– Senedd Cymru am 3:58 pm ar 2 Mawrth 2022.
Eitem 6, dadl y Ceidwadwyr Cymreig, gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc. Galwaf ar Tom Giffard i wneud y cynnig.
Diolch yn fawr iawn i chi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus iawn i chi a phawb yn y Siambr hon? Nid wyf ddiwrnod yn hwyr; rwyf 364 diwrnod yn gynnar yn lle hynny. [Chwerthin.] Dyna ni.
Mae'n anrhydedd wirioneddol i mi agor y ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, dadl a gyflwynwyd yn enw Darren Millar, ac un linell yn unig sydd i'r ddadl heddiw, sef bod y Senedd hon
'Yn credu y dylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl banc.'
I'r perwyl hwnnw, rwy'n falch iawn o weld bod Aelodau o Blaid Cymru, y Blaid Lafur a Jane Dodds oll wedi cyd-gyflwyno'r cynnig hwn hefyd. Rwy'n gobeithio'n fawr mai canlyniad y ddadl hon heddiw fydd consensws trawsbleidiol gwirioneddol ar wneud ein diwrnod cenedlaethol yn ŵyl banc.
Ar y pwynt hwnnw—ac nid oeddwn am wneud pwynt pleidiol heddiw, ond teimlais fod yn rhaid imi ymateb—siom oedd gweld y Gweinidog addysg ddoe ar y cyfryngau yn dweud bod gan Lywodraeth Cymru ymgyrch hirsefydlog a'i fod yn falch iawn o weld y Ceidwadwyr Cymreig yn rhoi eu cefnogaeth. Rwy'n atgoffa'r Gweinidog—ac mae'n siomedig nad yw yma—fod y Ceidwadwyr Cymreig yma yn y Senedd wedi bod yn galw amdano ers dros ddegawd. [Torri ar draws.] Wel, roedd yn ddiddorol iawn gweld pa mor hirsefydlog oedd cefnogaeth Llywodraeth Cymru, felly edrychais yn ôl drwy Gofnod y Trafodion a nodais fod Julie James, yn 2018, a oedd yn aelod o'r Llywodraeth ar y pryd, wedi dweud mewn Cyfarfod Llawn, ac rwy'n dyfynnu,
'nid wyf yn credu bod gennym ni unrhyw gynlluniau o gwbl i wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl gyhoeddus genedlaethol'.
Bedair blynedd yn ôl oedd hynny, felly rwyf wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru bellach yn cefnogi ymgyrch hirsefydlog y Ceidwadwyr Cymreig. Ond serch hynny, mewn ysbryd o gydweithrediad trawsbleidiol, rwy'n crwydro. Ond nid y 60 ohonom sy'n eistedd yn y Siambr hon ac ar Zoom yn unig sy'n credu y dylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl banc, mae hyn yn rhywbeth y mae pobl Cymru yn ei gefnogi hefyd. Nid yn unig fod 10,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn ddiweddar yn galw am wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc, dangosodd arolwg barn gan BBC Wales hefyd fod 87 y cant o bobl Cymru yn cefnogi'r syniad.
Gwyddom hefyd fod manteision economaidd sylweddol o wneud y diwrnod yn ŵyl banc. Yn ôl y Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes, yn draddodiadol caiff gwerthiant siopau hwb o 15 y cant ar ŵyl banc, gyda lletygarwch ac arlwyo yn cael hwb o 20 y cant. Ac ar ôl wynebu mesurau anodd a cheisio ymadfer ar ôl y pandemig, oni fyddai'n newid i'w groesawu i'r diwydiannau hyn gael y budd ychwanegol hirdymor hwnnw hefyd? Byddai manteision economaidd enfawr i Gymru pe bai'n digwydd. Canfu astudiaeth yn 2018 fod rhoi gŵyl banc yn rhoi hwb ychwanegol o £253 o elw ar gyfartaledd i siopau bach y DU. Gallai hynny roi hwb o filiynau o bunnoedd i economi Cymru. Ac yn 2019, cyn i'r coronafeirws daro, rhoddodd dau ŵyl banc hwb o £118 miliwn i fusnesau bach a chanolig eu maint yn y DU.
A chredaf fod manteision diwylliannol enfawr hefyd, ac mae gŵyl banc ar ein diwrnod cenedlaethol yn rhoi cyfle inni hyrwyddo Cymru i weddill y byd. Mae sawl sefydliad eisoes wedi rhoi gŵyl banc Dydd Gŵyl Dewi i'w staff, gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Credaf na ddylai dathliadau'r diwrnod hwn fod yn gyfyngedig i'r bobl hynny yn unig, ond i bawb ledled Cymru. Credaf hefyd y byddai'r ŵyl banc hon yn ffordd addas o ddathlu ein treftadaeth a'n diwylliant, ochr yn ochr â'r hwb i'r economi a thwristiaeth—gan roi hwb mawr ei angen i'r diwydiant hwnnw ar ôl y pandemig. Mae gwyliau cyhoeddus yn caniatáu i bobl gael amser hamdden ychwanegol, sydd fel arfer yn helpu i greu effaith gadarnhaol ar dwristiaeth a lletygarwch, a byddai'n ysgogiad gwirioneddol i'r diwydiant twristiaeth, gan fod gwyliau banc yn ychwanegu tua £50 miliwn at dwristiaeth yn unig yn economi'r DU.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y byddai gŵyl banc Dydd Gŵyl Dewi yn denu miloedd o ymwelwyr i'n gwlad i nodi ein diwrnod arbennig, gan roi hwb mawr i economi a thwristiaeth Cymru. Ac mae'n gweithio: canfu ymgynghoriad gan Senedd yr Alban fod ymatebwyr yn cefnogi'r syniad fod gŵyl banc Dydd Gŵyl Sant Andrew yn hybu twristiaeth yn yr Alban. Mae gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc yn ffordd addas o ddangos y diwylliant a'r hanes i'r byd. Mae ymgyrchoedd fel Caru Cymru, Caru Blas yn helpu i hyrwyddo Dydd Gŵyl Dewi ledled Cymru a gweddill y DU, i ddathlu bwyd a diod o Gymru. [Torri ar draws.] Rwy'n eistedd wrth ymyl yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd, sy'n eiriolwr brwd dros eirin Dinbych. [Chwerthin.] Dyna ni. Mae'n braf i rywun arall gael hynny yng Nghofnod y Trafodion am newid.
