– Senedd Cymru ar 10 Mehefin 2020.
Felly, dyma ni'n cyrraedd yr eitem nesaf, a'r eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar yr economi a COVID-19, a dwi'n galw ar Helen Mary Jones i gyflwyno'r cynnig. Helen Mary Jones.
Cynnig NDM7331 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sefydlu cynllun gwarantu cyflogaeth i bobl ifanc sy’n dioddef diweithdra o ganlyniad i Covid-19;
b) sefydlu cynllun ailhyfforddiant ac ailsgilio swyddi wedi’i gynllunio i genfogi’r rhai sydd angen canfod cyflogaeth amgen yn dilyn yr argyfwng;
c) cynnull cynulliad dinasyddion i drafod sut y dylai Cymru 'Adeiladu Nôl yn Well' yn dilyn profiad o’r argyfwng; a
d) sefydlu 'Cronfa Adnewyddu Cymru Gyfan' gwerth biliynnau o bunnoedd i ariannu’r gwaith o ailadeiladu ein gwlad.
Diolch yn fawr, Lywydd, ac rwy'n falch iawn o allu cyflwyno'r cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian, a'i gymeradwyo i'r Senedd.
Mae wedi dod yn ystrydeb bron i ddweud ein bod yn byw mewn cyfnod digynsail, ac mae'n wir ein bod. Gwneir y gymhariaeth weithiau â'r ail ryfel byd, ond pan oedd ein rhieni a'n teidiau a'n neiniau yn ymladd y rhyfel hwnnw gallent weld eu gelyn, gwyddent pwy ydoedd, gwyddent pam oedd y brwydro'n digwydd, a gallent fod gyda'i gilydd. Ni allwn ni wneud hynny, wrth gwrs.
Rydym wedi gwybod o'r dechrau bod COVID-19 yn peri risg difrifol i fywydau, ond hefyd i fywoliaeth pobl. Ac wrth i'r perygl uniongyrchol i iechyd gilio rhywfaint, er bod gennym lawer i'w wneud a ffordd bell i fynd, mae'r ffocws yn gynyddol bellach ar bryderon pobl ynglŷn â'n heconomi ac am ein bywoliaeth. Clywsom lawer o sôn hefyd am adeiladu nôl yn well, ond ceir llai o eglurder ynglŷn â beth y mae hynny'n ei olygu. I lawer yng Nghymru ac ar draws y byd yn wir, gwyddom nad oedd ein heconomi cyn COVID yn cyflawni fel y dylai. A'r cyd-ddinasyddion hyn yn aml, wrth gwrs, yw'r rhai yr effeithiwyd arnynt waethaf gan yr argyfwng: pobl o gymunedau duon a lleiafrifoedd ethnig; menywod; rhieni sengl a phobl anabl. Roedd traean o'n plant yng Nghymru cyn yr argyfwng yn byw mewn tlodi, a rhaid inni beidio â mynd yn ôl i'r normal hwnnw. Dyma gyfle i ailosod; i adeiladu economi sy'n gweithio i bawb; sy'n creu cyfoeth i dalu am y gwasanaethau cyhoeddus o'r radd flaenaf sydd eu hangen ar ein cenedl; sy'n cyflymu ein ffordd tuag at ddatgarboneiddio, ac sy'n gadael byd gwell i genedlaethau'r dyfodol. Credwn fod arnom angen dadl eang ynglŷn â sut y cyflawnir hynny, a bydd fy nghyd-Aelod, Delyth Jewell, yn dweud mwy am yr angen i gynulliad dinasyddion yrru'r gwaith hwnnw yn ei flaen a'n helpu i lunio'r ffordd ymlaen. Ac yn y cyd-destun hwnnw, rhaid inni wrthod gwelliant 4 y Ceidwadwyr. Er ein bod yn croesawu cyfle i gael mwy o weithio trawsbleidiol, ac yn wir mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn barod i wneud hynny, mae angen inni fynd ymhellach na hynny. Nid yw'r atebion i'n hargyfwng i gyd yn y Siambr hon yn nwylo un blaid neu fwy.
Nawr, ochr yn ochr â'r ddadl fwy hirdymor honno, bydd angen ymateb ar unwaith, ac mae'r rhan fwyaf o'r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn awgrymu ffordd ymlaen. Rydym yn galw am gynllun gwarantu cyflogaeth i bob person ifanc. Gwyddom mor galed y cawsant eu taro eisoes yn yr argyfwng hwn o ran colli swyddi, a gwyddom hefyd, os yw pobl ifanc yn ddi-waith am fwy na chwe mis ar yr adeg hon yn eu bywydau, fod hynny'n debygol o gael effaith hirdymor ar eu gyrfaoedd. Bydd nifer yn ei chael hi'n amhosibl dal i fyny ac yn dlotach hyd yn oed fel pensiynwyr o ganlyniad i fod heb waith ar yr adeg dyngedfennol hon. Wrth gwrs, gallwn adeiladu ar gynlluniau cyfredol gan Lywodraeth Cymru, ond mae angen inni fod yn llawer mwy uchelgeisiol, ac mae arnom angen cynllun cynhwysfawr, ac mae ei angen yn gyflym. Yn hytrach na gadael ein pobl ifanc i bydru ar y dôl, gadewch i ni ddefnyddio eu hegni, eu hangerdd a'u hymrwymiad i gefnogi'r pethau sydd eu hangen er mwyn y gwaith adfer cyntaf. Er enghraifft, gallem anfon graddedigion i'n hysgolion i gynorthwyo athrawon i helpu ein plant i ddal i fyny â'r dysgu y maent wedi'i golli. Gallem alluogi ein pobl ifanc i gefnogi ein sector gofal, a fydd dan bwysau difrifol am amser maith i ddod, a gallem eu talu'n briodol i wneud hynny. A gallem greu byddin o bobl ifanc fedrus i ôl-osod ein cartrefi, gan ddechrau gyda thai cymdeithasol, gydag inswleiddio a chynlluniau adnewyddadwy bach, gan fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a thlodi ar yr un pryd. A bydd arnom angen rhaglen genedlaethol enfawr i alluogi gweithwyr i hyfforddi ac ailsgilio.
Clywsom dystiolaeth ym mhwyllgor yr economi ychydig ddyddiau'n ôl na fydd ein heconomi byth yr un fath. Ni fydd rhai swyddi byth yn dychwelyd, ac ni fydd rhai swyddi'n dychwelyd yn yr un ffordd. Gallwn ddefnyddio hyn fel cyfle cadarnhaol i ailffocysu. Gallem edrych ar y busnesau sydd gennym y gellir eu hailsgilio a'u haddasu at ddibenion newydd. Os na fydd ein diwydiant awyrofod yn gwella'n ddigon cyflym, a allem ddefnyddio rhai o'r sgiliau hynny a rhai o'r technolegau hynny i adeiladu prosiectau ynni adnewyddadwy, er enghraifft?
Ac wrth gwrs, mae yna raglenni gan Lywodraeth Cymru y gallwn adeiladu arnynt. Ond unwaith eto, bydd angen inni fod yn fwy uchelgeisiol, a bydd angen gweithredu'n ehangach ac yn fwy radical. Efallai, er enghraifft, y gallem roi swm o £5,000 o arian parod i ddinasyddion unigol a'u galluogi i ddewis, gyda'r cyllid hwnnw, sut y maent yn dewis ailsgilio ar gyfer economi newydd sy'n amhosibl ei mapio ar hyn o bryd.
Wrth gwrs, nid oes dim o hyn yn gwbl newydd, ac mae'n cyd-fynd â llawer o'r hyn y mae eraill yn ei ddweud. Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi bod yn dweud yr un pethau. Gwelsom y corff newydd, Restart Wales, yn cyflwyno cynigion tebyg ddoe. Ac wrth gwrs, mae Cyngres yr Undebau Llafur ar lefel y DU ac yn yr Alban ac yma yng Nghymru yn dweud pethau tebyg.
Nawr, Lywydd, bydd yn rhaid talu am hyn wrth gwrs. Fel y dywedwn, diwedd y gân yw'r geiniog. Ceir tri maes yr hoffwn sôn amdanynt yn fyr yma. Y cyntaf yw dychwelyd at gwestiwn Barnett, a gallais sôn am hyn mewn cwestiynau i Weinidog yr economi yn gynharach. Mae ymchwil gan Centre for Towns yn dangos, o'r 20 cymuned yr effeithiwyd arnynt waethaf yng Nghymru a Lloegr, fod 10 o'r cymunedau hynny'n mynd i fod yng Nghymru. Byddwn yn awgrymu i'r Siambr rithwir hon nad yw hynny'n dweud llawer am yr undod ledled y DU y mae ein Prif Weinidog yn aml yn siarad amdano. Nid yw'n ymddangos ei fod wedi ein gwasanaethu'n dda iawn hyd yma, a gallwn ddweud hynny wrth fy etholwyr yn Llanelli ac wrth bobl ar draws de- a gogledd-ddwyrain Cymru.
Ond boed hynny fel y bo, gwyddom nad oedd y fformiwla erioed yn deg. Rydym yn gwybod nad yw erioed wedi ein gwasanaethu'n dda. Ac o ran dod ag adnoddau gan Lywodraeth y DU i mewn i'n hymateb i'r argyfwng hwn, mae'n hanfodol fod y fformiwla a fydd yn rhyddhau'r adnoddau hynny yn seiliedig yn awr ar angen ac nid ar niferoedd hanesyddol ac nid ar fformiwla syml. Mae gwir angen inni ddadlau'r achos hwnnw eto, ac yn y cyd-destun hwn—yr 20 o drefi, gyda 10 o'r rhai yr effeithiwyd arnynt waethaf yng Nghymru, a llawer o dystiolaeth arall sy'n dangos pa mor anodd fydd hi i'n heconomi ymadfer neu, fel y byddwn i'n dadlau, i drawsnewid—bydd angen yr adnoddau hynny.
Ond nid wyf yn hyderus, Lywydd. Rydym wedi gofyn hyn i Lywodraethau'r DU o sawl lliw dros lawer o flynyddoedd, a'r un ateb a gawn bob tro. Felly, beth yw'r dewisiadau eraill? Wel, yn y papur rydym wedi'i gynhyrchu i gefnogi'r ddadl hon, rydym yn dadlau'n gryf unwaith eto fod angen benthyca, a gwn fod hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi. Ni fu erioed yn rhatach i fenthyca ar gyfer buddsoddi. Byddai pob economegydd yn dweud wrthym y bydd hyn yn digwydd am flynyddoedd lawer i ddod.
