– Senedd Cymru am 5:10 pm ar 19 Mehefin 2019.
Sy'n dod â ni at y ddadl ar ddeiseb ar ddatgan argyfwng hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi. Dwi'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i wneud y cynnig—Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy fynegi diolch, ar ran y Pwyllgor Deisebau, am y cyfle i agor y ddadl hon heddiw? Cyflwynodd Matthew Misiak y ddeiseb 'Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi' ar ran ymgyrch Extinction Rebellion. Denodd y ddeiseb hon 6,148 o lofnodion, ac mae'r Pwyllgor Deisebau yn ei chyflwyno heddiw o dan y broses lle rydym yn ystyried gofyn am ddadleuon ar ddeisebau sydd â mwy na 5,000 o lofnodion, a byddem ar fai pe na baem yn diolch i aelodau'r Pwyllgor Busnes am eu penderfyniad i weld y ddeiseb hon yn cael ei chyflwyno ar gyfer dadl.
Mae'n amlwg na all yr un Senedd na Llywodraeth anwybyddu brys yr her sy'n codi yn sgil newid hinsawdd. Ni allwn ni ychwaith fel gwleidyddion a llunwyr polisïau fethu cydnabod lefel pryder y cyhoedd yng nghyswllt hyn a materion amgylcheddol eraill fel bioamrywiaeth, llygredd plastig ac ansawdd aer. Caiff pob un o'r materion hyn eu codi'n fynych yn y Siambr hon a thrwy'r broses ddeisebu, a chaiff pob mater ei gynnwys yn y ddeiseb benodol hon. Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol iawn o'r brotest a'r ymgyrchu ehangach a drefnwyd gan fudiad Extinction Rebellion, ac sy'n ffurfio cefndir i'r ddeiseb hon.
Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi nodi, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd yn ystod y cyfnod ers drafftio'r ddeiseb hon. Mewn datganiad a gyhoeddwyd ar 30 Ebrill 2019, mynegodd Gweinidog yr amgylchedd ei gobaith y byddai'r datganiad yn
'helpu i sbarduno ton o weithredu yma ac yn rhyngwladol.'
Roedd y datganiad hefyd yn cydnabod bod mynd i'r afael â newid hinsawdd yn galw am
'weithredu ar y cyd, ac mae gan y Llywodraeth ran ganolog i'w chwarae yn hyn o beth.'
Nawr, mae'r deisebwyr yn disgrifio hwn fel cam pwysig ac maent wedi llongyfarch Llywodraeth Cymru am fod ymhlith y Llywodraethau cyntaf yn y byd i gymryd y camau hyn. Mae nifer o awdurdodau lleol, trefi a dinasoedd ar draws Cymru wedi gwneud datganiadau tebyg hefyd, ac rwyf wrth fy modd fod fy awdurdod lleol fy hun wedi gwneud hynny. Felly, mae'n amlwg fod yna gydnabyddiaeth gynyddol o'r rôl sy'n rhaid i bob rhan o gymdeithas ei chwarae wrth ymateb i her ar raddfa newid hinsawdd.
Fodd bynnag, ni cheir unrhyw ddiffiniad y cytunir arno'n gyffredinol o'r hyn y dylai datgan argyfwng hinsawdd ei olygu yn ymarferol, a pha gamau y dylid eu cymryd o ganlyniad i hynny. Felly, gobeithiaf y bydd y ddadl hon yn helpu i daflu goleuni ar faint yr her honno, ac yn rhoi mwy o eglurder ynglŷn â'r newidiadau ymarferol a fydd yn codi o ganlyniad i ddatganiad argyfwng Llywodraeth Cymru ei hun ar yr hinsawdd.
Yn wir, er bod y Pwyllgor Deisebau yn llwyr gefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi gymryd y cam hwn, credwn hefyd fod y camau gweithredu neu'r newidiadau sy'n dilyn yn bwysicach na'r datganiad ei hun. Newid ymarferol yw'r hyn sydd ei angen i sicrhau bod hyn yn llawer mwy na cham symbolaidd yn unig. Y tu hwnt i brif ddatganiad o argyfwng hinsawdd, mae'r ddeiseb hefyd yn argymell nifer o gamau y mae'r deisebwyr yn credu y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd. Symudaf ymlaen yn awr i roi amlinelliad bras o'r rhain yn eu tro.
Mae'r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei holl bolisïau'n gyson â'r bwriad o osgoi rhagor o newid hinsawdd a chwalfa ecolegol. Mae'r deisebwyr am weld cynlluniau gweithredu manwl yn cael eu cynhyrchu, gydag amserlenni ar gyfer gwneud cynnydd tuag at wneud Cymru yn wlad garbon niwtral. Maent yn amlygu Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol fel enghraifft dda o Gymru'n arwain ar ddatblygu polisi blaengar, ond yn dadlau hefyd nad yw'r Ddeddf hon ar ei phen ei hun yn symbylu'r Llywodraeth, yn ogystal â'r sectorau cyhoeddus a phreifat, i weithredu'n unol â'r brys y mae'r sefyllfa yn galw amdano. Mae'r deisebwyr yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud buddsoddiadau pellach yn natblygiad yr economi werdd, a phwysleisio'r cyfle i Gymru fod yn arweinydd ym maes technolegau gwyrdd.
Gan symud ymlaen, mae'r ddeiseb yn galw'n benodol ar Lywodraeth Cymru i roi mesurau polisi sy'n rhwymo mewn cyfraith mewn grym i leihau allyriadau carbon i sero net, nid erbyn 2050 ond erbyn 2025. Afraid dweud bod hon yn alwad hynod o heriol. Mae deddfwriaeth Cymru ar hyn o bryd yn cynnwys targed i leihau allyriadau 80 y cant erbyn 2050, gyda thargedau interim ar gyfer y degawdau sy'n arwain at hynny. Ym mis Mai, argymhellodd adroddiad gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd y dylid targedu gostyngiad o 95 y cant erbyn 2050. Byddai hyn yn ffurfio rhan o fwriad i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU i sero net erbyn 2050. Fel y gŵyr yr Aelodau, derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn yn ffurfiol yr wythnos diwethaf, a bydd yn cyflwyno rheoliadau i ddiweddaru'r targed mewn deddfwriaeth. Fodd bynnag, dylwn nodi bod y deisebwyr wedi disgrifio terfyn amser 2050 fel un truenus o annigonol. Mae'r ddeiseb yn datgan—ac mae ymgyrch Extinction Rebellion wedi dweud yn hyglyw iawn—fod angen rhoi'r camau hyn ar y gweill erbyn 2025. Rwy'n siŵr y bydd cyflymder yr ymateb i heriau newid hinsawdd yn bwnc a gaiff ei drafod ymhellach y prynhawn yma.
Yn olaf, mae'r ddeiseb yn galw am sefydlu cynulliad dinasyddion i oruchwylio'r newidiadau sydd eu hangen. Mae'r deisebwyr yn dadlau y dylai dinasyddion Cymru allu helpu i ddatblygu a chraffu ar y polisïau a fydd yn sail i raddau'r newid sydd ei angen. Credant y bydd dull o weithredu o'r fath yn lleihau gwrthdaro buddiannau, ac yn cynorthwyo gwleidyddion i wneud penderfyniadau er lles hirdymor pawb. Unwaith eto, mae'r cynnig hwn yn rhywbeth y bydd yr Aelodau am ei ystyried yn ystod eu cyfraniadau y prynhawn yma o bosibl.