Dylem fod yn dathlu popeth sydd gan Gymru i'w gynnig a chaniatáu i gynifer o bobl â phosibl brofi diwylliant a hanes cyfoethog Cymru, a byddai cael gŵyl banc yn helpu i hyrwyddo'r gwerthoedd hynny. Ddoe, dathlwyd Dydd Gŵyl Dewi ar draws y byd gan y diaspora Cymreig. Cynhaliodd Cymdeithas Cymru yn Llundain ginio yn y Guildhall; dathlodd cymdeithas Cymry Efrog Newydd ym mar Liberty NYC, yng nghysgod adeilad yr Empire State; ac mae Cymdeithas Dewi Sant Kansai yn Osaka, Japan, yn cynnal wythnos o ddigwyddiadau rhithwir sy'n dathlu Cymru. Ar ôl effaith amhariadau COVID, onid yw'n wych gweld bod dathliadau'n ymadfer o'r diwedd ar ôl seibiant hir, yng Nghymru ac ar draws y byd? Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle perffaith i wella enw da ein gwlad yn fyd-eang, gan greu cysylltiadau ag amrywiaeth eang o bobl o bob cwr o'r byd.
Dylai pobl ledled Cymru allu mwynhau gŵyl banc ar Ddydd Gŵyl Dewi, a byddai'n foment wych i'n gwlad allu dathlu ac uno o amgylch ein treftadaeth a'n diwylliant. Mae gan bobl yr Alban a Gogledd Iwerddon ŵyl banc i ddathlu eu nawddseintiau, gyda Senedd yr Alban wedi ei wneud yn ŵyl banc yn 2006, a Chynulliad Gogledd Iwerddon yn 2000. A chredaf yn awr ei bod yn bryd i Gymru ddilyn eu hesiampl a chael yr un peth i'n nawddsant ni.
Ond mae'n bwysig inni gofio nad yr unig reswm inni gael gŵyl banc yw bod eraill yn cael un hefyd, ond ei bod yn ddiwrnod i fyfyrio ar ein diwylliant a'n treftadaeth. Gall hwn fod yn ddiwrnod lle rydyn ni'n meddwl beth mae'n ei olygu i fod yn Gymreig yn y flwyddyn 2022. Ac, i fi, nid yr ateb yw cawl, rygbi neu ddreigiau, ond Cymru fodern a chymunedau ar draws y wlad—cymunedau sy'n tynnu at ei gilydd pan fydd amseroedd yn anodd. Y Gymru dwi'n ei adnabod yw'r Gymru a ddeliodd â'r coronafeirws drwy fynd i'r siopau ar ran eu cymdogion; mae'r Gymru dwi'n ei hadnabod yn un sy'n sefydlu grwpiau cymunedol i helpu ei gilydd gyda phethau fel iechyd meddwl, er enghraifft; ac mae'r Gymru dwi'n ei hadnabod yn un sy'n sefyll mewn undod gyda phobl yn Wcráin. Wrth gwrs, rydyn ni'n dal i fod yn wlad beirdd a chantorion, ond rydyn ni hefyd yn wlad ag empathi.
Felly, rwy'n falch iawn o fod yn Gymro a gwn fod gan Gymru gymaint i'w gynnig i'r byd, ac rwy'n obeithiol iawn am ei dyfodol hefyd. A hoffwn gloi drwy ddyfynnu Prif Weinidog y DU, a ddywedodd ddoe,
'Yn fyr, Cymru a'r Cymry sy'n gwneud y DU yr hyn ydyw heddiw.'
Ac rwy'n cytuno'n llwyr.
Diolch yn fawr i'r Torïaid am ddod â'r ddadl yma ger bron, ond hoffwn i ddechrau heddiw trwy eich hebrwng yn ôl ar daith hanesyddol—nid nôl i oes Dewi a'r seintiau cynnar, ond yn ddigon pell yn ôl i gyfnod pan oedd Tom Giffard yn gwisgo trywser byrion yr ysgol gynradd, i Gareth Davies yn bwyta'r Denbigh plum ar lin ei fam, i Jack Sargeant heb farf ac i fi gyda mwy o wallt ar dop fy mhen. Ie, nôl 22 o flynyddoedd i Ddydd Gŵyl Dewi cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn y Siambr yn Nhŷ Hywel, fe wnaeth fy nhad arwain dadl yn cynnig bod Dydd Gŵyl Dewi yn dod yn ŵyl y banc. Dywedodd hyn wrth agor y ddadl 22 a diwrnod o flynyddoedd yn ôl:
'Mae Dydd Gŵyl Dewi Sant yn fwy na dathliad. Hwn yw ein diwrnod cenedlaethol a’r diwrnod pan yr ydym ni, pobl Cymru, gartref ac ar draws y byd yn gallu dathlu ein gorffennol a’n presennol a chael hwb ar gyfer ein hymdrechion yn y dyfodol.'
Fe gafodd y cynnig gefnogaeth unfrydol lot bellach yn ôl na degawd, Tom Giffard. Fe gafodd e gefnogaeth unfrydol y Cynulliad, cefnogaeth o bob plaid, gan gynnwys y Ceidwadwyr Cymreig. Ond, yn 2002, wedi oedi a llusgo traed, fe wrthododd Paul Murphy, yr Ysgrifennydd Gwladol, gais y Cynulliad. Yn 2005, rŷm ni bellach nawr yn ail dymor y Cynulliad, a Peter Hain nawr yn Ysgrifennydd Gwladol. Fe ofynnodd fy nhad am ddiweddariad oddi wrth Rhodri Morgan. Ateb Rhodri oedd:
'Mae San Steffan wedi gwrthod cais y Cynulliad, ond mae'r trafodaethau'n parhau.' Wel, nid wyf yn gwybod a ydynt yn parhau—
—nawr, ond dŷn nhw ddim wedi bod yn llwyddiannus iawn hyd yn hyn, ydyn nhw?
Ac yn 2021, wedi cais gan Gyngor Gwynedd, gwrthodwyd rhoi gŵyl y banc i Gymru gan Lywodraeth San Steffan. Déjà vu, groundhog day—galwch e beth y mynnwch chi—but we've been here before. Er llais unedig y Cynulliad a'r Senedd ar y mater yma, nid ydym wedi symud ymlaen o gwbl mewn 22 o flynyddoedd. Llywodraethau San Steffan o ba bynnag liw—Llafur, Ceidwadwyr, hyd yn oed y Democratiaid Rhyddfrydol—a dim un ohonyn nhw wedi rhoi Gŵyl Ddewi yn ŵyl y banc. Pum Prif Weinidog, saith Ysgrifenydd Gwladol, i gyd wedi dweud 'na'. Nid problem bleidiol yw hon. Gwelwn heddiw, fel 22 o flynyddoedd yn ôl, gefnogaeth drawsbleidiol unfrydol yn y Senedd hon. Y broblem yw San Steffan. Dro ar ôl tro, rŷm ni'n cael ein hanwybyddu.