Felly, rydym yn dadlau o blaid ad-dalu bond o £20 biliwn dros 30 mlynedd, ac mae ad-dalu hwnnw'n fforddiadwy. Nid wyf am gadw'r Senedd y prynhawn yma, ond mae'r papur wedi ei gyhoeddi—gall pobl edrych ar y dystiolaeth yn y fan honno. Mae'n fforddiadwy, a dyna faint o fuddsoddiad y bydd ei angen arnom oherwydd mae maint yr her rydym yn ei hwynebu mor enfawr. Efallai y gallwn ofyn i gyd-Aelodau Ceidwadol yn y Siambr hon ddefnyddio unrhyw ddylanwad sydd ganddynt gyda Llywodraeth y DU i ganiatáu i Lywodraeth Cymru fenthyca ar y raddfa hon. Mae'n hanfodol. Llwyddasom i ymadfer o'r argyfwng diwethaf ar y raddfa hon ar ôl yr ail ryfel byd drwy fenthyca a buddsoddi.
Nawr, mae cwestiwn arall i'w ofyn, sef: a yw hi'n bryd cael sgwrs aeddfed am drethi? Yn sicr, mae'n wir dweud na allwn obeithio cael gwasanaethau cyhoeddus Sgandinafaidd eu hansawdd a system drethu debyg i un Unol Daleithiau America. Nid wyf o reidrwydd yn sôn yma am dreth incwm, er enghraifft. Efallai y gallwn edrych ar drethi cyfoeth. Efallai y gallwn edrych ar drethi eiddo. Mae hynny, wrth gwrs, ar gyfer y tymor hwy. Ond rwy'n credu, Lywydd, ein bod drwy'r argyfwng hwn wedi goresgyn y syniad Thatcheraidd ers degawdau fod gwariant cyhoeddus yn beth drwg. Ni welwch lawer o bobl ledled y DU, rwy'n siŵr, nad ydynt yn falch o faint y buddsoddiad sydd wedi'i roi tuag at ddiogelu ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus, ac efallai mai dyma'r amser yn awr i gael y trafodaethau hynny.
Cyfeiriaf yn fyr yn awr, os caf, Lywydd, at y gwelliannau. Ni allwn dderbyn gwelliant y Llywodraeth. Mae'n teimlo braidd fel, 'Mae hyn yn iawn, mae gennym reolaeth ar y sefyllfa, mae'n iawn.' Wel, nid yw hynny'n bosibl. Nid oes neb wedi cael rheolaeth ar y sefyllfa. Mae angen mwy o syniadau arnom. Mae angen inni feddwl yn wahanol. Rydym yn croesawu llawer o'r hyn a nodir yng ngwelliant y Llywodraeth wrth gwrs. Rydym yn croesawu'r gwaith y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ei wneud. Nid wyf yn hollol siŵr pam ei fod yn ceisio cyngor Gordon Brown, a wrthododd ddiwygio fformiwla Barnett am y rhan orau o ddegawd fel Canghellor ac yna fel Prif Weinidog, rhywbeth a fyddai wedi bod o gymorth mawr i ni. Ond boed hynny fel y bo, nid dyma'r adeg i sgorio pwyntiau gwleidyddol pleidiol. Rydym yn croesawu'r ymgynghoriad drwy'r bartneriaeth gymdeithasol, ond nid yw hynny'n ddigon ynddo'i hun, ac unwaith eto dyna pam ein bod yn dadlau dros gael cynulliad dinasyddion, ac rwyf ychydig yn siomedig nad yw'r Llywodraeth wedi cytuno i wneud hynny. Mae arnom angen mwy o frys ac uchelgais.
Yn fyr iawn, ar welliannau'r Ceidwadwyr, ni allwn dderbyn gwelliant 2. Er y bydd prentisiaethau'n bwysig, ni fyddant yn ddigon. Rydym yn fodlon derbyn gwelliant 3 fel ychwanegiad defnyddiol, ac rwyf wedi egluro ein safbwynt, wrth gwrs, ar welliant 4. Mae gwelliant 5, i ni, yn dangos diffyg uchelgais a chyrhaeddiad. Nawr, ar welliant 6, rydym yn gallu cefnogi rhai elfennau o'r hyn y mae'r Aelod yn ei awgrymu, ond rwy'n credu y byddai'n rhy optimistaidd i feddwl, er enghraifft, y bydd y diwydiant bwyd a diod ar ei ben ei hun yn gallu ein harwain allan o'r llanast hwn. Felly, byddwn yn ymatal ar y gwelliant hwnnw.
I ddod â fy sylwadau i ben, Lywydd, mae hon yn adeg i weithio gyda'n gilydd. Mae hon yn adeg ar gyfer uchelgais. Mae hwn yn gyfle, fel y clywais y Gweinidog yn dweud, i adeiladu economi sydd nid yn unig yn fwy teg ac yn fwy gwyrdd, ond economi deg a gwyrdd, ac er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen inni weithredu yn awr wrth inni edrych am y ffordd hwy ymlaen. Rwy'n cymeradwyo ein cynnig gyda'r un gwelliant i'r Senedd.
Diolch. Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i'r cynnig hwn. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol. A gaf fi alw ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol?
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi’r canlynol yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r pecyn o gymorth cyflogadwyedd sydd ar gael ar hyn o bryd drwy Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cynllun Twf Swyddi Cymru, sy’n gynllun mawr ei barch sydd wedi helpu dros 19,000 o bobl ifanc i gael swyddi o ansawdd da, a hefyd raglen ReAct sydd wedi bod yn helpu unigolion ers degawd a mwy i ailhyfforddi ac i ddod o hyd i swyddi newydd.
2. Yn nodi Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru, sy’n werth £500 miliwn, ac sy’n helpu miloedd o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru ar hyn o bryd i gadw i fynd ac i gadw unigolion mewn gwaith, ac a fydd yn helpu gyda’r adferiad yn y dyfodol.
3. Yn nodi’r gwaith arbenigol ar gynllunio ar gyfer yr adferiad sy’n cael ei gydgysylltu ar draws Llywodraeth Cymru gan y Cwnsler Cyffredinol, a hefyd y gwaith y mae Gweinidog yr Economi yn ei wneud i nodi rhagor o ymyriadau ym maes sgiliau a fydd yn gallu helpu pobl i ailhyfforddi’n effeithiol yn ystod y misoedd sydd i ddod ac yn ystod y cyfnod adfer.
4. Yn croesawu’r trafodaethau adeiladol y mae Gweinidog yr Economi wedi’u cael gyda phob parti ynglŷn â sut y gellir cynnig y rhagolygon gorau posibl i bobl ifanc wrth inni ddod allan o gyfnod y Coronafeirws.
5. Yn cydnabod bod angen gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol â’r undebau llafur a busnesau i Ailadeiladu’n Well ar gyfer y dyfodol.
6. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo bron £2.5 biliwn ar gyfer ei hymateb i Covid-19 ers mis Mawrth 2020, yn nodi hefyd faint yr argyfwng economaidd sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig gyfan ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu pecyn sylweddol i ysgogi’r economi a fydd yn gallu ategu’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i greu adferiad gwyrdd a theg.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf yn awr ar Mohammad Asghar i gynnig gwelliannau 2, 3, 4 a 5, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Mohammad.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.
Mae cael gweithlu medrus yng Nghymru yn allweddol ar gyfer adferiad economaidd, yn enwedig gan fod gan Gymru fwlch sgiliau sylweddol eisoes. Fe gostiodd prinder sgiliau oddeutu £350 miliwn i fusnesau Cymru ym 2018 yn ôl adroddiad gan y Brifysgol Agored. Yn ogystal â'r gost economaidd, gorfodir llawer o bobl yng Nghymru i ymdopi â'r gost bersonol o gael eu caethiwo gan sgiliau isel a chylch digalon o sgiliau isel, cyflogau isel a chynhyrchiant isel.
Effeithiwyd yn ddifrifol ar brentisiaethau a darpariaeth sgiliau gan yr argyfwng coronafeirws yn ein rhan ni o'r byd. Er bod prentisiaethau sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod yn brysur ar y rheng flaen wrth ymateb i'r pandemig, mae rhannau mawr o'r economi wedi'u rhewi ac mae llawer o bobl heb fod yn gweithio. Oherwydd y gorchymyn i aros gartref, mae'r dysgu wedi symud ar-lein. Yn ogystal â chael effaith ar brentisiaid, mae hyn hefyd wedi cael effaith ar ddarparwyr hyfforddiant a'u his-gontractwyr.
Rydym i gyd yn cydnabod y gallai effaith coronafeirws ar economi Cymru a'i gweithlu fod yn ddinistriol. Mae gan Gymru gyfran uwch o weithwyr a gyflogir yn y diwydiannau yr effeithir arnynt fwyaf gan gyfyngiadau symud o gymharu â Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru yn rhagweld pe bai ond un o bob pedwar o'r gweithwyr hyn yn colli eu swydd y byddai diweithdra yng Nghymru yn cynyddu i lefel uwch nag a welwyd yn ystod y dirwasgiad diwethaf. Pobl ifanc, menywod a'r rhai sydd â'r lefelau isaf o gymwysterau sy'n fwyaf tebygol o wynebu colli eu swyddi.
Lywydd, gwelodd Sefydliad Bevan fod cefn gwlad Cymru a Chymoedd de Cymru yn wynebu cyfran uwch o lawer o fusnesau'n cau na'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Soniodd Helen Mary yn gynharach fod 10 o'r rhannau gwaethaf yn economaidd o'r Deyrnas Unedig yn ne Cymru, ac mae pedwar ohonynt yn fy Nghymoedd i yn y de-ddwyrain. Mae effaith coronafeirws ar gymunedau Cymru wedi cael ei waethygu gan anghydraddoldebau strwythurol sy'n bodoli'n barod. Mae adroddiad diweddar gan Centre for Towns yn tynnu sylw at y ffaith bod cymunedau'r Cymoedd a threfi glan môr fel Glynebwy, Maesteg a'r Rhyl ymhlith y rhai sy'n fwyaf agored i ddirywiad economaidd wedi'i achosi gan y feirws.
Nid yw cyllideb atodol Llywodraeth Cymru ond yn canolbwyntio ar oblygiadau economaidd tymor byr y pandemig yn hytrach nag ystyried adferiad economaidd hirdymor Cymru. Mae arian yn cael ei ailddyrannu o brentisiaethau, dysgu seiliedig ar waith a phrosiectau eraill, gan arwain at effeithiau niweidiol hirdymor. Bydd yn arwain at ddarparu ychydig iawn o brentisiaethau a lleihau'r gweithlu medrus ar adeg pan fydd angen mwy arnom. Mae ein gwelliannau 2 a 3 yn cydnabod pwysigrwydd adeiladu sylfaen sgiliau Cymru er mwyn helpu i rymuso pobl i wella eu bywydau drwy eu galluogi i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth newydd i ddiwallu anghenion economi sy'n newid yn barhaus ym mhob cwr o'r byd. Bydd prentisiaethau yn hanfodol ac yn allweddol i adferiad economaidd Cymru. Bydd rhaglenni cynnal a datblygu sgiliau yn helpu i wneud y sectorau mwyaf bregus yn yr economi yn fwy cydnerth tra'n darparu cyfleoedd newydd i bobl ddysgu a chynnal sgiliau.
