– Senedd Cymru am 3:51 pm ar 29 Medi 2021.
Croeso nôl. Yr eitem nesaf yw eitem 5, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv). Galwaf ar Luke Fletcher i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7773 Luke Fletcher, Rhun ap Iorwerth, Paul Davies, Janet Finch-Saunders, Jenny Rathbone, Jack Sargeant, Delyth Jewell, Altaf Hussain, Jane Dodds, Rhys ab Owen, Joel James, Peredur Owen Griffiths, Mabon ap Gwynfor, Sioned Williams, Gareth Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) effaith sylweddol pandemig COVID-19 ar bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru a phobl y mae dementia yn effeithio arnynt;
b) pwysigrwydd gofalwyr di-dâl o ran sicrhau bod y system gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gallu gweithredu yn ystod y pandemig.
2. Yn nodi ymhellach yr angen am ddiagnosis cywir o ddementia i ganiatáu i ofalwyr di-dâl, y systemau iechyd a gofal cymdeithasol a chyrff a darparwyr gwasanaethau eraill gynllunio gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gywir, fel y nodir yn y cynllun gweithredu cenedlaethol ar ddementia.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ariannu ymchwil i ddatblygu dulliau diagnostig cywir i sicrhau bod pobl sy'n cael diagnosis o ddementia yn gallu cael y cymorth cywir ar unwaith ar ôl cael diagnosis;
b) ariannu cymorth ôl-ddiagnostig ar gyfer pob math o ddementia ledled Cymru;
c) sefydlu arsyllfa ddata dementia genedlaethol i sicrhau cywirdeb mewn data dementia a chasglu, dadansoddi a lledaenu data ar ddementia i bob darparwr gwasanaeth sy'n dymuno cael gafael ar ddata i helpu i gynllunio a darparu gwasanaethau dementia ledled Cymru.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Busnes yn ogystal â chyd-Aelodau ar draws y Senedd am eu cefnogaeth i hwyluso'r ddadl hon. Heddiw, edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau i'r ddadl, sy'n amlwg iawn yn fater trawsbleidiol. Cyflwynais y cynnig hwn yn y Senedd gan gofio am ddwy fenyw yn fy nheulu a oedd yn byw gyda dementia tuag at ddiwedd eu hoes: Dorothy Walker, a gofir yn annwyl fel Dot, sef fy hen fam-gu, a Sandra Lewis, fy mam-gu, a fu farw yn gynharach eleni.
Mae dementia yn derm cyffredinol a ddefnyddir i ddisgrifio nifer o gyflyrau sy'n effeithio ar yr ymennydd. Y math mwyaf cyfarwydd o ddementia yw clefyd Alzheimer. Fodd bynnag, mae pob cyflwr sy'n gysylltiedig â dementia yn effeithio ar yr unigolyn mewn gwahanol ffyrdd, sy'n golygu y gall anghenion pob claf dementia amrywio o gyflwr i gyflwr yn go eithafol. Cafodd fy mam-gu, Sandra Lewis, ddiagnosis o ddementia cyrff Lewy, amrywiolyn nad yw'n gyfarwydd iawn sydd â chysylltiad agos â chlefyd Alzheimer a chlefyd Parkinson. Mae dementia cyrff Lewy yn golygu bod claf yn cael anhawster gyda symud, canolbwyntio ac effrogarwch, a'i fod yn gweld drychiolaethau. I fy nheulu, roedd gwybod a chael y diagnosis cywir yn hollbwysig, o ystyried y gofal penodol yr oedd ei angen arni. Fodd bynnag, mae hyn yn haws ei ddweud na'i wneud, ac am beth amser, roedd yna ansicrwydd ynglŷn â'r hyn yr oedd fy mam-gu yn byw gydag ef. Dim ond lleygwr ydw i mewn materion meddygol, ac mewn gwirionedd mae'n debyg fod galw fy hun yn lleygwr ychydig yn rhy garedig, ond mae cyrraedd cam lle cafwyd sawl diagnosis gwahanol yn dangos i mi fod lle i wella. Yn wir, fe gafwyd sawl diagnosis, yn amrywio o glefyd Alzheimer i broblemau'n ymwneud â chalsiwm a'r thyroid, ac yn y cyfamser, nid oedd fy mam-gu'n cael y gofal yr oedd ei angen arni ac roedd ansawdd ei bywyd yn dirywio'n gyflym.
Mae ffigurau a ddarparwyd gan Gymdeithas Alzheimer yn nodi bod y gyfradd ddiagnosis bresennol ar gyfer dementia oddeutu 50 y cant. Gyda'r gyfradd ddiagnosis hon, gwyddom am oddeutu 25,000 o bobl sy'n byw gyda dementia, er yr amheuir bod y ffigur go iawn yn agosach at 50,000 o bobl, sy'n golygu bod hanner y bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru yn mynd heb y cymorth a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt yn ddirfawr. Os edrychwch ar gyflwr fy mam-gu, tua 5 y cant o gleifion sy'n cael diagnosis o ddementia cyrff Lewy, ond unwaith eto, amcangyfrifir bod y ffigur yn nes at 20 y cant.
Fel y nododd llawer o elusennau dementia yn gywir, bydd ymchwil yn curo dementia. Yng Nghymru, nid yw ond yn deg cydnabod y gwaith y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei wneud yn y maes. Ar y pwynt hwn, hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei gwaith ar y mater. Rwy'n ei olygu'n ddiffuant pan ddywedaf hyn: o'n cyfarfodydd gyda'n gilydd, gallaf weld yr ysgogiad personol sydd gennych i fynd i'r afael â'r broblem ac rwy'n hynod ddiolchgar. Gwelsom gynnig sganiau PET yng Nghymru, sydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi arwain at ddiagnosis mwy cywir ac amserol, ac mae'r cynllun gweithredu ar ddementia yn darparu y dylai'r Llywodraeth ymateb ac ariannu gwasanaethau pan fo angen.
Ond mae'n bwysig ein bod yn adeiladu ar hyn yn awr, ac fe allwn adeiladu arno drwy greu arsyllfa ddementia genedlaethol, sy'n debyg o ran ei chwmpas i'r un a sefydlwyd eisoes gan Sefydliad Iechyd y Byd. Fel y gŵyr yr Aelodau eisoes, fy mhrif ffocws fel aelod o Blaid Cymru yw'r economi, ac yn yr economi, mewn ffordd debyg i iechyd, mae data'n hollbwysig. Bydd sefydlu arsyllfa yn ein galluogi i ledaenu a dadansoddi data sy'n ymwneud â dementia a fydd yn llywio'r broses o wneud penderfyniadau, ac fe allai ddarparu'r wybodaeth sydd ei hangen mewn perthynas â'r cynllun gweithredu ar ddementia a fyddai'n ei gadw'n gynllun sy'n esblygu'n barhaus yn seiliedig ar ein data diweddaraf.
Fel y gwnes i gyfeirio ato yn barod, mae anghenion gofal yn amrywio'n sylweddol o gyflwr i gyflwr. Gallant fod yn gorfforol neu'n feddyliol. Felly, mae diagnosis cywir yn golygu y gall y rhai sy'n byw gyda dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr ddarparu'r gofal sydd ei angen arnynt. Mae rhan bwysig o'r gofal hwn yn ymwneud ag iaith. Gall y rhai sy'n byw gyda dementia anghofio siarad ail iaith, felly gall siaradwyr Cymraeg, er enghraifft, anghofio sut i siarad Saesneg. Pan soniwyd am ansawdd bywyd, does dim byd mwy sylfaenol i fywyd na'r gallu i gyfathrebu. Mae'n bwysig nad ydym yn anghofio hyn wrth symud ymlaen, a'r pwysigrwydd o gael diagnosis cywir er mwyn creu cynllun gofal personol.
Wrth i bawb ohonom dyfu'n hŷn a byw'n hirach, bydd nifer yr achosion o ddementia'n cynyddu, felly mae hwn yn fater y mae angen inni fynd i'r afael ag ef yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Mae gennym ffordd bell i fynd cyn i wasanaethau dementia gyrraedd lle mae angen iddynt fod, ond rwy'n gobeithio y gall fy nghynnig fynd beth o'r ffordd i helpu'r Llywodraeth gyrraedd yno. Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r cynnig.
Dwi'n falch o gael y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma, a dwi'n ddiolchgar i Luke Fletcher am arwain y drafodaeth. Dwi'n falch o ymuno ag Aelodau o bob rhan o'r Siambr i alw ar Lywodraeth Cymru i helpu i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia yn well. Ar hyn o bryd, amcangyfrifir bod tua 1,300 o bobl yn byw gyda dementia ym Mhreseli Sir Benfro, a thra bod y bobl hynny yn byw yn y gymuned, mae llawer ohonynt yn teimlo eu bod nhw ddim yn rhan ohoni. Dyw llawer o bobl ddim yn ddigon hyderus i adael eu cartrefi ac ymgysylltu yn eu hardal leol, felly mae yna broblem wirioneddol gyda ni, a dyna pam mae'n hynod o bwysig bod Llywodraethau ar bob lefel a chymunedau lleol yn ymgysylltu'n well â'r rhai sy'n byw gyda dementia.
