– Senedd Cymru am 4:33 pm ar 3 Tachwedd 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar ddyfodol gwasanaethau rheilffyrdd a'r manylion am y trefniadau newydd. A dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Ken Skates.
Diolch, Llywydd. Hoffwn roi rhagor o wybodaeth i'r Aelodau am y trefniadau newydd ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r gororau a'r model cyflenwi y bydd Trafnidiaeth i Gymru yn ei weithredu.
Mae COVID-19 wedi creu heriau difrifol i gwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus, heriau nad yw'r system fasnachfraint rheilffyrdd gyfan ledled y Deyrnas Unedig wedi gallu eu gwrthsefyll. Er gwaethaf yr heriau hyn, rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr o hyd i gyflawni ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, carbon isel o ansawdd uchel ledled Cymru. Byddwn yn nodi mwy o fanylion am y weledigaeth hon drwy lansio'r ymgynghoriad ar ein strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru, a'm bwriad yw i hynny ddigwydd ar 16 Tachwedd.
Rydym ni wedi darparu, a byddwn yn parhau i ddarparu, cymorth ariannol sylweddol i'r sector i sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i weithredu fel bod y rhai sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus yn gallu parhau i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn.
Mae'r effaith ar refeniw teithwyr, a ddarparodd tua hanner yr arian sydd ei angen i weithredu ein gwasanaethau cyn COVID-19, yn golygu y bydd yn rhaid i ni weithredu ar frys. Mae angen inni sicrhau bod gennym ni sail gytundebol sefydlog i gyflawni ein hymrwymiadau allweddol i greu'r metro, darparu cerbydau newydd sbon a datgarboneiddio ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae Trafnidiaeth Cymru bellach wedi cytuno ar hanfodion perthynas newydd rhyngddyn nhw a Keolis ac Amey, a fydd yn darparu model darparu cadarn newydd. Rydym yn cymryd y camau brys sydd eu hangen i ddiogelu gwasanaethau, i ddiogelu swyddi ac i gyflawni'r rhaglen metro uchelgeisiol. Ar hyn o bryd, serch hynny, mae angen i mi bwysleisio ein bod yn dal i drafod manylion y contract gyda'n partneriaid, felly rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n deall na allaf fod yn rhy benodol ynghylch manylion masnachol sensitif ar hyn o bryd.
Bydd y gwasanaethau rheilffyrdd y bydd teithwyr yn eu defnyddio, o fis Chwefror y flwyddyn nesaf, yn cael eu gweithredu gan is-gwmni newydd Trafnidiaeth Cymru sy'n eiddo i'r cyhoedd. Mae'r cwmni cyhoeddus newydd wedi sicrhau ei drwydded ddiogelwch ei hun a bydd yn destun rheoliadau ac amodau diogelwch y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, yn yr un ffordd yn union â phob cwmni trên arall. Rydym yn cymryd rheolaeth sector cyhoeddus dros weithredu a darparu gwasanaethau rheilffyrdd o ddydd i ddydd, i gydbwyso'r angen am y gwerth gorau am arian i'r trethdalwr ac i sicrhau parhad ein gwasanaethau rheilffyrdd hanfodol.
Yn ogystal â diogelu'r gwaith o ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd, rydym ni hefyd wedi cymryd camau i sicrhau bod rheilffyrdd craidd y Cymoedd yn parhau i drawsnewid a sicrhau y caiff metro'r de ei adeiladu. Bydd Amey Keolis Infrastructure Ltd yn parhau i wneud y gwaith hwn, a bydd partneriaeth newydd gyda KeolisAmey, dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru, yn cael ei sefydlu i helpu i gyflawni ymrwymiadau pwysig megis system docynnau integredig a'r gwaith parhaus o gyfuno rheilffyrdd ysgafn a thrwm. Mae hwn yn gam angenrheidiol y mae'n rhaid inni ei gymryd nawr i sicrhau sefydlogrwydd a gweithrediad parhaus ein gwasanaethau rheilffyrdd. Byddwn yn parhau i weithredu ein gwasanaethau rheilffyrdd fel hyn, gyda'n model cyflenwi sector cyhoeddus newydd, hyd y gellir rhagweld.
Rydym yn dal i aros i Lywodraeth y DU gyhoeddi adolygiad Williams o'u heiddo ynglŷn â'r rheilffyrdd, a addawyd ers amser maith. Rwy'n disgwyl i hwn argymell mwy o gyfranogiad gan y sector cyhoeddus yn y rheilffyrdd, a'n bod o'r diwedd yn cael y pwerau a'r setliad ariannu teg sydd eu hangen arnom ni i ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd a seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Mae'r argyfwng presennol yn golygu bod yr angen hwn yn fwy nag erioed nawr.
Fel y gŵyr yr Aelodau, y mis diwethaf ysgrifennais at Ysgrifennydd Gwladol y DU yn nodi'r tanfuddsoddi hanesyddol yn y rheilffyrdd ac effaith bosibl HS2 ar economi Cymru. Mae angen sylfaenol i ailystyried y ffactor cymharedd o dan Barnett ar gyfer y symiau canlyniadol yn y dyfodol mewn cysylltiad â HS2. Mae ein gallu i ddatrys helyntion y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru ac annog teithwyr newydd i ddefnyddio gwasanaethau yn y dyfodol yn dibynnu ar fuddsoddiad teg a digonol yn y seilwaith, agor llwybrau newydd, cynyddu amlder gwasanaethau a gwella capasiti.
Bydd Aelodau hefyd yn cofio mai honiad Llywodraeth y DU yw bod HS2, yn wahanol i Crossrail, sy'n brosiect i Loegr yn unig, mewn gwirionedd yn brosiect i Gymru a Lloegr. Ni fydd Cymru yn manteisio ar wasanaethau HS2 uniongyrchol. Yn ôl ffigurau HS2 ei hun, bydd HS2 yn achosi niwed blynyddol net o £150 miliwn i economi Cymru. Yn sgil y ffaith bod y prosiect yn cael ei ddosbarthu'n brosiect i Gymru a Lloegr, ni fyddwn yn cael dim o'r £100 biliwn o wariant trethdalwyr y DU ar brosiect sy'n niweidio Cymru. Bydd yr Alban, a fydd yn cael budd uniongyrchol o'r prosiect, yn cael cyfran o'r £100 biliwn. Byddai cyfran deg o'r £100 biliwn yn sicr yn caniatáu inni drawsnewid y rheilffyrdd yng Nghymru.
Nawr, rhaid imi fod yn glir ein bod yn disgwyl y bydd effaith a graddau'r argyfwng hwn o ran ein cyllid cyhoeddus yn cael eu teimlo am gryn amser. Rydym ni eisoes wedi darparu hyd at £105 miliwn o gyllid ychwanegol i redeg ein gwasanaethau rheilffyrdd yn ystod y cyfnod brys hwn, ac mae'n debyg y bydd angen i ni ddarparu £62 miliwn arall o gyllid ar gyfer gweithredu gwasanaethau hyd at ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn hanfodol er mwyn darparu digon o wasanaethau a chapasiti o fewn amserlen lai i ddiwallu anghenion teithio gweithwyr allweddol a'r rhai ag anghenion teithio hanfodol eraill, megis disgyblion a myfyrwyr sy'n dychwelyd i ysgolion a cholegau.
