– Senedd Cymru ar 23 Mehefin 2021.
Eitem 6 yw'r eitem nesaf, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, a dwi'n galw ar Darren Millar i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7716 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 23 Mehefin 2021 yn nodi pum mlwyddiant pobl Cymru yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.
2. Yn credu y dylid parchu canlyniadau refferenda bob amser.
3. Yn cydnabod bod nifer fawr o gyfrifoldebau newydd wedi'u trosglwyddo i Senedd Cymru o ganlyniad i'r Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati'n rhagweithiol i hyrwyddo a manteisio ar y cyfleoedd y mae ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn eu cynnig.
Diolch, Lywydd. Codaf i gyflwyno'r cynnig ar y papur trefn ac i siarad yn erbyn y ddau welliant.
Lywydd, heddiw mae'n bum mlynedd ers y foment hanesyddol pan bleidleisiodd Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n wirionedd anghyfleus i lawer o bobl yn y Siambr hon, ond dyna fel y mae pethau. Pleidleisiodd mwy o bobl yn y refferendwm, wrth gwrs, nag mewn unrhyw bleidlais yng Nghymru ers etholiad cyffredinol 1997. Rhoddodd ganlyniad clir inni a syfrdanodd y sefydliad Cymreig, a gallaf glywed rhai ohonynt yn heclo ar hyn o bryd—[Chwerthin.] Pleidleisiodd 854,572 o bobl yng Nghymru dros adael yr UE. Mae hynny bron ddwywaith cymaint â'r rhai a bleidleisiodd dros Lafur yn etholiad diwethaf y Senedd, a 300,000 yn fwy na'r nifer o bleidleisiau a fwriwyd o blaid sefydlu'r Senedd yn ôl yn 1997.
Nid oedd y tair blynedd a hanner a ddilynodd bleidlais Brexit yn rhai hawdd. Roedd y rhifyddeg seneddol, a phenderfyniad y rhai a oedd yn chwarae gwleidyddiaeth ac nad oeddent yn parchu ewyllys y bobl ac a geisiai rwystro proses Brexit, yn ei gwneud hi'n anodd ac yn flinderus iawn ar adegau. Ond daeth y cyfnod poenus hwnnw i ben gydag etholiad cyffredinol yn 2019 a welodd Lywodraeth Geidwadol yn cael ei hethol gyda mwyafrif enfawr. Cafodd fandad clir i sicrhau bod Brexit yn cael ei gyflawni, ac roedd yn etholiad a welodd wal goch Llafur yn cael ei chwalu'n yfflon yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu sychu oddi ar y map wrth gwrs—[Torri ar draws.] Roeddwn i'n meddwl y byddech chi'n hoffi hynny, James. A chafodd Plaid Cymru ei bwrw i'r trydydd safle yn ei sedd darged Rhif 1, Ynys Môn.
Yn dilyn yr etholiad hwnnw, wrth gwrs, llwyddodd Boris i gyflawni Brexit. Cyflawnodd ei addewid i'r bobl. Lywydd, mae'n hanfodol er lles democratiaeth fod canlyniadau etholiadau a refferenda bob amser yn cael eu parchu a'u gweithredu. Dyna pam rwy'n hynod siomedig nad yw'r ymwahanwyr ym Mhlaid Cymru na Llywodraeth Lafur Cymru, yn eu gwelliannau dileu popeth heddiw, wedi dewis adlewyrchu'r gwirionedd pwysig hwn.
Lywydd, ni chyflwynodd fy mhlaid y cynnig heddiw gyda'r bwriad o agor rhaniadau'r gorffennol a ddaeth i'r amlwg yn ystod y ddadl ar Brexit—[Torri ar draws.] Mae'n wir. Fe'i cyflwynwyd, yn hytrach, i roi cyfle i'r holl Aelodau o'r Senedd hon gael dadl lawn a gonest am y cyfleoedd y mae Brexit yn eu cynnig i Gymru, ac i symud ymlaen o holl raniadau'r pum mlynedd diwethaf. Ac eto, fel y gwelwn o'r papur trefn, mae'r ddwy blaid gyferbyn wedi cyflwyno gwelliannau sy'n ailadrodd yr un math o ymraniad, yr un math o siarad gorchestol, a nodweddai eu hymateb i'r refferendwm yn 2016. Maent fel record wedi torri, Lywydd. Mae'n bryd iddynt symud ymlaen.
Mae gwelliannau Llafur a Phlaid Cymru—[Torri ar draws.] Mae gwelliannau Llafur a Phlaid Cymru yn ceisio pedlera'r chwedloniaeth fod Llywodraeth y DU wedi bod yn tanseilio datganoli ers Brexit, ond ni allai dim fod ymhellach o'r gwirionedd. Diolch i Brexit, y realiti yw bod gan Gymru bellach ei Senedd ddatganoledig fwyaf pwerus mewn hanes.
Mae Cymru wedi dod allan ohoni gyda rhestr newydd gyffrous o gyfrifoldebau a oedd gynt wedi'u lleoli ym Mrwsel, ac yn groes i haeriad Llafur a Phlaid Cymru, ni wnaeth Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 ddileu unhryw un o bwerau'r Senedd hon. Yn hytrach, fe wnaeth ganiatáu i bwerau a arferai fod wedi'u lleoli yn yr UE gael eu trosglwyddo'n drefnus, ac roedd yn eu dychwelyd i Seneddau yma yn y DU. Dyna'r hyn y pleidleisiodd pobl drosto. Ac yn y pwerau a'r cyfrifoldebau pellach hynny, mae dwsinau o feysydd yma yng Nghymru sydd bellach wedi gweld y setliad datganoli'n cael ei gadarnhau ymhellach yn ein cyfansoddiad. Nid pwerau dros feysydd deddfwriaeth aneglur nad ydynt yn cael unrhyw effaith ar fywydau pobl yw'r rhain. Maent i'w cael mewn meysydd arwyddocaol, megis ansawdd aer, labelu bwyd, yr amgylchedd morol, caffael cyhoeddus, ac mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. Ac mae'r holl bwerau a chyfrifoldebau newydd hyn, os cânt eu defnyddio'n dda gan y Llywodraeth hon yng Cymru, yn gallu gwella bywydau pobl o ddydd i ddydd ledled y wlad.
Felly, Lywydd, ni fu unrhyw gipio pwerau gan Lywodraeth y DU ar ôl i ni adael yr UE. Ni fu unrhyw ymosodiad ar ddatganoli. Rwyf wedi gofyn dro ar ôl tro i Aelodau'r pleidiau gyferbyn roi rhestr i mi o'r pwerau sydd wedi'u cipio oddi wrth y Senedd o ganlyniad i Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, ac rwy'n dal i aros am y rhestr honno. Oherwydd y realiti yw na fydd dim arni. Nid oes dim arni; nid oes unrhyw beth ar y rhestr honno. Edrychaf ymlaen at ei derbyn. Gobeithio y gwnewch waith gwell na'ch rhagflaenydd, oherwydd ni chefais gopi. A hynny oherwydd na allant gynhyrchu un, oherwydd nid oes unrhyw bwerau wedi'u cipio oddi wrth y Senedd hon. Nid yw'r cyhuddiadau y maent wedi bod yn eu cyfeirio at Lywodraeth y DU yn ddim mwy na chlecian clefyddau—clecian clefyddau gan bleidiau gwleidyddol sy'n gwrthwynebu i bwerau gael eu trosglwyddo o'r Undeb Ewropeaidd i San Steffan, ac eto'n poeni dim pan oedd yr holl bwerau hyn yn cael eu harfer ym Mrwsel.
Unwaith eto heddiw, mae Plaid Cymru yn ddigon haerllug i gyflwyno rhywbeth sy'n galw am refferendwm pellach ar newid cyfansoddiadol. Nawr, fel y dywedais bythefnos yn ôl wrth yr Aelodau ar feinciau Plaid Cymru, nid oes archwaeth am newid cyfansoddiadol sylweddol pellach a refferenda pellach yng Nghymru. Gwnaethoch osod eich stondin i bobl Cymru yn etholiadau'r Senedd y mis diwethaf, ar y sail eich bod am gael annibyniaeth a'ch bod am gael refferendwm, ac fe gawsoch slap gan etholwyr Cymru, a wrthododd eich galwadau'n llwyr.
Ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o ganoli ymosodol yn ystod y misoedd diwethaf—canoli ymosodol, dyna maent wedi ein cyhuddo ohono. Yr eironi. Mae'n haerllug braidd fod Lywodraeth Cymru sydd wedi bod yn canoli pwerau yng Nghaerdydd ac yn mynd â phwerau oddi wrth gynghorau lleol ar hyd a lled y wlad am ddau ddegawd yn dweud wrth Lywodraeth y DU ei bod yn Llywodraeth sy'n canoli. Cwbl anghredadwy. Dyma'r ffeithiau: mae Llywodraeth y DU, o ganlyniad i gronfa godi'r gwastad a'r gronfa ffyniant gyffredin, mewn gwirionedd yn datganoli pŵer. Mae'n datganoli pŵer drwy roi rôl lawer mwy i awdurdodau lleol nag erioed o'r blaen yn y gwaith o gyflawni buddsoddiad mawr a sylweddol yn eu hardaloedd. Oherwydd dyna'r gwahaniaeth rhwng fy mhlaid i a'r pleidiau eraill a gynrychiolir yn y Siambr hon: rydym yn ymddiried mewn pobl leol i wneud penderfyniadau lleol drostynt eu hunain. Credwn eu bod yn gallu gwneud y penderfyniadau drostynt eu hunain yn well na'r bobl sy'n eistedd mewn tyrau ifori yng Nghaerdydd. Dyna'r gwirionedd. Dyna'r gwirionedd.