Yn wir, fel cymdeithas, mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i helpu i greu cymuned lle mae'r gwasanaethau presennol yn fwy cynhwysol o bobl â dementia. Yn fy etholaeth i, mae caffis cof neu memory cafes mewn lleoedd fel Aberdaugleddau ac Abergwaun, sy'n darparu amgylchedd cyfeillgar a chefnogol lle gall pobl gwrdd, siarad a dysgu mwy am ddementia a chael gwybodaeth am ba gefnogaeth sydd ar gael. Dyma'r math o fenter y mae'n rhaid i ni ei hyrwyddo a'i hannog ledled Cymru. Mae'n hanfodol bod Llywodraethau ar bob lefel yn grymuso gweithredu cymunedol ac yn cydweithio'n well i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddementia yn ein cymunedau trwy hyrwyddo ymwybyddiaeth ym mhob siop a busnes, fel y gall staff a gwirfoddolwyr ddeall dementia yn well. Bydd hyn yn sicr yn helpu cwsmeriaid sy'n byw gyda dementia i deimlo'n fwy hyderus pan fyddan nhw allan yn y gymuned.
Dwi'n siŵr bod Aelodau'n gyfarwydd â'r fenter cymunedau sy'n gyfeillgar i ddementia, neu dementia-friendly communities, sy'n anelu at greu cymunedau ledled y Deyrnas Unedig sy'n fwy cyfforddus i bobl sydd yn byw gyda dementia, ac yn fwy hygyrch i bobl sy'n byw gyda dementia. Gall hyn fod yn unrhyw beth o fod yn fwy amyneddgar gyda chwsmer yn talu wrth y til mewn siop i gyfathrebu'n gliriach dros y ffôn. Mae'r cyfan yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn i bobl sy'n byw gyda dementia. Dwi'n falch iawn o weld lleoedd fel Hwlffordd a Solfach wedi eu cofrestru fel cymunedau cyfeillgar i ddementia, ac mae hefyd yn galonogol gweld sefydliadau fel heddlu Dyfed-Powys a gwasanaeth tân ac achub canolbarth a gorllewin Cymru hefyd yn cael eu cofrestru fel hyrwyddwyr sy'n gyfeillgar i ddementia.
Dwi'n ymwybodol o drafodaethau blaenorol bod Llywodraeth Cymru yn gefnogol i'r fenter cymunedau sy'n gyfeillgar i ddementia. Ond efallai mewn ymateb i'r ddadl hon, gall y Dirprwy Weinidog ein diweddaru ni ar ba ganlyniadau a gyflawnwyd ers i Lywodraeth Cymru addo ei chefnogaeth i'r ymgyrch yma. Dwi'n gwerthfawrogi nad oes dull un-ateb-i-bawb o fynd i'r afael â dementia, gan bod pobl sy'n byw gyda dementia yn cael eu heffeithio mewn gwahanol ffyrdd, a hefyd efallai na fydd yr hyn sy'n gweithio mewn lleoliadau trefol o reidrwydd yn gweithio mewn ardaloedd mwy gwledig.
Rŷn ni'n gwybod bod heriau wrth ddarparu cefnogaeth a gofal priodol i'r rhai sy'n byw gyda dementia, yn enwedig yn y cymunedau gwledig rwy'n eu cynrychioli. Fe welon ni adroddiad ar brofiadau byw pobl gyda dementia yn cael ei gyhoeddi yn ôl yn 2017, a oedd yn dweud bod heriau penodol mewn perthynas â thrafnidiaeth, ymwybyddiaeth gyffredinol o ddementia, a mynediad at gefnogaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Fodd bynnag, rwy'n methu â gweld unrhyw gamau penodol sydd wedi cael eu cymryd i fynd i’r afael â rhai o’r heriau hyn, ac efallai, unwaith eto, y bydd y Dirprwy Weinidog yn bachu ar y cyfle heddiw i nodi pa gefnogaeth sy’n cael ei darparu i bobl sy'n byw gyda dementia mewn ardaloedd gwledig, a hefyd y rhai sydd eisiau cyrchu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Nawr, mae yna heriau hefyd sy'n wynebu gofalwyr pobl â dementia. Rŷn ni'n gwybod ei fod yn cael effaith ddinistriol ar fywyd teuluol a pherthnasoedd personol, ac i rai gofalwyr, gall byw gyda rhywun â dementia fod yn arbennig o anodd, ac yn anffodus arwain at broblemau gyda phryder ac iselder. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru i helpu pobl i gael bywyd ochr yn ochr â gofalu, a oedd yn edrych ar seibiannau byr a gofal seibiant. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Dirprwy Weinidog roi ei hasesiad o'r darn hwnnw o waith, a sut mae'r gwaith hwnnw wedi llunio cynllun cyflawni'r grŵp cynghori gweinidogol ar ofalwyr. Mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi nawr yn yr hydref.
Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, mae yna rai enghreifftiau gwych o fentrau lleol sydd wedi'u sefydlu gan lawer o grwpiau i gefnogi ac i wella bywydau pobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru, ac mae angen rhannu'r arfer gorau hynny. Felly, rwy’n annog Aelodau nawr i gefnogi’r cynnig yma y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn i chi.
Hoffwn ddiolch i Luke Fletcher am gynnig y ddadl hon, ac mae lefel y diddordeb yn dangos ein bod ni i gyd yn ymwybodol o ba mor bwysig yw'r pwnc hwn. Rydym yn wynebu epidemig o ddementia—nid fy asesiad i yw hynny, ond asesiad arbenigwr blaenllaw ym maes meddygaeth pobl hŷn. Mae angen inni wneud ymchwil fel mater o frys i'r cysylltiad rhwng llygredd aer a dementia. Mae angen inni ddeall—. Gwyddom fod clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint yn cael ei achosi gan lygredd aer, ond beth am effaith anadlu gronynnau i'r llif gwaed, sy'n cyrraedd yr ymennydd yn y pen draw? Yr wythnos diwethaf, siaradodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant am ein hamgylchedd gordewogenig, a'r gormodedd o hysbysebion bwyd sothach, sy'n golygu nad yw pobl yn bwyta digon o'r pethau sy'n rhoi maeth i'w hymennydd, a gormod o'r pethau sy'n tagu eu rhydwelïau.
Yn ystod y cyfnod clo, gwelsom effaith enfawr ar bobl â dementia, ond yn enwedig y rhai sy'n gofalu am bobl â dementia, oherwydd mae'r holl wasanaethau cymorth arferol a oedd ar gael yn flaenorol wedi chwalu, yn y rhan fwyaf o achosion. Cadarnhawyd hyn gan ymchwil a wnaed yng Nghymru yn ogystal ag mewn rhannau eraill o Ewrop. Mae hwn wedi bod yn gyfnod ofnadwy iawn, ac wrth gwrs mae wedi achosi straen i bobl â dementia a'u gofalwyr. Rwy'n ymwybodol fod Cyngor Abertawe, ers i'r pandemig ddechrau, wedi gorfod diddymu dau wasanaeth gofal a chymorth dementia allweddol, nyrsys Admiral a'r tîm cymorth gwasanaethau dementia. Felly, mae bwlch sylweddol bellach yn y ddarpariaeth ar gyfer gofalwyr a'r rhai sy'n byw gyda dementia. Mae gofalwyr yn adrodd am effaith y prinder staff gofal cartref difrifol yn y maes, sy'n golygu bod eu pecynnau gofal hefyd yn cael eu lleihau neu eu diddymu'n llwyr. Felly, mae teuluoedd yn gorfod dibynnu ar aelodau eraill o'r teulu, neu gymdogion, i gael unrhyw fath o seibiant o gwbl, ac mae hyn yn wirioneddol ddifrifol.
Ynghanol y storm berffaith hon, cefais siom o glywed bod y Gymdeithas Alzheimer wedi penderfynu, fis diwethaf, na fyddent yn ailagor y ganolfan gofal dydd yn Oldwell Court yn fy etholaeth i, canolfan a oedd wedi bod ar gau ers dechrau'r pandemig. Roedd hyn yn amseru ofnadwy, i'r gofalwyr ac i'r bobl a arferai fwynhau mynd yno. Ni chafwyd cyfle i drafod beth yw'r opsiynau eraill, ac yn wir, ar hyn o bryd nid oes unrhyw opsiynau eraill. Mae'r ddarpariaeth yng Nghaerdydd, ar hyn o bryd, wedi'i chyfyngu i un ganolfan gofal dydd, yr asesir ei bod yn ddiogel i gymryd saith defnyddiwr gwasanaeth ar unrhyw ddiwrnod penodol. Mae hynny ar gyfer Caerdydd gyfan, a'r lle mae pobl sydd â'r problemau mwyaf difrifol yn mynd iddo—y rhai sy'n crwydro, y rhai sy'n mynd yn dreisgar o bryd i'w gilydd oherwydd eu bod mor ddryslyd—mae hwnnw ar gau oherwydd bod asbestos yn yr adeilad. Mae'n anhygoel. Mae hyn mor ofnadwy, ac mae'r baich ar ofalwyr a'r diflastod a'r diffyg ysgogiad, yn enwedig i'r rhai sydd â'r dryswch mwyaf dwys, yn ofnadwy iawn. Nid iaith yn unig sydd mor bwysig i ddal gafael arni, mae bwyd hefyd yn eithriadol o bwysig. Pan ymwelais â chanolfan ddydd Minehead yn Llanrhymni yn ddiweddar, roedd cogydd gwych yno. Roedd y defnyddwyr gwasanaeth yn ysgrifennu llythyrau'n gwerthfawrogi'r bwyd cartref gwych roeddent yn ei gael. Felly, mae hynny'n wych hefyd, ond mae cerddoriaeth hefyd yn rhan mor bwysig o'r hyn nad yw pobl yn ei golli. Pam nad yw'n bosibl gwneud sesiynau cerddoriaeth dros y ffôn, dros fideo, hyd yn oed os na all gwasanaethau wyneb yn wyneb ddychwelyd eto?
