– Senedd Cymru ar 23 Medi 2020.
Felly, dyma ni'n ailgychwyn ein trafodaethau ni, a'r eitem nesaf ar yr agenda yw dadl Plaid Cymru ar ail gartrefi. Dwi'n galw ar Delyth Jewell i wneud y cynnig—Delyth Jewell.
Cynnig NDM7386 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod yr argyfwng tai sy’n bodoli mewn sawl cymuned yng Nghymru ac yn cydnabod yn benodol effaith andwyol lefelau anghynaladwy ail gartrefi sy’n arwain at amddifadu pobl leol rhag gallu cael cartref yn y cymunedau hynny.
2. Yn croesawu’r camau y mae rhai awdurdodau lleol wedi’u cymryd yn sgil darpariaethau Deddf Tai (Cymru) 2014 i gyflwyno premiwm treth gyngor ar ail gartrefi fel un dull o geisio newid ymddygiad ynghylch defnydd ail gartrefi ac i hwyluso cyflwyno mesurau i ddiwallu’r angen lleol am dai, ond yn cytuno bod rhaid wrth ymyrraeth ac arweiniad o’r newydd ar lefel genedlaethol erbyn hyn.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn ddi-oed i ddatblygu a chyflwyno pecyn o fesurau fyddai’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
a) defnyddio’r gyfundrefn gynllunio i reoli’r gallu i newid defnydd tŷ annedd o fod yn brif gartref i fod yn ail gartref;
b) galluogi cyflwyno cap ar y gyfran o’r holl stoc tai mewn cymuned y gellid eu defnyddio fel ail gartrefi mewn cymunedau lle mae’r crynodiad o ail gartrefi eisoes yn anghynaladwy;
c) diweddaru’r gyfraith sy’n golygu nad oes rhaid talu’r un geiniog o dreth gyngor ar rai ail gartrefi fel mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd;
d) dyblu uchafswm premiwm y dreth gyngor y gellid ei godi ar ail gartrefi i o leiaf 200 y cant i atgyfnerthu’r gwaith sydd eisoes yn digwydd mewn rhai awdurdodau lleol i geisio newid ymddygiad o gwmpas defnyddio ail gartrefi, codi refeniw i’w fuddsoddi mewn tai cymdeithasol ac i ddigolledu cymunedau am sgileffeithiau andwyol gorddefnydd ail gartrefi ar gymunedau a gwasanaethau lleol;
e) dyblu cyfradd uwch y dreth trafodiadau tir ar unwaith am gyfnod cychwynnol o chwe mis i geisio atal prisiau tai rhag mynd ymhellach o gyrraedd y boblogaeth leol a’r rhai sy’n prynu am y tro cyntaf mewn nifer o gymunedau;
f) cymryd camau cadarnhaol i hwyluso mynediad at dai am bris sydd o fewn cyrraedd y farchnad leol, gan gynnwys y posibilrwydd o annog datblygu tai gydag amod lleol arnynt;
g) annog a rhoi blaenoriaeth i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i brynu tai gwag i’w datblygu er mwyn diwallu’r angen lleol am dai cymdeithasol; a
h) edrych o’r newydd ar y diffiniad o dŷ fforddiadwy.
Diolch, Llywydd. Dylai pawb allu byw yn y gymuned lle cawson nhw eu magu. Mae'r misoedd diwethaf wedi amlygu pa mor bwysig ydy cael tŷ cyfforddus i fyw ynddo. Nid dim ond pedair wal a tho, ond rhywle diogel, rhywle clyd, cartref. Nid lle, ond lloches. Ac mae cartref hefyd yn rhan o wead ehangach cymuned, yn cynnig cyfle i bobl warchod ei gilydd, i rannu profiadau bywyd.
Ond, mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, mae nifer cynyddol a chynyddol o gartrefi yn diflannu, yn troi nôl at fod yn bedair wal a tho anghysbell, yn eiddo gwag ym mhob ystyr y gair. Mae'r broblem yn un enbyd ac yn gwaethygu. Yn wir, mae'r sefyllfa yn troi'n argyfyngus. Dyw pobl ifanc ddim yn gallu fforddio prynu tŷ yn yr ardal lle cawson nhw eu magu oherwydd bod y prisiau wedi eu chwyddo gan bobl o du fas i'r ardal yn prynu'r tai ar gyfer defnydd hamdden dros yr haf: pedair wal a tho, rhywle i ddianc iddo yn unig; bolthole, chwedl y Daily Mail.
Llywydd, mae hyn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol sylfaenol. Dylai'r farchnad dai ddim gadael i bobl prynu tai fel eiddo eilradd ar draul buddiannau'r cymunedau a'r bobl sydd yn byw ynddynt bob dydd o'r flwyddyn. Mae yna rywbeth yn bod yn y farchnad ar hyn o bryd, ac mae angen ymyrraeth. Rwy'n sôn am argyfwng, a gwnaf i amlygu pam. Y flwyddyn ddiwethaf, roedd un ym mhob tri cartref a werthwyd yng Ngwynedd a Môn wedi cael ei werthu fel ail eiddo. Mae 12 y cant o stoc tai Gwynedd yn dai lle mae'r perchennog yn byw tu fas i ffiniau'r ardal. Mae'r gyfradd hon ymysg yr uchaf yn Ewrop.
Pwrpas datganoli oedd ein hymbweru ni fel Aelodau o'r Senedd i weithredu er budd dinasyddion Cymru pan fyddan nhw ein hangen. Maen nhw ein hangen ni nawr. Ond ar hyn o bryd, fel y soniodd yr Athro Richard Wyn Jones mewn erthygl ddiweddar yng nghylchgrawn Barn, mae yna ddiymadferthedd o du Llywodraeth Cymru. Mae'r Llywodraeth yn cydnabod bod yna broblem, ond dydyn nhw ddim yn cymryd yr un cam i'w datrys.
Mae'n siom, ond ddim yn syndod bod Llywodraeth Cymru, yn ôl eu harfer, wedi penderfynu dileu ein holl gynnig a rhoi yn ei le nifer o frawddegau gwag yn brolio eu hunain. Mae pwynt 6 y gwelliant yn sôn am gynnal adolygiad o'r sefyllfa, ond mae'r ffeithiau i gyd eisoes yn hysbys. Mae sôn hefyd am weithredu yn sgil darganfyddiadau'r adolygiad yma, sydd yn siŵr o gymryd hydoedd, pan mae'r gwaith ym eisoes wedi cael ei wneud gan Blaid Cymru. Gweithredu sydd ei angen nawr, nid grŵp gorchwyl.
Yn ein papur ni heddiw, mae Plaid Cymru yn cynnig nifer o gamau er mwyn lliniaru'r sefyllfa. Mae'r rhain yn cynnwys newidiadau i'r maes cynllunio er mwyn galluogi cymunedau i gyfyngu ar nifer yr eiddo a all gael eu prynu fel ail dai; galluogi cynghorau i godi premiwm treth gyngor uwch ar dai haf, a chau'r loophole sy'n galluogi perchnogion tai o'r fath i gofrestru eu heiddo fel busnes; cynyddu'r dreth drafodiadau tir ar bryniant ail eiddo; cyflwyno cyfyngiadau ar gwmnïau fel Airbnb i reoli nifer y tai sy'n cael eu defnyddio fel llety tymor byr; edrych ar y posibiliad o gyflwyno amod lleol ar dai mewn rhai ardaloedd; ac ailddiffinio tai fforddiadwy, fel nad yw'n cynnwys tai gwerth dros £0.25 miliwn.
Does dim un o'r mesurau yn fwled aur, a does dim un yn ddadleuol, ond, gyda'i gilydd, gallant wyro grym y farchnad i ffwrdd o fuddsoddwyr cyfoethog tuag at bobl gyffredin ar gyflogau isel. Ni fyddai Cymru ar ei phen ei hunan yn cymryd camau o'r fath. Yn wir, rŷn ni yng Nghymru yn eithriad yn y ffaith ein bod ni'n caniatáu i'r anghyfiawnder yma barhau. Mae gwledydd ledled y byd wedi gweithredu yn wyneb amgylchiadau tebyg. Er enghraifft, mae Seland Newydd a Denmarc wedi gwahardd gwerthu tai i bobl sydd ddim yn ddinasyddion, ac mae rhanbarth Bolzano yn yr Eidal wedi cyfyngu ar werthiant tai haf i bobl o du allan i'r rhanbarth. Dim ond rhai enghreifftiau ydy'r rhain, ac, os hoffai Aelodau wybod mwy, mae Mabon ap Gwynfor o Ddwyfor Meirionnydd wedi gwneud ymchwil rhagorol, gan rannu degau o enghreifftiau ar ei gyfryngau cymdeithasol.
