5. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Teithio Llesol

– Senedd Cymru am 4:27 pm ar 14 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:27, 14 Mai 2019

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar deithio llesol. Ac dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei ddatganiad—Lee Waters.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 4:28, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae gennym argyfwng hinsawdd, epidemig gordewdra ac argyfwng o ran ansawdd aer. Mae cael mwy o bobl i deithio mewn ffyrdd sy'n gwella eu hiechyd a'n hamgylchedd yn allweddol i fynd i'r afael â'r holl broblemau hynny. Mae trafnidiaeth yn cyfrif am 13 y cant o'r allyriadau sy'n achosi newid yn yr hinsawdd yng Nghymru, ac mae bron pob un ohonynt yn dod o geir preifat. Mae ein cynllun cyflawni carbon isel a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn sicrhau bod newid moddol yn ganolog, a thrwy hynny rydym yn golygu ei gwneud yn haws i bobl wneud llai o siwrneiau mewn car, drwy ei gwneud yn haws defnyddio dewisiadau eraill. Mae dros hanner yr holl deithiau mewn ceir ar gyfer pellteroedd o lai na phum milltir. Gellid gwneud llawer o'r teithiau hyn drwy gerdded a beicio. Dyna pam mae annog teithio llesol yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Yr hyn sy'n allweddol yw deall beth sydd angen ei newid er mwyn gwneud y dewis hwn yn bosibilrwydd i fwy o bobl.

Er bod gennym ddeddfwriaeth sy'n arwain y byd ar ffurf Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r dyfodol, nid ydym wedi gweld y cynnydd mewn lefelau cerdded a beicio sydd ei angen ac y byddem yn dymuno ei weld. Rydym wedi trafod y rhesymau am y tanberfformio hwnnw droeon yn y Siambr hon. Mae adnoddau'n allweddol, ac rwyf yn falch o ddweud y byddwn eleni, am y tro cyntaf erioed, yn gwario dros £30 miliwn ar gynlluniau teithio llesol yng Nghymru mewn un flwyddyn.

Ond nid adnoddau yw ein hunig broblem. Gwnaed hynny'n glir iawn yn adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar weithredu'r Ddeddf. Mae gennym broblem fawr o ran capasiti a'n dull o gyflawni. Rydym yn sôn am gyni'n aml yn y Siambr hon, ond weithiau ni roddir digon o sylw i'r modd y mae wedi gwneud i awdurdodau lleol fod â'r capasiti i gyflawni dim heblaw am wasanaethau statudol hanfodol. Mae teithio llesol yn faes lle mae diffyg staffio difrifol iawn. Yn ogystal â chapasiti, mae problemau hefyd o ran y gallu i ddarparu'r hyn sydd, wedi'r cyfan, yn newid mewn ymddygiad a diwylliant.

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 4:30, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Rydym wedi datblygu canllawiau uchel eu parch ar sut i ddylunio seilwaith a fydd yn gwneud cerdded a beicio yn ddewis mwy deniadol. Ond mae angen inni wneud mwy i hyfforddi ac uwchsgilio gweithwyr proffesiynol wrth ei ddefnyddio. Gallaf gyhoeddi heddiw felly, Llywydd, y byddwn yn neilltuo rhywfaint o'r £30 miliwn i fuddsoddi er mwyn gwella lefelau sgiliau a lledaenu arferion da.

Rwyf wedi cyfarfod â'r rhan fwyaf o'r cynghorwyr a'r swyddogion rheng flaen yr ydym yn gweithio gyda nhw i gyflawni'r prosiect hwn a gwrando ar eu pryderon. Y pryder allweddol yw bod cynlluniau teithio llesol da yn gallu bod yn gymhleth a bod cylchoedd ariannu blynyddol yn ei gwneud yn anodd eu cyflawni. Felly, byddaf yn sicrhau bod cyfanswm o £6.3 miliwn ar gael i awdurdodau lleol ar sail pro rata er mwyn eu galluogi i gynllunio cyn cyflwyno ceisiadau llawn am gyllid.

Bydd adnoddau'n brin bob amser a rhaid inni sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn ffordd sy'n cynyddu'r canlyniadau i'r eithaf. Allwn ni ddim fforddio taenu'r jam mor denau fel bod cymunedau'n cael tamaid o lwybr ond dim digon i'w cael i unman. Rhaid inni ganolbwyntio ein hadnoddau ar adeiladu llwybrau a fydd yn caniatáu i bobl deithio'n gyfan gwbl i leoedd y mae angen iddynt eu cyrraedd, yn ddiogel ac yn gysurus o'u cartref i'r gwaith, neu i'r ysgol neu'r siopau. Dim ond wedyn y byddwn yn gallu argyhoeddi niferoedd sylweddol o bobl i newid eu harferion teithio. Rwyf yn barod i gymryd y bai am adeiladu llai o filltiroedd o lwybrau mewn llai o leoedd os bydd y llwybrau hynny'n galluogi llawer mwy o bobl i fod yn deithwyr llesol.

Rhaid inni wobrwyo uchelgais, ond hefyd, yn hollbwysig, helpu'r awdurdodau hynny nad ydynt wedi bod yn ddigon uchelgeisiol i fod yn fwy uchelgeisiol. Cyn hir byddwn yn dechrau ar gylch newydd o ymgynghoriadau ar gynlluniau awdurdodau lleol ar gyfer eu rhwydweithiau teithio llesol, y mapiau rhwydwaith integredig. Nid wyf eisiau gweld llinellau ar hap ar fap a all sgorio'n uchel o ran cyflawnadwyedd ond yn rhai nad ydynt yn creu rhwydweithiau di-dor sy'n cysylltu pobl â'r lleoedd y maent eisiau mynd iddynt. Felly, rwyf yn neilltuo arian i ariannu dull llawer mwy atyniadol o ymgynghori fel y bydd iteriad nesaf o'r mapiau integredig a gyflwynir gan gynghorau yn seiliedig ar farn ein grŵp targed—y rhai nad ydynt yn cerdded ac yn beicio ar hyn o bryd—ac sy'n arwain at lif o brosiectau a fydd yn cael effaith wirioneddol.  

Wrth gwrs, mae'n ymwneud â mwy na llwybrau newydd yn unig. Rwyf eisiau gweld awdurdodau lleol yn defnyddio peth o'u hadnoddau newydd i nodi'r newidiadau bach hynny mewn ffyrdd a llwybrau a all wneud gwahaniaeth mawr. O bosib ehangu llwybr poblogaidd neu gael gwared ar rwystrau mynediad sydd wedi'u cynllunio'n wael sy'n atal pobl anabl, rhieni â phramiau, rhieni â phlant ar bygis ar gefn eu beiciau, rhag gallu mynd trwodd. Unrhyw beth a all ddangos y manteision o gael pobl i newid eu dull o deithio. Felly, anogir awdurdodau lleol i ddefnyddio rhan o'u dyraniad i ariannu prosiectau bach sy'n sicrhau gwelliannau parhaus i'w rhwydweithiau lleol.