Ond a dweud y gwir, yn y tymor hir, mae arnom angen gwasanaethau sy'n deall dementia yn ein holl weithgareddau cymunedol, yn yr hybiau cymunedol sydd gennym yng Nghaerdydd, a hefyd ein clybiau garddio, ein clybiau bowlio, ein clybiau dartiau—mae angen i'r holl bethau eraill y mae pobl hŷn yn mwynhau eu gwneud fod ar gael i bobl â dementia, oherwydd rydym yn sôn am sbectrwm enfawr o ran angen. I rai pobl, mae'n amhosibl cymryd unrhyw ran mewn gweithgareddau cyffredin ond i eraill, mae'n gwbl bosibl cyn belled â'n bod yn ymwybodol o'r anghenion penodol sydd ganddynt a sut y gallent fynd yn ddryslyd o bryd i'w gilydd, a sut y gallwn leddfu hynny. Felly, mae llawer iawn o waith i'w wneud ac mae hon yn ddadl hynod o bwysig.
Diolch yn fawr i Luke am ddod â'r ddadl bwysig yma gerbron heddiw, a dwi'n falch iawn o gael cymryd rhan ynddi hi.
Mae dementia yn glefyd creulon sy'n cael effaith enfawr ar filoedd o deuluoedd ledled Cymru. Gwn am ei effaith ddinistriol ar fy nheulu fy hun oherwydd roedd dementia ar fy hen fodryb. Byddwn yn clywed llawer o straeon personol a phwerus yn cael eu rhannu yn ystod y ddadl hon, felly i ategu hynny, roeddwn am ganolbwyntio ar yr hyn a oedd gan sefydliadau'r trydydd sector i'w ddweud am yr hyn y gellid ei wneud i helpu i wella bywydau pobl a lleddfu ergyd dementia.
Mae Cymdeithas Alzheimer Cymru yn amcangyfrif bod tua 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia, a dim ond amcan yw hwn gan mai dim ond 50 y cant yw'r gyfradd ddiagnosis bresennol, fel y clywsom. Disgwylir i'r ffigur hwnnw ddyblu erbyn 2050. Mae cael darlun mor anfanwl o ddementia yng Nghymru yn golygu nad yw llawer o bobl yn cael y cymorth y maent ei angen neu'n ei haeddu. Mae hefyd yn golygu bod llawer sy'n cael cymorth yn ei gael yn hwyrach nag y dylent, gan arwain at ganlyniadau gwaeth i bawb dan sylw.
Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod tua 4,000 o bobl yng Nghymru yn aros am asesiad gan y gwasanaeth asesu cof oherwydd ôl-groniad COVID. Yn ogystal â diagnosis gwell a chynharach, mae Cymdeithas Alzheimer Cymru o blaid arsyllfa ddata dementia genedlaethol, fel y clywsom gan Luke yn gynharach, i gasglu, dadansoddi a lledaenu gwybodaeth am ddementia i'r holl asiantaethau a darparwyr gwasanaethau sydd angen data cywir i'w helpu i gynllunio a darparu gwasanaethau dementia ledled Cymru.
Mae llawer o deuluoedd sydd â phrofiad o ddementia yn gwybod bod baich gofal yn aml yn syrthio arnynt hwy. Gwyddom o'r cyfyngiadau symud cyntaf o ganlyniad i'r coronafeirws fod teulu a ffrindiau wedi treulio 92 miliwn o oriau ychwanegol yn gofalu am anwyliaid â dementia. Ers i'r pandemig ddechrau, amcangyfrifir bod gofalwyr di-dâl wedi darparu gwerth £135 biliwn o ofal ledled y DU. Mae gofalwyr di-dâl wedi cael eu cymryd yn ganiataol, ond ar ba gost iddynt hwy? Ni all hyn barhau.
Mae'r pandemig wedi dwysáu'r anawsterau presennol i gael gafael ar wasanaethau cymorth priodol, asesiadau gofalwyr a gofal seibiant. Mae'r ffaith bod y system gofal cymdeithasol wedi'i thanariannu ers cyhyd wedi gadael llawer o bobl heb unman i droi. Fe waethygodd symptomau dementia i lawer oherwydd diffyg cymorth arbenigol yn ystod y pandemig. Mae'n hanfodol ein bod yn dysgu'r gwersi o'r pandemig. Amlygodd y pandemig y diffygion yn y system, ac mae'n hollbwysig fod y rhai sydd â'r cyfrifoldeb a'r pŵer i ailadeiladu'r system mewn sefyllfa well i ymdrin â'r mathau o straen eithafol a welsom dros y 18 mis diwethaf.
Trof yn awr at y system gofal cymdeithasol yng Nghymru—mater rwyf wedi'i godi eisoes yr wythnos hon gyda'r Prif Weinidog, yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, oherwydd gweithredoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a reolir gan y Blaid Lafur a'r cynlluniau dinistriol ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion anabl. Mae cymaint i'w wella, a hyd nes y gwelwn bolisïau radical yn y maes hwn, bydd cleifion, eu teuluoedd a'r staff sy'n gweithio yn y sector hwn yn parhau i ddioddef. Dylai'r newid radical hwnnw fod ar ffurf uno gofal cymdeithasol a gofal iechyd. Rydym wedi bod yn galw am hyn ers bron i ddegawd, ac eto nid yw i'w weld damaid yn nes. Pe bai gofal yn rhad ac am ddim lle mae ei angen a phe bai newid diwylliant a fyddai'n golygu bod gweithwyr gofal yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi o ran cyflog ac amodau, byddai newid sylweddol i weithwyr yn y sector, a hefyd i'r cleifion sydd angen y gwasanaeth hanfodol hwn. Byddai uno nid yn unig o fudd i'r rhai â dementia, ond i bawb sydd angen gofal cymdeithasol. Rwy'n annog y Llywodraeth i wneud yr hyn sy'n iawn i bobl Cymru. Diolch.
Hoffwn ddatgan buddiant, gan fy mod yn gadeirydd Brynawel Rehab Wales.
Rwy'n falch o fod wedi cefnogi'r cynnig hwn i'w drafod a diolch am fy ngalw i siarad y prynhawn yma. Mae dementia yn glefyd creulon: creulon i'r unigolyn ac i'w teuluoedd. Mae hefyd yn un a fydd yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus i ddiwygio er mwyn diwallu anghenion pobl, lle bydd angen gofal mwy hyblyg o ansawdd gwell wrth i fwy o bobl wynebu'r salwch hwn.
Rydym yn heneiddio. Mae dementia ar gynnydd, ac mae byw bywyd da yn dod yn her fawr—yn her y mae'n rhaid inni ei goresgyn. Mae ein cynnig yn galw'n briodol am yr angen i sicrhau diagnosis cywir o gyflwr rhywun a sicrhau bod y pecyn cymorth cywir ar gael yn gyflym. Mae'n rhaid inni gydnabod hefyd fod gan oddeutu un o bob 10 o bobl â dementia ryw fath o niwed i'r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol—a elwir yn ARBD—yn enwedig mewn pobl iau o dan 65 oed, lle mae ARBD yn effeithio ar tua un o bob wyth o bobl. Gellir ei wrthdroi a cheir gwell prognosis os ceir diagnosis cynnar.
Mae cynllun gweithredu Cymru ar gyfer dementia yn dod i ben y flwyddyn nesaf, ac er fy mod yn croesawu llawer o'r teimladau a'r ymrwymiadau hyd yma, mae angen inni fod yn fwy uchelgeisiol er mwyn gallu sicrhau bywyd o ansawdd da i bobl â dementia. Oherwydd y camau gweithredu sydd wedi'u cynnwys ynddo, roedd y cynllun yn dweud y byddai mwy o bobl yn cael diagnosis cynharach gan eu galluogi i gynllunio a chael gafael ar gymorth a gofal cynnar pe bai angen. Edrychaf ymlaen at weld y Gweinidog yn amlinellu sut y mae'r cynllun hwn wedi gweithio i unigolion a pha dystiolaeth sy'n dangos bod mwy o bobl wedi cael diagnosis yn gynharach.