Mae gwelliant 5 yn galw am sefydlu cronfeydd adfer hirdymor yn sgil COVID i gefnogi'r trefi a'r cymunedau y mae eu heconomïau wedi'u taro galetaf gan y pandemig. Effeithiodd y cyfyngiadau'n anghymesur ar gymunedau arfordirol, gyda chau'r diwydiannau twristiaeth a llety. Mae'n bwysig fod y cymunedau hyn yn cael cymorth teg, effeithiol ac wedi'i dargedu i'w tywys drwy'r argyfwng hwn.
Ddirprwy Lywydd, os gweithredwn y camau sy'n cael eu cynnig heddiw, credaf y gallwn sicrhau nid yn unig fod economi Cymru'n ymadfer yn gyflymach, ond y daw allan ohoni'n gryfach ac yn fwy deinamig nag o'r blaen. Gallwn osod y sylfeini ar gyfer economi ddeinamig a modern gyda gweithlu medrus iawn a fydd o fudd i genedlaethau'r dyfodol yn ogystal â'r genhedlaeth hon. Diolch.
Diolch. Galwaf yn awr ar Neil McEvoy i gynnig gwelliant 6, a gyflwynwyd yn ei enw. Neil.
Gwelliant 6—Neil McEvoy
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Er mwyn ailadeiladu Cymru yn economaidd o ganlyniad i argyfwng Covid-19, yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod y cynllun rhyddhad ardrethi busnes Covid-19 yn cefnogi busnesau sy'n meddiannu eiddo ac nid landlordiaid sy'n berchen ar yr eiddo hwnnw;
b) rhoi cymorth i'r rhai yn y diwydiant lletygarwch sy'n talu rhent llawn i gwmnïau tafarndai yn ystod yr argyfwng;
c) deddfu i alluogi cwmnïau o Gymru i wneud cais llwyddiannus am gontractau sector cyhoeddus Cymru; a
d) cyfeirio'i pholisi economaidd tuag at adferiad a gaiff ei arwain gan allforio bwyd a diod drwy greu diwydiant chwisgi cyflawn.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cefnogi egwyddor y cynnig. Felly, dof at fy ngwelliant. Yn gyntaf, rwy'n credu efallai ei bod yn well gwrando ar yr hyn sydd gennyf i'w ddweud cyn dweud nad ydych chi'n mynd i gefnogi fy ngwelliant.
Mae syniad gwelliant 6(d), sef edrych ar fwyd a diod a chreu diwydiant wisgi cyflawn, yn gwbl ymarferol a gellir ei wneud yn rhad iawn. Mae'n rhaid mai Cymru yw un o'r unig wledydd Celtaidd heb ddiwydiant wisgi, ac os ydych chi'n frwdfrydig iawn ynghylch wisgi fel fi, mae hynny'n siomedig iawn. Ond yr hyn sy'n wirioneddol ddiddorol yw bod y farchnad fyd-eang mor broffidiol. Felly, o fewn pum mlynedd i sefydlu 20 o ddistyllfeydd, gadewch inni ddweud, gallech gael diwydiant allforio gwerth £100 miliwn, ac ym mlwyddyn 10, blwyddyn 15, blwyddyn 20, byddai'r twf yn enfawr.
O ran ansawdd bwyd hefyd, rwy'n credu y dylem fod yn edrych o ddifrif ar gynhyrchion ym mhen uchaf y farchnad—gwneud cynnyrch Cymreig yn ddrud iawn yn y byd oherwydd bydd pobl yn talu am ansawdd canfyddedig.
Ar welliant 6(c), bydd cyfleoedd gyda Brexit, a'r hyn y mae angen i ni ei ystyried gyda chontractau sector cyhoeddus Cymru, yr arian cyhoeddus a wariwn, rhaid i'r contractau hyn fynd i gwmnïau o Gymru. Felly, am bob—. Pe baem yn ailgyfeirio canran fawr iawn o gontractau'r sector cyhoeddus i gwmnïau yng Nghymru, gallem greu oddeutu 80,000 o swyddi, rhywbeth a fyddai'n sylweddol iawn. Ac rwy'n credu os nad yw cwmni o Gymru yn cael contract gan y Llywodraeth yn y dyfodol, mae'n rhaid cael rheswm gwirioneddol dda dros fethu gwneud hynny. Ni fyddwn wedi ein rhwymo gan reoliadau'r UE mwyach, felly mae hynny'n gwbl ymarferol.
Wrth inni edrych ar y diwydiant lletygarwch, rwy'n bryderus iawn fod llawer o bobl sy'n rhan ohono—tafarndai, er enghraifft—yn dal i dalu rhent. Mae'n gwbl warthus eu bod yn cael eu blingo gan y cwmnïau tafarnau ar hyn o bryd. Pa un a yw'r cynnig hwn yn llwyddo ai peidio, neu pa un a yw'r gwelliant yn pasio—pa un a yw'n digwydd ai peidio—hoffwn yn fawr i'r Llywodraeth gamu i'r adwy a chefnogi'r diwydiant lletygarwch yng Nghymru drwy barhau'r cynllun ffyrlo tan 2021. Mae'n rhaid inni geisio dylanwadu ar y cwmnïau hynny i roi'r gorau i'w gwneud hi mor anodd i dafarndai Cymru allu goroesi.
Mae gwelliant 6(a), mewn gwirionedd, yn—. Mae'n rhaid inni atal busnesau rhag cael eu trin yn wael gan landlordiaid. Mae'n digwydd yn rhy aml o lawer. Ceir achos yng Ngorllewin Caerdydd lle mae stiwdio ddawns yn darparu ar gyfer 120 o blant—120 o blant—gydag athrawes ddawns ysbrydoledig. Mae'r arian yn dal i fod heb ei drosglwyddo gan y landlord. Mae'n ymddygiad gwirioneddol wael, ac rwy'n teimlo dros Vickie—hi sy'n rhedeg Rubylicious—oherwydd mae wedi dweud wrth bobl beth sy'n digwydd, nid yw wedi cael yr arian. Nid yw hi erioed wedi honni bod hynny'n drosedd, nid yw erioed wedi honni ei fod yn dwyll, dim ond honni ei fod yn ymddygiad gwael, ac yn awr mae hi mewn sefyllfa lle gallai gael ei herlyn. Mae wedi derbyn llythyr cyfreithiwr cas ac ymosodol iawn gan gyflogai i'r Prif Weinidog, neb llai. Felly, hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn i annog, yn y cyd-destun hwn, yr Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerdydd i gael gair gyda'u haelod staff efallai a dweud wrtho am roi'r gorau i drin athrawes ysbrydoledig yr ysgol ddawns honno mewn ffordd mor ymosodol a bwlïaidd. Rwy'n credu ei fod yn dwyn anfri ar ei gyflogwr, bron. Mae'n sicr yn peri embaras iddo, ac mae hwnnw'n fater cod ymddygiad, felly hoffwn ofyn i'r Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerdydd edrych ar hynny. I fynd yn ôl at y pwynt perthnasol yma, nid yw'n iawn fod yr arian a anelir at fusnesau yn cael ei gymryd gan landlordiaid.
Felly, yr hyn sydd gennych yno yw pecyn bach, rhai syniadau. Mae'n edrych ar godi arian ar gyfer y diwydiant wisgi. Gallem hefyd gael cyfnewidfa stoc yng Nghaerdydd, er enghraifft. Mae angen inni ddechrau cyflwyno'r syniadau hyn. Mae'n mynd i fod yn her fawr i ddod dros yr argyfwng hwn, ac mae'n rhaid inni gael syniadau pendant.
O ran y gwelliannau—
A wnewch chi ddirwyn eich casgliadau i ben, os gwelwch yn dda?
Gwnaf. Diolch. O ran y gwelliant, mae'n amlwg nad dyna fyddai'r unig beth, ond mae'n ffordd hawdd, felly dylem ei dilyn. Diolch yn fawr.
Diolch. Mike Hedges.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn am alw arnaf i gymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy'n mynd i edrych ar economi Cymru. Gellir ei rhannu'n bum rhan: yr economi hanfodol, yr economi adfer, meysydd sy'n gallu ffynnu gyda chefnogaeth, meysydd sy'n galw am hyder defnyddwyr, a meysydd y bydd yn anodd iawn eu hadfer yn y tymor byr iawn.
Rydym yn gwybod am yr economi hanfodol; mae wedi bod yn weithredol dros y tri mis diwethaf. Gwyddom hynny. Peidiwch â drysu rhyngddi a'r economi sylfaenol; nd ydynt yr un peth. Yr economi hanfodol yw pethau fel iechyd, gofal cymdeithasol, y cyfleustodau, gwasanaethau awdurdodau lleol, gan gynnwys iechyd yr amgylchedd a chasglu sbwriel, gwasanaethau Llywodraeth, plismona, tân, amddiffyn, gwaith cynnal a chadw hanfodol, trefnwyr angladdau, TGCh, bwyd a diod, gan gynnwys eu cynhyrchu, eu gwerthu a'u cludo, gwyddorau bywyd, y cyfryngau, gwasanaethau post, yswiriant ariannol a rhai mathau o weithgynhyrchu. Dyna yw'r economi hanfodol—maent wedi bod gyda ni dros y tri mis diwethaf, oherwydd maent yn hanfodol.
Mae gennym sectorau economaidd fel trafnidiaeth gyhoeddus yn dal i weithio, ond ar gapasiti llawer llai. Rydym wedi gweld y sectorau gwirfoddol a'r trydydd sector yn darparu gwasanaethau mawr eu hangen, gan ddangos bod llawer ohonynt yn hanfodol, nid dim ond ychwanegion braf i'w cael.