Yn y tymor hwy, tra bod llawer llai o alw gan deithwyr o hyd, mae'n debygol y bydd yn rhaid inni barhau i wneud rhai dewisiadau anodd. Nawr, bydd gweithredu gwasanaethau rheilffyrdd yn parhau i ddioddef gostyngiad sylweddol mewn refeniw nes y gallwn ni groesawu teithwyr yn ôl i'n rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn llawn. Bydd angen i ni wneud penderfyniadau ynghylch sicrhau bod adnoddau ar gael, costau gweithredol a'r potensial o barhau i gynnig gwasanaeth llai cynhwysfawr nes bydd y galw a refeniw teithwyr yn cynyddu eto. Fodd bynnag, byddwn yn cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau y bydd gweithwyr allweddol a'r rhai sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i allu gwneud y teithiau y mae angen iddyn nhw eu gwneud. Gallaf sicrhau'r Aelodau y byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am y gwaith yr ydym ni yn ei wneud a'r dewisiadau y byddwn yn eu hwynebu wrth ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma, ac am y copi o flaen llaw hefyd yr oeddwn yn dra diolchgar amdano? Rwyf braidd yn siomedig, Gweinidog, nad ydych chi wedi cyflwyno datganiad ar y dydd Mercher olaf cyn hanner tymor. Yn hytrach, bu'n rhaid i mi ac Aelodau ddarllen amdano yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw yn y cyfryngau. Ond byddai'n ddefnyddiol pe gallech chi ddweud pam nad oeddech chi'n gallu cyflwyno datganiad i'r Senedd cyn y cyfnod hanner tymor.
O'm safbwynt i, yn gyffredinol nid yw pobl yn poeni pwy sy'n rhedeg gwasanaeth trên, na pha enw sydd ar ochr trên; maen nhw'n tueddu i boeni mwy am y gwasanaeth, maen nhw'n tueddu i boeni pa un a yw'r trên yn mynd i gyrraedd yn brydlon, neu a yw'n mynd i gyrraedd o gwbl, a fydd Wi-Fi ar gael iddyn nhw, a ydyn nhw'n gallu dod o hyd i dŷ bach glân neu dŷ bach o gwbl ar y trên. Dyma rai o'r materion y mae teithwyr yn tueddu i boeni amdanyn nhw, yn hytrach na phwy sy'n rhedeg y gwasanaeth. Ond nid yw penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymryd rheolaeth dros y gweithredu, er gwell neu er gwaeth yn gwneud imi deimlo'n obeithiol iawn. Rwy'n meddwl am Faes Awyr Caerdydd a'r goblygiadau o ran cost i'r Llywodraeth a'r risg sy'n gysylltiedig â hynny, ac mae hyn ar lefel hollol newydd o ran ymgymryd â gweithredu'r rheilffyrdd.
Nawr, rwy'n credu mai ar oblygiadau o ran cost y mae angen atebion yn eu cylch, ac rwy'n meddwl yn benodol am gostau hirdymor y penderfyniad yr ydych chi wedi'i wneud. Gan roi'r ddadl er gwell neu er gwaeth o'r neilltu, rydych chi wedi gwneud y penderfyniad a bydd goblygiadau enfawr o ran cost nid yn unig i adran eich Llywodraeth, ond ar draws y Llywodraeth gyfan. Pan godais hyn gyda chi 10 diwrnod neu bythefnos yn ôl yn y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, fe ddywedsoch chi y byddwch yn gweithio drwy'r goblygiadau o ran costau yn rhan o'r trafodaethau manwl hynny, a phan wnaethoch chi'r datganiad llafar ymhen pythefnos, sef nawr, y byddech chi'n gallu rhoi'r costau i ni wrth symud ymlaen. Rwy'n deall bod eich datganiad heddiw'n dweud na allwch chi wneud hynny ar hyn o bryd, oherwydd mae trafodaethau'n dal i fynd rhagddyn nhw ac rydych yn gofyn i Aelodau fod yn amyneddgar ynghylch y broses honno oherwydd y sensitifrwydd masnachol, ond efallai y gallech chi ddweud wrthym ni pryd y byddwch chi mewn sefyllfa i gwblhau'r trafodaethau hynny ac ateb cwestiynau am y costau. Yn y pen draw, dywedwch wrthym ni, Gweinidog, am yr hyn na fyddwch chi'n gwario arian arno yn y dyfodol i dalu costau'r penderfyniad hwn bythefnos yn ôl.
Efallai y gallech chi ddweud wrthym ni hefyd, Gweinidog, pa ddewisiadau eraill yr oedd Llywodraeth Cymru a chithau'n eu hystyried cyn dod i'r penderfyniad hwn—beth arall oedd yn mynd drwy eich meddwl? Beth oedd y dewisiadau eraill ar y bwrdd? Efallai y gwnewch chi siarad am y rheini. Hefyd, beth yw dyheadau hirdymor Llywodraeth Cymru o ran perchnogaeth gyhoeddus ar wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru? A yw'n wir eich bod, yn y pen draw, yn credu y bydd yn parhau i fod mewn perchnogaeth gyhoeddus ac yn cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru, neu yn hytrach a ydych yn rhagweld y bydd y gweithredu yn dychwelyd i ddwylo preifat ryw bryd yn y dyfodol?
Ac yn olaf, a dychweled at fy sylwadau agoriadol, mewn gwirionedd, mae teithwyr yn poeni am oblygiadau'r gwasanaeth iddyn nhw, felly beth yw'r goblygiadau o ran cerbydau newydd a gwelliannau i orsafoedd, sef, wrth gwrs, yr hyn y mae teithwyr a'r cyhoedd yn poeni amdanyn nhw'n benodol?
Wel, a gaf i ddiolch i Russell George am y gwahanol gwestiynau y mae wedi'u codi heddiw? Rwy'n sylweddoli y gallai Aelodau fod yn siomedig na ellid gwneud datganiad i Siambr y Senedd ar ddydd Mercher yr wythnos pan wnaethpwyd y cyhoeddiad. Gadewch imi amlinellu i'r Aelodau y rhesymau pam, ac maen nhw'n niferus. Yn gyntaf oll, bu trafodaethau masnachol sensitif yn ystod yr haf ac i mewn i'r hydref gyda KeolisAmey ynglŷn â dyfodol gwasanaethau rheilffyrdd, ond, wrth gwrs, dim ond am 6 p.m. ar y nos Fawrth y cafodd penawdau'r telerau eu cytuno a'u cymeradwyo, a oedd yn golygu nad oedd hi'n bosibl wedyn i gyflwyno hyn i'w drafod neu ar gyfer datganiad ar y dydd Mercher cyn y toriad diweddaraf. Hefyd, o ystyried yr ansicrwydd ynghylch a fyddai'r dyddiad hwn yn cael ei gyflawni ac y byddai angen ychydig mwy o amser ar gyfer sesiynau briffio, yn amlwg, i staff, y 2,500 o staff, fe wnaethom ni benderfynu felly fod ei amserlennu ar gyfer dydd Iau yn ddoeth. Dydd Iau'r wythnos honno hefyd oedd y dyddiad olaf i sicrhau y gellid briffio'r holl staff ac y gellid cychwyn cyfnod ymgynghori 90 diwrnod ar Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981, ac felly nid oedd hi'n bosibl i wneud y datganiad yr wythnos hon. Nawr, o ystyried ein hawydd i sicrhau nid yn unig bod cwsmeriaid ond staff wrth wraidd popeth a fyddwn ni'n penderfynu arno o ran gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r gororau, credaf nad yw hi ond yn briodol i weithwyr glywed yn gyntaf am ddyfodol eu swyddi a'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu. A gallaf ychwanegu, yn olaf, reswm pwysig arall pam roedd yr amseru fel ag yr oedd, a'r rheswm yw bod Keolis ac Amey yn ddau gwmni preifat rhyngwladol arwyddocaol iawn, mae ganddyn nhw gyfranddalwyr, ac mae gofynion ynghylch cyhoeddiadau sy'n sensitif i'r farchnad a sut mae angen cyfleu'r rhain i gyfranddalwyr, ac felly nid oeddem yn gallu dweud dim cyn i'r cyfranddalwyr hynny gael eu hysbysu.