Os yw'r Deyrnas Unedig yn undeb o genhedloedd cydradd, fel y mae'r unoliaethwyr cyhyrog a'r unoliaethwyr nad ydynt mor gyhyrog yn hoff o'i ddweud, byddai cydraddoldeb rhwng y cenhedloedd—cyfle cyfartal i ni ddathlu, dawnsio, canu a gorffwys ar ddiwrnod ein nawddsant. Ac fel y dywedodd Tom Giffard, yn ystod y 22 mlynedd diwethaf, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon wedi creu gwyliau banc ychwanegol i ddathlu eu nawddseintiau, ac rwy'n gobeithio y bydd ein cymdogion yn Lloegr yn gwneud yr un peth yn fuan. Nid ydym yn gofyn am—.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Nid wyf eisiau torri traws ar eich anterth, ond rydych yn dweud nad y pleidiau yw'r broblem, ond San Steffan. A fyddech felly'n cytuno â mi, yn hytrach na phasio cynigion ac anfon y ceisiadau hyn i San Steffan, y dylai'r pwerau hyn fod yma i ni benderfynu arnynt?
Rhyfedd ichi ddweud hynny, Alun, oherwydd fy mrawddeg nesaf oedd, 'Mae angen i Gymru allu penderfynu pryd y cawn ein gwyliau banc ein hunain.' [Chwerthin.]
Yn lle hynny, rydym fel Oliver Twist, onid ydym ni, yn ysgwyd, yn mynd gyda'n powlen gardota yn gobeithio am ryw friwsionyn. Wel, dylem ni ddim mynd ar gardod ar Lywodraeth arall i sicrhau bod gŵyl ein nawddsant yn ŵyl y banc. Hyfryd oedd clywed Tom Giffard yn siarad Cymraeg ar Radio Cymru ddoe, hyfryd clywed ti'n siarad Cymraeg heddiw—dal ati, gyfaill, gwna fe eto—ond roeddwn i'n gresynu dy fod wedyn wedi dweud ar Radio Cymru y dylid symud un o wyliau banc mis Mai ar gyfer 1 Mawrth. Wel, mwy o wyliau banc sydd eu hangen arnom, Tom, nid cadw'r status quo; creu cyfartaledd gyda'n cyfeillion yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, gydag 11 yn yr Alban, 10 yng Ngogledd Iwerddon ond dim ond wyth yng Nghymru a Lloegr. Pam? Dydy hynny ddim yn gwneud dim synnwyr.
Dwi'n credu y gall Llywodraeth Cymru ddilyn yn ôl traed Cyngor Gwynedd a chreu gŵyl y banc de facto yma yng Nghymru. Mae arweiniad Cyngor Gwynedd wedi arwain at y parc cenedlaethol yn Eryri, Cyngor Tref Aberystwyth a nifer o fudiadau'r trydydd sector yn rhoi gŵyl y banc i'w gweithwyr.
Gadewch imi ddweud: mae llawer wedi newid ers y ddadl ar ŵyl y banc yn y flwyddyn 2000, yn gyfansoddiadol ond hefyd, wrth reswm, i ni yn bersonol—cyfnodau llon a chyfnodau lleddf; cyfnodau o ennill ac o golli. Wedi’r cyfan, mae 22 o flynyddoedd yn gyfnod hir. Yn y cyfnod yna, mae fy nhad i—.
Rwy'n dirwyn i ben yn awr, Ddirprwy Lywydd.
Yn y cyfnod yna, mae fy nhad i wedi colli'r gallu i siarad yn llwyr, ond mae ei eiriau, a thrwy hynny ei lais, yn parhau. Terfynodd ei araith drwy ddyfynnu geiriau anfarwol ein nawddsant,
'Frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain.'
Aeth fy nhad, Ddirprwy Lywydd, ymlaen yn bellach i ddweud:
'Sylwch ar y geiriau "byddwch lawen", sydd yn golygu dathlu, mwynhau a, phwy a ŵyr, cael diwrnod o wyliau efallai? Pwy ydym ni i anwybyddu dymuniadau'r gŵr mawr?'
Wel, gyfeillion, 22 o flynyddoedd yn ddiweddarach, nid yn unig y mae dymuniadau'r gŵr mawr, Dewi Sant, wedi cael eu hanwybyddu, ond hefyd, dro ar ôl tro—
Mae angen i chi ddirwyn i ben yn awr.
—llais unfrydol y Cynulliad a’r Senedd. Mawr obeithiaf, gyfeillion, na fyddwn yn ôl mewn 22 o flynyddoedd yn cael yr un ddadl. Diolch yn fawr.
I'r record, dwi'n Gymro balch.
Fel Cymro balch, rwy'n ategu geiriau Rhys ab Owen a'i dad yn yr hyn y mae newydd ei ddweud. Mae hon yn ddadl sydd i'w chroesawu'n fawr heddiw, ac mae'n wych gweld bod y cynnig wedi ei gyflwyno gan holl bleidiau'r Senedd. Rwy'n gobeithio bod Llywodraeth y DU yn gwrando, ac yn gwrando gyda bwriad i sicrhau y gallwn wneud y penderfyniad hwn yma yn ein Senedd ni.
Tom Giffard, rydych yn iawn: nid oes gennym ddigon o wyliau banc, fel yr ategodd Rhys ab Owen. Pa ddiwrnod gwell i gael gŵyl banc ychwanegol nag ar Ddydd Gŵyl Dewi? Mae'n gyfle gwych i ddathlu Cymru, ond hefyd, i lawer, dim ond i gael peth amser yn ôl.
Ond mae'n werth cofio, Ddirprwy Lywydd, nad yw pawb yn cael gwyliau ar ŵyl banc, a dylem fod yn edrych ar wella ffyrdd o wella eu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith hwythau hefyd. Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod yn cefnogi wythnos pedwar diwrnod, oherwydd rwy'n cydnabod bod rhoi amser yn ôl i bobl yn cynnig budd mewn cynhyrchiant. Rydym yn cydnabod ein bod yn gweithio'r oriau hwyaf yn Ewrop, ac eto mae ein cynhyrchiant yn is na'r rhan fwyaf.
