– Senedd Cymru am 3:36 pm ar 30 Mawrth 2022.
Yr eitem nesaf yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Gwarchod y dyfodol: Y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio'. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Jenny Rathbone.
Diolch. Mae mynediad at ofal plant da a fforddiadwy yn allweddol i fywydau hapusach ac iachach ac economi gryfach, decach a mwy cynhyrchiol. Diffyg gofal plant fforddiadwy yw un o brif ysgogwyr y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a welir yn gyson. Fel y gwelsom yn ystod y pandemig, cymerwyd yn ganiataol mai menywod fyddai'n ysgwyddo'r baich pan gaeodd ysgolion, a dyna'n union a ddigwyddodd. Gwyddom fod menywod wedi cael eu gadael i jyglo eu rôl fel athrawon yn ogystal â chogyddion, golchwyr llestri, a cheisio cadw swydd â thâl. Mae ein hadroddiad yn cyfeirio at ystod o gamau y gellir eu cymryd i wella ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i rieni, cryfhau'r gweithlu a dysgu o arferion gorau gwledydd eraill. Hoffwn ddiolch i randdeiliaid a gyfrannodd at y gwaith hwn, o Gymru ac yn rhyngwladol, gan gynnwys y rhieni a'r gweithwyr gofal plant rheng flaen, y credaf fod rhai ohonynt yn yr oriel y prynhawn yma. Hoffwn ddiolch hefyd i'r staff ymchwil a chlercio rhagorol a gefnogodd ein hymchwiliad.
Mae'n werth nodi bod yna nifer sylweddol o deuluoedd nad ydynt yn gwybod beth y mae ganddynt hawl iddo. A phan edrychwch ar arolwg blynyddol diweddaraf Coram Family and Childcare o bob awdurdod ym Mhrydain, prin y gallwch synnu, oherwydd bod mwy na hanner ein hawdurdodau lleol heb ddigon o ofal plant ar gyfer hyd yn oed yr hawliau addysg gynnar am ddim y dylai plant fod yn eu cael. Felly, nid yw'n syndod nad yw awdurdodau lleol yn gwneud eu gorau i ddweud wrth bobl am ddarpariaeth nad yw'n bodoli mewn gwirionedd. Nododd Sefydliad Bevan fod hyd yn oed ymwybyddiaeth o'r 10 awr o ddarpariaeth i bawb ar gyfer plant tair a phedair oed yn isel. A mynegodd cyfranogwyr ein grwpiau ffocws wahanol raddau o ymwybyddiaeth ynglŷn â chwmpas a meini prawf cymhwysedd Dechrau'n Deg a'r cynnig gofal plant. Mae'n ddarlun eithaf dryslyd, felly.
Rydym yn falch fod y Llywodraeth wedi derbyn mewn egwyddor ein hargymhelliad ar gyfer sut y gallwn unioni'r sefyllfa hon. Awgrymwyd y gallai hyn gynnwys ysgrifennu at rieni newydd, neu hyrwyddo'r cymorth sydd ar gael wrth gofrestru'r enedigaeth. Mae'r Gweinidog wedi rhoi llawer o bwyslais ar yr wybodaeth sydd ar gael gan wasanaeth gwybodaeth i deuluoedd pob awdurdod lleol, ac edrychwn ymlaen at y diweddariad o'r llyfryn 'Dewis Gofal Plant' ar-lein yr ydych wedi'i gomisiynu a fydd yn cael ei gyhoeddi'n ddiweddarach eleni. Ond rydym yn gwybod nad yw gwybodaeth ar-lein yn ddigon i gyrraedd pob teulu ynglŷn â hawl eu plentyn. Ac mae'r gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd ei hun yn rhagorol yn yr ystyr ei fod yn darparu gwybodaeth am ddarpariaeth aros a chwarae, sydd yr un mor bwysig yn y dyddiau cynnar iawn o fod yn rhiant, ond nid yw'n tynnu sylw amlwg iawn at beth yn union sydd ar gael fel hawl plentyn.
Mae'n dda iawn gwybod ei bod yn ofynnol i dimau Dechrau'n Deg gael strategaethau eraill ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd a bod disgwyl iddynt amlinellu'r rhain fel rhan o'u cynlluniau blynyddol, a chredaf fod hynny'n beth pwysig iawn. Ond yn anffodus, rydych hefyd yn dweud yn eich ymateb y bydd Dechrau'n Deg ei hun yn defnyddio mwy o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gyfleu negeseuon allweddol i deuluoedd Dechrau'n Deg, ac mae hynny'n iawn i rai, ond ofnaf na fydd yn cyrraedd y rhai mwyaf difreintiedig.
