– Senedd Cymru ar 24 Tachwedd 2021.
Yr eitem nesaf heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar reoleiddio canolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid. Galwaf ar Samuel Kurtz i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7840 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod anifail anwes am oes, nid ar gyfer y Nadolig neu achlysur arbennig yn unig.
2. Yn nodi bod nifer anhysbys o ganolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid yng Nghymru.
3. Yn nodi ymhellach Gynllun Lles Anifeiliaid Cymru 2021-26 Llywodraeth Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud diwygiadau i Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 i:
a) cyflwyno rheoliadau ar gyfer canolfannau achub ac ailgartrefu a llochesau yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy'n gweithredu ar-lein, erbyn 2023;
b) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw unigolyn sy'n ailgartrefu mwy na thri anifail dros gyfnod o 12 mis ddatgan eu gweithgareddau a chael trwydded gan eu hawdurdod lleol;
c) sicrhau isafswm hyfforddiant, staffio a safonau amgylcheddol i bob canolfan eu bodloni er mwyn sicrhau lles anifeiliaid yn eu gofal.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno'r cynnig yn enw Darren Millar ac mae'n bleser mawr gennyf wneud hynny, gan fod Cymru'n genedl o bobl sy'n dwli ar anifeiliaid.
Oherwydd y pandemig, mae llawer ohonom wedi treulio mwy o amser nag arfer gartref. I mi, roedd gennyf ffrind gorau dyn yn fy swigen dros y cyfyngiadau symud—fy naeargi Jack Russell, Cadi, sy'n ffyddlon, er yn gyfarthlyd. Gwnaed heriau'r 18 mis diwethaf yn haws drwy fynd am dro ar hyd yr arfordir gyda Cadi, a gwn fod pobl a theuluoedd eraill dirifedi wedi croesawu ychwanegiadau newydd blewog i'w cartrefi yn ystod y pandemig. Yn union fel y gwelwn bob Nadolig, cafwyd ymchwydd amlwg yn nifer yr aelwydydd a brynodd gi bach neu gath yn ystod y cyfyngiadau symud. Amcangyfrifir gan y Gymdeithas Gweithgynhyrchwyr Bwyd Anifeiliaid Anwes fod cyfanswm o 3.2 miliwn o aelwydydd yn y DU wedi cael anifail anwes ers dechrau'r pandemig.
Fodd bynnag, wrth i newyddwch bod yn berchen ar gyfaill o deulu'r cŵn neu'r cathod bylu, sylweddolodd nifer bryderus o berchnogion cymaint o ymrwymiad sydd ynghlwm wrth ddarparu cartref am byth i anifail anwes. Ac felly, gorfodwyd canolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid Cymru i ddarparu lloches i'r anifeiliaid anwes na allai neu na fyddai eu perchnogion yn gofalu amdanynt mwyach. Er bod llawer o berchnogion yn mynd ati'n synhwyrol i gysylltu â'u canolfannau ailgartrefu lleol, roedd rhai achosion gwirioneddol erchyll lle roedd perchnogion yn cael gwared ar eu hanifeiliaid anwes ar ymyl lonydd gwledig tawel, yn y gobaith y gellid anghofio a dileu eu pryniannau yn ystod y cyfyngiadau symud.
Yn anffodus, nid oedd y rhain yn ddigwyddiadau anghyffredin. Ar hyd a lled Cymru, mae canolfannau achub a llochesau bellach wedi cyrraedd pwynt argyfwng. Mae RSPCA Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod y 998 o achosion o adael anifeiliaid anwes a ddigwyddodd yn ystod 10 mis cyntaf y flwyddyn hon eisoes yn uwch na'r cyfanswm ar gyfer 2020. Mae hyn yn dangos y pwysau cynyddol ar ganolfannau sy'n ei chael hi'n anodd ateb y galw. Mae'r cynnig heddiw yn tynnu sylw at waith pwysig y canolfannau hyn, ac mae hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau'r rheoliadau lles anifeiliaid presennol i fynd i'r afael â'r sefyllfaoedd hyn. Mae hefyd yn cydnabod y pwysau cynyddol a osodir ar y llochesau anifeiliaid a'r canolfannau ailgartrefu ledled Cymru ac mae'n ceisio diogelu lles yr anifeiliaid sydd yn eu gofal.
Yn sicr, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i groesawu, at ei gilydd, gynllun lles anifeiliaid diweddaraf y Gweinidog ar gyfer 2021-26. Fodd bynnag, ac fel yr esbonia'r cynnig hwn, rydym yn rhannu barn y sector nad yw'r cynllun hwn yn mynd yn ddigon pell yn ei ymdrechion i ddiogelu lles anifeiliaid yng Nghymru. Yn y 15 mlynedd ers i'r lle hwn gael y pwerau perthnasol, mae Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi methu cyflawni strategaeth glir sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol problemau lles anifeiliaid heddiw. Mae'r cynnig hwn yn galw am atgyfnerthu galwadau'r sector lles anifeiliaid i reoleiddio'r nifer anhysbys ar hyn o bryd yng Nghymru o ganolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid a llochesau, ond mae'n gosod ffocws penodol ar y rhai sy'n gweithredu ar-lein. Fodd bynnag, rydym hefyd yn ceisio gweithredu llinell amser bendant ar gyfer cyflawni hyn.
Fel llawer yn y sector hwn, roedd y meinciau hyn yn hynod siomedig ynglŷn â diffyg brys Llywodraeth Cymru ar y mater hwn. Ac o ganlyniad, rydym ar ei hôl hi o gymharu â'n cymheiriaid yn yr Alban a Lloegr. Dyna pam y mae ein cynnig yn galw ar y Llywodraeth hon i gyflwyno rheoliadau erbyn 2023. Mae unrhyw oedi cyn rheoleiddio gweithgarwch achub ac ailgartrefu yn peryglu lles pob anifail anwes. Ond nid yn unig hynny. Mae oedi pellach yn creu risg o gamfanteisio pellach ar y bylchau yn y ddeddfwriaeth bresennol ar fridio cŵn a gwerthiannau anifeiliaid anwes gan y rhai sy'n dymuno gwneud elw cyflym o werthu anifeiliaid mewn ffyrdd sy'n greulon.
Ac yn olaf, ac yn bwysicaf, gellid dadlau, mae'r cynnig hwn yn gosod dyletswydd statudol ar bob canolfan ailgartrefu i fodloni'r safonau hyfforddi, staffio ac amgylcheddol gofynnol. Mae angen inni sicrhau bod y rhai sy'n gofalu am anifeiliaid a adawyd yn cael gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth angenrheidiol i allu gwneud hynny. Ond mae hefyd yn sicrhau bod anifeiliaid yn eu gofal yn cael eu diogelu yn erbyn rhai a allai, gyda'r bwriadau gorau, fod eisiau cynnig lloches, ond na allant yn anffodus roi gofal a sylw o'r safon y mae'r anifeiliaid hyn yn eu haeddu neu eu hangen. Y peth olaf un rydym am ei weld yma yng Nghymru yw ein lloches anifeiliaid Tiger King ein hunain. Mae'r cynnig hwn yn croesawu themâu cyffredinol cynllun lles anifeiliaid pum mlynedd Llywodraeth Cymru, ond mae hefyd yn mynd y tu hwnt i'r hyn a argymhellir ar hyn o bryd, a thrwy weithio gyda'r sector lles anifeiliaid, mae'n gwella'r safonau gwasanaeth y gellir eu cynnig.