I'r rhai sy'n meddwl yn y sgyrsiau hyn heddiw pwy y dylent ddiolch iddynt yn y gorffennol am greu'r gwyliau banc sydd gennym yma yn y Deyrnas Unedig, yr undebau llafur ydynt. Fy neges heddiw i Aelodau ar draws y Siambr ac i bobl Cymru yw ymunwch ag undeb; ymunwch â'r frwydr mewn undod â'n cydweithwyr am well cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Ddirprwy Lywydd, nid wyf am brofi eich amynedd, fel y mae eraill wedi'i wneud yn y ddadl hon, ond a gaf fi orffen drwy gymeradwyo ein harweinydd beiddgar—ein Prif Weinidog beiddgar—a'i neges ddoe ddiwethaf, pan alwodd am wneud y pethau bychain Cymreig? Wrth hynny, yr hyn a olygai oedd gweithredoedd da. Lledaenwch y pethau bychain Cymreig a lledaenwch garedigrwydd, boed hynny drwy fwyta cennin, plannu coeden eirin Dinbych, yfed Wrexham Lager neu beth bynnag y gallech chi ei wneud. Ond os gwelwch yn dda, lledaenwch y Cymreictod hwnnw a lledaenwch y caredigrwydd hwnnw, ffrindiau, ar Ddydd Gŵyl Dewi a phob dydd drwy gydol y flwyddyn. Diolch yn fawr.
Diolch i Darren Millar am gyflwyno'r cynnig y prynhawn yma. Bydd Aelodau'r Siambr sy'n fy nilyn ar y cyfryngau cymdeithasol yn gwybod bod hwn yn achos rwy'n hynod angerddol yn ei gylch. Fel Rhys ab Owen, rwy'n mawr obeithio na fyddwn yn dal i fod yma ymhen 22 mlynedd yn trafod y pwnc hwn. Fodd bynnag, nid wyf am ddefnyddio fy sylwadau byr y prynhawn yma yn trafod y wleidyddiaeth. Byddai'n well gennyf sôn am y pethau niferus sy'n gwneud Cymru a'r Cymry'n wych ac yn deilwng o ŵyl banc genedlaethol, i ddathlu a chydnabod y cyfraniad enfawr y mae ein pobl, ein diwylliant a'n hanes wedi'i wneud nid yn unig i'r Deyrnas Unedig ond i'r byd.
Yn gyntaf, ein diwylliant a'n hymdeimlad o hiraeth, o berthyn i'n cenedl a'n hiraeth am ein gwlad, y syniad, ni waeth pa mor bell o Gymru y boch, y bydd eich clustiau'n codi pan glywch air neu ddau o Gymraeg neu acen Gymreig. Mae'n anochel y bydd gennych ffrindiau neu gydnabod yn gyffredin. Gwelais hyn yn uniongyrchol pan ymwelais â Gambia yn Affrica yn fy arddegau. Un bore, clywais 'bore da' gan un o'r tywyswyr teithiau Gambiaidd lleol, Mustapha Bojang, a fyddai'n mynd ati i arddangos ei wlad brydferth i ni, ac roedd ganddo ffrindiau yn Saundersfoot. Ac o'n heisteddfodau a'n cymanfaoedd canu neu hyd yn oed jamborïau'r Urdd, mae ein hanes o adrodd straeon, canu a dod at ein gilydd i fwynhau ein diwylliant yn gonglfaen i'r hyn sy'n gwneud Cymru'n wych.
Mae siarad am 'wychder' yn dod â mi at fy ail bwynt, sef ein chwaraeon, sy'n ffynhonnell cydlyniant cymdeithasol ac uchelgais cenedlaethol. Mae Cymru'n gartref i bencampwr bocsio, enillydd Tour de France, buddugwyr y Gamp Lawn, enillwyr Camp Lawn y dartiau, a phencampwyr medalau aur Olympaidd. Mae ein chwaraeon yn arf i fynd i'r afael ag iechyd meddwl gwael ac yn denu mewnfuddsoddiad. Heb os, mae chwaraeon wedi trawsnewid bywydau a gwella cymunedau ledled Cymru. Ac er mai cenedl fach ydym ni, mae'n ymddangos ein bod bob amser yn gwneud yn well na'r disgwyl—nad yw'n ffôl i genedl gydag ychydig dros 3 miliwn o bobl. Ond daw hyn â mi'n ôl at yr ymdeimlad hwnnw o gydlyniant, o berthyn ac o gymuned. Mae ein harwyr chwaraeon yn ein plith yma yng Nghymru, ac nid yn eilunod pell. Credaf ein bod yn agosach at ein sêr chwaraeon na llawer o wledydd eraill, ac felly rydym yn rhannu eu buddugoliaethau a'u maeddiadau i raddau mwy na rhai gwledydd eraill.
Daw hyn â mi at fy nhrydydd pwynt, ein cymuned. Wrth siarad heddiw ac ar ôl gweld ein hymateb i'r rhyfel a'r gwrthdaro yn Wcráin, mae'n ddiamau bod Cymru yn 2022 yn genedl agored, oddefgar a thosturiol, y mae ei dyngarwch a'i hempathi yn bodoli y tu hwnt i'n ffiniau a'n cymunedau ein hunain. A dyna'n union sy'n gwneud Cymru mor anhygoel o arbennig. Mae ein hysbryd cymunedol wedi'i wreiddio ym mhob sefydliad, pob traddodiad, a phob arfer. Mae'n rhan o sylfeini'r union Senedd hon, ac mae'n nodwedd y mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn ei rhannu.
Daw hyn â mi at fy mhedwerydd pwynt, ein hanes hir a chyfoethog o Gymry sy'n gwasanaethu yn ein lluoedd arfog. Rydym i gyd yn ymwybodol o'n hymrwymiad a'n traddodiad hanesyddol dwfn yn lluoedd arfog Cymru, traddodiad sydd wedi gweld uned frwydro Frenhinol Cymru yn cael ei hanfon i Estonia i gefnogi ein cynghreiriaid Ewropeaidd a NATO mewn ymdrechion i gefnogi Wcráin ac ymladd yn ôl yn erbyn ymddygiad ymosodol. Yn ogystal â'r rhai sy'n gwasanaethu, mae Cymru'n gartref balch i nifer o gyn-filwyr, a ddoe ddiwethaf cyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU fod Cyrnol James Phillips wedi'i benodi'n gomisiynydd cyn-filwyr cyntaf erioed Cymru, rhywun y gall ein cyn-filwyr ddibynnu arno i wella cefnogaeth a chraffu ar bolisi'r Llywodraeth.
