– Senedd Cymru am 4:10 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Yr eitem nesaf yw eitem 6, y ddadl ar y ddeiseb P-05-912, 'Cynorthwyo teuluoedd sy'n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac annisgwyl'. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i gyflwyno'r cynnig. Jack Sargeant.
Diolch yn fawr, acting Llywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Dyma'r ddadl gyntaf i gael ei chyflwyno gan y pwyllgor yn y chweched Senedd, a'r ddadl gyntaf i mi fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau.
Aelodau, fel pwyllgor a Chadeirydd newydd—a dywedaf gyda balchder fy mod yn credu mai dyma'r Cadeirydd pwyllgor ieuengaf yn hanes ein Senedd—bûm yn myfyrio ar y cyfle y mae ein proses ddeisebau yn ei gynnig. Mae deisebu'r Senedd yn ffordd i bobl Cymru godi eu llais a dweud eu barn. Mae'n ffordd o dynnu sylw at faterion pwysig a heriol, chwilio am atebion a dod o hyd i atebion. Mae'n ffordd o wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Ac mae dadleuon fel hon heddiw yn sicrhau bod y deisebau sydd wedi dal dychymyg miloedd o bobl ledled Cymru yn cael eu clywed a'u trafod ar lawr eu Senedd. Dyma'r ffordd yr ystyriwn ni fel Aelodau etholedig gryfder eu syniadau, eu rhinweddau, a'r rhwystrau i'w gweithredu.
Roedd y ddeiseb rydym yn ei thrafod heddiw, 'Cynorthwyo teuluoedd sy'n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl', i fod i gael ei thrafod yn wreiddiol ym mis Mawrth 2020 a'i harwain gan ein Cadeirydd blaenorol gwych, Janet Finch-Saunders, ond yn anffodus, fe'i gohiriwyd oherwydd y pandemig. Lywydd, cyflwynwyd y ddeiseb gan Rhian Mannings. Yn ei deiseb, mae Rhian yn galw ar Lywodraeth Cymru
'i helpu i ddarparu gwasanaeth... i sicrhau bod teuluoedd sy'n colli plant neu bobl ifanc 25 oed neu iau yn annisgwyl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.'
Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i Rhian, sydd yma heddiw, am ei harweiniad ysbrydoledig a'r ymrwymiad i wella'r gefnogaeth i bobl a theuluoedd sy'n wynebu colli plentyn neu unigolyn ifanc. Yn dilyn yr amgylchiadau mwyaf trasig y gellir eu dychmygu, mae Rhian wedi ymroi i wella'r cymorth a roddir i eraill. Rwy'n siŵr y bydd y teimladau hyn yn adleisio drwy gydol y ddadl yn ein Siambr heddiw.
Yn ystod ein cyfarfod ychydig wythnosau'n ôl, cyfarfûm â Nadine, a drodd at 2 Wish Upon A Star am help. Nawr, dywedodd Nadine rywbeth am golled ac ymdopi â hi a waeth argraff rymus arnaf. Roedd yn gignoeth, ond roedd yn sefyllfa sy'n gyfarwydd iawn i mi, ac rwy'n siŵr y bydd yn gyfarwydd i lawer ohonom, yn anffodus. Lywydd dros dro, fe ddywedodd, ac rwy'n dyfynnu: 'Mae gan fy nheulu gachomedr, sy'n dangos bod pob diwrnod yn gachu. Mae rhai dyddiau'n fwy cachu na'i gilydd pan ddaw'r sbardunau un ar ôl y llall. Nid y dyddiadau arwyddocaol ar y calendr yw'r rhain o reidrwydd.' Lywydd dros dro, bydd yn bedair blynedd y dydd Sul hwn ers imi golli fy nhad mewn digwyddiad trasig sydyn ac annisgwyl, a gallaf ddweud bod dyddiadau arwyddocaol yn anodd ac rwy'n cael mwy o drafferth nag erioed o bosibl. Fodd bynnag, nid oes raid mai dyddiau arwyddocaol yw'r sbardun. Gall fod yn unrhyw beth, yn unrhyw ddiwrnod, a gallai fod oherwydd unrhyw beth.
Bydd llawer ohonom yn gwybod bod Rhian wedi colli ei mab, George, a'i gŵr, Paul, yn drasig o fewn pum niwrnod i'w gilydd yn 2012. Yn y ddau achos, mae'n sôn am ddiffyg cymorth i'w chefnogi hi a'i theulu gyda'r amgylchiadau hynod ddirdynnol hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n amhosibl i'r rhan fwyaf ohonom ddeall yn iawn sut beth yw wynebu sefyllfa fel hon. Yn drasig, mae llawer o bobl a theuluoedd eraill sy'n gwylio heddiw, yma yn y Senedd a thu hwnt, ar Senedd.tv ar-lein, wedi profi colled a galar ar lefel na fydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o bobl ei hwynebu byth.
Fodd bynnag, o'r amgylchiadau hyn, sefydlodd Rhian elusen 2 Wish Upon a Star—elusen sy'n rhoi cymorth a chefnogaeth hanfodol i eraill. Mae 2 Wish yn cefnogi teuluoedd a staff drwy'r profiad o golli plentyn neu oedolyn ifanc yn annisgwyl drwy ddarparu blychau atgofion, cwnsela a nifer o wasanaethau cymorth uniongyrchol. Gall cymorth mwy hirdymor gynnwys therapi cyflenwol, therapi chwarae, grwpiau cymorth ffocws, penwythnosau preswyl a digwyddiadau misol. Gwneir y cynnig o gymorth gan weithwyr gofal iechyd rheng flaen ar adeg neu yn yr oriau yn dilyn marwolaeth drasig. Pan fydd y teulu wedi rhoi cydsyniad ar lafar, bydd y gweithiwr gofal iechyd yn cysylltu â 2 Wish gyda gwybodaeth am y farwolaeth a'r teulu. Bydd 2 Wish yn cysylltu am y tro cyntaf o fewn y 24 i 48 awr gyntaf ar ôl gwneud yr atgyfeiriad. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid yw pob teulu'n cael cynnig cymorth ar unwaith neu'n uniongyrchol, ac mae Rhian yn ceisio sicrhau bod yn rhaid i lwybr ar gyfer teuluoedd mewn galar sicrhau bod cynnig rhagweithiol o gymorth yn cael ei wneud. Lywydd dros dro, rhaid gofyn i deuluoedd, ac wrth gwrs, gallant wrthod y cynnig hwnnw.