Nawr, byddech yn meddwl y byddai'r pleidiau gyferbyn yn croesawu mwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU yng Nghymru, ac eto, maent yn ei wrthwynebu. Onid yw'n rhyfeddol? Maent bob amser yn gofyn am fwy o arian a mwy o fuddsoddiad, a phan ddywed Llywodraeth y DU, 'Iawn, fe wnawn ei roi; fe wnawn baratoi'r ffordd gyda Deddf marchnad fewnol y DU', maent yn dweud, 'Nid ydym ei heisiau; rydym am wneud y penderfyniadau. Wel, mae'n ddrwg gennyf, mae'n annerbyniol. Ni ddylech gwyno am yr adnodd ychwanegol y mae Llywodraeth y DU am ei ddarparu yma yng Nghymru. Nid ydym angen Llywodraeth sy'n codi dau fys ar Lywodraeth y DU; yr hyn rydym ei angen yw Llywodraeth sy'n cydweithio â Llywodraeth y DU er budd pobl Cymru. Oherwydd, wyddoch chi, o ganlyniad i Brexit, mae gennyf lawer o optimistiaeth ar gyfer y dyfodol. Nid yn unig y bydd Cymru'n elwa o ganlyniad i'r gronfa ffyniant gyffredin a'r cronfeydd codi'r gwastad a ddaw i'n hawdurdodau lleol, byddwn hefyd yn elwa o ganlyniad i'r cytundebau masnach sydd wedi'u cytuno gyda gwledydd ym mhob cwr o'r byd.
Mae Llywodraeth Ei Mawrhydi eisoes wedi sicrhau cytundebau masnach gyda 67 o wledydd a'r Undeb Ewropeaidd. Chwe deg saith o wledydd. Cytundebau gwerth mwy na—. Cofiaf rai ohonoch ar y meinciau Llafur yn dweud wrthym na fyddai unrhyw ffordd y ceid cytundeb masnach o fewn y degawd nesaf gyda'r Undeb Ewropeaidd, ac eto mae gennym un. Ac eto, mae gennym un. Mae Boris Johnson a'i dîm wedi cyflawni'r wyrth. Rwy'n gwybod nad ydych chi'n hoffi hynny, ond dyna'r gwir. Dyna'r gwir. Mae gennym gytundebau gwerth mwy na £890 biliwn, ac yn dal i godi. Mae 63 y cant o fasnach y DU yn dod o dan y cytundebau masnach hynny. Cytundebau gyda gwledydd mor amrywiol â Canada, yr Aifft, Gwlad yr Iâ, Japan, Kenya, Serbia, Chile, Singapôr. Mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. Ac nid cytundebau masnach yw'r rhain a luniwyd gan Deyrnas Unedig ynysig; mae'r rhain yn gytundebau masnach gan Brydain fyd-eang sydd am chwarae rhan bwysig ar y llwyfan rhyngwladol.
Felly, gadewch inni nodi pum mlwyddiant gwych y refferendwm heddiw drwy roi'r ymraniadau y tu ôl inni. Gadewch inni gytuno i weithio gyda'n gilydd, i fanteisio ar y cyfan y mae Brexit yn ei gynnig, a gadewch inni sicrhau bod Llywodraeth Cymru, dros y pum mlynedd nesaf, yn cydweithio â Llywodraeth y DU er budd pawb yma yng Nghymru.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw nawr ar Rhys ab Owen i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Gwelliant 1—Siân Gwenllian
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bygythiadau parhaus Llywodraeth y DU i ddatganoli ar ôl Brexit, yn benodol o ran Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, y gronfa lefelu i fyny a'r gronfa ffyniant gyffredin;
2. Yn credu y dylai pleidleiswyr bob amser gael cynigion clir a manwl ar refferenda cyfansoddiadol;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn y broses a amlinellir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i geisio pwerau i'r Senedd alw refferendwm rhwymol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru a fyddai'n rhoi dyfodol Cymru yn nwylo Cymru.
Rwy'n cynnig y gwelliant.
Lywydd, synnais o weld y cynnig hwn gan y Ceidwadwyr heddiw. Bythefnos yn ôl, cefais fy nghyhuddo gan brif chwip y Ceidwadwyr o fogailsyllu cyfansoddiadol. Wel, beth a gawsom heddiw ond bogailsyllu cyfansoddiadol? Ond Mr Millar, rwy'n credu eich bod wedi mwynhau ein dadl bythefnos yn ôl yn fwy nag yr hoffech ei gyfaddef.
Roedd dadl gyntaf Plaid Cymru yn flaengar; roedd yn dangos y ffordd i wella Cymru, ehangu ein pwerau, nid eu rhoi nhw nôl fel mae'r Torïaid eisiau gwneud. Mae Brexit wedi digwydd, ni mas o'r Undeb Ewropeaidd, pam mae'n rhaid ichi fynd ymlaen ac ymlaen am y peth gymaint, dwi ddim yn gwybod. Ond dyw hynny ddim yn golygu nad ydyn ni'n mynd i ddwyn i gyfrif arweinwyr 'leave' wnaeth wneud pob math o addewidion gwag i bobl Cymru a phobl y Deyrnas Unedig. Wnawn ni ddim anghofio y bws coch gyda'r addewid am fwy o arian i'r gwasanaeth iechyd; wnawn ni ddim anghofio'r addewid y byddai Cymru a chymunedau mwyaf difreintiedig Cymru yn derbyn arian ychwanegol; wnawn ni ddim anghofio'r cynnydd yn y casineb tuag at fewnfudwyr oherwydd ymgyrch 'leave'.
Gwyddom beth oedd yr ymgyrch 'gadael' yn ei olygu pan oeddent yn gweiddi am adfer rheolaeth. Adfer rheolaeth i San Steffan. Nid oedd Cymru ar yr agenda. O'r dechrau, nid oedd lle i Gymru o gwbl. Gwelsom hyn yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a roddai gyfyngiadau pellach ar y setliad datganoli yng Nghymru, ac fe'i gwelwn yn awr gyda Chymru'n cael ei hanwybyddu dro ar ôl tro. Gwrandewch, Aelodau; gwrandewch ar sŵn y llif cyson o fygythiadau i ddatganoli ar ôl Brexit. Deddf marchnad fewnol y DU, cronfa codi'r gwastad, cronfa ffyniant gyffredin, cawsant oll eu cynllunio er mwyn ail-lunio'r map gwleidyddol y mae pobl Cymru wedi pleidleisio o'i blaid dro ar ôl tro.
Gwnaeth yr ail baragraff yng nghynnig y Ceidwadwyr heddiw i mi chwerthin, lle maent yn dweud y dylid parchu canlyniadau refferenda. Nawr, wel, mae hynny'n chwerthinllyd yn dod oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr. Cyn yr etholiad, datganodd un o'ch Aelodau ei fod o'r diwedd yn mynd i ddod ag arbrawf datganoli i ben yng Nghymru. Dywedodd yr Aelod hwnnw hefyd y bydd yn ymgyrchu i roi diwedd ar ddatganoli yng Nghymru. A yw hynny'n dangos parch at ganlyniadau dau refferendwm yn 1997 a 2011? Safodd eich arweinydd yn y Senedd—eich arweinydd yn y Senedd—yn 2005 ar faniffesto a ddywedai y byddent yn cael refferendwm a fyddai'n cynnwys opsiwn i ddiddymu'r Cynulliad. A yw hynny'n dangos parch at ewyllys pobl Cymru? A'r wythnos hon—dim ond yr wythnos hon—clywsom gan Weinidog yr economi, a ddywedodd, er iddo gael ei wahodd i'r trafodaethau masnach gyda'r UE, na chaniatawyd iddo ddweud dim. Nid oedd yn cael cyfrannu. A yw hynny'n dangos parch at ein Llywodraeth yma yng Nghymru? Gadewch imi ddweud hyn wrth feinciau'r Ceidwadwyr yn awr: nid arbrawf yw ein Senedd yng Nghymru. Nid yw yma i ddod i ben ar fympwy Plaid Geidwadol mewn Llywodraeth, ac nid ystum symbolaidd mohonom. Nid ydym yma i gael ein gweld yn hytrach na'n clywed.
Roedd Gwynfor Evans yn dangos mwy o weledigaeth nôl yn y 1960au nag ydyn ni'n gweld draw yn fanna gyda'r Torïaid. Roedd e'n disgrifio Cymru fel labordy—siawns inni ddangos sut i wneud pethau a'r byd yn ein dilyn ni.
Mae nifer o newidiadau pwysig wedi digwydd yn y lle hwn, newidiadau cymdeithasol, pethau byddem ni ddim yn dychmygu a fyddai'n bosibl 20 mlynedd yn ôl: gwahardd ysmygu mewn tafarndai, taliadau bagiau plastig, caniatâd tybiedig ar drawsblannu organau a dileu'r amddiffyniad—hyd yn oed roeddech chi'n moyn ei gadw fe—dileu'r amddiffyniad o gosb resymol ar blant.
Ac edrychaf ymlaen at weithio'n drawsbleidiol yn y grŵp hwn i gyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol, fel y gallwn greu, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders yn gynharach heddiw, iwtopia sosialaidd yma yng Nghymru.
Lle mae Cymru yn arwain, mae eraill yn dilyn.
Roedd Boris Johnson yn gweld proses Brexit fel cyfle i fachu allweddi drws ffrynt 10 Stryd Downing. Nawr fod gennym y Brexit caled, llym hwn, mae angen i ni fel Senedd gydweithio i liniaru ei effaith. Rhaid inni wrthsefyll sŵn y curo drymiau o bell gan Blaid Geidwadol genedlaetholgar yn Lloegr, plaid sy'n benderfynol o niweidio datganoli, a thrwy hynny, niweidio Cymru a niweidio pobl Cymru.
Mae pôl ar ôl pôl yn dangos bod pobl Cymru ar draws y sbectrwm gwleidyddol eisiau rhagor o bwerau. Fy nghri i felly i chi, Llywodraeth Cymru, yw peidiwch â llaesu dwylo, peidiwch ag oedi, peidiwch ag aros i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wneud rhywbeth, oherwydd does dim byd o'r tu yna yn mynd i fod o fantais i bobl Cymru. Mae'n rhaid inni nawr, os ŷn ni'n parchu refferenda'r gorffennol, fynnu pwerau ychwanegol. Felly, cefnogwch ein gwelliant, mynnwch bwerau ychwanegol er lles pobl Cymru. Diolch yn fawr.
