– Senedd Cymru ar 9 Mehefin 2021.
Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig—cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2 i roi cyfarwyddiadau i bwyllgor priodol mewn perthynas â pharth perygl nitradau Cymru gyfan.
A chyn i mi alw ar James Evans, rwy'n credu mai dyma'r ddadl lawn gyntaf a gawsom yn y chweched Senedd, felly os caf eich atgoffa am yr amseru os gwelwch yn dda—mae gennych 15 munud i agor a chau, ac mae gan bob siaradwr arall bum munud, ac mae gan y Gweinidog wyth munud. Gadewch i ni gadw at yr amseru, oherwydd mae pawb yn cael cyfle i siarad felly.
Galwaf ar James Evans i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7703 Darren Millar, Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi effaith andwyol parth perygl nitradau Cymru gyfan ar amaethyddiaeth Cymru.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, yn galw ar bwyllgor perthnasol y Senedd i adolygu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 ar frys a chyflwyno ei argymhellion i'r Senedd.
Diolch. Ac rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol yn enw Darren Millar.
Ar draws y cymunedau ffermio yng Nghymru, o ardaloedd yr ucheldir i'r rhanbarthau arfordirol ac i fy ardal fy hun yng nghanol Cymru ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, mae ein cymunedau amaethyddol a'n ffermwyr yn gweithio'n ddiflino i fwydo'r genedl a sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu a bod ein tirweddau'n cael eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy. I ddyfynnu Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, caiff ffermwyr eu hystyried yn rhy aml o lawer fel y broblem, a hwy mewn gwirionedd yw'r ateb i'n heriau amgylcheddol. Nid rhywbeth i ffermwyr yn unig yw'r dirwedd wledig ond rhywbeth i bob un ohonom, i genedlaethau'r dyfodol, i annog amrywiaeth, ecosystemau ffyniannus a bywyd gwyllt. Mae hefyd yn hanfodol i'n heconomi drwy ddenu twristiaid, sy'n dod â refeniw mawr ei angen i fusnesau lleol ac i'n cymunedau.
Mae ein ffermwyr yn chwarae rhan enfawr yn cynhyrchu bwyd i fwydo'r genedl. Mae ffermwyr yn angerddol am eu tir, yn ymrwymedig i weithio tuag at yr arferion gorau, gan gynhyrchu cynnyrch o'r radd flaenaf gyda'r safonau uchaf mewn perthynas â lles anifeiliaid a diogelu'r amgylchedd. Fodd bynnag, mae polisïau amaethyddol Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd wedi dangos dirmyg tuag at ffermwyr a'n cymunedau gwledig, gan addo un peth cyn cyflawni rhywbeth arall. Mae'r tro pedol diweddar i gyflwyno parth perygl nitradau Cymru gyfan yn enghraifft o hynny. Mae'r data o fannau eraill yn y byd yn dangos bod y polisi hwn yn aneffeithiol ac mae'n enghraifft o ddefnyddio gordd i dorri cneuen. Nid yw rhai ardaloedd yng Nghymru wedi cofnodi unrhyw achosion o lygredd amaethyddol mewn 10 mlynedd, ac eto caiff pob ffermwr ei gosbi.
A wnaiff ildio ar y pwynt hwnnw?
Nid oes unrhyw ymyriadau ar hyn o bryd oherwydd ein bod yn hybrid—[Anghlywadwy.]
Er bod un digwyddiad llygredd yn un yn ormod, mae polisi cyffredinol yn brifo'r diwydiant ar adeg pan fo angen cymorth arnynt. Mae'r pecyn cymorth ariannol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn druenus o annigonol, gan roi beichiau cost mawr ar ein ffermwyr er mwyn iddynt ymaddasu i'r newidiadau hyn. Er gwaethaf sicrwydd—. Ar ddim llai na rhwng saith a 10 achlysur, sicrhawyd y ffermwyr gan y Gweinidog na fyddai'r dull cyffredinol hwn yn cael ei fabwysiadu yn ystod y pandemig. Ac o fewn dim, heb ymgynghori â'r diwydiant, penderfynodd y Gweinidog fwrw ymlaen a thorri addewidion unwaith eto.
Yn rhy aml o lawer, mae amaethyddiaeth yn cael y bai am gynnydd yn y nitradau yn ein hafonydd, ac eto honnodd ymchwiliad gan Panorama fod Dŵr Cymru wedi bod yn gwaredu carthion yn anghyfreithlon i Afon Wysg yn fy etholaeth. Mae'n ymddangos bod hyn yn cael ei anwybyddu. Mae data diweddar gan Dŵr Cymru ei hun hefyd yn awgrymu bod carthion amrwd wedi'u gollwng i afonydd Cymru dros 100,000 o weithiau yn 2020, am bron i 900,000 o oriau, ar draws mwy na 2,000 o weithfeydd trin dŵr ac all-lifoedd carthion. A ydym yn gweld unrhyw weithredu go iawn gan Lywodraeth Cymru ar hyn? Nac ydym. At hynny, mae data Llywodraeth Cymru ei hun yn awgrymu mai'r diwydiant dŵr, rhwng mis Ionawr a mis Tachwedd 2020, oedd yn gyfrifol am y digwyddiadau llygredd mwyaf yn ymwneud â dŵr wyneb yng Nghymru, gyda 180 wedi'u cofnodi yn ystod y cyfnod hwn. Ond pwy sy'n dal i gael y bai am lygru ein hafonydd? Rydych chi'n gywir—y ffermwyr.
Mae'r Llywodraeth hon yn honni bod newid hinsawdd yn broblem enfawr, ac nid wyf yn anghytuno. Pwy fyddai'n anghytuno? Ond mae arnaf ofn fod eich hanes o fynd i'r afael â newid hinsawdd yn amheus ar y gorau. Fe brynoch chi faes awyr, ar gost enfawr i'r trethdalwr, gan gymeradwyo gollwng mygdarth gwenwynig i'r atmosffer, ac yna fe warioch chi filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr ar ffordd i unman a gwrthod adeiladu ffordd liniaru'r M4, gan sicrhau, bob dydd, fod miloedd o geir yn ciwio mewn tagfeydd traffig ar hyd yr M4, gan bwmpio tocsinau gwenwynig a charbon deuocsid i'r atmosffer. Unwaith eto, rydych chi'n dweud un peth ac yn gwneud rhywbeth arall.
Drwy gydol y pandemig mae ein ffermwyr wedi bwydo'r genedl, gan sicrhau bod cyflenwadau hanfodol ar gael. Ac yn gwbl briodol, gwnaethom guro ein dwylo i ddiolch i'r GIG a'n gofalwyr. Ac yn hytrach na mynd allan a churo dwylo i ddiolch i'n ffermwyr, roedd hi'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn meddwl bod slap i'r wyneb yn llawer mwy priodol. Mae ein ffermwyr yn haeddu gwell na hyn gan Lywodraeth Cymru, a chan Weinidog yr oeddwn yn ymddiried ynddi ar un adeg i gefnogi'r diwydiant.
Mae deddfwriaeth parth perygl nitradau Cymru gyfan yn annerbyniol. Fe'i disgrifiwyd fel ymgais ddiog i dorri a gludo o gyfarwyddeb 30 mlwydd oed yr UE sy'n rhoi mwy o bwysau ar ffermwyr sydd eisoes dan bwysau ac sy'n ymdopi â COVID-19. Mae'n niweidio busnesau amaethyddol, bywoliaeth pobl, ac yn rhoi straen meddyliol enfawr ar ffermwyr unwaith eto, a hynny er mwyn sicrhau manteision amheus iawn. Cawsoch eich rhybuddio gan Cyfoeth Naturiol Cymru, rheoleiddiwr Llywodraeth Cymru ei hun, ac mae wedi'i gynnig yn y rheolau dŵr newydd, ac rwy'n dyfynnu, y bydd yn arwain at 'ganlyniad gwrthnysig' o wneud ansawdd dŵr yn waeth, ac efallai nad oes ganddynt ddigon o adnoddau i allu cyflawni'r cyfundrefnau arolygu rheoleiddiol sy'n gysylltiedig â'r rheoliadau mewn modd effeithiol.
