8. Dadl Plaid Cymru: Stelcio

– Senedd Cymru ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Darren Millar. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:24, 2 Chwefror 2022

Yr eitem nesaf fydd dadl Plaid Cymru ar stelcio, a dwi'n galw ar Heledd Fychan i wneud y cynnig hwnnw. 

Cynnig NDM7906 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at y cynnydd mewn trais ac aflonyddu yn erbyn menywod, gan nodi bod troseddau stelcio a adroddwyd i'r heddlu wedi cynyddu 30 y cant yng Nghymru rhwng 2020 a 2021.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) defnyddio'r cwricwlwm newydd ac adnoddau eraill i feithrin diwylliant sy'n atal achosion o stelcio yn y lle cyntaf;

b) llunio canllawiau ar gyfer cyrff cynllunio sy'n sicrhau bod diogelwch menywod yn cael ei ystyried wrth ddylunio mannau cyhoeddus;

c) gweithio gyda Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i wella'r ffordd y mae'r heddlu'n ymdrin â stelcio, gan sicrhau bod yr heddlu'n cael eu hyfforddi i ymdrin â gwir natur stelcio a bod gorchmynion amddiffyn rhag stelcio yn cael eu defnyddio;

d) darparu cymorth arbenigol i oroeswyr stelcio;

e) ymrwymo i fynd ar drywydd datganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder i Gymru fel y gall fynd i'r afael yn llawn â throsedd stelcio a gwneud casineb at fenywod yn drosedd casineb yng Nghymru. 

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:24, 2 Chwefror 2022

Diolch, Llywydd. Mae stelcian yn batrwm o ymddygiadau digroeso, sefydlog, obsesiynol ac ymwthiol gan un person tuag at berson arall sy'n achosi ofn o drais a thrallod i'r unigolyn sy'n cael ei dargedu. Mae'n hawdd meddwl am stelcian fel rhywbeth sydd dim ond yn digwydd i ffigurau cyhoeddus neu enwogion megis sêr pop, ond y gwir amdani heddiw yn y Deyrnas Unedig yw y bydd un ym mhob pump menyw ac un ym mhob 10 dyn yn cael ei stelcian ar ryw bwynt yn eu bywydau. Yn wir, amcangyfrifir bod oddeutu 1.5 miliwn o bobl yn cael eu stelcian yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae'r niferoedd mewn gwirionedd yn debygol o fod yn uwch na'r ffigwr hwn am nifer o resymau, megis: diffyg ymwybyddiaeth o beth yw stelcian; cymhlethdodau ynghylch perthynas yr unigolyn â'r troseddwr; sut mae ymddygiad stelcian fel arfer yn datblygu dros amser; ofn am ddiogelwch personol; diffyg ymddiriedaeth yn yr heddlu a'r system cyfiawnder troseddol; profiadau trawmatig blaenorol; ac ateb anfoddhaol gan yr heddlu pan fo rhywun yn cwyno.

Yn frawychus hefyd, ar gyfartaledd, mae'n cymryd 100 achos o ymddygiadau digroeso gan stelciwr cyn i berson gysylltu gyda'r heddlu ynglŷn â hyn. Cefnogir hyn gan ymchwil a wnaed gan Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh a ganfu nad oedd bron i ddwy ran o dair o'r goroeswyr stelcian y buont yn siarad â nhw ers dechrau'r pandemig wedi rhoi gwybod i'r heddlu amdano. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn stelcian dros y degawd diwethaf, ac mae wedi cynyddu hefyd yn sylweddol dros gyfnod y pandemig. Yn wir, yng Nghymru, os ydym yn cymharu ffigurau Ebrill i Fehefin 2020 i ffigurau Ebrill i Fehefin 2021, mae cynnydd o 30 y cant wedi bod yn y nifer o achosion o stelcian ac aflonyddu a gafodd eu recordio. Yn Nyfed-Powys, roedd cynnydd o 102 y cant, 23 y cant yng ngogledd Cymru a 24 y cant yn ne Cymru. Yng Ngwent yn unig bu gostyngiad, sef gostyngiad bychan o 1 y cant.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:26, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Yn 2020, cofnododd gwasanaethau cymorth stelcio a heddluoedd ymchwydd yn nifer y stelcwyr sy’n troi at dactegau ar-lein i aflonyddu ar unigolion yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud, yn enwedig yn ystod pedair wythnos gyntaf y cyfyngiadau symud cyntaf, wrth i bobl gael eu cyfyngu i'w cartrefi. Mewn gwirionedd, gwelodd y gwasanaeth eiriolaeth stelcio cenedlaethol, Paladin, gynnydd o bron i 50 y cant mewn atgyfeiriadau stelcio pan ddechreuodd y cyfyngiadau symud. I’r rhai a oedd yn dioddef stelcio cyn dechrau’r cyfyngiadau symud, cadarnhaodd bron i hanner yr ymatebwyr i arolwg gynnydd mewn patrymau ymddygiad ar-lein, a gwelodd traean ohonynt gynnydd mewn patrymau ymddygiad all-lein. Awgrymodd llawer o ymatebwyr fod y ffaith bod eu stelciwr wedi’i ynysu ac wedi diflasu yn ystod y cyfyngiadau symud yn golygu nad oedd ganddynt ddim byd arall i feddwl amdano ar wahân i’w hobsesiwn. Ar yr un pryd, nid yw nifer yr arestiadau wedi cadw i fyny â nifer y troseddau, gan mai dim ond ar hanner cyfradd y cynnydd mewn troseddau rhwng 2019 a 2020 y cynyddodd nifer yr arestiadau.

