17. Dadl: Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd

– Senedd Cymru ar 15 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 3 a 4 yn enwau Gareth Bennett a Mark Reckless, gwelliant 6 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 7 a 9 yn enw Siân Gwenllian. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd gwelliannau 1, 2, 5 ac 8 a gyflwynwyd i’r cynnig.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:13, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Rydym yn ailymgynnull ar eitem 17, sy'n ddadl ar y cyfyngiadau coronafeirws newydd, a galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig y cynnig. Mark Drakeford.

Cynnig NNDM7523 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 11 Rhagfyr 2020 ynghylch lefelau newydd o gyfyngiadau i ymateb i bandemig y coronafeirws yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 5:13, 15 Rhagfyr 2020

Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr. Wrth i ni, fel Senedd, baratoi i ymadael am y Nadolig, rydyn ni'n wynebu sefyllfa ddifrifol iawn o ran lledaeniad coronafeirws yng Nghymru.

Wythnos yn ôl, roeddem ni'n trafod a ddylai'r Llywodraeth osod cyfyngiadau ar fusnesau lletygarwch yn sgil cynnydd yn nifer yr achosion. Erbyn hyn, mae'r twf wedi cynyddu'n helaeth. Rydym wedi cymryd camau pellach, gan gynnwys cyhoeddi’r cynllun rheoli newydd sydd gerbron y Senedd heddiw. Rydym hefyd yn wynebu straen newydd o’r feirws, sydd wedi ymddangos yng Nghymru. Byddwn yn cadw llygaid gofalus ar hyn yn y dyddiau i ddod ac yn diweddaru’r Senedd pan fydd mwy o wybodaeth ar gael.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 5:14, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Lywydd, mae'r ffigurau'n ddeunydd darllen llwm yr wythnos Nadolig hon. Cadarnhawyd dros 30,000 o achosion yn ystod y saith diwrnod diwethaf, ac roedd un o bob pum prawf a gynhaliwyd yng Nghymru yn gadarnhaol. Mewn rhai rhannau o'r de, rydym yn gweld cyfraddau sylweddol iawn o'r haint—sy'n fwy nag unrhyw beth yr ydym ni wedi'i brofi eleni.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 5:15, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Rydym ni wedi pasio dwy garreg filltir ddigalon arall yn ein pandemig yn y dyddiau diwethaf. Mae dros 100,000 o bobl bellach wedi profi'n bositif am y coronafeirws yng Nghymru eleni. Ddydd Gwener, roedd mwy na 2,000 o bobl yn ein hysbytai oherwydd y coronafeirws. Heddiw, mae hynny wedi codi hyd yn oed yn uwch, i fwy na 2,100, ac erbyn hyn, mae gennym ni fwy na 90 o bobl â'r coronafeirws arnyn nhw mewn gofal dwys—y nifer mwyaf yr ydym ni wedi'i weld yn yr ail don hon. Mae'r coronafeirws yn gyffredin ac wedi ymwreiddio yn ein cymunedau. Mae'n effeithio ar y ffordd arferol o redeg llawer o'r gwasanaethau yr ydym ni yn eu cymryd yn ganiataol, wrth i fwy o bobl fynd yn sâl neu hunanynysu sydd felly yn golygu nad ydyn nhw ar gael i ymgymryd â'u dyletswyddau. Mae hynny i gyd, fel y gwyddoch chi, yn rhoi straen enfawr ar wasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol rheng flaen.

Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni gymryd camau pellach i ddiogelu iechyd pobl ac i gefnogi ein gwasanaeth iechyd. Mae myfyrwyr ysgol uwchradd a choleg yn cael eu haddysgu o bell yn ystod yr wythnos olaf hon o'r tymor. Os bydd yn rhaid i ysgolion cynradd gau am unrhyw reswm yr wythnos hon, bydd darpariaeth ar gael i blant sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol. Mae atyniadau awyr agored wedi'u cau, ac mae'r GIG bellach yn gorfod gohirio rhai apwyntiadau llawdriniaeth ac apwyntiadau cleifion allanol er mwyn ysgafnhau'r pwysau ac ymateb i brinder staff.

Nid yw Cymru'n unigryw wrth wynebu ymchwydd cynyddol o'r haint. Rydym yn gweld patrymau tebyg ledled y byd. Mae'r Almaen a'r Iseldiroedd wedi cyflwyno cyfyngiadau symud newydd ledled y wlad wrth i'r coronafeirws ymchwyddo yn y gwledydd hynny. Ddoe, rhoddodd Llywodraeth y DU Lundain a rhannau helaeth o dde-ddwyrain Lloegr yn yr haen uchaf o gyfyngiadau. Yng Ngogledd Iwerddon, mae Gweinidogion yn rhybuddio am drydydd cyfnod o gyfyngiadau symud ar ôl y Nadolig.

Ddoe, yma yng Nghymru, cyhoeddwyd ein cynllun rheoli'r coronafeirws wedi'i ddiweddaru. Mae hwn yn diweddaru ein cynllun goleuadau traffig gwreiddiol, a gyhoeddwyd ym mis Mai, ac roedd hwnnw wrth gwrs, yn gyfnod mwy cadarnhaol, pan roeddem yn dod allan o'r cyfyngiadau symud. Roedd achosion o'r coronafeirws yn lleihau, ac roeddem yn gallu llacio ein cyfyngiadau—yn raddol. Mae'r cynllun newydd yn diweddaru'r fframwaith ar gyfer cyfyngiadau lleol, a gyhoeddwyd yn yr haf gan ein harwain ni drwy'r rhan gyntaf o'r hydref. Mae'r cynllun yn nodi pedair lefel rhybudd, sy'n cyd-fynd â lefel y risg ac sy'n amlinellu'r mesurau sydd eu hangen ar bob lefel i reoli lledaeniad y feirws ac i ddiogelu iechyd pobl.

Bydd cyhoeddi'r cynllun hwn nawr yn rhoi eglurder i bobl, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau ynglŷn â sut yr ydym ni'n symud drwy'r lefelau rhybudd, ac yn eu helpu i gynllunio wrth i ni symud i'r flwyddyn newydd a thrwy rai wythnosau anodd i ddod. Rydym ni, yn ôl yr arfer, wedi tynnu ar arbenigedd Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau, ac ar ein grŵp cynghori technegol ein hunain. Drwy eu gwaith nhw rydym ni wedi nodi'r ymyraethau sy'n gweithio, gan fanteisio ar yr hyn yr ydym ni i gyd wedi'i ddysgu yn ystod y pandemig. Mae ein grŵp cynghori technegol wedi dweud wrthym ni mai dull cenedlaethol o ymdrin â chyfyngiadau sydd fwyaf tebygol o gael ei ddeall, ac felly bod yn effeithiol. Ond, os oes tystiolaeth glir o amrywiad parhaus rhwng rhai rhannau o Gymru a rhannau eraill, mae'r cynllun rheoli yn caniatáu i'r lefelau rhybudd a'r lefelau cyfatebol gael eu cymhwyso'n rhanbarthol.

Heddiw, ledled Cymru, rydym ni ar lefel rhybudd 3. Mae'r golau traffig yn goch. Mae'r risg yn uchel iawn. Dirprwy Lywydd, dywedais yr wythnos diwethaf, pe na bai pethau'n gwella, byddai symud i gyfyngiadau lefel 4 yn anochel. Ers hynny, ymhell o wella, mae'r sefyllfa wedi dirywio, ac mae'r pwysau ar ein GIG a'n gofal cymdeithasol wedi cynyddu. O ddifrif, dywedaf wrth yr Aelodau na ellir gohirio penderfyniad ar gyfyngiadau pellach am lawer mwy o amser. Nawr, byddwn yn adolygu'r rheoliadau'n fanwl yr wythnos hon. Yn rhan o hynny, byddwn yn edrych ar yr amcanestyniadau ar gyfer cyfnod y Nadolig a'r hyn y mae angen i ni ei wneud i sicrhau y gallwn ni gadw Cymru'n ddiogel.

Gan droi'n fyr at y gwelliannau, Dirprwy Lywydd, bydd y ddau welliant gan Gareth Bennett yn cael eu gwrthod gan Lywodraeth Cymru. Rwyf wedi nodi'r prynhawn yma, ac yn gynharach yn y Senedd, pam mae'r lefelau rhybudd yn gwbl gymesur. Ni fydd Llywodraeth Cymru ychwaith yn gallu cefnogi'r gwelliant yn enw Siân Gwenllian mewn cysylltiad â chymorth ynysu. Mae angen inni ystyried yn ofalus beth fyddai ffurf system o wahanol gyfyngiadau ar gyfer rhanbarthau Cymru. Ond byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru sy'n ymdrin ag ailagor yn ddiogel. Mae fy swyddogion yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn sgyrsiau manwl gyda'r sectorau hyn. Ac yn olaf, mae'r gwelliant gan y Ceidwadwyr Cymreig yn gyson â'r cynllun gweithredu COVID wedi'i ddiweddaru, felly bydd hefyd yn cael ei gefnogi y prynhawn yma gan y Llywodraeth.

Dirprwy Lywydd, rwyf wedi dweud droeon fod y pandemig wedi troi ein bywydau ni i gyd wyneb i waered. Dyma fu un o'r blynyddoedd anoddaf i ni i gyd. Mae'r addewid o flwyddyn well o'n blaenau ar y gorwel, wrth i'r brechlyn fod ar gael yn ehangach yn raddol. Yn ystod yr wythnos gyntaf yn unig, mae dros 6,000 o bobl ledled Cymru wedi cael eu dos cyntaf, ac yfory, bydd preswylwyr cyntaf cartrefi gofal yng Nghymru yn cael y brechiad. Ond er bod hynny i gyd yn digwydd, rhaid inni fyw drwy rai wythnosau anodd iawn sydd o'n blaenau, a dim ond os byddwn yn gweithio gyda'n gilydd y gallwn ni wneud hynny. Mae gwahaniaeth yn cael ei wneud wrth gronni'r holl newidiadau bach hynny y mae angen i bob un ohonom ni eu gwneud yn ein bywyd bob dydd. Llywodraeth yw hon sy'n benderfynol o gadw Cymru'n ddiogel. Gyda'n gilydd gallwn newid cwrs y feirws ofnadwy hwn, diogelu ein gwasanaeth iechyd ac achub bywydau pobl. Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:22, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi dethol pum gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Gareth Bennett i gynnig gwelliannau 3 a 4, a gyflwynwyd yn ei enw ei hun.

Gwelliant 3—Gareth Bennett, Mark Reckless

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod lefelau newydd y cyfyngiadau’n anghymesur ac yn niweidiol i fusnesau a bywoliaethau ar draws Cymru.

Gwelliant 4—Gareth Bennett, Mark Reckless

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi dilyn strategaeth COVID-19 wahanol i un Llywodraeth y DU.

Cynigiwyd gwelliannau 3 a 4.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 5:22, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Prif Weinidog am gyflwyno dadl heddiw. Rwyf mewn gwirionedd yn cytuno â'r rhan fwyaf o'r teimladau y mae newydd eu mynegi.

Credaf fod pawb yn y Siambr hon yn gwerthfawrogi ein bod yng nghanol argyfwng iechyd cyhoeddus ac nad oes neb eisiau bychanu'r sefyllfa honno. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn gwerthfawrogi bod Llywodraethau gwledydd ledled y byd, yn ystod yr argyfwng hwn, yn ei chael hi'n anodd ymdrin â'r pandemig ac yn rheoli'r sefyllfa gyda gwahanol raddau o lwyddiant. Ac, gan fod bywyd dynol yn y fantol, rydym ni i gyd eisiau gweld cefn yr argyfwng cyn gynted â phosib, gyda chyn lleied o golli bywydau â phosib, er bod yn rhaid inni gydbwyso'r canlyniadau economaidd hirdymor hefyd, oherwydd gallant hefyd fod yn niweidiol i fywyd neu fe allant newid bywyd.