Yna mae gennym yr economi adfer. Meysydd o'r economi yw'r rhain a fydd yn dychwelyd i'r lefelau galw blaenorol ar ôl rhuthr cychwynnol. Mae'r rhain yn cynnwys meysydd fel yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau, siopau trin gwallt, salonau harddwch, bariau ewinedd, twristiaid, campfeydd, cyfresi teledu, amgueddfeydd, orielau celf, gwaith adeiladu, cynnal a chadw a gwasanaeth i geir, a siopau coffi lleol a siopau cludfwyd. Mae pobl wedi bod yn aros ers misoedd iddynt agor ac yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl agor, bydd ciwiau hir ac oedi hir hyd nes y byddwn yn dychwelyd at y normal newydd. Rydym eisoes yn gweld ciwiau y tu allan i siopau cludfwyd adnabyddus. Hwn fydd yr adferiad siâp V y mae economegwyr yn sôn amdano a byddant i gyd yn gwneud i bob un ohonom deimlo'n well. O fewn y grŵp hwn mae proffesiynau fel milfeddygon a deintyddion, ac optegwyr hefyd, byddwn wedi dweud, ond gwyddom yn awr mai cyngor Llywodraeth San Steffan, mae'n debyg, yw: os oes gennych broblem gyda'ch llygaid, ewch am dro yn y car i'w profi.
Mae'r trydydd sector allweddol yn un y mae gwir angen i ni ei gefnogi, ac mae'n cynnwys prifysgolion, theatrau, lleoliadau celfyddydau perfformio eraill, gweithgynhyrchu, chwaraeon proffesiynol a gwasanaethau proffesiynol. Mae'r rhain yn rhannau allweddol o'r economi leol, ac mae angen cymorth arnynt i ymadfer. Dyma'r meysydd y mae angen i'r Llywodraethau yn San Steffan a Chaerdydd ganolbwyntio arnynt ar ôl codi'r cyfyngiadau symud, naill ai drwy ddefnyddio cyfalaf trafodion i ddarparu benthyciadau di-log neu drwy ddarparu gwarant incwm. Bydd hyn hefyd yn cynnwys pobl hunangyflogedig y bydd angen iddynt ailadeiladu eu busnesau, ar ôl bod dan gyfyngiadau symud ers mis Mawrth. Mae'r rhain yn sectorau allweddol yn yr economi. Mae'r rhain yn sectorau twf posibl yn yr economi ac yn y tymor byr, bydd angen cymorth arnynt.
Yn bedwerydd, mae gennym—[Anghlywadwy.]—a fydd yn galw am hyder defnyddwyr, yn ariannol ac o ran diogelwch personol. Y tafarndai, y bwytai a'r atyniadau twristaidd lleol, y gwestai a'r clybiau yw'r rhain. Byddant yn galw am hyder eu bod yn ddiogel, a bod gan bobl incwm dros ben i allu fforddio'r eitemau moethus hyn. Bydd hyder eich bod yn ddiogel i fynd i mewn yno yn bwysig tu hwnt, ac yn llawer pwysicach, mae'n debyg, na'r dyddiad y mae rhywun yn penderfynu y gallant agor, os nad yw pobl eisiau mynd i beryglu eu bywydau drwy gael diod.
Mae'r lleill yn feysydd sy'n dibynnu ar ffydd defnyddwyr yn eu lles economaidd, pan fyddant yn prynu tai newydd, ceir newydd neu'n buddsoddi mewn estyniadau tai a gwaith gardd sylweddol. Mae'r rhain yn galw am hyder yn yr economi a phobl i fod yn barod i ysgwyddo dyled yn y tymor canolig a'r tymor hir. Mae'n rhaid bod gennych hyder y bydd gennych incwm yn y tymor canolig i'r tymor hir cyn y byddwch yn barod i ysgwyddo dyled yn y tymor canolig i'r tymor hir.
Yn bumed, ceir y sectorau lle bydd adferiad yn anodd. A fydd pobl a chwmnïau wedi newid y ffordd y maent yn gweithio? Rydym wedi gweld llawer o bobl yn gweithio gartref, heb wneud unrhyw ddrwg i gynhyrchiant, ac mae'n well weithiau na phan fyddant yn gweithio mewn swyddfeydd. A fydd hyn yn parhau? Oherwydd os yw'n parhau, bydd y ffyrdd yn dawelach, fel y bydd trafnidiaeth gyhoeddus, siopau coffi a brechdanau canol y ddinas, y galw am ddodrefn swyddfa, gofod swyddfa, ynghyd ag incwm meysydd parcio. Fy nghred i yw y bydd rywle yn y canol. Ni fydd pawb yn mynd yn ôl i weithio yn y swyddfa fel yr arferent ei wneud. Bydd rhywfaint ohono'n digwydd, ond bydd rhai'n gweithio gartref, a bydd hynny'n cael effaith enfawr ar yr economi.
A yw pobl wedi newid eu harferion manwerthu yn barhaol, gyda mwy o eitemau'n cael eu prynu ar-lein? Os ydynt, beth yw dyfodol y stryd fawr? Mae pobl wedi arfer gyda chlicio a chasglu a phrynu ar-lein bellach dros y tri mis diwethaf. Dyma'r normal newydd.
Wedyn, ceir teithio tramor, a fydd yn effeithio nid yn unig ar gwmnïau teithio ond ar weithgynhyrchwyr awyrennau, meysydd awyr a gwasanaethau ategol. Mae angen cymorth gan y Llywodraeth ar y maes hwn yn y tymor byr a chanolig er mwyn sicrhau y gall ffynnu unwaith eto. Er na all yr un ohonom weld y dyfodol, bydd y normal newydd yn wahanol iawn i'r normal cyn y pandemig. Byddai gennyf fwy o barch at y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru pe baent yn gallu cynhyrchu eu cyllidebau eu hunain mewn gwirionedd yn hytrach na rhestr wariant. Fe'u heriais ar y gyllideb, ac ni wnaethant hynny. A dweud y gwir, fi oedd yr unig un i gynhyrchu awgrym ar gyfer sut y gellid newid y gyllideb. Roeddwn eisiau rhoi mwy o arian i mewn i addysg a llai o arian i'r economi.
Rwy'n cefnogi'r syniad o gynulliad dinasyddion, ond mae angen inni drafod ei faint, ei gyfansoddiad, a sut a phryd y mae'n cyfarfod. Ni all fod yn enw newydd ar y dinasyddion gweithgar sy'n aml â diddordeb gwleidyddol, ac sydd eisoes yn cymryd rhan.
A wnewch chi ddod â'ch sylwadau i ben, os gwelwch yn dda, Mike?
Unrhyw benderfyniadau a wnawn yn awr, rhaid inni wneud yn siŵr fod cyfleoedd i bawb gael eu llais wedi'i glywed, i gymryd rhan a chael dweud eu barn yn ystyrlon. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Dwi'n meddwl sut bynnag dŷn ni'n edrych arno fo, mae'r profiad rydyn ni'n byw trwyddo fo ar hyn o bryd yn drobwynt yn ein hanes ni. Mae yna fywydau fydd byth yr un fath eto, teuluoedd sy'n galaru, pobl sy'n wynebu heriau iechyd hirdymor. Mae'r newid wedi cyffwrdd ar bopeth, wrth gwrs—y ffordd mae gwasanaethau yn cael eu delifro a sut mae'r Llywodraeth yn gweithio, hyd yn oed. Wrth gwrs, mae'r impact economaidd yn enfawr, a llawer o'r impact yn gwbl negyddol—cwmnïau yn mynd i'r wal, unigolion yn colli swyddi, teuluoedd yn colli incwm. Ond rhywsut, allan o hyn, mae'n rhaid i ni chwilio am yr elfennau a allai dyfu yn bositif allan o'r hafn ddofn yma rydyn ni wedi canfod ein hunain ynddi hi. Rydyn ni'n gwybod beth ydy rhai ohonyn nhw; rydyn ni wedi clywed rhai y prynhawn yma: chwyldro mewn gweithio o gartref, meddygon yn cynnal surgeries o bell, a sylweddoli bod dim angen neidio i'r car gymaint, a'r chwilfrydedd mae hynny wedi'i greu mewn bod yn fwy gwyrdd. Ond mae yna gyfle yma i edrych yn wirioneddol ar ein holl ddyfodol economaidd, a dwi ddim jest yn sôn am ailadeiladu, ailgreu beth oedd gennym ni; dwi'n sôn am ddod yn ôl yn gryfach. A beth sydd gan Blaid Cymru heddiw ydy cynnig am gynllun i ddechrau'r gwaith hwnnw.
Mae dau gymal cyntaf y cynnig yn sôn am gamau ymarferol i helpu rhai o'r rheini sydd wedi cael eu taro'n galetaf, yn cynnwys pobl ifanc—mae Helen Mary Jones wedi sôn am y rheini. Mae'r trydydd cymal, ac fe glywn ni Delyth Jewell yn sôn amdano fe, yn gyfeiriad at ein cred ni y byddai sefydlu cynulliad dinasyddion yn galluogi pobl Cymru i gyfrannu go iawn at y gwaith yma sydd o'n blaenau ni.
Dwi am ganolbwyntio ar y cymal olaf a'r galw yma am sefydlu cronfa adnewyddu Cymru-gyfan, gwerth biliynau o bunnau. Mae Helen wedi sôn am y gwahanol elfennau o'r hyn y buasem ni eisiau ei wneud efo fo, ond cofiwch mai dim ond dechrau'r buddsoddiad hirdymor sydd ei angen ydy hyn, a bydd y rhai mwy sylwgar yn eich plith chi yn gwybod bod Plaid Cymru wedi galw yn gyson ers blynyddoedd am fuddsoddi yn sylweddol rŵan yn nyfodol ein gwlad ni. Mi oedd polisïau llymder Llywodraeth Prydain yn gwneud yn gwbl groes i beth oedd ei angen. Buddsoddiad oedd ei angen; buddsoddiad sydd ei angen, yn fwy nag erioed rŵan, yn dilyn y pandemig yma—buddsoddi yn ein seilwaith ni, mewn cartrefi iach a gwyrdd, buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, cysylltedd digidol, mewn prosiectau ynni arloesol, mewn addysg uwch ac ymchwil, ac isadeiledd cymdeithasol hefyd. Rydym ni'n sôn am raglen i drawsnewid ein gwlad a fydd yn creu returns—returns ariannol i dalu'r benthyciadau yma yn ôl, a returns hefyd mwy cymdeithasol y gallwn ni a'n plant ni, a'u plant nhwythau elwa ohonyn nhw.
A dyma'r amser i wneud. Mae modd benthyg yn rhyfeddol o rad, mae modd edrych ar ddulliau amgen o gyllido prosiectau hefyd—bondiau ac ati. Ond mi fydd angen pwerau ffisgal newydd a hyblygrwydd newydd er mwyn galluogi hyn: codi'r cap benthyg presennol, er enghraifft, o'r £1 biliwn presennol i, buaswn i'n dweud, o gwmpas £5 biliwn i ganiatáu 'front loadi-o' hwnnw, er mwyn gallu dechrau ar y gwaith o ddifrif. Dwi'n credu bod y Gweinidog Cyllid yn cytuno bod angen hyblygrwydd mewn ffyrdd eraill o ran y gallu i dynnu arian wrth gefn i lawr, ac, wrth gwrs, mae angen i fformiwla Barnett ddod i ben ac i gyllido digwydd ar sail angen.
