– Senedd Cymru ar 16 Mawrth 2022.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 8, dadl Plaid Cymru, yr argyfwng costau byw—yr effaith ar ysgolion a phlant. Galwaf ar Sioned Williams i gyflwyno'r cynnig.
Cynnig NDM7954 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith benodol ar ysgolion a phlant.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu mor effeithiol â phosibl drwy:
a) adolygu effeithiolrwydd canllawiau statudol ar bolisïau gwisg ysgol er mwyn sicrhau fforddiadwyedd cyson ledled Cymru;
b) cymryd camau brys i sicrhau nad yw dyled prydau ysgol yn cael effaith negyddol ar ddisgyblion;
c) gwella sut y cyfeirir at y grant datblygu disgyblion—mynediad;
d) gweithio tuag at gofrestru pobl ar gyfer yr holl bethau y gallant hawlio amdanynt yn awtomatig i gynyddu'r nifer sy'n manteisio arnynt a sicrhau eu bod yn gwneud y gorau o incwm;
e) darparu cymorth pellach i ysgolion i ddarparu teithiau a gweithgareddau cynhwysol i bawb a sicrhau arferion cyson ledled Cymru.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro.
Rwy'n gwneud y cynnig, ac rwy'n falch o agor y ddadl bwysig ac amserol hon gerbron y Senedd.
Yn yr ymadrodd enwog hwnnw, ystyrir mai addysg yw'r cydraddolwr gorau. Fodd bynnag, er gwaethaf ymdrechion gorau ein hathrawon a'n staff cymorth, mae tlodi'n greadur llechwraidd. Mae'n treiddio i leoedd lle y dylai pawb gael ei drin yn gyfartal, gan lesteirio ymdrechion i drin pawb yn deg, a gadael trywydd o annhegwch, allgáu a stigma o'i ôl, yn mygu cyfleoedd ac yn niweidio llesiant ein dinasyddion ieuengaf. A chan fod tlodi plant yn bodoli ym mhob rhan o Gymru, mae'n bresennol ym mhob ysgol wladol. Ni cheir yr un ward cyngor sydd â chyfradd tlodi plant is na 12 y cant.
Am y cyfnod o dair blynedd hyd at 2019, roedd 28 y cant o blant Cymru yn byw ar aelwydydd islaw'r llinell dlodi, tua 195,000 o blant. Erbyn 2021, roedd y ffigur hwn wedi codi i 31 y cant. Disgwylir y bydd yr argyfwng costau byw yn gwneud yr ystadegau brawychus hyn hyd yn oed yn waeth. Mae'r toriad i gredyd cynhwysol a chredydau treth gwaith wedi gostwng incwm 40 y cant o aelwydydd â phlant dros £1,000 y flwyddyn. Hyd yn oed cyn i argyfwng COVID daro, gyda'i effaith niweidiol ac anghymesur ar ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol, roedd y plant hyn mewn mwy o berygl o fod yn wael eu hiechyd ac yn llai tebygol o gyflawni'r graddau uchaf yn eu hysgol na'u cyfoedion o gartrefi incwm uwch. Mae'n rhaid inni ddod o hyd i atebion. Mae adroddiad y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant ar leihau cost y diwrnod ysgol yng Nghymru, a gyhoeddwyd fis diwethaf, yn rhoi llais i'r rhai sy'n cael eu gwneud i deimlo eu bod wedi'u hallgáu, yn anhapus neu'n wahanol oherwydd eu hamgylchiadau economaidd. Mae arnom angen gweithredu ar y cyd i godi incwm teuluoedd a lleihau costau byw, a chanolbwyntio ar newid arferion sy'n atgyfnerthu stigma ar hyn o bryd ac yn trin pobl sy'n byw mewn tlodi mewn ffyrdd llai ffafriol.
Mae'r ddadl heddiw'n ymwneud â chyflawni hyn drwy'r system addysg. Efallai ein bod yn credu bod anfon plentyn i'r ysgol yn digwydd yn ddi-dâl. Fodd bynnag, fel y clywn, mae cost ddyddiol ynghlwm wrtho. Gofynnir i deuluoedd gyfrannu fel mater o drefn tuag at gostau gwisg ysgol, tripiau, elusennau, prydau ysgol a byrbrydau, ac i ddarparu cyfarpar ac adnoddau ar gyfer gwahanol bynciau. Gall hyn wneud plant yn agored i'r risg o stigma a chywilydd pan na allant fforddio hyd yn oed costau bach i allu cymryd rhan. Er bod canllawiau i gyrff llywodraethu ysgolion ar lawer o'r elfennau hyn o'r diwrnod ysgol a bywyd ysgol, mae llawer ohono'n anstatudol, a'r modd y caiff ei gymhwyso yn anghyson. Mae canlyniadau llawer o bolisïau neu ffyrdd o wneud pethau yn aml yn anfwriadol wrth gwrs, ond nid yw hynny'n ddigon da mewn gwirionedd. O safbwynt cydraddoldeb, o safbwynt hawliau dynol, o safbwynt hawliau plant, o safbwynt moesol, mae angen i bethau newid.
Mae'r cynnig yn manylu ar rai o'r ffyrdd y gallai'r Llywodraeth fynd i'r afael â'r mater hwn. Bydd fy nghyd-Aelodau, Luke Fletcher, Delyth Jewell a Heledd Fychan yn canolbwyntio ar fesurau penodol, megis fforddiadwyedd gwisg ysgol, tripiau a gweithgareddau, a'r niferoedd sy'n hawlio budd-daliadau y mae ganddynt hawl i'w cael. Mae cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl yn yr ysgol gynradd drwy'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yn dangos ei bod yn bosibl gwneud newidiadau mawr i'r ffordd yr ydym yn ymdrin â thlodi plant ac yn ei drechu. O ystyried yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, dylem sicrhau yn awr fod cyflymu'r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim yn yr ysgol gynradd yn un o brif flaenoriaethau'r Llywodraeth. Dylem hefyd gydnabod mai'r nod yn y pen draw yw adeiladu ar yr ymrwymiad hwnnw.
Mae ein cynnig yn galw am sicrhau nad yw dyled prydau ysgol yn cael effaith negyddol ar ddisgybl, boed hynny drwy straen, stigma neu hyd yn oed orfod mynd heb fwyd, fel y clywsom mewn rhai achosion. Dylid ystyried bob amser pam y gallai dyled prydau ysgol fod wedi cronni. Nid yw'r rheswm byth o fewn rheolaeth y plentyn y mae'n effeithio arno ac yn ei niweidio. Felly, ni ddylai'r plentyn byth ddioddef canlyniadau'r ddyled honno. Mae angen i hyn fynd y tu hwnt i ganllawiau. Mae angen rhoi'r mater ar sail statudol, yn ogystal â sicrhau cynaliadwyedd ariannol gwasanaethau arlwyo ysgolion.
Y tu hwnt i ehangu prydau ysgol am ddim, mae rhai mentrau defnyddiol i helpu disgyblion eisoes ar waith wrth gwrs. Ond weithiau caiff eu heffeithiolrwydd ei lesteirio am nad oes llawer o bobl sydd â hawl i'r cymorth yn manteisio arno. Mae hwn yn faes lle y gallai'r Llywodraeth wneud gwahaniaeth go iawn. Mae hawliau wedi'u targedu i dalu costau addysg plant a phobl ifanc, fel y grant amddifadedd disgyblion - mynediad, a'r lwfans cynhaliaeth addysg, yn helpu i gynyddu incwm ac yn allweddol i fynd i'r afael â thlodi. Ond dengys ymchwil nad yw pob teulu cymwys yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo, naill ai oherwydd diffyg ymwybyddiaeth neu oherwydd natur y broses ymgeisio. Mae geiriau un rhiant, sydd wedi'u cynnwys yn adroddiad y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, yn crynhoi hyn yn dda:
'Hoffwn pe bai yna daflen yn rhestru'r lleoedd y gallem gael cymorth ond rwy'n teimlo, oherwydd bod y ddau ohonom yn gweithio, na fyddem yn gymwys i gael y cymorth beth bynnag.'