Nawr, byddwn yn cytuno â Russell George fod pobl yn poeni llai am y brand sydd ar ochr trên nag y maen nhw am y ffordd y mae trên yn gweithredu—a yw'n brydlon, a yw'n lân, pa un a oes toiledau ar gael, pa fath o wasanaethau arlwyo sydd ar gael—ond rwy'n anghytuno â Russell George a'i honiad bod y sector cyhoeddus yn llai abl na'r sector preifat i ddarparu gwasanaethau dibynadwy rheolaidd. Does dim eisiau inni edrych yn bellach na chwmnïau fel Northern i weld y byddai Llywodraeth y DU yn cytuno â mi ar y pwynt hwn. Ymyrrodd Llywodraeth y DU â Northern Rail, ei gymryd o dan ei reolaeth, a'i roi o dan berchnogaeth gyhoeddus. Felly, mae'r hyn yr ydym ni yn ei wneud, i raddau, yn gyson â'r hyn y mae Llywodraethau eraill yn ei wneud. A chredaf y byddai'r Aelodau hefyd yn cydnabod, mewn meysydd eraill o ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus—bysiau, er enghraifft—fod y sector cyhoeddus yn chwarae rhan ragorol mewn rhai rhannau o Gymru, a byddem ni'n dymuno i gynghorau chwarae mwy o ran ym mhob un o'n hawdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau bysiau.
Ac o ran cymharu'r penderfyniad yr ydym ni wedi'i wneud ynglŷn â gwasanaethau rheilffyrdd â'n rheolaeth dros Faes Awyr Caerdydd, hoffwn atgoffa'r Aelodau, cyn y pandemig byd-eang hwn, nad wyf yn credu bod unrhyw Aelod yn y Siambr a oedd yn cwestiynu llwyddiant maes awyr rhyngwladol Caerdydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf—roedd nifer y teithwyr wedi cynyddu i'r niferoedd mwyaf erioed ers inni gymryd yr ased penodol hwnnw drosodd; roeddem yn gwireddu gweledigaeth uchelgeisiol iawn ar gyfer y maes awyr. Ond, wrth gwrs, mae meysydd awyr rhanbarthol ar hyd y DU, ac ymhellach draw, yn dioddef yn ofnadwy o ganlyniad i'r coronafeirws, a rhaid dweud bod llawer mwy o feysydd awyr rhanbarthol o dan fwy o fygythiad na maes awyr rhyngwladol caerdydd, a hynny oherwydd bod gan faes awyr rhyngwladol Caerdydd gefnogaeth Llywodraeth, sy'n gallu ei ddiogelu.
Nawr, o ran costau sy'n gysylltiedig â'n penderfyniad, bydd costau ar gyfer y trafodaethau a chanlyniad y trafodaethau ar gael cyn y trosglwyddo ym mis Chwefror. Ond mae llawer o gostau eraill y mae angen inni eu hystyried—un yw cost cynnal gwasanaethau ar y lefelau y maen nhw'n gweithredu er gwaethaf y gostyngiad mewn arian tocynnau, a beth bynnag fo'r model perchnogaeth, byddai angen ymyrryd o hyd ag arian cyhoeddus ychwanegol er mwyn cadw trenau i redeg. O ran costau sefydlu, yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelodau yw bod Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi nodi y bydd angen cael gwybod am rai asedau gan KeolisAmey er mwyn sicrhau pontio llyfn a darpariaeth barhaus o wasanaethau, ond y pwynt pwysig yw mai asedau yw'r rhain ac, felly, mae ganddyn nhw werth, yn hytrach na chost yn unig. Ar ôl canfod beth yw union werth yr asedau hyn, gofynnaf i Trafnidiaeth Cymru roi diweddariad cynhwysfawr i'r Aelodau.
Mae'n amlwg y bydd costau gweinyddol untro o ran rheoli'r broses TUPE a—[Anghlywadwy.]—o unrhyw gontractau gofynnol. Bydd hyn yn sylweddol is, rhaid dweud, na'r ffi reoli a pherfformiad parhaus sy'n cael ei thalu o dan y trefniadau argyfwng. Ac yna bydd costau hyn yn llai, ar y cyfan, na'r ffi perfformiad a rheoli sy'n cael ei thalu gan yr Adran Drafnidiaeth i weithredwyr trenau o dan eu cytundeb rheoli adferiad brys, sy'n dod â fi at y pwynt pwysig nesaf yr oedd Russell George yn gofyn amdano, a dyna'r dulliau eraill o fwrw ymlaen â rheoli a darparu gwasanaethau rheilffyrdd a ystyriwyd gan Lywodraeth Cymru. Wel, ystyriwyd pob dewis, ac, ar lefel Llywodraeth y DU, drwy'r Adran Drafnidiaeth, nid oes un dewis na model sydd wedi'i ddatblygu ar gyfer pob cytundeb masnachfraint. Mae rhai gweithredwyr trenau wedi cael y cytundeb rheoli brys gwreiddiol wedi'i ymestyn, ac mae eraill wedi cael cytundeb newydd am hyd at 18 mis, a gelwir y cytundebau hynny'n gytundebau rheoli adferiad brys. Mae rhai, wrth gwrs, fel y gŵyr Aelodau, wedi cael dyfarniadau uniongyrchol, tra bo rhai yn gweithio ar fodel y gweithredwr pan fetha popeth arall.
Nid yw llawer ohonyn nhw yn rhoi sicrwydd i deithwyr yn Lloegr. Yr hyn yr ydym ni wedi'i wneud yw cynnig amserlen glir ar gyfer pontio llyfn, sicrwydd i deithwyr ac i staff. Y gwahaniaeth allweddol yn ein cytundeb masnachfraint ni, a lofnodwyd gennym ni yn 2018, oedd ei fod yn ymgorffori nid yn unig gwasanaethau rheilffyrdd, ond hefyd trawsnewid yr ased, rheilffyrdd craidd y Cymoedd. Roedd hynny'n ei wneud yn wahanol iawn. Felly, er inni allu ystyried yr holl fodelau hynny sy'n cael eu mabwysiadu mewn gwahanol gytundebau masnachfraint yn Lloegr, fe wnaethom ni benderfynu mai'r model a wnaethom ni ei ddewis oedd yr un mwyaf addas i Gymru.
O ran y cwestiwn a ofynnwyd am ba hyd y gall hyn barhau, wel, rydym yn aros am safbwynt y DU o ran Deddf Rheilffyrdd 2005 a pha un a fydd angen diwygio honno mewn unrhyw ffordd. Ond ein safbwynt ni yw y byddwn yn bwrw ymlaen â'r model gweithredu newydd hwn cyhyd ag y gallwn ni, a hoffem sicrhau ein bod yn defnyddio'r cytundebau sydd gennym ni ar waith, y penawdau telerau y byddwn yn trafod eu manylion, er mwyn sicrhau bod gennym ni delerau pontio gwasanaethau rheilffyrdd, ond ein bod hefyd yn cyflawni'r rhaglen metro uchelgeisiol a hefyd ein bod yn defnyddio'r fenter ar y cyd â Keolis ac Amey i warantu y gallwn ni ddarparu tocynnau integredig a gwelliannau eraill yn y ffordd y mae gwasanaethau rheilffyrdd yn gweithredu yn ardaloedd Cymru a'r gororau.