Rwy'n galw nawr ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i gynnig yn ffurfiol welliant 2.
Gwelliant 2—Lesley Griffiths
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod canlyniad refferendwm yr UE.
2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithio mewn modd adeiladol gyda’r UE er mwyn lleihau effaith y cytundeb y cytunwyd arno ar fusnesau a dinasyddion ledled y DU.
3. Yn condemnio methiant Llywodraeth y DU i gyflawni ei haddewid na fyddai Cymru ar ei cholled yn ariannol mewn unrhyw ffordd yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
4. Yn condemnio ymosodiad parhaus Llywodraeth y DU ar ddatganoli drwy Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020, cronfa codi’r gwastad a’r gronfa ffyniant gyffredin.
5. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â phobl Cymru er mwyn ystyried ein dyfodol cyfansoddiadol o fewn Deyrnas Unedig sydd wedi’i diwygio’n sylweddol.
Yn ffurfiol.
Fel y dywedais yma ym mis Mehefin 2016,
'Rhaid i Gymru ym Mhrydain fod yn bartner sofran i Ewrop nid yn dalaith o’r UE fel rhan o gymuned fyd-eang sy’n edrych tuag allan.'
Heddiw, bum mlynedd union ers i bobl Cymru—pobl Cymru—bleidleisio i adael yr UE, mae Prydain fyd-eang sy'n edrych tuag allan yn gallu llunio cytundebau masnach gyda marchnadoedd newydd fel grym masnachu rhyddfrydol, rhydd er daioni yn y byd. Cyflawnwyd llawer, ac yn enwedig o ystyried yr amgylchiadau digynsail a grëwyd gan y pandemig a'r beirniadu cyson gan y rhai na chafodd eu ffordd eu hunain am unwaith.
Ers Brexit, mae ein DU fyd-eang wedi arwyddo cytundebau gyda 67 o wledydd a'r UE, ac mae'n gwneud cynnydd da gyda chyfeillion a chynghreiriaid eraill, gan gynnwys Seland Newydd, Awstralia a'r Unol Daleithiau. Bydd cytundeb masnach rydd hanesyddol yr wythnos diwethaf gydag Awstralia yn creu cyfleoedd newydd i fusnesau a defnyddwyr y DU a Cymru, drwy ddileu'r holl dariffau ar nwyddau'r DU, gan ei gwneud yn rhatach i werthu cynnyrch fel ceir, wisgi a serameg i Awstralia, a chael gwared ar fiwrocratiaeth i filoedd o fusnesau bach, gan ei gwneud yn haws teithio a gweithio, yn enwedig i bobl ifanc.
Bydd ffermwyr yn cael eu diogelu gan gap ar fewnforion di-dariff am 15 mlynedd, a bydd cynhyrchwyr amaethyddol hefyd yn cael cymorth i gynyddu eu hallforion dramor. Mewn rhai achosion, mae gan Awstralia safonau lles anifeiliaid uwch na rhai o wledydd yr UE, ac mae Ysgrifennydd masnach ryngwladol y DU hefyd wedi gwarantu, er enghraifft, y bydd cig eidion sy'n cael ei chwistrellu gan hormonau yn parhau wedi ei wahardd yn y DU. Fodd bynnag, fel y dywedodd NFU Cymru Clwyd wrthyf ddydd Sadwrn diwethaf, mae rhyddfrydoli masnach yn dda, ond mae angen chwarae teg arnynt mewn perthynas â safonau hylendid a lles. Rydym yn cytuno. Roeddent yn ychwanegu bod angen cynlluniau cymorth fferm arnynt gan Lywodraeth Cymru sy'n bwrpasol, yn ymarferol ac yn fforddiadwy. Wel, mater i'r Gweinidogion hyn yw hynny.
Ddoe, lansiodd Llywodraeth y DU negodiadau i ymuno â chytundeb partneriaeth gynhwysfawr a blaengar y Môr Tawel, ardal fasnachu rhydd gwerth £1 triliwn, sy'n gartref i 500 miliwn o bobl, a fydd yn agor cyfleoedd newydd i fusnesau'r DU yn y farchnad sy'n tyfu gyflymaf yn y byd. Yn hytrach na chwyno a nadu, difrïo a chodi bwganod, mae'n hanfodol fod Gweinidogion Llafur Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, cyd-deithwyr ym Mae Caerdydd, bellach yn sicrhau bod Cymru ar flaen y ciw i fanteisio ar y cyfleoedd niferus a grëir i fusnesau Cymru gan y cytundebau masnach newydd hyn a fydd yn ein galluogi i adeiladu'n ôl yn well ar ôl y pandemig.
Fel y dywedais yma fis Rhagfyr diwethaf,
'mae arbenigwyr yn dweud y bydd y cytundeb masnach ar ôl Brexit yn helpu'r economi i ymadfer yn 2021, ar ôl blwyddyn anodd wedi'i dominyddu gan argyfwng coronafeirws.'
Ddeufis yn ôl, dywedodd y gweithredwr fferi môr Iwerddon, Stena Line, fod traffig cludo nwyddau ar gynnydd yn ei borthladdoedd yng Nghaergybi ac Abergwaun yn dilyn gostyngiad bach ar ôl Brexit. Nododd rhagolwg y CBI ddydd Gwener diwethaf y bydd economi'r DU yn ehangu 8.2 y cant eleni a 6.1 y cant y flwyddyn nesaf, gan ragori ar holl brif gystadleuwyr y DU a chodi'r economi'n ôl i lefelau gweithgarwch cyn y pandemig erbyn diwedd y flwyddyn.
Nonsens manteisgar yw'r twyll pleidiol am Ddeddf marchnad fewnol y DU. Mewn gwirionedd, ar adeg Bil ymadael y DU, cytunodd Llywodraeth y DU y byddai fframweithiau ar gyfer y DU gyfan i ddisodli rheoliadau'r UE yn cael eu negodi'n rhydd rhwng pedair Llywodraeth y DU mewn meysydd fel bwyd, lles anifeiliaid a'r amgylchedd, gan osod safonau na all yr un ohonynt ddisgyn oddi tanynt, gyda'r trefniadau cyffredin presennol yn cael eu cynnal hyd nes y cytunir ar y rhain i gyd.
Ac mewn datganiad ar adroddiad diweddaraf Llywodraeth y DU ar fframweithiau cyffredin yn gynharach y mis hwn, mae Llywodraeth Cymru yn datgan:
'Mae'r adroddiad yn dweud bod gwaith cadarnhaol yn parhau ar Fframweithiau Cyffredin, ac yn cadarnhau nad yw Llywodraeth y DU wedi defnyddio'r 'pwerau rhewi'.'
Mae'r bobl adweithiol gyferbyn yn dal i sbinio y bydd cronfa ffyniant gyffredin y DU yn gadael Cymru'n waeth ei byd, gan ddewis anwybyddu datganiadau mynych gan Weinidogion Llywodraeth y DU y bydd y swm o arian a gaiff ei wario yng Nghymru pan ddaw'r gronfa ffyniant gyffredin yn weithredol yn union yr un fath â'r swm o arian a gâi ei wario yng Nghymru a oedd yn deillio o'r UE, neu'n fwy na hynny, wedi'i ategu gan y warant 'dim ceiniog yn llai'. Yr hyn nad ydynt am i bobl ei wybod yw bod Llywodraeth y DU yn gofyn i awdurdodau lleol yng Nghymru ymuno â rhanddeiliaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru i feddwl am syniadau hynod arloesol, lle bydd y gwersi a ddysgwyd yn sail i becyn llawer mwy o arian o ddiwedd 2021 ymlaen.
Yr wythnos diwethaf, roeddent hyd yn oed yn honni yma y byddai'r arian yn cael ei wario'n well pe bai'n cael ei roi yn eu dwylo gorchymyn-a-rheoli hwy yn uniongyrchol. Gadewch inni gofio bod Llywodraethau Llafur Cymru eisoes wedi gwario £5.5 biliwn mewn cyllid o'r UE ar fethu cau'r bwlch ffyniant, naill ai yng Nghymru neu rhwng Cymru a gweddill y DU. Dyna pam y mae Llywodraeth y DU am weithio ar y lefel isaf—ar lefel leol, gydag awdurdodau lleol—a chyda Llywodraeth Cymru i roi'r arian hwnnw o'r diwedd tuag at sicrhau bod y bwlch ffyniant yn cael ei gau fel y bwriadwyd iddo ei wneud yn wreiddiol a chreu'r ffyniant y mae Cymru wedi bod yn aros cyhyd i'w gyflawni.
Bum mlynedd yn ôl, o drwch blewyn pleidleisiodd mwyafrif o bobl a fwriodd bleidlais yng Nghymru a'r DU gyfan i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac rydym wedi gadael. Mae hynny'n iawn, a dyna'r canlyniad democrataidd. Ond mae democratiaeth yn gymhleth, nid gordd mohoni. Yn ogystal â phenderfyniad mwyafrifol, mae'n ymwneud â phlwraliaeth, goddefgarwch a dod o hyd i dir cyffredin, sy'n un o'r rhesymau pam y dadleuodd llawer ohonom dros gytundeb ymadael a oedd yn cadw cymaint â phosibl o fynediad at farchnad sengl yr UE a chyfranogiad parhaus mewn undeb tollau. Yn fy marn i, byddai hynny wedi bod yn ganlyniad mwy democrataidd i'r refferendwm, un y gallai dwy ochr y ddadl fod wedi byw gydag ef.