Byddem yn galw ar Lywodraeth i ailystyried eu bwriad i ddileu ein holl gynnig ni gyda'u gwelliant. Onid ydych yn gweld bod yna argyfwng? Pam na fyddech yn fodlon defnyddio'r pŵer gweithredol sydd gennych i helpu'r bobl a'r cymunedau sy'n gweiddi allan mewn poen? Pam na safwch chi yn y bwlch? Wedi'r cwbl, mae'r camau rydym yn eu harddel nid yn unig yn ymateb i broblem benodol; gallant hefyd helpu'r Llywodraeth i gyflawni rhai o'u hamcanion presennol eu hunain. Er enghraifft, gyda'r uchelgais tymor hir i gael 30 y cant o bobl i weithio o gartref, trwy weithredu'r argymhellion, gallai pobl ifanc ddychweled i'w bröydd a'u hailegnïo, cyn belled â bod yna dai fforddiadwy yno iddynt allu byw ynddyn nhw. Ac mae trefi sy'n llawn bwrlwm trwy gydol y flwyddyn yn well i'r economi na'r rhai sydd ond yn dod yn fyw am fis, fel Abersoch. Dyma gynllun sy'n gwneud synnwyr economaidd yn ogystal â synnwyr cymdeithasol. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddihuno o'u trwmgwsg a gweithredu er mwyn sicrhau nad yw rhai o'n cymunedau'n troi'n drefi a phentrefi lle mae'r rhan fwyaf o'r eiddo yn wag, a lle mae pobl ifanc yn ei chael yn amhosibl prynu cartref. Mae angen ailgodi ein cymunedau, ac mae angen cymryd y camau hyn nawr.
Mae yna her i'r Llywodraeth heno, Llywydd: gweithredwch nawr, neu bydd anghyfiawnder yn parhau ar bobl ifanc, bydd ein diwylliant yn pylu, ac, fel Capel Celyn, bydd rhai o'n cymunedau yn suddo i bydew hanes. Mae gennych chi'r pŵer. Defnyddiwch y pŵer hwnnw.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os dderbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galw ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Mark Isherwood.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod yr argyfwng tai sy’n bodoli mewn sawl cymuned yng Nghymru a'r angen i alluogi pobl leol i gael mynediad i gartrefi yn y cymunedau hynny.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn ddi-oed i ddatblygu a chyflwyno pecyn o fesurau fyddai’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
a) cymryd camau cadarnhaol i hwyluso mynediad at dai ar bris sydd o fewn cyrraedd pobl leol, gan gynnwys ailgyflwyno hawl i brynu wed'i diwygio ac archwilio'r opsiynau ar gyfer annog datblygu tai gydag amod lleol arnynt;
b) annog a rhoi blaenoriaeth i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i brynu tai gwag i’w datblygu er mwyn diwallu’r angen lleol am dai cymdeithasol; ac
c) egluro beth yw cartref fforddiadwy.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector twristiaeth ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio i sefydlu sylfaen dystiolaeth ar gyfer polisi ynghylch cymhwysedd i gofnodi llety hunanarlwyo ar y rhestr ardrethi annomestig.
Rwy'n cynnig gwelliant 1.
Ers 2003, rwyf wedi ymgyrchu dros y sector, gan rybuddio Llywodraeth Cymru fod Cymru'n wynebu argyfwng o ran y cyflenwad o dai fforddiadwy oni bai bod camau'n cael eu cymryd ar frys. Clywsom hyn pan gawsom dystiolaeth am Ben Llŷn 15 mlynedd yn ôl. Yn lle hynny, torrodd Llywodraeth Lafur Cymru dros 70 y cant oddi ar nifer y cartrefi cymdeithasol yn ystod tri thymor cyntaf y Cynulliad, wrth i restrau aros chwyddo. Nododd adolygiad tai'r DU yn 2012 mai Llywodraeth Cymru ei hun a roddodd lai o flaenoriaeth i dai yn ei chyllidebau cyffredinol, fel mai hi, erbyn 2009-10, o bedair gwlad y DU, oedd â'r lefel gyfrannol isaf o lawer o wariant ar dai. Hyd yn oed y llynedd, 2019, y flwyddyn lle gwelwyd y nifer fwyaf o gofrestriadau cartrefi newydd yn y DU ers 2007, gostyngodd y niferoedd yng Nghymru dros 12 y cant. Felly, ni allwn gefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru, sy'n esgus bod Llywodraeth Cymru wedi bod ag ymrwymiad hirsefydlog i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd da.
Mae gwelliant Llafur yn datgan y bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei tharged o 20,000 o dai fforddiadwy erbyn diwedd tymor y Senedd hon, ond er bod adroddiadau annibynnol yn datgan bod angen 20,000 o gartrefi cymdeithasol ar Gymru dros dymor y Senedd, nid yw'n crybwyll bod eu targed yn cynnwys perchentyaeth rhent uniongyrchol cost isel ac unrhyw beth arall y gallant wasgu iddo yn ogystal â thai cymdeithasol, a dyna'r rheswm dros ein gwelliant yn galw am egluro beth yw cartref fforddiadwy.
Rwy'n croesawu galwad gwelliant Llafur ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad trylwyr gyda thystiolaeth o berchnogaeth ail gartrefi yng Nghymru a'r mesurau a allai fod yn angenrheidiol i sicrhau anghenion unigolion, cymunedau a'r economi, yn enwedig yr economi ymwelwyr. Fodd bynnag, fel y dywed ein gwelliant, rhaid i hyn gynnwys gweithio gyda'r sector twristiaeth ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio i sefydlu sylfaen dystiolaeth ar gyfer polisi ar gymhwysedd i gofnodi llety hunanddarpar ar y rhestr ardrethu annomestig. Yn y gorffennol, arweiniodd cynigion Llywodraeth Cymru i newid y meini prawf cymhwyso ar gyfer llety hunanddarpar at bryder eang ymysg cyrff masnach, gan gynnwys Cymdeithas Gweithredwyr Hunanddarpar Cymru ac aelodau Cynghrair Twristiaeth Cymru. Nododd Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2010 a ddilynodd fod yn rhaid i annedd fod ar gael i'w gosod am o leiaf 140 diwrnod mewn cyfnod o 12 mis er mwyn bod yn gymwys fel llety hunanddarpar, ac wedi'i gosod am o leiaf 70 diwrnod. Cafodd y Gorchymyn ei ddiwygio a'i gryfhau gan Lywodraeth Cymru yn 2016, a chadwyd y cyfnodau cymhwyso, gan adlewyrchu'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus.
Fel y dywed adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar eiddo gwag yn 2019:
mae'r meini prawf ar gyfer llety hunanddarpar yn taro cydbwysedd... Gellir cofnodi anheddau sy'n bodloni'r meini prawf ar y rhestr ardrethu annomestig.... I eiddo gael ei ddiffinio fel llety hunanddarpar... rhaid i'r perchennog roi tystiolaeth i Asiantaeth y Swyddfa Brisio fod yr eiddo'n bodloni'r meini prawf.
Ac yn arbennig,
Os yw awdurdod lleol yn credu y dylid rhestru eiddo ar gyfer y dreth gyngor a bod ganddo dystiolaeth o hyn, mae'n ofynnol iddo rannu gwybodaeth o'r fath gyda'r Asiantaeth.
Ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi meini prawf cymhwysedd tynnach ar gyfer grantiau busnes i fusnesau sy'n gosod llety gwyliau ym mis Ebrill, cysylltodd nifer fawr o berchnogion pryderus â mi yn dweud, er enghraifft, 'Maent eisoes yn gwybod pa fusnesau sy'n talu ardrethi busnes a phwy sy'n talu'r dreth gyngor. Dylai'r rheini sy'n talu ardrethi busnes fod wedi cael grant yn awtomatig.' Roedd pob un ond dau ohonynt yn byw yng ngogledd Cymru, ac roedd un o'r lleill yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, wedi'u geni a'u magu yng Ngwynedd, ac yn cadw cartref yn Abersoch. Diolch i gynghorau Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy am ddefnyddio eu pwerau disgresiwn i roi grantiau i bob un o'r bobl hyn yn y pen draw. Dim ond Sir y Fflint sy'n dal i fynnu bod Llywodraeth Cymru yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol ymatal rhag rhoi grantiau i fusnesau cyfreithlon nad ydynt yn bodloni'r meini prawf diwygiedig.
Ychwanegodd Deddf Tai (Cymru) 2014 bwerau disgresiwn i awdurdodau lleol osod premiwm treth gyngor o hyd at 100 y cant ar ail gartrefi. Rhybuddiais ar y pryd na fyddai hyn yn creu cyflenwad ychwanegol i bobl sydd angen tai fforddiadwy yn eu cymunedau ac y byddai galluogi awdurdodau lleol i godi treth gyngor ychwanegol ar berchnogion ail gartrefi yn arwain at y risg o ganlyniadau anfwriadol. Fel y dywedodd y sector wrthyf, ysgogodd hyn lawer o bobl nad oeddent yn gwybod eu bod eisoes yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i newid, ac eraill i ddechrau gosod eu cartrefi i helpu gyda chostau.