Gan droi at gynnig gofal plant Llywodraeth Cymru, yn wreiddiol canolbwyntiai'n unig ar deuluoedd lle mae'r ddau riant—neu, ar aelwyd un rhiant, y rhiant hwnnw—yn gweithio dros 16 awr yr wythnos. Felly, rydym yn croesawu'r ffaith ei fod yn ymestyn i gynnwys rhieni sydd mewn addysg, hyfforddiant neu ar gyrion gwaith, ac yn enwedig y ffaith eich bod yn derbyn ein hargymhelliad fod angen cynnal asesiadau o'r effaith ar hawliau plant ac asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb ac y cânt eu cyhoeddi o leiaf fis cyn y bydd unrhyw newidiadau yn y ddarpariaeth yn dod yn weithredol.
Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n helpu pob awdurdod cyhoeddus i fynd i'r afael â sut, er enghraifft, y bydd pobl sy'n gweithio oriau anarferol, megis gweithwyr shifftiau, yn gallu elwa o'r cynnig gofal plant, oherwydd mae'r rhan hon o'r gweithlu sy'n talu cyflogau isel i raddau helaeth wedi'i heithrio rhag elwa o'r cynnig gofal plant gan nad yw'r farchnad wedi darparu ar gyfer y lefel hon o gymhlethdod eto. Rydych wedi rhoi'r cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i fynd i'r afael â hyn fel rhan o'u hasesiadau digonolrwydd gofal plant, ac nid oes amheuaeth gennyf y bydd y pwyllgor yn edrych gyda diddordeb mawr ar fanylion y rheini maes o law i weld a ydynt yn mynd i'r afael â'r pryder penodol hwnnw mewn gwirionedd.
Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom gan arbenigwyr yn yr Alban a Sweden, ac mae'n bwysig iawn ein bod i gyd yn dysgu gan y goreuon fel ffordd o wella ansawdd ein darpariaeth a'n safonau ar draws y sector, fel ei bod yn fwy na rhaglen ar gyfer cael mwy o rieni yn ôl i waith yn gyflymach, a'i bod hefyd yn gyfrwng hanfodol ar gyfer lleihau'r bwlch cyrhaeddiad.
Mae Llywodraeth Cymru, a'r Dirprwy Weinidog yn enwedig, yn gwerthfawrogi'n fawr y cwricwlwm dysgu drwy chwarae ar gyfer y blynyddoedd cynnar a chyfnod allweddol 1, ond teimlaf fod y sgiliau addysgegol yn bwysicach yn y blynyddoedd cynnar iawn nag yn unman arall. Dyma'r grŵp anoddaf o blant i'w addysgu, ac felly mae arnom angen yr athrawon gorau yn y maes hwn. Felly, rydym yn falch iawn fod y Llywodraeth wedi derbyn ein hargymhelliad am y rôl hanfodol y gall ysgolion bro ei chwarae yn gwella cysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth ar draws y sector gofal plant.
Mae'n ofnadwy o ddryslyd i'r plentyn sydd ar hyn o bryd yn gorfod cael ei gludo rhwng hyd at dri lleoliad ar wahân dros yr oriau y mae eu rhiant yn gweithio, a mynegodd rhieni a gymerodd ran yn ein hymgynghoriadau ddryswch ynglŷn â'r gwahaniaeth rhwng addysg gynnar a gofal plant. Mae'n ymddangos i mi y gall ysgolion bro wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy sicrhau bod y cynnig cymuned gyfan yn dda.
A chredaf fod angen cryn dipyn o newid diwylliannol o ganlyniad i hyn, oherwydd trydarodd Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon y dylid cadw gofal plant allan o ysgolion mewn ymateb i'n hadroddiad, gan ddiystyru'r rôl y mae gofal plant cynhwysfawr safonol yn ei chwarae yn lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a achosir gan dlodi mewn modd gwirioneddol syfrdanol. Ni allant synnu bod plant yn cyrraedd yr ysgol yn dair oed gyda dim ond tri neu bedwar gair os nad ydynt yn talu sylw i ba ofal plant y maent yn ei gael cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol brif ffrwd.
