selfie mwyaf poblogaidd i fi ei roi ar Twitter oedd y selfie y tynnais i ohono fe a fi yn Lille, yn y dorf yn Lille, y noson y gwnaeth Cymru faeddu Gwlad Belg yn quarter finals yr Ewros, gyda'r caption 'Please don't take me home, I just don't wanna go to work'? Ac roedd hynny'n selfie ac yn tweet poblogaidd iawn.
Felly, diolch, Carwyn, am eich cyfeillgarwch ar hyd y blynyddoedd a hefyd am eich gwasanaeth i'ch Llywodraeth, i'r Senedd yma ac i'ch gwlad. Ac i ymateb, â'r gair olaf, y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Diolch, Llywydd. Ni fyddaf yn cadw'r Aelodau yn rhy hir, dim ond i ddiolch i bawb am eu geiriau caredig iawn, iawn.
A gaf i ddiolch i Paul am beth ddywedodd e? Mae'n wir i ddweud bod yna lawer o bethau sy'n digwydd yn y Siambr hon sy'n digwydd ar lefel wleidyddol ac nid ar lefel bersonol.
A gaf i hefyd ddiolch i Adam? Roeddwn i yng nghanolfan y mileniwm ddydd Sul ac fe welais i lyfr yna a oedd wedi cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa: erthyglau ysgrifenedig Adam o 2001 hyd nawr. Mae amser gen i nawr i'w ddarllen e, felly efallai y gwnaf i wneud hynny. Ond ei wyneb e roeddwn i'n ei weld pan es i i mewn i'r ganolfan ei hunan.
A gaf i ddiolch i Gareth am ei sylwadau? Ac i Andrew. Dros lawer o flynyddoedd, rydym ni wedi cystadlu—yn ffodus i mi, nid yn gorfforol—[Chwerthin.]—ar ochr arall y Siambr. Ond, yn sicr, mae'n hollol iawn i ddweud bod llawer o sgyrsiau wedi digwydd y tu ôl i gadair y Llefarydd, fel y maen nhw'n galw hynny yn San Steffan, yr oedd eu hangen i gwblhau busnes, ac am hynny rwy'n ddiolchgar iawn iddo.
A Leanne—gwn fod Leanne wedi treulio llawer wythnos yn rhwystredig oherwydd yr atebion a roddais i, a dylai fod hynny'n destun balchder i mi, mae'n debyg. [Chwerthin.] Ond gwn o'i safbwynt hi, fel y dywedais wrthi o'r blaen, mae hi wedi gwneud gwaith aruthrol i godi proffil menywod mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru. Gyda chenfigen fawr y bûm yn ei gwylio yn darlledu ym mhob un o'r darllediadau hynny ar gyfer arweinyddion y pleidiau, pan oedd hi ar deledu'r rhwydwaith a 'doeddwn i ddim—[Chwerthin.]—a daeth â chlod mawr iddi ei hun pan gymerodd ran yn y dadleuon hynny. Ac yn sicr, am amser hir wedi hynny, roedd pobl yn meddwl mai hi, mewn gwirionedd, oedd Prif Weinidog Cymru—a phwy a ŵyr yn y dyfodol.
Ac yn olaf, wrth gwrs—. O, Vikki, wrth gwrs, diolch i chi am y geiriau a ddywedoch chi.
Ac yn olaf, John. Pan glywais fod John yn mynd i siarad, cefais yr un teimlad a phan oeddwn yn priodi ac roedd fy ngwas priodas ar fin siarad—[Chwerthin.]—oherwydd mae John yn gwybod am lawer iawn o bethau yr ydym wedi eu gwneud dros y blynyddoedd. Ond o'r holl bethau y gallwn i ei ddweud wrthych chi am John, un cyngor bach y byddwn yn ei roi i chi fyddai peidiwch byth â gadael iddo drefnu llety ar eich cyfer chi. Fe aethom ni i Blackpool rai blynyddoedd yn ôl, a John oedd wedi trefnu'r llety am £10 y noson. Roeddem ni'n rhannu ystafell. Pan gyrhaeddom ni, dywedodd y gwestywr wrthym ni, 'Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith nad oes gan y gwesty unrhyw fesuryddion yn yr ystafelloedd', a dyna oedd yr atyniad, mae'n debyg. Roedd gan y gwesty gawod—un gawod—ac roeddech yn mynd i mewn iddi gan gerdded yn syth o'r coridor drwy'r llen, os cofiaf yn iawn. [Chwerthin.] Profiad eithaf diddorol oedd hynny, wir. Felly, mae John yn llawer o bethau, ond rwy'n amau nad gyrfa trefnydd teithiau moethus sydd o'i flaen ef. [Chwerthin.] John, rwyf wedi eich adnabod am yr holl flynyddoedd hynny, ac rydym wedi cael llawer o hwyl, y drwg a'r da, wrth gwrs. Ond bron 20 mlynedd yn ddiweddarach, byddai'n syndod inni yn wir i feddwl y buasem yn eistedd yma yn y Senedd gyda'r fath bwerau, o gofio ein sefyllfa yn ôl yn 1999, Y Gorchymyn tatws yn tarddu o'r Aifft oedd hi, a buom yn sôn am wyniaid rhy fach—dyna'r hyn yr oeddem yn ei drafod yn y Siambr. Pwy fuasai wedi meddwl y byddai'r dydd yn dod pan fyddem yn sôn am drawsblaniadau dynol a newid y system gydsyniad?
Diolch yn fawr i chi i gyd. Pob lwc i chi i gyd yn y dyfodol.
Llawer o ddiolch i chi i gyd, a phob hwyl i chi i gyd yn y dyfodol.
Mae hi wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint i wasanaethu fy ngwlad fel Cymro i'r carn.
Bu'n fraint ac yn anrhydedd mawr i mi wasanaethu fy ngwlad yn Gymro balch. [Cymeradwyaeth.]
Diolch, Carwyn.