Ac yna, yn olaf, Llywydd, gofynnodd Russell George y cwestiwn gwirioneddol bwysig am ein hymrwymiad i gerbydau, yr ymrwymiad hwnnw o £800 miliwn i gerbydau. Rydym yn parhau i ymrwymo i ddarparu'r rhaglen uwchraddio honno gwerth £800 miliwn, trenau newydd—trenau newydd rhagorol—sy'n gweithredu ar ein rheilffyrdd. Rydym ni wedi ymrwymo i hynny, ac, wrth gwrs, bydd Llywodraethau'r dyfodol yn dymuno edrych ar flaenoriaethau gwario yn y tymor hwy o ran uwchraddio gorsafoedd, ond, ar hyn o bryd, rwy'n dal yn ymrwymo i fuddsoddi lle bynnag y gallwn ni yn y gwaith o uwchraddio'r gorsafoedd hynny. Ond mae'n rhaid i mi ddweud bod angen i Lywodraeth y DU unioni'r cam o danfuddsoddi hanesyddol yn seilwaith y rheilffyrdd a hefyd buddsoddi mewn rheilffyrdd ac mewn gorsafoedd.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Rwy'n deall yr amgylchiadau a arweiniodd at gyhoeddi'r datganiad hwn cyn ei gyflwyno gerbron y Senedd, ac rwy'n derbyn bod y Gweinidog ei hun o'r farn nad oedd hynny'n ddelfrydol ac nad felly y byddai fel arfer yn dymuno gweithredu.
Fel y gŵyr y Gweinidog, mae Plaid Cymru yn falch o'i gefnogi yn y dull gweithredu hwn. Pan ddaeth y cyfle i'r amlwg ychydig flynyddoedd yn ôl, teimlem nad oedd achos arbennig o glir dros yr angen i gyfranddalwyr y sector preifat wneud elw o'n gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, ac ychydig iawn o dystiolaeth sydd bod gwneud hynny'n eu gwneud yn fwy effeithlon neu'n fwy dymunol i'w defnyddio. Byddwn ni'n cefnogi'r Gweinidog i gynnal y trefniant hwn cyhyd ag sy'n bosibl, ac os oes angen iddo geisio unrhyw ddiwygiadau i ddeddfwriaeth ar lefel San Steffan, byddwn yn ei gefnogi i wneud hynny.
Hoffwn ofyn rhai cwestiynau penodol. Gweinidog, rydych yn sôn am y posibilrwydd o'r angen i wella gorsafoedd—er enghraifft, mae'r orsaf yn Llanelli mewn cyflwr pur druenus ar hyn o bryd. A fydd y trefniant newydd hwn yn ei gwneud hi'n haws i'r gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru ymateb i flaenoriaethau cyhoeddus Cymru? A fydd, er enghraifft, hefyd yn ei gwneud hi'n haws cael amserlenni cysylltiedig? Mae'n rhwystredigaeth arbennig i bobl sy'n dod o orllewin Cymru ac yn cyrraedd gorsaf Abertawe ar yr union adeg y mae'r trên i Lundain neu'r trên i Fanceinion yn gadael, am nad yw'r amserlenni hynny'n gweithio gyda'i gilydd. Lleoedd fel Cydweli, lle mae taith gerdded hir iawn o'r orsaf reilffordd i'r orsaf fysiau—a fydd y trefniant newydd hwn yn ei gwneud hi'n fwy effeithiol ac yn haws ichi arwain trafnidiaeth gyhoeddus i fodloni blaenoriaethau gwasanaethau cyhoeddus?
A wnewch chi gadarnhau i ni, Gweinidog—ac rwy'n cymryd, o'ch cyfeiriad at drefniadau TUPE—na fydd dim effeithiau negyddol ar delerau ac amodau staff sy'n darparu ein gwasanaethau rheilffordd ar bob lefel? Rydych chi wedi rhoi'r sicrwydd hwnnw inni'n breifat, a gwn eich bod wedi cael y trafodaethau hynny gydag undebau llafur ac eraill, ond credaf y byddai'n ddefnyddiol petaech chi'n dweud ar goedd na fydd effaith negyddol ar staff.
Tybed a ydych chi wedi cael unrhyw arwydd, Gweinidog, pryd y bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi adolygiad Williams, oherwydd, ar un ystyr, heb wybod hynny, ac unrhyw fesurau a allai ddeillio o hynny, rydych chi i raddau yn gweithredu gydag un llaw wedi'i chlymu y tu ôl i'ch cefn o ran gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru. Byddwn i a'm plaid yn cefnogi popeth yr ydych chi wedi'i ddweud, Gweinidog, am y swm canlyniadol a ddylai fod ar gael o ganlyniad i HS2. Mae'n gwbl annerbyniol nad yw'n cael ei ddarparu, ac, unwaith eto, byddwn yn eich cefnogi o ran unrhyw sylwadau a wnewch chi.
Yn olaf, sylweddolaf na allwch chi, fel y dywedsoch chi wrth Russell George ac fel y dywedsoch chi yn eich datganiad, roi manylion y trefniadau ariannol inni, ac rwy'n deall y materion cyfrinachedd masnachol dan sylw, ond ar wahân i'r costau gweinyddol yr ydych chi wedi'u crybwyll o ran TUPE a'r costau sy'n deillio'n uniongyrchol o'r pandemig, y byddid wedi gorfod eu talu pe cai'r fasnachfraint ei throsglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus neu pe bai yn aros mewn dwylo preifat, a allwch chi roi sicrwydd inni mai eich bwriad yw na fydd unrhyw gostau tymor hwy ychwanegol yn cael eu hysgwyddo gan y pwrs cyhoeddus heblaw'r rhai a fyddai wedi bod yn berthnasol o dan yr amgylchiadau pe bai'r fasnachfraint wedi aros mewn dwylo preifat?
A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiynau, a hefyd am ei chefnogaeth o ran y camau yr ydym yn eu cymryd? Dylwn i fod wedi ychwanegu yn fy ymateb i Russell George, o ran amseriad y cyhoeddiad, fod newyddion, wrth gwrs, wedi ei ddatgelu'n answyddogol ar y nos Fercher, nid o ganlyniad i unrhyw weithred gan un o swyddogion Llywodraeth Cymru, nac ychwaith gweithredoedd unrhyw un yn Trafnidiaeth Cymru neu Keolis neu Amey. Yn anffodus, datgelwyd y manylion yn answyddogol, a dyna pam roedd pobl yn darganfod canlyniad ein trafodaethau cyn inni allu ei gyhoeddi'n ffurfiol ar y dydd Iau.
O ran amserlennu, wel, efallai y bydd gwell cyfuno ag amserlenni bysiau o ystyried y rhan gynyddol y bydd gan y sector cyhoeddus wrth reoli gwasanaethau bysiau yn y dyfodol. Felly, o ystyried hyn ochr yn ochr â'r diwygiadau sy'n digwydd ynglŷn â gwasanaethau bysiau, credaf fod stori gadarnhaol iawn i'w hadrodd am sut y bydd y sector cyhoeddus yn gallu rheoli amserlenni'n well ac, ar ben hynny, trefniadau gwerthu tocynnau hefyd. Mae tocynnau integredig yn hanfodol bwysig i lawer o weithrediadau rheilffyrdd a bysiau gorau'r byd, ac fe hoffem ni weld datblygu tocynnau integredig cyn gynted â phosibl ac yna cyflwyno hynny ar draws y fasnachfraint ac ar draws y rhwydwaith bysiau. Dyna un o'r rhesymau pam rydym ni eisiau cadw arbenigedd Keolis. Mae ganddyn nhw brofiad anhygoel yn fyd-eang ym maes tocynnau integredig, a thrwy'r fenter ar y cyd byddwn yn gallu manteisio ar eu profiad a'u harbenigedd a darparu system docynnau integredig debyg yma yng Nghymru.
