– Senedd Cymru am 11:01 am ar 10 Mehefin 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar y coronafeirws. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad. Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. Bydd fy adroddiad i’r Senedd heddiw yn delio â’r datblygiadau mwyaf pwysig yn ein hymateb i'r coronafeirws. Fel arfer, byddaf yn crynhoi’r dystiolaeth ddiweddaraf am ledaeniad y feirws. Byddaf yn diweddaru ar y trefniadau profi ac olrhain sydd yn allweddol wrth i ni symud allan o’r cyfnod clo. Byddaf yn tynnu sylw’r Senedd at y rheoliadau sydd angen i ni eu gwneud er mwyn gweithredu rheolau ynysu i deithwyr wrth gyrraedd ffiniau’r Deyrnas Unedig. Byddaf yn trafod effaith y feirws ar blant a phobl ifanc yn Nghymru. Ac, yn olaf, byddaf yn cyfeirio at y digwyddiadau erchyll yn yr Unol Daleithiau yr wythnos diwethaf.
Lywydd, fel yn yr wythnosau diwethaf, bydd fy adroddiad yn canolbwyntio ar faterion nad ydynt wedi’u cynnwys yn y datganiadau i ddod gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol.
Lywydd, mae nifer yr achosion newydd o'r feirws yng Nghymru yn parhau i ostwng, ynghyd â nifer y derbyniadau i ysbytai ac i ofal critigol. Nodwyd 42 o achosion newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddoe. Erbyn hyn, mae 40 o gleifion mewn gwelyau gofal critigol yng Nghymru yn dioddef o coronafeirws, i lawr o’r nifer uchaf o 164 ym mis Ebrill. Mae nifer y derbyniadau newydd ar gyfer coronafeirws wedi gostwng o dros 1,000 yr wythnos, ar ei uchaf, i 710 yr wythnos diwethaf. Mae'r tueddiadau hyn yn galonogol, ac unwaith eto rwy'n diolch i bobl yng Nghymru am eu hymrwymiad a’u hundod dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf.
Er hynny, Lywydd, adroddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddoe y bu cyfanswm o 2,240 o farwolaethau'n ymwneud â coronafeirws yng Nghymru ym mhob lleoliad hyd at 29 Mai. Nifer y marwolaethau a adroddwyd ddoe gan Iechyd Cyhoeddus Cymru oedd naw, wrth i’r duedd barhau tuag at i lawr. Ond mae pob un o'r rheini'n unigolion â bywydau y gallent fod wedi’u byw. Bydd colled fawr ar ôl pob un ohonynt. Ac mae'n hanfodol o hyd fod pob un ohonom yn parhau i ddilyn y rheolau i ddiogelu ein hunain ac eraill.
Lywydd, adroddais yr wythnos diwethaf ar y penderfyniadau a wnaed fel rhan o'r adolygiad diweddaraf o'r rheoliadau, i lacio rhai o'r cyfyngiadau sydd ar waith ar hyn o bryd. Byddwn yn eu llacio ymhellach, cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny, ond dim ond pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.
Rydym wedi cymryd y camau gofalus hyn a gefnogir gan ein system brofi, olrhain a diogelu, a roddwyd ar waith yr wythnos diwethaf. Fel rwyf wedi’i ddweud, mae nifer yr achosion o coronafeirws a gadarnhawyd yng Nghymru'n parhau i ostwng. Yr wythnos diwethaf, y nifer uchaf ar unrhyw ddiwrnod unigol oedd 82, a’r isaf oedd 35. Arweiniodd yr achosion hyn at 651 o bobl ar gyfer gwaith dilynol gan y timau olrhain cysylltiadau, ac o’r 651 hynny, maent eisoes wedi llwyddo i gysylltu â 619 ohonynt a’u cynghori.
Mae ein system yng Nghymru yn bartneriaeth rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol. Mae dros 600 o staff, sydd â phrofiad o weithio gyda'r cyhoedd, wedi'u recriwtio a'u hyfforddi gan awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Ni fydd pob un yn ymgymryd â gwaith olrhain cysylltiadau eto oherwydd y nifer isel o achosion newydd sydd wedi’u cadarnhau, ond mae'r capasiti yno i gynyddu’r gwaith os oes angen, ac mae trefniadau gofalus wedi’u gwneud yn ein system i ddiogelu data personol ac i warchod rhag twyll. Ac mae hynny oll yn bwysig gan fod hon yn system sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth, sydd wedi'i galluogi gan dechnoleg ac wedi'i staffio gan bobl leol. Bydd yn darparu’r seilwaith hanfodol i’n helpu i atal trosglwyddiad y feirws a lleihau’n raddol y cyfyngiadau ar fywyd o ddydd i ddydd yng Nghymru.
Lywydd, mae’n rhaid inni fod yn barod am gynnydd posibl mewn trosglwyddiad, oherwydd wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio, bydd nifer y cysylltiadau personol yn cynyddu hefyd. Yn y cyd-destun hwnnw, rydym wedi adolygu'r dystiolaeth ar rôl gorchuddion wyneb, ac adroddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyngor newydd ddoe, yn hybu’r defnydd o orchuddion wyneb anfeddygol ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Darparodd y Gweinidog ddatganiad ysgrifenedig ddoe hefyd a oedd yn nodi ein bod ar y trywydd iawn i gwblhau’r cam cyntaf mewn perthynas â phrofi’r holl breswylwyr a staff mewn cartrefi gofal yng Nghymru erbyn diwedd yr wythnos hon, a byddwn bellach yn profi pob gweithiwr mewn cartrefi gofal bob wythnos am gyfnod o bedair wythnos arall.
Lywydd, rhoddwyd cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer gofynion cwarantin ar y ffin ar waith yr wythnos hon. Mae diogelwch ar y ffin yn fater a gedwir yn ôl, ond gan fod y trefniadau cwarantin yn cael eu gweithredu drwy ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd, roedd angen i Weinidogion Cymru bennu rheoliadau cyfatebol i Gymru. Pan fydd pobl yn nodi eu bod yn bwriadu gosod eu hunain dan gwarantin mewn cyfeiriad yng Nghymru, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cysylltu â hwy.
Lywydd, mewn datganiadau blaenorol, rwyf wedi ystyried effaith y feirws ar waith Llywodraeth Cymru, ar ei chyllideb ac ar feysydd eraill. Nid yw'r rhaglen ddeddfwriaethol yn eithriad, gyda gostyngiad sydyn yng ngallu'r Llywodraeth i gyflwyno ein cynigion, a heriau, yn wir, i'r ddeddfwrfa wrth gyflawni'r cyfrifoldeb i graffu ar y cynlluniau hynny o dan yr amgylchiadau presennol.
Ddoe, rhoddodd datganiad y Gweinidog Addysg wybod i’r Gweinidogion fod y Llywodraeth, yn gyndyn iawn, wedi dod i’r casgliad na fydd yn ymarferol bwrw ymlaen fel y cynlluniwyd gyda’r Bil diwygio addysg drydyddol. Bellach, bydd yn cael ei gyhoeddi fel Bil drafft ar gyfer ymgynghoriad. Byddaf yn gwneud datganiad y mis nesaf ar gynlluniau deddfwriaethol y Llywodraeth ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon.
Lywydd, cawsom dystiolaeth bwysig ddoe ar sut y mae coronafeirws yn effeithio ar fywydau plant yng Nghymru. Mae hwn wedi bod yn gyfnod anarferol i bob un ohonom, ond i blant, bydd argyfwng coronafeirws yn gyfran sylweddol o'u bywydau. Mae rhoi sylw i'w hanghenion a'u profiad yn rhan bwysig o’n hymateb i'r argyfwng.
Rhannodd dros 23,700 o blant a phobl ifanc rhwng tair a 18 oed eu barn drwy arolwg 'Coronafeirws a Fi'. Mae'r arolwg hwn yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, Plant yng Nghymru a'r Senedd Ieuenctid. Tanlinellodd yr arolwg i ba raddau y mae pobl ifanc wedi bod yn colli eu teulu a'u ffrindiau yn ystod y cyfnod hwn, ac i bobl ifanc yn arbennig, mae wedi tanlinellu eu gofid am eu haddysg a'u pryderon ynghylch bod ar ei hôl hi.
Fel y mae ein prif swyddog meddygol wedi egluro'n gyson, mae mwy nag un math o niwed o ganlyniad i coronafeirws. Mae’n rhaid i anghenion plant fod yn bryder gwirioneddol wrth inni geisio cydbwyso manteision diogelu rhag y feirws yn erbyn y niwed sy’n deillio o golli addysg a chyswllt cymdeithasol, ac nid oes amheuaeth y bydd y niwed hwnnw’n effeithio fwyaf ar y rhai sydd eisoes dan anfantais. O'r cychwyn cyntaf, rydym wedi mynd ati i liniaru'r niwed hwnnw drwy gadw ysgolion ar agor i blant sy'n cael prydau ysgol am ddim, a phlant gweithwyr allweddol. Ond i lawer o blant, nid ydynt wedi cael unrhyw gyswllt â'r ysgol, ac efallai bod eu profiad o ddysgu o bell wedi bod yn gymysg.
Dyna pam y mae'r Gweinidog Addysg, wrth ystyried yr opsiynau ar gyfer gweddill y tymor hwn, wedi rhoi blaenoriaeth i sicrhau y bydd pob disgybl yn cyfarfod â'u hathro mewn grwpiau bach i'w cefnogi gyda'u dysgu a'u cynlluniau ar gyfer y cam nesaf. Cadarnhaodd datganiad y Gweinidog yr wythnos diwethaf mai dychweliad graddol i’r ysgol fydd hwn. Bydd yn cychwyn ar 29 Mehefin ac yn parhau tan ddiwedd mis Gorffennaf, gan sicrhau mis llawn o addysg ar ei ffurf newydd ar gyfer yr holl ddisgyblion cyn gwyliau'r haf.
Yn olaf, Lywydd, gofynnodd arweinydd Plaid Cymru gwestiwn i mi ynglŷn â protestiadau Black Lives Matter, ac roeddwn yn ddiolchgar iddo am wneud hynny. Mae'r dicter a deimlir yn sgil marwolaeth George Floyd wedi tynnu sylw, yn gwbl briodol, at brofiad ehangach pobl dduon yn ein cymdeithas. Mae llawn cymaint o angen i ni yma yng Nghymru ag unrhyw un arall wynebu ein hanes ein hunain, cydnabod rhan cymunedau duon ynddo, a mynd i’r afael â'r gwahaniaethu systematig a’r gwahaniaethu y mae pobl dduon yn dal i'w wynebu heddiw. Nid yw hanes unrhyw un ar hyn yn berffaith: unrhyw blaid wleidyddol; unrhyw sefydliad, cyhoeddus na phreifat; nac unrhyw Lywodraeth. Yr unig beth yr hoffwn ei ddweud wrth ddinasyddion duon yma yng Nghymru heddiw yw hyn: er bod yr hanes wedi bod yn amherffaith, mae Llywodraeth Cymru yma i sefyll gyda chi, i weithio gyda chi, i ddysgu oddi wrthych wrth inni ailymrwymo i wneud gwahaniaeth go iawn yn y dyfodol. Lywydd, diolch yn fawr.
