– Senedd Cymru ar 20 Mawrth 2019.
Eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar y Cwrdiaid yn Nhwrci. Galwaf ar Delyth Jewell i wneud y cynnig. Delyth.
Cynnig NDM6999 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi, er bod materion tramor yn fater a gedwir i Lywodraeth a Senedd y DU ar hyn o bryd, mae adran 62 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu: 'The Welsh Ministers, the First Minister and the Counsel General may make appropriate representations about any matter affecting Wales'.
2. Yn cydnabod y gymuned Cwrdaidd sylweddol yng Nghymru.
3. Yn nodi bod preswylydd o Gymru—İmam Sis, dyn Cwraidd ifanc—ar streic newyn amhenodol, ddigyfaddawd o 17 Rhagfyr 2018, a ddechreuwyd i brotestio yn erbyn ynysu'r arweinydd Cwrdaidd Abdullah Öcalan sydd wedi'i garcharu gan Dwrci ers 1999 o dan amodau sydd, yn ôl pob deall, yn mynd yn groes i rwymedigaethau cyfreithiol gwladwriaeth Twrci mewn perthynas â hawliau dynol.
4. Yn nodi bod streiciau newyn yn digwydd ledled Ewrop a'r byd, gan gynnwys gan Leyla Güven, aelod etholedig o Senedd Twrci.
5. Yn nodi bod Twrci yn un o lofnodwyr sawl cytuniad hawliau dynol rhyngwladol, gan gynnwys y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel aelod o Gyngor Ewrop.
6. Yn mynegi ei bryder ynghylch y rhesymau dros y streiciau newyn.
7. Yn cydnabod mai nod y streiciau newyn yn y pen draw yw gweld ateb heddychlon, gwleidyddol i'r cwestiwn Cwrdaidd yn Nhwrci.
8. Yn cadarnhau pwysigrwydd cynnal rhwymedigaethau hawliau dynol yn Nhwrci.
9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, i ysgrifennu at y Pwyllgor i Atal Artaith a Thriniaeth Annynol neu Ddiraddiol neu Gosb yn galw ar y Pwyllgor i ymweld â Charchar Imrali i asesu amodau Abdullah Öcalan.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl ar y cynnig hwn heddiw. Mae'n fater pwysig i mi mewn dwy ffordd, yn rhannol oherwydd fy mod yn llefarydd ar faterion rhyngwladol, ond hefyd oherwydd bod Imam Sis, sydd wedi ein hysbrydoli i gyflwyno'r ddadl heddiw, yn byw yng Nghasnewydd, sydd yn fy rhanbarth. Rwy'n rhagweld y bydd gan Aelodau ar ochrau eraill y Siambr safbwyntiau gwahanol ynglŷn â beth sydd wedi dod â ni i'r pwynt hwn, ac fe ddaw amser i ni drafod y pwyntiau hynny, ond gadewch inni ddechrau gyda'r bywyd dynol sydd yn y fantol yma, lai na 15 milltir o ble y safwn yr eiliad hon.
Fe ddywedaf ei enw eto, oherwydd dyn a ŵyr, nid yw wedi cael y sylw y dylai fod wedi'i gael hyd yma: Imam Sis. Mae Imam wedi bod ar streic newyn ers 94 diwrnod a gwnaeth hynny mewn protest ynglŷn â'r modd y mae gwladwriaeth Twrci yn trin arweinydd y Cwrdiaid, Abdullah Öcalan, sydd wedi'i garcharu, heb gysylltiad â neb am gyfnodau, ers 1999 yn groes i gyfraith ryngwladol. Mae Imam ar y streic newyn hon am gyfnod amhenodol ochr yn ochr â 300 o'i gydwladwyr, gan gynnwys Leyla Güven, sy'n AS Cwrdaidd a etholwyd yn ddemocrataidd i Senedd Twrci ac sydd bellach yn agos at farw ar ôl gwrthod bwyd am 130 o ddiwrnodau'n olynol. Rwy'n erfyn ar yr Aelodau i beidio â diystyru'r hyn rydym yn sôn amdano yma—bywydau pobl. Am y rheswm hwnnw, rwy'n nodi bod ein cynnig heddiw yn un syml ac ni fyddwn yn derbyn unrhyw un o'r gwelliannau a gynigir.
Rwyf wedi ysgrifennu at Leyla ac at ysgrifenyddiaeth y pwyllgor Ewropeaidd er atal arteithio, a galwodd fy llythyr arnynt i adolygu eu hymchwiliad i driniaeth Mr Öcalan. Mae'r pwyllgor wedi edrych ar ei achos cyn hyn. Yn anffodus, nid oes ganddynt y pwerau angenrheidiol i sicrhau bod hawliau dynol Mr Öcalan yn cael eu gorfodi, a dyna pam y mae'r rhai sy'n ymgyrchu ar ei ran wedi troi at fesurau eithafol i geisio sicrhau bod ei hawliau cyfreithiol yn cael eu parchu.
Croesawodd Plaid Cymru benderfyniad Llywodraeth Cymru i sefydlu gweinyddiaeth materion rhyngwladol, ac mae heddiw'n gyfle i Gymru gymryd ei lle ar y llwyfan rhyngwladol drwy fod y wlad gyntaf, drwy gyfrwng y Senedd a'r Llywodraeth hon, i ddangos ei bod yn sefyll gyda'r Cwrdiaid. Does bosib nad yw'n ddyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru i gydnabod a chefnogi'r rhan y mae dyn o Gasnewydd yn ei chwarae ar hyn o bryd yn y frwydr ryngwladol dros gyfiawnder, cydraddoldeb a hawliau dynol. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau, ac rwy'n gobeithio'n wirioneddol y cawn gefnogaeth y meinciau Llafur yn ogystal, o gofio bod arweinydd eu plaid, Jeremy Corbyn, hefyd wedi rhoi ei gefnogaeth lawn i achos y streicwyr newyn. Diolch.
Diolch. Rwyf wedi dethol y pump gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Darren Millar i gynnig gwelliannau 1 i 5, a gyflwynwyd yn ei enw.
Gwelliant 1—Darren Millar
Ym mhwynt 3, dileu 'ynysu'r arweinydd Cwrdaidd' a rhoi yn ei le 'ynysu arweinydd Cwrdaidd y PKK (Plaid Gweithwyr Cwrdistan)'.