Roedd y rhan fwyaf o'r ail gartrefi a brynwyd mewn mannau gwyliau poblogaidd fel Abersoch eisoes yn ail gartrefi—wedi'u hadeiladu fel ail gartrefi dros ganrif a mwy, ac wedi parhau felly ers hynny. Fodd bynnag, mae'n hen bryd rhoi camau ar waith i ddarparu tai fforddiadwy lleol i bobl leol, gan gynnwys prynu cartrefi gwag addas ar gyfer tai cymdeithasol, datblygu cartrefi gydag amodau marchnad leol effeithiol ynghlwm wrthynt, ac ailgyflwyno hawl i brynu wedi'i diwygio i denantiaid tai cyngor, gyda 100 y cant o'r derbyniadau o werthiannau'n cael eu hailfuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd i bobl leol, gan fod cynyddu nifer yr aelwydydd gyda'u drws ffrynt fforddiadwy eu hunain yn economeg dda yng nghyd-destun tai. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.
Gwelliant 2—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod her ail gartrefi—a thai gwag—i'r cyflenwad o dai fforddiadwy mewn rhai cymunedau yng Nghymru.
2. Yn croesawu ymrwymiad hirsefydlog Llywodraeth Cymru i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel, gan gydnabod eu rôl hanfodol fel sylfaen i gymunedau cynaliadwy cryf.
3. Yn croesawu, er bod y pandemig wedi cael effaith ar adeiladu tai fforddiadwy, y bydd Llywodraeth Cymru'n cyrraedd y targed o 20,000 erbyn diwedd tymor y Senedd hon, a fydd yn helpu i ddiwallu'r angen am dai lleol.
4. Yn nodi mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU lle mae awdurdodau lleol yn gallu codi premiwm o hyd at 100 y cant o gyfradd safonol y dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir.
5. Yn nodi ymhellach na wnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu gostyngiad treth dros dro yng Nghymru, yn wahanol i weddill y DU, i fuddsoddwyr prynu i osod, buddsoddwyr mewn llety gwyliau na phrynwyr ail gartrefi.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad trylwyr o berchnogaeth ail gartrefi yng Nghymru a'r mesurau a allai fod yn angenrheidiol i sicrhau bod anghenion unigolion, cymunedau a'r economi, yn enwedig yr economi ymwelwyr, yn cael eu cydbwyso. Dylai adolygiad o'r fath ystyried rôl trethiant, cynllunio, rheoleiddio lleol ynghyd â'r cyflenwad o dai fforddiadwy o bob math a mynediad atynt.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Neil McEvoy i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn ei enw. Neil McEvoy.
Diolch, Lywydd. Rwyf wedi cyflwyno gwelliant syml heddiw, sy'n dweud, lle bo angen, y dylai awdurdodau lleol ddefnyddio pryniant gorfodol i ddiwallu anghenion tai cymdeithasol. Rwyf wedi cefnogi prynu gorfodol ers peth amser. Rwyf hefyd wedi dadlau ers tro byd o blaid cysyniad syml ar gyfer tai, sef tai lleol yn seiliedig ar angen lleol. Mae'n safbwynt nad yw'r Blaid Lafur yn ei ddeall. Mae'n well ganddynt adeiladu tai drud y tu hwnt i allu pobl leol i'w fforddio ar safleoedd maes glas—yng Nghaerdydd, ar safleoedd maes glas y dywedasant y byddent yn eu diogelu.
Ond ni allaf ddweud bod Plaid Cymru yn gwneud yn llawer gwell. Mae Gwynedd yn cael ei chwalu. Fel y clywsom gan yr Aelod o Blaid Cymru a oedd yn cyflwyno'r cynnig, mae'n cael ei chwalu gan berchnogaeth ail gartrefi, ac eto mae cynllun datblygu lleol cyngor Gwynedd sy'n cael ei redeg gan Blaid Cymru yn galluogi cartrefi teuluol i gael eu trosi'n llety gwyliau. Nawr, doedd dim angen iddynt wneud hynny, ond fe'u gwnaethant.
Felly, ceir prinder o gartrefi i bobl eu prynu'n lleol, ac mae problem gyda fforddiadwyedd, ac eto mae Plaid Cymru, y rhai sy'n cyflwyno'r cynnig hwn ac mewn grym yng Ngwynedd, yn penderfynu gwneud y broblem yn waeth. Nawr, mae arweinydd Plaid Cymru yn ysgwyd ei ben—efallai y dylech gael gair gyda'ch grŵp yng Ngwynedd a'u cael i newid y cynllun datblygu lleol. Oherwydd dyna y mae'r Welsh National Party yn ymgyrchu i'w wneud: newid y cynllun datblygu yng Ngwynedd.
Achos mae cynllun datblygu lleol Plaid Cymru yng Ngwynedd yn annerbyniol.
Rydym mewn sefyllfa yn awr, os ydym yn siarad am Wynedd—. Abersoch—cafodd ei grybwyll yn gynharach, ac mae'n rhaid i'r ysgol gau, yr ysgol gynradd, oherwydd prinder niferoedd, sy'n ymwneud yn uniongyrchol â pherchnogaeth ail gartrefi. Nawr, gyda degawdau o fod mewn grym—mae fy nheulu yng nghyfraith yn byw i fyny'r lôn—gyda degawdau o fod mewn grym, beth y mae Plaid Cymru wedi'i wneud yng Ngwynedd i ddatrys y broblem hon? Y nesaf peth i ddim—bron ddim byd. A dyma'r gorau eto, hyn; dyma'r gorau. Mae'n werth cofio mai Gweinidog Plaid Cymru yma, pan oeddent yn y Llywodraeth—Jocelyn Davies—a dderbyniodd y ffigurau poblogaeth gwallus o Lundain, gan baratoi'r ffordd ar gyfer cynlluniau datblygu lleol ym mhob rhan o Gymru, cynlluniau a oedd yn llyncu ein safleoedd maes glas ac yn dinistrio ein hiaith. Plaid Cymru, mewn grym, unwaith eto'n ildio.
A grŵp Plaid Cymru yn y Senedd hon sydd â chymaint â 40 y cant o'i aelodau yn cofrestru buddiant mewn o leiaf un ail gartref. Ac mae hynny'n uwch na'r Blaid Lafur; mae'n uwch na grŵp y Ceidwadwyr yma. Dim ond Plaid Brexit sydd â chanran uwch. Ac rwyf am gyferbynnu hynny â'r ffaith bod yr un gwleidyddion—gwleidyddion sy'n berchen ar fwy nag un cartref—wedi pleidleisio ychydig yn ôl i atal pobl rhag bod yn berchen ar eu tŷ cyngor eu hunain. Felly, mae'n iawn i un person fod yn berchen ar dri, ac eto ni chaniateir i rai o fy etholwyr brynu un tŷ cyngor y maent am ei brynu.
Byddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig, ond nid wyf wedi gallu ymatal rhag nodi rhagrith Plaid Cymru yma, wrth iddynt fethu mynd i'r afael â'r broblem yng Ngwynedd, yng Ngheredigion, ac sy'n berchen ar gynifer o ail gartrefi eu hunain.
Ni allwn barhau i gael cymunedau sy'n wag am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, lle mae cyn lleied o blant fel bod yr ysgolion yn gorfod cau. Mae arnom angen system sy'n seiliedig ar brif egwyddor tai lleol i bobl leol, anghenion lleol. Ac rydym angen system gynllunio newydd—mae taer angen hynny—a byddwn yn dweud bod angen arloesedd mewn llywodraeth leol yn ogystal er mwyn mynd i'r afael â'r problemau difrifol hyn. A dyna mae'r Welsh National Party yn ymgyrchu drosto. Diolch yn fawr.
Rydyn ni wedi dod â chynnig manwl a chynhwysfawr gerbron y Senedd heddiw, a'r bwriad ydy symud y drafodaeth oddi wrth y broblem ac at yr atebion a'r angen i weithredu, a hynny ar frys, mewn cyfnod lle mae arwyddion clir mai dwysáu y mae'r broblem. Rydyn ni'n gwybod bod pobl leol yn cael eu cau allan o'r farchnad dai mewn cymunedau ar draws Cymru, a bod hynny ar gynnydd. Mae dros 6,000 o ail gartrefi yn y sir lle dwi yn byw, yng Ngwynedd—12 y cant o'r stoc tai, un o'r canrannau gwaethaf yn Ewrop gyfan. Ac mae'r cyfnod COVID wedi dod â'r tensiynau y mae sefyllfa felly yn eu creu i'r wyneb unwaith eto. Yn y pen draw, mae angen newidiadau mawr, strwythurol i'r economi, i bolisïau ariannol, i bolisïau tai, er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa go iawn. Does yna ddim arwydd cliriach o ba mor anghyfartal ydy bywyd yn y gwledydd hyn. Mae yna rywbeth mawr o'i le lle mae cynifer o fy etholwyr i yn ennill cyflogau bychain ac yn byw mewn tai anaddas, tamp, rhy fach, heb le y tu allan, tra bod yna nifer cynyddol o dai moethus yn wag am gyfnodau hir o'r flwyddyn am fod y perchnogion, mwy cefnog, yn eu prif gartrefi mewn rhan arall, mwy goludog, o'r wladwriaeth Brydeinig anghyfartal.
