– Senedd Cymru am 4:16 pm ar 16 Chwefror 2022.
Eitem 6 yw'r eitem nesaf, y ddadl ar ddeiseb i arbed yr hen ysgol ganolradd i ferched y Bont-faen rhag ei dymchwel. Galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i wneud y cynnig—Jack Sargeant.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon ym mis Mawrth 2020 gan Sara Pedersen, ar ôl casglu 2,080 o lofnodion ar-lein a 3,442 o lofnodion ar bapur, ac rwy'n siŵr bod egin fathemategwyr ar draws y Siambr eisoes wedi cyfrifo'r cyfanswm o 5,522 o lofnodion. Lywydd, mae testun y ddeiseb yn dweud:
'Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i amddiffyn yr hen 'Ysgol Ganolradd i Ferched' y Bont-faen, Bro Morgannwg. Hon oedd yr ysgol ganolradd gyntaf i gael ei hadeiladu yn benodol ar gyfer addysgu merched yng Nghymru (a Lloegr), ac mae cais cynllunio wedi ei gyflwyno i'w dymchwel. Byddai methu ei gwarchod yn arwain at golli adeilad hanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol.'
Fel y gŵyr yr Aelodau, nid yw'r Pwyllgor Deisebau yn ymyrryd mewn materion cynllunio, ond roedd y cwestiwn a ddylai'r adeilad fod wedi'i restru gan Cadw a galwad y deisebydd am adolygiad annibynnol o'r penderfyniad hwnnw yn un y gallem weithredu arno. Yn ystod y pumed Senedd, cytunodd Pwyllgor Deisebau'r Senedd flaenorol, o dan arweiniad rhagorol fy rhagflaenydd yn y gadair, Janet Finch-Saunders, i ofyn am ddadl, ond gan fod busnes y Senedd wedi'i gyfyngu oherwydd y pandemig, nid oedd yn bosibl cynnal y ddadl honno.
Mae cefnogwyr y ddeiseb yn dadlau bod yr ysgol, a gynlluniwyd gan y pensaer Robert Williams, yn
'[d]ystiolaeth amlwg a deniadol o gyfnod pwysig yn hanes Cymru pan ddarparwyd cyfleoedd cyfartal i ferched difreintiedig yr oes'.
Lywydd, mae'r pwyllgor wedi ysgrifennu at Weinidogion diwylliant olynol, sydd wedi amddiffyn penderfyniad Cadw a'u proses. Ysgrifennodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn 2020, ac unwaith eto, rwy'n dyfynnu:
'Mae fy swyddogion wedi ystyried yr holl ddadleuon a gyflwynwyd ar gyfer rhestru'r adeilad yn ofalus iawn ond mae arnaf ofn nad yw'n bodloni'r meini prawf ar gyfer ei restru ar y lefel genedlaethol.'
Yn dilyn ceisiadau pellach gan yr ymgyrchwyr am adolygiad o benderfyniad gwreiddiol Cadw, fe wnaeth y Gweinidog,
'ofyn am gyngor annibynnol gan Richard Hayman, hanesydd adeiladau ac archeolegydd sydd ag arbenigedd penodol mewn adeiladau hanesyddol yng Nghymru'.
Aeth y Gweinidog rhagddo i gefnogi'r penderfyniad i beidio â rhestru'r adeilad. Yn y Senedd hon, ysgrifennodd y pwyllgor newydd at y Gweinidog presennol, Dawn Bowden, a fydd yn ymateb i'r ddadl heddiw, i weld a fyddai'n newid unrhyw beth fel Gweinidog. Atebodd Dawn Bowden, y Gweinidog diwylliant, a dywedodd
'ni chyflwynwyd unrhyw wybodaeth newydd a fyddai'n gwrthdroi'r penderfyniad i beidio â rhestru'r adeilad.'