Adam Price, arweinydd Plaid Cymru.
Brif Weinidog, rwy'n croesawu'n fawr eich sylwadau ar ddiwedd eich datganiad a hoffwn i ddychwelyd at y cwestiwn o'r goblygiadau i ni yng Nghymru o'r digwyddiadau erchyll diweddar yn yr Unol Daleithiau. Mae pwy rydym ni'n coffáu o'r gorffennol yn adlewyrchu'n gwerthoedd ni heddiw fel cymdeithas. Fyddai fe'n briodol, felly, yn eich tyb chi, Brif Weinidog, i gynnal adolygiad drwy Gymru gyfan, fel sydd yn digwydd nawr ar draws Llundain, i sicrhau nad ŷm ni mewn unrhyw fodd yn cael ein gweld yn dathlu caethwasiaeth, trefedigaethedd neu hiliaeth yn ein cofebau cenedlaethol neu leol?
Llywydd, diolch yn fawr i Adam Price unwaith eto am godi'r pwnc pwysig hwn. Dwi'n cytuno'n llwyr â beth ddywedodd ef. Mae'n bwysig i ni gofio ein gorffennol a'r rhan roedd Cymru wedi rhoi i mewn i'r pethau rŷm ni'n meddwl amdanynt heddiw, ond dydym ni ddim eisiau dathlu pethau. Rŷm ni eisiau cofio a dysgu, ond nid eu dathlu, a dyna pam rŷm ni yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol a phobl eraill yng Nghymru i weld a oes pethau yn dal gyda ni ar hyn o bryd lle fyddai'r amgueddfa y lle gorau i roi y pethau hynny, i fod yn rhan o'n hanes ni ac i beidio anghofio'r hanes, ond nid i ddathlu pethau. Rŷm ni'n dal i weithio gyda phobl eraill ledled Cymru i feddwl am hwnna.
Mae gan y ffordd rydym yn addysgu ein hanes allu naill ai i atgynhyrchu’r gorffennol neu newid y dyfodol. Felly, Brif Weinidog, yn ychwanegol at yr ymrwymiad cyffredinol a roesoch yn eich datganiad, sydd i’w groesawu’n fawr, tybed a fyddech yn barod i roi dau ymrwymiad penodol pellach heddiw.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu amgueddfeydd gwlân, morwrol, llechi a glo, hyd yn oed un ar gyfer y lleng Rufeinig, ac mae cynnig wedi'i wneud ar wahân hefyd ar gyfer amgueddfa feddygaeth filwrol yn yr hen Tiger Bay. Mae yna fwlch amlwg. Felly, a wnewch chi ymrwymo, Brif Weinidog, i archwilio’r posibilrwydd o sefydlu amgueddfa genedlaethol i adrodd hanes cymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, ac a wnewch chi ymrwymo hefyd i ymgorffori gwrth-hiliaeth ac addysgu hanes pobl dduon a phobl groendywyll, gan gynnwys, fel y nodwyd gennych, rôl Cymru mewn gwladychiaeth a chaethwasiaeth, fel elfennau craidd o’r cwricwlwm addysgol ym mhob ysgol yng Nghymru?
Diolch i Adam Price unwaith eto. Mae'n iawn i dynnu sylw at yr ystod eang o amgueddfeydd sydd gennym yng Nghymru, gan gynnwys amgueddfa bêl-droed newydd o ganlyniad i gytundeb rhwng ei blaid a'r Llywodraeth yn gynharach yn nhymor y Senedd hon. Rwy'n fwy na pharod i edrych ar y math o amgueddfa y mae'n ei disgrifio. Byddwn yn awyddus iawn iddi fod yn amgueddfa fyw. Cefais y fraint, ar sawl achlysur yn ddiweddar, o helpu i roi cydnabyddiaeth i bobl ifanc o'r gymuned ddu fel rhan o Fis Hanes Pobl Dduon, a'r neges rwy’n ceisio'i chyfleu iddynt yn y digwyddiad hwnnw yw eu bod yn creu eu hanes heddiw. Nid yw'r hanes yn perthyn i'r gorffennol; mae hanes yn rhywbeth y mae pob un ohonom yn ei greu, ac mae ganddynt ddylanwad fel pobl dduon hynod dalentog a gwerthfawr yma yng Nghymru. Felly rwy’n fwy na pharod i ymrwymo i edrych ar hynny, ond rwy'n awyddus iawn i hynny fod yn rhan o ddathlu’r Gymru gyfoes, y cyfraniad y mae cymunedau duon yn ei wneud, y ffordd y maent yn llunio Cymru at y dyfodol, yn ogystal ag edrych ar eu profiad yn llunio Cymru yn y gorffennol.
Ac o ran addysgu mewn ysgolion, bydd Adam Price yn ymwybodol iawn o sut y mae digwyddiadau diweddar wedi tynnu sylw at y pwnc hwn. Gwn y bydd fy nghyd-Aelod Kirsty Williams yn awyddus i weithio eto gyda'r rheini sydd wedi bod yn ein cynghori ar y cwricwlwm newydd, ar y ffordd y dylid ei ddatblygu a'i gyflwyno i sicrhau ein bod yn dysgu gwersi'r wythnosau diwethaf. Credaf fod hwn yn fater i bob ysgol yng Nghymru. Ni waeth beth yw cyfansoddiad y boblogaeth leol, mae'r un mor bwysig i blant lle mae cymunedau duon wedi bod yn llai presennol ddeall yr hanes hwnnw ag ydyw i bobl ifanc sy'n rhan o'r gymuned honno eu hunain.
Paul Davies, arweinydd yr wrthblaid.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, yn gynharach yr wythnos hon, fe nodoch chi eich bod yn ystyried llacio rhai o'r cyfyngiadau symud yng Nghymru yn eich adolygiad nesaf. Bydd pobl Cymru yn chwilio am obaith yn y datganiad hwnnw—gobaith y gallant aduno eu teuluoedd, gobaith mewn perthynas â'u busnesau a gobaith, wrth i nifer yr achosion newydd ostwng, y bydd rhywfaint o'r rhyddid y maent wedi'i golli dros yr wythnosau diwethaf yn cael ei adfer. Rwy'n derbyn eich bod yn dal i weithio gyda swyddogion, ond rydych wedi nodi eisoes yn y gorffennol y dylai gweithwyr trin gwallt ac eraill ddechrau paratoi i ailagor. Fodd bynnag, ceir sectorau eraill sydd eto i glywed unrhyw beth gan Lywodraeth Cymru, megis y diwydiant eiddo, y diwydiant manwerthu moduron—ac mae'r rhestr yn parhau.
Felly, wrth baratoi ar gyfer eich cyhoeddiad nesaf, a allwch gadarnhau ar ba sail sylfaenol y gall Llywodraeth Cymru lacio'r cyfyngiadau ar gyfer rhai sectorau, a pha gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod y meini prawf hynny'n cael eu profi'n deg yn erbyn pob sector, fel y gall economi Cymru ddechrau ailagor ychydig mwy dros yr wythnosau nesaf?
Wel, Lywydd, rwy'n rhannu'r gobaith hwnnw sydd gan bobl yng Nghymru y byddwn mewn sefyllfa erbyn diwedd yr wythnos nesaf i lacio mwy ar rai o'r cyfyngiadau y mae pob un ohonom wedi gorfod cadw atynt ers bron i dri mis bellach. Sut y byddwn yn gwybod a yw'n bosibl gwneud hynny? Wel, bydd yn dibynnu ar lefel cylchrediad y feirws yma yng Nghymru, a bydd ystod o arwyddion y gallwn eu defnyddio i ddweud wrthym a oes gennym le i allu llacio’r cyfyngiadau hynny ymhellach. Bydd y rhif R yn un arwydd, ond bydd rhai o'r pethau y cyfeiriais atynt yn fy natganiad yn berthnasol hefyd, Lywydd.
Felly, er mwyn rhoi math gwahanol o ffon fesur i chi, mewn ymateb i gwestiwn arweinydd yr wrthblaid, pan ddechreuodd y cyfyngiadau symud tua diwedd mis Mawrth, roedd 400 o achosion newydd o'r coronafeirws wedi'u cadarnhau yng Nghymru ar unrhyw ddiwrnod penodol, ac roedd y nifer honno'n codi. Saith wythnos yn ôl, pan ddechreuasom godi rhai o'r cyfyngiadau am y tro cyntaf, roedd y nifer wedi gostwng i oddeutu 100 y dydd, ac yn parhau i ostwng, a bu hynny'n gymorth i greu lle i ddechrau'r broses. Wrth inni ddechrau'r wythnos hon, mae'r ffigur oddeutu 50 o achosion newydd wedi'u cadarnhau bob dydd, ac mae'r nifer yn parhau i ostwng. Felly, mae’r tebygolrwydd y byddwch yn cyfarfod â rhywun sy'n dioddef o'r coronafeirws wrth i chi adael eich cartref eich hun oddeutu un rhan o wyth o’r hyn ydoedd pan gyflwynwyd y cyfyngiadau symud. Ac mae honno’n ffordd o geisio esbonio i bobl pam ei bod yn bosibl cynnig mwy o ryddid i bobl.
Ond yr ail beth y byddwn yn parhau i orfod ei bwysleisio i bobl yw bod yn rhaid iddynt arfer y rhyddid hwnnw’n ofalus iawn, oherwydd hyd yn oed os mai dim ond 50 o achosion newydd sy’n cael eu cadarnhau bob dydd, nid oes gennych unrhyw ffordd o wybod wrth i chi adael eich cartref a fyddwch yn dod i gysylltiad ag un o'r 50 o bobl hynny. Felly, cadw pellter cymdeithasol, hylendid dwylo, defnyddio gorchuddion wyneb, a gorchuddion wyneb anfeddygol ar drafnidiaeth gyhoeddus, mae'r holl bethau hynny'n bethau y mae'n rhaid inni eu gwneud o hyd, hyd yn oed wrth i ni lacio’r cyfyngiadau symud, er mwyn parhau i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â'r feirws, ein bod yn creu mwy o le i weithio, fel y bydd pethau eraill y gallwn eu gwneud ar ddiwedd cyfnod arall o dair wythnos i helpu i barhau â’n bywydau mewn ffordd debycach i'r hyn a fodolai cyn y feirws.