Ac yn olaf, fy mhumed pwynt, ein hiaith. Mae pawb yn siarad ein hiaith gyda balchder, a dyna yn union y pwynt: mae'r iaith Gymraeg i bawb ac mae'n chwarae rhan hollbwysig yn ein treftadaeth, ein hanes, a'n diwylliant. Ddoe, sefais yma a siarad am sut mae hunaniaeth cenedl nid yn unig yn seiliedig ar ddiwylliant a thraddodiad, ond cymuned hefyd.
Wrth i mi ddirwyn i ben, rwy'n myfyrio ar eiriau mab enwocaf Talacharn, Dylan Thomas, a ddywedodd am Gymru, 'Gwlad fy nhadau? Gall fy nhadau ei chael!' Mentraf ddweud, Ddirprwy Lywydd, fod y bardd Cymreig mor anghywir yn awr ag yr oedd bryd hynny. Yn wir, Cymru yw'r lle gorau ar y ddaear, a chredaf ei bod yn iawn inni gael gwyliau cenedlaethol i adlewyrchu a chydnabod hynny. Diolch.
A gaf i ddweud diolch yn fawr iawn hefyd i'r Torïaid am gyflwyno hyn, a hefyd diolch i Tom am ddechrau'r ddadl yma? Gwych eich clywed chi'n siarad Cymraeg. Diolch yn fawr iawn am hynny.
Gallwn gael cystadleuaeth fach, rwy'n credu, rhyngom ni, Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, a Llafur Cymru, oherwydd cyflwynwyd gwyliau banc am y tro cyntaf ym 1871 gan Syr John Lubbock, a oedd yn AS Rhyddfrydol a ddrafftiodd y Bil Gwyliau Banc. Fodd bynnag, hoffwn dalu teyrnged i'r undebau llafur, sydd wedi gwreiddio'r ymdeimlad yn ein diwylliant fod arnom angen cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Mae COVID, fel rydym i gyd wedi'i ddysgu, onid ydym, wedi gwneud inni ailfeddwl am ein bywydau o ran yr hyn sy'n bwysig i ni, a'r hyn nad yw mor bwysig i ni yn awr efallai, ac nid yw'n ymwneud â gweithio'n ddiddiwedd, ond yn hytrach, treulio amser gyda'n teuluoedd a'n ffrindiau a'n cymunedau sy'n bwysig mewn gwirionedd. Fel y clywsom—ac eto, mae Jack wedi sôn am hyn—mae'n bwysig iawn ein bod yn cofio'r holl bobl sy'n gweithio ar wyliau banc ac ar benwythnosau hefyd. Mae angen inni dalu teyrnged iddynt—ein gweithwyr gofal, ein gweithwyr siopau, ein gweithwyr ffatri, y rhai sy'n gweithio ym maes iechyd. Mae angen inni sicrhau eu bod hwy'n cael eu cefnogi a'u talu'n briodol hefyd.
Mae pawb ohonom yn cofio, y rhai ohonom a oedd yn yr ysgol, yr eisteddfodau, y Dyddiau Gŵyl Dewi pan fyddem yn gwisgo i fyny. I mi, roedd fy het, pan oeddwn tua chwech oed, yn fwy na mi mewn gwirionedd. Rydym i gyd yn cofio'r eisteddfodau y byddem yn eu cael drwy gydol y dydd yn blant, a byddem yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi. Dyna sydd angen inni feddwl amdano wrth symud ymlaen. Clywsom fod Cymru'n wlad wirioneddol wych. Mae gennym y Gymraeg, mae gennym ganu plygain. Cofiwch, yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, fod gennym ddathliadau plygain, sy'n ymwneud â chanu. Mae gennym ddefaid. Mae gennym ddefaid gwell nag unrhyw wlad arall yn y byd. Mae gennym ein diwylliant. Mae gennym chwaraeon, mae gennym gymaint mwy. Mae angen inni sicrhau bod y byd a'r wlad hon yn gwybod ein bod yn falch o fod yn Gymry, a dyna pam ein bod angen gŵyl banc Gymreig ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Diolch yn fawr iawn.
Dewi Sant yw nawddsant ein gwlad, ac mae ei weithredoedd da yn parhau i ysbrydoli llawer ar draws ein cymdeithas gyfan. Mae Dydd Gŵyl Dewi hefyd yn nodi diwrnod gŵyl genedlaethol ledled Cymru a chymunedau Cymreig ledled y byd. Byddai creu gŵyl banc i nodi'r achlysur hwn yn rhoi amser i'n cymunedau fyfyrio a dathlu ein hanes a'n diwylliant a'r rôl bwysig y mae'r ddau wedi'i chwarae yn ffurfiant a diwylliant ehangach ein Teyrnas Unedig.
Gan fod hyn yn rhywbeth sydd eisoes yn cael ei wneud yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae'n briodol iawn y dylid rhoi'r un cyfle i Gymru. Er ein bod yn sicr yn deulu o genhedloedd, mae'n iawn hefyd fod pob aelod yn cael y cyfle hwn i fwynhau a dathlu ei hanes ei hun. Yn wir, mae llawer o sefydliadau, megis Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, eisoes yn rhoi diwrnod o wyliau i'w staff i nodi Dydd Gŵyl Dewi. Am y tro cyntaf eleni, mae St David's Commercial, busnes eiddo yn etholaeth fy nghyd-Aelod, Darren Millar, wedi rhoi diwrnod o wyliau i'w staff. Felly, mae hynny'n dangos bod busnesau bellach yn dechrau cydnabod hyn.
Mae cymunedau o bob cwr o'n cymdeithas yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau mawreddog i nodi'r diwrnod. Yng Nghaerdydd, cafwyd gorymdaith drwy'r ddinas cyn canu anthem genedlaethol Cymru. Yn Ninbych, ailaddurnwyd siopau lleol i nodi'r digwyddiad. Mae sir y Fflint wedi bod yn cynnal pythefnos o weithgareddau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Gwn fod dirprwy faer Llandudno wedi mynychu gorymdaith ym Mae Colwyn, unwaith eto yn etholaeth fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Felly, nid yw ond yn iawn creu gŵyl banc i gefnogi'r ymdrechion parhaus hyn a hefyd i annog mwy o gymunedau i nodi'r dyddiad cenedlaethol pwysig hwn.