Fel y mae, dilynodd y Torïaid lwybr Brexit pleidiol, caled gan ei droi'n fater ymrannol gwenwynig sy'n parhau i rannu gwleidyddion, ond yn bwysicach na hynny, mae'n parhau i rannu cymunedau, teuluoedd a ffrindiau a sefydlogrwydd cyfansoddiadol y DU, sy'n drist ac yn anghyfrifol iawn. Am y rheswm hwnnw'n unig, dylid ystyried cytundeb Boris Johnson yn fethiant gwleidyddol a chymdeithasol. Ond eisoes mae'n profi'n fethiant economaidd hefyd. Y rheswm arall y gwnaethom ddadlau dros fwy o ymochri â'r UE oedd i atal yr hyn a welwn yn awr—rhwystrau i fasnach y dywedwyd wrth fusnesau Cymru na fyddent yn eu hwynebu, y cynnydd enfawr mewn biwrocratiaeth a rhwystrau heblaw am dariffau, yr anawsterau a wynebir gan y celfyddydau a'r sector creadigol wrth deithio yn Ewrop, y niwed uniongyrchol i'n diwydiant bwyd môr, a'r ffin amlwg iawn ym môr Iwerddon. Nid yw'r rhain yn broblemau annisgwyl na bach, fel yr hoffai'r Torïaid inni gredu; maent yn sylfaenol ac yn ganlyniad anochel Brexit y Torïaid.
Soniais am Ogledd Iwerddon. Rydym i gyd, gobeithio, yn derbyn na allwn gael ffin galed ar ynys Iwerddon. Felly, mae unrhyw gytundeb masnach gydag UDA neu Awstralia, neu unrhyw wlad arall o ran hynny, o reidrwydd yn golygu naill ai ffin ym môr Iwerddon neu daflu ffermwyr Cymru a'r DU o dan y bws Brexit enwog. Nid oes ffordd o osgoi hynny. Mae cytundeb Awstralia yn dangos y cyfeiriad teithio. Mae'r Torïaid wedi dewis y ffin forol a masnach rydd dros gyfanrwydd cyfansoddiadol y DU a dyfodol ffermio yng Nghymru.
Eglurais ragrith y Torïaid ar y mater hwn yn ddiweddar, felly nid wyf am ailadrodd hynny, ond ni wyddwn a ddylwn chwerthin neu grio pan wyliais Weinidog masnach y DU yn ei amddiffyn yn y Senedd ac ar y cyfryngau. Ar un gwynt, canmolodd Liz Truss y mynediad y byddai ein ffermwyr yn ei gael i'r marchnadoedd newydd, fel Fiet-nam. A'r eiliad nesaf, roedd hi'n cyfaddef nad oes nemor ddim masnach mewn cynnyrch fel cyw iâr am ei bod mor bell. Wel, pwy fyddai wedi meddwl? Pwy fyddai wedi meddwl bod Fiet-nam ymhell o weddill Ewrop? Yn sydyn, mae hi wedi gweld y golau hwnnw.
Bum mlynedd ar ôl y refferendwm, fy marn i yw na fydd y cyhoedd ym Mhrydain yn goddef y Brexit Torïaidd dinistriol, ymrannol, dogmatig hwn yn rhy hir. Rwy'n gobeithio ac rwy'n disgwyl y byddwn ymhen pum mlynedd yn myfyrio ar Brexit o safbwynt ymochredd llawer agosach ar dollau a'r farchnad. Byddai honno'n ffordd ymlaen lawer mwy synhwyrol, ymarferol a democrataidd, a gallai hefyd helpu i achub rhai o'r busnesau yma a'n helpu i gael digon o bobl i weithio yn y diwydiannau hynny. Diolch.
Diolch am y cyfle i gyfrannu yn y ddadl bwysig hon heddiw a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Mr Millar. Heddiw, wrth gwrs, fel y gwyddoch yn amlwg, mae'n bum mlynedd ers i bobl Cymru bleidleisio gyda phobl y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ac i mi, un o agweddau mwyaf diddorol y refferendwm oedd mai dyma'r ymarfer democrataidd mwyaf a welodd ein gwlad erioed. Rwyf am gymryd ychydig funudau y prynhawn yma i ddathlu hynny.
Cofiwch ein bod wedi cael ein hethol yma heddiw yn etholiadau'r Senedd gan oddeutu 45 y cant o'r etholwyr, ac etholir cymheiriaid i San Steffan gan oddeutu 67 y cant o'r etholwyr, ond pleidleisiodd 72 y cant o'r etholwyr yn y refferendwm bum mlynedd yn ôl. Bu llawer iawn o ymgysylltu gan yr etholwyr—pleidleisiodd 1.6 miliwn o bobl yng Nghymru yn refferendwm Brexit. Dyma Lywodraeth Geidwadol yn y DU sy'n gweithredu ar ewyllys y bobl ac sy'n cyflawni ac yn parhau i gyflawni ar y mandad a roddwyd gan bobl Cymru i adael yr Undeb Ewropeaidd. Fel gwleidyddion, wrth gwrs, rhaid inni beidio ag anghofio pwy rydym yn eu cynrychioli a'r hyn y maent am i ni ei wneud, ac roedd y refferendwm hwn yn enghraifft berffaith o hyn. [Torri ar draws.] Yn eich etholaeth chi, rwy'n siŵr y byddwch yn gwybod, Mr Davies, fod 62 y cant, rwy'n credu, wedi pleidleisio i adael.
Dewisodd pobl Cymru adael yr Undeb Ewropeaidd. Aethant yn erbyn yr hyn roedd llawer o arbenigwyr yn dweud wrthynt am ei wneud ac aethant yn erbyn yr hyn roedd llawer o wleidyddion yn dweud wrthynt am ei wneud. Hwy a ddewisodd eu tynged a hwy a ddewisodd eu rhyddid oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, ein rôl ni fel gwleidyddion etholedig—ac yn sicr fel Llywodraeth—yw gwrando a chyflawni ewyllys y bobl a phobl Cymru sy'n rhoi eu mandad i ni. Nid oes ffordd gliriach o wrando ar bobl Cymru na thrwy refferendwm deuaidd uniongyrchol. Ac yng ngeiriau un o bleidwyr mwyaf democratiaeth, Abraham Lincoln, democratiaeth yw 'llywodraeth gan ac ar ran y bobl'. Mae etholiadau'n perthyn i'r bobl; eu penderfyniad hwy ydyw.
Mae'n fwy amlwg nag erioed fod pobl Prydain wedi cymeradwyo Brexit. Fe wnaethant gymeradwyo cynllun Brexit Llywodraeth Geidwadol y DU eto—[Torri ar draws.] Fe wnaethant ei gymeradwyo eto, Mr Davies, yn etholiad cyffredinol diweddaraf y DU lle cafodd y Ceidwadwyr fwyafrif enfawr i sicrhau bod Brexit yn cael ei gyflawni, fel y mae Prif Weinidog y DU yn parhau i'w ailadrodd. Ac fel yr amlinella ein cynnig Ceidwadol, mae'n bryd yn awr i Lywodraeth Cymru hyrwyddo a manteisio ar y cyfleoedd y mae ymadael â'r UE yn eu cyflwyno. Rydym bellach wedi adennill ein hannibyniaeth wleidyddol ac economaidd yn llawn, gan adfer rheolaeth dros ein cyfreithiau, ein ffiniau, ein harian, ein masnach a'n pysgodfeydd. Gan symud ymlaen o hyn, bydd y cytundeb masnach y mae'r DU wedi cytuno arno gyda'r UE ar ran pobl Prydain yn helpu i feithrin perthynas newydd wych gyda'n cymdogion Ewropeaidd, yn seiliedig ar fasnach rydd a chydweithredu cyfeillgar.
I gloi, Lywydd, mae heddiw'n ddiwrnod arbennig iawn i ddemocratiaeth: pum mlynedd ers y bleidlais fwyaf a welodd y wlad hon erioed. Ac onid yw'n wych ein bod yn gallu gweld democratiaeth ar waith, a bod Llywodraeth y DU yn cyflawni dymuniadau pobl y wlad hon? Er gwaethaf y codi bwganod, dewisodd pobl ein gwlad wych adael yr Undeb Ewropeaidd. Fe wnaethant ddewis adennill ein hannibyniaeth, rheoli ein cyfreithiau a'n harian, a phenderfynu ar ein mewnfudo a'n masnach. Mae heddiw'n caniatáu inni ddathlu grym pleidlais yr unigolyn, democratiaeth ar waith a Llywodraeth sy'n barod i gyflawni mandad clir. Dyma'r adeg i hyrwyddo a manteisio ar y cyfleoedd y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi'u rhoi i ni. Mae'n bryd agor i'r byd ehangach a gwneud y wlad hon hyd yn oed yn well. Diolch yn fawr iawn, Lywydd.
Am ben-blwydd trychinebus. Ni ddefnyddiaf fy nghyfraniad heddiw i ailadrodd y celwyddau a ddywedwyd yn ystod refferendwm 2016—maent wedi'u cofnodi'n gyhoeddus—ond rwy'n gresynu at gywair ail hanner cynnig y Ceidwadwyr gyda'i ffocws ar gyfleoedd, gan anwybyddu'n gyfleus y cipio pŵer gan San Steffan o dan Ddeddf y farchnad fewnol, a chynlluniau olynol yr UE yr eglurais i'r Siambr yr wythnos diwethaf eu bod fel pe baent wedi'u creu i gyfoethogi ardaloedd sy'n cefnogi'r Torïaid ar draul ein cymunedau ni. Dim sôn am y toriadau sy'n bygwth ein sector celfyddydau, gallu ein myfyrwyr i astudio, ffurfio cysylltiadau a ffynnu dramor—maent oll wedi'u colli.