Heb gael cynnig cymorth, mae teuluoedd sydd newydd golli plentyn yn cael eu gadael ar eu pennau eu hunain i ymdopi. Rhoddir taflenni gwybodaeth i rai ynglŷn â gwasanaethau, sy'n rhoi'r cyfrifoldeb ar deuluoedd i estyn allan a dod o hyd i'r cymorth sydd ar gael a'r cymorth priodol sydd ar gael ar gyfer eu hangen. Maent yn wynebu negeseuon peiriant ateb, amseroedd aros hir a'r posibilrwydd na fydd y sefydliadau a restrir ar y darnau hynny o bapur yn gallu eu cefnogi. Mae Rhian ei hun yn disgrifio sut y mae hyn yn achosi i bobl deimlo'n ynysig, yn unig ac yn ddiwerth. Mae 2 Wish yn gweithio gyda phob ysbyty, corffdy, swyddfa crwner a heddlu yng Nghymru. Mae ganddynt berthynas gref ag Ambiwlans Awyr Cymru, timau rhoi organau, ac maent yn rhan o'r adolygiad o farwolaethau plant gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn anffodus, gwneir atgyfeiriadau gan y sefydliadau hyn bob dydd. Mae'n rhoi cymorth i staff sy'n ymdrin â cholli pobl ifanc yn sydyn, ac mae'n darparu hyfforddiant ar y cynnig o gymorth a sut i gefnogi teuluoedd sydd wedi colli rhywun yn sydyn. Mae hefyd yn cynnig cymorth uniongyrchol a pharhaus i weithwyr proffesiynol sy'n ei chael yn anodd yn sgil marwolaeth plentyn. Mae aelodau'r Pwyllgor Deisebau wedi derbyn tystiolaeth o'u gwaith gan bob heddlu yng Nghymru. Mae'r deisebau hyn yn mynegi'n glir pa mor ddibynnol ydynt ar y gwasanaethau, i gefnogi aelodau o'r cyhoedd, ac yn bwysig, i gefnogi eu swyddogion eu hunain. Dywedodd fy heddlu lleol, Heddlu Gogledd Cymru, wrth y pwyllgor fod cefnogaeth 2 Wish wedi eu galluogi i adfywiogi a symleiddio'r cymorth a ddarperir mewn ymateb i ddigwyddiadau trasig.
Pan ystyriodd y Pwyllgor Deisebau y ddeiseb hon am y tro cyntaf, roedd Llywodraeth Cymru wedi sefydlu gweithgor cymorth profedigaeth i helpu i ddatblygu a darparu trefniadau cymorth gwell. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae tair elfen i gymorth profedigaeth yn ôl y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal: darparu gwybodaeth a chyfeirio; cyfleoedd ffurfiol i fyfyrio ar alar, mewn sesiynau unigol neu grŵp; ac ymyriadau arbenigol, gan gynnwys cymorth seicolegol a chwnsela o bosibl. Mae'r Llywodraeth hefyd wedi comisiynu astudiaeth o wasanaethau profedigaeth. Mae wedi tynnu sylw at y ffaith bod sawl sefydliad wedi nodi heriau wrth ateb y galw am eu gwasanaethau. Mae hon yn broblem amlwg, o ystyried pa mor hanfodol bwysig yw hi i wasanaethau allu ymateb yn gyflym i gynorthwyo'r bobl ar yr adeg y maent angen hynny.
Mae gwasanaethau fel y rhai a ddarperir gan 2 Wish eisoes yn rhoi cymorth i nifer sylweddol o deuluoedd bob blwyddyn yng Nghymru. Mae nifer yr atgyfeiriadau at y gwasanaethau wedi cynyddu bob blwyddyn ers sefydlu'r elusen yn 2014. Cynhyrchwyd yr atgyfeiriadau hyn drwy eu hymroddiad eu hunain a gweithio'n ymroddedig gyda'r GIG, heddluoedd, meddygon teulu a gwasanaethau iechyd meddwl. Fodd bynnag, maent yn nodi enghreifftiau o nifer sylweddol o deuluoedd nad ydynt yn cael eu cyfeirio at eu cymorth. Mae'r ddeiseb yn galw am gynnig cymorth i bob teulu sy'n wynebu'r amgylchiadau mwyaf anodd hyn. Ni ddylid gadael unrhyw deulu, gweithiwr proffesiynol nac unigolyn i ymdopi ar eu pen eu hunain. Fel y mae'r ddeiseb yn esbonio:
'Mae angen cymorth ar unwaith ar deuluoedd sy'n wynebu colled o'r fath. Mae angen iddynt wybod y gallant gysylltu â rhywun i ofyn cwestiynau a chael clust i wrando. Mae colli plentyn yn effeithio arnoch am byth, ac mae angen i deuluoedd wybod bod cymorth hirdymor ar gael i'w helpu drwy'r broses o alaru.'
Darperir cynifer o wasanaethau profedigaeth gan elusennau, gan gynnwys rhai 2 Wish, ac mae'r pwyllgor wedi clywed pryderon ynglŷn â diffyg cyllid gan y sector cyhoeddus ar gyfer y gwasanaethau y mae'r sefydliadau hyn yn eu darparu. Er eu bod yn cyfeirio pobl at y gwasanaethau, nid oes unrhyw fyrddau iechyd yng Nghymru ar hyn o bryd yn darparu unrhyw arian i 2 Wish. Credwn fel pwyllgor fod hyn yn rhywbeth y gallai ac y dylai Llywodraeth Cymru fynd i'r afael ag ef. Mae cwestiwn yn codi ynghylch cynaliadwyedd hirdymor pan ydym yn dibynnu ar godi arian a rhoddion elusennol yn unig i dalu am wasanaethau mor hanfodol.
I gloi, mae'r pwyllgor yn cydnabod y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i sefydlu'r gweithgor cymorth profedigaeth a'r astudiaeth gysylltiedig o wasanaethau sy'n bodoli eisoes. Nodwn y gwaith o ddatblygu ac ymgynghori ar y fframwaith cenedlaethol drafft ar gyfer gofal profedigaeth. Gobeithiwn y bydd y rhain yn sicrhau gwelliannau parhaol i'r cymorth sydd ar gael i bawb yr effeithir arnynt yn sgil colli plentyn neu unigolyn ifanc.
Fodd bynnag, drwy'r ddadl hon heddiw, rydym yn gofyn am ymrwymiadau pellach ynghylch dull Llywodraeth Cymru o weithredu wrth symud ymlaen. A yw'r Llywodraeth yn bwriadu gweithio tuag at sicrhau bod pob gweithiwr proffesiynol yn dilyn llwybr cymorth ar unwaith ar adeg y farwolaeth? Mae'r deisebydd wedi cynnig y dylid gwneud hyn mewn ffordd sy'n cymryd cyfrifoldeb oddi wrth y teulu neu'r unigolyn mewn profedigaeth ac yn ei roi ar y sefydliad i gynnig a threfnu'r cymorth hwnnw'n rhagweithiol. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog—y gwn ei bod yn awyddus iawn i gefnogi'r elusen hon, ac rwy'n canmol y Gweinidog am y gwaith a wnaeth cyn iddi ddod i'w swydd ac yn ei swydd hyd yma—yn gallu cyfeirio at hyn yn ei hymateb i'r ddadl heddiw.
Mae'r deisebydd hefyd wedi galw am well hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd y gallai fod angen iddynt gefnogi teuluoedd mewn profedigaeth ac i'r gweithwyr proffesiynol hynny fel bod ganddynt hwy eu hunain rywle i droi iddo am gymorth.
Yn olaf, Lywydd, pa ddull o weithredu y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei fabwysiadu i sicrhau bod y gwasanaethau cymorth allweddol hyn ar gael i bawb sydd eu hangen a'u bod yn cael eu hariannu'n ddigonol at y diben hwn? A allwn barhau â sefyllfa lle mae cymorth y cyfeirir pobl ato gan y GIG, gan bob heddlu yng Nghymru ac eraill yn cael ei ddarparu i raddau helaeth drwy gyllid elusennol? Mae rhoi cymorth i bobl sy'n ymdopi â phrofedigaeth sydyn yn rhywbeth y dylem i gyd anelu ato. Lywydd dros dro, mae hwn yn faes lle gall Cymru osod esiampl i wledydd eraill, ac rwyf am i bob un ohonom heddiw, fel Aelodau o'r Senedd, oleuo cannwyll, cannwyll a fydd yn rhoi gwres a golau i bobl yn yr amgylchiadau tywyllaf ac oeraf.