Bydd bron i hanner y stelcwyr, wrth wneud bygythiad, yn gweithredu arno, yn enwedig pan fydd yr unigolyn y maent yn eu stelcio yn gwybod pwy ydynt. Yn wir, unwaith eto mae Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh wedi adrodd bod naw o bob 10 o lofruddiaethau menywod a ddadansoddwyd dros gyfnod o dair blynedd wedi canfod bod y llofrudd yn arddangos patrymau ymddygiad a gysylltir â stelcio. Rhaid inni weithredu ar stelcio, nid yn unig oherwydd yr effaith enfawr y mae’n ei chael ar oroeswyr, ond oherwydd y bygythiad y mae’n ei greu i fywyd a’r effaith ar deuluoedd a ffrindiau’r rhai a lofruddiwyd. Mae gormod o farwolaethau wedi bod a rhy ychydig o weithredu, trafodaeth ac addysg ynglŷn â hyn. Er mwyn yr holl ddioddefwyr, rhaid inni weithredu ar y mater difrifol hwn.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:28, 2 Chwefror 2022

Rwyf wedi dethol tri gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu Deddf Diogelu Rhag Stelcian 2019 a'r diwygiad i Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd i wneud casineb at fenywod yn drosedd casineb yng Nghymru a Lloegr.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ym mhwynt 2(c), ar ôl 'gweithio gyda' rhoi 'lluoedd heddlu a'.

Gwelliant 3—Darren Millar

Ym mhwynt 2, dileu is-bwynt (e) a rhoi yn ei le:

'sicrhau bod rhaglenni cyflawnwyr ar gael ledled Cymru'.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:28, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy’n cynnig gwelliannau 1 i 3, tra’n cydnabod hefyd fod llawer o rinwedd yn y cynnig gwreiddiol. Mae’r cynnydd mewn troseddau stelcio yn fwy na thestun gofid. Fe all, ac mae'n rhaid i'r cwricwlwm newydd feithrin diwylliant sy'n atal stelcio rhag digwydd yn y lle cyntaf. Dylai canllawiau newydd i gyrff cynllunio sicrhau bod diogelwch menywod ac eraill sydd mewn perygl, gan gynnwys pobl anabl, yn cael ei ystyried wrth gynllunio mannau cyhoeddus. Rhaid i ddarparwyr cymorth arbenigol ar gyfer goroeswyr stelcio gael adnoddau cynaliadwy hefyd, a'u cynnwys wrth lunio a darparu gwasanaethau cysylltiedig.

Mae ein gwelliant 2, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda heddluoedd a chomisiynwyr heddlu a throseddu i wella’r modd y mae’r heddlu’n ymdrin â stelcio, yn welliant technegol yn ei hanfod, a dylai’r Aelodau ei gefnogi oherwydd hynny. Rôl y comisiynydd yw dwyn prif gwnstabliaid i gyfrif a’u heddluoedd i gyfrif, a chyfrifoldeb prif gwnstabliaid a’u heddluoedd yw gweithredu'r ddarpariaeth o wasanaethau plismona.

Canfu ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a gyhoeddwyd fis Mawrth diwethaf, er bod y rhan fwyaf o’r ffigurau troseddau wedi gostwng yng Nghymru a Lloegr yn ystod 2020, fod troseddau stelcio ac aflonyddu a gofnodwyd wedi cynyddu 20 y cant yn ystod y cyfyngiadau symud coronafeirws, gyda’r ffigur yn codi i 31 y cant wrth i gyfyngiadau lacio yn ystod haf 2020. Dywedodd yr elusen gwrth-stelcio Paladin fod y rhan fwyaf o ddioddefwyr yn adrodd iddynt gael eu stelcio drwy’r cyfryngau cymdeithasol, apiau negeseua ac e-bost, ond roedd stelcio corfforol hefyd yn digwydd er gwaethaf y cyfyngiadau symud. Roedd Paladin hefyd wedi tynnu sylw’n flaenorol at y diffyg rhaglenni cyflawnwyr ar gyfer stelcwyr. Felly mae ein gwelliant 3 yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod rhaglenni cyflawnwyr ar gael ledled Cymru.

Fis Rhagfyr diwethaf, nodais yma fy mod yn un o dri llefarydd plaid a aeth â Llywodraeth Cymru i'r pen draw ar hynt Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, gan sicrhau addewidion gan Lywodraeth Cymru mewn sawl maes, gan gynnwys rhaglenni cyflawnwyr achrededig, i newid agweddau, ymddygiad a chred cyflawnwyr. Fel y dywedais, yn ystod taith y Ddeddf, cynigais welliannau'n galw am i'r strategaeth genedlaethol gynnwys darparu o leiaf un rhaglen cyflawnwyr. Fel roedd Relate Cymru wedi dweud wrth y pwyllgor, dywedodd 90 y cant o’r partneriaid y gwnaethant eu holi rywbryd ar ôl diwedd eu rhaglen fod trais a brawychu gan eu partner wedi dod i stop yn llwyr. Ymatebodd y Gweinidog bryd hynny nad oedd o’r farn fod fy ngwelliant yn briodol, ond ei fod wedi cydariannu ymchwil i helpu i lywio ymatebion i gyflawnwyr yn y dyfodol. Fodd bynnag, fel y dywedais ym mis Rhagfyr, mae’r unig gyfeiriad at gyflawnwyr yng nghynllun blynyddol diweddaraf cynghorwyr cenedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cyfeirio at archwilio glasbrint ar gyfer y system gyfan sy’n anelu, ymhlith pethau eraill, at ddwyn cyflawnwyr i gyfrif.

Mae Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh wedi lleisio pryder fod llawer o ddioddefwyr yn tueddu i ollwng y cyhuddiadau oherwydd eu bod yn ei chael hi’n ormod o her yn emosiynol, sy’n golygu y gallai niferoedd gwirioneddol dioddefwyr stelcio fod yn llawer uwch nag y mae data swyddogol yn ei awgrymu. Mae stelcio yn cael ei gydnabod yn gynyddol fel ffurf ar gam-drin domestig o fewn y system cyfiawnder troseddol, a chanfu dadansoddiad gan Wasanaeth Erlyn y Goron fod mwyafrif y troseddau'n cael eu cyflawni gan gyn-bartneriaid. Er bod y nifer uchaf erioed, sef 2,288 o gyhuddiadau, wedi’u dwyn ger bron yn 2019-20, mwy na dwbl y ffigur bum mlynedd ynghynt, gostyngodd canran yr achosion yr adroddwyd yn eu cylch a arweiniodd at gyhuddiad o 23 y cant yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2016 i ddim ond 11 y cant yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020. Wrth siarad yr haf diwethaf, dywedodd uwch swyddog polisi ac ymgyrchoedd Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh:

'Yr hyn sydd ei wir angen yw arbenigwyr manwl a hyfforddiant rheolaidd i swyddogion heddlu. Mae angen inni wneud yn siŵr pan fydd rhywun yn adrodd am stelcio... fod yr heddwas sy'n ymateb i'r digwyddiad yn deall beth yw stelcio.'

