– Senedd Cymru ar 26 Ionawr 2022.
Eitem 8 sydd nesaf, dadl Plaid Cymru, Bil Etholiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Galwaf ar Rhys ab Owen i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7894 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod etholiadau'n deg ac yn hygyrch i bob pleidleisiwr.
2. Yn condemnio Llywodraeth y DU am gyflwyno'r Bil Etholiadau a fydd yn cyflwyno newidiadau mawr i etholiadau a gadwyd yn ôl, gan gynnwys ei gwneud hi'n ofynnol cyflwyno dulliau adnabod ffotograffig i bleidleisio.
3. Yn cefnogi ymgyrch #HandsOffOurVote sy'n ceisio sicrhau na chaiff unrhyw bleidleisiwr cyfreithlon ei droi i ffwrdd o'r blwch pleidleisio.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu'r mesurau a gyflwynwyd gan y Bil Etholiadau ar bob cyfle gyda Llywodraeth y DU a chodi pryderon yn eu cylch.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. O'r Siartwyr i'r Syffragetiaid, mae pobl yn llythrennol wedi rhoi eu bywydau i sicrhau bod hawl gennym ninnau i bleidleisio ar yr ynysoedd hyn, ac ar hyd y canrifoedd y frwydr fawr oedd i ennill mwy o hawliau, a digwyddodd hynny eto yn ddiweddar yng Nghymru wrth ehangu'r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed. Mae unrhyw ymgais i gyfyngu ar yr hawl i bleidleisio yn tanseilio'n hawliau ni oll, yn tanseilio'n ffordd ni o fyw ac yn tanseilio'r ddemocratiaeth yr ydym ni'n ei mwynhau heddiw oherwydd ymdrechion ac aberthoedd eraill.
Pleidleisio yw sylfaen ein democratiaeth, Ddirprwy Lywydd. Dyna lle mae posibiliadau eithriadol yn dod yn realiti drwy osod croes mewn bocs. Mae wedi arwain at sefydlu'r gwasanaeth iechyd gwladol, at greu'r wladwriaeth les a sefydlu ein Senedd genedlaethol. Y blwch pleidleisio yw lle y daw breuddwydion a dyheadau'n wir. Dyna lle y gwneir penderfyniadau am ddyfodol ein gwledydd gan eu dinasyddion. Dyna hefyd yw'r offeryn mwyaf effeithiol i'n dwyn ni i gyfrif fel gwleidyddion.
Mae angen craffu manwl iawn i ddigwydd cyn cyflwyno unrhyw gyfyngiadau ar yr hawl i bleidleisio, fel cyflwyno ID. Mae eisiau tystiolaeth gadarn sydd wedi ei dadansoddi yn ofalus. Yn sicr, does dim lle i ideoleg ddylanwadu ar unrhyw benderfyniadau. Bydd y Torïaid yn ceisio portreadu hyn fel penderfyniad rhesymol, ond, wrth annerch rheithgor mewn llys barn, byddwn i wastad yn dweud wrthynt i edrych ar y dystiolaeth yn ei chyfarwydd.
Edrychwch ar y dystiolaeth yn ei chyfanrwydd, ar gamau gweithredu'r Llywodraeth Dorïaidd yn eu cyfanrwydd. Maent am gyfyngu ar brotest, maent am gael gwared ar ddinasyddiaeth pobl heb roi unrhyw gyfiawnhad. Maent am atal ein llysoedd rhag diddymu is-ddeddfwriaeth sy'n anghydnaws â hawliau dynol. Maent am fynd i'r afael â 'chwyddiant hawliau' fel y'i gelwir—sef gormod o hawliau dynol, i chi a minnau. Maent am gyfyngu'r hawl i adolygiad barnwrol o benderfyniadau cyrff cyhoeddus. Maent am ddadariannu'r BBC a thrwy hynny, ein S4C annwyl. Ac maent eisiau ei gwneud hi'n anos i bobl bleidleisio. Byddai'r Ceidwadwyr heddiw yn dal i arestio'r Siartwyr a'r Swffragetiaid am fod yn rhy swnllyd yn eu protest. Byddai fy mam-gu'n dal i fynd i'r carchar am brotestio dros S4C a hawliau'r Gymraeg. Byddent wedi atal fy nhad rhag teithio ar ei feic modur o Gaerdydd i greu cymaint o drafferth a sŵn â phosibl yn ystod seremoni agoriadol gywilyddus argae Tryweryn.
Gall yr Aelodau Torïaidd yma siglo eu pennau gymaint ag y maen nhw eisiau. Gallwch ddadlau mai amddiffyn pobl a democratiaeth yw nod Boris Johnson a'i griw, ond mawr obeithiaf fod digon o synnwyr a digon o integriti gyda chi i sylweddoli pa mor ddianghenraid yw cyflwyno ID i bleidleisio. Mae'r achosion o dwyll pleidleisio mor fach.
Un euogfarn am ddynwared pleidleisiwr yn 2017; dim un yn 2018; dim un yn 2019. Maent yn barod i ddifreinio miliynau o'n dinasyddion ein hunain, eu pleidleiswyr eu hunain, i atal un achos o dwyll pleidleisio. Os oes unrhyw wirionedd yn y dywediad treuliedig ynglŷn â defnyddio gordd i dorri cneuen, mae'n wir yn yr achos hwn. Nid oes cyfiawnhad o gwbl dros yr ymateb llawdrwm hwn.
Bydd y Ceidwadwyr yn eistedd yma, byddant yn dal eu trwynau, bydd eu cefnogwyr yn galw'r Prif Weinidog yn unben pot jam am gyflwyno pasys COVID am gyfnod penodol o amser yn ystod argyfwng iechyd cyhoeddus, ond Lywydd, onid ydynt yn deall yr union ddiffiniad o eironi? Pleidleisiodd 99 o ASau Ceidwadol yn San Steffan—y gwrthryfel mwyaf yn erbyn y Llywodraeth hon—yn erbyn pasbortau COVID. O'r 99, pleidleisiodd 85 ohonynt dros gyflwyno dulliau adnabod pleidleiswyr am gyfnod amhenodol. Nid wyf yn cytuno â'i safbwynt, ond o leiaf mae David Davis AS yn gyson yn ei wrthwynebiad i'r pasys COVID a dulliau adnabod pleidleiswyr. Nododd un AS Torïaidd yn Lloegr ei fod yn gwrthwynebu pasys COVID rhag i'r gymdeithas fynd i ddibynnu'n ormodol ar bapur ar gyfer pob dim. Wel, beth am gymdeithas lle mae'n rhaid cael llun adnabod i bleidleisio?
'Rwy'n casáu’r syniad ar egwyddor. Nid wyf am gael fy ngorchymyn, gan unrhyw elfen o'r wladwriaeth Brydeinig, i gynhyrchu tystiolaeth o fy hunaniaeth.
Mae cardiau adnabod yn
'ryseitiau nid yn unig ar gyfer gwastraff ond yn ryseitiau ar gyfer gormes a gorthrwm hefyd'.
Nid fy ngeiriau i, Lywydd, ond geiriau Boris Johnson, yr union ddyn sydd bellach am gyflwyno dulliau adnabod pleidleiswyr, dyn sy'n newid ei farn gyda'r gwynt.
Neu, i aralleirio Gerallt Lloyd Owen, 'gwymon o ddyn heb ddal tro'r trai.'
O leiaf mae Ceidwadwyr yr Alban wedi cwestiynu eu harweinwyr yn San Steffan, ond nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud dim. Maent yn eistedd ar eu dwylo, heb gŵyn na gwrthwynebiad, ac yn parhau'n gwbl ddienw ac yn gwbl amherthnasol yng ngolwg eu meistri yn San Steffan.
Dyma eich cyfle chi, gyfeillion, i ddweud, 'Digon yw digon.'
Neu ai dim ond pan ddywed Boris, 'Cyfarthwch' y gwnewch chi gyfarth? Anghofiwch Dilyn, ci Rhif 10 Stryd Downing, am eiliad; eu harweinydd yn y Senedd yw pwdl Johnson, er nad ydynt yn gwybod ei enw. Ond o leiaf cafodd wobr ddoe am fod yn fachgen da.
Bydd fy nghyfeillion Heledd Fychan, Peredur Owen Griffiths a Sioned Williams yn trafod impact y Bil yma ar ddinasyddion ein gwlad. Hoffwn i ganolbwyntio ar yr effaith ar ein Senedd ni. Er nad yw'r Bil yn effeithio'n uniongyrchol ar etholiadau datganoledig, mae'r impact anuniongyrchol yn hollol blaen i bawb. Yn gyntaf, bydd y Bil yn golygu bod angen ID ar gyfer etholiadau comisiynwyr heddlu. Fel y gwelon ni fis Mai diwethaf, mae etholiadau gwahanol yn gallu digwydd ar yr un pryd, ac mae'n hollol gredadwy i feddwl y byddai pleidleiswyr yn gadael yr orsaf bleidleisio heb bleidleisio yn etholiadau'r Senedd ac mewn etholiadau lleol oherwydd diffyg ID pleidleisio—eu bod nhw'n gweld bod angen ID pleidleisio ac yna'n troi i ffwrdd. Mae'n cymhlethu'r sefyllfa, mae'n cymhlethu system mewn ffordd sy'n hollol ddianghenraid.