Mae achos economaidd cadarn hefyd dros y gwyliau banc hwn. Fel y gŵyr llawer o'r Aelodau, rwy'n siŵr, mae busnesau bach a chanolig, yn enwedig y rhai sy'n gweithredu yn ein sectorau twristiaeth, lletygarwch a manwerthu gwerthfawr, yn wynebu heriau sylweddol yn ystod misoedd cynnar y flwyddyn. Byddai gŵyl banc ar 1 Mawrth yn rhoi hwb economaidd i'w groesawu'n fawr yn ystod chwarter ariannol heriol. Yn ôl gwasanaeth sy'n olrhain taliadau cardiau, rhoddodd dau wyliau banc yn 2019 hwb o £118 miliwn i fusnesau bach a chanolig Prydain.
Yn ogystal, mae'r Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes yn honni bod gwerthiant siopau yn draddodiadol yn cael hwb o tua 15 y cant ar ŵyl banc, tra bod lletygarwch yn gweld cynnydd o 20 y cant o'i gymharu â phenwythnos. Fel y cyfryw, byddai darparu gŵyl banc yn gynharach yn y flwyddyn yn rhoi hwb economaidd mawr ei angen i fusnesau sy'n asgwrn cefn i economi Cymru. Ac fel y dywedodd ein cyd-Aelod, Jane Dodds, bydd yn cefnogi diwydiannau sydd wedi dioddef cymaint yn sgil y pandemig yn arbennig. Felly, mae'n bleser mawr gennyf ychwanegu fy nghefnogaeth i'r cynnig hwn, sy'n gofyn i Lywodraeth y DU nodi Dydd Gŵyl Dewi fel gŵyl banc. Diolch.
Rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig y dylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl banc yma yng Nghymru, a hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, Tom Giffard, am arwain y ddadl yma yn y Senedd heddiw. Bydd gŵyl banc ar ein diwrnod cenedlaethol yn dod â'n cenedl ynghyd i ddathlu ein hanes, ein cyflawniadau, ein diwylliant unigryw a'n hamrywiaeth.
Fel rhywun a anwyd ac a fagwyd ac sy'n byw yng Nghasnewydd, efallai na fydd hyn yn syndod i chi, ond rwy'n siŵr y byddai fy niweddar dad wedi cefnogi'r cynnig hwn heddiw, yn union fel y byddai tad Jack Sargeant wedi'i wneud hefyd. Ni chafodd fy nhad ei eni yng Nghymru, ond dewisodd wneud Cymru'n gartref iddo, ac efallai mai ef oedd y dadleuwr mwyaf brwd dros Gymru imi erioed gwrdd ag ef. Ar wahân i hynny, teimlai fod ganddi botensial aruthrol ym mhob agwedd ar fywyd, o'r economi i addysg a thrafnidiaeth hefyd. Roedd eisiau creu Cymru well i bawb ac roedd yn ymrwymedig i ddod â'n cymunedau amrywiol at ei gilydd. Byddai gŵyl banc ar Ddydd Gŵyl Dewi yn rhoi cyfle i bobl ledled Cymru, boed wedi eu geni yma neu beidio, uno i werthfawrogi a dathlu'r lle yr ydym i gyd yn ei alw'n gartref. Fel y dywedodd Jane Dodds, byddai'n rhoi cyfle inni dalu teyrnged i'n harwyr ac wrth i Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod agosáu, ein harwyr benywaidd o Gymru. Fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, byddai'n amser i fyfyrio ar ein hanes a'i ddathlu.
Gwn mai un o'r dadleuon a gyflwynwyd yn erbyn y cynnig hwn yw'r gost i'r economi. Fodd bynnag, gadewch inni fod yn glir: nid yw'r cynnig hwn yn ymwneud â chreu gŵyl banc newydd, mae'n ymwneud â symud un gŵyl banc sy'n bodoli eisoes, naill ai Calan Mai neu ŵyl banc y gwanwyn, o fis Mai i fis Mawrth, fel y gallwn ddathlu diwrnod ein nawddsant. Fel y dywedodd Rhys ab Owen yn gynharach, mae gwledydd datganoledig eraill yn y DU eisoes yn gwneud hyn. Gwnaeth Cynulliad Gogledd Iwerddon Ddydd Sant Padrig yn ŵyl banc yn ôl yn 2000, a gwnaeth Senedd yr Alban yr un peth ar gyfer Dydd Sant Andrew yn 2006. Pam y dylid amddifadu pobl Cymru o'r un fraint? Ceir cefnogaeth eang ymhlith y cyhoedd i gam o'r fath. Nododd arolwg barn gan BBC Wales yn 2006 fod 87 y cant yn cefnogi'r syniad, ac mae dros 10,000 o bobl wedi arwyddo deiseb ddiweddar o blaid yr argymhelliad.
Mae hefyd yn braf fod y cynnig hwn wedi cael cefnogaeth gan bob plaid a gynrychiolir yn y Senedd heddiw. Byddai hefyd yn anfon neges gref i'r Cymry ar wasgar a'r rhai sy'n falch o'u treftadaeth Gymreig sy'n byw mewn rhannau eraill o'r DU, neu sy'n byw dramor, y gallant ddathlu gyda ni ar y diwrnod arbennig hwn bob blwyddyn. Ceir cymdeithasau Cymreig mewn mannau mor bell oddi wrth ei gilydd â Llundain ac Affrica, fel y soniodd Sam Kurtz yn ei gyfraniad, yn Efrog Newydd, ac fel y dywedodd Tom Giffard, yn Osaka hefyd. Roedd yn wych gweld mab y Seneddwr Gweriniaethol dros Utah a chyn-ymgeisydd am Arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau, Mitt Romney, yn gwisgo crys rygbi Cymru cyn y gêm yn erbyn Lloegr. Mae hyn yn dangos ei falchder yn ei dreftadaeth Gymreig ar ochr ei fam, Ann Romney, a oedd yn wyres i löwr o'r Cymoedd.