Mi wnaf i gwblhau fy sylwadau i drwy ddweud hyn: mae'n rhaid hefyd inni gael, fel y clywson ni gan Helen, drafodaeth aeddfed ynglŷn â sut dŷn ni'n talu am ein buddsoddiadau ac am y math o wasanaethau cyhoeddus dŷn ni eisiau. O ailedrych ar y flaenoriaethau—mae Mike Hedges wedi sôn am rai o'i rai fo—dwi'n hyderus iawn y gallwn ni, o fewn cyllidebau presennol, ad-dalu benthyciadau, fel dŷn ni wedi clywed amdanyn nhw, a hynny oherwydd bod cost benthyg yn isel ar hyn o bryd. Ond, dŷn ni wedi cofio rŵan, yn ystod y cyfnod yma, pa mor werthfawr ydy gwasanaethau fel iechyd a gofal. Ond, tra ein bod ni eisiau'r gwasanaethau gofal gorau posib, dyn ni, am yn rhy hir, wedi bod eisiau talu llai a llai amdanyn nhw, a does dim modd sgwario hynny am byth.
Mewn cynhadledd rithiol tua dechrau'r pandemig yma—mae'n teimlo fel oes yn ôl—cynhadledd wedi ei threfnu gan y Sefydliad Materion Cymreig: 'Rethinking Wales' oedd y testun, a dyna yn union sydd angen ei wneud—ailfeddwl sut dŷn ni'n gwneud pethau, beth ydyn ni'n trio ei gyflawni ac, ie, sut dŷn ni'n talu amdanyn nhw. Dwi'n cael y teimlad bod lot ohonom ni, llawer ohonom ni yn y Senedd yma, gobeithio, sydd eisiau pwyso 'reboot', fel y mae papur newydd Plaid Cymru yn ei ddweud, neu 'reset', fel mae grŵp newydd amhleidiol dwi wedi ei weld yn cael ei lansio yr wythnos yma yn ei ddweud.
A wnewch chi ddod â'ch sylwadau i ben, os gwelwch yn dda?
Gyda'r ychydig eiriau hyn.
Mae'r amser wedi dod i fod yn feiddgar ac i osod gorwelion newydd ar gyfer ein gwlad ni.
Rwy'n gobeithio bod y Gweinidog wedi gallu gwirio'r ffeithiau—
Na, na; mae'n ddrwg gennyf. A wnewch chi siarad ar y cynnig hwn, os gwelwch yn dda, neu fe alwaf ar siaradwr arall? Y cynnig hwn, os gwelwch yn dda.
Mae bron i un o bob pum swydd yng Nghymru mewn sectorau sydd wedi'u cau, yn ôl y Sefydliad Dysgu a Gwaith. Pe bai un yn unig o'r pedwar gweithiwr hyn yn colli eu swyddi, gallai diweithdra fod yn uwch na'r lefelau a welwyd yn ystod y dirwasgiad diwethaf. Mae'r risg o fwy o ddiweithdra'n amlwg, gan fod Cymru wedi mynd o'r gyfradd ddiweithdra isaf erioed, sef 2.9, ym mis Tachwedd i weld nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau sy'n gysylltiedig â diweithdra bron yn dyblu ers mis Mawrth i 103,869 ym mis Ebrill. Mae Llywodraeth y DU wedi derbyn gwerth £2.6 miliwn o hawliadau drwy'r cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig, ac mae'n helpu 8.9 miliwn o weithwyr ac 1.1 miliwn o gyflogwyr drwy'r cynllun cadw swyddi yn sgil y coronafeirws. Mae'r rhaglenni hyn gan y gwir anrhydeddus Rishi Sunak AS, Canghellor y Trysorlys, wedi gweld camau beiddgar, digynsail i helpu ein hetholwyr i oresgyn y cynnwrf economaidd a achosir gan COVID-19.
Mae'r cynllun cadw swyddi bellach yn cynnig cyfle gwych i ddod â gweithwyr ar ffyrlo a'r economi yn ôl i fusnes. Fodd bynnag, er mwyn i hyn lwyddo yng Nghymru, mae angen inni weld marwor economi Cymru'n ailgynnau. Ni all ein draig economaidd ruo eto heb i Lywodraeth Cymru weithredu. Mae'n bryd ailagor ein marchnad dai, ystyried ailagor siopau, bariau, bwytai a thafarndai nad ydynt yn hanfodol, a sicrhau nad yw Cymru ar gau i dwristiaid yr haf hwn. Conwy yw'r ardal uchaf yng Nghymru ac un o'r 20 ardal uchaf yn y DU lle mae'r ganran uchaf o swyddi mewn perygl. Yn wir, ar gyfartaledd, mae dros chwarter yr holl bobl a gyflogir mewn trefi arfordirol yng Nghymru mewn sector sydd wedi'u cau, megis llety, celf, hamdden a bwytai.
Rwyf wrth fy modd ein bod yn argymell sefydlu cronfa adfer cymunedau yn sgil COVID i gefnogi trefi a chymunedau y mae eu heconomïau wedi'u taro galetaf gan y pandemig hwn. Wrth ystyried y warant gyflogaeth, darllenais gynllun newydd Cyngres yr Undebau Llafur ar gyfer swyddi. Mae'n wir y bydd yn cael ei gyflawni ar lefel ranbarthol neu leol, ond mae ynddo wendid mawr. Er mwyn profi y bydd yn gweithio, cyfeiriwyd at gronfa swyddi'r dyfodol. Ni fu honno'n llwyddiant. O'r ddwy flynedd ar ôl dechrau cymryd rhan, effaith net cronfa swyddi'r dyfodol ar y cyfranogwyr oedd torri wyth diwrnod yn unig oddi ar nifer y dyddiau a dreuliwyd yn cael cymorth lles, a chynnydd o lai na phythefnos yn nifer y dyddiau mewn gwaith heb gymhorthdal.
Felly, nid cynnig Plaid Cymru yw'r ateb. Yr wythnos diwethaf, dywedodd yr Athro Ewart Keep fod llwythi o bobl, erbyn diwedd mis Gorffennaf, yn gadael eu cyrsiau ysgol, coleg a phrifysgol ac y bydd llawer ohonynt yn methu dod o hyd i swyddi. Mae wedi nodi bod profiad gwaith yn gwbl hanfodol. Rwy'n cytuno ac yn credu y gallai pobl ifanc elwa o gynllun gwarantu prentisiaeth. Byddai'r argyfwng gwaith sydd ar y gorwel hefyd yn cael ei liniaru drwy sefydlu cynllun ailsgilio ac ailhyfforddi ar gyfer swyddi, a gynlluniwyd i gynorthwyo'r rhai y mae angen iddynt ddod o hyd i waith arall yn dilyn yr argyfwng hwn.
Os na fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar rai o'r cynigion a drafodwyd heddiw, mae gwir berygl y bydd ein draig economaidd Gymreig a dyfodol pobl ifanc yn cael eu niweidio cyn inni weld unrhyw adferiad economaidd. A diolch i Drysorlys y DU am y £2.1 miliwn y maent yn ei ddarparu ar gyfer cronfa sŵau drwy swm canlyniadol o dan fformiwla Barnett yma i Gymru, er gwaethaf yr hyn y mae'r Gweinidog, yn anfwriadol efallai, wedi'i ddweud yn ei ymateb. Diolch.
Rwyf wedi blino aros,
Onid ydych chi,
I'r byd ddod yn dda
A hardd a charedig?
Gwelais y geiriau hynny gan Langston Hughes ar Twitter ychydig ddyddiau'n ôl. Roedd rhywun yn eu dyfynnu mewn anobaith ynglŷn â pha mor llwm yw ein byd, oherwydd rydym yn wynebu nifer o argyfyngau. Ar wahân i felltith hiliaeth, mae COVID-19 yn bygwth dyfodol ein pobl fwyaf bregus. Hyd yn hyn, mae effeithiau'r feirws wedi'u teimlo yn y boen o golli anwyliaid a cholli amser, oherwydd ein bod yn aros yn ein cartrefi, ond mae argyfwng arall ar y gorwel—trychineb economaidd sy'n ein hwynebu i gyd oni bai ein bod yn ymyrryd yn helaeth.
Rydym yn clywed y gair 'digynsail' o hyd. Wel, bydd yr her economaidd yn ddigynsail, felly mae'n rhaid i raddfa ymyrraeth y Llywodraeth fod yn ddigynsail. Felly, rwy'n siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi dewis dileu ein cynnig heddiw, yn hytrach na mynd i' afael â'r awgrymiadau rydym wedi'u gwneud i helpu'r economi. Yn eu lle, maent wedi gosod rhestr dila o'r hyn y maent yn ei wneud eisoes. Ni fydd busnes fel arfer yn gwneud y tro.
Mae Helen Mary Jones wedi nodi'n fedrus yr hyn a fyddai'n bosibl pe baem yn feiddgar: ehangu pwerau benthyca i £5 biliwn ac atal terfynau blynyddol ar arian a dynnir i lawr. Mae'r rhain yn gamau radical ac angenrheidiol os ydym am achub ein cymunedau rhag adfyd.
Fel yr Aelod dros Ddwyrain De Cymru, tynnaf sylw hefyd at yr adroddiad gan y Centre for Towns sy'n nodi tair tref yn fy rhanbarth sy'n wynebu'r perygl mwyaf—Merthyr, Glynebwy a Thredegar, yr un trefi ag a grybwyllais yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ym mis Mawrth. Dywedais bryd hynny fod angen cymorth difrifol arnynt ar ôl brwydro yn eu blaenau, er gwaethaf esgeulustod a thanariannu hirdymor. Mae angen inni flaenoriaethu ardaloedd fel hyn ar gyfer ailfuddsoddi, a rhoi'r arfau i bobl ailadeiladu eu gyrfaoedd a'u cymunedau. Gadewch inni fod yn feiddgar, gadewch i ni siarad mwy ynglŷn â sut y gallwn droi ein geiriau'n weithredoedd.