Gwelliant 2—Darren Millar
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi bod y PKK yn sefydliad terfysgol a waharddwyd yn y DU, yr Undeb Ewropeaidd, ac Unol Daleithiau America.
Yn condemnio pob gweithred derfysgol a gyflawnir gan y PKK ac yn cydnabod y dioddefwyr a'r sifiliaid a laddwyd ac a gafodd eu dal yn eu hymosodiadau.
Yn cydnabod hawl Twrci i amddiffyn ei hun rhag ymosodiadau terfysgol gan y PKK.
Gwelliant 3—Darren Millar
Dileu pwynt 7 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod mai nod o streicwyr newyn yw galluogi Abdullah Öcalan i gael gafael ar gynrychiolaeth gyfreithiol a chysylltu â'i deulu.
Gwelliant 4—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 8 ac ailrifo'n unol â hynny:
Yn nodi fod Ysgrifennydd Tramor Llywodraeth y DU a Llysgennad EM â Thwrci wedi pwysleisio wrth Lywodraeth Twrci yr angen i barchu hawliau dynol, osgoi anafu sifiliaid a dychwelyd at y broses heddwch.
Gwelliant 5—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y PKK i roi'r gorau i derfysgaeth fel modd o hybu ei amcanion a dychwelyd at y broses heddwch.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i. Rhaid imi ddweud y bydd llawer yn cwestiynu a yw'n ddefnydd da o amser y Cynulliad Cenedlaethol inni fod yn cynnal dadl gwrthblaid ar faterion tramor a materion nad ydynt wedi'u datganoli, yn enwedig ar adeg pan fo Cymru'n wynebu heriau domestig enfawr sy'n galw am ein sylw. Bydd llawer o bobl hefyd yn ystyried ei bod yn eithriadol o annymunol ein bod yn trafod cynnig heddiw sy'n cydymdeimlo ag arweinydd ac sylfaenydd sefydliad terfysgol a gondemniwyd, yn enwedig o ystyried yr ymosodiadau ofnadwy a gyflawnwyd yn Christchurch ac Utrecht yn y dyddiau diwethaf.
Fel rhywun a ymwelodd ag ardal Kurdistan o Irac y llynedd, ac sydd â ffrindiau Cwrdaidd o Dwrci ac Irac, rwy'n cydnabod bod yna awydd ymysg llawer o bobl Gwrdaidd am wladwriaeth Gwrdaidd annibynnol. Ond ni waeth a yw pobl yn y Siambr hon yn cefnogi'r nod hwnnw ai peidio, buaswn yn gobeithio y gall pawb ohonom fod yn gytûn yn ein condemniad o'r defnydd o derfysgaeth i gyrraedd y nod hwnnw.
Nawr, rwy'n nodi bod y cynnig ger ein bron yn cyfeirio at y streic newyn sy'n parhau gan Imam Sis, streic newyn a ddechreuwyd mewn protest yn erbyn ynysu Abdullah Öcalan ac i ofyn cwestiynau ynglŷn â hawliau dynol Öcalan. Nid wyf yn adnabod Mr Sis, ond o fy ymchwil deallaf ei fod yn berson ddiffuant iawn, yn ddyn angerddol iawn sy'n credu mewn gwladwriaeth Gwrdaidd annibynnol yn y dyfodol sy'n gwerthfawrogi ei holl ddinasyddion ac yn diogelu eu hawliau. Ac fel eraill yn y Siambr hon, rwyf wedi fy nghyffwrdd gan ei sefyllfa, ac rwy'n bryderus iawn ynglŷn â'i iechyd a'i les, ond rwyf hefyd yn bryderus iawn ynglŷn â'r hyn sydd i'w weld fel teyrngarwch dall ymysg rhai o'r streicwyr newyn i Abdullah Öcalan, sylfaenydd ac arweinydd Plaid Gweithwyr Kurdistan, sy'n fwy adnabyddus fel y PKK. Wrth gwrs, cafodd ei arestio yn 1999, fel y clywsom eisoes, a'i arestio am droseddau terfysgaeth a throseddau eraill cysylltiedig ac mae wedi bod yn y carchar ers hynny.
Nawr, yn ogystal â bod yn gorff terfysgol a gondemniwyd gan y DU, mae'r UE hefyd yn ystyried bod y PKK yn sefydliad terfysgol—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—gan yr UE, yr Unol Daleithiau, Japan a NATO.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Prif nod y PKK, wrth gwrs, yw sefydlu gwladwriaeth Gwrdaidd annibynnol yn ne-ddwyrain Twrci, Syria ac Irac, ond mae'r PKK eisiau manteisio'n llawn hefyd ar rym gwleidyddol Cwrdaidd, ac mae wedi gwneud hyn drwy ddangos anoddefgarwch, mygu gwrthwynebiad ac ymosod ar fuddiannau grwpiau gwleidyddol Cwrdaidd sy'n cystadlu â hwy.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Ers sefydlu'r PKK yn ôl yn 1978 ar athroniaeth Farcsaidd chwyldroadol asgell chwith eithafol, mae degau o filoedd o bobl wedi marw.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gosodwyd bomiau hunanladdiad, bomiau car, bomiau ar ymyl ffyrdd—
Nid yw'r Aelod yn derbyn ymyriad. Caniatewch i'r Aelod barhau.
—gan y PKK ac maent wedi cipio bywydau a newid bywydau llawer o sifiliaid diniwed a'u teuluoedd, gan gynnwys plant. Cyhuddwyd y PKK o fod yn rhan o'r fasnach gyffuriau, smyglo plant, osgoi talu treth a chynhyrchu arian ffug. Mor ddiweddar â 2016, honnodd Human Rights Watch fod grwpiau'n gysylltiedig â'r PKK wedi recriwtio bechgyn a merched i fod yn filwyr dros eu hachos. Ac mae'r PKK, wrth gwrs, yn parhau i gyflawni ymosodiadau terfysgol angheuol yn Nhwrci.