I gloi, mae'r Pwyllgor Deisebau yn cydnabod y camau pwysig y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'u cymryd, yn anad dim drwy ei datganiad argyfwng hinsawdd a'r ymrwymiadau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud. Serch hynny, mae angen i bob un ohonom barhau i graffu'n drwyadl ar y camau pendant sy'n rhaid eu cymryd, a rhaid i bawb ohonom gydweithio i ddatblygu atebion effeithiol a fydd yn gwireddu'r ymrwymiadau heriol hyn. Felly, edrychaf ymlaen at wrando ar weddill y ddadl y prynhawn yma. Diolch yn fawr.
Mi gychwynnaf i jest drwy atgoffa Aelodau, efallai, o rai ystadegau a ffeithiau. Mae tymheredd ar gyfartaledd yn fyd-eang wedi cynyddu ym mhob degawd dros y 50 mlynedd diwethaf, ac mae'r 10 mlynedd gynhesaf ar record, wrth gwrs, wedi dod yn y 22 diwethaf, felly mae hynny'n dweud rhywbeth wrthym ni. Mae yna amcangyfrif bod y trychineb hinsawdd eisoes yn lladd dros 300,000 o bobl bob blwyddyn, ac mae gwyddonwyr, fel rŷm ni'n gwybod, o'r farn y byddai unrhyw gynnydd dros 2 radd yn y tymheredd byd-eang yn arwain at ganlyniadau trychinebus. A beth yw'r rheini? Wel, rhagor o lifogydd, rhagor o afiechyd, rhagor o sychder, rhagor o ryfel, wrth gwrs, yn sgil hynny, a newyn, a chreu cannoedd o filiynau o ffoaduriaid a dinistrio ecosystemau a rhywogaethau cyfan.
Felly, mae'n gwbl, gwbl addas fod y Llywodraeth a'r Senedd yma ac eraill wedi datgan argyfwng hinsawdd. Dwi'n falch bod Cadeirydd y pwyllgor wedi cyfeirio at y gwaith sydd wedi digwydd yng nghyngor Conwy. Dwi'n siŵr y byddai hi'n ymuno â fi i longyfarch Aaron Wynne, cynghorydd Plaid Cymru, wrth gwrs, a wnaeth gynnig y cynnig hwnnw, a diolch iddo fe am ei waith yn perswadio ei gyd-gynghorwyr i gefnogi'r cynnig, fel y mae cynghorwyr Plaid Cymru wedi gwneud yn sir Gaerfyrddin, ym Mhowys ac yn nifer o siroedd eraill ar draws Cymru. Ond wrth gwrs, un cam yw datgan argyfwng hinsawdd. Yr hyn mae hynny yn gorfod ei olygu, wrth gwrs, yw bod hynny yn arwain at newid go iawn. Ac mi fydd ymgyrchwyr, fel y rhai sydd wedi bod ar risiau'r Senedd yma yn gyson, mi fyddwn ni fel Plaid ac mi fydd eraill, wrth gwrs, dwi'n gwybod, yn y Siambr yma a thu hwnt nawr yn craffu'n fanwl ar ymateb y Llywodraeth, yn enwedig, i'r datganiad hwnnw.
Mi gafodd nifer ohonom ni ychydig o fraw pan ddywedodd y Prif Weinidog, dwi'n meddwl, ddiwrnod ar ôl datgan argyfwng newid hinsawdd nad oedd hynny o reidrwydd yn golygu newid polisi ar ran y Llywodraeth. Mi oedd yn destun pryder i mi, dwi'n gwybod. Ond, y peth pwysig nawr yw ein bod ni'n derbyn bod y status quo ddim yn aros. [Torri ar draws.] Ie, Joyce, wrth gwrs.
Rwy'n falch eich bod wedi derbyn ymyriad a diolch i chi am hynny. A allech egluro pam, yn ôl adroddiad yn y Cambrian News, pan awgrymais y dylem wneud rhywfaint o ddad-ddofi a phrosiect £3.4 miliwn i ddad-ddofi rhan fawr o ogledd Ceredigion a dyffryn Dyfi—O'r Mynydd i'r Môr—fod Plaid Cymru wedi gwrthwynebu hynny?
Nid wyf wedi darllen yr erthygl, ond os gofynnwch i'r bobl y credaf y byddent wedi gwneud sylwadau ar hynny, y pwynt yw fod yr agenda ddad-ddofi yn cael ei gyrru gan rymoedd allanol ac nad yw'n broses sydd wedi'i gwreiddio yn y gymuned leol ac sy'n tyfu o'r gwaelod i fyny. Yn sicr, chi fyddai'r person olaf a fyddai am weld lluosfiliwnyddion yn dweud wrth bobl leol yng ngorllewin Cymru beth i'w wneud. Does bosibl nad yw'n ymwneud â bod y bobl yn perchnogi'r broses honno ac yn gwneud iddi ddigwydd eu hunain. Fel arall, nid yw'n gynaliadwy, a gallem ei alw'n bob math o bethau, ond ni fyddai'n ddemocratiaeth. Ond rwy'n crwydro. [Torri ar draws.] Ydw, ac rwy'n credu i chi gyflawni eich pwrpas drwy ymyrryd. Iawn. Ble roeddwn i?
Y pwynt yr oeddwn i yn ei wneud, wrth gwrs, yw dŷn ni ddim yn sôn am risg hinsawdd; dŷn ni ddim yn sôn am broblem hinsawdd fan hyn. Rŷm ni'n sôn am argyfwng hinsawdd. Mae hynny'n golygu ymateb, ydy, ond ymateb sydyn a gweithredu ar frys. Mae panel rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd wedi dweud mai 12 mlynedd sydd gennym ni i gyrraedd y nod. Felly, mae'n rhaid inni weithredu ar fyrder.
Nawr, mae'r Llywodraeth, cyn datgan argyfwng, wedi cyhoeddi'r papur 'Cymru Carbon Isel'. Mi oedd hwnnw'n gasgliad o nifer fawr o ddatganiadau a mentrau a oedd wedi cael eu cyhoeddi'n flaenorol. Rwy'n cydnabod bod y Gweinidog wedi gofyn i'w swyddogion i edrych eto ar hynny. Dwi ddim yn siŵr iawn beth yw'r amserlen ar gyfer gwneud hynny. Mi fydd angen diwygio. Mi fydd angen cryfhau. Dwi'n gobeithio'n fawr nad dim ond tincro gawn ni. Dwi wedi cyfeirio'n gyson at waith y Sefydliad Materion Cymreig ar ailegnïo Cymru. Mae hwnnw, i mi, yn gosod llwybr i gyrraedd y nod o Gymru i fod yn hunangynhaliol mewn ynni adnewyddadwy erbyn 2035. Dwi'n meddwl bod hwnnw'n darged y dylai'r Llywodraeth ei ystyried fel un i gyrraedd tuag ato.
Yr hyn rŷm ni'n ei gael yn y ddogfen honno gan y Llywodraeth—'Cymru Carbon Isel'—ar hyn o bryd yw ymrwymiadau i ymgynghori, i ystyried, i ddechrau archwilio. Mae'r dyddiau hynny wedi pasio. Mae'r amser wedi dod i weithredu. Dwi hefyd eisiau dweud fy mod i'n falch iawn bod y Cynulliad yma yn mynd i ymgynnull cynulliad y bobl—citizens' assembly. Mae hwnnw'n gam positif. Byddwn yn licio gweld hynny'n dod yn nodwedd fwy parhaol o'n democratiaeth ni. Ond, i hwnnw fod yn llwyddiant, mae'n rhaid i ni fel gwleidyddion, y Cynulliad hwn ac, yn sicr, y Llywodraeth, wrando, cymryd ystyriaeth lawn ac i weithredu ar sail yr hyn sy'n cael ei wyntyllu yn y cynulliadau hynny. Fel arall, y perygl yw y byddan nhw'n ddim byd ond siop siarad.
