5. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Tai, Tlodi a Chymunedau

– Senedd Cymru am 5:11 pm ar 15 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:11, 15 Medi 2020

Yr eitem nesaf o fusnes yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar dai, tlodi a chymunedau a dwi'n galw ar y Gweinidog hynny i wneud y datganiad. Julie James.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae pandemig y coronafeirws yn parhau i gael effaith sylweddol ar fywyd bob dydd. Fel y gwelsom ni yn ddiweddar, mae'n dal i achosi heriau mawr i bob un ohonom ni ac yn arbennig i'n hawdurdodau lleol.

Hoffwn ddiolch iddyn nhw ac i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sydd wedi gweithio mor galed ac wedi bod mor ymatebol wrth dorchi llewys i fynd i'r afael â'r sefyllfa. Rydym ni wedi gweld ymgysylltu a chyd-gynhyrchu fel na welsom ni erioed o'r blaen; y llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol yn gweithio law yn llaw i gefnogi ein dinasyddion a'n cymunedau, yn enwedig y rhai a oedd fwyaf agored i niwed—dull unigryw Gymreig lle gallai arweinwyr llywodraeth leol fynd at y Gweinidogion ynghylch y materion a oedd o bwys gwirioneddol, pan roedd hynny'n bwysig. Rydym ni wedi ymrwymo cyllid sylweddol i lywodraeth leol. Mae cronfa galedi llywodraeth leol yn darparu bron iawn £0.5 biliwn i gefnogi awdurdodau i ymateb i effeithiau'r pandemig. Hoffwn ddiolch i CLlLC, y cyngor partneriaeth a Chymdeithas Trysoryddion Cymru am eu gwaith parhaus gyda ni i alluogi gwasanaethau i barhau i redeg, addasu a diwallu anghenion poblogaethau lleol.

Ar gyfer y dyfodol, bwriadwn roi ein system a'n strwythurau partneriaeth gymdeithasol sefydledig ar sail statudol, cryfhau trefniadau ymhellach a chefnogi trafodaethau adeiladol gyda'n partneriaid cymdeithasol ar gyfer y dyfodol y mae ar Gymru ei eisiau ar ôl COVID-19. Un o flaenoriaethau'r dyfodol hwnnw yw atal digartrefedd a rhoi terfyn ar ddigartrefedd o bob math. Ar ddechrau'r pandemig, aethom ati ar unwaith i amddiffyn y rhai a oedd yn ddigartref, gan ddarparu £10 miliwn o gyllid ychwanegol, i sicrhau na adawyd neb heb lety. Rhoddwyd cymorth i dros 2,200 o bobl gael llety dros dro neu mewn argyfwng—cyflawniad enfawr. Ond mae heriau o'n blaenau. Rwyf wedi'i gwneud hi'n gwbl glir nad wyf eisiau gweld neb yn cael ei orfodi'n ôl ar y strydoedd.

I'r perwyl hwn, ym mis Mai, cyhoeddais gam nesaf ein hymateb i ddigartrefedd. Cyflwynodd pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru geisiadau, yn nodi sut y byddant yn sicrhau nad oes angen i neb ddychwelyd i'r strydoedd, gan ganolbwyntio ar arloesi, adeiladu ac ailfodelu, i drawsnewid y llety a gynigir ledled Cymru. Roedd gor-alw sylweddol am gymorth o'r gronfa arian cyfalaf wreiddiol yn adlewyrchu maint yr uchelgais i sicrhau newid hirdymor, cynaliadwy a sylfaenol i wasanaethau digartrefedd yng Nghymru. Dangosodd yn eithaf amlwg hefyd nad oedd y gronfa gychwynnol o £10.5 miliwn o gyfalaf yn cyd-fynd â'r uchelgais yr ydym ni i gyd yn ei rhannu. Felly, cynyddais yn sylweddol yr arian cyfalaf cyffredinol sydd ar gael i £50 miliwn, gan ddangos ein hymrwymiad i wneud newid sylweddol a gwirioneddol drawsffurfiol o ran cyflawni ein nod o roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Rydym ni wedi dyrannu cyllid dros dro i 70 o brosiectau cyfalaf, gan gefnogi pobl i gael llety sefydlog neu drawsnewid gwasanaethau ar gyfer y tymor hir.

Eto o ran tai, rwy'n croesawu atal troi pobl allan tan 20 Medi, ac rwy'n hapus iawn fod y llys wedi rhoi mesurau ar waith i sicrhau bod effeithiau'r pandemig yn cael eu hystyried. Gan ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael imi dan Ddeddf Coronafeirws 2020, rwyf wedi gweithredu i roi amddiffyniad ychwanegol i bobl sy'n rhentu drwy gynyddu cyfnodau rhybudd ar gyfer troi allan i chwe mis, ac eithrio o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roeddwn yn falch o weld bod Llywodraeth y DU wedi gwneud newidiadau tebyg ers hynny. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn parhau i amddiffyn rhentwyr gan liniaru effeithiau ar landlordiaid ar yr un pryd. Felly, bwriadaf wneud rheoliadau sy'n ymestyn yr amddiffyniadau presennol tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Ar yr un pryd, ac i gydnabod yr angen i fynd i'r afael ag effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gymunedau ac ymddygiad negyddol arall mewn modd amserol, bwriadaf leihau'r cyfnodau rhybudd lle mae sail i feddiannu eiddo oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol a cham-drin domestig i'r sefyllfa oedd yn bodoli cyn COVID. Lle mae ôl-ddyledion rhent wedi cronni oherwydd COVID-19, bydd tenantiaid y sector rhentu preifat yn gallu gwneud cais am fenthyciad drwy'r cynllun benthyciadau arbed tenantiaeth cyn bo hir pan fydd yn agor ar gyfer ceisiadau yn ddiweddarach y mis hwn. Rydym ni hefyd wedi darparu £1.4 miliwn ychwanegol i hybu gwasanaethau sy'n helpu pobl yng Nghymru i reoli dyledion problemus a gwella incwm eu haelwydydd.

Gan edrych y tu hwnt i'r pandemig, rydym yn parhau â'n Bil i ddiwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i gynyddu sicrwydd deiliadaeth. Mae'r Bil yn ymestyn y cyfnod rhybudd dim bai o ddau i chwe mis, a bydd landlordiaid yn cael eu hatal rhag cyflwyno hysbysiad dim bai tan o leiaf chwe mis o'r dyddiad meddiannaeth. Mae hyn yn golygu y bydd gan y rhai sy'n rhentu eu cartrefi o leiaf 12 mis o sicrwydd deiliadaeth o ddechrau eu contract, sy'n golygu y bydd sicrwydd deiliadaeth yng Nghymru yn fwy nag mewn rhannau eraill o'r DU.

Mae canlyniadau'r pandemig yn bellgyrhaeddol, ac, yn anffodus, bydd effaith economaidd COVID-19 yn golygu cynnydd sylweddol mewn tlodi. Cyn argyfwng COVID-19, comisiynais adolygiad tlodi plant, a oedd yn ceisio archwilio beth arall y gellid ei wneud i wella amgylchiadau i blant a phobl ifanc. Mae'r pandemig wedi cael effeithiau mor bellgyrhaeddol ar fywydau pobl yng Nghymru a'n heconomi, credwn nad yw canfyddiadau'r adolygiad hwnnw bellach yn adlewyrchu'r sefyllfa bresennol yn llawn. Mae camau ymarferol i helpu i liniaru effaith yr argyfwng ar deuluoedd sy'n byw mewn tlodi yn fater brys ac angenrheidiol ar hyn o bryd. Rydym yn canolbwyntio ar weithredu i sicrhau'r incwm mwyaf posibl a rhoi cymorth i deuluoedd i feithrin cydnerthedd ariannol. Rydym yn cydweithio â'n rhanddeiliaid i ddatblygu'r gwaith hwn dros y misoedd nesaf.

Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod rhai o'r buddion y mae awdurdodau lleol yn eu cynnig megis prydau ysgol am ddim a gostyngiad yn y dreth gyngor yn fwy hygyrch, yn ogystal â helpu i wneud y weinyddiaeth yn symlach ac yn llai dwys o ran adnoddau i awdurdodau lleol. Rydym hefyd yn datblygu dull 'dim ffordd anghywir' drwy system gymorth fwy integredig, gan gyfyngu ar sawl gwaith y mae'n rhaid i deuluoedd ac unigolion gysylltu a sawl gwaith y mae'n rhaid iddyn nhw ddweud eu stori er mwyn cael cymorth. A byddwn yn sicrhau bod gan y trydydd sector a gweithwyr rheng flaen eraill yr hyfforddiant, yr offer a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gefnogi unigolion a theuluoedd i gynyddu eu hincwm i'r eithaf.

Hoffwn orffen, Llywydd, drwy sôn am rai meysydd eraill a oedd yn sail i'n hymateb i'r pandemig ac a fydd yn parhau i fod yn flaenoriaethau wrth inni symud ymlaen. Diolch i awdurdodau lleol yn cynnal gwasanaethau hanfodol yn ystod y cyfyngiadau symud, rydym ni wedi gallu parhau i gyflawni amcanion ailgylchu a chamau gweithredu ar ddatgarboneiddio. Rydym yn parhau i gefnogi cymunedau ac eisiau adfywio canol trefi ac ehangu ar y twf mewn caffis trwsio a siopau diwastraff. I'r perwyl hwnnw, rydym ni wedi dyfarnu cyllid i Gaffi Trwsio Cymru ac wedi darparu cyllid ychwanegol i FareShare Cymru ehangu eu darpariaeth ailddosbarthu bwyd dros ben. Ac yn olaf, rydym ni wedi ehangu'r gronfa economi gylchol fel y gall gefnogi'r ymateb i'r amgylchiadau ar ôl COVID, a chyfrannu at adferiad gwyrdd. Mae hwn yn gyfnod anodd iawn, ond rydym ni wedi gweithio'n dda gyda'n gilydd. Bydd y cydweithio hwn yn darparu gwersi clir a llawer iawn o arferion da y gallwn ni ac y dylem ni eu mabwysiadu wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:18, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich datganiad. Fe wnaethoch chi gyfeirio at bobl a gafodd gymorth i gael llety dros dro neu mewn argyfwng. Sut ydych chi felly'n ymateb i'r adroddiad a ryddhawyd gan Archwilio Cymru ar 23 Gorffennaf ynglŷn ag osgoi sefyllfa lle mae pobl yn dychwelyd i gysgu ar y stryd ar ôl y pandemig, a ganfu fod hyd at £209 miliwn yn cael ei wastraffu'n flynyddol gan y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ymateb i gysgu ar y stryd, ond nid yn ei ddatrys, ac a oedd yn cyfeirio at enghreifftiau o gylch dieflig i ddefnyddwyr gwasanaeth a gynorthwyir oddi ar y strydoedd i mewn i lety dros dro ond heb y cymorth angenrheidiol i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol eu digartrefedd ac a oedd yn aml iawn yn dychwelyd i'r sefyllfa yr oedden nhw ynddi yn wreiddiol.

Rydych yn cyfeirio at y cynnydd yn y cyfnod rhybudd ar gyfer troi allan i chwe mis, ac eithrio oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol. A ydych chi felly—ac rydych chi wedi mynd i'r afael â hyn yn rhannol—yn cydnabod yr angen i amddiffyn tenantiaid a landlordiaid, yn enwedig yng ngoleuni dibyniaeth gynyddol pobl ar y sector rhentu preifat ar gyfer tai a'r effaith niweidiol y mae'r pandemig wedi'i chael ar y sector? Mae'r rhan fwyaf o landlordiaid yn gosod un neu ddau eiddo. Mae llawer yn dibynnu ar yr incwm hwnnw ar gyfer eu costau byw beunyddiol, er enghraifft landlord a ddywedodd wrthyf, 'Y tŷ yr wyf fi'n berchen arno yw fy unig eiddo. Rwy'n dibynnu ar y rhent fel fy unig incwm ar gyfer costau byw wrth i mi nesáu at oedran pensiwn y wladwriaeth. Fe'i rhentiais ar denantiaeth chwe mis. Mae'r cyfnod hwnnw bellach ar ben ac mae'r tenantiaid bedwar mis ar ôl ei hôl hi ar hyn o bryd, wedi rhoi'r gorau i gyfathrebu â mi neu fy asiantau, ac wedi fy ngadael gyda'r sefyllfa enbyd o beidio â chael incwm ond â biliau i'w talu o hyd. Bydd hyn yn parhau am gyfnod hir nawr. Rwy'n 63 oed, nid oes gennyf bensiwn, dim gwaith, rwy'n byw mewn cwch cul ar hyn o bryd, ac mae fy sefyllfa ariannol yn mynd yn annioddefol, ac rwy'n ofni am fy iechyd meddwl.'

Sut ydych chi'n ymateb i awgrymiadau, felly, gan Gymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl nid yn unig i fabwysiadu cynllun benthyciadau tenantiaid cost isel neu ddi-log ar gyfer ôl-ddyledion sy'n gysylltiedig â COVID-19, y cyfeirioch chi ato, ond i dalu'r landlord—neu a all fod—a mecanwaith i landlordiaid gael grantiau pryd nad yw rhentwyr yn fodlon cyfathrebu neu wneud cais eu hunain? Mae hyn yn arbennig o berthnasol i landlordiaid pryd dechreuodd achosion meddiant cyn yr arhosiad ac i'r rhai lle mae ôl-ddyledion wedi cronni nad ydynt yn gysylltiedig â COVID.

Sut ydych chi'n ymateb i'r alwad gan Gymdeithas Seicolegol Prydain i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ddatblygu strategaeth wrthdlodi drawsadrannol gynhwysfawr sy'n rhoi seicoleg wrth wraidd ei dull gweithredu a theuluoedd a chymunedau wrth wraidd ei chynlluniau o ran adfer o'r coronaferiws?

Sut ydych chi'n ymateb i'r datganiad gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, yr elusen Gymreig sy'n rhedeg y rhaglen Buddsoddi Lleol a ariennir gan y loteri, menter datblygu cymunedol fwyaf Cymru sy'n seiliedig ar asedau, bod diwylliant sector cyhoeddus o weithredu, nid cydweithredu, wedi erydu gallu ac ymddiriedaeth cymunedau, ac wedi lleihau seilwaith cymdeithasol, ac y gall gwella'r gefnogaeth i bobl leol wneud y pethau sy'n bwysig iddynt helpu i fynd i'r afael ag effaith tlodi, datblygu sgiliau lleol a hybu iechyd a lles?

Sut ydych chi'n ymateb i'r datganiad gan Hafod, y darparwr tai, gofal a chymorth di-elw bod angen i fynd i'r afael ag achosion, nid symptomau, ac, felly, canolbwyntio ar gryfderau cymunedol a dinasyddion i helpu pobl i gymryd perchnogaeth i gyflawni eu huchelgeisiau personol a chyfunol?

Sut ydych chi'n ymateb i alwad Sefydliad Nationwide am ymrwymiad i gefnogi cynlluniau tai yng Nghymru y mae cymunedau yn arwain arnynt fel rhan annatod o ddarparu tai fforddiadwy?

Sut ydych chi'n ymateb i alwadau Tai Pawb am hawl ddynol i dai digonol yng Nghymru, tai hygyrch, i sicrhau bod pobl anabl yn gallu byw'n annibynnol gyda hyder, a llety i ffoaduriaid? Mae ffoaduriaid yng Nghymru yn wynebu rhwystrau sylweddol o ran dod o hyd i lety a chymorth priodol unwaith y rhoddir caniatâd i aros, gan lesteirio eu gallu i integreiddio ac osgoi tlodi.

Sut ydych chi'n ymateb i alwad Sefydliad Bevan i Lywodraeth Cymru annog awdurdodau lleol i sefydlu un man canolog i wneud cais am brydau ysgol am ddim, ar gyfer grant datblygu disgyblion a chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, gan ei gwneud hi'n haws i deuluoedd mewn tlodi elwa ar y rhain?