Nawr, gofynnwyd llawer o gwestiynau ynglŷn â gweithredoedd Twrci yn ystod y gwrthdaro rhyngddynt a'r PKK, a hynny'n briodol, gan gynnwys eu triniaeth o garcharorion. Nawr, yn amlwg, mae gan Dwrci hawl cyfreithlon i amddiffyn ei hun rhag y PKK a therfysgaeth, ond fel sy'n digwydd mewn unrhyw wrthdaro, dylid osgoi anafu sifiliaid bob amser a dylid parchu hawliau dynol a'u hamddiffyn yn llawn. Mae Llywodraethau olynol yn y DU wedi annog yr awdurdodau yn Nhwrci yn briodol i barchu hawliau dynol, gan gynnwys hawl i ryddid mynegiant yng nghwrs eu gweithgaredd gwrth-derfysgaeth. Ac yn gynharach eleni, trafododd swyddogion Llysgenhadaeth Prydain garchariad Abdullah Öcalan gyda swyddogion Twrcaidd, gan gynnwys mater y streiciau newyn gan Leyla Güven ac eraill. Maent wedi dweud yn glir bod y DU yn disgwyl i Dwrci sicrhau y perchir hawliau dynol carcharorion, gan gynnwys mynediad at driniaeth feddygol a chynrychiolaeth gyfreithiol, a bod angen i bob ochr yn y gwrthdaro hwn, yr holl randdeiliaid, ddychwelyd at y broses heddwch. Ac i'r perwyl hwn, mae Llywodraeth y DU wedi darparu cyllid i sefydliadau cymdeithas sifil sy'n ceisio adeiladu deialog rhwng y gwahanol weithredwyr ar fater y Cwrdiaid, ac rwy'n meddwl y dylem gydnabod hynny yn y ddadl hon.
Nawr, mae amser wedi fy nhrechu, ond rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cydnabod ein bod wedi ceisio egluro a rhoi rhywfaint o gyd-destun i'r ddadl hon drwy ei gwneud yn glir gyda'n gwelliannau beth yn union sydd wrth wraidd y sefyllfa rydym ynddi, a chawn gyfle y prynhawn yma i gondemnio'r derfysgaeth a achoswyd gan y PKK.
Diolch i Delyth Jewell am agor y ddadl hon, ac rwy'n falch ein bod yn sefyll yma'n cael y dadleuon rhyngwladol hyn, oherwydd dyma'r lle i'w cael. Dyma ein sefydliad cenedlaethol ac ni ddylem ymddiheuro am hynny.
I ddechrau, roeddwn eisiau ymateb yn gyflym i rywbeth a ddywedodd Darren Millar. Dyfarnodd Goruchaf Lys Gwlad Belg yn gynharach y mis hwn nad oes unrhyw weithgarwch terfysgol gan y PKK ac yn hytrach, mai sefydliad ydynt sydd mewn gwrthdaro â Thwrci ynglŷn â'u triniaeth o'r Cwrdiaid. Mae dynodi beth sy'n derfysgaeth yn gwestiwn gwleidyddol yn aml, ac nid un technegol. Dyna ddyfarniad y Goruchaf Lys yng Ngwlad Belg, ac mae'n wirioneddol ddrwg gennyf eich bod wedi defnyddio'r ddadl hon i geisio gwanhau'r hyn rydym yma i'w wneud heddiw—sef siarad am hawliau dynol carcharorion gwleidyddol heb fynediad at gyfreithiwr hyd yn oed i geisio gwneud pwynt ynglŷn â'u—
Rwyf wedi cefnogi hawliau dynol carcharorion.
Cymerodd bedair munud cyn i chi sôn am Dwrci hyd yn oed—
Roedd gennyf lawer i fynd drwyddo.
—ac am y derfysgaeth y mae Twrci yn ei orfodi ar y gymuned Gwrdaidd. Credaf fod cynnig Plaid Cymru yn cwmpasu'r pwyntiau allweddol sy'n berthnasol i'r ddadl. Rwy'n ddryslyd braidd ynghylch rhai o welliannau'r Ceidwadwyr, sy'n ymddangos fel pe baent ond yn cyfeirio at y PKK yn rhyfedd ddigon, er bod y ddadl hon yn canolbwyntio ar sefyllfa gyffredinol y Cwrdiaid yn Anatolia a gogledd Syria: ymgais sinigaidd—sinigaidd—i geisio gwanhau'r ddadl hon yma heddiw. Rwyf wedi cyfarfod â phreswylwyr Cwrdaidd yng Nghymru a'u grŵp ymgyrchu, ac nid oes ganddynt unrhyw gysylltiad o gwbl â'r PKK. Wrth ddarllen y gwelliannau Torïaidd hyn, gellid maddau ichi am feddwl eu bod yn ymgais fwriadol i gymylu'r dyfroedd ac esgusodi'r driniaeth y mae'r Cwrdiaid yn ei chael yn Nhwrci, bob amser drwy lens y PKK, sefydliad sydd â chyrhaeddiad a gweithrediad cyfyngedig yn ymarferol.
Gadewch inni fod yn glir hefyd fod Llywodraeth Twrci yn gyson yn defnyddio bygythiad y PKK fel cyfiawnhad ehangach dros yr amodau hawliau dynol gwael yn gyffredinol sydd ganddynt yn ne a de-ddwyrain Twrci. Ac nid wyf am gymryd unrhyw wersi gan blaid a ddywedodd mai terfysgwr oedd Nelson Mandela. Gadewch inni edrych yn ôl mewn hanes i weld beth y mae'r Ceidwadwyr wedi'i wneud i drin pobl â diffyg parch yn ein hymwneud rhyngwladol. Ceir gwleidyddion sydd wedi cael eu rhoi dan glo—gwleidyddion fel Leyla Güven, a etholwyd yn ddemocrataidd—eu bygwth, eu herlid ar eu strydoedd, cymunedau sydd wedi dioddef bygythiadau a chyfyngiadau ar eu hawliau democrataidd. Mae'r Tyrciaid ac eraill erbyn hyn yn defnyddio gweithgaredd milwrol uniongyrchol yng ngogledd Syria o dan yr esgus eu bod yn ymladd yn erbyn terfysgaeth, drwy ymosod ar grwpiau sy'n gwrthryfela a oedd, tan yn gymharol ddiweddar, yn cael cefnogaeth yr Unol Daleithiau ac eraill fel partneriaid yn y rhyfel yn erbyn Isis. Felly, rwy'n gwrthod y gwelliannau hyn gan y Torïaid, fel y mae fy nghyd-Aelodau'n ei wneud, ac nid wyf yn meddwl eu bod yn dangos gwerthfawrogiad digonol o'r cyd-destun ehangach.