Er gwaethaf y rhybuddion, a'r straen enfawr ar iechyd meddwl a busnesau pobl a'u llesiant, fe wnaethoch fwrw ymlaen â'r parth perygl nitradau beth bynnag. Rydym wedi clywed yr adolygiadau deifiol gan holl undebau'r ffermwyr yng Nghymru, a gofynnaf i Lywodraeth Cymru: pam nad ydych yn ymddiried yn y mwyafrif llethol o ffermwyr sy'n gyfrifol, ac nad ydynt yn llygru? Yr hyn sydd ei angen arnom yw polisi mwy hyblyg sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n ennyn cefnogaeth y diwydiant i fynd i'r afael â llygredd. Ar adeg pan ddylai Llywodraeth Cymru fod yn gweithio mewn partneriaeth â'n ffermwyr, maent yn cau'r drws ar gydweithredu ac yn hytrach, yn bwrw ymlaen â chynlluniau costus sydd wedi eu tangyllido'n druenus ac a allai yrru nifer o ffermwyr allan o'r diwydiant.
Rydym ni ar feinciau'r Ceidwadwyr yn annog y Llywodraeth ac Aelodau eraill yn y Siambr hon ac ar-lein i gefnogi ein cynnig i gael adolygiad o'r ddeddfwriaeth ddidostur hon. Gadewch inni wrando ar yr arbenigwyr a'r diwydiant, a gadael i'r pwyllgor perthnasol wneud ei waith i sicrhau bod y ddeddfwriaeth orau sy'n bosibl yn mynd drwy'r Senedd hon. Felly, gadewch i bawb ohonom symud ymlaen gyda'n gilydd a sicrhau bod ein gwlad brydferth nid yn unig yn cynnal ond yn gwella ein safonau bwyd ac amgylcheddol uchel, gan weithio gyda'n ffermwyr ac nid yn eu herbyn. Diolch.
Cyn inni symud ymlaen at y siaradwr nesaf, a gaf fi—? Cefais fy atgoffa gan Huw Irranca-Davies nad yw ymyriadau mewn dadleuon yn rhan o'r broses ar hyn o bryd, fel y byddem fel arfer wedi ymyrryd, oherwydd bod cynifer o Aelodau nad ydynt yn gallu gwneud hynny yn y system hybrid. Ond gall Aelodau gysylltu â'r ddesg yma i roi gwybod i ni os ydynt yn dymuno gwneud ymyriad a gallwn eu galw ar y diwedd, cyn y siaradwr olaf. Dim ond i egluro hynny. Rwy'n deall awydd yr Aelod i ymyrryd—rwyf wedi bod yno droeon. [Torri ar draws.] O'r gorau.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a'r Trefnydd i gynnig yn ffurfiol y gwelliant a gyflwynwyd yn ei henw.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi pwysigrwydd hanfodol lleihau allyriadau amaethyddol er mwyn:
a) cryfhau enw da ffermio yng Nghymru;
b) gwarchod pobl a natur yng Nghymru rhag llygredd aer;
c) diogelu afonydd a moroedd Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol;
d) cyflawni uchelgais sero net Cymru.
Yn ffurfiol.
Gan ystyried bod y rheoliadau ar yr NVZs wedi cael eu rhuthro drwy'r Senedd ychydig cyn yr etholiad diwethaf, yn groes i'r addewid gwnaeth y Gweinidog, fel rydym ni wedi clywed yn barod, na fyddai hi yn cyflwyno rheoliadau yn ystod y pandemig, rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i ailgydio yn y drafodaeth bwysig hon yn gynnar yn y Senedd newydd. Nawr, pan oeddwn i'n ymgyrchu mewn ardaloedd gwledig, yn arbennig ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru, un o'r pynciau oedd yn codi ei ben amlaf, yn arbennig gan ffermwyr, oedd y pwnc arbennig yma, achos roedden nhw'n poeni am effaith y rheoliadau arnyn nhw, fel ffermwyr, ar ddyfodol ffermydd teuluol, ac, o ganlyniad, efallai'n peryglu dyfodol cefn gwlad Cymru.
Nawr, rydym ni wedi clywed dro ar ôl tro gan yr undebau amaeth a phobl eraill dros y misoedd diwethaf pam nad yw'r rheoliadau, fel y maen nhw, yn dderbyniol. Er enghraifft, mae'r rheoliadau yn mynd yn groes i argymhellion arbenigol Cyfoeth Naturiol Cymru, gan mai'r bwriad yw eu gweithredu dros Gymru gyfan, yn hytrach na phwysleisio ar yr 8 y cant o ardaloedd sy'n wynebu'r risg mwyaf. Yn ail, bydd y dull o ffermio drwy galendr yn debygol o greu canlyniadau anuniongyrchol niweidiol. Gallwch chi ddychmygu y byddai ffermwyr yn arllwys tunelli o'r slyri yma ychydig cyn y dyddiad cau ac yn syth ar ôl i'r ffenest agor. Yn drydydd, gyda thywydd anwadal Cymru, dyw ffermio drwy galendr ddim yn gwneud synnwyr. Gadewch i fi roi enghraifft ichi. Rwy'n byw lled cae wrth Afon Tywi a rhyw dair wythnos yn ôl, lle'r oedd hi'n bosibl i ffermwyr, yn ôl calendr y Llywodraeth, wasgaru slyri, roedd y caeau dan ddŵr oherwydd lifogydd. Felly, dyw gweithredu ar galendr jest ddim yn gweithio gyda'r tywydd sydd gyda ni yng Nghymru. Ac, yn olaf, mae yna ddiffyg cefnogaeth ariannol gan y Llywodraeth i helpu ffermwyr i ymdopi â'r rheoliadau newydd. Mae'r £11 miliwn sy'n cael ei gynnig yn gwbl, gwbl annigonol, a beth sy'n mynd i ddigwydd o ganlyniad yw bod llawer iawn o ffermwyr teuluol yn mynd i benderfynu gadael y diwydiant, a byddai effaith hynny ar gefn gwlad Cymru yn gwbl, gwbl drychinebus.
Ac fe glywon ni, yn ystod y ddadl cyn yr etholiad, y Gweinidog yn dadlau bod angen iddi dynnu sylw at bwysigrwydd alinio Cymru gyda gwledydd eraill y Deyrnas Gyfunol, ond y gwir amdani yw nad oes un o wledydd Prydain wedi penderfynu cyflwyno rheoliadau dros 100 y cant o'u tir. Yn Lloegr, maen nhw'n gweithredu ar ryw lefel o 55 y cant. Ond yn eironig erbyn hyn, mae'n debyg, mae Lloegr yn bwriadu symud i ffwrdd o'r cynllun. Felly ar yr union adeg y mae gwledydd eraill yn newid cyfeiriad, mae Llywodraeth Cymru yn mynd full pelt i'r cyfeiriad arall.
Weinidog, ni ddylem edrych yn ôl ar syniadau a oedd yn cael eu trafod tua 30 mlynedd yn ôl am ateb i lygredd dŵr. Rhaid inni edrych tua'r dyfodol drwy groesawu technoleg i wneud dewisiadau llawer mwy cywir mewn perthynas â rheoli tir. Fel y gwyddoch, mae enghreifftiau o brosiectau arloesol yn cael eu cynnal wrth inni siarad, lle mae ffermwyr ac ymchwilwyr yn cydweithio i ddyfeisio ffordd lawer mwy soffistigedig o roi cynlluniau rheoli maetholion ar waith.
Fe wyddoch fod fferm coleg Gelli Aur wedi cwblhau prosiect peilot llwyddiannus iawn yn ddiweddar o'r enw Taclo'r Tywi mewn rhan o Gymru sydd wedi bod yn fan gwan o ran llygredd afonydd, gan ddefnyddio gorsafoedd tywydd ar ffermydd i fesur tymheredd y pridd, lleithder dail, cyfeiriad y gwynt a glawiad. Nawr, mae hyn yn darparu data amser real ar ap ffôn o fewn eiliadau, gan ddefnyddio system coch, oren, gwyrdd a fydd yn caniatáu i ffermwyr wneud penderfyniadau ar y cae ynghylch taenu slyri, chwistrellu plaladdwyr neu gynaeafu. Mae hyn yn llawer mwy gwyddonol na ffermio yn ôl y calendr, sy'n anymarferol ac yn hen ffasiwn.