A sut, yn olaf, ydych chi'n ymateb i alwad NEA Cymru am strategaeth tlodi tanwydd newydd ddisgwyliedig Llywodraeth Cymru i helpu'r rhai sydd â'r angen mwyaf, gan ddechrau gyda'r gwaethaf yn gyntaf, gwella effeithlonrwydd ynni cartref, helpu i leihau biliau ynni a hybu incwm aelwydydd? Rwy'n gwybod bod a wnelo hyn i gyd ag amrywiol addrannau, ond mae'n allweddol i bob un ohonom ni. Diolch.

Photo of Julie James Julie James Labour 5:23, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Mark, am y gyfres yna o gwestiynau a sylwadau.

Gan ddechrau gydag adroddiad Archwilio Cymru, cyhoeddwyd yr adroddiad hwnnw ychydig cyn y pandemig, ac fel y dywedais pan oeddwn yn sôn am y strategaeth wrthdlodi yn fy natganiad, mae bywyd wedi newid ers hynny. Mae fel rhyw drobwynt anrhagweladwy, onid yw? Newidiodd bywyd y tu hwnt i bob argoel, ac mae'r hyn yr ydym ni wedi llwyddo i'w wneud yn ystod y pandemig wedi bod yn anhygoel. Hoffwn fanteisio ar y cyfle, unwaith eto, i dalu teyrnged i'r nifer enfawr o bobl yn y sector awdurdodau lleol, y trydydd sector, y sector landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, y landlordiaid preifat a phawb arall sydd wedi dod at ei gilydd i'w gwneud hi'n bosib inni sicrhau llety dros dro neu mewn argyfwng i 2,200 o bobl a sicrhau y gallant gael darpariaeth a fyddai'n caniatáu iddyn nhw hunanynysu a chael y cyfleusterau hylendid cywir ac ati.

Yr hyn y mae hynny wedi ein galluogi ni i'w wneud hefyd yw ei fod wedi ein galluogi i fynd ati yn y modd a ddywedais erioed a ddylai fod yn ddull gwasanaeth cyhoeddus llawn o ymdrin â thai, pryd yr ydym yn rhoi cymorth priodol i bobl, oherwydd nid yw ac ni fu erioed ynglŷn â phedair wal a tho. Mae wastad wedi ymwneud â sicrhau y gall rhywun gynnal ei gartref, bod ganddynt y cymorth priodol, eu bod mewn cymunedau cefnogol, bod ganddynt gymorth iechyd meddwl da neu gymorth camddefnyddio sylweddau neu gymorth os yw perthynas yn chwalu, neu beth bynnag ydyw—cymorth cam-drin domestig—y mae arnynt ei angen er mwyn gallu cynnal y denantiaeth honno.

Hefyd, roeddwn yn bersonol yn gadarn iawn, iawn, iawn o ran darparwyr dewisiadau tai awdurdodau lleol, gan ddweud, 'Gwnewch y peth iawn. Rhowch gymorth i'r person sydd o'ch blaen. Peidiwch â phoeni am o ble maen nhw'n dod ac fe drefnwn ni y glo mân wedyn.' Ymdrechodd bobl i wneud hynny mewn gwirionedd. Rwy'n falch iawn ohonyn nhw, ac rwy'n falch iawn ohonom ni. Mae Cymru'n olau disglair o ran ei darpariaeth tai dros y pandemig hwn, a dylem i gyd fod yn falch iawn o hynny. Rwy'n ddiolchgar iawn i'n partneriaid am wneud hynny. 

Photo of Julie James Julie James Labour 5:25, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Yn anffodus, roedd adroddiad Archwilio Cymru yn adroddiad oedd yn bwrw golwg yn ôl i raddau helaeth iawn. Rwyf wedi cael cyfarfodydd da gyda'r archwilydd cyffredinol am yr hyn y gallwn ei wneud i edrych ar y ddarpariaeth yn y dyfodol a sut y gallwn ni ddysgu o'r gwersi ar y cyd a'r ffordd wahanol yr aethom ni ati yn ystod y pandemig. Felly, rwy'n hapus iawn y byddant yn gweithio'n dda gyda ni o ran bwrw ymlaen â'r gwersi hynny a ddysgwyd.

O ran landlordiaid a thenantiaid, mae'r mwyafrif helaeth o bobl sy'n cael trafferth yn y sector rhentu preifat yn denantiaid sydd, heb fod unrhyw fai arnyn nhw, wedi gweld eu hincwm yn lleihau oherwydd COVID, a nawr ni allan nhw dalu eu rhent mwyach, pan fyddant bob amser wedi gallu gwneud hynny pryd bynnag y byddant mewn unrhyw anhawster. Felly, fe wnaethom ni gyhoeddi cyfres o bethau i wneud hynny—rwyf fi a Jane Hutt gyda'n gilydd wedi cyhoeddi cyfres o ddarpariaethau ynghylch cyngor ar ddyledion a chwnsela dyledion a gwasanaethau cymorth a chyngor ledled Cymru i helpu pobl sydd yn y sefyllfa honno. Rydym ni hefyd wedi cyhoeddi'r cynllun benthyciadau arbed tenantiaeth. Telir y benthyciadau arbed tenantiaeth, Mark, i'r landlord, felly mae'r tenant yn gofyn am y benthyciad, rydym ni wedi gallu ei roi ar log o 1 y cant drwy ein hundebau credyd—unwaith eto, rhywbeth y dylai Cymru fod yn haeddiannol falch ohono. Felly nid oes fawr ddim cost i'r tenant, gan ganiatáu iddo ledaenu'r gost o ad-dalu'r ôl-ddyledion dros bum mlynedd mewn ffordd fforddiadwy ochr yn ochr â chymorth a chefnogaeth. Ond fe'u telir i'r landlord fel bod y landlord yn cael yr incwm ar y rhent a bod y tenant yn cael sicrwydd o gadw ei gartref. 

Y peth am landlordiaid y sector preifat wrth gwrs yw ei fod yn incwm iddynt, ond cartref rhywun yw'r tŷ. At hynny maen nhw'n cyfeirio wrth ddweud, 'rwy'n mynd adref', ac maent yn golygu cynnig busnes y person hwnnw, ond iddyn nhw mae'n gartref, a dyna'r peth pwysicaf—ein bod yn sicrhau y gallan nhw gynnal y cartref hwnnw, ac nad oes gennym ni lif o bobl sy'n cael eu rhoi mewn amgylchiadau ofnadwy lle nad ydynt yn gallu talu eu rhent, ac na allant godi o'r sefyllfa honno. Felly, ar y sail honno, galwaf ar y Llywodraeth Geidwadol unwaith eto i sicrhau bod y lwfans tai lleol yn aros ar o leiaf y marc o 30 y cant lle y mae ar hyn o bryd, eu bod yn ystyried ei roi yn ôl i'r marc o 50 y cant, sef lle y dylai fod—a phan gafodd ei lunio gyntaf gan Lywodraeth Lafur, dyna lle yr oedd—ac yn sicr nad ydyn nhw yn ei leihau'n ôl i'r lefelau a welsom ni cyn y pandemig pan oedd—a dywedais hyn mewn dadl yn y Cyfarfod Llawn gyda chi, Mark, o'r blaen—yn is nag yng nghyfreithiau'r tlodion yn oes Elisabeth. Oherwydd mae hynny'n rhywbeth y dylem ni i gyd fod â chywilydd ohono. Felly, galwaf mewn gwirionedd ar y Llywodraeth i wneud hynny, a gobeithio y bydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru yn ein cynorthwyo gyda'r alwad honno, oherwydd os caiff lwfans tai lleol pobl ei leihau, yna bydd gennym ni broblem fawr gyda'r sector rhentu preifat.

Bydd y landlord sydd yn y sefyllfa y sonioch chi amdani, gydag anawsterau â'i incwm ac ati, hefyd, wrth gwrs, yn gallu cael y cyngor ar ddyledion yr wyf newydd ei grybwyll, oherwydd mae hynny ar gael i holl ddinasyddion Cymru, a byddwn yn argymell hynny. Os ydych chi eisiau rhoi manylion imi, gallaf drosglwyddo hynny i chi. 