Felly, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog, a wnaeth ei sylwadau agoriadol yn gwrtais iawn, mi gredaf, a oedd yn addo, gobeithio, ddadl dda—a gaf i ofyn iddo fod yn rhesymol wrth iddo ymdrin â'r wrthblaid yn y cyfnod hwn? Rhaid inni gael fforwm democrataidd i drafod mesurau ei Lywodraeth yn gadarn, ac nid ydym eisiau cael ein galw'n 'warthus' na dim byd o'r fath, dim ond oherwydd nad ydym ni bob amser yn cytuno â'i fesurau. Felly, rwy'n diolch i'r Llywodraeth am gyflwyno'r ddadl heddiw, ond gan eu bod bellach wedi'i chyflwyno, gobeithio y gallant chwarae yn ôl y rheolau a derbyn nad oes rhaid inni gytuno â nhw drwy'r amser. Sylwaf hefyd, pan ofynnodd Caroline Jones, yn gynharach heddiw, i'r Prif Weinidog am rannu'r cyngor gwyddonol, ei fod wedi osgoi ateb y rhan honno o'i chwestiwn. Mae'n ymddangos i mi fod y Prif Weinidog eisiau bod yn bwerus a holl wybodus, gan wrthod rhannu'r holl gyngor technegol y mae wedi'i gael, ond ar yr un pryd yn dweud wrth bawb arall na allwn ni gwestiynu'r hyn y mae'n ei wneud gan nad ydym ni'n gwybod beth yw'r holl bethau y mae'n eu gwneud.

Nawr, soniais am ganlyniadau economaidd hirdymor—rhaid eu cadw mewn cof—ac rydym ni ym Mhlaid Diddymu Cynulliad Cymru o'r farn bod y penderfyniad i atal tafarndai a bwytai rhag gweini alcohol yn anghymesur ac y gallai olygu'r diwedd i lawer o fusnesau. Felly, gallai pobl yng Nghymru fod yn dioddef canlyniadau penderfyniadau Llywodraeth Cymru ymhell ar ôl i'r pandemig hwn ddod i ben. Rydym ni eisoes yn gweld effeithiau yng Nghymru o ran diweithdra cynyddol, ond nid yn unig y mae Cymru eisoes wedi dioddef y cynnydd mwyaf mewn diweithdra, rydym ni hefyd yn profi'r cynnydd mwyaf mewn cyfraddau heintio. Felly, mae'n ymddangos i mi ein bod yn cael y gwaethaf o bob byd yma yng Nghymru ddatganoledig: mae gennym ni'r mesurau cyfyngiadau symud llymaf, ond mae gennym ni hefyd argyfwng iechyd cyhoeddus sy'n ymddangos fel pe bai'n gwaethygu. Nid yw'n syndod bod ffydd y cyhoedd yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r argyfwng yn plymio, gyda gostyngiad o tua 20 pwynt canran.

Rydym ni yn y Blaid Ddiddymu wedi dweud o'r cychwyn cyntaf fod angen ateb arnom ni gan y DU yn ei chyfanrwydd i'r pandemig, dan arweiniad Llywodraeth y DU. Dywedais yn y ddadl yr wythnos diwethaf fod llawer o bobl wedi dweud wrthyf eu bod yn credu bod Prif Weinidog Cymru wedi defnyddio'r argyfwng hwn, yn rhannol, i geisio amlygu'r gwahaniaeth rhwng yr hyn y mae ef yn ei wneud, a'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, mewn ymgais i ennill mwy o sylw a chefnogaeth gan y cyhoedd i ddatganoli. Credaf y bu hon yn strategaeth ffôl, a bydd mwy o broblemau yn ein hwynebu o'r herwydd. Rydym yn dal i gael problemau, yn union felly oherwydd ei benderfyniad i gael ymagwedd unigryw Gymreig tuag at y feirws. Waeth beth y mae'n ei ddweud am y lefelau rhybudd, mae gan Loegr wahanol ardaloedd mewn gwahanol haenau, sy'n gwneud rhywfaint o synnwyr. Fel y dywedais, er gwaethaf y lefelau rhybudd, yma yng Nghymru, mae'r Prif Weinidog eisiau trin Cymru gyfan fel un uned o hyd, felly os bydd rhaid i un rhan o Gymru gael cyfyngiadau symud, yna felly hefyd Cymru gyfan. Mae'n amlwg nad yw hyn yn gwneud fawr o synnwyr mewn lleoedd fel Gwynedd ac Ynys Môn lle mae'r cyfraddau heintio yn gymharol isel, ond oherwydd eu bod yng Nghymru, mae'n rhaid eu trin yr un fath â phob rhan arall o Gymru. Yn amlwg, nid yw hyn yn ddim mwy na nonsens gwleidyddol, a bron dim byd i wneud ag iechyd y cyhoedd.

Felly, rydym yn gwrthwynebu cynnig y Llywodraeth heddiw. Credwn fod y lefelau newydd o gyfyngiadau yn anghymesur ac yn rhy niweidiol i fusnesau ac i fywoliaeth pobl ledled Cymru, ac rydym yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn dal i arddel safbwynt gwahanol i Lywodraeth y DU. Yr hyn yr ydym ni eisiau yw ymateb unedig yn y DU gyda mwy o gydweithredu â Llywodraeth y DU. Rydym ni hefyd yn cefnogi gwelliannau 7 a 9 y Blaid heddiw. Anogaf yr Aelodau heddiw i gefnogi'r gwelliannau hyn, a chynigiaf drwy hyn y ddau gynnig a gyflwynwyd yn fy enw i. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:27, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Galwaf ar Paul Davies i gynnig gwelliant 6, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 6—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r cyhoeddiad am lefelau rhybudd newydd yng Nghymru sy'n caniatáu ar gyfer rhoi cyfyngiadau ar waith ar lefel ranbarthol a lleol mewn ymateb i'r dystiolaeth wyddonol a'r gwahaniaethau o ran lefelau heintio coronafeirws mewn gwahanol rannau o'r wlad.  

Cynigiwyd gwelliant 6.

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 5:27, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y gwelliant a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Rwy'n falch y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi ein gwelliant y prynhawn yma.

Mae'n destun pryder mawr gweld bod achosion yng Nghymru yn parhau i gynyddu, ac felly rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r ddadl hon ac wedi cyhoeddi cynllun rheoli ar gyfer y coronafeirws, fel y gall cymunedau a busnesau ddeall y mesurau sydd wedi'u rhoi ar waith i reoli lledaeniad y feirws. Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn croesawu cynigion Llywodraeth Cymru i ddefnyddio lefelau fel meincnod i sicrhau diogelwch cyhoeddus Cymru, a chroesawaf y ffaith fod y Prif Weinidog wedi cadarnhau, pan fo'n briodol, y gellid amrywio'r lefelau rhybudd hyn mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru wrth fabwysiadu dull gweithredu wedi'i dargedu'n well, yn hytrach na dim ond dull gweithredu sy'n addas i bawb.

Dirprwy Lywydd, mae hefyd yn bwysig bod gan bobl Cymru ffydd yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â phandemig y coronafeirws wrth fwrw ymlaen, ac felly mae cyhoeddi'r ddogfen hon i'w groesawu'n fawr gan ei bod yn egluro prosesau gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru i'r cyhoedd. Nawr, wrth gwrs, dangosodd arolwg barn diweddar gan YouGov fod gan lai o bobl ffydd yn strategaeth gyffredinol y Llywodraeth wrth reoli'r pandemig, ac mae'n hanfodol bod gan y cyhoedd ffydd yn y penderfyniadau a wneir ar eu rhan. Mae'r arolwg barn hwn yn dangos pwysigrwydd ymgysylltu â phobl Cymru a chyfathrebu'n glir, er mwyn i bobl deall yn union pam y mae'n rhaid gweithredu.

Nawr, rhaid i ni beidio â cholli golwg ar y ffaith bod yna frechlyn, ac mae'n gam cadarnhaol iawn i weld byrddau iechyd yng Nghymru yn rhoi brechlynnau i grwpiau blaenoriaeth fel gweithwyr rheng flaen y GIG. Mae darparu'r brechlyn hwnnw a brechu pobl yn gwbl hanfodol i ddileu COVID-19 o'n cymunedau, ac wrth i ni weld mwy a mwy o bobl ledled Cymru yn cael eu brechu, bydd hynny hefyd yn effeithio ar ffydd pobl ac ar lefel y mesurau a allai fod ar waith. Fodd bynnag, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, mae'r ffigurau presennol yn llwm. Cymru sydd â'r gyfradd heintio uchaf yn y DU, ac mae wyth o'r 10 ardal heintiedig waethaf yn y DU yma yng Nghymru, a'r tair ardal uchaf yw Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr. Felly, rydym ni wedi cyrraedd sefyllfa lle mae'n rhaid i ni gydnabod nad yw'r ymyrraeth bresennol yn rhwystro trosglwyddiad y feirws.

Wrth gwrs, wrth i nifer yr achosion gynyddu, mae'r pwysau ar gapasiti ac adnoddau'r GIG hefyd yn cynyddu, ac, fel y gwelsom ni, mae byrddau iechyd mewn rhai rhannau o Gymru o dan bwysau sylweddol ac yn ei chael hi'n anodd ymdopi. Fel y cyfeiriwyd ato'n gynharach, gwyddom fod dros 2,000 o welyau yng Nghymru yn cael eu defnyddio ar gyfer cleifion COVID-19, ac mae un o bob 10 aelod o staff y GIG yn sâl neu'n hunanynysu ar hyn o bryd, sydd hefyd yn effeithio ar y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym ni wedi gweld dau fwrdd iechyd yn atal gwasanaethau a thriniaethau nad ydyn nhw'n rhai brys yn dilyn y cynnydd yn lledaeniad COVID-19 a'r galw arferol yn y gaeaf am ofal brys. Ac ar ben hynny i gyd, mae'r gyfradd achosion a gadarnhawyd yn sylweddol fwy na 300 o achosion fesul 100,000 o bobl. Felly, yng ngoleuni'r holl weithgarwch hwn a phwysau ar wasanaethau'r GIG, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddweud wrthym ni nawr pryd y mae'n bwriadu gwneud penderfyniadau pellach ynglŷn â'r camau nesaf y mae angen iddi eu cymryd i ymladd y feirws hwn. Yr hyn sydd ei angen ar unigolion, teuluoedd a busnesau nawr yw sicrwydd wrth symud ymlaen, felly mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad ynghylch y camau nesaf i atal y feirws cyn gynted â phosib, oherwydd mae angen i bobl, busnesau a'n gweithwyr rheng flaen wybod beth sy'n digwydd cyn gynted â phosib fel y gallant gynllunio at y dyfodol.

Dirprwy Lywydd, nid ein gwasanaethau iechyd ni yn unig sy'n wynebu trafferthion, mae ein busnesau ni hefyd. Mae ffigurau heddiw wedi cadarnhau mai Cymru a brofodd y cynnydd mwyaf serth mewn diweithdra rhwng mis Awst a mis Hydref o unrhyw genedl neu ranbarth yn y DU, ac mae hynny wir yn dangos sut y mae'r pandemig wedi effeithio ar fywoliaeth. Ni fydd y ffigur hwnnw ond yn tyfu os cyflwynir cyfyngiadau pellach, ac nid ydym yn gweld y darlun cyfan yn llwyr gan fod cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU wedi parhau i gadw pobl ar y gyflogres, ac felly dim ond ychydig fisoedd ar ôl i'r cynllun hwnnw ddod i ben y byddwn ni'n gallu gweld, yn anffodus, faint o swyddi a gollwyd ledled Cymru. Yn y cyfamser, mae busnesau'n ei chael hi'n anodd goroesi, ac mae'n gwbl hanfodol eu bod yn gallu cael gafael ar gyllid cyn mis Ionawr, gan fod yr wythnosau rhwng nawr a hynny heb gymorth yn amser rhy hir i fusnesau aros.

Nawr, rwy'n croesawu'r newyddion y bydd y lluosydd ardrethi annomestig yn cael ei rewi ar gyfer 2021-22, ond gadewch inni gofio bod gan Gymru'r gyfradd uchaf o ardrethi busnes ym Mhrydain Fawr o hyd, felly nid yw hyn yn mynd yn ddigon pell. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru nid yn unig i rewi ardrethi busnes, ond i fynd ymhellach a gwneud mwy i gefnogi busnesau sy'n parhau i frwydro yn erbyn cefndir pandemig COVID. Wrth gwrs, yn sail i'r cynllun hwn i reoli'r coronafeirws mae'r angen am becyn cymorth ariannol cryf, fel y gall y cyhoedd, pan fydd Cymru'n symud rhwng lefelau rhybudd yn y cynllun, fod yn ffyddiog bod gan Lywodraeth Cymru gyllid ar gael i gefnogi'r bobl a'r busnesau hynny sydd ei angen. Mae hyn yn gwbl hanfodol.