Oes, mae angen newidiadau mawr, a phrysured y dydd pan fydd Senedd Cymru yn rhydd i roi'r newidiadau strwythurol yma ar waith mewn gwlad annibynnol. Yn y cyfamser, mae yna nifer o fesurau yn bosib, ac o fewn rheolaeth y Llywodraeth. Ac yn ein cynnig ni, rydyn ni'n cyflwyno pecyn o fesurau a allai wneud gwahaniaeth yn y maes cynllunio, cyllid, a thrwyddedu. Yr hyn sydd ei angen ydy'r ewyllys gwleidyddol i weithredu, a hynny ar frys. Ac mi roeddwn i'n falch o glywed y Prif Weinidog yn dweud bod angen deddfu i leihau problemau ail gartrefi. Mae Plaid Cymru yn barod iawn i gydweithio efo'i Lywodraeth o er mwyn pasio deddfwriaeth frys, yn ystod y misoedd nesaf. Mae hon yn broblem sydd angen mynd i'r afael â hi yn syth, nid i'w gadael yn fater i'w gynnwys mewn maniffesto at etholiad mis Mai y flwyddyn nesaf. Mi fyddai cymryd camau pendant rŵan, cychwyn ar y gwaith o greu newid, yn arwydd clir a diamwys i gymunedau sydd dan bwysau aruthrol bod Llywodraeth a Senedd ein gwlad yn cymryd y mater o ddifrif, ac yn credu bod angen gweithredu ar frys.
Dydy hon ddim yn broblem sy'n unigryw i Gymru, wrth gwrs, ac mae yna wledydd ar draws y byd yn wynebu heriau tebyg. Ac yn yr adroddiad rydyn ni'n ei gyhoeddi heddiw yma, rydyn ni yn cynnwys mesurau sydd yn cael eu gweithredu yn llwyddiannus mewn rhannau eraill o'r byd, ac yn agosach at adref, efo Northumberland, er enghraifft, yn ystyried newidiadau i'w polisi cynllunio a fyddai'n gwahardd gwerthiant eiddo i bobl o'r tu allan mewn ardaloedd lle mae gormod o ail gartrefi. Mae angen gweithredu a symud y drafodaeth ymlaen o'r broblem i'r hyn sydd angen ei wneud i'w datrys. Mi fyddwn i yn annog pawb sydd yn gwylio'r ddadl hon i ddarllen adroddiad Plaid Cymru, ac mi fyddwn ni yn falch iawn i gael eich ymateb chi, eich sylwadau chi, a syniadau pellach, ymarferol am sut i ddatrys yr argyfwng yma sy'n wynebu nifer cynyddol o'n cymunedau ni.
Credaf fod rhywbeth sylfaenol o'i le mewn cymdeithas lle mae rhai pobl heb gartref, neu'n byw mewn tai cwbl anaddas—gorlawn, llaith, oer—ac eraill sydd â dau gartref neu fwy, gydag o leiaf un y maent ond yn ei ddefnyddio'n anfynych. Rwy'n credu bod hynny'n foesol anghywir.
A gaf fi ddweud fy mod yn cefnogi gwelliannau Llywodraeth Cymru, ac mae un ohonynt yn croesawu ymrwymiad hirsefydlog Llywodraeth Cymru i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd da, gan gydnabod eu rôl sylfaenol fel carreg sylfaen i gymunedau cryf a chynaliadwy? A gaf fi fynd ymhellach? Credaf fod arnom angen mwy o dai cyngor a mwy o dai cymdeithasol, ond yn enwedig tai cyngor. Rwy'n siarad fel un o'r rhai a fagwyd mewn tŷ cyngor yn y 1960au. Newidiodd fy mywyd ac fe newidiodd fywyd fy nheulu. Rwy'n credu bod tai cyngor yn ffordd wych o ddarparu tai sy'n fforddiadwy ac o ansawdd da i bobl.
Rwyf hefyd yn dilyn pryder Llywodraeth Cymru ynglŷn â chartrefi gwag. Yn ôl data a gafwyd gan ITN News y llynedd, roedd 43,028 o gartrefi gwag yng Nghymru, gydag o leiaf 18,000 yn wag ers mwy na chwe mis. Mae hynny'n gyfystyr ag oddeutu 450 ym mhob etholaeth. Mae'r rheini'n cynnwys pob math o eiddo, gyda thai mewn ardaloedd poblogaidd yn cael eu gadael yn wag am sawl blwyddyn. Mae cartrefi gwag yn adnodd sy'n cael ei wastraffu ar adeg pan fo cryn dipyn o alw am dai. Hefyd, gallant achosi niwsans a phroblemau amgylcheddol, lle gall cartrefi gwag fod yn ffocws i lefelau uwch o droseddu, fandaliaeth, ymddygiad gwrthgymdeithasol, camddefnyddio cyffuriau, gerddi wedi gordyfu, ffensys neu waliau ffiniau ansefydlog, a lle mae gennych wal a rennir, naill ai mewn tai teras neu dai pâr, gall arwain at leithder yn dod drwodd. Maent hefyd yn adnodd tai posibl nad yw'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Gall sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio eto fod yn ffordd o helpu i fynd i'r afael â nifer o broblemau tai a phroblemau cymdeithasol drwy gynyddu'r cyflenwad mewn ardaloedd lle ceir prinder tai a lle mae'r cyflenwad o dan bwysau. Mae'n gyfle i gysylltu cartrefi gwag addas ag anghenion tai.
Os yw pob ymdrech i berswadio perchnogion a landlordiaid i sicrhau bod eu heiddo'n cael ei ddefnyddio unwaith eto yn methu a bod eiddo o'r fath yn parhau i fod yn niwsans neu mewn cyflwr gwael, rhaid nodi bod angen i gynghorau ystyried eu pwerau gorfodi. Ond mae angen mwy o bwerau gorfodi ar gynghorau hefyd a'r gallu i feddiannu'r tai hynny. Mae gwir angen iddynt allu dweud, 'Mae'r tŷ hwn wedi'i adael yma ers 18 mis i ddwy flynedd; mae'n dirywio. Byddwn yn ei brynu'n orfodol am ei bris ar y farchnad', ac yna gallant ei drwsio a'i roi ar werth i'r sector preifat neu i gymdeithas dai—nid oes ots gennyf pa un. Mae'n ymwneud â dod ag un tŷ arall yn ôl i ddefnydd.
Er clod iddi, cyflwynodd Llywodraeth Cymru fenthyciadau Troi Tai'n Gartrefi i adnewyddu eiddo gwag a'i wneud yn addas i fyw ynddo. Mae'r benthyciadau'n ddi-log, gallant dalu am waith ar dai, ond nid oes digon wedi'i wneud o'r cynllun; nid oes digon o bobl wedi manteisio arno, ac mae'r eiddo gwag gennym o hyd. Gallwn fynd â chi o amgylch fy etholaeth, a byddwch yn cerdded ar hyd stryd o dai teras ac fe welwch un neu ddau. Os ewch ar hyd stryd o dai pâr mewn ardaloedd poblogaidd, bydd yna rai tai'n wag. Gallwch gerdded drwy ardal lle ceir tai sengl mawr, a bydd un ohonynt wedi'i adael yn wag. Ni ellir caniatáu i hyn barhau a chredaf fod angen i'r Llywodraeth ddechrau rhoi camau mwy cadarn ar waith. Ydy, mae'n iawn ei gondemnio, ond mae angen gweithredu hefyd.
Rwy'n croesawu rhan (c) o gynnig Plaid Cymru ar foderneiddio deddfwriaeth sy'n golygu ar hyn o bryd na thelir ceiniog o'r dreth gyngor ar ail gartrefi. Nid wyf yn beio'r rheini sy'n manteisio ar fylchau yn y dreth. Ein lle ni yw cau'r bylchau hynny. Dylid talu'r dreth gyngor ar bob eiddo preswyl. Ni ddylai rhyddhad trethi i fusnesau bach fod ar gael ar eiddo sydd wedi'i ddefnyddio'n flaenorol neu wedi'i adeiladu fel eiddo preswyl. Os cafodd ei adeiladu fel eiddo preswyl, dylai fod yn eiddo preswyl. Rwy'n siŵr y bydd rhai pobl yn dweud y bydd yn effeithio ar y ddarpariaeth o lety gwyliau ac ar dwristiaeth. Os yw hynny'n wir, mae'n dweud rhywbeth wrthyf: nad yw'r llety gwyliau yn hyfyw yn economaidd. Os yw talu treth gyngor o £1,000 yn mynd i olygu nad yw'r llety gwyliau hwnnw'n hyfyw, mae rhywbeth o'i le ar y llety gwyliau. Bydd hefyd yn darparu mwy o eiddo i bobl leol. Credaf ein bod i gyd yn gwybod am ardaloedd lle ceir prinder tai i'w prynu neu eu rhentu.