Ar ben hyn, mae'n erydu annibyniaeth y Comisiwn Etholiadol. Mae cymal 12 yn nodi bod angen i'r comisiwn ddilyn strategaeth a datganiad polisi Llywodraeth San Steffan. Mae hwn yn nodi blaenoriaethau ar faterion etholiadol ac egwyddorion y disgwylir i'r comisiwn eu gweithredu a chael mesur eu perfformiad wedyn yn erbyn y datganiad a grëwyd gan Lywodraeth San Steffan. Yn wir, caiff y Comisiwn Etholiadol ei ariannu, a chaiff ei ddwyn i gyfrif yn ffurfiol, gan bob Senedd ar yr ynysoedd hyn. Ni ddylai Llywodraeth San Steffan allu dweud wrth y comisiwn beth y mae'n cael, a beth nad yw'n cael ei wneud.
I blaid a sefydlwyd ar egwyddorion Llywodraeth gyfyngedig, mae'n ymddangos bod gwladwriaeth sy'n tresmasu fwyfwy ar gyrff cyhoeddus yn rhan o'r egwyddor Dorïaidd fodern a Johnsoniaeth. Gwelaf fod gwelliant y Torïaid yn honni bod y Comisiwn Etholiadol yn cefnogi dulliau adnabod pleidleiswyr. Nid yw hynny'n wir. Maent yn dweud yn glir mai mater i'r Llywodraeth, nid iddynt hwy, yw cyflwyno polisi newydd.
Hefyd, mae'r gwelliant yn sôn am y Swyddfa Sefydliadau Democrataidd a Hawliau Dynol. Wel, gadewch inni edrych ar bwy sy'n aelodau o'r swyddfa honno. Disgrifir 28 o'r gwladwriaethau sy'n cymryd rhan fel rhai nad ydynt yn rhydd yn wleidyddol, gyda rhai gwledydd ag achosion cyfarwydd o dorri hawliau dynol, megis Belarws. Belarws, a ddisgrifir fel unbennaeth olaf Ewrop, Kazakhstan a Rwsia, dyma'r bobl y mae'r Blaid Geidwadol yng Nghymru yn cydsefyll gyda hwy.
Mae arbrofion gydag ID pleidleisio wedi dangos bod e'n arwain at lai o bobl yn pleidleisio. Ym mheilot San Steffan yn 2019, o'r 1,000 gafodd eu gwrthod oherwydd diffyg ID, ni ddychwelodd 338—un traean heb ddychwelyd. Mewn peilot arall, ble roedd modd dangos ID ffotograffig neu ddau ddarn o ID penodol heb lun, cafodd 2,000 eu gwrthod. Y tro yma, ni ddychwelodd 750. Nid fy ffigurau i, nid ffigurau'r Electoral Reform Society nac unrhyw grŵp arall, ond ffigurau'r union Lywodraeth sydd eisiau cyflwyno ID pleidleisio.
Ar adeg pan fo'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau yn isel, gydag etholiadau cyffredinol oddeutu 60 y cant, a chyda'r Senedd yn ei chael hi'n anodd cyrraedd 50 y cant, pam y byddem am gyfyngu ar nifer y bobl a'u hatal rhag rhannu eu lleisiau a'u barn gyda ni? Ni ddylai unrhyw un sy'n cefnogi'r Bil hwn—ac rwy'n edrych ar fy ffrindiau sy'n eistedd gyferbyn â mi yn y Siambr fel arfer—feirniadu'r Senedd hon byth eto nac unrhyw etholiad arall o ran hynny am nifer isel y pleidleiswyr, os ydynt yn cefnogi, drwy hyn, y dulliau adnabod pleidleiswyr a fydd yn troi pobl ymaith ac yn annog pleidleiswyr rhag pleidleisio. Mae democratiaethau'n cynrychioli lleisiau eu dinasyddion. Nid yw democratiaeth sy'n methu cynnwys ei holl ddinasyddion neu sy'n eu hatal rhag lleisio eu barn yn ddemocratiaeth go iawn. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw nawr ar Darren Millar i gyflwyno'r gwelliant yn ei enw ef. Darren Millar.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu Bil Etholiadau Llywodraeth y DU a'i ddarpariaethau i gryfhau uniondeb etholiadau ledled y Deyrnas Unedig.
Yn nodi bod cyflwyno ID pleidleiswyr wedi'i gefnogi gan y Comisiwn Etholiadol a bod Swyddfa Sefydliadau Democrataidd a Hawliau Dynol y Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithredu yn Ewrop wedi datgan bod ei absenoldeb yn risg diogelwch.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU i wella uniondeb yr holl etholiadau a gynhelir yng Nghymru.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig yn fy enw i.
Rhaid imi ddweud, roeddwn braidd yn siomedig ynghylch cywair araith Rhys ab Owen yno, ac mae'n teimlo ychydig fel pe baem wedi bod yma o'r blaen oherwydd, wrth gwrs, cawsom yr un ddadl yn y bôn ychydig fisoedd yn ôl, wedi'i chyflwyno gan Lywodraeth Cymru. Ond wrth gwrs, ni ddylai fy synnu mwyach fod Plaid Cymru, fel y—. Roedd yn ein cyhuddo ni o fod yn gŵn bach i Rif 10, ond Plaid Cymru yw cŵn bach Llafur Cymru wrth gwrs. Mae gennych gytundeb cydweithio gyda Llafur Cymru ac i bob pwrpas, rydych mewn clymblaid â hi. Felly, mae gennych wyneb, a dweud y gwir, Rhys ab Owen, yn ein cyhuddo ni o fod yn gŵn bach i bobl eraill, a ninnau wedi gweld digon o dystiolaeth yn y Siambr heddiw mewn gwirionedd, yn y Siambr rithwir hon, mai dyna'n union ydych chi a'ch cyd-Aelodau i'r Blaid Lafur.
Er gwaethaf y sioe a wnaethoch ynglŷn â darpariaethau Bil Etholiadau Llywodraeth y DU, y gwir amdani yw bod y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn rhyfeddu at y ffaith eich bod yn gwrthwynebu'r hyn sy'n fesurau cwbl synhwyrol i gyflwyno mesurau diogelwch yn erbyn twyll pleidleisio a fydd yn cryfhau diogelwch ein hetholiadau ledled y DU. Ac yn hytrach na gwrthwynebu'r mathau o ddarpariaethau sydd yn y Bil Etholiadau hwn, gan gynnwys dulliau adnabod pleidleiswyr, y deuaf atynt mewn munud, pam ar y ddaear y byddech am wrthwynebu mesurau yn erbyn dylanwad gormodol? Pam ar y ddaear y byddech am wrthwynebu mesurau yn erbyn bygwth pleidleiswyr? Oherwydd dyma rai o'r darpariaethau eraill rydych chi a Llywodraeth Cymru yn eu gwrthwynebu yn y Bil ar hyn o bryd. Gwyddom i gyd fod twyll etholiadol yn drosedd anfad y mae pob person yn y Siambr hon a'r wlad hon wedi dioddef yn ei sgil.
A gaf fi dorri ar draws, Darren Millar? A ydych chi'n fodlon derbyn ymyriad gan Rhianon Passmore?
Fe dderbyniaf un mewn munud, os caf, Lywydd.
O'r gorau. Gadawaf i chi ddweud wrthym pryd fydd hynny.
A'r realiti yw ei bod yn drosedd y byddwn i gyd yn dioddef yn ei sgil dro ar ôl tro os na fydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r mater.
Fe gyfeirioch chi, Rhys ab Owen, at y nifer gymharol ychydig o achosion o dwyll pleidleisio a nodwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond nid yw'r ffaith nad oes mwy wedi'u nodi yn golygu nad yw'n digwydd, oherwydd wrth gwrs natur twyll yw ei fod yn aml iawn yn digwydd heb ei nodi, heb ei ganfod a heb ei gofnodi. Ond lle mae wedi'i ddarganfod, weithiau mae wedi bod ar raddfa enfawr. Rydym wedi gweld achosion ofnadwy o dwyll yn Tower Hamlets, Slough, Birmingham ac mewn mannau eraill, ac mae wedi amlygu gwendidau mewn trefniadau etholiad y byddai unrhyw Lywodraeth gyfrifol am fynd i'r afael â hwy. Dyna y mae Llywodraeth y DU yn ceisio'i wneud gyda'i Bil Etholiadau.