Wel, rwy’n gobeithio, Brif Weinidog, wrth i Lywodraeth Cymru ystyried y newidiadau mawr nesaf i’w pholisïau COVID-19, y bydd yn gweithio’n adeiladol gyda’r gwrthbleidiau. Ac efallai y byddai'n ddefnyddiol yn y dyfodol pe gallech ymgynghori â gwleidyddion y gwrthbleidiau cyn gwneud rhai o'r penderfyniadau hyn fel y gall pobl Cymru fod yn sicr ein bod ni, fel gwleidyddion, yn gweithio gyda'n gilydd lle gallwn er budd y cyhoedd.
Nawr, Brif Weinidog, y penwythnos diwethaf, fe ddywedoch chi'n glir y bydd Cymru’n parhau i fod ar gau i raddau helaeth dros yr haf, gydag ymwelwyr yn debygol o gael eu cyfyngu i aros mewn bythynnod a fflatiau hunanddarpar. Fel y gallwch ddychmygu, rwy'n siŵr, arweiniodd eich sylwadau at ymateb dig a rhwystredig gan rai gweithredwyr twristiaeth ledled y wlad, sydd, yn ddealladwy, yn ofni y gallai hyn arwain at gwymp sector twristiaeth Cymru. Nawr, rwy'n derbyn bod rhaid agor y sector mewn modd diogel a chynaliadwy, ond wrth i'n busnesau twristiaeth wylio eu cymheiriaid ledled y DU yn ystyried ffyrdd y gallant ailagor cyfleusterau twristiaeth yn rhannol, mae llawer o weithredwyr yn teimlo fel pe baent yn cael eu gadael ar ôl heb unrhyw obaith i'w busnesau yn y dyfodol. Felly, a wnewch chi a'ch Llywodraeth achub ar y cyfle heddiw i nodi beth yn union yw cynlluniau cyfredol Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant twristiaeth yma yng Nghymru? Ac a allwch ddweud wrthym hefyd pa drafodaethau rydych wedi'u cael gyda chynrychiolwyr y diwydiant twristiaeth i ddarganfod sut y gall eich Llywodraeth eu cefnogi'n well drwy gydol y pandemig hwn? Ac a wnewch chi ymrwymo i ddarparu cymorth pellach i weithredwyr twristiaeth ledled Cymru hyd nes y gallant ailagor, er mwyn sicrhau eu hyfywedd ar gyfer y dyfodol?
Wel, Lywydd, gadewch imi ddweud bod y diwydiant twristiaeth yn cael cryn dipyn o ystyriaeth gennyf ac yn y gwaith a wnawn o fewn Llywodraeth Cymru. Rwy'n llwyr sylweddoli'r effaith enfawr y mae'r feirws wedi'i chael ar y sector hwnnw yma yng Nghymru. Roeddwn am roi arwydd fod rhywfaint o obaith i’r sector hwnnw hefyd, a bod rhai ffyrdd y gallai rhywfaint o weithgarwch twristiaeth ailgychwyn yn ystod y tymor hwn, ond bydd yn rhaid gwneud hynny gan gadw diogelwch yn flaenllaw yn ein meddyliau, fel y dywedodd Paul Davies yn gwbl briodol. Rydym yn cael cyswllt rheolaidd iawn â sefydliadau a diddordebau twristiaeth yng Nghymru. Cefais gyfarfod ddoe ddiwethaf gyda’r Gweinidog sy’n gyfrifol, gydag uwch swyddogion yma, gan adrodd ar y sgyrsiau hynny a meddwl ymlaen at yr hyn y gallem ei gynnig o ran llacio’r cyfyngiadau symud. Os oes modd felly, ymddengys bod dechrau gyda llety hunangynhwysol, lle nad yw pobl yn rhannu ceginau a thoiledau a chawodydd ac ati, yn ffordd synhwyrol a diogel o feddwl sut y gallwn ailddechrau gweithgarwch yn y diwydiant twristiaeth.
Y ffactor allweddol arall—a gwn y bydd Mr Davies yn ymwybodol iawn o hyn o'i ardal leol—yw bod yn rhaid gwneud hynny gyda chaniatâd y gymuned. Fe fydd yn ymwybodol o lefel y pryderon a fu mewn rhannau o dde-orllewin a gogledd-orllewin Cymru yn ystod y pandemig, ynglŷn â phobl yn dod i'r ardaloedd hynny o fannau lle mae'r feirws wedi bod yn lledaenu'n fwy helaeth, ac o’r perygl y bydd y feirws yn dod i lefydd lle mae’r cylchrediad wedi bod yn isel a'r effaith y gallai hynny ei chael ar wasanaethau lleol a bywydau lleol. Felly, mae gwaith i'r diwydiant ei wneud hefyd, o ran cael y sgyrsiau hynny gyda phoblogaethau lleol—mae llawer o'r bobl hynny’n gweithio yn y sector twristiaeth eu hunain—er mwyn sicrhau, wrth inni ddechrau caniatáu i dwristiaeth ailddechrau yng Nghymru, os gallwn, y gall y bobl sy'n teithio i'r cymunedau hynny fod yn sicr y byddai croeso iddynt, ac y bydd y diwydiant unwaith eto'n dangos popeth sydd gan Gymru i'w gynnig i bobl.
Brif Weinidog, nid ydym yn cael cwestiynau i’r Prif Weinidog mwyach, ac yn lle hynny, rwy’n ymateb o bell i'ch datganiad unwaith eto. Mae Senedd San Steffan wedi dychwelyd, ond ni chaniateir i Aelodau etholedig fynychu’r Senedd, ac eto ddydd Sadwrn, caniatawyd i lu o brotestwyr ddod i brotestio yn y Senedd, o fewn golwg i'r man lle cafodd eich Gweinidog iechyd ei bicnic tecawê gyda’i deulu. Gofynnais i chi bryd hynny a oeddech chi wedi darllen Animal Farm, gan ei bod yn ymddangos bod rhai yn fwy cyfartal nag eraill. Yr wythnos hon, wrth i rai gael dirwyon am deithio ychydig dros 5 milltir i weld eu teuluoedd, ymunodd o leiaf un Aelod Llafur â'r brotest ym mharc Bute. Pam y dylai eraill gydymffurfio â'r cyfyngiadau symud os yw'r Aelodau Llafur sy'n eu gorfodi yn eu torri? Nododd Mandy Jones o fy ngrŵp, yn gwbl gywir, os aiff yr ail brotest yn ei blaen,
Mae hyn yn sarhad ar y rhai sydd wedi aberthu cymaint er mwyn trechu'r feirws.
Pan ofynnwyd i chi am eich barn ar y protestiadau, a wnaethoch chi achub ar y cyfle i gondemnio eu hanghyfreithlondeb? A wnaethoch chi rybuddio protestwyr y gallent gael dirwy, neu ddweud y byddech yn cefnogi'r heddlu i roi dirwyon o'r fath? Naddo. Yn lle hynny, fe ddewisoch gondemnio'r Aelod etholedig a geisiodd gynnal y gyfraith. Wrth gwrs, mae’r brotest dorfol—a drefnwyd, gyda llaw, Lywydd, gan grŵp sydd am chwalu cyfalafiaeth a dadariannu’r heddlu—yn sarhad ar lawer o bobl sydd wedi aberthu cymaint er mwyn trechu’r feirws.
Brif Weinidog, a wnewch chi ymddiheuro i Mandy Jones am eich sarhad gwarthus wrth geisio cysylltu’r ymadrodd 'slap in the face' â heddwas yn lladd dyn, yn ôl pob golwg, drwy benlinio ar ei wddf am wyth munud a hanner? Pam na wnewch chi orfodi eich rheolau yn ddiduedd? Ai oherwydd eich bod yn cefnogi'r protestiadau, neu ai oherwydd eich bod yn ofni y bydd y protestwyr yn eich 'canslo', fel a ddigwyddodd i Jenny Rathbone ac Ali Ahmed ddydd Sadwrn pan wnaethant siarad ar ran grwpiau lleiafrifol eraill gan ddweud, 'Mae pob bywyd yn bwysig'? Brif Weinidog, gan na wnewch chi orfodi eich deddfau'n deg, onid yw'n bryd inni eu diddymu?
Lywydd, nid mater i mi yw sut y mae'r Senedd hon yn dewis eistedd. Os bydd y Senedd hon yn penderfynu ei bod am ailddechrau cyfarfod yn y cnawd yn rhannol neu'n gyfan gwbl, yna byddaf yn ymddangos gerbron y Senedd i ateb cwestiynau. Mater i chi yw hynny'n llwyr, nid i mi.
O ran y pwynt a wnaeth yr Aelod am y rhai sy'n llunio deddfau, gadewch imi ddweud yn glir: fy marn i erioed yw na allwch wneud y gyfraith a thorri'r gyfraith, ac mae hynny'n wir i bob un ohonom, pob un Aelod, yn fy marn i. Mae gennym y fraint enfawr o wneud penderfyniadau ac yna gofyn i bobl eraill gadw atynt. Ni allwn wneud y penderfyniadau hynny, gofyn iddynt gadw atynt a pheidio â chadw atynt ein hunain, ac mae hynny'n wir am bob un ohonom.
Lywydd, rwy'n cefnogi'r heddlu'n fawr yn y ffordd y maent wedi ymateb i’r gwrthdystiadau. Nid fy lle i yw cyfarwyddo’r rheini sy'n gorfod gwneud y penderfyniadau hynny ar y rheng flaen ynglŷn â sut y dylent ymateb i'r amgylchiadau sy'n datblygu o'u blaenau. Credaf fod yr heddlu yng Nghymru wedi ymateb mewn ffordd adeiladol i'r sefyllfa anodd y maent wedi'i hwynebu, a hoffwn eu cefnogi ar y camau y maent wedi'u cymryd.
O ran y gwrthdystwyr, dywedaf eto fy mod yn deall ac yn rhannu'r dicter y maent yn ei deimlo a'u hangen i fynegi eu barn, ond mae ffyrdd eraill a ffyrdd gwell o wneud hynny o dan yr amgylchiadau presennol. Ni ddylai pobl ymgynnull pan fyddant yn dod yn agos at ei gilydd ac yn mynd yn groes i'r rheolau rydym wedi'u gosod. Ceir sawl ffordd arall o fynegi barn, ac mae angen, ac fe ddylid mynegi'r farn honno, ac rwy’n annog pobl yng Nghymru sy'n teimlo’n gryf, fel finnau, i fynegi’r safbwyntiau hynny mewn ffyrdd nad ydynt yn peryglu eu hunain ac eraill.
Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, mae'r Senedd hon yn eistedd. David Rees.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, rydym yn llythrennol newydd gael gwybod gan Albert Heaney yn y munudau diwethaf am y canllawiau a allai fod yn newid ar gyfer cartrefi gofal ac ymweliadau â chartrefi gofal. Rwyf wedi derbyn pryderon gan etholwyr ynghylch y gallu i ymweld â pherthnasau mewn cartrefi gofal a allai fod yn dioddef o ddementia. Mae rhai enghreifftiau rhagorol, mae Sŵn-y-Môr yn Aberafan yn defnyddio cyswllt fideo, fideo ar FaceTime. Byddant yn mynd o un preswylydd i’r llall i sicrhau bod pob aelod o'u teulu yn cael cyfle i'w gweld. Nid yw hynny'n bosibl ym mhob cartref gofal.