Pan gaiff pobl ddiagnosis, mae rhai'n ofni'r hyn y gallai ei olygu iddynt hwy. Mae llawer o bobl eisiau gofal gartref, yn agos at eu teuluoedd a'u cymdogion, gan barhau i fod yn rhan o'r gymuned. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym i gyd yn ei werthfawrogi, ac i bobl hŷn â dementia, ni allwn fyth danbrisio pwysigrwydd teulu a phwysigrwydd bod yn gyfarwydd â'r hyn sydd o'n cwmpas a'n hardal leol. Yn anffodus, mae llawer o bobl yn gorfod mynd i gartref gofal yn y pen draw, nid am na ellir ymateb i'w cyflwr yn eu cartrefi eu hunain, ond oherwydd problemau cyllid. I rai pobl, nid yw'n ymwneud â'r hyn sydd orau iddynt hwy, ond yn hytrach yr hyn sydd orau i'r wladwriaeth a chyfleustra pobl eraill. Mae hynny'n peri tristwch imi ac mae angen inni feddwl yn fwy creadigol ynglŷn â helpu pobl i aros gartref am fwy o amser.
Mae ein sector gofal yn ei chael hi'n anodd, ac mae'r pandemig wedi amlygu gwendidau yn ein gallu i gynnal sector o ansawdd uchel. Mae'r Prif Weinidog wedi ymgyrchu'n flaenorol ar bolisi o symud darpariaeth gofal tuag at y sector dielw, er mwyn rhyddhau mwy o fuddsoddiad. Mae hyn yn synhwyrol, ond mae angen inni feddwl am ba fathau o gartrefi a adeiladwn, sut y cânt eu cynllunio, eu lleoli a'u cysylltu.
Mae hefyd yn ymwneud â'r gwasanaeth a ddarparwn, y bywydau a'r profiadau dyddiol y gallwn eu cefnogi. Mae cynllun y Llywodraeth yn sôn yn briodol am ddatblygu cysylltiadau rhwng cartrefi a'r gymuned, ond mae angen inni oedi ac ailfeddwl sut y dylai'r cartrefi hyn edrych yn y dyfodol, a'r amgylchedd y maent yn ei ddarparu. Mae hefyd yn ymwneud â'r ffordd y gall teuluoedd barhau i fod yn rhan o ofal a bywydau eu hanwyliaid.
Hoffwn weld gwasanaethau'n cael eu hintegreiddio yn gyflymach, gan gynnwys partneriaid iechyd, gofal cymdeithasol a thai. Yn y bôn, fodd bynnag, mae angen inni weithio drwy'r ffordd yr ydym yn adeiladu capasiti mewn gofal i ymateb i'r cynnydd tebygol yn y rhai a fydd yn byw gyda dementia pan fyddant yn hŷn. Mae angen inni ddysgu gan bobl a'u teuluoedd am y mathau o bethau a fydd yn gwneud gwahaniaeth iddynt hwy, yr hyn sy'n bwysig iddynt hwy yn eu bywydau a sut y gallwn ni, gyda'n gilydd, eu helpu i gael hynny. Hoffwn gael sicrwydd y prynhawn yma y bu rhywfaint o gynnydd ac ymrwymiad i fod yn fwy uchelgeisiol yn y modd yr awn ati i ddarparu gofal a gwasanaethau i bobl â dementia. Diolch.
Yn amlwg, mae pobl ar draws y Siambr yn uniaethu â'r hyn y mae pobl yn ei ddweud. Rwyf wedi bod yma gyda fy meiro yn rhoi llinell drwy gryn dipyn o'r hyn yr oeddwn am ei ddweud, byddwch yn falch iawn o glywed, Ddirprwy Lywydd. Rwyf innau hefyd eisiau cydnabod bod dementia wedi effeithio'n uniongyrchol ar lawer ohonom yn y Senedd hon. Bu farw fy mam o ddementia a bu farw fy nhad o glefyd Alzheimer. Rwyf eisiau talu teyrnged i bawb a ofalodd am ein teulu i gyd, a fy rhieni, i fyny yng ngogledd Cymru; diolch yn fawr iawn i chi i gyd.
Mae ceisio lleihau nifer yr achosion o ddementia yn hynod o gymhleth. Mae llawer ohonynt heb gael diagnosis, oherwydd yr heriau sy'n ein hwynebu yn sgil COVID ar hyn o bryd, felly rwy'n croesawu'r ddadl hon a gyflwynwyd gennych chi, Luke—diolch—fel cyfle i ailddatgan ein hymrwymiad cyfunol i'r mater pwysig hwn.
Byddwn hefyd yn croesawu eglurhad gan y Dirprwy Weinidog, fel y dywedwyd, ynglŷn ag a fydd y cynllun gweithredu ar gyfer dementia yn cael ei ymestyn y tu hwnt i 2022, ac edrychaf ymlaen at weld hwnnw, fel y dywedwyd, yn fwy uchelgeisiol, o ran gwelliant â ffocws mewn gofal dementia yng Nghymru.
Rwyf hefyd eisiau sôn rhywfaint am ddementia mewn ardaloedd gwledig. Mae cymorth dementia mewn ardaloedd gwledig yn arbennig o heriol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs y gwnaf; diolch.
Diolch yn fawr iawn. Ddydd Llun, ymwelodd Darren Millar a minnau â Gwasanaethau Gofal Croesffyrdd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru yn eu canolfan ddementia newydd yng ngogledd Cymru. Clywsom fod hon yn unigryw yng Nghymru, wedi'i chontractio a'i hariannu drwy fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ond yn cael ei rhedeg ar sail elusennol. Clywsom am eu cynlluniau i greu hyb arferion gorau yng nghanolbarth Cymru, gyda hybiau lloeren yn y dwyrain a'r gorllewin. A wnewch chi ymuno â mi i annog Llywodraeth Cymru i edrych ar hwn fel model arfer gorau?
Diolch, Mark; diolch am yr ymyriad hwnnw. Wrth gwrs, fe wnaf ymuno â chi; unrhyw beth sy'n gwella gwasanaethau ac yn gwella'r modd y darperir gwasanaethau i'r rhai sy'n dioddef o ddementia a'u gofalwyr mewn ardal wledig fel Canolbarth a Gorllewin Cymru—byddwn yn hapus iawn i ymuno â chi ac eraill i gefnogi hynny wrth symud ymlaen.
Mae dementia yn effeithio ar dros 17,000 o bobl yng nghefn gwlad Cymru, ond ceir anawsterau enfawr wrth geisio defnyddio cymorth arbenigol. Mae rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus gwael mewn ardaloedd gwledig yn arwain at ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd i'r rhai yr effeithir arnynt, gan nad ydynt yn gallu gwneud defnydd o'r gwasanaethau arbenigol hynny.
Fel y clywsom hefyd, mae'n bwysig iawn nad ydym yn anghofio am ofalwyr yn rhan o'r ddadl hon hefyd. Mae anawsterau wrth geisio cael gofal seibiant, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig unwaith eto, yn gwneud bywydau gofalwyr yn fwy heriol wrth iddynt frwydro gyda phwysau cyfrifoldebau gofalu a rhwydwaith cymorth sy'n crebachu ar ôl COVID. A gall fod embaras a chywilydd weithiau ynghlwm wrth ddiagnosis neu'r posibilrwydd o ddiagnosis o glefyd Alzheimer a dementia, a gallaf siarad am hynny fel rhywun yr effeithiwyd arni'n bersonol.
Mae'r gwaith y mae ein gofalwyr di-dâl yn ei wneud yn cael ei dangyfrif, ac mae'n bwysig ein bod yn cefnogi eu gwaith yn briodol. Mae fy mhlaid wedi cynnig cynnydd o £1,000 yn y lwfans gofalwr er mwyn sicrhau ein bod yn cydnabod eu cyfraniad, ac rwy'n siŵr fod eraill hefyd eisiau sicrhau bod y cyfraniad hwnnw'n cael ei gydnabod.
Rwy'n gorffen unwaith eto drwy ddiolch i Luke—diolch yn fawr iawn ichi—am gyflwyno'r ddadl hon ac rwy'n gobeithio y gallwn i gyd weithio ar draws y pleidiau i sicrhau urddas i'r rhai rydym yn eu caru, i'w gofalwyr, a gwerthfawrogiad parhaus a'r gwobrau a'r gydnabyddiaeth gywir i'r staff sy'n edrych ar eu holau mor fedrus. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n falch o gael y cyfle i gyfrannu i’r ddadl heddiw, ac rwy’n diolch i’m cyd-Aelod Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Luke Fletcher, am godi’r mater pwysig hwn am yr angen i ddatblygu a gwella dulliau diagnostig ac ariannu cymorth er mwyn cefnogi’r degau o filoedd o bobl yng Nghymru sydd wedi’i heffeithio gan bob math o ddementia. Rwy’n dweud degau o filoedd, achos fel rŷn ni wedi clywed, yn hytrach na ffigur pendant, y gwir yw dŷn ni ddim yn siŵr o’r union nifer. Yn ôl Cymdeithas Alzheimer's Cymru, mae hanner yr 50,000 o bobl maen nhw’n meddwl sy’n byw gyda dementia yng Nghymru heb ddiagnosis. Bu farw fy nhad o glefyd Alzheimer chwe blynedd yn ôl. Roedd e’n un o’r rhai na chafodd ddiagnosis na’r cymorth meddygol nac ymarferol am gyfnod rhy hir, ac, yn wir, hyd yn oed wedi iddo gael diagnosis, bu’n rhaid i fy mam ymdopi â’r hyn mae hi’n ei ddisgrifio fel proses anodd—mor anodd, rhy anodd—o ganfod gwybodaeth a chael mynediad at gymorth clinigol ac ymarferol. Mae’r disgwyliadau o a’r gofynion ar ofalwyr di-dâl yn hyn o beth, pobl sy’n aml yn fregus ac ar ben eu tennyn yn emosiynol ac yn gorfforol, yn gwbl afresymol ac yn creu gofid, pryder a rhwystredigaeth. Mae angen sicrhau system llawer gwell o ddarparu gwasanaethau dementia a'r cymorth cywir i bobl sy’n byw gyda dementia a’r rhai sy’n gofalu amdanynt.