Felly, ceir camsyniad cyffredin nad yw plant yn gymwys i gael cymorth fel prydau ysgol am ddim a'r grant datblygu disgyblion - mynediad os yw eu rhieni neu eu gofalwyr mewn unrhyw fath o gyflogaeth â thâl. Mae hefyd yn bwysig nodi bod tri chwarter y plant sy'n byw mewn tlodi eisoes yn byw ar aelwyd lle mae rhywun mewn gwaith.
Mae'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yn amcangyfrif nad yw tua 55,000 o blant sy'n byw mewn tlodi yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy'n golygu na allant gael y grant datblygu disgyblion - mynediad chwaith. Yn enwedig o ystyried yr argyfwng costau byw, mae'n hanfodol fod pob teulu'n cael yr holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Byddai mesurau fel cyflogi gweithwyr cynghori mewn ysgolion, neu fabwysiadu proses gofrestru awtomatig a phasbortio hawliau heb orfod gwneud cais yn dileu rhwystrau ac yn sicrhau bod pawb sy'n gymwys i'w cael yn eu cael.
Wrth fabwysiadu'r cwricwlwm newydd, dylai fod yn ofynnol i ysgolion sicrhau nad oes angen i unrhyw ddisgybl brynu deunyddiau neu offer i allu cymryd rhan mewn pynciau penodol. Mae angen inni ostwng neu ddileu'r costau hyn i bob disgybl. Dylai addysg fod yn hollgynhwysol. Ni ddylech orfod talu i ddysgu unrhyw bwnc yn yr ysgol.
Mae'r cwricwlwm newydd yn cyfuno llawer o bynciau â'i gilydd, sy'n golygu y gallai costau a thaliadau am adnoddau ymddangos mewn pynciau a oedd yn arfer bod yn fwy fforddiadwy. Mae'r cwricwlwm newydd a'r ymrwymiad cyffredinol i brydau ysgol am ddim i bawb yn yr ysgol gynradd yn gyfle euraidd i greu system addysg wirioneddol gynhwysol, cyn belled â'n bod yn wynebu'r problemau a'r rhwystrau sy'n effeithio ar blant teuluoedd ar incwm isel ar hyn o bryd.
Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau ar draws y Siambr ar y mater pwysig hwn, ac rwy'n annog pob Aelod i gefnogi ein cynnig. Ni ddylai unrhyw blentyn na pherson ifanc deimlo eu bod wedi'u gadael allan oherwydd y pwysau economaidd ar eu teuluoedd. Mae'n rhaid inni weithredu i leihau'r effaith y mae tlodi yn amlwg yn ei chael ar ddysgu a chyfleoedd. Diolch.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Laura Anne Jones i gynnig y gwelliant, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod yn ddiolchgar i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'r argyfwng costau byw yn rhywbeth yr ydym i gyd yn pryderu'n fawr yn ei gylch, ac mae'n siŵr y caiff effaith ar ddysgwyr ac ysgolion yn ystod y misoedd nesaf. Ar ôl 22 mlynedd o fethiant Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi plant, gyda 200,000 o blant yn dal i fod yn byw mewn tlodi yng Nghymru, mae'n bwysig inni gael y ddadl hon.
Rydym yn cefnogi'r cynnig a osodwyd ger ein bron heddiw, a hoffwn ofyn i Blaid Cymru dderbyn a chydnabod ein gwelliant ni fel ychwanegiad at y cynnig gwreiddiol, gan ein bod yn credu y bydd y gwelliant hwn yn ei wneud yn gryfach ac yn atgyfnerthu'r pwynt y ceisiwch ei wneud yma heddiw.
Mae pwynt 1 y cynnig yn nodi bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith benodol ar ysgolion a phlant. Wrth gwrs, rydym wedi cael y cynlluniau brecwast am ddim a'r prydau ysgol am ddim sydd ar gael yn ein hysgolion—darpariaeth a fydd ar gael i bawb cyn hir—ac fel y nodwyd yn y Siambr yn gynharach, mae angen inni sicrhau bod y prydau hyn yn parhau i fod yn faethlon, a hefyd eu bod ar gael i bawb ym mhob ysgol, a sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael y cymorth y maent ei angen, nid dim ond y plant y nodwyd ar hyn o bryd eu bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Mae pawb ohonom yn gwybod bod y gymysgedd o chwyddiant, sgil-effeithiau'r rhyfel yn Wcráin ac effeithiau'r pandemig yn sicr o gael effaith eithafol ar ein heconomi. Felly, bydd llawer eisoes yn cael eu heffeithio, ac mae angen canolbwyntio ar gefnogi'r teuluoedd a'r plant mwyaf agored i niwed mewn ysgolion fel nad oes neb yn llithro drwy'r rhwyd. Efallai fod angen dull gweithredu wedi'i dargedu'n well, yn enwedig yn sgil symud tuag at brydau ysgol i bawb.
Mae'r sefyllfa bresennol yng Nghymru gyda chostau byw wedi cynyddu'r straen a'r tensiwn sy'n gysylltiedig â chyllid teuluol a chanlyniadau sylweddol i blant a phobl ifanc, sy'n wynebu mwy o heriau iechyd meddwl o ganlyniad. Bydd hyn yn gwaethygu'r argyfwng iechyd meddwl y mae disgyblion Cymru eisoes yn ei wynebu, a ddoe yn unig y cyfaddefodd y Prif Weinidog fod y ddarpariaeth iechyd meddwl ymhell ar ei hôl hi.
Mae'r argyfwng costau byw yn cael effaith sylweddol ar deuluoedd ledled Cymru a'r byd ehangach, fel yr Almaen ac UDA, felly nid y DU yn unig, gyda mwy a mwy o deuluoedd yn wynebu caledi, yn agos at fod yn dlawd neu'n byw mewn tlodi. Yn yr arolwg diweddaraf o ymarferwyr Barnardo's yn y DU a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022, dywedodd 68 y cant o'r ymatebwyr mai'r prif beth yr oeddent yn pryderu yn ei gylch mewn ysgolion oedd y diffyg cymorth ac adnoddau, a nododd 59 y cant ohonynt broblemau iechyd meddwl a llesiant.
Mae pwynt 2 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu mor effeithiol â phosibl, felly rwy'n falch fod y Gweinidog addysg wedi cyhoeddi y bydd y cynllun datblygu disgyblion - mynediad yn codi £100 y dysgwr am flwyddyn. Ac mae hyn yn beth da, ond mae angen mwy o ymwybyddiaeth o'r cynllun, fel y nodwyd yn gynharach yn y Siambr, a hefyd y broblem nad yw'n hygyrch i bawb am fod rhaid ichi wneud cais ar-lein amdano.
Mae'n wych gweld o'r diwedd fod Llywodraeth Cymru bellach wedi dilyn Llywodraeth y DU a rhoi cymorth i aelwydydd drwy gyhoeddi mesurau i wrthsefyll yr argyfwng costau byw yr ydym i gyd yn ei wynebu. Fodd bynnag, wrth symud at brydau ysgol i bawb, mae'n rhaid inni sicrhau nad yw nodi pwy sy'n gymwys ar gyfer y grant datblygu disgyblion yn mynd ar goll yn ystod y broses bontio, a bod gennym ddull yr un mor effeithiol ar gyfer nodi'r rhai sydd â'r angen mwyaf.