Dirprwy Lywydd, rydym ni i gyd eisiau gweld cefn y feirws ofnadwy hwn, a defnyddio'r brechlyn yw dechrau'r daith honno, ond mae gennym ni ffordd bell i fynd o hyd. Bydd fy nghydweithwyr a minnau'n gwneud yr hyn a allwn ni i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru lle y gallwn ni, a lle mae angen gofyn cwestiynau a lle mae angen rhagor o dystiolaeth, byddwn yn parhau i holi. Nawr yw'r amser ar gyfer gweithio trawsbleidiol gwirioneddol i achub bywydau a diogelu bywoliaethau, felly, croesawaf gyhoeddi cynllun rheoli'r coronafeirws, a gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru nawr yn dweud yn glir wrth bobl Cymru pryd a sut yn union y mae'n bwriadu atal nifer yr achosion yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at weld mwy o'r manylion hynny yn y dyddiau nesaf ac yn yr wythnosau nesaf. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:32, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar Adam Price i gynnig gwelliannau 7 a 9, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.

Gwelliant 7—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am sicrhau bod cyfyngiadau a chymorth ynysu yn adlewyrchu, cymaint â phosibl, y gwahanol lefelau parhaus o haint mewn gwahanol ranbarthau yng Nghymru.

Gwelliant 9—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau manwl ar gyfer ailagor sectorau allweddol yn ddiogel fel lleoliadau lletygarwch, diwylliant a chwaraeon yn seiliedig ar ymgysylltu uniongyrchol rhwng cynrychiolwyr y sector a chynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Cymru.

Cynigiwyd gwelliannau 7 a 9.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 5:32, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n falch o gynnig y gwelliannau hynny ac ymateb i'r ddadl. Rwy'n credu bod croeso i'r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu'r cynllun hwn. Fe wnaethom ni alw am gynllun gaeaf, ac mae'n bwysig ei fod yn cael ei ddeall yn glir, ac, wrth gwrs, mae angen ei addasu, oherwydd natur ddeinamig barhaus y pandemig. Yn ogystal â chael y strategaeth dymor canolig honno, sy'n gwbl hanfodol o ran ffydd y cyhoedd, credaf mai'r cwestiwn allweddol nawr yw: beth ydym ni'n mynd i'w wneud y foment hon? Clywsom y Prif Weinidog yn cyfeirio at y darlun presennol fel un llwm, sydd, yn fy marn i, yn asesiad cywir, a chyfeiriodd at yr angen i ystyried gweithredu heb oedi pellach.

Y cwestiwn, mae'n debyg, sydd flaenau ym meddyliau llawer ohonom ni, meddyliau ein dinasyddion, mewn gwirionedd, yw: a allwn ni fforddio aros tan yr wythfed ar hugain pan ddaw'r system haenau newydd hon i rym? Oherwydd mae'r sefyllfa bresennol yn gwaethygu'n gyflym. Mae edrych ar rywfaint o'r data ar gyfer heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu, yn amlwg, bod yr haint yn cynyddu. Rydym ni wedi gweld y ffigurau, rydym ni ar ben anghywir y tabl cynghrair o ran 15 o'r 20 ardal awdurdod lleol uchaf yn y DU o ran achosion dyddiol. Cyfradd y canlyniadau cadarnhaol yw'r un hollbwysig, ond mae hynny wedi bod yn cynyddu nawr ers 24 Tachwedd, a'r ffigur tristaf oll, wrth gwrs, yw bod marwolaethau ychwanegol yn fwy nag y buont dros y pum mlynedd diwethaf.

Mae rhai meysydd o ansicrwydd, yn amlwg. Nid ydym yn gwybod beth fu effaith y mesurau a gyflwynwyd yn fwy diweddar, bydd hi'n beth amser cyn y gwyddom ni ganlyniad y rheini. Mae'r GIG wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith cynnal a chadw ar ei systemau TG, felly mae rhywfaint o ddiffyg eglurder ynglŷn â'r ffigurau achosion dyddiol. Mae'n debyg bod gan Lywodraeth Cymru well mynediad at y data nag sydd gennym ni, ond rwy'n credu ei bod yn sicr yn wir fod gennym ni gymaint o rannau o Gymru sy'n uwch na'r holl feini prawf ar gyfer y lefel uchaf, y meini prawf risg uchel iawn yn y cynllun, ac yn sicr y cwestiwn yw: pam na wnawn ni felly gyflwyno'r mesurau hynny'n gynharach? Oherwydd y mantra a glywid, o Sefydliad Iechyd y Byd i'ch grŵp cynghori technegol eich hun, onid e, Prif Weinidog, yw eich bod yn tarro'n gynnar ac yn tarro'n galed? Nid oes neb eisiau gweld rhagor o gyfyngiadau oherwydd yr holl niwed sy'n gysylltiedig â hynny, ond mae rhai amgylchiadau lle, yn anffodus, y mae'n gwbl angenrheidiol, ac onid ydym ni wedi cyrraedd y pwynt hwnnw eto mewn sawl rhan o Gymru?

Ac yn yr un modd, wrth gwrs, beth bynnag sy'n digwydd o ran sefyllfa a allai wella o ganlyniad i'r cyfyngiadau diweddar, mae gennym ni gwestiwn y Nadolig, y cyfeirioch chi ato'n gynharach yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, ac wrth gwrs rydym ni wedi clywed côr o leisiau—dau gyfnodolyn meddygol blaenllaw, amrywiaeth o gyrff meddygol yn galw am adolygiad; mae gennych chi gyfarfod COBRA—ond byddem yn eich annog, beth bynnag yw consensws y pedair gwlad, mae Cymru bellach mewn lle gwahanol, a chredaf fod yn rhaid ichi gadw'r hawl, ac yn wir mae yna gyfrifoldeb, i wneud penderfyniad gwahanol, os oes angen. Os yw'r cyngor meddygol a'r cyngor gwyddonol yn amlwg yn awgrymu adolygu'r trefniadau Nadolig hynny, yna mae'n rhaid ichi wneud hynny. Ac mae'n bwysig eich bod yn cael cefnogaeth pobl Cymru, a dyna un o'r materion nad ydym ni wedi cytuno arno dros yr wythnosau diwethaf. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud hyn fel cenedl gyfan. Mae'n benderfyniad anodd i unrhyw arweinydd ei wneud ar ran y wlad, fel y dywedwyd. Credaf mai un ffordd y gallem ni  adeiladu'r consensws hwnnw, ac rwyf wedi ysgrifennu atoch y prynhawn yma, Prif Weinidog, yw cael arweinwyr y prif bleidiau at ei gilydd i geisio gweld a allwn ni ddod o hyd i gonsensws ar draws y pleidiau, y gallwn ni, gobeithio, gael cefnogaeth y mwyafrif iddo ledled Cymru gyfan.

Credaf mai'r neges yw, er mor anodd yw hi, efallai y bydd angen inni swatio ychydig mwy dros gyfnod y gwyliau er mwyn adennill rheolaeth, er mwyn gwella ac ailagor, yn gynharach gobeithio yn y flwyddyn newydd, credaf fod honno'n neges a fyddai'n cael cefnogaeth eang mewn gwirionedd, cyn belled â'n bod yn sicrhau bod unrhyw gyfyngiadau'n cael eu cyfuno â chymorth ychwanegol, o ran cymorth ariannol i bobl sy'n ynysu, yn enwedig y rheini ar incwm isel, o ran materion gofal plant sy'n aml yn dod yn sgil cyfyngiadau, ac o ran datrys ein prosesau profi ac olrhain. Rwyf wedi bod yn edrych ar y niferoedd, Prif Weinidog, ac unwaith eto rydym yn mynd i'r cyfeiriad anghywir o ran y cysylltiadau, cyfran y cysylltiadau sy'n cael eu holrhain o fewn 24 awr. Mae'n rhaid i ni ddatrys hynny yn ogystal ag, os oes angen, yn seiliedig ar y cyngor gwyddonol, yn anffodus, yn ogystal ag edrych eto ar drefniadau'r Nadolig ac, yn wir, mynd i haen 4 yn gynharach nag yr oeddech chi wedi'i gynllunio.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:38, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae gennyf 10 siaradwr. Os byddwch i gyd yn cymryd tair munud, gallaf eich cynnwys i gyd; os ewch chi dros y tair munud, yna mae arnaf ofn na fydd y rheini ohonoch chi ar waelod y rhestr yn cael eu galw. Felly, gofynnaf hynny ichi. Gofynnais yr wythnos diwethaf, ni wnaeth lawer iawn o wahaniaeth, ond fe ofynnaf eto yr wythnos hon. Felly, os byddwch i gyd yn cymryd oddeutu tair munud, byddwn yn iawn; os na fyddwch, yna, fel y dywedais, efallai na fydd y rheini ar waelod y rhestr yn cael eu galw. Dawn Bowden.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour

(Cyfieithwyd)

Yn anffodus, rydym yn dod i ddiwedd 2020 yn wynebu pennod anodd arall yn stori'r frwydr ddi-baid yn erbyn y feirws ofnadwy hwn. Mae gan y coronafeirws afael gref ar ein cymunedau, ac mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael trafferth oherwydd maint y pandemig. Rydym yn dal i weld nifer fawr o bobl yn mynd yn sâl ac, yn anffodus, llawer o farwolaethau. A phwy a ŵyr beth ddaw yn sgil y math newydd hwn o'r feirws. Mae'n argyfwng ymarferol, economaidd ac emosiynol, ac rwy'n cydymdeimlo â'r holl deuluoedd hynny sydd wedi colli anwyliaid, â'r busnesau sy'n ei chael hi'n anodd cadw eu drysau ar agor, â'r bobl sydd wedi colli eu swyddi, ac â'r bobl sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl yn y dyddiau anodd iawn hyn. Hoffwn hefyd ddiolch ar goedd i'r holl weithwyr hynny ar y rheng flaen y gallaf ond dychmygu yr her y maen nhw'n ei hwynebu bob dydd wrth fynd i'r afael â'r pwysau cynyddol.

Ond a gaf i ddiolch hefyd i chi a'ch Cabinet, Prif Weinidog, am y penderfyniadau anodd yr ydych chi wedi'u hwynebu a'u gwneud eleni, yn aml yn wyneb beirniadaeth gas, annheg a phersonol? Fel y gwyddoch chi, rwy'n dilyn pêl-droed, ac fel cefnogwr ar y terasau, rwy'n gwybod pa mor hawdd yw gweiddi beirniadaeth o'r fan honno, ond nid yw byth mor hawdd sicrhau llwyddiant ar y cae chwarae ei hun. Ond mae'r camau yr ydych chi wedi'u cymryd wedi'u cymryd i geisio achub bywydau ac amddiffyn pobl Cymru gystal ag y gallwch chi, ac rwy'n diolch ichi am hynny.

Fel eraill yn y Siambr hon, rwyf wedi bod yn bresennol mewn nifer o sesiynau briffio dros yr wythnosau diwethaf gyda'r byrddau iechyd, cynghorau a gwasanaethau'r heddlu sy'n gweithredu yn fy etholaeth i. Mae'r sesiynau briffio'n llwm ac mae'r sefyllfa sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd yn ddifrifol. Y briff diweddaraf y bûm i ynddo ddydd Gwener yr wythnos diwethaf oedd un bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg. Nid yn unig yr oedd e'n sobreiddio rhywun; roedd yn peri gofid. Roedd cael sefyllfa mor enbyd wedi'i hamlinellu mor glir o ran yr hyn sy'n digwydd yn fy nghymuned yn rhywbeth na feddyliais erioed y byddai'n rhaid imi wrando arno. Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen, Dirprwy Lywydd, ond pan sefais i yn etholiad 2016, roedd oherwydd fy mod eisiau helpu i wella bywydau'r bobl ym Merthyr Tudful a Thredelerch. Ac eto, heddiw, rwy'n wynebu'r realiti o 170 o achosion COVID fesul 100,000 o'r boblogaeth, a chyfradd profion positif o bron i 30 y cant ym Merthyr Tudful yn unig, a nifer y cleifion COVID mewn unedau gofal dwys yr wythnos diwethaf yn fwy na nifer y gwelyau gofal dwys  sydd ar gael yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ar gyfer COVID. Felly, yr hyn sy'n amlwg yw bod ein GIG yn cyrraedd y pwynt hwnnw yr oeddem ni, mewn gwirionedd, wedi gobeithio ei osgoi, felly mae'n rhaid i ni weithredu; nid yw gwneud dim yn ddewis. Mae un o'r ddau fwrdd iechyd yn fy etholaeth i eisoes wedi cyhoeddi ei fod yn gorfod atal rhai gwasanaethau nad ydynt yn rhai arferol, ac nid wyf yn amau na fydd y bwrdd iechyd arall yn dilyn ei esiampl. Bydd hynny ynddo'i hun yn dod â phroblemau pellach yn y dyfodol, ond pa ddewis sydd ganddyn nhw? Mae'r lleisiau ar y rheng flaen yn dweud wrthym eu bod ar fin diffygio. 