Yn anffodus, mae galwad ragweladwy Plaid Cymru am ddatganoli pwerau ar ddiwedd eu cynnig yn tynnu oddi ar ddadl hynod bwysig ac yn rhoi’r camargraff nad yw ein cyd-Aelodau yn San Steffan hefyd yn ymwybodol o’r materion hyn eisoes. Dyna’r rheswm dros ein gwelliant 1, sy’n galw ar y Senedd i groesawu Deddf Diogelu rhag Stelcian 2019 a gyflwynwyd gan yr AS Ceidwadol ar y pryd, Sarah Wollaston, a’r Farwnes Bertin o’r Blaid Geidwadol, a phleidlais yr Arglwyddi o blaid gwelliant i Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd i wneud casineb at fenywod yn drosedd casineb yng Nghymru a Lloegr, dan arweiniad y Farwnes Newlove o’r Blaid Geidwadol. Mae datganiad y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ei llythyr yr anfonwyd copi ohono at yr Aelodau ddydd Gwener diwethaf ei bod yn debygol y bydd gwelliannau y cytunwyd arnynt yn Nhŷ’r Arglwyddi yn cael eu gwyrdroi a gwelliannau pellach yn cael eu gwneud, yn tanlinellu pa mor bwysig yw hi fod y Senedd hon yn anfon neges unedig o blaid gwneud casineb at fenywod yn drosedd casineb. Diolch.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 5:34, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, gan fod stelcio, fel y clywsom, yn cael effaith sylweddol a pharhaol ar fywydau dioddefwyr, goroeswyr a'u teuluoedd. Mae'r effaith ar iechyd meddwl y dioddefwyr yn aml yn ddwys. Canfu arolwg a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh yn 2020, o'r rhai a ymatebodd i'r arolwg, fod 94 y cant wedi dweud bod stelcio wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl. Mae'n drosedd ar sail rhywedd yn bennaf, ac rydym eisoes wedi clywed heddiw fod un o bob pum menyw yn cael eu targedu o'i gymharu ag un o bob 10 dyn. Effeithir yn anghymesur hefyd ar bobl sy'n byw gydag anableddau a phroblemau iechyd hirdymor.

Yn 2019, pasiwyd y Ddeddf Diogelu rhag Stelcian. Mae'n berthnasol i Gymru a Lloegr. Rhan hanfodol o'r Ddeddf yw'r gorchymyn diogelu rhag stelcio. Mae hwn yn caniatáu i'r heddlu wneud cais i'r llys ynadon, sy'n gallu gosod cyfyngiadau a gofynion cadarnhaol ar y sawl sy'n cyflawni'r weithred. Yn hollbwysig, mae torri amodau'r gorchymyn diogelu rhag stelcio yn drosedd. Mae unrhyw achos o dorri'r amodau yn rhoi pŵer i'r heddlu arestio'r sawl sy'n cyflawni'r drosedd. Gellir eu defnyddio hefyd i amddiffyn dioddefwyr stelcio wrth i achos troseddol gael ei ddatblygu. Yn frawychus, canfu adroddiad gan y BBC mai dim ond dau orchymyn atal stelcio a roddwyd yng Nghymru rhwng 2020 a mis Mawrth 2021, er i 3,000 o droseddau stelcio gael eu dwyn i sylw'r heddlu yn ystod y cyfnod hwnnw.

Canfu adroddiad 'Unmasking Stalking' Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh yn 2021 mai dim ond 9 y cant o ddioddefwyr y dechreuodd eu profiad o stelcio ar ôl y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud oedd â gorchymyn atal stelcio ar waith. Mae cael deddfwriaeth, wrth gwrs, yn un peth, ond mae'n destun pryder difrifol os na chaiff ei defnyddio i ddiogelu dioddefwyr fel y bwriadwyd. Rwy'n awyddus i ddeall pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r sefydliadau perthnasol, megis yr heddlu a'r system cyfiawnder troseddol ehangach, ynglŷn â pham y mae nifer y gorchmynion atal stelcio a roddwyd yn ystod y cyfnod hwn mor isel. A yw'n fater o hyfforddi heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron ac ynadon ac os ydyw, sut yr eir i'r afael â hynny. Rwyf hefyd yn croesawu heddiw y buddsoddiad o £400,000 yn y 30 cyfleuster newydd a fydd yn caniatáu i lysoedd weithredu drwy gyswllt fideo, oherwydd rydym eisoes wedi clywed mai'r hyn a fydd yn atal dioddefwyr stelcio rhag mynd i'r llys yw'r syniad o orfod wynebu'r cyflawnwr yn yr un ystafell. Felly, unwaith eto, wrth orffen, hoffwn ddweud fy mod yn falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon ac yn falch iawn ei bod wedi'i chyflwyno. 

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:37, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Mae stelcio'n drosedd sy'n chwalu bywydau. Mae'n ofn cynyddol sy'n adeiladu yn y meddwl, màs o eiliadau o doriadau i seice ac iechyd meddwl goroeswr, ymgyrch o arswyd tawel sy'n chwalu person fesul darn. Rwyf wedi gweithio gyda nifer o oroeswyr stelcio, ac mae'r gofid meddwl y maent yn ei ddioddef yn wanychol. Mae stelcwyr yn chwalu teuluoedd, yn dinistrio perthynas pobl â'i gilydd, yn gwneud ichi deimlo na allwch gerdded ar hyd y stryd neu hyd yn oed agor eich gliniadur heb i'w presenoldeb wneud ichi deimlo'n llai neu dan fygythiad. Rwyf wedi gweithio gyda menywod y gwnaeth eu stelcwyr osod dyfeisiau ysbïo a gwrando yn eu cartrefi, menywod sydd wedi dioddef anhwylder straen wedi trawma, menywod y daeth eu stelcwyr i'w gweithle, a aeth â'u hallweddi er mwyn eu copïo, menywod a gafodd negeseuon yn bygwth eu lladd, un fenyw a gafodd neges destun gan ei stelciwr gyda llun o raff crogwr gyda'r geiriau, 'Not long now, my flower.' Ac yn waeth na dim, menywod y gadawyd eu teuluoedd i adrodd eu straeon drostynt am eu bod wedi cael eu llofruddio gan eu stelcwyr. 