Mae'r Llywodraeth Geidwadol yn Lloegr wedi cyhoeddi y caiff achosion o feddiannaeth eu gohirio oherwydd fe allan nhw hefyd weld bod problem fawr gyda phobl na allant, heb fod unrhyw fai arnyn nhw, dalu eu rhent mwyach, ac rwy'n hapus iawn i groesawu hynny, a sut mae'r llysoedd yn mynd ati i sicrhau, cyn y gall unrhyw un gyflwyno achos o droi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent, rhaid iddyn nhw fynd drwy brotocol gyda'u tenant i sicrhau eu bod yn deall natur hynny, ac nad yw'n bosib gwneud trefniant hirdymor ar gyfer ad-dalu'r ôl-ddyledion hynny. Croesawaf hynny'n fawr. Mae'n cyd-fynd i raddau helaeth â'r ffordd yr ydym ni'n mynd ati.

Yna, o ran y materion tlodi y sonioch chi amdanyn nhw, Mark, dim ond i ddweud mai dyna'n union yr oeddwn i yn ei ddweud yn fy natganiad—mai'r hyn y mae angen inni ei wneud yw adeiladu ar gryfder cymunedol, cynyddu incwm pobl i'r eithaf a sicrhau ein bod yn eu rhoi yn y sefyllfa orau bosib. Felly, ni allwn gytuno mwy â chi fod angen i ni weithio gyda'n cymunedau i sicrhau bod gan bobl ffordd symlach o allu cael y cyngor cywir. Cefais gyfarfod da iawn yn ddiweddar gyda Sefydliad Bevan lle bu inni gytuno i gydweithio ar gynllun gweithredu i allu cyflwyno hynny, ac edrychaf ymlaen at allu gwneud hynny'n fuan iawn.

Yna, o ran y strategaeth tlodi tanwydd, mae'n bleser gennyf ddweud, yn wahanol i'r dull gweithredu yn Lloegr, lle mae gennym ni un dull gweithredu cyffredinol, rydym ni wedi cyhoeddi'n ddiweddar y rhaglen ôl-osod orau, lle rydym ni'n gofyn i gyfres o landlordiaid ledled Cymru gyflwyno amrywiaeth o wahanol fathau o dai fel y gallwn ni weld sut orau y gellir ôl-osod deunydd ynysu yn y tai hynny i wneud yn siŵr eu bod wedi'u hynysu'n well. Nid oes un ateb sy'n addas i bawb. Nid yw'r hyn sy'n gweithio i dŷ teras Fictoraidd yn y Rhondda yn gweithio i dŷ wal ceudod a adeiladwyd yn y 1970au yn etholaeth Rebecca, er enghraifft. Maen nhw'n gynigion gwahanol iawn, ac nid yw'r syniad y byddai un dull yn gweithio i bob un ohonyn nhw yn gweithio. Felly, bydd ein rhaglen yn cyflwyno cyfres—yn y ffordd y gwnaeth ein rhaglen dai arloesol, bydd yn cyflwyno cyfres o atebion posib i hynny, ac yna byddwn yn gallu cyflwyno hynny fel rhan o'n menter tlodi tanwydd a'n menter Cartrefi Cynnes, a byddwn yn mynd i'r afael â hynny yn briodol. Ac, wrth wneud hynny, nid yn unig y byddwn yn lleihau tlodi tanwydd, ond byddwn wrth gwrs yn datgarboneiddio'r stoc dai yng Nghymru ac yn meithrin yma yn ein gwlad ein hun ddiwydiant o bobl fedrus a all wneud hynny ar draws ein sector tai. Diolch.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:30, 15 Medi 2020

Diolch, Weinidog, am y datganiad, a dwi yn cydnabod y gwaith helaeth rydych chi a'ch tîm wedi ei wneud ar hyn dros y misoedd diwethaf. Rwy'n credu bod y pandemig wedi gwneud i nifer o bobl sylweddoli bod angen uwchraddio'r hawl i gartref fod yn fater o hawl ddynol a bod digartrefedd yn rhywbeth sy'n niweidio pawb o fewn cymdeithas. Rwy'n croesawu eich ymrwymiad i geisio atal unrhyw un rhag dychwelyd i'r strydoedd, ond mae'ch datganiad yn cyfeirio at roi pobl mewn llety dros dro mewn rhai llefydd er mwyn cyflawni hyn, pan mae'n glir bod angen datrysiad tymor hir. Dwi'n gwybod eich bod chi eisiau cael datrysiad tymor hir i hyn, ond mae gen i rywfaint o bryder bod brys o ran symud rhai pobl oddi ar y strydoedd wedi arwain at ddefnyddio cyfleusterau amhriodol mewn rhai achosion. Er enghraifft, rwyf wedi clywed tystiolaeth anecdotaidd o bobl, yn dilyn perthynas niweidiol, yn cael eu rhoi mewn llety brys gyda phobl oedd â phroblemau o ran cam-drin cyffuriau. Yn amlwg, doedd hynny ddim yn sefyllfa dda i neb, felly byddwn yn gofyn ichi edrych eto ar yr opsiynau sydd gan gynghorau er mwyn sicrhau bod llety priodol ar gael i bawb. Dwi yn gweld bod nifer o gynghorwyr wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar hyn dros y misoedd diwethaf. Yn ogystal, buaswn i'n hoffi gweld llwybr i sicrhau bod llety brys ond yn cael ei ddefnyddio dros dro a bod gennym atebion tymor hir ar gyfer pobl sy'n canfod eu hunain yn ddigartref.

Nawr, i droi at y manylion o ran ehangu'r mesurau 'no evictions' sydd yn y datganiad, rŷn ni'n croesawu ehangu hyn, ond mae gen i bryder o ran y cynnig i leihau'r cyfnod hysbysu ar gyfer ymddygiad sydd yn wrthgymdeithasol a cham-drin domestig. A allwch chi roi sicrwydd inni, plis, mai'r flaenoriaeth yn yr achos hwn fydd gwneud yn siŵr bod pobl sy'n cael eu troi allan yn cael llety arall a'u bod nhw'n cael help gyda'r problemau sydd ganddyn nhw? Wrth gwrs, mae hyn yn fater cymhleth, dwi'n gweld hynna, ac mae nifer o asiantaethau yn mynd i fod yn ymwneud ag ef, ond dyma'r achosion mwyaf cymhleth sydd angen y mwyaf o gymorth hefyd. 

Rwyf eisiau hefyd sicrwydd o ran y fenter arbed benthyciadau i denantiaid, os taw dyna'r cyfieithiad cywir. Dwi ddim yn siŵr y bydd cynyddu dyledion pobl sy'n debygol o ffeindio eu hunain mewn sefyllfa letchwith, efallai, yn ariannol, am flynyddoedd efallai, wir yn datrys y broblem. Onid yw'n annheg bod landlordiaid nawr yn cael bail-outs, mewn ffordd, gan y Llywodraeth, pan dyw llawer o sectorau ddim? Felly, hoffwn i wybod pa fesurau diogelwch sydd mewn lle i sicrhau nad ydy rhai landlordiaid yn cymryd mantais o'r fenter hon, dim ond i daflu tenantiaid mas unwaith mae'r cyfyngiadau yn cael eu codi. 

I gloi, hoffwn nodi mater sydd ddim yn cael ei drin yma y buaswn i wedi hoffi ei weld yn y datganiad, sef y diffyg tai cymdeithasol a diffyg tai fforddiadwy. Ydyn, mae'r niferoedd craidd yn cynyddu, ond maen nhw'n disgyn yn fyr iawn o beth sydd ei angen. Yr eliffant yn yr ystafell, os dwi'n gallu dweud hynny yn Gymraeg, yw'r ffaith bod gennym system gynllunio sydd â sicrwydd o elw wedi ei adeiladu i mewn iddi. Hynny yw, gall ddatblygwyr ddefnyddio'r Arolygiaeth Gynllunio i atal awdurdodau lleol rhag cael eu siâr haeddiannol o dai fforddiadwy mewn datblygiadau. Nid yw eich Llywodraeth wedi mynd i'r afael â hyn. Felly, a allwch chi ddweud pryd y byddwch chi'n yn gwneud i ffwrdd gyda'r gallu sydd gan yr Arolygiaeth Gynllunio i ganiatáu datblygiadau sydd heb gyfran ddigonol o dai fforddiadwy? Pryd fyddwch yn gwneud i ffwrdd gyda'r hawl iddo fe wneud hynny? Diolch. 