Yn olaf, a gaf fi fynd yn ôl at gân actol gan grŵp o Eryri yn Eisteddfod yr Urdd, yn Llandudno rwy'n credu? Roedd yn ymwneud â phentref a oedd am ddiogelu'r Gymraeg a'u cymuned ac roeddent yn chwyrn yn erbyn gwerthu cartrefi i fod yn ail gartrefi. Daeth i ben gyda'r cwpl mwyaf croch yn gwerthu i'r sawl a oedd yn cynnig fwyaf o arian a oedd am ei gael fel ail gartref. Gwnaeth y pwynt mai pobl leol sy'n gwerthu'r tai hyn i fod yn ail gartrefi. Hwy yw'r rhai nad ydynt yn cadw'r cartrefi hyn yn eu cymuned. Pe na bai ond ail gartrefi'n cael eu gwerthu fel ail gartrefi, ni fyddem yn gweld y cynnydd hwn. A chredaf ei fod yn rhywbeth lle mae gwir angen inni ddweud, 'Os gwelwch yn dda, yn eich cymuned leol, os ydych yn poeni am eich cymuned, peidiwch â gwerthu i bobl o Gaerdydd neu Lundain, ond gwerthwch i bobl sy'n lleol'.
Dwi'n falch o allu cymryd rhan yn y ddadl yma. Dwi'n ffodus i fod wedi cael fy newis ar gyfer dadl fer wythnos nesaf. Roeddwn i wedi meddwl gwneud honno am ail gartrefi, ond dwi'n falch o gael rhannu fy sylwadau i wythnos yn gynharach hyd yn oed.
Mae'r mater yma yn un sydd wedi bod o bwys mawr i nifer ohonom ni yn y Senedd yma ers blynyddoedd lawer. Dwi'n cofio poster Cymdeithas yr Iaith 'Nid yw Cymru ar werth' ar wal fy llofft yn yr 1980au. Ond mae'r cyfnod clo, y ffaith bod pobl wedi dod i adnabod eu cymunedau'n well, yn sylwi ar bobl yn symud yn ôl ac ymlaen i ail gartrefi, ceisio cofrestru efo meddygfeydd ac ati, wedi rhoi impetus o'r newydd i hyn, wedi codi lefel y pryderon ac wedi cynyddu'r awydd ymysg y cyhoedd i'n gweld ni'n gwneud rhywbeth i ddatrys y broblem. Mae rhannau o Gymru—llawer o rannau—yn dal i deimlo eu bod nhw ar werth to the highest bidder. Ac, yn rhy aml, dydy ein pobl ifanc ni, pobl ar gyflogau isel yn ein cymunedau ni, ddim yn gallu cystadlu.
Mae'n anodd gwybod ble i ddechrau efo'r enghreifftiau dwi'n eu gweld yn Ynys Môn. Mae cymaint â phedwar allan o bob 10 tŷ yn dai gwyliau mewn lle fe Rhosneigr. Rydych chi'n gweld tai cyffredin, tai teulu delfrydol yn mynd am brisiau hurt, ymhell iawn o afael y gymuned. Y canlyniad ydy bod tai yn diflannu oddi ar y farchnad leol am byth: y bwthyn bach yn ein hymyl ni sydd wedi mwy na dyblu yn ei werth mewn ychydig flynyddoedd; y tŷ ar stâd yn Llangaffo ar rent am bron i £1,800 y mis ar wefan o Lundain, yn y dyddiau diwethaf; tai teras a hen dai cyngor yn troi yn dai haf. I rai, maen nhw'n dai i'w defnyddio yn achlysurol. Dwi'n gweld dim bai ar bobl am fod eisiau gwneud hynny; mae Ynys Môn yn lle perffaith i dreulio penwythnos. Ond mae yna oblygiadau i hyn: mae'n gwthio prisiau i fyny, mae'n newid natur cymunedau, ac rydyn ni'n gwybod mor ddifywyd ydy cymunedau llawn tai haf drwy lawer o'r flwyddyn.
Mae eraill yn prynu tai haf i'w defnyddio nhw fel holiday let. Yn aml iawn, pobl leol ydy'r rhain, ond yr un ydy'r goblygiadau. Mae gwefannau fel Airbnb, wedyn, wedi gwneud hyn yn fwy deniadol fyth, yn haws. Ond nid cyd-ddigwyddiad ydy bod cymaint o ardaloedd a dinasoedd ledled y byd wedi gwahardd neu osod cyfyngiadau llym ar osod Airbnb erbyn hyn. Mi wnaeth etholwr, yn ddiweddar, gysylltu i gwyno bod un tŷ ar eu stâd deuluol nhw yn Ynys Môn yn bartis nosweithiol, wrth i bobl aros yno am wyliau byr. Nid dyna sut gymdogaeth mae pobl yn disgwyl byw ynddi hi ar stadau bach yn ein pentrefi ni.
Fel mae eraill wedi egluro, mae yna ffyrdd o gyflwyno rheolau i stopio hyn. Gwnewch hi'n angenrheidiol i gael caniatâd cynllunio i droi tŷ parhaol yn dŷ sy'n cael ei osod am gyfnodau byr. Nid gwrthod pob holiday let ydy hynny. Mae tai gwyliau hunanarlwyo yn gallu bod yn rhan bwysig iawn o'n harlwy twristiaeth ni, ond, ar hyn o bryd, mae allan o reolaeth. Rydyn ni angen gallu penderfynu faint i'w caniatáu o fewn unrhyw gymuned, a faint o dai haf. Ac ydy, mae hynny yn cynnwys rhoi cap a chaniatáu dim mwy mewn rhai cymunedau.
Mi wnaf innau droi at y loophole y clywsom ni Mike Hedges yn sôn amdano fo—y loophole trethiannol rydyn ni wedi bod yn gofyn i Lywodraeth Cymru ei gau ers blynyddoedd, erbyn hyn, ond heb lwc. Loophole ble mae pobl yn cofrestru tŷ haf fel holiday let, a thrwy hynny yn cael peidio â thalu treth gyngor, sydd â phremiwm arno fo, wrth gwrs, fel ail gartref mewn rhai siroedd, ac wedyn yn cael rhyddhad llawn ar dreth busnes. Mae'r trothwy ar gyfer newid defnydd yn llawer rhy isel, ac mae'n costio'n ddrud, gymaint â £1 miliwn y flwyddyn i gyngor fel Ynys Môn, ac mae'n rhaid iddo fo stopio. Mae mor syml â hynny. Mae'n gywilydd o beth bod y Llywodraeth Lafur wedi gwrthod cydnabod y broblem. Mi ddaeth y broblem yn amlycach fyth ar ddechrau'r pandemig yma pan roedd £10,000 o gefnogaeth ar gael i fusnesau bach. Gwych o beth fod busnesau go iawn yn cael cefnogaeth, ond gwarthus gweld pobl yn trio manteisio arno fo.
Efo'r cloc yn fy erbyn i, gadewch i mi ddweud hyn i gloi: does yna ddim byd yn unigryw i Gymru, fel rydyn ni wedi clywed yn barod, yn beth rydyn ni yn ei drafod. Mae pryderon am effaith perchnogaeth ail gartrefi a thai gwyliau wedi arwain at ddeddfwriaeth a chamau pendant iawn ar hyd a lled y byd. Gadewch i ni wneud beth mae eraill wedi sylweddoli mae'n rhaid gwneud. Nid ymosodiad ar dwristiaeth ydy hyn, gyda llaw, ond mae twristiaeth heb ei reoli, sydd yn rhywbeth sy'n digwydd i gymuned, yn wahanol iawn i dwristiaeth sy'n cael ei reoli a lle mae yna berchnogaeth go iawn arno fo ac sy'n gynaliadwy o fewn ein cymunedau ni.
Mi adawaf hi yn fanna. Rydyn ni'n gwybod bod Plaid Cymru eisiau gweithredu. Rydyn ni'n gofyn ar y Llywodraeth yma i ddechrau gweithredu rwan, achos rydyn ni mewn argyfwng.
Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'n bwnc diddorol, sydd wedi cael mwy o sylw dros gyfnod y cyfyngiadau symud, ac rwy'n cymeradwyo'r teimlad o 'gartrefi lleol i bobl leol' sy'n sail iddo. Rhaid i mi ddatgan buddiant yn yr ystyr fy mod wedi etifeddu tŷ fy niweddar dad pan fu farw, ac rwy'n ei osod ar rent i deulu lleol, a sylwaf o'r gofrestr o fuddiannau'r Aelodau fod llawer o'r Aelodau eraill yn y Siambr yn gwneud hynny hefyd. O ganlyniad i ofynion Rhentu Doeth Cymru, bu'n rhaid i mi gofrestru ac rwy'n cyflogi asiant i reoli'r eiddo. Pe bawn am wneud arian gwirioneddol ac yn diflasu ar fiwrocratiaeth bod yn landlord preifat yng Nghymru, efallai y cawn fy nenu at y llwybr Airbnb.
Mae'r cyhoeddiad diweddar ynglŷn ag ymestyn y cyfnod rhybudd o chwe mis i denantiaid wedi peri cryn ddryswch i landlordiaid preifat, a phrin fod llawer ohonynt yn eistedd gartref yn cyfrif eu harian—maent yn poeni ynglŷn â sut i barhau i dalu'r morgais. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen yn ofalus oherwydd efallai na fydd rhai ohonynt yn awyddus i gynnig eiddo ar rent hirdymor i bobl leol mwyach, ac rwy'n siŵr y byddai hyn yn ganlyniad anfwriadol, ac yn un gwael ar hynny.