O wybod yr hyn aeth mam a fy nhad drwyddo, yr anawsterau y profon ni fel teulu o ran cael mynediad at wasanaethau cefnogaeth a’r asesiadau oedd eu hangen i gyrchu’r gefnogaeth honno, gallaf ddychmygu yn gwmws pa mor ofnadwy mae’r cyfnod COVID wedi effeithio ar sefyllfa sydd eisoes yn annerbyniol i lawer gormod o bobl. Mae 4,000 o bobl, yn ôl Cymdeithas Alzheimer's Cymru, yn aros am asesiad cof tyngedfennol ac allweddol sy’n agor y drws at driniaethau a chymorth. Rwy’n cefnogi galwad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru bod angen cyllid penodol i gynyddu capasiti a sicrhau hygyrchedd cyfartal i isadeiledd diagnostig a chreu llwybr clinigol llawer gwell o ran cael mynediad at driniaethau.
Yn ystod y pandemig hefyd fe ddwysaodd y gofyn ar ofalwyr di-dâl, fel rŷn ni wedi’i glywed gan Jenny Rathbone ac eraill, ac effaith y cyfnod clo yma wedi gwaethygu symptomau dementia a’r diffyg buddsoddiad cywilyddus yn ein system gofal cymdeithasol, gan adael pobl heb y gefnogaeth oedd ei hangen arnyn nhw. Gadawyd ein cartrefi gofal, ble mae cymaint o bobl sy’n byw gyda dementia yn byw, yn agored lled y pen i’r pandemig. Mae hynny yn sgandal y bydd angen i Lywodraeth Cymru ateb amdano. Ond mae angen gweithredu nawr i geisio cynnau fflam o obaith yn y cyfnod tywyll hwn sydd wedi effeithio’n anghymesur ar bobl â dementia.
Oherwydd natur gymhleth dementia, mae angen mawr am ddata hirdymor o ansawdd, ac felly rwy'n falch o gefnogi'r alwad yn y cynnig i Lywodraeth Cymru sefydlu arsyllfa ddata dementia genedlaethol i wella'r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau dementia. Fel cyn-aelod o staff, rwy'n falch fod Prifysgol Abertawe yn fy rhanbarth yn chwarae rhan allweddol mewn ymchwil dementia amlddisgyblaethol sy'n arwain y byd. Mae gennym arbenigedd yma yng Nghymru y gallwn ac y mae'n rhaid inni ei ddatblygu ymhellach. Yn anffodus, bydd gormod ohonoch, fel minnau, yn gwybod o brofiad pam y mae'r cynnig hwn yn bwysig. Ni allwch byth fod yn barod am yr effaith y bydd dementia yn ei chael arnoch pan fydd yn taro eich teulu, ond gallwn ni fel cenedl fod yn fwy parod, wedi'n harfogi â gwybodaeth, cymorth priodol a gofal.
Pan ges i fy ethol, fe ddwedais wrth Beti George, a gollodd ei gwr, David Parry-Jones, i dementia, y byddwn yn gwneud popeth posib i wella cefnogaeth i bobl fel hi a’i gwr. ‘Digon o siarad wedi bod yn y Senedd, Sioned’, meddai hi, ‘Mae angen gweithredu.’
Hoffwn gofnodi fy niolch i Luke Fletcher am fynd o gwmpas yn gofyn am gefnogaeth i'r ddadl hon heddiw, ac roeddwn yn falch iawn o'i chyd-gyflwyno.
Nawr, ni ellir gwadu bod pandemig COVID-19 wedi cael effaith andwyol enfawr ar bobl sy'n byw gyda dementia o ryw fath ac wedi'u heffeithio ganddo. Mewn arolwg a gynhaliwyd gan Gymdeithas Alzheimer, adroddodd 95 y cant o ofalwyr eu bod wedi dioddef effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl neu gorfforol. Ac yn anffodus iawn—wyddoch chi, mae'n anodd darllen yr ystadegau hyn yn uchel, ond roedd dros chwarter y bobl a fu farw gyda COVID-19 rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2020 yn y DU yn dioddef o dementia. Felly, mae'n fy mhoeni pan fydd cynllun gweithredu Cymru ar gyfer dementia yn datgan:
'Mae angen inni feithrin cysylltiadau pellach rhwng cartrefi gofal a gwasanaethau cymunedol, a byddwn yn disgwyl i’r timau dementia ‘o amgylch yr unigolyn’ ddarparu cymorth arbenigol a rheolaidd i gartrefi gofal. Rydym hefyd yn annog meddygfeydd teulu i gynnig gwasanaeth newydd gwell ar gyfer gofal preswyl a nyrsio yng Nghymru.'
Nawr, deilliodd hynny—. Dywedodd 75 y cant o'r cartrefi gofal a holwyd ei bod yn anodd am fod meddygon teulu'n amharod i ymweld â phreswylwyr yno. Felly, mae'r dystiolaeth yn dangos nad yw cartrefi gofal wedi bod yn cael gwasanaeth gwell gan feddygon teulu. Felly, byddai'n dda gennyf glywed pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â hyn.
Y mis hwn, Meddyg Care yw'r grŵp cartref gofal cyntaf i sefydlu gwasanaeth nyrsys admiral yng Nghymru. Felly, er bod gan sefydliadau eraill gynghorwyr dementia, sy'n cynnig arweiniad gwerthfawr i bobl â'r cyflwr a'u teuluoedd, mae nyrsys admiral yn mynd y tu hwnt i gyngor—maent yn cynnig cymorth ac arbenigedd arbenigol cynhwysfawr i deuluoedd a'r rhai sy'n byw gyda chymhlethdodau dementia. Ac wrth ddarllen ymlaen, cefais fy synnu ymhellach o weld nad oes nyrsys admiral yng ngogledd Cymru. Felly, Weinidog, tybed pa adolygiad y gallech ei wneud fel Llywodraeth i helpu nyrsys cofrestredig i ddod yn nyrsys admiral. Byddai hyn yn cyd-fynd â'r canlyniad canlynol yn y cynllun gweithredu ar gyfer dementia sy'n dweud:
'Mae gan staff y sgiliau i’w helpu i adnabod pobl â dementia a theimlo’n ddigon hyderus a chymwys i gefnogi anghenion yr unigolion ar ôl cael diagnosis.'
Gall nyrsys admiral helpu gofalwyr di-dâl hefyd, gan y gall nyrsys o'r fath eu harfogi â thechnegau rheoli straen a strategaethau ymdopi a all wedyn helpu i'w cysylltu â gwasanaethau seibiant a darparu addysg a hyfforddiant arbenigol i ofalwyr. Yn wir, mewn gwirionedd, ni ddylem fod yn gweld oedi yn awr cyn gweithredu unrhyw gamau a allai arwain at gynnig mwy o gymorth i ofalwyr di-dâl.
Y peth trist yw bod 40 y cant o'r rheini'n teimlo na allant reoli eu cyfrifoldebau gofalu. Nid yw 72 y cant wedi cael unrhyw seibiant yn ystod pandemig COVID-19, ac mae 73 y cant wedi dweud eu bod wedi gorflino o ganlyniad i ofalu yn ystod y pandemig. Felly, rwy'n cytuno â Gofalwyr Cymru, Age UK, Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor, Oxfam GB a Rethink Mental Illness, sydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ein gofalwyr di-dâl sy'n darparu oriau sylweddol o ofal i gleifion â dementia yn cael y seibiannau sydd eu hangen arnynt.
Nawr, er fy mod yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn darparu £3 miliwn y flwyddyn ariannol hon i gefnogi gofal seibiant brys a datblygu cronfa seibiant byr, rwy'n ymwybodol fod rhai gofalwyr di-dâl yn ymgymryd â chyfrifoldebau pellach. Felly, unwaith eto, mae'n ymwneud â'r data—y data pwysig y mae ei angen arnom—fel y gallwn edrych, mewn gwirionedd—neu gallwch chi fel Llywodraeth edrych—ar sut y gallwch leddfu'r pwysau y maent yn ei deimlo.
