5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau: P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb

– Senedd Cymru am 3:12 pm ar 6 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:12, 6 Chwefror 2019

Sy'n dod â ni at eitem 5, sef y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar fynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb. Rwy'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—David Rowlands.

Cynnig NDM6952 David J. Rowlands

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Hydref 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 3:12, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, am y cyfle i agor y ddadl hon ar ran y Pwyllgor Deisebau. Mae'r ddeiseb rydym yn ei thrafod heddiw yn ymwneud â Iaith Arwyddion Prydain (BSL), a gallu plant byddar a'u teuluoedd i ddysgu a defnyddio BSL yn eu bywydau bob dydd. Fel y gŵyr pawb ohonom, mae cyfathrebu yn agwedd hanfodol ar fywyd. Fodd bynnag, gall achosi heriau sylweddol i rai yn ddyddiol.

Cyflwynwyd y ddeiseb hon, a gasglodd 1,162 o lofnodion, gan Deffo!, fforwm ar gyfer pobl ifanc fyddar yn Abertawe. Croeso i Deffo! a sylwedyddion eraill i'r oriel gyhoeddus, a hoffwn hefyd roi gwybod i'r Aelodau fod dehonglwr yn arwyddo'r trafodion drwy BSL yn yr oriel. Mae fersiwn BSL o adroddiad y pwyllgor ar gael ar-lein hefyd, a bydd fideo BSL o'r ddadl hon ar gael yn ddiweddarach heddiw ar Senedd.tv.

Hoffwn ddiolch hefyd i'r deisebwyr ar ran y pwyllgor—ac ar ran pob Aelod o'r Cynulliad hwn rwy'n siŵr—am eu dycnwch a'u hymrwymiad i frwydro dros welliannau i'r addysg a'r cymorth sydd ar gael ar gyfer pobl ifanc fyddar a thrwm eu clyw yng Nghymru. Yn fwyaf arbennig, mae'r pwyllgor yn diolch i Cathie a Helen Robins-Talbot o Deffo! am yr wybodaeth y maent wedi'i darparu drwy gydol y broses, yn ogystal ag i Luke a Zoe a roddodd dystiolaeth lafar rymus iawn i'r Pwyllgor Deisebau wrth i ni ystyried y ddeiseb.

Mae'r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella mynediad at addysg a gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain er mwyn gwella ansawdd bywyd i blant byddar a'u teuluoedd, ac i bobl fyddar o bob oedran. Mae oddeutu 2,600 o blant byddar yng Nghymru a nam ar y clyw yw prif angen addysgol arbennig dros 3,000 o ddisgyblion. Mae BSL yn iaith ar wahân nad yw'n ddibynnol ar, nac yn perthyn yn agos iawn i Saesneg llafar. Mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn datgan bod oddeutu 7,200 o ddefnyddwyr BSL yng Nghymru, a 4,000 ohonynt yn fyddar. Yn 2004, cafodd BSL ei chydnabod fel iaith yn ei hawl ei hun gan Llywodraeth Cymru.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 3:15, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Mae gan y ddeiseb nifer o amcanion: sicrhau mwy o gyfleoedd i deuluoedd ddysgu BSL, cyflwyno BSL yn y cwricwlwm cenedlaethol, sicrhau gwell mynediad at addysg drwy gyfrwng BSL, a sicrhau bod mwy o wasanaethau ac adnoddau ar gael drwy gyfrwng BSL ar gyfer pobl ifanc fyddar. Bydd gweddill y cyfraniad hwn yn canolbwyntio ar bob un o amcanion y ddeiseb yn eu tro, er mwyn amlinellu'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor, y casgliadau y daethom iddynt a'r ymatebion a roddwyd gan Lywodraeth Cymru. 

Yn gyntaf, mae'r ddeiseb yn galw am fwy o gyfleoedd i deuluoedd ddysgu BSL. Mae Deffo! wedi pwysleisio pa mor hollbwysig yw hyn fel y gall rhieni a brodyr a chwiorydd gyfathrebu â phlant byddar a'u cefnogi o fewn eu teuluoedd. Dywedasant wrth y pwyllgor y gall cost fod yn broblem sylweddol, gyda dosbarthiadau BSL sylfaenol ar gyfer oedolion yn costio £300 y person a chyrsiau uwch yn costio hyd at £1,600. Ychydig iawn o gyfleoedd a geir hefyd i deuluoedd ddysgu BSL gyda'i gilydd, gan fod y rhan fwyaf o'r dosbarthiadau sydd ar gael yn cael eu darparu drwy ganolfannau addysg oedolion. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth y pwyllgor sawl gwaith mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw darparu'r dosbarthiadau hyn. Fodd bynnag, ymddengys mai diffyg darpariaeth yw canlyniad hyn, oherwydd ei fod yn dod yn ddewis o fewn cyllidebau addysg oedolion lleol. Mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor yn dangos, yn y rhan fwyaf o achosion, nad oes unrhyw gyrsiau iaith arwyddion ar gael i rieni a phlant am ddim neu am gost isel.

Nodaf fod y comisiynydd plant hefyd wedi argymell y dylai'r holl deuluoedd sydd â phlant byddar allu cael mynediad at BSL, ac mae'r pwyllgor wedi clywed bod y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yn siomedig nad yw hyn wedi digwydd.

Mae'r deisebwyr wedi dadlau bod statws presennol BSL, a'r ffaith ei bod yn cael ei hystyried yn ddewis yn hytrach nag angen meddygol, yn golygu mai dyma'r math o ddarpariaeth sy'n tueddu i gael ei golli mewn cyfnodau o bwysau ariannol. Maent wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru gydnabod BSL fel iaith leiafrifol, ac y dylai awdurdodau lleol ei hystyried yn iaith gyntaf i lawer o blant a phobl ifanc byddar a thrwm eu clyw. Maent o'r farn y byddai hon yn ffordd o wella a diogelu'r ddarpariaeth ar gyfer dysgu BSL. Mae'r Pwyllgor Deisebau yn cytuno. Rydym yn credu ei bod yn hanfodol fod teuluoedd plant byddar yn cael cyfle i ddysgu sut i gyfathrebu drwy gyfrwng BSL. O ganlyniad, rydym o'r farn y gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy drwy arwain awdurdodau lleol i drin BSL fel iaith gyntaf llawer o blant a phobl ifanc byddar, fel ffordd o ail-fframio'r sgwrs ar beth a olygir wrth ddarpariaeth ddigonol. At hynny, rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried datblygu siarter genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau, gan gynnwys addysg, i blant byddar a'u teuluoedd. Credwn y byddai hyn yn helpu i wella cysondeb y ddarpariaeth ledled Cymru.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y ddau argymhelliad gennym yn hyn o beth, a''i bod hefyd wedi cydnabod bod aelodau o'r gymuned fyddar yn wynebu nifer o broblemau mewn perthynas â BSL, gan gynnwys prinder dehonglwyr. Yn ei hymateb, mae'r Gweinidog yn ymrwymo i adolygu'r ddarpariaeth BSL yng Nghymru ac ystyried datblygu siarter genedlaethol o'r math a argymhellir gan y pwyllgor. Byddem yn croesawu mwy o wybodaeth am y gwaith hwn y prynhawn yma, ac yn ei hannog i sicrhau bod y gwaith yn datblygu'n gyflym er mwyn dechrau gwella'r cymorth sydd ar gael ar gyfer plant byddar a'u teuluoedd.

