– Senedd Cymru ar 25 Tachwedd 2020.
Y ddadl nesaf yw dadl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gweledig ar y fframwaith datblygu cenedlaethol. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Mike Hedges.
Cynnig NDM7487 Mike Hedges
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft, a osodwyd ar 21 Medi 2020.
2. Yn nodi, yn unol ag Adran 3 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, fod cyfnod ystyried 60 diwrnod y Senedd wedi dechrau ar y diwrnod y gosodwyd drafft y Fframwaith yn y Senedd.
3. Yn nodi, yn unol ag Adran 3 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, fod yn rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw benderfyniad a basiwyd gan y Senedd ac unrhyw argymhelliad a wnaed gan un o bwyllgorau'r Senedd mewn perthynas â'r drafft yn ystod y cyfnod hwnnw o 60 diwrnod.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o allu siarad yn y ddadl hon dan arweiniad pwyllgor ar y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft, a elwir bellach yn 'Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040'. Bydd Aelodau o'r Senedd yn ymwybodol fod Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn nodi gweithdrefnau craffu ar gyfer y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft. Mae'r Ddeddf yn cyfeirio at gyfnod ystyried yn y Senedd sy'n para am 60 diwrnod ar ôl gosod y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft. Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw benderfyniad a gaiff ei basio gan y Senedd ac unrhyw argymhelliad a wneir gan bwyllgor Senedd yn ystod y cyfnod hwnnw.
Daw'r cyfnod o 60 diwrnod i ben yfory. Y ddadl hon yw'r ail y byddwn wedi'i chael ar y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft, yn dilyn dadl gan Lywodraeth Cymru yn gynnar iawn yn y cyfnod o 60 diwrnod. Diben y ddadl heddiw yw rhoi cyfle olaf i'r Senedd a'r Aelodau ystyried y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft. Nid dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yw hon, er fy mod yn gobeithio y caiff ei llywio gan ein hargymhellion. Fel Cadeirydd y Pwyllgor, ni fyddaf yn mynd i'r afael â'r gwelliannau a gyflwynwyd gan yr Aelodau. Mae'n fwy priodol i'r Gweinidog wneud hynny.
Cyhoeddodd y pwyllgor ein hadroddiad ddydd Llun. Ynddo, gwnaethom 26 o argymhellion ar draws sawl maes polisi. Cyn i mi fynd ymhellach, hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i gyfrannu at waith y pwyllgor, naill ai drwy gyflwyniadau ysgrifenedig neu drwy ymddangos ger ein bron yn rhithwir. Hoffwn ddiolch hefyd i gynghorydd arbenigol y pwyllgor, Graeme Purves, am ei gymorth yn ystod y broses graffu.
Mae 'Cymru'r Dyfodol' yn ddogfen bwysig; mae'n nodi fframwaith 20 mlynedd ar gyfer cynllunio a datblygu yng Nghymru. Os caiff ei wneud yn iawn, mae ganddo botensial i fynegi gweledigaeth feiddgar, hirdymor ar gyfer y wlad hon. Fel pwyllgor, rydym yn fodlon â 'Cymru'r Dyfodol' at ei gilydd. Gall pob aelod o'r pwyllgor dynnu sylw at elfennau y byddent am eu cryfhau, neu hyd yn oed eu dileu, ond yn gyffredinol, roeddem yn fodlon. Fodd bynnag, mynegodd un Aelod o'r pwyllgor ei wrthwynebiad i rai o'r polisïau yn 'Cymru'r Dyfodol' ac o ganlyniad, i agweddau ar gasgliadau ac argymhellion y pwyllgor. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn egluro ei resymau'n llawn cyn bo hir.
Yr her gyffredinol y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu ar hyn o bryd yw sicrhau bod y fframwaith cynllunio 40 mlynedd hwn yn ddigon gwydn i allu ymateb i'r tair her fwyaf sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd: COVID ac unrhyw feirysau yn y dyfodol, Brexit, ac effeithiau newid hinsawdd. Mae'r Gweinidog wedi sicrhau'r pwyllgor bod 'Cymru'r Dyfodol' yn ddigon hyblyg a gwydn i ymateb i newidiadau cymdeithasol sy'n deillio o bandemig COVID-19.
Ond credwn ei bod yn rhy gynnar i farnu effeithiau tymor canolig a hirdymor penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yng ngoleuni'r pandemig. Er enghraifft, mae Gweinidogion Cymru wedi sôn am hyd at 30 y cant o weithwyr Cymru'n gweithio gartref. Gallai hyn newid yn sylfaenol y ffordd y mae ardaloedd fel canol trefi a chanol dinasoedd yn gweithredu. A bydd hyn yn effeithio ar seilwaith, tai a chysylltedd, ac yn sicr, y busnesau sy'n seiliedig ar ddarparu gwasanaethau i'r rhai sy'n gweithio mewn swyddfeydd yng nghanol dinasoedd. Mae angen i 'Cymru'r Dyfodol' allu adlewyrchu'r holl newidiadau hyn. Rydym wedi argymell y dylai 'Cymru'r Dyfodol' gynnwys datganiad clir i adlewyrchu'r gwersi a ddysgwyd o COVID-19 ac egluro sut y bydd yn cefnogi adferiad ôl-COVID-19.
Roedd un o'n prif bryderon yn ymwneud â chynlluniau datblygu strategol. 'Cymru'r Dyfodol' fydd y lefel uchaf o gynllun strategol, i ddarparu fframwaith cynllunio cenedlaethol. Bydd cynlluniau datblygu strategol yn mynd rhwng y cynllun datblygu cenedlaethol a'r cynllun datblygu lleol. O ran hierarchaeth dogfennau cynllunio strategol, mae hyn yn gwneud synnwyr. Ond mae'r dull o weithredu'n cael ei lesteirio gan absenoldeb yr haen ganol o gynlluniau datblygu strategol. A dweud y gwir, nid yw awdurdodau lleol wedi dangos llawer o ddiddordeb mewn datblygu'r cynlluniau hyn hyd yma. Ond er mwyn i ddull Llywodraeth Cymru weithio, mae angen iddynt ddod yn weithredol cyn gynted â phosibl.
Ceir un cymhlethdod ychwanegol. Bydd angen i awdurdodau lleol ddod at ei gilydd i ddatblygu'r cynlluniau hyn o dan Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a basiwyd gan y Senedd hon yr wythnos diwethaf. Mae'r Bil yn darparu ar gyfer sefydlu cydbwyllgorau corfforaethol a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o fwy nag un awdurdod lleol i ddatblygu cynlluniau datblygu strategol. Wrth gwrs, mae mwy o gydweithredu rhwng awdurdodau lleol yn beth da mewn egwyddor, ond yr hyn nad ydym am ei gael yw cyfyngu anfwriadol ar atebolrwydd tuag at gymunedau lleol. Un feirniadaeth a glywsom am 'Cymru'r Dyfodol' oedd ei bod yn ymddangos, mewn mannau, fel pe bai'n ymestyn i dir y byddech yn disgwyl iddo gael ei gynnwys mewn cynlluniau datblygu strategol. Gobeithiwn y bydd hyn yn cael ei ailgydbwyso dros amser, wrth i gynlluniau datblygu strategol gael eu cyflwyno.
Rwyf am droi yn fyr yn awr at rai o'r meysydd allweddol eraill rydym wedi ymdrin â hwy yn ein hadroddiad. Ynni: rydym wedi gwneud nifer o argymhellion manwl yn ein hadroddiad, ond mae'r prif bwynt rwyf am ei wneud yn un strategol. Credwn fod diffygion y grid yn rhwystro datblygiad strategol yng Nghymru. Os ydych am adeiladu fferm wynt neu os ydych am gael fferm solar, gwyddom fod angen i chi wneud hynny lle roedd gorsaf bŵer yn arfer bod, fel bod gennych fynediad at y grid. Mae hynny'n achosi problemau enfawr mewn llawer o ardaloedd.
Mae'r Gweinidog wedi dweud y bydd 'Cymru'r Dyfodol' yn darparu sail ar gyfer trafodaethau pellach gyda'r Grid Cenedlaethol a chwmnïau dosbarthu. Rhaid i'r trafodaethau hyn ddigwydd fel mater o frys, neu fel arall mae 'Cymru'r Dyfodol' yn cael ei lesteirio o'r dechrau mewn perthynas ag ynni. Mae angen strategaeth i wella'r seilwaith trosglwyddo a dosbarthu trydan, gan gynnwys unrhyw seilwaith newydd sydd ei angen yng nghanolbarth Cymru. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r Grid Cenedlaethol, cwmnïau dosbarthu trydan a'r diwydiant ynni adnewyddadwy i ddatblygu hyn ar fyrder.
Ar dai, roeddem yn fodlon ar y cyfan â'r polisïau a nodir yn 'Cymru'r Dyfodol', ond rydym am gofnodi ein siom fod gwelliannau i Ran L y rheoliadau adeiladu wedi'u gohirio unwaith eto. Mae angen y gwelliannau hyn, ond mae parhau i ohirio'r newidiadau anochel yn destun pryder. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu Rhan L ddiwygiedig y rheoliadau adeiladu fel y gall Llywodraeth nesaf Cymru, pwy bynnag y bydd, gyflwyno is-ddeddfwriaeth cyn gynted â phosibl yn dilyn etholiad 2021.
Mae 'Cymru'r Dyfodol' yn sôn llawer am gysylltedd. Yn ein hadroddiad a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2019, dywedasom fod angen i 'Cymru'r Dyfodol' fynd i'r afael â'r cysylltedd gwael rhwng gogledd a de Cymru. Er iddo gael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, nid yw'n mynd yn ddigon pell. Mae gennym bryderon hefyd ynghylch cysylltedd â gorllewin Cymru, sy'n aml yn cael ei anghofio, ac eithrio gan y rhai sy'n gorfod teithio o sir Benfro i dde-ddwyrain Cymru. Credwn fod cysylltedd trafnidiaeth yn broblem strategol barhaus ar draws rhannau o Gymru. Mae 'Cymru'r Dyfodol' yn rhoi gormod o'r cyfrifoldeb am hyrwyddo gwell cysylltiadau rhyngranbarthol ar y rhanbarthau eu hunain. Rhaid i'r strategaeth drafnidiaeth genedlaethol newydd y mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori arni ar hyn o bryd fynd i'r afael â hyn.