Weinidog, mae eich Llywodraeth ar y cyfan wedi cael ei chanmol gan bobl Cymru am y ffordd rŷch chi wedi taclo'r pandemig gan eich bod chi wedi defnyddio'r wyddoniaeth fel sail eich penderfyniadau. Felly, rwy'n ymbil arnoch chi i ddefnyddio'r wyddoniaeth a'r dechnoleg sydd ar gael ar hyn o bryd i sicrhau'r cydbwysedd allweddol hwnnw rhwng ffermio cynaliadwy a gwarchod yr amgylchedd. Wrth inni gefnogi'r cynnig hwn, mae'n bwysig nodi nad galwad am ddiffyg gweithredu yw hyn. Mae pawb ohonom ni am weld yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu—finnau'n arbennig, sydd wedi pysgota ar yr afon Tywi ers blynyddoedd—
A wnewch chi ddod i gasgliad nawr, os gwelwch yn dda?
—rwy'n dod i ben, Dirprwy Lywydd—ac yn gwybod gymaint o effaith mae llygredd yn ei gael ar ansawdd y dŵr. Na, galwad yw hon am weithredu cymesur gan y Llywodraeth wedi'i dargedu gyda chefnogaeth ariannol ddigonnol.
Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, rwy'n gofyn i'r Llywodraeth i fynd yn ôl i edrych ar argymhelliad Cyfoeth Naturiol Cymru i gynyddu ardal y cynllun NVZ o 2 y cant i 8 y cant. Ac i gloi, dyma'r paragraff olaf: gan weithio gyda'n gilydd i ddod i gonsensws, gallwn ddod i ddatrysiad a fydd yn gwarchod ein hamgylchedd a sicrhau dyfodol mwy diogel i'n ffermydd teuluol, sydd yn asgwrn cefn i'r economi wledig, am y blynyddoedd i ddod. Diolch yn fawr iawn ichi.
A gaf fi atgoffa'r Aelodau, fel y dywedais, pum munud? Gan mai'r cyfan rydych chi'n ei wneud yw mynd ag amser oddi ar rywun arall—gallai fod yn rhywun o'ch plaid eich hun—nad yw'n cael siarad efallai am fod yr amser ar ben. Felly, gadewch inni geisio cadw at yr amser os gallwn, os gwelwch yn dda.
Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r cynnig hwn. Mae'n rhoi cyfle cynnar i'r Senedd hon drafod pwnc hollbwysig, sef iechyd a dyfodol dyfrffyrdd ein gwlad. Mae'r cynnig yn gofyn inni nodi effaith andwyol polisi'r Llywodraeth ar amaethyddiaeth yng Nghymru. Rwy'n credu rywsut fod hynny'n chwerthinllyd gan blaid a fyddai'n troi cefn ar ffermwyr Cymru am gytundeb masnach rydd gydag Awstralia, a phlaid sydd wedi gwneud toriad o £137 miliwn yng nghyllideb y DU ar gyfer cymunedau gwledig Cymru.
Ond rwyf am osod y rhagrith hwnnw o'r neilltu, oherwydd y pwynt amlwg i'w ddadlau heddiw yw na fydd parth perygl nitradau Cymru gyfan yn cael effaith andwyol o'r fath, ac nid yw'r safonau yn y rheoliadau yn ormodol o gwbl yn fy marn i. Yn hytrach, maent yn pennu safonau sylfaenol ar gyfer cynhyrchu yng Nghymru sy'n debyg i weddill y DU ac Ewrop hefyd. A bydd yr aliniad hwnnw'n hanfodol i fasnach yn y dyfodol, yn enwedig os yw Cymru am farchnata cynnyrch brand Cymru yn seiliedig ar gynaliadwyedd.
Rydym wedi clywed eto heddiw pam y mae angen y rheoliadau ar frys. Ar ôl cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru ers 2007, rwyf wedi colli golwg ar nifer yr achosion o lygredd difrifol mewn afonydd o amaethyddiaeth yn y cyfnod hwnnw. Ond roeddwn yn dal i synnu wrth ddarllen y ffigurau mewn du a gwyn: bron i 3,000 o achosion o lygredd sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth wedi'u profi yng Nghymru ers 2001; cyfartaledd o 148 y flwyddyn am yr 20 mlynedd diwethaf; a mwy na thri achos yr wythnos yn y tair blynedd diwethaf yn unig. Yn sicr, nid yw hynny'n dderbyniol, nid yw'n gynaliadwy, ond mae'n gwbl ataliadwy, a'n dyletswydd foesol ni yma yw gwneud rhywbeth amdano.
Mae'r dystiolaeth hefyd yn dangos yn glir fod hon yn broblem i Gymru gyfan ac mae'n galw am ateb cenedlaethol beiddgar, clir. Mae 'Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol' 2020 yn nodi bod dwy ran o dair o'n cyrff dŵr afonydd wedi methu cyflawni statws ecolegol da o dan ddosbarthiad cyfarwyddeb y fframwaith dŵr. Mae tystiolaeth a gyhoeddwyd gan CNC ym mis Ionawr ar ein naw ardal cadwraeth arbennig afonol yn nodi bod amaethyddiaeth yn cyfrannu'n helaeth at lefelau llygryddion yn y dyfroedd cenedlaethol pwysig hyn sy'n uwch na'r terfynau cyfreithiol. Mae mwy na 60 y cant o afonydd gwarchodedig yng Nghymru yn cynnwys llygredd ffosffad sy'n uwch na'r terfynau, felly rwy'n credu ei bod braidd yn ffuantus i Aelodau Plaid Cymru awgrymu y gallwn gyflawni'r manteision amgylcheddol hanfodol y maent yn dweud eu bod am eu gweld drwy chwarae gydag ymylon y broblem gyda rheoliadau gwirfoddol a lleol.
Y gwir amdani yw, oni bai ein bod yn cymryd camau brys i reoli llygredd yn y tarddiad, bydd yn rhy hwyr i adfer ecosystemau ein hafonydd. Mae rheoleiddio parthau perygl nitradau Cymru gyfan yn arf cwbl gymesur a fydd yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng natur a hinsawdd ac felly'n cefnogi ffermio cynaliadwy yn awr ac yn y dyfodol.
Diolch, James Evans, Aelod o'r Senedd hon, am arwain ar ddadl mor bwysig ac am sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol y gwrthbleidiau i reoliadau dinistriol parth perygl nitradau Llafur Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Siaradaf eto i gofnodi fy ngwrthwynebiad llwyr, a'r effaith andwyol y bydd parth perygl nitradau Cymru gyfan yn ei chael ar amaethyddiaeth yng Nghymru. Hoffwn hefyd alw ar bwyllgor newydd y Senedd sy'n gyfrifol am amaethyddiaeth ac am ddŵr i adolygu'r rheoliadau hyn ar frys.
Fel y dywedais droeon o'r blaen, mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn amcangyfrif y gallai cost cyfalaf ymlaen llaw y cynllun hwn fod cymaint â £360 miliwn. Mae hynny £347 miliwn yn fwy na'r cymorth a gynigir gan Lywodraeth Cymru a £99 miliwn yn fwy na chyfanswm yr incwm diweddaraf o ffermio yng Nghymru. Eisoes, rydym yn ymwybodol o rai ffermwyr tenant sy'n wynebu argyfwng yn awr gyda'u landlordiaid, a gwyddom am fanciau sy'n amharod i dalu'r bil, ac mae undebau ffermio'r DU bellach yn rhybuddio bod y diwydiant llaeth yn wynebu blwyddyn heriol iawn yn sgil costau cynhyrchu cynyddol a phrisiau llaeth amrywiadwy.
Felly, ni fydd yn syndod i chi glywed bod costau ychwanegol bodloni rheoliadau dŵr yn gwneud y sefyllfa'n waeth o lawer. Yn wir, rhybuddiodd elusen flaenllaw ym maes iechyd meddwl yn y byd amaeth fod y rheoliadau hyn yn debygol o achosi straen aruthrol i ffermwyr. Nododd eich memorandwm esboniadol eich hun, a dyfynnaf:
'Cydnabyddir hefyd effaith negyddol bosibl gofynion rheoleiddiol ychwanegol ar les meddyliol, yn arbennig pan fo heriau economaidd neu iechyd eraill eisoes yn bodoli.'
Felly, rydych chi'n cydnabod y ffaith bod hyn yn mynd i achosi salwch meddwl, ac rydym newydd gael cwestiynau am iechyd meddwl. Nid yw'n gwneud synnwyr. Gwn eisoes am nifer o deuluoedd ffermio yng Nghymru sy'n buddsoddi pob ceiniog yn ôl yn eu busnes, ac yn awr mae rhai o'r rheini hyd yn oed yn ystyried cau. Maent wedi anobeithio.