Felly, Ddirprwy Lywydd, nid oes gennym bŵer yma i wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc; mae'r pŵer gyda Llywodraeth y DU yn San Steffan. Byddai'r cynnig hwn, os caiff ei basio, yn ein galluogi i weithio'n adeiladol gyda San Steffan i sicrhau gŵyl banc Dydd Gŵyl Dewi i Gymru. Rwy'n annog y Senedd i siarad ag un llais i sicrhau'r newid hwn. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r hyn sydd wedi digwydd yn Wcráin dros yr wythnos diwethaf yn peri gofid mawr. Mae wedi pwysleisio pa mor bwysig yw gallu dathlu eich bod chi'n genedl, a pha gyfle gwell inni ddathlu yma yng Nghymru nag ar Ddydd Gŵyl Dewi? Dyma sut rydyn ni'n dathlu ein bod ni'n wlad sy'n cefnogi gwledydd eraill hefyd. Rydyn ni'n dangos ein bod ni'n sefyll fel un gyda phobl o wledydd eraill ar draws y byd. Ddoe, roedd gweld daffodil Cymru ochr yn ochr â blodyn yr haul Wcráin yn dangos ein bod ni'n mynnu ein lle fel cenedl ymhlith cenhedloedd eraill y byd. Ac mae Llywodraeth Cymru yn falch o wneud hyn. Bob blwyddyn, rydyn ni'n hybu Cymru a'i diwylliant arbennig gyda gwahanol weithgareddau adeg Dydd Gŵyl Dewi. Bob blwyddyn hefyd, mae'r mater o gael diwrnod o wyliau cyhoeddus ar Ddydd Gŵyl Dewi yn codi. Dylai Aelodau fod yn gwbl sicr o farn Llywodraeth Cymru am y mater hwn. Mae'n rhywbeth rydyn ni wedi bod yn dadlau dros ei wneud ers dechrau datganoli, fwy neu lai.
Ceir cefnogaeth eang ymhlith y cyhoedd, fel sydd ar draws y pleidiau yn y Siambr hon, i wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl yma yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw creu gwyliau banc yng Nghymru a Lloegr yn fater sydd wedi'i ddatganoli. Er mwyn gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc, byddai angen ychwanegu 1 Mawrth at y rhestr o wyliau banc presennol a gynhwysir yn Neddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971. Mae'r pŵer hwn yn nwylo Llywodraeth y DU ar hyn o bryd.
Bydd llawer o'r Aelodau'n ymwybodol ein bod, ar fwy nag un achlysur, wedi gofyn i Lywodraeth y DU naill ai greu Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl gyhoeddus neu drosglwyddo'r pŵer i'n galluogi ni i wneud hynny ein hunain. Yn anffodus, gwrthodwyd ein ceisiadau—
A wnaiff y Gweinidog ildio?
Os gwelwch yn dda.
Diolch am ildio, ac rwy’n cysylltu fy hun â’r sylwadau a wnaethoch yn eich sylwadau agoriadol hefyd, fel y mae pawb ohonom, rwy’n siŵr.
A fyddai ganddo ddiddordeb mewn gwybod bod Bil wedi’i gyflwyno ar lawr Senedd y DU ar 1 Mawrth 2016 gan Mark Williams, yr Aelod Seneddol dros Geredigion ar y pryd? Fe’i galwyd yn Fil Datganoli (Gwyliau Banc) (Cymru). Roeddwn yn falch o fod yn un o'i gyd-gefnogwyr, ynghyd ag Aelodau o Blaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol ac Aelodau eraill o’r Tŷ. Y tro hwnnw, ni allwyd sicrhau unrhyw gefnogaeth gan y Ceidwadwyr, ond ymddengys ein bod yn gwneud cynnydd. Pe na byddem yn llwyddo i berswadio Llywodraeth y DU i gyflwyno eu cynnig eu hunain, a fyddai wedyn yn ceisio cefnogaeth drawsbleidiol, nid yn unig yn y Siambr hon, ond gyda chefnogaeth cyd-Aelodau Ceidwadol, i ddatganoli’r pwerau i Gymru?
Byddwn yn sicr yn cefnogi’r cynnig hwnnw, ac wrth gwrs, rydym yn cofio ei fod yn un o’r pethau y gofynnwyd amdanynt yn Neddf Cymru 2017 a gafodd eu gwrthod. Dof at hynny mewn eiliad efallai, ond diolch am y pwynt a wnaethoch, ac rwy’n siŵr ei fod yn cynrychioli’r teimlad trawsbleidiol yn y Siambr hon, a ledled Cymru mewn gwirionedd.
Tra bo'r Alban a Gogledd Iwerddon, wrth gwrs, yn mwynhau’r fraint o allu dathlu eu dyddiau cenedlaethol gyda gwyliau cyhoeddus, ni allwn ddeall pam y cawn ni ein hamddifadu o'r fraint honno. Nid oes unrhyw reswm rhesymegol dros beidio â chaniatáu ein cais, ond mae digon o resymau da pam y dylid ei ganiatáu. Byddai gwyliau cyhoeddus yn galluogi pobl, yn breswylwyr ac yn ymwelwyr, i ddathlu a dysgu mwy am dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ein gwlad, byddai’n annog twristiaeth, yn rhoi hwb posibl i’r economi, yn enwedig yn y rhannau hynny o Gymru y mae eu heconomi yn dibynnu i raddau helaeth ar ymwelwyr, a byddai’n rhoi cyfleoedd hamdden a chyfleoedd ymlacio mawr eu hangen, wrth inni droi cornel y tymhorau a symud i mewn i’r gwanwyn. Ac mae'n werth cofio, wrth gwrs, nad yw datgan gŵyl banc yn cael unrhyw effaith gyfreithiol. Nid yw'n golygu bod yn rhaid i siopau a busnesau gau ar y diwrnod hwnnw. Fodd bynnag, nid oes unrhyw beth ychwaith i atal sefydliadau rhag cau neu gael hanner diwrnod ar Ddydd Gŵyl Dewi, a fyddai’n cael effaith debyg i greu gŵyl banc ar Ddydd Gŵyl Dewi. Mater i sefydliadau benderfynu arno eu hunain fyddai hynny. Yn wir, mae Cyngor Sir Gwynedd eisoes wedi rhoi diwrnod o wyliau i weision cyhoeddus ar draws y sir ar 1 Mawrth.
O’n rhan ni, fel Llywodraeth Cymru, rydym yn fwy na pharod i ailddatgan a chadarnhau ein cefnogaeth lawn i wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc, a byddwn yn parhau i ddadlau’r achos dros ddatganoli pwerau i’r Senedd ac i Weinidogion Cymru allu gwneud hynny. A chyn gynted ag y bydd Llywodraeth Geidwadol y DU yn datganoli’r cyfrifoldeb hwn i ni, gallwn fynd ati i wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc.
Galwaf ar Peter Fox i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a llawer o ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hynod bwysig hon heddiw. Ac a gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod Tom Giffard am agor ac am godi cywilydd arnaf, gan fod arnaf ofn nad wyf yn mynd i allu siarad Cymraeg fel y gwnaeth Tom? Ac rwy’n eich llongyfarch ar eich cynnydd, ac yn gobeithio eich efelychu rywbryd yn y dyfodol.