Yn olaf, gwnaethom nifer o argymhellion manwl am fioamrywiaeth a seilwaith gwyrdd, y goedwig genedlaethol a'r parciau cenedlaethol. Ar fater lleiniau glas, dywedodd cyfranwyr wrthym y dylai fod gan awdurdodau lleol fwy o ddisgresiwn na'r hyn a nodwyd yn 'Cymru'r Dyfodol' o ran pennu lleoliad a maint y lleiniau glas yn eu rhanbarthau. Fel pwyllgor, mae arnaf ofn na allem gytuno. Credwn fod lleiniau glas yn arf hanfodol i gyfyngu ar flerdwf trefol. Rydym wedi argymell y dylid cryfhau eu swyddogaeth, ac y dylid pwysleisio eu manteision yn 'Cymru'n Dyfodol'.
I gloi, hoffwn orffen drwy ddiolch i'r Gweinidog am y ffordd adeiladol y mae hi a'i swyddogion wedi ymgysylltu â'r pwyllgor a'r ffordd ddefnyddiol y mae'r dogfennau niferus sy'n ymwneud â 'Cymru'r Dyfodol' wedi cael eu cyflwyno a'u hegluro. Pan gyhoeddodd y pwyllgor ei adroddiad ar 'Cymru'r Dyfodol' ym mis Tachwedd 2019, gwnaethom nodi 50 o gasgliadau gyda'r nod o wella'r fframwaith datblygu cenedlaethol. Derbyniwyd y rhan fwyaf o'n hargymhellion. Yn yr adroddiad hwn, rydym wedi gwneud 26 o argymhellion pellach. Edrychaf ymlaen at glywed ymateb y Gweinidog. Diolch.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Llyr Gruffydd.
Gwelliant 1—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu o ran y model pedair rhanbarth diwygiedig yn Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040:
a) ei fod wedi cael ei ysbrydoli gan agenda Geidwadol, unoliaethol sy'n seiliedig ar gytundebau dinas a thwf Llywodraeth y DU;
b) y byddai'n gyrru hollt drwy Gymru, gan rannu gogledd ein gwlad o'r de ac ni fyddai'n gwneud fawr ddim yn rhagweithiol i wella cysylltedd rhwng y gogledd a'r de; ac
c) y byddai'n esgeuluso rhai o'r rhannau hynny o Gymru y mae angen eu hadfywio a'u datblygu fwyaf, sef yr arfordir gorllewinol a chymoedd y de.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddisodli'r model pedwar rhanbarth a gynigir yn Cymru'r Dyfodol: cynllun cenedlaethol 2040 gan, yn lle hynny, gael map rhanbarthol amgen o Gymru sy'n canolbwyntio ar wneud Cymru'n genedl gysylltiedig, cynaliadwy, ffyniannus a hunangynhaliol ym mhob ystyr.
Gwelliant 2—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod Dr Neil Harris o Brifysgol Caerdydd, mewn tystiolaeth i Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd, wedi crynhoi'r dull sy'n sail i Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040 fel un sy'n seiliedig ar dwf sy'n canolbwyntio ar ardaloedd trefol a sefydlogrwydd mewn mannau eraill.
Yn credu o ran y dull sy'n sail i Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040:
a) ei fod mewn perygl o sefydlu'r methiant i ddosbarthu cyfoeth, twf a datblygiad mewn modd cyfartal ledled Cymru fel nodwedd barhaol o lywodraethu Cymru yn y cynllun hirdymor hwn; a
b) y bydd yn arwain at orddatblygu yn yr ardaloedd sydd eisoes wedi'u blaenoriaethu fel lleoliadau a ffefrir ar gyfer datblygiadau preswyl sylweddol a datblygiadau sylweddol eraill, heb wneud fawr ddim i fynd i'r afael â'r angen am ddatblygu cynaliadwy mewn meysydd eraill gan gynnwys yr angen am dai cymdeithasol a fforddiadwy i gwrdd â'r argyfwng tai.
Yn credu bod yn rhaid i'r system gynllunio yng Nghymru adlewyrchu'r angen am ddatblygiad addas yn y mannau cywir yn ôl angen lleol; rhoi mwy o lais i gymunedau mewn datblygiadau yn eu hardaloedd a bod yn rhaid i'r system gynllunio ganiatáu cynllunio cyfannol ar y lefel briodol, ond yn credu ei bod yn debygol y bydd trosglwyddo pŵer ac atebolrwydd dros gynllunio o awdurdodau lleol i gyd-bwyllgorau corfforaethol drwy gynlluniau datblygu strategol yn cyfyngu ymhellach ar y llais lleol mewn prosesau cynllunio.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddisodli'r dull sy'n sail i Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040 ar hyn o bryd gan sefydlu dull amgen sy'n canolbwyntio ar ddosbarthu cyfoeth, pŵer a buddsoddiad yn gyfartal ledled Cymru drwy dargedu ymyrraeth a thwf yn yr ardaloedd mwyaf anghenus.
Wel, diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mi allem ni dreulio, wrth gwrs, llawer o amser yn mynd drwy argymhellion unigol yn adroddiad y pwyllgor—llawer ohonyn nhw dwi'n cytuno â nhw—ond mae gen i broblemau mwy sylfaenol am gynsail y fframwaith datblygu, sydd, wrth gwrs, wedi eu hamlygu yn y gwelliannau y mae Plaid Cymru wedi eu cyflwyno, ac yn y ffaith bod adroddiad y pwyllgor, wrth gwrs, yn y pen draw, yn adroddiad lleiafrifol.
Un o'r problemau sydd gyda fi, wrth gwrs, yw bod ôl-troed gofodol y fframwaith datblygu cenedlaethol yn wallus. Mae'n rhoi ar waith, yn fy marn i, weledigaeth Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig, y weledigaeth unoliaethol honno sy'n ymwreiddio neu'n 'entrench-io' dibyniaeth Cymru ar economi Lloegr. Mae yna bedair rhanbarth, wrth gwrs, wedi eu modelu ar ardaloedd bargeinion twf Boris Johnson, ac mae'n siom fod map Cymru'r dyfodol yn seiliedig, wrth gwrs, ar wasanaethu'r Northern Powerhouse, y Bristol and Western Gateway a'r Midlands Engine—yr acsis gorllewin-dwyrain yma sy'n golygu, wrth gwrs, fod dyfodol economaidd Cymru yn mynd i fod yn seiliedig ar friwsion o fwrdd rhywun arall. Oes, mae angen cydweithio yn drawsffiniol i ddenu budd i Gymru o'r endidau hyn, wrth gwrs bod e, ond nid seilio holl weledigaeth 'Cymru'r Dyfodol' ar hynny. Ac mae'r methiant i flaenoriaethu adeiladu economi Cymru ynddo'i hun—in its own right—yn creu, wrth gwrs, mwy o ddibyniaeth ar benderfyniadau'r Ceidwadwyr yn Llundain a llai o debygolrwydd y bydd Cymru, wrth gwrs, yn gallu tyfu'n gryfach a sefyll ar ei thraed ei hun.
Nawr, yn lle cynnig gweledigaeth sy'n dod â Chymru ynghyd, felly, mae Llafur, drwy wneud hyn, yn risgio gwthio de, canolbarth a gogledd Cymru ymhellach oddi wrth ei gilydd. Mae'n esgeuluso'r angen, yn fy marn i—yr angen dybryd—am well cysylltedd de a gogledd. Mi ddywedodd y Gweinidog yn ei thystiolaeth fod y fframwaith yn ddigon hyblyg i ymateb i bolisïau trafnidiaeth de-gogledd. Wel, nid ymateb i bolisïau sydd angen, ond gyrru'r weledigaeth a'r polisïau uchelgeisiol yna sydd eu hangen arnon ni i uno Cymru. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn cael ei adlewyrchu yn un o argymhellion y pwyllgor sy'n cyfeirio at y diffyg ffocws ar gysylltedd oddi fewn i Gymru.
Yr ail broblem sylfaenol sydd gen i, wrth gwrs, yw'r modd y mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yma yn canoli twf mewn rhai ardaloedd penodol, a hynny'n anochel, wrth gwrs, wedyn, ar draul ardaloedd eraill. Ac mi dynnodd Dr Neil Harris, arbenigwr o Brifysgol Caerdydd, ein sylw ni yn y pwyllgor, yn ei dystiolaeth, at y ffaith bod y cynllun yn seiliedig ar dwf sy'n canolbwyntio twf ar ardaloedd trefol, ond wedyn dim ond yn sôn am sefydlogrwydd mewn mannau eraill. Nawr, nid dyna'r weledigaeth o rannu cyfoeth a chyfleodd yn gyfartal ar draws Cymru fyddem ni am ei weld. A'r methiant hwnnw i ddosbarthu cyfoeth, twf a datblygiad mewn modd cyfartal ledled Cymru yw un o'r nodweddion dwi am ei weld yn cael ei wyrdroi. Gallech chi ddadlau mai dyna yw un o fethiannau datganoli yn yr 20 mlynedd ddiwethaf. Ond yr hyn sy'n digwydd nawr, wrth gwrs, yw bod hynny'n cael ei wreiddio fel nodwedd barhaol o weledigaeth Llywodraeth Cymru hyd 2040.
Does dim digon o bwyslais ar Arfor a'r angen am dwf yn y gorllewin, fel dwi wedi'i godi'n flaenorol gyda'r Gweinidog, na chwaith ar y Cymoedd fel endid penodol sydd angen ffocws cryfach arni, yn fy marn i. A'r risg hefyd yw, wrth gwrs, y bydd yr ardaloedd twf yma, yn y pen draw, yn wynebu gorddatblygiad. Rydym ni'n ei weld e'n digwydd mewn rhai rhannau o Gymru yn barod. Pan rydych chi'n edrych ar yr ardaloedd sydd wedi eu blaenoriaethu fel lleoliadau a ffefrir ar gyfer datblygiadau preswyl sylweddol, wel, wrth gwrs fod yna risg o orddatblygiad yn fanna, tra bod yna'n fawr ddim wedyn, wrth gwrs, ar y llaw arall, i fynd i'r afael â'r angen am ddatblygiad cynaliadwy mewn rhannau eraill o Gymru, yn enwedig pan mae'n dod, wrth gwrs, i'r angen am dai cymdeithasol a thai fforddiadwy i gwrdd â'r argyfwng tai.
