– Senedd Cymru ar 16 Rhagfyr 2020.
Trefn. Rydym yn ailddechrau gydag eitem 7, sef dadl Plaid Cymru ar brydau ysgol am ddim, a galwaf ar Helen Mary Jones i wneud y cynnig.
Siân Gwenllian, rwy'n meddwl—
Mae'n ddrwg gennyf. Siân Gwenllian.
—rwy'n meddwl mai fi sy'n cloi. Efallai ddim.
Ie, fi sydd i'w gynnig.
Ymddiheuriadau, Siân. Cyflwynwch y cynnig os gwelwch yn dda.
Cynnig NDM7521 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim ar unwaith i sicrhau bod unrhyw blentyn mewn teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol ac unrhyw blentyn mewn teulu nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt, yn gymwys, fel y cam cyntaf tuag at sicrhau bod prydau bwyd maethlon yn cael eu darparu am ddim i bob plentyn oed ysgol yng Nghymru.
Mae'n iawn.
Mae Plaid Cymru yn credu'n gryf yn yr egwyddor o brydau am ddim ar gyfer pob disgybl ysgol yng Nghymru, a dyna fyddai ein safbwynt ni mewn Llywodraeth. Fe fyddai'n bolisi a fyddai'n defnyddio bwyd lleol, yn cefnogi busnesau Cymreig ac yn diogelu’r amgylchedd. Mae'n ddyletswydd ar unrhyw Lywodraeth i sicrhau nad oes yr un plentyn yn mynd i'r ysgol efo stumog wag, ac eto, mae yna 70,000 sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru nad ydyn nhw'n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim. Yn amlwg, mae angen newid hynny yn syth. Felly, fel cam cyntaf brys, mae angen codi'r trothwy ynglŷn â phwy sydd yn gymwys, fel bod plant ym mhob cartref sydd yn derbyn credyd cynhwysol yn derbyn prydau ysgol am ddim. Yn ôl yr amcangyfrif, mi fyddai codi'r trothwy yn costio tua £60 miliwn y flwyddyn.
Fe fyddem ni mewn Llywodraeth yn cyhoeddi amserlen glir ar gyfer y camau nesaf ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim i bawb, gan ddechrau efo'r plant ieuengaf, ac yna ymlaen. Ac eto, yn ôl yr amcangyfrif, byddai cyflwyno prydau bwyd am ddim i blant tair blynedd gyntaf yr ysgol gynradd yn costio tua £30 miliwn y flwyddyn. Felly, wrth gwrs, oes, mae yna gostau ychwanegol ynghlwm ag ymestyn y polisi, a dyna pam y byddem ni'n symud fesul cam. Ond mae hwn yn bolisi fyddai'n cyflawni sawl amcan polisi.
Fe fyddai o'n fodel ataliol, yn creu arbedion ariannol yn y pen draw oherwydd fe fyddai yna well deilliannau iechyd ac addysg i'n plant ni. Byddai'n bolisi holistaidd, yn cefnogi economi Cymru, a thrwy leihau milltiroedd bwyd, mi fyddai'n llesol i'r amgylchedd hefyd. Dyma fyddai Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol ar waith: gwella sawl agwedd ar lesiant, ystyried effaith tymor hir y polisi ac atal problemau hirdymor, fel tlodi, anghydraddoldeb iechyd a newid hinsawdd.
Yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru wedi gollwng ei tharged i ddod â thlodi plant i ben erbyn 2020, tra bod 129,000 o blant oed ysgol o Gymru yn byw o dan linell dlodi'r Deyrnas Unedig, gyda dim ond dros hanner ohonyn nhw yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae'r hanner arall yn colli allan, yn bennaf oherwydd bod eu rhieni mewn swyddi â chyflog isel sy'n eu cymryd nhw dros y trothwy cymhwysedd. Mae Cymru yn darparu llai o brydau wedi eu coginio am ddim i'w phlant ysgol ar hyn o bryd nag unrhyw genedl arall yn y Deyrnas Unedig. Yn yr Alban a Lloegr, mae pob plentyn oedran ysgol yn nhair blynedd gyntaf eu haddysg yn derbyn prydau ysgol am ddim, beth bynnag bo incwm y teulu. Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r trothwy enillion presennol i'r sawl sy'n derbyn credyd cynhwysol wedi ei osod yn llawer uwch, sef £14,000, gan helpu i gefnogi llawer mwy o deuluoedd sy'n gweithio.
Y budd allweddol o wneud prydau ysgol am ddim i bawb ydy y byddai'n dileu'r stigma sy'n atal llawer o deuluoedd rhag derbyn y cynnig fel mae o ar hyn o bryd. Mi fyddai prydau ysgol am ddim i bawb yn cael gwared ar rwystrau o'r fath ac yn cyrraedd pob plentyn waeth beth fyddai sefyllfa economaidd y teulu. Mae'r buddion o ddarparu prydau ysgol am ddim yn anferth. Sut all plentyn ddysgu ar stumog wag? Sut fedrwch chi ganolbwyntio ar eich addysg chi os ydych chi'n llwglyd drwy'r amser? Mae plant fydd yn cael pryd bwyd iachus bob dydd yn tyfu yn blant iachach, yn arwain at lai o ordewdra a phroblemau iechyd eraill. Byddai prydau ysgol am ddim i bawb yn gwella iechyd pob plentyn. Mae yna ymchwil gan Sefydliad Nuffield sy'n dangos hyd yn oed i blant rhieni sydd yn lled gefnog, fod prydau ysgol yn fwy cytbwys o ran maeth na'r hyn sydd yn eu bocsys cinio nhw. Ac fe fyddai cysylltu'r prydau bwyd â'r gadwyn fwyd lleol yn dda i'r economi ac i'r amgylchedd, a byddai disgyblion yn gallu dysgu am y budd o fwyta bwyd da, ffres, lleol gan gynhyrchwyr bwyd lleol.
Dychmygwch lond neuadd o blant yn cymdeithasu dros bryd bwyd maethlon—pawb o'r plant; amser cinio yn rhan annatod o'u dysgu nhw, a'r plant yn cefnogi ei gilydd dros bryd bwyd, yn dysgu am werth bwyd lleol a bwyd iach, yn ymweld â'r cynhyrchwyr bwyd a'r ffermydd lleol, yn gwneud y cysylltiadau rhwng gwahanol elfennau ac yn dysgu bob math o sgiliau newydd efo'i gilydd. Llawer iawn o resymau, felly, i bawb gefnogi'r cynnig a phleidleisio dros yr hyn sydd gerbron y prynhawn yma a mabwysiadu'r polisi pwysig yma. Diolch.
Mae'r Llywydd wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Addysg i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru:
a) wedi darparu dros £50 miliwn o gyllid ychwanegol i sicrhau bod y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim yn parhau yn ystod y pandemig ac mai dyma’r llywodraeth gyntaf yn y DU i wneud darpariaeth o’r fath yn ystod gwyliau ysgol;
b) wedi darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod plant sy’n hunanynysu neu’n gwarchod eu hunain yn parhau i dderbyn darpariaeth prydau ysgol am ddim pan nad oes modd iddyn nhw fynd i’r ysgol;
c) yn darparu cyllid o £19.50 yr wythnos i deuluoedd sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sef y ddarpariaeth fwyaf hael yn y DU;
d) wedi sicrhau mai Cymru yw’r unig wlad yn y DU o hyd i gael brecwast am ddim i bawb mewn cynllun i ysgolion cynradd;
e) wedi cael cydnabyddiaeth gan y Sefydliad Polisi Addysg am lwyddo i sicrhau bod teuluoedd sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y pandemig wedi cael mynediad at gymorth priodol ac amserol;
f) wedi ymrwymo i adolygu’r trothwy incwm ar gyfer cael prydau ysgol am ddim pan fydd data Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) ar gael fis Ebrill 2021.
Rwy'n cynnig yn ffurfiol.
Diolch. A galwaf ar Suzy Davies i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 2—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r meini prawf cymhwysedd presennol ar gyfer prydau ysgol am ddim yng Nghymru.
2. Yn cydnabod y caledi ariannol y mae teuluoedd wedi'i wynebu ledled Cymru o ganlyniad i bandemig y coronafeirws a'r heriau y mae hyn wedi'u hachosi i rieni a gwarcheidwaid, a'i effaith ar y galw am brydau ysgol am ddim.
3. Yn croesawu'r rôl sydd gan brydau ysgol am ddim o ran gwella iechyd a maeth.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim er mwyn ymestyn y ddarpariaeth i:
a) dysgwyr mewn addysg bellach; a
b) teuluoedd heb incwm ac nad ydynt yn gallu hawlio arian cyhoeddus ar unwaith.