Er bod gwir angen y camau cychwynnol hyn, ac er eu bod i'w croesawu, mae'n dal i fod angen gwneud llawer rhagor, fel gwella sut y cyfeirir at y grant datblygu disgyblion, fel y nodir yn is-nodyn 2(c). Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed i ddarparu cymorth pellach i ysgolion i gynnwys arian ar gyfer teithiau a gweithgareddau, fel yr amlinellwyd gan Aelod o Blaid Cymru yn gynharach, i bawb, ac i sicrhau arferion cyson ledled Cymru, fel y mae is-bwynt (e) yn ei ddweud.
Ar hyn o bryd, mae'r sefyllfa'n annerbyniol, lle mae'n rhaid i rieni dalu costau enfawr ar gyfer tripiau ysgol ac i fynd i gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ysgolion eraill, neu beth bynnag y bo, a llawer o bethau eraill a grybwyllwyd, ac nid yw'n sefyllfa a all barhau, oherwydd mae'n tynnu sylw at y plant nad oes ganddynt lawer o arian ac sydd wedyn yn gorfod dweud na allant gymryd rhan yn y gweithgareddau hynny. Ac mae'n rhywbeth sy'n digwydd yn awr, ac rwyf wedi'i weld wrth i fy mhlant fynd i'r ysgol, ac rwyf wedi gweld eu ffrindiau'n methu gwneud pethau, ac nid yw'n ddigon da, y sefyllfa honno—ni all barhau. Ac wrth gwrs caiff y broblem ei gwaethygu gan y sefyllfa a wynebwn yn awr.
Yn bersonol, fe'i cefais hi'n anodd fel mam sengl gyda fy mhlentyn cyntaf, felly rwy'n ymwybodol iawn fod angen i'r Llywodraeth hon gyrraedd y mannau nad ydym yn eu cyrraedd ar hyn o bryd oherwydd loteri cod post llawer o'r cynlluniau sydd ar gael. Hefyd, yn ogystal â'r plant sy'n cael prydau ysgol am ddim, mae angen inni sicrhau ein bod yn cyrraedd teuluoedd incwm isel sydd â rhieni'n gweithio, sydd mor aml yn cael eu hanwybyddu. Mae'n ymddangos ein bod wedi cael cynlluniau dros y 22 mlynedd diwethaf, ac eto, fel y dywedais ar y dechrau, mae 200,000 o blant yn dal i fyw mewn tlodi, ac mae'n ymddangos ein bod wedi bod yn plastro dros y craciau mewn gwirionedd, yn hytrach na nodi'n iawn yr hyn sy'n digwydd o dan yr wyneb. Diolch.
Rwyf finnau hefyd yn croesawu'r ddadl hon yn fawr. Yn gyntaf, rwyf eisiau rhoi sylw i'r problemau y mae ysgolion yn eu hwynebu. Mae'r setliad llywodraeth leol yn un da, ond ni all blwyddyn o gynnydd wneud iawn am dros 10 mlynedd o gyni. Er nad yw dyraniadau cyllidebau ysgolion yn y rhan fwyaf o gynghorau wedi'u cwblhau eto, disgwylir y byddant yn codi yn unol â gwariant y cyngor. Mae hyn yn wahanol i'r cynnydd yn y cymorth i'r cyngor gan Lywodraeth Cymru. Er bod taliad Llywodraeth Cymru yn rhan fawr o incwm cynghorau, caiff ei chwyddo gan ffioedd a thaliadau'r dreth gyngor. Gyda'r disgwyliad mai cynnydd bach a welir yn y dreth gyngor, cynnydd bach i ffioedd a chynnydd bach i daliadau, mae'n golygu y bydd gwariant y cyngor yn cynyddu llai—gryn dipyn yn llai yn aml—na'r swm o arian a roddwyd gan y Senedd i'r cyngor.
Ac wrth edrych ar gyllidebau ysgolion, costau staff yw'r rhan fwyaf o wariant cyllidebau ysgolion, yn cynnwys staff addysgu a staff cymorth. Mae dyfarniadau cyflog yn effeithio ar gyllidebau ysgolion, gan arwain at godi cyflogau staff a chostau pensiwn uwch. Bydd costau ynni cynyddol hefyd yn effeithio ar ysgolion. Yn un o'r ysgolion lle rwy'n gadeirydd y llywodraethwyr, roedd cost nwy a thrydan eleni ychydig yn llai na £15,000. Disgwylir y bydd dros £30,000 yn y flwyddyn i ddod. Mae'n ysgol gynradd o faint canolig. Mae'n gynnydd o ychydig o dan 2 y cant o gyfanswm cyllideb yr ysgol. Er ei bod yn ymddangos y bydd cyllidebau ysgolion yn codi'n sylweddol, bydd y pwysau a grybwyllwyd yn golygu na fydd cymaint ar gyfer cymorth ychwanegol i ddisgyblion, a chredaf mai dyna un o'r pethau yr ydym yn edrych arnynt: mae'r arian yn mynd tuag at gefnogi disgyblion. Mae ysgolion yn bodoli ar gyfer disgyblion; maent yn bodoli i'w helpu i gyflawni eu potensial yn y ffordd orau y gallant.
Rwy'n cefnogi adolygu effeithiolrwydd y canllawiau statudol ar bolisi gwisg ysgol er mwyn sicrhau fforddiadwyedd cyson ledled Cymru. Mae nifer o rieni wedi cysylltu â mi ynglŷn â gwisg ysgol, a'r angen i brynu naill ai gan gyflenwyr drud neu drwy'r ysgol, yn hytrach na siopau rhatach. Hyd yn oed pan fydd yr un lliw yn union, pan fydd yn union yr un peth fel arall, mae'r ysgol yn gofyn i chi dalu swm a all fod yn llawer mwy. Do, fe'i talais; roeddwn yn ddarlithydd coleg, gallwn fforddio ei dalu. Roedd eraill a oedd â phlant yn nosbarth fy merch, pobl nad oeddent yn ddarlithwyr coleg, pobl nad oeddent ar gyflog da, yn ei chael hi'n anodd ei dalu.
Efallai y gall y Gweinidog esbonio i mi, pan fydd athrawon ysgol yn gwrthod dysgu disgyblion am eu bod yn gwisgo'r dillad anghywir—ac mewn un achos yr ymdriniais ag ef, y lliw du anghywir—sut nad yw'r ysgol yn torri'r gyfraith, a pham nad yw Llywodraeth Cymru yn defnyddio CYBLD i dorri cyllid i ysgolion sy'n gwahardd disgyblion ar sail gwisg ysgol, mae hwnnw'n fater yr hoffwn ei weld yn cael sylw. Mae plant yn cael eu cosbi. Nid yw y plentyn sy'n penderfynu. Nid yw plentyn naw, 10, 11, 12 oed yn penderfynu pa liw côt y maent yn ei gwisgo; nid ydynt yn penderfynu pa liw siwmper y maent yn ei gwisgo; mewn gwirionedd, nid ydynt hyd yn oed yn penderfynu pa liw dillad sydd ganddynt yn wyth neu naw oed. Eu rhieni sy'n gwneud hynny. Mae cosbi plant am yr hyn y mae eu rhieni'n ei wneud yn foesol anghywir a dylid ei atal.
Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod sy'n cyflwyno'r ddadl yn ymuno â mi i gondemnio Cyngor Gwynedd a phenderfyniad pennaeth strategol Ysgol Dyffryn Nantlle a rybuddiodd rieni a gofalwyr mewn llythyr na fyddai eu plant yn cael prydau ysgol os na fyddai eu dyledion yn cael eu talu. Cosbi plant am yr hyn y mae eu rhieni'n ei wneud; mae hynny'n anghywir. Roedd y llythyr yn awgrymu na fyddai disgyblion yn cael eu bwydo pe baent mewn dyled o fwy na cheiniog. Yn ffodus ar ôl y sylw a gafodd a'r ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru, cafodd y bygythiad ei dynnu'n ôl. Sut y gall rhywun feddwl bod peidio â bwydo plant yn syniad da?
Sut y gallai rhywun feddwl nad oedd bwydo plant yn syniad da?
Rwy'n amlwg yn cefnogi prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgolion cynradd gwladol, ac yn aros i weld y cynllun yn ymestyn i gynnwys ysgolion uwchradd. Bydd y cynnydd mewn costau ynni a chostau bwyd yn cael effaith ddinistriol ar blant sy'n byw mewn teuluoedd incwm isel. Mae'n anochel y bydd rhai plant yn oer ac yn llwglyd yn ystod y flwyddyn nesaf. Bydd treulio noson mewn ystafell wely oer, heb gael digon o fwyd, a gorfod gwneud eich gwaith cartref yn yr un ystafell â gweddill y teulu a fydd yn gwylio adloniant ar y teledu neu'n gwrando ar gerddoriaeth, yn cael effaith andwyol ar gyrhaeddiad. Bydd llawer o deuluoedd sydd ond yn llwyddo i ymdopi o drwch blewyn heddiw yn troi'n deuluoedd nad ydynt yn ymdopi wrth i brisiau godi heb i gyflogau godi ar yr un cyflymder. Ar adegau fel hyn y teimlir colli Cymunedau yn Gyntaf, a'r gallu a oedd ganddo i ddarparu lle i blant gyfarfod a gwneud eu gwaith cartref. Rydym yn byw mewn cyfnod anodd; rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau nad plant yw'r rhai sy'n talu'r pris.
Os caf roi ychydig o brofiad personol, gan fy mod yn dod o deulu cymharol dlawd: nid ydych yn dod â nodiadau adref a roddwyd i chi am deithiau ysgol; nid ydych yn dod â nodiadau adref am y pethau sy'n digwydd yn yr ysgol; nid ydych yn dod â nodiadau adref am offerynnau cerdd sydd ar gael i ddysgu sut i'w chwarae. Y cyfan y mae hynny'n ei wneud yw peri gofid i'ch rhieni am allant fforddio talu amdanynt. Nid ydych yn mynd i'r ysgol ar y diwrnodau gwisgo dillad eich hun am nad ydych am ofyn i'ch rhieni am bunt er mwyn peidio â gorfod gwisgo gwisg ysgol. Dyna sut beth yw bywyd. Ac nid dyna sut y dylai bywyd fod. Rwy'n siarad o brofiad personol ar hyn; nid wyf eisiau i blant eraill orfod mynd drwyddo.
Rydym wedi siarad yn y Siambr hon am addysg fel cydraddolwr; gydag addysg wych, beth bynnag yw eich cefndir, yn ddamcaniaethol, gallwch gyflawni beth bynnag y penderfynwch chi ei gyflawni. Nawr, mae llawer i'w ddweud am y datganiad hwn, yn enwedig ar y pwnc penodol yr ydym yn ei drafod heddiw.
Tybir bod ysgolion yn fannau teg, lle mae potensial pawb yn cael ei feithrin yn gyfartal. Ac nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn dadlau nad dyna yw bwriad ysgolion, ond mae rhwystrau'n dal i fodoli, yn enwedig i blant o deuluoedd incwm isel. Rydym eisoes wedi clywed am y problemau gyda mynediad at yr hyn y mae gan bobl hawl i'w gael; mae'n un o'r rhesymau pam rwy'n credu yn egwyddor cyffredinioliaeth. Rydym wedi clywed am bwysigrwydd prydau ysgol am ddim—rhywbeth y gallaf dystio ei fod yn achubiaeth i lawer o deuluoedd. Ond mae ffactorau eraill i'w hystyried.
Un ohonynt yw darpariaeth lwfans cynhaliaeth addysg—unwaith eto, darpariaeth y gwn o brofiad personol ei bod yn achubiaeth i lawer, ac yn rhywbeth rwyf wedi ymgyrchu drosto ers imi gael fy ethol i'r lle hwn. Mae'n bryd i'r Llywodraeth adolygu'r lwfans cynhaliaeth addysg, ac yn benodol, y swm a delir i fyfyrwyr a'r broses o wneud cais. Ar hyn o bryd, mae'r swm a delir i ddysgwyr yr un faint yn awr â'r hyn ydoedd pan oeddwn i'n ei gael. Mae'r swm yr un faint yn awr â phan gafodd ei gyflwyno gyntaf yn 2004: £30 yr wythnos. Mae hyn yn golygu nad ydym wedi gweld cynnydd mewn ychydig o dan 20 mlynedd, felly nid yw wedi codi gyda chwyddiant o gwbl. Ac mae Sefydliad Bevan yn amcangyfrif y byddai angen inni godi'r taliad i £45 er mwyn iddo fod yn gyfwerth â'r hyn ydoedd yng nghanol y 2000au.
Ar y broses o wneud cais, fel y gwyddom, mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn seiliedig ar brawf modd ac fel y dangosodd fy nghyd-Aelod, Sioned Williams, eisoes, mae problemau'n parhau o ran y nifer nad ydynt yn hawlio'r lwfans er eu bod yn gymwys, problem a achosir gan ffurflenni cymhleth ac anhawster i ddeall y broses o wneud cais. Yng Ngholeg Penybont, er enghraifft, ar gyfartaledd, mae rhwng 700 ac 800 o ddysgwyr addysg bellach llawn amser yn hawlio lwfans cynhaliaeth addysg, ond mynegwyd pryderon clir iawn gan staff yng Ngholeg Penybont fod llawer mwy o fyfyrwyr ei angen mewn gwirionedd. Mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn achubiaeth i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig. Rydym yn derbyn yn gyffredinol mai addysg yw'r llwybr gorau allan o dlodi, a bydd cadw myfyrwyr ôl-16 yn arwain at yr effaith ddymunol o roi cyfleoedd a sgiliau pellach i'r rhai o gefndiroedd difreintiedig, ond mae angen y cymorth hwnnw arnynt i barhau.
Maes arall yr hoffwn gyffwrdd arno yn y ddadl hon yw trafnidiaeth, a sut y mae rhieni'n aml yn wynebu dewis rhwng cost a diogelwch eu plentyn. Caiff y dewis hwn ei grisialu i mi gan faint o ohebiaeth a gaf yn rheolaidd gan rieni yng nghwm Llynfi. Yng Nghaerau, cymuned sy'n uchel ar y mynegai amddifadedd yn gyson, ac sy'n aml ymhlith y pump uchaf yng Nghymru, ceir disgyblion sy'n wynebu taith o 45 munud i awr i gerdded i'r ysgol ar hyd ffyrdd prysur ac ym mhob tywydd. Yn aml, y realiti i lawer o rieni sy'n gweithio yw nad oes ganddynt y moethusrwydd o allu blaenoriaethu lifftiau, yn enwedig os ydynt yn cymudo ac yn enwedig os yw arian yn brin. Nid yw'n gadael unrhyw ddewis: naill ai dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, sy'n gallu costio £15 yr wythnos y plentyn i aelwydydd, neu ddibynnu ar adael i'r plentyn gerdded os nad yw trafnidiaeth gyhoeddus yn fforddiadwy, neu efallai na fydd ar gael o gwbl mewn rhai mannau hyd yn oed. Gyda chostau tanwydd yn codi, mae'r gost hon yn debygol o godi, sy'n dangos sut y byddai pethau fel adolygu'r lwfans cynhaliaeth addysg yn gwneud gwahaniaeth. Ac yn olaf, os caf, Ddirprwy Lywydd, gan siarad ar sail fy mhrofiadau fy hun wrth imi dyfu i fyny, mae'r gefnogaeth hon yn hanfodol.