Yn sicr, nid yw hyn yn ymwneud ag ysgolion yn mabwysiadu'r rôl werthfawr a chwaraeir gan y meithrinfeydd preifat a chymunedol, ond byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Dirprwy Weinidog yn ei hymateb egluro sut y gallwn gynyddu capasiti a gallu'r sector gofal plant cyfan, sy'n cael ei reoli i raddau helaeth gan sefydliadau preifat a gwirfoddol, ac mae hynny'n arbennig o bwysig yng nghyd-destun anghenion dysgu ychwanegol.
Cawsom dystiolaeth wirioneddol frawychus gan rywun nad oedd eu plentyn awtistig yn gallu cael unrhyw gefnogaeth o gwbl yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud oherwydd dywedwyd wrth y gweithwyr allweddol fod angen i'r ddarpariaeth gau, ac mae'n ymddangos i mi fod angen i'r math hwnnw o unigolyn, y math hwnnw o deulu, yn anad yr un, fod wedi cael llawer mwy o ystyriaeth. Felly, credaf y byddai'n ddefnyddiol iawn clywed ychydig mwy ynglŷn â sut y byddwn yn gwneud hynny, oherwydd i deulu sydd â phlentyn anabl, nid ydynt am fod yn cludo eu plentyn gryn bellter er mwyn gallu cael y lefel o ddarpariaeth sydd ei hangen ar y plentyn. Mae angen i'r plentyn allu cael yr un ddarpariaeth â'r plant eraill y mae'n chwarae yn eu plith mewn bywyd bob dydd a pheidio â gorfod mynd i rywle arbennig. Mae angen eu hintegreiddio o'r dechrau.
Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddweud wrthym pa gynnydd a wnaed ar y cydweithio a fu rhwng Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru ar y ddarpariaeth gofal plant ac a oes mwy o rôl i Estyn i sicrhau bod yr holl ddarpariaeth gofal plant yn cael cefnogaeth pobl sydd â chymwysterau addas i gynllunio'r cwricwlwm, yn enwedig i blant ag anghenion ychwanegol.
Ac yn olaf, rwyf am ddweud bod arnom angen sector gofal plant sy'n adlewyrchu'r boblogaeth. Felly, mae llawer mwy o waith i'w wneud i sicrhau bod pobl o wahanol gymunedau'n cael eu hannog i ymgymryd â'r swydd bwysig hon ym maes gofal plant, ac mae'r ffordd y gwobrwywn ein gweithlu ac y dangoswn ein bod yn gwerthfawrogi'r gwaith pwysig hwn yn rhywbeth y mae gwir angen i bob un ohonom roi sylw iddo, oherwydd, fel y dywedodd un o'n cyfranwyr,
'Rydym ar gontractau dim oriau ac rydym yn gofalu am y dyfodol.'
Felly, mae cyflog a phroffesiynoli'r sector yn allweddol i'r gymdeithas sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac sy'n canolbwyntio ar y teulu y mae pawb ohonom ei heisiau.
Diolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am gyflwyno'r adroddiad heddiw. Efallai eich bod yn synnu braidd wrth fy ngweld i'n siarad ar yr eitem hon heddiw, ond rhaid imi ddweud, cefais y pleser o fynychu dau o gyfarfodydd y pwyllgor ar ran fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod dros y misoedd diwethaf, a mwynheais waith y pwyllgor a gyflawnwyd ar gyflogaeth rhieni a gofal plant—y mater penodol hwn. Rwy'n siŵr fod y pwyllgor wedi mwynhau fy mhresenoldeb yno hefyd, ar adegau. [Chwerthin.]
Ond fel y gwyddom, mae gofal plant a chyflogaeth rhieni wedi bod yn broblem ers nifer o flynyddoedd a daeth i'r amlwg, yn sicr, drwy bandemig COVID-19. Fel a rannwyd eisoes drwy'r adroddiad, gan fod mynediad at ofal plant fforddiadwy a hyblyg yn cael ei nodi'n aml gan lawer o rieni fel un o'r prif rwystrau sy'n eu hatal rhag gweithio neu gamu ymlaen ymhellach yn eu gyrfaoedd—ac mae fy ngwraig a minnau'n sicr wedi profi hyn gyda'n tri phlentyn, sydd o dan 10 oed—mae yna her a all godi i rieni sy'n gweithio.