Mae yna broblemau hefyd, wrth gwrs, ynglŷn â'r natur o'r top i lawr pan mae'n dod i'r gyfundrefn gynllunio. Fe gawsom ni'r drafodaeth hynny adeg pasio Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 rai blynyddoedd yn ôl. Ond, wrth gwrs, mae hwn yn mynd â'r broblem i'r lefel nesaf drwy'r cynlluniau datblygu rhanbarthol, drwy ddibyniaeth ar y cydbwyllgorau corfforaethol yma sydd yn mynd â'r penderfyniadau allweddol yma yn bellach i ffwrdd o'r cymunedau fydd yn cael eu heffeithio gan y penderfyniadau.
Felly, i gloi, gall Plaid Cymru ddim cefnogi y cynllun yma sy'n chwarae i ddwylo yr agenda unoliaethol ac i ddwylo agenda'r Ceidwadwyr yn Llundain, ac a fydd, wrth gwrs, yn gwanhau yn lle cryfhau Cymru fel endid economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol, ac yn sgil hynny, rŷn ni'n teimlo'n gryf fod yn rhaid cyflwyno newidiadau sylweddol i fframwaith cynllunio cenedlaethol Cymru.
Dyma'r ail dro i mi siarad am y fframwaith datblygu cenedlaethol, ac yn ystod y ddadl ddiwethaf amlinellais yn glir nifer o wendidau yn y fframwaith datblygu cenedlaethol. Yn ystod y pwyllgor, mae fy mhenderfyniad fod angen mynd i'r afael â'r rhain wedi cryfhau.
Fel y dywedais o'r blaen, mae'r dull rhanbarthol presennol yn ddiffygiol, yn enwedig wrth edrych ar ogledd a chanolbarth Cymru. Argymhellais y dylid diwygio polisi 20, fel bod gogledd Cymru i gyd yn elwa, ac y dylid rhannu'r prif ffocws rhwng Wrecsam a Glannau Dyfrdwy a Chaernarfon, Bangor ac ardal y Fenai. Felly, erfyniaf arnoch i sicrhau bod gan ogledd-orllewin Cymru ardal dwf genedlaethol. Mae Plaid Cymru yn anghywir i alw am rywbeth yn lle'r model rhanbarthol—y broblem mewn gwirionedd yw lle mae'r ardaloedd twf cenedlaethol i fod. Felly, rhaid i mi fynegi fy rhwystredigaeth eto nad yw polisi 25 wedi'i ddiwygio i gyflwyno Aberystwyth fel prif ffocws ar gyfer buddsoddi.
Mae 'Cymru'r Dyfodol' yn parhau i fethu sbarduno buddsoddiad i orllewin Cymru yn gyfan, a daw hyn â mi at fy nghefnogaeth i argymhelliad 10, fod angen datganiad clir yn awr ynglŷn â sut y bydd y strategaeth yn helpu i wella adferiad ôl-COVID. Oes, mae datganiad am y pandemig ynddo, ond mae gwir angen i chi ddangos sut y mae'r ddogfen wedi esblygu oherwydd y pandemig erchyll hwn. Er enghraifft, pe baech yn diwygio polisi 20 ac yn gweld mwy o ymdrech i fuddsoddi yng ngogledd-orllewin Cymru, gellid dweud eich bod yn ymateb i'r angen i hybu twf economaidd yn y rhanbarth yn dilyn y cynnydd o 114 y cant yn nifer yr hawliadau credyd cynhwysol yng Nghonwy, 117 y cant yn Ynys Môn a 147 y cant yng Ngwynedd.
Yn yr un modd, mewn ymateb i COVID-19, rhoddir cryn bwyslais ar y cyfle i sicrhau adferiad gwyrdd. Nawr, mae'r Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Boris Johnson AS, wedi rhoi hwb gwych i feithrin chwyldro gwyrdd yn y DU. Nid yw'r strategaeth hon yn adlewyrchu unrhyw uchelgais o'r fath. Nawr, rwy'n cytuno ag argymhelliad 11 y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r Grid Cenedlaethol, cwmnïau dosbarthu trydanol a'r diwydiant ynni adnewyddadwy i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o'r gwelliannau strategol y mae angen eu gwneud i seilwaith trosglwyddo a dosbarthu trydan. Byddwn yn mynd ymhellach hyd yn oed, ac yn gofyn i chi gynnwys ymrwymiad ym mholisi 17, os oes seilwaith grid newydd i gael ei adeiladu ar draws canolbarth Cymru, y bydd hwnnw'n cael ei osod o dan y ddaear. Dylid rhoi sylw hefyd i dystiolaeth lafar Hedd Roberts, a dynnodd sylw at yr angen i ddiogelu'r nifer gyfyngedig o safleoedd sy'n addas ar gyfer glanfeydd cebl. Byddai hynny'n helpu i sicrhau bod 'Cymru'r Dyfodol' yn gyson â'r cynllun morol cenedlaethol. Fel y mae cangen Trefaldwyn o Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig wedi nodi, mae angen rhoi mwy o bwyslais ar amrywiaeth o ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ynni morol.
Mae polisi 22 yn cyfeirio at yr angen am lain las o amgylch Wrecsam a Glannau Dyfrdwy, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod ein pwyllgor wedi argymell y dylid cryfhau eu swyddogaeth. Rwy'n cytuno, ond rwy'n dal yn bryderus, y gallai nodi diogelwch polisi cryf ar gyfer y llain las mewn un gornel o Gymru gael effaith negyddol mewn mannau eraill. Er enghraifft, os ydych yn dymuno bod yn uniongyrchol, beth am ddiwygio polisi 22 fel ei fod yn diogelu'r ardal werdd o amgylch Llan-rhos yn Aberconwy? Unwaith eto, ymddengys mai dim ond dau gyfeiriad a geir at safleoedd tir llwyd yn y ddogfen gyfan. Dylem gael polisi sy'n rhoi blaenoriaeth i ddatblygu yn y mannau hynny.
Dywedwyd wrthym yn glir fod parciau cenedlaethol yn wynebu heriau mawr, felly rwy'n cytuno ag argymhelliad 25 y dylid cael polisi penodol ar y mater, a dyma mae Cymdeithas Eryri eu hunain wedi'i argymell. Rwy'n cytuno y dylai polisi 12 gynnwys blaenoriaeth ychwanegol: cymorth ar gyfer mesurau i leihau dibyniaeth ar geir a hwyluso dulliau mwy gwyrdd o gael mynediad i'n cyrchfannau angori ar gyfer ymwelwyr mewn tirweddau dynodedig sy'n profi tagfeydd cronig ar y ffyrdd ar hyn o bryd, gan brofi'n fwy felly yn ystod cyfnod codi'r cyfyngiadau symud yn y pandemig COVID. Er eich bod yn derbyn argymhelliad y pwyllgor y dylai'r fframwaith fynd i'r afael â'r cysylltedd gwael rhwng gogledd a de Cymru, nid yw yno eto, gan fod llawer o gyfrifoldeb yn cael ei roi i'r rhanbarthau eu hunain.
Yn olaf, hoffwn nodi fy siom fod 'Cymru'r Dyfodol' ym mholisïau 4 a 5 yn gadael dyfodol ardaloedd gwledig i gynlluniau datblygu strategol a lleol. Mae arwyddocâd cenedlaethol i faterion sy'n effeithio ar y Gymru wledig, ac fel y cyfryw, rwyf am ailadrodd galwadau i ddiwygio'r polisïau hynny fel eu bod yn hyrwyddo achub ein hysgolion a'n cyfleusterau gwledig, gwella ein ffyrdd B, arallgyfeirio ein ffermydd, a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr cyfathrebu digidol i fynd i'r afael ag anghenion ardaloedd gwledig. Rwy'n eich annog i weithredu ar y galwadau adeiladol hyn, ac i fynd yn ôl i'r dechrau ar y fframwaith datblygu cenedlaethol hwn. Diolch.
Mae llawer o bethau da yn y fersiwn ddiwygiedig o 'Cymru'r Dyfodol'. Mae llun yn dweud cymaint ag y gall mil o eiriau ei wneud, felly mae'r mapiau o barthau arfaethedig ar gyfer gwahanol weithgareddau i'w croesawu'n fawr, ac yn llawer haws i ddinasyddion ddeall sut y mae 'Cymru'r Dyfodol' yn berthnasol i'w gweledigaeth hwy ar gyfer llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Felly, rwy'n credu bod gwelliant sylweddol wedi bod ers yr iteriad cyntaf. Diolch yn fawr iawn am hynny, Weinidog.
Hoffwn wneud dau bwynt. Yn gyntaf oll, mae'n hanfodol fod gan 'Cymru'r Dyfodol' neges gref a chlir fod yn rhaid inni gael lleiniau glas i atal y blerdwf trefol sy'n uno gwahanol gymunedau. Er enghraifft, rhaid inni gael llain las rhwng Caerdydd a Chaerffili, oherwydd fel arall, bydd datblygwyr bob amser am adeiladu ar gyrion Caerdydd, oherwydd gallant wneud mwy o arian drwy wneud hynny na thrwy adeiladu yng Nghaerffili, ac os nad oes gennym y math hwnnw o drefniant, mae'n tanseilio ein strategaeth ar gyfer datblygu cymunedau'r Cymoedd a sicrhau nad yw Caerdydd yn dod yn anghenfil o ddinas orlawn heb unrhyw fannau gwyrdd hygyrch. Yn yr un modd, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn diogelu'r gorlifdiroedd rhwng Caerdydd a Chasnewydd, i'w diogelu rhag archwaeth datblygwyr i adeiladu lle bynnag y gallant, cyhyd â'i fod ar safle maes glas, hyd yn oed os yw ar orlifdir. Ac mae'r ansicrwydd ynghylch ein cyflenwadau bwyd yn y dyfodol a fewnforir o gyfandir Ewrop yn ei gwneud yn bwysicach fyth ein bod yn gallu diogelu'r gorlifdir hwn fel man lle gallwn gynhyrchu bwyd ar gyfer Casnewydd a Chaerdydd, a gwella diogelwch ein cyflenwad bwyd drwy wneud hynny.