Pe byddech wedi dweud wrthyf pan oeddwn yn yr ysgol gynradd y byddwn yn y Senedd yn rhoi areithiau fel hyn, y gwir amdani mae'n debyg yw mai fy ymateb cyntaf fyddai, 'Pam ar y ddaear y byddwn yn gwneud hynny? Mae gwleidyddiaeth yn ddiflas.' Ond ni fyddwn wedi ei gredu beth bynnag. Pan euthum i'r ysgol uwchradd, pan oeddwn yn y chweched yn Llanhari, er bod gennyf ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, ni fyddwn wedi credu y byddwn i yma yn awr. Ond rwy'n sicr mai'r gefnogaeth a roddwyd i mi pan oeddwn yn ifanc drwy brydau ysgol am ddim, drwy'r lwfans cynhaliaeth addysg yw un o'r rhesymau pam fy mod i yma yn awr.
Ond heddiw, er ei bod yn gwella drwy brydau ysgol am ddim i bawb er enghraifft, mae'r gefnogaeth honno'n dal i fod yn ddiffygiol. Mae hynny'n rhywbeth sydd ar flaen fy meddwl, nid ers cael fy ethol, ond ers imi adael yr ysgol. Yn hytrach na chodi'r ysgol ar fy ôl neu anwybyddu'r ffaith ei bod yn dechrau dangos ôl traul, gydag un neu ddwy o'r grisiau arni wedi torri yma ac acw, rwyf am ei chryfhau. Rwyf am ei gwneud yn haws i fyfyrwyr o gefndiroedd tebyg i fy un i, y rhai sy'n fi pan oeddwn i eu hoedran hwy, i allu camu ymlaen mewn bywyd. Ond mae'n dechrau gyda phob un ohonom yma. Ac rwy'n gobeithio y gall pob un ohonom edrych yn ôl un diwrnod ar ein hamser yma a dweud ein bod wedi blaenoriaethu'r pethau cywir—gyda hyn yn un ohonynt.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, gan Luke yng nghanol y 2000au, a oedd stôn neu ddwy'n ysgafnach ac yn ddi-farf: diolch o waelod calon am y gefnogaeth honno. Ond gennyf fi, yn awr, yn y presennol, rhaid inni roi blaenoriaeth i fynd i'r afael â chost y diwrnod ysgol. Bydd yn newid bywydau plant o deuluoedd incwm isel er gwell.
Mae'n dda dilyn y cyfraniad hwnnw gan Luke. Ddirprwy Lywydd, rydym yn wynebu argyfwng, fel y gwyddom i gyd, argyfwng costau byw. Ac yn anffodus, fel y gwyddom i gyd hefyd, mae'n debygol o waethygu a gwaethygu'n sylweddol; cost bwyd, tanwydd, ynni a llawer o bethau eraill, mae'n straen aruthrol ar gyllidebau aelwydydd y rhai lleiaf abl i wrthsefyll yr effaith. Ac yn arbennig, mae'n effeithio ar deuluoedd a rhieni sengl, felly, mae'r plant yn yr ysgol o'r teuluoedd hynny'n wynebu brwydr aruthrol.
Un peth yr hoffwn ganolbwyntio arno, Ddirprwy Lywydd, yw'r profiad cyfoethogi addysg ehangach sy'n dod i bobl ifanc o gael cyfle llawn i adnabod, darganfod a datblygu eu doniau, boed mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, boed yn ddiwylliant, y celfyddydau a cherddoriaeth, yn ogystal â meysydd academaidd a galwedigaethol. Dylai pob un o'n pobl ifanc gael cyfle llawn i ddatblygu'r ystod honno o ddoniau, ond yn anffodus, fel y gwyddom i gyd, nid yw hynny'n wir. Ac mae llawer o'n pobl ifanc, diolch byth, yn cael profiad eang iawn yn y ffordd honno, boed drwy dacsi mam, tacsi dad, neu dacsi mam-gu a thad-cu yn wir, cânt eu cludo o gwmpas i wahanol ddosbarthiadau a grwpiau a bob dydd o'r wythnos weithiau, maent yn mynd i weithgareddau sy'n eu helpu i ddatblygu a thyfu. Yn ogystal â datblygu'r sgiliau penodol, maent hefyd yn elwa o'r profiad cymdeithasol, gweithio mewn tîm ac yn y blaen, ac mae'n wych gwylio'r broses honno'n digwydd.
Ond i'r plant sy'n dod o gymunedau mwy difreintiedig yn enwedig, mae cost y gweithgareddau hynny'n anhawster gwirioneddol ac weithiau nid yw rhieni, am ba reswm bynnag, yn mynd i'w cludo o gwmpas, na neb arall yn y teulu ychwaith, i gael y profiad hwnnw. A dyna pam y credaf fod ysgolion â ffocws cymunedol mor hynod o bwysig, oherwydd os yw'r profiadau cyfoethogi hynny, profiadau ehangach, ar gael yn yr ysgol, yn ystod amser cinio neu ar ddiwedd yr ysgol, yn aml iawn bydd y plant yn cael y profiad hwnnw, a dyna'r unig ffordd y byddant yn ei gael. Ac os yw'r ysgolion hynny hefyd yn gysylltiedig â sefydliadau allanol i ddarparu cyfleoedd, efallai mai dyna'r unig ffordd, unwaith eto, y bydd y plant yn cael y manteision penodol hynny.
Felly, gyda'r math hwnnw o gefndir, rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu ysgolion â ffocws cymunedol, ond credaf fod y rhwystredigaeth yn parhau ein bod ymhell o weld cysondeb ledled Cymru; mae'n dda mewn rhai ysgolion yn ardaloedd yr awdurdodau lleol, ond efallai nad yw cystal ar draws ardal yr awdurdod lleol. Mae rhai awdurdodau lleol yn dda iawn, ond nid yw eraill cystal, ac mae gwir angen hynny i fod yn gynnig o ansawdd cyson sy'n darparu cyfleoedd gwych i'n holl blant ar hyd a lled Cymru. Felly, gan fod gennym argyfwng costau byw yn awr, sy'n amlygu'r materion hyn yn fwy nag erioed oherwydd cost y gweithgareddau dan sylw yn ogystal â'r anawsterau y mae rhai teuluoedd yn eu hwynebu wrth fynd â'u plant i grwpiau a dosbarthiadau, rwy'n gobeithio y gwelwn ymdeimlad newydd o frys ar ran Llywodraeth Cymru, ein hawdurdodau lleol a'n hysgolion yn awr, Ddirprwy Lywydd, i ysgogi cynnydd a sicrhau bod gan bob ysgol yng Nghymru ffocws cymunedol gwirioneddol a phriodol.