Edrychaf ymlaen yn fawr at glywed cyfraniadau'r Aelodau yma yn y Siambr, ac ymateb y Dirprwy Weinidog wrth gwrs. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn alw yn awr ar Joel James, aelod o'r pwyllgor, i siarad.
Diolch, Gadeirydd. Hoffwn ddechrau drwy ychwanegu fy nghefnogaeth i'r sylwadau y mae fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant, wedi'u gwneud wrth agor y ddadl hon a diolch hefyd i'r holl unigolion a theuluoedd sydd wedi ymgyrchu'n ddiflino dros y blynyddoedd i ddod â'r mater hwn i'r amlwg a rhoi'r sylw angenrheidiol iddo.
Drwy gydol y broses o ddod â'r ddeiseb hon i ddadl, mae llawer o bobl wedi rhannu eu profiadau personol a phoenus eu hunain, ac er y bydd hyn wedi bod yn anodd iawn iddynt, maent wedi gwneud hynny yn y gobaith y gellir dysgu gwersi ac y gall teuluoedd sy'n colli plant a phobl ifanc yn sydyn gael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn wir. Nid oes gennyf amheuaeth na allwn i gyd gytuno bod galar yn effeithio ar bawb yn wahanol ac y gall weithiau fod yn fisoedd neu hyd yn oed yn flynyddoedd cyn i wir effaith a chanlyniadau profiad rhywun daro gartref mewn gwirionedd.
Gall galar hefyd fod yn ddechrau ar gylch o ymddygiad a all arwain at batrymau ymddygiad llawer mwy dinistriol, ac nid yw'n anghyffredin i deuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth drawmatig a sydyn chwalu, gan arwain at ganlyniadau pellach, yn anffodus. Gyda hyn mewn golwg, mae cymorth uniongyrchol yn hanfodol i helpu teuluoedd i oresgyn yr adegau cyntaf o alar, yn enwedig yn sgil colli plant a phobl ifanc, pan fydd y golled yn ymddangos mor annheg. Ond hyd yn oed os yw'r cymorth yn y dyddiau a'r wythnosau cynnar ar gael ac yn dda, rhaid inni gofio bod angen gwneud digon o waith dilynol i sicrhau nad yw pobl yn dilyn y llwybr anghywir yn y pen draw.
Mae Rhian Mannings ac eraill wedi gwneud gwaith gwirioneddol anhygoel ar sefydlu elusen 2 Wish, yn enwedig o ystyried yr amgylchiadau roeddent ynddynt, fel y mae fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant, eisoes wedi nodi. Mae gallu cynnig cymorth ar unwaith o fewn oriau i farwolaeth sydyn a chynnig gwasanaeth cofleidiol wedyn sy'n addas i anghenion pawb yn unigryw ac yn rhywbeth y dylem fod yn falch o'i gefnogi. Mae llawer o sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig yn ceisio cael gwasanaeth fel yr un a gynigir gan 2 Wish, a byddai cael cymorth gan Lywodraeth Cymru i allu ei ffurfioli ac ariannu'r gwasanaeth yn gam enfawr i helpu teuluoedd sy'n galaru.
Yr hyn y mae'r ddeiseb a gyflwynwyd, a'r ddadl hon yn y pen draw, yn ei gynrychioli yw newid diwylliannol o fewn y gwasanaeth iechyd i gydnabod yr angen am gymorth cyson i deuluoedd ac i staff gael hyfforddiant priodol i ymateb yn fwy greddfol i anghenion teuluoedd ar ôl marwolaeth sydyn plentyn neu rywun annwyl.
Yn anffodus, gwyddom nad yw arferion da yn gyson ar draws sefydliadau, ond mae angen inni anelu at sicrhau eu bod yn gyson. Yn rhy aml, gall pobl brofi salwch seiciatrig neu broblemau iechyd meddwl ar ôl profedigaeth am nad ydynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae i hyn oblygiadau mwy yn nes ymlaen wrth gwrs, pan fydd angen iddynt ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl sydd eisoes o dan bwysau sylweddol.
Credaf fod angen inni hefyd gydnabod manteision diwylliant o ddysgu, fel bod dadansoddiad priodol yn cael ei wneud pan fydd pethau'n mynd o chwith, er mwyn inni ddeall sut y gallwn ei atal rhag digwydd eto. Heb os, mae elusennau fel 2 Wish wedi profi ein bod yn gallu gwneud pethau'n well, ond rhaid inni beidio â bod yn hunanfodlon. Mae angen inni werthfawrogi manteision cynorthwyo teuluoedd, rhieni a hyd yn oed ffrindiau'r rhai sydd wedi dioddef yn sgil colli plant a phobl ifanc yn sydyn, ac i gydnabod lle hynny'n ffurfiol o fewn y gwasanaeth iechyd drwy sicrhau ei fod yn cael ei gyllido'n briodol ac yn hirdymor. Nid yw ond yn iawn fod y ddadl bwysig hon yn digwydd, ac rwy'n datgan fy nghefnogaeth lwyr iddi. Diolch.
Galwaf ar Buffy Williams, sydd hefyd yn aelod o'r pwyllgor.
Diolch, Lywydd dros dro, a diolch i Jack am eich cyfraniad wrth agor y ddadl heddiw. Fel Aelod newydd o'r Senedd ac aelod newydd o'r Pwyllgor Deisebau, hoffwn ddechrau drwy ddweud pa mor bwysig yw deisebau, nid yn unig i ni fel Aelodau o'r Senedd, ond i drigolion sy'n byw ym mhob rhan o Gymru. Rydym—. Mae'n ddrwg gennyf, nid yn unig i ni fel Aelodau o'r Senedd, ond i drigolion sy'n byw ym mhob rhan o Gymru. Rydym yn siarad â'n hetholwyr ac yn eu cefnogi bob dydd, ond i mi deisebau yw'r ffordd orau o wybod beth sydd bwysicaf i'r bobl a gynrychiolwn yn y Siambr hon.
Denodd y ddeiseb dan sylw heddiw, 'Cynorthwyo teuluoedd sy'n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl', dros 5,500 o lofnodion, sy'n dangos cryfder aruthrol y teimlad, ac mae'n dyst i'r gwaith anhygoel a ddarparir gan yr elusen 2 Wish Upon A Star.
Hoffwn adleisio geiriau Jack Sargeant wrth dalu teyrnged i'r deisebydd, Rhian Mannings. Roeddwn yn ddigon ffodus i gyfarfod â Rhian pan ymwelodd â'r Senedd i drafod y ddeiseb. Roedd stori Rhian yn dorcalonnus. Mae cerdded allan i dywyllwch y nos heb gael cynnig cymorth yn deimlad na ddylai unrhyw deulu sydd newydd golli eu plentyn neu oedolyn ifanc orfod dioddef. Roedd ei chryfder a'i phenderfyniad yn gwneud imi deimlo'n ostyngedig iawn.
A hithau'n galaru, creodd Rhian yr elusen 2 Wish Upon A Star gyda'r nod o roi cymorth i unrhyw un yr effeithir arnynt gan farwolaeth sydyn ac annisgwyl plant a phobl ifanc 25 oed neu iau. Mae'n cymryd dewrder gwirioneddol i ddod o hyd i oleuni mewn tywyllwch o'r fath. Bu 2 Wish yn oleuni i Rhian, a diolch i'w gwaith diflino 2 Wish bellach yw'r goleuni i gymaint o deuluoedd eraill sydd wedi colli anwyliaid.