Ym mis Chwefror, cefnogodd y Cynulliad cyfan gynnig yn galw am dargedau teithio llesol mwy uchelgeisiol. Byddaf yn gwireddu'r addewid hwnnw, ond er mwyn i'r targedau hynny fod yn ystyrlon ac yn effeithiol rhaid inni gael cynlluniau monitro effeithiol ar waith. Ar hyn o bryd, rydym yn ariannu llwybrau lle nad oes dull awtomatig o gadw cyfrif wedi'u gosod ynddynt fel mater o drefn, er enghraifft, ac mae angen inni edrych ar hynny. Felly, rwy'n gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu dull llawer mwy systematig na'r hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd.

Rwyf wedi amlinellu'r heriau sy'n ein hwynebu yn fy marn i, ac mae yna nifer ohonynt. Fodd bynnag, nid wyf yn credu y dylem fod yn besimistaidd. Rydym yn dechrau gwneud rhai o'r penderfyniadau anoddaf a all newid yr agenda hon yn sylweddol. Cyhoeddodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf y bydd Cymru yn dechrau ar waith i wneud 30 milltir yr awr yn derfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd preswyl, sy'n ffordd wirioneddol gadarnhaol o wella'r sefyllfa. Bydd cyflymderau is nid yn unig yn lleihau nifer y damweiniau ac yn gwella iechyd y cyhoedd; byddant hefyd yn creu amgylchedd sy'n fwy addas i deithio llesol. Rydym wedi dechrau gweithio ar strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru, a fydd yn ganolog i wireddu'r agenda uchelgeisiol hon ac yn sicrhau bod teithio llesol yn dod yn rhan hanfodol o brosiectau seilwaith mawr megis y metro. Bydd fy nghydweithiwr, Ken Skates, a minnau yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith hwn.

Ni all dim ond un fenter a gweithred gan Weinidog greu'r newidiadau y mae angen inni eu gweld i wrthdroi'r tueddiadau o ran trafnidiaeth a welwyd yn ystod y 50 mlynedd diwethaf. Bydd yn gofyn am ymdrechion parhaus, tameidiog, gan ganolbwyntio ar gannoedd o fanylion gwahanol, er mwyn creu diwylliant teithio llesol. Ond os ydym eisiau gwella ansawdd aer, cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol a lleihau effeithiau niweidiol trafnidiaeth ar ein hamgylchedd, rhaid inni ymroi iddi.

Ac i gloi, rwy'n gwahodd yr Aelodau yn ddiffuant i ddweud wrthyf beth yn fwy y credwch y dylem fod yn ei wneud gyda'n gilydd yn eich cymunedau penodol i ganiatáu inni fod ar flaen y gad o ran yr her teithio llesol. Diolch.

Photo of Russell George Russell George Conservative 4:35, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a'i gyhoeddiad y prynhawn yma? Rwy'n credu ei bod yn iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno deddfwriaeth sy'n arwain y byd o ran y Ddeddf teithio llesol. Ond wrth gwrs, nid yw deddfwriaeth ar ei phen ei hun yn ddigon—mae angen gweithredu hefyd, ac nid ydym wedi gweld y gweithredu hwnnw. Mae tanberfformiad sylweddol wedi bod—nid ydym wedi gweld y lefel o gerdded a beicio y mae angen inni ei gweld, o ran yr hyn y bwriadwyd i uchelgais y Ddeddf ei gyflawni yn ôl yn 2013. Dywedodd y Dirprwy Weinidog hefyd yn ei sylwadau agoriadol ein bod wedi ailadrodd y dadleuon hyn yn y Siambr o'r blaen, felly nid wyf am oedi gyda'r rheini. Ond hoffwn groesawu'r datganiad gonest iawn sydd wedi'i ddwyn gerbron heddiw. Rwy'n gwerthfawrogi tôn datganiad y Dirprwy Weinidog yn fawr iawn—mae'n edrych yn realistig ar y sefyllfa yr ydym ynddi, a diolchaf iddo am ei onestrwydd wrth asesu lle'r ydym ar hyn o bryd.

Rwy'n falch iawn bod gwaith y Pwyllgor fel petai wedi dylanwadu'n fawr ar feddylfryd y Llywodraeth hefyd, o ran y newidiadau mewn polisïau yr ydych wedi manylu arnynt yn eich datganiad heddiw. Rydych wedi sôn am hyfforddiant i awdurdodau lleol, mapiau rhwydwaith integredig, sy'n gwneud y newidiadau bach hynny y mae eu hangen i wneud gwahaniaeth. Ac fel yr oeddech yn darllen eich datganiad, roedd bron fel petaech yn darllen argymhellion adroddiad Pwyllgor yr Economi y llynedd. Felly, mae hynny i'w groesawu'n fawr, yn wir.

O ran y £30 miliwn ar gyfer teithio llesol, rwy'n credu fy mod yn iawn wrth ddweud, pan oeddech yn y Pwyllgor yr wythnos diwethaf, eich bod yn sôn bod y ffigur a ddyrennir draean yn fwy na'r hyn a glustnodwyd. Gofyn am rywfaint o eglurder ynghylch hynny'n unig a wnaf yma. Ond, yn benodol, os caf ofyn, beth yw maint y cynnydd mewn cyllid yn erbyn yr hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer eleni, a sut mae hyn yn cymharu â lefelau cyllid y llynedd?

Hefyd, yn adroddiad Pwyllgor yr Economi, un o'r argymhellion a wnaethom, wrth gwrs, oedd bod yr arian yn cyrraedd £19 i £20 y pen y flwyddyn o gyllid cyfalaf a refeniw. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau a yw'r cyllid a gyhoeddwyd gennych heddiw yn cyrraedd y terfyn hwnnw. Ac a gredwch fod yr argymhellion gan y Pwyllgor a'r arian a ddyrannwyd gennych heddiw yn ddigonol i sicrhau uchelgais Llywodraeth Cymru o ran teithio llesol ar yr hyn yr ydych wedi'i gyhoeddi heddiw.

Roeddech chi, wrth gwrs, yn aelod o'r Pwyllgor, Dirprwy Weinidog, pan oedd yr adroddiad hwn yn cael ei ddrafftio a'r argymhellion yn cael eu hystyried, ac felly rydych yn ymwybodol iawn o'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor. Tybed sut yr ydych wedi ceisio blaenoriaethu'r dyraniad o gyllid i fynd i'r afael ag argymhellion adroddiad y Pwyllgor. Nid oes angen imi fynd drwyddynt—rydych yn gwybod beth ydynt yn barod.

A hefyd, yn ystod y craffu cyffredinol yr wythnos diwethaf—ac, unwaith eto, rydych wedi sôn am hyn yn eich datganiad heddiw —soniasoch am strategaeth drafnidiaeth Cymru, a gyhoeddir y flwyddyn nesaf. Sut ydych chi'n rhagweld y bydd teithio llesol yn rhan o'r strategaeth ddiwygiedig hon, ac a allwch ddweud pryd y bydd strategaeth ddrafft ar gael i graffu arni?