Mae gwledydd ledled y byd, yn gwbl briodol, yn dathlu eu balchder aruthrol yn eu hunaniaeth. Un ffordd y mae llawer ohonom yn gwneud hyn yw drwy ddathlu ein nawddsant, fel y clywsom eisoes. Efallai mai un o’r dyddiadau mwyaf llwyddiannus yn y calendr yw Dydd Sant Padrig, a phan grybwyllaf y dyddiad hwn, beth sy’n dod i’ch meddwl? Oherwydd yr hyn a ddaw i fy meddwl i yw'r gorau o ddiwylliant Gwyddelig a phopeth a ddaw yn ei sgil, o gerddoriaeth i ddawns i wyrddni i hapusrwydd—[Torri ar draws.]—a Guinness, yn wir. Ac er syndod, mae llwyddiant gŵyl banc Sant Padrig wedi rhoi Iwerddon ar y llwyfan byd-eang, lle mae miliynau o bobl yn llythrennol ledled y byd yn dathlu'r diwylliant Gwyddelig. Mae diwylliant yn ysgogi'r gorau mewn cenedl, onid yw, i ehangu'r gynulleidfa, ac mae hyn yn rhywbeth y mae pobl, a hynny'n gwbl briodol, yn ei warchod yn ddewr? Ymgorfforiad o'r hyn rwyf newydd ei ddweud yw Wcráin, y cyfeiriodd y Cwnsler Cyffredinol ati; mae pob un ohonom wedi gweld y lluniau pwerus ac emosiynol o bobl Wcráin yn amddiffyn eu gwlad yn ffyrnig. Mae eu hunaniaeth, eu tir, eu diwylliant a’u hanes mor werthfawr iddynt fel bod miloedd yn barod i fentro'u bywydau dros eu gwlad, gan fod eu hunaniaeth a'u balchder mor gryf, a gwelsom a chlywsom lawer o hynny ddoe.
Yma yng Nghymru, nid yw ein teimlad o falchder ac angerdd yn ddim llai. Rydym wedi ein bendithio â chymaint, onid ydym? Gystal ag unrhyw le yn y byd, mae ein diwylliant, ein hiaith a’n hanes, ynghyd â harddwch ein tirwedd, ein mynyddoedd a’n harfordir, cestyll a bwyd, yn ogystal â'r ddraig goch sy'n rhuo, ein harwyr ym myd y campau ac eiconau byd-eang, ac mae gennym bob rheswm dros fod yn falch. Gyda'r holl gynhwysion hyn, mae'r ddadl o blaid cael gŵyl banc ar Ddydd Gŵyl Dewi yn amlwg. Yn y bôn, mae’n ffordd addas o ddathlu treftadaeth a diwylliant Cymru, yn ogystal â bod yn hwb calonogol i’n busnesau. Ac fel y clywsom eisoes gan rywun, dangosodd arolwg barn gan y BBC a gynhaliwyd yn 2006 fod 87 y cant yn cefnogi'r syniad. Ac mae dadl heddiw yn anarferol, yn yr ystyr fod y Senedd yn siarad ag un llais diamwys: dylid gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc. Fel y mae fy nghyd-Aelodau wedi pwysleisio—
A wnewch chi dderbyn ymyriad, os gwelwch yn dda?
Gwnaf, yn sicr.
Diolch yn fawr. Yng ngoleuni’r hyn yr ydych wedi’i ddweud ac wrth glywed yr hyn y mae Huw Irranca-Davies wedi’i ddweud hefyd, tybed a wnewch chi a’ch cyd-Aelodau gyfleu’r neges i’ch cymheiriaid yn San Steffan mai dyma yw ein dymuniad ac y byddwch yn sicrhau bod hyn yn digwydd. Diolch.
Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n gobeithio y bydd llawer o ASau Cymru yn gwrando ar hyn heddiw a byddwn yn sicrhau bod lleisiau pob un ohonom yn cael eu clywed yn uchel ac yn glir wrth inni hyrwyddo'r achos hwn ymhellach. A gaf fi ddiolch—[Torri ar draws.] Yn ysbryd y ddadl, rwyf am barhau i fod yn optimistaidd.
Diolch am eich sylw, Tom, ac am ddyfnder eich cyflwyniad unwaith eto. Roedd yn ddefnyddiol iawn, yn ein hatgoffa am gefnogaeth y Ceidwadwyr i hyn dros nifer o flynyddoedd—degawd yn wir. A diolch, Rhys, am fynd â ni ar y daith hanes honno i 22 mlynedd yn ôl—yr adeg bwysig pan ddaeth eich tad i'r Siambr hon a galw am hyn. Rwy'n siŵr y bydd yn falch eich bod yma'n siarad ac yn rhannu'r angen am hyn heddiw. Rwy'n croesawu hynny. Ac ie, gadewch inni fod yn llawen a gadewch inni ddathlu'r diwrnod hwn. Jack, mae angen i Lywodraeth y DU wrando—gwyddom hynny ac mae'n rhaid inni ddadlau'r achos hwnnw, gan ei bod yn bwysig fod gennym ein hunaniaeth yma. A Sam, rwy'n gobeithio y byddwch chi yma mewn 22 mlynedd—[Chwerthin.]—gan eich bod yn ddyn ifanc â chymaint i’w gynnig, rwy’n siŵr y byddwch mewn swyddi uwch yma yn y dyfodol. [Torri ar draws.] Ac rwy’n siŵr y bydd Mustapha Bojang—a yw hynny’n gywir—yn falch hefyd os bydd yn eich gweld yma pan fydd yn ymweld â Saundersfoot nesaf. A Jane, fe wnaethoch ein hatgoffa o'r daith hanesyddol ddyfnach honno hefyd. Mae hon yn ddadl sydd wedi bod yn mynd rhagddi ers blynyddoedd lawer, ers canrifoedd, bron. A Janet, mae angen inni ganiatáu i'n cymunedau ddathlu—mae mor bwysig eu bod yn cael cyfle i wneud hyn, fel eraill ledled y byd. A Natasha, gwyddom y byddai eich tad, Oscar, wedi bod yn angerddol heddiw ac y byddai wedi bod yn gefnogwr brwd, yn Gymro go iawn wrth gefnogi popeth sydd gennym yma heddiw.
Gwnsler Cyffredinol, diolch am eich geiriau a’r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i’w darparu i geisio gwireddu hyn. Ac fel y rhannais, lle y gallwn, fe fyddwn yn ceisio gwneud yr hyn a allwn i sicrhau bod hyn yn digwydd. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.