Byddai hyn hefyd yn ddinistriol i'r iaith Gymraeg. Mae 43 y cant o weithwyr amaethyddol yn siarad Cymraeg, o'i gymharu â 19 y cant o'r boblogaeth yn gyffredinol. Argymhellodd adroddiad 'Iaith y Pridd' y dylai Llywodraeth Cymru weithredu drwy sicrhau bod polisïau'n cefnogi diwydiannau ar ein ffermydd teuluol. Rhaid gofyn o hyd a yw'r rheoliadau'n cyd-fynd ag adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn enwedig y nod o gael diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.
Rhaid inni ofyn ichi hefyd, Weinidog: pam nad ydych chi hyd yn oed yn gweithredu er lles gorau ein hamgylchedd? Mae llawer o'n buchesi sugno, sy'n gwneud cyfraniad hanfodol i fioamrywiaeth drwy reoli rhai o'n cynefinoedd pwysicaf, bellach yn mynd i gael eu colli, ac mae CNC wedi rhybuddio y bydd y rheolau newydd yn arwain at y canlyniad gwrthnysig o wneud ansawdd dŵr yn waeth, gan chwalu llawer o'r pwyntiau a wnaeth Joyce Watson. Cyflwynir y parth perygl nitradau ar adeg pan fo hyd yn oed cyfarwyddwr gweithredol CNC ar gyfer tystiolaeth, polisi a thrwyddedu wedi sôn am ostyngiad cyson yn nifer yr achosion o lygredd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae honno'n duedd amlwg ar i lawr a welwyd dros y tair blynedd diwethaf, ac mewn gwirionedd, ni fu unrhyw ddigwyddiadau mewn rhannau enfawr o Gymru dros y degawd diwethaf.
Fel y dywedais o'r blaen, mae'n rhaid rhoi cyfle go iawn i'r dull gwirfoddol. Ni chafodd dull ffermio'r 'faner las' ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru pan wnaeth ffermwyr gais am gyllid drwy gynllun rheoli cynaliadwy'r cynllun datblygu gwledig. Er bod canlyniadau prosiectau a safonau dŵr wedi'u rhannu mewn llythyrau gyda'r Gweinidog a'r Prif Weinidog ym mis Mawrth 2020, gan gynnwys argymhellion ar gyfer y camau nesaf, ac ymateb wedi'i gyhoeddi gan swyddogion yn nodi y byddai ystyriaeth fanwl yn cael ei rhoi i'r safon dŵr, yn anffodus nid yw NFU Cymru wedi cael unrhyw ateb. A chyn cefnogi'r rheoliadau, nid oedd y Gweinidog wedi ymateb i'r adroddiad cynnydd a'r 45 o argymhellion gwahanol a anfonwyd gan is-grŵp fforwm rheoli tir Cymru ar lygredd amaethyddol ym mis Ebrill 2018.
Mae'n ymddangos i mi, ac yn amlwg i rai o'n Haelodau newydd, fod Llywodraeth Cymru yn diystyru arbenigwyr amaethyddol ac yn peryglu dyfodol yr amgylchedd, yr iaith Gymraeg, iechyd meddwl a ffermio yng Nghymru. Mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig yn rhoi ein gwahaniaethau gwleidyddol o'r neilltu i wneud y peth iawn a chefnogi'r cynnig hwn. Rwy'n gofyn: a fydd Llafur Cymru ac Aelod etholedig newydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn gwneud yr un peth, neu a ydych chi'n mynd i fradychu'r Gymru wledig unwaith eto? Diolch.
Jane Dodds.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn am y cyfle i roi'r araith yma.
Mae pawb am gael dull fforddiadwy, cymesur ac amgylcheddol gynaliadwy wedi'i dargedu o weithredu ar lygredd dŵr. Mae ffermwyr yn awyddus iawn i gael hyn, ond nid yw'r ddeddfwriaeth hon yn gwneud hynny. Nid yw wedi'i thargedu, gan nad yw'r rhan fwyaf o ffermydd ledled Cymru wedi cofnodi llygredd amaethyddol. Yn ôl rhai arbenigwyr, nid yw hyn yn addas ar gyfer 90 y cant o dir ffermio Cymru. Nid yw'n gymesur ac yn fforddiadwy, oherwydd ni all ffermwyr, unwaith eto, fforddio galwad arall am fwy o gost i adeiladu storfeydd, gan eu rhoi mewn dyled, yn ogystal â'r pwysau biwrocrataidd ychwanegol. Yn olaf, nid dyma'r adeg iawn i wneud hyn. Gobeithio ein bod yn cefnu ar COVID ac mae ffermwyr bellach yn wynebu Llywodraeth Geidwadol yn y DU sydd newydd droi eu cefnau arnynt ar gytundeb masnach ag Awstralia. A gaf fi ychwanegu fy mod yn cymeradwyo'r Prif Weinidog am siarad yn erbyn hyn? Gobeithio y bydd y Ceidwadwyr Cymreig sy'n gwrando y prynhawn yma yn defnyddio eu lleisiau i berswadio eu cymheiriaid yn San Steffan i gefnogi ffermwyr Prydain, nid eu siomi.
Rwyf wedi clywed llawer o ffermwyr yn dweud y bydd yn rhaid i'w gwartheg fynd os caiff y rheoliadau hyn eu gweithredu'n llawn. Bydd y canlyniadau i fioamrywiaeth yng Nghymru yn drychinebus os bydd hynny'n digwydd. Mae gwartheg yn llawer gwell na defaid am annog bywyd gwyllt ar laswelltir. Gall gwartheg ymdopi â glaswellt hir; ni all defaid wneud hynny. Ac mae'n caniatáu i loÿnnod byw gwblhau eu cylch bywyd a blodau i wasgaru hadau. Ar gyfer bywyd gwyllt, mae gwair neu wair wedi'i dorri'n hwyr yn ddelfrydol. Mae'r gylfinir eisiau glaswellt hir, nid tir sy'n cael ei bori'n drwm gan ddefaid.
Yn ddiau, caiff slyri a thail dofednod eu gwasgaru'n anghyfrifol ger cyrsiau dŵr, gan achosi digwyddiadau o lygredd afonydd. Mae trwytholchi nitradau a ffosffad yn raddol i ddŵr daear yn broblem hirdymor, ond mae yna atebion eraill. Un ohonynt, er enghraifft, yw rhoi mwy o arian a phwerau i Cyfoeth Naturiol Cymru allu plismona achosion o lygredd ac erlyn troseddwyr. Ac ar bob cyfrif, dylid cynnal trafodaethau gyda'r ffermydd llaeth mwy o faint am arferion gorau wrth ledaenu slyri, a helpu'n ariannol gydag unrhyw welliannau na fydd yn eu gwthio ymhellach i ddyled.
I ddefnyddio ymadrodd sydd wedi'i ddefnyddio y prynhawn yma, mae'r ddeddfwriaeth hon yn defnyddio morthwyl i dorri cneuen, ac nid yw'n rhywbeth y gallaf ei gefnogi. Arwydd o lywodraeth dda yw myfyrio, adolygu ac ailfeddwl. Edrychwch ar y dystiolaeth eto a gadewch inni gael y dull effeithiol a chymesur wedi'i dargedu rydym i gyd am ei weld ar gyfer ymdrin â llygredd dŵr. Gobeithio y bydd y Llywodraeth yn manteisio ar y cyfle hwn i wneud hynny. Diolch yn fawr iawn.
A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod James am gyflwyno'r cynnig fel y gwnaeth a diolch i fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr am y gefnogaeth heddiw? Fel y soniodd eraill, anghrediniaeth a dicter fu'r ymateb i'r parth perygl nitradau cyffredinol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ddiwedd Ionawr 2021. Yn anffodus, mae ystyried ei bod yn system reoleiddio effeithiol sy'n cyflawni ar gyfer ein hamgylchedd ac economi Cymru yn gyfeiliornus, ac yn safbwynt sy'n dangos diffyg cysylltiad ar ran y Llywodraeth. Mae'n amlwg fod undebau'r ffermwyr, a miloedd o ffermwyr ledled Cymru yn wir, yn gweld y dull hwn yn yr un ffordd. Eu barn hwy a fy marn i yw y bydd y manteision a honnwyd i ansawdd dŵr o'r dull hwn o weithredu yn gymharol ddibwys ac yn sicr yn cael eu bwrw i'r cysgod gan yr effeithiau economaidd negyddol a fydd yn deillio o hynny.