Mae sôn wedi bod am fargen newydd werdd. Gadewch inni wireddu hynny yng Nghymru. Gadewch inni sefydlu cronfa ailsgilio Cymru, sy'n arbenigo mewn technoleg werdd i adeiladu diwydiant sy'n diogelu ar gyfer y dyfodol yn unol ag ymrwymiad y Senedd hon i fynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd. Roedd hi'n 30 gradd ddoe yn y cylch Arctig. Mae'r argyfwng hwnnw hefyd yn dyfnhau. Gadewch inni fuddsoddi mewn trafnidiaeth werdd a thai wedi'u datgarboneiddio, gan ddechrau gyda'r ardaloedd lle mae'r tlodi tanwydd mwyaf. Gadewch i ni ailfywiogi sylfeini'r economi drwy gysylltu cymunedau a thrwy wella seilwaith mewn trefi sydd wedi cael eu gadael ar ôl—symud swyddi'r Llywodraeth yno a chaniatáu i bobl weithio o'u cartrefi.
A gadewch i ni adeiladu'r economi newydd hon ar sylfeini tecach drwy roi blaenoriaeth i lesiant. Rhaid inni sicrhau cyflog teg i ofalwyr, mynd i'r afael ag anfanteision a wynebir gan bobl heb eu grymuso a gwarantu mynediad at gymorth iechyd meddwl i bawb sydd ei angen. Mae Chwarae Teg wedi dweud y dylem adeiladu economi ar gyfer y dyfodol yn seiliedig ar werthoedd bod yn fodau dynol gofalgar, a rhoi pobl a'r blaned wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Mae'r gerdd honno gan Langston Hughes a ddyfynnais wedi'i rhannu gan nifer mewn ymateb i'r hiliaeth a'r anghydraddoldebau strwythurol a gwreiddiedig yn ein cymdeithas. Bydd yn rhaid i beth bynnag a adeiladwn ar ôl y feirws ddileu'r plâu hynny hefyd.
Rydym wedi nodi rhai o syniadau Plaid Cymru, ond rydym am glywed barn dinasyddion Cymru, a dyna pam ein bod yn galw am sefydlu cynulliad dinasyddion, er mwyn gallu clywed lleisiau'r bobl sy'n aml yn teimlo eu bod yn cael eu hesgeuluso gan y system wleidyddol. Roeddwn yn synnu braidd fod Llywodraeth Cymru wedi dileu'r cyfeiriad at gynulliad dinasyddion yn eu gwelliant. Byddwn yn eu hannog ar frys i ailystyried y penderfyniad hwnnw. Gadewch inni roi mwy o lais i'r Cymry yn y dyfodol a rannwn. Mae cynulliadau dinasyddion wedi bod yn allweddol ledled y byd yn y broses o gyflwyno newid radical.
Rydym yn wynebu her ein hoes, ond mae gennym gyfle yma hefyd i adeiladu byd sy'n dda ac yn hardd a charedig. Os ydym am lwyddo, ni allwn wneud hynny ar ein pen ein hunain. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddechrau gwrando. Dechreuwch heddiw drwy roi ystyriaeth ddifrifol i'r syniadau a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelodau a minnau, a byddwch yn feiddgar: sefydlwch gynulliad dinasyddion fel y gall Cymru symud ymlaen gyda'n gilydd fel cenedl barod. Rwyf wedi blino cymaint ar aros. Onid ydych chi? Gadewch inni adeiladu'r byd gwell hwnnw.
Er y gallwn gytuno â llawer o'r mentrau y soniodd Helen Mary amdanynt yn ei chyflwyniad i'r ddadl, credwn fod gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau cynllun gwarantu swyddi i'r bobl ifanc sy'n dioddef diweithdra o ganlyniad i argyfwng coronafeirws yn gysyniad byrbwyll. Yn gyntaf, gallai fod iddo oblygiadau ariannol sylweddol, sydd bron yn sicr o fod yn anymarferol o ystyried adnoddau'r Llywodraeth sydd eisoes yn brin oherwydd eu rhaglenni ymyrraeth niferus mewn perthynas â'r coronafeirws. Yn ail, mae'n codi'r cwestiwn: pam mai dim ond yr ifanc ddylai gael eu cynnwys yn y cynnig hwn? Mae miloedd lawer o bobl nad ystyrir eu bod yn ifanc yn yr ystyr hon, ond sydd â theuluoedd i'w cynnal yn ogystal â morgeisi a galwadau ariannol eraill, galwadau nad ydynt yn berthnasol fel y cyfryw i lawer o'n pobl ifanc. Rydym yn cytuno—yn wir, byddem yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu cynifer o gynlluniau ailhyfforddi â phosibl, ond dylai'r rhain fod yn agored i bawb sy'n colli swyddi oherwydd yr argyfwng hwn, nid pobl ifanc yn unig.
Ni allwn gefnogi'r alwad chwaith am gynulliad dinasyddion i sefydlu sut y dylem adeiladu'r economi ar ôl y coronafeirws. Ni, fel seneddwyr, a ddylai benderfynu sut i symud ymlaen. Ni yw cynrychiolwyr etholedig y bobl. Maent yn ymddiried ynom i roi'r strategaethau a'r polisïau ar waith i fywiogi'r economi, nid yn unig ar ôl argyfyngau o'r fath ond ar bob adeg tra byddwn yn arfer y pŵer, boed hynny'n uniongyrchol, os mai ni yw Llywodraeth y dydd, neu drwy graffu a dylanwadu fel gwrthblaid. Bydd sefydlu cynulliad dinasyddion, wrth gwrs, yn ymarfer drud, ac ni ellir cyfiawnhau gwariant o'r fath yn ystod y cyfnod hwn o bwysau ariannol eithafol.
Mae'r cynnig olaf yn y ddadl hon yn edrych fel rhan o restr ddymuniadau Gymreig sy'n anghyraeddadwy. O ble y daw'r biliynau—codi trethi, benthyca, neu fel yr awgrymodd Helen Mary, drwy fondiau'r Llywodraeth? Rydym i gyd yn cydnabod y bydd pobl ifanc y wlad hon yn wynebu codiadau treth am flynyddoedd, efallai degawdau, i ddod o ganlyniad i strategaeth cyfyngiadau symud y coronafeirws. Felly, er gwaethaf y sicrwydd a amlinellwyd gan Delyth Jewell a Rhun ap Iorwerth, ni allwn eu llethu â mwy fyth o ddyled er mwyn ailadeiladu'r economi. Rwy'n cytuno â galwad Rhun i wthio'r botwm ailgychwyn, ond yn anffodus, yn llawer rhy aml, nid yw'r biliynau a wariwyd gan y Llywodraeth wedi arwain at lawer o werth am arian. Rhaid i'r economi gael ei hadeiladu drwy waith caled o'r gwaelod i fyny, nid drwy haelioni arian Llywodraeth.
Mae'r elfennau, wrth gwrs, yn y cynnig yma yn rhoi rhai o'r sylfeini i ni ar gyfer beth sydd, yn ei hanfod, yn weithredu bargen werdd newydd i Gymru. Rŷn ni wedi clywed yr enghraifft yn gyson yn ystod y ddadl hyd yma ynglŷn â retroffitio tai, ac, wrth gwrs, mae'n enghraifft berffaith, onid yw hi, o'r llinell waelod driphlyg yna—y tripple bottom line yna—sydd angen inni ffocysu arni wrth inni adfer ein bywydau yn y cyfnod ôl-COVID-19? Mae'n rhoi manteision ac enillion a buddiannau amgylcheddol inni wrth leihau ôl troed carbon ein cartrefi ni ar draws Cymru, mae'n dod â buddion economaidd hefyd, wrth gwrs, drwy greu swyddi newydd a busnesau newydd ymhob rhan o'r wlad, a buddion cymdeithasol hefyd, sy'n helpu i daclo tlodi tanwydd, gwella iechyd pobl na fydd bellach, wrth gwrs, yn byw mewn tai tamp ac oer, a gobeithio hefyd yn achub bywydau wrth leihau marwolaethau ychwanegol y gaeaf—y winter excess deaths rŷn ni'n clywed amdanyn nhw bob gaeaf.
Nawr, mae'r term 'bargen newydd werdd', wrth gwrs, yn deillio o Fargen Newydd Roosevelt yn America y 1930au. A phan oedd y Dirwasgiad Mawr ar ei waethaf, roedd tri nod i'w fargen newydd: darparu rhyddhad i'r tlodion, darparu adferiad economaidd, ac wrth gwrs, diwygio systemau ariannol fel na fyddai dirwasgiad economaidd yn digwydd eto. Felly, rhyddhad, adferiad, diwygiad. Ac yn sgil hynny buddsoddodd y Gyngres wedyn mewn rhaglenni a roddodd waith i'r di-waith, a gwaith a oedd yn cyflawni diben yn y gymdeithas, megis adeiladu ffyrdd, adeiladu ysgolion, ysbytai ac ati. Ac mae'r syniadau sylfaenol hyn yr un mor ddilys heddiw. Ond yn gyntaf, mae'n rhaid inni ymwrthod â'r ysfa i dorri gwariant—ni all hyn fod yn ddechrau ar ail gyni ariannol, oherwydd gwyddom yn union beth y mae hynny'n ei olygu, a beth yw'r pris y mae'n rhaid i bobl ei dalu am ddull o'r fath o fynd ati. Mae'n rhaid i'r fargen newydd werdd arwain at fuddsoddi, a buddsoddi'n benodol, wrth gwrs, mewn prosiectau sy'n helpu i fynd i'r afael ag argyfwng hinsawdd a natur.
A hoffwn dynnu sylw pobl at astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol Rhydychen a oedd yn cymharu prosiectau ysgogi gwyrdd â chynlluniau ysgogi traddodiadol, megis rhai o'r camau a gymerwyd ar ôl argyfwng ariannol byd-eang 2008. Canfu'r ymchwil honno fod prosiectau gwyrdd mewn gwirionedd yn creu mwy o swyddi, eu bod yn darparu enillion tymor byr uwch am bob punt a werir gan y Llywodraeth, a'u bod yn arwain at arbedion cost cynyddol yn y tymor hir. Ac wrth gwrs, nid oes rhaid i ddim o hyn aros. Mae gennym gynlluniau parod allan yno yn awr yng Nghymru, boed yn rhaglenni effeithlonrwydd ynni a grybwyllwyd gennym eisoes, prosiectau ynni adnewyddadwy—mae morlyn llanw bae Abertawe yn enghraifft amlwg, gyda phrosiectau dilynol posibl o amgylch rhannau eraill o arfordir Cymru yn ogystal—gan sefydlu, o'r diwedd, y rhwydweithiau gwefru cerbydau trydan sydd eu hangen arnom ledled Cymru, ailgynllunio ffyrdd ar gyfer mwy o deithio llesol, amddiffyn rhag llifogydd, plannu coed. Mae Cymru'n barod ar gyfer y math hwnnw o fuddsoddiad.