Cyn imi droi at rai o'r pwyntiau a wnaeth fy nharo yn yr adroddiad a gwaith y pwyllgor ar hyn, wrth i'r adroddiad gael ei gyflwyno, un peth a aeth drwy fy meddwl oedd tybed a ydym, weithiau, yn colli cyfle gyda gofal sy'n pontio'r cenedlaethau. Rwyf bob amser yn cofio'r stori, yn fy mywyd blaenorol, fy swydd flaenorol, roedd gennyf bennaeth newydd a ddaethai draw ar secondiad o Hyderabad yn India, ac ni allai ddod dros y ffordd yr ydym yn ymdrin â gofal, gofal plant, gofalu am ein henoed, o'i gymharu â rhai o'r ffyrdd diwylliannol y byddai ei draddodiad ef yn eu defnyddio. Tybed weithiau a ydym yn colli cyfle gyda'r berthynas rhwng teidiau a neiniau a'u hwyrion a all ddigwydd a'r gefnogaeth a ddarparwn yno ar draws sawl cenhedlaeth. Sylw wrth basio yw hynny, mae'n debyg.
Ond o ran yr adroddiad a'r pwyntiau a wnaeth argraff arnaf, fel y nodwyd, yn ystod y dystiolaeth y pwyllgor, mae llawer o rieni heb fod yn ymwybodol o'r cymorth gofal plant sydd ar gael iddynt mewn gwirionedd, yn enwedig y cymorth sydd ar gael i rieni newydd, a phrofais innau hyn tua naw mlynedd yn ôl. Mae'n bwysig iawn yn fy marn i fod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agosach gydag awdurdodau lleol yn enwedig, a byrddau iechyd a sefydliadau perthnasol i wella'r ymwybyddiaeth hon a darparu rhagor o wybodaeth i rieni, fel y gallant ddefnyddio nifer o'r opsiynau gwych sydd ar gael, ac mae'n hanfodol fod gofal plant a chymorth yn cael eu targedu, yn sicr, at deuluoedd sydd ei angen, a'n bod yn ceisio osgoi'r loteri cod post a all ddigwydd o bryd i'w gilydd.
Yn ail, o ran y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, mae'n amlwg fod rhywfaint o ddarpariaeth yno i wella ac ehangu gofal plant am ddim i blant dwyflwydd oed, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddarparu gofal plant cyfrwng Cymraeg wedi'i gryfhau, a byddwn yn sicr yn croesawu hynny o'r ochr hon i'r meinciau. Mae'r rhain yn eitemau y buom yn galw amdanynt ers amser maith hefyd ac mae'n dda gweld cynnydd yn y maes hwnnw.
Yn olaf, credaf ei bod yn amlwg o ymgysylltiad y pwyllgor fod angen gwneud pob ymdrech i annog pobl o bob cefndir, fel y nodwyd gan y Cadeirydd yno, i ystyried gyrfa mewn gofal plant. Rwy'n gwybod er enghraifft fod fy ngwraig wedi gweithio yn y maes hwn am gyfnod byr a byddai'n dda gweld cymysgedd ehangach o bobl yn ymwneud â gofal plant proffesiynol, a bod plant yn gallu gweld gwahanol fathau o bobl yn gofalu amdanynt dros wahanol gyfnodau yn eu bywydau, mae'n debyg.
Felly, i gloi, hoffwn gofnodi fy niolch i'r pwyllgor cyfan am gynhyrchu'r gwaith pwysig hwn ar ofal plant a'r canlyniadau cadarnhaol a gaiff. Diolch hefyd i'r sefydliadau a'r cyrff cyhoeddus a phob math o gyrff a roddodd dystiolaeth i helpu'r pwyllgor gyda'u hargymhellion. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n falch o gyfrannu i'r ddadl fel llefarydd Plaid Cymru ar gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol a hefyd fel aelod o'r pwyllgor. Ychydig wythnosau yn ôl, fe fuon ni'n nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ac yn trafod yma yn y Siambr adroddiad blynyddol 'Cyflwr y Genedl' Chwarae Teg. Roedd yr adroddiad hwnnw'n datgelu bod gennym ffordd bell i fynd o ran anghydraddoldeb rhywedd.
Pan ofynnodd y pwyllgor i'n tystion beth fyddai'n gwneud y gwahaniaeth fwyaf o ran cau y bwlch cyflog rhywedd a'r anghydraddoldebau sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod, teuluoedd a phlant, gwella cyfleon menywod yn y gweithle ac yn y gymdeithas yn gyffredinol, yr ateb oedd gofal plant am ddim i bawb, a bod hynny ar gael o flwydd oed, os nad yn gynt. Byddai hynny nid yn unig, wrth gwrs, yn taclo anghydraddoldeb rhywedd, ond fe fyddai hefyd yn helpu taclo tlodi ac anfantais; yn dda i rieni a mamau yn enwedig, ac yn dda, yn bwysicach efallai, i blant. Dyna'r ddelfryd, dyna'r safon aur.