Bob dydd, clywn am fusnesau ffermio'n ystyried rhoi'r ffidil yn y to oherwydd y buddsoddiadau ychwanegol sydd eu hangen i gydymffurfio a baich ychwanegol rheoliadau llawdrwm sydd i ddod. Mae'r pethau hyn yn cael eu hystyried yn gam yn rhy bell ac yn y rhan fwyaf o feddyliau busnes, yn gwbl ddiangen. Ac nid rhethreg yn unig yw hynny; mae'n ffaith. Rwy'n siarad â ffermwyr yn rheolaidd ac mae hon yn ystyriaeth wirioneddol. Dyma'r adeg lle dylai Llywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i geisio sicrhau diogelwch y cyflenwad bwyd a pheidio â tharo busnesau ffermio gyda'r ffon fawr drosiadol hon. Rhaid inni beidio ag anghofio mai ffermwyr yw gwarcheidwaid ein cefn gwlad bendigedig, a phrif gynheiliad ein heconomi leol. Hwy sy'n gwneud Cymru yr hyn ydyw. Dylai'r Llywodraeth weithio gyda hwy ac nid yn eu herbyn.
Roedd creu cyfraith o un o'r darnau mwyaf aneffeithiol o ddeddfwriaeth yr UE yn gamgymeriad enfawr. Gwyddom fod y grŵp arbenigol a gadeiriwyd gan CNC yn 2018 wedi cyflwyno 45 o argymhellion yn seiliedig ar gyngor ac arweiniad cadarn, gan ganolbwyntio ar ddulliau gwirfoddol, buddsoddiad, cymorth a rheoleiddio deallus, a'r cyfan gyda'r nod o wella ansawdd dŵr. Ond cafodd hyn ei ddiystyru gan Lywodraeth Cymru, er i CNC, rheoleiddiwr y Llywodraeth ei hun, ei gefnogi. Nid oes unrhyw un yn anghytuno â'r angen i reoleiddio, ond rhaid iddo fod yn gymesur ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r diwydiant yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael â materion pan gânt eu nodi a bydd yn gweithredu'n wirfoddol i ymdrin â'r pethau hyn, ond nid parth perygl nitradau Cymru gyfan yw'r ffordd ymlaen gan nad yw'r canlyniadau ehangach yn ymwneud â'r economi a bwyd wedi'u hystyried yn briodol.
Aelodau, mae cyfle gwirioneddol gan y Senedd newydd hon i ailfeddwl, i ystyried. Nid oes raid iddi barhau â'r hyn a ddigwyddodd o'r blaen; Senedd newydd yw hi gyda phobl newydd, meddyliau newydd a dyheadau newydd. Rwyf innau hefyd yn cefnogi'r cynnig i alw am bwyllgor perthnasol i adolygu'r sefyllfa hon ar frys. Rwy'n gwybod y byddai cefnogaeth aruthrol gan y diwydiant, a phleidiau gwleidyddol eraill, fel y gwelsom yma heddiw, i ddod o hyd i ffordd well a mwy cynhyrchiol ymlaen sy'n canolbwyntio ar ddiogelu busnesau teuluol wrth fynd i'r afael ag ansawdd dŵr ac ymdrechu i gael economi wledig gynaliadwy, wedi'i chadarnhau gan awydd i gynnal diogelwch cyflenwad bwyd a dŵr o ansawdd uchel. Rwy'n annog pawb ohonoch i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch yn fawr.
Dwi'n falch iawn bod Plaid Cymru wedi cydgyflwyno'r ddadl yma y prynhawn yma, ac mai cynnig ar y cyd gan y gwrthbleidiau yw hyn, sy'n dangos, wrth gwrs, pa mor gryf yw teimladau ar y mater yma. Ond o'm safbwynt i, wrth gwrs, mae hwn yn gynnig sy'n cael ei osod mewn ysbryd positif, mai cychwyn proses o gyfaddawdu yw'r cynnig yma. Mae Llywodraeth Cymru, os caf i ddweud, wedi ymateb yn adeiladol gyda'u gwelliant nhw, a dwi yn synnu at natur ymosodol a chwbl negyddol rhai o'r cyfraniadau rŷm ni wedi'u clywed hyd yn hyn. Mae cyfeirio at Faes Awyr Caerdydd a trade deals gydag Awstralia yn methu'r pwynt. Nid pigo ffeit sydd angen ei wneud fan hyn heddiw, ond cychwyn y broses o ffeindio ateb gwell i broblem yr NVZs.
Cyn yr etholiad, pan gyflwynais i a Phlaid Cymru y cynnig i ddiddymu'r rheoliadau NVZ newydd, mi ddywedais i'n glir y byddwn i a fy mhlaid yn barod i weithio gyda'r Llywodraeth i edrych ar ddatrysiadau amgen i'r broblem o lygredd yn ein hafonydd ni, petai'r Llywodraeth yn barod i gymryd cam yn ôl. Fe wnaeth y Llywodraeth wrthod yr opsiwn bryd hynny, ac er ei bod hi bellach yn ymddangos bod y Llywodraeth yn barod i gyfeirio'r mater i bwyllgor perthnasol o'r Senedd, mae'n rhaid i bawb ddeall na fyddai cefnogi'r cynnig na'r gwelliant yma heddiw yn atal y rheoliadau. Wrth gwrs, mi fyddem ni i gyd yn croesawu'r cyfle i bwyllgor trawsbleidiol bwyso a mesur y rheoliadau mewn ffordd sydd ddim wedi digwydd hyd yma ac i ddod ag argymhellion ger bron er mwyn i'r Llywodraeth eu hystyried nhw, ond wrth gwrs byddai dim rheidrwydd wedyn ar y Llywodraeth i weithredu ar yr argymhellion hynny. Ond gan fod gwelliant y Llywodraeth yn caniatáu cyfeirio'r mater i bwyllgor, dwi'n cymryd o hynny y byddai'r Llywodraeth yn agored ei meddwl i newid y rheoliadau, neu hyd yn oed i ddiddymu'r rheoliadau, os yw'r achos dros hynny yn dod yn glir yng ngwaith y pwyllgor.
Felly, dwi eisiau clywed tri pheth gan y Gweinidog yn ei hymateb hi i'r ddadl y prynhawn yma. Dwi eisiau i'r Gweinidog gadarnhau y byddai hi a'i swyddogion yn y lle cyntaf yn edrych yn gwbl o ddifri ar unrhyw argymhellion fydd yn dod o waith y pwyllgor; yn ail, y bydd hi'n ymrwymo i wneud popeth y gall hi i ddiwygio'r rheoliadau yng ngoleuni’r argymhellion hynny; ac yn drydydd, iddi gadarnhau bod diddymu'r rheoliadau yn opsiwn posib, yn dilyn gwaith y pwyllgor. Yn amlwg, byddai angen gwneud achos cryf dros hynny, ac mi fuaswn i'n tybio bod angen adnabod llwybr amgen i gwrdd â'r nod o ran taclo llygredd dŵr, ond dwi eisiau clywed gan y Gweinidog y prynhawn yma fod yr opsiwn o ddiddymu ar y bwrdd, oherwydd dyna'r unig beth all brofi i fi fod y Llywodraeth yn wirioneddol barod i ystyried y mater yma, ac felly ei bod hi'n werth cyfeirio'r mater at bwyllgor o'r Senedd.