O edrych ar y cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, mae'n teimlo fel cerydd yn unig a dim abwyd: cynllunio rheolaeth, biliau cosbol y dreth gyngor, cynyddu'r dreth trafodiadau tir. Ar lefel ymarferol, os gallwch fforddio ail gartref, byddwn yn awgrymu ei bod hi'n debygol eich bod yn gallu fforddio talu mwy o dreth gyngor a thalu mwy o dreth trafodiadau tir—ni fyddai hynny'n broblem i'r rhan fwyaf o'r bobl hyn. Ac er y byddwn o bosibl yn dymuno hyrwyddo cartrefi i bobl leol a chyfyngu ar gartrefi gwyliau, dim ond un rhan o farchnad dai gymhleth iawn yw ail gartrefi. Am y rheswm hwnnw, caf fy nenu at y rhan o gynnig y Blaid Lafur sy'n awgrymu y dylid cynnal archwiliad o nifer yr ail gartrefi a chartrefi gwyliau yng Nghymru, fel y gallwn weld maint y broblem yn llawn. Yn aml, nid yw canfyddiad yn adlewyrchu realiti, a ffeithiau nid teimladau yw'r hyn sy'n bwysig yma.
Rwy'n derbyn ac yn cydnabod bod yna argyfwng tai, ond fel gyda'r argyfwng hinsawdd, nid yw'n ymddangos bod Llywodraethau o unrhyw liw, yn unrhyw le, yn rheoli'r argyfwng mewn ffordd effeithiol o gwbl. Rwy'n cymeradwyo rhagamcan Llywodraeth Lafur Cymru y bydd yn cyrraedd ei tharged ei hun ar dai fforddiadwy, ond y gwir amdani yw nad yw 20,000 o gartrefi dros bum mlynedd yn agos at fod yn ddigon pan fo amcangyfrifon yn awgrymu bod angen llawer mwy, gan fod gennym 65,000 o deuluoedd ar ein rhestrau aros yma. Deallaf fod cynghorau bellach yn rhydd i adeiladu a bod y sector cyhoeddus yng Nghymru'n dal i fod yn berchen ar lawer iawn o dir. Felly, beth yw'r rhwystr i adeiladu neu greu cymaint o gartrefi ag sydd eu hangen ar Gymru? Gwn y bu ymgyrchoedd achlysurol i addasu cartrefi gwag at ddibenion gwahanol, ond fel y dywedodd Mike Hedges, os cerddwch o gwmpas mewn unrhyw ardal fe welwch amryw o adeiladau gwag nad ydynt yn cael eu defnyddio. Felly, gellir gwneud mwy yn sicr.
Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i ymgorffori camau o'r fath mewn polisi tai yn awr. Gwelsom ar ddechrau cyfnod y cyfyngiadau symud y gellir gwneud pethau mawr lle ceir ewyllys wleidyddol i wneud hynny, megis cael yr holl bobl ddigartref i mewn i dai. Felly, lle mae'r ewyllys wleidyddol i greu rhaglen dai i Gymru a fydd yn sicrhau bod gan ddinasyddion Cymru gartrefi y maent eu hangen ac yn eu haeddu?
Rwy'n croesawu'r posibilrwydd o edrych ar y diffiniad o 'fforddiadwy', ond byddai gennyf ddiddordeb hefyd mewn gwybod beth yw'r diffiniad o 'lleol'. Deuthum i Gymru ym 1986 o ganolbarth Lloegr. Rwyf wedi cyfrannu at fy nghymuned, wedi magu fy mhlant yng nghefn gwlad Cymru, ac rwy'n caru Cymru. Ar ôl bod yma am 34 mlynedd a mwy, a fyddwn yn cael fy ystyried yn lleol pe bawn yn gwneud hyn yn awr? Mae llawer o werth mewn edrych o ddifrif ar y maes tai yng Nghymru ac mae llawer o werth yn y cynnig hwn a nifer o'r gwelliannau. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru, a phob plaid sy'n meddwl am addewidion maniffesto yn wir, yn rhoi'r ystyriaeth ddifrifol sydd angen ei rhoi i dai, fel y mae pobl Cymru yn ei haeddu. Diolch.
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.
Diolch, Lywydd. Fel y clywsom gan nifer fawr o'r cyfranwyr i'r ddadl hon, mae ail gartrefi a'r holl faterion cysylltiedig yn emosiynol ac mae iddynt hanes hir a chymhleth. Rwy'n ddiolchgar iawn i Blaid Cymru am y cyfle i drafod y mater pwysig a chymhleth hwn sydd wedi'i godi sawl gwaith yn y Senedd dros yr wythnosau diwethaf, ac rwy'n hapus iawn i ailadrodd a dechrau fy sylwadau gyda'r cynnig y byddaf yn dod yn ôl ato hefyd wrth gloi, sef nad oes gennym fonopoli ar yr holl syniadau da yng Nghymru, ac rwy'n hapus iawn i weithio gydag Aelodau sydd â diddordeb ar draws y Senedd ar nifer o'r materion a godwyd heno i weld i ble y gallwn fynd gyda hynny.
Fel y mae nifer o gyfranwyr wedi dweud hefyd, mae'r pandemig wedi effeithio ar sut rydym yn gweld ac yn gwerthfawrogi ein cartrefi. Rydym yn treulio mwy o amser yn ein cartrefi, yn gweithio yn ogystal â byw ac ymlacio yno. Mae cartref wedi bod i lawer ohonom, y rhai lwcus, yn hafan yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ac i rai, mae'r opsiwn i adleoli i ail gartref hefyd wedi bod yn ddeniadol, ond gallwn weld y tensiynau y mae hynny wedi'u hachosi mewn rhai cymunedau, gan atgyfodi pryderon hirsefydlog ynglŷn â fforddiadwyedd, mynediad pobl leol at dai a chynaliadwyedd cymunedau y mae eu poblogaethau'n tyfu ac yn crebachu'n sylweddol gyda'r tymhorau.
Mae'r cymunedau hyn yn aml yn ffynnu diolch i'r economi ymwelwyr, ond wrth gwrs mae angen inni sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng yr economi honno a'r cymunedau sy'n ei chynnal. Mae angen swyddi ar gymuned fywiog ac mae angen cartrefi ar ei phobl; mae angen seilwaith cynaliadwy ac ymdeimlad o le. Mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn falch o'i phwyslais ar greu lleoedd. Y bore yma lansiais siarter creu lleoedd newydd ar gyfer Cymru, sy'n ymgorffori ein hymagwedd tuag at gymunedau cynaliadwy ledled Cymru ac sy'n gweithio gyda'n partneriaid ar draws y diwydiant ac ar draws y sector rheoleiddio i wneud sicrhau cymunedau mwy cynaliadwy yn nod a ymgorfforir ledled Cymru. Ac wrth gwrs, mae cyflawni hynny'n galw am gydbwysedd rhwng cartrefi parhaol a'r rhai y bydd rhywun yn byw ynddynt am ran o'r flwyddyn neu sy'n cael eu gosod fel busnesau.
Mae angen i bob aelod o'r gymuned, boed yn llawnamser neu'n rhan-amser, gyfrannu'n deg, ac mae angen inni sicrhau nad yw pobl leol yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai leol. Mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud tai fforddiadwy parhaol ledled Cymru yn flaenoriaeth ac rwy'n falch iawn o'n cyflawniad yn buddsoddi £2 biliwn mewn tai. Rydym ar y trywydd iawn i ddarparu ein 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod y tymor hwn—roeddem ar y trywydd iawn i wneud mwy na hynny, ond wrth gwrs, mae'r pandemig wedi cael effaith ar hynny—ac o fewn y ffigur hwnnw cartrefi rhent cymdeithasol yw'r gyfran fwyaf, ond rydym hefyd wedi helpu pobl i brynu eu cartrefi eu hunain drwy Cymorth i Brynu a thrwy rhentu i brynu.
Bydd cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn helpu pobl leol sy'n ei chael hi'n anodd aros yn lleol oherwydd prisiau eiddo a rhent uchel yn eu cymunedau. Bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn dweud droeon fy mod yn rhannu'r pryder na all pobl leol—pobl ifanc leol yn enwedig—aros yn y cymunedau lle cawsant eu magu i greu bywydau a theuluoedd iddynt eu hunain. Felly, mae'n bwysig ein bod yn canolbwyntio'n benodol ar gynyddu'r cyflenwad o dai ond mae sicrhau'r cydbwysedd cywir hefyd yn hanfodol. Mae hefyd yn bwysig fod perchnogion ail gartref yn gwneud cyfraniad teg i'r cymunedau lle maent yn prynu ac nad ydynt yn prisio pobl leol allan o'r farchnad. Fel y dywedais, nid yw methu gweithio a byw yn yr ardal rydych wedi tyfu fyny ynddi yn rhan o'r ffordd rydym yn gweld Cymru yn y dyfodol. Mae'n broblem sydd gennym ledled Cymru mewn nifer fawr o'n cymunedau; nid yw wedi'i chyfyngu i'r gogledd a'r gorllewin yn unig. Mae gennym gymunedau hardd iawn ledled Cymru ac maent yn gynyddol ddeniadol i bobl, a dylem fod yn briodol falch o hynny.