Pan ddeuthum i'r Senedd hon am y tro cyntaf a dod yn llefarydd ar Brexit, roedd yn ymddangos bod ein holl sylw'n cael ei roi i gytundebau masnach, newyddion am y negodiadau, a chloch y pleidleisiau'n atseinio yr holl ffordd o San Steffan i'n Senedd ni. Cawn fy mlino gan yr ymwybyddiaeth o'r cyfan nad oedd yn cael ein sylw—y pethau y gellid, y byddid, y dylid, a allai fod wedi digwydd ond na ddigwyddodd am fod Brexit yn mynd â'n holl sylw. Yn awr, mae saga druenus Brexit yn rhy aml wedi ei chyfyngu i ddatganiadau ysgrifenedig. Mae diweddariadau sy'n effeithio ar fywoliaeth a chyfleoedd bywyd dinasyddion yn cael eu gwthio i dudalennau ysgrifenedig, na chânt eu lleisio na'u craffu.
Nid wyf yn beio Llywodraeth Cymru, a dyn a ŵyr, mae COVID wedi gorfod mynd â chymaint o'n sylw, ond Lywydd, y tu allan i'r Siambr mae'n dal i fod ymdeimlad o'r hyn a allai fod wedi bod, nid ar ffurf amser deddfwriaethol na blaenoriaeth Llywodraeth mwyach efallai, ond ar ffurf bywydau ar stop, dinasyddion yr UE sydd wedi byw ers blynyddoedd yn ein plith yn gorfod ailymgeisio am eu hawl i breswylio, ymdeimlad o ryngberthyn tynn a dyheadau a rennir yn cael eu gwthio i'r cyrion, a gorwelion yn crebachu ac yn cyfyngu. Ac ar draws y môr, mae anghytgord a thensiwn yng Ngogledd Iwerddon yn cynyddu, wedi'i gymell gan Weinidogion San Steffan na wnaethant drafferthu poeni am yr effaith y byddai eu laissez-faire, eu braggadocio diog yn ei chael ar yr hyn sy'n llythrennol yn fater o fywyd a marwolaeth.
Lywydd, mae'r cynnig yn siarad am gyfleoedd. Rwy'n siarad am gyfleoedd a gollwyd—cost cyfle biwrocratiaeth, llenwi ffurflenni, y ffyrdd nas teithiwyd oherwydd eu bod wedi'u cau bellach. Yn 'Hard Border' mae'r bardd Clare Dwyer Hogg yn ein hatgoffa bod
'cyfle a gobaith yn dod ar ffurf pethau fel ager a mwg.'
Nid yw pob un o effeithiau Brexit mor ddiriaethol â rhesi o lorïau ar draffordd. Hoffwn atgoffa'r Siambr o'r teithiau nas teithiwyd, y cariad nas profwyd, yr heriau a gollwyd cyn y gellid eu hwynebu, llwyddiannau a phrofiadau y gallem fod wedi'u rhannu; y pethau a allai fod wedi bod yn gwasgaru ac yn diflannu fel mwg yn y gwynt.
Roeddwn wedi tybio mai fel hyn y byddai'r ddadl y prynhawn yma, mewn gwirionedd. Efallai y dylwn fod wedi meddwl yn wahanol amdani. Pan ystyriwch beth a ddigwyddodd cyn ac ar ôl y refferendwm, yn eironig credaf mai gyda Phrif Weinidog Lwcsemourg, Xavier Bettel, rwy'n cydymdeimlo fwyaf, pan ddywedodd,
'O'r blaen, roeddent i mewn ac yn optio allan o lawer o bethau; yn awr maent eisiau bod allan ac optio i mewn i lawer o bethau.'
Yn ddiarwybod rwy'n credu ei fod wedi crisialu'r gwyro, yr anonestrwydd a'r dryswch ym mholisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros y cyfnod hwn a chyn hynny.
Rwy'n gynefin â dymuniad y Ceidwadwyr i guro'r drymiau y prynhawn yma, ac mae gennyf lawer o gydymdeimlad â'r awydd hwnnw, ac yn gadael iddynt wneud hynny. Ond yr hyn na allwch ei wneud yw adeiladu gwleidyddiaeth ac adeiladu polisi ar anonestrwydd. Roedd Darren Millar yn llygad ei le. Daeth yma ym mis Rhagfyr a dweud, 'Mae Boris Johnson wedi cyflwyno cytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd y dywedoch chi'—gan bwyntio at Lywodraeth Cymru—'na allai byth ei wneud'. Ac roeddech yn llygad eich lle yn dweud hynny, oherwydd gwnaeth Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, y camgymeriad o gredu'r hyn a ddywedodd Boris Johnson. Yr hyn a wnaeth Boris Johnson er mwyn sicrhau'r cytundeb, wrth gwrs, oedd trosglwyddo Gogledd Iwerddon i weinyddiaeth ac awdurdodaeth yr Undeb Ewropeaidd i bob pwrpas.
Dyna a ddigwyddodd; mae 288 o fesurau cyfraith Ewropeaidd mewn grym yn gyfreithiol heddiw yng Ngogledd Iwerddon, ac mae honno'n ffaith absoliwt. Crëwyd ffin i lawr môr Iwerddon. Dywedodd yr Undeb Ewropeaidd eu bod am gael ateb, a dywedodd Boris Johnson wrth y papurau tabloid ei fod yn mynd i ymladd dros Blighty, ac fe gyrhaeddodd yno, ac fe ildiodd, rhoddodd y ffidil yn y to, gwnaeth gam â phobl Gogledd Iwerddon ac fe ddywedodd gelwydd wrth Senedd Prydain. Ac mae hynny'n gwbl glir. Wyddoch chi, y lefel honno o wyro ac anonestrwydd yw'r edefyn sylfaenol sydd wedi llywio polisi Llywodraeth y DU drwy gydol y cyfnod hwn—dweud un peth, gwneud rhywbeth arall. Ac rydym wedi gweld canlyniad hynny yn Iwerddon heddiw. Wrth gwrs, yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd o 60 y cant mewn busnes trawsffiniol rhwng y Weriniaeth a Gogledd Iwerddon oherwydd, wrth gwrs, rydych chi bellach wedi creu'r hyn y mae Sinn Fein wedi methu ei wneud mewn gwirionedd, ac mae Boris Johnson wedi llwyddo i'w wneud—creu economi Iwerddon gyfan am y tro cyntaf ers yr ymraniad, sy'n ffordd ryfedd o ddathlu ei gred yn yr undeb.
Ac mae hefyd wedi gwneud rhywbeth gwahanol, rhywbeth gwahanol iawn, a siaradodd Liz Truss am hyn yn The Times ddydd Sadwrn. Unwaith eto, mae'r Ceidwadwyr yn siarad am y cytundebau masnach y maent wedi'u gwneud mewn gwahanol rannau o'r byd, ond pa effaith y mae hynny'n ei chael ar y wlad hon? Pa effaith y mae'n ei chael ar Gymru? Rydym yn sôn am y cytundeb masnach posibl gyda gwledydd y Môr Tawel, ond yr hyn nad ydynt yn ei ddweud wrthych yw mai 0.08 y cant yw'r cynnydd yn y cynnyrch mewnwladol crynswth yn ôl eu ffigyrau hwy eu hunain. Dim pwynt sero wyth y cant. Ni allai'r Brydain fyd-eang dalu am ei chwch hwyliau ei hun hyd yn oed. [Chwerthin.] A'r realiti yw nad yw hynny hyd yn oed yn talu am gost gadael y farchnad sengl, a'r swyddi a'r cyfleoedd a gollir yn sgil hynny. Felly, mae'n sylfaenol anonest.
A'r peth arall a ddywedodd ddydd Sadwrn y credwn ei fod yn eithaf diddorol oedd nad yw'r Brydain fyd-eang, meddai, yn mynd i fynd ar drywydd imperialaeth debyg i'r UE mewn masnach. A'r hyn y mae hynny'n ei olygu, wrth gwrs—ac fe'i dywedodd ei hun—yw nad ydym yn mynd i ddweud wrth bobl mewn gwledydd eraill sut i redeg eu ffermydd. Dyna roeddent yn ei ddweud. Felly, yr hyn y maent yn mynd i'w wneud yw lleihau tariffau fel unig nod polisi, ac nid oes ots pa effaith y mae hynny'n ei chael ar les anifeiliaid, ar lafur gorfodol. Nid oes ots beth yw'r effaith ar ddinistrio'r amgylchedd, oherwydd mae gennym bolisi masnach heb werthoedd. Mae gennym bolisi masnach sy'n canolbwyntio ar dariffau ond nid yw'n canolbwyntio ar werthoedd a phwy ydym fel gwlad, pwy ydym fel pobl. Ac nid yw ychwaith yn canolbwyntio ar ddiogelu ffermwyr yn yr achos hwn, rydym wedi gweld y ffordd y maent wedi gwneud cam â'r diwydiant pysgota, a byddant yn gwneud cam â phob diwydiant arall. Gwelsom yr un peth gyda dur yn y dyddiau diwethaf. Yr unig bobl y byddant yn eu diogelu yw arianwyr Dinas Llundain sy'n rhoi eu rhoddion iddynt.
Wrth gloi, Lywydd, gadewch imi ddweud hyn. Un o'r pethau pwysig i'r holl Aelodau yma, gan gynnwys Darren Millar, yw ein bod yn diogelu'r hawliau a'r breintiau sydd gennym fel Aelodau o'r lle hwn, ac mae hynny'n golygu ein bod yn diogelu'r setliad y pleidleisiodd pobl Cymru drosto droeon, a setliad a gymeradwywyd y mis diwethaf yn yr etholiad pan enillodd y blaid hon fwyafrif. Ac edrychaf ymlaen at eich gweld yn pleidleisio i weithredu'r maniffesto Llafur, gadewch imi ddweud. Ond yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud—a dof i ben gyda hyn—yw diogelu'r pwerau a'r cyfrifoldebau sydd gennym yma. Ni fu llif o bwerau newydd i lawr yr M4. Nid ydym wedi gweld hynny. Yr hyn a welsom yw Gweinidogion Llywodraeth y DU yn codi eu baneri, yn canu eu caneuon ac yn dweud celwyddau uniongyrchol wrth bobl y wlad hon, wrth Senedd y DU ac wrth y Senedd hon hefyd. A thrwy wneud hynny, Darren, efallai eich bod wedi ennill lefel o ryddid neu annibyniaeth—beth bynnag y dymunwch ei alw—ond rydych wedi iselhau ein gwleidyddiaeth.