Nawr, hoffwn ddweud ychydig eiriau yn ogystal am y sector bwyd a diod yng Nghymru, nid wisgi'n unig, gyda llaw, ond y sector cyfan yma. Oherwydd rwy'n credu mai nawr yw'r amser i ni ailfeddwl, ailosod ac ailadeiladu ein system cyflenwi bwyd yng Nghymru, o'r gwaelod i fyny. Dros y degawdau diwethaf, rydym wedi caniatáu i'n diwydiant manwerthu bwyd ddod yn fwy canoledig, i bwynt lle rydym yn gweld pedwar cwmni'n unig bellach yn rheoli 70 y cant o farchnad fanwerthu bwyd y DU. Ac mae canoli pŵer ymysg ychydig o fanwerthwyr bwyd mawr yn y fath fodd wedi rhoi pŵer digynsail iddynt i bennu prisiau is i ffermwyr, a gwanhau iechyd ariannol amaethyddiaeth ddomestig a'r economi wledig ehangach yn barhaus. Ac o ganlyniad i hyn, mae diogelwch ein cyflenwad bwyd wedi gwaethygu mewn gwirionedd, gyda'r DU bellach yn mewnforio bron i 40 y cant o'r holl fwyd a ddefnyddiwn. Ac mae'r model hwnnw'n wallus. Ac roedd eisoes ar drywydd peryglus, hyd yn oed cyn COVID-19. Ac nid wyf wedi sôn am Brexit hyd yn oed, sy'n rhoi rheswm arall pam fod rhaid gyrru'r gwaith o ail-lunio ein system fwyd a chreu mwy o gydnerthedd yn wyneb ansicrwydd pellach.
Felly, mae angen inni ganolbwyntio o'r newydd ar ddatblygu galluoedd prosesu i ychwanegu gwerth at gynnyrch crai. Rydym wedi gweld colli lladd-dai a ffatrïoedd prosesu llaeth, yn enwedig yng ngogledd-ddwyrain Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, sy'n golygu, wrth gwrs, fod cannoedd o swyddi wedi'u colli, fod miloedd o filltiroedd bwyd wedi'u hychwanegu, a bod cynhyrchwyr bwyd sylfaenol wedi dod yn fwy agored byth i effaith marchnadoedd byd-eang.
Felly, mae angen inni symud oddi wrth system 'mewn union bryd' at system 'rhag ofn', a thrwy gefnogi datblygiad galluoedd prosesu lleol, mae angen inni ddechrau datganoli cynhyrchiant bwyd. Mae angen inni ei wneud yn decach, mae angen inni ei wneud yn fwy cynaliadwy, ac wedi hynny, wrth gwrs, helpu i adeiladu economi leol gryfach. Ond mae angen i'r Llywodraeth wneud iddo ddigwydd, ac os dysgwn un wers o'r pandemig hwn, rhaid inni weld y gall Llywodraethau gael effaith drawsnewidiol mewn gwirionedd, ond dim ond pan fyddant yn ewyllysio hynny. Ac nid yw'r trawsnewid hwnnw, wrth gwrs, yn ymwneud â thwf economaidd yn unig, mae'n ymwneud â mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, mae'n ymwneud â chydraddoldeb, diogelu bywoliaeth pobl, rhoi diwedd ar fanciau bwyd, atal hunanladdiad, bod yn gyfrifol yn fyd-eang—mae'n ymwneud â hynny i gyd—a dyma'r foment i'w wneud.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau, ac rwy'n sicr yn croesawu'r cyfle hwn i ymateb iddynt. Ers cyhoeddi ein cynlluniau ar gyfer y modd y bwriadwn ddychwelyd i'r drefn arferol, neu mor normal â phosibl, yma yng Nghymru, ar 15 Mai, rydym wedi bod yn cynllunio'r camau nesaf, ac mae'n bwysig ein bod yn paratoi ar gyfer y dyfodol sydd o'n blaenau. Rwy'n credu bod pob Aelod yn y Siambr rithwir heddiw yn gytûn ar hyn.
Rydym bob amser wedi bod yn glir fod yn rhaid i'n dull o lacio cyfyngiadau fod yn seiliedig ar wyddoniaeth a hefyd, fod yn rhaid i ddiogelwch gweithwyr fod ar flaen y penderfyniadau a wnawn. Rwyf wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd â chyngor partneriaeth gymdeithasol y gwrthbleidiau, a byddaf yn parhau i wneud hynny, er mwyn trafod y materion rydym yn eu rhannu a'r mesurau y gallwn eu cyflwyno er mwyn parhau â'n hymateb i'r ffordd rydym yn ymdrin â COVID-19. A fy ngorchwyl i, wrth gwrs, yw sicrhau, pan fydd yr amser yn iawn, fod ein busnesau, ein rhwydwaith trafnidiaeth a'n system sgiliau yn barod, nid yn unig i addasu a phontio ar gyfer bywyd wedi'r coronafeirws, ond yn hollbwysig, ein bod yn barod ac yn abl ac yn awyddus i adeiladu nôl yn well er mwyn y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol.
Nawr, fel rwyf wedi dweud dro ar ôl tro, rydym wedi rhoi'r pecyn cymorth mwyaf hael yn y DU ar waith i fusnesau yng Nghymru—gwerth £1.7 biliwn o gymorth i gyd. Ond nid oes modd osgoi dirwasgiad, ac felly mae'n rhaid sicrhau cymorth digynsail i bobl yr effeithir arnynt yn y tymor hwy yn sgil y coronafeirws.
Ar hyn o bryd, gwyddom fod tua thraean o'r gweithlu yn ddi-waith neu ar ffyrlo yma yng Nghymru, gyda mwy o swyddi mewn perygl, yn dibynnu, wrth gwrs, ar y math o siâp fydd i'r adferiad yn y pen draw. Ac fel mewn dirwasgiadau blaenorol, fel y nododd Helen Mary Jones ar y dechrau, y bobl fwyaf agored i niwed yn y farchnad lafur fydd yn cael eu taro galetaf, a phobl ifanc yw un o'r grwpiau sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio'n anghymesur.
Nawr, mae cymorth cyflogadwyedd yn hanfodol mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd, ac felly ein gweledigaeth yw cefnogi dychweliad y gweithlu presennol, ailgychwyn taith gwaith yr unigolyn ac ailsgilio unigolion i ddychwelyd i sectorau newydd, tra'n paratoi gweithlu'r dyfodol. Byddwn yn blaenoriaethu cymorth i bobl ifanc er mwyn lleihau'r cynnydd mewn diweithdra ymysg ieuenctid ac i ddiogelu pobl ifanc rhag yr effeithiau niweidiol hirdymor y gall cyfnod hir o ddiweithdra eu cael.
Drwy Twf Swyddi Cymru, rwy'n credu ein bod wedi dangos yn deg ac yn ddigonol ac yn falch iawn ein parodrwydd a'n gallu i helpu pobl ifanc i osgoi diweithdra hirdymor. Mewn rhai rhannau o Loegr, rhwng 2010 a 2015, gwelsom ddiweithdra hirdymor ymysg pobl ifanc yn cynyddu filoedd y cant, ond yma yng Nghymru, oherwydd Twf Swyddi Cymru, mewn rhai rhannau o'n gwlad, gwelsom gwymp dros y cyfnod hwnnw mewn diweithdra hirdymor ymysg pobl ifanc. Felly, byddwn yn defnyddio'r cynllun hwnnw a chynlluniau eraill i gefnogi'r genhedlaeth hon o bobl ifanc.
Byddwn hefyd yn defnyddio ein hymyriadau ail-gyflogi yn awr. Byddwn yn defnyddio ReAct, Cymorth Gwaith Cymru a'r rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd i helpu pobl yn ôl i waith yn gyflym, tra bydd ein rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol yn darparu cymorth dwys i'r rhai sydd ymhellach i ffwrdd o'r farchnad lafur.
Byddwn hefyd yn tyfu ac yn cefnogi swyddi ar gyfer y dyfodol drwy uwchsgilio ac ailsgilio i gynorthwyo cyflogwyr i addasu a thrawsnewid eu sylfaen sgiliau er mwyn cynnal a thyfu cyflogaeth. Ac un flwyddyn yn unig ers ei lansio'n swyddogol, mae Cymru'n Gweithio wedi cynorthwyo mwy na 31,500 o bobl yn uniongyrchol, a thros 6,000 o bobl ifanc a oedd yn chwilio am gymorth cyflogadwyedd. Mae'r gwasanaeth hwnnw, wrth gwrs, wedi newid o ganlyniad i'r coronafeirws, ond nid dyna'r unig newid rydym yn ei wneud.
Ar 20 Mai, amlinellodd y Gweinidog Addysg gynllun gwytnwch i'r sector ôl-16 er mwyn rhoi fframwaith clir i ddarparwyr addysg ar gyfer cynllunio a chyflawni ein hymateb cyflogadwyedd a sgiliau. Ar gyfer prentisiaid, rydym wedi datblygu modiwlau dysgu ar-lein i sicrhau eu bod yn gallu parhau i symud ymlaen drwy eu dysgu. Ac ar gyfer ein dysgwyr hyfforddeiaeth, rydym wedi datblygu pecynnau dysgu digidol ac wedi cynnal eu lwfansau hyfforddi.
Mae ein rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol yn addasu hefyd wrth gwrs. O ran eu cyflawniad, maent yn newid er mwyn darparu allgymorth i'n cymunedau mwyaf bregus, gan gefnogi'r rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur, yn cynnwys pobl anabl, pobl heb lawer o sgiliau, ac unigolion o gefndir du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. A hyd yn hyn, maent wedi cefnogi 47,600 o bobl; mae 17,900 o'r rheini wedi cael gwaith cyflogedig. Ac i'r rhai sydd mewn gwaith, mae Cronfa Ddysgu'r Undebau, gyda chymorth Cyngres Undebau Llafur Cymru, yn darparu—[Anghlywadwy.]—a chymorth uniongyrchol i weithwyr yn ystod ac ar ôl yr argyfwng coronafeirws.
Rwyf am sôn am rai pwyntiau penodol a wnaethpwyd gan Aelodau: yn gyntaf oll, y cwestiwn o rôl i gynulliad dinasyddion. Nawr, yma yng Nghymru, mae gennym fodelau unigryw iawn o bartneriaeth gymdeithasol ac mae'n rhaid inni ddiogelu'r cyfraniad y mae ein partneriaid cymdeithasol yn ei wneud yn helpu i lywio a llunio polisi. Ni ddylem danseilio ein model partneriaeth gymdeithasol yn anfwriadol. Mae gennym gomisiynwyr hefyd. A thrwy'r gwaith y mae Jeremy Miles yn ei arwain, rydym yn galw am syniadau, arloesedd a chreadigrwydd gan bawb—pawb—o'n dinasyddion a'n sefydliadau. Ac felly, er nad ydym yn diystyru'r rôl bosibl i gynulliad dinasyddion, ni ddylai danseilio na dyblygu'r model cymdeithasol o bartneriaeth rydym wedi gallu ei ddatblygu yma yng Nghymru.