Clywais y dystiolaeth hon, Ddirprwy Lywydd, pan oeddwn yn rhan o ymgyrch yn San Steffan rhwng 2010 a 2012 a arweiniodd at gyflwyno deddfau stelcio newydd. Gan weithio gyda'r diweddar Harry Fletcher, y gwelir ei golli'n fawr, sefydlwyd ymchwiliad gennym dan gadeiryddiaeth Elfyn Llwyd AS. Clywsom dystiolaeth gan ymarferwyr, arbenigwyr cyfreithiol a goroeswyr a theuluoedd, ynglŷn â sut roedd y system yn gwneud cam â dioddefwyr. A diolch i raddau helaeth i dystiolaeth y menywod gwych hynny, gwnaethom berswadio Llywodraeth y DU i gyflwyno deddfau newydd, a gyhoeddwyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2012, fis yn unig ar ôl inni gyhoeddi ein hadroddiad. Cafodd y cymalau newydd eu pasio wedyn o fewn 11 diwrnod, rwy'n credu, sy'n torri record, gan ddau Dŷ'r Senedd. Ac eto, Ddirprwy Lywydd, mae'n fy ngwylltio ac yn fy nigalonni, 10 mlynedd yn ddiweddarach, fod angen inni gael y ddadl hon—ac mae angen—gan nad yw heddluoedd yn cael yr hyfforddiant cywir ac am fod cyfraddau erlyn yn ystyfnig o isel. Nid yw'r deddfau stelcio, yr ymladdwyd cyhyd i'w cael, yn cael eu defnyddio ac mae menywod yn dal i gael cam gan y system gyfiawnder. Mae ein cynnig yn galw ar y Llywodraeth a chomisiynwyr yr heddlu a throseddu i sicrhau bod heddluoedd yn deall gwir natur stelcio a bod mesurau sydd ar gael iddynt yn cael eu defnyddio.

Fel y clywsom, rhwng mis Ionawr 2020 a mis Mawrth 2021, dim ond dau orchymyn diogelu rhag stelcio llawn a roddwyd yng Nghymru, er bod 3,000 o droseddau stelcio wedi eu dwyn i sylw'r heddlu—3,000. Ac rwy'n crybwyll gwir natur stelcio oherwydd, yn rhy aml, mae'n cael ei leihau neu ei anwybyddu. Canfu'r llinell gymorth stelcio genedlaethol fod tua 50 y cant o oroeswyr yn anfodlon ynghylch ymateb yr heddlu i'w hachos. Mewn chwarter o'r achosion, y rheswm am hynny oedd nad oedd yr heddlu'n adnabod y patrwm ymddygiad fel stelcio. 

Gyda stelcio, Ddirprwy Lywydd, y patrwm sy'n creu'r drosedd. Bydd digwyddiadau unigol a gymerir ar eu pen eu hunain yn ymddangos yn gwbl ddibwys, ond gyda'i gilydd maent yn magu perygl, a diffinnir stelcio yn y gyfraith mewn ffordd benodol iawn o ran yr effaith y mae'r ymddygiad yn ei chael ar ddioddefwr—patrymau ymddygiad sy'n achosi braw neu ofid difrifol. Os nad yw'r heddlu'n cael hyfforddiant ar sut i gofnodi patrymau ymddygiad, i feddwl am y straen gronnol ar y dioddefwr, ac i weld y tu hwnt yr un peth o'u blaenau—y blodau sydd wedi cyrraedd yn y post am y pedwerydd tro yr wythnos honno, y negeseuon a anfonwyd ar Twitter ar ffurfiau newydd a gofalus, y stelciwr sy'n digwydd bod wedi parcio y tu allan i gartref person. Nid yr achos unigol sy'n creu braw, ond effaith y cyfan gyda'i gilydd. Ac os nad yw'r swyddog heddlu sy'n ymdrin â'ch achos yn cydymdeimlo â natur yr hyn y gall stelcio ei wneud, gallwch deimlo eich bod wedi eich caethiwo yn y artaith hon. 

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae ein cynnig yn galw am i ddiogelwch menywod fod yn gonglfaen wrth gynllunio mannau cyhoeddus. Rydym yn meddwl am fwy na mannau ffisegol yn unig yma, ond mannau ar-lein hefyd. Ni ddylid gorfodi menywod nac unrhyw ddioddefwyr stelcio i encilio o fannau cyhoeddus oherwydd ofn. Hyd nes y caiff plismona a chyfiawnder eu datganoli'n llawn, dim ond pwerau rhannol fydd gennym dros wella bywydau pobl yn y maes hwn. Mae arnom ddyled i oroeswyr fel y menywod rhyfeddol hynny y gweithiais gyda hwy i wneud popeth yn ein gallu i roi diwedd ar artaith stelcio. 