Ac yn olaf, rydych wedi gofyn i'r awdurdodau lleol am ddata teithio llesol i weld a oes unrhyw fylchau yn yr wybodaeth am deithio llesol. A ydych yn gallu rhoi rhagor o fanylion am sut y caiff y fframwaith monitro a gwerthuso ei ddefnyddio'n ymarferol, yn enwedig sut y gallai wella gwerth am arian o ran buddsoddiad a hefyd arwain at gynnydd mewn cyfraddau teithio llesol? Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi sylw i'r pwyntiau hynny. Ond rwy'n falch iawn o'r datganiad a'r cyhoeddiad heddiw.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 4:40, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am y sylwadau hynny. Ni chredaf ei bod yn deg dweud nad ydyn ni wedi gweld gweithredu yn y blynyddoedd diwethaf. Credaf ein bod wedi gweld gweithredu ac rydym wedi gweld swm sylweddol o arian am nifer o flynyddoedd gan Lywodraethau olynol Cymru yn yr agenda hon. Ond rwy'n credu, fel y dangosodd y dystiolaeth i'r Pwyllgor, mai sicrhau bod y sail yn gywir sydd bwysicaf, fel bod yr arian yn mynd i gael ei wario'n dda er mwyn cael effaith. Rwy'n credu mai dyna'r hyn rwy'n gobeithio y bydd datganiad heddiw yn mynd i'r afael ag ef—cael hynny'n iawn.

Nid wyf yn mynd i fod yn cyflwyno achos i'r Gweinidog Cyllid neu i Weinidog yr Economi arllwys arian i ridyll o gynlluniau sydd wedi'u cynllunio'n wael. Oherwydd y drafferth gyda llwybr sydd wedi'i gynllunio'n wael yw ei fod yn anghymeradwyo'r holl agenda. Os yw cynghorau'n adeiladu llwybrau—er enghraifft, wrth ymyl y ffordd—sydd wedi'u cynllunio'n wael, mae'r aflonyddwch yn mynd i elyniaethu pobl wrth iddynt gael eu hadeiladu, a phan welant nad oes neb ar y llwybrau hyn, y cyfan a wnânt yw dweud, ' Wel, beth oedd diben hynny? Am wastraff arian. Beth yw ystyr teithio llesol?'

Rwyf wedi gweld hynny'n digwydd dro ar ôl tro, a dyna pam mae'n hanfodol nad yw'n ddigon da cael y canllawiau'n unig; rhaid inni hyfforddi awdurdodau lleol sydd wedi'u disbyddu i'w defnyddio'n briodol a hefyd mynd ati i gydweithredu, fel bod gweithio rhanbarthol gwirioneddol yn y maes hwn. Dyna un o'r pethau y bydd y Gweinidog a minnau yn eu hystyried wrth iddo fwrw ymlaen ag argymhellion y Papur Gwyn: wrth inni greu cyrff rhanbarthol, a fydd teithio llesol yn rhan o'u swyddogaethau craidd? Oherwydd yn amlwg, mae'r arbedion meintiol yn fuddiol iawn.

A beth yw rôl Trafnidiaeth i Gymru yn hyn hefyd? Felly, i fynd i'r afael â'i bwynt olaf ynglŷn â monitro gwerthuso, rydym eisoes wedi cael trafodaethau. Cyfarfûm ddoe â phennaeth Trafnidiaeth i Gymru i drafod hyn—gan eu bod yn dechrau datblygu eu huned dadansoddi gwybodaeth a data eu hunain, sef sut y gallant sicrhau bod cipio data teithio llesol yn rhan allweddol o'r hyn a wnânt, a chipio'r data defnyddiol yr ydym ni ei angen i wneud penderfyniadau gwell.  

O ran cwantwm y cyllid, rydym gryn bellter oddi wrth y swm £30 y pen. Rwy'n credu bod cyhoeddiad heddiw yn mynd â ni i rywle tua £10 miliwn y pen ar gyfer y flwyddyn hon—£10 y pen, mae'n ddrwg gennyf, eleni; byddai £10 miliwn y pen yn gryn her oni fyddai?—£10 y pen eleni. Ond fel y dywedais, rwyf am inni sicrhau ein bod yn cael pethau'n iawn, felly y tro nesaf bydd gennym fapiau rhwydwaith integredig sy'n creu llwybrau sy'n seiliedig ar alw gan y bobl sydd eisiau cerdded a beicio. Os gallwn ddechrau ymgysylltu â'r gymuned a'u hysbrydoli ynghylch lle y dylai'r llwybrau fod, yna credaf y gallwn greu diddordeb cynyddol a fydd yn caniatáu'r cyfle gwleidyddol inni ddweud, 'Rydym eisiau gwario mwy ar yr agenda hon', a gallaf fynd at gyd-weinidogion gyda hygrededd a dweud, 'Dylid gwario arian ar hyn ac nid ar rywbeth arall.' A bod yn gwbl onest, nid wyf yn siŵr y gallwn wneud hynny ar hyn o bryd, oherwydd nid wyf yn hyderus y caiff yr arian hwnnw ei wario yn y ffordd orau hyd nes y gellir gweithio'n iawn ar y materion yr wyf wedi rhoi sylw iddynt yn y datganiad.  

O ran strategaeth drafnidiaeth Cymru, yn amlwg bydd hyn yn rhan bwysig ohoni, ond wrth arsylwi ar strategaethau trafnidiaeth blaenorol Cymru sylwaf ein bod wedi bod yn iawn ynghylch y geiriau sy'n ymwneud â theithio llesol. Yn aml byddwn yn sylwi—rai blynyddoedd yn ôl bellach, 10 mlynedd yn ôl neu fwy—y byddai gennym strategaeth drafnidiaeth i Gymru lle gallech feddwl, pe baech yn dod o blaned wahanol ac yn syml yn darllen y naratif, bod Cymru yn wlad teithio llesol gan fod y geiriau i gyd yno. Ond petaech yn edrych ar y cynllun gwaith ar y diwedd, y cyfan y byddech yn ei weld fyddai'r holl bethau traddodiadol, a phrin iawn oedd y teithio llesol. Felly, rwy'n hyderus y bydd teithio llesol yn rhan allweddol ohono, fel y bu erioed. Yr hyn sydd raid digwydd y tro nesaf yw ei fod yn rhan allweddol o'r ddarpariaeth hefyd. A dyna ni, os byddwn ni'n gweithredu ar y pethau a gyhoeddwyd heddiw, rwy'n credu y gallwn roi sylw i hyn.  

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:44, 14 Mai 2019

Ga i groesawu'r datganiad yma gan y Llywodraeth heddiw? Mae llawer ohono fo yn gynnwys dwi'n cyd-fynd â fo. Beth sy'n fy nharo i ac eraill bob amser ydy rhwystredigaeth ein bod ni'n methu cyrraedd at ben y daith neu i lle dŷn ni eisiau mynd yn gynt. Dwi'n siŵr bod y rhwystredigaeth yna yn rhywbeth mae'r Dirprwy Weinidog ei hun yn ei rannu. Dwi'n meddwl bod y seiliau gennym ni, mewn ffordd, o ran bod y Ddeddf yn ei lle, ond allwn ni ddim anwybyddu, wrth gwrs, pwysigrwydd cyllido yn iawn a rhoi yr adnoddau digonol er mwyn sicrhau bod y dyheadau yn cael eu gwireddu mewn difrif.