Ddirprwy Lywydd, y digwyddiad cyntaf i mi ei noddi yn y Senedd hon oedd un ar gyfer Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru, sy'n cael ei gadeirio'n feistrolgar gan y cyn-Aelod, Bethan Sayed. Roeddwn yn falch iawn o weld cynrychiolaeth drawsbleidiol mor gryf o'r holl feinciau yn y digwyddiad, gan dynnu sylw at yr ewyllys wleidyddol i gryfhau'r elfen hon yng nghyfraith Cymru. Mae'r cynnig hwn wedi'i lunio ar y cyd â'r Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes ac ystod eang o randdeiliaid allweddol yn y diwydiant. Felly, gadewch inni fod yn llais i'r rhai nad oes ganddynt lais a phleidleisio dros wella lles anifeiliaid yma yng Nghymru. Diolch.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, i gynnig yn ffurfiol y gwelliant a gyflwynwyd yn ei henw.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu pwynt 4 ac ychwanegu pwyntiau newydd:
Yn cydnabod gwaith allweddol arolygwyr lles anifeiliaid yr awdurdodau lleol o ran cynnal safonau uchel ar gyfer lles anifeiliaid.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyflwyno rheoliadau ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid yng Nghymru, fel canolfannau achub ac ailgartrefu, gan gynnwys y rhai sy’n gweithredu ar-lein;
b) datblygu trefniadau er mwyn diogelu safonau gofynnol o ran hyfforddiant, staff a’r amgylchedd er mwyn sicrhau lles anifeiliaid mewn sefydliadau lles anifeiliaid;
c) gwella’r cymwysterau ar gyfer arolygwyr lles anifeiliaid er mwyn codi eu statws proffesiynol;
d) cefnogi awdurdodau lleol i atgyfnerthu eu cydnerthedd er mwyn helpu i reoli’r dosbarthiad anghyson o sefydliadau lles anifeiliaid ar draws Cymru;
e) ymgynghori â’r cyhoedd ynghylch sut y dylai unigolion sy’n ailgartrefu anifeiliaid ddatgan eu gweithgareddau o dan drwydded oddi wrth eu hawdurdod lleol.
Yn ffurfiol.
Roeddwn am ddweud gair byr yn y ddadl hon y prynhawn yma. Os edrychaf yn ôl dros y blynyddoedd y bûm yn gwasanaethu yn y lle hwn, mae pryderon am rai llochesau anifeiliaid a sefydliadau achub yn un peth a welais yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ac fe'i gwelaf heddiw ym Mlaenau Gwent. Gwelaf bobl sy'n wirioneddol ofidus am y pethau y maent wedi'u gweld. Rwy'n gweld pobl sydd wedi gwneud eu gorau i gefnogi canolfannau achub ond sy'n teimlo bod y rheini wedi manteisio arnynt, a chanolfannau sy'n greulon. Ac mae angen inni wneud rhywbeth yn ei gylch.
Credaf fod gennym gyfrifoldeb i weithredu ar y mater hwn. Mae prynhawniau Mercher yn enwog yn y lle hwn am y siarad. Credaf ein bod wedi siarad digon. Roeddwn yn siomedig o weld gwelliant y Llywodraeth i'r cynnig hwn, a oedd yn dileu'r ymrwymiad i ddeddfu ac i gyflwyno rheoliadau erbyn 2023. Rwy'n gobeithio y caf esboniad clir ac argyhoeddiadol iawn gan y Gweinidog ynglŷn â hynny. Roedd y rheini ohonom a ymgyrchodd ar gyfraith Lucy yn y Senedd ddiwethaf yn eithriadol o rwystredig a siomedig ynglŷn â'r amser a gymerodd i'r Llywodraeth weithredu ar y mater hwn, ac nid ydym am ddechrau'r Senedd newydd hon gyda mwy o rwystredigaeth ynghylch anallu'r Llywodraeth i weithredu ar y materion hyn. Felly, credaf y byddwn yn chwilio am esboniadau clir iawn ynglŷn â hynny.
Rwyf wedi gweld gormod o ddioddefaint yn y sefydliadau hyn i aros yn ddistaw ac i barhau i beidio â chael fy nghyffwrdd gan y materion hyn. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn sicrhau bod gennym y gyfraith ar waith—a'r gyfraith yn y lle iawn—i sicrhau bod gennym drefn reoleiddio sy'n bodloni'r safonau lles uchaf posibl bob amser yn y dyfodol. Ond yn fwy na hynny, credaf fod angen inni wedyn gael y mecanweithiau rheoleiddio ar waith i sicrhau y gellir gweithredu'r gyfraith yn briodol.
Un o'r pethau a welais ym Mlaenau Gwent yw awdurdod lleol nad yw'n gallu darparu'r drefn reoleiddio sydd ei hangen. Bydd Aelodau ar draws y Siambr yn gwybod fy mod yn credu bod y Senedd gyfan yn siomi pobl yng Nghymru bob tro y mae'n caniatáu i awdurdodau bach fel Blaenau Gwent osgoi gwasanaethu pobl y fwrdeistref. Yn y materion hyn, rwyf wedi gweld yn ddigon hir nad yw'r fwrdeistref yn gallu—nid oes ganddi'r adnoddau—i reoleiddio'r sefydliadau hyn yn effeithiol.
Felly, Weinidog, rwy'n gobeithio y gallwn gael sicrwydd fod gennym y gyfraith yn ei lle. Ac yna, gobeithio y gallwn gael sicrwydd y bydd gennym ffordd o weithredu'r gyfraith. Ar hyn o bryd, mewn sawl ardal o Gymru, nid wyf yn credu bod y naill na'r llall gennym. Felly, yn sicr, wrth edrych ymlaen, tuag at y dyfodol yn y Senedd hon, byddaf am weld trefn reoleiddio, ond byddaf am weld yr adnoddau sy'n darparu'r drefn reoleiddio honno lle bynnag y bo'i hangen. Diolch.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Fel cenedl o bobl sy'n dwli ar anifeiliaid anwes, dylem feddu ar y safonau lles anifeiliaid mwyaf llym yn y byd. Yn anffodus, mae hynny ymhell o fod yn wir. Fel gyda llawer o bethau, mae gan Lywodraeth Cymru fwriadau da. Nid oes unrhyw ymdeimlad o frys yn perthyn i'w chynllun lles anifeiliaid, er ei fod yn cael ei groesawu'n eang, hyd yn oed ar yr ochr hon i'r Siambr. Mae'n gam i'r cyfeiriad cywir ond yn gam ar ôl gwledydd eraill y DU. Fel y mae Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru yn nodi, mae oedi cyn gweithredu safonau ar gyfer canolfannau achub ac ailgartrefu yn creu risg o gamfanteisio ar y bylchau sy'n bodoli yn y ddeddfwriaeth bresennol, er anfantais i anifeiliaid anwes. Mae angen mesurau lles llym arnom i sicrhau bod anifeiliaid anwes yn cael eu diogelu.