Rwy'n llongyfarch yr oddeutu 6,000 o ddeisebwyr am ddod â hyn i'n sylw heddiw. Rwy'n meddwl bod nifer debyg wedi llofnodi deiseb pan gefais fy ethol i gadeirio'r pwyllgor ar newid hinsawdd yn wreiddiol. Roedd yna bryderon tebyg ynghylch diogelwch ar y pryd, a chefais fy ngalw i mewn i gael trafodaeth arbennig ynglŷn â sut roeddem yn mynd i ymdrin â phryder fod protestwyr yn mynd i oresgyn y pwyllgor, ac mae'n dda gennyf ddweud na ddigwyddodd hynny, ac ni ddigwyddodd hynny'n fwy diweddar chwaith—er, yn achos y pwyllgor cyntaf a gadeiriwyd gennyf, fe'i trefnwyd i ddechrau am 9 a.m. ar y dydd Iau yn syth wedi i Gymru fod yn chwarae yn rownd gynderfynol Ewro 2016 y noson cynt. Ni chawsom unrhyw brotestwyr o gwbl.
Ond yn y ddeiseb, gwelwn yr alwad ein bod yn cael pwyslais ar sero net. Un peth yr hoffwn ei ddeall am hyn, ac nid wyf yn gwybod a fydd unrhyw Aelodau eraill yn gallu fy nghynorthwyo yn eu hareithiau, neu fel arall, neu a yw hyn yn glir o'r ddeiseb. Wrth 'sero net', a ydynt yn golygu sero net o fewn y Deyrnas Unedig? Felly, mae hynny'n cynnwys twf coed ychwanegol—sy'n sicr yn rhywbeth yr hoffwn ei weld a'r gwrthbwyso a fyddai'n digwydd drwy hynny—ond heb gynnwys gwrthbwyso rhyngwladol. Nid wyf yn deall yn iawn am beth y gofynnir. Ymddengys mai safbwynt y DU oedd eu bod yn cynnwys y gwrthbwyso rhyngwladol, sy'n ei gwneud yn llawer rhatach i gyrraedd y nod hwn. Pan fyddwch yn agos iawn at ddileu allyriadau carbon, hyd yn oed os caiff rhai eu gwrthbwyso yma, mae'n mynd yn llawer drutach i wneud hynny yn agos at y nod oherwydd eich bod eisoes wedi sicrhau'r enillion hawdd.
Un peth sy'n bwysig iawn yn y ddadl hon yn fy marn i—a chredaf fod rhai o'r deisebwyr yn cydnabod hyn—yw deall pa mor bell y mae'r Deyrnas Unedig wedi dod ar hyn ers ymrwymiad Kyoto. Rwy'n credu ein bod bellach ar ychydig dros 40 y cant islaw lefelau allyriadau 1990, a dyna'r gostyngiad mwyaf fwy neu lai a welwyd yn unman yn y byd, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y dylem ei gydnabod ac ymfalchïo ynddo. Mae'r ddeddfwriaeth bresennol tan 2050, y gostyngiad o 80 y cant—yn y bôn, byddai hynny'n golygu'r un gostyngiad eto, ond mewn gwirionedd fel cyfran neu ganran, mae hwnnw'n ostyngiad uwch. Mae hefyd yn anos oherwydd bod y gwelliannau hawdd o gau'r rhan fwyaf o'r gorsafoedd pŵer a oedd yn llosgi glo a llawer o'r diwydiant trwm a oedd gennym yn y 1980, i raddau o leiaf, ond nad ydynt gennym bellach—mae hynny eisoes wedi digwydd. Felly, hoffwn ofyn i ba raddau rydym eisiau cyflawni hyn drwy dalu i wledydd eraill wneud hyn drosom ar y sail eu bod yn gallu gwneud gostyngiadau carbon am lai o gost nag y gallwn ni ei wneud yn y wlad hon ar ôl i ni fynd mor agos at y targed a ragwelir.
Hefyd, hoffwn gael pobl i ystyried y goblygiadau mewn gwirionedd os ydym am gyrraedd y lefel hon. Un peth yw datgan argyfwng hinsawdd—. Ac i ddechrau credais fod y Prif Weinidog yn dweud mai datganiad yn unig ydoedd, ac nad oedd yn cynllunio unrhyw newidiadau polisi, ond pan wnaeth ddatganiad yn y Siambr am benderfyniad yr M4, fe bwysleisiodd agweddau'n ymwneud â newid hinsawdd, er nad oedd wedi sôn am y rheini yn yr hysbysiad ynglŷn â'r penderfyniad. Felly rwy'n dal i fod ychydig yn aneglur ynglŷn ag i ba raddau y mae hyn yn newid polisi Llywodraeth Cymru neu'n parhau i fod yn ddim ond datganiad.
Ond ar gyfer rhai o'r materion mawr, os ydych am symud i unrhyw beth tebyg i'r targed hwn, bydd yn rhaid i chi gael gwared ar foeleri nwy o filiynau o gartrefi a rhoi rhywbeth yn eu lle. Nawr, mae pympiau gwres o'r ddaear yn un opsiwn y mae rhai pobl wedi manteisio arno, ond yn gyffredinol, os ydych am wneud hyn yn gyflym, os ydych yn mynd i gael gwres canolog trydan yn hytrach na gwres canolog nwy, ar hyn o bryd mae hwnnw'n costio o leiaf dair gwaith cymaint, ac nid wyf ond yn gofyn i Aelodau ystyried pa mor gredadwy yw mynd ati i berswadio neu hyd yn oed orfodi etholwyr o bosibl i wneud y newid hwnnw. Credaf fod angen inni ystyried hyn yn ogystal ag edrych ar yr hyn y mae pobl eraill yn ei wneud yn rhyngwladol, ac rwy'n credu i'r graddau fod pobl yn troi atom am arweiniad—ac nid wyf yn gwybod i ba raddau y maent yn gwneud hynny ai peidio—efallai fod rhywfaint o werth yn hynny.
Credaf ein bod ar 1.8 y cant o'r allyriadau byd-eang yn awr, ac os mai effaith hyn fydd hunan-niwed economaidd o'r fath fel na fyddwn bellach yn allforio llawer o'r nwyddau rydym yn eu hallforio, neu y byddwn yn cael trafferth i gystadlu â gwledydd eraill nad ydynt yn cymryd yr un camau, bydd yn llai deniadol nag fel arall. Yn yr un modd, os gwelwn dechnoleg yn datblygu i'r fath raddau fel y gallwn ddileu carbon o'r atmosffer yn gost-effeithiol, mae hynny'n gwneud dilyn y llwybr hwn yn llawer mwy deniadol. Ar y llaw arall, os nad yw honno'n dechnoleg sy'n dod yn gost-effeithiol neu'n gyflawnadwy, bydd y cydbwysedd cost a budd ar gyfer mynd i'r cyfeiriad hwn yn llai deniadol. Diolch.