Yn olaf, fel y mae Cymdeithas Alzheimer Cymru wedi nodi, mae Cymru mewn sefyllfa unigryw, gyda chyllid penodol ar gyfer dementia at ei defnydd ac ymchwilwyr medrus yn y maes. Yn ogystal ag annog ymchwilwyr i wneud cais am gyllid o dan y cynllun gweithredu ar gyfer dementia, rwyf eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn mynd ymhellach, drwy ariannu ymchwil i ddatblygu dulliau diagnostig manwl i sicrhau y gall pobl sy'n cael diagnosis o ddementia gael cymorth cywir ar unwaith ar ôl cael diagnosis. Rwyf eisiau gweld arsyllfa ddata dementia genedlaethol yn cael ei sefydlu, ac rwyf hefyd eisiau sicrhau bod cymorth ôl-ddiagnostig yn cael ei ariannu ar gyfer pob math o ddementia ledled Cymru.
Rwy'n eich annog chi i gyd i ymuno â Luke Fletcher drwy gefnogi'r cynnig clodwiw hwn. Diolch.
Mae'r meddwl dynol yn beth gwerthfawr a bregus. Rydym yn byw gyda'n hatgofion a phan gânt eu dwyn oddi wrthym a chyflwr fel dementia yn gafael, gall fod yn greulon ac yn wanychol. Fel y clywsom, amcangyfrifir bod 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia, ond mae'n effeithio nid yn unig ar unigolion, ond ar deuluoedd cyfan sy'n gorfod ymdopi â galar a cholled bob dydd, er bod eu hanwyliaid yn eistedd o'u blaenau.
Roedd dementia ar fy mam-gu, Doreen. Bu byw hyd nes ei bod hi dros ei chant oed, ond cymerwyd blynyddoedd olaf ei bywyd oddi wrthi'n raddol, fesul darn. Roedd hi wedi bod yn gogydd ac yn bobydd brwd ac roedd hi'n pobi pice ar y maen ar ei charreg bobi tan ei bod bron yn 98 oed, ond byddai'n anghofio ychwanegu'r siwgr neu'r halen neu'n eu gadael ar y garreg bobi eiliad yn rhy hir. Dyna oedd rhai o'r arwyddion cyntaf.
Roedd hi'n arfer gwnïo a chrosio a byddai'n dwli dweud wrth bobl ei bod wedi gwneud gwisg ysgol gyfan i fy nhad pan oedd yn fach, yn cynnwys y siaced ysgol ramadeg gyda'r defnydd brethyn main a brynasai ym marchnad Pontypridd, ac wedi prynu bathodyn yr ysgol a'i wnïo ar y siaced. Ond fe welodd golli'r cysur a gâi o wnïo a defnyddio ei dwylo fwy a mwy yn ei blynyddoedd olaf. Byddai'r postmon yn ei gweld yn y ffenestr, yn eistedd yno, heb fod yn gwnïo mwyach, ond yn edrych allan ac yn gwylio'r byd yn mynd heibio.
Roedd fy mam-gu wrth ei bodd yn cerdded. Pan oedd fy chwaer a minnau'n fach, byddem yn mynd ar deithiau cerdded ar fynydd Nelson i bigo mwyar duon a llus, ond fwy a mwy, wrth iddi fynd ymhellach i mewn i'w 90au ac wrth i'r dementia dynhau ei afael, byddai'n meddwl y gallai gerdded ymhellach nag y gallai, a byddai'n parhau i gerdded ar y llwybrau anwastad ger ei chartref, yn gwbl ddall i'r perygl o gwympo. Rwy'n ei chofio'n ffonio tŷ fy rhieni un diwrnod a minnau'n ateb, a gofynnodd i mi, 'Pam na allaf wneud yr holl bethau y byddwn yn arfer eu gwneud?', a dyheai am allu cerdded a cherdded. Byddai'n teimlo'n rhwystredig a byddai'n unig, ac er bod fy rhieni'n galw gyda hi bob dydd, yn ogystal â gofalwyr, byddai'n teimlo'n drist ac yn anghofio eu bod wedi bod yno.
Pan ddirywiodd ei chyflwr, cytunodd y byddai'n fwy cyfforddus ac yn fwy diogel mewn cartref, er ei bod yn dal i gwympo, ac ar ôl un gwymp, aeth i Ysbyty'r Tywysog Charles gyda fy mam a chafodd ei chadw—menyw yn ei nawdegau; 99 mlwydd oed—ar droli mewn coridor am naw awr. Nid bai'r meddygon na'r nyrsys na'r criw ambiwlans oedd hyn, ond bai'r system sy'n tanariannu ei gwasanaeth iechyd i'r graddau fod gwraig 99 oed wedi'i gadael heb gymorth arbenigol ynghanol y nos. Mae arnom angen gwasanaethau dementia ar draws gofal sylfaenol, ac ysbytai a chartrefi gofal wedi'u hintegreiddio a'u hariannu'n briodol. Mae angen inni fuddsoddi ac ymchwilio i sut i sicrhau diagnosis mwy cywir o ddementia ac mae taer angen mwy o gefnogaeth arnom i gleifion a'u teuluoedd ar ôl cael diagnosis fel nad ydynt yn cael eu hamddifadu o ragor o rym.
Ond Ddirprwy Lywydd, er gwaethaf y tristwch a nodweddai ei blynyddoedd olaf gyda ni, cafodd fy mam-gu fywyd hapus iawn. Ac er i ddementia ei hamddifadu o gymaint o atgofion, roedd hi'n canu tan y diwedd. Roedd hi wrth ei bodd yn canu. Ei ffefrynnau oedd 'Danny Boy' a 'Mother Machree' a chanodd y ddwy gân ar ei phen-blwydd yn gant oed. Nid wyf erioed wedi clywed neb arall yn canu 'Mother Machree', felly pan glywaf y geiriau hynny, rwy'n meddwl amdani hi a hoffwn rannu rhai o'r geiriau gyda chi wrth gloi, Ddirprwy Lywydd.
'Mae lle yn fy ngof, / Fy mywyd, mi wyt ti'n ei lenwi, / All neb arall ei gymryd, / Fydd neb byth yn ei wneud. / Rwy'n caru'r arian annwyl / Sydd yn disgleirio yn dy wallt, / A'r talcen sydd yn rhychog i gyd, / Ac yn grychiog â gofid. / Rwy'n cusanu'r bysedd annwyl, / Ac ôl traul arnynt er fy mwyn i, / Bendith Duw arnot a'i ofal amdanat, / Mam Machree.'
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Luke Fletcher am gyflwyno'r cynnig pwysig hwn heddiw ac am gysylltu â mi mewn modd mor adeiladol cyn y ddadl hon? Mae Luke wedi siarad gyda'r fath ddewrder am brofiadau ei deulu ei hun o ddementia. Gobeithio na fydd ots ganddo imi ddweud, yn fy mhrofiad personol i, mai anaml y daw gwir ymladdwyr o blith y rhai sydd heb eu creithio, a gwn y bydd gan bobl sy'n byw gyda dementia ymladdwr pwerus ynoch chi yn y Siambr hon, Luke.
Hoffwn ddiolch hefyd i bawb arall sydd wedi siarad heddiw ac rwy'n cydnabod bod y rhain wedi bod yn gyfraniadau anodd i'w gwneud ac yn boenus i Aelodau ac yn bwysig iawn i bawb eu clywed.
Mae'r 18 mis diwethaf hyn wedi bod yn anhygoel o anodd i bawb, ond i neb yn fwy na phobl sy'n byw gyda dementia. Mae colli trefn arferol, newidiadau i gymorth, ansicrwydd a'r cyfyngiadau ar ymweld â chartrefi gofal wedi gwneud sefyllfa heriol hyd yn oed yn anos. Dyna pam fy mod yn falch, yr wythnos diwethaf, ar Ddiwrnod Clefyd Alzheimer y Byd, i allu lansio'r ddogfen 'Cynllun gweithredu dementia: cryfhau'r ddarpariaeth mewn ymateb i COVID-19'. Datblygwyd y ddogfen gyda'n partneriaid i ategu 'Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia', ac mae'n adlewyrchu'r blaenoriaethau a ddaeth i'r amlwg yn ystod y pandemig.
Mae nifer o'r blaenoriaethau hyn yn cyd-fynd â ffocws y ddadl heddiw, er enghraifft mynediad cyfartal a dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ymchwil a datblygu, a dysgu a datblygu. Byddwn yn adrodd ar ein cynnydd fel rhan o'n diweddariad mewn perthynas â'r cynllun gweithredu. Bydd cyd-Aelodau'n gwybod bod ein cynllun gweithredu ar ddementia wedi'i gydgynhyrchu gyda phobl sy'n byw gyda dementia, ac yn yr un modd, cafodd ein cynllun adfer ei gydgynhyrchu gydag aelodau o'n bwrdd cyflawni a throsolwg dementia, sy'n cynnwys y rhai sy'n byw gyda dementia yn ogystal â phartneriaid trydydd sector, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sy'n rhan o'r gwaith hanfodol hwn.