Er bod y mwyafrif llethol o anifeiliaid anwes yn cael gofal da, mae'n dal i fod pobl sy'n cam-drin anifeiliaid, weithiau drwy falais, ond yn aml, drwy fethu ymdopi, a dyna pam y mae gennym bron i 100 o lochesau anifeiliaid yng Nghymru yn y lle cyntaf. Yn aml, gall esgeulustod ddigwydd am nad oedd perchnogion anifeiliaid anwes yn barod i fod yn berchen ar anifeiliaid anwes. Gwelodd y pandemig, gyda'i gyfyngiadau gweithio gartref, ymchwydd enfawr yn nifer yr anifeiliaid anwes. Gwelwyd cynnydd enfawr ym nifer y bobl a oedd yn berchen ar gŵn. Daeth pobl a oedd yn chwilio am gwmni â chi neu gath newydd i mewn i'w bywydau, ond wrth i'r economi ddechrau agor yn ei hôl, byddent yn dychwelyd i'r swyddfa. Aeth anifeiliaid o gael eu perchnogion o gwmpas yn barhaol i gael eu gadael am hanner y diwrnod. Roedd llawer o berchnogion newydd yn methu ymdopi, a gwelsom gynnydd enfawr yn y galw am wasanaethau ailgartrefu—gwasanaethau ailgartrefu sydd i raddau helaeth heb eu rheoleiddio a heb eu monitro.
Er bod y mwyafrif llethol o'r llochesau anifeiliaid hyn yn darparu gwasanaeth hanfodol ac yn cynnal safonau lles uchel, yn anffodus nid yw pob un ohonynt yn gwneud hynny. Nid yw llochesau a chanolfannau achub yn ddarostyngedig i reoliadau, sy'n golygu yn y bôn y gall unrhyw un sefydlu un, ni waeth a oes ganddynt sgiliau neu'r adnoddau angenrheidiol i ofalu am anifeiliaid. Gall hyd yn oed llochesau sy'n cael eu rhedeg yn dda fethu. Yn fy nhref i ym Mhrestatyn, aeth canolfan achub a oedd wedi bod yn gweithredu ers degawdau—yr Abandoned Animals Association—i'r wal yn ddiweddar, gan arwain at orfod ailgartrefu llawer o'r anifeiliaid ar frys, ac eto nid oes dim i fy atal rhag sefydlu lloches yfory pe bawn i eisiau gwneud hynny. Fodd bynnag, yr hyn sy'n waeth na fy mod i'n rhedeg cartref i gŵn neu gathod yw caniatáu i fridiwr cathod neu gŵn didrwydded weithredu canolfan achub er mwyn cuddio eu modus operandi go iawn.
Er mwyn osgoi'r deddfau sy'n gwahardd gwerthu cathod a chŵn bach gan drydydd parti, rydym ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU ar gymryd camau i gau'r bwlch hwn, yn union fel rydym ar ei hôl hi ar ficrosglodynnu cathod bach. Os oes gan Lywodraeth Cymru fwy na bwriadau da, rhaid iddi gymryd camau i ddiogelu lles anifeiliaid anwes yng Nghymru. Wedi'r cyfan, mae'r ffordd i uffern wedi'i hadeiladu ar fwriadau da, ond mae'r nefoedd wedi'i hadeiladu ar waith da. Mae anifeiliaid anwes angen i ni weithredu ar eu rhan, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn.
Dwi'n ddiolchgar iawn am y cyfle heddiw i drafod y mater pwysig yma, sef lles anifeiliaid. Mae e'n fater dwi'n siŵr bod pob un ohonom ni yn credu sy'n bwysig, achos mae ein hetholwyr ni yn poeni'n fawr iawn am y mater hwn. Yn wir, mae data o 2019 yn awgrymu bod chwarter poblogaeth Cymru yn perchen ar gath a rhyw un o bob tri yn perchen ar gi—y feline friends a'r canine companions roedd Sam Kurtz yn cyfeirio atyn nhw yn gynharach.
Fodd bynnag, gellid dadlau bod llawer o'r cyfreithiau sy'n ymwneud â masnachu anifeiliaid anwes wedi hen ddyddio erbyn heddiw. Mae gwerthu anifeiliaid anwes ar-lein, er enghraifft, yn rhywbeth na fyddai hyd yn oed wedi bod ym meddyliau'r sawl a ddrafftiodd y Ddeddf anifeiliaid anwes nôl ym 1951, sef 70 mlynedd yn ôl, cymaint y mae'r byd wedi newid ers y Ddeddf honno.
Mae Plaid Cymru wedi galw'n gyson ar y Llywodraeth i weithio gyda rhanddeiliaid i adeiladu ar y lefel uchel o safonau lles anifeiliaid sydd eisoes ar waith yng Nghymru, ac am y rheswm hwnnw, mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw, gan ei fod yn adlewyrchu'r egwyddorion hynny yn llawn ac yn galw am weithredu pellach gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar les anifeiliaid.
Mae'r pandemig, wrth gwrs, wedi cael effaith aruthrol ar gapasiti a chyllid nifer o sefydliadau lles anifeiliaid ledled y wlad. Er enghraifft, gwelodd yr Ymddiriedolaeth Cŵn ym Mhen-y-Bont ar Ogwr ostyngiad o 44 y cant mewn cyfraddau ailgartrefi cŵn, tra bod galwadau i ailgartrefi cŵn wedi cynyddu gan 73 y cant rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021—mae hynny'n gynnydd sylweddol iawn, iawn.
Yn yr un modd, effeithiwyd yn sylweddol ar raglenni addysg tîm ysgol cŵn de Cymru gan y pandemig. Roedd nifer y perchnogion oedd yn gallu cymryd rhan mewn rhaglenni hyfforddi yn 2020 wedi gostwng 73 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae'r sector angen ein cefnogaeth, felly, i'w helpu unwaith eto i estyn allan at gymunedau ledled Cymru i ddiogelu lles anifeiliaid. Er fy mod yn croesawu cynllun lles anifeiliaid Llywodraeth Cymru, mae pryderon gan y sector o ran achub anifeiliaid rhag niwed a dyfodol ailgartrefi, neu'r canolfannau ailgartrefi yn hytrach, yn benodol o safbwynt y llinellau amser sydd wedi cael eu nodi a'r diffyg brys.
Mae unrhyw oedi cyn rheoleiddio gweithgarwch achub a chartrefu yn peryglu lles cŵn a chathod, yn creu risg y bydd y bylchau yn y ddeddfwriaeth bresennol ar fridio cŵn yn parhau ac yn tanseilio effeithiolrwydd cyfreithiau gwerthu anifeiliaid anwes, sy'n gwahardd gwerthiant gan drydydd parti ac sy'n golygu bod Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill y DU, fel y clywsom eisoes. Mae rhai yn y sector yn pryderu bod y mater hwn yn cael ei wthio i'r naill ochr, pan fo angen brys i ddiogelu lles anifeiliaid anwes yng Nghymru. Ac fel y soniodd Alun Davies yn gynt hefyd, rwy'n pryderu efallai na fydd gan awdurdodau lleol, sy'n aml ar y rheng flaen gyda monitro a gorfodi materion lles anifeiliaid, gapasiti dynol na gallu ariannol i helpu i gyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol. Felly, er bod y canllawiau ar gynllun newydd Cymru i drwyddedu gwerthiant anifeiliaid anwes i'w croesawu, prin y dangoswyd sut y caiff awdurdodau lleol eu cefnogi'n ariannol. Gan y bydd eu portffolio o gyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â lles anifeiliaid yn debygol o barhau i dyfu ar ôl cyhoeddi'r cynllun lles anifeiliaid i Gymru, a chyda deddfwriaeth fel Bil Lles Anifeiliaid y DU (Anifeiliaid a Gedwir) ar y gorwel, rhaid inni sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddigon o arian ac adnoddau.
I gloi, edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau gan eraill ar draws y Siambr yn ystod y ddadl hon, ac rwy'n gobeithio y bydd ymateb y Llywodraeth yn amlinellu sut y bwriadant fynd i'r afael â loteri cod post gwasanaethau lles anifeiliaid ledled Cymru, sy'n dod yn fwyfwy amlwg. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz, am ddod â'r ddadl hon i'r Siambr; mae'n bwysig iawn i'r holl waith caled y mae'n ei wneud dros anifeiliaid y tu allan i'r Siambr hon hefyd.