Rwy'n falch iawn o'r ffaith bod fy etholaeth wedi pleidleisio'n gadarn i adael yr UE. Ar adeg y refferendwm yn 2016, roedd gan Ddyffryn Clwyd Aelod Cynulliad Llafur a oedd yn anghytuno â chanlyniad y bleidlais, ac fel ei chyd-Aelodau ar feinciau Llafur a Phlaid Cymru, gwnaethant y cyfan yn eu gallu i danseilio Brexit. Aberafan, Alun a Glannau Dyfrdwy, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, De Clwyd, Cwm Cynon, Delyn, Wrecsam—mae'r rhestr yn parhau.
Heddiw, caiff Dyffryn Clwyd ei chynrychioli yn y ddwy Senedd gan y Ceidwadwyr Cymreig—Ceidwadwyr Cymreig sy'n parchu dymuniadau eu hetholwyr ac wedi addo gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod Brexit yn llwyddiant. Yn anffodus i bobl fy etholaeth, a llawer o etholaethau eraill a bleidleisiodd i adael, dewisodd Llafur wastraffu'r pum mlynedd diwethaf yn ceisio osgoi realiti'r refferendwm. Yn hytrach na chadw at ddymuniadau'r 56.5 y cant o fy etholwyr a benderfynodd fod Cymru'n well ei byd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, rhoddodd Llafur, gyda chymorth Plaid Cymru, gynnig ar bob tric posibl i'n cadw dan sawdl Brwsel. Ar wahân i swyddi i'r bechgyn, mae ein haelodaeth o'r UE wedi methu sicrhau manteision gwirioneddol i fy etholaeth nac i'n gwlad. Do, cawsom filiynau o bunnoedd mewn cronfeydd strwythurol, ond methodd y cynlluniau hynny sicrhau manteision parhaol i bobl Cymru yn gyffredinol, ac i fy etholwyr yn benodol.
Mae Dyffryn Clwyd yn gartref i'r ward dlotaf yng Nghymru, a'r gyfran uchaf o'r ardaloedd cynnyrch ehangach haen is mwyaf difreintiedig. Ni sydd â'r drydedd gyfradd uchaf o farwolaethau cynamserol yng Nghymru; mae gan 37 y cant o'n poblogaeth oedolion gyflwr iechyd cyfyngus hirdymor; mae 23 y cant o blant yn methu cyflawni'r cyfnod sylfaen; ac mae gennym y ganran uchaf o oedolion sy'n hawlio budd-daliadau yng Nghymru. Ni wnaeth ein haelodaeth o'r UE sicrhau gwelliannau i fywydau fy etholwyr. Yn wir, mae ein haelodaeth o'r bloc diffyndollol marwaidd wedi ein dal yn ôl.
Bum mlynedd yn ôl, pleidleisiodd y rhan fwyaf o'r cyhoedd sy'n pleidleisio dros fwrw ymaith iau'r fiwrocratiaeth gamweithredol ac edrych allan ar fyd ehangach. Pleidleisiasom dros ymryddhau o reolau a gynlluniwyd i fod o fudd i ffermwyr Ffrainc a gweithgynhyrchwyr ceir o'r Almaen yn hytrach na pherchnogion siopau ym Mhrestatyn a gweithredwyr gwely a brecwast yn y Rhyl. Yn hytrach na gwrando ar eu pleidleiswyr a phobl yr undeb gwych hwn, mae Llafur wedi dewis gwneud popeth yn eu gallu i danseilio ein dyfodol y tu allan i'r UE. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth yn eu gallu i'n cadw wedi ein clymu wrth fiwrocratiaeth yr UE. Diolch byth, mae gennym Lywodraeth Geidwadol wrth y llyw yn y DU—Llywodraeth Geidwadol sy'n benderfynol o adael diffyndollaeth yr UE a mynd ar drywydd masnach ddi-dariff gyda'r byd ehangach. Mewn cymhariaeth, mae ein Llywodraeth yng Nghymru wedi bygwth niweidio masnach rydd rhwng gwledydd cartref y DU drwy gynnig Deddf marchnad fewnol y DU. Pe bai ganddynt bŵer i wneud hynny, byddai'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn ein llusgo'n ôl i Undeb Ewropeaidd marweiddiol, ond diolch byth, ni allant wneud hynny.
Mae'n bryd bellach i Lywodraeth Cymru a'u cynorthwywyr bach roi'r gorau i geisio gwrthdroi'r refferendwm a dechrau canolbwyntio ar y dasg bwysig o sicrhau bod Cymru'n elwa ar y manteision a grëwyd yn sgil gadael yr UE. Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi sicrhau cytundebau masnach gyda bron i 70 o wledydd. Maent yn sefydlu cronfa ffyniant gyffredin yn lle rhaglenni ariannu strwythurol a wnaeth gam â'n gwlad, cronfa a fydd yn sicrhau bod pob rhan o Gymru yn elwa o'n twf economaidd wrth inni ddod yn genedl sy'n edrych allan. Ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i anwybyddu pobl Cymru a dechrau gweithio i sicrhau manteision Brexit. Diolch yn fawr iawn.
Rwyf wedi dysgu llawer yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac rwy'n credu mai un o'r pethau pwysicaf a ddysgais yw bod pobl am inni roi'r gorau i ddadlau â'n gilydd, i weithio gyda'n gilydd, a chanolbwyntio ar ddyfodol pobl Cymru.
Rhaid i mi ddweud fy mod yn synnu at gywair rhai o'r sylwadau yn y ddadl hon, ac nid wyf yn credu bod eu hangen. Roedd Brexit yn ymrannol ac yn boenus; gadewch inni godi uwchlaw'r adegau hynny. Rwyf am ganolbwyntio ar y presennol a sut y gallwn barhau i gefnogi ein pobl yng Nghymru, gan gynnwys ffermwyr a busnesau. Gobeithio ein bod yn gweld hwn fel cyfle a'r angen i symleiddio trefniadau ar gyfer busnesau sy'n mewnforio ac yn allforio i Ewrop. Mae rhai yn ei chael hi'n anodd iawn gyda'r rheoliadau a'r rheolau newydd, sy'n bryder o ystyried effaith economaidd y pandemig. Mae angen creu trefniadau a safonau llywodraethu newydd hefyd, gan ganolbwyntio ar amddiffyniadau amgylcheddol a safonau bwyd. Mae angen creu cyfleoedd ac mae angen i Lywodraeth y DU eu galluogi, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru. Ac yn olaf, i'n ffermwyr, dyma ddyfyniad gan gadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru:
'felly mewn cytundeb a ganiatâi fynediad niweidiol at fwydydd o Awstralia, ni fyddem yn ennill fawr ddim a byddem yn gwneud cam â'n ffermwyr a'n safonau, a'r cyfan er mwyn datganiad i'r wasg gan y Llywodraeth yn dweud "mae gennym gytundeb masnach".'
Wrth orffen, a gaf fi apelio'n barchus ar fy nghyd-Aelodau Ceidwadol i gysylltu â'r Ceidwadwyr yn San Steffan er mwyn sicrhau bod cytundebau masnach yn cynnig bargen dda i'n ffermwyr yng Nghymru ac nad ydynt yn gwneud cam â hwy? Os gwelwch yn dda, gadewch inni siarad gyda'n gilydd ac am ein gilydd gyda pharch. Diolch yn fawr iawn.
Roeddwn yn teimlo rheidrwydd i gyfrannu yn y ddadl hon, yn bennaf oherwydd, fel Jane, cefais fy nharo gan gywair llawer o'r hyn a glywais yma heddiw. Efallai mai ei anian hwyliog naturiol ydyw, ond bron nad oeddwn yn meddwl bod Darren Millar yn mwynhau hyn—rhwbio ein hwynebau, os mynnwch, yn y ffaith ei bod hi'n bum mlynedd ers canlyniad y refferendwm hwnnw.
Cafwyd canlyniadau difrifol i'r canlyniad hwnnw. Rydym wedi symud ymlaen, rydym wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond mae unrhyw un sy'n gwadu'r canlyniadau difrifol hynny'n gwneud anghymwynas wirioneddol â phobl eu hetholaethau eu hunain—ac ydw, rwy'n gwybod eich bod am wneud eich marc yma yn y Senedd newydd hon, ond rydych yn gwneud anghymwynas â Chymru.
Gadewch imi sôn yn gyflym am y sector bwyd yn fy etholaeth. Nid yw unrhyw gytundeb—ac oes, mae nifer ohonynt, Darren Millar—nid yw unrhyw gytundeb o reidrwydd yn gytundeb da, a gwn mor bryderus yw ffermwyr yn fy etholaeth am ganlyniadau'r cytundeb ag Awstralia. Gwn mor ddinistriol yw effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ffermwyr pysgod cregyn yn fy etholaeth. Gallaf ddweud wrthych am un allforiwr bwyd yn fy etholaeth—allforiwr rhagorol. Byddai 30 y cant o'i hufen iâ yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd. Byddai'n cymryd archeb, byddai'n trefnu'r archeb honno—sypiau gweddol fach, yn ffurfio archebion mawr gyda'i gilydd, yn creu swyddi ac yn cynnal swyddi yn fy etholaeth. Byddent yn cymryd yr archeb a byddent yn ei chyflenwi. Nawr, maent yn cymryd yr archeb—ni allwch anfon sypiau bach i wledydd yr Undeb Ewropeaidd mwyach, rhaid ichi lenwi lori, oherwydd rydych yn dod â milfeddyg—milfeddyg—i'ch ffatri yma ar Ynys Môn ac yn eich etholaethau chi i basio'r hufen iâ a'i gymeradwyo. Wedyn mae gennych asiant allforio; wedyn mae gennych asiant mewnforio yn y wlad rydych yn allforio iddi. Roedd yn rhaid anfon un llwyth o hufen iâ deirgwaith cyn iddo gael ei ganiatáu i mewn i'r Iseldiroedd. Ni wnaeth y gwneuthurwr geiniog ar y llwyth allforio hwnnw, a'r realiti yn awr yw na fydd y cwmni'n allforio yn y dyfodol yn ôl pob tebyg. Nawr, mae hwnnw'n ganlyniad difrifol i adael yr Undeb Ewropeaidd, pa un a wnaethoch chi bleidleisio dros hynny ai peidio.