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 5:42, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i Blaid Cymru am gynnig y ddadl hon. Diolch i Joyce am dynnu sylw at y ffaith mai dim ond dau orchymyn stelcio a roddwyd yn y set ddiwethaf o ffigurau sydd ar gael mewn un flwyddyn, a chredaf ei fod yn gwneud pwynt (c) a phwynt (e) o'r cynnig yn arbennig o bwysig, a hoffwn sôn am hynny mewn perthynas ag un o fy etholwyr, sydd wedi dioddef stelcio parhaus dros ddau neu dri mis, ac mae'r heddlu wedi methu cymryd camau priodol. Felly, cafodd ei—. Daeth y berthynas i ben, ac roedd hi'n meddwl fod hynny wedi digwydd yn weddol gyfeillgar, ond wedyn mae hi wedi gorfod adrodd yn barhaus wrth yr heddlu am slaesio ei theiars, ac arllwys paent dros y car, drosodd a throsodd, rhwygo'r drychau ochr a sychwyr y ffenestr flaen. Digwyddodd hyn bum gwaith, a'r cyfan a wnaeth yr heddlu oedd dweud wrthi am symud ei char i rywle arall, ac i brynu camera teledu cylch cyfyng. Felly, bu'n rhaid iddi gasglu ei henillion prin i brynu camera teledu cylch cyfyng, ac yna cafodd dystiolaeth ar gamera teledu cylch cyfyng ohono'n slaesio'r car unwaith eto. Ac aeth yr heddlu yno a dweud, 'O, nid oes digon o dystiolaeth yma i fynd â hyn at Wasanaeth Erlyn y Goron oherwydd ni chawn yr erlyniad sydd ei angen arnom.'  

Wel, mae'n rhaid inni newid y diwylliant ar hyn, oherwydd dylem wybod ei fod yn wahanol iawn i bobl sy'n gwneud pethau dwl yng ngwres y foment oherwydd ein bod wedi cynhyrfu. Mae hwn yn ymddygiad parhaus ac obsesiynol a fydd, os caiff ei wneud i un person, yn cael ei wneud i berson arall os yw'r person hwnnw'n llwyddo i ddianc rhag eu hobsesiwn. Efallai ein bod i gyd wedi gweld y rhaglen am Dennis Nilsen. Roedd methiant yr heddlu i weithredu ar lofruddiaethau Dennis Nilsen yn golygu bod llawer mwy o bobl ifanc wedi'u lladd nag a ddylai fod, ac yn achos stelcio, yn amlwg, nid ydym yn sôn am lofruddiaeth ar y pwynt hwn, ond sut y gwyddoch chi na fydd rhywun sy'n stelciwr ar hyn o bryd yn mynd ymlaen i wneud pethau mwy eithafol oherwydd eu bod yn mynd i gael mwy o wefr o weithredu mwy eithafol?

Felly, mae hwn yn fater difrifol iawn. Rhaid mynd ag ef i'r llys er mwyn cael y llysoedd i orfodi'r unigolyn i fynd i'r afael â'u profiad niweidiol yn ystod plentyndod, mae'n debyg, ond o leiaf i ddeall nad dyna'r ffordd i ymddwyn. Os nad yw rhywun am gael perthynas â chi mwyach, dyna ddiwedd y stori. Os yw'n methu rhoi diwedd ar yr ymddygiad obsesiynol hwn, mae'r person hwnnw'n mynd i fynd ymlaen i wneud yr un peth yn union i lawer o bobl eraill—unrhyw un arall y byddant yn cael perthynas â hwy ac sydd ddim eisiau bod mewn perthynas â hwy ar ôl iddynt sylweddoli pa mor reolaethol yw'r unigolyn hwnnw.

Yn amlwg, byddaf yn codi hyn gyda'r heddlu, ond credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gorfodi ein comisiynwyr heddlu i fod o ddifrif ynghylch y mater hwn. O'r un o bob pump o bobl y credwn fod hyn yn digwydd iddynt, mae gennym ddau orchymyn stelcio. Ni wnaiff hyn y tro, a chredaf fod gwir angen inni—. Ni allwn ddibynnu'n unig ar y cwricwlwm newydd i sicrhau bod pobl ifanc yn deall sut beth yw perthynas sy'n seiliedig ar barch. Rhaid inni sicrhau bod gorfodi'r gyfraith yn atal pobl sydd wedi dod yn berygl i'r gymuned rhag mynd â phethau ymhellach byth.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:46, 2 Chwefror 2022

Fel rydym ni newydd glywed, mae stelcian yn brofiad trawmatig i'r rhai sy'n ei brofi fo ac yn ei oroesi. Yn aml, mae'r effaith seicolegol enfawr yma yn arwain at iselder, pryder a straen. Credir bod tua hanner goroeswyr stelcian yn cael trafferth efo PTSD, straen, pryder a bod yn or-wyliadwrus.

Yn y pen draw, effaith stelcian ydy cwtogi yn sylweddol ar ryddid unigolyn arall, gan adael y teimlad eu bod nhw'n gorfod bod yn ofalus drwy'r amser. Yn aml, mae'n rhaid i unigolion sy'n cael eu stelcio adael eu cartref, golli gwaith neu roi'r gorau i weithio, i'w hysgol a'r coleg. Ar ben hyn, mae stelcian yn aml yn digwydd dros gyfnod hir, felly mae'r person yn byw mewn gofid neu ofn yn gyson. Ar gyfartaledd, bydd unigolyn yn cael ei stelcio am gyfnod rhwng chwe mis a dwy flynedd. 

Dydy o ddim yn syndod, o gofio hynny, felly, fod 94 y cant o ddioddefwyr stelcian yn dweud ei fod yn effeithio ar eu hiechyd meddwl. Mae 80 y cant o oroeswyr stelcian yn profi symptomau sy'n gyson â PTSD yn sgil cael eu stelcio. Mae'r pandemig a'r straen sy'n deillio ohono fo, a llai o fynediad at gymorth a gwasanaethau iechyd, wedi gwaethygu effaith stelcian ar iechyd meddwl goroeswyr. Rhaid i ni, felly, sicrhau bod cymorth arbenigol a chynhwysfawr ar gael i oroeswyr stelcian a bod yr hyfforddiant priodol ar gael ar gyfer yr heddlu a gweithwyr proffesiynol. 

Mae stelcian, fel aflonyddu rhywiol, yn effeithio ar ferched llawer mwy na dynion. Mae un o bob pump o ferched wedi dioddef stelcian, sy'n arwydd o'r gymdeithas batriarchaidd rydyn ni'n rhan ohoni hi, lle mae grym a phŵer yn gorwedd yn nwylo un rhan o'r boblogaeth ar draul y llall. Mae stelcian, aflonyddu rhywiol a'r defnydd o drais yn erbyn merched yn deillio o anghydbwysedd pŵer strwythurol, hanesyddol.