Hoffwn hefyd i'r Gweinidog egluro graddau'r diogelwch a roddir i safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Dywedodd Ymddiriedolaethau Natur Cymru wrth y pwyllgor fod yn rhaid i SoDdGA fod yn gysegredig neu o leiaf gael yr un amddiffyniad ag y maent yn ei gael ar gyfandir Ewrop. A allem roi'r un camau asesu i SoDdGA Cymru â safleoedd Natura 2000, fel bod SoDdGA yn cael yr amddiffyniadau angenrheidiol rhag datblygu? Mae hyn yn ymddangos yn arbennig o bwysig, o ystyried y rhywogaethau a gollir ledled Cymru yn sgil llu o weithgareddau gan fodau dynol. Felly, a gawn ni nodi yn 'Cymru'r Dyfodol' fod asesiad rheoleiddio cynefinoedd yn ffordd reolaidd o brofi effaith unrhyw ddatblygiad arfaethedig ac ymchwilio i amcanion cadwraeth unrhyw gynnig penodol? Os barnir eu bod yn cael effaith sylweddol, gellid dilyn hyn drwy gynnal asesiad priodol i benderfynu a fyddai integriti'r safle yn cael ei niweidio. Os yw'r asesiad hwn, felly, yn dweud na fyddai modd osgoi effaith o'r fath, er gwaethaf ymdrechion lliniaru, mae'n ymddangos i mi mai'r unig ffordd y gallai datblygiad fynd rhagddo yw os nad oes atebion amgen i'w cael a bod rhesymau cymhellol dros ddiystyru budd y cyhoedd.
Yn fwyaf diweddar, gwelsom gynnig i adeiladu ffordd liniaru i'r M4 yn mynd ar draws lefelau Gwent, a fyddai, wrth gwrs, wedi golygu bod y safle hwn a warchodir yn amgylcheddol yn cael ei oresgyn gan gerbydau, a fyddai wedi dinistrio rhinweddau'r safle. Os bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu safonau diwygiedig a mwy trwyadl, rwy'n gobeithio y gallant sicrhau nad ydym byth yn gweld cynnig o'r fath yn cael ei ystyried eto. Mae'n wych, wrth gwrs, fod y Prif Weinidog wedi penderfynu bod yr effaith ar yr amgylchedd yn y cynnig hwnnw yn llawer rhy fawr i ganiatáu iddo allu digwydd ac mae llawer o gynigion amgen eraill yn cael eu llunio nawr. Diolch.
Rwy'n codi i gyfrannu at y ddadl hon fel Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu. Roeddem yn teimlo ei bod yn ddyletswydd arnom i gymryd tystiolaeth ar effeithiau posibl y fframwaith datblygu cenedlaethol ar y Gymraeg ac ar darged y Llywodraeth ei hun i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Cawsom dystiolaeth ar 15 Tachwedd ac rydym wedi ysgrifennu at y Gweinidog. Wrth gwrs, rydym yn aros am ei hymateb ffurfiol maes o law. Mae'n wir, ar lefel strategol genedlaethol, fod y fframwaith yn gwneud nifer o gyfeiriadau at y Gymraeg, ond ar lefel ranbarthol a gofodol, mae'r cyfeiriadau'n llawer mwy cyffredinol, ac at ei gilydd mae ein pwyllgor yn credu, a dangosodd y dystiolaeth a gyflwynwyd inni, fod perygl i hwn fod yn gyfle a gollwyd mewn perthynas â defnyddio ein cynlluniau gofodol fel gwlad i ddiogelu a sicrhau dyfodol ein hiaith genedlaethol.
Mynegodd tystion nifer o bryderon ac rwyf am gyffwrdd â rhai ohonynt yn fyr. Roedd un pryder yn ymwneud ag atebolrwydd ar lefel ranbarthol. Mae'r fframwaith yn gwneud llawer iawn o'r angen i weithredu ar lefel ranbarthol, ac mae rhywfaint o reswm dros hynny, er bod gennyf fi'n bersonol bryderon am y rhanbarthau fel y'u nodir yn y fframwaith. Ond er enghraifft, nododd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg fod ei goruchwyliaeth o ddyletswyddau statudol yn ymwneud ag endidau cyfreithiol a chyrff unigol, ac mae ymhell o fod yn glir i Gomisiynydd y Gymraeg sut y mae ei gyfrifoldebau cyfreithiol dros sicrhau bod y cyrff hynny'n gweithredu'n briodol yn y ddeddfwriaeth iaith Gymraeg—sut y bydd hynny'n cael ei gyflawni pan fyddant yn cydweithredu ar lefel ranbarthol. Ble mae'r cyfrifoldeb? Os oes rhaid iddo gyflwyno sylwadau am fethiant, ymhle ac i bwy y mae'n gwneud y sylwadau hynny? Nid yw'n glir sut y bydd y dull rhanbarthol, fel y'i nodir yn y fframwaith, yn cefnogi ac yn hyrwyddo'r Gymraeg, a hoffai'r pwyllgor i Lywodraeth Cymru ddangos yn llawer mwy eglur sut y mae'n bwriadu sicrhau mwy o dryloywder yng ngwaith y cyrff rhanbarthol a sut y gallant fod yn atebol.
Maes arall lle cawsom dystiolaeth helaeth oedd tai a'r Gymraeg. Er mwyn i'r iaith gael dyfodol, gwyddom fod angen iddi gael cymunedau byw lle caiff ei siarad yn rheolaidd o ddydd i ddydd. Ac yn y cymunedau yn y gogledd a'r gorllewin, gwyddom fod mynediad at dai yn broblem enfawr. Bydd yr Aelodau'n cofio stori pennaeth ysgol gynradd y llynedd na allai fforddio prynu tŷ yng Ngwynedd a oedd o fewn 40 milltir i'r ysgol lle roedd yn byw—fod rhywun yn y swydd broffesiynol uwch honno'n methu fforddio cartref yn ei chymuned. Nawr, nid ydym yn teimlo bod hyn yn cael sylw digonol fel problem yn y fframwaith, a bydd effaith methu cael mynediad at dai fforddiadwy, ac yn hollbwysig, at dai cymdeithasol, yn rhwystro'r cymunedau hynny rhag gallu goroesi fel cymunedau byw, a'r effaith ar ddyfodol yr iaith. Rydym yn argymell y dylai'r cysylltiad rhwng tai cymdeithasol a thai fforddiadwy mewn ardaloedd Cymraeg, a'r effaith ar y Gymraeg, gael ei nodi'n llawer mwy trylwyr yn y ddogfen fframwaith.
Rydym yn pryderu am y ffordd y cyfeirir at gymunedau gwledig yn y fframwaith fel cefnwlad i drefi a dinasoedd. Yn y cymunedau gwledig hynny y mae'r Gymraeg yn aml ar ei chryfaf, ac mae gweld cymunedau gwledig fel rhywbeth sy'n bodoli'n unig yng nghyd-destun y dref y maent yn ei hamgylchynu yn gamgymeriad go iawn yn ein barn ni. Hoffem i'r Llywodraeth fabwysiadu agwedd fwy cytbwys tuag at helpu canol trefi a chanolfannau gwledig i ffynnu, yn hytrach nag un sy'n canolbwyntio ar ganolfannau trefol gyda'u cefnwlad, fel pe bai'r ardal wledig, rywsut, yn perthyn i'r ddinas neu'r dref. Hoffem weld y fframwaith yn cael ei ddiweddaru i ystyried yr angen mwy am fynediad cyflym a dibynadwy at fand eang—unwaith eto, mae hwnnw'n hanfodol i alluogi pobl i weithio yn y cymunedau hynny. A mwy o wybodaeth gan y Llywodraeth am eu syniadau ynghylch hybiau lleol.
Ac yn olaf, Lywydd, os caf sôn am faterion prif ffrydio'r iaith, mae angen cydnabod effaith y polisïau hyn ar y Gymraeg ar bob lefel o'r ddogfen, nid ar lefel strategol genedlaethol yn unig. Credwn hefyd fod angen gweld cysylltiadau cryfach â strategaethau eraill. Er enghraifft, ble mae'r cysylltiadau â'r cynlluniau Cymraeg mewn addysg? Sut y bydd y fframwaith yn cyfrannu at strategaeth 'Cymraeg 2050'? Mae angen nodi hyn i gyd, ac yna mae angen ei fonitro. Rydym wedi gofyn i'r Llywodraeth nodi sut y caiff y cyfraniad tuag at ganlyniadau 2050 ei fesur a'i fonitro os caiff y fframwaith ei gyflwyno, ac rydym wedi gofyn i lefel ranbarthol cynllunio gofodol yn y fframwaith fod yn ddigon hyblyg i ganiatáu twf partneriaethau sy'n mynd i'r afael â materion penodol. Er enghraifft, dylai'r siroedd lle mae'r Gymraeg yn iaith gymunedol allu cydweithio y tu hwnt i'r fframwaith fel y mae.
Edrychwn ymlaen fel pwyllgor at ymateb ffurfiol y Gweinidog. Mae amser o hyd i fynd i'r afael â'n pryderon. Os na chânt sylw, bydd hwn yn gyfle a gollwyd i'r Llywodraeth roi cig go iawn ar esgyrn eu hymrwymiad i 'Cymraeg 2050', a bydd angen i Lywodraeth newydd ddiwygio'r fframwaith yn sylweddol os nad eir i'r afael â hyn.
Fel Aelod o'r pwyllgor a fu'n craffu ar y Bil hwn, rwyf yma i wneud rhai sylwadau. Nid oes amheuaeth fod arnom angen cynllun datblygu cenedlaethol, ac o dan hynny, nid oes amheuaeth fod arnom angen cynllun datblygu strategol, mae'n debyg. Ond rwy'n mynd i godi fy llais i gefnogi cymunedau a allai deimlo eu bod wedi'u heithrio i ryw raddau o'r broses honno.
Sylwaf fod gan y Bil llywodraeth leol ac etholiadau fecanwaith ar gyfer datblygu a sefydlu cynllun datblygu strategol, ac y byddai'n cael ei ddarparu gan gydbwyllgorau corfforaethol wedi'u cyfansoddi o gynrychiolwyr o fwy nag un awdurdod lleol. Er fy mod yn cefnogi hynny, rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn rhoi system a phroses ar waith i sicrhau bod y cynrychiolwyr hynny yn adlewyrchu barn ac egwyddorion y cymunedau lleol y maent yn eu gwasanaethu. A chredaf ei bod yn eithriadol o bwysig nad yw rhwystredigaethau'r Ddeddf gynllunio bresennol yn cael eu hailadrodd. Dro ar ôl tro gwelsom ddatblygiad yn methu mynd rhagddo am nad oedd cynllun datblygu lleol yn bodoli, ac mae'n amlwg nad yw hwnnw'n lle da i fod wrth geisio cael unrhyw fuddsoddiad i'r ardal honno.