Photo of Julie James Julie James Labour 5:34, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Delyth. Diolch yn fawr am y gyfres yna o sylwadau a chwestiynau. O ran yr hawl ddynol i dai, rydym yn gweithio'n galed iawn ochr yn ochr â nifer o sefydliadau sy'n edrych ar sut y gallai hynny weithio. Hoffwn atgoffa'r Aelodau unwaith eto, fel yr atgoffaf fy hun yn gyson, fod y Cynulliad, fel yr oedd bryd hynny, wedi pasio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, ac am ddarn arloesol o ddeddfwriaeth yw hwnnw. Ac mae hynny'n gwneud cryn dipyn i gyflawni rhai o'r pethau y sonioch chi amdanyn nhw yn y fan yna. Ond mae gennym ni rai pethau eraill y mae angen i ni eu gwneud. Er enghraifft, mae'r Ddeddf rhentu cartrefi yn golygu bod yn rhaid i unrhyw un sy'n rhentu cartref, gan gynnwys landlordiaid cymdeithasol, gael tŷ sy'n addas i bobl fyw ynddo. A hoffwn atgoffa'r Siambr fod y Torïaid ar lefel San Steffan, wrth gwrs, wedi gwrthod rhoi 'yn addas i bobl fyw yno' yn eu deddfwriaeth, felly mae hynny'n dangos i chi pa mor isel yw'r meincnod. Felly, rydym wedi gwneud hynny—rydym ni eisoes wedi gwneud cynnydd gyda hynny.

Photo of Julie James Julie James Labour 5:35, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Y cam nesaf yw sicrhau bod gennym ni y tai digonol sydd eu hangen i alluogi pobl i orfodi'r hawl i dai digonol. Does dim diben rhoi'r hawl i bobl gael tai digonol os nad oes digon o dai digonol yn y pen draw. Felly, gan neidio at y darn lle roeddech chi'n sôn am dai cymdeithasol, rhan fawr o'n cynllun digartrefedd rhan 2 yw symud pobl o'r llety dros dro ac argyfwng i dai cymdeithasol parhaol o ansawdd da, a rhan fawr iawn o'r ceisiadau cyfalaf a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol a phartneriaid ac yr ydym ni wedi gallu eu cymeradwyo, yw adeiladu tai cymdeithasol, yn enwedig dulliau modern o adeiladu tai cymdeithasol, sy'n niwtral o ran carbon neu yn garbon oddefol—nifer o bethau.

Felly, rwy'n falch iawn o hynny. Gallwn gynyddu ein stoc gymdeithasol ar unwaith o ganlyniad i hynny. Rydym ni hefyd yn ystyried cynlluniau i alluogi cynghorau a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i brynu tir oddi wrth y sector preifat—rydym yn dal i edrych ar hynny—oherwydd drwy wneud hynny, gallwn annog ein hadeiladwyr yn y sector preifat, yn enwedig ein busnesau bach a chanolig eu maint, i adeiladu yn unol â safonau tai cymdeithasol, fel y gallwn ni barhau i adeiladu'r stoc tai cymdeithasol honno os bydd dirwasgiad. Ac, wrth gwrs, mae gennym y cynllun sector preifat ar waith lle gall landlord sector preifat sy'n poeni am allu parhau i dderbyn incwm mewn cyfnod ansicr, a'r holl oblygiadau ynghlwm â hynny, drosglwyddo ei dŷ i landlord cymdeithasol am bum mlynedd a chael y lwfans tai lleol gwarantedig, a gwarant hefyd y bydd ei dŷ'n cael ei ddychwelyd ato yn unol â safon tai cymdeithasol. Felly, bargen dda iawn a byddwn yn annog holl landlordiaid y sector preifat i ymchwilio iddi, oherwydd mae hynny'n ffordd o sicrhau eich bod yn cael yr incwm hwnnw ac nad oes gennych y pryder o orfod ymdrin â hynny eich hun. Mae'n golygu y gallwn ni roi tenantiaethau diogel i bobl, sy'n amlwg yn llawer gwell. Ac yna mae gennym ni, wrth gwrs, gynlluniau uchelgeisiol iawn. Rydym yn bur ffyddiog y byddwn yn gallu cynyddu nifer y tai cymdeithasol yn sylweddol, hyd yn oed yn yr hyn sydd ar ôl o'r Senedd Gymreig hon ac yna'n sicr yn y tymor seneddol canlynol. Ac rwy'n siŵr y bydd pa Lywodraeth bynnag sydd mewn grym eisiau gwneud hynny; mae'n ymddangos bod consensws eang ar draws y Siambr y dylid gwneud hynny. Felly, rwy'n falch iawn o hynny, ac mae cryn dipyn o hyder y byddwn yn gallu cynyddu hynny mewn gwirionedd. Rydych chi wedi fy nghlywed yn siarad am gynyddu hynny yn fwy ac ynghynt. Rydym ni mewn lle da i ddweud ein bod yn gwneud hynny.

O ran y benthyciadau arbed tenantiaeth, dim ond i ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr â chi nad dyma'r amser i gynyddu dyled pobl. Felly, dyna pam yr ydym ni wedi llwyddo i negodi'r gyfradd ganrannol flynyddol hon o 1 y cant. Doedd hi ddim yn bosib cael cyfradd o ddim, am amryw o resymau nad oes gen i amser i ymhelaethu arnynt yn y fan yma, neu bydd y Llywydd yn colli amynedd gyda mi, ond mae 1 y cant yn elw bach iawn i bobl ei ystyried. A dim ond i ddweud, wrth gwrs, nad ydym yn cynyddu eu dyled heblaw am un sy'n unol â'r ganran fechan honno. Mae hon yn ddyled a ddaeth i fodolaeth am nad ydyn nhw wedi gallu talu eu rhent heb fod unrhyw fai arnyn nhw ac ati, drwy amgylchiadau anodd. Rwy'n mynd i fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud ein bod yn annog pobl i dalu eu rhent lle gallan nhw, oherwydd gall yr ôl-ddyledion fod yn anodd iawn. Ond yna telir y benthyciad i'r landlord oherwydd felly caiff y rhent ei dalu, fel na ellir troi'r person hwnnw allan am beidio â thalu ei rent oherwydd bydd wedi talu ei rent. Felly, dyna holl ddiben hynny. Mae'n osgoi hynny. Ac felly, o'n safbwynt ni fel Llywodraeth, mae'n beth da iawn hefyd, oherwydd yr hyn yr ydym ni eisiau yw ein bod eisiau i bobl aros yn eu cartrefi—eu cartrefi nhw yw'r rhain. Nid ydym ni eisiau iddyn nhw fod yn ansicr a gorfod gadael yn y pen draw, ac yna mynd ar ofyn dewisiadau tai'r awdurdod lleol gan ddweud, 'Dewch o hyd i rywle arall i mi fynd.' Mae hwn yn fuddsoddiad pwysig iawn gan y Llywodraeth i sicrhau y gall pobl wneud hynny ac, yn amlwg, bu'n rhaid i ni edrych yn ofalus ar yr hyn y credwn ni fydd cyfradd yr ad-dalu ac yn y blaen. Ond mae'r Llywodraeth wedi penderfynu bod hynny'n fuddsoddiad da i'w wneud yn y bobl hynny. Mae'r rhan fwyaf o bobl eisiau talu eu rhent, maen nhw eisiau aros yn eu tŷ, felly rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gwneud hynny, ond roeddwn i eisiau ei gwneud hi'n glir mai dyna yr ydym ni yn ei wneud, oherwydd rwy'n cytuno â chi ynghylch peidio â chynyddu rhenti pobl. Yn sicr, nid yw'n achub croen y landlord oherwydd, wrth gwrs, mae gan y landlord hawl i'w rent. Felly, dyna'r drefn.