Nawr, ers blynyddoedd, rwyf bob amser wedi bod eisiau cael cath neu gi anwes. Cofiaf fynd ar bererindod grefyddol yn naw oed gyda fy mam, a ddywedodd wrthyf yn y lle mae nifer o bobl yn ei ystyried yn fwyaf sanctaidd ar y ddaear, 'Natasha, yn ystod y bererindod hon, beth bynnag y gofynni di i Dduw amdano, fe'i cei.' Sefais yno, yn naw mlwydd oed, edrych i fyny ar yr awyr a dweud, 'Dduw, rwyf eisiau cath.' Er gwybodaeth, ni chefais mo'r gath. Ond mae o leiaf 10 cyfle wedi bod ers hynny lle gallwn fod wedi cael un.
Y rheswm pam na chefais gath neu gi erioed oedd oherwydd bod fy rhieni wedi dweud wrthyf, 'Natasha, mae anifail anwes gennyt am oes, nid dros dy ben-blwydd neu'r Nadolig yn unig.' Wrth dyfu i fyny, fel llawer ohonoch sydd â phlant neu'r Aelodau nad ydynt yn y Siambr gyda ni heddiw efallai, fel chithau, roedd fy rhieni'n gweithio'n llawn amser, ac roeddent yn credu'n gryf iawn os nad oeddem gartref, a minnau yn yr ysgol ar y pryd, y byddai'n peri gofid i'r anifail gael ei adael gartref ar ei ben ei hun am oriau lawer yn ystod y dydd, ac nid oedd hynny'n rhywbeth y gallai'r un ohonom fod wedi byw gydag ef. Ar hyn o bryd rwy'n ymdrechu'n galed iawn i argyhoeddi fy mam fod angen ci arnom, ac rwyf bron â llwyddo, felly gadawaf ichi wybod a yw hynny'n digwydd ai peidio.
Ers blynyddoedd, rwyf wedi bod â pharch mawr at yr elusennau a'r llochesau ledled Cymru a ledled y Deyrnas Unedig, ac o waelod calon, rwy'n cymeradwyo'r holl staff sy'n gweithio'n ddiflino i ddiogelu anifeiliaid o bob math ac o bob cefndir.
Ddydd Iau diwethaf, cefais y pleser mwyaf o ymweld â chanolfan anifeiliaid yr RSPCA yng Nghasnewydd. Gwelais anifeiliaid a oedd wedi dioddef llawer oherwydd esgeulustod a thrais dan law pobl, ac roedd fy nghalon yn gwaedu drostynt. Efallai nad oeddent yn gallu siarad drostynt eu hunain, ond mae'n hollbwysig fod pob un ohonom fel gwleidyddion yn siarad drostynt, nid ar ran aelodau o'r cyhoedd yn unig, ond ar ran anifeiliaid hefyd.
Fel ei ganolfannau eraill, mae canolfan anifeiliaid Casnewydd yn cydymffurfio â safonau lles trylwyr, ac mae'r RSPCA wedi galw ers tro am fframwaith rheoleiddio ehangach ar gyfer lles anifeiliaid yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys trwyddedu llochesau, canolfannau ailgartrefu a sefydliadau eraill hefyd. Rydym yn cynnal y ddadl hon heddiw i reoleiddio'r sefydliadau hyn er mwyn cynnig diogelwch cyfreithiol i'r anifeiliaid yn y 90 o lochesau yr amcangyfrifir eu bod yn gweithredu yng Nghymru.
Yn wahanol i sefydliadau eraill, megis ysgolion marchogaeth, nid yw bridwyr cŵn a lletywyr cathod, llochesau a chanolfannau achub yn ddarostyngedig i reoliadau ar hyn o bryd. Yn y bôn, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Gareth Davies, golyga hyn y gall unrhyw un sefydlu lleoliad o'r fath, ni waeth a oes ganddynt y sgiliau neu'r adnoddau angenrheidiol i ofalu am anifeiliaid, ac mae hynny'n peri pryder gwirioneddol i rywun fel fi.
Hoffwn gofnodi o'r cychwyn fy mod yn cydnabod y gwaith amhrisiadwy y mae llochesau'n aml yn ei wneud i adsefydlu ac ailgartrefu anifeiliaid. Fodd bynnag, mae'n hanfodol darparu hyfforddiant sylfaenol, a sefydlu safonau pendant ar gyfer pob canolfan anifeiliaid i sicrhau bod lles yr anifeiliaid yn eu gofal o ansawdd da. Ond nid yw'r diffyg mesurau i ddiogelu lles anifeiliaid yn y sefydliadau hyn, y gellir eu sefydlu heb unrhyw arolwg na gofyniad cyfreithiol am safonau lles cadarn a chynlluniau wrth gefn, yn dderbyniol ac ni all fod yn gynaliadwy. Gall pobl sydd â bwriadau da sylweddoli'n gyflym na allant ymdopi, a dangosir hynny gan y ffaith drist fod rhai llochesau wedi methu dal ati yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn ystod y degawd diwethaf, gorfodwyd yr RSPCA i fwrw ymlaen â thros 10 erlyniad yn sgil gofal annigonol mewn llochesau. Mae angen gofal arbenigol ar lawer o'r anifeiliaid sydd mewn llochesau neu ganolfannau achub, ynghyd â dealltwriaeth dda o'u hanghenion cymhleth yn sgil eu hamgylchiadau trawmatig. Yn ogystal â chael staff sy'n bodloni'r meini prawf hyn, mae angen arbenigedd i sicrhau bod y sefydliadau'n ariannol gadarn ac yn ticio'r holl flychau ar gyfer sicrhau iechyd a diogelwch yr anifeiliaid o'u mewn.
Felly, Ddirprwy Lywydd, mae trefniadau llywodraethu cadarn a chynlluniau wrth gefn pan fydd pethau'n mynd o chwith yn hanfodol ar gyfer rhedeg lloches lwyddiannus. Rwy'n credu'n gryf fod angen inni reoleiddio llochesau i lenwi'r bwlch presennol, gan sicrhau bod safonau uchel ar gyfer lles anifeiliaid yn orfodol yn hytrach na gwirfoddol. Diolch.
Gaf i ddiolch i Sam Kurtz am ddod â'r ddadl yma i'r Siambr heddiw? Diolch yn fawr iawn ichi, Sam.
Os caf ddechrau o bersbectif personol, rwyf wedi siarad am fy nghi wyth mlwydd oed, Arthur, o ganolfan achub, a oedd yn arfer bod yn filgi rasio. Daeth Arthur atom pan oedd yn chwech oed, ac roedd mewn cyflwr go wael. Deilliai hynny o'r ffaith ei fod wedi bod yn filgi rasio, lle cânt eu trin yn greulon iawn, a hefyd mewn perthynas â'r cartref achub, lle roeddent yn gwneud eu gorau i ofalu amdano. Rwy'n gwybod bod llawer ar draws y Siambr hon am weld rasys milgwn yn cael eu gwahardd, ac mae honno'n ddadl ar gyfer diwrnod arall, ond ni allwn gymryd y cam hwnnw hyd nes y gwyddom y bydd y cŵn hynny ac eraill yn cael gofal priodol. Felly, roeddwn yn synnu'n fawr o glywed nad oes deddfwriaeth ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd a'n bod ymhell ar ôl y gwledydd eraill yn y DU ar y mater hwn.