Rwy'n croesawu'r ddeiseb hon yn fawr a'r cyfle i siarad amdani. Pan fydd haneswyr yn edrych yn ôl ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru, byddant yn synnu faint o amser a dreuliwyd ar sut rydym yn masnachu â gwledydd eraill a chyn lleied o amser rydym wedi'i roi i'r bygythiad i'n byd a phob rhywogaeth, gan gynnwys ni ein hunain. Mae y tu hwnt i ddadl ddifrifol yn awr ein bod yn gweld newid yn yr hinsawdd, ac oni weithredir yn awr, byddwn yn ei weld yn gwaethygu fwyfwy.
Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi argyfwng newid hinsawdd. Mae'r datganiad hwn yn anfon neges glir fod Llywodraeth Cymru'n deall bod newid hinsawdd yn bygwth ein hiechyd, ein heconomi, ein seilwaith, ein hamgylchedd naturiol, a ni ein hunain yn y bôn. Nid yw gwrthsefyll newid hinsawdd yn fater y gellir ei adael i unigolion neu i'r farchnad rydd. Mae'n galw am weithredu ar y cyd ac am i'r llywodraeth gael rhan ganolog yn sicrhau bod gweithredu ar y cyd yn bosibl.
Rwy'n cefnogi Llywodraeth Cymru yn ei hymrwymiad i sicrhau sector cyhoeddus carbon-niwtral erbyn 2030 ac i gydlynu camau gweithredu i helpu rhannau eraill o'r economi i symud yn bendant oddi wrth danwyddau ffosil, gan gynnwys y byd academaidd, diwydiant a'r trydydd sector. Os edrychwch ar y wyddoniaeth, yn gyntaf, mae carbon yn ocsideiddio'n garbon deuocsid. Mae carbon deuocsid yn nwy tŷ gwydr. Sut y gwyddom hynny? Cymharwch y blaned Gwener â'r blaned Mercher. Mae Mercher tua 58 miliwn cilomedr o'r haul, mae Gwener tua dwywaith mor bell, 108 miliwn cilomedr. Felly, byddech yn disgwyl i wyneb y blaned Mercher fod yn boethach na wyneb y blaned Gwener. Y gwrthwyneb sy'n wir. Pam? Mae'n ymwneud â mwy na'r atmosffer. Mae atmosffer Mercher yn cynnwys cyfeintiau bach o hydrogen, heliwm ac ocsigen. Mae atmosffer Gwener yn haenau o nwyon sy'n amgylchynu Gwener. Mae'n cynnwys carbon deuocsid yn bennaf. Mae hynny'n golygu ei fod yn dal y tymheredd. Rydym yn gwybod hynny. Nid yw'n fater o ddadl neu, 'Nid wyf yn credu mewn newid hinsawdd', neu 'Nid wyf yn credu mewn carbon deuocsid a nwy tŷ gwydr' —mae'r ffeithiau yno. Mae hyn yn brawf pendant fod carbon deuocsid yn dal gwres ac yn gwneud yr arwyneb yn boethach.
'Ond mae gennym garbon deuocsid yn ein hatmosffer yn awr', medd pobl. Oes, a phe na bai gennym garbon deuocsid, ni fyddai gennym yr hinsawdd dymherus sy'n bodoli ar y rhan fwyaf o'r ddaear. Mae'n dal gwres. Yr hyn a wyddom yw, os cawn fwy o garbon deuocsid, bydd y blaned yn mynd yn boethach ac yn boethach.
Wrth i newid hinsawdd ddigwydd, bydd ein tywydd o ddydd i ddydd a'n tymereddau arferol yn newid, a bydd hyn yn effeithio ar gartrefi planhigion ac anifeiliaid ledled y byd. Mae eirth gwyn a morloi yn enghraifft dda o anifeiliaid yr effeithir arnynt gan newid hinsawdd. Bydd yn rhaid iddynt ddod o hyd i dir newydd ar gyfer hela a byw os bydd y rhew yn yr Arctig yn toddi, ond y gwir amdani—yn fwy realistig—yw y bydd y rhywogaethau hyn bron yn sicr o ddiflannu.
Bydd unrhyw un dros 50 wedi sylwi ar sut y mae ein tywydd wedi newid yng Nghymru. Mae pethau syml fel glaw mân parhaus—yr arferem ei gael am ddyddiau bwy'i giydd—wedi troi bellach yn gyfnodau byr o law trwm iawn, sydd wedi arwain at lifogydd mewn sawl ardal.
O edrych ar weddill y byd, gan ddechrau gydag Unol Daleithiau America—sef y lle gorau i ddechrau, oherwydd mae'n gartref i lawer o'r rhai sy'n gwadu newid hinsawdd—mae gwres a sychder yn Texas a'r gorllewin canol wedi arwain at dymereddau cyfartalog misol uwch nag a welwyd o'r blaen. Ceir digwyddiadau o wres eithafol digynsail sy'n para am sawl mis ar lefel waeth nag ers dechrau cadw cofnodion ag offer dibynadwy yn 1895. Mae tymereddau uwch yn arwain at gynyddu cyfraddau anweddu. Yn ddiweddar fe brofodd Texas ac Oklahoma fwy na 100 diwrnod dros 100 gradd Fahrenheit. Mae'r ddwy dalaith wedi gweld hafau poethach nag a welwyd ers dechrau cadw cofnodion yn 1895. Mae glawiadau trwm wedi cynyddu'n genedlaethol, yn enwedig dros y tri i bump degawd diwethaf. Mae'r digwyddiadau glaw trymaf wedi mynd yn drymach ac yn fwy mynych, ac mae faint o law sy'n disgyn ar y dyddiau pan fo'n glawio drymaf wedi cynyddu hefyd. Ers 1991, mae faint o law sy'n disgyn mewn digwyddiadau glaw trwm iawn wedi bod yn sylweddol uwch na'r cyfartaledd. Mae America yn dioddef; mae gweddill y byd yn mynd i ddilyn.
Gan droi at Affrica. Mae ymchwil newydd yn dweud y bydd y cyfandir yn profi llawer o achosion eithafol o law trwm dros yr 80 mlynedd nesaf gan arwain at lifogydd, stormydd a methiant ffermio, gan newid o law trwm iawn bob 30 i 40 mlynedd i law trwm iawn bob tair neu bedair blynedd. Bydd hyn yn digwydd am yn ail â sychder llethol a fydd hefyd yn effeithio ar gynhyrchiant bwyd.
Bydd byd sydd bedair gradd yn gynhesach yn arwain at foddi dinasoedd, boddi ynysoedd, moroedd llonydd, tywydd annioddefol o boeth, ardaloedd enfawr o dir na ellir byw arno a thros 11 biliwn o bobl yn ceisio byw ynddo. Byd sydd bedair gradd yn gynhesach yw'r hyn a geir mewn ffilmiau arswyd—math o apocalyps sydd ar ei ffordd yn fuan. Yn anffodus, dyma'r cyfeiriad rydym yn anelu iddo os methwn leihau'r carbon deuocsid sy'n cynyddu yn yr atmosffer i atal cynhesu byd-eang. Nid yw geiriau da a gweithredu cyfyngedig yn opsiwn. Dim ond un byd sydd gennym. Am y 200 mlynedd diwethaf rydym wedi ei gam-drin. Oni weithredwn yn awr, rydym mewn perygl o ddinistrio'r byd a'r rhan fwyaf o'r pethau sy'n byw ynddo, ac mae hynny'n ein cynnwys ni.