Nawr, mae'r llythyr sydd newydd ei ryddhau’n nodi eu bod yn awyddus i gael sylwadau gan y cyhoedd, a bydd canllawiau’n cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf, ond mae eich adolygiad wedi'i drefnu ar gyfer yr wythnos nesaf. A allwch roi syniad inni a fydd cyfleoedd i gartrefi gofal heb achosion o COVID ganiatáu ymweliadau gan deuluoedd, yn enwedig ymweliadau â phreswylwyr â dementia, sy'n gweld wyneb cyfeillgar aelod o’r teulu fel rhywbeth hanfodol i'w lles meddyliol? A yw hynny'n rhan o'ch ystyriaethau ynglŷn â’r canllawiau hynny?
Lywydd, diolch i David Rees am hynny. Hoffwn ddweud unwaith eto, rwy’n llwyr sylweddoli’r gost bersonol i deuluoedd ac i breswylwyr o ganlyniad i fethu gweld ei gilydd ar adegau yn eu bywydau pan fo’r cyswllt personol hwnnw’n golygu cymaint iddynt.
Ond cyfeiriodd Mr Rees at gartrefi gofal yng Nghymru lle nad oes achosion o COVID, ac nid oes unrhyw achos wedi'i gadarnhau yn nhri chwarter yr holl gartrefi gofal yng Nghymru. Ond dim ond mewn dwy ffordd, mewn gwirionedd, y gall coronafeirws fynd i mewn i gartref lle nad oes coronafeirws ar hyn o bryd. Un yw ei fod yn cael ei gyflwyno gan aelod o staff, a'r ail yw bod ymwelydd yn ei gyflwyno. Felly, mae'r rheolau a roddwyd ar waith gennym yno'n bendant i ddiogelu preswylwyr cartrefi gofal rhag yr effaith ddinistriol y gall coronafeirws ei chael mewn cartref sydd â phobl oedrannus â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes yn byw yn agos at ei gilydd. Wythnos ar ôl wythnos, Lywydd, yn y sesiynau hyn, rydym wedi gorfod syllu ar y ffigurau difrifol iawn sy'n gysylltiedig â nifer y bobl sydd wedi marw mewn cartrefi gofal yng Nghymru.
Felly, mae llythyr Mr Heaney, a gyhoeddwyd ar 5 Mehefin, yn cynghori cartrefi gofal sut y gallant wneud mwy i ganiatáu ymweliadau gan deulu a ffrindiau â phreswylwyr cartrefi gofal mewn amgylchiadau sy'n lleihau'r risg honno. Gall cartrefi gofal wneud hynny o dan y rheoliadau cyfredol; nid oes angen newid rheoliadau i allu gwneud y pethau ychwanegol y mae Albert Heaney yn eu cynghori.
Fel y dywedodd David Rees, mae llawer iawn o gartrefi gofal yng Nghymru eisoes yn gwneud pethau hynod ddychmygus i geisio pontio'r bwlch rhwng yr hyn a oedd yn bosibl o'r blaen a'r hyn sydd wedi bod bosibl yn ystod y pandemig. Mae gennym grŵp yn gweithio ar y canllawiau pellach hynny. Mae'n cyfarfod eto yfory. Rydym yn awyddus i allu gwneud mwy i ganiatáu i deuluoedd gael cyswllt â phobl mewn cartrefi gofal, ond mae’n rhaid inni fesur hynny yn erbyn y risg wirioneddol, y risg rydym wedi’i gweld o'r nifer o farwolaethau a fu, o'r hyn y mae'r feirws yn ei wneud os yw'n mynd i mewn i gartref gofal lle mae'r holl ymdrechion hyd yma wedi llwyddo i'w gadw draw.
Brif Weinidog, yn amlwg mae'r galwadau i ddiogelu hawl pobl i anadlu aer glân wedi dwysáu dros y misoedd diwethaf, ac rwy'n siŵr y byddwch yn rhannu fy mhryder fod safle tirlenwi Hafod ger Wrecsam wedi mynd ar dân bythefnos yn ôl. Pasiodd mwg du trwchus dros y cymunedau mawr cyfagos; cymunedau, gyda llaw, a ymladdodd ymgyrch egnïol rai blynyddoedd yn ôl i atal gwastraff rhag cael ei ddympio yno. Nawr, fel gyda'r tân diweddar cyfagos yn Kronospan, bu’n rhaid cludo offer monitro ansawdd aer symudol yno o Abertawe, a chymerodd ddyddiau i’r offer hwnnw gyrraedd. Gellir dadlau bod y difrod gwaethaf eisoes wedi'i wneud, ond ymhen dwy awr ar ôl iddo gyrraedd, roedd yr offer yn canfod gronynnau uwchlaw'r lefelau derbyniol, a dywedwyd wrth y preswylwyr am aros yn eu tai gyda’r ffenestri ar gau am dri diwrnod. Gwyddom, wrth gwrs, fod llosgi plastigion a gwastraff arall yn creu deuocsinau a ffwranau, cemegion sy'n gallu cronni yn y gadwyn fwyd, ac wrth gwrs, gallant achosi canser hefyd.
Nawr, mae cannoedd o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb i ddweud mai digon yw digon, ac maent am weld tomen wastraff Hafod yn cau. Felly, a wnewch chi, fel Prif Weinidog, sicrhau bod ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal i achos y tân, a bod safle tirlenwi Hafod yn cau, neu o leiaf ar gau hyd nes y daw'r ymchwiliad i ben? Ac a wnaiff y Llywodraeth sicrhau hefyd fod gennym offer monitro ansawdd aer symudol yma yng ngogledd Cymru fel na fydd yn rhaid inni aros am ddyddiau bwy'i gilydd iddo gyrraedd ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol, gan fod y rhan fwyaf o'r difrod eisoes wedi'i wneud erbyn hynny wrth gwrs?
Wel, Lywydd, mae yna awdurdodau sydd â chyfrifoldebau yn y maes hwn—yr awdurdod lleol, yr awdurdod tân; byddant yn darparu adroddiadau ar y digwyddiadau y mae Llyr Gruffydd wedi cyfeirio atynt, a bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried yr adroddiadau hynny ac yna'n penderfynu pa gamau pellach y gallai fod eu hangen. Rwy’n derbyn y pwynt a wnaeth yn ei frawddeg olaf, ynghylch argaeledd offer ansawdd aer symudol, a byddaf yn edrych i weld a oes unrhyw beth y gellir ei wneud i wella'r sefyllfa honno.
Sut rydych yn ymateb i’r datganiad ddoe gan Gymdeithas Deintyddiaeth Breifat Prydain yng Nghymru, sydd wedi tyfu yn ei haelodaeth o ddim i 400 aelod mewn llai nag wythnos, fod llawer o gleifion yn dioddef yn ddiangen, a bod angen gweithredu ar frys i ddarparu deintyddiaeth arferol o dan weithdrefnau gweithredu safonol dros dro ynghyd â chyfarpar diogelu personol i roi’r un gofal i boblogaeth Cymru â’r hyn a geir yn Lloegr, ond yn bwysicach fyth, ledled y byd, ac y bydd llawer o bractisau deintyddol yn methu goroesi fel arall?
A sut rydych yn ymateb i'r mater canlynol, y gofynnodd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam i mi ei godi yma? Gyda niferoedd sylweddol o staff a myfyrwyr yn dod o ochr arall y ffin gyfagos â Lloegr, maent yn poeni am y gwahaniaethau presennol ar y cam cynnar hwn o godi’r cyfyngiadau symud, a'r dryswch y gallai hyn ei beri os bydd yn parhau ar gamau diweddarach. Sut y byddant yn gallu cyfathrebu'n glir â staff a myfyrwyr a allai fod yn bryderus ynglŷn â thorri rheolau?
Lywydd, rwy'n ymateb i'r grŵp cyntaf drwy eu cyfeirio at gyngor Prif Swyddog Deintyddol Cymru, sef yr unigolyn sydd yn y sefyllfa orau—sefyllfa well o lawer na'r Aelod—i roi cyngor arbenigol i bobl yn y maes deintyddol, a'r trafodaethau parhaus y bydd yn eu cael gyda'r proffesiwn yng Nghymru. Dyna sut y dylid gwneud penderfyniadau—drwy drafodaeth broffesiynol briodol ac arweinyddiaeth broffesiynol, ac fe’u cyfeiriaf at arweinydd eu proffesiwn yma yng Nghymru.
O ran y pwyntiau a wnaed gan staff ym mhrifysgol Glyndŵr, byddwn yn fwy na pharod i’w recriwtio a’u cyfethol i’r ymdrechion a wnawn fel Llywodraeth Cymru i egluro beth yw’r rheolau yma yng Nghymru, ac i egluro unrhyw ddryswch a achoswyd gan ei gyd-bleidwyr dros y ffin.
Brif Weinidog, yn yr adolygiad diwethaf o'r rheoliadau COVID, a gaf fi groesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gallu sicrhau y gall prentisiaid ddychwelyd i’r coleg i gwblhau eu hastudiaethau ymarferol, ac felly i gwblhau eu cymwysterau? Mae hynny'n newyddion gwych i'r bobl ifanc hynny, a gobeithiwn, wrth gwrs, y bydd o fudd i'r economi hefyd. Fodd bynnag, mae graddau'r problemau y gallai pobl ifanc eu hwynebu dros y misoedd i ddod yn fy nychryn. Yn fy etholaeth i, mae nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau diweithdra ieuenctid oddeutu 11 y cant ar hyn o bryd. Felly, a ydych yn cytuno, wrth geisio mynd i'r afael â hyn yn y tymor hwy, y dylem adeiladu ar lwyddiannau blaenorol fel rhaglen Anelu'n Uchel yng ngholeg Merthyr Tudful, ac efallai edrych i weld a ellid defnyddio'r model prentisiaeth hwn mewn mwy o sectorau a thu hwnt i fyfyrwyr STEM, er budd pobl ifanc a chyflogwyr lleol mewn amrywiaeth ehangach o leoliadau?
Lywydd, diolch i Dawn Bowden am hynny, ac roeddem yn falch iawn o allu cefnogi'r sector addysg bellach yn eu hawydd i alluogi pobl ifanc i gwblhau arholiadau ymarferol fel nad oeddent dan anfantais o gymharu â phobl ifanc sy'n cael cymwysterau academaidd mwy confensiynol y darparwyd ar eu cyfer eisoes yma yng Nghymru.