Rydym yn defnyddio'r gair 'cymorth' yn aml, a chredaf ein bod weithiau'n anghofio beth yn union yw cymorth a sut y mae'n teimlo, a'r effaith y mae'n ei chael ar y rhai sy'n ei dderbyn. Mae cymorth gan 2 Wish Upon A Star yn dechrau gyda'r cynnig uniongyrchol o flwch atgofion. Ac ar ôl cael cydsyniad y rhai sydd mewn galar, bydd 2 Wish yn eistedd gyda'r teuluoedd neu unigolion yn eu hystafell fyw, a bydd yn cadw mewn cysylltiad wythnosol nes y daw adeg pan na fydd angen y cymorth mwyach.
Gall yr elusen ddarparu'r pecyn cymorth amhrisiadwy hwn drwy weithio mewn partneriaeth â'r holl fyrddau iechyd, ysbytai, heddluoedd, crwneriaid a thimau iechyd meddwl ledled Cymru. Mae'n gwbl dorcalonnus fod rhai teuluoedd yn cael eu hamddifadu o'r gwasanaeth hwn ar hyn o bryd; nid yw'n deg. Ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw'r ddarpariaeth y mae 2 Wish yn ei chynnig, a'r gwahaniaeth y byddai nodau ac amcanion yr elusen, a amlinellir yn y llyfryn hwn, yn ei wneud i deuluoedd mewn profedigaeth ledled Cymru.
Ar ôl creu fy elusen fy hun, rwy'n deall pa mor anodd y gall fod i gael arian grant. Weithiau gall y pryder cyson o geisio dod o hyd i gyllid grant dynnu oddi wrth y ddarpariaeth rydych yn ceisio'i rhoi. Mae angen y cyllid y mae'n ei haeddu ar ddarpariaeth mor bwysig â'r un a gynigir gan 2 Wish, ac rwy'n annog y Gweinidog i roi ystyriaeth ddifrifol i gais y ddeiseb.
Dim ond ychydig o eiriau sydd gen i i groesawu a chefnogi'r ddeiseb bwysig yma. Mae'r alwad yn ddigon syml, onid ydy hi: i sicrhau bod teuluoedd sy'n colli eu plant neu bobl ifanc yn annisgwyl yn cael y cymorth mae arnyn nhw ei angen. Ac mae hi'n alwad daer ac yn alwad o'r galon. A dwi eisiau diolch i Rhian Mannings am ei holl waith ymgyrchu ar y mater pwysig yma, yn deillio wrth gwrs o'i phrofiad hi, ac efo dros 5,500, dwi'n meddwl, o lofnodion, mae'n amlwg ei fod o'n fater sydd wedi cyffwrdd â llawer iawn, iawn o bobl.
Mae marwolaeth plentyn yn brofiad y gallaf i brin ei ddychmygu. Mae o'n mynd i fod y mwyaf trawmatig o brofiadau yn effeithio yn sylweddol ar deuluoedd cyfan: ar rieni, ar frodyr a chwiorydd, ar deuluoedd ehangach ac ar gymunedau cyfan hyd yn oed. Ac mae profedigaeth yn gallu effeithio ar iechyd corfforol yn ogystal ag iechyd meddwl. Mae ymchwil yn dangos bod pobl sy'n galaru am blentyn yn wynebu mwy o beryg—y cwbl annisgwyl, y methiant i dderbyn neu ymresymu efallai yn fwy tebyg o arwain at anhwylder galar hir. Ac mi oedd hi'n dorcalonnus i glywed felly am brofiad Rhian a'i theulu, eu bod nhw heb gael cynnig unrhyw gymorth ar ôl gadael yr ysbyty ar ôl marwolaeth ei mab, George. A does gen i ddim ond edmygedd at Rhian am ei holl waith ers hynny yn ymgyrchu i drio gwneud yn siŵr bod teuluoedd eraill ddim yn wynebu'r un sefyllfa.
Dwi'n meddwl bod yr adborth y mae 2 Wish—yr elusen y mae Rhian wedi'i sefydlu—wedi ei gael yn brawf o mor werthfawr ydy'r gefnogaeth maen nhw yn ei rhoi. Mi allaf i ddyfynnu gan un fam a oedd ar eu gwefan nhw:
'Maent wedi helpu ein teulu i aros gyda'n gilydd pan oeddem yn rhy wan i afael yn ein gilydd. Roedd y sesiynau cwnsela unigol yn darparu hafan ddiogel i siarad; neu beidio â siarad. Mae'r sesiynau grŵp a ddarperir nid yn unig ar gyfer rhieni, ond ar gyfer neiniau a theidiau hefyd, wedi ein helpu i rannu'r baich.'
Rŵan, mae 2 Wish yn gwneud cyswllt cyntaf efo teulu o fewn 24 neu 48 awr i bobl yn cael eu cyfeirio atyn nhw, ond wrth gwrs maen nhw'n poeni bod pawb ddim yn gallu cael y math yna o gefnogaeth. Felly, dyna maen nhw'n gofyn amdano fo drwy'r ddeiseb yma: fod staff meddygol yn gorfod rhoi'r cynnig yna o gymorth i deuluoedd hyd yn oed os nad ydy'r teulu yn teimlo eu bod nhw eisiau cymryd mantais ohono fo. Fel y mae Natalie Edwards, a gollodd ei mab, Griff, pan oedd o'n wyth mis oed, yn ei ddweud, hefyd ar wefan 2 Wish:
'Roedd yn gymorth roeddem yn gobeithio na fyddai byth mo'i angen arnom. Ond mae ei angen arnom. Ac rydym mor ddiolchgar ei fod yno.'
Gadewch inni wneud yn siŵr fod y gefnogaeth yna ar gael i bob teulu sy'n wynebu'r hunllef yma.
Fel cadeirydd y grwpiau trawsbleidiol ar ofal lliniarol a hosbisau ac ar angladdau a phrofedigaeth yn y Senedd hon a'r Senedd ddiwethaf, rwyf wedi gweithio gyda'n haelod o'r grŵp, Rhian Mannings, a gyflwynodd y ddeiseb hon ac a sefydlodd yr elusen 2 Wish Upon a Star yng Nghymru, sy'n darparu cymorth profedigaeth hanfodol i deuluoedd sydd wedi colli plant a phobl ifanc o dan 25 oed yn sydyn neu'n drawmatig o ganlyniad i hunanladdiad neu drwy ddamwain neu salwch.
Dywedodd wrthyf mai marwolaeth sydyn yw'r farwolaeth sy’n cael ei hanghofio yng Nghymru, ac er bod yr elusen wedi dod yn wasanaeth statudol i bob pwrpas yng Nghymru, gan weithio gyda phob bwrdd iechyd a phob heddlu, nid ydynt yn cael unrhyw gymorth statudol ac mae’n rhaid iddynt godi pob ceiniog eu hunain, er eu bod yn lleihau'r pwysau ar dimau iechyd meddwl wrth helpu i fynd i'r afael â thrawma marwolaeth annisgwyl a cholled na ellid bod wedi'u rhagweld.