Rwyf am groesawu'r ffaith bod yr awdurdodau lleol cyfagos yn cael eu hystyried pan gaiff cynlluniau strategol eu llunio. Pan roddodd y Gweinidog dystiolaeth, nododd Ystradgynlais fel enghraifft yng nghanolbarth a gorllewin Cymru o ardal lle mae cysylltedd ag ardal bae dinas Abertawe cystal â'i chysylltedd yn ôl i'r ardal honno. Yn enwedig pan soniwn am Bowys a Cheredigion yn ymuno â'i gilydd mewn ardal datblygu economaidd, sydd, unwaith eto, yn rhywbeth rwy'n ei gefnogi, mae'n ymwneud â'r ardaloedd ymylol hynny sy'n ymuno ag ardaloedd eraill. Mae Powys yn enghraifft arbennig lle bydd, ar hyd ei hymylon hir iawn, yn ffinio â llawer o ardaloedd eraill, gan gynnwys rhannau o Loegr. Felly, mae'n bwysig iawn fod hynny'n cael ei nodi.
Mae'r her fwyaf, wrth gwrs, wedi'i hamlinellu gydag adeiladu gwyrdd a glas yn ôl yn rhan o'r economi. Pan edrychwn ar yr ynni amgen sy'n rhan fawr o hyn, os edrychwn yn benodol ar y datblygiadau ynni ar y môr, bydd yn rhaid cael mynediad yn ôl i'r tir ym mhob achos. Gwn fod y Gweinidog wedi dweud yn gwbl glir fod yn rhaid darllen hyn ochr yn ochr â Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir (2009). Er hynny, mae'n rhaid i'r ddau weithio gyda'i gilydd. Fel arall, ni allwn gael yr ynni rydym i gyd yn gobeithio ei gael—yr ynni gwyrdd newydd—heb y cydgysylltiad hwnnw.
Rhaid i mi ddweud fy mod yn cefnogi'r hyn y mae Jenny Rathbone, ac eraill, rwy'n credu, wedi'i ddweud yma heddiw, fod yn rhaid inni sicrhau integriti safleoedd Natura 2000 yn llwyr. Rhaid inni osgoi dirywiad bioamrywiaeth o ganlyniad i weithredu polisïau yn 'Cymru'r Dyfodol'. Nid yw byth yn mynd i fod yn ddigon da ein bod yn cynnal pethau fel y maent, oherwydd er mwyn cynnal pethau fel y maent, o ran bioamrywiaeth, dim ond ein cadw ar y droed ôl fydd hynny'n ei wneud, pan fo angen inni adfer yr hyn sydd gennym i gyflwr a arferai fodoli mewn gwirionedd, cyn iddo gael ei ddiraddio yn y lle cyntaf. Diolch.
A gaf fi ddiolch, yn gyntaf oll, i'r pwyllgor newid hinsawdd a materion gwledig am eu gwaith ar y fframwaith datblygu cenedlaethol? Mae gennyf rai sylwadau fy hun i'w gwneud, ac rwyf hefyd yn mynd i gyfeirio at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, a fu'n craffu ar agweddau perthnasol ar y fframwaith datblygu cenedlaethol a oedd yn berthnasol i'r pwyllgor hwnnw. Ond dylwn ychwanegu nad wyf yn siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y pwyllgor hwnnw heddiw.
Cafwyd nifer o rowndiau o ymgynghoriadau, ac yn gyffredinol rwy'n croesawu nifer o newidiadau a gwelliannau sylweddol iawn a wnaed hyd at y pwynt hwn. Mae 'fodd bynnag' mawr yn dod yn ddiweddarach yn fy nghyfraniad. O ran Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, at ddibenion y fframwaith datblygu cenedlaethol, teimlem yn gryf mai'r ffordd orau o rannu Cymru yw'n bedwar rhanbarth, nid tri. Felly, roeddwn yn falch iawn fod y Llywodraeth wedi nodi hynny ac wedi cyflwyno model pedwar rhanbarth. Roedd hynny'n wirioneddol gadarnhaol.
Yn ymateb y Llywodraeth i'r broses ymgynghori, sylwaf eu bod wedi gwrthod yn gryf farn y pwyllgor nad oedd uchelgais i'w weld yn y fframwaith datblygu cenedlaethol. Rwy'n credu bod hyn yn ddigalon. Credaf fod angen i ddogfen gynllunio genedlaethol allweddol fel hon osod agenda, ac mae angen iddi egluro'r llwybr y gallwn ei ddilyn i fynd i'r afael â heriau cenedlaethol fel anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd. Rwy'n falch hefyd o weld bod y fframwaith datblygu cenedlaethol a ddiweddarwyd yn cynnwys cyfeiriad at yr economi sylfaenol. Nid oedd drafftiau cynharach yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at yr economi sylfaenol, ac fe wnaeth dogfennau diweddarach hynny, felly newid cadarnhaol arall.
Rwy'n dod nawr at y rhan a grybwyllais—y darn 'fodd bynnag'. Rwyf fi, fel llawer o bobl ledled canolbarth Cymru, yn siomedig tu hwnt ei bod yn ymddangos bod y sylwadau o bob rhan o gefn gwlad canolbarth Cymru wedi'u hanwybyddu, ac mai mewn ymgyrch ymddangosiadol i gynyddu gwynt ar y tir yn unig y cryfhawyd yr adran ynni adnewyddadwy. Rwy'n atgoffa'r Gweinidog am y protestiadau ym mis Mehefin 2011 a gynhaliwyd y tu allan i'r Senedd hon fis ar ôl i mi gael fy ethol. Daeth miloedd o bobl i brotestio, mewn dwsinau o fysiau a deithiodd o ganolbarth Cymru. Mae hyn yn arwydd fod Llywodraeth Cymru, unwaith eto, o'r farn fod y niwed enfawr i'n tirweddau yn dderbyniol, ond nid yw'n dderbyniol. Nid yw'n dderbyniol i mi ac nid yw'n dderbyniol i bobl canolbarth Cymru, ac mae'n amlwg fod Llywodraeth Cymru yn rhoi llawer mwy o goel ar lobïo gan ddatblygwyr ffermydd gwynt ar y tir na phoblogaeth cefn gwlad canolbarth Cymru, y bobl y maent i fod i'w cynrychioli.
Gwrandewais yn astud iawn ar sylwadau Jenny Rathbone pan soniodd am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cael gwared ar ffordd liniaru'r M4 oherwydd ffactorau amgylcheddol. Onid yw'n ddiddorol fod hynny'n bwysig i'r Prif Weinidog mewn perthynas â'r prosiect penodol hwnnw, ond mae canolbarth Cymru'n stori wahanol? Yn y fframwaith datblygu cenedlaethol, ni chaiff unrhyw dystiolaeth nac amcan na rhesymeg ei hamlinellu ynglŷn â'r ardal ddynodedig, ac nid yw tirwedd yn nwydd y gellir ei wario, a phan gaiff ei difetha, caiff ei golli ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis rhoi llawer gormod o bwyslais ar wynt ar y tir.
Gwn fod Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig wedi cyflwyno sylwadau cryf yn hyn o beth. Rwy'n mynd i dynnu sylw at rai ohonynt yn yr amser sydd gennyf ar ôl, ond mae twristiaeth yn hanfodol i'r economi wledig. Ym Mhowys, dyma'r cynhyrchydd cynnyrch domestig gros uchaf ond un, ar tua 11 y cant. Ni ellir anwybyddu pwynt gwerthu unigryw'r Gymru wledig fel tirwedd wych, ac nid mater o barciau cenedlaethol neu ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yn unig yw hyn, ond yr amrywiaeth wych o dawelwch a golygfeydd panoramig helaeth heb eu difetha. Mae'r Gymru wledig yn denu twristiaeth drwy'r flwyddyn.
Ac wrth gwrs, ceir barn negyddol am dyrbinau a llinellau trosglwyddo, sydd wedi'i dogfennu'n dda iawn. Yna ceir perygl llifogydd, sydd hefyd wedi'i nodi'n fanylach gan Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, a maint yr hyn a gynigir, sut y byddai hynny'n newid llif dŵr ac yn arwain at ddifrod ehangach. Yna ceir cludiant tyrbinau, hefyd i ardaloedd gwledig anghysbell, ac mae hynny'n creu problemau logistaidd enfawr gyda ffyrdd cul a ffyrdd troellog serth a phontydd isel. Wedyn, wrth gwrs, ceir mater lleoliadau anghysbell sy'n galw am seilwaith trosglwyddo helaeth ar draws ardaloedd sylweddol o gefn gwlad hardd. Anwybyddir goblygiadau hyn i'r dirwedd yn y fframwaith datblygu cenedlaethol.
Felly, rwy'n eich annog, Weinidog, i ystyried yn ofalus iawn eto yr hyn rwyf wedi'i amlinellu heddiw a safbwyntiau Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig. Mae angen inni gael mwy o bwyslais ar amrywiaeth lawer ehangach o ynni adnewyddadwy, gan gynnwys gwynt ar y môr yn hynny. Ddeng mlynedd yn ôl, galwodd pobl fy etholaeth am ddileu 'Nodyn Cyngor Technegol (Cymru) 8: Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy', a dywedodd Llywodraeth Cymru 'na'. Nawr maent yn cael gwared ar TAN 8, ond maent i bob pwrpas yn mabwysiadu rhywbeth sy'n waeth mewn perthynas â'r adran benodol hon o'r fframwaith datblygu cenedlaethol.
Fel Russell George, rwy'n pryderu'n fawr am effaith bosibl—effaith debygol yn wir—y fframwaith datblygu cenedlaethol ar dirweddau canolbarth a gorllewin Cymru. Rwy'n aelod brwdfrydig o Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, a gwelaf yn y ddogfen hon nod sylfaenol Llywodraeth Cymru, sef dinistrio tirweddau canolbarth a gorllewin Cymru er mwyn cynnal ymarfer ymffrostio mewn rhinweddau mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy.