Rwy'n cytuno'n llwyr â Mike Hedges hefyd—ac eraill, mewn gwirionedd; Mike a'i crybwyllodd gyntaf—nad yw eiddo gwag yn helpu'r sefyllfa. Rydym wedi annog, cynorthwyo ac ariannu awdurdodau lleol i ddefnyddio eu pwerau i sicrhau nad dyna sy'n digwydd. Yn wir, unwaith eto yr wythnos hon rydym wedi lansio rhaglen hyfforddi newydd ar gyfer awdurdodau lleol a chyhoeddir canllawiau newydd y mis nesaf ar ddefnyddio gorchmynion prynu gorfodol i sicrhau y gall cynghorau eu harfer lle bo angen. Mae gennym nifer o gynlluniau hefyd i gynorthwyo perchnogion cartrefi i sicrhau bod tai'n cael eu defnyddio unwaith eto, naill ai at eu defnydd eu hunain neu i'w trosglwyddo i landlordiaid cymdeithasol er mwyn cynyddu ein cyflenwad o dai cymdeithasol. Lywydd, rwyf wedi sôn droeon am y cynlluniau hyn yn y Senedd; rwy'n tynnu sylw pobl atynt. Gallaf siarad, fel y gwyddoch, am o leiaf awr ar unrhyw un o'r cynlluniau hynny, felly nid wyf am brofi eich amynedd drwy wneud hynny.
Rydym yn ymwybodol hefyd o gyfraniad mawr yr economi ymwelwyr. Mae ein strategaeth dwristiaeth newydd, 'Croeso i Gymru: 2020—2025', yn cydnabod ei phwysigrwydd economaidd. Yn hollbwysig, mae hefyd yn cydnabod bod perygl mewn rhannau o Gymru o or-dwristiaeth a bod angen inni dyfu twristiaeth mewn ffyrdd sydd o fudd i Gymru, gan wrando ar drigolion, ymwelwyr a busnesau. Rydym wedi dechrau'r sgyrsiau hynny ac rydym eisoes wedi rhoi nifer o bethau ar y gweill i helpu i sicrhau'r cydbwysedd priodol hwnnw.
Mae'r economi sylfaenol hefyd yn arbennig o bwysig i gymunedau sy'n fwy dibynnol ar dwristiaeth ac mae'n cydnabod na ellir datrys llawer o'r heriau a grybwyllir yn y ddadl hon drwy'r cyflenwad tai yn unig. Mae angen ystyried nifer fawr o bryderon eraill, yn enwedig swyddi, seilwaith gwasgaredig ac yn y blaen.
O ran treth a chyfraniad teg, rydym wedi mabwysiadu safbwynt unigryw. Yn wahanol i weinyddiaethau eraill y DU, ni ddarparodd Llywodraeth Cymru ostyngiad treth dros dro i fuddsoddwyr prynu i osod, rhai sy'n buddsoddi mewn llety gwyliau wedi'i ddodrefnu neu brynwyr ail gartrefi. Fe wnaeth y gostyngiad dros dro ym mis Gorffennaf i gyfraddau'r dreth trafodiadau tir preswyl godi'r trothwy cychwynnol o £180,000 i £250,000. O ganlyniad, nid yw oddeutu 80 y cant o brynwyr tai Cymru yn talu unrhyw dreth, i fyny o 60 y cant ar gyfer y trothwy o £180,000. Fodd bynnag, mae prynwyr ail gartref yng Nghymru yn talu cyfraddau uwch o dreth trafodiadau tir o gymharu â'r rhai sy'n prynu cartrefi, gan dalu 3 y cant ar ben pob cyfradd y byddai rhai sy'n prynu cartref yn ei thalu. Nid yw'r newid dros dro hwn yn berthnasol i drafodiadau preswyl sy'n ddarostyngedig i gyfraddau uwch y dreth trafodiadau tir, ac mae hynny'n sicrhau bod y gostyngiad yn cael ei dargedu at brynwyr cartrefi a allai fod angen cymorth ychwanegol i brynu eu cartrefi yn y cyfnod economaidd ansicr hwn, ac nid yw ar gael i brynwyr ail gartrefi ac eiddo buddsoddi prynu i osod. Mae hynny'n gwrthgyferbynnu â Llywodraethau'r DU a'r Alban, sydd wedi darparu gostyngiadau treth ar brynu eiddo o'r fath fel rhan o'r newidiadau dros dro i'r dreth trafodiadau eiddo. Mae hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad gweithredol i gyfundrefn flaengar sy'n disgwyl i'r rheini sydd â'r ysgwyddau lletaf gyfrannu'r gyfran fwyaf o dreth. Mae hynny'n cynnwys y rheini sydd mewn sefyllfa i allu prynu mwy nag un eiddo preswyl. Lywydd, ar ôl y sgwrs ynglŷn â phwy sy'n berchen ar beth, dylwn ddweud nad wyf yn berchen ar ail eiddo preswyl nac unrhyw eiddo arall. Mae gennyf forgais o hyd ar fy nghartref fy hun.
Mae gwir angen sicrhau ein bod yn adeiladu'r mathau cywir o dai ledled Cymru, a hoffwn atgoffa'r Aelodau ein bod, wrth gwrs, wedi cyfeirio £30 miliwn o'r arian sydd ar gael ar gyfer y dreth trafodiadau tir i gam 2 ein rhaglen ddigartrefedd er mwyn sicrhau ei fod yn mynd tuag at adeiladu llawer mwy o gartrefi cymdeithasol i'w rhentu. Cymru hefyd yw'r unig wlad i roi cyfle i awdurdodau lleol godi premiwm o hyd at 100 y cant ar gyfraddau'r dreth gyngor i ail gartrefi. Ar hyn o bryd, mae wyth awdurdod yn codi premiymau sy'n amrywio o 25 y cant i 50 y cant. Nid oes yr un ohonynt yn gosod y premiwm uchaf sydd ar gael, ac yn absenoldeb tystiolaeth ac ymgynghori pellach, ac o ystyried nad ydynt yn codi hyd yn oed yr uchafswm a ganiateir gennym ar hyn o bryd, nid wyf wedi fy argyhoeddi fod dyblu'r premiwm hwnnw'n beth da. O safbwynt treth, mae hefyd yn bwysig asesu'r dystiolaeth o weld sut y mae treth yn cefnogi cymunedau ledled Cymru. Mae'r dreth trafodiadau tir, er enghraifft, yn dod â refeniw sylweddol i Lywodraeth Cymru, refeniw a werir ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Rydym hefyd yn archwilio pŵer caniataol yn y dyfodol i awdurdodau lleol allu rhoi treth dwristiaeth mewn grym, fel y gall twristiaid gyfrannu'n uniongyrchol at gostau a delir gan awdurdodau lleol o ganlyniad i dwristiaeth yno.
Ond ni fyddwn yn datrys y materion a'r diddordebau hyn drwy drethu'n unig. Mae gennym hefyd y grŵp strategol gwledig ar gyfer tai gwledig, oherwydd gwyddom fod gan ardaloedd gwledig heriau penodol mewn perthynas â thai sy'n deillio'n bennaf o brisiau uchel tai o gymharu ag incwm, a lefelau isel o ddarpariaeth tai fforddiadwy. Mae gan ardaloedd gwledig lawer o anghenion gwahanol, ac mae gan bob ardal ei heriau a'i chyfleoedd unigryw ei hun, ac felly rydym yn arwain grŵp strategol gwledig sy'n cynnwys swyddogion galluogi tai gwledig, cymdeithasau tai, awdurdodau lleol, Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae'n cyfarfod bob chwarter ac yn darparu fforwm i gyfnewid a phrofi syniadau a rhannu arferion da. A gallwch weld o'r ystod o bethau rydym yn eu gwneud nad ydym yn credu bod atebion hawdd na chyflym i hyn, ac mae nifer o'r cyfranwyr wedi cydnabod hynny. Rwy'n awyddus iawn i ddeall safbwyntiau amrywiol am y pwerau presennol, eu defnydd a'u heffeithiau, ac i ystyried y dystiolaeth. Mae angen inni sicrhau cydbwysedd cywir rhwng rôl werthfawr yr economi ymwelwyr, hawliau pobl i fwynhau eiddo, mynediad at dai fforddiadwy sy'n cynnal ac yn bywiogi ein cymunedau, a'r cyfraniad y mae pob math o berchentyaeth yn ei wneud, ac y dylai ei wneud, i'n cymunedau.
Yn sicr, mae gan Lywodraeth Cymru ewyllys ac awydd i ymgysylltu'n eang er mwyn datblygu'r gwaith hwnnw ac asesiadau pellach o opsiynau a'u heffaith, ac rwy'n barod i weithio gydag Aelodau, a dechreuais fy araith drwy ddweud, 'Lywydd, rwy'n barod i weithio gydag Aelodau ar draws y Senedd i'r perwyl hwnnw.' Ac yn wir, rwyf wrthi'n trefnu cyfarfodydd gyda nifer o'r Aelodau sydd eisoes wedi camu ymlaen i wneud yn union hynny. Ac felly, Aelodau, gofynnaf i chi gefnogi gwelliant y Llywodraeth, sy'n darparu sylfaen ddigon eang i allu cyflawni hynny i gyd. Diolch.