Dechreuodd ei brwydr, fel y clywsom, ar ôl iddi golli ei gŵr a’i mab yn sydyn. Dim paratoi, dim rhybudd ac yna dim byd, meddai, a dywed fod y diffyg cymorth a gawsant wedi arwain yn uniongyrchol at hunanladdiad ei gŵr. Yn wir, ei phenderfyniad i ddarparu'r cymorth y byddai wedi dymuno ei gael yn sgil marwolaeth ei mab a'i gŵr yw'r rheswm pam ein bod yn trafod y mater hollbwysig hwn heddiw.
Ar hyn o bryd, nid oes cymorth profedigaeth swyddogol i deuluoedd yng Nghymru. Fe'i darperir gan sefydliadau fel 2 Wish Upon A Star neu hosbisau fel hosbis plant Tŷ Gobaith ger Conwy, lle mae gwasanaethau'n cynnwys eu hystafell plu eira—ystafell arbennig y rheolir ei thymheredd lle gall teuluoedd a ffrindiau dreulio amser yn ffarwelio, yn eu hamser ac yn eu ffordd eu hunain, â phlant sydd wedi marw.
Mae'r grwpiau trawsbleidiol yn croesawu'r fframwaith cenedlaethol drafft ar gyfer darparu gofal profedigaeth a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Cyfrannodd aelodau'r grŵp yn sylweddol at ei ddatblygiad, ac mae ein rhaglenni gwaith yn cynnwys ffocws ar lawer o'r pynciau sydd wedi'u cynnwys yn y fframwaith. Mae uchelgais y fframwaith i sicrhau bod pobl Cymru'n gallu cael gofal a chymorth profedigaeth amserol o ansawdd yn greiddiol i'r ddadl heddiw. Ni ddylai unrhyw deulu fod ar eu pennau eu hunain ac wedi'u hynysu ar ôl colli plentyn.
Mewn cyfarfodydd grŵp trawsbleidiol, rydym hefyd wedi trafod enghreifftiau o ddiffyg dealltwriaeth gan gyrff y sector cyhoeddus o anghenion penodol teuluoedd du ac ethnig leiafrifol yng Nghymru mewn perthynas â phrofedigaethau. Yn wir, argymhellodd ymchwiliad Cymru Garedig a'r grŵp trawsbleidiol ar ofal lliniarol a hosbisau wasanaethau wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion penodol cymunedau ar sail hil, gan gynnwys pobl o gymunedau amrywiol i gydgynhyrchu gwasanaethau.
Mae'r ddeiseb heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn gwbl briodol, i gefnogi gwasanaeth yma yng Nghymru i sicrhau bod teuluoedd sy’n colli plentyn neu oedolyn ifanc 25 oed ac iau yn annisgwyl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Gadewch inni wrando ar yr uwch dditectif o Heddlu Gogledd Cymru a ddywedodd wrthyf, 'Mae angen mawr am y gwasanaethau a ddarperir gan 2 Wish Upon A Star i'r teuluoedd ledled Cymru sydd wedi dioddef profiad mor drasig, ac mae'n rhywbeth sy'n amlwg wedi bod ar goll yng ngogledd Cymru yn fy mhrofiad proffesiynol personol. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn bendant wedi gweld budd y gwasanaethau y mae 2 Wish Upon A Star yn eu darparu, nid yn unig wrth ddarparu amgylchedd addas mewn ysbyty i'r teuluoedd drafod yr amgylchiadau gyda gweithwyr proffesiynol, ond rhywle hefyd lle gallant ddechrau dygymod â'u colled. Yn ychwanegol at hynny', dywedant, 'mae 2 Wish Upon A Star yn darparu mecanweithiau cymorth proffesiynol parhaus hanfodol i rwydwaith y teulu wedi hynny.' Ac yn ogystal â chynorthwyo teuluoedd, mae 2 Wish Upon A Star wedi cefnogi hyfforddiant i swyddogion Heddlu Gogledd Cymru, sydd wedi cael effaith sylweddol ar sut y maent yn ymdrin â marwolaeth unrhyw blentyn. 'Heb os, maent wedi ein cynorthwyo ni', dywedant, 'drwy broffesiynoli ein dull o weithredu.'
Rwyf am adael y gair olaf i uwch aelod o staff Heddlu Gogledd Cymru, a anfonodd e-bost, 'Roeddwn yn ymwybodol o 2 Wish Upon A Star o drafodaethau yn y gweithle gyda fy nghydweithwyr. Yn anffodus, bûm mewn sefyllfa wedi hynny lle gwelais â'm llygaid fy hun y budd y gall 2 Wish Upon A Star ei roi i'r rheini sy'n dioddef y galar aruthrol nad oes dim ond colli plentyn yn gallu ei greu. Yn fy achos i, digwyddodd hynny ar ôl marwolaeth fy nai wyth wythnos oed. Gallaf ddweud yn hyderus fod y budd a roddodd 2 Wish Upon A Star i'w rieni wedi bod yn anfesuradwy ac yn barhaus.' 'Heb gymorth cynlluniau fel hyn', meddai, 'byddai'n gymaint anoddach ymdopi â'r tywyllwch a all amgylchynu'r rheini sy'n cael profedigaeth sydyn a thrawmatig. Rwy'n eich annog', meddai, 'i roi eich cefnogaeth lawn i'r ddadl hon.' Diolch.
Diolch i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddeiseb a'r ddadl bwysig hon heddiw. Dyma fy nadl gyntaf ar ddeiseb ers dod yn Aelod o’r Senedd, ac yn gyntaf oll, hoffwn longyfarch Mr Sargeant ar gadeirio’r pwyllgor a chyflwyno’r eitem hon heddiw, ac ar yr hyn a oedd, i mi, yn gyfraniad teimladwy gennych chi, Jack. Mae'n sicr yn rhoi'r ddeiseb o'n blaenau yma heddiw mewn persbectif. Er gwaethaf natur drist llawer o ddeisebau a gyflwynir i'r Senedd, i adleisio geiriau Buffy yn gynharach, credaf ei bod yn wych gweld democratiaeth ar waith ac aelodau cyffredin o'r cyhoedd yn gallu cyflwyno unrhyw ddeiseb a ddymunant, a'n bod ni yn y Senedd genedlaethol hon yn gallu ymchwilio iddynt a thrafod y deisebau hynny.
Wrth edrych ar y ddeiseb o'n blaenau yma heddiw, 'Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl,' mae'n hanfodol bwysig, wrth gwrs, ein bod yn archwilio hyn ac yn darparu'r cymorth gorau posibl. Rwy'n siŵr fod Aelodau yn y Siambr yma heddiw a fydd efallai wedi colli plentyn neu oedolyn ifanc, neu efallai fod aelodau agos o'u teulu neu ffrindiau wedi colli plentyn yn sydyn—ac rwy'n meddwl am fy nheulu fy hun ar yr adeg hon hefyd gyda'r ddeiseb benodol hon. Ac fel y mae'r ddeiseb yn nodi, mae gwir angen inni sicrhau bod y teuluoedd hynny, rhai o'n teuluoedd ein hunain yma efallai, sy'n colli plentyn yn annisgwyl, yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i fynd drwy'r profiad. Mae'n warthus fod rhai teuluoedd yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain heb gael unrhyw gymorth na chyswllt gan weithwyr proffesiynol.
Serch hynny, hoffwn gymryd ychydig funudau i ganolbwyntio ar rai o'r sefydliadau sydd eisoes yn gwneud gwaith gwych yn y maes hwn. Dros yr haf, cefais y pleser o gyfarfod â Tŷ Gobaith, y cyfeiriodd Mr Isherwood ato eiliad yn ôl, un o'r unig ddau hosbis plant yng Nghymru, gyda Tŷ Hafan. Mae hosbisau fel y rhain yn adnabyddus, yn briodol iawn, am y cymorth y maent yn ei roi i deuluoedd y mae eu plant yn dioddef o afiechydon sy'n cyfyngu ar fywyd. Ond maent hefyd yn darparu cymorth ardderchog i deuluoedd unrhyw blentyn neu unigolyn ifanc sydd wedi marw'n sydyn, ni waeth a ydynt wedi cael cyswllt blaenorol â'r hosbis ai peidio. A châi'r teulu fynediad at yr ystod lawn o wasanaethau cymorth a oedd yn cynnig arweiniad, gofal, ac mewn sawl achos, gweithredai fel clust i wrando neu ysgwydd i grio arni. Pan ymwelais â Tŷ Gobaith, cefais fy synnu gan eu hystafell plu eira, y cyfeiriodd Mr Isherwood ati ychydig funudau yn ôl. Mae'r ystafell hon yn caniatáu i aelodau'r teulu fod gyda'u plentyn am gyfnod hirach ar ôl iddynt farw. Mae'n amser mor bwysig i deuluoedd ei dreulio gyda'u hanwyliaid, ac mae'n darparu cyfleoedd i eraill ym mywyd y plentyn ffarwelio yn eu ffordd eu hunain. A chredaf ei bod yn bwysig iawn cofio bod llawer o deuluoedd a phobl yn galaru mewn sawl ffordd wahanol, sy'n golygu bod angen i wahanol agweddau ar gymorth fod ar gael, ac fel y mae'r ddeiseb yn gofyn amdano yma heddiw, eu bod yn cael eu cynnig, o leiaf, i deuluoedd sy'n galaru.
Rydym wedi clywed heddiw am y gwaith da, y gwaith rhagorol, gan 2 Wish Upon a Star, sy'n darparu cymorth profedigaeth ar unwaith a pharhaus i'r rheini sy'n colli plentyn neu oedolyn ifanc yn sydyn a thrawmatig, gyda'r nod o helpu'r rheini sy'n wynebu'r annirnadwy i fyw eto, i wenu eto ac i beidio â rhoi’r gorau i obeithio. Felly, mae'r rhain yn enghreifftiau gwych o ble mae cymorth ar gael, ac mae'n helpu teuluoedd ledled Cymru. Ond credaf mai un o'r pethau a amlygir drwy'r ddeiseb hon yn sicr yw diffyg cysondeb a diffyg sicrwydd y bydd cymorth ar gael i bob teulu sy'n dioddef profedigaeth. A dyna pam fy mod i, yn sicr, yn fwy na pharod i gefnogi'r ddeiseb hon, fel ein bod yn cael y cysondeb, y sicrwydd y bydd unrhyw deulu sy'n dioddef profedigaeth yn cael cynnig y cymorth hwnnw.
Felly, i gloi, Gadeirydd, hoffwn ddiolch eto i'r Pwyllgor Deisebau am yr holl waith gwych y maent wedi'i wneud yn nhymor y Senedd hon—a chyda Ms Finch-Saunders yn cadeirio'r Pwyllgor Deisebau o'r blaen, y gwaith a wnaed yn flaenorol hefyd—ac wrth gwrs, mae'n rhaid imi ddweud, mae'r cyfraniadau gan yr Aelodau yn y Siambr heddiw yn deimladwy ac yn galonogol, wrth inni geisio sicrhau'r gorau i bobl Cymru. Rwy’n siŵr y gall pob Aelod gefnogi’r ddeiseb a sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n darparu’r cymorth cywir sydd ei angen ar bob teulu a ffrind yn eu horiau tywyllaf. Diolch yn fawr iawn.
Nid wyf yn dymuno ailadrodd cyfraniadau gan eraill heddiw, ond hoffwn adleisio teimladau eraill a thalu teyrnged i Rhian ac eraill sydd wedi dioddef y profiadau gwaethaf ond sydd wedi dod o hyd i nerth i gynorthwyo cymaint o bobl eraill. Rydym yn unedig heddiw yn ein cefnogaeth, ac yn briodol felly. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn gobeithio na fydd yn rhaid inni ei brofi byth, ond yn anffodus, mae'n digwydd, ac ni waeth beth a roddwn ar waith, ni allwn roi diwedd ar farwolaethau sydyn neu annisgwyl plant ac oedolion ifanc, ond gallwn gymryd camau i'w lleihau. Ond mae gallu sicrhau bod y gwasanaethau yno pan fydd y peth gwaethaf yn digwydd yn rhywbeth sydd o fewn ein rheolaeth.
Wrth edrych ar y ddeiseb, ac yn enwedig ar ymateb Rhian i’r pwyllgor, hoffwn annog y Gweinidog—ac rwy’n siŵr eich bod wedi gwneud hynny—i edrych yn ofalus ar argymhellion Rhian, oherwydd yn amlwg, mae ganddi brofiad o hyn ac mae'n cynrychioli cymaint o bobl. Yn ei gohebiaeth â'r Pwyllgor Deisebau, soniodd Rhian am yr arolwg o wasanaethau profedigaeth yng Nghymru yn 2020, ac fel y nododd Sam yn gwbl gywir, y diffyg cysondeb. Ac er bod gennym grynodeb o'r ymatebion hynny, nid yw'n glir beth yw'r gwasanaethau hynny, pwy sy'n eu darparu na pha fath o gymorth sy'n cael ei ddarparu. Yn yr arolwg, mae hefyd yn nodi bod 42 y cant o wasanaethau'n darparu cymorth ar unwaith, ond nid yw hynny'n cael ei fesur chwaith. Nid yw'n glir beth y mae'r cymorth hwnnw'n ei gynnwys. Dywed Rhian, yn gwbl gywir, fod angen inni ddeall yn well, er bod yr arolwg hwn wedi'i gwblhau, beth yw'r sefyllfa bresennol, oherwydd fy mhrofiad eisoes fel Aelod newydd yw ei bod yn anodd iawn darganfod pa wasanaethau sydd ar gael yn lleol, yn enwedig i gynrychioli ardal megis Canol De Cymru, sydd, yn amlwg, yn cynnwys dau fwrdd iechyd gwahanol ac yn y blaen. Mae'n anodd iawn dweud wrth bobl beth yn union yw'r gwasanaethau.
Fel y clywsom yn y ddadl hon, mae'r ffaith mai elusennau fel 2 Wish sy'n darparu'r cymorth hanfodol hwn yn golygu nad yw'n orfodol ar hyn o bryd. Yn anad dim, credaf mai dyna yr hoffwn ei weld yn deillio o'r ddeiseb hon: cawn eiriau cynnes o gefnogaeth, gwyddom werth y gwasanaethau a ddarperir, rydym yn cydnabod effaith sefydliadau fel 2 Wish—mae gennym hefyd sefydliadau fel Grief Support Cymru yn fy rhanbarth i—ond ar yr adegau gwaethaf, mae angen inni sicrhau bod staff sy'n ymdrin â rhieni a pherthnasau sy'n galaru ac ati yn gwybod ble i'w cyfeirio ar unwaith, oherwydd yn anffodus, fel y gwelodd Rhian mor drychinebus ei hun, mae'r effaith honno'n ddinistriol ar rieni, a gall arwain at golled a galar pellach.
Byddwn yn annog y Llywodraeth i ystyried syniadau ac argymhellion meddylgar ac ystyrlon Rhian, fel eu bod yn cael sylw llawn. Gyda'r deisebau, nid wyf yn hoffi ein bod ond yn eu nodi. Gwn mai dyna'r drefn yn y Senedd, ac mae hynny'n rhyfedd iawn yn fy marn i, gan fod hyn yn ymwneud â mwy na nodi, onid yw? Mae'n ymwneud â rhoi cefnogaeth lwyr i'r teimlad a'r ymdrech sy'n sail i hyn, ac mae'n ymwneud â sicrhau'r cais syml fod cymorth ar unwaith yn orfodol. Os gallwn gyflawni hynny, credaf y byddwn mewn lle gwell i gefnogi pobl ar yr adegau gwaethaf.
Galwaf yn awr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle.
Diolch, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i Jack Sargeant a’r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno’r ddeiseb bwysig hon ar lawr y Senedd heddiw. Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Yn anad dim, serch hynny, hoffwn ddiolch i Rhian Mannings, prif weithredwr a sylfaenydd 2 Wish, am gyflwyno'r ddeiseb hon, ac am weithio mor galed, dros fisoedd lawer, sydd wedi cynnwys pandemig byd-eang, i'w hyrwyddo. Gwn ein bod wedi clywed stori Rhian heddiw fod 2 Wish wedi'i sefydlu ganddi yn dilyn marwolaeth sydyn ei mab bach, George, trasiedi a ddilynwyd, bum niwrnod yn ddiweddarach, gan hunanladdiad ei gŵr, Paul. Mae'n anodd i'r rhan fwyaf ohonom ddychmygu effaith colli ei mab bach a'i gŵr ar Rhian. Yn bersonol, rwy'n synnu at y dewrder sydd wedi'i galluogi i oroesi trasiedi mor aruthrol ac i weithio mor benderfynol i atal teuluoedd eraill rhag mynd drwy'r hyn yr aeth hi drwyddo.
Rwy'n croesawu'r ddeiseb hon rydym yn ei thrafod heddiw yn fawr. Credaf fod cymorth i deuluoedd sy'n colli plentyn neu oedolyn ifanc yn annisgwyl yn hanfodol. Mae ymdopi â marwolaeth rhywun agos yn anodd i unrhyw un, ond mae effaith colli plentyn neu unigolyn ifanc yn enbyd o ddinistriol. Gwn pa mor bwysig y bu'r math o gymorth a ddarperir gan 2 Wish i gynifer o deuluoedd. Mae eu blychau atgofion mewn ysbytai yn rhoi rhywfaint o gysur i deuluoedd ar yr adeg dywyllaf eu bywydau—adeg nad yw'r rhan fwyaf o bobl wedi cael cyfle i baratoi ar ei chyfer. Mae'r gallu i gynnig cymorth yn fuan ar ôl y brofedigaeth neu pryd bynnag y mae angen y cymorth hwnnw, boed ymhen chwe mis, dwy flynedd neu fwy, yn achubiaeth i deuluoedd. Mae galar yn beth personol iawn, nid yw'n llinellol, ac mae angen i unrhyw gymorth adlewyrchu hynny. Fel y dywed y ddeiseb,
'Mae colli plentyn yn effeithio arnoch am byth, ac mae angen i deuluoedd wybod bod cymorth hirdymor ar gael i'w helpu drwy'r broses o alaru.'
Mae'r gallu i roi cymorth i holl aelodau'r teulu, gan gynnwys plant sydd wedi cael profedigaeth, yn hanfodol. Mae mor bwysig cydnabod hefyd, fel y mae 2 Wish yn ei wneud, fod yr angen am gymorth yn cynnwys aelodau o staff sy'n gweithio gyda theuluoedd, gan fod llawer ohonynt yn wynebu trallod a thrawma ar ôl bod yno ar adeg mor dorcalonnus i deuluoedd.
Roeddwn yn falch iawn ym mis Medi, ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, o gael ymweld â phencadlys 2 Wish yn Llantrisant i drafod eu prosiect peilot profedigaeth yn sgil hunanladdiad yng Ngwent, un o dri phrosiect peilot profedigaeth yn sgil hunanladdiad yng Nghymru. Fel y gŵyr rhai o'r Aelodau yma eisoes, mae atal hunanladdiad, ac yn enwedig atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc, yn arbennig o bwysig i mi. Gwyddom fod pobl sydd mewn profedigaeth yn sgil hunanladdiad mewn llawer mwy o berygl o farw drwy hunanladdiad, felly mae cymorth profedigaeth yn sgil hunanladdiad yn flaenoriaeth allweddol i mi. Mae cymorth profedigaeth yn sgil hunanladdiad yn atal hunanladdiad ac yn achub bywydau. Mae 2 Wish wedi gweithio'n agos gyda Heddlu Gwent i gynnig cymorth ar unwaith i unrhyw un sy'n cael profedigaeth yn sgil hunanladdiad yng Ngwent, ac mae hynny'n ychwanegol at eu gwaith yn cefnogi teuluoedd ledled Cymru sydd wedi colli unigolyn ifanc yn sgil hunanladdiad. Felly, hoffwn gofnodi fy niolch i 2 Wish a Heddlu Gwent am eu gwaith hanfodol yn y maes hwn.
Rwyf am i bawb yng Nghymru sydd mewn profedigaeth wybod bod cymorth ar gael iddynt. Gyda hynny mewn golwg, ddydd Iau diwethaf, roeddwn yn falch o gyhoeddi lansiad y fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal mewn profedigaeth yng Nghymru. Rwy'n cymeradwyo'r fframwaith hwn i'r Aelodau. Mae'n nodi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru garedig lle mae gan bawb fynediad at ofal a chymorth profedigaeth o safon uchel i ddiwallu eu hanghenion yn effeithiol pan fydd ei angen arnynt. Rwy'n ddiolchgar i'r ystod eang o bartneriaid statudol a gwirfoddol sy'n gysylltiedig â'r gwaith o'i ddatblygu, gan gynnwys y rheini sydd wedi dioddef profedigaeth eu hunain.
Roedd y fframwaith drafft yn destun ymgynghoriad wyth wythnos yn gynharach eleni, ac amlinellodd rhai o'r ymatebwyr eu profiadau personol o brofedigaeth yn gyffredinol a phrofedigaeth yn ystod y pandemig. Hoffwn ddiolch i'r holl ymatebwyr am rannu eu profiadau gyda ni fel y gellir cynorthwyo eraill. Mae'r fframwaith yn gosod cyfrifoldebau ar fyrddau iechyd i gomisiynu gofal profedigaeth er mwyn diwallu anghenion eu poblogaethau. Yn benodol, mae'n nodi'r gofynion ar gyfer sefydlu safonau sylfaenol ac yn disgrifio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro'r safonau hyn, a gofynnir i gomisiynwyr adrodd ar eu perfformiad yn rheolaidd.