Dirprwy Lywydd, yn fy etholaeth i, mae'n ymddangos bod y cynllun profi torfol yn awgrymu y gallai dros 3.5 y cant o'r boblogaeth fod yn gludwyr asymptomatig o'r feirws. O ganlyniad, mae'r partneriaid sy'n cyflwyno'r cynllun profi hwn wedi penderfynu ymestyn y rhaglen brofi am wythnos arall, a chroesawaf y penderfyniad hwnnw. Rwy'n sicr yn gobeithio y gallwn wneud mwy o'r profion hyn, ac mae'n sicr yn arf pwysig i nodi achosion a chael gwell cyfle i leihau lledaeniad y feirws a nodi'r hyn sy'n digwydd yn ein cymunedau hyd nes inni weld manteision y brechiad.

Felly, beth yw fy nghasgliad o hyn i gyd? Wel, rwyf o'r farn, mewn argyfwng pandemig, mai'r ffordd orau y gallaf ddiwallu anghenion fy etholwyr yw cefnogi'r holl gamau gweithredu a all leihau'r cyfraddau heintio. Drwy wneud hynny, efallai y byddwn yn adfer y sefyllfa ryw gymaint mewn modd sy'n caniatáu i bobl a'n systemau ymdopi. Dim ond drwy ostwng y cyfraddau heintio hynny y bydd pobl yn gallu gweld normalrwydd yn dychwelyd i'w bywydau. Dim ond drwy ostwng y cyfraddau heintio hynny y bydd llawer o'r busnesau bach hynny sydd wedi bod yn cael trafferthion mor ofnadwy—yn enwedig yn y sectorau lletygarwch a thwristiaeth—yn cael y cyfle i wella.

Ni fydd yr hyn y mae angen inni ei wneud yn boblogaidd ymhlith pawb. Yn aml, nid y penderfyniadau poblogaidd yw'r penderfyniadau cywir, ond nawr yn fwy nag erioed, rhaid gwneud y penderfyniadau cywir hynny. Dyna pam rydym ni wedi gweld Llywodraethau cyfrifol ledled y byd yn gwneud penderfyniadau anodd iawn i ymdrin â hyn. Mewn llawer o'r gwledydd hynny, mae'r cyfyngiadau symud wedi bod yn llym ac yn ddi-oed oherwydd eu bod nhw, fel Llywodraeth Cymru, yn deall pa mor ddifrifol yw hyn.

Dirprwy Lywydd, ar hyn o bryd, yn sicr nid wyf yn rhan o hyn er mwyn bod yn boblogaidd. Byddaf yn gwneud yr hyn y mae'n rhaid i mi ei wneud i helpu Llywodraeth Cymru ac eraill i achub bywydau. Felly, mae fy neges i Lywodraeth Cymru yn glir: cymerwch yr holl gamau angenrheidiol a allwch chi i helpu ein gweithwyr rheng flaen i ymdopi â'r misoedd i ddod. Cymerwch yr holl gamau angenrheidiol a allwch chi i helpu ein cymunedau i wella o'r feirws hwn, a chymerwch yr holl gamau angenrheidiol a allwch chi i helpu ein busnesau i wella, fel bod gan bobl swyddi a bywoliaeth i ddychwelyd atynt pan fydd hyn i gyd ar ben. Ac ar gyfer y camau hynny, Prif Weinidog, cewch fy nghefnogaeth lawn. 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:43, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rydych chi wedi cael eich pum munud. Diolch. David Melding.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:44, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn y de, rydym yn debygol yn ystod y dyddiau nesaf o weld lefelau heintio o 1,000 fesul 100,000 o'r boblogaeth, ac erbyn y Nadolig, gallen nhw godi hyd yn oed yn uwch a chyrraedd y lefelau uchaf erioed a welwyd yn ardal Walloon yng Ngwlad Belg ddechrau'r hydref. Dyna faint yr argyfwng sy'n ein hwynebu. Ac mae siawns go iawn, fel y dywedodd y Prif Weinidog, y bydd y GIG yn cael ei gyfyngu fwy neu lai i wasanaethau COVID yn unig, gyda'r holl oblygiadau i iechyd cyffredinol.

Mae'r difrod economaidd a achosir gan y cyfyngiadau yn real ac mae angen lliniaru gweithredol, ond bydd y difrod economaidd a achosir gan y feirws yn fwy difrifol fyth, yn enwedig os yw'n parhau i fod allan o reolaeth. Ac eto, mae gennym ni, Dirprwy Lywydd, yr addewid o waredigaeth, oherwydd canfuwyd brechlyn, neu nifer o frechlynnau. Efallai na fyddem ni wedi bod yn y sefyllfa hon. Mae'n beth gwych ein bod ni, a bod gobaith gwirioneddol, erbyn y Pasg fan bellaf, y bydd pawb dros 70 oed a phawb sydd â gwendidau a chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes wedi cael eu brechu, a disgwylir i hynny ar ei ben ei hun leihau'r gyfradd marwolaethau tua 80 y cant, gan alluogi ein staff rheng flaen a'r GIG i ymdopi. Fodd bynnag, os bydd y feirws yn ymledu'n wyllt, byddwn dan fygythiad sylweddol wrth gyflwyno'r brechlyn o bosib. Felly, dyna'r hyn y mae'n rhaid i ni ei gofio—dyna pam ei bod hi'n hanfodol nawr i edrych o'r newydd ar y sefyllfa yr ydym ni ynddi.

Mae'n amlwg i mi, Dirprwy Lywydd, fod rheoliadau Llywodraeth Cymru ers dechrau mis Tachwedd wedi'u cyfiawnhau. Mae cwestiwn nawr, fodd bynnag, yn y de, sef a ydyn nhw'n mynd yn ddigon pell. Sylweddolaf fod yn rhaid cael cydbwysedd anodd, a deallaf o adroddiad newyddion y BBC am 5 o'r gloch ei bod hi'n debygol y bydd newid i'r rheoliadau—neu'r cyngor, yn hytrach—dros gyfnod y Nadolig, a chredaf fod hynny'n briodol.

Croesawaf y naws fwy adeiladol sydd wedi nodweddu'r ddadl heddiw. Rwy'n credu bod hynny'n arwydd o aeddfedrwydd ynglŷn â ble'r ydym ni fel Senedd a sefyllfa'r mae'r genedl yn yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn. Rwyf hefyd yn croesawu datblygu dull gweithredu Llywodraeth Cymru, fel y gall rhannau o Gymru adael y rheoliadau mwyaf eang y gallai fod eu hangen nawr dros ran helaeth o Gymru, a mabwysiadu rhywbeth sy'n agosáu at ddull rhanbarthol, haenog. Byddaf yn cefnogi rheoliadau Llywodraeth Cymru a drafodwyd yn gynharach. Byddaf yn cefnogi cynnig Llywodraeth Cymru sydd ger ein bron, yn ogystal â gwelliannau'r grŵp Ceidwadol. Pe bai Llywodraeth Cymru yn dod i'r casgliad yn ddiweddarach yr wythnos hon fod angen cyfnod atal byr, i'w weithredu ar unwaith yn ne Cymru, ac yn amlwg cyn y Nadolig, byddwn i hefyd yn cefnogi'r mesur hwnnw.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:47, 15 Rhagfyr 2020

Dyma ni unwaith eto yn ymateb i sefyllfa sy'n gwaethygu, ac, o le bynnag rydym ni'n edrych yng Nghymru, mi ddylai pawb, dwi'n gobeithio, allu cydnabod bod hwn yn argyfwng, p'un ai rydym ni ein hunain yn byw mewn ardal lle mae nifer yr achosion yn isel, neu yn yr ardaloedd eang iawn hynny sydd wedi gweld cynnydd brawychus yn nifer yr achosion o COVID-19 yn yr wythnosau diwethaf. Wnaf i ddim treulio amser heddiw ar beth ddigwyddodd yn dod allan yn rhy sydyn o'r firebreak, a heb strategaeth gynaliadwy, efallai, yn ei lle, achos trafod cynllun newydd rydym ni, a'r angen eto am newid cyfeiriad.

Mewn egwyddor, dwi'n meddwl bod y system o gael lefelau fel hyn, o wyrdd drwodd at ddu, yn syniad da, ond mae penderfynu, wrth gwrs, pa lefel y dylem ni fod ynddi, yn genedlaethol ac mewn gwahanol rannau o Gymru, yn gwbl, gwbl allweddol rŵan, a dydy'r penderfyniadau ddim yn hawdd.

O ran y gweithredu rhanbarthol, yna mi fyddwn ni'n cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr heddiw. Mae ein gwelliant cyntaf ni hefyd yn cyfeirio at yr un peth, ond yn cyfeirio hefyd at beth all gweithredu ei olygu. Mae yna ddwy agwedd i gamau gweithredu'r Llywodraeth sy'n cael eu cyfeirio atyn nhw yn y gwelliant yna—cyfyngiadau a chefnogaeth—ac mae yna werth, heb os, i gael lefel sylfaenol o reolau cenedlaethol. Does yna un ardal yn imiwn i'r feirws yma, ond, lle mae achosion ar eu huchaf, mae'n gwneud perffaith synnwyr i fi fod yna le i weithredu'n wahanol. Gall, mi all hynny olygu cyfyngiadau, ond, ochr yn ochr â hynny, mae'n rhaid i'r Llywodraeth allu cynnig lefel uwch o gefnogaeth hefyd.

Mae yna lawer o wledydd, llawer o ardaloedd, dinasoedd ac ati wedi profi llwyddiant yn rheoli'r feirws wrth wneud yn siŵr bod gan bobl y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i hunanynysu. Dydy Llywodraeth Cymru na Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim wedi bod yn effeithiol yn y maes yma, ac mae astudiaethau yn dangos mai lleiafrif sydd yn gwneud beth sydd ei angen i hunanynysu yn llwyddiannus. Felly, rhowch gefnogaeth ariannol mwy, fel bod pobl yn gwneud y dewis iawn i aros gartref. Rhowch gefnogaeth ymarferol—mynd â gwasanaethau hanfodol at ddrws rhywun yn hytrach na eu bod nhw'n cael eu temtio i adael cartref i chwilio am y gwasanaethau hynny. Rhowch bobl mewn gwesty, fel mae llawer o wledydd wedi'i wneud, fel bod eu teuluoedd nhw yn ddiogel, a rhowch gefnogaeth emosiynol hefyd.

Yr ail welliant sydd gyda ni, gwnaf i adael i Helen Mary Jones ymhelaethu ar hynny. Sôn am gyfathrebu a thrafod yn effeithiol efo busnesau a sefydliadau eraill wrth baratoi am y dydd pan gawn ni ddechrau ailagor rydym ni yn y gwelliant hwnnw, ac rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at y dydd hwnnw. Ond mae rhoi'r camau gweithredu cywir ar waith rŵan yn mynd i ddylanwadu'n drwm, wrth gwrs, ar bryd ddaw y dydd hwnnw. Dwi'n caru cyfnod y Nadolig, ond dwi'n gobeithio gwnaiff y Llywodraeth dderbyn ein cynnig ni i gymryd rhan mewn trafodaethau amlbleidiol ar beth i'w wneud o gwmpas cyfnod yr wŷl, sut i gryfhau rheolau ar un llaw, y negeseuon ar y llaw arall, yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig ac, ie, yn y pum diwrnod yna o gwmpas y Nadolig ei hun. Mae hyn yn effeithio ar bawb ohonom ni.