Dwi'n croesawu'r cynnydd eto, a'r ffaith ein bod ni'n cyrraedd £30 miliwn. Mae'n garreg filltir bwysig. Dwi'n meddwl mai rhyw £80 miliwn oedd y ffigwr y cyrhaeddodd yr Alban â fo nôl rhyw ddwy flynedd yn ôl, sy'n rhoi rhywbeth inni gymharu ag o. Mae'n bwysicach wedyn i edrych ar faint rydym ni'n gwario y pen. Dwi'n meddwl bod y Sefydliad Materion Cymreig, yn eu hadroddiad nhw y llynedd, yn sôn bod angen anelu rŵan at £20 y pen yng Nghymru. Mae yna sbel o ffordd i fynd tan hynny, wrth gwrs. Dwi'n ymfalchio fy hun ar fod yn uchelgeisiol a gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer y Llywodraeth, a rŵan bod y Gweinidog wedi sôn am £10 miliwn y pen, dydy'r hyn dwi'n gofyn amdano fo ddim yn swnio'n ddigon rŵan, rhywsut. Ond, mae'n rhaid inni gadw llygaid ar yr angen yna drwy'r amser i wthio'r ffigurau i fyny, achos mae yna ffordd bell i fynd o hyd.

Pan fyddwn ni'n sôn am isadeiledd, mae isadeiledd wastad yn rhywbeth y mae'n rhaid buddsoddi yn drwm ynddo fo, a buddsoddi rŵan er mwyn sicrhau bod yr isadeiledd yno ar gyfer cenedlaethau i ddod. A tra dwi'n gwerthfawrogi iaith y Gweinidog am fod yn granular, mewn ffordd—a mae Dave Brailsford, fel hyfforddwr seiclo o fri yn dod â llwyddiant mawr o'r gwelliannau incremental bach yna sy'n mynd â ni gam o'r ffordd tuag at y nod—dŷn ni hefyd yn aros, dwi'n meddwl, am y swmp yna o fuddsoddiad a all wneud gwahaniaeth go iawn mewn gosod sylfeini mwy cadarn ar gyfer cynyddu teithiant llesol ar gyfer y dyfodol. 

Un peth arall y gwnaf i sylw arno fo ydy'r gwahaniaeth rhwng y dyhead a beth sy'n cael ei weithredu go iawn. Dwi'n gwerthfawrogi'r iaith gafodd ei defnyddio gan y Gweinidog heddiw o ran ei barodrwydd o i helpu ac i weithio efo awdurdodau lleol i weithredu amcanion teithio llesol. Dwi'n meddwl, ar y cyfan, fod yna awydd ar lefel llywodraeth leol, yn swyddogion ac yn aelodau etholedig, i wthio'r maen i'r wal ar hwn, ond mae angen i strategaeth ac arweiniad a chyllid, ie, i ddod gan y Llywodraeth er mwyn tywys pobl yn gyflymach ar hyd y llwybr. Ond, fel bob amser, mae bob cam ymlaen i'w groesawu ac mi fyddwn ni fel gwrthblaid yn fan hyn yn cadw llygaid ar beth ydy'r gwahaniaeth ymarferol a pha bryd fyddwn ni'n gallu dweud go iawn, 'Ydyn, pump neu chwe blynedd ers y Ddeddf yma, mi ydyn ni'n cymryd camau breision ymlaen.' 

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 4:47, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am y sylwadau. Dydw i ddim yn siŵr a oedd unrhyw gwestiynau penodol, ond rwy'n croesawu tôn yr hyn a ddywedwyd. O ran y pwynt olaf ar uchelgais awdurdodau lleol yn benodol, credaf fod angen inni fod yn onest bod yna uchelgais anghyfartal. Mae yna nifer o awdurdodau lleol sydd wedi dangos diffyg uchelgais truenus, ac mae hynny'n rhannol yn mynd yn ôl, fe gredaf, i'r mater capasiti a grybwyllais, i fod yn deg â nhw. Ond rwy'n credu mai dyma pam, mewn ffordd, yr wyf am ei ail-osod—a dyma'r wers a ddysgais o'r dystiolaeth a gafodd Pwyllgor yr Economi y llynedd. Mae'r Ddeddf yn dal yn ei dyddiau cynnar. Mae hwn yn mynd i fod yn brosiect newid tymor hir.

Roedd y mapiau cyntaf a ddaeth i law fel petaent yn ddrafft cyntaf. Y tro nesaf, rhaid inni gael pethau'n iawn. Rwy'n credu mai un o'r problemau sylfaenol o ran y dull gweithredu a gawsom hyd yma yw eich bod yn gofyn i beirianwyr priffyrdd gynnal ymarferion ymgynghori cyhoeddus, nad oes ganddynt yr adnoddau i'w gwneud, nad ydynt wedi eu hyfforddi i'w gwneud ac nad yw'n rhan o'u diwylliant nhw, yn y bôn. Roedd gennym rai enghreifftiau o beirianwyr yn defnyddio ystafell mewn llyfrgell ar brynhawn dydd Mercher am ychydig oriau ac yn synnu mai ychydig iawn o bobl a oedd yno. Ond hyd nes y cawn y dull ymgynghori hwnnw'n iawn, dydyn ni byth yn mynd i gael y sylfeini'n iawn. Felly, yr hyn yr wyf yn bwriadu ei wneud yw neilltuo rhywfaint o'r arian hwn a chyflwyno tendr ar gyfer dull Cymru gyfan o weithredu. Dull lle rydym yn ariannu sefydliad sydd y tu allan i ddiwylliant awdurdodau lleol i ymwneud â chymunedau, i gael y data amrwd hwnnw, i gael y sgwrs gyda mamau â bygis a dynion oedrannus sy'n defnyddio ffyn am yr hyn y byddai'n ei gymryd i'w cael i newid eu harferion teithio ac i adeiladu hynny i mewn i'r mapiau rhwydwaith. Oherwydd, wedi'r cyfan y bwriad yw eu bod yn weledigaethau 15 mlynedd, mewn byd delfrydol, o'r hyn fyddai ei angen er mwyn inni ymddwyn yn wahanol.