Mae adroddiad ymchwil ar ôl adroddiad ymchwil yn pwyntio at hynny fel rhywbeth y mae'n rhaid i ni anelu ato, ac fe gadarnhawyd hynny, dwi'n credu, gan y dystiolaeth sy'n cael ei hadlewyrchu yn adroddiad y pwyllgor. Mae'n galondid, felly, ers i ni fel pwyllgor benderfynu ar destun ein hymchwiliad, fod y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru wedi sicrhau cynnydd at y nod hwnnw o ehangu gofal plant i bob plentyn dwyflwydd oed fel cam cyntaf.
Un o brif negeseuon yr adroddiad a fydd, gobeithio, yn medru dylanwadu ar y gwaith pwysig hwn oedd, fel rŷn ni wedi clywed, y diffyg ymwybyddiaeth, yr anhawster wrth geisio canfod pa fath o ofal oedd ar gael ble, ar gyfer pa oedran, am faint o oriau. Yn eu tystiolaeth, fe wnaeth Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru rannu gyda ni fod 67 y cant o'r ymatebwyr i'w harolwg nhw yn dweud bod angen gwybodaeth fwy hygyrch a thryloyw arnyn nhw am y darpariaethau gofal plant sydd ar gael. Ategwyd hyn gan gyfranogwyr ein grwpiau ffocws o ran eu hymwybyddiaeth o'r cynnig gofal plant a Dechrau'n Deg.
Darlun pytiog a bratiog, felly, o ddarpariaeth a gafwyd. Loteri cod post oedd yr hyn a ddisgrifiwyd i ni, sy'n golygu nad yw'r ddarpariaeth yn gyson ar gyfer pob teulu ac yn cwrdd ag anghenion pob plentyn ym mhob man yng Nghymru, a'r diffygion o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol yn dod i'r wyneb yn glir.
Gan eu bod wedi derbyn nifer fawr o argymhellion y pwyllgor, ac yn dilyn y datganiad yr wythnos diwethaf ar y cyd ag Aelod dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian, am ehangu rhaglen Dechrau'n Deg, hoffwn ddeall gan y Dirprwy Weinidog beth yw ei gweledigaeth hi o ran sut y gallwn ni wireddu'r nod yma o ehangu gofal plant, o gofio'r hyn y mae'r adroddiad yn ei ddweud wrthym ni am yr heriau sydd angen eu goresgyn i sicrhau hynny. Beth yw rhan ehangu rhaglen Dechrau'n Deg yn y cynllun ehangach o ehangu gofal plant am ddim i bob plentyn o ddwy oed? Beth yw'r cynllun o ran cynyddu a datblygu'r gweithlu a'r ddarpariaeth sydd ei hangen arnom? A sut mae'r Llywodraeth am sicrhau gwell fynediad at wybodaeth fwy syml a hygyrch i rieni a chreu llwybr gofal plant mwy llyfn i bawb ym mhob cwr o Gymru?
Mae gwahaniaethau o ran mynediad, argaeledd ac ansawdd gofal plant i wahanol grwpiau cymdeithasol yn atgyfnerthu anghydraddoldeb a chanlyniadau rhwng y grwpiau hyn, a dyna pam y mae mynediad cyffredinol, o ansawdd uchel at ofal plant mor bwysig wrth geisio creu Cymru ffyniannus, heb dlodi plant, lle mae plant o bob cefndir yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.
Credir bod datblygiad plant y teuluoedd tlotaf eisoes 10 mis ar ei hôl hi o gymharu â phlant o gefndiroedd mwy cefnog erbyn iddynt droi'n dair oed. Nid yn unig y mae cynyddu'r ddarpariaeth gofal plant yn gwella canlyniadau i'r plant mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ond mae hefyd yn lleihau cyfraddau tlodi mewn gwaith a thlodi mwy cyffredinol ledled Cymru.