Gan symud ymlaen, mae'r ail alwad yn y ddeiseb yn galw am gynnwys BSL yn y cwricwlwm cenedlaethol. Mae'r deisebwyr wedi rhoi gwybod i'r pwyllgor nad oes gan y rhan fwyaf o blant byddar mewn ysgolion prif ffrwd fynediad at BSL yn yr ysgol, ond eu bod yn dysgu Saesneg â chymorth arwyddion yn lle hynny. Nid yw hyn yn trosglwyddo y tu allan i'r ysgol, ac felly mae plant byddar yn dal i orfod dysgu BSL er mwyn cyfathrebu ag aelodau eraill o'r gymuned fyddar. Pe bai BSL yn cael ei chynnwys o fewn y cwricwlwm cenedlaethol, mae Deffo! yn dadlau y byddai'n helpu dysgwyr eraill i gyfathrebu â phobl fyddar neu drwm eu clyw mewn cyd-destun cymdeithasol a chyd-destunau eraill, yn ogystal â gwella eu cyfathrebu'n raddol mewn bywyd bob dydd.

Drwy gydol ein hystyriaeth o'r ddeiseb, mae Deffo! wedi mynegi rhwystredigaeth ynglŷn â'u profiad o geisio ymgysylltu â'r Llywodraeth ar y mater hwn, ac ynglŷn â'r hyn a ystyriant yn ddiffyg ymgysylltiad â phrosesau megis adolygiad Donaldson. Wedi dweud hynny, yn ystod yr amser hwn, cawsant gyfle i gyfarfod â'r Gweinidog blaenorol ac mae'r pwyllgor wedi croesawu'r ffaith bod BSL wedi'i chynnwys ym maes ieithoedd a chyfathrebu y cwricwlwm newydd.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 3:20, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Fodd bynnag, rydym yn dal i fod yn bryderus ynglŷn â diffyg cyfeiriad cenedlaethol mewn perthynas â sicrhau bod darpariaeth BSL ar gael yn eang mewn ysgolion yng Nghymru, ac mae ymateb y Gweinidog i'n hadroddiad yn awgrymu y bydd hyn yn parhau i fod yn ôl disgresiwn ysgolion unigol ac awdurdodau lleol i raddau helaeth. A siarad yn blwmp ac yn blaen, ar hyn o bryd mae'n anodd gweld bod hyn yn addo unrhyw gam sylweddol ymlaen o ran gwella gallu disgyblion i gael mynediad at BSL drwy'r cwricwlwm. Rwy'n annog y Gweinidog i roi ystyriaeth bellach i sut y gellir annog ysgolion yn benodol i fynd ar drywydd yr opsiwn hwn yng ngoleuni'r ffaith bod BSL wedi cael ei chydnabod yn ffurfiol fel iaith yn ei hawl ei hun.

Mae'r pwyllgor hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried creu TGAU mewn BSL. Ar ôl i Mike Hedges godi'r mater hwn, ysgrifennodd y Prif Weinidog blaenorol at Cymwysterau Cymru ynglŷn â'r mater hwn. Roedd yr ymateb yn awgrymu nad yw Cymwysterau Cymru yn ystyried ei bod hi'n bosibl datblygu TGAU o'r fath i'w ddefnyddio yng Nghymru yn unig. Fodd bynnag, ers hynny, mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bod yn ystyried datblygu TGAU mewn BSL. Rydym yn deall bod Cymwysterau Cymru yn agored i fabwysiadu unrhyw TGAU a ddatblygir a byddem yn eu hannog hwy a'r Gweinidog i sicrhau bod hyn yn digwydd yn gyflym er mwyn osgoi sefyllfa lle mae disgyblion byddar yng Nghymru ar ei hôl hi o'u cymharu â'u cymheiriaid yn Lloegr.

Roedd mynediad at staff â chymwysterau priodol hefyd yn peri pryder sylweddol i Deffo! Roeddent yn tynnu sylw at nifer o ystadegau, gan gynnwys y ffaith nad yw disgyblion ond yn cael tair awr o gyswllt gydag athro i rai byddar bob wythnos ar gyfartaledd, llai o lawer na'r targed o 270 awr y flwyddyn, a bod nifer sylweddol o athrawon sydd wedi cymhwyso'n briodol yn mynd i ymddeol yn ystod y 15 mlynedd nesaf. Mae Deffo! yn credu bod cynorthwywyr addysgu yn cael eu defnyddio yn lle llawer o'r rhain. Wrth ymateb, cyfeiriodd Gweinidogion at ddyletswyddau awdurdodau lleol i nodi, asesu a darparu ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig. Unwaith eto, fodd bynnag, roedd y pwyllgor yn pryderu nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i wireddu hyn mewn gwirionedd. Nid yw'n glir sut y mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod y dyletswyddau hyn yn cael eu gweithredu'n ddigonol yn ymarferol.

Yn ein pedwerydd argymhelliad, mae'r pwyllgor yn annog y Llywodraeth i edrych ar broblemau cynllunio'r gweithlu ac ystyried cynaliadwyedd hirdymor y cymorth ar gyfer disgyblion byddar. Mae ymateb y Gweinidog yn cyfeirio at ddarparu arian ychwanegol ac mae hynny i'w groesawu. Fodd bynnag, mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi cyfeirio at hyn fel ateb tymor byr i broblem gynyddol, ac rydym yn annog y Llywodraeth i barhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod gan Gymru weithlu addysg sydd wedi'i hyfforddi'n briodol mewn perthynas ag anghenion disgyblion byddar.

Elfen olaf y ddeiseb yw galwad am wneud mwy o wasanaethau ac adnoddau yn hygyrch drwy gyfrwng BSL. Dywedodd Deffo! wrth y pwyllgor fod llawer o bobl ifanc fyddar yn methu cael mynediad at wasanaethau sydd â'r addasiadau rhesymol y mae ganddynt hawl iddynt o dan y ddeddfwriaeth gydraddoldeb. Er enghraifft, nododd tystion mai un gweithiwr ieuenctid ar gyfer pobl fyddar a geir  drwy Gymru gyfan. Mae Deffo! eisiau i ddefnyddwyr BSL allu cael gafael ar wybodaeth am wasanaethau fel addysg, gofal iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a thrafnidiaeth gyhoeddus yn eu dewis iaith. Dywedasant wrth y pwyllgor fod methu cael mynediad at wasanaethau o'r fath yn eu digalonni.

Mae Gweinidogion wedi nodi nad oes gan Lywodraeth Cymru bŵer i ddeddfu mewn perthynas â darparu ieithoedd heblaw'r Gymraeg. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn credu y bydd ein hargymhelliad blaenorol mewn perthynas â datblygu siarter genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau i blant a phobl ifanc fyddar yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn os caiff ei datblygu. Gallai fframwaith o'r fath helpu i wella cysondeb y ddarpariaeth ar draws y gwasanaethau cyhoeddus a darparu mwy o atebolrwydd lle nad yw darpariaeth o'r fath yn bodloni safonau addas. Unwaith eto, rwy'n annog y Gweinidog i sicrhau bod hyn yn cael ei ddatblygu mewn ffordd gadarn ac ystyrlon.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i Deffo! unwaith eto am gyflwyno'r ddeiseb ac i bawb arall sydd wedi darparu tystiolaeth i'r pwyllgor. Mae'r materion a godwyd yn sgil y ddeiseb hon yn niferus ac yn amrywiol, ac maent yn herio pob un ohonom yma i geisio sicrhau bod plant a phobl ifanc byddar Cymru yn gallu cael mynediad at yr addysg a'r gwasanaethau eraill y dylai fod ganddynt hawl iddynt. Rwy'n croesawu ymateb cadarnhaol y Gweinidog i'n hargymhellion, ac rwy'n gobeithio, os cânt eu datblygu, y bydd y camau hyn yn arwain at welliannau ar gyfer plant byddar a'u teuluoedd. Diolch yn fawr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:25, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Janet Finch-Saunders.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, ac rwyf am arwyddo. [Arwyddo mewn BSL.] Dyna'r drafferth â chael enw hir. [Arwyddo mewn BSL.] Roedd hynny'n dweud: Janet Finch-Saunders ydw i ac rwy'n dysgu BSL. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae fy nhîm a minnau wedi mwynhau'r pleser o ddysgu BSL. Rydym eisoes wedi pasio'r lefel gyntaf ac erbyn hyn rydym yn astudio ar gyfer y nesaf. Y rheswm am hyn yw oherwydd fy mod yn cydnabod y ffaith bod nifer o'r 7,200 o ddefnyddwyr BSL yng Nghymru yn dibynnu ar BSL fel iaith gyntaf ac rydym yn credu y dylai'r cymorth rydym yn ei gynnig fod yn fwy hygyrch i'r gymuned fyddar. Drwy fy rôl ar y Pwyllgor Deisebau, rwyf wedi bod yn hapus iawn i gefnogi'r achos a gyflwynwyd gan Deffo! i wella mynediad at wybodaeth a gwasanaethau mewn BSL.