Mae hyn yn mynd i atal pobl rhag dwyn pleidleisiau pobl eraill drwy ei gwneud yn ofynnol i bleidleiswyr gyflwyno llun adnabod pan fyddant yn cyrraedd gorsaf bleidleisio. Bydd yn mynd i'r afael â gwendidau yn y trefniadau pleidleisio drwy'r post a phleidlais drwy ddirprwy. Ac ar fater dulliau adnabod pleidleiswyr, gwn eich bod yn gwrthwynebu'r ddarpariaeth hon, a'r Llywodraeth Lafur hefyd, ond wrth gwrs Llywodraeth Lafur a gyflwynodd ddulliau adnabod pleidleiswyr yng Ngogledd Iwerddon, lle mae'n gweithio'n dda, ac yn aml iawn, yng nghyfarfodydd y blaid Lafur, rwy'n credu fy mod yn gywir i ddweud wrth fy nghyd-Aelodau Llafur yn y Senedd rithwir hon y prynhawn yma, yn aml iawn rhaid i chi ddangos eich cerdyn aelodaeth er mwyn pleidleisio.
Rwyf bellach wedi cael ail gais i ymyrryd gan Aelod Llafur arall, Jenny Rathbone.
O'r gorau, fe dderbyniaf y ddau ymyriad.
Iawn, Rhianon Passmore yn gyntaf, a Jenny Rathbone, ac yna gall Darren ymateb i'r ddau ymyriad.
Diolch, Lywydd, a diolch am dderbyn yr ymyriad. Mae'n gwestiwn syml iawn, ac mae'n mynd at wraidd rhai o'r pwyntiau a wnaethpwyd, Darren Millar. Sut y mae'n dda i ddemocratiaeth os yw'n anos cofrestru i bleidleisio ac felly'n anos pleidleisio?
Jenny Rathbone.
Sylwaf nad ydych wedi dweud wrthym faint sydd yng Nghymru. Nid wyf erioed wedi dod ar ei draws yng Nghymru o gwbl. Felly, sut y byddech yn ymateb i fy etholwr a ddywedodd na fydd ei rhieni'n gallu pleidleisio am nad oes ganddynt basbort ac nad ydynt yn gyrru?
Felly, dulliau adnabod pleidleiswyr—fe wnaf ymateb i'r ddwy ohonynt, oherwydd yr un pwynt ydyw i bob pwrpas—nid yw dulliau adnabod pleidleiswyr yn fygythiad. Mae gan 98 y cant o'r etholwyr ddulliau adnabod ffotograffig addas eisoes y byddent yn gallu eu defnyddio er mwyn pleidleisio, a bydd y rhai nad oes ganddynt ddulliau adnabod ffotograffig o'r fath ar hyn o bryd yn gallu cael cardiau adnabod pleidleiswyr am ddim gan eu hawdurdod lleol. Mae hynny'n wir yng Ngogledd Iwerddon, lle mae'r system yn gweithio'n dda iawn heb unrhyw broblemau, a bydd hynny'n wir yma yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y DU hefyd. Ac yn wir, nid oes rhaid ichi gymryd fy ngair i am hynny, mae'r Comisiwn Etholiadol wedi dweud yn glir iawn, ac rwy'n dyfynnu,
'ers cyflwyno cerdyn adnabod â llun yng Ngogledd Iwerddon, na chafwyd unrhyw achosion o ddynwared. Mae ffydd pleidleiswyr bod etholiadau'n cael eu cynnal yn dda yng Ngogledd Iwerddon yn gyson uwch nag yn unrhyw le arall yn y DU'.
Felly, nid oes a wnelo hyn ag ideoleg, mae'n ymwneud â mesurau synhwyrol. Y realiti yw bod angen llun adnabod yn y rhan fwyaf o wledydd democrataidd y gorllewin. Bron ym mhobman yn Ewrop, mae'n ofynnol i bobl ddangos llun adnabod er mwyn pleidleisio. Mae pob gwlad yn Ewrop, ac eithrio Denmarc, lle mae'n rhaid i chi ei ddarparu os gofynnir i chi wneud hynny. Felly, y DU yw'r eithriad ar hyn o bryd.
Fe sonioch chi am Swyddfa Sefydliadau Democrataidd a Hawliau Dynol y Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithredu yn Ewrop ac roeddwn yn siomedig ynglŷn â'ch sylwadau dilornus am y swyddfa a'r sefydliad hwnnw. Mae eisoes wedi nodi bod diffyg dulliau adnabod pleidleiswyr yn peri risg diogelwch i'n hetholiadau. Nawr, rwyf am weld y risg i ddiogelwch yn cael ei dileu, a dylai pob Aelod o'r Senedd hon ac unrhyw un arall sy'n cael ei ethol gan bobl Cymru fod eisiau hynny hefyd.
Mae Plaid Cymru a Llafur yn aml yn dadlau eu bod yn gwrthwynebu dulliau adnabod pleidleiswyr oherwydd eu bod yn honni y byddai lleiafrifoedd dan anfantais am eu bod yn llai tebygol o fod â dulliau adnabod yn eu meddiant. Rwyf wedi clywed hynny'n cael ei ddweud, nid gennych chi heddiw, Rhys ab Owen, ond rwyf wedi ei glywed yn cael ei ddweud mewn mannau eraill. Nid oes unrhyw dystiolaeth yn sail i'r honiad hwn. Yn wir, mae data'n dangos bod gan 99 y cant o bobl o leiafrifoedd ethnig ffurf ar lun adnabod a fyddai'n eu galluogi i bleidleisio, o'i gymharu â 98 y cant o bobl sy'n nodi eu bod yn wyn. Felly, mae braidd yn siomedig fod rhai pobl yn dal i wneud y pwynt hwnnw.
Cawsom ein cyhuddo o ragrith yn gynharach, ond mae'n eithaf syfrdanol fod Llafur a Phlaid Cymru yn parhau gyda'u gwrthwynebiad i ddulliau adnabod pleidleiswyr a chithau wedi bod yn ei gwneud yn ofynnol i bobl wirio eu hunaniaeth yn y misoedd diwethaf er mwyn cael pasys COVID i wylio ffilm yn eu sinema leol. Os ydych chi'n hapus i osod gofynion adnabod i wylio'r ffilm Spider-Man ddiweddaraf, pam y mae gennych broblem gyda'i gwneud yn ofynnol i bobl ddangos dull adnabod er mwyn pleidleisio? Mae'n rhaid i bobl ddangos tocyn bws gyda'u henw arno er mwyn neidio ar fws i deithwyr; pam na ddylai fod yn ofynnol i bobl gynhyrchu dull adnabod er mwyn cymryd rhan yn y mandad democrataidd pwysig y gofynnwn iddynt ei wneud o bryd i'w gilydd yma yng Nghymru yn yr etholiadau?
A gair cyflym i gloi ynglŷn ag ymgyrch Hands Off Our Vote. Dyna'n union y mae'r Llywodraeth yn ceisio'i wneud. Mae Llywodraeth y DU yn ceisio cadw dwylo pobl oddi ar bleidleisiau pobl eraill. Mae'n ceisio diogelu pleidleisiau pobl rhag pobl eraill sydd am eu dwyn. Ac mae awgrymu bod Llywodraeth y DU yn rhyw fath o weithredwr ysgeler yn camliwio'r ffeithiau yn ofnadwy. Felly, yn hytrach na chwyno am Fil Etholiadau Llywodraeth y DU, yr hyn y dylai'r glymblaid Llafur-Plaid Cymru fod yn ei wneud yn lle hynny yw ei gwneud yn flaenoriaeth i fabwysiadu'r darpariaethau yn y Bil penodol hwn a sicrhau eu bod yn berthnasol i bob etholiad sy'n digwydd yng Nghymru, gan gynnwys y rhai y mae'r Senedd yn gyfrifol amdanynt, oherwydd mae angen inni sicrhau y gall pleidleiswyr yma fod yn hyderus pan fyddant yn bwrw eu pleidlais, eu bod yn gwneud gwahaniaeth a bod yr etholiadau hynny'n rhydd, yn deg ac yn ddiogel. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i wrthod y cynnig ac i gefnogi'r gwelliant a gyflwynwyd gennym ni. Diolch.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at siomi Darren Millar heno gyda fy nghyfraniad. Gadewch i ni gwestiynu rhai o'i ystadegau ar y dechrau, gan y gallaf innau hefyd ddyfynnu'r Comisiwn Etholiadol. Fel y gwyddoch, nid oes gan y DU gerdyn adnabod cenedlaethol, yn wahanol i wledydd eraill, ac nid oes gan 3.5 miliwn o bleidleiswyr cofrestredig unrhyw fath o lun adnabod, ac nid oes gan 11 miliwn drwydded yrru na phasbort. Felly, gallwch ddyfynnu'r ystadegau hyn, ond bydd hyn yn difreinio miliynau o bobl.