Fe fyddwch chi i gyd yn cofio na wnaeth Plaid Cymru erioed ddadlau dros beidio gweithredu i warchod ansawdd dŵr, ac mi fuasem ni wedi cefnogi rheoliadau'r Llywodraeth petaen ni'n credu eu bod nhw am weithio. Ond mae yna gymaint o wendidau a chwestiynau sydd dal heb eu hateb fel mai cymryd cam yn ôl sydd ei angen nawr. Does ond rhaid edrych, fel rŷn ni wedi clywed gan eraill, ar ganlyniadau'r approach NVZ ar draws Prydain a thu hwnt i weld nad yw e'n ryw fath o fwled arian sydd yn mynd i ddatrys y broblem dros nos. Rŷn ni hefyd yn gwybod, wrth gwrs, fod goblygiadau amgylcheddol negyddol yn mynd i godi drwy golli llawer o'r pori gwartheg, ac yn y blaen, sydd wedi cyfrannu'n allweddol at gadwraeth, a chyflwyno mwy o ddefaid, mae'n debyg, i'n hucheldiroedd ni, sydd yn mynd i olygu dirywiad amgylcheddol posib pellach. Mae proseswyr llaeth allweddol yng Nghymru wedi bod mewn cysylltiad â fi i fynegi pryderon am yr effaith ar hyfywedd y sector. Mae un wedi awgrymu bod ganddyn nhw ddadansoddiad yn dangos y bydd efallai hyd at draean o'r holl ffermydd llaeth yn rhoi'r gorau i gynhyrchu, ac un cwmni eisoes yn cynllunio i symud ei weithrediadau a dod o hyd i laeth o rywle arall, am eu bod nhw'n rhagweld yr effaith niweidiol bydd y rheoliadau hyn yn cael ar hyfywedd y sector llaeth.
Mae'r gost cyfalaf yn rywbeth rŷn ni wedi clywed amdani hi yn barod: hyd at £360 miliwn, ac mae hynny'n fwy na'r incwm cyfan o amaeth yng Nghymru mewn blwyddyn. Dyna pa mor anghymesur yw'r gofyniadau. Ac mae'r Llywodraeth, drwy gyflwyno'r rheoliadau yma, wrth gwrs, wedi slapio bil o ddegau o filiynau o bunnoedd ar ein hawdurdodau lleol ni, a fydd angen buddsoddi tua £36 miliwn ar y 1,000 o ffermydd cyngor sydd gennym ni yng Nghymru.
Felly, ie, cyflwynwch reoliadau, ond targedwch nhw lle mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod angen nhw. Adeiladwch ar y cynlluniau gwirfoddol, fel y faner las ac, fel y clywom ni gan Cefin Campbell yn gynharach, Taclo'r Tywi yng Ngelli Aur, a datblygu risk matrix fel sy'n digwydd yn Lloegr, lle bydd cyfathrebu dyddiol gyda ffermwyr ar ba mor addas yw eu chwalu slyri, a'n galluogi ni i ddefnyddio technoleg newydd a chyfathrebu amser real, neu real time, sy'n approach llawer mwy deinamig a llawer mwy soffistigedig na rheoliadau cyntefig fel hyn sydd jest yn dilyn dyddiadau'r calendr ac a fydd, yn y diwedd, yn creu mwy o broblemau nag y byddan nhw'n eu datrys.
Rwyf wedi cymryd rhan mewn dadleuon yn y gorffennol ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno parth perygl nitradau, felly rwy'n mynd i ddefnyddio fy amser heddiw i raddau helaeth i dynnu sylw at drafferthion ac enghraifft un teulu ffermio penodol a sut y bydd y rheoliadau hyn yn effeithio arnynt hwy. Ond er eglurder, rwy'n ailadrodd fy marn hirsefydlog na ddylai'r rheoliadau hyn erioed fod wedi'u cyflwyno; maent yn ddiangen, yn anghymesur ac yn ddinistriol i'r diwydiant ffermio.
Mae cynnig y Ceidwadwyr wedi'i gyflwyno gan fy nghyd-Aelod James Evans, ac fel y nododd Llyr, ni fydd y cynnig hwn heddiw yn dileu'r rheoliadau hynny, ond rwy'n gobeithio'n fawr y bydd cefnogaeth yn y Siambr hon y prynhawn yma i ddechrau proses a allai arwain yn y pen draw at ddileu a diddymu'r rheoliadau gwarthus hyn.
Hoffwn dynnu sylw at drafferthion un teulu o denantiaid fferm yn fy etholaeth fy hun: Brian Jones, ei wraig, Susan, a'i fab, Andrew. Fel ffermwyr Coed y Parc yng Nghaersŵs, fferm laswelltir 105 erw, sy'n gartref i fuches odro gaeedig o 85 o wartheg, maent wedi bod yn ffermio yno ers 1973 ar gytundeb tenantiaeth gydol oes. Mae Brian Jones wedi rhoi rhai sylwadau at ei gilydd ac rwy'n mynd i ddarllen yr hyn y mae wedi'i ddweud.
Dyma ei eiriau: 'Rwyf wedi bod yn godro gwartheg ar hyd fy oes, gan ddechrau o'r adeg pan oeddwn ond yn 12 oed, ac eleni byddaf wedi bod yn ffermio llaeth ers 66 o flynyddoedd. Dyma a wnawn fel teulu. Dyma yw ein bywyd. Nid ydym erioed wedi cael digwyddiad llygredd yma.' Dywedaf hynny eto. Gan rywun sydd wedi bod yn ffermio ar y fferm honno ers 66 mlynedd—gobeithio bod Joyce Watson yn gwrando hefyd—'nid ydym erioed wedi cael digwyddiad llygredd yma.' Aiff ymlaen i ddweud: 'Mae CNC, drwy eu hasesiad eu hunain, wedi cadarnhau nad oes llygredd yma, ond mae'n dal i fod angen i ni gydymffurfio â'r rheoliadau newydd hyn a gwneud gwaith am gost enfawr o tua £70,000.' 'Pwy sy'n mynd i dalu am hynny?', gofynna Mr Jones. Efallai y gallai Joyce Watson, sydd hefyd yn ei gynrychioli, ysgrifennu ato a rhoi gwybod iddo, o ystyried sylwadau Joyce y prynhawn yma.
Aeth ymlaen i ddweud: 'Mae'r landlordiaid wedi gwrthod ac nid yw'r banc am roi benthyg yr arian i ni i wneud y gwaith ar eiddo nad ydym yn berchen arno. Rwyf ar ben fy nhennyn ac yn ofni, ymhen tair blynedd, y gallem yn hawdd weld diwedd ar ein bywyd fel fferm deuluol yma. Nid oes gennyf wrthwynebiad i bolisi sy'n gwneud i'r llygrwr dalu, ond mae hyn yn mynd i andwyo'r diwydiant os nad oes dim yn newid. Rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried goblygiadau ariannol y rheoliadau hyn ar fusnesau fferm bach a chanolig a ffermwyr tenant fel mater o frys.'
Rwyf wedi clywed safbwyntiau y prynhawn yma, a chlywais sylwadau Joyce Watson am ragrith, ac rwy'n cytuno gyda Joyce: mae digon o ragrith yma gan Lywodraeth Cymru. Roeddwn yn falch iawn o glywed safbwyntiau Jane Dodds y prynhawn yma—y rhan fwyaf ohonynt, nid pob un ohonynt. Mae'n swnio fel pe bai Jane yn mynd i gefnogi'r cynnig hwn heddiw hefyd, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Roedd llawer o'r hyn a ddywedodd Jane wedi'i roi at ei gilydd yn dda iawn yn fy marn i. Ond yr hyn a ddywedodd Jane, wrth sôn amdanom ni fel Ceidwadwyr Cymreig, yw bod yn rhaid inni ddefnyddio ein lleisiau i berswadio ein cymheiriaid yn San Steffan ar X, Y a Z. Wel, rwy'n dweud hyn yn garedig wrth Jane: mae'n drueni mawr na allai Jane ddefnyddio ei llais i berswadio'r unig Aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol yma i bleidleisio yn erbyn diddymu'r rheoliadau ar ddiwedd y Senedd ddiwethaf.
Nid cymhelliad gwleidyddol syml sydd wrth wraidd y safbwyntiau hyn; nid dadl wleidyddol syml yw hon y prynhawn yma, fel y mae rhai Aelodau'n awgrymu. Bywyd go iawn yw hyn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth a'r Aelodau'n cefnogi ein cynnig, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd hyn yn mynd â ni ar y llwybr tuag at broses i ddiddymu'r rheoliadau ofnadwy hyn. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.
Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, Lesley Griffiths.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae gan ffermio yng Nghymru enw da gyda defnyddwyr am safonau cynhyrchu uchel mewn perthynas â lles anifeiliaid a diogelu'r amgylchedd. Gan mai'r sector amaethyddol sy'n rheoli'r rhan helaethaf o dir Cymru, mae ffermwyr Cymru yn chwarae rhan hanfodol yn diogelu'r dreftadaeth naturiol a rannwn.