Nawr, rwyf o ddifrif am geisio'r gorau i Gymru yn y cyd-destun newydd hwn, ond jingoistiaeth go anobeithiol yw llawer o'r hyn a glywsom heddiw ac mae Cymru a'r Senedd yn haeddu gwell na hynny.
Y Gweinidog cyfansoddiad i gyfrannu i'r ddadl, Mick Antoniw.
Diolch, Lywydd. Yn y pum mlynedd ers y refferendwm, rydym wedi trafod y canlyniad droeon. Bob tro, rydym wedi dweud yn glir ein bod yn parchu canlyniad y refferendwm hwnnw. Yn wir, rydym yn ei barchu'n fwy na'r Aelodau gyferbyn, oherwydd rydym hefyd yn parchu'r canlyniad ynghyd â'r addewidion a wnaed i ddiogelu Cymru ac economi Cymru. Mae'r Aelodau gyferbyn yn dangos amarch dirmygus tuag at yr addewidion ac ni allaf gofio unrhyw achlysur pan wnaethant sefyll dros Gymru, hyd yn oed pan ddaeth yn hollol amlwg fod yr addewidion hynny'n cael eu torri.
Rydym wedi treulio pum mlynedd yn gweithio mor adeiladol â phosibl, gan ddarparu dadansoddiadau a pholisi'n seiliedig ar dystiolaeth dro ar ôl tro mewn ymgais i wneud beth bynnag y gallem i sicrhau bod y canlyniad a negodwyd gan Lywodraeth y DU yn lliniaru'r difrod economaidd, diwylliannol a chymdeithasol i Gymru cyn belled ag y bo modd, a thrwyddi draw, rydym wedi bod yn gyson glir fod y cytundeb a negodwyd gan Lywodraeth y DU wedi methu diogelu economi Cymru a gweithwyr Cymru rhag y tryblith economaidd a ragwelwyd gennym drachefn a thrachefn.
Ac eto, gyda Llywodraeth gymwys a gofalgar yn y DU, gallai fod wedi bod mor wahanol. Yn hytrach, rydym wedi cael cytundeb masnach eithriadol o anghymwys, sydd bellach yn bygwth ein sefydlogrwydd economaidd a gwleidyddol, darnio'r DU, a thanseilio heddwch yng Ngogledd Iwerddon.
Mae'r effaith ar ein heconomi yn glir: llai o fasnach, fel y mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn ei ragweld, ac o ganlyniad i gytundeb masnach yr UE, bydd allforion a mewnforion tua 15 y cant yn is yn y DU; ergyd i gynhyrchiant hirdymor y DU, gyda'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y bydd cynhyrchiant yn gostwng 4 y cant o ganlyniad i'r cytundeb masnach; masnach yn cael ei ddargyfeirio i ffwrdd o'r porthladdoedd yng Nghymru, gyda chyfeintiau masnach yn parhau gryn dipyn o dan y lefelau hanesyddol, wrth i nwyddau gael eu cymell i symud yn uniongyrchol drwy Ogledd Iwerddon i farchnadoedd Prydain.
Goblygiadau mawr i sectorau allweddol yng Nghymru: mae allforion bwyd a diod i'r UE wedi gostwng 47 y cant yn ystod chwarter cyntaf 2021; rhwystrau newydd i fasnachu allforion bwyd môr byw i'n prif farchnadoedd yn Ewrop, sy'n bygwth bodolaeth sectorau cyfan yng Nghymru. Risgiau yn sgil dull Llywodraeth y DU o ymdrin â chytundebau masnach newydd: mae'r cytundeb ag Awstralia yn creu risgiau sylweddol i'r sector bwyd-amaeth yng Nghymru, a allai wynebu cystadleuaeth yn sgil mewnforion cynyddol gan gynhyrchwyr cig oen a chig eidion Awstralia, nad oes raid iddynt gyrraedd yr un safonau â'n cynhyrchwyr ni mewn meysydd fel lles anifeiliaid.
Ac fel y buom yn ei drafod yma yr wythnos diwethaf, er gwaethaf yr addewidion a wnaed adeg y refferendwm ac wedi hynny, mae Llywodraeth y DU yn mynd ar drywydd agenda o ganoli ymosodol ac ymosod ar ddatganoli yng Nghymru, ac nid ydynt hyd yn oed yn cuddio hynny. Yr unig bobl nad ydynt i'w gweld yn ymwybodol ohono yw'r Ceidwadwyr Cymreig.
Gan ddefnyddio pwerau cymorth ariannol Deddf y farchnad fewnol, pwerau a gynlluniwyd i gipio swyddogaethau sy'n rhan o gymhwysedd y Senedd a Llywodraeth Cymru, maent yn dwyn arian a addawyd i bobl Cymru, arian y mae gennym hawl iddo. Efallai y bydd Cymru'n cael cyn lleied â £10 miliwn drwy'r gronfa ffyniant gyffredin yn ei blwyddyn beilot yn 2021, pan fyddem wedi cael mynediad at o leiaf £375 miliwn bob blwyddyn o fis Ionawr 2021 ar gyfer rhaglenni cronfeydd strwythurol newydd yr UE, ar ben y derbyniadau am ymrwymiadau i brosiectau rydym eisoes wedi'u gwneud drwy raglenni ariannu cyfredol yr UE.
Nid oes unrhyw sylwedd ychwaith i gronfa godi'r gwastad y DU, gydag awdurdodau lleol yng Nghymru yn debygol o gael llai na £450,000 y flwyddyn. Mae'r cronfeydd hyn yn doriad enfawr o'r hyn y gallai Cymru fod wedi disgwyl ei gael, ac maent hefyd yn amlwg yn cipio pwerau, sy'n mynd yn groes i'r hyn a benderfynwyd gan Senedd y DU yn Neddfau Llywodraeth Cymru ac a gymeradwywyd mewn dau refferendwm, rhywbeth y mae'r Ceidwadwyr Cymreig i'w gweld yn ei anghofio mor hawdd.
Nid oes amheuaeth fod cyllid cyhoeddus Cymru, ein heconomi a'n setliad datganoli oll wedi'u niweidio'n ddramatig gan ddull gweithredu Llywodraeth y DU ers y refferendwm. Yn wir, mae cynllun honedig Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru—cynllun na ddangoswyd digon o gwrteisi i ymgysylltu ac ymgynghori â Llywodraeth Cymru yn ei gylch—yn dangos y dirmyg llwyr sydd ganddynt tuag at y Senedd hon.
Ac eto, mae'r Ceidwadwyr Cymreig, neu efallai y dylwn ddweud—eu gwir enw yn awr mewn gwirionedd—y Blaid Geidwadol yng Nghymru, yn parhau i geisio lledaenu'r anwiredd fod Llywodraeth y DU wedi trosglwyddo pwerau i'r Senedd hon o ganlyniad i Brexit. Mae hynny'n anwiredd, ac maent yn gwybod hynny. Ein pwerau ni oeddent eisoes, wedi'u harfer ar lefel yr UE gyda'n cydsyniad ni, pwerau yr addawyd y byddent y dychwelyd yma'n gyfreithiol ar ôl inni adael yr UE.
Mae'r Torïaid yn cipio pŵer am un rheswm yn unig: er mwyn sicrhau bod ganddynt bwerau yng Nghymru na allant eu caffael drwy'r blwch pleidleisio. Rhaid imi ddweud y byddai Vladimir Putin a Donald Trump yn edmygu'r hyn rydych yn ei wneud yn fawr, oherwydd nid yn unig eich bod yn tanseilio datganoli, rydych yn parhau i danseilio democratiaeth a rheolaeth y gyfraith, a thrwy wneud hynny, rydych wedi cyflymu proses sy'n arwain yn gyflym at chwalu'r DU. Lywydd, nid oes raid iddi fod fel hyn. Gall y Torïaid newid eu ffyrdd a gallant edifarhau a dechrau sefyll dros Gymru. Wedi'r cyfan, mae mwy o lawenydd yn y nef am un pechadur sy'n edifarhau nag am 99 o bobl gyfiawn nad oes angen iddynt edifarhau.
Lywydd, mae gennym weledigaeth o Gymru gref mewn DU lwyddiannus, mewn undeb wedi'i drawsnewid yn sylweddol, undeb gwirfoddol o genhedloedd, yn seiliedig ar ddiben cyffredin a ffyniant cyffredin, ac sy'n dathlu buddiannau cyffredin a chydsafiad gweithwyr a theuluoedd ledled y DU. Byddwn yn nodi ein gweledigaeth wedi'i diweddaru cyn bo hir, pan fyddwn yn cyhoeddi ail argraffiad 'Diwygio ein hundeb: cyd-lywodraethu yn y DU', ac ar ôl hynny, byddaf yn gwneud datganiad i'r Senedd yn disgrifio'n fanylach y camau y byddwn yn eu cymryd i sefydlu comisiwn cyfansoddiadol newydd i ysgogi trafodaeth ehangach drwy sgwrs gyhoeddus genedlaethol, sgwrs ac ymgysylltiad â phobl Cymru. Byddwn yn ymgysylltu'n eang, ledled Cymru. Rydym am sicrhau bod ein dinasyddion yn cael cyfle i siapio'r ffordd y gwnawn benderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth am faterion sy'n effeithio ar eu bywydau, materion sy'n bwysig iddynt, ac sy'n pennu dyfodol ein perthynas â gwledydd a rhanbarthau'r DU.