Tynnodd yr argyfwng costau byw presennol sylw at yr angen i wella'r ddarpariaeth gofal plant, a bydd cyflogau sy'n aros yn eu hunfan yng Nghymru yn ei ddwysáu. Fel y crybwyllwyd gennym droeon yn y lle hwn, bydd y prisiau ynni, y prisiau tanwydd, y prisiau bwyd, y codiadau treth, y chwyddiant a phenderfyniad gwarthus Llywodraeth y DU i dorri'r ychwanegiad i'r credyd cynhwysol a pheidio â chynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant yn golygu y bydd y storm economaidd sy'n taro ein gwlad yn taro'r tlotaf yn ein cymdeithas yn galetach na neb, a theuluoedd â phlant, yn enwedig, yn gorfod dewis rhwng gwresogi eu cartrefi neu gael pryd o fwyd gweddus. Mae tri o bob 10 aelwyd ag incwm sy'n llai na £40,000 y flwyddyn wedi gweld eu hincwm yn gostwng ers mis Mai 2021. Bydd gweithredu argymhellion yr adroddiad hwn yn gyflym, yn effeithlon ac yn llawn yn helpu i arafu effaith yr argyfwng hwn gan ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol.
Rwy'n falch fod y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yn dechrau mynd i'r afael â rhai o'r materion a godwyd yn adroddiad y pwyllgor. Fodd bynnag, dylai hyn ysbrydoli cynnydd a pheidio â chael ei weld fel diwedd ar y broblem, wrth inni bwyso am ofal plant cyffredinol i bawb, gwella canlyniadau i blant, creu cyfleoedd i rieni, yn enwedig i fenywod allu cael mynediad at waith ac addysg, neu ddychwelyd atynt. Diolch.
Rwy'n falch iawn o godi i siarad yn fyr yn y ddadl hon, a diolch hefyd i'r pwyllgor am eu gwaith ac am barhau â'u sylw i'r maes polisi cymdeithasol gwirioneddol bwysig hwn, oherwydd mae'n sicr yn wir—bron nad oes angen ei ddweud, ond rwy'n benderfynol o'i ddweud—os cawn y buddsoddiad yn iawn mewn darpariaeth blynyddoedd cynnar, mewn system gydlynol, unedig o ddarpariaeth blynyddoedd cynnar, byddwn yn trawsnewid cyfleoedd bywyd ac mae'n rhaid inni adeiladu ar yr hyn sydd gennym yno.
Rwyf am ddechrau drwy edrych ar hynny a chyffwrdd ar sut y cyrhaeddwn lle rydym am fod, gyda system briodol o addysg a gofal plentyndod cynnar unedig a chydlynol sy'n mynd o'r blynyddoedd cynnar iawn yr holl ffordd drwodd, gyda'r continwwm hwn. Ac mewn gwirionedd, dyna a nodwyd ychydig flynyddoedd yn ôl pan lansiodd Llywodraeth Cymru ei huchelgais. Nodaf yn y llythyr bryd hynny at Lynne Neagle, sydd bellach yn Weinidog, ond a oedd ar y pryd yn cadeirio'r un pwyllgor, fod Julie Morgan wedi ysgrifennu at Lynne, gan ddweud mai ein nod addysg a gofal plentyndod cynnar yw creu un dull addysg a gofal plentyndod cynnar o ansawdd uchel ledled Cymru sy'n canolbwyntio ar y plentyn, un sy'n cydnabod gwerth addysg gynnar a gofal plant, gan dynnu'r gorau o'r ddau at ei gilydd mewn un profiad unigol, gyda rhieni'n gallu cael mynediad at wasanaethau yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog. Nawr, dyna'r uchelgais yn llwyr a gosododd lwybr 10 mlynedd i'w wneud. Wel, aeth tair blynedd a hanner heibio o'r foment honno, gyda'r llythyr hwnnw.
Rwy'n cymeradwyo Llywodraeth Cymru o ddifrif am geisio adeiladu ar y fframwaith sydd gennym, ond roeddem yn sôn am hyn dair, bedair, bum mlynedd yn ôl a mwy. Mae gennym Dechrau'n Deg yng Nghymru, ac mae'n gwneud gwaith aruthrol, ond nid yw'n cyrraedd pob plentyn y mae angen i Dechrau'n Deg ei gyrraedd. Mae gennym ffocws da iawn ar rieni sy'n gweithio, er ei fod bellach wedi'i ymestyn i rieni sy'n meithrin sgiliau a chael hyfforddiant neu addysg uwch, sy'n ymestyn y cynnig gofal plant i blant tair a phedair oed, ond nid yw'n mynd i bawb, felly nid yw'n gynnig cyffredinol yn y modd hwnnw.