Os caf i gloi drwy gyfeirio eto at y cynllun gyhoeddwyd ddoe, dydy dweud yn syml, fel y mae o, mai ymddygiad pobl ar ôl y firebreak oedd ar fai—hynny ydy, doedd yr ymddygiad ddim yn rhoi'r canlyniadau roeddem ni eu heisiau inni—dydy hynny ddim yn ddigon da. Oes, mae yna gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni i ymddwyn mewn ffordd sydd yn cadw'n hunain, y bobl o'n cwmpas ni a'n cymunedau ni yn saff, ond mae'r ymddygiad yna yn digwydd o fewn cyd-destun sy'n cael ei osod gan y Llywodraeth. Ac mae camau sy'n cael eu cymryd gan y Llywodraeth a negeseuon y Llywodraeth, ac ati, yn dylanwadu'n drwm iawn ar yr ymddygiad hwnnw, a gadewch inni gofio hynny. 

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 5:51, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Prif Weinidog am roi copi i ni o gynllun rheoli coronafeirws diweddaraf Llywodraeth Cymru. Prif Weinidog, Cymru bellach sydd â'r cyfraddau heintio gwaethaf yn y DU, a thros y saith diwrnod diwethaf, y gyfradd heintio dreigl fesul 100,000 oedd 450.4. Ledled Cymru, roedd cyfradd profion cadarnhaol bron 20 y cant, ac mae hyn er bod Cymru o dan y cyfyngiadau lefel 3 a amlinellwyd yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru, ac er gwaethaf y ffaith i ni ddod allan o gyfyngiadau symud cenedlaethol ychydig wythnosau'n ôl, y credem y byddai wedi helpu i gadw'r feirws dan reolaeth. Fodd bynnag, parhaodd heintiau i gynyddu er gwaethaf mesurau rheoli.

Felly, rhaid inni ofyn i ni'n hunain pam nad yw mesurau rheoli yn rheoli'r feirws. Ac nid oes dim byd newydd yn y cynlluniau, oherwydd gofynnir i ni gefnogi'r un trywydd ag y buom ni yn ei ddilyn dros y naw mis diwethaf: gwahanol gamau o'r cyfyngiadau symud, yr un peth ag y buom ni yn ei wneud ers yr haf heb fawr o lwyddiant mae'n ymddangos; cynlluniau sydd wedi'u rhoi ar brawf ac wedi methu mewn mannau eraill—yr un cynlluniau ond enwau gwahanol, oherwydd lle mae gan Loegr haenau a'r Alban lefelau amddiffyn, bydd gan Gymru lefelau rhybudd nawr. Rwy'n teimlo y bydd hyn yn ychwanegu dryswch i'r cyhoedd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd deall y gwahanol reolau a rheoliadau sydd ar waith mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig.

Fel y noda Llywodraeth Cymru yn ei dogfen, mae un dull cenedlaethol yn fwy tebygol o gael ei ddeall ac yn fwy effeithiol, felly pam nad oes gennym ni un dull o ymdrin â'r feirws hwn ledled y DU? Mae pob rhan o'r DU yn ceisio torri eu cwys eu hunain, a'r hyn a gyflawnwyd yw dryswch ymhlith y cyhoedd. Mae rhai pobl nad ydyn nhw'n gwybod beth yw'r rheolau o hyd, ac, o ganlyniad, rydym yn gweld llai o lynu wrth y rheolau hynny. Ni fyddwn yn rheoli'r pandemig hwn heb ymgysylltiad a chefnogaeth y cyhoedd, sydd, ar hyn o bryd, yn rhwystredig.

Y cyfan yr ydym ni wedi'i weld yw cau busnesau, colli swyddi, dyled enfawr gan y Llywodraeth a fydd yn cymryd cenedlaethau i'w had-dalu. Mae'r ardrethi busnes yn dal i aros yr un fath, mewn llawer o achosion. Dylem fod yn canolbwyntio ein hymdrechion ar gael system brofi ac olrhain o'r radd flaenaf, ar brofion ar lefel y boblogaeth i ddod o hyd i'r rhai sydd wedi'u heintio ac yn heintus, ac ar sicrhau bod y bobl hynny'n ynysu ac yn methu â heintio neb arall. Mae angen inni sicrhau ein bod yn olrhain yn ôl yn llwyr, nid dim ond dod o hyd i'r rheini y mae unigolyn heintiedig eisoes wedi bod mewn cysylltiad â nhw, ond canfod lle cawsant eu heintio yn y lle cyntaf. Gwyddom eich bod yn fwy tebygol o ddal COVID mewn digwyddiad lle mae'r feirws yn lledaenu'n rhemp, ac mae angen i ni ganfod y digwyddiadau hyn a phawb a oedd yn bresennol. Rwy'n teimlo mai dyma'r unig ffordd y gallwn ni reoli'r feirws. Rydym yn torri'r gadwyn heintio drwy sicrhau nad yw'r rhai heintus yn cael cyswllt â'r rhai nad ydyn nhw'n heintus, nid drwy sefydlu cyfyngiadau symud a gweddïo y bydd pobl yn cadw at y rheolau. Rhaid inni gadw'r cyhoedd ar ein hochr ni. Diolch.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 5:55, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'r sefyllfa sy'n ein hwynebu nawr yng Nghymru yn ddifrifol, ac rydym yn gweld twf eithriadol y coronafeirws. Pan siaradais yr wythnos diwethaf, tynnais sylw at y pwysau enfawr oedd ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol yng Ngwent. Ers hynny, mae'r sefyllfa wedi gwaethygu. Ddydd Gwener, bwrdd iechyd Aneurin Bevan oedd y cyntaf yng Nghymru i atal yr holl driniaeth nad yw'n driniaeth frys oherwydd y pwysau aruthrol sydd ar wasanaethau. Rwyf wedi siarad â staff gofal cymdeithasol sydd wedi disgrifio i mi y pwysau gofidus sydd arnyn nhw gan fod y nifer cynyddol o achosion mewn cartrefi gofal yn gwneud rhyddhau pobl o'r ysbyty yn heriol iawn neu hyd yn oed yn amhosibl. Felly, rwy'n croesawu'r cynllun coronafeirws a gyhoeddwyd ddoe, ond, o ystyried y cynnydd dychrynllyd mewn achosion rydym yn eu gweld, nid wyf yn credu y gallwn ni aros tan ar ôl y Nadolig i gymryd camau pellach i atal lledaeniad y feirws hwn. Credaf fod angen mesurau pellach nawr, fel yr ydym wedi eu gweld mewn lleoedd fel yr Almaen.

Rwyf hefyd eisiau dweud fy mod yn dal yn bryderus ynglŷn â'r trefniadau ar gyfer pobl yn cymysgu dros y Nadolig. Gwn fod pawb wedi cael blwyddyn anodd iawn a'n bod i gyd eisiau rhywfaint o seibiant o'r feirws ofnadwy hwn, ond ofnaf, os bydd y cynlluniau'n mynd rhagddynt fel y maen nhw ar hyn o bryd, yna'r gost fydd mwy o bobl yn mynd i'r ysbyty a marwolaethau pellach, ac nid wyf yn credu bod hynny'n bris sy'n werth ei dalu pan fo gennym ni lygedyn o obaith ar ffurf brechlyn yn y cyfnod tywyll hwn. Yr wythnos diwethaf, talais deyrnged i'r staff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac rwy'n barod iawn i wneud hynny eto heddiw, ond nid oes angen inni dalu teyrnged iddyn nhw. Mae angen i'r rheini ohonom ni sy'n eistedd yn gyfforddus yn y Siambr hon wneud chwarae teg â nhw, i wneud y penderfyniadau anodd, i gydweithio i atal lledaeniad y feirws hwn, ac i'w cadw nhw a phawb arall yng Nghymru'n ddiogel.

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 5:57, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar am gael cymryd rhan yn y ddadl hon, a byddaf yn canolbwyntio fy sylwadau yn bennaf ar welliant 9 o'n heiddo, fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth. Rydym yn ddiolchgar bod y Llywodraeth wedi derbyn y gwelliant hwnnw. Mae hwn, wrth gwrs, yn gyfnod eithriadol o anodd. Mae cyfyngiadau'n anochel i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Efallai y bydd angen, fel y mae Lynne Neagle newydd ei ddweud, i ni hyd yn oed gyfyngu ymhellach dros y Nadolig, efallai i ddwy aelwyd a chynnwys y rhai hynny sy'n byw ar eu pennau eu hunain am resymau tosturiol. Mae bywydau pobl yn holl bwysig.

Ond mae angen i ni edrych ymlaen. Mae dechrau'r rhaglen frechu, wrth gwrs, yn rhoi pob rheswm inni obeithio. Byddwn, fel cenedl, fel cymuned o gymunedau, yn goroesi'r argyfwng ofnadwy hwn, a byddwn yn gwneud hynny orau, mae'r cyfle gorau gennym ni i adeiladu'n ôl nid yn unig yn well ond yn dda iawn, os byddwn yn gweithio gyda'n gilydd gymaint ag y gallwn ni. Mae'r Llywodraeth yn canolbwyntio'n briodol ar hyn o bryd ar yr argyfwng iechyd cyhoeddus sydd gennym ni nawr ac, a bod yn deg, ar geisio lliniaru'r effaith ddifrifol anochel ar swyddi a busnesau. Mae ein gwelliant yn galw arnyn nhw i weithio'n agosach, yn enwedig gyda'r sectorau hynny sydd wedi'u taro galetaf—lletygarwch, lleoliadau chwaraeon a sefydliadau diwylliannol—i ddatblygu canllawiau manylach sy'n nodi'r camau y bydd angen eu cymryd i alluogi'r sectorau hynny i agor yn ddiogel pan fydd yr amser yn iawn. Rhaid imi bwysleisio eto, Llywydd, nad wyf yn sôn am nawr; rwy'n edrych yma ar y tymor canolig. Dywed y Llywodraeth eu bod yn cynnal trafodaethau cyson â'r sectorau hyn, ond nid dyna a ddywed y busnesau a'r sefydliadau hyn wrthym. Gall ddibynnu, wrth gwrs, gyda phwy mewn gwahanol sectorau y mae'r Llywodraeth yn ymgynghori â nhw ar hyn o bryd. Yn naturiol, nid yw'n bosibl i'r Llywodraeth siarad â phob busnes, lleoliad cerddoriaeth neu glwb chwaraeon unigol, ond byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i edrych o'r newydd i sicrhau bod eu hymgynghoriadau, gan edrych ymlaen at y tymor canolig, mor eang ac mor gynhwysfawr â phosibl. Fel y dywedodd Adam Price a Rhun ap Iorwerth, croesawn y cynllun newydd hwn, ond, o ran edrych ymlaen at y tymor canolig, mae angen gwneud rhagor o waith.

Mae ein gwelliannau'n awgrymu bod y Llywodraeth yn hwyluso ymgysylltu uniongyrchol rhwng cynrychiolwyr y sector a chynghorwyr gwyddonol y Llywodraeth. Y cynghorwyr gwyddonol, wrth gwrs, sydd yn y sefyllfa orau i roi cyngor ar y peryglon i iechyd. Y sectorau sy'n gwybod orau sut maen nhw'n gweithredu, ac maen nhw wedi hen arfer â gweithio mewn amgylcheddau rheoleiddio cymhleth o ran iechyd a diogelwch. Siawns nad yw'n gwneud synnwyr i ganiatáu cyfathrebu uniongyrchol i wella dealltwriaeth y sector o'r risgiau a dealltwriaeth y gwyddonwyr o'r agweddau ymarferol. O gofio bod y Llywodraeth yn derbyn y gwelliant hwn, sydd i'w groesawu, edrychaf ymlaen, yn y flwyddyn newydd, at yr wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau uniongyrchol rhwng cynghorwyr gwyddonol o dan yr adrannau yr wyf wedi sôn amdanyn nhw.