Ar lefel bersonol, rwy'n gweld hon fel brwydr sylfaenol dros gyfiawnder i bobl sydd wedi bod heb wladwriaeth eu hunain drwy ran fawr o'u hanes. Sefydlwyd rhai gwladwriaethau Cwrdaidd gwreiddiol, ond cawsant eu goresgyn gan wladwriaethau Twrcaidd a chydffederasiynau pan symudasant tua'r dwyrain canol yn ystod yr oesoedd canol. Bu'r Cwrdiaid heb wladwriaeth ffurfiol gydnabyddedig ers yr adeg honno. Felly, buaswn yn gobeithio bod yr Aelodau'n cydnabod eu brwydr yn y cyd-destun penodol hwnnw, yn cydnabod y frwydr a'r angerdd y mae hyn yn ei gynnau, ymhlith pobl sy'n gwneud dim mwy na chwilio am famwlad, pobl sy'n chwilio am rywle i'w alw'n gartref, fel y gall y bobl sydd wedi dod i wrando ar y ddadl hon, gyda llawer ohonynt yn dod o'r gymuned honno, ffynnu ac arfer eu crefydd a'u hiaith a'u diwylliant eu hunain, ac ystyried o ddifrif beth mae'n ei gymryd i wneud i bobl fynd ar streic newyn am amser mor hir. Mae pobl yn mynd i ddioddef, fel a ddigwyddodd yng ngogledd Iwerddon. Pan oedd pobl yn credu na allai'r broses wleidyddol eu helpu, fe droesant at streic newyn am eu bod am i rywun wrando arnynt, ac roeddent eisiau sicrhau y gallent ddod o hyd i ateb.
Mae fy nghalon yn gwaedu dros Imam Sis a phawb sydd ar streic newyn. Yn amlwg, mae'n sefyllfa anodd iawn i ni fod ynddi, oherwydd nid ydym am i bobl fod mewn sefyllfa o'r fath, ond rydym yn eu canmol am wneud hynny fel gweithred o brotest wleidyddol ac yn eu cefnogi yn eu hadfyd. Buaswn yn gobeithio y caem ddatganiad cadarnhaol o gefnogaeth gan y Gweinidog rhyngwladol yma heddiw, a chydnabyddiaeth y bydd yn gwneud popeth yn ei gallu i frwydro dros gyfiawnder i'r gymuned Gwrdaidd, nid yn unig y rhai sydd yn Nhwrci, ond i bobl yng Nghymru sy'n ymladd o'r cyrion, sy'n ymladd yma am nad yw'n ddiogel iddynt ddychwelyd i'w mamwlad. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch oll yn cymryd rhan yn y ddadl hon ac yn cefnogi cynnig Plaid Cymru.
Rwy'n falch o allu cymryd rhan yn y cynnig pwysig hwn, ac yn union fel rydym wedi trafod materion yn ymwneud â Sbaen a Chatalonia o'r blaen, ac fel y soniais i am faterion yn ymwneud ag Ukrain, fel rydym yn trafod materion yn ymwneud â hil-laddiad yn y Balcanau, felly hefyd mae'n iawn inni godi llais heddiw ar ran ein cymuned Gwrdaidd a'r sefyllfa gyfredol yn Kurdistan, mewn cymunedau Cwrdaidd, ac yng nghyd-destun hawliau dynol a hawliau cenedlaethol. Deuthum i gysylltiad ag ymgyrchwyr Cwrdaidd gyntaf yn ôl yn 1976, pan ddeuthum yn ymwybodol o hanes brwydr y bobl Gwrdaidd i ddiogelu eu hawliau diwylliannol ac ieithyddol a'u galwadau cywir am gael eu cydnabod yn genedl. Mae eu hanes yn llawn o farwolaeth ac artaith, o gamfanteisio, o frad ac addewidion a dorrwyd gan bwerau'r byd—ymddiriedaeth a dorrwyd gan y gorllewin dro ar ôl tro o ganlyniad i wleidyddiaeth geowleidyddol a buddiannau breintiedig, tebyg iawn i'r geowleidyddiaeth y siaradais amdani yn y Siambr hon sy'n effeithio ar yr Ukrain hyd heddiw. Felly, mae'n fater rwy'n teimlo cryn dipyn o gysylltiad personol ag ef.
Yn ôl yn 1963, ysgrifennodd bardd anghydffurfiol o Ukrain, Vasyl Symonenko, gerdd o undod i dynnu sylw at yr achos cyffredin hwn. Ei henw oedd 'Kurdskomy Bratovi', 'i Frawd Cwrdaidd', ac roedd yn gerdd a gafodd ei gwahardd yn fuan iawn gan yr awdurdodau Sofietaidd ar y pryd. Dyma hi:
'Вони прийшли не тільки за добром / Прийшли забрати ім'я твоє, мову.'
'Жиріє з крові змучених народів / Наш ворог найлютіший—шовінізм.
Ni ddaethant i ddwyn eich nwyddau yn unig, / daethant i ddwyn eich hil a'ch iaith.
A chan ffynnu ar waed gwledydd cythryblus, / tyf yn dew y gwaethaf o'n gelynion—siofinyddiaeth.
Mae'n gweithredu gyda chywilydd a thwyll, / ei gynllun yw troi pawb ohonoch yn giwed ddarostyngedig.
Lywydd, nid ymwneud â gwleidyddiaeth Abdullah Öcalan na'i blaid wleidyddol y mae'r cynnig hwn. Mae'n ymwneud â thriniaeth arweinydd gwleidyddol llawer o Gwrdiaid, a gafodd ei arestio ym mis Chwefror 1999, a'i garcharu mewn cell ar ei ben ei hun, a'i orfodi fel llawer o Gwrdiaid eraill—i wynebu achos y mae'r Cenhedloedd Unedig a grwpiau hawliau dynol yn cydnabod ei fod yn achos annheg, a thriniaeth anfoddhaol, fel y mae cyrff fel Amnesty International yn ei gydnabod, a'r Pwyllgor Ewropeaidd er Atal Arteithio a Thriniaeth neu Gosb Annynol neu Ddiraddiol, ac mae ei driniaeth yn symbol o'r driniaeth y mae pobl Gwrdaidd yn ei dioddef.