Ers i’r cynlluniau gael eu gwyntyllu ar gyfer ei gwneud yn orfodol i bawb orfod cyflwyno dull o ID fel hyn i bleidleisio, mae Plaid Cymru wedi gwrthwynebu hyn, a byddwn yn parhau i wrthwynebu hyn. Yn 2019, fe wnaethon ni lofnodi llythyr ar y cyd gan y gwrthbleidiau yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddileu'r polisi, ac, fel rydym wedi clywed, fe wnaethon ni wrthwynebu'r LCM, gan anfon neges gref gan y Senedd hon i Lywodraeth San Steffan nad ydym yn cefnogi hyn yma yng Nghymru.
Mae ID pleidleiswyr gorfodol yn gam a fydd yn difreinio yn benodol pleidleiswyr iau a phobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, sy'n llai tebygol o fod â'r dogfennau gofynnol i bleidleisio. Mae'r gwahaniaeth cynyddol rhwng etholiadau y Deyrnas Unedig a rhai datganoledig Cymru yn peri pryder, o gofio bod hawliau pleidleisio ar gyfer etholiadau Cymru wedi'u hymestyn i bawb dros 16 oed, gan gynnwys gwladolion tramor sy'n byw yng Nghymru. Er bod etholiadau Cymru yn dod yn fwy cynhwysol a democrataidd, nid yw’r un peth yn wir am etholiadau San Steffan, sydd yn mynd ar drywydd cwbl groes i hynny.
Mae ffigurau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei hunan yn dangos y gallai 2 filiwn o bobl, gan gynnwys bron i 100,000 o bobl yng Nghymru, golli'r gallu i bleidleisio o ganlyniad i'r cynlluniau hyn. Ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi derbyn nifer o rybuddion gan grwpiau ymgyrchu am broblemau'r polisi a'u bod yn gorymateb i broblem twyll pleidleiswyr, sy'n digwydd yn anaml iawn. Ble mae'r ffeithiau o ran hynny? Mi oedd Jenny Rathbone yn iawn i godi hynny o ran Cymru. Yn wir, canfu dadansoddiad gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn 2019 o’r 266 honiad a ymchwiliwyd gan yr heddlu yn etholiadau lleol 2018 mai dim ond wyth oedd yn ymwneud gyda dynwared pleidleiswyr, sef y broblem honedig mae ID pleidleiswyr yn ceisio ei thaclo. O'r wyth achos, ni chymerwyd unrhyw gamau mewn saith, a chafodd un ei ddatrys yn lleol. Roedd 140 o'r honiadau yn ymwneud â throseddau ymgyrchu. Yn 2020, ymchwiliodd yr heddlu i 15 achos o dwyll pleidleiswyr, a dim ond tri sy'n parhau i gael eu harchwilio.
Mae cenedl wirioneddol ddemocrataidd yn un sy'n grymuso ei dinasyddion i gymryd rhan mewn prosesau democrataidd. Yn etholiad y Senedd ym mis Mai, gwyddom nad oedd o leiaf 35,000 o bobl ifanc 16 ac 17 oed wedi manteisio ar y cyfle i bleidleisio am y tro cyntaf. Methodd 54 y cant o'r braced oedran hwn â chofrestru. Yn wir, 76.4 y cant yw cyfradd cofrestru'r boblogaeth gyffredinol yng Nghymru; mae cyfrifoldeb arnom oll i wella hyn. Yn ôl adroddiad gan y Comisiwn ar Wahaniaethau Hiliol ac Ethnig a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2020, nid yw 25 y cant o Brydeinwyr du wedi cofrestru i bleidleisio. Parwch hyn gyda data'r Llywodraeth ei hun nad oes gan 48 y cant o bobl ddu drwydded yrru.
Gwyddom bod cysylltiad cryf rhwng bod yn rhan o’r broses ddemocrataidd a chyflawniad, a dylai fod yn amlwg felly i bawb y dylai’r gwaith o ddiwygio'r bleidlais fod yn edrych yn benodol ar gynhwysiant, yn hytrach na’i gwneud yn anos i bobl bleidleisio. Mae democratiaeth iach yn amhrisiadwy, ond mae’r newidiadau hyn yn awgrymu bod yna gost ynghlwm â bod yn wlad ddemocrataidd, sef £34 os ydych yn gwneud cais ar-lein neu £43 drwy'r post, sef y ffi am drwydded yrru gyntaf, neu £75.50 ar-lein neu £85 drwy’r post am basport. Yng Nghymru, mae pobl yn wynebu prisiau ynni a thanwydd uchel, toriadau i gredyd cynhwysol, trethi uwch a chwyddiant cynyddol. Ydyn ni wir yn meddwl bod gan bawb yr arian i dalu am drwydded yrru neu basport, yn arbennig os nad oes ganddynt gar na bwriad i fynd dramor? [Torri ar draws.] Grêt, Darren, hapus iawn i gymryd—
Heledd, a wnewch chi gymryd ymyriad oddi wrth Darren Millar?
Ie, grêt.
Diolch. Diolch, Heledd, am dderbyn yr ymyriad. Bydd y lluniau adnabod y bydd pobl yn gallu eu cael os nad oes ganddynt basbort neu drwydded yrru yn rhad ac am ddim. Felly, nid wyf yn siŵr pam eich bod yn honni y bydd baich ariannol ar unigolion nad oes ganddynt lun adnabod eisoes. Fe'u darperir yn rhad ac am ddim yng Ngogledd Iwerddon, ac mae'r Bil yn nodi'n benodol nad oes rhaid i unigolion dalu amdanynt.
Ond nid oes eglurder ynghylch pryd y bydd hyn ar gael, na sut. Mae'n ychwanegu rhwystr arall rhag gallu cymryd rhan. Mae yna gost hefyd i awdurdodau lleol ei ddarparu. A phan gynhaliodd y Llywodraeth gynllun peilot dulliau adnabod pleidleiswyr yn 2018, cafodd dros 1,000 o bleidleiswyr eu troi i ffwrdd am nad oedd ganddynt ddull adnabod o'r math cywir. Ac ar gyfartaledd, ni ddychwelodd 338 o bleidleiswyr i bleidleisio, felly cafodd 32.6 y cant o'r rheini eu troi i ffwrdd. Felly, nid mater o gael y dull adnabod yn unig ydyw—mae'n ymwneud â rhoi'r rhwystrau hynny ar waith.
Er bod Gweinidogion y Deyrnas Unedig wedi addo'r ID am ddim, fel roeddwn i'n sôn rŵan, dydy’r manylion ynglŷn â hyn ddim ar gael eto, ac onid ydy o’n rhoi un rhwystr arall i atal pobl rhag pleidleisio?
Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn mynd i'r afael â'r materion sydd yn wirioneddol broblematig yn ein gwleidyddiaeth, a’i gwneud yn haws i bawb bleidleisio a bod yn rhan o’n democratiaeth. Dydyn ni ddim yn gynrychioladol fel Senedd, ac mae rhoi mwy o rwystrau yn mynd i stopio mwy o bobl rhag bod yn rhan o'r broses ddemocrataidd hon. Mae gennym system etholiadol anghyfartal. Bydd cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud sefyllfa wael yn waeth. Rhaid gwneud popeth i atal hyn rhag digwydd yma yng Nghymru.
Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen yn y Siambr hon, mae ein democratiaeth wedi'i hadeiladu ar sylfaen o etholiadau teg, agored a hygyrch. Ein swyddogaeth yn y Senedd yw grymuso pobl Cymru, ac yn eu tro, rydym ni fel eu cynrychiolwyr etholedig yn cael ein grymuso gan y ffydd y maent yn ei rhoi ynom yn y blwch pleidleisio. Gwn y bydd llawer o Aelodau o bob rhan o'r Siambr hon wedi ymuno â mi i fanteisio ar gyfleoedd i gyfarfod â disgyblion ysgol yn ein hetholaethau, a thrafod gyda hwy pa mor bwysig yw pleidleisio a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed ar adeg etholiad. Gwnawn hyn oherwydd bod annog cyfranogiad yn ein democratiaeth yn ganolog i'n rôl fel cynrychiolwyr etholedig. Democratiaeth iach yw un lle mae'r etholwyr yn teimlo y gallant ymwneud â hi, un sydd mor dryloyw â phosibl ac yn rhydd o rwystrau diangen i gyfranogiad. Er ein bod wedi gweld yn yr wythnosau diwethaf nad yw tryloywder yn uchel ar restr blaenoriaethau'r Llywodraeth Dorïaidd, mae'r Bil Etholiadau yn brawf nad yw annog pobl i gymryd rhan yn ein prosesau democrataidd yn uchel ar y rhestr honno ychwaith.