Rydw i'n credu bod merched fy nghenhedlaeth i wedi cadw'n rhy dawel am y mater yma, ac wedi cadw'n rhy dawel yn rhy hir, er bod y rhan fwyaf ohonom ni wedi dioddef yn ei sgil yn ystod ein bywydau ni. Felly, mae'n bryd i ni, fel merched o bob oed, ddweud 'Digon yw digon—na i stelcian, na i aflonyddu rhywiol, na i drais a cham-drin domestig.' Mae'n bryd i ni sefyll efo'n gilydd i dynnu sylw at bob gweithred amhriodol, yn cynnwys pob gweithred o stelcian, a dweud 'Dim mwy' efo llais unedig. Yn fwy na hynny, mae'n rhaid i ni fynnu bod yr asiantaethau, yr heddlu a'r llysoedd yn cymryd stelcian o ddifrif. Dwi'n credu mai dyna ydy'r neges glir rydyn ni'n ei chlywed o'r Senedd genedlaethol yma heddiw. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:49, 2 Chwefror 2022

Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 5:50, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig pwysig hwn i'w drafod heddiw? Mae'n amserol iawn eich bod wedi cyflwyno hyn i'w drafod yn y cyfnod cyn Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Gam-drin Rhywiol a Thrais Rhywiol, digwyddiad blynyddol sy'n ceisio dod â phobl at ei gilydd i gondemnio'r ymddygiad hwn ac i bwyso am newid. Rwyf hefyd yn falch o gefnogi gwelliannau'r Ceidwadwyr Cymreig heddiw. Credaf fod tynnu sylw at effaith erchyll stelcio ar fywydau dioddefwyr yn cryfhau ac yn darparu neges unedig gan y Senedd hon. Ond mae hefyd yn rhoi cyfle inni dynnu sylw at y gwaith hanfodol sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. A gaf fi ddweud wrth bawb sydd wedi cyfrannu heddiw y bydd yr holl gyfraniadau a wnaethoch yn cael eu hystyried? Byddant yn helpu i lywio'r ffordd ymlaen o ran cryfhau'r camau y mae angen eu cymryd ar bob lefel o'r Llywodraeth hon a phob Llywodraeth sydd â phwerau a chyfrifoldebau.

Mae stelcio'n drosedd wrthun, ac mae'n enghraifft bwysig o'r camddefnydd o bŵer a rheolaeth sy'n nodweddu trais yn erbyn menywod a merched. Nod stelcio yw achosi ofn, braw a gofid i ddioddefwyr. Mae'n barhaus, mae'n ymyrrol—rydym wedi clywed enghraifft go iawn y prynhawn yma—ac nid yn unig y mae'n difetha bywydau, mae'n cael effaith hirsefydlog, fel y dywedwyd, ar iechyd meddwl ac anhwylder straen wedi trawma. Yn ofnadwy, fel y nodwyd, mae'r data hefyd yn dangos ei fod ar gynnydd.

Felly, rwyf hefyd am osod y ddadl hon ochr yn ochr â'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais fis diwethaf ar ôl marwolaeth drasig Ashling Murphy, datganiad a ddilynodd ddatganiadau a wneuthum ar ôl llofruddiaethau Sabina Nessa a Sarah Everard. Mae'r menywod hyn, a llawer mwy, yn ddioddefwyr trais gan ddynion. Cafodd eu bywydau eu torri'n fyr am nad oeddent yn ddiogel ar ein strydoedd: nid yn ddiogel i gerdded adref, nid yw'n ddiogel i ymarfer corff, nid yw'n ddiogel i fod yn fenywod yn byw eu bywydau. Rydych wedi fy nghlywed yn dweud hyn o'r blaen, ac nid wyf yn ymddiheuro am ailadrodd, ond rwy'n gobeithio eich bod hefyd wedi clywed lleisiau menywod sy'n codi mewn ymateb i droseddau creulon a thrasig o'r fath, troseddau sy'n digwydd yn gyson gwaetha'r modd, a dweud, 'Dyna ddigon.'

Byddwch wedi clywed lleisiau'r rhai a fynychodd yr wylnos i Ashling yng Ngerddi Grange yng Nghaerdydd fis diwethaf, er enghraifft. Yn dilyn yr wylnos, crynhodd Sara Robinson hyn mor berffaith yn ei cholofn yn y Western Mail, gan ein hannog i gyd i,

'adeiladu byd lle nad oes arnom angen y gwylnosau hyn'.

Fel menyw ifanc sy'n hoffi mynd i redeg, daeth i gymryd rhan yn yr wylnos honno, a chredaf fod llawer o fenywod a dynion wedi mynd i gefnogi, i wneud y pwynt ac i wneud safiad y noson honno. Felly, credaf fod dadleuon fel hyn yn rhoi cyfle i ychwanegu ein lleisiau ni at eu lleisiau hwy, i bawb gytuno ei fod yn anghywir, fod yn rhaid iddo ddod i ben, a chyda'n gilydd mae'n rhaid inni greu byd lle nad oes angen gwylnosau oherwydd y gweithredoedd ffiaidd hyn.

Felly, dyna pam ein bod yn cryfhau ac yn ehangu ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i gynnwys y ffocws ar drais ac aflonyddu yn erbyn menywod mewn mannau cyhoeddus yn ogystal ag yn y cartref, a sicrhau bod y strategaeth honno ar ei newydd wedd yn cael ei datblygu ochr yn ochr â phartneriaid allweddol—ac adlewyrchir hyn yn y cynnig—gan gynnwys yr heddlu, comisiynwyr yr heddlu a throseddu, ac wrth gwrs y sector arbenigol sydd wedi bod yn gweithio ers blynyddoedd mawr, yn enwedig y rhai sy'n darparu cymorth lloches ar gyfer cam-drin domestig a chanolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol, ac wrth gwrs maent yn darparu cymorth mor anhygoel ac amhrisiadwy i ddioddefwyr a goroeswyr stelcio yn ogystal â mathau eraill o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Felly, cydweithio—ac mae'r neges honno wedi ei chlywed ar draws y Siambr hon—gydag asiantaethau fel yr heddlu a phartneriaid cyfiawnder troseddol, i wneud i ddeddfwriaeth weithio—yr hyn a amlygwyd yw'r methiant mewn gwirionedd, mewn perthynas â phrinder gorchmynion stelcio—i'w dwyn i gyfrif a gweld beth arall y mae angen inni ei wneud. Ond rydym yn cydnabod bod rhaid i ni, wrth wraidd y strategaeth ddiwygiedig hon—