Mae'r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn cydnabod y rôl hollbwysig a chwaraewyd gan ofalwyr di-dâl yn y pandemig; rwy'n cytuno'n llwyr. Mae strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer gofalwyr di-dâl a lansiwyd gan fy nghyd-Aelod, Julie Morgan, ar 23 Mawrth yn ailddatgan ein hymrwymiad i gefnogi pob gofalwr di-dâl yng Nghymru i gael bywyd ochr yn ochr â gofalu. Nid yw'r gwaith hwn erioed wedi bod yn bwysicach. Mae gwaith yn mynd rhagddo gydag aelodau o grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr a'r grŵp ymgysylltu â gofalwyr ar ddatblygu cynllun manwl i'w gyhoeddi yr hydref hwn, a bydd siarter newydd i ofalwyr yn cyd-fynd â hyn. Sefydlwyd y gronfa cymorth i ofalwyr gennym yn ystod y pandemig. Caiff ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a'i nod yw cefnogi gofalwyr di-dâl sydd o dan bwysau ariannol, a gallaf gadarnhau, hyd yma, fod bron i 6,000 o ofalwyr di-dâl wedi cael y cymorth hwn eisoes. Rydym hefyd yn dyrannu £3 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon i ateb y cynnydd a ragwelir yn y galw am wasanaethau seibiant traddodiadol a newydd wrth i gyfyngiadau symud gael eu llacio.
Mae Luke yn iawn i bryderu'n arbennig am yr angen am ddiagnosis cywir o ddementia. Unwaith eto, rwy'n cytuno'n llwyr. Gwn o brofiad fy nheulu fy hun pa mor hanfodol yw cael diagnosis prydlon a chywir os yw teuluoedd yn mynd i gael y cymorth sydd ei angen arnynt. I mi, mae'n fater o hawl sylfaenol hefyd. Ni fyddem yn dweud wrth glaf canser fod ganddynt ganser heb ddweud wrthynt pa fath o ganser sydd ganddynt, ac yn sicr, dylai'r un peth fod yn wir i'r rhai sy'n byw gyda dementia.
Mae'r ddogfen gysylltiedig y cyfeiriais ati'n gynharach yn cadarnhau bod diagnosis amserol yn parhau i fod yn faes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu. Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Gwella Cymru yn datblygu eu gallu i adrodd ar gyfraddau diagnosis yn fisol er mwyn cefnogi'r gwelliant sydd ei angen yn y maes hwn. Y llynedd, gwnaethom gyhoeddi cylchlythyr i fyrddau iechyd yng Nghymru yn gofyn am i asesiadau cof a gwasanaethau gofal sylfaenol gofnodi diagnosis dementia unigolyn yn erbyn codau Read y cytunwyd arnynt i'w gwneud hi'n bosibl darparu gwybodaeth gywir, a byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid eleni i ymgorffori hyn ymhellach. Mae'r codau Read hyn yn cefnogi'r broses o gofnodi gwahanol is-fathau o ddementia, gan gynnwys dementia corff Lewy.
Yn yr hydref, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ar y camau gweithredu yn y cynllun gweithredu ar ddementia. Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth ynglŷn â pha gymorth a gynigir i deuluoedd, a mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y mae cyllid ar gael i fyrddau partneriaeth rhanbarthol a sut y caiff hwnnw ei ddefnyddio. Byddaf hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â sut y caiff pobl eu cynorthwyo i gael mynediad at wasanaethau yn eu dewis iaith, gan fy mod yn cydnabod, i bobl sy'n agored i niwed, fod hwn yn fater sylfaenol o angen ac nid o ddewis.
Mewn ymateb i sylwadau Jane ar y cynllun gweithredu ar ddementia, a gaf fi gadarnhau mai'r bwriad bob amser oedd cael cynllun newydd, ond bod y cynllun presennol yn destun gwerthusiad? Ar hyn o bryd mae hynny'n—. Roedd ychydig ar ei hôl hi, ond mae'r gwaith maes ar fin digwydd yn awr, a bydd y gwerthusiad hwnnw'n llywio ein cynllun newydd yn y dyfodol. A hoffwn ddweud wrth Altaf Hussain hefyd, mewn perthynas â niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol, ein bod wedi ymgynghori ar hynny a byddaf yn cyhoeddi fframwaith newydd ar hynny'n fuan iawn.
I droi at ymchwil a datblygu, mae gan hynny rôl allweddol i'w chwarae yn gwella gofal dementia, a chredaf fod gennym stori dda i'w hadrodd am hynny yma yng Nghymru. Mae Prifysgol Caerdydd yn un o chwe phrifysgol yn y DU sy'n arwain ymchwil fel rhan o Sefydliad Ymchwil Dementia'r DU. Mae'r brifysgol yn arwain menter fawr sy'n ceisio helpu ymchwilwyr ym mhob cwr o'r byd i archwilio'r ffactorau risg sy'n cyfrannu at glefyd Alzheimer. Hefyd, mae cyfleoedd ariannu ar lefel prosiect eisoes ar gael drwy raglenni'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi ynddynt, ac rydym yn gweithredu dull cenedlaethol a chydweithredol yng Nghymru, gan gynnig sganiau FDG PET gyda'r nod o gynyddu diagnosis effeithiol ac amserol o ddementia. Daw hyn yn sgil cynllun peilot llwyddiannus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac o ganlyniad, mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru bellach wedi comisiynu sganiau FDG PET ar gyfer dementia yn genedlaethol.
Mae gan unrhyw un sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr hawl i ofyn am asesiad. Mae cynllun personol sy'n mynd i'r afael â'r materion sy'n bwysig i'r unigolyn yn rhan hanfodol o daith dementia unrhyw un. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein dull gweithredu ac yn dysgu o'r arferion da ledled Cymru, er enghraifft Canolfan Enfys yn Llannerch Banna, sydd wedi cael cydnabyddiaeth yng ngwobrau 2020 ac sy'n dangos pwysigrwydd hanfodol gwrando ar bobl sy'n byw gyda dementia.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi 'Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru' newydd yn ddiweddar. Mae'n hyrwyddo dull gofal integredig system gyfan, ac rydym wedi dweud yn glir y bydd angen i bob prosiect sy'n derbyn cyllid o'r gronfa gofal integredig ar gyfer y cynllun gweithredu ar ddementia gydymffurfio â'r safonau newydd. Mae hyn yn cynnwys ffrwd waith benodol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu eitemau data ar gyfer adrodd a sicrwydd. Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud i ddatblygu'r eitemau data hyn yn hanfodol a bydd yn chwarae rhan bwysig wrth lunio gwasanaethau dementia yn y dyfodol, felly rwy'n cydnabod galwad yr Aelod am arsyllfa ddata dementia genedlaethol a'r hyn sy'n sail iddi.
Drwy'r gwaith a amlinellais a thrwy gryfhau ein cysylltiadau â'r byd academaidd, rwy'n gobeithio y gallwn gyflawni'r un canlyniadau. Yn sicr, o'm rhan i, mae hyn yn cyd-fynd yn llwyr â bwriad ein polisi presennol. Adroddir yn genedlaethol ar y data a sefydlwn ar asesiadau a chymorth dementia a bydd yn agored i'r un lefel o graffu â data ansawdd a pherfformiad arall y GIG. Gan weithio gyda'n gwasanaethau gwybodaeth a dadansoddi, cefnogir y data gweithredol hwn hefyd drwy fonitro ymchwil a thystiolaeth gyhoeddedig yn barhaus, a byddwn yn parhau i ymgysylltu'n rheolaidd â'n colegau brenhinol a chlinigwyr, sy'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o hyrwyddo'r dystiolaeth ddiweddaraf er mwyn llywio polisi. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn cydnabod, er efallai ein bod â barn ychydig yn wahanol ynglŷn â sut i gyrraedd yno, fod y ddau ohonom ar drywydd yr un amcanion.
Rwy'n gobeithio hefyd y bydd yn derbyn fy sicrwydd, fel Dirprwy Weinidog ac fel rhywun sydd hefyd wedi dadlau dros y rhai sy'n byw gyda dementia yn y Senedd hon, fy mod wedi ymrwymo i gyflawni hyn yn gyflym. Rwy'n gwbl benderfynol o wella gofal a chymorth i'r rhai sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi, Luke Fletcher, ac Aelodau eraill ar draws y Siambr, i gyflawni'r agenda hon ledled Cymru. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Rhys ab Owen i ymateb i'r ddadl.
Dirprwy Lywydd, fel gŵyr nifer yn y Siambr heddiw, mae diwygio'r sector gofal yn bwysig iawn i fi. Fel nifer, mae fe'n bersonol hefyd. Dywedwyd ddoe yn y Siambr fod y gair 'crisis' yn cael ei orddefnyddio. Digon gwir, o bosib, ond mae'n sicr yn grisis yn y sector gofal, a gwaethygu y mae'r crisis yn mynd i'w wneud. Dyma un rheswm pam yr ydw i mor falch i gloi'r ddadl hollbwysig yma heddiw.