Llywydd, ni fuom ni erioed ym Mhlaid Cymru mor awyddus i Lywodraeth Cymru lwyddo fel y gellir diogelu bywydau a bywoliaethau. Byddwn yn parhau i ymgysylltu'n adeiladol—craffu, gwneud awgrymiadau adeiladol, cefnogi lle y gallwn ni, gan wrthwynebu lle mae'n rhaid inni. Credaf mai dyma y mae pobl Cymru yn ei ddisgwyl gennym ni. Cymeradwyaf welliannau Plaid Cymru i'r Senedd hon.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 6:00, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Rydym ni yng nghanol argyfwng rhyngwladol. Mae pob Llywodraeth ledled y byd yn gwneud yr hyn a allant, y gorau y gallan nhw i ymdrin â'r feirws, na welwyd ei debyg ers dros 100 mlynedd yn Ewrop a thu hwnt. Mae cyfraddau marwolaethau a heintiau'n codi ac yn gostwng—hyd yn oed yn y DU, ychydig yn ôl, gogledd Iwerddon oedd ar y brig, yna rhannau o Loegr a nawr Cymru. Nid ras yw hon, serch hynny, Llywydd, oherwydd mae'r gwleidyddion i gyd, mi gredaf, yn ceisio gwneud y gorau gallant o dan yr amgylchiadau.

Cafwyd beirniadaeth yr wythnos diwethaf mai dim ond wythnos o rybudd oedd wedi'i roi i dafarndai yng Nghymru cyn y byddai'n rhaid iddyn nhw gau. Yn Llundain yr wythnos hon, rhoddwyd 48 awr o rybudd. Nawr, gallwn ddweud yn hawdd, 'Wel, onid yw hynny'n dangos rhywfaint o safonau dwbl?' Ond nid wyf yn mynd i wneud hynny oherwydd dyma pa mor anodd yw gwneud rhagfynegiadau. Dyma pa mor anodd yw hi i Lywodraethau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon a thu hwnt wneud penderfyniadau i amddiffyn pobl pan fydd y feirws yn newid ei ymddygiad mor gyflym. Mae'n anodd i fusnesau; does dim dwywaith am hynny. Mae yna fusnesau sy'n meddwl, 'A fyddaf yn goroesi? A fyddaf yn dal yma y flwyddyn nesaf?' Mae busnesau a fydd, er gwaethaf y gefnogaeth gan y Llywodraeth, yn meddwl tybed a oes ganddyn nhw ddyfodol. Ond twyllo ein hunain fyddai credu y gallwn ni fynd yn ôl i normalrwydd ac anwybyddu'r ffaith bod y feirws yma. Ac rwyf wedi clywed y ddadl honno.

Mae rhai wedi defnyddio enghraifft Sweden. Dydyn nhw ddim yn gwneud hynny nawr, nac ydyn, Llywydd? Mae rhai yn sôn am imiwnedd torfol. Gadewch imi ddweud wrthyn nhw beth yw ystyr 'imiwnedd torfol': mae'n golygu naill ai (a) eich bod yn brechu pawb, neu (b) eich bod yn caniatáu i'r feirws redeg yn wyllt drwy'r gymuned, gan lorio'r gwan, yr henoed a'r rhai sy'n agored i niwed nes i chi gael yr imiwnedd hwnnw. Nid dyngarwch yw hynny, yn fy marn i, Llywydd. Ni allwn ni esgus nad yw'r feirws hwn yn bodoli.

Clywais Gareth Bennett, a ddywedodd yn y bôn fod ymdrechion Llywodraeth Cymru yn gynllwyn crypto-genedlaetholgar. Dyna a ddywedodd, i bob pwrpas, ac yna dywedodd ei fod yn mynnu parch gan Siambr nad yw'n dymuno ei gweld yma yn y lle cyntaf. Nid yw hyn yn ymwneud â gwleidyddiaeth. Nid yw hyn yn ymwneud â 'gwnaeth Lloegr hyn, gwnaeth Cymru'r llall. Gadewch i ni gystadlu â'n gilydd, gadewch i ni feirniadu ein gilydd.' Nid dyma sydd dan sylw. Mae pob rhan o'r DU yn gwneud y gorau o dan yr amgylchiadau i amddiffyn ei phobl. Rwy'n cefnogi Llywodraeth Cymru yn yr hyn y mae'n ei wneud. Rwy'n cefnogi Llywodraeth y DU yn yr hyn y mae'n ei wneud yn Lloegr, oherwydd rwy'n gwybod eu bod yn gwneud y gorau gallant.

Clywais Caroline Jones yn siarad. Roedd yn ymddangos ei bod yn dweud na ddylem ni gael dull gweithredu rhanbarthol, ond y dylem ni gael un dull gweithredu ledled y DU gyfan. Un gyfres o reolau ar draws y DU gyfan, waeth ble yr ydych chi, p'un a ydych yn Warrenpoint ar y ffin â Gweriniaeth Iwerddon, neu yn yr Hebrides Allanol neu, yn wir, yn Llundain. Dyna'r argraff a gawsom ni o'r ddadl. Nid dyna realiti'r sefyllfa.

Rydym ni yng Nghymru yn wynebu'r argyfwng hwn gyda'n gilydd. Gwelwn olau ym mhen draw'r twnnel, gwyddom ble mae'r daith yn dod i ben: mae yna frechlyn. Y cwestiwn yw faint yn rhagor o bobl ydym ni'n barod i'w colli ar y ffordd. Wyth deg mlynedd yn ôl, Llywydd, yn Ewrop gyfan ac yn y wlad hon, fe wynebodd cenhedlaeth lefel o amddifadedd am chwe blynedd mewn rhyfel na allwn ei ddychmygu o gwbl. Nid oedden nhw'n gwybod beth oedd y dyfodol. Roedden nhw'n dioddef dogni, ond roedden nhw'n dyfalbarhau er gwaethaf popeth. A ydym yn dweud, am ychydig fisoedd, nes i'r brechlyn gyrraedd, na allwn ni ymdopi ag ychydig o gyfyngiadau? Oherwydd os ydym yn dweud hynny, yna nid ydym yn gymwys i ddilyn ôl eu traed.

Mae yna bobl sy'n credu bod y feirws hwn yn dwyll. Mae yna bobl sydd wedi cael profion cadarnhaol sydd wedyn yn mynd i'r gwaith a heintio pobl eraill. Y cwestiwn i ni fel cymdeithas yw hyn: bydd cenedlaethau'r dyfodol yn edrych yn ôl arnom ni a byddant yn dweud, 'Pa mor effeithiol oedd y bobl hyn wrth ymdrin â'r feirws hwn?' Mae angen inni allu edrych ym myw eu llygaid. Nid yw'r feirws yn poeni am wleidyddiaeth, nid yw'n poeni am Brexit, nid yw'n poeni ble yn y DU y mae, nid yw'n poeni am yr UE, ac mae'n rhaid i ni gofio bod cydweithredu'n allweddol i sicrhau bod mwy o bobl yn byw, bod dyfodol i fwy o bobl, a bod mwy o fywydau'n cael eu hachub. Ac ar y sail honno, Llywydd, rhoddaf fy nghefnogaeth i Lywodraeth Cymru, rhoddaf fy nghefnogaeth i Lywodraeth y DU, ac i bob llywodraeth ledled y byd sy'n ceisio sicrhau bod eu poblogaethau'n cael eu diogelu yn y dyfodol. Ni waeth beth yw ein gwleidyddiaeth, ni waeth beth yw ein pleidiau, dyna'n sicr yw ein hegwyddor arweiniol.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 6:05, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Rydym yn trafod cynllun rheoli y prynhawn yma. Wel, mae'n sicr yn gynllun, ond yr hyn sy'n ansicr yw a fydd gennym ni mewn gwirionedd fawr o reolaeth dros unrhyw beth. Gwelsom gyda'r cyfnod atal byr, fel y rhagwelais yn wir pan gafodd ei drafod, y gallai'r niferoedd ostwng am gyfnod byr ond, cyn gynted ag y byddai'r cyfyngiadau'n cael eu codi, y bydden nhw'n dechrau cynyddu eto. Felly, oni bai ein bod yn barod, fel yr ymddangosai fod y cyn-Brif Weinidog yn ei ddweud eiliad yn ôl, y dylem ni gael cyfyngiadau symud sy'n amhenodol ac a fydd yn ymestyn ymhell i'r flwyddyn nesaf, credaf nad yw'r hyn yr ydym yn ei wneud heddiw yn gymesur â'r amgylchiadau yr ydym ni ynddyn nhw. Yr un gair amlwg sydd wedi bod ar goll yn y ddadl y prynhawn yma yw'r gair 'gaeaf', a rhagwelwyd ar ddechrau'r pandemig hwn, ar ôl i ni gyrraedd y gaeaf, y byddai achosion yn sicr o godi, gan fod achosion anadlol yn cynyddu yn y gaeaf, er mai'r hyn sy'n ddiddorol am y ffigurau ar gyfer eleni—ac mae gennyf siart o'm blaen sy'n cymharu 2020 â'r pum mlynedd blaenorol—yw sut y mae'r ffigurau marwolaeth ar gyfer pob clefyd anadlol yn llawer is eleni nag yn unrhyw un o'r pedair blynedd blaenorol. Nid yw hynny'n lleihau, wrth gwrs, bwysigrwydd unrhyw farwolaeth y gellir ei hosgoi. Ond y cwestiwn yw a fydd y mesurau hyn, sy'n mynd i wneud niwed mor aruthrol i'r economi, fel y mae pawb yn derbyn, yn cael eu cydweddu â rhyw fudd sy'n gwrthbwyso hynny o ran nifer y bobl sydd yn yr ysbyty ac sy'n marw yn y pen draw.

Ac, yn hynny o beth, credaf mai'r hyn a esgeuluswyd ei drafod yn y ddadl hon yw'r cwestiwn o ostyngeiddrwydd ar ran y Llywodraeth. Weithiau mae'n anodd—bob amser yn anodd, efallai—cyfaddef nad oes gennych y pŵer eithaf i reoli digwyddiadau, ac mae llywodraethau'n aml yn cael eu hunain yn yr amgylchiadau hyn. Yr hyn sy'n amlwg am y profiad rhyngwladol, y cyfeiriwyd ato gan y Prif Weinidog a'i ragflaenydd y prynhawn yma, yw, er gwaethaf yr amrywiadau eang iawn yn y ffordd y mae llywodraethau wedi ymateb i'r pandemig, nid yw'r clefyd wedi'i atal yn y fan a'r lle yn unman, mewn gwirionedd, i'r gwrthwyneb. Nawr, cyhoeddodd y Prif Weinidog her yn ei araith, gan ddweud nad yw'r rhai a arferai feddwl yn fawr o Sweden yn sôn amdani mwyach. Wel, rwy'n mynd i sôn amdani y prynhawn yma, oherwydd mae profiad Sweden yn ddiddorol iawn. Y gyfradd marwolaethau fesul miliwn yn Sweden yw 757. Yn y Deyrnas Unedig, mae'n 946. Felly, mae gan Sweden gyfradd farwolaethau is o lawer nag sydd gennym ni, ac mae ffigurau Sweden yn cynnwys ffigurau dwysach o'r cyfnod cynnar i raddau helaeth am eu bod wedi methu ag amddiffyn pobl yn eu cartrefi gofal yn y gwanwyn, ac felly mae'r rhan fwyaf o'r marwolaethau yn Sweden yn ymwneud â'r methiant polisi hwnnw ar ran Llywodraeth Sweden. Os edrychwn ni ar y ffigurau mwy diweddar, nifer y marwolaethau yn Sweden oherwydd COVID oedd tri ar 21 Hydref. Cododd i 69 ar 25 Tachwedd, ac maen nhw wedi gostwng yn gyson o'r dyddiad hwnnw, o 25 Tachwedd, tan ddoe, 14 Rhagfyr, roedden nhw wedi gostwng i gyn ised â 17. Mae Sweden wedi cyflwyno un mesur newydd yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf i gyfyngu ar symudiadau yn Sweden, a hynny yw gosod uchafswm o wyth ar gynulliadau cyhoeddus, er os ydych chi yn griw o 16 o bobl yn mynd allan i fwyty gyda'ch gilydd, gallwch gael dau fwrdd o wyth wrth ymyl ei gilydd cyn belled â'ch bod yn cadw pellter cymdeithasol ac yn cadw 1m neu 2m ar wahân. Ac felly, nid yw cyfradd marwolaethau Sweden yn waeth, ac yn aml maen nhw'n well yn gyson, na gwledydd datblygedig eraill hemisffer y gogledd.