Photo of David Rees David Rees Labour 5:55, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, yn wir.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddrwg gennyf, Weinidog, dim ond un byr. Dim ond dweud eich bod yn gwbl gywir, yn amlwg, am y cydweithio; ni allwn fynd i'r afael â hyn oni bai ein bod yn gweithio gyda'n gilydd ac mae hynny'n cynnwys gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r heddlu, fel rydych newydd ei nodi, ac yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol a pha mor hawdd yw hi i stelcio rhywun drwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, boed hynny drwy gael eich pinio ar fap ar Snapchat neu fod mewn llun sy'n tagio lle rydych chi, beth yw eich lleoliad. Mae mor hawdd y dyddiau hyn, ac felly mae angen inni siarad â'r cwmnïau mawr hynny a llunio rhyw fath o strategaeth sy'n ei gwneud hi'n anos olrhain ble mae pobl. Diolch.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Dyna gyfraniad ychwanegol defnyddiol iawn i'r ddadl heddiw, gan weithio yn amlwg o ran yr heddlu'n mynd i'r afael â thrais domestig ar bob lefel, gan gynnwys trais ar-lein ar y cyfryngau cymdeithasol, sy'n ei ganlyn yn aml ac wedi'i gynnwys yn y digwyddiadau stelcio y clywsom amdanynt, ac yn sicr gan weithio gyda Chomisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr a Gweinidogion Llywodraeth y DU ar y materion hyn, a'r heddlu hefyd.

Ond rwyf am ddweud bod pobl wedi sôn am hyfforddiant ac addysg, addysgu a dysgu priodol o ansawdd uchel. Wrth gwrs, bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn chwarae rhan bwysig iawn yn hyn, a dyna pam y mae gofyniad gorfodol addysg cydberthynas a rhywioldeb o fewn y cwricwlwm newydd, gan ddechrau ym mis Medi y flwyddyn nesaf, mor bwysig, oherwydd mae'n rhaid i'r newid ddod gyda'n plant a'n pobl ifanc i dynnu sylw at bwysigrwydd mathau diogel, cyfartal ac iach o gydberthynas a bod ymddygiad camdriniol bob amser yn anghywir.

Rhaid i'r strategaeth ddiwygiedig fod yn uchelgeisiol. Mae'n mynd i fod yn gyraeddadwy. Rydym wedi ymestyn yr ymgynghoriad i 18 Chwefror, felly bydd pwyntiau a fynegwyd heddiw yn bwysig iawn. Mae'n rhaid inni glywed beth y mae pobl Cymru yn ehangach yn ei feddwl. Mae'n rhaid inni greu cymdeithas lle mae menywod yn cael eu trin yn gyfartal a lle nad ydynt yn dioddef trais a cham-drin ar raddfa mor ofnadwy.

Hoffwn ddweud i orffen fod gennym ymgyrch y mis hwn. Fe'i gelwir yn 'Dim Esgus'. Ei nod yw helpu pobl i adnabod patrymau ymddygiad sy'n gysylltiedig ag aflonyddu ar y stryd. Mae'n cydnabod profiadau menywod a merched ac mae hefyd yn cydnabod lle gall hynny achosi ofn, braw a gofid. Ond mae'n galw ar y cyhoedd i dynnu sylw beirniadol at ragdybiaethau ynglŷn ag aflonyddu a'u herio, yn enwedig y syniad fod aflonyddu yn erbyn menywod a merched wedi cael ei ystyried yn rhywbeth diniwed, a hynny'n anghywir yn aml, ac mae'n rhaid iddynt dynnu sylw beirniadol ato gyda'u cyfoedion, eu ffrindiau a'u cydweithwyr. Felly, cadwch olwg am yr ymgyrch 'Dim Esgus'. Dyna fydd y neges.

Ac fel y dywedais, rydym yn cefnogi gwelliant Tŷ'r Arglwyddi i Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd i gynnwys casineb at fenywod fel trosedd casineb ac mae'n wych ein bod yn gallu cael cefnogaeth y Senedd i hynny heddiw, onid yw? Felly, cefnogi'r gwelliant hwnnw.

Rydym yn sôn yn benodol am stelcio heddiw, ond rhaid inni wneud hyn yn glir, fod hyn yn rhan o sbectrwm o ymddygiad sy'n effeithio'n arbennig ar fenywod a merched a rhaid i'n hymateb fod yn gynhwysfawr os yw'n mynd i fod yn effeithiol, ac rwyf eisiau cael fy nwyn i gyfrif ar hyn. Rhaid inni uno pan fo trais ar ein stryd, rhaid inni uno dros newid a rhaid inni uno i ganiatáu i bawb fyw heb ofn. Diolch yn fawr.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:58, 2 Chwefror 2022

Galwaf ar Sioned Williams i ymateb i'r ddadl.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb am eu cyfraniadau i’r ddadl y prynhawn yma ac i’r Gweinidog am ei hymateb cadarn i'r ddadl, a dwi'n cytuno â hi: yn waelodol i’n cynnig ni y prynhawn yma mae’r angen yma i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, sy’n brofiad annerbyniol o gyffredin yn ein cymdeithas. Mae stelcio yn effeithio yn bennaf ar fenywod a merched, gyda dros 80 y cant o’r rhai sy’n cysylltu â’r Llinell Gymorth Stelcio Genedlaethol yn hunan adnabod fel benyw, a’r rhai sy'n cyflawni'r drosedd yn wrywaidd yn bennaf.