Ac fel y nodwyd yn gywir ar hyn, y broblem sydd gennym, pan fydd gennych rywbeth sy'n gymysgedd cymhleth o ddulliau cyflenwi a galw gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, y rhai sy'n tueddu i fod ar eu colled yw'r rhai sy'n ei chael yn system rhy gymhleth i'w llywio, y rheini mewn ardaloedd difreintiedig. A gallwn weld yn bendant y graffiau sy'n mynd yn ôl flynyddoedd sy'n dangos mewn lleoedd fel Merthyr a Blaenau Gwent ac Ogwr, yn wahanol i Ben-y-bont ar Ogwr, er enghraifft—o'r gogledd i'r de o'r draffordd—y gwahaniaeth yn y ddarpariaeth gofal plant, lle nad oes mantais i ddarparwyr gofal plant a blynyddoedd cynnar agor mewn ardaloedd lle y ceir anfantais economaidd. Felly, mae gwir angen inni dynnu rhai o'r rhain at ei gilydd.
Felly, rwy'n gofyn i'r Gweinidog heddiw roi syniad inni i ba raddau yr ydym wedi symud ymlaen i ddatblygu'r strwythur addysg a gofal plentyndod cynnar sengl, unedig, cydlynol hwn. Nid oeddem byth yn mynd i'w wneud dros nos, ond mae'r adroddiad hwn, unwaith eto, wedi tynnu sylw at faint ymhellach y mae'n rhaid inni fynd. Rydym yn adeiladu ar sector sy'n amrywiol ac yn gymhleth yn ei ddarpariaeth. Mae gennym sefyllfa o hyd i rai tair a phedair oed lle mae'n mynd o ardaloedd ac awdurdodau lleol lle y ceir sectorau a gynhelir yn gyfan gwbl, fel Castell-nedd Port Talbot, i ardaloedd eraill, fel Mynwy, lle mae darparwyr annibynnol amrywiol nas cynhelir yn dominyddu'r sefyllfa. Sut ydych chi'n datblygu strwythur addysg a gofal plentyndod cynnar unedig, sengl a chydlynol pan fydd gennych y math hwnnw o ddarpariaeth? Mae'r diffyg cymhelliant i fuddsoddi mewn ardaloedd difreintiedig yn golygu bod lleoedd fel Merthyr yn dal i fod ar eu colled yn sylweddol, ac yn unrhyw le, os mynnwch, i'r gogledd o'r llinell eira.
Nid oes Dechrau'n Deg ym mhobman. Mae'r dull ochr gyflenwi, sy'n seiliedig ar brawf modd yng Nghymru, sy'n gwrthgyferbynnu â'r ochr galw a yrrir gan y farchnad yn Lloegr, yn fframwaith cymhleth mewn gwirionedd. Byddai unrhyw un yn ei chael hi'n anodd llywio hyn, hyd yn oed gyda'r awdurdodau lleol yn rhoi cyngor. Mae'n rhaid i chi gael yr hyder i fynd yno a chanfod beth sydd orau i chi. Yna mae gennym nifer o nodau gan y Llywodraeth. A yw hyn yn ymwneud â dull sy'n seiliedig ar hawliau'r plentyn, dull sy'n canolbwyntio ar y plentyn, neu a yw'n ymwneud â mynd i'r afael ag anfantais, neu lawer o bethau eraill, neu ddarparu cyfleoedd economaidd? Mewn gwirionedd, mae'n gwneud y rhain i gyd, ond yn bennaf oll, gadewch inni gael y naratif yn glir, gadewch inni gael y darlun cydlynol y mae angen iddo ganolbwyntio ar—. Mae pob un o'r gwledydd sydd wedi gwneud hyn wedi ei wneud orau gyda gweledigaeth unedig, un sy'n dweud yn glir, 'Mae'r plentyn yn ganolog iddo, ond rydym hefyd yn mynd i wneud x, y a z.' Dyna lle mae angen inni fod. Felly, gadewch imi grynhoi gyda rhai cwestiynau i'r Gweinidog—. Ac mae gennym fater costau hefyd. Mae'n debyg ein bod ddwywaith neu fwy, ledled y DU, y costau y dylai pobl fod yn talu amdano.