Gall y diwrnod ysgol gynnwys llawer o straen. Nid sôn am brofion mathemateg yn unig ydw i neu ruthro i orffen gwaith cartref ar risiau'r ysgol, rwy'n siarad am blant sy'n mynd i'r ysgol yn llwglyd ac yn methu fforddio byrbryd yn ystod egwyl y bore, plant sy'n ofni mynd drwy'r giatiau oherwydd eu bod yn poeni y gallai rhywun sylwi nad ydynt yn gwisgo'r esgidiau cywir neu'n cario'r bag cywir, plant sy'n teimlo cywilydd pan gaiff tripiau ysgol eu trafod am eu bod yn gwybod na fyddant byth yn gallu ymuno yn y sgwrs. Oherwydd, Ddirprwy Lywydd, fel y mae'r nos yn dilyn y dydd, mae malltod tlodi yn dilyn plant i fuarth yr ysgol ac i mewn i ystafelloedd dosbarth. Mae'n golygu nad oes ganddynt ddillad cywir ar gyfer ymarfer corff neu gas pensiliau crand mewn gwersi, ac mae'r arwyddion hynny o wahaniaeth sy'n hofran uwch eu pennau yn arwain yn rhy hawdd at fwlio.
Yn 2015, cymerodd dros 3,000 o blant ran mewn adroddiad gan Gomisiynydd Plant Cymru ar fwlio. Dangosodd yr adroddiad, o'r enw 'Stori Sam', fod y gwahaniaeth canfyddedig yn cael ei nodi gan y plant eu hunain fel rhywbeth sy'n allweddol i ysgogi bwlio. Ac er y gellir cysylltu'r gwahaniaeth hwnnw ag ymddangosiad, ethnigrwydd neu anabledd, mae tlodi'n chwarae rhan ofnadwy o amlwg. Gofynnodd awduron yr adroddiad i'r plant dynnu llun cymeriad dychmygol o'r enw Sam sy'n cael ei fwlio. Fe ddangosaf un o'r lluniau hynny i'r Siambr. Fe welwch fod gan Sam dyllau yn ei ddillad ac mae'r dillad yn edrych naill ai'n hen neu heb eu golchi. Mae'n arddangos arwyddion ystrydebol o dlodi. Canfu adroddiad y comisiynydd, 'Siarter ar gyfer Newid' fod rhai sydd wedi profi tlodi parhaus fwy na thair gwaith yn fwy tebygol o gweryla gyda ffrindiau ar y rhan fwyaf o ddyddiau, dros ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu bwlio'n aml, yn fwy tebygol o chwarae ar eu pen eu hunain, yn llai tebygol o fod â ffrindiau da, o gael eu hoffi gan blant eraill ac yn llai tebygol o siarad â'u ffrindiau am eu pryderon. Mae tlodi'n ynysu plant. Mae'n eu cloi yn y profiad ynysig o deimlo ar wahân. A Ddirprwy Lywydd, mae pethau penodol yn y ffordd y caiff ysgolion eu rhedeg sy'n dwysáu'r unigedd hwnnw ac sy'n arwain at fwlio.
Gadewch inni siarad eto am wisgoedd ysgol. Fel y clywsom, mae gan ormod o ysgolion gyflenwr penodol, sy'n cyfyngu ar ddewis ac yn golygu y gall y pris fod yn rhy uchel. Mae llawer o ysgolion, fel y clywsom, yn gorfodi polisi gwisg ysgol mor llym fel nad ydynt yn caniatáu sgert neu drowsus arall rhatach sydd yr un lliw, er enghraifft. Gall hynny godi cywilydd ar blant, a dyna pam ein bod yn galw am adolygu canllawiau statudol ar bolisïau gwisg ysgol. Mae rhywbeth yn arswydus yn y syniad fod plant yn cerdded o gwmpas yn gwisgo eu hembaras, fel y gall eraill dynnu arnynt o'i herwydd. Ac mae tripiau ysgol a diwrnodau gwisgo dillad eich hun, fel y clywsom, yn gallu gwneud i blant deimlo ar wahân ac yn wahanol hefyd. Mae cymorth y grant datblygu disgyblion yn amrywio ar draws gwahanol ysgolion, nid yw pob un ohonynt yn gwneud y gorau o allu gwneud teithiau â chymhorthdal, ac mae hynny'n golygu bod y plant tlotaf yn cael eu hamddifadu unwaith eto. A phan fydd eu ffrindiau i gyd yn treulio amser egwyl ac ar ôl ysgol yn sgwrsio am yr hyn y byddant yn ei wneud ar y tripiau, yn cynllunio beth i'w wisgo, nid yw'r rhai nad ydynt yn gallu fforddio mynd yn teimlo bod yr ysgol yn rhywle y maent yn perthyn iddo. Mae i fod yn gydraddolwr, gyda chyfle cyfartal i bawb. Mae dau ystyr i'r gair Cymraeg 'ysgol', ond i gynifer o blant, caiff yr ysgol ei chicio ymaith cyn iddynt gael cyfle i ddechrau ei dringo hyd yn oed.
I gloi, mae dadansoddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn dangos mai gwaethygu a wnaiff y sefyllfa, fel y clywsom. Bydd biliau ynni'r cartref yn codi £693 y flwyddyn ar gyfartaledd ym mis Ebrill, cynnydd sy'n cyfateb i 12 y cant o incwm gwario aelwydydd Cymru yn y dengradd tlotaf. A hynny cyn ystyried y ffaith bod disgwyl i chwyddiant gyrraedd y lefel uchaf ers 30 mlynedd yn y gwanwyn, sef 7 y cant. Beth fydd y pethau mwyaf tebygol i fynd, hyd yn oed i deuluoedd nad ydynt mewn trafferthion enbyd? Bydd pethau yr ystyrir eu bod yn foethusrwydd bach yn diflannu: dillad chwaraeon, arian poced, gwersi cerddoriaeth, tripiau. Ond ni ddylai'r rhain fod yn foethusrwydd. Dyma'r pethau sy'n gallu agor drysau a chyfoethogi bywydau plant ac sy'n golygu, er eich bod yn dod o gefndir tlotach, y gall eich bywyd fod yr un mor ogoneddus a llawen â bywyd eich cyfoedion. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y ddadl hon yn arwain at newid, oherwydd dylai pob plentyn deimlo'n hapus a theimlo bod croeso iddo yn yr ysgol.
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i agor drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig heddiw? Mae'r camau sydd wedi cael eu nodi yn rhai rydyn ni fel Llywodraeth yn eu cymryd. Felly, rydyn ni'n hapus i gefnogi'r cynnig a symudwyd gan Sioned Williams yn ogystal â'r gwelliant a symudwyd gan Laura Jones.
Rydyn ni'n gwybod bod tlodi yn gallu tanseilio gallu plant i ddysgu, yn gallu cyfyngu ar eu cyfleoedd nhw mewn bywyd, yn gallu eu rhwystro rhag manteisio yn llawn ar addysg. Fel Llywodraeth rŷn ni'n gwbl ymroddedig i wneud ein gorau glas i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Mae ein hymrwymiad ni yn y cytundeb cydweithio i ymestyn y garfan sy'n cael prydau ysgol am ddim i gynnwys holl ddisgyblion ysgol gynradd yn gyfraniad pwysig yn hyn o beth. Mae ein record ni o ran darparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion yng Nghymru yn destun rŷn ni'n falch ohono fel Llywodraeth, ac rydyn ni wedi gweld hyn fel rhywbeth hollbwysig er mwyn sicrhau safonau uchel i bawb.
Fel rhan o'r pecyn cymorth ehangach i helpu teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â'r argyfwng costau byw, rŷn ni am ofalu bod bwyd iach a maethlon ar gael i blant a phobl ifainc. Mae £21.4 miliwn ychwanegol wedi cael ei ddarparu yn 2022-23 i helpu gyda chost prydau bwyd i ddisgyblion cymwys yn ystod gwyliau'r Pasg, hanner tymor yr haf a'r gwyliau haf eleni. Mesur yw hwn mewn ymateb i'r pandemig ac i'r argyfwng costau byw. Gan mai bod yn gymwys am brydau ysgol am ddim yw'r sail i nifer o hawliau a chynigion cymorth lleol a chenedlaethol, rŷn ni'n cymryd nifer o gamau i ymateb i'r impact ar y rhain yn sgil y newidiadau yn y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim. Ond dwi eisiau bod yn glir, Ddirprwy Lywydd, y bydd pob plentyn a pherson ifanc sy'n gymwys i gael budd-daliadau eraill ar hyn o bryd, er enghraifft y grant datblygu disgyblion mynediad, yn dal i fod yn gymwys fel yr oedden nhw o dan y trefniadau blaenorol. Fe fydd hyn yn cael ei esbonio'n glir i deuluoedd, fel y gallan nhw barhau i gael y cymorth y mae gyda nhw hawl i'w gael er mwyn gwneud yn siŵr nad yw dechrau cynnig prydau ysgol am ddim i bawb yn effeithio'n negyddol ar y plant a fyddai wedi cael arian neu help ychwanegol.
Rŷn ni'n cydnabod bod y costau sydd ynghlwm wrth y diwrnod ysgol, er enghraifft gwisg ysgol, yn gallu bod yn faich ariannol. Rŷn ni'n glir y dylai gwisg ysgol fod yn rhywbeth y mae teuluoedd yn gallu ei fforddio.
Yn 2019, Ddirprwy Lywydd, ni oedd y Llywodraeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud canllawiau ar wisg ysgol yn statudol i gynorthwyo cyrff llywodraethu yn well wrth iddynt wneud eu penderfyniadau ar bolisïau gwisg ysgol o ran mynediad, fforddiadwyedd a hyblygrwydd. Byddwn yn parhau i weithio gydag ysgolion a chyrff llywodraethu i sicrhau bod y canllawiau'n cefnogi fforddiadwyedd i deuluoedd ledled Cymru yn effeithiol.
Cytunwn na ddylai plant a phobl ifanc fod o dan anfantais oherwydd dyled prydau ysgol.
A wnewch chi ofyn i ysgolion bennu'r lliwiau y maent am i blant eu gwisgo yn unig, yn hytrach na'i wneud yn gymhleth?
Diolch i Mike Hedges am yr awgrym hwnnw. Rydym yn adolygu ein canllawiau ar hyn o bryd, a byddaf yn sicrhau bod y pwynt hwnnw'n cael ei ystyried yn llawn yn yr adolygiad. Rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaeth yn ei gyfraniad i'r ddadl yn gynharach ar y pwnc hwnnw.
Cytunwn na ddylai plant a phobl ifanc fod o dan anfantais oherwydd dyled prydau ysgol, ac rydym eisoes wedi gweithredu. Ym mis Tachwedd, fe wnaethom ysgrifennu at bob pennaeth yn nodi ein disgwyliad clir y dylai awdurdodau lleol ac ysgolion weithio mewn partneriaeth â theuluoedd pan fyddant yn cael anawsterau i ddod o hyd i ateb i sicrhau bod pob plentyn yn cael cinio iach. Yn bwysig, atgoffwyd awdurdodau lleol ac ysgolion hefyd o'u gallu i ddefnyddio eu disgresiwn i weithredu strwythurau prisio amrywiadwy i roi gwell cymorth i blant a theuluoedd ar incwm isel nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Y grant datblygu disgyblion - mynediad yw'r cynllun mwyaf hael o'i fath yn y DU, ac roeddwn yn falch o gyhoeddi yn ddiweddar y bydd y grant ar gael yn awr i bob grŵp blwyddyn ysgol. Gan weithio gyda fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog cyllid a llywodraeth leol, bydd yr Aelodau wedi gweld y datganiad ysgrifenedig yr wythnos hon yn cyhoeddi taliad untro ychwanegol o £100 i bawb sy'n gymwys. Mae'r cynnig yn galw am wella'r modd y cyfeirir at y grant. Fe wnaethon gynnal ymgyrch genedlaethol lwyddiannus, yn fy marn i, i godi ymwybyddiaeth o'r cynllun dros fisoedd y gaeaf i helpu teuluoedd a allai fod yn newydd i fudd-daliadau a heb fod yn ymwybodol o'r cynllun. Mae awdurdodau lleol hefyd yn cynnal eu hymgyrchoedd cyfathrebu eu hunain i gynyddu'r nifer sy'n manteisio arno, ac rwy'n dal i fod yn ymrwymedig i ehangu'r gwaith da hwn.
Mae'r cynnig hefyd yn galw am weithio heddiw tuag at gofrestru awtomatig. Mae hwn yn nod y credaf y byddem i gyd yn ei rannu. Fodd bynnag, oherwydd y rhyngweithio â system dreth a budd-daliadau Llywodraeth y DU, mae'n gymhleth ac nid yw'n rhywbeth a all ddigwydd ar unwaith, yn anffodus. Ond fel rhan o'r cynllun gweithredu pwyslais ar incwm, a gweithio gydag awdurdodau lleol, rydym wedi datblygu a chyhoeddi pecyn cymorth arferion gorau. Mae'n coladu'r hyn sy'n gweithio i helpu i symleiddio'r broses ymgeisio am fudd-daliadau datganoledig, gan eu gwneud yn fwy hygyrch i bobl sydd angen y cymorth hwn. Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i archwilio ffyrdd pellach o symleiddio'r broses ymgeisio am fudd-daliadau Cymru a nodi opsiynau ar gyfer cynyddu'r nifer sy'n eu cael.
Byddwn yn parhau i wella ymwybyddiaeth o fudd-daliadau Cymru drwy gyflwyno cynlluniau ar gyfer darpar ymgeiswyr a'r staff rheng flaen sy'n cefnogi ymgeiswyr, gan helpu mwy o bobl i fanteisio ar y cymorth y mae ganddynt hawl iddo. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i gyrff llywodraethu ar godi tâl am weithgareddau ysgol. Mae Deddf Addysg 1996 yn nodi'r gyfraith ynghylch pa daliadau y gellir ac na ellir eu codi am weithgareddau. Ni cheir codi tâl am deithiau ysgol sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar godi tâl yn nodi na ddylai teuluoedd sy'n cael prydau ysgol am ddim orfod talu am dripiau ysgol. Byddwn yn darparu cymorth parhaus i ysgolion ar sicrhau bod pob taith a gweithgaredd yn gynhwysol.
Ddirprwy Lywydd, dyma rai yn unig o'r camau yr ydym yn eu cymryd yn y maes hwn, ochr yn ochr â mentrau eraill ehangach, megis buddsoddi yn y gronfa cymorth dewisol a chynllun cymorth tanwydd y gaeaf pellach, y cyfan er mwyn cefnogi teuluoedd sy'n cael trafferth ymdopi â'r argyfwng costau byw. Mae'r Llywodraeth hon wedi, a bob amser yn mynd i roi plant a hawliau plant wrth wraidd popeth y mae'n ei wneud, a hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am y cyfle i ystyried y materion pwysig hyn yn y Siambr heddiw.
Galwaf ar Heledd Fychan i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Pam ein bod ni yma fel Aelodau'r Senedd os nad ydym yn gwneud hyn yn iawn? Wedi'r cyfan, mae gwleidyddion wedi bod yma o'r blaen. Rwy'n siŵr fod llawer ohonom yn cofio'r targed i ddileu tlodi plant erbyn 2020—rhywbeth a oedd wrth wraidd ymgyrch etholiadol 1997 i'r Llywodraeth Lafur, ac a gadarnhawyd bryd hynny gan Tony Blair yn 2002 a'i fabwysiadu gan y Senedd hon hefyd fel targed. Cofiaf yn 2008, pan oeddwn yn gweithio i gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru, fod hynny'n ffocws ac yn flaenoriaeth i'n gwaith, ac eto dyma ni, mewn sefyllfa sy'n gwaethygu. Nid sgorio pwyntiau yw hyn, ond os ydym am wneud unrhyw beth yn nhymor y Senedd hon, gadewch inni weithio gyda'n gilydd i sicrhau nad yw'r rhain yn eiriau gwag a ailadroddir eto mewn degawd, wrth i'r ystadegau barhau i wneud cam ag un genhedlaeth ar ôl y llall o blant.
Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl ac a rannodd straeon personol iawn hefyd. Rwy'n credu ei bod yn hawdd iawn weithiau i bobl edrych arnom fel cynrychiolwyr etholedig a chymryd yn ganiataol ein bod yn dod o gefndir penodol. Felly, diolch, Luke, a Mike hefyd, am rannu eich profiadau personol eich hunain, oherwydd mae'n bwysig fod y Senedd hon hefyd yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru, a gwyddom nad yw pobl yn gallu cael dechrau teg mewn bywyd a mynediad cyfartal at yr holl gyfleoedd ar hyn o bryd.
Sioned Williams, yn ei sylwadau agoriadol—. Roedd yn emosiynol iawn gwrando ar y pethau yr oeddech yn eu dweud. Credaf mai un o'r pethau a wnaeth argraff arnaf oedd yr un allweddol—nad yw'r rheswm byth o fewn rheolaeth y plentyn, ac eto, yn rhy aml, cawsom enghreifftiau mynych drwy gydol y ddadl hon o'r plentyn yn teimlo'r cyfrifoldeb hwnnw. Mike, pan sonioch chi am beidio â mynd â nodiadau adref, am beidio â rhoi eich rhieni yn y sefyllfa honno—. Oherwydd yn aml, y canfyddiad yw bod tlodi yn ddewis neu fod pobl ar fai, ond nid yw hynny'n wir, a chredaf fod angen inni fod yn realistig yma ynglŷn â'r ffaith ei fod yn ddewis gwleidyddol. Mae gennym ddulliau at ein defnydd. Rwy'n gwybod ein bod yn teimlo'n rhwystredig yma yng Nghymru ar adegau nad oes gennym yr holl ddulliau i newid hyn at ein defnydd, ond fe allwn newid pethau os ydym yn benderfynol o wneud y newidiadau hynny.
Ar gyfraniad Laura Anne Jones—cyfeiriad eto at argyfwng costau byw fel rywbeth sy'n bodoli mewn gwledydd eraill. Efallai fod hynny'n wir, ond mae gennym gyfraddau tlodi plant sydd ymhlith y gwaethaf yn Ewrop, a chredaf nad yw dweud bod argyfwng costau byw mewn mannau eraill yn golygu ei bod hi'n iawn ei fod yn bodoli yma, a chredaf fod angen inni wneud popeth yn ein gallu, nid yn unig i dderbyn bod yna argyfwng costau byw, ond i dderbyn cyfrifoldeb am benderfyniadau gwleidyddol sy'n arwain at hynny. Oherwydd, wedi'r cyfan, mae gennym yr ystadegau, gwyddom am effaith peidio â chadw'r ychwanegiad o £20 yr wythnos, a chredaf fod angen inni fod yn glir hefyd, hyd yn oed pe bai wedi'i gadw, nad yw'n golygu na fyddai pobl yn byw mewn argyfwng. Byddai wedi gwneud pethau ychydig yn well, fel y gwnaeth yn ystod y pandemig, ond ni fyddai wedi cadw pobl rhag mynd i ddyled, neu dlodi plant rhag gwaethygu, ond mae peidio â'i gael yn gwneud y sefyllfa'n waeth byth. Felly, mae angen inni fod yn glir yma, nid yw'r ffaith bod gwledydd eraill o bosibl yn wynebu argyfwng costau byw yn dileu cyfrifoldeb Llywodraeth y DU, ac mae yna bethau y gallem eu newid. Y ffaith nad yw'r credyd cynhwysol yn codi gyda chwyddiant hyd yn oed—penderfyniadau gwleidyddol yw'r rheini.
Mae'r anghysondeb yn rhywbeth a ddaeth yn amlwg yn y ddadl—anghysondeb o ran y costau, o ran y modd y caiff y canllawiau eu gweithredu gan ysgolion. A Mike, rwy'n credu ichi sôn ei bod yn foesol anghywir i achosi cywilydd i unrhyw blentyn. Wrth gwrs ei bod, ac ni ellir dirnad sut y byddai unrhyw un yn meddwl bod hynny'n dderbyniol. Ond eto, mae'n digwydd, dro ar ôl tro. A hoffwn adleisio galwadau fy nghyd-Aelod, Luke Fletcher, mewn perthynas â'r lwfans cynhaliaeth addysg—y ffaith nad yw wedi newid ers 2004. Ac eto, gofynnwch i unrhyw un, mae costau trafnidiaeth wedi codi, cost gwerslyfrau—mae popeth wedi codi, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni edrych arno ar fyrder. Credaf fod y ffaith eich bod yn gallu dweud, Luke, ynglŷn â'r effaith honno'n bersonol—mae hynny'n gywir, mae angen inni feddwl am sicrhau bod y cyfle hwnnw ar gael i bawb.
Soniodd John Griffiths am gost gweithgareddau a phrofiadau, ac ysgolion â ffocws cymunedol, gan sôn hefyd am yr anghysondeb ledled Cymru a hyd yn oed o fewn awdurdodau lleol o ran mynediad cyfartal at gyfranogiad. A Delyth, roedd y portread o Sam yn dangos arwyddion ystrydebol o dlodi yn drawiadol iawn. Mae hynny'n dorcalonnus, ac os nad yw hynny'n ein hysgogi i weithredu gyda'n gilydd ar hyn, beth arall a all wneud hynny? Oherwydd rydych chi'n iawn, mae angen inni sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal ac nad yw pobl yn cael eu gwneud i deimlo'n wahanol. Cofiaf fy nyddiau ysgol fy hun, a gweld rhai o fy ffrindiau yn aros mewn rhes ar wahân am eu cinio am eu bod yn cael prydau ysgol am ddim, ac ar unwaith, mae'r ffaith y gall hynny barhau i ddigwydd yn awr, gwahaniaethu o'r fath yn ffiaidd.
Ar ymateb y Llywodraeth, rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am amlinellu cefnogaeth y Llywodraeth i hyn. Yn amlwg, mae gennym nifer o bethau yn y cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan gynnwys darparu prydau ysgol am ddim. Ond fel y soniais ar y dechrau, os ydym o ddifrif ynglŷn â dileu tlodi plant a rhoi dechrau teg mewn bywyd i bawb, mae gofyn i bob un ohonom ymrwymo i hynny. Siaradwyd geiriau gwag o'r blaen. Rydym yn Senedd newydd yma, mae yna ymrwymiad o'r newydd. Gadewch inni ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw, gadewch inni sicrhau nad ydym yn dweud yr un peth ymhen degawd ac yn siomi cenhedlaeth arall o blant. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyna newid fy mhatrwm.