Ymhellach i'r dyfodol, rwyf eisiau ystyried achub morgeisi. Nid wyf mewn sefyllfa i siarad am hynny eto, ond os bydd y dirwasgiad yn dwysáu fel y disgwyliwn, yna bydd nifer o bobl a fydd yn mynd i drafferthion o ran ad-dalu morgeisi. A byddwn yn ystyried beth y gallwn ni ei wneud i'w helpu drwy ganiatáu iddyn nhw droi eu morgais yn daliadau rhent, a mynd â'r cartrefi hynny i berchnogaeth gymdeithasol. Gwnaethpwyd hynny yn y dirwasgiad diwethaf hefyd. Nid wyf wedi cyrraedd y cam yna eto, ond rwy'n sicr yn ceisio ymchwilio i bethau fel hynny. A'r rheswm yr wyf yn sôn am hynny, Llywydd, yw os oes gan unrhyw Aelodau unrhyw syniadau gwych eraill o'r math hwnnw, byddwn yn falch iawn o'u clywed, oherwydd nid ni yw ffynhonnell yr holl wybodaeth, ac mae pobl ar draws y Siambr wedi cael syniadau da yn y fan yma, felly hoffwn i bobl ddod ymlaen a'u rhannu â ni, os yw hynny'n bosib.

Ac yna mae'r peth olaf ynglŷn â'r system gynllunio. Byddwch yn gwybod ein bod ni wedi newid y polisi ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru fel bod gennym ni 50 y cant o dai fforddiadwy ar bob cynllun ar dir Llywodraeth Cymru. Rydym ni yn annog hynny ar gyfer darnau eraill o dir yn y sector cyhoeddus ledled Cymru. Rydym yn sgwrsio ag awdurdodau lleol ynglŷn ag elwa i'r eithaf ar hynny. Ac yna, wrth gwrs, awdurdodau lleol—mater i awdurdodau lleol yw hynny, nid yr arolygwyr cynllunio. Mater i awdurdodau lleol yw sicrhau bod eu cynllun datblygu lleol yn pennu llawer iawn o dai cymdeithasol ar gyfer eu tir. Felly, dyna'r ffordd ymlaen, ac rwy'n falch iawn o'r system hon sydd gan Gymru sy'n seiliedig ar gynlluniau. Yn fuan, Llywydd, byddwn yn cyflwyno'r fframwaith datblygu cenedlaethol ochr yn ochr â Pholisi Cynllunio Cymru. Mae'n sicr yn un o'r fframweithiau mwyaf blaengar yn unman yn y Deyrnas Unedig ac, mewn gwirionedd, yn eithaf da hyd yn oed i orllewin Ewrop. Felly, rydym yn falch iawn ohono. Ond dim ond yr hyn sydd o'i flaen y gall yr arolygydd cynllunio ei wneud. Felly, os nad yw'r CDLl yn nodi hynny, ni all wneud dim yn ei gylch. Felly, mae angen inni sicrhau bod y cynllun yn rhan o hynny a bod gan bobl leol lais mawr o ran ffurf y cynllun hwnnw wrth adeiladu'r tai hynny. Diolch, Llywydd.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 5:41, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf i yn gyntaf groesawu'r datganiad gan y Gweinidog? Mae'n fy synnu cyn lleied o arian oedd ei angen i amddiffyn y rhai a oedd yn ddigartref ar ddechrau'r pandemig, a chredaf mai un peth da sy'n deillio o'r pandemig yw'r syniad o geisio mynd i'r afael â digartrefedd. Rwy'n falch iawn bod y Gweinidog yn credu bod atal a rhoi terfyn ar ddigartrefedd o bob math yn flaenoriaeth ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n gobeithio y bydd pwy bynnag sy'n cymryd yr awenau oddi wrth y Gweinidog drwy gydol gweddill yr amser y mae'r Senedd hon yn bodoli yn ystyried hynny'n flaenoriaeth.

Rwyf hefyd yn falch nad yw'r Gweinidog eisiau gweld unrhyw un yn dychwelyd i gysgu ar y stryd nac yn cerdded y strydoedd yn y nos ac yn cysgu mewn parciau yn ystod y dydd, sydd, yn ôl a ddeallaf, yn rhywbeth y mae pobl iau a menywod yn fwy tebygol o'i wneud gan nad ydyn nhw eisiau bod yn cysgu mewn drysau yn ystod y nos. Ond beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o'r niferoedd sy'n cysgu o soffa i soffa ac sydd dim ond un cam i ffwrdd o gysgu ar y stryd, a pha gymorth y gellir ei roi i'r grŵp hwn o bobl i'w hatal rhag cyrraedd y sefyllfa honno?

A gaf i ddweud, croesawaf ddarparu prydau ysgol am ddim drwy wyliau'r haf eleni? Rwyf wedi gofyn am hynny ers amser maith; rwy'n falch iawn ei fod wedi digwydd. Ac rwy'n gofyn ar ran teuluoedd plant sy'n cael prydau ysgol am ddim: pam na all barhau dros gyfnod pob gwyliau? A hefyd, a ellir darparu cymorth ariannol i'r plant pan fyddant yn absennol o'r ysgol, o bosib oherwydd bod ganddyn nhw 14 diwrnod pan fydd yn rhaid iddyn nhw hunanynysu? Yna mae 14 diwrnod yn mynd heibio heb iddyn nhw gael y prydau ysgol am ddim y mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw. Felly, a ellir rhoi rhywfaint o gefnogaeth iddynt? 

Mae gennyf farn sydd, mi gredaf, yn unigryw yn y fan yma—ni welaf unrhyw swyddogaeth i arolygydd cynllunio. Pan gaiff arolygwyr cynllunio eu diddymu, sy'n anochel, bydd yn debyg i'r adeg pan ddaethom ni oddi ar y safon aur, pan ddywedai pawb, 'Wel, pam na wnaethom ni hynny o'r blaen?' Nid oes rheswm, yn fy marn i, dros arolygydd cynllunio—os nad ydych chi'n hoffi'r penderfyniad, gallwch ofyn am adolygiad barnwrol. Mae cael y bobl hyn, nad ydynt yn gwybod dim am yr ardal, yn ymyrryd, yn gwneud penderfyniadau sy'n aml yn achosi problemau difrifol mewn ardal, yn rhywbeth rwy'n credu a ddaw i ben, a, Gweinidog, rwy'n gobeithio mai chi yw'r person i wneud hynny.

Photo of Julie James Julie James Labour 5:43, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, hyd at y rhan olaf yna, Mike, roeddem yn cytuno â'n gilydd, felly mae'n debyg ei bod hi wastad yn beth da peidio â chytuno'n llwyr bob cam o'r ffordd.

Felly, o ran y swm bach o arian, mae'n ymddangos fel swm bach o arian, ond, wrth gwrs, arian ychwanegol ydoedd. Roedd yr holl arian arferol ar gyfer digartrefedd yn dal yn y system. Nid cymryd £10 miliwn a wnaethom ni a datrys digartrefedd—mae cannoedd o filiynau o bunnoedd yn y system ddigartrefedd. Yr hyn a wnaethom ni oedd ad-drefnu hynny'n gyflym iawn, a dyna pam yr wyf i mor ddiolchgar i bartneriaid, oherwydd fe aethon nhw ati i'w ad-drefnu'n gyflym iawn, ac mae'n rhyfeddol pa mor gyflym y gwnaethom ni hynny.

Wrth gwrs, fe gawsom ni gyfle unigryw—hoffwn atgoffa'r Aelodau o hynny—oherwydd, yn sydyn iawn, cawsom nifer fawr o westai a lleoliadau gwely a brecwast a llety prifysgol ac ati heb neb ynddyn nhw. Roedd hynny'n unigryw iawn—ni chawsom ni erioed y sefyllfa honno o'r blaen. Felly, mewn sefyllfa dywyll iawn, fe gawsom ni belydr o oleuni y cawsom gyfle i fanteisio arno, ac fe allon ni fanteisio ar hynny. Felly, rwy'n falch iawn o hynny. Ond mae hi yn demtasiwn meddwl y gwnaed hynny am £10 miliwn—nid yw hynny'n wir.