Fel Llywodraeth, rydym yn cefnogi uchelgais ffermwyr Cymru i fod y mwyaf ystyriol o hinsawdd a natur yn y byd, uchelgais a fydd yn cael mwy o ysgogiad drwy fynd i'r afael â'r niwed sy'n cael ei achosi gan lygredd amaethyddol eang flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rwy'n llwyr gydnabod bod nifer yn ffermio yn ôl safonau amgylcheddol uchel, ond rhaid inni wneud cynnydd cyflymach ar leihau llygredd o amaethyddiaeth ar draws y diwydiant cyfan ac ar draws Cymru gyfan.
Er gwaethaf y cyhoeddusrwydd sylweddol y mae'r rheoliadau newydd hyn wedi'i ddenu, a'r cyfyngiadau ar allu CNC i ymchwilio i achosion lle ceir amheuaeth o lygredd oherwydd COVID-19, mae 76 achos o lygredd amaethyddol wedi'u profi hyd yma eleni, sydd, ar gyfartaledd, yn parhau i fod yn fwy na thri achos yr wythnos. Mae'r diffyg ystyriaeth parhaus i'r effaith negyddol ar ein hamgylchedd a'n cymdeithas yn annerbyniol.
Mae lefelau llygredd a achosir gan nitradau, ffosfforws ac amonia yn uwch na throthwyon critigol ledled Cymru, ac mae angen lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o amaethyddiaeth er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd. Mae'r llygryddion hyn yn niweidiol i ansawdd ein hamgylchedd, iechyd y cyhoedd a datblygu economaidd.
Mae'r rheoliadau rheoli llygredd amaethyddol, sy'n debyg i'r rhai yng ngweddill y DU ac Ewrop, yn galw am ddefnyddio arferion ffermio y profwyd eu bod yn sicrhau manteision i'r amgylchedd a chynhyrchiant ffermydd. Mae llawer o ffermwyr yn deall yr angen i weithredu ac maent eisoes yn cymryd camau i gynnal safonau amgylcheddol uchel ar eu ffermydd. Mae ffermwyr Cymru yn gwbl abl i weithio yn ôl y safonau sylfaenol hyn ac mae llawer eisoes yn rhagori arnynt.
Cyn y gall y diwydiant honni ei fod y mwyaf ystyriol o hinsawdd a natur yn y byd, yn gyntaf rhaid i bob un o'n ffermydd fabwysiadu safonau cynhyrchu sy'n seiliedig ar arferion da cydnabyddedig. Mae'r rheoliadau'n dilyn dull o weithredu fesul cam dros gyfnod o dair blynedd, gan roi amser i ffermwyr addasu a gwella, a byddwn yn parhau i'w cefnogi i wneud hynny.
Mae ystod eang o adnoddau cymorth yn parhau i gael eu darparu drwy wasanaeth cynghori Cyswllt Ffermio i helpu busnesau fferm i fynd i'r afael â phroblemau llygredd a chefnogi'r rheoliadau rheoli llygredd amaethyddol. Gyda chefnogaeth Cyswllt Ffermio, mae dros 5,000 o fusnesau fferm wedi datblygu cynlluniau rheoli maetholion, seilwaith a busnes, ac mae dros 2,500 o fusnesau fferm wedi mynychu digwyddiadau Cyswllt Ffermio sy'n canolbwyntio ar y camau y gallant eu cymryd i leihau allyriadau amaethyddol.
Rydym wedi gweld diddordeb mawr yn y cyfnodau ymgeisio diweddar am y grantiau cynhyrchu cynaliadwy a'r cynlluniau gorchuddio iardiau. Mae hyn yn cynnwys cymorth ar gyfer atebion syml, costeffeithiol i reoli tail yn well, megis gwahanu dŵr glân a dŵr budr. Mae'r cynlluniau hyn yn rhan o'r £44.5 miliwn y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'i ddarparu i gefnogi arferion ffermio cynaliadwy. Penderfynir ar gymorth ariannol yn y dyfodol pan fydd cyllidebau wedi'u cytuno yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o wariant Llywodraeth y DU.
Mae'r rheoliadau'n cyd-fynd â'r egwyddorion amgylcheddol a hyrwyddir gan yr Aelodau o'r Senedd drwy fabwysiadu dull rhagofalus lle mae'r llygrwr yn talu. Mae'r dull rydym wedi'i ddefnyddio yn ymwneud â mwy na llygredd nitradau yn unig, yn wahanol i'r hyn y mae James Evans i'w weld yn ei gredu. Mae'n cydnabod ac yn integreiddio cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ac uchelgais yr NFU i gyrraedd allyriadau sero net yng Nghymru a ledled y DU. Mae rheoli allyriadau amaethyddol yn rhan annatod o gyrraedd y targed hwn.
Mae'r dull hefyd yn cydnabod effaith allyriadau amonia ar gynefinoedd sensitif ac iechyd y cyhoedd. Mae'n cydnabod effaith ffosfforws ar ein hardaloedd cadwraeth arbennig afonol, gan gynnwys ar ddatblygu economaidd yn yr ardaloedd hynny. Ni allwn fynd i'r afael â'n hargyfwng natur heb fynd i'r afael â'r holl lygryddion hyn.
Rydym yn gwneud cynnydd yn y pethau hyn, a bydd un set o safonau sylfaenol clir yn ein galluogi i sicrhau'r cynnydd hwnnw a gwneud y datblygiadau pellach y mae dirfawr angen inni eu gwneud. Hoffwn atgoffa Russell George ac Aelodau eraill fod CNC wedi croesawu'r holl reoliadau Cymru gyfan yn gyhoeddus.
Heb amheuaeth, bydd addasu i'r safonau sylfaenol hyn yn heriol i rai yn y diwydiant, ac rwy'n cydnabod bod pob busnes fferm yn wahanol ac efallai y bydd ffyrdd eraill o gyflawni ein hamcan o leihau allyriadau a diogelu pobl a natur yng Nghymru. Dyma pam y rhoddais gyfle i'r diwydiant ddatblygu mesurau amgen, a gwnaed darpariaeth ar gyfer hyn yn y rheoliadau. Rwyf am barhau i weithio gyda'n holl randdeiliaid i sicrhau y bydd unrhyw fesurau amgen yn gweithio'n effeithiol i fusnesau fferm a'r amgylchedd y mae pawb ohonom yn dibynnu arno. Felly, galwaf ar yr holl randdeiliaid eto, gan gynnwys undebau'r ffermwyr, sydd wedi cefnogi dull amgen ers amser maith, i gyflwyno cynigion dichonadwy ar gyfer mesurau amgen a fydd yn sicrhau yr un faint neu fwy o ostyngiadau yn y lefelau llygredd. Rhaid sefydlu unrhyw ddull gweithredu mewn cyfraith. Mae dulliau gwirfoddol yn chwarae rhan bwysig wrth ddiogelu ein hamgylchedd, ond mae safonau sylfaenol statudol yn elfen hanfodol.
Mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod yn llawn nad amaethyddiaeth yn unig sy'n achosi llygredd. Mae rheoleiddio i ddiogelu'r amgylchedd rhag llygredd amaethyddol yn sicrhau bod y sector yn cyd-fynd yn agosach â diwydiannau eraill lle mae lefel uchel o reoleiddio'n digwydd. Rhaid i ffermio yng Nghymru wynebu'r dyfodol â breichiau agored a manteisio ar gyfleoedd masnach, ac er mwyn gwneud hynny, mae angen iddo fabwysiadu dull cynaliadwy gyda safonau cynhyrchu priodol, ac mae'r sylfaen reoleiddiol newydd yn helpu i ddiogelu ein sefyllfa fasnachu ar gyfer ffyniant y diwydiant amaethyddol yn y dyfodol. Craffwyd yn drylwyr ar y rheoliadau cyn iddynt ddod i rym, ond rwy'n cefnogi'r alwad gan y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru i bwyllgor perthnasol roi ystyriaeth bellach i weithredu rheoliadau'n effeithiol er mwyn cryfhau gwytnwch ein cymunedau ffermio a chryfhau gwytnwch yr amgylchedd naturiol. Felly, am y rhesymau hyn rwy'n cynnig disodli pwynt cyntaf y cynnig a byddaf yn pleidleisio i gadw'r ail os mabwysiadir y gwelliannau. Diolch.