O ran y sector tafarndai, rwy'n cytuno'n llwyr fod tafarnau yn gwbl greiddiol i lawer o'n cymunedau. Ac rwy'n benderfynol o sicrhau ein bod yn cefnogi tafarnau annibynnol, bragdai annibynnol a'r sefydliadau sy'n dod â phobl at ei gilydd. Rydym yr un mor benderfynol o wneud yn siŵr ein bod yn cefnogi'r sector bwyd a diod; mae nifer o'r Aelodau wedi nodi hynny. Bu twf aruthrol mewn allforion yn ddiweddar o fewn busnesau bwyd a diod Cymru, ac rydym yn benderfynol o wneud yn siŵr fod y llwyddiant hwnnw'n parhau, oherwydd mae llawer o'r busnesau hynny ymhlith ein brandiau mawr eu bri ac yn chwifio baner Cymru.
Nawr, nododd Mike Hedges yn gywir y rôl y bydd seilwaith cymdeithasol yn ei chwarae yn y gwaith adfer a nododd, yn enwedig theatrau. Nawr, rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio'r adferiad i uno pobl, i wella cydlyniant cymdeithasol, ac felly ar ddechrau cyfnod y coronafeirws roeddem wedi ymrwymo i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, i ganolfannau iechyd newydd, i wella sefydliadau diwylliannol, megis adnewyddu Theatr Clwyd ac eraill, ac rydym yn parhau'n ymrwymedig i'n rhaglen hynod uchelgeisiol o adfer, adnewyddu a chreu seilwaith cymdeithasol newydd.
Hoffwn gyffwrdd â phwynt a wnaeth Janet Finch-Saunders ynglŷn â'r cynllun cadw swyddi a'r cynllun cymorth i'r hunangyflogedig. Rwy'n croesawu—gadewch i mi fod yn gwbl glir; rwy'n croesawu—y ddau gynllun. Maent wedi bod yn hanfodol bwysig wrth gefnogi pobl a busnesau yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn. Ond ni ellir eu tynnu'n ôl yn gynamserol. Ni allwn ganiatáu i bobl a busnesau wynebu ymyl clogwyn o ran y cymorth a gynigir drwy'r cynlluniau hyn.
Mewn ymateb i David Rowlands, bydd cymorth ar gael i bobl o bob oed, nid yn unig i bobl ifanc, ond i bobl o bob oed. Ac yn benodol y tro hwn—ac nid oedd ar gael yn ôl yn y cyfnod ar ôl 2008—mae gennym Cymru'n Gweithio, un pwynt cyswllt a fydd yn cynnig cymorth pwrpasol wedi'i deilwra ar gyfer pob unigolyn yr effeithir arnynt gan ddiweithdra neu gan y bygythiad o ddiweithdra.
Felly, Ddirprwy Lywydd, rydym yn awyddus i wneud mwy nag ymadfer o'r pandemig hwn; rydym am adeiladu nôl yn well drwy greu economi genedlaethol sy'n gweld cyflogaeth, cyfoeth a ffyniant yn lledaenu'n fwy cyfartal, yn decach, ledled Cymru, ac ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb gefnogaeth ein partneriaid cymdeithasol yn y gwaith a wnawn. Mae egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol, gwaith teg a chynaliadwyedd amgylcheddol yn llywio penderfyniadau'r Llywodraeth hon. Bydd COVID-19 yn ailffurfio'r economi yn sylfaenol, ac felly mae'n golygu nad oes modd mynd yn ôl—ac ni ddylem fynd yn ôl. Mae camgymeriadau polisi y gorffennol—cyni a phreifateiddio yn anad dim—a orfodwyd ar Gymru yn y blynyddoedd cyn datganoli, ac ers hynny yn wir, wedi ein gadael yn fwy agored i ergydion fel coronafeirws.
Tra'n bod yn sicrhau ein bod yn cefnogi busnesau ac incwm aelwydydd yn ystod yr argyfwng hwn, bwriadwn fachu ar y foment hon fel ffenestr unigryw o gyfle i ailadeiladu ein cymdeithas a'n heconomi fel y dymunwn eu gweld. Felly, wrth adeiladu nôl yn well, ein nod yn y tymor hir yw economi wydn sydd â lles pobl a'r amgylchedd yn ganolog iddi.
Rwy'n croesawu'n fawr y syniadau sydd wedi'u cynnig heddiw. Dim ond dechrau yw hyn, gobeithio, ar ddeialog adeiladol ar draws y pleidiau a chyda llu o gyrff, sefydliadau a dinasyddion ledled Cymru.
Diolch. Ni chafwyd unrhyw geisiadau am ymyriadau, felly galwaf ar Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl. Helen Mary Jones.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu. Yn yr ychydig funudau sydd ar gael i mi gloi'r ddadl hon, ni allaf ymateb iddynt i gyd, ond rwyf am ymateb i rai pwyntiau.
I'r Aelodau Ceidwadol yma, rwyf am ddweud hyn wrthych: y peth mwyaf defnyddiol y gallwch ei wneud i'ch etholwyr yn awr yw mynd at eich Llywodraeth yn San Steffan a dadlau dros y Senedd hon—ein Llywodraeth—er mwyn iddi allu benthyg arian fel unrhyw sefydliad cenedlaethol synhwyrol arall ar yr adeg hon, er mwyn inni allu ailadeiladu. Nid oes a wnelo hyn â llethu cenedlaethau'r dyfodol â dyledion; mae'n ymwneud â sicrhau ein bod yn ailadeiladu ein heconomi yn y fath fodd fel bod yr economi honno'n cynhyrchu digon o gyfoeth er mwyn inni allu talu'r dyledion sydd gennym, a dyna'n union y mae pob gwlad normal yn ei wneud.
Cefais fy nghyffwrdd braidd gan yr hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders am y ddraig yn rhuo, ac rwyf wedi cyrraedd y pwynt lle nad wyf eisiau i'r ddraig ruo cymaint—rwyf am i'r ddraig lapio o amgylch ei hwyau, a meithrin ei nythaid, gan ddatblygu a chadw cenedlaethau'r dyfodol yn ddiogel, a dyna, wrth gwrs, yw'r hyn y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn mynnu ein bod ni yn ei wneud.
Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth a ddywedodd y Gweinidog. Byddai'n anodd iawn anghytuno ag unrhyw beth a ddywedodd y Gweinidog. Ond yr hyn nad wyf yn ei synhwyro yw'r ymdeimlad o frys, ac mae hynny'n fy mhoeni. Ond fe gymeraf yr hyn a ddywedodd fel y cafodd ei ddweud, a byddwn yn cyfrannu ein syniadau. Bydd angen adnoddau ar gyfer hyn. Bydd angen pwerau benthyca arnom, a bydd angen inni edrych eto ar y fformiwla ariannu, oherwydd nid yw'n gweithio.
Hoffwn ymateb ychydig hefyd, os caf, Ddirprwy Lywydd, i rai o'r pwyntiau am gynulliad dinasyddion. Nawr, dywedodd Mike Hedges yn ei gyfraniad, ac roeddwn yn meddwl ei fod yn ddilys iawn, nad oeddem eisiau siop siarad arall—nid dyna'r geiriau a ddywedodd yn hollol, ond siop siarad arall er mwyn i'r bobl sydd bob amser yn cymryd rhan allu siarad. Ac yna aeth y Gweinidog yn ei flaen i ddweud bod yn rhaid inni beidio â thanseilio partneriaethau cymdeithasol. Wel, mae'r bobl sydd yn y partneriaethau cymdeithasol, yn y cyfarfodydd hynny, yn gallu mynegi eu pryderon eisoes, a phwynt cynulliad dinasyddion yw ychwanegu at hynny. Ceir modelau, ceir modelau effeithiol—mae gan Extinction Rebellion Cymru un, er enghraifft, glasbrint—sy'n seiliedig ar enghreifftiau rhyngwladol a fydd yn sicrhau nad y lleisiau arferol yn unig, nad y bobl sy'n gallu lleisio'u barn eisoes yn unig fydd yn cymryd rhan. Ac mae'r Aelodau hefyd wedi dweud mai mater i ni fel Senedd ac i'n Llywodraeth yw hwn. Wel, wrth gwrs, ond nid wyf yn meddwl bod yr un ohonom yma yn yr ystafell yn meddwl bod gan unrhyw un ohonom yr atebion i gyd. Nid yw hynny'n bosibl, gan na wyddom yn iawn eto beth yw'r cwestiynau hyd yn oed.
Ddirprwy Lywydd, yr hyn rydym yn ei gynnig heddiw yw rhai mesurau brys i ddechrau cael pethau i symud eto. Mae angen inni sicrhau bod ein pobl ifanc yn gweithio. 'Pam pobl ifanc?' meddai pobl—wel, am mai hwy sydd fwyaf tebygol o gael eu gwneud yn ddi-waith ar adegau fel hyn, ac os nad ydym yn eu helpu yn ôl i'r gwaith, mae yna effaith ar eu rhagolygon ar hyd eu hoes os ydynt allan o waith am fwy na chwe mis.
Mae angen inni ailsgilio'r economi, mae arnom angen buddsoddiad priodol i wneud hynny, ac mae arnom angen ffyrdd newydd ac arloesol o ymgynghori â'n cyd-ddinasyddion ynglŷn â'r ffordd orau o wneud hynny. Fel y dywedodd y Gweinidog, Ddirprwy Lywydd, rwy'n siŵr mai dim ond dechrau sgwrs yw hyn, ond rwy'n credu bod ar bobl Cymru angen mwy na sgwrs gennym; rwy'n credu bod angen gweithredu. Maent angen i ni weithio nawr. Mae angen cymryd y camau cyntaf wrth inni edrych i weld beth ddylai'r camau fod yn y tymor hir. Felly, gyda'r ychydig eiriau hynny, sef y cyfan y mae'r amser yn gadael i mi ei wneud, a chan ddiolch eto i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu—cafwyd llawer o gyfraniadau gwerthfawr a diddorol heddiw—rwyf am ddweud fy mod yn cymeradwyo'r cynnig hwn, gyda gwelliant 3, i'r Senedd. Nid yw'n ddigon i'r Llywodraeth restru'r hyn y mae eisoes yn ei wneud. Rydym angen mwy. Mae pobl Cymru'n disgwyl mwy. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Dwi'n gweld gwrthwynebiad. Diolch. Dwi'n gweld ac yn clywed y gwrthwynebiad, felly fe ohiriwn ni'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.