Felly, bu inni gartrefu 2,200 o bobl a oedd fel arall mewn llety anaddas neu ddim mewn llety yn ystod y pandemig, Mike, ac mae hynny'n dangos ichi ein bod—. Dyna oedd nifer y bobl a âi o un soffa i'r llall ac na allent wneud hynny mwyach gan nad oedd pobl a oedd yn barod i gynnig soffa iddyn nhw yn fodlon gwneud hynny bellach oherwydd bod arnyn nhw eisiau bod yn ddiogel rhag COVID ac ati. Ac mae'r hyn y mae'n ei ddangos i ni yn rhywbeth yr oeddem bob amser yn ei wybod: roeddem bob amser yn gwybod bod y brasamcan o bobl sy'n cysgu allan yn annigonol. Gwyddem bob tro mai ciplun ydoedd. Gwyddem bob tro nad oedd yn cynnwys pawb—pobl a oedd, fel y dywedwch chi, yn cerdded drwy'r nos ac yn cysgu yn y dydd, menywod yn arbennig ac ati. Felly, mae wedi rhoi syniad llawer gwell i ni o nifer y bobl yr oeddem yn gwybod eu bod yn y sefyllfa honno. Felly, yr ateb i hynny yw bod 2,200 o bobl yn y sefyllfa honno ac rydym ni wedi gallu cartrefu pob un ohonyn nhw mewn llety brys neu dros dro, a nawr ail gam y broses hon yw cael y bobl hynny a'r bobl a oedd eisoes mewn llety dros dro neu lety brys i lety parhaol, ac, fel y dywedais wrth ateb Delyth, rydym yn gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl yn symud ymlaen.

A'r peth pwysig arall yw, pan gewch chi eich symud o'ch llety brys neu dros dro, nad ydych yn cael eich symud sawl gwaith. Felly, yr hyn yr ydym ni wedi'i ddweud yw mai'r sefyllfa ddelfrydol yw eich bod yn cael eich symud ar unwaith i lety parhaol, ond fel arall ni ddylai fod yn fwy nag unwaith. Felly, os ydych chi mewn llety brys, byddwch yn symud i rywle sy'n fwy addas cyn i chi gyrraedd eich cartref parhaol, ond yn ddelfrydol mae pobl yn mynd yn syth i'w cartref parhaol, ac mae hynny'n llawer gwell, oherwydd wedyn gallwn gynnig yr holl wasanaethau iddyn nhw sy'n golygu bod hwnnw'n lleoliad cynaliadwy ac mae hynny yr un mor bwysig. Rwyf bob amser yn dweud, os rhowch fi mewn fflat wag yng nghanol Manceinion, ni fyddai unrhyw siawns imi gynnal y denantiaeth honno. Ac mae hynny'n wir am bob person dan haul: os rhowch chi nhw mewn fflat wag yng nghanol rhywle nad ydynt yn ei adnabod, ni fyddant yn gallu cynnal honno fel cartref, felly mae angen i ni sicrhau bod ganddyn nhw yr holl bethau angenrheidiol i wneud y lle hwnnw'n gartref, gan gynnwys y gwasanaethau cymorth sydd eu hangen arnyn nhw.

Ac yna, o ran y ddau sylw olaf, ar brydau ysgol am ddim, mae'n amlwg mai portffolio Kirsty yw hwnnw'n gyffredinol, ond rydym yn gweithio'n galed iawn ar raglen i gynnal prydau ysgol am ddim drwy'r gwyliau ac mewn gwirionedd mae grŵp yn edrych ar beth i'w wneud ynglŷn â phlant sydd ar eu colled am eu bod yn hunanynysu neu fel arall yn absennol o'r ysgol a fyddai fel arall â hawl i gael prydau ysgol am ddim. Felly, mae grŵp yn ystyried hynny, Mike, ond Kirsty sy'n arwain ar hynny, nid fi. Ond mae'n sicr yn rhywbeth sy'n cael ei ystyried.

Ac yna'r sylw olaf am yr arolygiaeth gynllunio—rydych chi a mi wedi cael aml i sgwrs am hyn. Rydym ni'n anghytuno, gadewch i ni ei roi felly. Ond rydym ni wedi gorfod gohirio'r broses o wahanu Arolygiaeth Gynllunio Cymru oddi wrth Arolygiaeth Gynllunio Lloegr, a hoffwn weld hynny'n mynd yn ei flaen, oherwydd credaf y byddai gennym ni well siawns bryd hynny o sicrhau y cai ein nodau polisi eu dilyn.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:47, 15 Medi 2020

Diolch, Weinidog, am eich datganiad chi. Roeddwn i'n nodi'r hyn roeddech chi'n ei ddweud ynglŷn â'r gwaith i daclo digartrefedd ac, wrth gwrs, i gynyddu nifer y tai cymdeithasol. Roeddwn i wedi gobeithio efallai clywed mwy gennych chi yn y datganiad ynglŷn â sut mae'r Llywodraeth am ddefnyddio'r system gynllunio i fynd i'r afael â'r anghyfartaledd a'r anghynaliadwyedd cynyddol rydym ni'n ei weld yn y marchnadoedd tai mewn nifer o gymunedau ar draws Cymru, sy'n cael ei yrru'n bennaf, fel roeddwn i'n cyfeirio'n gynharach y prynhawn yma, gan y cynydd yn nifer yr ail gartrefi rydym ni'n eu gweld mewn nifer o gymunedau ar draws Cymru, ac mae'n dueddiad hefyd, wrth gwrs, sy'n cael ei yrru gan y ffaith nawr ein bod ni'n gweld mwy o bobl yn symud o ddinasoedd ac ardaloedd poblog i ardaloedd gwledig yng Nghymru yn sgil COVID-19 hefyd.

Rydym ni'n wynebu sefyllfa gynyddol anghynaliadwy: nid yw mwyafrif pobl mewn siroedd fel Gwynedd nawr yn gallu fforddio prynu tai yn y sir maen nhw wedi'i geni a'i magu ac yn byw ac yn gweithio ynddi hi. Gwelais i ystadegyn oedd yn awgrymu bod 40 y cant o'r holl dai a gafodd eu gwerthu yng Ngwynedd llynedd wedi cael eu prynu i fod yn ail gartrefi. Felly, dwi eisiau clywed gennych chi fel Gweinidog beth yw eich bwriad chi o safbwynt defnyddio'r system gynllunio i fynd i'r afael â'r anghyfartaledd a'r anghynaliadwyedd yna fel y mae ardaloedd eraill o fewn y Deyrnas Unedig wedi gwneud ac fel y mae gwledydd eraill yn Ewrop a thu hwnt wedi gwneud hefyd. 

Photo of Julie James Julie James Labour 5:49, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llyr. Rwy'n deall yn llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud. Mae nifer o faterion yn y fan yna, onid oes? Nid ail gartrefi yw'r unig agwedd; mae'n ymwneud â chael tai fforddiadwy ar draws holl gymunedau Cymru fel y gall ein pobl ifanc aros yn y cymunedau y cawsant eu magu ynddynt ac y gallant gyfrannu at Gymru o'r cymunedau hynny. Yn sicr, nid ydym am ddisbyddu Cymru wledig i'n dinasoedd o ganlyniad i bobl yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai.