Lywydd, mae ein dyfodol ar ôl Brexit, ein cyfansoddiad, ein sofraniaeth, yn perthyn i bobl Cymru a neb arall, a galwaf ar yr Aelodau i gefnogi gwelliant y Llywodraeth, i weithio gyda ni i hyrwyddo, chwyddo a chyfoethogi'r sgwrs genedlaethol rydym ar fin ei chychwyn. Diolch, Lywydd.
James Evans i ymateb i'r ddadl. James Evans.
Diolch, Lywydd. Ac nid oes unrhyw un gyferbyn yn y Blaid Lafur na Phlaid Cymru wedi sôn am bethau cadarnhaol Brexit, ac mae'n drueni. Mae'r Gweinidog yn sôn am danseilio democratiaeth. Nid wyf am gymryd unrhyw bregethau gan Lafur ynglŷn â thanseilio democratiaeth, oherwydd dyna mae eich plaid wedi bod yn ei wneud dros y pum mlynedd diwethaf.
Bum mlynedd yn ôl i heddiw, heriodd pobl Cymru a'r Deyrnas Unedig y bobl elît, yr academyddion, y sosialwyr siampên a'r proffwydi gwae, yn y DU ac ar draws y byd. Ac fel y mae fy nghyd-Aelodau Ceidwadol wedi dweud, cododd y bobl yn erbyn y sefydliad a phleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ac fel y dywedwyd, dyma'r bleidlais ddemocrataidd fwyaf yn hanes ein gwlad. Ac mae Mr Rhys ab Owen yn sôn am barch—mae'n drueni na all Plaid Cymru barchu ewyllys y Prydeinwyr a'r Cymry. Fel y gwelsom, nid oedd unrhyw ffiniau i brosiect ofn, oherwydd roedd y proffwydi gwae ym mhobman. Dywedwyd wrthym na fyddai gennym fwyd, dim meddyginiaeth, dim mewnforion, dim allforion a byddai ein marchnadoedd stoc yn chwalu. Ac roedd y bobl sy'n eistedd yn y lle hwn yn gwthio'r agenda codi bwganod honno, a bum mlynedd yn ddiweddarach, profwyd bod y bobl a oedd yn proffwydo gwae yn anghywir. Treuliodd llawer o'r bobl a oedd yn eistedd yma, ac ar draws y DU, y pum mlynedd diwethaf yn ceisio atal democratiaeth ac atal ewyllys pobl Cymru a'r Deyrnas Unedig a bleidleisiodd i adael. Diolch byth, yn 2019, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Darren Miller, fe gymeradwyodd pobl Prydain y Prif Weinidog Ceidwadol, Boris Johnson, a phleidleisio'n gadarn dros y Ceidwadwyr am y tro cyntaf ledled Cymru i sicrhau bod Brexit yn cael ei gyflawni, a mawredd, fe lwyddwyd i gyflawni Brexit.
Mae Llafur yn sôn am ganoli a chipio pŵer. Mae'r Llywodraeth Geidwadol hon yn San Steffan am godi'r gwastad drwy Gymru gyfan, a'r broblem yw nad yw'r Ceidwadwyr yn ymddiried yn y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru i godi'r gwastad drwy Gymru gyfan. Bydd yn canolbwyntio ar eich cadarnleoedd Llafur, gan gefnu ar bobl a'u cymunedau am flynyddoedd i ddod.
Ymgyrchais dros adael yr Undeb Ewropeaidd, fel llawer o rai eraill ar y meinciau Ceidwadol hyn ac yn ehangach, gan gredu ein bod yn well ein byd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Gareth Davies, roedd ei etholwyr yn dweud bod yr UE yn eu dal yn ôl. Felly, aethom allan yno, a cherdded y strydoedd gyda neges gadarnhaol am Gymru y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, a chymryd rheolaeth ar ein ffiniau, ein harian a'n cyfreithiau, fel y dywedodd Sam Rowlands, yn rhydd o afael comisiynwyr anetholedig sy'n atebol i neb. Rydym ni ar y meinciau Ceidwadol hyn, fel y crybwyllodd Mark Isherwood, yn edrych ymlaen at weledigaeth fyd-eang i Gymru fel rhan o Deyrnas Unedig fyd-eang, gan fanteisio ar y cyfleoedd, cyrraedd marchnadoedd sy'n datblygu a defnyddio ein dylanwad er daioni mewn byd sy'n newid yn barhaus.
Fel y crybwyllodd fy nghyd-Aelodau, mae Llywodraeth Prydain wedi lansio adran fasnach anhygoel, sydd wedi negodi cytundebau treigl gyda gwledydd ym mhob cwr o'r byd. A sicrhawyd y cytundeb gyda'r UE, y dywedodd llawer ohonoch yn y Siambr hon ac yn ehangach nad oedd yn bosibl, a sicrhaodd hynny biliynau o bunnoedd i'n heconomi. Ond a gawn ni unrhyw ganmoliaeth gan y gwleidyddion gyferbyn? Na chawn.
Siaradodd Delyth Jewell am gyfle a gollwyd. A gadewch inni atgoffa ein hunain: o Grenada i Guatemala, o Japan i Wlad yr Iorddonen, o Canada i Cameroon, mae'r Brydain fyd-eang yn ei hôl, yn helpu ein busnesau i allforio i farchnadoedd sy'n datblygu ledled y byd ac yn tyfu ein heconomi. Nawr yw'r amser i bawb, beth bynnag eich barn, i dderbyn y canlyniad a chroesawu'r newid a'r manteision cadarnhaol y gall Brexit eu cynnig i Gymru. [Torri ar draws.] Mae'n drueni fod Joyce Watson yn dal i rwgnach ei fod yn Brexit Torïaidd. Wel, fe'ch atgoffaf, Joyce, nad Brexit Torïaidd yw hwn, dyma y pleidleisiodd pobl Cymru amdano. Mae Alun Davies yn sôn am anonestrwydd—daw hyn gan ddyn a ddywedodd lai na hanner awr yn ôl fod Llywodraeth Lafur Cymru yn mynd i fuddsoddi yn ei gymuned ond nad yw wedi gwneud hynny. Felly, nid wyf am siarad am anonestrwydd gydag Alun Davies. Rwy'n credu bod angen i chi edrych ychydig yn nes—[Torri ar draws.] Credaf y dylech edrych ychydig yn nes adref, Mr Davies, os ydych am edrych ar anonestrwydd. Bellach mae gan wleidyddion Cymru—[Torri ar draws.] O, Alun, rhowch y gorau iddi. Bellach mae gan wleidyddion Cymru—
Iawn—
—bwerau newydd eang wedi'u trosglwyddo o'r UE ac rwy'n gobeithio ein bod i gyd yn credu mai'r rhai a etholir yma yng Nghymru yw'r rhai gorau i benderfynu ar y rheini ar ran y Cymry. Dyna y mae Plaid Cymru am ei gael, felly gobeithio eich bod yn cefnogi hynny. O amaethyddiaeth i chwaraeon i ansawdd aer, o reoli perygl llifogydd i goedwigaeth, mae gan Lywodraeth Cymru arfogaeth bellach i wneud i'r rheoliadau hyn weithio i Gymru a chael gwared ar or-fiwrocratiaeth yr UE er mwyn gwella ein gwlad a bywydau pobl Cymru.
Ni all gwleidyddion, beth bynnag fo'u lliwiau, osgoi'r penderfyniadau anodd na'r dewisiadau polisi mwyach. Ni allwn feio'r UE am eu diffyg gweithredu na'u methiannau. Yn awr, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb dros ein gweithredoedd ac i gynhyrchu'r canlyniadau y mae pobl Cymru am eu cael. Byddwn wrth fy modd yn dweud bod gennyf fwy o hyder yn y Llywodraeth hon gyda'r pwerau sydd ganddi i wella bywydau pobl Cymru, i hybu cyflogaeth, i dyfu'r economi a gwneud hon yn Gymru sy'n gweithio i bawb, ond nid yw hynny'n wir. Ond rwy'n berson cadarnhaol, Lywydd, a gobeithiaf gael fy argyhoeddi gan y Llywodraeth, ond mae'r incwm sylfaenol cyffredinol arfaethedig, treth dwristiaeth a gwaharddiad ar ffyrdd yn gwneud i mi feddwl tybed beth sy'n dod nesaf. Ac fe wnaf grynhoi, Lywydd.
Mae'n eironig, serch hynny, fod Llywodraeth Lafur sosialaidd Cymru, y cenedlaetholwyr ym Mhlaid Cymru—gyda chefnogaeth yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol mae'n debyg, beth bynnag y maent yn ei gefnogi yr wythnos hon—wedi gwneud eu 'dileu popeth' arferol i'n cynnig ac wedi cyflwyno eu naratif negyddol am Brexit, er i'r rhan fwyaf o'u hetholaethau bleidleisio i adael. Ac Alun Davies, rydych wedi grwgnach yr holl ffordd drwodd, a phleidleisiodd y mwyafrif helaeth yn eich etholaeth dros adael. Unwaith eto, roeddech yn ddigon bodlon i dderbyn y canlyniad pan wnaethant bleidleisio—
Credaf i chi—. Credaf i chi addo i mi eich bod yn dod i ben—
Iawn, fe ddof i ben yn awr, Lywydd. Felly, gadewch inni wneud y gorau o'r bleidlais hanesyddol hon—
—ond wedyn fe benderfynoch chi ymosod ar Alun Davies eto.
—ac adeiladu Cymru—. Gadewch inni adeiladu Cymru y mae pobl ein gwlad yn ei haeddu: Cymru fyd-eang, Cymru gref a ffyniannus, Cymru mewn Prydain gref, fyd-eang, Cymru sy'n cyflawni blaenoriaethau'r bobl. Diolch, Lywydd.
Ocê. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rŷn ni'n gohirio'r bleidlais ar hynny tan y cyfnod pleidleisio.
Ac fe fyddwn ni nawr—. Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ond fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr i baratoi ar gyfer y bleidlais honno. Toriad byr, felly.