Ac nid dyna a wnaeth yr awdurdodau lleol. Roedd tystiolaeth CLlLC i'r Pwyllgor yn glir iawn: nid oeddent am greu disgwyliadau na fyddent yn gallu eu bodloni drwy roi llwybrau ar y mapiau hynny nad oeddent yn hyderus y gallent eu darparu. Ac mae hynny'n fan cychwyn anghywir. Felly mae'n rhaid inni roi'r hyder hwnnw iddyn nhw y gallwn ni greu disgwyliadau, oherwydd heb greu disgwyliadau, beth yw'r pwynt o wneud hyn yn y lle cyntaf? Ond rhaid i'r datblygiadau sy'n hanfodol eu cyflawni fod yn rhai a all wrthsefyll y broses graffu, sef creu rhwydweithiau sy'n mynd i gael eu defnyddio'n dda. Felly, credaf fod angen inni ailosod y broses drwy fynd allan a gwneud ymarfer ymgynghori cadarn, gan dargedu'r bobl iawn, a fydd wedyn yn rhoi yn y mapiau nesaf yn 2021 rwydweithiau lleol y gallwn eu hariannu wedyn mewn camau. Bydd hyn yn digwydd yn ôl safonau dylunio swyddogion yr awdurdod, wedi eu hyfforddi'n briodol, yn gweithio'n rhanbarthol, yn craffu ar waith ei gilydd er mwyn gwneud yn siŵr bod y gwaith o safon, law yn llaw â'r rhan hollbwysig nad wyf wedi sôn llawer amdani heddiw, sef hyrwyddo'r datblygiadau.

Mae'r gyllideb yn canolbwyntio'n bennaf ar gyfalaf, ar seilwaith, a gwyddom o'r holl dystiolaeth fod angen ymyriadau newid ymddygiad yn ogystal â'r seilwaith. Mae rhywfaint o'r arian sy'n cael ei gyhoeddi, sef y £3 miliwn, ar gael i awdurdodau lleol wneud gwaith hyrwyddo. Ond mae angen inni wneud llawer mwy os ydym am sicrhau bod yr agenda hon yn cael ei rhoi ar waith. Felly beth am ailosod y sylfeini, gadewch i ni gael hynny'n iawn, ac yna gallwn ni edrych ar y rhan nesaf.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:51, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am eich datganiad, Dirprwy Weinidog. Yr hyn sy'n glir i mi, yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd sydd wedi'i ddatgan erbyn hyn, yw bod hyn yn fusnes i bawb. Ni allwch wneud hynny ar eich pen eich hun, ac rwyf yn croesawu'r ffaith eich bod yn mynd i gynnig hyfforddiant i swyddogion mewn awdurdodau lleol sy'n mynd i ymgymryd â'r swyddogaeth newydd hon. Ymddengys i mi mai yn yr adran gynllunio y dylai'r man cychwyn fod i sicrhau nad ydym yn caniatáu datblygiadau newydd gyda thai nac, yn wir, ddatblygiadau busnes, oni bai ein bod yn sicrhau'r cynlluniau teithio llesol i gyd-fynd â nhw. Ond, yn amlwg, daw'r rhan fwyaf o'r heriau o ôl-ffitio teithio llesol i'r strydlun sydd gennym eisoes.

Felly, yn amlwg, y datganiad pwysicaf yr wythnos diwethaf oedd datganiad y Prif Weinidog am y terfyn cyflymder diofyn o 20 milltir ar gyfer pob ardal, ac ni all ddod yn ddigon buan yn fy etholaeth i. Yn anffodus mae llawer gormod o fodurwyr yn credu bod ffyrdd ar gyfer goryrru. Mewn ardal drefol, mae hynny'n gwbl annerbyniol.

Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith eich bod yn canolbwyntio ar bobl sydd ddim yn cerdded nac yn beicio oherwydd, yn amlwg, mae'n rhaid inni gael y newid diwylliannol hwnnw, a chanolbwyntio ar y teithiau hyn i'r gwaith, yr ysgol a'r siopau y mae pobl yn eu gwneud bob dydd. Felly, o ran ymgysylltu â'r holl randdeiliaid eraill, tybed sut yr ydym yn mynd i ymgysylltu ag ysgolion a sicrhau bod gan bob ysgol gynllun teithio llesol. Yn amlwg, bydd yn wahanol iawn mewn ardal wledig i ardal drefol. Ond os nad ydym yn cefnogi teuluoedd i ddeall bod llwybrau teithio llesol ar gael ar gyfer dod â'u plant i'r ysgol yn fwy diogel yn hytrach na'u gorfodi i deithio mewn car, sy'n amlwg yn llawer mwy peryglus, wyddoch chi, gall fod yn anodd i bobl nad ydynt yn feicwyr eu hunain wybod lle mae'r llwybrau. Felly, hoffwn wybod—rwy'n siŵr nad ydych chi o reidrwydd yn gwybod eich hun—faint o ysgolion yng Nghymru sydd â chynllun teithio ymarferol, a beth yw'r targed yr ydym yn mynd i'w bennu ar gyfer cyflawni cynllun teithio llesol ar gyfer y mwyafrif helaeth o ysgolion.

Yn yr un modd, mae angen inni wneud yn siŵr bod busnesau'n ymwneud â sicrhau y gall eu staff gyrraedd ar feic neu drwy—. Dydyn nhw ddim yn mynd i ddod â'u beiciau oni bai bod rhywle diogel iddyn nhw eu parcio, oherwydd fel arall efallai na fyddan nhw yno pan fydd angen iddyn nhw fynd adref. Yn yr un modd, yn amlwg, mae gan blant sy'n byw tair milltir i ffwrdd o'u hysgol yr hawl i deithio ar fysiau am ddim. Pa ystyriaeth sydd wedi'i rhoi mewn ardaloedd lle mae trafnidiaeth gyhoeddus, fel Caerdydd, i sicrhau bod plant yn cael tocynnau bws am ddim i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn hytrach na'r bysiau arbenigol hyn na all neb arall eu defnyddio? Mae'n ymddangos i mi y gallai fod yna ffordd o gynyddu nifer y bysiau sydd ar gael i bawb yn raddol.

Yn olaf, tybiaf mai un o'm prif gwynion i yw y dylid newid y diwylliant sy'n annog rhieni plant ysgolion uwchradd i gasglu eu plant o'r ysgol. Gallaf weld rhesi hir ohonyn nhw yn yr ysgol lle rydw i'n llywodraethwr, ac ni allaf ddeall pam na fyddai unrhyw riant eisiau rhoi'r cyfle a'r rhyddid i'w plentyn wneud ei ffordd ei hun adref, oni bai ei fod yn mynd ar ryw daith arbennig sy'n mynnu eu bod yn cael eu casglu o'r ysgol.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 4:54, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae nifer o gwestiynau yno y bydda i'n ceisio mynd i'r afael â nhw. O ran y pwynt am gynllunio, credaf inni gymryd cam mawr ymlaen ddiwedd yr hydref, gyda chyhoeddi'r rhifyn diweddaraf o 'Bolisi Cynllunio Cymru', a wnaeth gryfhau'r canllawiau cynllunio yn sylweddol ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol ar greu amgylchedd teithio llesol. Bydd yn cymryd cryn amser, mae'n debyg, i hynny dreiddio i weithgaredd yr awdurdodau, ond credaf ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol yno.