Felly, y broblem sydd gennym ni yn y fan yma yw bod gennym ni ffawd sy'n annymunol iawn ynghylch pa lywodraethau sy'n methu gwneud dim byd yn ôl bob golwg, ar wahân i gyflwyno camau gweithredu dros dro sy'n effeithio ar y clefyd, sydd fel arall yn cynyddu'n ddi-baid. Efallai y bydd y brechlynnau'n ein rhyddhau o'r byd ofnadwy hwn yr ydym ni yn byw ynddo nawr. Ond mae perfformiad yr economi yn mynd i gael effeithiau hir, hirdymor ar bobl, ac nid effeithiau economaidd yn unig ydyn nhw, maen nhw hefyd yn ymwneud ag iechyd a lles. Mae'r rhain i gyd yn bwyntiau sydd wedi cael eu gwneud yn dda gan hyd yn oed y rhai sy'n cefnogi'r Llywodraeth yn yr hyn y mae'n ceisio'i wneud. Mae gennyf bob cydymdeimlad â'r Prif Weinidog a'i gydweithwyr yn y sefyllfa anodd y maen nhw ynddi, ond credaf fod y mesurau hyn yn anghymesur, a'i bod yn amlwg, lle mae cyfraddau heintio'n isel mewn rhai rhannau o Gymru, y bydd y cyfyngiadau'n gosod cost ddiangen. Mae'n wir hefyd, mewn rhannau eraill o Gymru—ardaloedd trefol yn arbennig—nad ydym ni wedi gwneud y cyfyngiadau'n ddigon llym. Felly, dywedaf un peth yn unig wrth y Llywodraeth, 'Os gwelwch yn dda, gwnewch eich rheoliadau'n gymesur.'

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 6:11, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Prif Weinidog. Rwy'n credu ein bod ni wedi cael dadl dda iawn ar y cyfan yn y fan yma heddiw, ac rwy'n croesawu'r ffaith ein bod ni'n canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda'n gilydd—mae hynny'n braf iawn nid yn unig yn y fan yma, ond rwy'n siŵr i'r bobl y tu allan hefyd. Ac rydym yn cerdded llwybr cul iawn yn y fan yma, ond mae gennym ni, fel y mae llawer o bobl wedi dweud, frechlyn—neu frechlynnau yn hytrach—ar y gweill, ac mae golau ar ddiwedd y twnnel. Ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni gael ein harwain gan ddau beth allweddol, a'r rheini yw ymdrech ar y cyd, yr ydym yn ei weld yma heddiw, a chyfrifoldeb personol. Ac rwy'n credu mai yn yr ysbryd hwnnw y gallwn ni i gyd roi neges gyfunol i bobl Cymru a chefnogi neges heddiw.

Mae gennym ni strategaeth genedlaethol, ac rydym yn ei symud ymlaen, a bydd lefelau rhybudd newydd o fewn y system honno a fydd yn glir ac yn gyson, ac a fydd yn tanlinellu'r ymdrech gyfunol sy'n hollbwysig i'r strategaeth honno. Felly, ni fydd ots a ydych chi'n byw yng Nghaerdydd neu yng Nghrymych neu Gricieth neu Garno, bydd y neges a'r rheolau yr un fath. Ac mae gennym ni, heb os nac onibai, gyfrifoldeb personol i gadw atynt, i atal y feirws ac atal ein gwasanaeth iechyd gwladol rhag cael ei llethu. Wedi dweud hynny, fodd bynnag, rwy'n nerfus iawn am bobl yn symud o gwmpas, i mewn ac allan o'r wlad yr wythnos nesaf. Ac rwy'n rhannu pryderon Lynne Neagle am y feirws yn symud rhwng teuluoedd, yn symud rhwng ffrindiau, dros y Nadolig. Gwn na fu unrhyw benderfyniadau hyd yn hyn ynglŷn â beth fydd dyluniad olaf y cyfluniadau hynny o fewn aelwydydd, ond credaf fod y neges yn glir—y bydd yn rhaid i ni ailedrych ar hynny, ac mae'n siŵr gen i mai dyna sy'n digwydd.

Ond 'does dim ond rhaid i chi edrych ar stori'r pandemig yn ein rhanbarth ni i ddeall pa mor ansefydlog yw'r sefyllfa. A dim ond un digwyddiad a gymerodd yn Aberteifi—ac mewn mannau eraill—lle'r oedd gennym ni sefyllfa archledaenwr, lle'r oedd yn rhaid cau ysgolion, lle yr amharwyd yn llwyr ar fusnesau, ac effeithiwyd ar bopeth arall hefyd. Un digwyddiad oedd hwnnw. Tan i'r digwyddiad hwnnw ddigwydd, roedd y feirws dan reolaeth. Felly, mae pethau'n symud yn gyflym iawn. Mae'n hawdd iawn dweud, 'Rydym ni'n iawn yn y fan yma', ond nid yw'n wir fod y pethau hyn yn aros fel y maen nhw. Gwyddom yn awr, yn ardal ein bwrdd iechyd lleol, Hywel Dda, fod 930 o staff y bwrdd iechyd naill ai'n absennol neu'n sâl neu'n ynysu. Felly, mae'n ymwneud nid dim ond â nifer y bobl sy'n canfod eu hunain yn yr ysbyty yn anffodus, ond hefyd y bobl sy'n gallu ac sydd ar gael i drin y bobl hynny. Ac rwyf wedi clywed y ddadl am, 'Niferoedd bach o haint, felly gadewch i ni fod'. Ond maen nhw mewn gwirionedd yn cael eu gwasanaethu gan ysbytai bach, gyda niferoedd bach o staff hefyd.

Felly, mae'r diwedd mewn golwg. Rwy'n falch iawn bod y ddadl heddiw wedi ei chynnal mewn llawer gwell naws yn fy marn i. Rwy'n croesawu hynny. A chredaf fod arnom ni i gyd ddyletswydd i'n staff iechyd a gweithwyr rheng flaen eraill, a hynny yw ceisio rhoi rhywfaint o obaith iddyn nhw ar gyfer y flwyddyn newydd, fel nad ydym yn eu llethu. Diolch. 

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 6:15, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae hon wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd, fel y mae llawer wedi dweud, ac mae Llywodraethau ledled y byd wedi cyflwyno cyfyngiadau na fydden nhw byth wedi dymuno eu cyflwyno. Mae pobl wedi aberthu'n aruthrol yn eu bywydau bob dydd, ond, yn anffodus, mae pobl wedi marw, ac rwy'n credu ei bod yn iawn i'r Llywodraeth roi iechyd y cyhoedd ac anghenion ein trigolion ar flaen eu meddyliau.

Llywydd, rwyf bob amser yn onest yn y Senedd hon, ac rwyf bob amser yn siarad dros fy nghymuned, ac yn yr ysbryd hwnnw heddiw rwy'n cefnogi camau Llywodraeth Cymru a'r camau y maen nhw wedi'u cymryd, ond rwyf hefyd eisiau mabwysiadu dull gweithredu rhanbarthol Cymreig cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny. Dylai'r ffeithiau ar lawr gwlad yn y gogledd a'r de fod o'r pwys mwyaf a, phan fo'r ffeithiau hynny'n cefnogi dull amrywiol, dylem ni ganiatáu hynny.

Llywydd, ni wnaf gymryd gormod o amser, oherwydd rwy'n gwybod bod llawer o Aelodau eraill yn dymuno siarad yn y ddadl bwysig iawn hon heddiw, a dyma'r cyfle olaf y byddaf yn ei gael i annerch y Senedd eleni, oherwydd yfory byddaf yn mynd i angladd fy nhaid annwyl. Felly, hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn, os gaf i, Llywydd, i ddweud diolch i drigolion Alyn a Glannau Dyfrdwy. Rydych chi wedi bod yn hollol wych, ac mae'r camau rydych chi wedi'u cymryd i arafu lledaeniad y feirws wedi achub bywydau. Felly, gennyf fi, arhoswch gyda ni wrth i ni edrych ymlaen at ddyfodol gwell. Diolch yn fawr.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:17, 15 Rhagfyr 2020

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol nawr i ymateb i'r ddadl. Vaughan Gething. 

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd, a diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl heddiw. Rwy'n sylwi bod tôn mwyafrif llethol y cyfranwyr yn cydnabod difrifoldeb y sefyllfa sy'n ein hwynebu.

Roedd yn anffodus i'r ddadl ddechrau gydag ymateb gan Gareth Bennett yn galw am chwarae teg a pharch, cyn mynd ymlaen i wneud cyfres o sylwadau diangen, personol ac anwir. Nid yw'r Llywodraeth hon erioed wedi gweithredu i ddilyn llwybr o nonsens am resymau gwleidyddol. Mae'r pandemig yr ydym ni wedi'i wynebu dros y 10 mis diwethaf wedi bod yn her i bob un ohonom ni. Efallai y bydd pobl yn anghytuno â'r dewisiadau yr ydym ni wedi'u gwneud. Rwyf i'n parchu hawliau'r Aelodau i anghytuno, gan gynnwys gwneud hynny mewn ffordd angerddol. Ond mae'r dewisiadau y mae'r Prif Weinidog wedi'u gwneud, y dewisiadau rwyf i wedi'u gwneud, y dewisiadau y mae pob un o Weinidogion Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud, i gyd wedi'u hysgogi gan y modd yr ydym ni'n achub bywydau a bywoliaethau, a bydd hynny'n parhau i fod yn sail i'n dull o weithredu ar gyfer y ffordd anodd sydd o'n blaenau. 

Rwy'n croesawu y ffaith bod Paul Davies ac Adam Price, a llawer o Aelodau, wedi croesawu'n gyffredinol cyhoeddi'r cynllun rheoli coronafeirws wedi'i ddiweddaru gyda'r lefelau rhybudd wedi'u diweddaru. Nododd Paul Davies fod angen ffydd y cyhoedd yn y camau yr ydym ni'n eu cymryd, ac, wrth gwrs, mae hynny'n sail i'r rheswm pam yr ydym bob amser wedi cyhoeddi, ers y dyddiau cynnar iawn, grynodeb rheolaidd o'r cyngor gwyddonol yr ydym ni wedi'i gael.

Rwy'n credu y gallwn ni gael ein calonogi gan y ffaith bod yr arolwg diweddar a wnaed gan Ipsos MORI wedi dangos tua 61 y cant o gefnogaeth i'r mesurau y mae'r Llywodraeth hon yn eu cymryd. Ac, yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, wrth gwrs, clywsom y gymhariaeth rhwng barn y cyhoedd ar fesurau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU a marc cadarnhaol o blaid Llywodraeth Cymru. Ond nid yw hynny'n fater o hunanfodlonrwydd ac, mewn gwirionedd, gostyngodd sgoriau Llywodraeth Cymru, oherwydd cafodd y dystiolaeth ddiweddar ei chynnal dros gyfnod yr anawsterau o ran y mesurau lletygarwch a gyflwynwyd gennym. Felly, yn sicr nid ydym yn cymryd cefnogaeth a ffydd parhaus pobl Cymru yn ganiataol. Ac, wrth wneud hynny, mae'n rhaid i ni gydnabod yr effaith ar ein staff, a'r ffaith y bydd hynny'n effeithio ar y dewisiadau y mae'r cyhoedd yn eu gwneud a'u barn ar y mesurau y mae'r Llywodraeth hon yn barod i'w cymryd.

Gwnaeth Paul Davies gydnabod, fel y gwnaeth Lynne Neagle ac eraill, fod dau fwrdd iechyd eisoes yn lleihau gweithgarwch y GIG. Bydd hynny'n effeithio ar niwed yn y dyfodol, ac mae arnaf ofn y bydd mwy o fyrddau iechyd yn dilyn dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf hyn, wrth i'r pwysau gynyddu.

Nawr, o ran y cyfle i barhau i rannu gwybodaeth, byddwn ni'n parhau i gynnig briffiau gan y Llywodraeth hon yn uniongyrchol i arweinwyr Ceidwadwyr Cymru a Phlaid Cymru, wrth i ni nesáu at unrhyw ymyriadau arwyddocaol. Bydd y cwrteisi hwnnw yn parhau: y sesiynau briffio rheolaidd a hefyd y sesiynau briffio wrth i ni nesáu at benderfyniadau penodol. 