Felly, rydym wrthi'n ymchwilio i nifer o bethau. Un ohonynt yn sicr yw cynyddu nifer y cartrefi cymdeithasol yr ydym yn eu hadeiladu ar draws cymunedau Cymru a sicrhau bod y cartrefi hynny'n hygyrch i bobl leol yn y ffordd briodol. Felly, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i wneud hynny. Y peth arall yw cyflwyno datgymhellion ar gyfer ail gartrefi a dysgu'r gwersi o hynny. Felly, rydym ni wedi bod yn edrych yn fanwl ar rai o'r pethau sydd wedi digwydd mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Mae rhai cynlluniau wedi bod yn llai llwyddiannus nag y gobeithid y byddent. Mae'r un yng Nghernyw wedi bod yn aflwyddiannus mewn rhai ffyrdd, felly byddwn yn dysgu'r gwersi o hynny. Yr hyn yr hoffwn i ei wneud, serch hynny, Llyr, yw gwahodd nifer o Aelodau y gwn fod ganddyn nhw ddiddordeb yn hyn i ddod i drafodaeth gyda mi i drafod nifer o syniadau. Fel y dywedais yn gynharach mewn ymateb i rywun arall—rwy'n credu mai Delyth ydoedd—nid gennyf i mai'r holl syniadau da yng Nghymru, felly byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai nifer o bobl sydd â diddordeb yn hynny'n ddigon caredig i ddod i gael trafodaeth gyda ni am yr holl syniadau yr hoffem eu datblygu.

Ac yna'r peth olaf yw fy mod yn trafod—nid fy mhortffolio i ydyw, ond rwyf yn trafod gyda Rebecca Evans ynghylch y trothwy pryd gallwch newid i renti busnes. Byddwch yn gwybod inni newid yr amodau lefel grant drwy'r pandemig a hoffwn edrych yn fanylach ar yr hyn a fyddai'n digwydd pe baem yn codi'r lefelau'n llwyr ar gyfer hynny, a gwn fod hynny'n rhywbeth yr ydych chi a Siân Gwenllian a nifer o rai eraill wedi'i godi droeon, ac mae'n siŵr bod sawl un ohonoch chi yn dweud nawr, 'Rwyf wedi'i godi hefyd,' ond mae nifer o bobl wedi'i godi gyda mi yn y Siambr, felly byddwn yn hapus iawn gwneud hynny. Felly, Llyr, os hoffech chi anfon e-bost ataf, efallai y gallem ni drefnu'r cyfarfod hwnnw.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 5:51, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Fel eraill, a gaf i groesawu'r datganiad gan y Gweinidog a'r wybodaeth ddiweddaraf yr ydych wedi'i rhoi inni heddiw? A diolch hefyd am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru a phartneriaid lleol wedi ei wneud yn ystod y misoedd diwethaf i ofalu am y digartref a rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn wyneb y pandemig hwn. Dyna oedd y polisi gwirioneddol gywir ar yr adeg briodol. Fodd bynnag, yr hyn y byddwch hefyd yn ymwybodol ohono, Gweinidog, yw bod hyd yn oed y polisïau gorau, ar brydiau, wedi creu rhai canlyniadau anfwriadol, ac, er enghraifft, ym Merthyr Tudful ac mewn rhannau o Gwm Rhymni Uchaf hefyd, mae trefniadau brys COVID-19 wedi creu crynodiadau o bobl agored iawn i niwed mewn ardaloedd bach yng nghanol y dref—felly, mae'r gwestai, sydd i gyd wedi'u crynhoi yng nghanol y dref—ac mae hynny wedi golygu bod hynny wedi dylifo i ganol y dref ac mae wedi cael effaith eithaf sylweddol ar drigolion a busnesau lleol yng nghanol y dref, gan arwain at rai materion eithaf arwyddocaol yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Nawr, er ei bod hi'n amlwg bod yr heddlu yn ymateb i ymddygiad gwrthgymdeithasol i sicrhau bod trigolion a busnesau'n teimlo'n ddiogel, mae angen strategaeth gyfochrog hefyd i ddarparu cymorth mewn modd mwy priodol a gwasgaredig, fel bod pobl yn cael y cymorth y mae arnyn nhw ei angen, ond nid i gyd yn yr un ardal ddwys honno. A dyna'r pryder sydd gen i. Mewn trefi bach, mae'n anodd iawn dod o hyd i lety nad yw wedi'i ganoli mewn un ardal, ac mae'r holl bobl hyn ag anghenion mor gymhleth sy'n cael eu lletya mewn llety bach mewn cymuned glos iawn yn achosi llawer o broblemau.

Nawr, yr hyn yr wyf yn ei ofyn, Gweinidog, yw a yw'r agwedd benodol honno'n rhywbeth y byddwch yn ei hystyried yn ail gam y strategaeth. Gwn eich bod wedi siarad llawer am yr angen am y gefnogaeth gofleidiol honno i bobl yn ail gam y strategaeth honno, ac rydych yn cyfrannu swm sylweddol o arian i wneud hynny, ond y mater yr wyf yn gofyn ichi ei ystyried yw'r mater o grynhoi llawer o bobl mewn ardaloedd a lletyau bach lle maent yn dylifo i mewn i'r dref, ac a allwn ni gael strategaeth sy'n cynnwys gwasgaru lletyau, fel bod y cymorth hwnnw'n fwy effeithiol, yn hytrach na chael pobl yn yr ardal glos honno.

Photo of Julie James Julie James Labour 5:53, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dawn. Rwy'n ymwybodol iawn o'r mater yr ydych chi'n ei grybwyll. Mae'n broblem mewn nifer o leoedd ac oherwydd, wrth gwrs—wyddoch chi, roeddem yn gallu cartrefu nifer fawr o bobl, ond fe wnaethom ni hynny'n bur gyflym ac, fel y dywedais mewn ateb i Mike Hedges, roedd hi'n bosib oherwydd bod nifer o leoedd a oedd yn lleoliadau gwely a brecwast a gwestai ac ati ar gael ac na fyddent wedi bod ar gael fel arall. Felly, yn amlwg, yn y dull cam 2, yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud yw cael pobl allan o'r lletyau hynny ac i gartrefi diogel a pharhaol. Felly, bydd pob awdurdod wedi cyflwyno cynllun, a byddwn wedi cytuno â'r awdurdod hwnnw—rwy'n gwybod ein bod ni wedi cytuno ar gynlluniau ym mhob awdurdod yng Nghymru—gyda'r awdurdod hwnnw beth yw'r dull gorau o ymdrin â'r cam gorau a beth yw'r dull gorau o symud y bobl hynny sy'n cael eu cartrefu yn y mathau hynny o lety i'w cartref parhaol, neu, mewn rhai achosion, i gartref dros dro arall, ond lle gallant gael gwell ystod o wasanaethau cymorth, felly efallai i ganolfan, lle mae amrywiaeth o wasanaethau cymorth o'u cwmpas.

Mae arnaf ofn na alla i feddwl am un yn fyrfyfyr ym Merthyr, ond ymwelais â chynllun gwych yng Nghasnewydd ychydig wythnosau'n ôl, lle yr oeddem ni wedi rhoi amrywiaeth o wasanaethau cymorth ar y llawr gwaelod ar y cyd â phartner trydydd sector, ystafell ar yr ail lawr ar gyfer gwasanaethau cymorth unigol ac yna saith fflat â chymorth ar y llawr uchaf. Nawr, ni fwriedir i bobl aros yn y fflatiau hynny am weddill eu hoes, ond bwriedir iddyn nhw aros yn y fflatiau hynny am ddwy neu dair blynedd tra bod eu problemau'n cael sylw ac y cânt eu traed oddi tanynt ac yna eu helpu i ddod o hyd i'w cartref terfynol parhaol. Felly, dyna'r un cam yr oeddwn yn siarad â Delyth amdano, onid e: o'r llety brys i'r llety â chymorth ac yna ymlaen i'ch cartref parhaol.

Felly, unwaith y byddaf—. Dawn, os hoffech chi ysgrifennu ataf, rwy'n siŵr y gallaf ddweud wrthych chi beth yw'r cynllun ym Merthyr; rwy'n siŵr y byddai swyddogion yn hapus i'm hatgoffa o beth yw hwnnw. Ond rydym ni wedi gofyn yn benodol i awdurdodau lleol fynd i'r afael â'r mathau o faterion yr ydych chi'n sôn amdanynt, oherwydd mae angen diwallu anghenion cymhleth pobl, ac mae angen diwallu'r anghenion hynny mewn lle sy'n gynaliadwy ac yn ddiogel, ac nid yw hynny'n debygol o fod mewn canol tref wedi eich amgylchynu gan bobl ag anghenion cymhleth tebyg. Felly, mae'n rhan bwysig iawn o'n hail gam. 

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:56, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Diolch.