Lywydd, dylem gywilyddio ynghylch dioddefaint y bobl Gwrdaidd, oherwydd dros y degawdau rydym wedi bod—mae ein Llywodraethau—wedi bod yn rhan o'r troi llygad dall at gam-drin hawliau dynol a chenedlaethol sylfaenol, fel y gwnaethom yn achos y Palestiniaid. Mae'n ymddangos ein bod am roi ein buddiannau economaidd a'n buddiannau breintiedig o flaen hawliau sylfaenol y bobl Gwrdaidd a gweithredoedd annemocrataidd a mwyfwy gormesol Llywodraeth Twrci a hefyd, yn wir, Llywodraethau Syria, Irac ac Iran. Mae'n ymddangos unwaith eto fod olew bob amser yn siarad yn uwch na hawliau dynol.
Ers y cipio grym yn Nhwrci, diswyddwyd 150,000 o swyddogion cyhoeddus, carcharwyd 64,000 ar gyhuddiadau terfysgol, fel y'u gelwir, a charcharwyd 150 o newyddiadurwyr a naw o seneddwyr. Mae erchyllterau'n cael eu cyflawni'n ddyddiol yn erbyn y Cwrdiaid. Os oes heddiwch cyfiawn ac ateb yn mynd i fod i fater y Cwrdiaid, rhaid i Dwrci a Llywodraethau eraill ymgysylltu â'r bobl Gwrdaidd a'u cynrychiolwyr. Rwy'n rhoi fy nghefnogaeth lawn i'r cynnig hwn felly.
Ac mewn perthynas â gwelliant y Torïaid, mae'n nodweddiadol o'r Torïaid eu bod yn dewis anwybyddu materion hawliau dynol ac amddiffyn erchyllterau Twrcaidd. Rwy'n condemnio pob terfysgaeth a cham-drin hawliau dynol a nodaf fod y gwelliant hwn—. Mae'r gwelliant hwn yn defnyddio yn union yr un dacteg ag y defnyddiodd y Torïaid i gefnogi apartheid yn Ne Affrica—yr un Torïaid ag a labelodd Nelson Mandela'n derfysgwr, a wisgodd—[Torri ar draws.]—yr un Torïaid ag a wisgodd grysau-T 'hang Mandela', ddim ond i weinieithio dros Nelson Mandela ddegawdau yn ddiweddarach er na wnaethant ddim i sicrhau ei fod yn cael ei ryddhau, ac mae hi mor siomedig eu bod yn ailadrodd eu camgymeriadau a'u methiannau hanesyddol.
Rwy'n falch iawn fod Plaid Cymru wedi gallu sicrhau'r ddadl hon heddiw. Mae dinesydd Cymreig sydd wedi dod yn gyfaill ar streic newyn yng Nghasnewydd, ac fe'm hatgoffwyd o ymrwymiad Imam Sis i adeiladu cymunedau cryf ac amrywiol pan welais ffotograff cof Facebook yr wythnos hon o ddwy flynedd yn ôl, pan orymdeithiodd Imam a minnau gyda'n gilydd yng Nghaerdydd yn erbyn hiliaeth. Roedd yn barod i sefyll dros ein cymunedau bryd hynny, ac mae wedi gwneud hynny ar lawer o achlysuron eraill. Nawr, dyma ein tro ni i sefyll gydag ef a gyda'i gyd-Gwrdiaid a'u brwydr.
Deuthum i mewn i fyd gwleidyddiaeth oherwydd fy mod am herio annhegwch, anghydraddoldeb ac anghyfiawnder, ac mae hynny'n dal i fod yn ysgogiad i mi fwy na dau ddegawd yn ddiweddarach, ac er bod gennym gymaint o broblemau i fynd i'r afael â hwy yma yng Nghymru—problemau a materion rydym yn rhoi sylw iddynt yn y sefydliad hwn bob dydd—mae gennym ddyletswydd hefyd i godi llais pan fo mater rhyngwladol yn galw am ein sylw, yn enwedig pan fo'n effeithio ar ddinesydd Cymreig.
Mae triniaeth y Cwrdiaid dan law gwladwriaeth Twrci sy'n fwyfwy gormesol yn fater o'r fath. Mae'r artaith tuag at y bobl Gwrdaidd yn mynnu ein bod yn codi llais ac yn condemnio gweithredoedd o'r fath. Mae Imam Sis ar ddiwrnod 94 o streic newyn. Mae'n un o fwy na 300 o bobl sydd wedi ymuno â'r gwleidydd Cwrdaidd Leyla Güven ar streic newyn. Nod y streic newyn yw rhoi pwysau ar y Pwyllgor Ewropeaidd er Atal Arteithio a Thriniaeth neu Gosb Annynol neu Ddiraddiol i gyflawni ei ddyletswyddau a mynd ar ymweliad i wirio sefyllfa'r arweinydd Cwrdaidd.
Gwelais Imam Sis yr wythnos diwethaf, ac mae'n anodd gweld faint y mae wedi dirywio ers y llun a dynnwyd ddwy flynedd yn ôl. Mae'n amhosibl peidio â chael eich ysbrydoli gan y dewrder diymhongar a diysgog y mae'n ei arddangos. Rwy'n gobeithio y bydd Twrci, gwlad sy'n un o lofnodwyr y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, yn cyflawni ei rhwymedigaethau rhyngwladol cyn y bydd pobl dda fel Imam Sis yn marw.
Os yw'r sefydliad cenedlaethol hwn yn anfon neges glir heddiw fod yn rhaid i Dwrci roi'r gorau i'w thriniaeth farbaraidd o'r bobl Gwrdaidd, byddwn yn cyfrannu at gynyddu pwysau rhyngwladol i ddatrys y sefyllfa hon. Heddiw, cefais ymateb i lythyr a anfonais at Leyla Güven, yr AS Cwrdaidd, sydd hefyd ar streic newyn yn Nhwrci. Yn y llythyr hwnnw, mae'n dweud bod eu galwad yn gwbl gyfreithlon a dyngarol. Mae'n dweud, 'Rydym ni, y Cwrdiaid, yn bobl y mae ein hiaith, ein hunaniaeth, ein diwylliant yn dal i gael eu hystyried yn droseddau. Ar hyn o bryd, mae miloedd o'n gwleidyddion yn y carchar oherwydd yr hyn y maent yn ei feddwl. Mae ein hadeiladau trefol wedi'u meddiannu drwy rym ac yn cael eu rhedeg gan ymddiriedolwyr a benodwyd gan y Llywodraeth. Pobl ydym sy'n dioddef dan bob math o bolisi gwahardd, difodi a chymhathu. Mae ein brwydr yn parhau er mwyn rhoi diwedd ar yr anghyfraith.' A oes unrhyw un yn gweld tebygrwydd yma? Dylem ni'r Cymry ddeall hyn. Mae amser yn prysur ddod i ben i bobl fel Leyla Güven ac Imam Sis, felly rwy'n eich annog i'n cefnogi yn y ddadl hon.
Mohammad Asghar.
Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i chi am adael imi siarad am funud neu ddwy. Y ffaith yw fy mod wedi bod yn Kurdistan fy hun. Arhosais yn Sulaymaniyah, arhosais yn Duhok a arhosais yn Diyarbakir. Rwyf wedi teithio drwy Kurdistan, sydd wedi'i rhannu'n bedair rhan, ac yn berchen yn rhannol i'r Iraniaid, yn rhannol i'r Syriaid, yn rhannol i Irac ac yn rhannol i Dwrci. Ar hyn o bryd, mae Abdullah Öcalan—[Torri ar draws.] Gadewch imi siarad fy ychydig eiriau, os gwelwch yn dda. Rhaid i chi fod yn ymwybodol o gefndir Kurdistan yn gyntaf. Maent oll yn Fwslimiaid. Euthum yno yng nghwmni un o fy ffrindiau Cwrdaidd ac nid oedd un o'r bwytai yn fodlon gweini arnaf oherwydd eu bod yn credu mai Arab oeddwn i, a phan gawsant wybod fy mod yn dod o Brydain, fe wnaethant edrych ar fy ôl yn dda iawn—cyfaill Cwrdaidd. Rwy'n gyfeillgar tu hwnt gyda'r bobl Gwrdaidd, euthum gyda hwy, a thair gwaith wedyn ac rwy'n gyfeillgar â Thyrciaid hefyd. Peidiwch â bychanu'r ffaith eu bod gyda'i gilydd. Maent yn byw yno ers canrifoedd.
Nawr, rydych yn gosod cynsail gwahanol iawn yma. Os bydd rhywun yn dod o unrhyw ran o'r byd ac yn dechrau mynd ar streic newyn—'Gwnewch hyn yn fy ngwlad neu fel arall rwy'n mynd i farw'—pa neges a roddwch i'r byd? Ceir llawer iawn o rannau eraill o'r byd sy'n cael yr un math—[Torri ar draws.] Arhoswch funud. Maent yn cael yr un problemau ac rydych chi'n rhoi llwybr i'r math hwn o beth—'Iawn, dewch i'r wlad hon; fe geisiwn ni eich helpu'. Mae honno'n broblem mewn gwirionedd i'r bobl hynny ddatrys eu problemau eu hunain gyda'u cymunedau eu hunain.
Os gwelwch yn dda, ie, roeddech eisiau gofyn rhywbeth.
Roeddwn am wneud sylw ar yr hyn a ddywedoch chi ynglŷn â sut y mae rhan o gymuned y Cwrdiaid yn eiddo i Iran ac yn rhannol—. Nid ydynt yn berchen arni; maent wedi'i meddiannu. A rhaid inni sylweddoli nad yw pobl yn mynd ar streic newyn er mwyn tynnu sylw atynt eu hunain. Rhaid cael ymroddiad gwirioneddol danbaid a fydd yn rhoi nerth iddynt roi diwedd ar eu bywydau, i bob pwrpas, dros yr achos y maent yn ymdrechu i'w gyflawni. Cyfarfûm ag Imam Sis neithiwr, a rhaid imi ddweud bod popeth a ddywedwyd amdano gan bobl eraill yn hollol wir. Mae'n unigolyn eithriadol o glodwiw a rhagorol, a rhaid inni fyfyrio ychydig bach rhagor ynglŷn â pham y mae pobl mor daer am gael eu hachos wedi'i glywed a'u hunanbenderfyniad fel nad ydynt yn parhau i gael eu bomio a'u carcharu yn syml am eu bod eisiau siarad eu hiaith eu hunain a chael eu gweinyddiaeth eu hunan.
Diolch i chi am eich gwers fach, ond y ffaith amdani yw'r hyn rydych newydd fy nghlywed yn ei ddweud; rydych yn gosod cynsail gwahanol iawn. Rydych yn gofyn ar ran y bobl. Nid un Öcalan sydd yma. Nid ydych yn siarad am un Abdullah Öcalan. Mae yna lawer o fathau eraill o sefyllfaoedd tebyg ledled y byd. Peidiwch â diystyru'r—. Mewn gwirionedd rydych yn agor blwch Pandora—. Rydych yn agor blwch Pandora—[Torri ar draws.] Na na na. Rhaid i'r gwledydd hynny edrych ar ôl eu hunain. Ac maent yn byw'n hapus iawn. Peidiwch byth â meddwl bod y Tyrciaid a'r Cwrdiaid yn ymladd bob dydd. Mae'r mwyafrif o bobl yn byw gyda'i gilydd, ac mae eu Imam—. Fel y dywedodd, mae'r Cwrdiaid yn genedl wych. Pobl Irac, Iran, Syria—maent hwy hefyd yr un peth. Ac maent yn byw felly ers canrifoedd. Nid ydynt—. Rydych newydd grybwyll meddiannaeth; mae'n lol llwyr. Nid oes meddiannaeth. Fe'u rhannwyd yn grwpiau, do. Os ewch yn ôl 500 mlynedd—. Edrychwch, Jeremy Adams, ar ynys Iwerddon—20 mlynedd yn ôl, roedd yn berson gwahanol. Gerry Adams, mae'n ddrwg gennyf. Roedd yn berson gwahanol 30 mlynedd yn ôl. Nawr, mae'n berson hollol wahanol. [Torri ar draws.] Mae amser a—. Arhoswch funud. Mae amser a thrafod yn digwydd, ac maent yn newid y genedl. Fe fydd yn digwydd. Fe fydd yn digwydd gyda Thwrci. [Torri ar draws.] Cyhyd ag y bo Twrci a hwythau'n eistedd—. Eu gwaith hwy yw hynny. Nid ein gwaith ni. Byddant yn eistedd ac yn datrys eu problem, i wneud yn siŵr—. Peidiwch ag agor blwch Pandora yma. [Torri ar draws.] Diolch i chi, na—
Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Gaf i ddechrau trwy ddweud, fel Gweinidog dros faterion rhyngwladol, ein bod ni fel Llywodraeth â diddordeb mawr mewn diogelu hawliau dynol ar draws y byd, a dyma pam y daeth nifer fawr ohonom ni yn actif yn y byd gwleidyddol i ddechrau? Mae gyda ni yng Nghymru draddodiad hir o sefyll yn gadarn gyda mudiadau gwleidyddol, progressive, trwy'r holl fyd.