Mae darnau enfawr o Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Phowys wedi'u dynodi ar gyfer solar a gwynt, ac ardaloedd mawr o Sir Benfro ar gyfer ffermydd solar. Rydym newydd dreulio peth amser y prynhawn yma yn trafod effeithiau llygredd plastig. Wel, gyda phlastig gallwch o leiaf ei godi a chael ei wared, ond pan fydd bryniau Cymru wedi'u gorchuddio â ffermydd gwynt a pharciau paneli solar, byddant yno am genhedlaeth neu fwy, ac fel y mae Russell George newydd ddweud, mae canolbarth a gorllewin Cymru yn dibynnu ar ei thirwedd i greu llawer iawn o'r gweithgarwch economaidd yn y rhanbarth. Mae twristiaeth yn hanfodol i economi Cymru yn yr ardaloedd hyn. Rwy'n credu ei bod yn erchyll y bydd Llywodraeth Cymru, sy'n bennaf drefol o ran ei chynrychiolaeth a'i buddiannau, yn diystyru buddiannau a barn pobl canolbarth a gorllewin Cymru.
Yr hyn rydym yn ei weld yma yw canoli cynlluniau a phenderfyniadau cynllunio yn strategol. Bydd y fframwaith datblygu cenedlaethol a 'Polisi Cynllunio Cymru Argraffiad 10' yn diystyru unrhyw gynllun datblygu strategol y gellid ei ddatblygu a'r cynlluniau datblygu lleol sy'n bodoli ar hyn o bryd. Rydym eisoes wedi gweld hyn mewn nifer o achosion dadleuol. Mae Llywodraeth Cymru wedi diystyru'r farn leol mewn perthynas â fferm wynt yr Hendy ger Llandrindod, er enghraifft, lle gwrthododd yr awdurdod lleol y cynnig, gwrthododd yr arolygydd cynllunio a benodwyd gan y Gweinidog y cynnig ac mae'r Gweinidog newydd ei gymeradwyo serch hynny.
Bydd y datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol sydd wrth wraidd hyn oll a nodir yn y fframwaith datblygu cenedlaethol yn golygu na fydd y bobl leol a'u cynrychiolwyr yn yr ardaloedd hyn yn cael gwneud unrhyw benderfyniadau ar lefel leol, a byddant yn cael eu gwneud yng Nghaerdydd yn y pen draw. Wyddoch chi, pan gyflwynwyd datganoli, roedd i fod i ddod â'r Llywodraeth yn nes at y bobl, ond nid wyf yn credu bod pobl canolbarth a gorllewin Cymru, a llai fyth o bobl gogledd Cymru, yn teimlo'n agosach at Gaerdydd nag at San Steffan. Ac felly, credaf y bydd canlyniad y fframwaith datblygu cenedlaethol hwn yn tanseilio ymhellach y gefnogaeth i ddatganoli, sydd wedi bod yn gwanhau beth bynnag yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol yw datblygiadau ffermydd gwynt o dros 10 MW, er enghraifft. O'i gymharu â Lloegr, mae hynny'n eithriadol o fach, oherwydd y ffigur trothwy yn Lloegr yw 50 MW. Beth y mae hyn yn ei olygu? Mae'n golygu bod rhagdybiaeth o blaid datblygu ar gyfer y mathau hyn o gynlluniau, a derbyn newid i'r dirwedd yn gysylltiedig â hynny. Wel, dyna ymadrodd da, onid e—'newid i'r dirwedd'. Wel, mae'n newid, onid yw, o gefn gwlad gogoneddus i ddatblygiadau tyrbinau gwynt enfawr a allai fod hyd at 250m o uchder. Ni allwch osgoi gweld y pethau hyn ac mae'n dinistrio unrhyw fwynhad o gefn gwlad yn llwyr ac rwy'n credu y bydd yn gyllell wedi'i hanelu at galon y diwydiant twristiaeth yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.
Mae'n drech na phwysigrwydd tirwedd, amwynder, treftadaeth, cadwraeth natur ac yn wir, y diwydiant twristiaeth ei hun. Ac fel y mae cangen Brycheiniog a Maesyfed o Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, cangen rwy'n aelod ohoni, wedi nodi, mae deddfwriaeth flaenllaw ddiweddar wedi ymrwymo cyrff cyhoeddus Cymru i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, datblygu cynaliadwy a gwella ecosystemau gwydn, a hefyd i weithio tuag at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, saith ohonynt. Wel, nid yw hyrwyddo datblygiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa ddiwydiannol, gan gynnwys tyrbinau gwynt o hyd at 250m o uchder ar draws llawer o'r Gymru wledig, ynghyd â pholisi caniataol a fydd yn lleihau'r pwysau a roddir ar bryderon lleol, yn gydnaws ag amcanion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 na Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol ei hun, na'r cynllun adfer natur yn wir.
Felly, rwy'n credu bod gennym hadau trychineb gwirioneddol enfawr yma. Ac rydym wedi gweld cam-drin difrifol ar y system yn barod. Mae yna fferm wynt arall ger Llangurig o'r enw Bryn Blaen, y bydd yr Aelodau'n gyfarwydd iawn â hi rwy'n siŵr. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei chyfer yn 2016 ac nid yw wedi cynhyrchu un watt o drydan, ond mae cyfrifon U and I Group PLC, y cwmni sy'n berchen arni yn y pen draw, ar gyfer 2019 yn dangos eu bod wedi cynhyrchu gwerth £4.7 miliwn o arian—arian trethdalwyr yw hwnnw yn y bôn, arian sydd wedi mynd i'w pocedi, allan o Gymru ac i Loegr, heb greu unrhyw fudd o safbwynt achub y blaned ychwaith. Camdriniaeth bur o'r farchnad ydyw. A dyna sy'n fy mhoeni am y cyfan—
Bydd angen i chi ddod â'ch sylwadau i ben nawr, Neil Hamilton.
Iawn, Lywydd. Diolch yn fawr iawn.
A dyna sy'n fy mhoeni am y polisi hwn; nid oes cymesuredd ynddo o gwbl. Gallwch gredu eich bod yn achub y blaned drwy ynni adnewyddadwy, ond nid ydych yn mynd i wneud hynny mewn ffordd dderbyniol yn fy marn i, ar draul llawer o amcanion dymunol eraill—yn bennaf oll, cadw a diogelu tirweddau Cymru wyllt.
Mae tair rhan i'r cynnig hwn. Mae'r gyntaf yn nodi'r fframwaith datblygu cenedlaethol a osodwyd ar 21 Medi 2020. Mae'r ail yn nodi bod adran 3 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn rhoi cyfnod o 60 diwrnod i'r Senedd ei ystyried. Felly, mae heddiw'n 25 Tachwedd, mae'n debyg ein bod y tu allan i'r cyfnod statudol hwnnw, neu fod hynny'n dweud nad ydym yn nodi, neu, os nad ydym wedi deall y sefyllfa'n iawn, rwy'n gobeithio y bydd Mike yn rhoi gwybod i ni'n ddiweddarach beth yw'r sefyllfa ar hyn. A'r trydydd pwynt am Weinidogion Cymru yn gorfod ystyried unrhyw benderfyniad a basiwyd—gan mai dim ond cynnig 'i nodi' yw hwn, hyderaf y bydd y Gweinidog yn gwrando ar y ddadl ac yn rhoi ystyriaeth briodol i'r hyn a ddywedir.
Wrth edrych drwy'r fframwaith hwn, rwy'n mwynhau ansawdd y ddogfen a rhai o'r mapiau; mae'n eithaf diddorol i'w ddarllen. Ond fe wnaeth ambell beth fy nharo. Un peth yr hoffwn ei ddyfynnu. Mae'n dweud:
'Dylid gwneud penderfyniadau clir ynghylch maint a lleoliad twf drwy lunio Cynllun Datblygu Strategol'.
Mae'n ddatganiad gwladoliaethol iawn. Mae'n tybio mai'r hyn a wnawn, drwy'r cynllun hwn, yw sbarduno twf a phenderfynu ble y mae, ond mewn gwirionedd, mae llawer, os nad y rhan fwyaf, o hynny'n mynd i adlewyrchu penderfyniadau a wneir yn y sector preifat. A chredaf y byddai mwy o ostyngeiddrwydd wrth ysgrifennu hyn a dealltwriaeth o ba mor bwysig yw gweithredwyr preifat a'u hymdrechion i wneud elw, o'u cymharu â'r hyn yr hoffem ei roi mewn dogfen fel hon—yn ddelfrydol, dylai'r ddau weithio gyda'i gilydd.
Yn yr adran ar dde-ddwyrain Cymru, gan gynnwys rhanbarth canol y de at y diben hwn, mae gennym ddatganiadau fel:
'Caerdydd fydd y prif anheddiad yn y rhanbarth o hyd, gyda’i thwf strategol yn y dyfodol yn cael ei lywio gan ei marchnadoedd tai a chyflogaeth cryf a bydd yn parhau â’i rôl fel prifddinas'.
Nid wyf yn siŵr i ble mae hynny'n mynd â ni. Mae'r adran nesaf, serch hynny, yn dweud:
'Bydd angen i Gynlluniau Datblygu Strategol a Lleol ystyried y rhyngddibyniaeth rhwng Caerdydd a’r rhanbarth ehangach.'
Ac mae hynny'n sicr yn iawn. A'r hyn a'm trawodd yn bennaf oedd y cynllun datblygu lleol, i ddechrau o leiaf, gyda Chaerffili a'r holl dai a godwyd tuag at y ffin â Chaerdydd, a dim ond trafnidiaeth ffyrdd ar gael i fynd â'r bobl hynny i swyddi yng Nghaerdydd, ac nid oedd hynny'n gydgysylltiedig. Yna cawn ddatganiad:
'Mae Caerdydd yn dibynnu ar bobl o bob rhan o’r rhanbarth ac mae sicrhau bod cymunedau o amgylch y Brifddinas yn fywiog, yn ffyniannus ac yn gysylltiedig yn helpu i gefnogi Caerdydd.'