Diolch i Dawn Bowden am dynnu sylw at lwyddiant cynllun Anelu’n Uchel. Fel y gŵyr, mae'n enghraifft o gynllun rhannu prentisiaeth lle mae pobl ifanc yn cael cyfle i ennill profiad mewn amrywiaeth o wahanol leoliadau, a lle mae cyflogwyr bach, yn enwedig, nad oes ganddynt y capasiti, o bosibl, i gyflogi prentis cyfan amser llawn, yn dal i allu elwa o brentis yn gweithio fel rhan o'u gweithlu. A Lywydd, awgrym Dawn oedd adeiladu ar lwyddiant a'i ledaenu ymhellach. Fe fydd yn ymwybodol fod cynllun Anelu’n Uchel wedi cychwyn ym Mlaenau Gwent, lle bu gennym 80 o bobl ifanc yn gweithio yno fel rhan o gynllun Anelu’n Uchel, ac yna fe’i symudwyd i weithredu ym Merthyr Tudful hefyd. A chredaf fod honno'n enghraifft ymarferol dda iawn o'r union bwynt roedd Dawn Bowden yn ei wneud; roedd yn llwyddiant, rydym yn gwneud mwy ohono, ac rydym wedi ymestyn y cyllid ar ei gyfer ym Merthyr Tudful a Blaenau Gwent am 12 mis arall.
Wrth inni agosáu at y dyddiau anodd o'n blaenau lle bydd diweithdra’n cynyddu, a'r effaith y gwyddom y mae hynny’n ei chael ar fywydau pobl ifanc, bydd adeiladu ar y pethau rydym wedi'u gwneud eisoes ac yn gwybod y gallant lwyddo yn arf eithriadol o bwysig.
Wythnos yn ôl, mi oeddwn i'n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud argymhelliad i bobl wisgo gorchuddion wyneb mewn rhai sefyllfaoedd, ac mi fuaswn i'n licio dweud i ddechrau fy mod i yn falch bod y Llywodraeth rŵan wedi gweithredu ar hynny. Ond eisiau mynd ar ôl materion deintyddiaeth a COVID-19 ydw i. Dwi wedi cael nifer o ddeintyddion yn cysylltu efo fi yn dilyn cyhoeddiad ynglŷn â sut mae gwasanaethau deintyddol yn mynd i fod yn cael eu hadfer yng Nghymru. Mi oedd un yn gefnogol iawn i'r ffaith bod yr adferiad hwnnw yn mynd i fod yn raddol iawn, yn pwysleisio'r risg gwirioneddol sydd yna o heintiad mewn sefyllfa ddeintyddol. Roedd yn dweud bod Lloegr yn eu cyhoeddiad diweddar nhw ar wasanaethau deintyddol wedi dal i fyny efo Cymru o ran ailgyflwyno rhai gwasanaethau a oedd eisoes yn cael eu gwneud yma.
Ond mae'n rhaid dweud mai pryder oedd gan y rhan fwyaf ohonyn nhw—pryder bod Cymru i'w weld yn dilyn trywydd llawer arafach i ailgyflwyno gwasanaethau na'r rhan fwyaf o wledydd, yn sicr yn edrych drwy Ewrop; pryder y byddai peidio â gallu gwneud rhai triniaethau mor sylfaenol â fillings, ac ati, yn golygu bod gwaith ataliol allweddol yn methu â digwydd, a'r effaith andwyol y gall hynny ei gael ar iechyd deintyddol y boblogaeth. Roedd eraill yn pwyntio allan bod deintyddiaeth fel proffesiwn wedi hen arfer gweithio efo risgiau cross-infection cymhleth. Maen nhw hefyd yn poeni bod y prif swyddog deintyddol—
Cwestiwn plîs, Rhun ap Iorwerth.
Mi ddof i at gwestiwn yn syth, rŵan.
[Yn Parhau.]—wedi defnyddio'r cyfle yma i wneud newidiadau i gontractau deintyddol, a dwi ddim yn meddwl mai dyma'r amser i wneud hynny. Felly, gaf i ofyn i'r Prif Weinidog, ydy o'n clywed y pryderon hynny ac ydy o'n barod i weithio efo'r proffesiwn i chwilio am ffordd wahanol ymlaen?
I ddweud i ddechrau, Llywydd, wrth gwrs rŷm ni'n awyddus fel Llywodraeth i weld mwy o wasanaethau yn y maes sylfaenol yn tyfu, ac mae hwnna'n wir am y maes deintyddiaeth, wrth gwrs. Ond mae'n rhaid i ni wneud e mewn ffordd sy'n gallu gofalu am bobl sy'n gweithio yn y maes, ac am gleifion hefyd. Bydd Rhun ap Iorwerth dwi'n siŵr yn ymwybodol ar ôl clywed oddi wrth bobl ei bod yn heriol yn y maes yna.
Mae'n amhosibl ymarfer deintyddiaeth o bellter o 2m, ac mae defnyddio aerosolau, sy'n rhan annatod o ymarfer deintyddol, yn peri risgiau penodol mewn perthynas â'r feirws hwn. Felly, rydym yn awyddus, wrth gwrs, i weld deintyddiaeth yn ailddechrau, yn yr un modd â gwasanaethau gofal sylfaenol eraill, ond mae'n rhaid i hynny ddigwydd mewn ffordd sy'n diogelu iechyd gweithwyr a chleifion. Dyna y cynlluniwyd cyngor y prif swyddog deintyddol i'w gyflawni wrth i ymarfer deintyddol ailgychwyn yn raddol. Mae hi'n dal i gael trafodaethau agos gyda'r proffesiwn. Os yw'n ddiogel gwneud hyn yn gyflymach, dyna'n union y byddem am ei weld. Ond mae'n rhaid i'r gair 'diogel' olygu rhywbeth, ac mae'n rhaid iddo olygu rhywbeth y gall pob un ohonom ddibynnu arno, neu fel arall, ni fydd y cleifion yn mynychu. Dyna pam y byddai’n talu i’r proffesiwn sicrhau eu bod yn gallu dweud yn hyderus wrth y cleifion fod y gwasanaethau y byddant yn eu cynnig wedi cael eu cymeradwyo gan arweinwyr eu proffesiwn fel rhai sydd bellach yn ddiogel i'w hailddechrau.
Mae cadeirydd Fforwm Gofal Cymru wedi beirniadu Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyhoeddus am beidio ag ymgysylltu â gweithwyr gofal proffesiynol cyn gweithredu'r cyfyngiadau polisi rhydd rhag COVID 28 diwrnod newydd. Mae perygl y gallai hyn gau hanner y cartrefi gofal yng Nghymru oherwydd y goblygiadau ariannol a'r bylchau. A allwch egluro, Brif Weinidog, pam nad ymgynghorwyd â'r rheini yn ein sector gofal cyn cyhoeddi'r llythyr hwn? Hefyd, nid yw'r holl ganlyniadau profion COVID-19 yn cael eu dychwelyd o fewn y ffenestr 48 awr hanfodol; mae rhai ohonynt yn cymryd hyd at dri diwrnod. Pa effaith y bydd hyn yn ei chael ar y polisi newydd o gynnal profion wythnosol mewn cartrefi gofal? Ar 1 Mehefin, 22 yn unig o’r 68 cartref a oedd wedi cael profion torfol yn lleol. Felly, sut y gallwn fod yn hyderus y bydd pob cartref bellach yn cyrraedd y garreg filltir o gael profion torfol, ac yn bwysicach fyth, sut rydych yn mynd i ailbrofi’n wythnosol yn ein cartrefi gofal?
Ac yn olaf, a wnewch chi gynnal adolygiad brys o effaith rhyddhau 1,400 o bobl i gartrefi gofal ym mis Mawrth a mis Ebrill, ac effaith hynny ar ein cyfraddau heintio, o gofio na chafodd rhai o'r bobl hynny brawf cyn iddynt adael yr ysbyty? Diolch yn fawr.
Wel, Lywydd, mae’r ateb i gwestiwn cyntaf yr Aelod i'w ganfod yn ei chwestiwn olaf. Y rheswm pam ein bod yn argymell na ddylid rhyddhau rhywun sydd wedi profi'n bositif i gartref gofal am 28 diwrnod yw oherwydd y pryderon a fynegwyd gan y sector ynghylch pobl yn gynharach yn y pandemig yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty i gartref gofal gyda’r risg eu bod yn dod â'r coronafeirws gyda hwy. Nod ein safbwynt diweddaraf yw sicrhau nad yw hynny'n digwydd. Nawr, ni allwch ei chael hi’r ddwy ffordd yn hyn o beth. Naill ai nid ydych am i bobl â'r coronafeirws fod mewn cartrefi gofal neu fel arall. Os nad ydych eisiau hynny, mae’r rheol 28 diwrnod wedi’i llunio i gyflawni'r amcan hwnnw. Ac rydym yn parhau i sgwrsio'n agos â'r sector drwy'r amser.
Lywydd, rydym yn hyderus y byddwn wedi cwblhau ein gwaith o brofi preswylwyr cartrefi gofal a staff cartrefi gofal erbyn 12 Mehefin. Mae wedi bod yn ymdrech enfawr. Cafwyd achosion yng Nghymru lle bu'n rhaid i ni weithio'n galed iawn i ddarbwyllo cartrefi gofal ynghylch mantais y polisi hwn. Ac rwy'n deall y bydd rhai cartrefi gofal yn poeni am bobl o'r tu allan yn dod i'r cartref oherwydd y risg y bydd y feirws yn dod gyda hwy. Ond rydym wedi cael cryn dipyn o gartrefi gofal lle bu’n rhaid cael llawer o drafod er mwyn caniatáu i'r profion gael eu cynnal, ac mae hynny wedi gohirio’r profion mewn sawl achos. Rwy'n gweld yr Aelod yn ysgwyd ei phen. Dweud y ffeithiau, dyna rwy'n ei wneud. Nid wyf yn gwybod beth sydd ynddynt i anghytuno ag ef; dyna'n syml y mae byrddau iechyd a phrofwyr yn ei ddweud wrthym, nad yw pob cartref gofal yr un mor barod i dderbyn, ac nad yw pob preswylydd cartref gofal yn barod i gael eu profi. Ac mae hawl ganddynt i wrthod. Nid yw'n system orfodol. Mae'n gynnig. Ac nid yw pob preswylydd cartref gofal wedi bod yn awyddus i fanteisio ar y cynnig hwnnw, ac mae'n rhaid inni barchu hynny hefyd.
Rydym yn hyderus bellach y gallwn brofi pob gweithiwr cartref gofal yn wythnosol am bedair wythnos, a chawn weld beth a ddysgwn o hynny, ac yna byddwn yn gwneud penderfyniad ynglŷn â dull cymesur o brofi yn y sector hwn pan fydd y cyfnod hwnnw o bedair wythnos wedi dod i ben.