Fel y mae pawb arall wedi'i wneud, rwyf am ddiolch i Luke am fynd ar drywydd hyn, am gyflwyno'r ddadl hon. Roedd yn ddadl anodd i wrando arni—dadl anodd iawn i wrando arni—rhaid bod gennych galon galed iawn os na chawsoch eich cyffwrdd gan y ddadl heddiw, ond mae'n galonogol gweld cefnogaeth drawsbleidiol, a'n bod ni i gyd yn barod i gydweithio i fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn.
Roedd Paul Davies yn sôn am bobl gyda dementia ddim yn teimlo fel rhan o'u cymuned a hynny'n wir hyd yn oed mewn rhywle fel Preseli Penfro, ble mae yna gymaint o gymunedau agos atoch chi. Dwi'n siŵr bod pethau hyd yn oed yn waeth mewn ambell i fan arall. Ac roedd Paul yn sôn am yr angen i bobl gael hyfforddiant ynglŷn â dementia. Dwi wedi profi gormod o weithiau ymatebion cas at bobl sy'n dioddef o dementia—pobl ddim yn deall, pobl ddim yn dangos amynedd, pobl yn eu hanwybyddu nhw, pobl yn cael eu trin yn dwp. Mae Paul a nifer eraill—a Janet hefyd—wedi sôn am arferion da mewn rhai mannau. Mae'n rhaid inni gael strategaeth genedlaethol fan hyn. Rŷn ni wedi siarad gormod ar hyd y blynyddoedd am arferion da fan hyn a fan draw; mae angen inni gael approach cenedlaethol. Dylai pethau ddim dibynnu ar unigolion neu ar sefydliadau unigol.
Soniodd Jenny Rathbone am yr angen am fwy o ymchwil—yn yr achos hwn, i lygredd aer a bwyd sothach. Ni allaf ond rhoi tystiolaeth anecdotaidd yma, ond ag yntau yn un o dri, fe gafodd fy nhad a'i chwaer ddementia, a hwythau wedi byw ar hyd eu hoes yng Nghaerdydd, ond ni ddigwyddodd i'w chwaer hŷn sy'n agosáu at 90 yn awr ac sydd wedi byw y rhan fwyaf o'i hoes mewn lleoliad gwledig. Credaf fod rhywbeth yn hynny, Jenny, yn y cyswllt â llygredd aer, ac mae'n rhywbeth y mae angen ymchwilio iddo.
Unwaith eto, ni ddylai seibiant fod yn ddibynnol ar garedigrwydd unigolion na gwaith rhai sefydliadau; mae arnom angen dull gweithredu cenedlaethol. Dywedodd Peredur mai gwaethygu a wnaiff y sefyllfa. Mae'n wir. Mae angen inni wneud pethau yn awr. Fe wnaeth Adam Price, sydd hefyd yn dod at hyn o safbwynt personol, osod system gofal cymdeithasol genedlaethol am ddim wrth wraidd maniffesto Plaid Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd pleidiau eraill yn gwneud yr un peth. Dyna sydd ei angen arnom. Soniodd Altaf Hussain unwaith eto am yr angen am ymchwil, a'r angen i sicrhau ansawdd bywyd. Ni ddylai dementia ddynodi diwedd bywyd o ansawdd. Gall pobl ddal i gael bywyd da gyda dementia.
Talodd Jane Dodds deyrnged i'r gofalwyr a gynorthwyodd ei rhieni. Gallaf innau hefyd dystio i hynny, Jane. Mae'r gwaith y maent wedi'i wneud, yn enwedig yn ystod y pandemig hwn, wedi bod yn gwbl anhygoel, ac mae angen eu gwerthfawrogi cymaint mwy. Fe sonioch chi am unigrwydd, ac mae hynny mor wir am y dioddefwr a hefyd y gofalwr di-dâl—y wraig, neu'r gŵr, neu'r plentyn. Maent yn aml yn teimlo'n unig, maent yn aml yn teimlo'n fregus heb unrhyw gymorth, fel y nododd Sioned. Soniodd Mark Isherwood unwaith eto, yn ei ymyriad defnyddiol, am arfer da mewn mannau eraill, ond nid yw hynny'n ddigon da. Nid yw'n ddigon da.
Soniodd Delyth am y rhwystredigaeth a'r unigrwydd, am fethu gwneud yr hyn yr arferent ei wneud. Do, gwelais y rhwystredigaeth honno, profais y rhwystredigaeth honno. Soniodd am ei mam yn canu; gallaf gofio'n dda am fy mam-gu'n canu emynau Cymraeg ymhell wedi i'w dementia ddatblygu, ac yn adrodd Salm 23 fel yr hen wraig yn Wythnos yng Nghymru Fydd,
'Yr Arglwydd yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf.'
Sioned Williams, mae'n wir am y pwysau anhygoel sydd ar bobl fel eich mam wrth ofalu am eich tad. Cofiaf ddarllen llythyr diagnosis fy nhad yn 2013 a doedd dim syniad gen i beth fyddai'r dyfodol yn ei gynnig. Ac mae hynny'n wir; roeddech chi'n hollol iawn pan oeddech chi'n sôn nad oes dim byd yn eich paratoi chi am fywyd gyda dementia. Mae angen cefnogaeth gynnar, mae angen cynyddu'r capasiti, fel y dywedoch chi, Sioned, er mwyn creu hynny.
A all y Gweinidog, yn y dyfodol, amlinellu i ni sut y bydd yn mynd i'r afael â hyn, y cynnydd yn y capasiti a'r galwadau gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion i wneud hyn? Rwy'n falch fod y gwaith unigryw yng Nghymru sy'n helpu i gael diagnosis cynnar o ddementia yn cael ei ymestyn ar lefel genedlaethol. Hoffwn wybod pryd y bydd hynny'n digwydd.
Fel y soniodd Sioned a Luke, byddai elusennau fel y Gymdeithas Alzheimer yn croesawu rhagor o fanylion, yn croesawu'r data dementia cenedlaethol. Mae'n anhygoel, yn 2021, nad oes gennym atebion sylfaenol i gwestiynau sylfaenol am ddementia, fel faint o bobl sy'n byw gyda dementia, faint o bobl sy'n darparu gofal di-dâl i bobl â dementia, sut y gellir cefnogi'r bobl hyn, faint o bobl sy'n cael diagnosis o wahanol fathau o ddementia, faint o bobl sydd â dementia cynnar, fel yr awgrymodd Altaf yn ei araith. Mae'r rhain yn atebion sylfaenol, ac mae angen inni ddatblygu cynllun ar gyfer y dyfodol—cynllun cywir, cynllun ar sail tystiolaeth, a chynllun hirdymor. Yn anffodus, fel un sydd wedi gweld tri allan o bedwar o rieni fy rhieni, fy nhad, a'i chwaer yn dioddef o ddementia, gallaf ddweud wrthych, Ddirprwy Lywydd, fel y pwysleisiodd Luke Fletcher, fod pob achos yn gwbl wahanol. Mae arnom angen dull sy'n canolbwyntio'n wirioneddol ar yr unigolyn ar gyfer llunio polisïau yng Nghymru. I wneud hynny, mae arnom angen cymaint o ddata â phosibl.
Ddirprwy Weinidog, rwy'n falch eich bod yn y rôl hon; yn fwy balch nag y gallwch chi ei ddychmygu, yn wirioneddol falch, oherwydd gwn fod hyn yn bersonol i chi, fel i eraill, ac mae yna ysgogiad wrth wraidd yr hyn a wnewch. Edrychaf ymlaen at weithio'n agos gyda chi, Luke ac eraill yn y Siambr hon ar fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn, oherwydd yn wir, mae angen cydweithrediad trawsbleidiol ar hyn, ac mae angen gweithredu arno yn awr.
Oherwydd dyma'r sector anghofiedig, y sector gofal—wedi ei ddadariannu, wedi ei danbrisio, a'i weithwyr a'r gofalwyr yn cael eu tandalu. Fel Aelodau o Senedd Cymru, mae'n rhaid i ni anfon neges glir i bobl mas fanna heddiw. Beth yw'n pwrpas ni fel arall, oni bai ein bod ni yn gallu dweud wrth deuluoedd, gofalwyr, preswylwyr cartrefi gofal a phawb sy'n byw gyda dementia ein bod ni yn mynd i wneud rhywbeth, ein bod yn gwrando arnoch, a'n bod ni'n barod i weithredu drostoch chi? Mae gormod o Lywodraethau, fan hyn ac yn San Steffan, ac o wahanol liwiau, wedi esgeuluso'r mater pwysig yma yn rhy hir. Maen nhw wedi ei fwrw fe i ffwrdd—kicked to the long grass. Fe wnes i addewid tebyg i Sioned i Beti George, ac mae hi'n cysylltu'n gyson i sicrhau ein bod ni'n gwneud rhywbeth. Rhaid gweithredu nawr i bobl fel mam Sioned, i bobl fel fy mam i, i bobl fel Beti George a'r rheini roedden nhw'n gofalu amdanyn nhw, dros y teuluoedd a gynrychiolir yma heddiw gyda chi, a dros deuluoedd ledled Cymru. Heddiw, gyfeillion, cofiwn am y sector anghofiedig, a gweithredwn drosti. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.