O ran ysgolion, cafodd y Gweinidog Addysg a minnau nifer o sgyrsiau am hyn, a bu'r ddau ohonom yng nghyfarfod diwethaf y grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol y mae Huw Irranca-Davies yn ei gadeirio'n effeithiol iawn. Mae'n grŵp da iawn ac mae'n ddefnyddiol iawn gallu ymgysylltu ag ef. Clywsom am arferion gwirioneddol dda yn yr ysgol newydd sef Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad yn Grangetown. Mae hon yn ysgol weddol anarferol yn yr ystyr bod ganddi amod cynllunio lle na chaniateir ceir. Maen nhw wedi gwneud gwaith gwych yno ac mae Dr Dafydd Trystan, cadeirydd y llywodraethwyr, a'r pennaeth yno, Mrs Carbis, mi gredaf, wedi dangos enghraifft ysbrydoledig o'r hyn y gellir ei wneud—rôl arweinyddiaeth. Ond mae eu hamgylchiadau nhw'n eithaf anarferol. Felly, sut allwn wneud y rhain yn gyffredin mewn ysgolion eraill? Mae'n brawf fod pethau'n bosibl gyda'r ewyllys iawn.

Mae'r sgwrs yr ydym yn dal i'w chynnal yn ymwneud â dyluniad ysgolion newydd sydd ar hyn o bryd yn rhan o brosiect ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Y gofyniad yw darparu cyfleusterau o fewn cwrtil yr ysgol, nid oddi allan, a chredaf mai hyn sydd raid i ni ei ddatrys—dyma pam yr ydym yn ailosod y mapiau ac yn gwneud ein gwaith cynllunio'n iawn. Pan wyddom fod ysgolion newydd yn mynd i gael eu hadeiladu, nid mater i'r adeiladwyr yn unig yw rhoi cyfleusterau yn eu lle, er y credaf fod lle i wella yno, ond mae angen inni wneud yn siŵr bod yr awdurdodau eu hunain yn adeiladu ar y rhwydwaith o lwybrau y tu allan i gwrtil yr ysgol. Felly, pan fydd yr ysgol yn agor ei drysau, bydd y llwybrau yno'n barod yn ymestyn allan i'r gymuned gyfan.

O ran eich pwynt am fusnes—mae'n bwynt pwysig—rydym wedi cynnwys rhywfaint o hyn yn y contract economaidd, ond mae Dr Tom Porter, arbenigwr iechyd cyhoeddus ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, unwaith eto yn dangos grym arweinyddiaeth, gan wneud gwaith pwerus iawn ar annog staff i beidio â gyrru i'r gwaith ac i gerdded a beicio yn lle hynny. Roedd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, sydd bellach yn prif ffrydio'r egwyddor hon drwy fwrdd y gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer cyflogwyr eraill yn y sector cyhoeddus, yn gallu dangos, gan ddefnyddio data adnoddau dynol, y gwerth i'r gweithlu cyfan a'r gostyngiad mewn costau a'r diwrnodau salwch a gollwyd o gael llai o bobl yn gyrru i'r gwaith a mwy o bobl yn cerdded ac yn beicio. Felly, mae yna enghreifftiau. Fel ym mhob achos tebyg, yr her yw ei ledaenu a'i ehangu.

O ran eich pwynt olaf, sy'n bwynt heriol ynglŷn â'r daith i'r ysgol a chael pobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, credaf ei fod yn bwynt a wnaed yn dda iawn. Wrth inni edrych ar y Papur Gwyn ar ddyfodol bysiau, mae hynny'n rhywbeth y gallwn ni ei ystyried. O ran newid patrymau ymddygiad, credaf mai dyma'r pwynt allweddol yr oeddwn yn ei wneud yn y datganiad: os dechreuwn greu amgylchedd lle mae gennych lwybrau sydd wedi'u cynllunio'n dda, ac mae llawer o bobl yn eu defnyddio, rydych yn dechrau creu syniad poblogaidd wedyn lle mae'n ymddangos yn beth normal a naturiol i'w wneud. O'm profiad i fy hun, pan ddechreuais i fynd ar gefn beic eto, a heb feicio ers fy arddegau, tua 15 mlynedd yn ôl mae'n debyg, roedd yn teimlo fel rhywbeth ecsentrig iawn i'w wneud. Doedd dim llawer o bobl ar gefn beic. Erbyn hyn mae'n ymddangos yn beth gweddol normal i'w wneud yng Nghaerdydd. Yn Llanelli, mae'n dal yn beth cymharol ecsentrig i'w wneud. Ar y llwybrau di-draffig, mae digon o bobl yn beicio, ond ar y ffyrdd drwy'r dref, rwy'n dal i deimlo ychydig yn rhyfedd ar gefn beic. Nid oes llawer o bobl eraill yn ei wneud. Ond mae'n dangos, dros gyfnod o ddegawd, bod modd creu diwylliant o newid ymddygiad, a bod yn rhaid inni wneud hynny y tu hwnt i Gaerdydd drwy sicrhau'r sylfeini cywir.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 4:58, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod llawer o bobl wedi gwneud y pwynt, Gweinidog, fod diffyg cysondeb ledled Cymru, ac rydych chi eich hun wedi gwneud y pwynt hwnnw. Felly, mae angen mwy o hyfforddiant, mwy o gapasiti, mwy o gefnogaeth ar ein hawdurdodau lleol. Mae arian sylweddol ar gael, a gobeithio y bydd yn cynyddu eto, ond rwy'n credu y bydd ystyried y cyllid hwnnw ac yna eich clywed chi yn disgrifio rhywfaint o'r defnydd o'r arian hwnnw, nad yw mewn gwirionedd yn cyflawni dibenion y Ddeddf teithio llesol, yn rhoi rhywbeth i bawb bendroni yn ei gylch, oherwydd mai ni sy'n gyfrifol am wneud defnydd effeithiol o arian. Mae'n bwysig iawn, iawn bob amser, ond efallai hyd yn oed yn fwy felly nawr yn yr amgylchiadau dan straen presennol yr ydym i gyd yn gweithredu ynddynt. Felly, mae'n rhaid i'r gwaith o ddatblygu capasiti i sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio'n iawn a'n bod yn cael manteision y Ddeddf teithio llesol, a'u cael cyn gynted ag sy'n bosibl, fod yn flaenoriaeth lwyr. Hoffwn i weld y lefel honno o gysondeb ledled Cymru gyfan o ran y manteision a ddaw yn sgil teithio llesol.

Soniodd Jenny am derfynau 20 mya, Gweinidog. Tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy am hynny, oherwydd y mae'n ymddangos i mi fod y manteision niferus y mae cyfyngiadau 20 mya yn eu cynnig yn ein hardaloedd trefol mewnol yn ffafriol iawn i deithio llesol. Os byddwn ni'n lleihau cyflymder cerbydau drwy'r ardaloedd hynny, mae'n gwneud teithio llesol yn llawer mwy atyniadol, yn llawer haws ei wneud. Felly, rwy'n credu bod angen i'r ddau bolisi weithio gyda'i gilydd. Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol yn wynebu costau sylweddol wrth fwrw ymlaen â gorchmynion traffig ar gyfer cyfyngiadau 20 mya. Pe byddai hynny'n cael ei droi ar ei ben a bod polisi 20 mya cyffredinol yn yr ardaloedd trefol mewnol hyn ledled Cymru, a'u bod nhw wedyn dim ond yn bwrw ymlaen â gorchmynion traffig ar gyfer cyflymder 30 mya, yna, rwy'n credu y byddai hynny mewn gwirionedd yn cynnig arbedion eithaf sylweddol o ran costau, o ystyried y cyfeiriad teithio sydd ei angen arnom ni tuag at 20 milltir yr awr, a'r holl fanteision y mae'n eu cynnig. Felly, tybed a wnewch chi ddweud ychydig am hynny efallai.