Gallaf sicrhau'r Aelodau a'r 2,500 o'r aelodau staff hynny yng Ngwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru y bydd y trosglwyddiad i TfW Rail Limited ar yr un telerau ac amodau. A hoffem sicrhau bod staff yn parhau'n fodlon ac yn teimlo'n ddiogel o wybod y bydd perchnogaeth gyhoeddus yn darparu'r un telerau ac amodau, os nad rhai gwell, os gallwn eu gwella yn y blynyddoedd i ddod, â'r rhai y byddid wedi eu cynnig gan berchnogaeth breifat.
Nid oes gennym ni ddyddiad eto gan Lywodraeth y DU ynghylch cyhoeddi adolygiad Williams a'r ymateb iddo, ond mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi fy sicrhau na fydd yr adolygiad 'cysylltu'r undeb' yn atal cyhoeddi adolygiad Williams. Ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn oherwydd, er y caiff adolygiad 'cysylltu'r undeb' ei gynnal mewn cyfnod byr, rwy'n credu y byddai pawb yn cydnabod ei bod hi'n hen bryd cyhoeddi adroddiad Williams ac na ellir oedi mwy.
Ac o ran y costau, credaf fod angen i ni wahaniaethu rhwng dau fath o gostau: un, y costau sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau yng nghyd-destun COVID, ac yna'r gyfres arall o gostau yw'r rhai sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau rheilffyrdd yn y model gweithredu newydd. Gan na fyddwn yn talu elw, mae gennym y potensial bryd hynny i wneud arbedion neu ailfuddsoddi'r holl refeniw yr ydym ni'n ei dderbyn yn ôl i wasanaethau gwell. Rwy'n benderfynol o sicrhau mai'r olaf ydyw, ein bod yn gwella gwasanaethau gydag unrhyw refeniw ychwanegol yr ydym yn ei godi, yn hytrach na thalu elw, fel y byddai wedi digwydd.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Gweinidog, am y datganiad yr ydych chi newydd ei wneud yn ogystal, a hefyd rwy'n ddiolchgar iawn i chi am y camau yr ydych chi wedi'u cymryd i gynnal gwasanaethau yn y cyfnod anodd hwn, o ran darparu'r cyllid, a'r sector cyhoeddus yn gweithredu fel catalydd ar gyfer gweithredu i warantu gwasanaethau a swyddi hefyd. Ac rwy'n credu, o ystyried y datganiad a gawsom ni yn gynharach gan y Prif Weinidog a'r datganiad yr ydym ni wedi'i glywed gennych chi y prynhawn yma, rydym ni wedi dangos y gall pŵer sector cyhoeddus unedig yng Nghymru fod yn sail i wasanaethau cyhoeddus, ac rwy'n gobeithio bod honno'n wers y byddwn yn parhau i'w dysgu i'r dyfodol.
Mae dau fater na fyddwch yn synnu y byddwn i eisiau eu codi gyda chi y prynhawn yma. Mae'r cyntaf yn ymwneud â buddsoddi ac mae'r ail yn ymwneud â gwasanaethau sy'n gwasanaethu fy etholaeth fy hun. O ran buddsoddi, dywed Russell George nad yw teithwyr yn poeni ynghylch pa enw sydd wedi'i ysgrifennu ar ochr trenau. Mae'n ddigon posibl bod hynny'n wir, ond maen nhw'n poeni am fuddsoddi. Maen nhw'n poeni'n fawr am gerbydau, maen nhw'n poeni'n fawr am wasanaethau, maen nhw'n poeni'n fawr am y seilwaith, ac mae Cymru wedi ei hamddifadu o'r buddsoddiad hwnnw'n am amser rhy hir o lawer. Golwg syml ar y fathemateg—gallai fy mhlentyn 10 mlwydd oed egluro i'r Ceidwadwyr sut mae Cymru wedi cael ei thrin yn wael gan y strwythurau presennol, ac mae'n bryd iddyn nhw newid. Rydych chi eisoes wedi cyfeirio at adolygiad Williams yn y datganiad, a byddwn i'n ddiolchgar pe baech yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch lle yr ydych chi'n credu ein bod ni arni ar hyn o bryd, oherwydd mae angen dybryd am y buddsoddiad sy'n bosibl i sicrhau bod gennym ni'r gwasanaethau gorau posibl ledled Cymru.
Ac yn ail, o ran rheilffordd Glynebwy, rydych chi a fi wedi trafod droeon drwy gydol y pedair blynedd diwethaf y buddsoddiad sydd ei angen o ran cerbydau, ac rydym ni wedi gweld buddsoddiad sylweddol yn hynny dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ond hefyd o ran gwasanaethau. A yw'r sefyllfa bresennol—? Rwy'n credu bod hwn yn bwynt pwysig iawn. A yw'r amgylchiadau presennol yn golygu bod rhywfaint o oedi o ran y posibilrwydd o gael gwasanaethau ychwanegol o Lynebwy i Gaerdydd? Bwriad yr amserlen bresennol yw cael gwasanaethau ychwanegol o Lynebwy y flwyddyn nesaf. A yw hynny'n dal ar y gweill neu a effeithiwyd ar hynny? Yna mae angen y buddsoddiad arnom ni i ganiatáu pedwar trên yr awr i deithio i lawr o Lynebwy i Gaerdydd, ac rydym ni hefyd eisiau gweld, wrth gwrs, buddsoddi yn y seilwaith sy'n gwasanaethu Abertyleri, o ran gorsaf newydd yno. Felly, mae'r rheini'n fuddsoddiadau gwirioneddol allweddol i sicrhau nad ydym ni, yng Nglynebwy, ar ein colled o ran manteision y system metro. Ac er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd, mae angen gwarant arnom ni neu'n sicr arwydd y prynhawn yma bod Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud y buddsoddiad hwnnw, a ninnau i gyd yn gwybod y bydd Llywodraeth y DU yn troi ei chefn ar ei chyfrifoldebau.
Wel, a gaf i ddiolch i Alun Davies am ei gyfraniad drwy ei gwestiynau ac am ei gefnogaeth i benderfyniadau Llywodraeth Cymru ynglŷn â gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r gororau?
Rwy'n credu bod Alun Davies yn gwneud pwynt pwysig iawn gan fod un o bob pump o bobl yng Nghymru yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Nid oes ganddyn nhw gar, ac felly mae trafnidiaeth gyhoeddus yn cynnig cyfle i gannoedd o filoedd o bobl fyw eu bywydau heb ddibynnu ar gerbydau preifat. Ac oni fyddem ni wedi cynnal gwasanaethau yn ystod y cyfnod anhygoel o anodd hwn, a gwn ei fod wedi costio swm sylweddol o arian trethdalwyr, ond oni fyddem ni wedi gwneud hynny, byddem wedi bod yn amddifadu un o bob pump o ddinasyddion Cymru o'r cyfle i fyw bywyd sylfaenol a digonol, ac mae elfen enfawr o gyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd yr hyn y buom ni yn ei wneud yn ystod y pandemig. Nid ydym ni wedi dymuno gadael neb ar ôl. Nid ydym ni wedi dymuno gadael neb o dan fwy o anfantais o ganlyniad i'r hyn yr ydym ni yn ei brofi, a byddwn yn cynnal yr egwyddor honno drwodd i'r adferiad. Yn draddodiadol, yn ystod dirwasgiadau ac yna drwy'r adferiad ar ôl dirwasgiadau, mae'r bobl hynny sy'n cael eu gwthio fwyaf i'r cyrion, sydd bellaf o'r farchnad swyddi, sydd fwyaf agored i niwed ac sy'n aml yn byw bywydau mewn ffordd y byddai rhai ohonom yn ei chael hi'n anodd ei dychmygu, yn aml yn cael eu gadael hyd yn oed ymhellach ar ôl yn ystod yr adferiad, ac nid ydym ni eisiau gweld hynny'n digwydd yma yng Nghymru. Dyna pam rydym yn parhau'n gwbl ymrwymedig i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus ac yn y gwasanaethau y mae cynifer o bobl yn dibynnu arnyn nhw.
Rwy'n mynd i siarad yn fyr am argymhellion Williams a Burns hefyd, oherwydd mae ganddyn nhw oblygiadau o ran gwasanaethau Ebwy. Yn gyntaf oll o ran Williams, ac mae Alun Davies yn llygad ei le fod angen cyllid teg arnom ni ar gyfer seilwaith, wel, mae ein safbwynt yn glir iawn. Yn ein cyflwyniad i adolygiad Williams, fe wnaethom ni ddadlau'r achos dros ddatganoli cyfrifoldeb dros seilwaith rheilffyrdd ac am setliad ariannu teg. Ac o ran gwaith Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, rydym yn aros i adroddiad terfynol Burns gael ei gyhoeddi, ond gallaf ddweud wrth yr Aelodau heddiw fy mod wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru ddechrau datblygu strategaeth ar gyfer uned gyflawni ar y cyd i sicrhau y bydd y sgiliau a'r adnoddau angenrheidiol ar gael i sicrhau y gallwn ni gyflawni argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru. A gallaf sicrhau Alun Davies ein bod yn parhau'n gwbl ymrwymedig i fwrw ymlaen â'r prosiectau rheilffyrdd hynny, megis gwella amlder gwasanaethau Glynebwy, a fydd yn darparu rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus integredig gwell ar gyfer y rhanbarth ac yn cynnig dewis arall dichonadwy yn lle gorfod dibynnu ar yr M4. Felly, gallaf sicrhau Alun Davies na ddylid bod dim oedi o ran sicrhau'r amlder cynyddol y soniodd amdano, ond rhaid imi gynnwys amod sef y pwynt amlwg ein bod hefyd yn dibynnu ar Network Rail wrth inni gyflawni'r gwelliannau hynny'n brydlon.
Diolch. David Rowlands. A wnaiff rhywun ddad-dawelu meicroffon David Rowlands? Dyna chi.
Prynhawn da, Dirprwy Lywydd, mae arnaf ofn na chefais arwydd i ddad-dawelu yn y fan yna.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am eich diweddariad heddiw ac am eich datganiad? Mae'n newyddion rhagorol, wrth gwrs, eich bod wedi gallu sefydlu'r ymyriadau a amlinellwyd, nid yn unig i'r rhai sy'n defnyddio'r rhwydwaith rheilffyrdd, ond hefyd i'r rheini y mae eu swyddi'n cael eu sicrhau drwy eich gweithredoedd. Ac a gaf i sicrhau'r Gweinidog heddiw fod fy ngrŵp yn gwbl gefnogol i'ch ymyriadau, ac nid yn unig hynny, byddwn yn cefnogi unrhyw sylwadau a wnewch i Lywodraeth y DU i helpu ariannu'r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru wrth fwrw ymlaen?
Er gwaethaf eich sicrwydd, Gweinidog, rhaid inni fod yn bragmatig ynglŷn â hyn, ac efallai y bydd rhywbeth yn tarfu ar y broses o uwchraddio'r rhwydwaith rheilffyrdd a ragwelwyd yn flaenorol. Felly, a wnewch chi roi syniad i ni ynghylch pa rannau o'r uwchraddio hynny y gallai'r newidiadau yr ydych chi wedi'u hamlinellu heddiw effeithio arnyn nhw?
Nawr, fe wnaethoch chi sôn am y gwasanaethau tocynnau integredig, ac mae'r rhain yn hanfodol i sicrhau bod teithio yng Nghymru yn parhau yn ddi-dor ac mor rhwydd â phosibl. Felly, a wnewch chi ein sicrhau eto wrth ddefnyddio'r mentrau preifat yr ydych chi yn cymryd yr awenau oddi arnynt, y byddwch yn gallu cyflawni'r gwasanaethau integredig hynny?
Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn credu, mewn gwirionedd, nad oedd dewis arall i chi oni bai am weithredu fel y gwnaethoch chi, ac rwyf yn eich cymeradwyo am gymryd y camau hynny. Rwy'n siŵr mai dyma'r unig ffordd y gallem ni fod wedi cadw'r gwasanaethau teithio yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.
A gaf i ddiolch i David Rowlands am ei gwestiynau ac eto am ei gefnogaeth i'r penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru? Rwy'n croesawu ei sylwadau'n fawr, a byddwn i'n cytuno â David Rowlands fod 2,500 o bobl yn teimlo'n llawer mwy diogel yn eu swyddi nawr, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'r aelodau staff ymroddedig hynny i wella gwasanaethau ledled Cymru ac ardaloedd y gororau yn y blynyddoedd i ddod.
O ran uwchraddio seilwaith, ac yn bennaf uwchraddio rhaglen y metro, wel, dechreuodd y gwaith ar drawsnewid y metro dros yr haf a bydd yn parhau yn ôl y bwriad, yn ddi-dor er gwaethaf y newidiadau hyn. Ni fydd unrhyw effaith o ran y model gweithredu newydd; byddwn yn bwrw ymlaen yn ôl y bwriad. Ond dylid dweud hefyd, Llywydd, efallai na fyddai hynny wedi digwydd pe baem wedi gadael y contract heb i'r broses gael ei rheoli, pe baem wedi gweld cwymp trychinebus. Yna, byddem, rwy'n gwbl sicr, wedi gweld oedi sylweddol wrth gyflawni'r gwaith o uwchraddio'r metro, a byddai hynny, wrth gwrs, wedi creu goblygiadau; byddai wedi wynebu heriau o ran sicrhau arian Ewropeaidd. Felly, nid cam angenrheidiol yw hwn i ddarparu'r sicrwydd i weithwyr ac i gwsmeriaid yn unig; mae hwn hefyd yn gam angenrheidiol i sicrhau'r metro a'r amserlen ar gyfer cyflawni'r metro.
O ran cyflawni gwelliannau a chyflawni'r seilwaith y mae David Rowlands wedi amau a wyf yn ffyddiog bod gennym yr arbenigedd, bod gennym y capasiti a'r gallu i gyflawni hynny, wel, gogoniant yr hyn yr ydym ni wedi ei gytuno â Keolis ac ag Amey yw, er y byddwn yn rhoi'r gwaith o weithredu a rheoli gwasanaethau rheilffyrdd dan reolaeth gyhoeddus, byddwn yn dal i gadw eu harbenigedd o ran gallu cyflawni'r metro a gallu cyflawni gwelliannau mewn gwasanaethau rheilffyrdd, ac fel y dywedais eisoes, o ran integreiddio ac o ran sefydlu cyfundrefn brisiau decach ac integredig.