Yn dilyn y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod BSL fel iaith swyddogol yn 2004, mae'n deg dweud bod y cynnydd wedi bod yn wael. Er bod gennym rai ysgolion arloesi, fel rhan o faes dysgu a phrofiad ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, mae cryn dipyn o amwysedd ynglŷn â lle mae'r ysgolion hyn a sut y gall plant eraill mewn ysgolion gael mynediad at hyn. Wrth gwrs, mae'n galonogol gweld bod ysgolion anghenion addysgol arbennig yn cael eu cynnwys yn y grŵp treialu. Fodd bynnag, mae'n peri pryder mawr fod BSL yn cael ei chategoreiddio fel iaith ryngwladol, gyda ieithoedd clasurol a modern eraill. Nid yn unig y mae'n anghywir i ni gategoreiddio BSL fel iaith ryngwladol yn yr achos hwn, mae'n tanseilio pa mor angenrheidiol yw'r addysg hon i'r 2,642 o blant byddar yng Nghymru. Fel y cyfryw, hoffwn weld ysgolion yn gwneud defnydd ehangach o BSL fel iaith sy'n gydradd â'r Gymraeg a'r Saesneg. Mae Cymwysterau Cymru wedi diystyru cyflwyno TGAU mewn BSL ar hyn o bryd, gan ddadlau na fydd BSL yn denu digon o ddisgyblion. Er eu bod yn cyfaddef y gallai'r mater fod yn destun ailasesiad yn dilyn casgliadau'r cydweithredu rhwng yr Adran Addysg a phartneriaid BSL, rwy'n credu y dylai Cymru hefyd wneud paratoadau pellach i arloesi'r gwaith o gyflwyno TGAU mewn BSL.

Gan roi TGAU i'r naill ochr, o ran adroddiad Comisiynydd Plant Cymru, mae'n hanfodol bod digon o arian ar gael i sicrhau bod rhieni a pherthnasau agos unigolion byddar yn cael hyfforddiant BSL. A wyddoch chi beth? Mae'n hynod eironig fod fy nghyd-Aelod Suzy Davies wedi dweud wrthyf am y datganiad newyddion a nodai fod rhieni plant byddar yn wynebu 'loteri cod post', a bod rhieni plentyn pedwar mis oed sy'n fyddar yn gorfod talu £6,000 am wersi iaith arwyddion os ydynt am gyfathrebu â hi.

Mae hynny'n warthus yn yr oes sydd ohoni. Mae anghysondebau o'r fath hefyd yn treiddio i—. O, mae'n ddrwg gennyf. Rwyf wedi neidio ymlaen, mae'n ddrwg gennyf. Yn allweddol, rwy'n credu bod angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael â'r anghysondebau yn y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd. Rwyf wedi gweld yr amrywio rhwng gwahanol awdurdodau lleol â fy llygaid fy hun, ac er enghraifft, cydweithredodd fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, a minnau gyda'r gymuned fyddar yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dilyn diddymu cymorth ariannol a'r effeithiau negyddol ar y rheini sydd ond yn dymuno cyfathrebu, o ran gwasanaethau cyngor, yn yr unig ffordd y gallant ei wneud.

Mae anghysondebau o'r fath yn treiddio i mewn i addysg hefyd, gan fod data a ryddhawyd ym mis Gorffennaf 2018 yn dangos bod saith o bob 18 ymatebwr yn credu nad oedd gwasanaethau arbenigol anghenion addysgol arbennig yn diwallu'r galw presennol am wasanaethau i rai â nam ar y clyw. Mae hyn yn peri pryder, o ystyried bod gan 3,116 o ddisgyblion yr angen cyfathrebu hwn yng Nghymru. Er fy mod yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod yna broblemau ac wedi dyrannu £289,000 i gefnogi hyfforddiant proffesiynol i weithlu cymorth synhwyraidd lleol, rwy'n bryderus nad yw hyn yn ddigonol i sicrhau cysondeb eang ar draws y gwasanaeth, yn enwedig pan nad oes ond un gweithiwr ieuenctid ar gyfer pobl ifanc byddar drwy Gymru gyfan. Fel y cyfryw, rwy'n erfyn arnoch i wrando ar argymhellion yr adroddiad hwn ac i ddatblygu siarter genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau i blant a phobl ifanc byddar a'u teuluoedd, a hynny ar frys, fel bod gennym feincnod cenedlaethol clir a safon y gall pob sefydliad ac awdurdod weithio tuag ati. Rydym yn ffodus. Gallwn gyfathrebu yma yn y ffordd sydd hawsaf i ni ei wneud. Mae'n hen bryd i'r bobl fyddar yn ein cymuned allu gwneud yr un peth. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 3:30, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, a gaf fi ddatgan buddiant gan fod fy chwaer yn fyddar iawn ac yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hefyd, fel llywydd Grŵp Pobl Drwm eu Clyw Abertawe? A chyn i unrhyw un ddweud, 'Pam ddim Iaith Arwyddion Cymru?', mae iaith arwyddion yn ddisgrifiadol. Rydych yn cyfieithu'r arwydd i unrhyw iaith arall rydych yn gyfarwydd â hi. Nid yw'n defnyddio gwyddor, ond mae ganddi arwyddion i ddisgrifio'r hyn y mae rhywun eisiau ei ddweud.

Gan droi at argymhelliad 1:

'Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi Iaith Arwyddion Prydain fel iaith leiafrifol, ac annog awdurdodau lleol i'w chydnabod fel iaith gyntaf llawer o blant a phobl ifanc byddar wrth ddarparu gwasanaethau addysg a chymorth.'

I lawer o blant byddar, iaith arwyddion yw eu hiaith gyntaf, honno yw eu hiaith yn y system addysg a'r ffordd y maent yn siarad ac yn dysgu. Dylid trin iaith arwyddion fel iaith gyfartal yn y system addysg, a heb fod yn wahanol i'r Gymraeg a'r Saesneg. Mae sicrhau bod Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei thrin yn gyfartal â'r Gymraeg a'r Saesneg yn fater o gydraddoldeb addysgol.

Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi dweud felly ein bod yn argymell y dylid sicrhau bod cyfle i ddysgu Iaith Arwyddion Prydain ar gael i blant ar bob lefel o addysg. Yn rhan o hyn, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i barhau i archwilio'r posibilrwydd o greu TGAU mewn iaith arwyddion iaith gyntaf gyda Cymwysterau Cymru. Unwaith eto, gobeithiaf y bydd yr argymhelliad hwnnw'n cael ei ddatblygu. Mae'n crynhoi'r hyn sydd ei angen, sef TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain, fel y gellir cydnabod hyfedredd ynddi. Dylid ei thrin yn gyfartal â'r Gymraeg a'r Saesneg fel cymhwyster TGAU. Byddai hyn yn golygu, pan fo swyddi'n galw am radd C neu well mewn Cymraeg neu Saesneg, dylai ddweud 'neu Iaith Arwyddion Prydain' hefyd. Mae hyn yn sicrhau cyfle cyfartal i rai sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain fel eu prif gyfrwng cyfathrebu.

Nid y gymuned fyddar yn unig sydd angen Iaith Arwyddion Prydain, ond gweddill y boblogaeth, sydd angen gallu cyfathrebu gydag unigolion byddar. Mae'r ddeiseb yn galw am well mynediad at ddosbarthiadau Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer rhieni a brodyr a chwiorydd i'w helpu i gyfathrebu ag aelod byddar o'r teulu. Yn sicr, mae hwn yn gais rhesymol. Rhieni sy'n gallu clywed sydd gan y mwyafrif helaeth o blant sy'n cael eu geni'n fyddar, neu sy'n mynd yn fyddar yn ifanc iawn o ganlyniad i glefydau fel llid yr ymennydd, clwy'r pennau a'r frech goch. Mae plentyn byddar yn sioc i rieni a brodyr a chwiorydd ac maent eisiau dysgu sut i gyfathrebu â'r aelod byddar o'r teulu fel nad ydynt yn cael eu gadael allan.

Trof yn awr at argymhelliad olaf y pwyllgor:

'Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Gynllunio'r Gweithlu ar gyfer gwasanaethau arbenigol AAA, gan ganolbwyntio'n benodol ar athrawon sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc byddar a thrwm eu clyw. Dylai hyn gynnwys ystyriaeth o gynaliadwyedd tymor hwy y gwasanaethau hyn. Fel rhan o hyn, rydym yn cefnogi'r syniad o gyflwyno cymhwyster Iaith Arwyddion Prydain safonol gofynnol ar gyfer cynorthwywyr dysgu sy'n cefnogi plant a phobl ifanc byddar.'

Mae hyn yn hynod bwysig, oherwydd os yw pobl yn gweithio gyda phlant byddar, mae'n rhaid iddynt gael o leiaf yr un lefel o iaith â'r plant y maent yn gweithio gyda hwy. Mae pa bynnag gymwysterau a chymorth rydym yn dweud y dylid eu darparu yn ddiystyr os nad oes gennym bobl gymwys i addysgu a chefnogi dysgwyr. Gallwn basio a chytuno ar bob math o bethau yma mewn perthynas â phwysigrwydd y cymorth hwn, ond os nad oes bod gennym bobl sydd wedi cael eu hyfforddi ac sy'n gallu darparu'r cymorth, nid yw'n mynd i ddigwydd.

Yn olaf, mae'r ddeiseb yn galw am sicrhau bod gwasanaethau'n hygyrch i bobl ifanc fyddar mewn Iaith Arwyddion Prydain. Dywedodd Deffo! wrth y pwyllgor nad yw llawer o bobl ifanc fyddar yn gallu cael mynediad at wasanaethau a chyfeiriasant at arolwg a oedd yn awgrymu bod y rhan fwyaf o bobl fyddar yn ei chael yn anodd cael mynediad at ofal iechyd megis meddygfeydd meddygon teulu. Mae meddygfeydd sydd ond yn trefnu apwyntiadau dros y ffôn, neu sydd eisiau i gleifion ffonio ac yna'n eu ffonio'n ôl, yn achosi problemau enfawr i bobl fyddar nad ydynt yn gallu gwneud hynny. Rwyf wedi siarad â phobl fyddar sydd wedi mynd i'r feddygfa ac wedi cael gwybod bod yn rhaid iddynt ffonio. Maent yn dweud, 'Wel, ni allaf glywed', a'r ateb yw, 'Wel, dyna'r ffordd rydym yn gweithio.' Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig i feddygfeydd ddangos cefnogaeth, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig i feddygfeydd sylweddoli bod pobl fyddar yn bodoli ac nad yw dweud wrth bawb, 'Ffoniwch, ac fe wnawn eich ffonio'n ôl', yn gweithio i bobl nad ydynt yn gallu clywed.

Mae angen gwneud llawer i helpu'r gymuned fyddar. Byddai derbyn yr argymhellion hyn gan y Pwyllgor Deisebau a'u rhoi ar waith yn fan cychwyn da. Yn sicr, ni fyddai'n ddiwedd ar y mater, oherwydd mae'r gymuned fyddar yn teimlo nad ydynt wedi cael eu trin yn deg dros nifer o flynyddoedd. Ac rwy'n siŵr eich bod yn cydnabod hynny, Ddirprwy Lywydd. Ac mae'n bwysig sicrhau ein bod yn dechrau camu i'r cyfeiriad hwnnw yn awr.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:35, 6 Chwefror 2019

Mae Iaith Arwyddo Prydain yn iaith bwysig, sydd ddim yn cael ei chydnabod yn ddigonol. Ar hyn o bryd, does dim darpariaeth na hawliau digonol i gefnogi pobl fyddar ar unrhyw gam o’u taith drwy fywyd, gan ddechrau yn y blynyddoedd cyntaf.

Mae 90 y cant o blant byddar yn cael eu geni i deuluoedd sy’n clywed. Felly, mae rhieni newydd yn aml heb brofiad o fyddardod, ac yn gorfod dysgu sut i gyfathrebu a chefnogi anghenion penodol eu plentyn o’r newydd. Mae'n syfrdanol nad oes darpariaeth o wersi am ddim ar gael, ac felly'n aml mae'n her i deuluoedd sicrhau cyfleoedd i helpu eu plant. Ac mae'n wir dweud bod hyn yn ffurf ar amddifadedd iaith. Ni ddylai unrhyw blentyn beidio â chael hawl i’w iaith. Mae’n anochel y bydd datblygiad cynharaf plentyn yn cael ei effeithio gan wacter cyfathrebu, efo diffyg gallu cyfathrebu yn arwain at deimladau o fod yn ynysig, sy’n effeithio’n negyddol ar iechyd emosiynol a meddyliol unigolyn, ac o bosib cyfleoedd bywyd ehangach.

Dydy pethau ddim yn gwella pan â plentyn byddar i’r ysgol. Mae Deffo! yn dweud, ar gyfartaledd, fod plant byddar sy'n cael eu haddysg yn y brif ffrwd yng Nghymru yn gadael yr ysgol yn 16 oed ag oed darllen o naw mlwydd oed. Yn aml, mae llefaredd a sgiliau darllen gwefus yn wael. Hefyd, mae bwlch cyrhaeddiad cyson wedi bodoli yng nghyrhaeddiad plant byddar o'u cymharu â phlant sy’n siarad, sydd ar ei fwyaf eang yn ystod y cyfnod sylfaen a chyfnod allweddol 2. Ac mae'r bwlch yma'n bodoli oherwydd y rhwystrau y mae'r dysgwyr byddar yn eu hwynebu yn amlach na pheidio. Mae hyn yn destun pryder i'r comisiynydd plant, sydd wedi mynegi bod diffyg ymrwymiad i gau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng dysgwyr byddar a’u cyfoedion sy’n clywed yn fater sydd angen sylw gan y Llywodraeth a chan awdurdodau lleol er mwyn sicrhau cefnogaeth briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu plant a phobl ifanc sydd yn fyddar, gan gynnwys cyfleoedd dysgu BSL hygyrch a fforddiadwy, ar ystod o lefelau.

Ac mae'r diffyg ffocws yma i gael ei weld hefyd o edrych ar awdurdodau lleol, efo dim ond un awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i siartr BSL Prydeinig gan y British Deaf Association. Felly, mae’n bryd hoelio’r ffocws ar ddatblygu siartr cenedlaethol ein hunain ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau cyson i blant byddar a’u teuluoedd.

Mae angen i Lywodraeth Cymru ddilyn datblygiad plant byddar a’u teuluoedd drwy’r holl siwrnai addysg, a gwneud yn siŵr bod y ddarpariaeth briodol ar gael achos mae’r ystadegau yn siarad drostyn nhw eu hunain. Ar hyn o bryd, mae gormod o blant byddar sydd yn defnyddio BSL fel iaith gyntaf yn cael eu cefnogi yn yr ysgol gan staff sydd â lefel rhy syml o arwyddo. Ac mae angen meddwl o ddifrif ynglŷn ag ysgogi athrawon i ennill cymwysterau BSL ar y lefelau priodol.

Ac i droi, felly, at y cwricwlwm newydd, mae yna gyfle fan hyn i annog llawer mwy o ddefnydd o BSL yn yr ysgolion. Ac fel dŷn ni'n ei wybod, dydy BSL ddim ar gyfer plant byddar yn unig, ac fe allai dysgu BSL yn yr ysgol roi cyfle ychwanegol i blant, ar draws, i ddysgu iaith arall.

Wedi ystyried yr holl dystiolaeth, a'r ystadegau, mae’n glir bod gwaith angen ei wneud gennym ni fel gwleidyddion i godi statws pwysigrwydd adnoddau a gwasanaethau BSL, fel bod y gefnogaeth briodol ar gael ar bob lefel, o fabandod hyd at fywyd fel oedolion. Ac mae cyfrifoldeb gan Lywodraeth Cymru hefyd i ateb gofynion y ddeiseb. Diolch.

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 3:39, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddadl. Hoffwn ddiolch i'r deisebwyr am eu hymdrechion i dynnu sylw at y ffaith nad ydym yn gwneud digon a sut y gallwn wella bywydau pobl fyddar, yn enwedig plant a phobl ifanc.

Mae yna lawer o ddeddfau ac egwyddorion cydnabyddedig sy'n ymddangos yn ddi-gwestiwn bellach, ond ni fyddent yn bodoli heb bobl fel Catherine Robins-Talbot a Deffo!, sy'n ymgyrchu'n galed i sicrhau bod pobl nad ydynt wedi cael eu clywed ers blynyddoedd yn cael llais na fydd yn cael ei anwybyddu. Daw'r gymdeithas i wybod am ran o'u cymuned nad oeddent yn gwybod amdani o'r blaen a gwneuthurwyr polisi yn newid o fod yn ddifater i fod wedi’u hargyhoeddi.

Buaswn yn annog y Llywodraeth i dderbyn yr holl argymhellion yn yr adroddiad. Gwn fod adnoddau'n gyfyngedig, ond mae'n ymwneud â blaenoriaethau a lle mae pobl fyddar ar restr blaenoriaethau Llywodraeth Cymru fel yr unig bobl yma a all gweithredu ar hyn.

Aeth bron i ddwy flynedd heibio ers y tro cyntaf i AS yn San Steffan ofyn cwestiwn i'r Prif Weinidog gan ddefnyddio BSL, mewn ymdrech i gynnwys BSL ar y cwricwlwm cenedlaethol yn Lloegr. Aeth 16 mlynedd heibio bellach ers i BSL gael ei chydnabod fel iaith. Ceir dros 150,000 o ddefnyddwyr BSL yn y DU—ac mae mwy na 87,000 ohonynt yn fyddar. Felly, y cwestiwn i mi yw pam nad yw BSL eisoes ar y cwricwlwm yng Nghymru mewn rhyw ffordd. Pe bai'r deisebwyr yn teimlo bod y ddarpariaeth ar gyfer pobl fyddar yng Nghymru yn foddhaol, ni fyddent wedi mynd i'r drafferth o gyflwyno deiseb i'r Cynulliad ac argymell atebion.

Ym mharagraff 20 yr adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau, rwy'n nodi bod y Llywodraeth yn dweud mai mater i awdurdodau lleol yw cefnogi teuluoedd pan fo plentyn yn fyddar neu'n drwm ei glyw. Ond mae'n rhaid i mi gwestiynu cysondeb Llywodraeth sy'n datgan ei hawydd yn gyson i gefnogi'r rheini sy'n cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac sy'n gweithredu ar hynny, ond nid y rheini nad oes ganddynt ddewis ond cyfathrebu drwy gyfrwng BSL.

Mae ein traddodiad o fod yn gymuned a chymdeithas glos sy'n brwydro yn erbyn helbulon ac annhegwch yn ein gwneud yn falch o fod yn Gymry ac yn Brydeinwyr, a dylai sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael pob cyfle i roi o'u gorau i Gymru, a sicrhau bod Cymru yn rhoi o'i gorau iddynt hwy fod yn rhan yr un mor bwysig o'r profiad o fod yn Gymry ag unrhyw agwedd arall ar ein diwylliant Cymreig balch. 

Pa reswm yn y byd na ddylai fod rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol, hyd yn oed ar lefel sylfaenol, fel bod ein holl bobl ifanc yn gwybod bod BSL yn bodoli ac yn cael cyfle i'w hastudio fel opsiwn TGAU iaith, a fydd yn ôl pob tebyg yn cynnig mwy o bethau cadarnhaol i'n cymdeithas a'n cymunedau na rhai opsiynau iaith eraill? Ni ddylid ystyried byddardod a dibyniaeth ar BSL fel angen dysgu ychwanegol. Nid oes gan ddefnyddwyr BSL anhawster dysgu. Yr unig anhawster y maent yn ei wynebu yw'r ffaith nad oes digon o'r boblogaeth sy'n gallu clywed yn deall yr iaith y maent yn ei siarad a'n bai ni yw hynny nid eu bai hwy. Nid hwy ddylai orfod wynebu canlyniadau negyddol cymdeithas sy'n dewis peidio ag ymwneud â hwy i bob pwrpas, a bydd methiant i gefnogi'r argymhellion yn llawn yn gyfystyr â dweud, 'Rydych ar eich pen eich hun. Gobeithiwn fod gennych rieni cyfoethog sy'n gallu fforddio'r cymorth ychwanegol rydych ei angen, oherwydd ni chewch fawr ddim os o gwbl gennym ni.' 

Rydym wedi gweld deddfwriaeth yn cael ei phasio ar gyfer ardaloedd chwarae cynhwysol, lle gall plant ag anableddau corfforol chwarae ochr yn ochr â phlant heb anableddau corfforol, a rhan o'r cyfiawnhad dros ariannu'r rheini oedd y bydd yn codi ymwybyddiaeth o anabledd ac na ddylai fod yn broblem yn y Gymru fodern. Yn sicr, gellir cyflawni'r un peth ar gyfer plant byddar, pe bai BSL yn cael ei chyflwyno i bob plentyn yn yr ysgol. Faint o blant byddar sy'n osgoi defnyddio mannau chwarae oherwydd yr anawsterau y maent yn eu hwynebu pan fydd plentyn chwareus arall yn ceisio siarad â hwy? Faint yn fwy o blant byddar a fyddai'n cael cyfarfod a chwarae â phlant sy'n gallu clywed, ac ehangu eu cylch o ffrindiau, pe bai BSL sylfaenol iawn hyd yn oed ar y cwricwlwm cenedlaethol? Pwy all ddychmygu'r canlyniadau cadarnhaol y byddai hynny'n eu rhoi i blant byddar yn ddiweddarach mewn bywyd? 

Mae llawer o bolisïau a deddfau wedi'u creu i sefydlu hawliau cyfartal i nifer o grwpiau eraill, ond ymddengys nad oes gennym yr un hawliau cyfartal ar gyfer pobl fyddar. Mae'r bobl ifanc hyn ein hangen ni, ac rydym ni angen eu doniau hwy, doniau na wnaed defnydd teg ohonynt ers gormod o amser. Byddai Cymru'n elwa, a byddai pobl fyddar yn elwa pe baem yn agor ein llygaid i weld yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud. Dyna pam fy mod yn cefnogi argymhellion yr adroddiad hwn a gobeithiaf y bydd y Llywodraeth yn newid ei hymateb ac yn derbyn argymhelliad 3 yn ddiamwys ac yn gweithredu argymhellion yr adroddiad yn ddi-oed. Diolch.

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Independent 3:44, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i Deffo! ac i'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor ac i Stuart Parkinson yn ogystal am e-bostio. Diolch hefyd i Dwylo Creadigol Byddar Caerdydd. Ymwelais â hwy unwaith ac roedd yn brofiad hynod addysgiadol a phleserus.

Nid wyf yn credu bod y gymuned fyddar yn cael chwarae teg. Credaf eu bod yn cael eu heithrio i raddau helaeth. Pan lansiais grŵp Propel yn yr hydref—neu yn yr haf, mewn gwirionedd—fe wnaethom yn siŵr fod gennym rywun yn arwyddo, yn ogystal â chyfieithu. Wrth wrando ar yr hyn a ddywedwyd yn gynharach, a'r ffaith nad oes ond un gweithiwr ieuenctid yng Nghymru gyfan—un—mae'n anghredadwy nad oes ond un gweithiwr ieuenctid sy'n rhugl yn Iaith Arwyddion Prydain. Mae'n warthus, mewn gwirionedd. A 'Cwricwlwm i Gymru, cwricwlwm am oes'—holl bwrpas datganoli, holl bwrpas datblygu sefydliadau Cymreig yw bod yn wahanol, bod yn deg, bod yn arloesol, ac mae gennym 'Cwricwlwm i Gymru' yn dweud nad ydynt eisiau, neu nad ydynt yn mynd o wneud iaith arwyddion yn gymhwyster, sy'n gwbl anghywir, a dylid gwneud penderfyniad gwleidyddol i gywiro hynny.

Mae problem yn codi gyda hyfforddiant i athrawon yn ogystal. Rwy'n deall nad ydynt ond yn cyrraedd lefel 3; nid ydynt yn cael hyfforddiant pellach. Nid yw athrawon plant byddar yn cael mynediad at yr holl ddulliau addysgu. Maent newydd gael gwared ar y cwrs ar gyfer athrawon y byddar ym Mhrifysgol De Cymru. Mae yna broblem fawr hefyd o ran diffyg Iaith Arwyddion Prydain a'r blinder sy'n effeithio ar ddisgyblion ysgol sy'n gorfod darllen gwefusau gydag anhawster. 

Rwy'n cefnogi'r argymhellion. Rwy'n credu y dylai Iaith Arwyddion Prydain fod yn iaith leiafrifol. Dylai fod ar y cwricwlwm cenedlaethol a dylid creu siarter. A hoffwn wahodd y Gweinidog i ymweld â Dwylo Creadigol Byddar Caerdydd yn y ddinas hon i weld y waith da sy'n cael ei wneud, ac efallai y gallech ddod gyda mi, neu gyda'r Aelodau rhanbarthol eraill, ac rwy'n siŵr y byddai AC yr etholaeth yn dod hefyd. Yr hyn yr hoffwn i chi ei wneud y prynhawn yma yw ymrwymo i weithredu argymhellion yr adroddiad hwn. Diolch. [Arwyddo mewn BSL.]

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:47, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Deffo! Fforwm Ieuenctid Byddar Cymru i wella mynediad at addysg a gwasanaethau mewn Iaith Arwyddion Prydain: sicrhau mwy o gyfleoedd i deuluoedd ddysgu BSL; ychwanegu BSL at y cwricwlwm cenedlaethol; gwella mynediad at addysg drwy gyfrwng BSL ar gyfer plant a phobl ifanc; a darparu gwell mynediad at wasanaethau mewn BSL, megis iechyd, addysg, gofal cymdeithasol a thrafnidiaeth gyhoeddus.  

Iaith Arwyddion Prydain yw pedwaredd iaith frodorol y DU, a chafodd ei chydnabod fel iaith yn ei hawl ei hun yn 2003, ac mae ymgyrchwyr yn galw am sicrhau bod defnyddwyr BSL i'r byddar yn cael eu hystyried yn grŵp iaith leiafrifol. Ar hyn o bryd, ceir plant byddar mewn addysg brif ffrwd yng Nghymru heb fynediad llawn at gymorth cyfathrebu a chyfoedion byddar eraill. O ganlyniad, maent yn gadael yr ysgol yn 16 oed gydag oedran darllen cyfartalog o naw oed. Yn aml hefyd, mae eu sgiliau llafar a'u sgiliau darllen gwefusau yn wael, rhywbeth nad yw wedi newid ers y 1970au, ac mae methiannau addysg gynyddol brif ffrwd yn gwaethygu hyn. Cyfyngedig yw mynediad teuluoedd at grwpiau cymorth a theuluoedd tebyg eraill, ac nid ydynt yn gallu dysgu BSL oni bai eu bod yn gallu fforddio'r costau uchel. Nid oes unrhyw gyfle i blant a phobl ifanc byddar na'u teuluoedd ddysgu eu hiaith eu hunain, BSL, nac ennill cymwysterau BSL hyd nes eu bod yn 16 mlwydd oed, pan fyddant yn gadael yr ysgol. Maent wedi eu hamddifadu o sgiliau bywyd pwysig, sgyrsiau newid bywyd o fewn y cartref a newyddion lleol a byd-eang.

Fis diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog addysg fod ieithoedd tramor modern yn cael eu cynnwys o fewn ieithoedd rhyngwladol yn y cwricwlwm, ac y byddai hyn hefyd yn cynnwys BSL. Fodd bynnag, nid yw BSL yn iaith dramor, mae'n iaith frodorol. Er bod y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi datgan eu bod yn derbyn y bydd strwythur y cwricwlwm newydd yn hwyluso gallu ysgolion i ddysgu BSL drwy'r cwricwlwm newydd, maent wedi datgan eu bod yn credu y gallai Llywodraeth Cymru fynd ati'n weithredol i annog ysgolion i fynd ar drywydd yr opsiwn hwn. Aethant ymlaen i ddweud bod annog mwy o ysgolion i ddysgu BSL yn hollbwysig, o ystyried ei statws fel iaith swyddogol yng Nghymru. Dywedasant fod gormod o blant byddar sy'n ddefnyddwyr BSL iaith gyntaf yn cael cymorth mewn ysgolion ar hyn o bryd gan staff heb fwy na lefel sylfaenol iawn o iaith arwyddion. Maent yn siomedig iawn na dderbyniwyd argymhelliad gan y comisiynydd plant y dylid sicrhau bod mynediad at BSL ar gael i bob teulu sydd â phlant byddar, ac roeddent yn dweud bod angen neges gryfach hefyd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn dechrau ystyried darpariaeth ar gyfer dysgu BSL fel rhan o'u dyletswydd i ddiwallu anghenion dysgu ychwanegol plant byddar, gan nad oedd hyn yn digwydd ar hyn o bryd, meddent.