Nid oes sail dystiolaethol i gyflwyno llun adnabod gorfodol ar gyfer pleidleisio. Mae'n datrys problem nad yw'n bodoli ar raddfa sy'n agos at fod yn angenrheidiol i ddylanwadu ar etholiad, a hynny ar gost eithriadol. Yr hyn a wyddom, fodd bynnag, yw y bydd yn gwneud pleidleisio'n llai hygyrch, yn enwedig i'r rhai o gymunedau difreintiedig. Mae'n ffaith bod y rhai lleiaf tebygol o fod â dull adnabod ffotograffig yn dod o aelwydydd tlotach. Ni ddylid byth ystyried ei bod yn dderbyniol gosod rhwystrau artiffisial i gyfranogiad sy'n effeithio'n anghymesur ar rai cymunedau. Mae'n peri pryder mawr imi glywed y rheini ar feinciau'r Ceidwadwyr yn amddiffyn cam o'r fath, ac rwy'n ddiolchgar iawn fod gennym Lywodraeth Lafur Cymru, a Chwnsler Cyffredinol yn enwedig sy'n ymroddedig i ddiogelu hawliau democrataidd holl bobl Cymru. Hyderaf y bydd yn parhau i fanteisio ar bob cyfle i ddwyn y pryderon hyn i sylw Llywodraeth y DU. Nid oes gennyf amheuaeth nad yw'r Bil Etholiadau yn bygwth lefelau cyfranogiad ar gyfer etholiadau a gadwyd yn ôl yn fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru. Dylai Aelodau yma yn y Senedd ac yn San Steffan, o bob plaid wleidyddol, ganolbwyntio eu hegni ar ysbrydoli pob darpar bleidleisiwr i gymryd rhan yn ein democratiaeth, yn hytrach na chreu ffyrdd o'u cymell i beidio â gwneud hynny. Diolch yn fawr.
Rwy'n dychmygu bod y rhan fwyaf ohonom sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon wedi treulio cryn dipyn o amser yn cerdded strydoedd ein hardaloedd, yn curo ar ddrysau ac yn siarad gwleidyddiaeth â dieithriaid. Mae'n un agwedd ar fod yn aelod o blaid wleidyddol rwy'n ei mwynhau'n fawr. O bryd i'w gilydd, gall wneud i chi deimlo braidd yn ddiobaith pan ddowch ar draws rhywun nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth. Nid ydynt yn ystyried pleidleisio o gwbl am na allant weld sut y gall gwleidyddiaeth effeithio ar eu bywydau. Ar adeg pan ddylem wneud popeth yn ein gallu i ymgysylltu â phobl a'u hannog i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, dyma rywbeth a allai wneud y gwaith yn llawer anos drwy amddifadu cannoedd o filoedd o bobl o bleidlais.
Mae'r rhesymeg dybiedig sy'n sail i'r Bil, yr angen i leihau twyll pleidleiswyr, yn eithriadol o annoeth a diangen ar y gorau. Ar ei gwaethaf, mae'n ymgais amlwg i wrthod pleidlais i bobl sydd efallai'n fwy tebygol o bleidleisio yn erbyn y Torïaid a'u polisïau. Pam y dywedaf nad oes sail i'r Bil hwn? Yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf, cafwyd cyfanswm o dri erlyniad am dwyll pleidleisio ledled y DU. Fe wnaf ailadrodd hynny: tri erlyniad mewn wyth mlynedd. Mae Boris Johnson wedi cael mwy o bartïon sy'n groes i'r cyfyngiadau symud na hynny yn ystod y pandemig. Yn lle'r Bil hwn, efallai y dylem fod yn cyflwyno Bil sy'n cwtogi ar weithgareddau anghyfreithlon honedig y Prif Weinidog diegwyddor hwn.
Beth bynnag, fel llefarydd Plaid Cymru dros bobl hŷn, rwy'n arbennig o bryderus ynghylch yr effaith y bydd y Bil hwn yn ei chael ar bobl hŷn. Bydd hanner y bobl yr effeithir arnynt dros 50 oed, gyda mwy nag un o bob 25 o bobl dros 50 oed heb fathau derbyniol o ddulliau adnabod. Mae'r duedd i symud gwasanaethau ar-lein hefyd yn berthnasol i gardiau adnabod. Yn 2016, canfu Age UK fod mwy na chwarter y bobl rhwng 65 a 74 oed heb fod yn defnyddio'r rhyngrwyd yn rheolaidd. Mae'r ffigur yn codi i bron i ddwy ran o dair o bobl dros 75 oed. Mae allgáu digidol ymhlith pobl hŷn yn broblem go iawn, ac yn awr gallai olygu nad fyddant yn cael pleidleisio. Rwy'n gobeithio y bydd y rheini sydd o blaid y Bil hwn yn y Senedd hon yn ystyried y pwynt hwnnw'n ofalus cyn iddynt fwrw eu pleidlais y prynhawn yma. Diolch yn fawr.
Diolch i Rhys am y ddadl bwysig yma.
Gadewch i ni gymryd cam yn ôl a meddwl am yr hyn y gallai'r Bil hwn fod wedi ymwneud ag ef. Gallai fod wedi ymwneud â chryfhau ein democratiaeth drwy gefnogi ymdrechion i adeiladu gwell gwleidyddiaeth gyda system etholiadol decach. Gallai fod wedi ceisio ehangu'r etholfraint, grymuso pleidleiswyr a chymunedau, cynyddu nifer y pleidleiswyr sy'n pleidleisio, ac ailadeiladu ymddiriedaeth yn ein system etholiadol. Yn hytrach, mae Gweinidogion Ceidwadol wedi pleidleisio dros ei gwneud yn anos i bobl bleidleisio, dros fynd ati i ddifreinio pobl a gwneud ein system etholiadol yn llai cynrychioliadol.
Rwy'n ddiolchgar am waith ymgyrchwyr fel Maddy Dhesi, sy'n arwain ymgyrch Hands Off Our Vote. Mae'n ymgyrch sy'n cael ei harwain gan bobl ifanc i gadw etholiadau'n deg ac yn hygyrch i bob pleidleisiwr. Ac maent yn gwneud y pwynt yn glir iawn: ar adeg pan fo nifer y pleidleiswyr sy'n pleidleisio yn parhau i ostwng a difaterwch cyhoeddus yn parhau i godi, mae mesurau sy'n ei gwneud yn anos i bobl gymryd rhan yn tanseilio ein democratiaeth, a'n cymdeithas hefyd yn y pen draw. Nid yn unig y mae cynigion ar gyfer dulliau adnabod pleidleiswyr yn wahaniaethol ond fel y clywsom, maent yn amlwg yn tanseilio ein hawliau democrataidd, ac mae'r cynlluniau hyn yn gwbl anghymesur.
Felly, rwyf am gloi fy araith fer gyda phwynt gwleidyddol, gan siomi Darren Millar eto. Y rheswm am hyn yw mai dadl ynglŷn â gwerthoedd yw hon, boed mewn perthynas â'r Bil hwn, bygythiadau lled eglur i'n darlledwr cenedlaethol neu waharddiad llym ar brotestiadau, mae Boris Johnson a'i Lywodraeth yn benderfynol o osgoi atebolrwydd ar bob gafael; nid yw'n syndod, o ystyried eu hymddygiad diweddar. Felly, prin ei bod hi'n syndod fod y Ceidwadwyr yn awyddus i ymwreiddio o fewn system sy'n magu'r ymdeimlad o hawl a'r ymddygiad hunanlesol rydym wedi'i weld dros yr wythnosau diwethaf. Mae hwn yn fesur cywilyddus ac anghymesur i danseilio democratiaeth gan y Ceidwadwyr. Diolch yn fawr iawn.
Yn eu cyfraniadau i'r ddadl prynhawn yma, mae fy nghyd-Aelodau o Blaid Cymru wedi tynnu sylw at bryderon sy'n cael eu rhannu gan nifer o fudiadau, elusennau a sefydliadau eraill. Y bobl sydd mewn mwyaf o risg o golli eu llais democrataidd yn sgil y Bil hwn yw'r rheiny o grwpiau sydd eisoes wedi'u difreinio. Ddoe, fe soniais i mewn perthynas â Diwrnod Cofio'r Holocost mor wyliadwrus sydd angen inni fod fel gwleidyddion ac fel dinasyddion i warchod hawliau sifil, yn enwedig o ran sicrhau nad oes gan ddeddfwriaeth unrhyw fath o effaith anghymesur ar leiafrifoedd, effaith a fyddai'n eu hanfanteisio, eu hesgymuno o gymdeithas, eu tawelu, ac mae tystiolaeth ryngwladol yn profi bod mesurau fel mynnu ID ffotograffig penodol er mwyn bwrw eich pleidlais yn gwneud yn hynny. Ac ar adeg—diolch i ymddygiad gwarthus, llwgr, celwyddog Llywodraeth Boris Johnson a'u sgandalau niferus—pan fo ymddiriedaeth pobl yn y drefn wleidyddol yn plymio, mae angen grymuso llais etholwyr, nid eu cau mas o'r system ddemocrataidd a chreu mwy o ddrwgdybiaeth a dadrithiad.