Bore da, Brif Weinidog. Neithiwr, roeddwn yn un o'r nifer o bobl a gymerodd ran mewn trafodaeth ledled y DU ar adroddiad newydd y Blaid Gydweithredol, 'Owning the Future', ynglŷn â sut y gallwn ailadeiladu’n gydweithredol ar ôl y coronafeirws. A chanfu’r adroddiad mai dim ond un o bob 10 o bobl sy’n teimlo bod yr economi ledled y DU cyn y coronafeirws wedi blaenoriaethu rhannu cyfoeth yn deg, a bod saith o bob 10 o bobl yn credu y dylai’r broses o adfer wedi’r coronafeirws roi mwy o lais i gymunedau o ran sut y caiff busnesau a’r economi eu rhedeg. Ac unwaith eto, mae saith o bob 10 am gadw’r ymdeimlad newydd o gymuned a welsom yn ystod yr argyfwng.
Nawr, yng Nghymru, rydym yn ffodus, rydym wedi cael Llywodraeth ers peth amser sy'n deall ac yn cefnogi egwyddorion cydweithredol, ac sydd wedi gweithredu arnynt, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn. Ond byddai pob un ohonom yn y grŵp Llafur Cymru a Chydweithredol o Aelodau o'r Senedd yn gofyn i chi, Brif Weinidog: a wnewch chi barhau i roi’r egwyddorion cydweithredol hynny ar waith, wrth i ni ailadeiladu wedi'r coronafeirws, er mwyn tyfu ein cyfran gyfunol yn ein perchnogaeth ar ein dyfodol ein hunain yng Nghymru, yn ogystal â ledled y DU?
Lywydd, a gaf fi ddiolch i Huw Irranca-Davies am ei gwestiwn a dynnai sylw at yr adroddiad pwysig, 'Owning the Future', y mwynheais ei ddarllen? Ac mae ganddo rinwedd ardderchog y mudiad cydweithredol, sef fod ganddo gyfres gyfan o gynigion ymarferol ar y diwedd—nid adroddiad sy'n dadansoddi'r broblem yn unig ydyw; mae'n adroddiad sydd wedyn yn nodi saith, fel mae'n digwydd yn yr achos hwn, o ffyrdd hynod ymarferol y gallwch helpu i lunio'r dyfodol, fel yr awgryma’r adroddiad. Ac nid yw'r canfyddiad hwnnw yn yr adroddiad yn peri unrhyw syndod i mi, gan fod pobl yng Nghymru wedi gwneud cymaint yn gydweithredol gyda'i gilydd dros y tri mis diwethaf fel nad oes unrhyw ryfedd eu bod yn dymuno cael ymagwedd fwy cyfunol a chydweithredol tuag at lunio’r dyfodol hwnnw. Ac mae'r pethau rydym wedi'u gwneud fel Llywodraeth dros y blynyddoedd bob amser wedi ymddangos i mi yn gydnaws â’r ffordd y mae pobl yng Nghymru yn meddwl am y materion hyn. Felly, rwy’n barod iawn i ailymrwymo i barhau i wneud hynny dros weddill tymor y Cynulliad hwn, wrth inni ddechrau symud allan o’r pandemig, a thu hwnt iddo, gobeithio. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan yng nghynhadledd flynyddol Plaid Gydweithredol Cymru, a gynhelir yn rhithwir dros y penwythnos sydd i ddod, a chyfle i drafod y ffyrdd ymarferol y gallwn weithio gyda'n gilydd i lunio dyfodol y mae gan bob un ohonom gyfran ynddo, a lle caiff cyfraniadau holl ddinasyddion Cymru eu gwerthfawrogi a'u dathlu'n briodol.
Neil Hamilton. Neil Hamilton?
Rwyf—
Parhewch. Dof yn ôl atoch. Lynne Neagle.
Diolch yn fawr, Lywydd. Brif Weinidog, rwy’n rhannu eich pryderon, a fynegwyd yn eich datganiad, am effaith COVID ar blant a phobl ifanc. Ond gan mai munud yn unig sydd gennyf heddiw, roeddwn yn awyddus i ddefnyddio fy amser i ofyn am grŵp arall sy'n rhy aml yn ddi-lais. Mae ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dangos cynnydd syfrdanol o 83 y cant yn nifer y marwolaethau o ddementia, nid COVID, ym mis Ebrill. Ac mae Cymdeithas Alzheimer's wedi rhybuddio bod y pandemig yn cael effaith ddinistriol ar y rheini sy'n byw gyda dementia. Mae llawer ohonom yn y Cynulliad hwn yn falch o fod yn ffrindiau dementia, a gwyddom o hynny pa mor hanfodol yw cyswllt dynol i’r rheini sy’n byw gyda dementia, sy'n gorfod byw yn y foment lawer o'r amser.
Nawr, rydych wedi sôn sawl gwaith am yr angen i gydbwyso iechyd meddwl ag ystyriaethau iechyd corfforol—fe ddywedoch chi hynny eto mewn ymateb i David Rees. Ond a gaf fi ofyn sut yn benodol rydych chi wedi ystyried effaith ddinistriol unigedd a gwahanu oddi wrth anwyliaid ar y rheini sy'n byw gyda dementia yn y penderfyniadau rydych wedi eu gwneud? A hoffwn ofyn i chi hefyd am eich ymrwymiad cadarn heddiw i edrych ar frys ar nifer y marwolaethau ymhlith y rheini sy'n byw gyda dementia, a'r ymchwil gysylltiedig i glefyd Alzheimer, ac am eich ymrwymiad i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig pellach, gan fanylu ar ba gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru effaith COVID ar y rheini sy'n byw gyda dementia. Diolch.
Lywydd, a gaf fi ddiolch i Lynne Neagle am ei chwestiwn pwysig, mewn maes cymhleth a heriol iawn? Mae'r ymweliadau rydym wedi gallu sôn amdanynt mewn cartrefi gofal, ac a nodwyd yn llythyr Mr Heaney, yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol. Ac fel y gŵyr Lynne Neagle, gall hynny fod yn arbennig o anodd ei egluro i bobl sy'n byw yn y foment, fel y dywedodd, a lle mae cyswllt corfforol yn aml yn rhan o'r ffordd y cânt gysur gan y bobl a ddaw i’w gweld. Fodd bynnag, gwyddom y gallai’r cyswllt corfforol hwnnw beri risg sylweddol iddynt ac yna i’r bobl eraill sy'n byw yn yr un lleoliad.
Felly, mae'r rhain yn faterion cymhleth iawn. Mae ffigurau’r ONS yn peri cryn bryder, a byddwn yn sicr yn ceisio gwneud synnwyr ohonynt yma yng Nghymru. Wrth wneud hynny, byddwn yn dibynnu, rwy'n siŵr, ar gyngor ein grŵp goruchwylio gweithrediad ac effaith ym maes dementia, sy'n cynnwys pobl sy'n gofalu am bobl â dementia—y profiad byw o wneud hynny—Cymdeithas Alzheimer's, a'n sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ein hunain. Mae i fod i gyfarfod yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Bydd yn edrych ar yr adroddiad hwnnw, ar yr hyn y mae Cymdeithas Alzheimer's eu hunain wedi'i ddweud, yn ogystal â'r ONS, a bydd yn rhoi cyngor pellach i ni. A chan ein bod yn gallu defnyddio’r cyngor hwnnw i gynghori pobl eraill, byddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei gyfleu’n briodol i Aelodau'r Cynulliad.
Dau fater, os caf, Brif Weinidog. Yn gyntaf, tybed a all Llywodraeth Cymru edrych eto ar y rheol i beidio â theithio mwy na 5 milltir a rhoi canllawiau ar hyn. Gwn eich bod wedi dweud yn flaenorol mai canllawiau yw’r rhain a bod angen i bobl ddefnyddio’u crebwyll ynglŷn â pha mor bell y maent yn teithio, ond mae gennyf lawer o etholwyr sy'n dal i fod yn ddryslyd ac yn bryderus iawn na allant deithio i weld teulu a ffrindiau. Felly, a gawn ni eglurder ar hynny?
Yn ail, gofynnais i'r Gweinidog cyllid yn ddiweddar a fu unrhyw drafodaethau ynglŷn â chodi trethi yng Nghymru yn y dyfodol i ymdrin â gwaith adfer wedi COVID. Gwn iddi ddweud nad oedd hynny'n beth deniadol i'w wneud, ond tybed a gafwyd unrhyw drafodaethau? Ac wrth inni ddod allan o’r cyfyngiadau symud, a allai Llywodraeth Cymru edrych dramor, o bosibl, ar enghreifftiau o wledydd eraill o ran ysgogi’r economi a defnyddio'r system dreth i wneud hynny? Yn Seland Newydd, er enghraifft, maent wedi cyflwyno cyfundrefn i gario colledion treth yn ôl i helpu busnesau i wneud iawn am golledion treth cyfredol yn erbyn y blynyddoedd blaenorol. Efallai fod hynny’n rhywbeth y gallech chi a Llywodraeth y DU ei drafod. Maent hefyd yn cyflwyno didyniadau yn ôl disgresiwn ar gyfer adeiladau annomestig i geisio cynorthwyo busnesau ac ysgogi’r economi. Felly, credaf fod gan Lywodraeth Cymru nifer o adnoddau at ei defnydd, fel rydych chi a'ch rhagflaenydd wedi'i ddweud eisoes. Felly, a allech edrych ar ffyrdd o ddefnyddio'r system dreth i ysgogi’r economi a cheisio cael Cymru i symud eto?
Lywydd, diolch i Nick Ramsay am y ddau gwestiwn. Gadewch i mi ddweud, unwaith eto, nad yw'n ddefnyddiol cyfeirio at y terfyn 5 milltir fel rheol—nid yw'n rheol. Pe bai’n rheol, byddai yn y rheoliadau—nid yw yn y rheoliadau. Canllaw ydyw i roi syniad i bobl o'r hyn y gallai'r rheoliad sy'n ei gwneud yn ofynnol i bobl aros yn lleol ei olygu yn eu hamgylchiadau hwy. A'r cyngor gorau yw dweud wrth bobl y dylent ddefnyddio'r terfyn 5 milltir fel rheol gyffredinol. Dylent ddehongli hynny’n synhwyrol ac yn gall yn eu hamgylchiadau eu hunain, ond mae llawer iawn o wahanol fathau o ddaearyddiaeth yng Nghymru, ac ar yr amod y gallant ddangos eu bod yn gweithredu mewn ffordd y gellir ei hamddiffyn, byddant wedi sicrhau eu bod yn cadw at y rheol i 'aros yn lleol'.
Nid oes unrhyw gynlluniau gan Lywodraeth Cymru i ddileu trethi yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae gennyf ddiddordeb mewn clywed yr enghreifftiau y cyfeiriodd Nick Ramsay atynt. Rydym wedi tueddu i gasglu llawer o wybodaeth o fannau eraill ynglŷn â sut y maent yn codi’r cyfyngiadau symud a'r effaith y mae hynny'n ei chael ym maes iechyd. Mae’r Aelod yn gwneud pwynt defnyddiol ynghylch dysgu o leoedd eraill wrth iddynt ddefnyddio gwahanol ddulliau i gynorthwyo’r economi, wrth i’r economi ymadfer wedi effeithiau coronafeirws hefyd.