Newid hinsawdd yw un o'r problemau pwysicaf ar hyn o bryd, ac mae'r gweithgarwch ledled y byd yn rhywbeth i'w edmygu a'i annog. Ond yr hyn sy'n fy mhoeni'n wirioneddol am Gymru yw bod gennym Lywodraeth sy'n datgan argyfwng newid hinsawdd, ac eto mae'r polisïau real ar lawr gwlad yn mynd yn gwbl groes i'r datganiad hwnnw.
Fel arfer, byddaf yn sôn am gynlluniau datblygu lleol, oherwydd dyna'r glasbrint ar gyfer dyfodol Cymru, dyfodol ein cymunedau. Ac os edrychwn ar gynllun datblygu lleol Caerdydd, mae cae ar ben cae yn cael ei orchuddio gan goncrid ar hyn o bryd, cynefinoedd yn cael eu dinistrio, cynefinoedd na ellir byth mo'u hadnewyddu, adeiladu ar orlifdiroedd, a thrychineb llwyr i'r amgylchedd. Felly, maddeuwch i mi, ond rydym yn sôn am yr argyfwng newid hinsawdd ac rydym i gyd yn cytuno arno, mae'n ymddangos, bron iawn, ac eto mae'r hyn sy'n cael ei wneud yn mynd yn groes i hynny, fel y dywedais.
Rwyf am ddatgan buddiant, oherwydd yn agos iawn at lle rwy'n byw, bydd 10,000 o geir ychwanegol ar y ffordd bob diwrnod. Ac mae'r nifer yn cynyddu'n barod. Gwelwn dagfeydd. Mae gennym geir sy'n gwasgaru mygdarth gwenwynig. Mae'n ymddangos y dyddiau hyn fod pawb rwy'n siarad â hwy'n dioddef o asthma. Mae pobl yn eu 40au hwyr a'u 50au yn datblygu asthma y dyddiau hyn.
Yr hyn y byddai'n braf iawn gennyf ei weld gan y Llywodraeth yn y Cynulliad hwn yw polisïau rhagweithiol. Tramiau—beth am gael tramiau trydan yn y ddinas hon. Beth am wneud yn siŵr fod pob bws sydd ar y ffordd yn fws trydan. Pam nad ydym yn gwyrddu seilwaith cyhoeddus? Mae gennym bontydd ym mhobman yn cario degau o filoedd o geir bob dydd. Y drosffordd yn Gabalfa—gwyrddwch hi. Edrychwch beth maent yn ei wneud ym mhob cwr o'r byd. [Torri ar draws.] Iawn.
Un rheswm o ran bysiau trydan yw eu bod yn costio tua dwywaith cymaint â bysiau confensiynol. Efallai y bydd y gost honno'n gostwng, ond yn y cyfamser sut y byddai'r Aelod yn hoffi talu am y gost ychwanegol honno?
Mae hwnnw'n gwestiwn da iawn. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yw ei wneud yn flaenoriaeth wleidyddol, oherwydd os yw'n argyfwng newid hinsawdd i'r Llywodraeth hon, yna dylid rhoi blaenoriaeth iddo. Faint o arian a wariwyd ar y M4, er enghraifft? £115 miliwn. Gallwn sefyll yma a rhestru gwastraff ar ôl gwastraff ar ôl gwastraff. Cyfle a gollwyd ar ôl cyfle a gollwyd. Pan nad ydych eisiau gwneud rhywbeth, mae dweud nad oes arian bob amser yn esgus. Yr hyn y dylem ei wneud yw buddsoddi mewn trafnidiaeth lân. Os derbyniwn ei fod yn argyfwng, rhaid inni wneud rhywbeth yn awr yn hytrach na dim ond siarad am y peth. Diolch yn fawr.
Rwy'n cytuno â Neil McEvoy fod rhaid i ni newid y ffordd y gwnawn bethau. Yn amlwg, mae angen i ni gyflwyno tramiau a bysus trydan. Cytunaf yn llwyr fod angen inni dynnu sylw at yr angen i newid polisi cynllunio fel nad ydym yn adeiladu datblygiadau tai mewn ardaloedd lle nad oes digon o drafnidiaeth gyhoeddus i alluogi pobl i symud o gwmpas, ond buaswn yn gwahodd y Cynghorydd McEvoy i ganolbwyntio ar sicrhau bod yr awdurdod lleol lle mae'n cynrychioli ei gymuned leol yn cadw hynny mewn cof hefyd. Oherwydd nid dim ond yn yr ardal y mae'n ei chynrychioli y mae tai'n cael eu codi mewn ardaloedd lle mae'r system drafnidiaeth yn annigonol i ddygymod â hwy.
Yr hyn sydd ei angen yw polisi trawsnewidiol er mwyn gwneud yn siŵr fod gennym system fetro sy'n sicrhau bod datblygiad yn digwydd o amgylch y prif ganolfannau a lloerennau metro. Oherwydd ni allwn fforddio cael mwy o allyriadau carbon o gerbydau ac mae'n rhaid i ni gynllunio mewn ffordd wahanol i wneud yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud ar newid hinsawdd. Oherwydd mae'n rhaid inni gofio bod panel rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd yn ein rhybuddio mai dim ond 12 mlynedd sydd gennym i achub y byd. Mae hwnnw'n gysyniad eithaf brawychus. Felly, rwy'n croesawu'n fawr y datganiad gan Lywodraeth Cymru ar argyfwng hinsawdd, ond mae angen inni ddilyn hynny â chamau gweithredu.
Cawsom ein hatgoffa ddoe gan Darren Millar ei bod hi'n 30 mlynedd ers llifogydd Tywyn, ac mae'n ddrwg gennyf ddweud bod y math hwnnw o ddigwyddiad yn mynd i fod yn fwy cyffredin oni bai ein bod yn newid ein ffyrdd. Rhaid inni gofio mai'r hyn sy'n digwydd yn y Deyrnas Unedig yn unig sydd o dan ein rheolaeth. Ni allwn wneud dim am yr hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill ar wahân i ymuno â sefydliadau rhyngwladol a'u hannog i gyflawni eu rhwymedigaethau o dan gytundeb Paris.
Ond i fynd yn ôl at yr hyn y gallwn ddylanwadu arno, credaf fod Mark Reckless yn hollol iawn i ofyn y cwestiwn, 'A allwn fforddio tynnu boeleri nwy a chael pympiau gwres o'r ddaear a'r aer yn eu lle?' A'r ateb yw, 'Yn bendant. ' Rhaid inni allu gwneud hynny, oherwydd po fwyaf o bobl sy'n defnyddio pympiau gwres o'r ddaear ac o'r aer, bydd y gostyngiad yn y pris yn mynd gyda hynny. Rhaid inni gael bargen newydd werdd i fynd i'r afael â'r broblem hon, ac mae hynny'n golygu mynd ati o ddifrif i drawsnewid y ffordd y gwnawn bethau.
Mae'n rhaid i ni gael y tramiau trydan a'r bysys y soniodd Neil McEvoy amdanynt. Sut y talwn amdanynt? Wel, ar hyn o bryd, mae angen inni dalu amdanynt drwy drethu pobl sy'n gwneud y peth anghywir. Ar hyn o bryd, mae gennym Lywodraeth yn y DU sy'n gwrthod cynnal y cymal codi prisiau ynni a dalwn am betrol. Dylem wneud trafnidiaeth ceir yn ddrutach o'i gymharu â chludiant cyhoeddus. Yn bersonol, hoffwn weld trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei darparu am ddim gan fy mod yn credu bod hwnnw'n fesur angenrheidiol, yn unol â'r hyn y mae David Attenborough ac arbenigwyr y Cenhedloedd Unedig yn ein rhybuddio yn ei gylch. Rhaid inni gael llwybrau teithio llesol i bob un o'n hysgolion er mwyn i'n holl blant allu cerdded neu feicio, oherwydd rhaid i hynny fod yn brif ddull o deithio ar gyfer plant sy'n byw o fewn pellter rhesymol i'r ysgol.
Felly, credaf fod angen gweddnewid y ffordd rydym yn cynllunio gwasanaethau, y ffordd rydym yn addasu ein holl dai. Mae gan Gymru fwy o dai hynafol na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac yn ogystal â hynny, rydym yn parhau i ganiatáu i adeiladwyr tai ar raddfa fawr adeiladu tai nad ydynt yn effeithlon o ran eu defnydd o ynni, a bydd angen eu hôl-osod. Felly, mae angen i ni roi diwedd ar hynny a newid Rhan L y polisi cynllunio. Mae'n cyd-fynd yn llwyr â'r fargen newydd werdd y mae'n rhaid inni ei chael.
Nid wyf yn meddwl bod gan yr un ohonom belen wydr i weld beth yw'r newidiadau sy'n mynd i fod yn angenrheidiol, ond mae angen i bawb ohonom roi ein pennau at ei gilydd i weld beth sy'n rhaid i ni ei wneud, ac mae'n rhaid i ni gael newid radical. Rwy'n falch o fod yn noddi—
A wnewch chi ildio?
O'r gorau.
Diolch. Rwy'n dweud hyn mewn ysbryd cydweithredol, am mai eich plaid chi a gyflwynodd y cynllun datblygu lleol yng Nghaerdydd. Felly, tybed a fyddech yn ymuno â mi a phobl eraill i ofyn iddynt newid y cynllun, ac i atal camau 3, 4 a 5, lle bydd llawer iawn o ddifrod amgylcheddol yn cael ei wneud. Felly, a fyddech chi'n ymuno â ni, yn drawsbleidiol, i wneud hynny?
Diolch i chi am yr ymyriad hwnnw. Pan fydd y ffeithiau'n newid, rwy’n credu bod rhaid i ni newid ein meddwl, a chredaf mai dyna pam y gwnaeth y Prif Weinidog y penderfyniad cywir ar yr M4. Credaf y bydd angen inni ailedrych ar y cynllun datblygu lleol, oherwydd mae'r argyfwng hinsawdd yn llawer gwaeth bellach nag yr oeddem wedi'i ragdybio pan weithredwyd y cynllun datblygu lleol. Felly, mae'n ei gwneud yn ofynnol i ni edrych ar bob dim.
Roeddwn ar fin dweud fy mod yn falch o gynnal y seminar Extinction Rebellion ar 4 Gorffennaf gyda Llyr Gruffydd, oherwydd rwy'n credu y bydd ganddynt syniadau gwirioneddol egnïol ynglŷn â rhai o'r pethau y mae gwir angen inni eu gwneud. Mae dyfodol ein planed yn ein dwylo ni. Gallwn fodloni ar wneud dim fel deddfwyr a chaniatáu i drychineb daro ar gyfer ein hwyrion, neu gallwn ddeddfu i newid.
Weinidog, mae cryfder y teimlad ynglŷn â’r mater hwn yn amlwg yn ôl faint o ohebiaeth y mae pawb ohonom wedi’i chael, rwy'n siŵr, a'r ffaith bod ein pobl ifanc yn cael eu cymell i fynd ar streic a bod Extinction Rebellion wedi meddiannu rhannau o Lundain yn ddiweddar ac yn bygwth cau meysydd awyr mawr trwy ddulliau teg neu fel arall. Ymddengys i mi fod Llywodraeth Cymru wedi cyfleu teimladau’r genedl pan ddatganodd ei hargyfwng newid hinsawdd ei hun. Weinidog, roeddwn mor bryderus ag Andrew R.T. Davies yn gynharach, ond rydych chi bellach wedi egluro bod yr argyfwng hwn wedi’i drafod mewn amryw o gyfarfodydd eraill cyn i chi wneud y datganiad, ar wahân i fod yn eitem ‘unrhyw fater arall’ yn y Cabinet ar 29 Ebrill, gan fod y datganiad hwn yn effeithio ar bawb ohonom a phob maes Llywodraeth yn ddiwahân.
Gwrandewais ar gyfweliad ar Talk Radio, lle roedd cynrychiolydd ar ran Extinction Rebellion yn awgrymu bod gan bawb yn y DU hawl i un daith awyr ddwyffordd y flwyddyn, ac er fy mod yn derbyn nad ydynt wedi’u hethol eto, ymddengys eu bod yn gyrru'r agenda. Nid wyf yn arbenigwr yn y maes, ond gwn fod teithiau awyr yn un o'r pethau sy’n defnyddio fwyaf o adnoddau, felly tybed sut y mae'r datganiad argyfwng newid hinsawdd yn cyd-fynd â pherchnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru ar y maes awyr a hyrwyddo teithiau awyr yn weithredol, gan gynnwys y cymhorthdal i gyswllt awyr Ynys Môn?
Mae'r datganiad wedi ateb y ddeiseb hon yn rhannol. Fodd bynnag, rwy’n cwestiynu ymarferoldeb y gofynion eraill, yn sicr o ran cyflymder, a chredaf fod rhywbeth yma ynghylch rheoli disgwyliadau ar draws holl Lywodraethau'r DU. Byddwch yn onest am yr hyn y gellir ei gyflawni, a nodwch fod dillad rhad a bwyd rhad i gyd yn costio rhywbeth yn rhywle.
Rwy'n wniadwraig frwd, ac nid oes dim yn well gennyf na dod o hyd i rywbeth prydferth ac unigryw mewn siop elusen a'i wneud yn rhywbeth i mi fy hun. Yr un peth gyda dodrefn. Dylid rhoi mwy o bwyslais ar ailddefnyddio pethau, ond gadewch i bawb ohonom wneud yn well. Mae camau wedi’u cymryd eisoes: yr ardoll ar fagiau siopa yng Nghymru—gwych—ailgylchu ac ati. Ni sydd ar frig y rhestr yn y DU o ran cyfraddau ailgylchu. Fodd bynnag, credaf fod angen i rai enillion cyflym ddigwydd. Nodaf fod adroddiad diweddar yn awgrymu mai Cymru yw un o'r ardaloedd gwaethaf o ran y ddarpariaeth o bwyntiau gwefru ceir trydan, ac rydym wedi bod yn siarad am hyn ers oesoedd.
Mae yna rywbeth hefyd ynglŷn â’n cylch dylanwad, ac mae'n ymddangos yn synhwyrol i mi ddechrau gydag adeiladau ac arferion sector cyhoeddus: gwnewch y rhain yn garbon niwtral, ymgorfforwch arferion da, ac anogwch ein hetholwyr i wneud yr un peth. Os na wnawn ni hynny, nid ydynt hwy’n mynd i'w wneud. Wedi'r cyfan, mae hon yn broblem i bawb ac rydym i gyd yn rhan o'r ateb.
Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd. Rwy'n falch iawn o ymateb ar ran Llywodraeth Cymru. Rydym yn derbyn y cynnig ac yn nodi’r ddeiseb, ac rwy'n ddiolchgar hefyd i'r miloedd o bobl a lofnododd y ddeiseb a'r nifer fwy a roddodd gymaint o sylw i'r mater hollbwysig hwn yn yr wythnosau diwethaf.
Ddiwedd mis Ebrill, fel y nodwyd, cyhoeddais argyfwng newid hinsawdd ar ran Llywodraeth Cymru. Yn ddiweddarach yr un wythnos, pleidleisiodd y Cynulliad Cenedlaethol hwn o blaid datganiad o'r fath a hwy oedd y Senedd gyntaf yn y byd i wneud hynny. Rwyf wedi egluro'r rhesymau pam y gwnaethom hynny sawl gwaith yn y lle hwn, ond fe wnaf eu hailadrodd am fy mod yn credu ei fod yn bwysig iawn ac rwyf hefyd am adrodd ar yr hyn sydd wedi digwydd ers hynny.
Felly, nod y datganiad oedd symbylu pobl, sefydliadau, busnesau i weithredu hefyd, ac rwyf am roi ychydig o enghreifftiau. Soniais mewn cwestiynau yn gynharach y prynhawn yma fod sawl awdurdod lleol bellach wedi datgan argyfwng hinsawdd ynghyd â nifer o gynghorau tref, a chredaf fod y mwyafrif ohonynt wedi dweud eu bod wedi gwneud hyn yn dilyn ein harweiniad ni. Busnesau hefyd, ac roeddwn yn falch iawn fod y busnesau sy'n aelodau o gyngor economaidd fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, wedi gofyn i mi fynychu'r cyfarfod diweddaraf i wrando ar yr hyn y maent am ei wneud i helpu i liniaru newid hinsawdd. Felly, rwy'n credu ei fod wedi cael yr effaith roeddem ei heisiau o ran symbylu pobl, ond wrth gwrs, mae llawer mwy i'w wneud.
Credaf fod lefel y gefnogaeth gyhoeddus i'r ymgyrch argyfwng hinsawdd yn adlewyrchu'r awydd i wleidyddion ddweud y gwir am y sefyllfa, ac nid yw Llywodraeth Cymru dan unrhyw gamargraff ynglŷn â’r peryglon a wynebwn yn ogystal â'r atebion sydd o fewn ein cyrraedd. Bydd angen i bob Gweinidog edrych ar eu polisïau. Rwyf wedi dweud bod y cynllun cyflawni carbon isel—a buaswn yn annog pob Aelod i ddarllen y cynllun hwnnw—mae ganddo 100 o bolisïau ac argymhellion, ac weithiau, rwy’n credu efallai na chafodd ei ddarllen yn ddigon manwl. Fe'i cyflwynwyd gennym ym mis Mawrth, ond er mai ym mis Mawrth y cafodd ei gyflwyno, rwyf wedi gofyn i swyddogion ei adolygu yng ngoleuni'r cyngor a gefais gan bwyllgor newid hinsawdd y DU.
Felly, ochr yn ochr â hynny, rwyf hefyd yn edrych ar reoli tir yn gynaliadwy. Yn wahanol i Blaid Cymru, rwy'n credu y dylem symud oddi wrth gynlluniau taliadau sylfaenol oherwydd rwy'n credu y bydd yr argymhellion sydd gennym, sy’n gwobrwyo canlyniadau amgylcheddol, sy’n gwobrwyo cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, yn helpu gyda'r allyriadau carbon amaethyddol, ac rwy'n falch iawn o weld y ffordd y cynhaliodd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr gynhadledd yn ddiweddar ar gynhyrchu bwyd a rheoli tir yn gynaliadwy, ac maent wedi cyflwyno argymhellion ar gyfer bod yn garbon niwtral erbyn 2040, ddeng mlynedd yn gynt na ni. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni edrych ar yr argymhelliad hwnnw hefyd.
Mae Maes Awyr Caerdydd wedi'i daflu ataf lawer gwaith. Fe'i taflwyd ataf eto heddiw. Dylwn ddweud, unwaith eto: darllenwch y cyngor gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd. Yn wahanol i unrhyw wlad arall yn y DU, rwy’n credu, mae ein cyllidebau carbon yn cynnwys yr holl allyriadau o awyrennau yng Nghymru, sef yr holl deithiau awyr domestig a rhyngwladol. Rwy'n credu mai ni yw'r unig wlad i wneud hynny. Felly, nid yw Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd wedi rhagdybio unrhyw ostyngiad mewn allyriadau o deithiau awyr rhyngwladol sy'n deillio o weithredu polisi unochrog Cymru neu'r DU.
Rydym yn cytuno â'r deisebwyr fod yn rhaid i ni sicrhau bod pob polisi yn y presennol a’r dyfodol yn gydnaws â’r angen i osgoi newid hinsawdd a chwalfa ecolegol bellach, a chredaf fod y ddau Aelod Llafur a siaradodd wedi cyfeirio at hynny. Rhoddwyd ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'n Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ar waith gyda golwg ar yr union ddiben hwnnw. Mae Deddf yr amgylchedd, er enghraifft, yn gosod dyletswyddau cyfreithiol ar Weinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus i gynnal a gwella bioamrywiaeth. Ceir gofyniad iddynt gynhyrchu eu hadroddiad cyntaf ar sut y maent yn cyflawni eu dyletswydd erbyn diwedd y flwyddyn hon, ac mae Deddf yr amgylchedd hefyd yn cynnwys targedau cyfreithiol rwymol ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar draws economi Cymru.
Ond wrth gwrs, er mwyn i dargedau fod yn ystyrlon, rhaid eu gosod ar sail y dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael, a rhaid iddynt gael eu hategu gan gamau gweithredu er mwyn eu cyrraedd. Dyna pam rwy'n derbyn cyngor gan Bwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd, y corff cynghori statudol annibynnol a ffurfiwyd o arbenigwyr ym maes gwyddoniaeth hinsawdd, economeg, gwyddor ymddygiad a busnes. Soniais fy mod wedi cael y cyngor gan y pwyllgor y gofynnodd Lywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a minnau amdano, ac roedd yn ymwneud â phennu targed allyriadau sero net ar gyfer y DU a'n cyfraniad at y nod hwnnw. Rwyf wedi derbyn eu cyngor, rwyf wedi ymrwymo i ddeddfu y flwyddyn nesaf i gynyddu targed lleihau allyriadau Cymru o 80 y cant i 95 y cant erbyn 2050, yn unol â chyflawniad targed sero net ar gyfer y DU.
Wrth gwrs, mae'r deisebwyr yn gofyn i ni fynd ymhellach a gosod targed sero net ar gyfer Cymru cyn y dyddiad hwnnw. Felly, ymateb Llywodraeth Cymru i'r alwad honno yw dweud: rydym ninnau hefyd yn cydnabod yr angen i fynd ymhellach. Dyna pam ein bod wedi derbyn y cyngor, a phan wnaethom hynny, nodasom ein huchelgais i ddatblygu targed sero net i Gymru. Felly, nawr mae angen i ni weithio gyda Phwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, a chyda rhanddeiliaid eraill ledled Cymru, i nodi'r ffyrdd y gellir cyrraedd targed mwy uchelgeisiol. [Torri ar draws.] Iawn.