Gweinidog, a gaf i ddweud pa mor falch yr wyf ein bod wedi gallu cymryd y cam hwn? Mae preifateiddio rheilffyrdd a dadreoleiddio bysiau wedi bod yn un o'r trychinebau mawr mewn gwirionedd, un o waddolion trychinebus mawr cyfnod Thatcher, ac mae wedi arwain at un o'r systemau trafnidiaeth gyhoeddus sydd â'r tanfuddsoddiad mwyaf yng ngorllewin Ewrop gyfan. Ac weithiau rydym ni yn anghofio hanes hyn: 1947, pan roddwyd y rheilffyrdd mewn perchnogaeth gyhoeddus, y rheswm am hynny oedd eu bod wedi methdalu mewn dwylo preifat. Fe wnaethoch chi gyfeirio'n gynharach at Network Rail, sef Railtrack cyn hynny, a breifateiddiwyd ac a aeth yn fethdalwr wedyn yn 2001, ac rydym ni wedi gweld hynny'n duedd gyson oherwydd dylai trafnidiaeth gyhoeddus fod yn y sector cyhoeddus, yn atebol i'n heconomi leol ac yn atebol fel gwasanaeth cyhoeddus.
A gaf i ddweud mor falch yr wyf fi hefyd fod pencadlys Trafnidiaeth Cymru a'r corff newydd hwn wedi'i leoli ym Mhontypridd, lle mae'n cyfrannu hefyd at adfywio'r dref? A hefyd y gwahaniaeth y mae'n dechrau ei wneud pan fyddwch yn dechrau edrych ar asedau cyhoeddus, fel gorsafoedd ym Mhontypridd, fel ased cymunedol: mae'r holl adeiladau ar yr orsaf honno bellach yn cael eu hystyried ar gyfer y posibilrwydd o'u defnyddio gan grwpiau cymunedol a sefydliadau yn y gymuned, a dyna'r gwahaniaeth, rwy'n credu, mae perchnogaeth gyhoeddus yn ei wneud mewn gwirionedd.
A gaf i ofyn ychydig o gwestiynau ynglŷn â'r buddsoddiad yn hynny a'r gwahaniaeth y bydd yn ei wneud? Yn gyntaf, y buddsoddiad yn yr holl orsafoedd newydd sy'n digwydd ar hyd rheilffyrdd y Cymoedd, ac wrth gwrs bydd hynny'n parhau. A gaf i holi hefyd am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran integreiddio a datblygu'r gwasanaethau rheilffyrdd nawr, a'r cyfleoedd i integreiddio â thrafnidiaeth bysiau? A gaf i ofyn hefyd am eich barn ar y cyfle nawr i ailagor hen reilffyrdd? Rydym ni eisoes wedi ymrwymo, mi gredaf, i roi dros £0.5 miliwn ar gyfer y cynllun busnes ar gyfer ailagor rheilffordd y gogledd-orllewin, Caerdydd i Lantrisant, hen reilffordd sy'n cynnig cyfle newydd ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus mewn gwirionedd. Ac yn olaf—
Yn olaf, diolch.
O ran y dyfodol hirdymor, bydd adran 25 o'r Ddeddf Rheilffyrdd, a gyflwynwyd gan y Torïaid i atal perchnogaeth gyhoeddus ar drafnidiaeth gyhoeddus—a wnewch chi ymgyrchu dros ddirymu honno? Mae'n rhwystr ac yn llestair o'r gorffennol o ran dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
A gaf i ddiolch i Mick Antoniw am ei gefnogaeth i'r camau yr ydym ni wedi'u cymryd? Byddwn yn cytuno â phopeth a ddywedodd, mewn gwirionedd. Nid oes ond angen inni edrych ar berchnogaeth gyhoeddus dros rai o'r meysydd awyr rhyngwladol mwyaf llwyddiannus ledled y byd i gydnabod bod perchnogaeth gyhoeddus yn gweithio, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n synnu'n fawr o glywed bod rhai o'r meysydd awyr rhyngwladol mwyaf llwyddiannus yn nwylo'r sector cyhoeddus. Mae hynny'n dangos pa mor bwysig yw cael rhywfaint o berchnogaeth gyhoeddus nid yn unig dros wasanaethau, ond yr asedau diriaethol gwirioneddol hefyd—y seilwaith—a dyna pam yr ydym yn dymuno gweld seilwaith rheilffyrdd yn cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru, ac i setliad cyllido teg gyd-fynd ag ef.
Nawr, o ran pencadlys Pontypridd, rwy'n falch iawn bod Trafnidiaeth Cymru wedi dewis Pontypridd ar gyfer eu pencadlys. Bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran creu lleoedd, o ran gwella bywiogrwydd y gymuned, ac rwy'n falch o allu dweud wrth Mick Antoniw ein bod yn gweld y lleoliad penodol hwnnw ymhlith y cyntaf o'n canolfannau gweithio o bell. Bydd ein dull 'canol trefi yn gyntaf' sy'n cael ei arwain gan Hannah Blythyn yn bwysig o ran adfywio, ond hefyd o ran darparu cyfleoedd eraill fel nad oes yn rhaid i bobl weithio mewn blociau swyddfeydd mawr yng nghanol dinasoedd, a gweithio yn hytrach yn eu cymunedau, gan gyfrannu o fewn cymunedau'r Cymoedd at yr agenda bwysig Swyddi Gwell yn Nes at Adref hefyd. Ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu edrych ar orsafoedd eraill ar draws llwybrau Cymru fel cyfleoedd i agor canolfannau gweithio o bell, cyfleoedd a fydd yn galluogi pobl i adael eu ceir gartref, defnyddio llwybrau teithio llesol neu drafnidiaeth gyhoeddus i fynd a dod o'r gwaith, ac wrth wneud hynny, cyfrannu hefyd at adfywio cymunedau ar hyd a lled Cymru.
O ran ailagor rheilffyrdd, rydym yn parhau'n ymrwymedig i'r holl brosiectau hynny y buom ni'n gweithio arnyn nhw. Rydym yn dal wedi ymrwymo i'r gorsafoedd yr ydym ni eisiau eu gweld yn cael eu hailagor, y gorsafoedd hynny yr ydym ni eisiau eu gweld yn cael eu hadeiladu, ond wrth gwrs, mae'n angen cyllid yr Adran Drafnidiaeth er mwyn i'r prosiectau hynny gael eu cyflawni, ac rydym yn dadlau'r achos yn rheolaidd dros ddod â'r gwelliannau seilwaith a'r cyllid angenrheidiol i Gymru. Byddwn yn cytuno â Mick Antoniw ynglŷn â'r Ddeddf Rheilffyrdd; yn amlwg, mater i Lywodraeth y DU yw hynny, ond rwy'n credu y bydd angen dirymu'r adran benodol honno, oherwydd ar hyn o bryd, dim ond ar gyfer yr hyn a ddisgrifir fel cyfnod dros dro y gellir defnyddio gweithredwr pan fetha popeth arall. Wel, gadewch i ni gydnabod hyn, bydd nifer enfawr o gytundebau masnachfraint yn destun rhai pan fetha popeth arall am beth amser i ddod, ac felly credaf ei fod yn gwneud synnwyr perffaith i Lywodraeth y DU ystyried y mater hwn ar frys, ac ymdrin ag adran 25 mewn ffordd briodol, ac mae hynny'n golygu dirymu.
Gweinidog, byddwch yn gwybod fy mod yn cadeirio grŵp cydweithredol y Senedd—criw da o bobl yn y fan yna. Felly, a gaf i ofyn, gan ein bod bellach, yn gwbl briodol mae'n rhaid i mi ddweud, yn cymryd mwy o reolaeth dros y fasnachfraint rheilffyrdd yng Nghymru, a fydd Llywodraeth Cymru nawr yn ceisio ymgorffori egwyddorion cydfuddiannol wrth lywodraethu masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau, rhoi mwy o lais i ddefnyddwyr rheilffyrdd a gweithwyr rheilffyrdd, ac edrych ar gwmnïau cydfuddiannol llwyddiannus fel Cartrefi Cymoedd Merthyr am egwyddorion arfer gorau a Chanolfan Cydweithredol Cymru ar gyfer arbenigedd llywodraethu wrth wneud hynny? Byddai hynny i'w groesawu'n fawr, a byddem yn croesawu trafodaeth ar hynny.