Wel ie, efallai, ac mae'n amlwg y bydd hynny'n cefnogi Caerdydd i'r graddau y mae'r ardaloedd hynny'n gysylltiedig â Chaerdydd a'n bod yn atgyfnerthu hynny ymhellach. Ond os yw'r cysylltiadau hynny mewn mannau eraill yn y rhanbarthau, efallai na fyddant yn gwneud hynny, ac os ydynt y tu allan i'r rhanbarth, ac nid i Gaerdydd, mae'n ddigon posibl na fyddant yn cefnogi Caerdydd, neu hyd yn oed yn mynd â thwf oddi wrthi. Felly, un enghraifft o hynny fyddai rheilffordd Glynebwy, ac a ddylai gwasanaethau arni ddod i Gaerdydd yn unig neu a ddylem hefyd gael o leiaf un yr awr i Gasnewydd. Ac os aiff hwnnw ymlaen wedyn i Gaerdydd, yn amlwg—os gwnewch un penderfyniad, mae'n cefnogi twf Caerdydd yn fwy nag un arall, lle gallech helpu i gael mwy o dwf yng Nghasnewydd a allai fod wedi bod yng Nghaerdydd fel arall.
Yn yr un modd, mae'r cysylltiadau yn y rhanbarth y tu allan i'r rhanbarth hefyd yn bwysig, ac os cymerwn Gasnewydd fel enghraifft, gallai gwella'r cysylltiadau â Bryste fod o fudd mawr iawn i Gasnewydd. Ond mae'n annhebygol o gefnogi Caerdydd i'r un graddau os yw'n arwain at fwy o ffocws ar economi Casnewydd tuag at Fryste yn hytrach na Chaerdydd, er y byddai'n well gennym iddynt ategu ei gilydd wrth gwrs. Awn ymlaen i ddweud y dylai buddsoddiadau fod wedi'u
'lleoli yn y lleoedd mwyaf hygyrch a chynaliadwy yng nghyd-destun y rhanbarth cyfan', ond beth am y rhanbarthau eraill, beth am ardaloedd dros y ffin yn Lloegr? Clywais Siân Gwenllian yn cwyno yn gynharach am y ffordd roedd hyn yn canolbwyntio llawer gormod ar gysylltiadau rhwng y dwyrain a'r gorllewin a chrynoadau trawsffiniol, ac mewn gwirionedd, nid wyf yn gweld cymaint o hynny. Ac yn sicr, yn y rhan ar dde-ddwyrain Cymru, nid yw'n ymddangos ei fod yn cael ei grybwyll. Er enghraifft, dywedwn,
'Ar hyn o bryd mae Caerdydd yn mynd drwy gyfnod o dwf sylweddol o ran ei phoblogaeth a chyflogaeth, ond ni all y ddinas barhau i ehangu’n ddiderfyn heb effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd. Mae’n ddinas gryno sy’n agosáu at ei therfynau ffisegol', ac yn y cyd-destun hwnnw awn ymlaen wedyn i ddweud am Gasnewydd—neu mae'r Llywodraeth yn dweud—yn y ddogfen hon:
'Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o weld datblygu a thwf yng Nghasnewydd, a fydd yn galluogi’r ddinas i gyflawni ei photensial fel yr ail ganolbwynt i’r rhanbarth.'
Felly, wrth gwrs, un rheswm y gallai Casnewydd dyfu yw oherwydd cyfyngiadau ar dwf yng Nghaerdydd, ond mae'n siŵr fod angen inni hefyd ystyried beth yw'r cyfyngiadau ar dwf ym Mryste. Ac fe welwch lain las lawer tynnach o amgylch Bryste, fe welwch lefelau llawer uwch o brisiau tai a chyfyngiadau sylweddol iawn ar ddatblygu. Felly, o leiaf ar gyfer Casnewydd ac ardaloedd eraill ger y ffin â Lloegr, mae angen inni ganolbwyntio ar sut rydym yn denu busnes oddi yno er mwyn cynyddu cyfoeth a ffyniant yn rhanbarth y de-ddwyrain, ac nid wyf yn credu ein bod yn gwneud digon o hynny ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rwy'n canmol Llywodraeth Cymru yn yr ardaloedd lle—felly, Cymorth i Brynu, mae tua chwarter y gwariant, o leiaf hynny rwy'n credu, wedi bod ar eiddo o amgylch Casnewydd, gyda llawer ohono'n cartrefu pobl sydd wedyn yn cymudo i Fryste, er eu bod yn cefnogi sylfaen treth incwm Cymru. Yn yr un modd, credaf fod Ken Skates wedi gweithio'n galed iawn ar lobïo i wella gwasanaethau o Gaerdydd drwy Gasnewydd i Fryste, ac unwaith eto, byddai hynny o fudd i'r rhanbarth cyfan.
Felly, er fy mod yn credu bod pethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud sy'n gweithio'n drawsffiniol i gefnogi'r twf hwnnw, nid yw'n ymddangos bod y ddogfen hon ei hun yn gwneud hynny i'r un graddau, ac mae'n ymddangos ei bod yn canolbwyntio'n rhanbarthol iawn o fewn yr is-rannau, yn hytrach na chwilio am y cyfleoedd i weithio'n drawsffiniol ac ysgogi ffyniant i Gymru. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol nawr—Julie James.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr a'r cyfraniadau a wnaethpwyd gan yr Aelodau heddiw. Nid dyma'r tro cyntaf inni drafod 'Cymru'r Dyfodol' na'r fframwaith datblygu cenedlaethol, felly bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod o'r farn fod y cynllun hwn yn hanfodol i sicrhau bod ein system gynllunio'n canolbwyntio ar y materion mawr sy'n ein hwynebu. Mae'r ddadl hon unwaith eto'n profi bod gan bob un ohonom syniadau ynglŷn â sut y dylai'r system gynllunio weithredu, beth ddylai ei blaenoriaethau fod ac a fydd 'Cymru'r Dyfodol' yn cyflawni ein huchelgeisiau.
Mae Aelodau wedi tynnu sylw at amrywiaeth o faterion yr eir i'r afael â hwy yn 'Cymru'r Dyfodol', gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd, tai cymdeithasol a fforddiadwy, trafnidiaeth, yr economi, seilwaith gwyrdd, yr iaith Gymraeg, seilwaith digidol a'n cyflenwad ynni. Byddaf yn treulio'r ychydig fisoedd nesaf wrth gwrs yn myfyrio'n fanwl ar argymhellion y Senedd, ac oherwydd cyfyngiadau amser, ni allaf ymdrin â hwy i gyd yma, ond rwyf am roi sylw i ychydig o'r pwyntiau a godwyd hyd yma.
Mynegodd Mike Hedges a nifer o rai eraill bryderon am allu'r cynllun i ymateb i COVID, ac er ei bod yn bwysig peidio â bod yn hunanfodlon wrth gwrs, mae hwn yn gynllun sydd wedi ymrwymo i wella iechyd a lles drwy'r system gynllunio gyfan. Bydd y polisïau ar seilwaith gwyrdd, teithio llesol a chanol y dref yn gyntaf yn hanfodol i helpu'r adferiad. Mewn perthynas â nifer o'r cyfraniadau, mae hefyd yn bwysig cofio nad 'Cymru'r Dyfodol' yw holl bolisi'r Llywodraeth. Nid yw'n disodli ein strategaethau mawr eraill, ond yn hytrach mae'n gweithio gyda hwy.
Hefyd, Lywydd, mae'r Bil a basiwyd gennym yr wythnos diwethaf yn sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig fel cyrff corfforaethol, felly gallaf sicrhau'r Aelodau eu bod yn dod o dan holl bolisïau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Gymraeg.
Mae'n wych gweld y pwyllgor a Jenny Rathbone yn cydnabod gwerth cyflwyno'r llain las, yn y de-ddwyrain a'r gogledd-ddwyrain. Bydd y lleiniau glas, wrth gwrs, yn helpu i gyflawni amcanion creu lleoedd mewn lleoedd fel Casnewydd, Cas-gwent a Chwmbrân, yn Wrecsam a Glannau Dyfrdwy, a byddant yn sicrhau ein bod yn osgoi datblygu blerdwf anghyfrifol ar dir amaethyddol cynhyrchiol. Ac wrth gwrs, mae darparu tai fforddiadwy a thai cymdeithasol yn greiddiol i 'Cymru'r Dyfodol'. Yn wir, comisiynwyd data anghenion newydd gennym yn benodol ar gyfer cefnogi'r elfen honno.
Lywydd, byddaf yn gwrthwynebu gwelliannau Plaid Cymru heddiw. Ymddengys nad ydynt wedi sylwi bod newidiadau wedi'u gwneud ar ôl ymgynghori ar y cynllun drafft, nac yn cydnabod rôl pwyllgorau trawsbleidiol a'u Haelodau eu hunain wrth iddynt ddadlau dros y newidiadau hynny. Cytunais o'r cychwyn cyntaf y dylai unrhyw ôl troed cynllunio rhanbarthol adlewyrchu ôl troed sy'n bodoli eisoes, yn hytrach na chreu un newydd. Fy marn yn wreiddiol oedd defnyddio ôl troed tri rhanbarth y cynllun gweithredu economaidd, ond cytunais i newid i'r ôl troed pedwar rhanbarth a ffafriai pwyllgorau'r Senedd ac awdurdodau lleol. Os caf, Lywydd, hoffwn dynnu sylw at ddau ymateb i'r ymgynghoriad ar y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft. Dywedodd cyngor Ceredigion o dan arweiniad Plaid Cymru, ac rwy'n dyfynnu, 'Rhaid i'r fframwaith datblygu cenedlaethol gydnabod canolbarth Cymru fel rhanbarth ar wahân, gan ddefnyddio datblygiad pedwar bargen twf ar draws Cymru'. Yn y cyfamser, dywedodd Partneriaeth Twf Canolbarth Cymru, sydd, wrth gwrs, yn ymdrech ar y cyd rhwng cyngor Ceredigion a chyngor Powys, 'Y ffordd orau o fynd i'r afael â materion cynllunio strategol ledled canolbarth Cymru yw drwy gydweithio rhwng awdurdodau cynllunio lleol Ceredigion a Phowys.' Felly, Lywydd, rydym wedi gwrando'n astud ar yr hyn y mae'r rhanbarthau wedi'i ddweud wrthym. Ofnaf y byddai gwelliannau Plaid Cymru yn gwrth-ddweud barn y rhanbarthau, a byddwn yn eu gwrthwynebu am y rheswm hwnnw.