Gwn am Aelodau o bob rhan o'r Siambr sy'n fwy cyfarwydd â'r adeilad penodol dan sylw heddiw, a'r ardal dan sylw, a byddant am siarad mwy am ei werth pensaernïol a hanesyddol, ac unwaith eto, yr honiadau a wnaed ynglŷn â'i arwyddocâd y tu hwnt i'r ardal leol. Ond Lywydd, os caf, rwyf am ddod at bwynt ehangach yn fy nghyfraniad heddiw: rhaid bod mwy y gallwn ei wneud yn y Senedd hon i gynorthwyo cymunedau i gadw adeiladau y maent yn eu hystyried yn werthfawr. Nid ysgol y Bont-faen yw'r unig achos. Fel pwyllgor, yn ddiweddar gwelsom ymgyrchwyr yn y gogledd yn deisebu i gadw Coleg Harlech—P-05-1130, 'Dylai Llywodraeth Cymru ail-brynu ac adnewyddu Coleg Harlech'—adeilad addysgol arall sy'n galw am ddiben newydd. Gwn fod tîm clercio'r Pwyllgor Deisebau yn gwrthod deisebau eraill yn rheolaidd lle mae pobl leol yn ceisio herio penderfyniadau cynllunio a fydd yn arwain at ddymchwel adeiladau lleol a'r atgofion a'r ystyr sydd ynghlwm wrthynt. Edrychaf o gwmpas y Siambr ac ar y rheini ar-lein ac rwy'n siŵr bod gan bob un ohonom yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau ein hunain adeilad sy'n amlwg yn cyd-fynd â'r patrwm hwn, adeilad nad yw'n gwneud digon o arian neu adeilad sydd wedi mynd yn rhy gostus i'w gynnal, ond adeilad ag iddo le pwysig ynghanol ein trefi a'n pentrefi ac yng nghalonnau'r bobl sy'n byw yno.
Gwyddom hefyd, o'r gwaith y mae'r Pwyllgor Deisebau wedi'i wneud ar y ddeiseb P-05-1112, 'Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011' fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid eraill i ddod o hyd i ffyrdd o'i gwneud yn bosibl i gymunedau gael meddiant ar adeiladau a chyfleusterau cymunedol. Nawr, rwy'n cydnabod na fydd hynny'n ateb i ymgyrchwyr ysgolion y Bont-faen, ond rwy'n gobeithio, yn hirdymor, y gallai hyn greu llwybr arall i gymunedau allu cadw a chynnal yr adeiladau nodedig sydd mor werthfawr iddynt.
Lywydd dros dro yn y Gadair yn awr, edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau o bob rhan o'r Siambr, ac wrth gwrs, edrychaf ymlaen at ymateb y Gweinidog ynghylch cadw adeiladau o bwys mewn cymunedau ledled Cymru. Diolch yn fawr.
Rwy'n siarad heddiw i gefnogi achub yr hen ysgol i ferched y Bont-faen rhag cael ei dymchwel, ac i siarad ar ran pawb sydd am weld yr adeilad hwn yn cael ei adfer. Mae'r mater yn un cymhleth gan fod adeilad yr ysgol yn eiddo i berchennog sydd am ei werthu a rhyddhau ei werth, sy'n golygu ei ddymchwel mae'n debyg, cymuned leol sydd am ei gadw, a Cadw, sy'n gwrthod rhoi unrhyw statws gwarchodedig iddo.
Fel y clywsom, yr ysgol oedd yr ysgol uwchradd gyntaf a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer addysgu merched yng Nghymru a Lloegr, ac fel y cyfryw, credaf fod iddi gryn dipyn o berthnasedd hanesyddol. Hefyd, mae'r gymuned leol yn gweld ei gwerth fel adeilad treftadaeth, gyda phensaernïaeth sydd wedi ennyn llawer o barch ac arwyddocâd lleol. Ac yn hyn o beth, gallaf weld yn glir pam y mae'r ddeiseb wedi ysgogi ymateb mor fawr yn lleol. Mae'r adeilad hefyd yn gartref i'r cyfleuster labordy cyntaf erioed yn y DU ar gyfer addysgu sgiliau gwyddoniaeth ymarferol i ferched. Yn fy marn i, mae hyn yn gwneud achub yr adeilad hwn hyd yn oed yn bwysicach, oherwydd mae'n adlewyrchu trobwynt yn ein gwlad pan ddechreuwyd cydnabod cydraddoldeb, gwerth a photensial menywod mewn gwyddoniaeth—egwyddorion sydd bellach yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol ar 11 Chwefror. Yn anffodus, cymhlethir y mater gan y ffaith bod Cadw yn gwrthod rhoi statws rhestredig, yn bennaf am fod yr adeilad gwreiddiol wedi'i newid, yn helaeth yn eu barn hwy, ac oherwydd bod sawl enghraifft arall well o ysgol uwchradd a adeiladwyd yn y cyfnod hwn eisoes wedi'u rhestru. I bawb sy'n gysylltiedig â'r mater, mae angen penderfyniad, neu fel arall bydd yr adeilad yn dadfeilio ymhellach, caiff mwy o arian ei ddefnyddio i gynnal yr eiddo a gallai'r adeiladwaith ddirywio nes ei fod yn anniogel, sy'n golygu y collir ei botensial presennol i gael ei addasu at ddibenion gwahanol a'i adfywio.
Clywn yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 awydd Llywodraeth Cymru i weld cymunedau mwy cydlynol ac iddynt gael mwy o lais yn yr hyn sy'n effeithio arnynt. Credaf yma fod gennym enghraifft o sut y mae'r system yn gwneud cam â'r gymuned hon. Os yw'r Llywodraeth am gael mwy o gydlyniant cymunedol, mae angen iddi annog cymunedau i gael mwy o lais dros yr adeiladau a'r mannau y maent yn eu gweld fel rhan o'u cymuned, a'u cefnogi pan fyddant yn codi llais i achub eu treftadaeth leol.
Roedd dros 5,500 o lofnodion ar y ddeiseb, sy'n cyfleu cryfder y teimlad lleol ynghylch yr adeilad hwn. Mae cyfle i'r Gweinidog weithredu'n bendant yma a galw'r cais am adolygiad i mewn, ac a dweud y gwir, os ydynt yn dewis peidio â gweithredu i achub yr adeilad hwn, mae'n dangos yn fwy na dim y dirmyg sydd ganddynt yn erbyn y gymuned sy'n ceisio gwneud safiad ac achub rhywbeth sy'n amlwg yn bwysig iddynt.
Yn fy marn i, Cadw sydd ar fai yn llwyr am y sefyllfa bresennol. Yn y pen draw, gallai diffyg pryder Cadw ynghylch cadwraeth yr adeilad hwn am ei fod yn methu ticio digon o flychau arwain at ddinistrio’r hen ysgol hon a'i cholli i genedlaethau'r dyfodol. Dylai Cadw fod yn fwy cydymdeimladol i roi statws gwarchodedig i adeiladau sydd ag arwyddocâd lleol, ac nid arwyddocâd cenedlaethol yn unig, oherwydd mae'n peri gofid i gymunedau weld pensaernïaeth, adeiladau y maent yn eu hystyried yn werthfawr, adeiladau y maent wedi tyfu i fyny gyda hwy ac adeiladau sy'n adlewyrchu eu hanes lleol yn cael eu dinistrio'n unig am mai dyna'r peth mwyaf proffidiol i'w wneud. Yn fy marn i, byddai dymchwel yr hen ysgol i ferched y Bont-faen yn dangos methiant llwyr y wlad hon i ddiogelu treftadaeth leol arwyddocaol a chyda hyn mewn golwg, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau heddiw yn ymuno â mi i gefnogi'r ddeiseb hon. Diolch.
Rwy'n codi i siarad yn y ddadl hon nid am fod gennyf ddiddordeb arbennig yn yr adeilad pwysig yn y Bont-faen y cyfeiriwyd ato, ond oherwydd fy mod am wneud rhai pwyntiau mwy cyffredinol am yr effaith sylweddol y mae peidio â rhestru adeiladau sy'n bwysig o ran treftadaeth leol a chenedlaethol yn ei chael mewn rhannau eraill o'r wlad.
Yn fy etholaeth i, mae eiddo art déco amlwg iawn ar lan y môr yn Llandrillo-yn-Rhos yn debygol o gael ei ddymchwel, yn anffodus, yn sgil gohebiaeth debyg â Cadw, a'r Gweinidog yn wir. Gwn fod rhywfaint o gydymdeimlad gan y Gweinidog ac eraill yn y Siambr hon i geisio ailwampio'r system er mwyn sicrhau y gallwn roi'r warchodaeth y mae yn ei haeddu i eiddo fel 57 Marine Drive yn Llandrillo-yn-Rhos. Ac nid yr eiddo hwnnw'n unig sy'n fy annog i siarad heddiw ychwaith. Rwyf hefyd yn gysylltiedig—ac rwy'n datgan buddiant—ag elusen, elusen fach, o'r enw Sefydliad Evan Roberts. Fe wnaethom gaffael—. Ac rwy'n ymddiriedolwr i'r sefydliad; rwyf am gofnodi hynny er mwyn datgan buddiant. Rydym wedi caffael capel yng Nghasllwchwr yn ne Cymru o'r enw Pisgah. Nawr, nid oes unrhyw rinwedd pensaernïol o gwbl yn perthyn i Pisgah, ond mae'n eithriadol o bwysig i bobl Cymru oherwydd ei hanes ac oherwydd ei gysylltiad â'r diwygiwr Evan Roberts. A phe na byddem wedi gallu caffael yr adeilad, byddai'r adeilad hwnnw wedi'i ddymchwel a byddai byngalo wedi ei godi yn ei le erbyn hyn.
Ac mae arnaf ofn fod problem gyda Cadw o ran y ffordd y mae'n rhestru ein hadeiladau. Nid yw bob amser yn edrych ar y pwysigrwydd hanesyddol; mae'n edrych yn hytrach ar gynllun yr adeilad, a oes unrhyw nodweddion unigryw, a'r bensaernïaeth yn hytrach na'r hanes a'r pethau sy'n gysylltiedig ag ef. Ac rwy'n credu bod hynny'n drasiedi, oherwydd yn y dyfodol rydym yn mynd i golli mwy a mwy o rannau pwysig o'r hyn y mae Cymru wedi codi ohono, os mynnwch, yr hyn sydd wedi esgor ar y Gymru fodern yr ydym yn ei charu. [Torri ar draws.] Iawn, rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.
Fel ymyriad yno, ar y pwynt a wnewch, cyfarfu Darren Millar, Samuel Kurtz a minnau ag Undeb Bedyddwyr Cymru yr wythnos diwethaf, a'r problemau y mae capeli'n eu cael gyda Cadw, o ran methu adnewyddu'r adeiladau o gwbl ac yna mae'r capel yn cau ac mae popeth yn mynd a'r adeilad yn cael ei ddymchwel. Nid yw'r system yn addas i'r diben ar hyn o bryd.
Nid yw'n addas i'r diben, a gwn y bydd y Gweinidog, mae'n debyg, yn cyfeirio at y ffaith y gall rhestru lleol ddigwydd drwy awdurdodau lleol, ond nid oes gan lawer o awdurdodau lleol amser, egni na chapasiti, yn anffodus, i ddatblygu eu rhestrau lleol. Felly, credaf mai'r hyn y gallem wneud ag ef mewn gwirionedd yw cael Cadw i gyflwyno categori rhestru arall, rhestr gradd III efallai, sy'n rhoi'r ychydig bach o warchodaeth ychwanegol y maent yn ei haeddu i'r adeiladau hyn. Ac mae'r ddau eiddo penodol y cyfeiriais atynt yn y ddadl hon wedi'u rhestru ar wefan Coflein, sef cronfa ddata ar-lein cofnodion henebion cenedlaethol Cymru, wrth gwrs. Os ydynt yn ddigon pwysig i fod ar y rhestr honno, dylid rhoi rhywfaint o warchodaeth iddynt. Felly, byddwn yn ddiolchgar, Weinidog, pe gallech chi, yn eich cyfraniad i'r ddadl hon, roi ystyriaeth ddifrifol i gyflwyno rhestr gradd III efallai, fel sy'n digwydd yn yr Alban, ond nid yw'n digwydd yma yng Nghymru, a chredaf y byddai'n rhoi'r warchodaeth sydd ei hangen arnom.
Rwy'n falch iawn o ddilyn fy nghyd-Aelod, Darren Millar, ac rwy'n cytuno i raddau helaeth â phopeth a ddywed y tro hwn, fel yn wir gyda Joel James, oherwydd credaf fod hwn yn fater pwysig iawn ac mae'n wych fod y ddeiseb hon wedi ein galluogi i'w drafod.
Rwy'n cytuno bod rhai materion cymhleth iawn yma, ond fel gyda Darren Millar a'r capel yng Nghasllwchwr, mae gennyf dafarn benodol yn fy etholaeth i, y Roath Park Hotel, sef y dafarn Fictoraidd olaf ar Heol y Ddinas—yr olaf o wyth. Yn anffodus, nid yw'r system gynllunio yn cyd-fynd yn ddigonol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i alluogi awdurdodau lleol i wrthod caniatâd i ddymchwel er mwyn creu adeilad modern hyll yn ei le. Mae wedi digwydd mor aml o amgylch Caerdydd, ein bod wedi colli ein pensaernïaeth hanesyddol gynhenid, ac at ei gilydd nid yw adeiladau modern, yn anffodus, hanner mor gain nac wedi'u hadeiladu cystal.
Nid yw hynny'n golygu ein bod yn philistiaid—nad ydym am weld newid—ond credaf fod yr adeilad hwn yn arbennig mor bwysig am ei fod yn un o ddim ond pump sy'n weddill o 95 enghraifft o ysgol i ferched a adeiladwyd yn bwrpasol at y diben hwnnw. Rwyf wedi bod yn ceisio darganfod ychydig mwy am Robert Williams, y pensaer a'i hadeiladodd. Oherwydd dysgais o'r ddeiseb fod yr adeiladau yr aeth rhagddo i'w hadeiladu yn Llundain ac yn yr Aifft wedi'u cadw ac eto, yma yng Nghymru, rydym yn ystyried dymchwel yr enghraifft wych hon o'i waith. O ystyried ei fod yn arloeswr ym maes cadwraeth adeiladau a thai cymdeithasol, a'i fod wedi sefydlu ysgol bensaernïaeth Cymru, a'r angen i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddatblygu penseiri'r dyfodol, mae hwn yn hanes cyfoethog iawn yr ydym mewn perygl o'i golli. Nid yw Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn cyfleu pwysigrwydd yr holl ffeithiau perthnasol hyn, oherwydd rydym mewn perygl o gael system sy'n seiliedig ar gost popeth a gwerth dim. Ac felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni newid pethau o ddifrif.
Nid oes rhaid i'r penderfyniadau cynllunio, er enghraifft, roi unrhyw ystyriaeth i'r allyriadau carbon sydd ynghlwm wrth y broses o ddymchwel yr adeilad cwbl ddefnyddiadwy hwn y gellid yn hawdd ei droi'n dai cymdeithasol eithriadol o dda a mawr eu hangen, oherwydd, wedi'r cyfan, dyma adeilad a oedd yn cynnig llety o'r diwrnod cyntaf i ferched na allent deithio mor bell â'r Bont-faen yn ddyddiol. Felly, credaf fod rhesymau enfawr pam y mae angen inni ailedrych ar hyn fel mater o frys, oherwydd mae allyriadau carbon yn broblem sylweddol iawn yn unol â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ond mae hefyd yn cyffwrdd ar bwysigrwydd diwylliannol yr adeilad hwn, ar gyfraniad Robert Williams i hyrwyddo'r Gymraeg mewn pensaernïaeth. A chredaf nad yw'r system yn iawn o gwbl, nad yw'n addas i'r diben ar hyn o bryd, ac fel arall byddwn yn cael mwy o drychinebau fel hyn.
Rwy'n cytuno hefyd, fel Jenny Rathbone, â'r Ceidwadwyr yn y ddadl hon. Rwy'n gwybod, eiliad hanesyddol: y tro cyntaf i mi ddweud y geiriau hynny. [Chwerthin.] Ond rwy'n credu bod hyn yn dangos y gallwn fod yn unedig pan fydd pethau'n bwysig, ac mae gormod o'n treftadaeth wedi diflannu.
Mae adeiladau hardd ledled Cymru wedi cael eu gadael i bydru tan y bydd datblygwyr, yn anochel, yn dweud wrth awdurdodau cynllunio lleol na ellir eu hachub. Ac mae pwynt Jenny Rathbone yn eithriadol o bwysig am yr allyriadau carbon hefyd. Dylem fod yn ail-ddychmygu'r adeiladau hardd a hanesyddol hyn i roi bywyd newydd iddynt. Hefyd, rwyf wedi cael llond bol ar weld adeiladau pwysig yn cael eu rhestru, ond heb gael eu hachub a'u gwarchod wedyn, ac yn cael eu gadael i bydru. Nid yw hyn yn dderbyniol.
Pryd bynnag y byddaf yn teithio i'r Bont-faen, mae harddwch yr adeiladau dan sylw bob amser yn creu argraff arnaf, adeiladau sy'n atgoffa o ysgol Coed-y-Lan ger fy nghartref ym Mhontypridd, sydd hefyd wedi'i gadael i ddadfeilio. Mae'n sefyllfa drist iawn, ac yn enwedig pan fyddwch yn meddwl am hanes yr adeilad penodol hwn. Nid af i ailadrodd yr ystadegau hynny, ond rwy'n cytuno â chi, Joel: mewn perthynas â rôl menywod mewn gwyddoniaeth, mae hwn yn adeilad o bwys. Ac yn amlwg, nid fi yw'r unig un sy'n gweld gwerth yr adeilad a'i arwyddocâd hanesyddol. Yn wir, ar y wefan a sefydlwyd gan y grŵp ymgyrchu, ceir rhestr o 20 o arbenigwyr blaenllaw ar adeiladau hanesyddol, haneswyr a phenseiri, a phob un ohonynt yn cefnogi rhestru'r adeilad a'i drawsnewid yn sensitif. Mae'r rhain yn cynnwys Dr Eurwyn Wiliam, arbenigwr ar adeiladau hanesyddol yn Amgueddfa Cymru yn flaenorol, cyn-aelod o Gyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru a chyn-gadeirydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, sy'n aml wedi cynghori Cadw ar faterion o'r fath. Eto i gyd, mae'n ymddangos bod eu barn hwy a barn trigolion lleol wedi'u diystyru, gan arwain at Cadw yn gwrthod rhestru'r adeilad.
Deallaf yn iawn yr angen am dai cymdeithasol fforddiadwy yn y Bont-faen—pwynt a wnaed gan yr un llythyr a gefais sy'n cefnogi dymchwel yr adeilad. Ond fel y dangosir yn y degau o lythyrau a gefais yn cefnogi achub yr adeilad, nid yw'n fater o naill ai/neu, ac mae yna ffordd y gallwn gyflawni'r gorau o'r ddau fyd: achub yr adeilad a'i addasu at ddiben gwahanol. Mae Save Britain's Heritage, sy'n gweithio gyda'r pensaer Philip Tilbury, wedi cynhyrchu cynllun amgen, sy'n dangos digon o le i greu 23 o fflatiau o fewn yr ysgol, yn ogystal â 12 o fflatiau newydd a dau dŷ newydd ar y tir cyfagos. Rwy'n annog y Dirprwy Weinidog i ofyn i'w swyddogion ymchwilio ymhellach i'r mater hwn, yn ogystal â'r cynlluniau amgen a gyflwynwyd.
Mae gan Historic Scotland a Historic England weithdrefnau sefydledig pan geir anghydfodau tebyg i hyn, sy'n caniatáu ar gyfer adolygiad annibynnol gan gymheiriaid allanol mewn amgylchiadau o'r fath—rhywbeth y credaf y byddai o fudd yn yr achos hwn. Dyma gyfle i ail-ddychmygu adeilad hanesyddol i ddiwallu anghenion lleol. Rwy'n cefnogi'r ddeiseb yn bendant iawn ac yn diolch i'r holl etholwyr sydd wedi cysylltu â mi ar y mater hwn.
Galwaf yn awr ar y Dirprwy Weinidog celfyddydau a chwaraeon, Dawn Bowden.
Diolch. A gaf fi ddiolch yn gyntaf i'r holl Aelodau sydd wedi siarad yn y ddadl hon y prynhawn yma, ac am dynnu sylw at gryfder y teimlad ynghylch yr hen ysgol hon? Ac rwy'n deall cryfder y teimlad a fynegwyd, ac wedi cael achos tebyg fy hun, yn fy etholaeth, gydag adeilad Hoover, sy'n hynod bwysig i Ferthyr Tudful am yr holl resymau y bydd unrhyw un sy'n gwybod am hanes Merthyr Tudful yn eu deall. Ond nid yw hwnnw erioed wedi ei restru am yr holl resymau y dof atynt yn awr.
Felly, rwy'n llwyr gydnabod diddordeb hanesyddol yr ysgol, ac rwy'n cytuno y bydd yn drueni mawr ei gweld yn cael ei dymchwel. Fodd bynnag, i'w restru gan Lywodraeth Cymru, rhaid i adeilad ddangos rhinweddau pensaernïol a hanesyddol o arwyddocâd cenedlaethol. Felly, rhaid iddo fodloni'r ddau faen prawf hynny, fel y nodir yn y meini prawf rhestru cenedlaethol. Mae'r adeilad hwn i bob pwrpas wedi'i asesu yn erbyn y meini prawf rhestru dair gwaith: yn gyntaf, fel rhan o ailarolwg cenedlaethol o restru cymunedol y Bont-faen ym 1999, yna gan arbenigwyr adeiladau hanesyddol Cadw mewn ymateb i gais yn 2018, ac eto gan arbenigwr annibynnol yn 2020. Roedd yr asesiadau diweddarach yn cynnwys craffu gofalus ar yr holl dystiolaeth a ddarparwyd gan yr ymgyrchwyr. Y casgliad oedd, yn anffodus, nad yw'r meini prawf wedi eu bodloni yn yr achos hwn. Yr asesiad—[Torri ar draws].
Tybed a gaf eich herio, Weinidog, drwy ddweud bod hyn yn methu'r pwynt. Oherwydd nid yw'n bodloni'r meini prawf ar gyfer cynaliadwyedd, sef arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu. Felly, mae angen i fframwaith Cadw newid, neu mae angen i'r system gynllunio newid, er mwyn cynnwys hynny.
O'r gorau. Os caf barhau, efallai y byddaf yn ymdrin â rhai o'r pwyntiau hynny.
Ond yn anffodus, y casgliad oedd nad yw'r meini prawf yn cael eu bodloni yn yr achos hwn. Roedd yr asesiad—yn groes i'r pwynt a godwyd gennych chi, Darren—yn cydnabod pwysigrwydd hanesyddol cyflwyno ysgolion canolradd i ferched, ond yn bensaernïol, mae'r adeilad wedi newid yn helaeth, yn hanesyddol ac yn fwy diweddar. Y gorau y bydd adeilad wedi'i gadw yn bensaernïol, gorau oll y gall ddangos ei hanes a chyfrannu at ein stori genedlaethol. Nid yw'r adeilad hwn bellach yn goroesi yn y ffordd y'i hadeiladwyd, mae ei ffurf wedi ei newid gan newidiadau ar raddfa fawr yn 1909 ac yn fwy diweddar, mor ddiweddar ag ychydig flynyddoedd yn ôl, pan gafodd ffenestri UPVC eu gosod.
Nawr, er fy mod yn nodi'r alwad am gategori rhestru newydd, nid wyf yn rhannu'r farn fod gostwng y trothwy ar gyfer rhestru i gynnwys adeiladau fel ysgol y Bont-faen yn briodol. Byddai hyn yn tanseilio uniondeb yr adeiladau y nodwyd eu bod eisoes o bwysigrwydd cenedlaethol. Ceir 30,000 o adeiladau rhestredig yng Nghymru eisoes, mwy nag unrhyw wlad arall yn y DU yn ôl maint ei phoblogaeth.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am gymryd yr ymyriad. Onid yw'r ffaith bod llawer o'r adeiladau hyn yn cael eu rhestru ar Coflein, y gronfa ddata genedlaethol o henebion hanesyddol, yn dweud wrthym fod lle arbennig i'r adeiladau hyn yn ein gwlad a'u bod yn haeddu lefel o warchodaeth sy'n gwneud inni feddwl ddwywaith, dair gwaith, bedair gwaith cyn inni benderfynu eu dymchwel? Dyna pam y mae gosod gradd arall—. Mae gennym adeilad rhestredig gradd I, sef y goreuon os mynnwch, y rhai y mae'n rhaid inni wneud popeth i'w gwarchod a pheidio byth â gadael iddynt fynd â'u pen iddynt; gradd II, safon ychydig yn wahanol, ond bod pethau yn eu lle i'w gwarchod. Gallai Gradd III fod yn lefel wahanol o warchodaeth. A ydych yn derbyn bod hynny'n rhywbeth y gallech edrych arno?
Rwy'n credu bod angen inni—. Unwaith eto, mae angen ichi wrando ar weddill yr hyn rwy'n mynd i'w ddweud, oherwydd rwy'n trafod sut y teimlaf fod angen ymdrin ag adeiladau fel hyn.
Rwy'n cydnabod nad yw'r hyn a ddywedais hyd yma yn ateb y mae'r ymgyrchwyr am ei glywed, a gwn eu bod wedi gofyn am adolygiad cymheiriaid gan sefydliadau treftadaeth yn Lloegr a'r Alban, ond mae adolygiad pellach yn amhriodol am fod penderfyniad sy'n rhwymo mewn cyfraith wedi'i wneud bellach. Yn ôl y gyfraith, mae'r adeilad wedi'i wrthod ar gyfer ei restru, a'r mecanwaith priodol ar gyfer adolygu'r penderfyniad hwnnw oedd drwy'r llysoedd mewn cais am adolygiad barnwrol. Felly, oni cheir tystiolaeth newydd, nid oes sail i newid y penderfyniad hwn.
Prif amcan yr ymgyrch, wrth gwrs, yw gweld yr adeilad hwn yn cael ei gadw a'i ailddefnyddio, sef y pwynt a wnaeth Jenny Rathbone, ac er nad yw'r adeilad yn bodloni'r meini prawf ar gyfer rhestru cenedlaethol, nid yw hynny'n golygu nad oes gwerth iddo ar sail ei gyfraniad i'r ardal leol. Mae gan Gyngor Bro Morgannwg restr leol o drysorau sirol, ac er nad yw'r hen ysgol wedi'i chynnwys, byddwn yn annog pob awdurdod lleol yn gryf i lunio rhestr leol a'i diweddaru'n aml.
Yn anffodus, nid yw'r ysgol hon ar restr Bro Morgannwg, ac nid wyf yn gwybod pam. Clywaf yr hyn y mae Darren Millar yn ei ddweud, nad oes gan awdurdodau lleol gapasiti i'w wneud, ond hoffwn awgrymu bod gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb am adeiladau o ddiddordeb lleol y gallant eu hychwanegu at eu rhestrau lleol. Gall yr awdurdod lleol reoleiddio gwaith i ddymchwel adeiladau sydd wedi'u cynnwys ar restr leol gan wneud cyfarwyddyd erthygl 4 o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995, ac mae Cadw wedi rhoi arweiniad defnyddiol i awdurdodau lleol ar hyn, ac mae ar y wefan.
Bydd y cais cynllunio i ddymchwel yr adeilad ar gyfer datblygiad preswyl yn cael ei ystyried gan bwyllgor cynllunio Cyngor Bro Morgannwg ar 2 Mawrth. Efallai y bydd o ddiddordeb ichi wybod bod cynllun datblygu'r awdurdod lleol yn gofyn am gynigion datblygu i warchod neu wella rhinweddau pensaernïol a hanesyddol adeiladau. Nid yw hyn wedi'i gyfyngu i adeiladau a restrir yn statudol neu'n lleol, ond pob adeilad. Felly, mae gwarchod yr adeilad yn ystyriaeth berthnasol ac yn rhywbeth y mae'n rhaid rhoi sylw iddo cyn i'r cyngor wneud ei benderfyniad.
Mae ystyried safbwyntiau cymunedau lleol yn sylfaen bwysig i'n system gynllunio, felly byddwn yn annog pawb sy'n pryderu am golli'r adeilad hwn i gyflwyno eu sylwadau i'r cyngor ar frys os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny. Mae mater rhestru'r adeilad ar lefel genedlaethol wedi gorffen. Mae tynged yr adeilad bellach yn nwylo'r cyngor wrth iddynt benderfynu ar y cais cynllunio, ond mae hefyd yn agored i'r ymgeisydd newid y cynllun, ac addasu'r adeilad, yn hytrach na'i ddymchwel. Diolch yn fawr.
Galwaf yn awr ar Jack Sargeant fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau i ymateb.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Credaf fod heddiw wedi bod yn ddadl dda a phwysig, a diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau a'r Gweinidog am ei hymateb. Fe wnaethom ddechrau gyda chyfraniad pwerus gan Joel James, a gefnogodd y ddeiseb yn ei chyfanrwydd, rwy'n credu, ac a dynnodd sylw at addysgu gwyddoniaeth i fenywod a merched yn yr ysgol—digwyddiad hanesyddol a phwysig.
Aethom ymlaen at Darren Millar, a ailadroddodd y pwynt yr oeddwn yn ceisio'i wneud, rwy'n credu, am bwysigrwydd ehangach adeiladau ledled Cymru. Fe gyfeirioch chi at eiddo art déco yn Llandrillo-yn-Rhos ac fe sonioch chi am yr eglwys a'r elusen yr ydych yn ymwneud â hi, ac fe wnaeth y cyd-Aelod, Rhys ab Owen, ymyriad hefyd a dynnai sylw at ei brofiadau gyda'r capeli ledled Cymru.
Ac yna, rhaid imi ddweud, cawsom olygfeydd syfrdanol yn y Senedd, lle cytunodd Jenny Rathbone a Heledd Fychan â'u cyd-Aelodau, Joel James a Darren Millar—mae'n ddiwrnod hanesyddol i'r Senedd, rwy'n dweud hynny wrthych. Ond clywsom gan Jenny Rathbone am dafarn Fictoraidd, tafarn Roath Park yn ei hetholaeth hi, ac y dylai'r penderfyniadau a wneir fod yn unol â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Honnodd Heledd Fychan y dylem edrych ar adfywio—nid dim ond achub adeiladau o bwysigrwydd hanesyddol, ond eu hadfywio, ail-ddychmygu adeiladau, a mynd ymhellach nag a wnawn eisoes o bosibl.
Ac yna, i ddod at ymateb y Gweinidog, dywedodd y Gweinidog ar y dechrau ei bod yn cydnabod y teimladau cryfion nid yn unig o'r ddeiseb hon ond deisebau tebyg ledled Cymru. Fe gyfeirioch chi at eich etholaeth eich hun yn yr ymateb hwnnw. Ac aethoch ymlaen i nodi ei bod yn annhebygol y byddai'r deisebwyr yn croesawu'r ymateb oherwydd efallai nad dyma'r canlyniad yr oeddent am ei gael, ond fe wnaethoch annog y deisebwyr a'r rhai sy'n teimlo'n gryf am hyn i gysylltu â'u hawdurdod lleol a chyflwyno sylwadau iddynt.
Rwy'n credu—unwaith eto, af yn ôl at fy man cychwyn—fod hon yn ddadl bwysig heddiw. Rwy'n credu mai dyma yw hanfod y Pwyllgor Deisebau: rydym yn trafod ac yn codi'r pwyntiau sy'n flaenoriaethau i bobl yn eu Senedd, Senedd Cymru. Felly, byddwn yn annog pawb sydd am siapio neu ddylanwadu ar ein Senedd, eu Senedd hwy, i ddechrau neu lofnodi deiseb. Mae'r broses yn gymharol hawdd a syml, ac yn amlwg mae'r tîm clercio a phobl eraill sydd y tu ôl i'r llenni ac sy'n gwneud yr holl waith caled—a diolch iddynt am bopeth a wnânt—yn barod ac yn aros i helpu.
Wrth gloi ac i orffen, Lywydd dros dro, ar ran pwyllgor y Senedd, hoffwn ddweud diolch yn olaf i Sara Pedersen am gyflwyno'r ddeiseb hon, pawb sydd wedi llofnodi'r ddeiseb, a'r cyfraniadau hynny heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Y cynnig felly yw cytuno i nodi'r ddeiseb. A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? Nac oes. Iawn.