Hoffwn ganolbwyntio ar sut mae'r Bil yn effeithio'n anghymesur ar rai grwpiau penodol. Mae pobl LHDTC+ deirgwaith yn fwy tebygol na'r boblogaeth gyffredinol o fod heb unrhyw lun ID, gyda 38 y cant o bobl draws a 35 y cant o bobl anneuaidd yn mynegi eu bod wedi cael problemau yn cael eu ID wedi'i dderbyn.
Canfu ymchwil gan Stonewall fod 34 y cant o bobl draws ac anneuaidd y cafodd eu dulliau adnabod eu hamau neu eu gwrthod yn y gorffennol yn nodi mai'r broblem oedd gwahaniaeth rhwng lluniau ac ymddangosiad. Dywedodd 32 y cant nad oedd eu dulliau adnabod yn cyd-fynd â'u henwau a roddwyd. Dywedodd 20 y cant nad oedd y dynodwr rhywedd yn cyfateb i'w hymddangosiad. Nododd 16 y cant elyniaeth a thrawsffobia. Dywedodd dros hanner y pleidleiswyr traws ac anneuaidd eu bod yn llai tebygol o bleidleisio pe bai'n rhaid iddynt gyflwyno dull adnabod.
Allwn ni ddim ar un llaw ddweud ein bod ni'n cefnogi hawliau grwpiau fel pobl draws ac anneuaidd mewn meysydd polisi fel iechyd ac addysg, ond yna ganiatáu amharu ar eu gallu sylfaenol i fynegi eu barn ddemocrataidd.
Bydd y Bil hwn hefyd yn effeithio'n anghymesur ar bobl ifanc, fel dŷn ni wedi clywed yn barod. Mae ein holl ymdrechion yma i sicrhau bod pobl ifanc yn ymgysylltu â'r broses ddemocrataidd drwy ehangu'r bleidlais i bobl 16 ac 17 oed drwy sefydlu ein Senedd Ieuenctid, drwy'r gwaith ardderchog mae'r Senedd yn ei wneud wrth ymgysylltu â cholegau ac ysgolion oll yn brawf o'r ffaith ein bod yn deall bod angen meithrin a chynyddu nifer y bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y broses etholiadol, ac fe glywsom ni'r ystadegau gan Heledd Fychan sy'n profi hyn. Bydd y gofynion ID yn gwneud y gwrthwyneb. Un enghraifft o sut y bydd yn gwneud hyn yw bod cardiau teithio i'r rhai dros 60 oed yn cael eu derbyn fel mathau cyfreithlon o ID ffotograffig y gellid eu defnyddio i bleidleisio, ond ni fydd cardiau adnabod myfyrwyr na chardiau teithio pobl ifanc yn cael eu derbyn, ac mae pobl ifanc lawer yn fwy tebygol o fod heb basbort neu drwydded yrru na phobl hŷn. Ac mae'r ffaith bod nifer o oedolion ifanc yn fwy tebygol o fod yn newid cyfeiriad yn aml yn ei gwneud hi'n llawer anoddach iddyn nhw gadw eu dogfennau adnabod yn gyfredol ac felly'n dderbyniol i'w defnyddio wrth bleidleisio.
Mae pobl ddall a rhannol ddall yn profi cyfres unigryw o heriau wrth bleidleisio. Mae'r weithred ymarferol o bleidleisio, rhoi croes mewn lle penodol ar ddarn o bapur, yn ymarfer gweledol yn y bôn. Mae'n galw am allu i leoli'r blychau, darllen enwau'r ymgeiswyr a gwneud marc ar y papur. Mae'r darpariaethau presennol a ddarperir ym mhob gorsaf bleidleisio i ganiatáu i bobl ddall a rhannol ddall bleidleisio yn cynnwys papur pleidleisio print bras y gellir ei ddefnyddio i gyfeirio ato a dyfais bleidleisio gyffyrddadwy. Ond yn ymarferol, oherwydd yr anallu hwn i ddarllen enwau'r ymgeiswyr ar y papur pleidleisio, mae'r rhan fwyaf o'r 350,000 o bobl ddall a rhannol ddall yn y DU ar hyn o bryd yn ei chael yn amhosibl pleidleisio heb orfod rhannu eu pleidlais gyda chydymaith neu swyddog llywyddu yn yr orsaf bleidleisio, ac yn aml gwelant fod yn rhaid iddynt ddweud yn uchel pwy yw'r ymgeisydd y maent eisiau pleidleisio drosto. O ganlyniad, er ei bod yn 150 mlynedd yn 2022 ers i Ddeddf Bleidleisio 1872 sicrhau'r hawl i bleidleisio'n gyfrinachol, nid yw'r mwyafrif llethol o bobl ddall a rhannol ddall yn gallu arfer yr hawl hon. Ond yn hytrach na datblygu ffordd newydd o bleidleisio'n annibynnol, mae'r Bil Etholiadau hwn yn gwanhau'r gwarantau sydd eisoes yn bodoli mewn deddfwriaeth ar gyfer pobl ddall a rhannol ddall, gan ganiatáu i swyddogion canlyniadau unigol, yn hytrach na'r Llywodraeth, wneud y penderfyniad ynghylch yr hyn sydd i'w ddarparu, a chreu loteri cod post o'r ddarpariaeth.
Ni ddylid tanseilio hawl neb i bleidleisio. Mae pawb sy'n gymwys i bleidleisio yn haeddu cael gwneud hynny, ond hefyd dylent allu disgwyl i'w Llywodraethau eu hannog i wneud hynny, eu galluogi i wneud hynny a dileu unrhyw rwystrau a allai eu hatal rhag gwneud hynny. O dan yr wyneb, nid yw'r Bil yn ddim mwy na dull ymosodol o atal pleidleiswyr rhag pleidleisio; tacteg adweithiol, warchodol, gyfarwydd i dawelu dadleuon, i ddifreinio'r rhai a allai bleidleisio dros wahanol fathau o gynrychiolaeth a pholisïau a phŵer cynhaliol y breintiedig. Rhaid inni wneud popeth yn ein gallu yng Nghymru i rwystro'r Bil hwn rhag cael ei weithredu. Diolch.
Rwy'n credu fy mod, fel fy nghyd-Aelod, Darren Millar, yn profi déjà vu, oherwydd cawsom yr union ddadl hon ychydig wythnosau cyn toriad y Nadolig. Gwn fod gan Blaid Cymru gytundeb cydweithio â Llywodraeth Cymru, ond nid oeddwn yn gwybod ei fod yn golygu ailadrodd dadleuon anfynych y Llywodraeth. Yn amlwg, nid oes gan Blaid Cymru na'u pypedfeistri unrhyw syniadau newydd. Mae ein gwasanaethau cyhoeddus ar eu gliniau, ac yn hytrach na thrafod ffyrdd o ddatrys yr argyfwng, byddai'n well gan Blaid Cymru, unwaith eto, drafod dadleuon cyfansoddiadol neu etholiadol. Mae'n ymddangos mai dulliau adnabod pleidleiswyr yw eu bwgan newydd, ymgais arall i ledaenu ofn, ansicrwydd ac amheuaeth. Lledaenu ofn na fydd pobl yn gallu pleidleisio, lledaenu ansicrwydd ynghylch dilysrwydd etholiadau yn y dyfodol, lledaenu amheuaeth ynglŷn â'r angen am newidiadau o'r fath. Mae'r rhain i gyd yn ddadleuon cyfeiliornus, ac mae dulliau adnabod pleidleiswyr yno i atal pleidleiswyr twyllodrus, nid rhai cyfreithlon. Mae hyn—
A wnewch chi dderbyn ymyriad gan Heledd Fychan, Gareth Davies?
Na, ddim ar hyn o bryd. Rwyf newydd ddechrau, felly rwyf am fwrw ymlaen.
Iawn. Eich dewis chi. Parhewch.