Mae’n amlwg bod stelcio yn symptom o broblem gymdeithasol ehangach ac yn rhan o’r trais, aflonyddu a cham-driniaeth sy’n creithio gormod o fywydau menywod a merched yng Nghymru. Rhaid, felly, sicrhau bod y broblem yn cael ei chynnwys a'i hystyried yn llawn yn y strategaeth VAWDASV nesaf.

Weinidog, rwy'n gwybod bod yr awydd a’r uchelgais yno, ond rhaid gwneud mwy; rhaid i bethau wella i ddioddefwyr stelcio. Mae hefyd yn werth nodi natur groesdoriadol stelcio: tra bod elfen rywiol neu rywiaethol bron bob amser ynghlwm wrth stelcio, mae llawer o grwpiau lleiafrifol a bregus yn ein cymdeithas yn fwy tebygol o fod yn dargedau stelcio, er enghraifft, yn sgil eu hil neu rywioldeb. Mae pobl â salwch neu anabledd hirsefydlog hefyd yn fwy tebygol o gael eu stelcio, ac adroddwyd 2,000 o achosion o stelcio gan bobl ifanc dan 18 oed yn 2020 yng Nghymru a Lloegr. Ac fel clywon ni gan Heledd Fychan, fel yn achos pob trosedd yn erbyn menywod a merched, yn anffodus, tybir bod y nifer o achosion nad ydynt yn cael eu hadrodd o gwbl yn uwch o lawer na'r ffigurau hyn.

Er bod y mwyafrif o achosion yn cael eu cyflawni gan rywun y mae'r goroeswr yn ei adnabod, a bod achosion yn medru digwydd o fewn lleoliadau domestig, mae bron i draean o'r achosion yn cael eu cyflawni gan ddieithriaid, ac felly mae ceisio sicrhau bod llefydd cyhoeddus yn ddiogel, yn cael eu cynllunio neu eu haddasu i sicrhau diogelwch menywod a merched yn gwbl hanfodol. Ac fel clywon ni yn y ddadl, mae lleoliadau digidol hefyd angen eu diogelu. 

Mae mynd i'r afael ag atal stelcio yn y lle cyntaf yn ganolog i'n brwydr dros sicrhau Cymru gyfartal. Sut allwn ni oddef sefyllfa lle mae menywod yn dioddef yn y fath fodd a ddisgrifiwyd mor rymus gan Delyth Jewell a Siân Gwenllian yn sgil y drosedd hon? Mae adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig yn dangos bod 71 y cant o fenywod yn y Deyrnas Gyfunol wedi dioddef aflonyddu rhywiol, ac mae hyn yn codi i 86 y cant yn yr oedran 18 i 24. Rydym yn methu ein merched, Dirprwy Lywydd. Ac mae Ymddiriedaeth Suzy Lamplugh wedi canfod bod 97 y cant o fenywod wedi profi aflonyddu ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond dim ond 14 y cant oedd wedi adrodd hyn i'r heddlu, ac o'r rheini, dim ond 6 y cant gafodd gynnig unrhyw gefnogaeth. Dim ond 1 y cant o'r rhai a erlynwyd gafodd eu canfod yn euog.

Mae cael diwylliant lle mae pobl yn medru aflonyddu yn gyhoeddus yn amlwg yn arwain at ganiatáu i stelcwyr feddwl bod ganddynt rwydd hynt i ymddwyn yn eu modd obsesiynol ac, yn aml, fygythiol heb i neb sylwi, neu heb unrhyw ganlyniadau cymdeithasol na chyfreithiol. Mae'r broblem o ran diffyg cefnogaeth a diffyg gweithredu o ran y system gyfiawnder a heddlua yn amlwg. Fe amlinellodd Delyth Jewell, Mark Isherwood a Joyce Watson y problemau sydd ynghlwm wrth y sefyllfa bresennol o ran hyn, gan amlinellu sut mae'r ymateb ar hyn o bryd yn aneffeithiol ac yn annerbyniol, yn gadael gormod o bobl i brofi'r drosedd ofnadwy yma. Ac rwy'n diolch i Jenny Rathbone am rannu profiad ofnadwy ei hetholwr.

Mae cyfiawnder a heddlu, wrth gwrs, dan reolaeth Llywodraeth San Steffan, ac er ein bod yn croesawu'r diwygiad yn Nhŷ'r Arglwyddi i Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd i wneud casineb at fenywod yn drosedd casineb yng Nghymru a Lloegr, mae'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan wedi awgrymu eisoes na fydd yn cefnogi'r diwygiad hwnnw. A beth bynnag, mae'r Bil yn annigonol o ran mynd i'r afael â'r achosion cymdeithasol ac economaidd ehangach sy'n cyfrannu at drais yn erbyn menywod, sy'n ymwneud ag anghydraddoldebau ar sail hil, crefydd, statws mewnfudwyr, anabledd, rhywedd, rhywioldeb, dosbarth, oedran, heb sôn am fynediad cyfartal at wasanaethau iechyd, iechyd meddwl, tai a gwaith. 

Mae nifer o'r siaradwyr y prynhawn yma wedi amlinellu camau y gellir eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cefnogaeth i oroeswyr yn cael ei gwella, bod mwy yn cael ei wneud i atal stelcio yn y lle cyntaf, a bod angen gwell hyfforddiant ar yr heddlu a gwasanaethau cefnogi eraill i adnabod, ymateb ac atal y drosedd ofnadwy hon sy'n achosi cymaint o boen meddwl ac yn arwain yn rhy aml at drais. A Mark Isherwood, dyw anfon neges ddim yn ddigonol yn wyneb agwedd Llywodraeth eich plaid yn San Steffan. Does dim dwywaith bod angen datganoli'r grymoedd sydd eu hangen arnom i geisio ymateb yn fwy effeithiol i'r drosedd hon a'r rhai y mae'n ei effeithio, ac, yn y pen draw, ddileu'r agwedd a'r amgylchiadau sy'n arwain at stelcio yn gyfan gwbl. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 6:04, 2 Chwefror 2022

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Photo of David Rees David Rees Labour 6:04, 2 Chwefror 2022

Rydym bellach wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod dros dro cyn symud i'r pleidleisio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:04.

Ailymgynullodd y Senedd am 18:10, gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair.