– Senedd Cymru ar 20 Chwefror 2019.
Symudwn yn awr at eitem 8, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ariannu ysgolion. Galwaf ar Suzy Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6975 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r fformiwla asesu seiliedig ar ddangosydd (IBA) ar gyfer 'gwasanaethau ysgolion' ar hyn o bryd, sy'n cyfrifo faint o arian sydd ei angen ar bob awdurdod lleol yn genedlaethol i'w wario ar ei ysgolion.
2. Yn cydnabod:
a) diffyg tryloywder yn y fformiwla IBA a phenderfyniadau dilynol awdurdodau lleol o ran ariannu ysgolion; a
b) y dryswch ymysg y cyhoedd ynghylch sut y caiff ysgolion unigol eu hariannu drwy awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a grantiau penodol Llywodraeth Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio dull dealladwy o werthuso a chyfleu effeithiolrwydd holl ffrydiau ariannu ysgolion, yn arbennig;
a) eu heffaith ar gyrhaeddiad a deilliannau eraill dysgwyr;
b) cymorth a datblygiad staff;
c) safonau ysgolion; a
d) cyflawni yn erbyn amcanion polisi ehangach Llywodraeth Cymru.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Yn sicr cafwyd newid gêr eleni o ran nifer y cwynion gan ysgolion ac awdurdodau lleol ynglŷn â thanariannu. Nid yw cynghorau yn fodlon gadael i'r Llywodraeth hon gael rhwydd hynt mwyach i feio popeth ar gyni fel y'i gelwir, ac yn wir ni allant wneud hynny, oherwydd mae'r cyllid gwaelodol, a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr hynny, yn golygu bod Cymru—. Yma cawn £1.20 am bob £1 a werir yn Lloegr.
Wrth wraidd y cwynion a gawn gan rieni ac arweinwyr ysgolion, fodd bynnag, mae'r hyn y maent yn dechrau ei weld—[Torri ar draws.]—mae'r hyn rydym yn dechrau ei weld fel annhegwch o ran ariannu rhwng ysgolion o fewn yr un awdurdod lleol, heb sôn am gymharu â siroedd eraill, ynghyd â pheth gofid ynghylch ffyrdd newydd o ariannu, nad ydynt bob amser yn cyflawni eu blaenoriaethau—blaenoriaethau sy'n aml yn codi oherwydd galwadau gan y Llywodraeth. A dyna pam y cyflwynasom y ddadl hon: er mwyn canfod y dystiolaeth y tu ôl i'r dryswch ac i annog y Gweinidog i ddweud wrthym am y rhesymau sydd ganddi dros fynd â ni i'r sefyllfa hon—sefyllfa yr ymddengys ei bod yn fodlon â hi yn ôl gwelliant y Llywodraeth. Wel, nid yw ein hetholwyr, arweinwyr ysgolion, cynghorau a rhieni yn fodlon. Dyna pam y mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i ariannu ysgolion—ymchwiliad y gobeithiwn y byddai'r ddadl hon yn ei helpu. A dyna pam y mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig iawn ynglŷn â gwelliant y Llywodraeth i'r ddadl hon. Roeddwn yn gobeithio y byddai hyn yn ymwneud â syniadau, ond mae dileu'r cynnig cyfan a dweud bod popeth yn iawn oherwydd y canllawiau, wedi methu'r pwynt yn llwyr fod ein hetholwyr yn cael trafferth gydag ariannu ysgolion er gwaethaf y canllawiau hyn. Felly, ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliant.
Mae'r pwynt cyntaf yn methu mynd i'r afael â'r diffyg tryloywder ynglŷn â beth sy'n digwydd rhwng cyfrifo'r ffigur asesu seiliedig ar ddangosydd a'r gwariant gwirioneddol ar ysgolion gan lywodraeth leol. Cyhoeddwyd y rheoliadau sy'n darparu'r canllawiau yn 2010, ac eto ni wnaeth y canllaw cwestiynau cyffredin y cyfeirir ato yng ngwelliant 2 ymddangos nes mis Medi 2018, pan oeddem ar fin gwneud ein hymchwiliad pwyllgor, rhaid i mi ychwanegu. Ac o ran eu hansawdd, yr ateb i'r cwestiwn allweddol, 'Sut fedra' i fod yn siŵr bod y dyraniad cyllid ar gyfer fy ysgol i yn gywir?', yw 'dylech gysylltu â'ch awdurdod'.
Mae trydydd pwynt y gwelliant yn dweud bod y canllawiau yn unol â dogfen bolisi 'Cenhadaeth ein Cenedl'. Ac efallai fod hynny'n wir, ond ddoe, yn y ddadl Estyn, Weinidog, fe fethoch yn llwyr â mynd i'r afael â fy mhwyntiau am archwilio a rheoli risg prosesau gwerthuso cyfredol, gan ddewis siarad am y rhai newydd y byddech yn eu cyflwyno. Felly, rwy'n gofyn y cwestiwn hwnnw eto heddiw. Hoffwn i chi ddweud wrthym yn union sut rydych yn gwerthuso effeithiolrwydd y ffrydiau ariannu penodol yn erbyn eich amcanion polisi a sut y caiff y prosesau gwerthuso hynny eu harchwilio gan eich swyddogion ac archwilwyr allanol i weld a ydynt yn addas i'r diben.
Felly, gadewch i ni gael golwg ar pam y mae ein hetholwyr yn ddryslyd. Mae eich ffigurau tybiannol eisoes yn ystyried yr hyn rydych yn ei ddisgwyl yn y grant bloc, Weinidog. Mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Cymru yn aml yn cael ychydig mwy nag a ragwelwyd, sy'n egluro'r cyllidebau atodol yn ystod y flwyddyn. Ar gyfer 2018-19, y flwyddyn sydd newydd ddod i ben, a chyda'r sylwadau hyn mewn cof, cyfrifodd y Llywodraeth fod y gyllideb gros dybiannol ar gyfer ysgolion i'w chynnwys yn y grant cynnal refeniw yn £2.56 biliwn, gyda ffigur tybiannol o £2.24 biliwn i'w ddirprwyo i'r ysgolion eu hunain. Mewn gwirionedd, cafodd yr ysgolion £2.16 biliwn. Felly pam oedd awdurdodau lleol yn meddwl bod angen llai ar ysgolion nag y credech chi fod ei angen arnynt?
Teimlai cyngor Sir Gaerfyrddin y gallai wario £4 miliwn yn llai nag y credech chi fod ei angen arnynt. Gwariodd Sir Benfro, lle mae un o bob 10 ysgol gynradd a 37 y cant o'r ysgolion uwchradd yn y categori coch, £1.6 miliwn yn llai ar ysgolion nag credech chi y dylent ei wneud. A hyn cyn inni gyrraedd yr amrywio enfawr o ran faint y mae awdurdodau lleol yn ei gadw'n ganolog. Ym Mhowys, mae hwnnw'n 25 y cant, ac yng Nghaerdydd mae'n 10 y cant. Ac er bod rhesymau dealladwy iawn am hynny, o ran natur wledig a theneurwydd poblogaeth, mae natur wledig a theneurwydd poblogaeth yn effeithio ar yr ysgolion eu hunain lawn cymaint â'r ddarpariaeth o wasanaethau canolog, felly onid ydynt hwy angen rhagor hefyd? Rydych yn dechrau gweld pam rwy'n gofyn cwestiynau am eich prosesau mewnol o werthuso effeithiolrwydd y modd y gweithredir eich penderfyniadau.
Mae'r Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau yn beio'r ffaith na chaiff cyllid ysgolion ei neilltuo, fel y gwyddoch. Yr hyn a welaf i yw tueddiad cynyddol i osgoi llwybr y grant cynnal refeniw oherwydd nad ydych yn ymddiried yn ddigonol yn y cynghorau i wario digon o'r hyn a roddwch iddynt ar ysgolion, ac ni allwch wynebu'r frwydr. Ond nid yw llywio arian drwy grantiau canolog a chonsortia yn mynd i lawr yn dda chwaith. Mae'n dechrau edrych fel tacteg sefydledig Llywodraeth Cymru o ranbartholi'n llechwraidd. Mae'r consortia'n cyfeirio'r gwariant o £230 miliwn. Mae awdurdodau lleol yn brigdorri eu cyllidebau ysgol i gyfrannu tuag at hynny. Mae'n ymddangos nad yw'r grant datblygu disgyblion, y credaf ei fod yn syniad gwerthfawr, wedi lleihau'r bwlch cyrhaeddiad yn y ffordd y credwn y byddai'n ei wneud ar y cychwyn. A'r £139 miliwn ar gyfer gwella ysgolion—wel, nid wyf am ailadrodd y cyfan o'r ddadl ddoe; gwneuthum y pwynt nad yw'r amrywiol ffurfiau ar werthuso yn gyson ac nid ydynt yn arwain yn gyson at wella ysgolion sy'n methu. Felly, ymddengys bod £230 miliwn yn llawer iawn o arian am yr ychydig iawn a gyflawnwyd.
Mae'r Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau wedi cyfrifo nad yw £450 miliwn o gyllideb addysg y Llywodraeth a allai fynd i ysgolion yn eu cyrraedd drwy unrhyw lwybr, i gyflawni eich blaenoriaethau hwy neu eich rhai chi. Ac rydych wedi dweud wrthym, Weinidog, ym mis Gorffennaf, eich bod yn edrych ar yr union bryder hwn am arian yn cael ei ddal yn ôl mewn awdurdodau lleol neu gonsortia ac yn methu cyrraedd ysgolion. Dywed Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru ei bod yn bryd cadw rheolaeth ar y consortia. Credaf ei bod yn bryd i chi rannu eich canfyddiadau ynglŷn â'r gwaith hwnnw gyda ni i weld a ydym yn cytuno gyda'r Undeb Addysg Cenedlaethol.
Nawr, hoffwn ddod yn ôl at y grant datblygu disgyblion am eiliad, oherwydd mae hon yn enghraifft dda yn fy marn i o pam rwy'n dod yn ôl at gwestiwn effeithiolrwydd, oherwydd rydym yn cefnogi diben y grant datblygu disgyblion. Fodd bynnag, mae Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru ac Estyn wedi mynegi pryderon ynglŷn â sut y mae'r arian wedi'i dargedu at gyflawnwyr isel a bod ein disgyblion mwy galluog a thalentog yn parhau i gael eu dal yn ôl gan eu cefndiroedd incwm isel. A gwelodd y pwyllgor rywbeth tebyg iawn. Felly, nid yw llythyr at ysgolion yn ddigon da. Sut ydych yn bwriadu sicrhau tystiolaeth o ddefnydd mwy effeithiol o'r arian hwn ar draws yr ystod gallu, yn enwedig gan y bydd rhagor o blant bellach yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o dan y newidiadau i'r credyd cynhwysol? Rydym yn derbyn na ellir gwario'r grant datblygu disgyblion mewn gwagle ac os ceir budd achlysurol i blant nad ydynt yn cael prydau ysgol am ddim, wel, mae hynny'n iawn, ond credaf fod yn rhaid i chi ofyn, Weinidog, a yw defnyddio'r grant datblygu disgyblion i gyflogi cynorthwywyr addysgu yn dechrau celu'r ffaith mewn gwirionedd nad oes gan ysgolion gyllid craidd i gyflogi staff o gwbl.
Nawr, gadewch i ni gymharu dwy ysgol gynradd yn ardal un cyngor yn fy rhanbarth i, ac mae'r ddwy yn y categori gwyrdd. Mae gofyniad grant datblygu disgyblion uchel gan un ohonynt, digon o staff ymroddedig a chymeradwyaeth gynnes gan Estyn, ac mae'n ei haeddu. Mae gofyniad grant datblygu disgyblion y llall yn isel, mae ganddi nifer tebyg o fyfyrwyr, ond mae'n edrych ar ddiswyddo'i staff ymroddedig ac yn gofyn i rieni dalu am offer. Mae'n dal i gael cymeradwyaeth gan Estyn.
Yn gryno, dyma y mae'r ysgol honno yn ei ddweud, ac rwy'n ei grynhoi: 'Mae'n ymddangos bod tybiaeth ar ran y Llywodraeth y bydd rhieni'n gwneud iawn am y diffyg cyllid. Nid yw ein disgyblion a disgyblion mewn ysgolion tebyg yn cael cymaint o adnoddau neu ddarpariaeth ag ysgolion mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Mae hyn wedi arwain at'—a dyma'r rhestr—'ddiswyddo staff; toriadau o ran gwariant ac adnoddau, safle, iechyd a diogelwch, felly nid yw disgyblion bellach yn cael cymorth yn y dosbarth; nid ydym bellach yn gallu cynnal athro cymwysedig yn ein dosbarth meithrin; nid ydym yn gallu cyllido athro cymwysedig i lenwi dros amser cynllunio, paratoi ac asesu statudol i bob aelod o staff'. Maent yn ystyried torri oriau ysgol am hanner diwrnod yr wythnos er mwyn rhoi'r amser cynllunio, paratoi ac asesu y mae ganddynt hawl gyfreithiol iddo i athrawon. 'Prinder cynorthwywyr addysgu i fodloni'r cymarebau a argymhellir ar gyfer y cyfnod sylfaen; nid oes arian ar gyfer swyddog lles neu swyddog presenoldeb wedi'i hyfforddi'n briodol; nid yw'r uwch dîm rheoli yn cael amser rheoli; nid oes digon o adnoddau i staff allu gwneud eu gwaith; nid yw disgyblion yn cael cymorth yn y dosbarth mwyach; mae cyflwr yr adeilad a'r tir yn dirywio; mae'r gofalwr yn rhan-amser; os yw cynorthwywyr addysgu'n absennol oherwydd salwch, anaml y ceir cynorthwywyr addysgu yn eu lle yn y tymor byr; os yw staff addysgu'n absennol oherwydd salwch, ni cheir neb yn eu lle ar y cychwyn, ac wedi hynny caiff eu gwaith ei rannu rhwng aelodau eraill o staff, gan gynyddu maint dosbarthiadau ac achosi problemau llwyth gwaith'—[Torri ar draws.] Iawn, diolch.
Suzy, gwn eich bod yn ymwybodol fod y pwyllgor rydych yn aelod ohono'n cyflawni ymchwiliad mawr i ariannu ysgolion, ond rwyf ychydig yn ddryslyd ynghylch y catalog hir hwn o anawsterau y cyfeiriwch atynt, oherwydd rwy'n meddwl tybed o ble y credwch y daw'r pwysau ariannol a orfodir ar ysgolion mewn gwirionedd, gan mai eich Llywodraeth yn San Steffan sydd wedi torri ein grant.
Credaf imi ateb y cwestiwn hwnnw ar y dechrau un, oherwydd—ac fe ddof at hyn—mae'n rhy hawdd rhoi bai ar Lywodraeth y DU am hyn, oherwydd mae'r problemau rwy'n sôn amdanynt—[Torri ar draws.] Beth am i chi adael i mi ddod at ddiwedd fy araith, ac fe gewch atebion. Fe gymeraf ymyriad arall, os mynnwch, i arbed ychydig o amser ar hyn.
Yn fyr, mae'r holl restr hon rwyf wedi'i chrybwyll wrthych yn tanseilio amcanion y Llywodraeth hon ac nid wyf yn meddwl bod unrhyw un ohonom eisiau hynny. Er fy mod yn derbyn y bydd y cwricwlwm newydd yn galw am ddatblygiad proffesiynol sylweddol, nid wyf yn siŵr na fyddai'r miliynau ychwanegol y daethoch o hyd iddynt yn ystod y flwyddyn ar gyfer cyllido datblygiad proffesiynol parhaus yn ganolog wedi'u gwario'n well—un enghraifft yw hon, Lynne—ar helpu ysgolion eleni, yn hytrach na brys munud olaf i'w wario ar baratoi ar gyfer meysydd dysgu a phrofiad, nad ydynt yn barod eto.
Felly, yn fyr, mae perygl yma na ellir bodloni amcanion polisi oherwydd bod ysgolion yn cael eu tangyllido drwy fod awdurdodau lleol yn dargyfeirio arian o fewn y grant cynnal refeniw a methiant i ddirprwyo, ynghyd â chyllid uniongyrchol, sy'n gadael rhai ysgolion allan yn gyfan gwbl. Fel y dywedais, mae'n rhy hawdd beio Llywodraeth y DU am hyn. Mae'r risgiau penodol yn codi o'r hyn sy'n digwydd rhwng cyfrifo fformiwla asesu seiliedig ar ddangosydd a beth y mae ysgolion yn ei gael gan gynghorau mewn gwirionedd, yn ogystal ag arian yn cael ei gyfeirio'n ganolog at ddibenion nad ydynt wedi gwneud eu marc eto o ran effeithiolrwydd. Ac nid wyf yn credu bod hynny, ynghyd â her cwricwlwm newydd a chymwysterau newydd, yn annog pobl i mewn i'r proffesiwn addysgu chwaith.
Fel y dywedais ar y dechrau, mae Llywodraeth Cymru yn gwybod faint o arian y bydd yn ei gael ar ddechrau'r broses o benderfynu beth yw'r fformiwla asesu seiliedig ar ddangosydd. Ni allwch weld bai, bryd hynny, os yw'r awdurdodau lleol wedyn yn dechrau mynd ag arian allan o'r hyn y maent wedi bod yn ei ddisgwyl, oherwydd bod Llywodraeth Cymru, fel y dywedais ar y dechrau, yn cael ychydig bach mwy yn y pen draw gan Lywodraeth y DU nag a ragwelai'n wreiddiol.
Y pwynt olaf rwyf am ei wneud, Ddirprwy Lywydd, yw bod y canllawiau cyllido ysgolion yn naw mlwydd oed. Maent bron yn hanner oes y Cynulliad hwn. Fformiwla cyllido'r grant cynnal refeniw, fformiwla cyllido asesu seiliedig ar ddangosydd, canllawiau cyllido ysgolion—yn y gwersi hanes y mae eu lle. Ac wrth wneud y cynnig hwn, rwy'n gofyn i chi, Weinidog: pa wersi rydych chi wedi'u dysgu o'r hyn y mae ein hetholwyr yn ei ddweud wrthych?
Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar y Gweinidog Addysg i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi bod fformiwlâu asesu seiliedig ar ddangosydd (IBA) cyfredol ar gyfer 'gwasanaethau ysgolion' yn modelu angen cymharol awdurdodau i wario ar wasanaethau ysgolion, o ystyried y cyllid sydd ar gael a chan ragdybio ynghylch y dreth gyngor a blaenoriaethau gwario.
2. Yn croesawu’r canllawiau ‘Cyllid ar gyfer ysgolion’, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n egluro’r trefniadau cyllido ysgolion.
3. Yn cydnabod bod holl ganllawiau Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ynghylch cyllido a pholisi yn cefnogi cyflawni yn unol â chynllun gweithredu ‘Cenhadaeth ein Cenedl’ i godi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad, a sicrhau system addysg y mae gan y cyhoedd hyder ynddi.
Rwy'n cynnig yn ffurfiol.
Diolch. Paul Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a dwi'n falch o gael y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma.
Rŷn ni wedi clywed gan weithwyr proffesiynol yn y byd addysg yn ddiweddar eu bod yn credu bod y lefelau isel o ariannu ysgolion yng Nghymru yn rhwystro eu gallu i gyflwyno gwersi i'r safonau y maen nhw eu hangen. Mae yna ddiffyg adnoddau, ac, yn gynyddol, mae diffyg cyflenwad staffio llawn yn tanseilio gallu'r ysgolion yng Nghymru i sicrhau'r safonau addysg gorau posib. Nid fy ngeiriau i yw'r rhain, ond geiriau NUT Cymru, ac mae’r dystiolaeth yn dangos bod y model cyllido bresennol yn cael effaith wirioneddol ar safonau addysgol ledled Cymru, yn enwedig yn fy etholaeth i.
Yn anffodus, yn gynharach eleni, dangosodd ffigurau categori ysgolion Llywodraeth Cymru fod gan sir Benfro'r canran uchaf o ysgolion cynradd sydd angen y gefnogaeth fwyaf. Yn ôl y ffigurau hynny, cafodd 10.7 y cant o ysgolion cynradd yr awdurdod eu categoreiddio fel coch, o'i gymharu â dim ond 3.6 y cant yn y flwyddyn flaenorol. Mae hynny'n naid syfrdanol mewn dim ond 12 mis, ac, erbyn hyn, fel dywedodd Suzy Davies, mae mwy nag un o bob 10 ysgol gynradd yn sir Benfro yn y categori cymorth coch, sydd angen cymorth ychwanegol.
Nawr tra fy mod i'n derbyn nid y model cyllido yw’r unig reswm pam mae sir Benfro yn wynebu her mewn safonau ysgol, mae'n sicr yn glir dyw’r asesiadau sydd yn seiliedig ar ddangosyddion gwasanaethau'r ysgol ddim yn cwrdd ag anghenion ysgolion yn fy etholaeth i. Mae'n amlwg bod lefel anghyson mewn cyllid ar draws gwahanol rannau o Gymru a bod yr anghysondeb yma yn rhwystro safonau.
Codwyd yr anghysondeb hwnnw y llynedd gan Michael Davies, pennaeth Ysgol y Preseli yng Nghrymych, a ddywedodd fod ei ysgol yn edrych ar doriadau dyfnach nag erioed o'r blaen, gan gynnwys cyrsiau TGAU a phartneriaethau â cholegau lleol. Rhybuddiodd, a dwi’n dyfynnu:
Rydym wedi torri popeth i lawr i'r asgwrn—ac, yn anffodus, mae'n rhaid inni edrych ar dorri'r adnodd pwysicaf oll, sef y staff addysgu a'r staff cynorthwyol.
Felly, efallai, wrth ymateb i’r ddadl hon y prynhawn yma, gall y Gweinidog ddweud wrthym ni sut mae Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael yn benodol â phryderon penaethiaid yn sir Benfro dros y flwyddyn ddiwethaf, a hefyd dweud wrthym ni pa gamau pellach y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â hyn.
Nawr, mewn ymateb i ystadegau dosbarthu ysgolion, mae'r Gweinidog wedi nodi bod y system wedi dod yn fwy soffistigedig dros amser. Yn wir, efallai mai dyma beth sydd wedi digwydd, ond, i lawer yng Nghymru, gwelir bod y system yn rhy fiwrocrataidd, ac, fel y mae'r ystadegau eu hunain yn dangos, mewn rhai rhannau o Gymru nid yw'r consortia rhanbarthol yn darparu ar gyfer disgyblion mewn rhai meysydd.
Dengys ffigurau gan Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru fod consortiwm gwella ysgolion yn cadw £40 miliwn, sydd felly ddim wedi cyrraedd ein hysgolion, ar adeg pan fo ysgolion yn cael eu tan-ariannu. Mae hyn, yn syml, yn annerbyniol. Dyw e ddim yn iawn fod cyllid hanfodol yn cael ei gadw pan fo ysgolion ledled Cymru yn gorfod ymdopi â chyllidebau llai. Yn wir, mae Cymdeithas Genedlaethol Penaethiaid Cymru wedi holi a yw'r consortia rhanbarthol yn rhoi gwerth am arian, gan ddweud, a dwi'n dyfynnu, 'Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ysgolion wedi torri'n sylweddol, yn enwedig o ran lefelau llai o gyllideb ddirprwyedig, o ganlyniad i lywodraethu trydedd haen ormodol yng Nghymru.'
Felly, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru nawr yn asesu effeithiolrwydd y consortia rhanbarthol a gweld a ydynt yn wirioneddol yn cyflawni'r canlyniadau y mae angen inni eu gweld mewn ysgolion ledled Cymru. Y cwestiwn yw: a yw'r consortia hyn yn ychwanegu gwerth at ein system addysg, neu a ydyn nhw yn syml yn wastraff adnoddau ac yn creu lefel ychwanegol o fiwrocratiaeth?
Dirprwy Lywydd, wrth wraidd y ddadl hon yw’r awydd i weld ysgolion yng Nghymru'n ffynnu ac rŷn ni ar yr ochr hon o'r Siambr yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru werthuso ei fformiwlâu ariannu fel y gellir deall yn well ddeilliannau dysgwyr a gwerth am arian. Mae’r sefyllfa bresennol yn ei gwneud hi’n anodd iawn i ganfod pa mor effeithiol yw cyllid ysgolion yng Nghymru. Heb ddeall effeithiolrwydd y gwariant, ychydig iawn o liferau sydd ar ôl gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen ar y system addysg. Wrth gwrs, mae gyda ni ein syniadau ein hunain fel mae gwella’r system, megis ariannu ysgolion yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, a byddai hyn yn sicr yn arwain at fwy o arian yn cyrraedd ein hystafelloedd dosbarth.
Yn naturiol, mae heriau eraill hefyd, nid yn bennaf oll daearyddiaeth Cymru. Mae cost darparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig yn ddrud o'i chymharu ag addysgu disgyblion mewn ysgolion mwy. Rŷn ni'n gwybod bod awdurdodau gwledig wedi cyfeirio at gostau cludiant ysgol fel rhywbeth sy’n anodd ei reoli, ac nid yw'r gost honno'n bodoli yn ein hardaloedd trefol. Felly, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ei modelau cyllido wedi pasio’r prawf gwledig i sicrhau bod awdurdodau gwledig ddim o dan anfantais wrth dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Felly, wrth gloi, Dirprwy Lywydd, mae ein cynnig ni yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ei modelau cyllido a sefydlu ffordd well o fonitro effeithiolrwydd ei gwariant fel bod y cyhoedd yn gallu deall sut mae ysgolion unigol yn cael eu hariannu ac felly rŷn ni'n gallu cyflawni'r canlyniadau gorau posib i ddysgwyr yng Nghymru. Felly, dwi'n annog Aelodau i gefnogi'r cynnig.
Er mwyn i'r ddadl hon heddiw fod o fudd gwirioneddol, mae'n werth sefydlu rhai paramedrau sylfaenol. Mae agenda gyni barhaus Llywodraeth y DU wedi arwain at doriad o bron £1 biliwn i gyllideb gyffredinol Cymru. Mae hyn yn real. Er gwaethaf hyn, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gweithio'n galed i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru rhag y toriadau sylweddol ac wedi cymryd camau uniongyrchol i flaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus allweddol drwy lywodraeth leol, ac mae hynny'n cynnwys ysgolion. Mae'n werth atgoffa ein hunain nad yw Llywodraeth Lafur Cymru yn ariannu ysgolion yn uniongyrchol. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am benderfynu faint o arian a ddyrennir i ysgolion o gyfanswm yr adnoddau sydd ar gael iddo, a disgwylir i bob awdurdod lleol ymgysylltu â'i ysgolion ar faterion y gyllideb yn ei fforwm cyllideb ysgolion, ac maent yn gwneud hynny.
Mae gan Lywodraeth Lafur Cymru ymrwymiad clir a hirsefydlog i gyllid ysgolion, er gwaethaf y ffaith bod y grant bloc, erbyn diwedd y Cynulliad diwethaf, dywedaf eto, 8 y cant yn is mewn termau real na'r hyn ydoedd yn 2010-11. Mae Llafur Cymru mewn Llywodraeth wedi cyflawni ei hymrwymiad—[Torri ar draws.] Gwnaf mewn eiliad—i ddiogelu gwariant ar ysgolion ac wedi rhyddhau £106 miliwn ychwanegol ar gyfer ysgolion Cymru. Ac mae gwella'r system addysg yn flaenoriaeth Lafur Cymru. Iawn.
Diolch yn fawr, ac roeddwn am gyfleu'r pwynt hwn: beth bynnag yw'r swm y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael, mae'n rhoi ffigur dangosol i gynghorau. Nid yw'r ysgolion yn cael y ffigur a ddynodwyd iddynt, a dyna'r bwlch rwy'n ceisio ei nodi yn hytrach na'r cyllid cychwynnol.
O'r gorau. Rwy'n cydnabod mewn gwirionedd, os ydym yn edrych ar beth sy'n digwydd ar draws y dŵr yn Lloegr, fe welwch fod problem enfawr o ran cyllid ar gyfer ysgolion yn Lloegr, ac a dweud y gwir, mae'r bwlch y soniwch amdano yr un fath ledled Cymru. Nid wyf am gymryd unrhyw wersi ar hynny, er gwaethaf y rhethreg nad yw hynny bob amser wedi bod yn wir ar gyfer ariannu ysgolion yn Lloegr. Fel athro, cyn dod i'r Cynulliad, ac fel llywodraethwr ysgol, rwy'n cofio diswyddo athrawon, ac nid oes unrhyw amheuaeth fod ein sector cyhoeddus yn teimlo straen ariannol a basbortiwyd. Felly, hoffwn ofyn inni ysgwyd y goeden arian hud honno ar gyfer Cymru.
Byddai'r blaenoriaethau gwario a amlinellwyd yn y gyllideb amgen Geidwadol ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn 2011 wedi arwain at doriad o 12 y cant yng nghyllideb addysg Cymru yn y Cynulliad diwethaf. Pe bai wedi'i phasio, byddai hynny'n cyfateb i bron i 10,000 o athrawon yn colli eu swyddi—[Torri ar draws.] Nid oes gennyf amser, mae arnaf ofn—toriadau i'n gweithlu ac i'r gyllideb a fyddai wedi cael effaith drychinebus ar ganlyniadau addysgol i'n pobl ifanc. Nawr, naill ai fod y Ceidwadwyr Cymreig yn chwarae gwleidyddiaeth neu roeddent o ddifrif yn meddwl y byddai torri niferoedd staff addysgu i'r fath raddau a chynyddu maint dosbarthiadau i 50 neu 60 o ddisgyblion yn helpu i godi safonau addysg yng Nghymru. Felly, y tu hwnt i syniad hiraethus a hanner pob y byddai ailgyflwyno ysgolion gramadeg a dethol yng Nghymru yn ein codi i'r entrychion ar restr y rhaglen ryngwladol asesu myfyrwyr, nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig, nac UKIP rwy'n credu, wedi dangos unrhyw awydd i wneud y gwaith caled, y gwaith polisi caled a fyddai'n cynnig dewis amgen yn lle'r weledigaeth a gyflwynwyd dros y pedair blynedd diwethaf ac fel sydd wedi'i chydnabod gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.
Felly, gadewch inni gymharu a chyferbynnu. Mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi cwtogi cyllid—fy mhwynt cynharach—ym mhob maes addysg, o'r blynyddoedd cynnar i ysgolion i addysg bellach ac oedolion, gyda biliynau o bunnoedd wedi'u colli ers iddynt ddod i rym yn gyntaf yng ngwanwyn 2010. Nid ysgolion academi a phroses ddethol remp sy'n digwydd yn agored a'r tu ôl i ddrysau caeedig yw'r model rydym am ei weld yng Nghymru. Ers 2015, mae'r Torïaid wedi torri, ac rwyf am ddweud hyn, £2.7 biliwn oddi ar gyllidebau ysgolion yn Lloegr. Felly, mae'n ddrwg gennyf, ond ni wyf am gymryd unrhyw wersi ar hynny. Mae dadansoddiad o'r ffigurau a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid annibynnol yn dangos bod cyllidebau ysgolion £1.7 biliwn yn is mewn termau real nag yr oeddent bum mlynedd yn ôl.
Mae gan Lafur yng Nghymru uchelgais ar gyfer ein pobl ifanc, a bydd y Blaid Lafur yng Nghymru yn cyflawni ar gyfer ein pobl ifanc. Fel y dywedodd yr OECD, er hynny, fe fydd yn gwneud hynny'n deg, fe fydd yn gwneud hynny'n gynhwysol, a bydd yn gwneud hynny heb ddethol.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl, yn enwedig am fod y prif siaradwr o'n meinciau ni wedi agor y ddadl mewn ffordd mor huawdl, gan dynnu sylw at yr heriau sy'n wynebu llawer o ysgolion ledled Cymru. Nid wyf yn bychanu'r heriau y mae'r Gweinidog/Ysgrifennydd y Cabinet yn awr, mae'n ddrwg gennyf, yn eu hwynebu yn y trafodaethau ar y gyllideb o fewn y Llywodraeth. Ond mae'n ffaith, gyda chyllid gwaelodol newydd sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, am bob £1 a ddaw i Gymru, mae £1.20—
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny?
Fe gymeraf yr ymyriad â phleser.
Mae'r ffigur yn anghywir ac mae'n dangos diffyg dealltwriaeth o'r modd y caiff Cymru ei hariannu. Os edrychwch ar gyllid wedi'i nodi a chyllid nad yw wedi'i nodi, maent yn dangos bod y ffigur sy'n dod i Gymru yn sylweddol is na hynny ac mae'n is na'r hyn sy'n mynd i Lundain. Felly, nid yw pedlera'r 120c am bob 100c sy'n mynd i Loegr yn wir o gwbl.
Mae'n wir. Yn wir, cydnabu'r Prif Weinidog presennol hynny pan oedd yn Weinidog cyllid. Un peth y mae pawb ohonom yn ei wybod yw hyn: pe bai Cymru'n mynd yn annibynnol, byddai'n cael ei thangyllido'n ddifrifol. Rydym yn cyflawni canlyniadau llawer mwy drwy fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig, fel y mae'r boblogaeth yn ei ddangos dro ar ôl tro. [Torri ar draws.]—rwyf wedi cymryd un ymyriad, hoffwn wneud rhywfaint o gynnydd yn fy nghyfraniad.
Yr hyn sy'n wirioneddol hanfodol ei ddeall yma, yn amlwg, yw bod rhai o'r materion cyllido hyn—. Rydym yn gwybod bod llai o arian yn y pot yn gyffredinol, oherwydd pan ddaeth y Llywodraeth i rym yn 2010, gadawodd Prif Ysgrifennydd y Llywodraeth Lafur nodyn a ddywedai fod yr arian i gyd wedi mynd. Felly, nid oedd coed arian hud pan ddaethom i mewn. Fe wnaethom gadw economi i dyfu gyda chyfraddau cyflogaeth uwch nag erioed a buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Ond mae'r hyn a ddigwyddodd yma yn y Cynulliad yn eithaf clir, mae'r Llywodraeth wedi achub croen y byrddau iechyd dro ar ôl tro ac nid yw wedi cael cyfrifoldeb cyllidebol o fewn y byrddau iechyd, ac eto mae addysg a gwasanaethau cyhoeddus allweddol eraill wedi dioddef oherwydd hynny. Mae'n eithaf clir, roedd rheol tair blynedd y gyllideb a gyflwynwyd gan yr Ysgrifennydd cyllid pan oedd yn Ysgrifennydd cyllid i fod i gydbwyso'r gyllideb, ac eto, bob tro, mae addysg wedi dioddef yn sgil diffyg profiad ac anghymhwystra, buaswn yn awgrymu, yn rhai o'r byrddau iechyd o ran rheoli pwysau eu cyllidebau eu hunain. Dyna sydd angen i'r Llywodraeth hon ei ddeall.
Mae'n ffaith bod llawer iawn o amgylcheddau ysgol mor wahanol ar hyd a lled Cymru, ac mae honno'n her i awdurdodau lleol ei rheoli. Cofiaf ymweld ag ysgol gynradd y Rhath yn fy rhanbarth i, lle roedd y pennaeth yn dweud wrthyf fod mwy na 30 o ieithoedd yn cael eu siarad yn yr ysgol gynradd honno. Yna gallwch fynd i ysgol gynradd wledig fach lle nad oes mwy na 20, 30 neu 40 hyd yn oed ar y gofrestr wrth gwrs, ac eto rydych yn ceisio cyflwyno cwricwlwm a chynnig cyfleoedd bywyd i'r bobl ifanc hynny. Felly, rhaid inni fyfyrio ar y ffaith bod yr amrywiaeth o ysgolion ledled Cymru yn galw am wahanol lefelau o gyllid. Nid wyf yn bychanu'r heriau hynny.
Ond pan fo undeb, y Gymdeithas Athrawon a Darlithwyr, yn tynnu sylw at y ffigurau a amlygwyd ganddynt yn ddiweddar, mae hynny'n sicr yn cyfiawnhau ac yn teilyngu dadl, a dyna a gawn yma y prynhawn yma. Pan edrychwch ar ffigurau'r arian wrth gefn, gyda thua £450 miliwn nad yw'n cyrraedd yr ystafell ddosbarth, does bosib nad oes raid inni ofyn y cwestiwn, 'Pam y cyfanswm hwnnw?' Nawr, rwy'n derbyn yn llwyr fod rhai gwasanaethau'n cael eu darparu'n well gan yr awdurdod lleol yn hytrach na'u rhannu, ac mae trafnidiaeth yn enghraifft dda o hynny, yn enwedig mewn lleoliad gwledig. A ddylai ysgol fach o 30 neu 40 o ddisgyblion fod yn ceisio ymdopi â thrafnidiaeth? Yn amlwg, ni fyddai ganddynt bresenoldeb yn y farchnad i gael y fargen orau bosibl. Ond mae £450 miliwn yn gyfran deg o arian allan o gyllideb o £2.5 biliwn sy'n cael ei chadw gan awdurdodau lleol. Does bosib na ellir dwyn mwy o bwysau er mwyn gostwng y niferoedd, yn enwedig pan fydd gennych rai awdurdodau fel Caerdydd, er enghraifft, sy'n cadw 10 y cant o'r arian cyn iddo ddod i'r ystafell ddosbarth yn hytrach nag awdurdodau lleol eraill, y rhai sy'n perfformio waethaf, buaswn yn awgrymu, sy'n cadw 25 y cant neu 30 y cant efallai o'r arian hwnnw. Mae honno'n ddadl sydd i'w chael, a chofiaf ragflaenydd y Gweinidog presennol, Leighton Andrews, yn amlwg yn ceisio gwasgu am hynny, a chafwyd peth llwyddiant.
Felly, mae'r ddadl hon yn ymwneud mewn gwirionedd â cheisio rhoi sylw i'r pryderon sydd wedi ein hwynebu fel Aelodau Cynulliad dro ar ôl tro gyda'n hetholwyr, wrth iddynt geisio deall arian wedi'i neilltuo, heb ei neilltuo, pam y mae'r athro hwn a hwn yn cael ei ddiswyddo, pam nad yw'r ystafell ysgol honno wedi cael ei hadnewyddu, pam nad yw'r rhaglenni cyfrifiadurol wedi'u diweddaru, ac ati, pan ddywedir wrthym dro ar ôl tro fod symiau uwch nag erioed o arian yn mynd i mewn yn ôl yr honiad. Gwyddom fod cwricwlwm newydd yn dod ger ein bron yn 2021 hefyd, a bydd yn galw am fuddsoddiad, ond yr hyn a wyddom dros 20 mlynedd o Lywodraeth dan arweiniad y Blaid Lafur yma yng Nghymru, yn anffodus, o ran y tabl cynghrair rhyngwladol, yw ein bod wedi methu cyflawni fel gwlad. Does bosib nad un o'r dangosyddion allweddol yw'r gallu i ddarparu arian i'r ystafelloedd dosbarth er mwyn cynyddu lefelau cyfranogiad athrawon mewn cyrsiau hyfforddi o ansawdd da ac yn anad dim, sicrhau amgylchedd y gall ein dysgwyr ffynnu ynddo. Mae hynny'n rhywbeth y mae pawb ohonom yn ei rannu—y dyhead ar gyfer ein hysgolion yma yng Nghymru. Yn anffodus, oherwydd camreoli gan Lafur Cymru mewn grym—[Torri ar draws.] Mae'r cloc yn tician. Oherwydd camreoli Llafur mewn grym, af yn ôl at fy sylw agoriadol, rydym wedi gweld achub croen y byrddau iechyd dro ar ôl tro pan fyddant wedi mynd dros y gyllideb i raddau enfawr, a'r awdurdodau addysg lleol yn gorfod lleihau eu gwariant oherwydd eu bod wedi'u hamddifadu o unrhyw arian ychwanegol a allai ddod mewn symiau canlyniadol ar hyd yr M4. Felly, mae'r ddadl hon yn amserol, mae'n berthnasol, ac rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad yn ei chefnogi.
Yn y lle cyntaf, fe hoffwn i ganmol ein hathrawon a'r staff yn ein hysgolion am eu hymroddiad parhaus i'r dasg gynyddol anodd o ddysgu ein disgyblion. Maen nhw'n gweithio o dan gyfyngiadau penodol o ddiffyg adnoddau a chyllid i lawer gormod o ymyrryd yn eu gwaith bob dydd. Mae’r proffesiwn dan bwysau aruthrol ar hyn o bryd, ac mae angen dweud 'diolch' iddyn nhw am barhau i geisio ysbrydoli ein plant a'n pobl ifanc ar lawr y dosbarth, sef eu priod waith ar ddiwedd y dydd. Ond mae’r cyd-destun yn un heriol.
Mae argyfwng cyllid difrifol yn wynebu ysgolion ar draws Cymru sy’n cael effaith andwyol ar addysg ein pobol ifanc. Mae hyn yn cael ei danlinellu yn yr adroddiad 'Cut to the Bone?'. Mae £324 yn llai yn cael ei wario mewn termau real yn ôl y disgybl o'i gymharu â naw mlynedd yn ôl. Yn ôl y Llywodraeth ei hun, mae yna ddiffyg yng nghyllideb dwy o bob pump ysgol.
Mae Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau yn dyfynnu data ar niferoedd athrawon gan nodi bod gostyngiad o 1,416, sef 5.6 y cant, yn nifer athrawon, ac yn aml, mae'r rhain yn athrawon profiadol sydd wedi gadael yn gynamserol yn ystod y broses o gyflawni toriadau.
Dŷn ni'n gwybod bod y gacen yn lleihau yn sgil polisïau llymder y Torïaid. Mae'n ddiddorol nodi, felly, fod y cynnig sydd gerbron heddiw yn manylu am un agwedd benodol o gyllido ysgolion. Mae Plaid Cymru yn cytuno bod yna ddiffyg tryloywder a dryswch am y fformiwla, a dŷn ni'n cytuno hefyd fod angen edrych ar effeithiolrwydd yr holl ffrydiau ariannu ysgolion ac, efallai, angen creu un ffrwd ariannu a chytuno ar sut i fesur llwyddiant.
Beth sy'n siomedig yw bod y Llywodraeth, drwy ei gwelliant, yn meddwl bod popeth yn iawn. Wel, mi ddywedaf i wrthych chi dydy popeth ddim yn iawn. Dŷn ni'n gwybod bod y broblem yn cychwyn efo'r Torïaid yn Llundain a'r ymgyrch ideolegol i danseilio ein gwasanaethau cyhoeddus drwy eu polisïau llymder nhw. Does dim rhyfedd, felly, bod y Torïaid yng Nghymru yn mynd at y glo mân, gan anwybyddu'r eliffant yn yr ystafell, sef bod y pot arian cyhoeddus yn gyffredinol yn crebachu, a bod angen buddsoddi, nid torri, ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Ond mi fuaswn i'n dadlau hefyd: oes, mae angen i'r gacen gyhoeddus fod yn fwy yn y lle cyntaf, ond mae angen iddi hefyd gael ei thorri mewn ffordd sydd yn cyd-fynd yn well efo rhai o brif strategaethau'r Llywodraeth yng Nghymru. Dydy'r gwasanaethau ataliol ddim yn cael eu siâr ddigonol o gyllideb y Llywodraeth, a pha well enghraifft o wasanaeth ataliol nag addysg? Mae angen edrych yn llawer mwy holistaidd ar y gyllideb yn ei chrynswth a symud i ffordd o raniadau amrwd. Mae angen ariannu gwasanaethau sy'n atal problemau rhag datblygu mewn ffordd mwy priodol.
A beth am y sleisen o’r gacen sy’n mynd at addysg? Oes digon o'r sleisen addysg yn mynd at ein hysgolion, a beth a fedrid ei wneud i sicrhau bod yr arian yn cael ei wario yn briodol? Dwi yn gobeithio y bydd gwaith y Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg yn bwydo i’r drafodaeth honno.
Gwaith y Llywodraeth yma ydy edrych yn hir a chaled ar y dystiolaeth a dod i gasgliadau a gweithredu yn ôl hynny. Dydy’r gwelliant, fel yr un sydd gerbron heddiw, yn helpu dim ar neb. Mae angen gwrando ar beth mae’r proffesiwn yn ei ddweud wrthym ni. Mae yna rai yn gofyn a ydy’r consortia yn sugno gormod o arian, a oes yna ddyblygu gwasanaethau ar draws yr amryfal haenau. Oes angen cyllidebau tair blynedd? Mae yna bryder bod cyllid drwy grantiau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn creu ansicrwydd, yn arwain at ddull tameidiog, yn peidio ag adlewyrchu blaenoriaethau lleol bob amser. Maen nhw’n faich biwrocrataidd, a bod canran rhy uchel ohonyn nhw’n cael eu defnyddio ar gyfer tracio a monitro ac ati, ac ati. Mi allaf i ymhelaethu ar y materion penodol yna sydd angen sylw, a dwi’n edrych ymlaen at gyfrannu at waith y pwyllgor i gyfrannu tuag at hynny i gyd.
Dydy’r safbwynt o 'mae popeth yn iawn' ddim yn taro deuddeg, ac mae yn achos arall o’r Llywodraeth yma’n claddu ei phen yn y tywod tra bod ein hysgolion ni’n gwegian a’n pobl ifanc ni’n cael eu gadael i lawr.
Nid yw fformiwla Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu ysgolion yng Nghymru yn addas i'r diben. O ganlyniad, mae arweinwyr ysgol a rhanddeiliaid wedi dweud bod diffyg cyllid cronig wedi rhoi ysgolion o dan bwysau ariannol difrifol. Mae'r system yn ddiffygiol, gyda fawr ddim tryloywder, cydlyniant na chysondeb. Mae arwyddion perygl wedi bod yn amlwg ers peth amser. Y llynedd, cynhyrchodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd adroddiad a oedd yn dadlau bod gwahaniaethau yn y modelau ariannu lleol yn achosi pryderon ynghylch triniaeth anghyfartal i ysgolion mewn amgylchiadau tebyg. Yn ôl yr OECD, gallai diffyg chwarae teg o ran ariannu ysgolion effeithio ar allu ysgolion i weithredu'r cwricwlwm newydd. Aethant ymlaen i ddweud y dylai Llywodraeth Cymru ystyried adolygu'r model cyllido ysgolion os ydynt yn dymuno gwireddu eu huchelgais ar gyfer cydraddoldeb ac addysg a lles myfyrwyr. Nid yw ariannu ac addysg anghyfartal yn bethau dieithr i Lywodraeth Cymru. Ceir bwlch gwariant y disgybl o bron £700 rhwng Cymru a Lloegr, ond caiff y bwlch gwariant hwn ei ailadrodd rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru, diolch i'r fformiwla ariannu ddiffygiol hon. Yn ddiweddar tynnodd arweinydd Cyngor Bro Morgannwg sylw at y ffaith bod y gwariant fesul disgybl yn ei awdurdod lleol £600 yn is na chyfartaledd Cymru. Dylai pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru gael yr un lefel sylfaenol o fuddsoddiad yn eu dyfodol. Ni all fod yn iawn fod loteri cod post yn bodoli ar gyfer ariannu ysgolion yng Nghymru.
Mae Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon hefyd wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu,
Mae'n bryd cael dadl onest, agored ac aeddfed am gyllidebau ysgolion yng Nghymru.
Aethant ymlaen i ddweud:
Nid yw arweinwyr ysgolion yn gwybod a oes digon o arian yn y system ysgolion.
Ac maent hefyd yn dweud:
Mae angen archwiliad cenedlaethol ac mae angen inni weld dull o ariannu ysgolion sy'n fwy teg a thryloyw.
Yr wythnos diwethaf, ysgrifennodd Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru at y Gweinidog Addysg. Yn y llythyr hwn, roeddent yn mynegi eu rhwystredigaeth a'u gofid am yr argyfwng ariannu difrifol yn ysgolion Cymru a'r effaith niweidiol a gaiff hynny ar ddisgyblion a phobl ifanc. Roeddent yn tynnu sylw at yr effaith y mae'r argyfwng cyllid yn ei chael ar gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru, ac maent yn dyfynnu 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl'. Maent yn dweud y gellir gweld y canlyniadau mewn dosbarthiadau mwyfwy o faint, gostyngiad yn nifer y staff cymorth, a thorri llawer o weithgareddau y tu allan i'r cwricwlwm gorfodol. Ond roeddent yn codi un mater arall o bryder sylweddol, sef y swm o gyllid ysgol nad yw byth yn cyrraedd y rheng flaen. Ni all fod yn iawn fod tua £450 miliwn o arian addysg yn cael ei gadw gan awdurdodau lleol neu gonsortia rhanbarthol. Mae angen system sy'n ariannu ysgolion yn uniongyrchol ac sy'n rhoi mwy o reolaeth gwario i athrawon. [Torri ar draws.] Ie, ewch chi.
A ydych yn cydnabod gwerth y gwaith gwella addysg y mae'r consortia addysg yn ei wneud ledled Cymru neu beidio?
Wel, ni allaf—. Mae hynny'n wahanol—. Rydym yn sôn am y bwlch cyllido ysgolion. Gadewch y consortia allan ohono oherwydd rydym yn poeni am gyllido ysgolion yma. Mae arnom angen system sy'n cyllido ysgolion yn uniongyrchol—dyna rwy'n ei ddweud—nid consortia, un sy'n rhoi mwy o reolaeth ar wariant i athrawon, rhieni a llywodraethwyr, gan gyfeirio mwy o arian i'r ystafelloedd dosbarth yn hytrach nag i rywle arall.
Ddirprwy Lywydd, os ydym yn mynd i rannu adnoddau'n decach ac yn fwy cyfartal, mae angen fformiwla ariannu newydd. Derbynnir ar draws y sector addysg nad yw'r system bresennol yn ddigonol. Mae'r OECD, awdurdodau lleol, cyrff proffesiynol a rhanddeiliaid yn cydnabod hyn. Yn anffodus, Llywodraeth Cymru'n unig sy'n methu ei gydnabod. Gofynnaf i'r Gweinidog adolygu'r system ariannu ysgolion i sicrhau bod pob plentyn yn cael yr addysg o ansawdd uchel y maent yn ei haeddu.
Ac yn olaf, Weinidog, os ydym mewn grym, bydd tri maes y byddwn yn rhoi arian ar eu cyfer yn fwy effeithlon ac effeithiol. Un yw addysg grefyddol ar wrth-Semitiaeth a dealltwriaeth o ffydd a chred a dim eithafiaeth ymhlith y plant. Ac arian ar gyfer meysydd chwaraeon; mae iechyd plant o'r pwys mwyaf. Ac yn olaf, dosbarthiadau cerddoriaeth, a fyddai'n cael eu hariannu o'r ochr hon i'r Siambr. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl a diolch i'r Aelodau am siarad yn y ddadl? Er na fuaswn o reidrwydd yn cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelodau ar y meinciau Ceidwadol neu feinciau Plaid Cymru, a gaf fi ddweud pa mor ddiolchgar wyf fi fod ganddynt ddigon o ddiddordeb mewn addysg yng Nghymru i gymryd rhan? Ddirprwy Lywydd, fe sylwais mai dyma'r ail ddiwrnod yn ddilynol i ni gael dadleuon pwysig ar addysg ac nid yw Aelodau UKIP wedi cyfrannu unwaith.
Lywydd, buaswn yn dadlau bod dau fater yn cael ei drafod yma y prynhawn yma. Y cyntaf, yn seiliedig ar gynnig y Ceidwadwyr, yw trafodaeth ar y dull sydd gennym yng Nghymru o ariannu ysgolion, a'r ail, yn fwy cyffredinol, yw'r wasgfa ar gyllid gwasanaethau cyhoeddus a chyllidebau ysgol, ac rwyf am roi sylw i'r ddau bwynt yn eu tro.
O ran y pwynt a nododd Suzy Davies ynghylch archwilio, rhaid imi ddweud bod pob menter Llywodraeth Cymru, megis y grant datblygu disgyblion neu'r cyfnod sylfaen, yn destun adolygiad academaidd annibynnol. O ran yr adnoddau ariannol sy'n gysylltiedig â'r grantiau hynny, caiff y rheini eu harchwilio bob blwyddyn, boed yn grantiau a roddir i awdurdodau lleol neu'n grantiau a roddir i'r consortia rhanbarthol, ac rydym yn edrych yn gyson ar wella hynny. Felly, eleni, er enghraifft, cawsom ffocws newydd ar ganlyniadau ar gyfer yr holl arian grant hwnnw.
Os caf symud ymlaen, mae cynnig y Ceidwadwyr yn canolbwyntio'n bennaf ar y fformiwla asesu seiliedig ar ddangosydd a mecanweithiau ariannu ysgolion. Maent yn sôn am ddiffyg tryloywder, ac eto rwy'n nodi bod y cynnig yn methu cynnig unrhyw atebion neu beth y byddent hwy'n ei wneud yn wahanol. Ac yn wir, o'r cyfraniadau gan rai o'r Aelodau Ceidwadol yma heddiw, ymddengys bod anghytundeb ynglŷn â'u hagwedd tuag at hyn. Nid yw Suzy Davies am imi wario arian ar ddysgu proffesiynol ar gyfer athrawon, ond mae Andrew R.T. Davies yn cydnabod bod hwnnw'n wariant gwirioneddol werthfawr. Mae Oscar—Mohammad Asghar yn dweud y dylid rhoi'r holl arian i ysgolion, ond mae Andrew R.T. Davies, unwaith eto, yn cydnabod, mewn rhai achosion, fel trafnidiaeth neu wasanaethau AAA arbenigol, ei bod yn well i rai gwasanaethau gael eu darparu ar sail ranbarthol neu awdurdod lleol.
Gadewch inni fod yn gwbl glir: cytunir ar y fformiwla asesu seiliedig ar ddangosydd gan yr is-grŵp dosbarthu, a chyn i unrhyw un ddweud mai ystryw yw hyn yn erbyn awdurdodau lleol gwledig, mae'r is-grŵp hwnnw'n cynnwys cynrychiolwyr o Wynedd, Powys, Sir Fynwy a Bro Morgannwg. Caiff y data a ddefnyddir i gyfrifo'r fformiwla asesu seiliedig ar ddangosydd ei ddiweddaru bob blwyddyn, a'r setiau data yn y fformiwla asesu seiliedig ar ddangosydd yw niferoedd disgyblion, cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim a theneurwydd poblogaeth, ac os nad yw'r Torïaid yn cytuno ag unrhyw un o'r setiau data hynny, dylent ddweud pa rai nad ydynt yn cytuno â hwy. Serch hynny, Ddirprwy Lywydd, fe fyddaf yn onest, rwy'n derbyn ac yn cytuno y gall y modd y caiff ysgolion eu hariannu fod yn ddryslyd. Mae fformiwlâu ariannu, o ran eu natur, yn greaduriaid cymhleth ar y cyfan. Dyna'n union pam y gofynnais i fy swyddogion wneud ymdrechion pellach i gyhoeddi manylion yn esbonio sut y caiff ysgolion eu hariannu. Ac fel y cyfeiriodd Suzy Davies, cyhoeddwyd tudalen newydd ym mis Medi ar wefan Llywodraeth Cymru sy'n nodi'n union sut y caiff ysgolion eu hariannu. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod angen cadw materion o dan arolwg ac archwilio a yw'r systemau presennol yn gweithio ar eu gorau. Ac rwyf fi a'r Gweinidog llywodraeth leol wedi dweud yn glir iawn nad oes gennym unrhyw wrthwynebiad i newidiadau i'r fformiwla. Mae'r is-grwp dosbarthu llywodraeth leol wedi nodi addysg fel ffrwd waith ar gyfer edrych ar ddulliau amgen o sefydlu'r fformiwla asesu seiliedig ar ddangosydd, ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo gyda'r gwaith hwn.
Ond Ddirprwy Lywydd, mae angen i'r Aelodau fod yn ofalus hefyd o ran yr hyn y maent yn galw amdano. Mae pobl wedi siarad heddiw am fformiwla newydd ar gyfer ariannu ysgolion, un genedlaethol. Rwy'n deall y galwadau hyn, ond rhaid inni wynebu'r realiti: mae perygl i fformiwla ariannu newydd greu ansefydlogrwydd sylweddol yn y cyllid i ysgolion. Ar draws y ffin, mae'r Ceidwadwyr eu hunain wedi penderfynu cyflwyno fformiwla ariannu genedlaethol newydd, a bydd Aelodau yn y Siambr hon yn cofio'r anhrefn a achosodd, gan gynnwys nifer fawr o Aelodau Seneddol Ceidwadol yn gwrthryfela yn erbyn y cynlluniau. Nawr, rwy'n derbyn, yn yr oes hon, nad yw mor anghyffredin â hynny i ASau Ceidwadol bleidleisio yn erbyn eu Llywodraeth eu hunain, ond mae'n werth ei nodi, serch hynny.
Felly, gadewch inni fod yn glir yma: byddai fformiwla ariannu newydd yn golygu y byddai rhai enillwyr, ond byddai rhai ar eu colled hefyd, ac nid wyf yn gweld neb yn y Siambr hon yn sefyll i gynnig unrhyw rai o'u hysgolion fel collwyr. Hefyd, fel y nododd Andrew R.T. Davies yn gwbl briodol, a fyddai un fformiwla ariannu genedlaethol yn adlewyrchu amrywiaeth y ddarpariaeth addysg Gymreig yn ddigonol mewn gwirionedd—ysgolion bach, gwledig; ysgolion mawr, trefol gyda phoblogaeth amrywiol iawn; ysgolion sy'n arbenigo mewn anghenion addysgol arbennig? Mae'r rhain oll yn faterion cymhleth y credaf y byddai'n anodd tu hwnt eu cyfleu mewn un fformiwla ariannu genedlaethol, a byddai hefyd yn newid radical i rôl awdurdodau addysg lleol a chynghorwyr a etholwyd yn uniongyrchol yn eu rôl mewn addysg. A gallaf ddweud wrthych nad yw arweinydd Ceidwadol cyngor Sir Fynwy yn cefnogi ariannu ysgolion yn uniongyrchol ac yn sicr ni chaiff ei gefnogi gan arweinwyr megis Ellen ap Gwynn yng Ngheredigion. Felly, gadewch inni fod yn glir beth y mae fformiwla ariannu genedlaethol yn ei olygu mewn gwirionedd i awdurdodau addysg lleol a rôl cynghorwyr etholedig lleol. Efallai mai dyna y mae'r Torïaid ei eisiau, ond dylent ddweud hynny'n uchel.
Ddirprwy Lywydd, ar y cyfan, nid y fformiwlâu, nid y grant cynnal refeniw, na'r grantiau wedi'u neilltuo yn wir, y bydd rhieni ac athrawon yn treulio amser yn siarad â mi yn eu cylch. Maent yn siarad â mi am eu siom oherwydd y toriadau a orfodwyd dros gyfnod parhaus o gyni economaidd, ac mae'r toriadau hynny, gadewch inni fod yn glir, wedi arwain at dynnu bron i £1 biliwn allan o gyllideb Cymru yn gyffredinol.
Nawr, o ran y Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau, a'r llythyr oddi wrthynt sydd wedi'i grybwyll sawl gwaith yn y Siambr y prynhawn yma, rwy'n rhoi sylw difrifol i'r hyn sydd ganddynt i'w ddweud. Nid wyf yn cydnabod y ffigur o £450 miliwn. Yn wir, maent wedi cydnabod wrth fy swyddogion a minnau fod y ffigur yn cynnwys gwasanaethau AAA yr AALl ac mae'n cynnwys cludiant ysgol, ac rwy'n siŵr na fyddai neb ohonom yn cytuno bod hwnnw'n arian nad oes angen ei wario. Ond bydd fy swyddogion yn trafod ymhellach gyda'r Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau, oherwydd byddai'n rhyfedd, oni fyddai, pe bai'r awdurdodau lleol a'r ysgolion unigol hynny o dan y fath bwysau—ac nid wyf yn dweud nad ydynt—ond byddai'n benderfyniad rhyfedd yn wir i ddyblygu gwasanaethau. Oherwydd wedi'r cyfan, gadewch i ni gofio, yr AALlau yw'r prif randdeiliaid yn y consortia rhanbarthol, felly pam y byddai AALl, sydd am flaenoriaethu cyllid ar gyfer ei ysgolion, yn penderfynu gwario arian yn dyblygu gwasanaeth y gallai'r consortia rhanbarthol ei ddarparu a'u bod hwy'n rhanddeiliaid yn y consortia rhanbarthol hynny? Byddai'n sefyllfa ryfedd iawn yn wir, oni fyddai? Byddai'n wrthnysig braidd. A dyna pam y bydd fy swyddogion yn trafod gyda'r Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau yr wythnos hon i ddeall o ble y deillia'r pryderon hynny.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, mae angen imi orffen, os nad oes gwahaniaeth gennych, Andrew.
Rwy'n cydnabod, pan fyddaf yn mynd i ysgolion, fy mod yn gweld y pwysau sydd ar ein hathrawon—wrth gwrs fy mod. Ond rwyf hefyd yn gweld eu hymrwymiad yn glir, eu brwdfrydedd a'u hysgogiad i gael y canlyniadau gorau posibl i'r plant y maent yn eu haddysgu. Ond rwy'n cydnabod bod angen cymorth pellach arnynt i gyd-fynd â'u hymrwymiad, a dyna pam rwy'n croesawu gwaith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ariannu ysgolion, ac edrychaf ymlaen at dderbyn yr adroddiad hwnnw. Dyna pam y mae'r Llywodraeth hon yn gwneud y buddsoddiad sengl mwyaf mewn athrawon ers datganoli, a wrthwynebir heddiw gan Suzy Davies, ac sy'n cael ei groesawu, dylid dweud, gan ein hundeb athrawon. Dyna pam rydym yn rhoi arian ychwanegol i mewn i'r grant datblygu disgyblion, dyna pam rydym yn lleihau maint dosbarthiadau, a dyna pam rydym yn cefnogi ysgolion bach a gwledig, i enwi tri o'r cynlluniau'n unig. Mae'r holl bethau hynny'n canolbwyntio ar godi safonau a lleihau'r bwlch cyrhaeddiad, ac ni fyddaf byth yn ymddiheuro am geisio gwneud hynny.
A gaf fi alw ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nawr, mae'r ddadl hon heddiw'n amserol iawn mewn gwirionedd, Weinidog. Mae nifer o'n hysgolion bellach yn gorfod gwneud penderfyniadau eithafol. Nid wyf yn meddwl ei bod hi'n gwrando, ond dyna ni. Mae hyn yn arbennig o wir yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, lle mae'r ysgolion eleni'n unig yn wynebu toriad mewn termau real o dros 7.6 y cant, sy'n cyfateb i dros £400,000 mewn rhai ysgolion uwchradd. Nawr, rwy'n gobeithio bod y Gweinidog yn ymwybodol o'r llythyr hwn sy'n mynd o gwmpas, ac mae wedi mynd adref at bob rhiant yn ysgolion Conwy, ac mae wedi'i lofnodi gan saith o benaethiaid ysgolion uwchradd. Maent yn dweud ei bod yn adeg dyngedfennol i'n hysgolion. Mae'r sefyllfa ariannol yn enbyd bellach. Maent yn gorfod ystyried dosbarthiadau mwy o faint, llai o athrawon; adeiladau ysgol sy'n dadfeilio; gostyngiad yn y cymorth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion lles; toriadau i niferoedd cynorthwywyr addysgu a staff cymorth; TG hen ffasiwn; llai o deithiau ysgol a gweithgareddau ar ôl ysgol; a grantiau'n cael eu defnyddio i gefnogi darpariaeth graidd ein hysgolion.
Mae'r sefyllfa hon wedi'i hategu gan arweinwyr ysgolion eraill sydd wedi mynegi pryderon cyson fod cyllid wedi'i dargedu megis y grant datblygu disgyblion yn cuddio annigonolrwydd y cyllidebau craidd, ac yn llenwi bylchau ynddynt. Er enghraifft, mae'r Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau wedi dweud bod cyllidebau craidd yn annigonol bellach i gynnal lefelau staff arbenigol, cynnal adeiladau ysgolion a phrynu'r offer angenrheidiol sydd ei angen i sicrhau bod ein holl ysgolion yn gallu darparu'r addysg orau bosibl i bobl ifanc Cymru. Gan ddefnyddio'r fformiwla presennol ar gyfer gwasanaethau ysgol, sef asesu seiliedig ar ddangosydd, mae awdurdodau lleol yn pennu eu hangen cymharol a faint o wariant y dylid ei ddyrannu i ysgolion. Fodd bynnag, nid yw pob awdurdod lleol yn darparu'r swm o arian a nodwyd yn y fformiwla seiliedig ar ddangosydd i ysgolion, ac mae hynny'n rhywbeth y dylech fod yn edrych arno. Er enghraifft, er bod y gwariant gros i ysgolion ar gyfer 2018-19 wedi'i gyllidebu'n £2.56 biliwn, y cyllid a ddirprwywyd i ysgolion mewn gwirionedd oedd £2.16 biliwn—llai na'r ffigur asesu seiliedig ar ddangosydd o £2.42 biliwn. Mae gwariant y disgybl yng Nghymru, fel y dywedodd Mohammad yma, bron £700 yn llai nag yn Lloegr, gyda diffyg o £283 miliwn. Er bod Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i 85 y cant o'r holl gyllid i ysgolion fynd yn uniongyrchol i ysgolion yn 2012, ni chyrhaeddwyd y targed erioed ar lefel Cymru gyfan.
Mae difrifoldeb y sefyllfa yn amlwg wrth ystyried bod y gymdeithas—[Torri ar draws.] Na, dim ond pedair munud sydd gennyf.
Mae Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru yn amcangyfrif, o'r £2.5 biliwn a ddyrannwyd ar gyfer ysgolion yn y gyllideb addysg, nad yw o leiaf £450 miliwn ohono'n cyrraedd yr ysgolion am ei fod yn cael ei gadw gan awdurdodau lleol neu gonsortia rhanbarthol. Fel y cyfryw, mae'n rhesymol gofyn beth sy'n digwydd ac a yw'r cyllid yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol.
Mae Suzy Davies yn hollol gywir i chwalu'r ddadl mai deillio o gyni y mae hyn. Mae llawer o ysgolion yn methu yn y system gategoreiddio ysgolion ar lefel genedlaethol, gan gynnwys un yn—[Torri ar draws.] Gadewch i mi orffen. Pedair munud sydd gennyf.
Mae'r effaith negyddol a gaiff hyn ar ddisgyblion yn amlwg wrth ystyried bod y bwlch rhwng cyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim a chyrhaeddiad disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi cynyddu rhwng 2016 a 2017. Disgrifiodd Paul Davies yn huawdl sut y mae ysgolion yn ei etholaeth yn dioddef o ganlyniad uniongyrchol i'r materion cyllido hyn. Mae hefyd yn gywir i nodi'r angen i adolygu'r consortia rhanbarthol eu hunain a'r treuliau a'r fiwrocratiaeth y maent yn eu hychwanegu. Rwy'n mynd o gwmpas fy ysgolion, rwy'n mynd o gwmpas i siarad â fy mhenaethiaid, a gallaf ddweud wrthych nad yw'r hyn a wnewch yn gweithio. Mae'r consortiwm rhanbarthol ynddo'i hun yn hunllef feichus a biwrocrataidd sy'n mynd ag arian oddi wrth ein hysgolion. Gofynnaf i chi, Weinidog, os gwelwch yn dda, os na wnewch unrhyw beth arall, adolygwch weithrediadau'r consortia rhanbarthol.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Rwy'n falch fod yr Aelodau wedi gwrando ar y rhybudd. Diolch i chi, clywais hynny. Felly, rwy'n gohirio'r pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.