A gaf fi ei gwneud yn glir i ddechrau fod Llywodraeth Cymru yn condemnio erledigaeth a thrais yn eu holl ffurfiau, yn unrhyw le yn y byd, a'n bod yn cefnogi ymdrechion i hyrwyddo cymod lle ceir anghytgord?
Nawr, i droi at y cynnig ger ein bron heddiw, credaf ei bod hi'n bwysig cydnabod a dathlu'r cyfraniad gwleidyddol, economaidd a diwylliannol a wneir gan bobl o dras Cwrdaidd i gymunedau Cymru. Pan fydd pobl sy'n cael eu geni mewn rhannau eraill o'r byd yn dod i Gymru i wneud eu cartref yng Nghymru, cawn ein cyfoethogi fel gwlad. A phan fydd y rhai sydd wedi mabwysiadu Cymru fel eu gwlad yn dioddef fel cenedl, rydym yn dioddef gyda hwy, a dyna pam rydym yn hynod o bryderus ynglŷn â chyflwr dirywiol Imam Sis o Gasnewydd. Rydym yn bendant yn cydnabod cryfder y teimlad sy'n bodoli mewn cymunedau yng Nghymru ynglŷn â'r mater yr ydym yn ei drafod heddiw. Fel y clywsom, mae ar streic newyn i dynnu sylw ac i geisio gwelliannau i'r amodau y mae'r arweinydd Cwrdaidd Öcalan yn cael ei gadw ynddynt mewn carchar yn Nhwrci.
Heddiw, siaradais â llysgennad Twrci yn y Deyrnas Unedig, fel y gwneuthum ym mis Ionawr, pan soniais am bryderon dinasyddion Cymreig ynghylch cyflwr iechyd Imam Sis sy'n gwaethygu a'r rhesymau dros ei streic newyn barhaus. Nododd y llysgennad fod y pwyllgor Ewropeaidd er atal arteithio wedi cyhoeddi adroddiad ym mis Mawrth 2018 a oedd yn nodi bod yr amodau roedd Öcalan yn cael ei gadw ynddynt wedi gwella'n sylweddol ers eu hymweliad blaenorol yn 2013. Awgrymodd hefyd fod brawd Öcalan wedi bod yn ymweld ag ef ym mis Ionawr eleni a chyn belled ag y gŵyr—ac mae'n debyg ei bod yn werth gwirio hyn—mae Öcalan yn cael cysylltu â chyfreithwyr. Mae'n werth nodi, fodd bynnag, fod yr adroddiad Ewropeaidd yn awgrymu bod gan yr awduron bryderon difrifol ynghylch cysylltiad y carcharor â'r byd y tu allan, a bod hyn wedi gwaethygu ymhellach.
Mae sefyllfa cymunedau Cwrdaidd yn Nhwrci a'r gwledydd cyfagos yn fater hynod gymhleth sydd â gwreiddiau dwfn yn hanesyddol yn ogystal ag arwyddocâd ehangach yng ngwleidyddiaeth gyfoes yr ardal. Ers y 1980au, cafwyd cyfres o ymdrechion aflwyddiannus i roi terfyn ar y trais drwy drafodaethau heddwch, ac yn ystod y cyfnod hwn, mae mwy na 40,000 o bobl wedi colli eu bywydau. Ni allwn golli golwg ar hyn, ac mae ein meddyliau gyda'r dioddefwyr, eu teuluoedd, a'r sifiliaid a ddaliwyd ar ddwy ochr y gwrthdaro.
Nawr, rydym yn disgwyl i'r awdurdodau Twrcaidd roi sicrwydd y glynir at hawliau dynol carcharorion, gan gynnwys mynediad at driniaeth feddygol. Rydym yn cefnogi safbwynt Llywodraeth y DU ynglŷn ag annog pob ochr i ddychwelyd at drafodaethau, ac i'r broses heddwch ailddechrau a chreu cymod a heddwch parhaol.
Mae'r cynnig dan ystyriaeth heddiw yn gwahodd y Cynulliad Cenedlaethol i alw ar Lywodraeth Cymru i ysgrifennu at y Cyngor Ewropeaidd ar ei ran. Gan mai dyma'r ddadl gyntaf o'r natur hon ers i mi ddod yn Weinidog cysylltiadau rhyngwladol, credaf ei bod hi'n bwysig pwysleisio a thanlinellu'r ffaith bod polisi tramor yn faes polisi a neilltuwyd yn benodol i Lywodraeth y DU. Felly, mae'r pŵer i gynhyrchu datganiad o'r fath yn nwylo Llywodraeth y DU. Ni waeth faint y byddai Plaid Cymru'n hoffi ein gweld yn cael y pŵer hwn, y ffaith amdani yw nad yw yn ein dwylo ni.
Mae'r cynnig i'w weld braidd yn anarferol, yn yr ystyr nad yw dadl yr wrthblaid heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud unrhyw beth yn y meysydd y mae gennym gyfrifoldeb ynddynt a lle mae gennym adnoddau ar gael i roi camau ar waith.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwy'n hapus i wneud hynny.
Diolch ichi am dderbyn ymyriad; bydd yn fyr iawn. A gredwch ei bod yn gwbl berthnasol i Lywodraeth Cymru roi safbwynt ar fater nad yw wedi'i ddatganoli?