Diolch. Ni ddaeth y cynigion hyn gan y Llywodraeth. Y Comisiwn Etholiadol a awgrymodd yr angen am ddulliau adnabod pleidleiswyr, ac nid plot Torïaidd i atal pleidleiswyr adain chwith rhag cymryd rhan mewn etholiadau ydyw. Nid oes angen cynllwynion Maciafelaidd o'r fath, oherwydd mae'r Blaid Lafur yn dda iawn am droi pleidleiswyr i ffwrdd ar eu pen eu hunain. Nid oes ond angen i chi edrych ar gwymp y wal goch yn 2019. Ond o ddifrif, nid yn unig fod rheswm da dros wneud y newidiadau hyn i'n systemau pleidleisio, maent yn hanfodol os ydym am gynnal ffydd yn y system. Mae Plaid Cymru a Llafur yn credu nad oes angen newid. Maent yn honni na fu unrhyw achosion o dwyll pleidleiswyr yng Nghymru erioed, felly nad oes angen dulliau adnabod pleidleiswyr yn etholiadau Cymru. Ond nid ydym erioed wedi dioddef ymosodiad gan derfysgwyr ar ystad y Senedd, felly pam y trafferthwn gael swyddogion diogelwch a heddlu arfog? Ac nid oes neb wedi torri i mewn i fy nhŷ erioed, felly pam rwy'n trafferthu cloi fy nrysau a chael larwm lladron?
Rydych wedi cynhyrchu mwy o geisiadau—tri, mewn gwirionedd—am ymyriadau.
Gallaf ddychmygu fy mod. [Chwerthin.]
Gallaf ddweud wrthych pwy ydynt a gallwch chi benderfynu a ydych am eu derbyn: Rhianon Passmore, Jack Sargeant, Jane Dodds a Heledd Fychan. Rydych chi'n boblogaidd iawn, Gareth Davies.
Rwy'n credu bod hynny'n ormod braidd, felly rwyf am barhau. Mae amser yn brin.
Iawn, eich dewis chi yw bwrw ymlaen. Mae gennych ddigon o amser ac rwy'n rhoi mwy o amser ar gyfer ymyriadau, ond parhewch.
Iawn, mae'n dda gwybod hynny. Diolch.
Byddem yn rhoi mesurau ar waith i atal ymosodiadau o'r fath. Efallai nad yw ein system bleidleisio yma yng Nghymru wedi profi twyll pleidleisio eang, ond rydym yn defnyddio'r un system ag y maent yn ei defnyddio ar yr ochr arall i Glawdd Offa. A chafwyd nifer o enghreifftiau o dwyll pleidleiswyr yn Lloegr; rwy'n credu mai sgandal Tower Hamlets yn 2014 sy'n dod i'r cof. A Swyddfa Sefydliadau Democrataidd a Hawliau Dynol y Sefydliad Diogelwch a Chydweithredu yn Ewrop, sefydliad sy'n arsylwi ar etholiadau ledled y byd, a fynegodd bryderon ynghylch yr anallu i wrthsefyll twyll a welsant yn systemau pleidleisio'r DU. Felly, yn sicr, rydym angen y newid, a diolch byth, mae Llywodraeth y DU yn gweithredu newid ar gyfer etholiadau San Steffan; maent wedi diogelu eu hetholiadau, ond rydym ni'n gadael y drws ar agor led y pen. Yn anffodus, bydd gelyniaeth Llafur yn golygu bod ein hetholiadau yng Nghymru yn parhau i fod yn agored i dwyll eang. Ac os yw'r Aelodau yn poeni o gwbl am ddiogelwch a dilysrwydd etholiadau Cymru yn y dyfodol, hoffwn eu hannog i gefnogi ein gwelliant heno. Diolch.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad nawr i gyfrannu i'r ddadl—Mick Antoniw.
Diolch, Lywydd. Mae'r hawl i bleidleisio a chymryd rhan mewn prosesau pleidleisio yn hanfodol i'n democratiaeth, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod etholiadau yng Nghymru yn deg, yn ddiogel ac yn hygyrch. Credwn mewn ehangu'r cyfleoedd i bobl gymryd rhan yn ein prosesau democrataidd, a byddwn yn gwrthsefyll unrhyw ymdrechion i danseilio etholiadau a'i gwneud yn anos i bobl fwrw eu pleidleisiau. Felly, dyna pam rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw, a hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r pwnc hwn.
Lywydd, rwyf eisoes wedi mynegi fy mhryderon difrifol ynghylch darpariaethau ym Mil Etholiadau Llywodraeth y DU, sy'n ymgais ddigywilydd i atal pleidleiswyr. Drwy'r gofyniad am ddulliau adnabod pleidleiswyr, mae'r Blaid Geidwadol yn mynd ati'n haerllug i gyfyngu ar gyfranogiad mewn etholiadau a newid y gyfraith er mantais bleidiol. Mae eironi yn y trywydd a fabwysiadwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig yn y ddadl hon, onid oes? Ar y naill law, maent yn dadlau yn erbyn pasys COVID am eu bod yn credu y gallai hynny ennill rhywfaint o boblogrwydd iddynt, ond os nad yw hynny'n gweithio, maent yn cefnogi pasys pleidleisio i gyfyngu ar eu amhoblogrwydd yn y blwch pleidleisio drwy ei gwneud yn anos i bobl fynd ati i bleidleisio yn y lle cyntaf. Nid oes unrhyw dystiolaeth na sail resymegol o gwbl dros ei gyflwyno ar wahân i atal pleidleiswyr.
Fel y dywedwyd eisoes, mae data gan y Comisiwn Etholiadol yn dangos mai dim ond un unigolyn a gafwyd yn euog yn 2019 o ddefnyddio pleidlais rhywun arall mewn gorsaf bleidleisio. Ac eto, mae Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen beth bynnag ac ar bob gafael mae wedi anwybyddu'r pryderon dilys a godwyd gan lu o sefydliadau dinesig. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol eisoes wedi rhybuddio y bydd gofynion dulliau adnabod pleidleiswyr yn cael effaith anghymesur ar bobl hŷn, pobl ag anableddau a phobl o gymunedau lleiafrifol ethnig—
A gaf fi dorri ar draws y Cwnsler Cyffredinol? Mae yna gais am ymyriad gan Darren Millar.
Iawn, fe wnaf dderbyn yr ymyriad.
Darren Millar.
Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad, Gwnsler Cyffredinol. A allwch chi ddweud wrthym—? Mae llawer o bobl wedi cyhuddo'r Blaid Lafur o geisio troi'r fantol i'w mantais ei hun mewn perthynas â'r system etholiadol yng Nghymru ar sail rhai o'r cynlluniau peilot rydych yn gobeithio eu rhoi ar waith yn yr etholiadau lleol y flwyddyn nesaf, ac mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf ohonynt yn targedu demograffeg unigolion y credwch y gallent fod yn fwy tebygol o bleidleisio dros y Blaid Lafur. Onid yw hynny'n wir?
Na, mae hynny'n gwbl anghywir, ac yn bendant nid yw hynny'n wir; mae'n ymwneud â mesurau eraill a gymerwyd i wneud yr hyn rwyf wedi'i ddweud erioed, sef bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i annog unrhyw un a phawb i allu pleidleisio ac i sicrhau bod eu pleidlais gael ei chyfrif.
Nawr, dywedais yn gynharach fod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi rhybuddio am effaith gofynion dulliau adnabod pleidleiswyr, ac mewn gwirionedd, mae'r cyn-Dwrnai Cyffredinol Ceidwadol, Dominic Grieve, wedi dweud bod y rheolau newydd hyn yn bygwth creu etholaeth ddwy haen ac annog y rhai mwyaf difreintiedig rhag chymryd rhan. Ac mae cadeirydd Ceidwadol Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Senedd y DU, William Wragg—mae wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar—wedi crynhoi canfyddiadau ei bwyllgor, gan ddweud,
'Teimlwn nad oes gan gynigion y Bil Etholiadau sylfaen dystiolaeth ddigonol.'
Mae gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn ymgais i arfer cyfrwystra gwleidyddol, oherwydd nid yw'r Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop wedi cymeradwyo na gwneud sylwadau hyd yn oed ar gynigion cyfredol y Llywodraeth sy'n destun dadl heddiw. A dywedodd y Comisiwn Etholiadol yn ei werthusiad yn 2018 o gynlluniau peilot dulliau adnabod pleidleiswyr
'nad oes digon o dystiolaeth eto i fynd i'r afael yn llawn â phryderon ac ateb cwestiynau am effaith gofynion adnabod ar bleidleiswyr.'
Lywydd, er bod rhai elfennau ar wahân o'r Bil y gallem fod eisiau mynd ar eu trywydd yn ein deddfwriaeth diwygio etholiadol ein hunain, rydym wedi bod yn glir na fyddwn yn cyflwyno mesurau adnabod pleidleiswyr yng Nghymru ar gyfer etholiadau datganoledig. Ond rydym yn pryderu am oblygiadau ehangach eu defnydd ar gyfer etholiadau a gadwyd yn ôl yng Nghymru a'r dryswch y gallai ei achosi i bleidleiswyr o ganlyniad i ddeddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth y DU. Byddai'n arbennig o heriol pe bai etholiadau datganoledig ac etholiadau heb eu datganoli yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod. Felly, mae'n sefyllfa rydym eisiau ei hosgoi yn y dyfodol, ac mae'r rhain yn bwyntiau rwyf wedi'u cyflwyno i Weinidogion Llywodraeth y DU, a byddaf yn parhau i wneud hynny.