Byddaf yn cefnogi'r ddeddfwriaeth beth bynnag ydyw—y ddadl gan y Ceidwadwyr heddiw, ac ni fyddaf yn cefnogi'r gwelliannau, oherwydd teimlaf ei bod mor bwysig inni gael amserlen. Wrth gwrs, rwy'n croesawu'r cynllun lles anifeiliaid newydd, ond rwy'n ategu pryderon sefydliadau lles anifeiliaid sy'n awyddus iawn i weld y terfynau amser gweladwy hynny. O wybod yr hyn rwy'n ei wybod yn awr am yr amodau a'r afiechydon y mae milgwn rasio yn eu dioddef, mae rheoleiddio a chefnogaeth gryfach i'r canolfannau achub ac ailgartrefu hynny'n gwbl hanfodol. Maent o fudd i'r anifeiliaid, ond maent o fudd i'r sefydliadau hynny a'r staff sy'n ceisio gwneud y peth iawn hefyd.
Gadewch imi ddweud stori arall wrthych. Etifeddodd perchennog canolfan achub ceffylau Whispering Willows yn ne-orllewin Cymru rywfaint o arian a sefydlodd ganolfan achub ceffylau. Dywedodd ei bod am wireddu ei breuddwyd o ofalu am geffylau, a chymerodd 137 ohonynt i mewn. Pan ofynnwyd iddi am ei harbenigedd mewn cadw ceffylau, disgrifiodd ei hun fel rhywun nad oedd yn arbenigwr, ond a oedd â rhywfaint o wybodaeth gyffredinol. Dywedodd ei bod yn rhedeg y ganolfan achub drwy roddion, ond â'i harian ei hun yn bennaf. Yn anffodus, yn 2021, bu'n rhaid difa nifer o'r ceffylau oherwydd salwch a diffyg maeth. Dyna'r hyn y mae angen inni roi diwedd arno. Mae hyfforddiant, cymorth a safonau yn eithriadol o bwysig er mwyn i'r anifeiliaid a'r staff a'n hawdurdodau lleol gael cryfder i allu sicrhau nad yw ein canolfannau'n cael eu llethu gan nifer yr anifeiliaid na'u hanghenion iechyd a gofal a bod staff yn cael y gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i ddarparu'r gofal gorau posibl. Felly, diolch yn fawr iawn eto i chi, Sam. Diolch am gyflwyno'r ddadl hon. A gaf fi annog y Llywodraeth unwaith eto i feddwl eto ynglŷn â chytuno i amserlenni cadarn ar gyfer cyflwyno'r rheoliadau hyn? Ac rwy'n siarad heddiw ar ran Arthur. Diolch yn fawr iawn.
Rydym wedi clywed am Cadi, rydym wedi clywed am Arthur; hoffwn ddweud wrthych am aelod o fy nheulu i: Blue, y milgi bach a achubwyd o ganolfan Achub Anifeiliaid Gogledd Clwyd. Fe'i cawsom 11 mlynedd yn ôl; roedd yn denau ac yn esgyrnog, yn naw mis oed, a phan gyraeddasom adref gydag ef, estynnodd ei goesau bach allan ar y carped yn y lolfa, dwy goes ymlaen, dwy goes yn ôl, fel clustog atal drafft, a syrthiasom mewn cariad ag ef, fel y mae llawer o bobl yn ei wneud pan fyddant yn cael eu hanifeiliaid anwes.
Mae Blue yn un o 1,900 o anifeiliaid y mae canolfan Achub Anifeiliaid Gogledd Clwyd yn eu hailgartrefu bob blwyddyn. Fe'i sefydlwyd yn 1978 gan wraig o'r enw Anne Owen, a dechreuodd gyda chi potsiwr tenau; ci tenau, esgyrnog, ac erbyn hyn mae'n ailgartrefu llawer o anifeiliaid. Credaf eu bod yn gwneud gwaith aruthrol, a cheir llawer o enghreifftiau rhagorol o ganolfannau achub anifeiliaid ledled Cymru gyfan wrth gwrs. Un arall yn fy etholaeth i yw canolfan anifeiliaid yr RSPCA ym Mryn-y-Maen ychydig y tu allan i Fae Colwyn. Gallaf gofio'n dda gweld draenog, babi draenog, mewn trallod ar y gylchfan ger fy swyddfa yn y gwaith; roedd yn anadlu'n gyflym yng ngwres y dydd, yn amlwg yn mynd i gerdded i'r ffordd a dod yn olygfa fflat gyfarwydd fel llawer o ddraenogod yn anffodus, ond fe'i codais yn fy nghap fflat, ei ddal ar fy nglin, a gyrru i Ganolfan Anifeiliaid Bryn-y-Maen lle cefais gyngor cyn ei ryddhau i'r gwyllt yn y diwedd. Roedd yn 9g pan gyrhaeddodd y ganolfan; cafodd driniaeth feddygol ac fe'i rhyddhawyd ychydig wythnosau'n ddiweddarach; roedd yn enfawr pan gyrhaeddodd 1kg, felly dyn a ŵyr pa fwyd roeddent yn ei fwydo iddo; yr un pethau â fi y rhan fwyaf o'r amser yn ôl pob tebyg.
Wedyn, wrth gwrs, mae gennych waith Sw Mynydd Cymru ym Mae Colwyn, sy'n aml iawn yn rhoi cartref i anifeiliaid ac yn eu hachub, yn enwedig anifeiliaid egsotig nad oes gan neb arall brofiad o allu gofalu amdanynt. Rydym wedi cael pob math o anifeiliaid yn teithio ar draws Bae Colwyn dros y blynyddoedd, gan gynnwys parotiaid, crwbanod, madfallod, pob math o anifeiliaid sydd wedi cael cartref gan y sw ac maent yn gwneud gwaith gwych. Maent hefyd, wrth gwrs, yn achub anifeiliaid gwyllt; mae ganddynt ganolfan achub morloi llwyd yno, felly maent hwythau hefyd yn gwneud gwaith da.
Ond y peth am yr RSPCA, canolfan Achub Anifeiliaid Gogledd Clwyd a Sw Mynydd Cymru yw eu bod i gyd yn cadw at y safonau uchaf un o ran lles anifeiliaid. Gall pobl fynd yno'n hyderus, gan wybod os byddant yn mynd ag anifail crwydr i mewn neu anifail sydd mewn trallod, y bydd yn cael gofal da; caiff ei godi'n ôl ar ei draed—os oes ganddo draed—ac yna'i ailgartrefu mewn amgylchedd priodol. Ac wrth gwrs, maent yn fetio pawb sy'n dod i mewn i ofyn am anifail i'w ailgartrefu, a dyna'r math o ansawdd y dylem anelu ato ym mhob rhan o'r wlad. Mae'n ofnadwy nad oes system gofrestru ar gyfer canolfannau achub anifeiliaid yng Nghymru, ac nad ydym yn gwybod ble mae'r canolfannau achub hyn, ac mae hynny'n rhoi anifeiliaid mewn perygl, ac nid oes yr un ohonom am i hynny ddigwydd.