Diolch, Gadeirydd, ac rwy'n cynnig ein gwelliant. Yn gyntaf oll, a gaf fi ymddiheuro i Blaid Cymru am orfod cynnwys gwelliant 'dileu popeth'? Nid wyf yn hoffi gwneud hynny, ond roedd hi'n amhosibl datglymu'r rhannau o'r cynnig roeddem yn cytuno i ryw raddau â hwy a'r rhai nad oeddem yn cytuno â hwy. Mae'r hyn y ceisiasom ei gadw ym mhwynt 4(b) ein gwelliant. Credaf fod rhywbeth i'w ddweud am hawl i gael cinio ysgol am ddim i'r plant y mae eu hamgylchiadau y tu allan i'r meini prawf presennol oherwydd argyfyngau penodol. Os ydych yn fenyw sy'n dianc gyda'i phlant rhag trais domestig, neu os ydych yn rhiant y mae eich iechyd meddwl gwael eich hun wedi eich atal yn amlwg rhag cymryd rhan mewn proses i'ch troi allan neu i hawlio eich budd-daliadau, neu os oes oedi hyd yn oed o ran cael budd-daliadau—ac rwy'n siŵr y bydd enghreifftiau eraill—efallai na ddylech orfod poeni hefyd am ddibynnu ar ddisgresiwn rhywun er mwyn i'ch plentyn allu bwyta, ac os caiff y bwyd hwnnw ei gaffael yn lleol ac yn iach, gorau oll.
Rydym hefyd wedi cydnabod yn ein gwelliant fod rhai teuluoedd na fyddent efallai wedi cael trafferth mewn amgylchiadau arferol i dalu am fwyd eu plant wedi ei chael yn anos yn ddiweddar, ac er nad yw wedi'i nodi—efallai y dylwn fod wedi'i gynnwys, mewn gwirionedd—rydym yn cefnogi ymestyn darpariaeth cinio ysgol am ddim gan Lywodraeth Cymru yn ystod cyfnodau gwyliau tra byddwn ynghanol y pandemig, gan helpu i ddiwallu anghenion plant sydd newydd ddod yn gymwys i gael ciniawau ysgol am ddim yn ogystal â'r rhai sydd eisoes â hawl. Rwy'n credu bod hynny wedi bod yn werthfawr iawn tra'n bod ni i gyd yn wynebu'r cythrwfl hwn. Ond ni ddylai hynny lithro'n dawel i barhau am byth, a dyma lle rydym yn dechrau dilyn llwybr gwahanol i'r cynnig i ddarparu prydau ysgol am ddim i bawb.
Clywais y drafodaeth rhwng y Prif Weinidog ac Adam Price ddoe, a chlywais yr adroddiad a roddwyd gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yn lansiad adroddiad cymdeithas sifil Cymru yr wythnos diwethaf i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn—diolch, Helen Mary—a byddem yn cytuno bod plant yn teimlo'n dda ac yn dysgu'n well os gofalir yn dda am eu maeth. A dyma'r prif reswm dros gefnogi mesurau sy'n sicrhau y gall plant o deuluoedd tlotach gael prydau ysgol am ddim—cinio a brecwast—ond os ydych yn gweithio, ac yn ennill incwm cymedrol hyd yn oed, ei brif bwrpas yw eich helpu i gymryd cyfrifoldeb dros ofalu amdanoch chi eich hun a'ch teulu.
Dylai lle'n union i dynnu'r linell rhwng talu neu beidio â thalu am brydau ysgol eich plant fod yn agored i'w adolygu bob amser yn fy marn i. Ond mae rhoi'r cyfrifoldeb yn barhaol ar ysgwyddau'r wladwriaeth yn cael gwared ar reddf greiddiol a dwfn iawn ac yn mynd i wraidd bod yn rhiant. Ni ddylai fod unrhyw stigma o gwbl ynghlwm wrth fod angen pryd ysgol am ddim i'ch plentyn, ond os gallwch dalu amdano, fe ddylech wneud hynny, a'r rheswm na allwn gefnogi gwelliant sy'n dderbyniol fel arall gan Lywodraeth Cymru yw'r ymrwymiad parhaus i ddarparu brecwastau am ddim i bawb. Ceir teuluoedd lle nad oes gan blant hawl i gael cinio ysgol am ddim sydd naill ai'n bwydo eu plant gartref cyn iddynt adael neu sy'n gallu talu am frecwast pan fydd eu plentyn yn cael ei ollwng cyn i'r ysgol ddechrau. Gadewch iddynt gyfrannu at gost hynny os oes angen. Mae cyfrifiad 2020 yn dangos bod 61,389 o ddisgyblion a myfyrwyr wedi cael brecwast am ddim yn yr ysgol, ac eto dim ond 12,564 ohonynt—hynny yw tua un rhan o bump—o'r rheini oedd yn gymwys i gael ciniawau ysgol am ddim.
Yr un yw'r dadleuon yn y bôn â'r rhai yn erbyn presgripsiynau am ddim, ac mae'n gyfle i dynnu sylw'r Aelodau at y ffaith drist barhaus ein bod yn dal i fethu creu'r amgylchedd yng Nghymru sy'n meithrin twf mewn swyddi mwy cynaliadwy sy'n talu'n well ac sy'n cynnig sicrwydd ariannol i bobl, yn enwedig menywod, er gwaethaf cyllid gofal plant. Mae'r pandemig wedi amlygu pa mor fregus oedd ein ffigurau cyflogaeth gwell, gyda thwf mwy serth mewn cyflogaeth yn y tri mis diwethaf nag yn unrhyw ran arall o'r DU. Fel y dywed Ymddiriedolaeth Trussell eu hunain, mae'n cymryd mwy na bwyd i roi diwedd ar newyn. Felly, mae pob un ohonom yn anesmwyth ac yn poeni bod tlodi plant mor ystyfnig, ond mae angen i Lywodraethau gydweithio i gynyddu ffyniant addysgol, economaidd a chymdeithasol, nid gweithredu fwyfwy in loco parentis.
Yn olaf, rwy'n credu y gallai fod yn syndod efallai i rai Aelodau y gall disgyblion chweched dosbarth fod â hawl i gael prydau ysgol am ddim pan nad oes hawl o'r fath gan eu grŵp cyfoedion mewn addysg bellach, ac rwy'n siŵr ei fod yn ymwneud â strwythurau ariannu, ond roedd y cynnig gwreiddiol yn ymwneud â hawl yn disodli disgresiwn, ac mae'n anodd gweld pam, felly, os na allwn ddod o hyd i hawl gyfartal i bobl ifanc 16 i 18 oed. Fel Ceidwadwyr Cymreig, gwelwn rinwedd ymestyn yr hawl i hyfforddiant addysgol tan y bydd myfyriwr yn 18 oed os nad ydynt mewn gwaith—sydd ei hun yn gam tuag at fynd i'r afael â thlodi—ac mae'n dilyn y dylai hynny fod yn seiliedig ar gymorth cyfartal. Diolch.
Mae prydau ysgol am ddim yn ymwneud â mwy na bwydo plant llwglyd—maent yn ymwneud â mynediad at addysg, gallu plant i ganolbwyntio mewn gwersi, a sicrhau lles, iechyd a chyrhaeddiad. Mae'r pandemig rydym i gyd yn byw drwyddo wedi ein gorfodi i wynebu llawer o anghyfiawnderau sy'n rhan mor annatod o'n cymdeithas fel eu bod wedi dod i ymddangos yn endemig. Mae traean o blant Cymru yn byw mewn tlodi, ac fel y mae'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant wedi cyfrifo, nid oes mwy na'u hanner yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim oherwydd diffygion yn y meini prawf cymhwysedd a phrofion modd dideimlad. Mae'n anghyfiawnder ar ben anghyfiawnder—plant sy'n byw islaw'r llinell dlodi nad ydynt yn gymwys i gael cymorth er hynny. Byddai ein cynnig fel y'i nodir yn unioni hyn drwy ymestyn y cymhwysedd i bob plentyn o deuluoedd sy'n derbyn credyd cynhwysol, neu deuluoedd nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt. Yn hollbwysig, byddem yn gwneud hyn fel cam cyntaf tuag at ddarparu prydau ysgol am ddim i bawb, i ddysgu'r gwersi gan wledydd fel y Ffindir a sicrhau bod malltod cywilyddus plant sy'n rhy llwglyd i ddysgu yn cael ei ddiddymu am byth.
Oherwydd nid yw prydau ysgol yn dechrau ac yn gorffen gyda'r pryd bwyd. Maent yn creu profiadau a rennir, maent yn creu agosrwydd, yn atal stigma a chywilydd. Maent yn lleihau straen i blant a theuluoedd ac yn hyrwyddo datblygiad emosiynol a chorfforol plant. Mae plant sy'n llwglyd yn fwy tebygol o ddioddef afiechydon cronig, gorbryder ac iselder, ac maent yn fwy tebygol o fynd ymlaen i ddioddef clefydau fel canser, diabetes a chlefyd y galon. Dyna'r effaith y mae newyn gwanychol yn ei chael.
Wrth gwrs, mae prydau ysgol am ddim wedi bod yn uchel ar yr agenda ledled y DU yn ddiweddar oherwydd ystyfnigrwydd Llywodraeth Lloegr i ddarparu prydau yn ystod gwyliau ysgol. Yn y dadleuon hynny yn San Steffan, dangosodd rhai ASau Ceidwadol ochr hyllaf eu gwleidyddiaeth. Dywedodd un AS nad oedd yn credu mewn gwladoli plant, fel pe bai cymryd y cam sylfaenol o sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llwglyd yn gyfystyr â dweud bod y Fyddin Goch wrth y drws.
Gadeirydd, roedd hi'n arfer bod yn bosibl anfon plant i weithio fel glanhawyr simneiau. Roedd hi'n arfer bod yn bosibl anfon plant i weithio o dan y ddaear. Dim ond drwy ddeddfwriaeth gan ddechrau gyda Deddf y pyllau glo yn 1842 y rhoddwyd y gorau i hynny, Deddf a olygai mai dim ond bechgyn hŷn na 10 oed a gâi weithio yn y pyllau glo. Mae'n ymddangos yn farbaraidd i ni nawr, ond roedd yn gam pwysig. Pan fydd cenedlaethau'r dyfodol yn edrych yn ôl arnom, tybed pa mor farbaraidd fydd hi'n ymddangos iddynt hwy ein bod yn caniatáu i blant fynychu dosbarthiadau gyda'u stumogau'n wag. Mae Deddf 1842 wedi golygu bod y wladwriaeth, ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, wedi ysgwyddo cyfrifoldeb dros les plant. Mae'n gam bach o hynny i dderbyn bod gan y Llywodraeth ddyletswydd i atal plant rhag newynu. Gadeirydd, mae llawer o feysydd mewn gwleidyddiaeth lle bydd pleidiau'n anghytuno—masnach, trethiant, targedau. Ond ceir llinell sylfaen o weddusrwydd, neu fe ddylai fod. Dylai fod bar na ddylem byth suddo oddi tano. Dylai sicrhau bod pob plentyn yn cael ei amgylchynu gan gymorth a thosturi a'i fwydo fod yn llawer uwch na'r bar hwnnw. Dylai unrhyw un sy'n anghytuno archwilio eu cydwybod.
Cafwyd dadl bwysig, y cyfeiriwyd ati eisoes, yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe, pan gyfeiriodd y Prif Weinidog at bamffled o'r 1940au am brydau ysgol o dan y pennawd 'And they shall have flowers on the table'. Mae'r pennawd awgrymog hwnnw'n mynd i wraidd y ddadl hon. Ni ddylai prydau ysgol ymwneud â darparu'r isafswm lleiaf posibl. Ni ddylent byth fod yn destun stigma na chywilydd. Dylent fod yn borth i fywydau iach, yn awydd i ymgysylltu â'r ysgol a hapusrwydd na ddylai fod yn foethusrwydd i'r plant y gall eu teuluoedd ei fforddio. Yn union fel y mae cymhwysedd ar gyfer prydau am ddim yn agor gwasanaethau eraill fel help gyda gwisg ysgol, gwersi cerddoriaeth a theithiau ysgol, dylem hefyd weld prydau ysgol fel ffordd o helpu plant i gael profiadau ffurfiannol a gwerthfawr.
Gadeirydd, mae'r ddadl ynghylch prydau ysgol am ddim wedi dod yn un dotemig gan ei bod yn siarad am y gwerthoedd rydym ni fel cymdeithas yn eu rhoi ar fywydau ein plant. Nid dadl am economeg yn unig yw hi. Mae'n ymwneud â phwysigrwydd llawenydd, tosturi a rhoi gobaith i bobl ifanc. Ni all unrhyw anghyfiawnder byth fod y tu hwnt i'w unioni. Rhaid inni greu cymdeithas lle mae ein plant yn cael eu bwydo, lle bydd ganddynt flodau ar y bwrdd a lle bydd ganddynt reswm i ganfod llawenydd.
Rwy'n falch iawn fod y mater hwn yn cael ei drafod heddiw. Gofynnais o'r blaen am ddatganiad neu ddadl gan Lywodraeth Cymru ar y mater, gan nad wyf yn credu mai plant sy'n llwglyd neu sy'n dibynnu ar fanciau bwyd yw'r hyn rwyf fi a'r rhan fwyaf o'r Aelodau yma am ei weld. Cyflwynais lawer o gwestiynau ysgrifenedig eleni hefyd ar brydau ysgol am ddim.
I lawer o blant, y pryd ysgol am ddim yw eu prif bryd ar gyfer y dydd. I ailadrodd rhywbeth a ddywedais droeon yn y Siambr ar wyliau ysgol, rhaid i rieni ddarparu 10 pryd ychwanegol i bob plentyn yr wythnos yn ystod gwyliau'r ysgol. Os oes gennych bedwar o blant, dyna 40 pryd bwyd. Dyna pam rwyf wedi gofyn yn gyson am ddarpariaeth barhaus o brydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r ysgol adeg y Nadolig a'r Pasg. A wnaiff y Llywodraeth gadarnhau y bydd hyn yn cael ei ddarparu yn ystod hanner tymor hefyd, oherwydd bydd angen bwydo plant bryd hynny hefyd? Rwyf hefyd yn galw ar y Llywodraeth, pan fyddant yn pennu eu cyllideb ar gyfer 2020-21, i gyllidebu ar gyfer prydau ysgol am ddim ar gyfer pob gwyliau ysgol gan gynnwys pob gwyliau hanner tymor.
Nid wyf yn siŵr a yw pob Aelod yn deall tlodi. Mae rhai ohonom yn ei ddeall o brofiad personol; i ni, mae'n brofiad byw, nid pwynt haniaethol mewn dadl. Mae'n real. Effeithiodd arnom ni a phobl y cawsom ein magu gyda hwy ac yr aethom i'r ysgol gyda hwy. Felly, mae'r rheini ohonom sy'n dod o gefndir penodol yn gwybod beth yw cinio ysgol. Y rheswm pam ein bod yn gwybod beth yw cinio ysgol yw oherwydd mai dyma brif bryd y dydd ac fe'i dilynir gan 'de'. Mae'n cadw llawer o blant wedi'u bwydo'n ddigonol, dyna pam rwy'n falch iawn y bydd yn cael ei ddarparu dros y gwyliau nesaf. Pan oeddwn yn yr ysgol, ni fyddai disgyblion yn mynychu gwersi, byddent yn gwneud yr hyn a arferai gael ei ddisgrifio fel 'mitsio', ond byddent yn dod i'r ysgol amser cinio er mwyn cael eu pryd ysgol am ddim fel y byddent yn cael eu bwydo, oherwydd dyna fyddai'r prif bryd y byddent yn ei gael y diwrnod hwnnw. Os ydych am wybod beth yw cefndir rhywun, gofynnwch iddynt pryd mae cinio—ai am hanner dydd neu gyda'r nos? Byddai pobl fel fi'n sicr o ddweud 'canol dydd'; credaf y byddai'r rhan fwyaf o'r bobl yn y Siambr yn dweud 'gyda'r nos'.
Rwy'n cefnogi rhan gyntaf y cynnig, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio'n syth y meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim fel bod unrhyw blentyn, unrhyw deulu sy'n cael credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol, ac unrhyw blentyn mewn teulu nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt yn gymwys. Byddai ehangu cymhwysedd yn helpu teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi. Byddai'n gwella canlyniadau addysgol, fel y dywedodd Delyth Jewell, rwy'n credu, ac yn helpu i fynd i'r afael â thlodi mewn gwaith. Credaf ein bod weithiau'n anghofio, os yw plant yn cael eu bwydo'n wael, fod eu perfformiad yn yr ystafell ddosbarth yn debygol o fod yn sylweddol is. Os ydych chi'n poeni am fwyta, mae'n debyg fod astudio mathemateg yn llawer llai pwysig yn eich bywyd. Nid oes gan dros hanner plant Cymru sy'n byw islaw llinell dlodi'r DU hawl i gael prydau ysgol am ddim. O'r 129,000 o blant oedran ysgol sy'n byw islaw'r llinell dlodi yng Nghymru, nid yw dros 70,000 yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Fy etholwyr i yw llawer ohonynt. Maent yno'n bennaf oherwydd bod eu rhieni mewn swyddi ar gyflogau isel sy'n eu codi dros y trothwy cymhwysedd. Yn ogystal, nid yw bron i 6,000 o blant yng Nghymru fel arfer yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim gan nad yw cyllid cyhoeddus ar gael i'w teuluoedd. Mae llawer o'r plant hyn yn byw mewn tlodi dwys, hirdymor ac mae angen cymorth arnynt ar frys. Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hyn ar frys ar gyfer y flwyddyn nesaf.
A yw Plaid Cymru yn credu bod darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn yn ddefnydd da o adnoddau cyfyngedig? A yw wedi'i gostio? A fydd yn ymddangos yng nghyllideb arfaethedig Plaid Cymru ar gyfer 2020-21? Beth yw'r amcangyfrif o gost cynnwys pawb? A oes problem o ran capasiti? Os yw'r ysgol yn defnyddio'r neuadd, fel y mae mewn llawer o ysgolion cynradd, ar gyfer darparu prydau bwyd, ac addysg megis addysg gorfforol, sut y daw'r cyfan at ei gilydd? Capasiti cegin; capasiti gweini; trefnu sawl eisteddiad yn seiliedig ar gapasiti'r neuadd; amseru eisteddiadau—mae gan rai ysgolion ddau eisteddiad nawr, a sut y gellid trefnu tri neu bedwar? Ar ddarparu cinio ysgol am ddim i bawb, pennawd gwych, heb ei ystyried yn llawn. Ond mae angen inni ehangu'r ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn angen. Mae angen inni ymrwymo i ehangu'r ddarpariaeth, mae angen inni ymrwymo i'w pharhau drwy'r gwyliau. Bydd hyn, fel y dywedais yn gynharach, yn gwella cyrhaeddiad addysgol. Bydd plant sy'n cael eu bwydo'n dda yn gwneud yn well gan nad ydynt yn poeni am fwyta ac maent yn treulio llawer mwy o amser yn meddwl am yr hyn a ddysgir iddynt.
Sut y caiff ei ariannu? Rwy'n credu fy mod yn un o'r ychydig bobl sy'n meddwl am syniadau ynglŷn â sut y dylid ariannu pethau—nid rhywbeth a fydd yn mynd i lawr yn dda iawn gyda fy mhlaid fy hun, byddwn yn disgwyl. Fel rwy'n dal i ddweud, allan o bortffolio'r economi a thrafnidiaeth. Fel y dywedaf o hyd, cyrhaeddiad addysgol uwch yw'r offeryn datblygu economaidd gorau—llawer gwell nag iro llaw cwmnïau i ddod â ffatrïoedd cangen i Gymru i'w cadw yma am ychydig flynyddoedd ac yna gadael. Mae angen inni sicrhau bod ein plant yn cael eu bwydo'n dda, ac y gall pob plentyn wneud y gorau y gallant, fel bod gennym weithlu medrus iawn, ac efallai y bydd hynny'n ateb yr hyn a ddywedodd Suzy Davies am gyflogau isel. Mae gennym gyflogau isel oherwydd bod gennym sgiliau isel. Mae angen inni wella ein sylfaen sgiliau. Un o'r ffyrdd o wneud hynny yw sicrhau bod plant wedi cael eu bwydo pan fyddant yn mynd i mewn i'r ystafell ddosbarth.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd dros dro. Dwi'n dod at y ddadl yma o ddau bersbectif—yn gyntaf fel rhiant sy'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd deiet iach a maethlon i'm mhlant i, fel i bob plentyn, ond hefyd, wrth gwrs, o safbwynt sut y gellid defnyddio'r polisi yma fel cyfle i ddiwygio arferion caffael ar yr un pryd er mwyn creu a datblygu cadwyni cyflenwi bwyd lleol, a'r cyfleoedd sy'n dod gyda hynny wedyn i'r sector bwyd a'r economi ehangach.
Mae'r pandemig, wrth gwrs, wedi amlygu gwendidau sylfaenol yn y system fwyd yn y rhan yma o'r byd, ac mi wnaeth Plaid Cymru ymhelaethu yn sylweddol ar hynny yn ein dadl ni ar fwyd ryw bythefnos yn ôl. Ond, ychwanegwch chi oblygiadau Brexit—ac mae'n debyg y byddwn ni nid yn unig yn gweld caledi economaidd a lefelau diweithdra yn cynyddu, ond mae'n debyg y bydd Brexit hefyd yn arwain at gynnydd mewn prisiau bwyd a heriau o ran cyflenwadau bwyd, yn enwedig bwydydd ffres megis ffrwythau a llysiau—ac mae yna berygl y bydd dibyniaeth ar fanciau bwyd yn cynyddu ac y gwelwn ni'r anghydraddoldeb bwyd sydd eisoes i'w weld yn y wlad yma yn dwysáu, gyda system fwyd ddwy haen yn dod yn nodwedd amlycach o'n cymdeithas ni, sef y sawl sy'n gallu fforddio bwydo eu teuluoedd a'r rhai sy'n methu â gwneud hynny.
Nawr, wrth gwrs, prif ffocws y polisi yma yw sicrhau bod pob plentyn yn cael y bwyd a'r maeth sydd eu hangen arnyn nhw a, thrwy hynny, wella deiet ac iechyd ein plant ar yr un pryd. Rŷm ni'n gwybod bod lefelau gordewdra yn cynyddu yng Nghymru. Rŷm ni'n gwybod hefyd nad yw dros tri chwarter oedolion Cymru yn cael eu pump y dydd o ran bwyta llysiau a ffrwythau. Ond, yn frawychus, mae hynny'n codi i 94 y cant o blant rhwng 11 a 18 oed ddim yn cael eu pump y dydd pan fydd hi'n dod i lysiau a ffrwythau. Yn fwy na hynny, mae llai na thraean o bobl ifanc Cymru yn dweud eu bod yn bwyta dogn o lysiau unwaith y dydd, ac mae hynny'n dod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Nawr, mae afiechydon yn deillio o ddeiet gwael, ac mae hynny'n costio o gwmpas £73 miliwn y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru. Felly, mae'n rhaid gwneud mwy i fynd i'r afael â hyn. Byddai sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn derbyn bwyd iach ac am ddim yn yr ysgol yn helpu i atal gordewdra, fel yr oeddwn yn ei ddweud, ond hefyd yn lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd.
Ond, fel roeddwn i'n dweud ar y cychwyn, mae yna gyfle fan hyn hefyd i wireddu buddiannau ehangach a mwy pellgyrhaeddol yn sgil polisi o'r math yma. Rŷm ni eisiau gweld cynhwysion y ciniawau ysgol yma yn cael eu darparu o ffynonellau lleol, a fyddai wedyn yn cynnig cyfle pwysig i gefnogi a chryfhau economïau lleol. Byddai defnyddio mwy o lysiau, ffrwythau a chynhwysion lleol ar gyfer prydau ysgol yn helpu i greu marchnad leol newydd i'n ffermwyr ni, ond mi fyddai'n farchnad ragweladwy ac yn farchnad warantedig. Byddai hynny wedyn, wrth gwrs, yn helpu i gryfhau cadwyni cyflenwi lleol. Mae gormod o gyfoeth yn cael ei golli o'n cymunedau ni, fel rŷm ni'n gwybod, drwy gaffael gan ddarparwyr o bell i ffwrdd. Dwi wedi dweud o'r blaen fod yr economi leol fel bwced â nifer o dyllau yn y bwced hwnnw, gyda'r cyfoeth yn llifo allan o'r gymuned leol. Mae hwn yn gyfle inni roi plỳg yn rhai o'r tyllau hynny a chadw'r pres yna yn cylchdroi oddi mewn i'r economi leol. Mi fyddai hefyd yn help i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, fel y mae un neu ddau wedi cyfeirio ato'n barod. Mi fyddai creu disgwyliad bod cynnyrch, fel llysiau a chig, yn cael ei ddarparu'n lleol yn lleihau milltiroedd bwyd, ac felly'n amlwg yn helpu i dorri allyriadau carbon.
Mi fyddai hefyd yn rhoi hwb sylweddol i'r sector garddwriaethol yng Nghymru. Pe bai safonau bwyd ysgolion, er enghraifft, yn cael eu diwygio i gynnwys dau ddogn o lysiau ym mhob pryd amser cinio, fe allai hynny greu cynnydd o 44 y cant mewn cynhyrchiant garddwriaethol domestig. Rŷm ni'n gwybod bod o leiaf 13 o wahanol fathau o lysiau sy'n cael eu tyfu ym Mhrydain lle byddai'n eithaf hawdd cynyddu eu cynhyrchiant nhw yn sylweddol. Felly, mae'n bolisi digon realistig ac yn bolisi digon cyraeddadwy, a fyddai'n creu swyddi ac ar yr un pryd yn lleihau ein dibyniaeth ni ar fewnforion. Ond dim ond 0.1 y cant o dir amaethyddol Cymru sy'n dir garddwriaethol ar hyn o bryd. Yn ôl Tyfu Cymru, mae Cymru ddim ond yn cynhyrchu digon i ddarparu un chwarter o un dogn o lysiau y dydd i bobl Cymru. Mae mawr angen newid hynny, wrth gwrs. Mae gwaith ymchwil gan Gynghrair Polisi Bwyd Cymru yn dangos y gallai'r dull hwn o weithio greu dwsinau o swyddi amaeth-ecolegol graddfa fawr, neu fwy na 500 o swyddi trwy fentrau amaeth-ecolegol graddfa llai, gydag allbwn ariannol i'r sector o bron i £400 miliwn—sori, £4 miliwn, nid £400 miliwn; byddai hynny'n game changer go iawn.
Ond mae'n rhaid peidio anghofio hefyd, wrth gwrs, y byddai darparu mwy o fwyd iach, lleol yn rhoi cyfle ar yr un pryd i gryfhau ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc am y cysylltiad pwysig yna sydd rhwng eu hysgol a'u hardal leol, gyda busnesau lleol, y sector amaethyddol, a'r amgylchedd naturiol, wrth gwrs, sy'n cefnogi ein system fwyd ni. Bwyta'n iach, cefnogi'r economi leol, dysgu am rwydweithiau a phrosesau bwyd lleol, a chysylltiad hynny gyda'r amgylchedd leol. Pwy feddyliai y gallai newid polisïau yn ymwneud â chinio ysgol, a chynyddu'r lefel o giniawau ysgol am ddim, ddod â buddiannau mor amrywiol, mor aml-haen, a chanolog, wrth gwrs, i'r math o adferiad rŷn ni i gyd am ei weld?
Mae hyn i gyd i'w groesawu'n fawr, gan fy mod wedi bod yn dadlau'r achos dros brydau ysgol am ddim i bawb mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ers cryn amser. Felly, rwy'n croesawu'n fawr lefel y cytundeb ar draws y tair plaid ar bwysigrwydd y mater hwn. Mae rhywfaint o anghytundeb ar yr ymylon, y gallem gael gwared arno maes o law. Ond rwy'n credu, i fynd ar ôl rhai o'r pwyntiau sydd eisoes wedi'u gwneud—er enghraifft, mae Suzy Davies yn cwestiynu a ddylai rhieni nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim dalu am y gofal cofleidiol y maent yn ei gael i bob pwrpas drwy alluogi eu plant i fynychu'r brecwast am ddim mewn ysgolion. Credaf fod angen inni gydnabod bod llawer o rieni'n ei ddefnyddio fel gofal plant, ond yn yr un ffordd, mae'r gofal cofleidiol y mae'r brecwast am ddim mewn ysgolion yn ei ddarparu hefyd yn eu galluogi i fynd allan i'r gwaith. Yn aml, dyna'r ffactor fydd yn eu galluogi i gael swyddi a bod yn well eu byd.
Felly, rwy'n credu bod llawer iawn o rinweddau yn yr hyn a ddywedwyd yn flaenorol, ond rwy'n credu bod angen gwneud llawer o waith i wneud i hyn ddigwydd mewn gwirionedd, oherwydd nid yw'n fater syml o agor y tap dros nos, ac mae angen inni baratoi ein gwasanaethau caffael cyhoeddus i weld faint yn union sydd ei angen ar ba ysgol, yn ogystal â sicrhau bod gennym gogyddion medrus wedi'u hyfforddi i goginio'r prydau bwyd ffres a maethlon y rhagdybir y byddem yn eu gweld wedyn, oherwydd nid oes diben cael prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, er enghraifft, os yw ansawdd y prydau mor wael fel bod llawer ohonynt yn dewis peidio â'u cael.
Fel y dywedodd Siân Gwenllian eisoes, mae galluogi pawb i gael pryd ysgol am ddim yn dileu'r stigma sydd ar hyn o bryd yn atal llawer o bobl sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim rhag manteisio arni. Ac nid yw eraill yn ymwybodol o'r manteision y byddai ganddynt hawl iddynt pe gallent ymddiried digon mewn pobl i ddatgelu cyn lleied y maent yn byw arno. Ac nid oes amheuaeth nad yw'r tlodi a welwn o'n cwmpas yn mynd i waethygu o ganlyniad i'r pandemig a'r aflonyddwch a achosir drwy adael yr Undeb Ewropeaidd mor ddisyfyd.
Hoffwn sôn am y cynlluniau peilot i ddarparu prydau ysgol am ddim i bawb a ddigwyddodd yn Lloegr, oherwydd ar ôl ei wneud, gwelir ei fod yn cadarnhau manteision hyn. Felly, Islington oedd yr arloeswr, lle roeddwn yn arfer bod yn gynghorydd flynyddoedd lawer yn ôl, gyda llaw. Ond ysbrydolodd hynny Lywodraeth Lafur y DU i ddechrau cynlluniau peilot i roi prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yn Newham yn Llundain, yn Wolverhampton, ac yn Durham. Ac yn Newham a Durham, roedd y canlyniadau'n wirioneddol arwyddocaol, oherwydd cododd nifer y rhai sy'n manteisio ar brydau ysgol o ychydig o dan 50 y cant i 87 y cant nawr mewn un ardal, ac 85 y cant yn Durham. Fel y byddech yn disgwyl, roedd llawer mwy o blant yn bwyta llysiau amser cinio. Roedd wedi codi un rhan o bump. Ac roedd gostyngiad serth yn yr eitemau sy'n gysylltiedig â phecyn cinio, h.y. brechdanau, diodydd meddal a chreision. Mae brechdanau'n dal i fod yn bob math o bethau; gallant fod yn faethlon iawn, neu gallant fod yn gyfan gwbl fel arall. Ond nid oes gan ddiodydd meddal a chreision y nesaf peth i ddim gwerth maethol o gwbl.
Ond rwy'n credu, yn academaidd, yr hyn oedd yn ddiddorol iawn oedd bod myfyrwyr ar gyfartaledd ddeufis ar y blaen i'w cyfoedion mewn ysgolion nad oeddent yn cael y fantais hon. A chafodd fwy o effaith ar lefelau llythrennedd na chyflwyno'r awr lythrennedd orfodol ym 1998. Felly, cafodd effaith enfawr ar gyrhaeddiad llythrennedd plant, ac roedd y gwelliannau'n fwyaf amlwg ymhlith plant o'r teuluoedd llai cefnog. Ond yn ogystal â hynny, gwelodd welliant mawr mewn perfformiad academaidd ar draws pob pwnc, ac nid yw hyn yn syndod, oherwydd ni all plant ganolbwyntio os ydynt yn llwglyd. Ac mae gan bob un ohonom straeon am blant sy'n llwglyd iawn pan fyddant yn cyrraedd yr ysgol fore Llun, ac angen eu bwydo, ac yn cael eu bwydo gan athrawon sy'n eu cymryd o ddifrif.
Rwy'n credu mai'r peth y mae gwir angen inni ganolbwyntio arno yw'r gost. Oherwydd mae Cymdeithas y Pridd wedi cyfrifo, pe baem yn rhagdybio bod cost pryd yn £1.76, ar gyfer disgyblion rhwng pump a 10 oed, byddai'n costio tua £82 miliwn am brydau ysgol am ddim i bawb, ond yn ôl cyfrifiad arall byddai dros £100 miliwn. Rhaid inni gyfrifo hyn yn iawn mewn gwirionedd, ond os oes gan bob un ohonom ymrwymiad i gyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb ar gyfer pob ysgol gynradd yn y Senedd nesaf, rwy'n credu y byddem yn sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno, yn raddol ac yn unol â'r economi sylfaenol a Deddf lles cenedlaethau'r dyfodol.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon i'r Senedd heddiw ar y pwnc hollbwysig hwn. Hoffwn ddechrau, os caf, drwy ddiolch i arweinyddiaeth ac ymdrechion penderfynol Llywodraeth Cymru, ac yn fy ardal i, i gyngor Caerffili, am gynnig darpariaeth leol arloesol o brydau ysgol am ddim. Ni fu erioed fwy o angen am brydau ysgol am ddim ar gynifer o blant yn ystod anobaith cynyddol y pandemig hwn, wrth i doriadau lles cosbol Llywodraeth y DU a chyfyngu ar gredyd treth a budd-daliadau barhau i wneud y tlotaf oll yn ein cymdeithas yn dlotach byth ar yr adeg hon. Felly, rwy'n talu teyrnged i Lywodraeth Cymru a chyngor Caerffili heddiw, a'u rhwydwaith anhygoel o wirfoddolwyr ar draws Islwyn. Pan aethom i mewn i'r cyfyngiadau symud, daeth cyngor Caerffili â bwydlenni lleol a chaffael lleol at ei gilydd yn gyflym ac yn ystwyth, fel y dywedwyd, i ddarparu pum pryd maethlon iach yr wythnos. Mae model yno'n barod.
Nawr, bydd llawer ohonom wedi cael ein cyffwrdd a'n hysbrydoli gan ymgyrchu cryf a phenderfynol Marcus Rashford yn ddiweddar—pwy bynnag y byddwn yn eu cefnogi yn y byd pêl-droed. Fel disgybl a oedd yn cael prydau ysgol am ddim ei hun, mae wedi bod yn gwbl ysbrydoledig ac yn fodel rôl gwirioneddol i'r rhai sy'n byw mewn tlodi heddiw, nid yn unig fel pêl-droediwr ond fel model rôl cymdeithasol. Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn Lloegr yn ei gofio, fel y byddwn ni. Ond wrth i'r Torïaid yn San Steffan barhau i wrthwynebu ymestyn y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim, cyn plygu yn y pen draw—nid oherwydd anghenion ei phobl dlotaf, os caf ychwanegu, ond yn sgil pwysau eithafol y cyfryngau cymdeithasol ac enwogion ar y mater—yma yng Nghymru, gadewch i ni fod yn onest, roedd ein Llywodraeth Lafur yng Nghymru eisoes yn arwain y ffordd, a gallwn fod yn falch hyd yma o'n cyflawniad ar brydau ysgol am ddim mewn Cymru ddatganoledig. Yn wir, mewn ymateb i ddarpariaeth warantedig Llywodraeth Cymru o brydau ysgol am ddim dros bob gwyliau ysgol tan y Pasg 2021, croesawodd Marcus Rashford ymateb cyflym Llywodraeth Cymru i'r angen dybryd i ddiogelu'r plant mwyaf agored i niwed yn y wlad.
Ond mae'n rhaid inni fod yn realistig. Fel gwlad, rydym yn dal i fod ar lefel incwm 2010 er gwaethaf mewnbynnau diweddar. Gadeirydd, ein cynnig prydau ysgol am ddim yma yng Nghymru yw'r mwyaf hael ar draws gwledydd y DU, a ni yw'r unig wlad i gynnig brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd. Ond a yw hyn yn ddigon? Nac ydy—nid yw'n ddigon mewn gwirionedd. Rydym am wneud mwy ac mae'n rhaid inni wneud mwy. Ond byddai angen i mi, fel y byddai angen i Lywodraeth Cymru, weld manylion y cynnig hwn, fel y dywedwyd. Gan mai realiti'r Llywodraeth, o'i gymharu â llunio polisïau sy'n dwyn arian o un man i dalu'r llall, neu os yw'r Torïaid yn gwneud hynny, heb unrhyw ystyriaeth i'r gyllideb gybyddlyd a fwydir fesul dogn i Gymru o'r Trysorlys—realiti'r Llywodraeth yw y bydd yn rhaid i'r polisi sylweddol iawn hwn ddod o rywle, a chan rywun arall. Felly, Lywydd, nid wyf yn genfigennus o'r dewisiadau sy'n rhaid i'r Llywodraeth foesegol, radical ac uchelgeisiol hon rwy'n perthyn iddi eu gwneud, Llywodraeth sy'n cynrychioli buddiannau'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae hon yn enghraifft dda—i gloi—ac yn ddadl dda. Felly, rwy'n croesawu'r cyfle hwn. A byddwn yn dweud hyn wrth Blaid Cymru: dangoswch y manylion hynny inni, ac awgrymu ble y down o hyd i'r arian, oherwydd rydych chi a ninnau'n gwybod na fyddwn yn ei gael gan Lywodraeth Dorïaidd greulon yn y DU sy'n gwneud pobl yn dlotach. Diolch.
Mae bwyd yn bwysig mewn cymaint o ffyrdd: iechyd a lles, ansawdd bywyd, ein heconomi a'n hamgylchedd, i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, ac yn ein hysgolion yn wir. Felly, roedd yn dda clywed y Prif Weinidog, yn ei gwestiynau ddoe, yn egluro ymrwymiad ei Lywodraeth i fynd i'r afael â phrydau ysgol ac ansawdd a sicrhau darpariaeth. Ac roedd yn eithaf clir wrth wneud hynny, onid oedd, ei fod yn dangos bod cymdeithas yn gweld gwerth addysg. Mae'n gwneud datganiad pwerus iawn i'n pobl ifanc, ac rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ar yr ymrwymiad hwnnw. Mae'n dda gweld canlyniadau ymarferol hynny—yn ystod y pandemig, er enghraifft, parhau i gael prydau ysgol am ddim pan oedd ysgolion ar gau ac yn ystod y gwyliau, a lansio ymgyrch ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i roi sylw i'r ffaith bod nifer sylweddol o bobl nad oeddynt yn hawlio prydau ysgol am ddim er bod ganddynt hawl iddynt—tua 25 y cant. Ond oes, mae llawer mwy i'w wneud.
Yn ffodus, mae gennym ymgyrchoedd cryf dros gynnydd gan y gynghrair gwrthdlodi a'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant ymhlith eraill. Mae ymchwil yr olaf yng Nghymru yn dangos bod mwy na hanner y plant sy'n byw mewn tlodi heb fod yn gymwys i gael cymorth. Felly, mewn dosbarth o 25, bydd saith o blant yn byw mewn tlodi ac ni fydd pedwar o'r rheini'n gymwys. Ceir bron i 6,000 o blant nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt o ganlyniad i bolisi Llywodraeth y DU ar statws mewnfudo, ond diolch byth, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ar gyfer prydau ysgol am ddim yn ystod COVID-19.
Ac mae'n dda gweld y rhai sydd wedi cael llwyddiant ac enwogrwydd yn defnyddio eu proffil er lles pawb. Mae Marcus Rashford yn enghraifft wych. Mae deiseb ei dasglu tlodi bwyd ar y materion hyn wedi casglu dros 1 filiwn o lofnodion. A gwelwn o waith Prifysgol Essex fod prydau ysgol am ddim i bawb yn y cyfnod sylfaen wedi arwain at fwy o bobl yn manteisio arnynt, wedi helpu teuluoedd gyda chostau byw ac wedi helpu i fynd i'r afael â gordewdra, lefelau presenoldeb gwael a'r bwlch cyrhaeddiad.
Mae COVID-19 a'r tebygolrwydd y bydd prisiau'n codi yn sgil Brexit yn gwaethygu'r problemau sy'n ein hwynebu. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â phrydau ysgol am ddim ac mae wedi ymrwymo i adolygu trothwyon incwm. Credaf y dylid adeiladu ar hyn drwy waith ar ehangu'r darpariaeth ymhellach, edrych ar y cyfnod sylfaen a'r holl addysg cyn-16, gwneud trefniadau cyfredol ar gyfer gwyliau ysgol yn barhaol ac i'r rheini nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt, ac edrych ar y materion ehangach y mae pobl wedi sôn amdanynt—sut y gellir dod o hyd i fwyd lleol o safon i'n plant ysgol i gynorthwyo gyda bwyta'n iach ac wrth gwrs, i helpu'r economi leol a'n hamgylchedd.
Mae'r materion hyn sy'n ymwneud â phrydau ysgol am ddim yn cyffwrdd â llawer o'r pethau pwysicaf y gallwn eu gwneud yn ymarferol, fel Llywodraeth Cymru, yma yng Nghymru, i greu'r math o wlad rydym am ei gweld. Felly, gobeithio y byddwn yn adeiladu ar y ddadl hon heddiw, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr er mwyn gwneud y cynnydd pellach sydd ei angen.
Galwaf ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am y cyfle i siarad am y ffordd y mae Cymru wedi arwain y DU ar flaenoriaethu lles teuluoedd a sut rydym wedi gweithio'n effeithiol gyda llywodraeth leol i gynnig darpariaeth effeithlon ac effeithiol? Yn wir, fel y nodwyd yn y ddadl, y Llywodraeth hon yw'r fwyaf hael yn y DU o ran rhoi cymorth i'r rheini sydd fwyaf o'i angen. Mae sicrhau parhad y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim wedi bod yn flaenoriaeth allweddol wrth inni ymateb i'r pandemig coronafeirws, a bydd yn parhau felly. Ac efallai y byddai'n ddefnyddiol atgoffa pawb o'r hyn rydym wedi gallu ei gyflawni hyd yma.
Ni yw'r unig Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig o hyd i ddarparu brecwast i bob disgybl ysgol gynradd ac wrth gwrs, mae gennym gynlluniau i weld beth y gallwn ei wneud i ymestyn y ddarpariaeth honno ar gyfer disgyblion blwyddyn 7. Ni oedd y Llywodraeth gyntaf i gadarnhau cyllid dros wyliau'r Pasg a hanner tymor yn 2020 a chyllid ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim o fis Medi 2020 hyd at y Pasg 2021, ac mae hynny'n cynnwys gwyliau hanner tymor, Mike Hedges.
Rydym wedi sicrhau'r ddarpariaeth fwyaf hael gan unrhyw Lywodraeth yn y DU sef £19.50 y plentyn yr wythnos. A ni hefyd oedd y Llywodraeth gyntaf i ddarparu cyllid ychwanegol o £1.28 miliwn i dalu'r costau ychwanegol a dalwyd gan lywodraeth leol yn ystod pythefnos cyntaf tymor yr hydref wrth i'r ysgolion ddychwelyd fesul cam. A ni hefyd oedd y Llywodraeth gyntaf i gytuno ar gyllid ar gyfer plant sy'n gwarchod neu'n hunanynysu fel eu bod yn parhau i gael cymorth os na allant fynychu'r ysgol heb fod unrhyw fai arnynt hwy eu hunain. Gyda'i gilydd, rydym wedi ymrwymo dros £52 miliwn i sicrhau nad yw plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn llwglyd yn ystod y cyfnod digynsail hwn.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hefyd i ddiolch i'n partneriaid llywodraeth leol ledled Cymru, i gydnabod pa mor gyflym yr aethant ati i ymateb i'r alwad wreiddiol, eu dulliau creadigol ac arloesol o weithredu, ac am waith caled ac ymroddiad eu swyddogion sydd wedi bod mor hanfodol i sicrhau bod teuluoedd yn cael eu cefnogi. Ac a gaf fi hefyd fanteisio ar y cyfle i ddiolch i staff arlwyo, sydd wedi bod yn gweithio mewn amgylchiadau heriol iawn ers i'r ysgolion ddychwelyd ar gyfer tymor mis Medi? Mae llawer ohonoch wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen: fy Mam-gu oedd cogydd yr ysgol am flynyddoedd lawer yn Ysgol Gynradd Blaenymaes yn etholaeth Mike Hedges. Pliciodd lawer o datws ar gyfer y plant hynny, ond gwn hefyd ei bod yn un o'r rhannau mwyaf hoff a mwyaf pwysig o gymuned ei hysgol ac mae hynny'n wir am lawer o'n staff arlwyo sy'n gweithio yn ein hysgolion heddiw.
Yn ystod y pandemig, bu cynnydd yn nifer y teuluoedd sy'n gwneud cais am gredyd cynhwysol. Ac er na fydd pob hawliwr newydd yn cael credyd cynhwysol, yn bendant bu cynnydd yn nifer y teuluoedd sy'n manteisio ar eu hawl i gael prydau ysgol am ddim i'w plant. Roedd cyflwyno credyd cynhwysol gan Lywodraeth y DU yn golygu bod yn rhaid inni newid y meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim yng Nghymru ac mae'n bwysig nodi na roddwyd unrhyw gyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru i reoli effaith y newid hwn, sy'n warthus a bod yn onest. Ond serch hynny, darparwyd cyllid ychwanegol o £5 miliwn gennym i awdurdodau lleol yn 2018-19 a £7 miliwn drwy'r setliad llywodraeth leol yn 2019-20 ac ar gyfer 2021.
Rydym hefyd wedi cyflwyno cynllun amddiffyn drwy bontio i sicrhau y byddai unrhyw newid i'r meini prawf cymhwysedd yn achosi cyn lleied â phosibl o darfu. Golyga y bydd disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cael eu gwarchod rhag eu colli hyd nes y bydd y broses gyflwyno wedi'i chwblhau, hyd yn oed os bydd eu cymhwysedd yn newid. Amcangyfrifwn y bydd cyfanswm nifer y plant sy'n elwa ar amddiffyn drwy bontio mewn unrhyw flwyddyn benodol, yn ystod cyfnod cyflwyno'r credyd cynhwysol, yn ddegau o filoedd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'w gefnogi. Rwyf wedi ymrwymo i gadw'r trothwy'n gyson tan ddiwedd cyfnod cyflwyno'r credyd cynhwysol oherwydd rwyf am sicrhau bod y rhai sydd fwyaf o angen cymorth yn elwa. Ond rwyf hefyd wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o'r trothwy pan fydd y set nesaf o ddata cyfrifiad ysgolion blynyddol lefel disgyblion ar gael i mi.
Fel llawer o bobl yn y Siambr sydd wedi mynegi barn y prynhawn yma, rwy'n dal i bryderu am drafferthion plant mewn teuluoedd sy'n byw mewn tlodi nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt. Fodd bynnag, mae awdurdodau lleol wedi defnyddio, a byddant yn parhau i ddefnyddio eu disgresiwn i gefnogi teuluoedd heb incwm a theuluoedd nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt ar unwaith. Rwyf am barhau i annog awdurdodau lleol i ddefnyddio'r disgresiwn hwnnw a byddwn yn ystyried gwneud diwygiadau ffurfiol i ddeddfwriaeth gymhleth pan fydd effaith COVID-19 wedi cilio ac adnoddau ychwanegol ar gael i wasanaethau cyfreithiol.
Rwyf wedi gwrando'n astud iawn ar yr hyn a ddywedwyd yma heddiw, ac rwy'n gwybod pa mor bwysig yw prydau ysgol am ddim i'r teuluoedd sy'n dibynnu arnynt. Ond mae angen sicrhau cydbwysedd rhwng gwneud yn siŵr fod y rhai mwyaf anghenus yn cael ffordd o gael prydau ysgol am ddim, gan sicrhau ar yr un pryd fod ein cynigion yn fforddiadwy. Yn anffodus, nid oes gennym gyllideb ddiderfyn. Mae angen inni fod yn glir hefyd ynglŷn â chostau cynigion i ehangu cymhwysedd. Amcangyfrifwn y byddai darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn y mae eu rhieni'n cael credyd cynhwysol yn costio £67 miliwn ychwanegol y flwyddyn. Pe baem yn darparu prydau ysgol am ddim i blant ysgol gynradd yn unig, byddai'n costio tua £92 miliwn y flwyddyn. A phe baem yn darparu prydau ysgol am ddim i bob dysgwr o oedran ysgol gorfodol, byddai'n costio tua £169 miliwn. Felly, os yw Plaid Cymru o ddifrif ynglŷn â'u cynigion—ac nid oes gennyf reswm i gredu nad ydynt; ac yn wir, mae'r weledigaeth yn un glodwiw—mae angen iddynt fod yn gwbl glir pa wasanaethau cyhoeddus a gaiff eu torri i ddarparu'r cyllid hwnnw. Ac mae angen iddynt fod yn agored gyda'r cyhoedd ynglŷn â lle byddant yn dechrau gwneud yr arbediad hwnnw o £160 miliwn.
Fel Llywodraeth, mae gennym gyfrifoldeb i ddefnyddio arian cyhoeddus yn effeithiol drwy sicrhau bod prydau ysgol am ddim yn cyrraedd y rhai mwyaf anghenus, ac ar hyn o bryd, gyda'r gyllideb gyfyngedig a ddarperir inni gan Lywodraeth y DU, credaf mai'r dull wedi'i dargedu sydd gennym nawr yw'r defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau cyhoeddus. Fodd bynnag, nid yw hynny'n atal Llywodraeth Cymru rhag bod yn greadigol ac yn arloesol, a chredaf y dylem gydnabod pa mor effeithiol y bu ein dull o weithredu yn ystod COVID—ac mae gwersi i'w dysgu ar gyfer y tymor hwy—gan ymrwymo i weithio gyda'n rhanddeiliaid i barhau i chwilio am gyfleoedd, fel y dywedais, i helpu'r rhai mwyaf anghenus. Ond hoffwn ddiolch i bawb am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Diolch yn fawr.
Nid oes gennyf Aelod sy'n dymuno gwneud ymyriad, felly galwaf ar Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl.
Rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd dros dro am fy ngalw, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Nid wyf am ailadrodd y pwyntiau sydd wedi'u gwneud yn fedrus iawn gan fy nghyd-Aelodau; credaf fod yr achos wedi'i gyflwyno'n rymus. Ceisiaf ymateb i rai o'r pwyntiau a wnaed gan Aelodau eraill.
Synnais wrth weld gwelliant 'dileu popeth' Suzy Davies. Rwy'n gwybod nad yw hi'n gwneud hynny fel arfer, ac rwy'n ddiolchgar iddi am ei hesboniad. A chredaf fod ei phwynt am addysg bellach yn un pwysig iawn, ac mae angen bwrw ymlaen â hynny. Felly, rwy'n ddiolchgar iddi am y pwynt a wnaeth. Ond yn y pen draw, o ran darparu buddion cyffredinol, gwahaniaeth athronyddol syml sydd yma, gwahaniaeth gwleidyddol, fel y nododd Delyth. Ym Mhlaid Cymru, credwn nad cyfrifoldeb eu rhieni yn unig yw plant, mae'r gymuned gyfan yn gyfrifol amdanynt. Ac rydym wedi clywed gan eraill sut y mae ofn stigma parhaus yn atal llawer o'r rhai sy'n gymwys ar hyn o bryd hyd yn oed rhag manteisio ar y budd hwnnw. Mae buddion cyffredinol yn osgoi'r problemau hynny gyda stigma. Felly, gwahaniaeth barn syml ydyw. Rwy'n parchu'r ffordd y mae Suzy Davies wedi'i gyfleu, ond rwy'n anghytuno.
Roedd cyfraniad Mike Hedges yn ddiddorol iawn. Mae ei hanes ar hyn yn hysbys iawn wrth gwrs. Mae'n gywir i'n hatgoffa o realiti tlodi, o sut beth yw gorfod poeni a allwch fforddio bwydo eich plant neu roi'r dŵr poeth ymlaen i chi allu golchi eu dillad. Rwy'n falch ei fod yn ein cefnogi ar fater ehangu cymhwysedd—mae hyn o'r pwys mwyaf. Mae ein ffigurau, ffigurau'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, yn awgrymu y byddai'r gost yn £60 miliwn; dywed y Gweinidog £67 miliwn. Mae hynny wrth gwrs yn llawer o arian, ond nid yw'n anferth. Roeddwn yn hoffi pwynt Mike, 'Efallai y dylem ei dynnu o'r gyllideb datblygu economaidd'. Os mai fi fydd Gweinidog economi Plaid Cymru mewn Llywodraeth newydd ar ôl yr etholiad, byddaf yn hapus iawn i wneud fy nghyfraniad tuag at hynny, oherwydd mae Mike yn llygad ei le, mae'n rhaid inni ymdrin â sgiliau a thangyflawni mewn addysg. O ran ei wneud yn gymhwysedd cyffredinol, mae'n iawn i nodi bod yna faterion ymarferol yn codi, a dyna pam y byddem yn mabwysiadu dull gweithredu graddol.
Ac i'r holl Aelodau sydd wedi gofyn sut y byddem yn gwneud hynny, wel, byddwn yn nodi hynny wrth baratoi ein maniffesto wrth gwrs. A dywedaf wrth Rhianon Passmore: nid wyf am ddangos y gwaith i chi, oherwydd rydym ni ar feinciau Plaid Cymru wedi blino ar gael ein cynigion polisi da wedi'u dwyn gan y Blaid Lafur. Felly, bydd yn rhaid i Rhianon aros i weld y maniffesto cyn iddi ddeall yn union sut y gwnawn i hynny weithio.
Mae Aelodau eraill ar feinciau Llafur wedi gwneud rhai pwyntiau pwerus. Byddwn yn dweud wrth John Griffiths, wrth gwrs ei bod yn beth da fod disgresiwn i ddarparu prydau ysgol am ddim i'r rhai nad ydynt yn gymwys i gael arian cyhoeddus, ond nid wyf yn credu ei bod yn iawn ei fod yn ddisgresiwn, dylai fod yn hawl i'r plant hynny—y plant tlotaf. Pam gadael hynny i ddisgresiwn unrhyw un? Nid wyf yn ei ddeall, ac mewn gwirionedd, mae'n debyg nad yw yntau'n ei ddeall ei hun.
Gwnaeth Jenny Rathbone bwyntiau da am stigma, fel y dywedais, ac mae'r cynlluniau peilot yn darparu tystiolaeth ddiddorol iawn, a'r dystiolaeth honno am gyrhaeddiad academaidd—ddeufis ar y blaen i'w cyfoedion am eu bod yn cael eu bwydo, heb unrhyw stigma, a'r effaith amlwg honno ar blant llai cefnog. Mae wedi bod yn ddiddorol clywed Aelodau Llafur yn gwneud achos pwerus dros wneud rhywbeth na fyddant yn gallu pleidleisio drosto heddiw wrth gwrs, ond credaf fod hynny—yr holl gyfraniadau hynny—yn dal i fod yn rhan o ddadl wirioneddol bwysig.
Nawr, rhaid imi ddweud wrth Lywodraeth Cymru fod hwn yn 'ddileu popeth' siomedig arall—nid yw'n syndod, ond mae'n siomedig. Nid dyma'r cynnig bwyd mwyaf hael i blant ysgol yn y DU. Peidiwch â chymryd fy ngair i ar y mater: roedd Suzy Davies yn y digwyddiad a gadeiriais yr wythnos diwethaf yn edrych ar yr hyn y bydd sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru yn ei ddweud wrth y Cenhedloedd Unedig ynglŷn ag i ba raddau rydym yn ateb gofynion y confensiwn, ac roedd Sefydliad Bevan a'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yn gwbl glir mai cynnig Llywodraeth Cymru yw'r lleiaf hael. Oherwydd mae'n hael i'r rhai sy'n derbyn, ond beth am y rhai nad ydynt? A dyna'r pwynt—rhan gyntaf ein cynnig heddiw.
Wrth gwrs, mae'r pethau y maent eisoes yn eu gwneud i'w croesawu. Mae'r brecwastau am ddim yn beth da i'r rhai sy'n gallu eu cael. Rwy'n poeni weithiau nad yw teuluoedd yn gallu cael eu plant i'r ysgol mewn pryd bob amser i gael brecwast am ddim. Ond nid yw hynny'n datrys y broblem. Nid yw'n mynd i'r afael â'r ffaith bod gennym cymaint o blant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru nad ydynt yn hawlio pan fo ganddynt hawl i wneud hynny oherwydd eu bod yn poeni am stigma, neu'r rhai na allant, neu'r rhai nad oes ganddynt hawl i wneud. A hoffwn ddweud wrth y Gweinidog: mae aelodau eich meinciau cefn yn gwybod hyn; nid oes un ohonynt wedi dweud nad oeddent yn credu mai prydau ysgol am ddim i bawb oedd y peth iawn i'w wneud. Mae'n hollol iawn eu bod yn holi cwestiynau ymarferol ynglŷn â sut y'i cyflwynwch, ond maent yn gwybod nad yr hyn a gynigiwch chi yw'r mwyaf hael yn eu calonnau. Mae'r ffigurau a ddarparwyd gan y Gweinidog yn ddefnyddiol ac fel y dywedais, byddai hwn yn amlwg yn bolisi y byddai angen ei gyflwyno fesul cam.
Hoffwn orffen, Lywydd dros dro, drwy ddweud hyn yn syml ac yn glir wrth Lywodraeth Cymru: os nad yw'r Llywodraeth Geidwadol yn y Deyrnas Unedig, sy'n gyfrifol am fudd-daliadau, yn nodedig o hael yn y ffordd y mae'n caniatáu ei hawliau, os yw'r Llywodraeth Geidwadol hon yn cydnabod bod y teuluoedd hyn yn deuluoedd sydd angen cymorth, sut y gall fod yn iawn nad yw'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, sy'n galw ei hun yn Llywodraeth sosialaidd, yn gwneud yr un peth?
Wrth ymateb i gwestiynau gan Adam Price ddoe a Delyth Jewell, cyfeiriodd y Prif Weinidog at y pamffled hardd ac emosiynol iawn 'They shall have flowers on the table' o'r 1940au. Wel, byddwn yn dweud wrth Lywodraeth Cymru heddiw, Lywydd dros dro, fod llawer o deuluoedd yn byw mewn tlodi dwfn yng Nghymru a fyddai'n falch o gael bwyd ar fwrdd eu plant yn yr ysgol; byddai blodau'n braf, ond bwyd yw'r hyn sydd ei angen arnynt mewn gwirionedd. Teuluoedd sy'n byw mewn tlodi yw'r rhain. Teuluoedd y mae Llywodraeth y DU yn cydnabod bod angen cymorth arnynt i ofalu am eu plant ac rwy'n—a wyf yn siomedig? Ydw, rwy'n siomedig nad yw'n ymddangos bod Llywodraeth sosialaidd honedig Llafur Cymru yn cytuno.
Y cwestiwn yw a ddylid cytuno ar y cynnig heb ei ddiwygio, a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.