Nid oes amser hyd yn oed i roi ystyriaeth lawn i'r agweddau niweidiol niferus eraill ar y Bil hwn. Yr ymosodiad ar ymgyrchu rhydd a theg mewn etholiadau, yn ogystal â'r bygythiad bwriadol i'n democratiaeth drwy ganiatáu i roddion gwleidyddol tramor orlifo i'n system. Mae hynny yr un mor berthnasol i hanfod y Bil Etholiadau hwn.
Mae dull Llywodraeth Cymru o weithredu yn cyferbynnu'n fawr â dull Llywodraeth y DU o weithredu. Rydym eisiau sicrhau bod etholiadau mor agored a hygyrch â phosibl, ac rydym eisiau dod o hyd i ffyrdd newydd o ymgysylltu â phleidleiswyr, er mwyn sicrhau eu bod yn cael pob cyfle i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. A dyna pam y gwnaethom gefnogi rhoi'r bleidlais i rai 16 oed a dinasyddion tramor cymwys—pobl sy'n cyfrannu at fywyd ein cymunedau a'n gwlad ac sy'n haeddu cael eu lleisiau wedi'u clywed yn ein democratiaeth.
Er mwyn cefnogi ymestyn yr etholfraint, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid awdurdodau lleol, addysg a'r trydydd sector i ddarparu ymgyrch gynhwysfawr o ymgysylltu a chodi ymwybyddiaeth cyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol y bydd set gyntaf Cymru o gynlluniau peilot etholiadol yn digwydd yn rhan o'r etholiadau ym mis Mai, cyn cyflwyno'r cynllun yn genedlaethol, o bosibl, yn etholiadau'r Senedd yn 2026. Bydd y rhain yn edrych ar gynyddu'r cyfleoedd i bobl bleidleisio, gan adlewyrchu bywydau prysur pobl. Rydym wedi cyhoeddi manylion pedwar cynllun peilot pleidleisio ymlaen llaw—ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Thorfaen. Rydym wedi llunio'r cynlluniau peilot i ddarparu tystiolaeth ar gyfer y gwahanol fathau o bleidleisio ymlaen llaw, boed hynny mewn gorsaf bleidleisio bresennol neu un ganolog newydd, ac agor y rhain ar ddiwrnodau gwahanol.
Bydd pob cynllun peilot yn wahanol, gan ein helpu i weld beth sy'n gweithio orau yng Nghymru, ac rwy'n arbennig o gyffrous ynglŷn â'r cyfleoedd pleidleisio ym Mharth Dysgu Glynebwy ac Ysgol Gyfun Cynffig. Am y tro cyntaf mewn unrhyw ran o'r DU, bydd myfyrwyr mewn sefydliadau addysg yn gallu pleidleisio yn y sefydliad hwnnw. Mae'r cynlluniau peilot yn cynnig hyblygrwydd newydd i'r etholwyr yng Nghymru, a byddwn yn annog pobl i wneud defnydd ohonynt, yn enwedig y rhai na fyddent wedi bwriadu pleidleisio'n wreiddiol o bosibl. Yn amodol ar ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gobeithio gweithio gyda phartneriaid ar fersiwn ddiwygiedig o'r datganiad pleidleisio drwy'r post i'w dreialu yn etholiadau 2022.
Bydd canfyddiadau'r cynlluniau peilot yn llywio ein gwaith ar ystyried diwygio etholiadol yn y dyfodol sy'n addas i'r diben ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, gan sicrhau bod etholiadau datganoledig yng Nghymru mor gynhwysol â phosibl. Byddwn yn ystyried ein cynigion ein hunain ar gyfer sut i gyflawni hyn, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chyd-Aelodau yn y Senedd ar hyn maes o law. Diolch yn fawr, Lywydd.
A nawr Rhys ab Owen i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd. Credaf i Darren Millar ddweud bedair gwaith ei fod yn siomedig ynghylch fy nghyfraniad. Cefais fy atgoffa am fod yn blentyn pedair oed eto, yn ôl yn swyddfa'r brifathrawes. Ar faterion cyfansoddiadol, os wyf yn siomi Darren Millar, rwy'n credu fy mod yn gwneud rhywbeth yn iawn yn ôl pob tebyg. Yn sicr, ni chefais fy siomi gan eich cyfraniad chi, Darren Millar; nid oeddwn yn disgwyl unrhyw beth arall gennych chi. Yn gryno, eich safbwynt chi yw, 'mae pasys COVID am gyfnod byr i ddiogelu bywydau pobl yn beth drwg; mae dulliau adnabod parhaol i bleidleiswyr er mwyn datrys problemau nad ydynt yn bodoli yn beth da.' Fe sonioch chi am y DU fel eithriad o'i chymharu ag Ewrop. Roeddwn yn meddwl, Darren Millar, eich bod wedi cefnogi'r syniad o eithriadoldeb Prydeinig. Gwelsom Andrew R.T. yn parhau â'r myth o Brydain ar ei phen ei hun yn gynharach yr wythnos hon. Mae'n cyd-fynd yn llwyr â'ch naratif Brexit, onid yw, Darren Millar?
Wrth ymyrryd yng nghyfraniad Heledd Fychan, fe ddywedoch chi y bydd dulliau adnabod pleidleiswyr ar gael am ddim. Wel, mae'n rhaid i rywun dalu am ddulliau adnabod pleidleiswyr, Darren. Mae'r cynlluniau peilot eu hunain yn costio £3 miliwn, neu a ydych yn ymwybodol o goeden arian hud yn rhywle i dalu am ddulliau adnabod pleidleiswyr? Mae'r gwelliant yn eich enw chi, Darren, yn anghywir—nid yw'r Comisiwn Etholiadol yn cefnogi dulliau adnabod pleidleiswyr. Pam y byddai unrhyw un yn pleidleisio dros eich gwelliant pan fo'n anghywir?
Gareth Davies, fe sonioch chi am déjà vu, wel, fe'ch clywn yn gwneud yr un ddadl o un wythnos i'r llall yn y Senedd pan gawn unrhyw drafodaeth am y cyfansoddiad. Ni wneuthum eich clywed yn dweud gair am y newid cyfansoddiadol mwyaf yn y cyfnod modern: Brexit. Rydych bob amser yn mynnu bod gwasanaethau cyhoeddus ar eu gliniau, ond mae papurau Swyddfa'r Cabinet yn dweud y bydd costau gweithredu dulliau adnabod pleidleiswyr yn costio rhwng £4.3 miliwn ac £20.4 miliwn ar gyfer pob etholiad. A yw hynny'n werth da am arian pan fo gwasanaethau cyhoeddus ar eu gliniau, Gareth Davies?
Mae Heledd, Peredur a Sioned wedi gosod yn glir ffeithiau—ffeithiau swyddogol, ffeithiau y Llywodraeth yn San Steffan, yr ystadegau clir sy'n dangos y bydd pobl yn colli eu hawl i bleidleisio. Dwi'n eilio'r hyn a ddywedodd Jane Dodds yn canmol gwaith Maddy a'r criw ifanc sy'n brwydro yn erbyn y Bil yma, yn brwydro dros eu hawliau i bledleisio.
Pan fydd pobl ag anableddau'n cael eu difreinio, pan fydd pleidleiswyr o leiafrifoedd ethnig yn cael eu difreinio, pan fydd pleidleiswyr dosbarth gweithiol yn cael eu difreinio, mae angen inni boeni. Dyna pam y dylai'r Senedd hon a phob Aelod wrthwynebu'r Bil hwn a gwrthwynebu unrhyw ymgais i ddifreinio ein dinasyddion. Ni ddylai'r Senedd hon fod yn bartner iau yn y broses o ddileu hawliau democrataidd a hawliau dynol ein dinasyddion. Mae'n tanseilio pob ffurf ar lywodraeth ddemocrataidd, ac mae'n ein tanseilio ni fel pobl.
Gadewch inni orffen ein dadl heddiw gyda dyfyniad arall gan Boris Johnson:
'Byddaf yn tynnu'r cerdyn hwnnw o fy waled ac yn mynd ati i'w fwyta ym mhresenoldeb pa elfen bynnag o'r wladwriaeth sydd wedi mynnu fy mod yn ei ddangos.'
Wel, Lywydd, mae Boris yn amlwg yn erbyn dulliau adnabod, felly rwy'n siŵr y bydd Darren Millar a chyd-Aelodau ei blaid yn ymuno â ni i gefnogi cynnig Plaid Cymru heno. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly fe wnawn ni ohirio’r bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Felly, rydym ni'n cyrraedd nawr y cyfnod pleidleisio ac fe fyddaf i'n atal y cyfarfod dros dro er mwyn paratoi'n dechnegol ar gyfer y bleidlais. Diolch.