Rwy'n falch fod y Llywodraeth yn cytuno â ni ar hyn; mae'n siomedig braidd eu bod wedi cyflwyno gwelliant heb amserlen glir ar gyfer gweithredu newid, ond mae'n welliant sydd, serch hynny, yn debyg iawn i'n cynnig gwreiddiol, felly gallaf weld bod hyn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog am fynd i'r afael ag ef. Ac os caf gyfeirio wrth gloi at rai o ganlyniadau rheolau lles anifeiliaid gwael neu reolau lles anifeiliaid amhriodol: cysylltwyd â mi—ychydig oddi ar y pwnc—cysylltodd ffermwr â mi yr wythnos hon yn fy etholaeth i sôn bod un o'i ffrindiau sy'n berchen ar fferm lle roedd TB yn bresennol wedi gorfod gweld y gwartheg roedd wedi'u magu a'u bwydo a gofalu amdanynt dros nifer o flynyddoedd yn cael eu saethu o'i flaen ar fuarth y fferm. Achosodd hynny ofid meddwl a thrallod ofnadwy iddo, a gwyddom fod iechyd meddwl ymhlith y gymuned amaethyddol wedi cyrraedd y gwaelod yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a chawsom sefydliadau fel Tir Dewi yn etholaeth Sam Kurtz i geisio ymateb i'r heriau hynny. Credaf fod angen inni feddwl a yw'r math hwnnw o weithredu mewn ymateb i ganfod TB ar fferm yn briodol, ac a allwn addasu ein rheolau yma yng Nghymru fel bod mwy o hyblygrwydd a bod modd mynd ag anifeiliaid i ffwrdd i'w difa fel nad achosir trallod o'r fath i'r rhai sydd wedi rhoi gofal mor dda wrth fagu'r anifeiliaid hynny. Felly, tybed a all y Gweinidog ymateb i'r mater penodol hwnnw hefyd pan fydd yn crynhoi ymateb y Llywodraeth heddiw. Diolch.
Mae sefydliadau lles anifeiliaid yng Nghymru yn darparu gwasanaeth hanfodol ac angenrheidiol, fel y gallwn weld yn ôl pa mor brysur ydynt. Fodd bynnag, mae eu hygrededd wedi'i niweidio gan rai sefydliadau ofnadwy. Hoffwn ddod â rhai enghreifftiau i'r amlwg i ddangos pam y mae angen i ni reoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid.
Ers 2016, bûm yn gwylio camau gweithredu yn erbyn elusen leol yn fy rhanbarth i, Capricorn Animal Rescue, a gafodd sylw mewn rhaglen ohebu cudd gan BBC Wales y cymerodd fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, ran ynddi. Bu'r gwirfoddolwyr yn brwydro am fwy na thair blynedd cyn i'r rhaglen gael ei darlledu, ac eto ni chafodd yr elusen ei thynnu oddi ar y gofrestr elusennau tan fis Medi eleni—wyth mlynedd—ac ni chafwyd unrhyw gamau ffurfiol gan y Comisiwn Elusennau yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol, nac adroddiad gan ymchwiliad a agorodd yn 2017. Roedd rhwystredigaethau'r gwirfoddolwyr a oedd yn ymladd yma wedi'u cyfeirio'n unig at y Comisiwn Elusennau fel yr unig awdurdod a allai weithredu ar hyn.
Y broblem allweddol i'r gwirfoddolwyr hyn hefyd oedd nad oedd yna un corff a oedd yn gyfrifol am gamu i mewn, a hwy a wynebodd faich iechyd meddwl a chost ariannol ymladd rhywbeth a oedd mor amlwg yn anghywir. Ar eu rhan hwy, rhaid imi ddiolch yn gyhoeddus i'n cyngor gwirfoddol lleol, a helpodd y gwirfoddolwyr hyn ym mhob ffordd y gallent, a darparu'r unig elfen o gymorth uniongyrchol a oedd ar gael.
Unwaith eto, yn fy rhanbarth i yng ngogledd Cymru, yn 2019 roedd sefydliad arall, yn ne Cymru, lloches geffylau Whispering Willows, yn achosi problemau'n lleol. Datgelodd rhai ymchwiliadau syml gan etholwyr lleol bryderon difrifol iawn ynghylch y sefydliad hwnnw, ac ar ddechrau 2021 plediodd y sylfaenydd yn euog i droseddau o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid ac fe'u gwaharddwyd am 10 mlynedd. Yr wythnos diwethaf cafodd 34 o gŵn a dau ffured eu symud o fferm yn Eryri a oedd yn gysylltiedig â helfa leol. Mae pob achos o'r fath yn rhoi straen enfawr ar sefydliadau lles anifeiliaid eraill pan gânt eu cau, am eu bod yn gorfod derbyn anifeiliaid ychwanegol nad oedd yn rhan o'r angen y cynlluniwyd ar ei gyfer.
Mae cynllun lles anifeiliaid Llywodraeth Cymru yn mynd ymhellach o lawer. Fodd bynnag, un man cychwyn yw rheoleiddio pob sefydliad sy'n gyfrifol am anifeiliaid yn ein cymdeithas. Mae'n peri pryder y gall unrhyw un ddechrau sefydliad lles anifeiliaid, ni waeth beth fo'u cymwysterau na'u profiad. Rhaid inni sicrhau ein bod i gyd yn gwneud popeth a allwn i ddarparu adnoddau digonol, ac yn bwysig, pwerau i roi rheoliadau sefydliadau lles anifeiliaid mewn grym ac i ymchwilio'n briodol i broblemau sy'n codi pan fydd aelodau o'r cyhoedd neu wirfoddolwyr yn eu datgelu. Bydd angen llawer iawn o gymorth ac addysg ar awdurdodau lleol ar feysydd pwysig nad ydynt yn rhan o'u harbenigedd. Mae'r materion sy'n codi y tu allan i fusnesau a drwyddedir ar hyn o bryd a'r cymhlethdodau sy'n deillio o ddeddfwriaeth elusennol, a'r anawsterau cyfarwydd gyda syndrom sylfaenydd, yn fynydd i'w wynebu heb ddealltwriaeth drylwyr. Rhaid inni wrando ar brofiadau'r rhai sydd wedi datgelu problemau lles a chreu'r rheoliadau i'w gwneud yn ofynnol i nifer o sefydliadau gydweithio er mwyn rhoi'r gorau i gamweithredu. Ac eto, mae'n rhaid cael gofyniad i gael un corff sy'n gyfrifol am gamu i mewn, ac ni ddylai hyn fod yn faich ar wirfoddolwyr mwyach. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n croesawu'n fawr y ddadl hon ar ganolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid. Mae bob amser yn dda clywed am anifeiliaid sy'n aelodau o deuluoedd yr Aelodau, ac rwy'n credu y byddai'n well i mi sôn bod gan fy nheulu innau ddau gi, Minnie a Bronnie; ci o ganolfan achub yw Bronnie, ac fel y dywedwyd, maent yn aelodau annwyl iawn o'n teuluoedd.
Mae'r cynllun lles anifeiliaid pum mlynedd i Gymru a lansiais yn gynharach y mis hwn yn uchelgeisiol ac mae'n arloesol, ac mae'n nodi sut y byddwn yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed gennym mewn perthynas â lles anifeiliaid ers i bwerau gael eu datganoli i Gymru yn ôl yn 2006. Yn dilyn yr etholiad, roedd yn rhywbeth roeddwn yn awyddus iawn i'w wneud, i gael popeth mewn un lle, ac i ddod ag ystod o gamau gweithredu at ei gilydd, ynghyd â'n hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu, ac i ddangos mai dyma'r pethau y byddem yn eu gwneud dros gyfnod y Llywodraeth hon o bum mlynedd. Fy uchelgais, fel pob Aelod yn y Siambr hon rwy'n credu, yw i bob anifail yng Nghymru gael bywyd o ansawdd da, ac er mwyn ceisio sicrhau hynny, mae ein cynllun yn cynnwys gwireddu'r pedwar ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu ar les anifeiliaid a gedwir, ac mae hefyd yn amlinellu sut y byddwn yn integreiddio ystod o waith parhaus ym maes polisi lles anifeiliaid dros dymor y Llywodraeth hon.