Nid oes unrhyw Aelod yn ychwanegol wedi dweud eu bod yn dymuno siarad, felly galwaf ar Samuel Kurtz i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r holl siaradwyr am gymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma a chyflwyno cyfraniadau ystyrlon a chraff. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Gweinidog am ei hymateb a'i thrafodaethau cadarnhaol ar yr angen i'r pwyllgor edrych ar hyn, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hi ar faterion amaethyddol, ac ar faterion gwledig yn fwy cyffredinol, i helpu i sicrhau dyfodol tecach, cynaliadwy a mwy llewyrchus i ffermwyr Cymru.
Er fy mod yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi ymatal rhag dileu popeth yn eu gwelliant, mae'n siomedig, pan fo'r cynnig hwn yn denu cymaint o gefnogaeth drawsbleidiol, eu bod yn dal i deimlo bod angen cyflwyno gwelliant. Er hynny, byddwn yn ymatal ar eu gwelliant yn y cyfnod pleidleisio.
Gan fod hwn yn dymor newydd yn y Senedd gyda nifer o wynebau newydd yma yn y Siambr ac ar Zoom, nid yw ond yn iawn inni edrych ar y rheoliadau parth perygl nitradau hyn unwaith eto, gan y bydd yr effaith andwyol a gaiff y polisi hwn ar ddiwydiant amaethyddol Cymru yn effeithio arnom i gyd, nid Aelodau sy'n cynrychioli ardaloedd gwledig yn unig. Mae'r ddadl heddiw wedi tynnu sylw at gryfder y teimladau ar y pwnc hwn, nid bod y diwydiant a'r rhai sy'n siarad yn erbyn y parthau perygl nitradau yn gwrthwynebu gwella safonau amgylcheddol, ond i'r gwrthwyneb. Credwn fod ffordd well, fwy ystyrlon ac adeiladol ymlaen sy'n arwain at y gwelliannau angenrheidiol, ond sy'n gwneud hynny mewn modd sy'n osgoi cosbi'r rhai sydd eisoes yn gwneud y peth iawn. Credwn hefyd fod yna ffordd ymlaen nad yw'n peryglu dyfodol ffermydd ledled Cymru. Cyfeiriaf at y stori gan Russell George am y ffermwr yn ei ardal ef: mae'n stori a fydd yn taro tant gyda phob un ohonom sydd wedi siarad â ffermwyr yn ein hardaloedd sy'n deall y trafferthion y bydd hyn yn eu hachosi, yr anawsterau y bydd polisi parth perygl nitradau yn eu creu iddynt yn ariannol ac yn feddyliol. Ac mae Joyce Watson yn siarad am ragrith, byddwn yn ei herio mai rhagrith yw bod y Llywodraeth yn cyhoeddi cyllid ar gyfer elusen amaethyddol wych sy'n ymdrin ag iechyd meddwl, ond eto, ei bod yn cyflwyno deddfwriaeth fel hon, deddfwriaeth y mae eu hadroddiad eu hunain yn dweud ei bod yn creu'r fath—[Torri ar draws.]—yn creu effaith mor negyddol ar iechyd meddwl ffermwyr ifanc ledled Cymru.
Mae hefyd yn braf clywed Cefin Campbell yn sôn ac yn siarad mor gadarnhaol am hyn. Mae Cefin a minnau'n adnabod ei gilydd drwy hustyngau dros gyfnod yr etholiad, a dyma'r unig bwnc y byddwch yn synnu clywed bod Cefin a minnau wedi cytuno arno, ond mae'n wych clywed bod gennym gefnogaeth drawsbleidiol ar hyn, ac mae hynny'n dangos pa mor bwysig yw creu consensws ar bolisi a fydd yn effeithio ar Gymru gyfan.
A byddai'n hawdd iawn sefyll yma a beirniadu'r polisi a'r penderfyniad i'w weithredu heb gynnig ateb arall. A byddwn yn anghytuno â sylwadau blaenorol y Gweinidog nad oes ateb gwirfoddol wedi'i arwain gan ffermwyr wedi'i gynnig neu na allai fod yn llwyddiannus. Mae gan First Milk, sy'n rhedeg hufenfa yn sir Benfro, nifer o ffermydd llaeth yn fy etholaeth i ac mae nifer o ffermwyr llaeth yn fy etholaeth yn cyflenwi llaeth iddynt. Maent wedi gweld llwyddiannau gyda'u prosiect gwrthbwyso maetholion, sydd eisoes yn sicrhau manteision amgylcheddol yng ngorllewin Cymru. Mae'r prosiect gwrthbwyso'n sail i ateb posibl, y soniwyd amdano eisoes yma y prynhawn yma: cynllun ffermio'r faner las, y gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol ohono. Byddai'r cynllun gwirfoddol hwn a arweinir gan ffermwyr, pe bai'n cael ei gyflwyno a'i archwilio'n allanol, yn sicrhau'r manteision amgylcheddol na fyddai'r polisi parth perygl nitradau presennol yn eu cynnig, a byddai hefyd yn cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru ei hun i weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. Yn hytrach na gosod ateb rheoleiddiol llawdrwm, byddai'n helpu i ddod â'r gymuned ffermio ynghyd ac ailsefydlu ymddiriedaeth. A hefyd, fel y soniodd Cefin Campbell yn gywir, mae'r dechnoleg yno, mae'n datblygu, lle gallwn gael dull gwirfoddol sy'n creu'r newidiadau angenrheidiol ac yn gwella'r safonau amgylcheddol hynny.
Mae anawsterau'r flwyddyn ddiwethaf wedi golygu ein bod i gyd wedi clywed yr ymadrodd 'dilyn y wyddoniaeth' yn llawer amlach nag o'r blaen. Ac er y dylid cymhwyso'r ymadrodd hwn yn briodol i benderfyniadau sy'n ymwneud â'r pandemig, rhaid ei gymhwyso hefyd i benderfyniadau polisi fel hwn. Ac mae tystiolaeth wyddonol glir i'w gweld ar draws y dŵr yng Ngweriniaeth Iwerddon. Yn 2003, sefydlwyd parth perygl nitradau tiriogaeth gyfan, ac yn 2019, dangosodd canfyddiadau allweddol gan Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd Iwerddon fod gan bron i hanner y safleoedd afonydd grynodiadau anfoddhaol o nitradau; roedd 44 y cant o'r safleoedd yn dangos cynnydd mewn nitradau ar gyfer y cyfnod rhwng 2013 a 2019. Mae llwythi o gyfanswm nitrogen a chyfanswm ffosfforws i'r amgylchedd morol o afonydd Iwerddon wedi cynyddu 24 y cant a 31 y cant, yn y drefn honno, ers 2012-14. Ac yn olaf, roedd bron i hanner—49 y cant—o'r holl safleoedd dŵr daear yn dangos crynodiadau nitradau cynyddol ar gyfer y cyfnod rhwng 2013 a 2019. Os ydym am ddilyn y wyddoniaeth o ddifrif, rhaid inni ystyried tystiolaeth gwledydd eraill sydd wedi gweithredu parthau perygl nitradau, a'r casgliadau brawychus y daethant iddynt.
Cyn imi ddod â'r ddadl hon i ben, hoffwn rannu dyfyniad gyda'r Aelodau o astudiaeth ar effeithiolrwydd parthau perygl nitradau a gynhaliwyd gan yr Athro Worrall, yr Athro Spencer a'r Athro Burt o Brifysgol Durham, a ddywedodd, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae'r diffyg llwyddiant gwrthrychol mewn perthynas â dynodiad parth perygl nitradau yn awgrymu bod angen ailystyried strategaethau rheoli llygredd nitradau sy'n seiliedig ar reoli mewnbwn.'
Gadewch i ni beidio ag aros nes ei bod yn rhy hwyr i ailystyried y strategaeth hon.
Wrth gloi, rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio gyda'r cynnig fel bod y rheoliadau parth perygl nitradau hyn yn cael eu dwyn gerbron pwyllgor i ganiatáu craffu pellach ac i ystyried eu heffaith andwyol ar amaethyddiaeth yng Nghymru. Diolch.
Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i'r trafodion ailgychwyn.
Felly, pob Aelod sy'n gadael y Siambr, sicrhewch eich bod yn gwneud hynny'n dawel, a sicrhewch eich bod yn gadael er mwyn gallu glanhau ar gyfer newid staff.