Credaf fod y rhan fwyaf o'r enghreifftiau y cyfeiriodd Nick Ramsay atynt yn bethau i Lywodraeth y DU eu rhoi ar waith. Ac ar hyn o bryd wrth gwrs, yng nghyd-destun ardrethi annomestig, mae llawer iawn o gymorth eisoes wedi'i ddarparu yn y flwyddyn ariannol gyfredol fel nad yw busnesau'n wynebu'r rhwymedigaethau hynny ar adeg pan fo'u gallu i godi refeniw’n gyfyngedig. Ond credaf mai’r pwynt cyffredinol, ac mae'n bwynt pwysig, yw hwn: wrth inni ddysgu o brofiad gwledydd eraill mewn perthynas ag agweddau iechyd ar yr argyfwng coronafeirws, mae'n bwysig ein bod yn dysgu oddi wrthynt mewn perthynas â’r adferiad economaidd yn ogystal, a byddwn yn sicr anelu at wneud hynny fel Llywodraeth yng Nghymru.
Neil Hamilton. Arhoswch eiliad i'ch meicroffon agor. A wnewch chi agor meicroffon Neil Hamilton? Iawn, rydym yn dal i gael trafferth gyda hynny. Fe fyddaf yn galw arnoch, Neil Hamilton, os llwyddwn i agor y meicroffon. Fe af at Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n ddiolchgar, Lywydd, i'r Prif Weinidog am eglurder ei ddatganiad y bore yma. Credaf fod ei eglurder wrth siarad yn cymharu’n dda â'r anhrefn parhaus a welwn dros y ffin yn Lloegr, lle rydym yn gweld addewidion yn cael eu rhoi, addewidion yn cael eu torri. Rydym yn gweld arweinyddiaeth wael a dirywiad yng nghefnogaeth y cyhoedd i’r polisïau sy'n cael eu rhoi ar waith gan Lywodraeth y DU, a'r cyfraddau marwolaethau erchyll rydym yn eu gweld dros y ffin yw'r prif reswm am hynny yn fy marn i, yn ogystal ag anallu Llywodraeth y DU i siarad yn glir ar anghenion eu poblogaeth.
Mae diddordeb gennyf, Brif Weinidog, yn eich ymagwedd tuag at bolisi yn y dyfodol a'r ymagwedd rydych yn ei mabwysiadu dros y misoedd nesaf. Rydych eisoes wedi sôn am y penderfyniadau y byddwch yn eu gwneud yn yr wythnos neu ddwy nesaf, yn yr adolygiad nesaf, ond yn yr un modd ag y siaradodd Nick Ramsay am enghreifftiau rhyngwladol, hoffwn ddeall y mathau o enghreifftiau rhyngwladol rydych yn edrych arnynt ac yn eu hystyried o ran eich ymagwedd at barhau cyfyngiadau symud.
Nawr, rydym wedi clywed ambell lais perswadiol a lleisiau croch weithiau gan y Ceidwadwyr ac o fannau eraill yn dweud y dylech ddilyn y trychineb yn Lloegr, ond nid oes unrhyw un eisiau hynny. Nid yw pobl ym Mlaenau Gwent eisiau hynny. Yr hyn y maent ei eisiau yw i chi ystyried eu hanghenion, rhoi pobl o flaen elw, ac maent am i chi ystyried eu teuluoedd a'u cymunedau. Felly, byddwn yn ddiolchgar, Brif Weinidog, pe gallech amlinellu'r ymagwedd rydych yn ei mabwysiadu, sut rydych yn defnyddio enghreifftiau rhyngwladol i lywio'r ymagwedd honno, a'r hyn rydych yn disgwyl gallu ei wneud, wrth inni symud ymlaen drwy fisoedd yr haf.
Lywydd, diolch i Alun Davies. Ceisiaf gynnig ychydig o bethau, yn fyr iawn, ynglŷn â’r ffordd rydym yn ceisio gwneud yr hyn a ddywed. Ein hymagwedd yng Nghymru yw ceisio canfod sut y gellid gweithredu polisi ac yna cyhoeddi'r polisi, yn hytrach na chyhoeddi'r polisi yn gyntaf a phoeni wedyn sut y gallwch wneud iddo ddigwydd. Ac rydym wedi gweld, dros y ffin, lle mae hynny'n eich arwain gyda’u helyntion ym maes addysg yr wythnos hon.
Rydym yn benderfynol o geisio sicrhau ein bod yn ystyried y negeseuon rydym yn eu dysgu gan bobl yng Nghymru wrth inni wneud ein penderfyniadau. Dyna pam, ar ddiwedd yr adolygiad tair wythnos diwethaf, y gwnaethom ddefnyddio'r lle i droi a oedd gennym er mwyn mynd i'r afael â'r gofid o fethu cyfarfod â phobl o aelwyd arall sy'n bwysig i chi. Daeth hynny'n uniongyrchol o'r negeseuon roeddem yn eu clywed gan Aelodau o'r Senedd, ond hefyd yn uniongyrchol gan bobl eu hunain, ac mae sicrhau bod barn pobl a'u dymuniadau'n cael eu clywed yn rhan o'r ffordd y byddwn yn gwneud y penderfyniadau hynny.
Credaf—[Anghlywadwy.]—y penderfyniadau y mae'n rhaid inni eu gwneud ar unwaith a sut y gallwn gynllunio rhwng nawr a’r hydref, ac yna mae'r gwaith y mae Jeremy Miles yn ei arwain ar waith adfer mwy hirdymor. Yn y ddau beth, mae tystiolaeth o leoedd eraill yn y byd yn bwysig iawn i ni. Rydym yn dysgu llawer am y ffordd y mae cyfyngiadau symud yn cael eu codi mewn mannau eraill a'r risgiau anochel wedyn y bydd y rhif R yn codi a'r feirws yn lledaenu eto. A gwn y bydd Alun Davies wedi darllen am yr enghreifftiau hynny mewn rhannau eraill o'r byd, yn union fel y dysgwn o leoedd sydd wedi rhoi camau ar waith nad ydynt yn arwain at y canlyniad hwnnw. Ac yna, fel y dywedodd Nick Ramsay, mae angen inni hefyd ddysgu gwersi o fannau eraill ynglŷn ag adferiad economaidd, am ffyrdd y gallwn greu economi deg ar gyfer y dyfodol, lle rydym yn gwobrwyo'r bobl sy'n gwneud y gwaith rydym yn dibynnu arno'n wirioneddol, yn hytrach na'r bobl sydd, yn y ffordd a welsom dros y degawd diwethaf, wedi gallu defnyddio eu manteision i greu mwy fyth o fanteision, gan adael y gweddill ohonom ar ôl.
Mae aelodau’r grŵp trawsbleidiol ar rwystro plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol yn poeni am blant sy’n cael eu cam-drin yn rhywiol yn ystod y cyfyngiadau symud—dau bryder penodol ynghylch lle mae plentyn dan gyfyngiadau symud a chyda’r cyflawnwr, yn ogystal â chynnydd mewn cam-drin ar-lein wrth i blant dreulio mwy o amser ar-lein ac mae cyflawnwyr yn manteisio ar y cyfle hwn. Mae hyn oll yn cael ei gymhlethu gan y ffaith nad yw nifer y plant sydd ar gynlluniau amddiffyn plant am eu bod yn cael eu cam-drin yn rhywiol yn adlewyrchu gwir nifer y plant sy'n dioddef camdriniaeth o'r fath, felly roeddent yn fwy tebygol o fod yn anweledig cyn y pandemig.
A all Llywodraeth Cymru sicrhau bod y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol yn gwybod bod y gwasanaethau sydd yno i gefnogi plant a phobl ifanc yn dal i fod ar gael? Mae'r llinellau cymorth yn parhau i fod ar agor, gall gwasanaethau arbenigol gefnogi plant a phobl ifanc yn rhithwir lle mae hynny’n ddiogel ac yn briodol, ac mae'r canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol ar agor ac yn parhau i dderbyn hunan-atgyfeiriadau ac atgyfeiriadau proffesiynol. A beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i daflu goleuni ar hyn yn awr ac wrth inni symud i wahanol gamau o’r cyfyngiadau symud yn y dyfodol?
Lywydd, a gaf fi gymeradwyo'r neges graidd a gafwyd gan Jayne Bryant, fod y gwasanaethau sydd yno i ddiogelu plant yn yr amgylchiadau hyn ar gael ac ar agor ac y gellir eu defnyddio? Efallai eu bod yn gweithredu mewn ffyrdd gwahanol i sicrhau bod pobl yn ddiogel, ond maent ar gael ac maent yn weithredol. Ac os oes gennych bryderon, ac os ydych angen mynegi'r pryderon hynny, peidiwch â meddwl nad oes ffyrdd i chi wneud hynny oherwydd y pandemig.
Y newyddion da yw bod atgyfeiriadau diogelu i'r gwasanaethau hynny, a gafodd eu hatal yng nghyfnod 'aros gartref' y cyfyngiadau symud, wedi gwella'n gyson dros yr wythnosau diwethaf, ac maent bellach fwy neu lai wedi dychwelyd i'r lefelau y byddech wedi'u disgwyl mewn cyfnodau pan nad oedd COVID-19 yn rhan o'n profiad. Felly, credaf ei bod yn galonogol fod parodrwydd a gallu'r cyhoedd i roi gwybod am bryderon wedi dychwelyd i'r lefelau y byddem wedi'u gweld o'r blaen.
Mae ailagor ysgolion i'r holl ddisgyblion gael cyfle i siarad ag oedolion y tu allan i'r cartref—unigolion y gellir ymddiried ynddynt, eu hathrawon—yn rhan bwysig arall o hyn oll, ac yn un o'r rhesymau pam roeddem yn awyddus i wneud y penderfyniad a wnaethom. Lle mae ysgolion wedi bod ar agor, gwyddom fod pobl ifanc agored i niwed wedi bod yn fwy tebygol o fynd i'r ysgol honno os mai’r ysgol honno yw eu hysgol hwy na phe bai gofyn iddynt fynd i ysgol nad ydynt yn gyfarwydd â hi—taith nad ydynt yn gyfarwydd â hi, athrawon nad ydynt wedi cyfarfod â hwy. Drwy ailagor pob ysgol, bydd y plant agored i niwed hynny’n gallu mynd i le y maent eisoes yn gyfarwydd ag ef, yn fwy tebygol o deimlo'n hyderus wrth siarad â phobl y maent yn gyfarwydd â hwy, ac os oes pryderon sydd angen sylw, mae'r gwasanaethau yno yn awr i sicrhau y gall hynny ddigwydd.
Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn rhagweld heddiw y bydd Prydain yn dioddef y difrod economaidd gwaethaf o unrhyw wlad yn y byd datblygedig o ganlyniad i’n cyfyngiadau symud llym iawn. Rhagwelir y bydd cwymp o 11.5 y cant yn ein hincwm cenedlaethol ar gyfer eleni. Mae hynny'n cymharu â 6.5 y cant yn Sweden, sydd wedi dilyn trywydd hollol wahanol. Rydym yn defnyddio gordd economaidd i dorri cneuen argyfwng iechyd, gan fod y gyfradd farwolaethau o'r coronafeirws yn y wlad hon yn 602 y filiwn, ond yn Sweden, mae’n ddwy ran o dair o hynny yn unig, sef 467 y filiwn. Felly, gwelwn ymateb cwbl anghymesur i'r argyfwng iechyd ym Mhrydain.
Yn y cyfamser, a yw'n deall—a yw’r Prif Weinidog yn deall—fod dinasyddion gweithgar sy'n ufuddhau i'r gyfraith yn pendroni pam eu bod yn cael eu cadw dan gyfyngiadau symud, yn methu mynd i'r eglwys hyd yn oed, i weddïo’n breifat hyd yn oed, am fod digwyddiadau o'r fath wedi’u gwahardd, ac yn y cyfamser, caniateir i hwliganiaid asgell chwith redeg yn wyllt ar y strydoedd, gan ddinistrio cofebion rhyfel, a difwyno a chwalu henebion cyhoeddus, ac ymddengys bod ymateb y Llywodraeth yn y ddau achos yn cyferbynnu'n aruthrol ac yn tanseilio'r neges y mae'r Llywodraeth am ei chyfleu?
Wel, Lywydd, rwy'n anghytuno â'r Aelod. Fel y gŵyr, roedd gennyf gyfrifoldeb digalon iawn yn fy natganiad agoriadol i gyfeirio at y 2,240 o bobl sydd wedi colli eu bywydau hyd yn hyn yng Nghymru. Nid wyf yn ystyried hynny'n 'gneuen'; credaf fod hynny'n ddilornus i'r bobl hynny ac i'r teuluoedd hynny ac i'r rheini sy'n dal i wynebu'r profiad hwnnw bob dydd a phob wythnos yng Nghymru. Felly, nid wyf yn ymddiheuro am un eiliad am y camau a gymerwyd gennym i atal mwy fyth o farwolaethau o'r coronafeirws. Nid wyf yn diystyru am un eiliad y difrod economaidd sy'n cael ei wneud, a bydd angen i mi roi sylw priodol i hynny, ond nid wyf yn cytuno ag ef. Rwyf wedi ei glywed yn dweud o'r blaen—mae am greu rhyw fath o raniad rhwng yr hyn sy'n iawn i iechyd pobl a'r hyn sy'n iawn i'r economi. Yr hyn sy'n iawn i'r economi yw sicrhau ein bod yn goroesi’r coronafeirws mewn ffordd ofalus a gochelgar nad yw'n ein plymio'n ôl i mewn i ail don, gyda rhagor o gyfyngiadau symud llym a phopeth y byddai hynny'n ei olygu i'r economi. Ein ffordd o ymateb i'r argyfwng iechyd yw'r ffordd orau o ddiogelu ein heconomi rhag yr effaith enfawr y mae coronafeirws yn ei chael yma yng Nghymru, fel y mae'n ei chael ym mhob rhan o'r byd.
Gadewch imi ymateb i un pwynt arall, sef cymunedau ffydd. Codwyd y mater hwnnw gennym ar 29 Ebrill yn y fforwm cymunedau ffydd, gydag arweinwyr cymunedau ffydd yng Nghymru, ynghylch ailagor lleoliadau ar gyfer gweddïo’n breifat. Bryd hynny, y cyngor cadarn gan arweinwyr y cymunedau hynny oedd nad oedd yn ymarferol iddynt allu ailagor y lleoliadau hynny mewn ffordd ddiogel. Mynychais gyfarfod diwethaf y fforwm cymunedau ffydd yr wythnos diwethaf. Mae llawer iawn o waith wedi mynd rhagddo gan y cymunedau hynny i sicrhau eu bod mewn sefyllfa lle gallent bellach ailagor lleoliadau ar gyfer gweddïo’n breifat. Gwnaeth yr holl bethau ymarferol roeddent wedi meddwl amdanynt ac roeddent yn eu rhoi ar waith gryn argraff arnaf, a byddwn yn ystyried hynny o ddifrif wrth inni gyrraedd diwedd y cylch tair wythnos presennol.
Yn olaf, Jack Sargeant. I ble’r aeth Jack Sargeant? Roedd yno pan y'i gelwais, ac mae wedi diflannu oddi ar fy sgrin ac nid yw i’w glywed. Felly, galwaf ar Mick Antoniw fel y siaradwr olaf.
Brif Weinidog, ar draws yr holl bleidiau, gwnaethom groesawu’n fawr, rai wythnosau'n ôl bellach, y taliad ychwanegol o £500 i’w wneud i’n gweithwyr gofal ar y rheng flaen i gydnabod y cyfraniad ychwanegol a’r cyfraniad pwysig iawn y maent yn ei wneud yn ystod y pandemig coronafeirws. Rhoddwyd £32 miliwn o arian Llywodraeth Cymru i 64,000 o'r gweithwyr hynny.
Tybed, efallai, a allech roi diweddariad i ni yn awr ynglŷn â dau beth: yn gyntaf, pryd y gall y gweithwyr hynny ddisgwyl y taliadau hynny, ond yn ail, ar fater y dreth a'r yswiriant gwladol a fyddai'n daladwy arno. Gwn eich bod wedi dweud eisoes fod sylwadau wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU yn gofyn iddynt hepgor y dreth ac yswiriant gwladol oherwydd yr amgylchiadau eithriadol. Ar draws yr holl bleidiau, credaf y byddai’n sarhaus pe bai Llywodraeth y DU yn cael tomen o arian annisgwyl ar draul ein gweithwyr gofal ar y rheng flaen. A allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ble mae'r sylwadau a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU arni o ran hepgor y didyniadau hyn o'r arian sy'n briodol ddyledus i’n gweithwyr gofal ar y rheng flaen?
Diolch i Mick Antoniw am ei gwestiwn. Roeddwn yn falch iawn yr wythnos diwethaf, Lywydd, o allu rhoi rhagor o fanylion ynglŷn â sut y bydd y cynllun yn gweithio ac i allu ei ymestyn i grwpiau pellach o weithwyr. Rydym yn disgwyl i'r taliadau cyntaf gael eu gwneud y mis hwn a pharhau i'r mis nesaf.
O ran y sefyllfa mewn perthynas â threth ac yswiriant gwladol, gadewch imi adleisio'r hyn a ddywedodd Mick Antoniw, Lywydd: nid ydym yn gofyn i Lywodraeth y DU am geiniog tuag at y £32 miliwn rydym wedi gallu dod o hyd iddo at y diben hwn. Nid ydym yn gofyn iddynt dalu amdano. Yr unig beth rydym yn gofyn iddynt ei wneud yw peidio â chymryd arian oddi wrth y gweithwyr y bwriadwn iddynt elwa o'r cynllun. Felly, ni ddylai fod unrhyw arian annisgwyl i’r Trysorlys. Cawsom ein siomi gan y llythyr a gawsom ar 2 Mehefin gan Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys, ond roedd y llythyr hwnnw’n cynnwys cynnig i swyddogion barhau i weithio gyda'i gilydd ar y cynnig, a ddydd Gwener diwethaf, yn dilyn yr hyn y dywedwyd wrthyf ei fod yn gyfarfod adeiladol, cyflwynodd ein swyddogion bapur technegol i Gyllid a Thollau EM yn nodi ein dadleuon pam na ddylai, a pham nad oes angen i'r taliadau hyn fod yn drethadwy. Felly, byddwn yn aros am eu hymateb, a gobeithiwn y daw hwnnw cyn gynted â phosibl. Nid ydym wedi cyrraedd diwedd y drafodaeth hon eto a byddwn yn parhau i ddadlau mor egnïol ag y gallwn na ddylai’r arian sy'n cael ei ddarparu gan bobl Cymru i’r bobl rydym wedi dibynnu arnynt am ymdrech mor enfawr yn ystod yr argyfwng coronafeirws arwain at arian annisgwyl i'r Trysorlys.
Gan ei fod yn ôl bellach, ac am mai ef yw ein Haelod ieuengaf, galwaf yn olaf ar Jack Sargeant.
Diolch yn fawr, Lywydd, ac ymddiheuriadau am y tarfu yn gynharach. Brif Weinidog, rwyf wedi bod yn gweithio gyda nifer o fusnesau y gwrthodwyd taliadau yswiriant iddynt er eu bod wedi talu am yswiriant tarfu ar fusnes. Dywedir wrthynt na allant hawlio am nad oedd y coronafeirws yn glefyd penodedig eisoes. Byddai'r rhan fwyaf o bobl resymol, fel yr holl Aelodau o’r Senedd, rwy'n siŵr, yn nodi mai dim ond ers diwedd y llynedd y mae COVID-19 wedi bodoli, felly mae'n annhebygol iawn o fod yn glefyd penodedig. Nid wyf yn teimlo bod hyn yn ddigon da, Brif Weinidog. Mae cwmnïau yswiriant mawr sydd wedi bod yn derbyn taliadau gan fusnesau bach ers blynyddoedd lawer yn rhoi busnesau bach ym mhob un o'n cymunedau mewn perygl gwirioneddol. Brif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymchwilio i achosion o'r fath ar frys?
Lywydd, a gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am y pwynt pwysig hwnnw? Ni fydd yn synnu clywed ein bod wedi cael cryn dipyn o ohebiaeth ar y mater hwn gan gwmnïau a gredai eu bod, gyda phob ewyllys da, wedi talu am yswiriant a fyddai'n eu diogelu o dan yr amgylchiadau hyn, dim ond i gael gwybod bellach nad yw hynny'n wir, ac rydym wedi gohebu fel Gweinidogion gyda'r ABI—Cymdeithas Yswirwyr Prydain—ynghylch y mater hwn. Bydd Jack Sargeant yn gwybod bod y rheoleiddiwr wedi penderfynu dwyn achos prawf drwy'r llysoedd barn i ddatrys y pwynt penodol iawn a gododd. Sut y gallai polisïau yswiriant fod wedi’u cynllunio i gwmpasu digwyddiad nad oedd unrhyw un wedi'i ragweld, ac a ellir nodi hynny fel eithriad sy'n golygu na ellir gwneud y taliadau? Mae'n ornest rhwng y diwydiant a'r rhai ohonom sy'n credu y dylent fod wedi gweithredu fel arall, a mater i'r llysoedd barn fydd datrys y broblem yn awr.
Diolch i'r Prif Weinidog.