Ac, yn olaf, mae Trafnidiaeth Cymru yn amlwg â rhan allweddol nawr wrth ddatblygu polisi trafnidiaeth yma yn ein gwlad, ac mae angen inni sicrhau, eto, y gwneir y cysylltiadau hynny rhwng teithio llesol, ein gwasanaethau trên ac, i raddau llai, ein gwasanaethau bysiau, dim ond i wneud yn siŵr bod popeth yn gysylltiedig â'i gilydd, a bod Trafnidiaeth Cymru yn gweithio mor agos â phosibl gyda chi i sicrhau bod cyfathrebu, cydweithio, synergeddau yn cael eu cyflawni.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 5:01, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. I gymryd y ddau gwestiwn hynny o chwith—ar Trafnidiaeth Cymru, mae'r Aelod yn hollol gywir, ac, fel y dywedais i, fe wnes i gyfarfod â nhw ddoe, ynghyd â Sustrans, i weld a allem ni eu hannog nhw i greu partneriaeth strategol i wneud yn siŵr y gallem ni gyflawni hyn mewn ffordd a oedd wedi'i hintegreiddio o ran y pecyn o waith trên y maen nhw'n ei wneud, a gwaith bws o bosibl, i sicrhau bod teithio llesol yn cael ei brif-ffrydio'n llwyr o ran y system drafnidiaeth, ond gan ganiatáu hefyd, drwy weithio gyda Sustrans, rhywfaint o herio a helpu awdurdodau lleol er mwyn gallu gwneud hynny'n effeithiol. Felly, mae hynny ar fy meddwl yn fawr iawn a byddaf yn cyfarfod â nhw eto ymhen mis neu ddau i fynd ar drywydd hynny.

O ran y pwynt am barthau 20 mya, mae'n rhaid imi dalu teyrnged i John Griffiths am y gwaith eirioli y mae wedi'i wneud yn y Cynulliad hwn, ynghyd ag aelodau eraill, a hefyd am y gwaith a wnaeth fel y Gweinidog a ymgymerodd â'r Ddeddf teithio llesol. Mae ei bwynt ynghylch gwneud 20 mya yn rhagosodedig yn un gwirioneddol bwysig. Ar hyn o bryd, os ydych chi mewn awdurdod lleol, ac rydym ni i gyd, drwy gynrychiolaeth etholaethol, wedi cael grwpiau o bobl sydd eisiau cyflymderau arafach yn eu hardal. Dyma'r mater a godir gyda mi yn gyson pan fydd gennyf gyfarfodydd cyhoeddus misol—nid ydyn nhw'n hoffi ponciau atal cyflymder, ar y cyfan, maen nhw'n tueddu i rannu barn, ond maen nhw eisiau cyflymderau arafach. Ac rwy'n credu bod angen inni symud o'r safbwynt lle'r ydym yn ystyried 30 fel y cyflymder rhagosodedig a bod achos i'w wneud dros 20, sef bod 20 y cyflymder rhagosodedig ac achos i'w wneud dros 30. Felly, symud y baich tystiolaeth hwnnw, oherwydd, ar hyn o bryd, mae gennym ni ffordd gymhleth a chostus iawn o orfod cyflwyno gorchmynion cludiant er mwyn cyflwyno parth 20 mya. Felly, rwy'n credu bod angen i ni roi terfyn ar ddyddiau'r parthau a dechrau ystyried 20 fel y terfyn cyflymder ar draws ardal, a bydd hynny wedyn yn dod yn hunanatgyfnerthol wrth i'r cyflymderau arafu. Mae problem o hyd o ran gorfodi gan yr heddlu, y credaf y bydd yn rhaid inni ei hwynebu, ond lle mae'n gweithio'n dda, mae'n system sy'n atgyfnerthu ei hun i raddau helaeth.

Cost hynny—rwy'n gwybod bod rhywfaint o bryder mewn awdurdodau lleol ynghylch ymarferoldeb hyn, a dyna pam yr ydym yn sefydlu'r gweithgor hwn gyda CLlLC i weithio drwy'r manylion. Ond mae'r mandad yr ydym wedi'i roi iddyn nhw yn sylweddol. Nid yw, 'a fyddech chi'n ystyried a ddylem ni gael mwy o barthau 20 mya?' Y cyfeiriad polisi yw: 'Rydym ni eisiau 20 mya fel y dewis rhagosodedig, ac rydym ni eisiau i chi weithio gyda'ch gilydd i weithio drwy'r agweddau ymarferol ar hynny i wneud iddo weithio i chi, i'w wneud yn ymarferol ac yn fforddiadwy, ac i sicrhau bod y dyluniad yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n effeithiol.' Ac roeddwn i'n falch iawn bod Phil Jones, a arweiniodd y gwaith ar y canllawiau dylunio teithio llesol, wedi cytuno i gadeirio'r panel hwnnw. Rwyf i'n ei ystyried yn ymyriad teithio llesol i raddau helaeth. Mae Rod King, y daeth John Griffiths ag ef i gwrdd â mi rai misoedd yn ôl, hefyd wedi cytuno i ymuno â'r grŵp. Felly, mae gennym ni rai pobl newid ymddygiad da o amgylch y bwrdd, ac rwyf i hefyd eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn dod ag arweinwyr awdurdodau lleol gyda ni ar hyn, oherwydd y bwriad yw eu helpu i sicrhau'r manteision iechyd cyhoeddus y mae'n rhaid iddyn nhw eu cyflawni ac yr ydym ni i gyd yn dymuno eu gweld. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal adolygiad o'r dystiolaeth ar hyn sy'n dangos safbwynt iechyd y cyhoedd: mae hyn yn gwbl amlwg, ond mae angen inni weithio drwy'r agweddau ymarferol. Mae'r mudiad 20's Plenty for Us wedi honni—ac nid oes gennyf unrhyw reswm i'w amau, ond nid wyf wedi gweld y dystiolaeth—y bydd terfyn cyflymder cenedlaethol wyth gwaith yn rhatach nag awdurdodau unigol yn gwneud parthau 20 mya. Felly, dyna'r math o beth y mae angen inni ei ddatrys yn awr wrth i'r grŵp gael ei sefydlu.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 5:05, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Ac, yn olaf, Huw Irranca.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd dros dro. A gaf i groesawu'r datganiad, ond hefyd y ffordd y mae'n cael ei fframio—nid dim ond hyrwyddo seiclo a cherdded y mae'n ei wneud, ond mae yng nghyd-destun yr argyfwng sydd gennym gyda'r newid yn yr hinsawdd, mae'n ymwneud â'r argyfwng gordewdra sydd gennym ni, ac mae'n ymwneud â phroblemau ansawdd aer? Oherwydd rwyf o'r farn mai dyna'r cyd-destun cywir, ac, mewn gwirionedd, os gwnawn ni hyn yn iawn, mae'n fuddugoliaeth lwyr ar draws yr holl agendâu hynny, a byw'n iach, a ffyrdd o fyw iachach, a mynd i'r afael â phethau fel, yng Nghwm Llynfi, lle ceir gwahaniaeth o 20 mlynedd mewn hyd oes rhwng pen uchaf Cwm Llynfi a gwaelod Cwm Llynfi. Mae hynny'n anhygoel, a rhan o hyn yw'r hyn yr ydym yn bwriadu ymdrin ag ef.