O ran materion a gadwyd yn ôl, credaf fod yn rhaid inni barchu'r cytundeb sydd gennym, ac mae hwn yn faes penodol sydd wedi'i gadw'n ôl. Mae materion tramor yn benodol wedi'u cadw yn ôl. Dyna pam ein bod, fel Llywodraeth Cymru, yn trin y cynnig hwn fel y byddem yn trin dadl gan Aelodau meinciau cefn, ac rydym yn caniatáu pleidlais rydd i'r Aelodau Llafur.
Nawr, hoffwn annog yr Aelodau yn y dyfodol i sicrhau, lle rydym yn ymwneud â materion rhyngwladol, ein bod yn cadw'r ffocws yn eglur ar y meysydd y gallwn weithredu ynddynt a gwneud gwahaniaeth go iawn. Nawr, fel Llywodraeth, byddwn yn ymatal ar y cynnig hwn, ond nid oes dim i atal y Cynulliad Cenedlaethol rhag ysgrifennu ar ei ran ei hun at y Cyngor Ewropeaidd.
Delyth Jewell i ymateb i'r ddadl.
Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Mae'r Aelodau wedi siarad yn deimladwy iawn o blaid y cynnig. Rwy'n cytuno gyda Bethan nad yw ond yn iawn i'r Siambr hon fynegi ein llais ar faterion rhyngwladol, yn enwedig pan fyddant yn ymwneud â dinesydd Cymreig. Soniodd Mick Antoniw am y cysylltiad personol y mae'n ei deimlo gyda'r Cwrdiaid, a diolch iddo am ei eiriau teimladwy dros ben. A siaradodd Leanne am ei chyfeillgarwch personol ag Imam. Rwyf innau hefyd yn falch o alw Imam yn ffrind. Rwy'n cytuno ei bod yn amhosibl peidio â chael ein hysbrydoli ganddo. Diolch i Jenny Rathbone hefyd am ei chefnogaeth ar hyn.
Roeddwn yn falch o glywed y Gweinidog yn dweud bod gennym ni yng Nghymru draddodiad o dynnu sylw at anghyfiawnder rhyngwladol, ac rwyf am ddyfynnu ei eiriau: pan fydd pobl o rannau eraill o'r byd yn dod i Gymru i wneud eu cartref, cawn ein cyfoethogi, a phan fyddant yn dioddef, rydym ninnau'n dioddef hefyd.
Rwy'n falch ei bod wedi codi'r mater hwn gyda llysgennad Twrci. Buaswn yn dal i erfyn ar y Llywodraeth i gefnogi ein cynnig os gwelwch yn dda. Gallwn ddal i ysgrifennu llythyr ar hyn. Unwaith eto, pan fo'r Llywodraeth wedi creu gweinyddiaeth materion rhyngwladol, onid yw mynegi barn ar hyn yn dod o fewn ffiniau hynny.
Mae arnaf ofn fy mod yn ystyried rhai o sylwadau Darren Millar—ac fe ddefnyddiaf ei air ef—yn 'annymunol'. Rwy'n gresynu'n fawr at dôn ei gyfraniad. Nid wyf am fynd i mewn i'r hyn y mae Darren wedi'i ddweud, ond rwyf am ailadrodd fod y cynnig yn ymwneud â hawliau dynol a rhoi diwedd ar ynysu gorfodol carcharor gwleidyddol. A bywyd dinesydd Cymreig—mae Imam yn 32; mae flwyddyn yn hŷn na fi, ac fe allai farw.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Ni wnaethoch dderbyn ymyriad gennyf fi, Darren. Nid wyf am gymryd un gennych chi.
Lywydd, hoffwn gloi'r ddadl drwy esbonio bod Imam a'r lleill sydd ar y streic newyn hon wedi'u hysgogi yn eu gweithredoedd gan eu hawydd i roi llais i Mr Öcalan wedi iddo gael ei amddifadu o'i lais ei hun. I wneud hynny, maent yn barod i aberthu eu bywydau—nid eu bod yn dymuno gwneud hynny. Ychydig wythnosau yn ôl, ymwelais ag Imam yn y ganolfan gymunedol Gwrdaidd yng Nghasnewydd. Mae bellach yn byw yn y ganolfan honno am ei fod yn rhy sâl i fynd i unman arall.
Roeddwn wedi rhagweld yr ymweliad gydag ymdeimlad o fraw. Roeddwn yn meddwl y byddai'n eithaf trawmatig, ond mewn gwirionedd roedd yn gwneud i rywun werthfawrogi bywyd. Dywedodd Imam wrthyf nad oedd ar streic newyn am ei fod eisiau marw. Mae ar streic newyn am ei fod eisiau dathlu bywyd. Ar yr olwg gyntaf, efallai fod hynny'n ymddangos fel gwrthddywediad, ond mewn gwirionedd mae'n gydnaws â'r ffenomen a brofir gan lawer o wledydd is-wladwriaethol—lle mae pobl yn pwyso ar y cadarnhaol yn wyneb negydd heriol. Mae hynny'n rhywbeth y bydd cenhedloedd bach sydd â chymdogion mwy pwerus, fel y Cwrdiaid, fel y Cymry, yn cydymdeimlo ag ef ac yng ngoleuni hynny, er ei fod yn eithafol, er ei fod yn peri pryder, nid yw penderfyniad Imam yn baradocsaidd o gwbl.
Sefydlwyd y ganolfan Gwrdaidd yng Nghasnewydd lle mae Imam yn byw gyda chymorth fy rhagflaenydd, Steffan Lewis, a gwn fod hyn yn rhywbeth y byddai ef wedi ei gefnogi i'r carn. Mae Imam, hefyd, yn ofalgar, yn feddylgar; mae'n ŵr anrhydeddus a'i unig bryder yw ceisio cyfiawnder i'w frodyr a'i chwiorydd yn eu mamwlad Gwrdaidd. Rwy'n pryderu'n fawr am ei les, ac ofnaf efallai y daw'r gwaethaf i'w ran oni wireddir ei alwad resymol am driniaeth drugarog i Mr Öcalan, ac felly erfyniaf ar fy nghyd-Aelodau i gefnogi ein cynnig heddiw, ac Imam, anfonwn ein dymuniadau gorau atoch. Diolch.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.