Lywydd, mae'n debygol mai hon fydd y ddadl olaf ar y cynllun cyn ei gyhoeddi, felly mae'n ymddangos yn gyfle da i fyfyrio ychydig ar fy mhrofiad o ddatblygu 'Cymru'r Dyfodol' a dod ag ef i'r cam hwn. Teimlaf fod y broses wedi bod yn gyfuniad o weithio o fewn strwythurau presennol ac o allu cyflwyno syniadau newydd ac uchelgais newydd. Nid yw'r cynllun yn gosod polisi trosfwaol y Llywodraeth, ond yn hytrach mae'n nodi sut y gall y system gynllunio helpu i'w gyflawni. Er enghraifft, mae arnom eisiau poblogaeth ac amgylchedd iach, felly bydd y cynllun yn darparu mwy o fannau gwyrdd a lleoedd sy'n ein denu allan o'n ceir. Mae angen inni ddatgarboneiddio, ac felly mae'r cynllun yn canolbwyntio'r datblygiadau mwyaf ar yr ardaloedd lle ceir, neu lle gellir gwneud trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn fwyaf gwydn. Rydym eisiau economi deg a ffyniannus, felly mae gennym ardaloedd twf mawr ac rydym yn ceisio lledaenu datblygiad swyddi ar eu traws, yn hytrach na chanolbwyntio ar ganol y dinasoedd mwyaf.
Mae ysgrifennu cynllun cenedlaethol yn weithred o gydbwyso rhwng gweithredu ar bob pwnc posibl a chofio mai cynllunio lleol yn aml yw'r lle gorau i fynd i'r afael â'r heriau. Mae hefyd yn gydbwysedd rhwng ailadrodd dogfen arall a pheidio ag anwybyddu pwnc. Rwyf hefyd wedi canfod bod pobl yn croesawu'r amserlen 20 mlynedd ar gyfer y cynllun, ond yn disgwyl atebion ar unwaith cyn gynted ag y cyhoeddir y cynllun. Mae llawer o bobl am gael cynllun sy'n hyblyg, ond yn anghyfforddus pan fydd canlyniadau'n ansicr. Mae ein polisïau ynni yn enghraifft wych o hyn. Rydym wedi datblygu polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn helpu i gyflawni targedau cenedlaethol ar gyfer trydan o ffynonellau glân sy'n diogelu ein tirweddau dynodedig. Rydym wedi gwneud hyn tra'n gweithio gyda chymunedau a'r sector datblygu. Rydym wedi ystyried ein daearyddiaeth, wedi meddwl am yr hyn y bydd ei angen ymhen 20 mlynedd, a sut y gallai cymdeithas fod yn wahanol erbyn hynny. Edrychwyd ar ble mae'r seilwaith presennol, a lle ceir gweithlu medrus yn barod i fanteisio ar gyfleoedd newydd. Buom yn edrych ar ble y mae'n wyntog neu'n heulog ac yn meddwl am yr hyn y byddai cerbydau trydan yn ei olygu i'r galw. Roeddem yn cydnabod bod y system gynllunio a'i dyletswydd i weithredu er budd y cyhoedd yn codi materion nas rhagwelwyd, felly rydym wedi sicrhau bod mwy o opsiynau ar gael i ddatblygwyr nag y bydd eu hangen. Ac eto, dywedir wrthyf y dylai'r cynllun hwn fod yn fwy penodol o ran ble y bydd tyrbinau gwynt newydd yn mynd, canolbwyntio mwy ar wynt ar y môr, ar gynhyrchiant lleol a microgynhyrchu, ac y bydd prosiectau'n cymryd gormod o amser i ddwyn ffrwyth.
Lywydd, potensial mawr y cynllun hwn yw'r ffaith bod y system gynllunio'n edrych ar ein holl faterion mawr—iechyd, yr economi, yr iaith Gymraeg, yr amgylchedd, yr argyfwng hinsawdd—ac yn credu y gall wneud rhywbeth i wella'r sefyllfa mewn ffordd gyfannol. Boed eich bod yn cytuno â chynnwys 'Cymru'r Dyfodol' neu beidio, mae pob penderfyniad a wnaed gennym wedi'i brofi drwy ymgynghori ffurfiol mewn digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid a defnydd o asesiadau effaith. Mae gennym hefyd fframwaith monitro a fydd yn ein helpu i ystyried a mireinio'r cynllun dros amser. Mae cynnwys y cyhoedd mewn gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi ein helpu i gyflawni cynllun yr ydym yn hyderus y bydd yn cael dylanwad mawr a chadarnhaol ar ein system gynllunio.
Rwy'n croesawu'r craffu a wnaethpwyd ar y cynllun hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at ystyried argymhellion y Senedd. Ym mis Chwefror byddaf yn cyhoeddi adroddiad yn nodi sut yr ymatebais i'r holl argymhellion, yn ogystal â fersiwn derfynol 'Cymru'r Dyfodol'. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Mike Hedges, Cadeirydd y pwyllgor, i ymateb i'r ddadl. Mike Hedges.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl? A hoffwn ddiolch eto i'r Gweinidog.
Nid wyf yn credu bod neb yn cytuno â 100 y cant ohono, ond mae llawer ohonom yn hoffi darnau ohono, a chredaf mai dyna'r hyn y byddwch yn ei gael yn y pen draw gyda dogfen o'r maint hwn. Mae'n bwysig i bawb yng Nghymru.
I ymateb i Mark Reckless, mae gennym un diwrnod ar ôl, oherwydd, nid yw'r cyfnod yn ystod toriad yn cyfrif yn erbyn y 60 diwrnod.
Mae'r weledigaeth o bedwar rhanbarth yng Nghymru yn cael ei llywio gan yr awdurdodau lleol yng Nghymru, nid gan San Steffan. Fel y dywedodd Julie James, mae hyn yn cynnwys Ceredigion a reolir gan Blaid Cymru. Maent yn gweld cymuned fuddiant o ran eu datblygiad lleol. Nod y bargeinion dinesig a'r bargeinion rhanbarthol yw gwella'r economi leol ac mae'n rhaid i'r cynllun datblygu strategol eu cefnogi. Rydym am i hyn weithio. Rydym yn sôn am swyddi ein plant a'n hwyrion.
Mae Cymru wedi'r rhyfel wedi gweld twf ar arfordir gogledd a de Cymru. Mae hynny wedi'i ysgogi gan y sector preifat. Y tebygolrwydd yw mai'r sector preifat fydd yn ysgogi unrhyw dwf yn y dyfodol. Rwy'n siomedig nad yw pobl y byddwn yn eu disgrifio fel unoliaethwyr Cymreig yn derbyn rhanbarthau Cymru—rwy'n siomedig iawn am hynny, oherwydd rwy'n credu'n gryf ym mhwysigrwydd rhanbarth de-orllewin Cymru, nad yw'n annhebyg i un o'r teyrnasoedd hynafol. Mae lleiniau glas yn eithriadol o bwysig, ond roeddwn yn mynd i ddweud bod lletemau gwyrdd, sy'n atal cymunedau rhag uno, yn bwysicach mewn llawer o ardaloedd lle nad ydych am i'r gwahanol bentrefi uno, neu mewn ardaloedd trefol, lle nad ydych am i'r gwahanol gymunedau uno gyda'i gilydd.
Roedd y dynodiad safle o ddiddordeb gwyddonol yn diogelu rhag datblygu; rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y ceir cytundeb cyffredinol yn ei gylch. Mae arnom angen i bob cynllun gwmpasu'r un ardaloedd. Mae gennym hanes yng Nghymru o bob Gweinidog yn datblygu eu hôl troed eu hunain, ac nid yw hynny o reidrwydd wedi gweithio er budd neb. Arferwn ddisgrifio Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot fel mannau Ianwsaidd, oherwydd weithiau byddem yn edrych tua'r dwyrain ac weithiau byddem yn edrych tua'r gorllewin.
Credaf fod Helen Mary Jones wedi gwneud rhai pwyntiau da iawn am y Gymraeg, a dylai'r holl gynlluniau hyn gyd-fynd â'i gilydd. Ni ddylem gael y cynllun hwn mewn un man a chynllun arall mewn man arall, a 'Wel, nid oes a wnelont ddim â'i gilydd am eu bod yn dod o wahanol seilos o fewn Llywodraeth Cymru.' Dylent i gyd gyd-fynd â'i gilydd.
Mae angen i'r cynllun datblygu cenedlaethol a'r cynlluniau datblygu strategol gyd-fynd â'i gilydd hefyd, ond mae rhywbeth arall sy'n bwysig iawn i mi—ein bod yn sylweddoli mewn gwirionedd fod y môr a'r tir yn cyffwrdd â'i gilydd. Rwy'n gwybod ein bod wedi siarad cryn dipyn am hynny yn ein pwyllgor, ond mae'n bwysig iawn fod y cynllun morol yn cyd-fynd â'r cynllun datblygu cenedlaethol yn hytrach na chael ei ystyried yn rhywbeth cwbl ar wahân.
Mae ynni bob amser yn ddadleuol: gwynt ar y tir neu wynt ar y môr, pŵer niwclear neu nwy—mae gan bob un gefnogwyr a gwrthwynebwyr, o fewn yr un blaid yn aml. Mae angen inni gael dadl ar ynni, a chredaf weithiau y gallai pleidiau wneud gyda'u dadleuon ynni eu hunain, ond credaf fod angen inni weld i ble rydym yn mynd gydag ynni. Yn gyffredinol, rwy'n credu bod hon yn ddogfen dda ac mae'r pedwar rhanbarth yn gweithio, ac rwy'n credu y bydd yn gweithio er budd economaidd Cymru. Efallai na fyddant yn cyd-fynd â syniad pawb o sut yr hoffent i bethau fod, ond maent yn cyd-fynd â fy marn i ar sut y bydd pethau. Diolch.
Diolch. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i hynny. Felly, dwi'n gohirio'r pleidleisio ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Cyn inni dorri am seibiant, a gaf fi hysbysu'r Aelodau fy mod wedi cael deall fod Aelodau wedi ceisio gwrthwynebu yn y ddadl flaenorol ar eitem 6, y cynnig deddfwriaethol? O ystyried bod llawer o'r Aelodau'n ceisio gwrthwynebu, ond fy mod wedi methu eu gweld i gyd ar Zoom, byddaf yn caniatáu pleidlais yn awr ar eitem 6 yn ystod y cyfnod pleidleisio. Ond am y tro, fe gawn seibiant byr.