Llyr Gruffydd nawr i ymateb i'r ddadl. Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i bawb, wrth gwrs, sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Bwriad Plaid Cymru wrth gyflwyno'r ddadl yma yw sicrhau bod yna ddealltwriaeth bod y sefyllfa bresennol yn un argyfyngus o safbwynt tai fforddiadwy ac, wrth gwrs, yn sefyllfa ac yn argyfwng sydd yn dwysáu, yn enwedig oherwydd yr amgylchiadau dŷn ni'n byw ynddyn nhw ar hyn o bryd. Ac roeddwn i'n falch clywed y Gweinidog yn cydnabod nad dim ond problem i'r gogledd a'r gorllewin yw hon—mae'n broblem i Gymru gyfan. Ond, wrth gwrs, wrth restru rhai o'r pethau mae'r Llywodraeth yn gwneud, mae'n rhaid atgoffa rhywun bod yr hyn sydd wedi digwydd hyd yma yn amlwg yn annigonol, neu mi fyddai'r argyfwng yma ddim beth ag yw e ar hyn o bryd. Felly, dwi yn awyddus i danlinellu, fel bydd y Gweinidog yn cydnabod, dwi'n gwybod, fod yna lawer iawn mwy sydd angen ei wneud er mwyn datrys y broblem yma, oherwydd rŷn ni'n gweld ton arall yn torri—pobl yn prynu tai, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn gwthio pobl leol allan o'r farchnad leol, ac o ganlyniad yn gwthio pobl allan o'u cymunedau lleol. Ac fel y dywedwyd reit ar gychwyn y ddadl yma, mater o gyfiawnder cymdeithasol yw hwn yn gymaint ag unrhyw beth arall.
Mae gwelliannau Llafur a'r Ceidwadwyr yn siomedig eithriadol, a does dim ond angen edrych ar y ddau air cyntaf yn y ddau welliant, sef 'dileu popeth'. Mae hynny, efallai, yn adrodd cyfrolau ynglŷn ag uchelgais hefyd, i raddau. Trwy gefnogi gwelliant Llafur, fyddem ni ddim yn cydnabod ei bod hi'n argyfwng ac mi fyddem ni'n cynnwys rhyw addewid ychydig yn rhy annelwig i fi i ddelio â'r mater yn nes ymlaen, ac o gefnogi gwelliant y Ceidwadwyr, mi fyddem ni'n dileu unrhyw gyfeiriadau penodol at ddefnyddio'r system gynllunio a'r system drethi i fynd i'r afael â'r broblem. Wel, dyna i chi y ddau arf mwyaf pwerus a mwyaf effeithiol sydd gennym ni i fynd i'r afael â'r broblem yma.
O safbwynt defnyddio pwerau trethiannol, wrth gwrs, mae yna gyfle wedyn i wneud o leiaf dau beth: yn y lle cyntaf, gwneud prynu ail dŷ i'w ddefnyddio fe fel tŷ gwyliau yn llai atyniadol, ac, o ganlyniad, sicrhau bod mwy o dai yn aros o fewn y stoc tai preswyl. Ond, os ydyn nhw wedyn yn cael eu prynu fel ail dai, yna sicrhau bod refeniw i ddigolledu'r gymuned leol ar gyfer pethau fel buddsoddi mewn tai cymdeithasol. Ac o safbwynt y system gynllunio, rŷn ni wedi'i weld e'n digwydd mewn ardaloedd eraill, a dwi'n arbennig o awyddus inni ddiwygio dosbarthiadau defnydd ym maes cynllunio, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban, fel sydd wedi digwydd yn Ngogledd Iwerddon, ac fel y dylai ddigwydd, wrth gwrs, yma yng Nghymru.
Yn 2016, mi grëwyd y dosbarth defnydd penodol ar gyfer tai amlfeddiannaeth—HMOs—er mwyn gwahaniaethau rhyngddyn nhw a thai preswyl. Ac wedyn, wrth gwrs, rydych chi'n gallu dechrau rheoli faint o HMOs sydd gennych chi yn y gymuned honno. Wel, yr un egwyddor yn union sydd wrth wraidd y cynigion fan hyn o safbwynt ail gartrefi hefyd. Byddai hynny'n caniatáu wedyn ichi osod cap, mewn ymgynghoriad â'r gymuned leol, er mwyn adnabod beth yw'r lefel angenrheidiol—ac mi fyddai hwnnw'n amrywio wrth gwrs o un rhan o'r wlad i'r llall, ond yr un yw'r egwyddor.
Nawr, mi gyfeiriodd Rhun at un ffactor sydd yn dod yn fwyfwy o broblem hefyd, sef y cynnydd anferthol rŷn ni wedi'i weld mewn tai sydd yn cael eu rhestru fel tai gwyliau drwy blatfformau fel Airbnb, ac mae rhai o'r ystadegau yn gwbl frawychus. Yn ôl un dadansoddiad, mae rhyw 3,800 o gartrefi felly yn cael eu defnyddio ar gyfer y math yna o ddefnydd yng Ngwynedd yn unig, 3,400 yn sir Benfro a 1,500 yng Nghaerdydd. Dim ond 2,700 sydd yn Greater Manchester gyfan, sydd â phoblogaeth yn debyg iawn i boblogaeth Cymru gyfan. Felly, mae hynny, dwi'n meddwl, yn pwyntio at lefel y broblem. Mae rhai dadansoddiadau hefyd yn awgrymu bod y nifer yna—y 3,800 yna—wedi cynyddu mewn dim ond 12 mis yng Ngwynedd o 2,000, felly wedi bron dyblu mewn blwyddyn. Ac rŷn ni eisoes wedi clywed, wrth gwrs, fod bron i 40 y cant o'r tai a gafodd eu gwerthu yng Ngwynedd y llynedd wedi cael eu prynu i fod yn ail gartrefi. Felly, os nad yw hynny yn sail i ystyried rhywbeth fel argyfwng, yna dwi ddim yn gwybod beth yw diffiniad pobl o beth yw argyfwng.
Ac, wrth gwrs, mae yna ddatrysiadau ar draws y byd i gyd. Rŷn ni wedi clywed am nifer o ohonyn nhw, ac mi allwn i ychwanegu Amsterdam, Palma, Prague, Paris, Berlin, Barcelona—maen nhw i gyd wedi mynd i'r afael â phroblemau'n benodol o safbwynt Airbnb. Ond yn fwy eang o safbwynt ail dai: Singapôr, Israel, Ontario yng Nghanada, Aotearoa, y Swistir—wrth gwrs, rŷn ni'n gwybod am beth sydd wedi digwydd yn rhai o'r cantonau yn y fan yna—Denmarc, y clywon ni amdano fe'n gynharach, Awstria, Bolzano yn yr Eidal. Yn nes at adref, mae Guernsey, wrth gwrs, wedi creu marchnad dai gyda dwy haen iddi. Mae hynny'n opsiwn sydd angen edrych arno fe. A Chernyw hefyd, wrth gwrs, yn enghraifft sy'n cael ei chyfeirio ati yn gyson iawn. Mae gwledydd a rhanbarthau eraill wedi gweithredu ac wedi dangos bod atebion ar gael y gallwn ni eu mabwysiadu.
Dwi ddim yn gwybod faint ohonoch chi a welodd erthygl yn The Times ychydig wythnosau yn ôl—efallai allwch chi ddim gweld hwnna yn glir nawr, ond yr hyn mae'n dweud yw:
Mae prynu i osod ar ben: buddsoddwch mewn cartref gwyliau yn lle hynny.
Dyna i chi bennawd i dorri calon cenhedlaeth o bobl ifanc yng Nghymru sy'n methu fforddio prynu eu tŷ eu hunain. Mae hwn yn argyfwng—mae'n argyfwng sy'n cael ei yrru gan anghyfartaledd economaidd, ac mae yna oblygiadau difrifol, wrth gwrs, yn sgil hynny i gynaliadwyedd cymunedau ar draws Cymru. 506
Pwrpas datganoli yw i ddod â grym ac i ddod â'r modd i weithredu yn nes at y cymunedau hynny sy'n cael eu heffeithio gan rai o'r problemau dŷn ni wedi cyfeirio atyn nhw y prynhawn yma. Mae gennym ni'r grymoedd sydd eu hangen arnom ni i fynd i'r afael o ddifrif â nifer fawr o'r problemau yma, a dŷn ni wedi clywed am rai o'r datrysiadau. Os na ddefnyddiwn ni'r pwerau hynny sydd gennym ni i amddiffyn ein cymunedau ni yn eu hawr o angen, yna mi fydd perffaith hawl gan bobl i ofyn beth yw pwrpas datganoli. Cefnogwch gynnig Plaid Cymru.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
A nawr fe wnawn ni gymryd egwyl tan y cyfnod pleidleisio.