Rwy'n croesawu'r pwyslais ar gapasiti oherwydd bod hynny'n sicr yn wir yn fy awdurdod i, sydd â record dda o ran teithio llesol, ond, yn anffodus, mae Trafnidiaeth Cymru wedi dwyn ymaith yr unigolyn allweddol a sbardunodd yr agenda teithio llesol, ac rydym yn cael trafferthion nawr, mewn gwirionedd, i recriwtio'r unigolyn â'r sgiliau iawn nad yw'n beiriannydd priffyrdd yn unig. Felly, tybed beth y gellir ei wneud i helpu'r awdurdodau lleol hynny i sicrhau bod y bobl iawn hynny ar gael yn awr, â'r set sgiliau gywir, sy'n gallu datblygu teithio llesol yn ogystal â deall beth sydd ei angen ar beirianwyr hefyd, ond gall wneud yr ymgynghori a'r ymgysylltu â'r gymuned. Ac ar y sail honno, tybed sut y mae awdurdodau lleol fel Pen-y-bont ar Ogwr yn manteisio ar yr arbenigedd ehangach y tu allan i'r awdurdod lleol y mae'n sôn am ei ddatblygu o ran y cymorth hwn ar draws yr holl awdurdodau lleol ar gyfer pobl sy'n gallu gwneud yr ymgynghoriadau hynny â phobl nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn teithio drwy gerdded a beicio.

A'm cwestiwn olaf ar hyn yw: gyda rhai o'r gwahanol ddulliau ariannu a nodwyd gan y Gweinidog yn ei ddatganiad ac mewn ymatebion, a fyddai hynny'n cynnwys awdurdodau lleol a fyddai'n cyflwyno cynigion, er enghraifft, i ddatblygu mwy o ysgolion fel Ysgol Hamadryad, rhai sydd nid yn unig wedi adeiladu'r seilwaith—fel yr ydym wedi'i wneud ym Mhen-coed yn ddiweddar gyda'n hysgolion yr unfed ganrif ar hugain—ond wedyn wedi gweithio gydag ysgolion i ddweud, 'Rydym ni am fynd ymhellach; rydym ni'n mynd i sbarduno newid diwylliannol, gan weithio gyda rhieni, llywodraethwyr, y gymuned leol, ond rydym ni hefyd yn mynd i ddweud wrth rieni, "Bydd gennym ni gontract sy'n dweud mai dyma sut yr ydych chi'n dod â'ch plentyn i'r ysgol—nid mewn car ond drwy ddulliau eraill".' A fyddai'r arian a ddarparwyd, neu a fyddai rhan ohono, mewn gwirionedd ar gael i ysbrydoli awdurdodau lleol blaengar i ddatblygu'r mathau hynny o bethau, fel nad dim ond un Ysgol Hamadryad sydd gennym ni ond yn sydyn, erbyn diwedd y tranche hwn, 30 neu 40?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 5:08, 14 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiynau hynny, ac, unwaith eto, a gaf i adleisio fy sylwadau am y swyddogaeth ddynamig y mae'n ei chyflawni fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol? Oherwydd rwy'n credu ei fod nid yn unig yn dod â phobl o wahanol bleidiau at ei gilydd, oherwydd bod hon yn agenda drawsbleidiol, ond mae'n dod â phobl yr awdurdodau lleol, ynghyd â'r ymgyrchwyr lleol, i gyd i un ystafell, lle mae awydd i beri i newid ddigwydd. Ac rwy'n awyddus iawn i barhau i ymgysylltu â'r grŵp hwnnw ac i fynychu pob cyfarfod, os ydw i'n gallu.

O ran y pwynt ar sgiliau, rwy'n credu bod gweithio rhanbarthol yn hanfodol yn y maes hwn. Mae hwn yn un maes lle y bydd yn cael ei arwain gan anghenion, a hefyd, wrth i Trafnidiaeth Cymru ddechrau datblygu ei gylch gwaith, rwy'n credu bod swyddogaeth wirioneddol yn y fan honno i gynnal yr arbenigedd canolog hwnnw, fel y gall awdurdodau lleol bennu'r blaenoriaethau, gallan nhw wneud y penderfyniadau ynghylch ble bydd y llwybrau, ond wedyn gallan nhw alw ar Trafnidiaeth Cymru i ddarparu'r arbenigedd hwnnw na allan nhw ei gynnal eu hunain yn lleol.

O ran yr elfen ymgynghori, y gwaith ymgynghori cymunedol hwnnw, byddwn yn ariannu ar wahân y tro hwn i weld sut y bydd hynny'n gweithio, ac rwy'n credu y bydd yn ddiddorol gweld a fydd hynny'n dod â chanlyniad gwahanol i ni i'r un a gafwyd y tro diwethaf. Felly, mae angen inni barhau i adolygu hynny.

O ran ysgolion, felly, mae gennym ni'r rhaglen teithiau llesol yr ydym ni wedi bod yn ei hariannu ac y mae Sustrans wedi bod yn ei chyflawni. Rydym ni'n mynd i roi contract mwy o faint i dendr ar sail yr un dull dros yr haf. Ond mae rôl i arweinwyr lleol hefyd, ac nid mater i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn unig yw arwain hyn; mae angen i ysgolion unigol wneud eu rhan hefyd, oherwydd mae pob ysgol yn cael trafferthion â pharcio a gollwng plant yn y bore. Mae'n broblem gyson ym mhob ysgol yr wyf yn ymweld â hi yn fy etholaeth. Ac rwy'n cydymdeimlo â phenaethiaid am yr amrywiaeth o bwysau y maen nhw'n eu hwynebu fel y mae, ond mae hwn yn un a fydd o fudd uniongyrchol iddyn nhw os ydyn nhw'n gallu cymryd rhan, ac mae pob math o gymorth ar gael i'w helpu.

O ran y pwynt penodol ynglŷn ag a oes cyllid ar gael i alluogi awdurdodau lleol i weithredu mewn ffordd fwy arloesol, yna, oes, mae cyllid ar gael. Mae hyblygrwydd o fewn y cyllid a gyhoeddwyd gennym. Os bydd awdurdodau lleol yn dymuno cyflwyno cynigion ar gyfer dull mwy dychmygus o weithredu, byddwn yn barod iawn i wrando arnyn nhw.