Gweinidog, un pwynt arall. Er ein bod yn croesawu'r gwasanaeth ar y Sul a gawsom ar reilffordd Llynfi, y cydweithrediad aruthrol a gawsom gan Lywodraeth Cymru a chyllid i archwilio dewisiadau o amgylch Pencoed, a lliniaru'r tagfeydd sydd gennym ni yn y fan yna, a gaf i ofyn a ydym yn debygol o weld, nawr, unrhyw ddatblygiad o ran yr wybodaeth ddiweddaraf i'm hetholwyr am y gwelliannau i amlder y gwasanaethau rheilffyrdd ar linell Maesteg i Ben-y-bont ar Ogwr? Byddai'n wych clywed mwy am hynny rywbryd yn fuan.
A gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am ei gwestiynau? Hoffwn ei sicrhau o'r cychwyn cyntaf nad yw Maesteg yn sicr wedi ei hanghofio yn ystod trafodaethau eithaf dwys. Gallaf ddweud wrth Huw Irranca-Davies mewn gwirionedd fy mod yn falch y bydd Trafnidiaeth Cymru yn bwrw ymlaen â gwaith ar broses cam 2 yr arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru ddiwedd y mis nesaf neu ddechrau mis Ionawr. Credaf fod hynny'n hanfodol bwysig, oherwydd mae angen inni allu dangos, yn ystod y cyfnod pontio, y bydd gwaith yn parhau er mwyn gwella amlder gwasanaethau'r rheilffyrdd ac i gyflawni'r math o uwchraddio sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau amlach.
O ran y gwaith y mae Huw yn ei wneud yn y grŵp cydweithredol, hoffwn ei longyfarch am y gwaith rhagorol hwnnw, a byddwn yn cytuno bod yr egwyddorion cydfuddiannol yn hanfodol bwysig o ran y model gweithredu newydd. Rydym eisoes wedi cynnig cynrychiolaeth gweithwyr ar fwrdd Trafnidiaeth Cymru, ac rwy'n awyddus i ymestyn egwyddorion cydfuddiannol i sefydlu TfW Rail Ltd, a fydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd sydd o dan berchnogaeth gyhoeddus o dan y model gweithredu newydd.
Ac yn olaf, Rhianon Passmore.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A ydych chi'n fy nghlywed i?
Ydw.
Diolch; nid yw'n dangos. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Senedd Cymru am fater hanfodol dyfodol y rheilffyrdd yng Nghymru. Croesawaf yr uned gyflawni ar y cyd a'r hyn a ddywedwyd am egwyddorion cydfuddiannol.
Gŵyr pawb yn y Siambr hon a ledled Cymru y bu'r misoedd diwethaf yn heriol iawn i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig. Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar refeniw teithwyr, ond mae'n parhau'n gwbl hanfodol i'r gweithlu a'n heconomi. Gweinidog, gadewch inni beidio bod â diffyg hyder wrth gefnogi eich ymyrraeth gyflym a'ch gwaith yn cynnal gwasanaethau, oherwydd gwyddom fod y rhan fwyaf o'r cyhoedd yng Nghymru a Phrydain yn cefnogi egwyddorion gwladoli'r system reilffyrdd ym Mhrydain. A gadewch inni beidio ag anghofio mai preifateiddio ar ran Llywodraeth Dorïaidd John Major oedd hyn ar ddechrau'r 1990au, gan barhau â gwaddol Thatcher o werthu asedau cyhoeddus Prydain—unwaith eto, cam yn ormod—neu, fel y mae'r Gweinidog yn ein hatgoffa ni, cyllid canlyniadol seilwaith Cymru, gyda miliynau wedi'u colli, neu ladrad trên mawr parhaus HS2, unwaith eto'n amddifadu Cymru o'i chyllid haeddiannol a chyfiawn.
Gweinidog, rydych chi a Llywodraeth Cymru, er gwaethaf hyn, wedi ymrwymo £1 biliwn i adeiladu trenau newydd a metro de Cymru. Felly, pryd ydych chi'n rhagweld y bydd y llinell newydd o Lynebwy sy'n rhedeg drwy Islwyn i Gasnewydd yn dod yn weithredol? Ac yn ail, Gweinidog, onid yw prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, James Price, yn llygad ei le pan ddywed fod hyn yn ein galluogi ni i leihau'r elw a dalwn i'r sector preifat yn aruthrol dros amser, a sicrhau, pan ddaw'r refeniw hwnnw'n ôl, ei fod yn dychwelyd at y trethdalwr, ac oni ddylai pob Aelod o'r Senedd groesawu hynny? Diolch.
Hoffwn ddiolch i Rhianon Passmore am ei sylwadau ac am ei chefnogaeth i'r hyn yr ydym ni wedi'i wneud. A byddwn, fe fyddwn yn cytuno â James Price, prif swyddog gweithredol Trafnidiaeth Cymru, a'r hyn a ddywedodd; rwy'n credu iddo ddweud yr hyn sy'n amlwg, mae'n hollol gywir. O ran y gwasanaeth rhwng Glynebwy a Chasnewydd, rwyf eisoes wedi dweud wrth Alun Davies fod gwaith yn mynd rhagddo yn ôl y bwriad, gyda'r amod ein bod yn amlwg yn dibynnu ar Network Rail i gyflawni yn unol â'n hamserlen gyhoeddedig. Byddwn yn cytuno â phopeth a ddywedodd Rhianon Passmore am ein penderfyniad i weithredu'n gyflym a rhoi ein gwasanaethau o dan berchnogaeth gyhoeddus, ond byddwn hefyd yn dweud nad yw'r penderfyniad a wnaethom yn adlewyrchu perfformiad y gweithredwr o bell ffordd. Yn wir, roedd perfformiad yn gwella'n sylweddol iawn o dan y gweithredwr. A dyna un o'r rhesymau pam roeddwn yn benderfynol o sicrhau ein bod yn cadw eu harbenigedd a'u profiad. Maen nhw'n un o weithredwyr gorau'r byd, ac rydym yn falch o fod wedi sicrhau eu partneriaeth am flynyddoedd i ddod drwy'r fenter ar y cyd.
Mae COVID, yn amlwg, wedi torri'r model yn y DU. Ni fyddai unrhyw fusnes preifat wedi gallu ysgwyddo'r costau enfawr sy'n gysylltiedig â gweithredu yn ystod y pandemig. Rhaid imi hefyd rybuddio'r Aelodau bod perchnogaeth gyhoeddus yn cynnig cyfleoedd, ond nid yw'n rhoi'r ateb a fyddai'n ein galluogi i oresgyn y coronafeirws heb orfod ateb cwestiynau anodd am ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol. Byddwn yn dioddef cyfnod hir o her ariannol yn y sector cyhoeddus, ni waeth pwy sy'n gweithredu gwasanaethau rheilffyrdd yn unman yn y DU. Bydd y costau'n cynyddu o ganlyniad i'r pandemig. Bydd hynny'n arwain at orfod gwneud penderfyniadau anodd, yn amlwg. Ond y gwir amdani yw ein bod, gyda pherchnogaeth gyhoeddus, yn rheoli'r hyn a wnawn yn llawnach, ac mae hynny'n rhywbeth y credaf, yn gyffredinol, y byddai Aelodau ar draws y Siambr yn ei gymeradwyo.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.