Tybed a gaf fi ofyn am eglurhad. Gyda'r uchelgais sero net, a yw'r sero net hwnnw ar gyfer Cymru neu a yw’n caniatáu ar gyfer gwrthbwyso rhyngwladol a thalu gwledydd eraill a allai leihau allyriadau carbon deuocsid yn rhatach na ni?
Roedd hwnnw ar gyfer Cymru, ond rydym yn cymryd cyngor ar y pwynt olaf a wnaethoch hefyd.
Rydym yn rhannu'r farn a fynegwyd gan y deisebwyr fod yn rhaid i ddinasyddion Cymru gael rôl ganolog yn cyflwyno syniadau a chynlluniau newydd. Pan fydd grwpiau o ddinasyddion yn dod at ei gilydd i ysgogi gweithredu ar newid hinsawdd, bydd y Llywodraeth hon yn gwrando ac yn gweithio gyda hwy i wneud iddo ddigwydd. Mae cynyddu ein hymdrechion i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn golygu bod yn rhaid i ni feithrin cydweithrediad newydd ar draws ein cymdeithas a'n heconomi. Mae gan bawb ran i’w chwarae, ac mae hynny'n cynnwys pob Aelod Cynulliad.
Ceir llawer o ffyrdd i ddinasyddion gyfrannu at yr agenda hon drwy ymgysylltu â ni fel eu Haelodau Cynulliad, gyda'u cynghorau lleol wrth gwrs, neu drwy ysgogi newid ymhlith busnesau drwy'r dewisiadau a wnânt fel defnyddwyr. Ceir mentrau Llywodraeth Cymru sy’n canolbwyntio ar gynorthwyo dinasyddion i fanteisio ar y cyfleoedd a'r adnoddau i weithredu'n lleol, fel ein menter eco-ysgolion a'n cynllun grantiau galluogi adnoddau naturiol a llesiant. Felly, ein neges i ddinasyddion Cymru yw hon: os ydych chi'n rhannu ein penderfyniad i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol, ac os ydych am gyflwyno eich syniadau, ni fu erioed amser gwell i wneud hynny na nawr.
Diolch, Weinidog. A galwaf ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl.
Diolch, gadeirydd. Diolch yn gyntaf oll i'r Aelodau ac wrth gwrs, i'r Gweinidog, am ymateb i hyn, ac fe gyffyrddaf â rhai o'r pwyntiau sydd wedi ychwanegu ymhellach at y ddadl hon.
Roedd Llyr Gruffydd yn llygad ei le pan dynnodd sylw at dymereddau cynyddol a phwyslais gwirioneddol ar y ffaith y byddai cynnydd o 2 y cant yn drychinebus mewn gwirionedd—sychder, a rhyfeloedd dinistriol hyd yn oed, a dinistr ein hecosystemau. Roedd Mark Reckless yn hollol iawn mewn gwirionedd hefyd i godi cwestiynau ynglŷn â sut y mae'r ffigur sero net hwn yn cymharu, a’r hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod Llywodraeth y DU, yn eu cyngor a gyhoeddwyd ym mis Mai 2009, yn argymell y dylai’r DU a'r Alban osod targed sero net erbyn 2050 ar gyfer y DU, 2045 ar gyfer yr Alban, ond roeddent yn nodi eu hargymhelliad hefyd y dylai Llywodraeth Cymru ddeddfu ar gyfer gostyngiad o 95 y cant fan lleiaf ar gyfer yr holl allyriadau nwyon tŷ gwydr yn erbyn llinell sylfaen 1990 erbyn 2050. Gellid rhoi deddfwriaeth mewn grym ar gyfer y targed newydd yn 2020, ochr yn ochr â thrydedd cyllideb garbon Cymru. Ac mae'n dweud:
Mae'r targed hwn yn cynrychioli cyfraniad teg Cymru at darged y DU, a Chytundeb Paris yn sgil hynny. Nid yw'n awgrymu bod llai o uchelgais neu ymdrech o ran polisi yng Nghymru, ond mae'n adlewyrchu'r gyfran fawr o allyriadau amaethyddol yng Nghymru a llai o fynediad at safleoedd addas i ddal a storio CO₂.
Mae'r Gweinidog wedi mynd ymhellach mewn gwirionedd ac wedi dweud
O ystyried hyn a’r datganiad argyfwng hinsawdd yn sgil cyhoeddi'r cynllun, er ein bod yn derbyn cyngor y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd— pwyllgor Llywodraeth y DU, credwn fod yn rhaid i ni fynd ymhellach. Felly, ar ran Llywodraeth Cymru, rwy'n datgan ein huchelgais heddiw i gyflwyno targed i Gymru gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050 fan bellaf.
Felly, mae angen eglurhad, rydych yn llygad eich lle i ddweud hynny, ynglŷn â sut y mae'r ffigur sero net hwnnw—beth y mae'n ei olygu.
Tynnodd Neil McEvoy sylw at lygredd aer. Rydym bellach yn gweld mwy o blant ag asthma arnynt, ac roeddwn yn falch eich bod wedi galw am wyrddu seilwaith cyhoeddus, pwynt da iawn.
Jenny Rathbone AC a'r angen am systemau metro—ni allwn fforddio mwy o allyriadau carbon, ac rydych yn llygad eich lle i nodi hynny wrth inni symud ymlaen i adeiladu tai—rhaid i hynny hefyd gwmpasu a gwireddu'r cyfrifoldeb sydd ynghlwm wrth hynny a'i ran yn y gwaith o leihau ein hallyriadau carbon. Mae'n rhaid i mi fod yn onest, roeddwn i'n hoff iawn o'ch pwynt ynglŷn â 12 mlynedd i achub y byd. Nid ydym yn siarad am 2050 yma, rydym yn siarad am amser nad yw mor bell i ffwrdd â hynny.
Felly, rwy'n gwerthfawrogi'r holl sylwadau'n fawr, ac wrth gwrs, Mandy, fe wnaethoch chi bwyntiau da iawn hefyd am gryfder teimladau'r cyhoedd, nid Extinction Rebellion yn unig, ond hefyd y ffaith bod plant bellach mor ymwybodol yn ein hysgolion—fel gwleidyddion, ni allwn eu siomi.
Mike Hedges, wrth gwrs—hoffais y pwynt a wnaethoch ynglŷn â sut rydym yn wynebu—ac nid yw'n air y gallaf ei ddweud yn hawdd iawn—apocalyps. Ond mewn gwirionedd, mae hynny i mi’n crisialu mewn un gair yr hyn y mae'r ddadl heddiw'n ymwneud ag ef a sut y mae angen i ni symud ymlaen gyda hyn.
Dywedodd rhywun wrthyf—plentyn mewn digwyddiad y bûm ynddo. Dywedodd plentyn wrthyf, 'Pam rydym yn ei alw'n newid hinsawdd? Mae newid yn rhywbeth rydych chi'n ei wneud dros gyfnod o amser. Rydym bellach yn wynebu argyfwng hinsawdd.' Ac roeddwn i'n meddwl mor ddoeth oedd y geiriau hynny gan ferch fach.
Felly, yr unig beth sydd ar ôl gennyf i’w wneud, gadeirydd, yw diolch i Matthew Misiak, Extinction Rebellion, a phob unigolyn a lofnododd y ddeiseb ac am gael hyder yn y system ddeisebau y byddai eu pryderon, eu safbwyntiau, yn cael eu gwyntyllu a'u trafod, gan ennyn sylwadau gan y Gweinidog yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, diolch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr. Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.