Mewn ymateb, dywedodd Deffo! Cymru mai dim ond y rheini sydd yn yr ysgol uwchradd sy'n elwa o'r TGAU, ond bydd dysgu o'r dosbarth meithrin yn paratoi pob un o'r rhai fydd yn gwneud TGAU mewn BSL yn y dyfodol, neu yn wir, y system gyfredol o Gymwysterau BSL.

Er eu bod yn croesawu gweledigaeth y Gweinidog addysg ar gyfer addysgu ieithoedd mewn ysgolion, maent yn bryderus mai dewis yr ysgol ydyw, nid dewis y plentyn, er mwyn eu galluogi i wella mynediad at ddysgu, addysg bellach, sgiliau cymdeithasol, gweithgareddau hamdden, cyflogaeth a chyflawniadau bywyd.

Ddeuddeng niwrnod yn ôl, ymwelais â grŵp trefnu cymunedol Cymru yn Ysgol St Christopher yn Wrecsam, ar eu cais, i drafod eu gwaith ar archwilio'r posibilrwydd y gallai Cymru ddilyn esiampl yr Alban a chynnwys BSL yn y cwricwlwm.

Mae etholwyr byddar yng ngogledd Cymru wedi e-bostio'n dweud:

mae pobl fyddar rwy'n eiriolwr drostynt yn dioddef ledled Cymru ac mae llawer mewn argyfwng iechyd meddwl, gan ychwanegu bod Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain ar flaen y gad yn brwydro am gydnabyddiaeth gyfreithiol i BSL yng Nghymru, ac mae'n gofyn i awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus lofnodi eu siarter ar gyfer BSL, a gwneud pump addewid i wella mynediad a hawliau ar gyfer defnyddwyr BSL. Mae gennym siarter eisoes—gadewch i ni ei defnyddio—ond ar hyn o bryd, dau yn unig o awdurdodau lleol Cymru sydd wedi llofnodi.

Fis Hydref diwethaf, gelwais ar Lywodraeth Cymru i ymateb i alwadau am ddeddfwriaeth BSL yng Nghymru a wnaed yng nghynhadledd Clust i Wrando 2018 gogledd Cymru, gan edrych ar Ddeddf BSL yr Alban 2015 a'u cynllun BSL cenedlaethol ar gyfer 2017 a sefydlodd grŵp cynghori cenedlaethol yn cynnwys hyd at 10 o bobl fyddar sy'n defnyddio BSL fel eu dewis iaith neu eu hiaith gyntaf. Er bod Deddf Cymru 2017 yn gwneud cyfle cyfartal yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, byddai Bil BSL (Cymru) yn cydymffurfio pe bai'n ymwneud â'r eithriadau a restrir yn y Ddeddf. Heb ddeddfwriaeth sy'n seiliedig ar hawliau penodol, nid yw deddfwriaeth generig Llywodraeth Cymru yn mynd i unman.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:52, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi yn awr alw ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams?

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 3:53, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Lywydd, rwy'n falch iawn ein bod yn cael y ddadl hon heddiw. [Arwyddo mewn BSL.] A hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith yn y maes hwn ac am ei adroddiad a'i argymhellion. Ysgrifennais at y Cadeirydd fis Tachwedd diwethaf gydag ymateb Llywodraeth Cymru, felly nid wyf yn bwriadu ailadrodd yr ymateb hwnnw'n fanwl y prynhawn yma. Ond i fod yn gwbl glir, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion yr adroddiad, naill ai'n llawn, neu yn achos un argymhelliad, mewn egwyddor, oherwydd bod yr argymhelliad hwnnw'n ymwneud â mater cymwysterau ar lefel TGAU.

Mae gan Lywodraeth Cymru gorff cymwysterau annibynnol ac fel y mae'r Aelodau wedi'i grybwyll, mae rhywfaint o waith eisoes wedi cael ei wneud gyda Cymwysterau Cymru mewn perthynas â TGAU. Penderfynwyd na fyddai TGAU annibynnol i Gymru yn ymarferol, ond y gallai TGAU Cymru a Lloegr ddwyn ffrwyth yn sicr. Yn y cyfamser, mae'n bwysig cydnabod bod cymwysterau cyfatebol ar lefel 1 a lefel 2 ar gael, a bod y cymwysterau hynny'n cyfrif tuag at fesur atebolrwydd ysgolion. Ond byddaf yn ysgrifennu at Cymwysterau Cymru i gael y newyddion diweddaraf am y gwaith y maent yn ei wneud ar y cyd â byrddau arholi yn Lloegr, a byddaf yn hapus i roi copi o'r llythyr hwnnw yn y llyfrgell.

Cydnabu Llywodraeth Cymru Iaith Arwyddion Prydain yn ffurfiol fel iaith yn ei hawl ei hun yn 2004, a fi fyddai'r cyntaf i gydnabod y gellid gwneud mwy i ddatblygu dull cydgysylltiedig o hyrwyddo a chefnogi BSL, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i gydnabod hyn. Rydym yn parhau i roi sylw i'r problemau a'r anawsterau y mae aelodau o'r gymuned fyddar yng Nghymru yn eu hwynebu. Mae hyn yn cynnwys cefnogi hyfforddiant i gynyddu nifer y dehonglwyr cymwysedig yng Nghymru, ac rydym wrthi'n tendro am adolygiad o'r ddarpariaeth BSL ar gyfer oedolion yng Nghymru, a daw adroddiad yr adolygiad i law ym mis Mehefin. Rydym yn ymwybodol fod y ddarpariaeth bresennol yn gyfyngedig. Mae'n gyfyngedig o ran y cynnig, mae'n gyfyngedig o ran mynediad a'r gallu i'w ddarparu hefyd. Er hynny, yr hyn sy'n bwysig yn y pen draw yw fy mod eisiau datblygu system deg a chyfiawn. Felly, bydd yr adolygiad hwnnw'n edrych ar y ddarpariaeth bresennol. Byddwn hefyd yn edrych ar y galw cudd am ddarpariaeth BSL ar gyfer oedolion yng Nghymru, pa ffactorau sy'n hwyluso ein Deddf fel rhwystr i'r galw hwnnw, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried BSL fel sgil cyfathrebu hanfodol, ac fel y cyfryw, faint fydd cost ei ddarparu i lefel 2 ac a oes gennym weithlu i'w ddarparu i lefel 2. Felly, bydd y gwaith hwn yn parhau, ac fel y dywedais, cyflwynir adroddiad yn ei gylch ym mis Mehefin.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 3:56, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Mae siarter genedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau ac adnoddau i blant a phobl ifanc byddar a'u teuluoedd yn un o'r opsiynau rydym yn eu hystyried. Rydym yn rhagweld y byddai'r siarter honno, rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, yn ein helpu i ddeall y ddarpariaeth bresennol. Byddai hefyd yn adlewyrchu'r canllawiau arferion da a'r safonau sy'n cael eu datblygu ar fyddardod a cholli clyw i gefnogi'r gwaith o weithredu ein Deddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant. Yn hollbwysig, byddai hefyd yn ein helpu ni i fynd i'r afael â'r prinder dehonglwyr a thiwtoriaid ar hyn o bryd.