Gan droi yn awr at yr hyn y mae'r ddeiseb rydym yn ei hystyried heddiw yn gofyn amdano, rwy’n llwyr gydnabod yr angen i sicrhau bod llwybr atgyfeirio cyson a chlir ar gael ar unwaith i deuluoedd sy’n colli plentyn neu unigolyn ifanc ni waeth ble y maent yng Nghymru. Rwyf wedi ymrwymo, fel Dirprwy Weinidog, i sicrhau ein bod ni yng Nghymru yn cyflawni hynny. Felly, rwy'n ymrwymo i weithio gyda Rhian, ei sefydliad ac eraill ar y grŵp llywio cenedlaethol i roi safon ar waith sy'n canolbwyntio'n benodol ar ddarparu cymorth o'r fath. Bydd Rhian ac aelodau eraill o brofiad y grŵp yn hanfodol wrth ein cynorthwyo i lunio'r safon hon fel ei bod yn ddigon cadarn i nodi a yw byrddau iechyd yn cynnig y cymorth hwnnw'n rhagweithiol mewn ffordd gyson ledled Cymru. Rwy'n ymrwymo i'r Senedd heddiw hefyd y byddaf, fel Gweinidog, yn sicrhau bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo ar fyrder. Rwy'n gobeithio bod Rhian, y bûm yn gweithio gyda hi ar y ddeiseb cyn iddi gyrraedd y Llywodraeth, yn fy adnabod yn ddigon da i wybod y byddaf yn cadw at fy ngair ar hyn.
Er mwyn cefnogi'r fframwaith profedigaeth newydd, byddwn hefyd yn sicrhau bod £420,000 ychwanegol ar gael i fyrddau iechyd yn 2022-23 a 2023-24 i helpu gyda chydgysylltu gwaith profedigaeth a gweithredu'r safonau profedigaeth. Byddwn yn monitro gweithrediad y safonau drwy fframwaith rheoli perfformiad Llywodraeth Cymru, a byddwn yn herio byrddau iechyd lle mae'n amlwg nad ydynt yn bodloni'r safonau. Yn amlwg, mae'n rhaid inni ddangos bod sefydliadau sy'n cynnig cymorth yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael yr adnoddau priodol, ac ochr yn ochr â'r fframwaith, cyhoeddais grant cymorth profedigaeth o £1 filiwn i'n partneriaid yn y trydydd sector ar gyfer y tair blynedd nesaf. Rwyf wedi gofyn i'r meini prawf ar gyfer y grant annog cynigion gan y sefydliadau sy'n gallu cynnig y cymorth ar unwaith y mae'r ddeiseb yn galw amdano. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i ymestyn a dyfnhau'r cymorth hwnnw ledled Cymru, ac yn helpu i lenwi'r bylchau sy'n bodoli yn y ddarpariaeth bresennol.
Mae cefnogi'r aelodau o'n cymuned sydd mewn profedigaeth yn gyfrifoldeb i bob un ohonom mewn sawl ffordd, a hoffwn dalu teyrnged i bawb sy'n ymwneud â chynorthwyo a gofalu am yr holl bobl mewn profedigaeth yng Nghymru. Hoffwn roi sicrwydd i chi hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod unrhyw un yng Nghymru sydd angen mynediad at ofal a chymorth profedigaeth o ansawdd yn ei gael. Hoffwn gloi heddiw drwy ddiolch eto i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddadl hon a thrwy ddiolch o galon i Rhian ac i 2 Wish am bopeth y maent yn parhau i'w wneud i gynorthwyo teuluoedd sy'n wynebu'r golled annirnadwy o golli plentyn neu unigolyn ifanc yn eu bywydau. Diolch yn fawr.
Galwaf yn awr ar Jack Sargeant i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. Wrth gloi’r ddadl heddiw, hoffwn dalu teyrnged unwaith eto i Rhian Mannings, i 2 Wish, i bawb sydd yma yn ein gwylio heddiw ac i’r rheini yn y gymuned ehangach a gefnogodd y ddeiseb hon. Fel arfer, wrth gloi dadleuon y Senedd, rydych yn cynnig crynodeb o'r cyfraniadau, ac rwyf am geisio gwneud hynny'n gryno, ond ni fydd yn gwneud cyfiawnder â'r hyn y mae aelodau'r grŵp trawsbleidiol wedi'i ddweud yma yn y Siambr. Felly, diolch i'r holl Aelodau, ac mae hynny'n cynnwys y Dirprwy Weinidog am ei chyfraniad diffuant. Roedd yn hyfryd clywed y Dirprwy Weinidog yn croesawu'r ddeiseb ac yn cydnabod bod angen y cymorth a'i fod yn hanfodol. Ac mae'r galar hwnnw'n bersonol iawn. Gwn fod fy nghyd-Aelod ar y pwyllgor, Joel James, wedi dweud y gall galar fod yn fap tuag at ofid. Rwy'n deall hynny'n llwyr. Fel y mae Aelodau ar draws y Siambr wedi'i ddweud, mae angen cysondeb, ac unwaith eto, cyfeiriodd y Gweinidog at hynny yn ei hymateb.
Roedd yn wych clywed y cyhoeddiad am gyllid, oherwydd fel y mae Buffy Williams yn ei gydnabod yn briodol o’i gwaith ysbrydoledig ei hun yn rhedeg elusennau, mae yna bryder yn gyson, ac mae angen inni gael gwared ar y pryder hwnnw i'r rheini sydd wedi dod allan o’r tywyllwch ac i mewn i’r golau fel y gallant ganolbwyntio ar ddarparu'r cymorth na chawsant hwy mohono. Ac fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, mae'n gymorth nad oeddem yn gwybod y byddai ei angen arnom, ond diolch i Dduw ei fod yno.
Wrth gloi, oherwydd fel y dywedais, nid yw’r crynodeb o'r cyfraniadau'n gwneud cyfiawnder â'r hyn y mae'r Aelodau wedi'i ddweud, nid yw’n gwneud cyfiawnder â'r ddeiseb, hoffwn ddiolch eto i’r Dirprwy Weinidog am gydnabod yn llwyr fod angen y llwybr cymorth ar unwaith, a'i hymrwymiad i weithio gyda Rhian Mannings, gyda 2 Wish a chyda'r rheini ar y gweithgor cymorth profedigaeth i roi hyn ar waith, gan mai dyna sydd ei angen arnom yma yng Nghymru. Gyda'r gefnogaeth drawsbleidiol sydd gennym yma, credaf y gallwn gyflawni'r hyn roedd y ddeiseb yn gobeithio ei gyflawni. Fel y dywedais wrth agor y ddadl hon, gall Cymru arwain y ffordd i wledydd eraill, nid yn unig yn y Deyrnas Unedig, ond ledled y byd.
Lywydd dros dro, drwy'r broses ddeisebau, down i gysylltiad â phobl wirioneddol ysbrydoledig weithiau, pobl sy'n ceisio newid y byd er gwell. Ac yn aml, maent wedi wynebu anhawster eithafol yn eu bywydau eu hunain. Mae Rhian yn esiampl i bob un ohonom, a hoffwn ddiolch iddi am bopeth y mae wedi'i gyflawni ac y bydd yn parhau i'w gyflawni. Rwyf am ei hatgoffa, gan fod hyn wedi'i drafod heddiw—fod cefnogaeth drawsbleidiol yr Aelodau o'r Senedd yn parhau a byddwn yn parhau i weithio gyda chi.
Ar ran y pwyllgor, hoffwn hefyd ddiolch i'r Gweinidog a'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Diolch yn fawr iawn.
A diolch i Rhian Mannings a 2 Wish.
Y cynnig yw nodi'r ddeiseb. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.