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 6:20, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol ac rydym eisiau cydnabod y ffordd y maen nhw wedi llwyddo i brosesu taliadau ar gyfer cymorth busnes. Mae gennym y pecyn mwyaf hael o gymorth busnes yn y DU, ond mae hynny ond yn cyrraedd llawer o fusnesau oherwydd y gwaith y mae ein staff llywodraeth leol wedi'i wneud. Ac rwy'n gwybod bod od y Gweinidog llywodraeth leol a Gweinidog yr economi yn ddiolchgar iawn i staff llywodraeth leol am ein galluogi i wneud hynny. 

Rwyf yn cydnabod y sylwadau a wnaeth Adam Price ynghylch a allwn ni aros tan 28 Rhagfyr. Mae Gweinidogion yn ystyried bob dydd y dewisiadau a wnawn a phryd y mae angen i ni eu gwneud. Gwnaeth Adam Price, a nifer o aelodau eraill, sylwadau am y niwed sydd eisoes wedi'i achosi. Mae'n realiti na ellir ei gwadu bod cyfraddau marwolaethau ychwanegol yng Nghymru, yn fwy diweddar, wedi bod yn uwch nag yn Lloegr ac mae hynny'n wahanol i gwrs y pandemig, oherwydd dros y pandemig cyfan, o ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a gyhoeddwyd hyd yma, cafwyd 13 y cant o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru—mae hynny dros 3,000 o farwolaethau ychwanegol yn uwch na'r cyfartaledd yng Nghymru—o'i gymharu â 19 y cant o farwolaethau ychwanegol yn Lloegr. O ran y naill gyfrifiad neu'r llall, mae hynny'n swm sylweddol o niwed a achoswyd eisoes, ac mae'n sail i'r rheswm pam y mae'r Llywodraeth yn parhau i orfod ystyried camau eithriadol yn y dyfodol i gadw pobl Cymru'n ddiogel. Nid wyf wedi gweld y llythyr y mae Adam Price yn dweud iddo ei anfon at y Prif Weinidog, ond bydd unrhyw ddulliau adeiladol ynghylch sut y gallem ni gyrraedd setliad yn y dyfodol i'w croesawu a byddan nhw'n cael eu trafod.

Nawr, o ran profi, olrhain a diogelu, dylwn i dynnu sylw at y ffaith y bu traean yn fwy o staff profi, olrhain a diogelu yn ystod y cyfnod atal byr. Rydym wedi llwyddo i gynnal perfformiad effeithiol hyd yma a'r hyn sy'n peryglu ein perfformiad nawr ac yn y dyfodol yw'r don barhaus o alw sy'n parhau i godi bob wythnos. Yn ystod yr wythnos diwethaf, yr oeddem ni'n dal i gyrraedd 81 y cant o gysylltiadau, ond ein pryder yw pa mor gyflym y gallwn ni gyrraedd y cysylltiadau hynny, am ba hyd y gallwn ni barhau i berfformio ar y lefel uchel honno, ac mae'r galw'n adlewyrchu realiti trosglwyddo ar draws ein cymuned. Ni allwn fynnu bod profi, olrhain a diogelu yn parhau i insiwleiddio pobl rhag canlyniadau lledaeniad cyflym y feirws drwy ein cymunedau.

Hoffwn ddiolch i Dawn Bowden ac eraill am eu cydnabyddiaeth o'r dewisiadau anodd y mae Gweinidogion yn eu hwynebu. O ran y pwynt am brofion torfol, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod â'r dadansoddiad y mae Dawn Bowden eisoes wedi gofyn amdano am effaith profion torfol ym Merthyr Tudful. Rwy'n edrych ymlaen at weld hynny'n gynt yn hytrach nag yn hwyrach i helpu i benderfynu ar ddewisiadau eraill y gallwn ni eu cymryd. Rwyf yn cydnabod ei phwynt, a'r pwynt a wnaethpwyd gan Joyce Watson hefyd, ynghylch y gweithredu ar y cyd y mae angen i ni ei gymryd i wella ein hiechyd a'n dyfodol economaidd, ac mae hynny'n cyd-fynd â chyfrifoldeb personol.

Roeddwn i'n ddiolchgar i David Melding am ei ymateb pwyllog a chefnogol o ran cydnabod yr angen i weithredu gyda'r rheoliadau yr ydym ni wedi'u cyflwyno, ac yn yr un modd dangos ei fod ef ac eraill yn dweud y bydden nhw'n ystyried cefnogi gweithredu cyn y Nadolig yn ogystal ag ar ôl. A hefyd y posibilrwydd o newidiadau rhanbarthol yn y dyfodol a nododd Jack Sargeant, unwaith eto, y byddai'n dymuno eu gweld, os a phryd y mae'n ddiogel gwneud hynny, ac rydym ni'n nodi hynny fel bwriad a phosibilrwydd gwirioneddol yn y cynllun rheoli COVID wedi'i ddiweddaru yr ydym ni wedi'i gyhoeddi.

Nawr, gan droi at Rhun ap Iorwerth, rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y cyfnod atal byr wedi gweithio: fe wnaeth leihau heintiau'n sylweddol. Yr hyn na weithiodd oedd y cytundeb newydd ar newid ymddygiad ar ôl i'r cyfnod atal byr ddod i ben. Gyda'n gilydd, fe wnaethom ni ddychwelyd at batrymau ymddygiad mwy arferol cyn y cyfnod atal byr a dyna sy'n ein harwain ni at y sefyllfa sy'n ein hwynebu heddiw.

Rwyf yn cydnabod yr alwad am fwy o gymorth, gan gynnwys cymorth i bobl sy'n ynysu. A'n her gyson yw'r hyn a wnawn am roi negeseuon am y gefnogaeth yr ydym ni eisoes wedi'i darparu, ond hefyd y realiti bod yn rhaid i bob darn ychwanegol o gymorth yr ydym yn ei ddarparu yn dod o rywle, a'n her yn y gyllideb, y pwysau ychwanegol y mae iechyd yn ei wynebu, y pwysau ychwanegol y mae busnesau'n ei wynebu, a'n gallu wedyn i gael mwy o arian i gefnogi unigolion i wneud y peth iawn iddyn nhw, eu teulu, eu cymuned ac, wrth gwrs, y wlad. Ond rwy'n cydnabod bod gan y Llywodraeth ran i'w chwarae o ran arwain a llywio'r drafodaeth ac wrth ddylanwadu ar ymddygiad, ond ni allwn bennu dewisiadau ymddygiadol ar gyfer pob aelod o'r cyhoedd. Dyna pam rwy'n croesawu'r pwyntiau a wnaed gan Aelodau ar draws y rhaniad gwleidyddol yn y Siambr am gyfrifoldeb personol.

Yn barchus, nid oeddwn yn cytuno â llawer o'r hyn a oedd gan Caroline Jones i'w ddweud. Nid wyf yn derbyn mai'r rheswm pam nad oes gennym ni un dull gweithredu ledled y DU yw oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cydweithredu â Llywodraethau eraill—mae hynny'n ymhell o fod yn wir. Rydym ni wedi galw'n rheolaidd am fwy o gydweithredu rhwng Llywodraethau'r DU i ddeall y cyd-destun yr ydym ni i gyd yn gweithredu ynddo, i gael cymaint o gyffredinedd ag sy'n bosibl, a dyna lle'r ydym ni fel Llywodraeth o hyd. Rydym ni eisiau gweld dulliau mwy cyffredin o helpu'r cyhoedd i ddeall yr hyn y gofynnwn iddyn nhw ei wneud a pham, a dyma'r dull a ddefnyddiwn o hyd wrth ymgysylltu â phob un o'r Llywodraethau yn y Deyrnas Unedig.

Diolch i Lynne Neagle am ei disgrifiad byw o'r pwysau ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngwent. Mae Aelodau ym Mae Abertawe, Aelodau Cwm Taf Morgannwg yn eu hwynebu hefyd, ac, yn wir, byddai Aelodau Caerdydd a'r Fro hefyd yn cydnabod y pwysau hynny. Ac mae arnaf ofn y bydd Aelodau Hywel Dda, gan feddwl eto am sylwadau Joyce Watson, yn gweld y rheini fel pwysau cynyddol yng ngorllewin Cymru hefyd. Ac rydym ni'n gweld achosion o'r coronafeirws yn cynyddu yn y gogledd. Mae hon yn frwydr genedlaethol wirioneddol sy'n ein hwynebu yn erbyn y feirws ac nid yn un lleol neu ranbarthol, ac mae angen i bob un ohonom ni chwarae ein rhan.

Gobeithio bod Helen Mary Jones yn fodlon â'r ffaith ein bod ni'n cydnabod bod angen i gynghorwyr gwyddonol ymgysylltu â gwahanol sectorau busnes. Yn wir, mae hynny eisoes wedi digwydd gyda chynrychiolwyr y sector yr ydym ni wedi'u trafod—nid ydyn nhw wedi siarad â Gweinidogion yn unig, maen nhw wedi ymgysylltu â chynrychiolwyr o adran y prif swyddog meddygol neu'r prif gynghorydd gwyddonol ar adran iechyd i geisio egluro'r dystiolaeth sy'n sail i bob un o'r dewisiadau y gwnaethom ni. Ond rydym yn hapus i gadarnhau mai dyna'r dull y byddwn ni'n parhau i'w gymryd gan fod yn rhaid i ni wneud dewisiadau anodd.

Diolch i Carwyn Jones am ei sylwadau hefyd, ac, fel arfer, roedd gwahaniaeth rhwng y sylwadau a wnaeth Carwyn Jones am Sweden fel model na ddylid ei ddilyn a Neil Hamilton, sy'n parhau i fod eisiau i ni wneud hynny. Fel arfer, bu methiant i gymharu Sweden â realiti'r hyn sydd wedi digwydd yn y Ffindir, Norwy a Denmarc—gwledydd sy'n cymharu'n llawer mwy taclus â'r ffordd y mae'r poblogaethau hynny'n ymateb i'w Llywodraeth a'r sefyllfa ymarferol ynddynt. Nid wyf yn credu bod Sweden yn fodel i Gymru nac i unrhyw ran o'r DU ei ddilyn. Rwy'n credu, serch hynny, pan soniwn ni am imiwnedd torfol, ei bod yn bwysig cydnabod y gall imiwnedd torfol ddod o amddiffyniad gan frechlyn, a phan wnaeth Carwyn Jones ei sylwadau, rwy'n glir iawn ei fod yn dweud na ddylai hynny ddod o oroesiad y rhai mwyaf heini, na chwaith adael ein trigolion mwyaf agored i niwed i'w tynged. Ni fu hynny erioed yn ymagwedd y Llywodraeth hon, ac ni fydd byth. Rwyf eisiau i'n pobl gael eu hamddiffyn gan y brechlyn.

A dyna lle rwy'n credu bod angen i ni orffen, Llywydd. Mae'r cynllun gweithredu yn ymateb i'r argyfwng sy'n ein hwynebu, y realiti y bydd angen i'r Llywodraeth a phob un ohonom ni, yn ein teuluoedd a'n cymunedau, gymryd mwy o gamau yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod. Mae'r brechlyn yn cynnig gobaith, ond er mwyn cyrraedd yno, mae angen i bob un ohonom ni wynebu'r argyfwng gyda'n gilydd a theithio'r ffordd honno gyda'n gilydd, ac mae angen i bob un ohonom ni weithredu fel nad ydym yn colli pobl ar y ffordd. Efallai fod gennym ddigwyddiadau bywyd eraill i'w dathlu gyda'n gilydd, ond ni allwn ddisodli'r rheini sy'n cael eu colli, y rhai sy'n cael eu colli'n ddiangen.

Bydd y pandemig yn dod i ben. Byddwn ni'n cyrraedd sefyllfa lle byddwn ni'n amddiffyn ein pobl drwy roi sylw effeithiol i frechlyn, ond bydd y camau a gymerwn, ym mhob cartref, ym mhob teulu, yn pennu faint ohonom ni sy'n gorffen y daith hon gyda'n gilydd i helpu i ailadeiladu ein gwlad. Mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae i gadw Cymru'n ddiogel, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n teimlo y gallan nhw gefnogi'r Llywodraeth gyda gwelliannau i'r cynnig heddiw, ond yn fwy na hynny, i gefnogi pob rhan o'n gwlad yn y misoedd anodd sydd o'n blaenau. Diolch, Llywydd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:28, 15 Rhagfyr 2020

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly mae yna wrthwynebiad ac fe fydd yr holl bleidleisio felly yn digwydd ar yr eitem yma yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.