Er mwyn cynorthwyo awdurdodau lleol ymhellach i gynllunio eu gweithlu a nodi anghenion hyfforddi, rydym wedi cyhoeddi data, a gomisiynwyd gennym oddi wrth Uned Ddata Cymru, i ddarparu gwybodaeth am weithlu arbenigol awdurdodau lleol. Yn sicr, mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau bod BSL ar gael i blant y nodwyd eu bod ei hangen. Fodd bynnag, bydd y cwricwlwm newydd, y byddwn yn ei gyflwyno o fis Ebrill ymlaen, yn caniatáu i ysgolion ddatblygu cwricwla sy'n ateb anghenion ac yn adlewyrchu diddordebau eu disgyblion. Bydd maes dysgu a phrofiad ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, yn cwmpasu ystod eang o ieithoedd, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain, iaith nad wyf erioed wedi'i disgrifio fel 'iaith dramor'.

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), a gyflwynwyd y llynedd, yn rhoi mantais i ni hefyd. Bydd yn sicrhau gwelliannau i blant ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys y rhai â nam ar y clyw. Mae tegwch a chydraddoldeb yn greiddiol i'r Ddeddf, ac mae'n anelu i sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gynorthwyo i gyrraedd ei botensial llawn, beth bynnag yw'r potensial hwnnw. Disgwylir y bydd y Ddeddf yn dod i rym ym mis Medi 2020, a bydd y cyfnod cyflwyno fesul cam yn para tan 2023. Tan hynny, mae'n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio â'r dyletswyddau a osodwyd arnynt gan Ddeddf Addysg 1996, a'r cod ymarfer anghenion addysgol arbennig ar gyfer Cymru.

Ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth, rwyf hefyd yn gweithio i godi lefelau cyrhaeddiad dysgwyr ag anghenion ychwanegol. Dylid nodi anghenion yn gynnar a dylid mynd i'r afael â hwy yn gyflym fel bod pawb yn cael cyfle, fel y dywedais, i gyrraedd eu potensial. Rwyf eisiau i bob disgybl allu mwynhau eu haddysg, i fod yn uchelgeisiol ac i lwyddo beth bynnag y maent yn dewis ei wneud, a dyna pam rydym wedi datblygu rhaglen drawsnewid ynghyd â'r Ddeddf ADY, oherwydd ni fydd unrhyw beth yn llai na thrawsnewidiol yn dderbyniol. Rwyf wedi ymrwymo £20 miliwn i hyn dros gyfnod y Cynulliad hwn i ddarparu cymorth, cyngor a her i awdurdodau lleol, ysgolion, lleoliadau blynyddoedd cynnar a sefydliadau addysg bellach wrth iddynt baratoi i weithredu'r diwygiadau ADY. Bydd cyfran sylweddol o'r £20 miliwn o gyllid yn mynd tuag at ddatblygu'r gweithlu. Yn unol â'n cenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg, rwyf wedi dyrannu £289,000 dros dair blynedd i gefnogi hyfforddiant proffesiynol i weithlu cymorth synhwyraidd yr awdurdodau lleol. Mae'r cyllid hwn yn cynnwys hyfforddiant BSL ar amrywiol lefelau, a hyfforddiant ôl-raddedig i athrawon y byddar.

Rydym hefyd yn datblygu dull cenedlaethol o weithredu dysgu proffesiynol gydol gyrfa—dull sy'n adeiladu capasiti addysgwyr o bob math, gan gynnwys staff cymorth addysgu, athrawon dosbarth ac arweinwyr ysgolion. Yr hydref diwethaf, buom yn ymgynghori ar safonau proffesiynol drafft ar gyfer cynorthwyo addysgu, ac rydym yn disgwyl y byddant yn barod ym mis Medi eleni. Mae dysgu proffesiynol gydol gyrfa yn un o bum dimensiwn y safonau hyn, ac mae'n berthnasol er mwyn ateb anghenion pob dysgwr. Cyfeirir at bwysigrwydd hyn yn y gwerthoedd a'r ymagweddau trosfwaol a ddaw gyda'r safonau. Rydym wedi sicrhau bod cyfrifoldebau penaethiaid i hwyluso hyn wedi'u cynnwys yn eu safonau arweinyddiaeth ffurfiol.

Mae ein blaenoriaethau i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad ar gyfer pob myfyriwr a meithrin hyder y cyhoedd yn ein system addysg yn ganolog i'n gweledigaeth a'n gweithredoedd ar gyfer addysg yng Nghymru. Caiff pob un o'r diwygiadau rydym yn gweithio arnynt gyda'n gilydd eu gyrru gan y tair blaenoriaeth, a bydd eu cyflawni'n sicrhau bod ein holl ddysgwyr a'n holl athrawon yn cael eu cefnogi i fod y gorau y gallant fod. Rwy'n hapus iawn, Lywydd, i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad pan ddaw'r adroddiad a gomisiynwyd i law. A gaf fi orffen drwy ddweud fy mod yn hapus iawn i gefnogi Iaith Arwyddion Prydain? [Arwyddo mewn BSL.]

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:00, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw ar David Rowlands i ymateb i'r ddadl?

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Aelodau a gyfrannodd at y ddadl hon. Rwy'n ymddiheuro am fethu ymateb i'r Aelodau'n unigol, ond mae'r amser sydd ar gael yn gyfyngedig iawn. Felly, rwyf am ganolbwyntio ar ymatebion y Gweinidog. Mae'n braf iawn gwybod y gallwch gael lefelau 1 a 2 mewn BSL, ac mae hefyd yn braf canfod bod yna gronfa o £20 miliwn bellach yn cael ei rhoi—ond eto, yn anffodus, i gynghorau lleol heb fod rhan ohono wedi'i neilltuo. Felly, mae'n gwbl amlwg nad yw llywodraeth leol yn bod mor gyfrifol ag y dylai fod a'u bod yn amlwg yn methu darparu cyfleoedd BSL.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

(Cyfieithwyd)

Cewch, wrth gwrs.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am dderbyn fy nghwestiwn. Fy nghwestiwn yw—. Mae fy nhîm a minnau wedi gallu cael hyfforddiant BSL drwy'r fan hon, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'n tîm datblygu staff, a hoffwn gofnodi fy niolch iddynt. A fyddech yn cytuno, mewn gwirionedd, ei bod hi'n ddyletswydd ar bob un ohonom fel Aelodau i ystyried dysgu BSL efallai? Mae'r tîm datblygu staff yma yn fwy na pharod i ddarparu hyn. Credaf y dylai pawb ohonom fod yn hyfedr ein hunain wrth inni symud ymlaen. Diolch.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 4:02, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Janet, ar y sail honno, ond rydym yn sôn yma am addysg ar sail ehangach o lawer, a'r hyn rydym yn sôn amdano, mewn gwirionedd, yw darparu BSL i blant yn arbennig o fewn y system addysg, a'r gwir amdani yw nad oes unrhyw lwybr penodol i'r plant hyn ei ddilyn. A diolch i'r Gweinidog am ei bod yn dweud ein bod yn mynd ar drywydd y posibilrwydd o TGAU mewn BSL, ond rydych yn dilyn o'r hyn y mae Lloegr yn ei wneud. Nawr, rydym i fod i fod yn arloesol yng Nghymru ac yn sicr, dylem fod ar flaen y gad ar y sail honno.

Felly, i gloi, Lywydd, rwy'n gobeithio bod y ddadl hon a'r broses ddeisebau yn gyffredinol wedi bod yn brofiad cadarnhaol i Deffo! a'u cefnogwyr, a diolch iddynt unwaith eto am eu hymwneud â'r pwyllgor a'r Cynulliad cyfan. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth bellach i'r pwyntiau ychwanegol a godwyd gan y pwyllgor a chan Aelodau eraill sydd wedi siarad y prynhawn yma, ac yr eir ar drywydd yr holl argymhellion a wnaed gan y pwyllgor. Diolch yn fawr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:03, 6 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.