Credaf fod y ffordd rydym yn trin anifeiliaid yn adlewyrchiad pwysig iawn o werthoedd ein cymdeithas. Mae bod yn berchen ar anifail yn fraint—nid yw'n hawl—ac mae perchnogaeth gyfrifol yn ddisgwyliad, nid yn ddyhead. Mae gan unrhyw un sy'n berchen ar anifail neu sy'n gyfrifol am anifail ddyletswydd gyfreithiol i gymryd camau rhesymol i sicrhau bod ei anghenion lles yn cael eu diwallu. Mae perchnogaeth gyfrifol yn dechrau o'r eiliad y mae person yn dechrau ystyried cael anifail. Mae'n hanfodol ystyried yn ofalus yr ymrwymiad hwnnw. Gydag anifeiliaid anwes yn arbennig, mae perygl bob amser o brynu ar sail emosiwn ac ar fympwy.
Bob blwyddyn, rydym yn cynnal ymgyrch yn y cyfnod cyn y Nadolig i atgoffa pobl ynglŷn â gofynion perchnogaeth gyfrifol, #ArosAtalAmddiffyn, ac mae'n annog pobl i ymchwilio'n drylwyr beth yw'r costau a'r ymrwymiadau sydd ynghlwm wrth hynny, addasrwydd yr anifail anwes i amgylchedd eu cartref, a sicrhau eu bod yn caffael eu hanifeiliaid anwes o ffynhonnell gyfreithiol a dibynadwy. Felly, unwaith eto, rwy'n annog pob Aelod yn y Senedd i gefnogi a hyrwyddo'r ymgyrch hon yn y cyfnod cyn y Nadolig. Rydym hefyd yn ymwybodol o'r cynnydd mewn gwerthiannau ar-lein, a sut y mae'r posibilrwydd o werthiannau cyflym heb eu rheoleiddio hefyd yn denu bridwyr diegwyddor i wefannau. Am y rheswm hwn, rydym yn cefnogi gwaith y Grŵp Cynghori ar Hysbysebu Anifeiliaid Anwes i sicrhau bod hysbysebu anifeiliaid anwes i'w gwerthu yn cael ei wneud yn gyfreithlon ac yn foesegol.
Mae gweithio mewn partneriaeth yn gwbl allweddol i lwyddiant popeth yng nghynllun lles anifeiliaid Cymru. Yn ogystal â'r Grŵp Cynghori ar Hysbysebu Anifeiliaid Anwes, rydym yn falch o'n perthynas hirsefydlog â dau grŵp allweddol sy'n dwyn ynghyd sefydliadau'r trydydd sector—Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru a Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru y cyfeiriodd yr Aelodau ato. Daw aelodau'r grwpiau hyn o'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid, Dogs Trust a Cats Protection, ac yn ddiweddar fe wnaethant fynychu Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i roi tystiolaeth ar faterion lles anifeiliaid. Clywyd canmoliaeth i'r modd y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn rhyngweithio â hwy ond wrth gwrs, mae mwy y gallwn ei wneud. Dyna pam y mae ein cynllun lles anifeiliaid yn tynnu sylw at rôl gweithgorau rhanddeiliaid, oherwydd gwyddom na allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain.
Ar gyfer y ddadl heddiw, ac fel rhagair i drafod cynlluniau ar gyfer trwyddedu neu reoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid yng Nghymru, hoffwn dynnu sylw at ddwy enghraifft arall o weithio mewn partneriaeth. Yn gyntaf, rydym yn gweithio'n agos gydag asiantaethau gorfodi awdurdodau lleol. Mae gorfodi a chyflawni deddfwriaeth bob amser yn gryfach pan fydd dealltwriaeth glir a rennir o'r hyn a ddisgwylir a pham y disgwylir hynny. Mae swyddogion gorfodi angen hyfforddiant wedi ei ddarparu mewn modd cyson a chydlynol, ac mae angen i'r swyddogion eu hunain gael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi oherwydd y rôl sylfaenol y maent yn ei chwarae yn sicrhau bod safonau lles uchel yn cael eu cynnal.
Yn ail, arweiniodd ein cydweithrediad â Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru at gyhoeddi cod arferion gorau ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid yn 2020, a chredaf fod hwn yn gam cyntaf pwysig iawn. Mae'r cod yn wirfoddol, ond mae'n cynnig cyngor rhagorol i annog mabwysiadu safonau uwch ar gyfer magu anifeiliaid. Felly, gan adeiladu ar hyn, fel y nodwyd yn y rhaglen lywodraethu a'n cynllun lles anifeiliaid, ein bwriad yw symud ymlaen gyda gwaith ar drwyddedu sefydliadau lles anifeiliaid, sy'n rhywbeth y credaf fod y rhan fwyaf o'r bobl sy'n cysylltu â mi ar y mater hwn yn gefnogol iawn iddo. Felly, byddwn yn ymgynghori'n eang i sefydlu nifer a gwasgariad y sefydliadau sy'n ymwneud ag ailgartrefu ac achub anifeiliaid, yn amrywio o'r rhai a weithredir gan unigolion i eraill a gaiff eu gweithredu ar raddfa fwy. Bydd ein gwaith cydweithredol gyda'r Grŵp Cynghori ar Hysbysebu Anifeiliaid Anwes hefyd yn ein galluogi i ystyried cynnwys sefydliadau ar-lein, a bydd y gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod rheoliadau yn y dyfodol yn gyfredol ac yn gynhwysfawr ac yn cynorthwyo awdurdodau lleol i oruchwylio'r sector amrywiol hwn y mae ei ddosbarthiad daearyddol yn anwastad iawn ledled Cymru.
Erbyn 2023, byddwn mewn sefyllfa i gyflwyno gofynion rheoleiddio newydd ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid, i gynnwys trefniadau wedi'u cynllunio i ddiogelu safonau gofynnol mewn perthynas â hyfforddiant, staffio a'r amgylchedd. Rydym hefyd wedi ymgysylltu ag awdurdodau lleol i hyfforddi swyddogion i orfodi rheoliadau newydd er mwyn sicrhau dull gweithredu cyson. Mae ein gwelliant i'r cynnig heno yn pwysleisio rôl allweddol gorfodaeth awdurdodau lleol ac yn nodi ein cynlluniau ar gyfer rheoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid yn unol â'r cynllun lles, gan gyfeirio'n arbennig at brosesau, amseru a rôl sylfaenol gweithio mewn partneriaeth.
Mae'r cyflawniadau a'r camau gweithredu a amlinellais yn dangos sut y mae lles anifeiliaid a pherchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru. I orffen gyda dyfyniad o'n cynllun lles anifeiliaid:
'Ein nod yw bod Cymru’n cael cydnabyddiaeth fel esiampl i bawb oherwydd ei safonau, am y modd y mae arferion da yn cael eu mabwysiadu a’u rhannu, am y modd y trafodir â’r prif randdeiliaid, am y mecanweithiau gorfodi effeithiol, cefnogol a chynaliadwy sy’n cael eu datblygu, am ei chyfraniad at ymchwil ac am hyrwyddo addysg a pherchenogaeth gyfrifol, hynny er lles cenedlaethau heddiw ac fory.'
A gwn y gallwn gyflawni hyn drwy weithio gyda'n gilydd. Diolch.
Galwaf ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Onid yw'n wych meddwl, mewn llawer o'r cyfraniadau heddiw, fod pawb wedi dweud wrthym am aelodau o'u teuluoedd? Felly, rwy'n mynd i sôn am Alfie Finch-Saunders, sydd wedi bod gyda ni ers ei fod yn bum mlwydd oed, ac mae'n eithaf trist, oherwydd, pan ddaeth i'n teulu ni, roedd wedi cael ei gadw mewn ysgubor yn y tywyllwch ac mae ganddo dolc yn ei drwyn o hyd o lle roedd y caetsh roedd ynddo'n rhy fyr. Ond pan fydd fy ngŵr yn fy ffonio pan fyddaf yma, y peth cyntaf rwy'n ei ddweud yw, 'Sut mae Alfie?' [Chwerthin.] Felly, mae'n dda iawn fod gennym bobl o'r un anian yma.
Felly, hoffwn ddechrau drwy fynegi fy niolchgarwch diffuant i bawb sydd wedi siarad yma heddiw, gan gynnwys y Gweinidog, a Sam Kurtz am agor y ddadl mor dda. Fel y clywsom droeon y prynhawn yma, ar hyn o bryd nid oes deddfwriaeth ar waith yng Nghymru, felly gall unrhyw un sefydlu ei sefydliad neu ei loches ei hun. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae'r rhan fwyaf o'r rhain wedi'u sefydlu gyda bwriadau da iawn. Nawr, er bod llawer o sefydliadau lles anifeiliaid yng Nghymru yn cyrraedd safonau lles uchel iawn, gall rhai astudiaethau achos trasig yn ddiweddar—ac fe'u crybwyllwyd yma heddiw—dystio i'r ffaith bod sefydliadau ac unigolion sy'n gweithredu fel canolfannau achub weithiau'n cael eu llethu gan ormod o anifeiliaid ac yn ei chael yn anodd diwallu anghenion lles yr anifeiliaid yn eu gofal.
Yn ogystal â sicrhau bod ein sefydliadau diogelu anifeiliaid anhunanol yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, byddai rheoleiddio canolfannau achub hefyd yn ei gwneud yn haws gwahaniaethu rhwng canolfannau achub ac ailgartrefu go iawn a bridwyr stryd gefn a gwerthwyr trydydd parti sy'n ceisio osgoi cyfreithiau diweddar i wahardd gwerthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti drwy esgus eu bod yn lloches. I dynnu sylw at faint y broblem, y mis diwethaf, yn dilyn ymchwiliad saith mis gan Safonau Masnach Cenedlaethol a Safonau Masnach Cymru, achubwyd bron i 200 o gŵn o fferm yr amheuid ei bod yn gwerthu cŵn bach yn anghyfreithlon yn sir Gaerfyrddin. Fel y mae'r Aelodau wedi dweud yn gywir, megis Alun Davies a'i bryderon ynglŷn â safonau mewn rhai canolfannau achub, rydym wedi cael digon o siarad yn awr, ac rwy'n cytuno â'i alwad am fwy o weithredu gan y Gweinidog.
Tynnodd Gareth Davies sylw at y dull amlwg a rhagweithiol iawn a weithredir eisoes mewn rhannau eraill o'r DU, ac y gall unrhyw un sefydlu lloches heb unrhyw reoliadau. Yn wir, mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi pasio rheoliadau a ddaeth i rym ar 3 Medi 2021. Mewn mannau eraill, bydd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn ymgynghori ar gynigion i reoleiddio'r sector yn Lloegr erbyn diwedd 2021-22. Dyna pam fy mod yn rhannu'r siom a fynegwyd gan Blue Cross a Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru fod yr amserlenni a nodir yng nghynllun lles anifeiliaid Llywodraeth Cymru yn dangos diffyg brys gwirioneddol a allai arwain at gamfanteisio gan fridwyr diegwyddor a gadael Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill. Er gwaethaf mwy na dau ddegawd o ddatganoli, mae camau gweithredu araf Llywodraeth Cymru yn y maes hwn bellach wedi arwain at enwi Cymru'n brifddinas ffermio cŵn bach y DU. Nid yw hwnnw'n enw rydym am ei gadw, ac mae diffyg gweithredu yn gadael ein sector elusennol i ymdopi â'r canlyniadau. Am yr union reswm hwn mae'r Dogs Trust a'u tebyg am weithio gyda Llywodraeth Cymru i reoleiddio sefydliadau ailgartrefu a llochesau, er mwyn sicrhau y gellir olrhain pob ci bach sy'n cael ei fridio a'i werthu. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi fy nghlywed yn siarad am hyn droeon, ond rwy'n casáu gweld pobl ar Facebook sy'n bridio cŵn am elw ac yn ceisio'u gwerthu ar Facebook yn ifanc iawn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y gefnogaeth heddiw i'r cynnig hwn gan y Ceidwadwyr Cymreig yn annog y Gweinidog i adolygu'r amserlen ar gyfer rheoliadau ac i weithio gyda rhanddeiliaid i ymladd y malltod hwn.
Diolch i Cefin Campbell am ei gyfraniad yn amlinellu pa mor hen ffasiwn yw'r ddeddfwriaeth anifeiliaid anwes bellach, a hefyd am addo cefnogaeth Plaid Cymru i'n cynnig. Talodd Natasha Asghar deyrnged i'r sefydliadau da hynny sy'n diogelu ein ffrindiau pedair coes. Soniodd Darren Millar am Blue, ei filgi bach o ganolfan achub, a soniodd hefyd am Achub Anifeiliaid Gogledd Clwyd—roedd fy niweddar rieni wrth eu boddau gyda'r ci bach a gawsant oddi yno—a soniodd am Sw Mynydd Cymru a'r RSPCA ym Mryn-y-maen. Siaradodd Jane Dodds am Arthur, milgi a arferai rasio, a budd canolfannau ailgartrefu da, ond bod hyfforddiant, cymorth a rheoleiddio yn hanfodol.
Gyda'r amcangyfrif fod 650,000 o gŵn yn byw mewn 440,000 o gartrefi yng Nghymru, a'r amcangyfrif fod 607,000 o gathod yn byw ar 26 y cant o aelwydydd Cymru, mae'n amlwg ein bod yn genedl falch o bobl sy'n dwli ar anifeiliaid. Carolyn Thomas, diolch am eich cyfraniad ac am siarad am y risgiau wrth dderbyn anifeiliaid ychwanegol, a bod yr holl resymau y mae'r bobl hyn yn dechrau arni gan obeithio y byddant yn diogelu anifeiliaid yn dod yn rhan o broblem fwy mewn gwirionedd.
Wrth i Siôn Corn ddechrau paratoi ei sled a chlychau ceirw'n dechrau canu uwchben, gadewch i bawb ohonom gofio bod anifail anwes i'w gadw am oes ac nid dros yr ŵyl yn unig. Maent yn aelodau gwastadol gariadus, ymdeimladol a ffyddlon o'n teuluoedd. Felly, gadewch inni sicrhau bod gennym y modd, yr amser, a'r adnoddau yn awr, Weinidog, y ddeddfwriaeth sydd ei hangen arnom, i sicrhau ein bod yn darparu'r bywyd hapus y maent yn ei haeddu mor enbyd. Diolch, Lywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.]
Iawn, gofynnaf am yr eildro.
Felly, mae yna wrthwynebiad, ac fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Felly, byddwn ni'n cymryd egwyl fer nawr i baratoi ar gyfer y cyfnod pleidleisio hynny.