Felly, Weinidog, pa mor agos ydym ni at gyrraedd yr egwyddorion unedig hynny ar gyfer dull addysg a gofal plentyndod cynnar unedig, gyda hawliau plant ar y brig? A allwn roi diwedd ar y gwahaniaeth rhwng addysg a gofal? Hyd yn oed gyda'r darparwyr amrywiol hyn, a allwn roi diwedd ar y gwahaniaeth hwnnw? Oherwydd mae gormod ohono allan yno. A gawn ni sefydlu cwricwlwm clir, sydd hefyd yn briodol i oedran ac sydd hefyd â chwarae yn ganolog iddo, mewn ffordd sy'n briodol i oedran, ond cwricwlwm clir fel bod cysondeb ymhlith yr holl ddarparwyr? A gawn ni roi'r dull unedig o weithredu addysg a gofal plentyndod cynnar o dan un adran unedig—rwy'n gofyn y cwestiwn—un Gweinidog, heb ei rannu ar draws adrannau'r Llywodraeth? Ac a gawn ni ddod â'r bylchau yn y ddarpariaeth addysg a gofal plentyndod cynnar i ben? Ni allwn wneud y cyfan dros nos. Nid ydym ond traean o'r ffordd i mewn, sy'n golygu bod gennym ddwy ran o dair o'r ffordd i fynd o'r degawd hwn i'w newid mewn gwirionedd. A dywedaf hyn fel cyn-Weinidog a gafodd y fraint o ymdrin â hyn am y cyfnod byr iawn y bûm yn Weinidog. Roedd gennyf swyddogion gwych a oedd yn gwneud llawer o waith ar hyn. Mae'n dechrau digwydd, gadewch inni fynd yr holl ffordd.
Fel rhywun nad yw'n Aelod o'r pwyllgor, hoffwn wneud cyfraniad byr. Rwy'n fam sengl i ddau fachgen ac rwy'n gweithio, ac felly roeddwn eisiau dweud cymaint rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn ymchwilio i hyn. Hoffwn ddiolch i Jenny a'r pwyllgor am wneud hyn yn flaenoriaeth, oherwydd nid yn unig y mae'n rhywbeth sydd wedi cael effaith arnaf fi, mae hefyd yn rhywbeth sy'n effeithio ar lawer iawn ohonom ledled Cymru. Mae gennyf brofiad uniongyrchol a gwn beth yw'r heriau y mae rhieni sy'n gweithio yn eu hwynebu o un diwrnod i'r llall.
Dewisais gymryd ychydig flynyddoedd i ffwrdd o'r gwaith gyda fy mhlentyn cyntaf fel mam sengl, a fy newis i oedd hynny. Ond fe'i cefais yn anodd iawn dychwelyd at waith—er nad oedd hynny oherwydd diffyg ymdrech neu awydd—o ran y cymorth gyrfa a oedd ar gael, ac yn amlwg y cymorth gofal plant, gydag arian yn brin ar y pryd. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn ymchwilio i'r mathau hyn o rwystrau a phopeth yr ydych wedi'i gasglu ar hyn mewn gwirionedd. Rwyf hefyd eisiau croesawu, gyda fy nghyd-Aelod, Sam Rowlands, y gofal plant am ddim i blant dwyflwydd oed. Mae mor bwysig fod gennym ofal plant sy'n fforddiadwy, yn hyblyg ac yn hygyrch i bawb. Fel y dywedwyd eisoes, yn y blynyddoedd cynnar hynny, mae cefnogaeth yn gwbl hanfodol.
Yn ogystal ag edrych yn briodol ar y lleoliadau gofal plant eu hunain, mae'n amlwg fod y pandemig wedi dangos bod gweithio rhithwir yn arf mor ddefnyddiol i bobl â phlant ond hefyd y rhai sydd eisiau dychwelyd at waith ar ôl cael plant. Dylwn ddatgan buddiant fel cynghorydd sir yn sir Fynwy. Fel cyn-gynghorydd, roeddwn eisiau, ar y pryd, fel y gwnaeth cynghorydd o fy mlaen, ar ôl cael plentyn—. Fe wnaethom ofyn a gaem ymuno â'r Siambr yn rhithwir, a dywedwyd wrthym fod hynny'n rhy anodd ar y pryd. Ac eto fisoedd yn ddiweddarach, tarodd y pandemig ac roeddem i gyd yn rhithwir o fewn eiliadau, neu roedd yn ymddangos felly. Felly, nid oedd fy mhroblemau i, ein problemau ni a'n rhwystrau ni, yn ddigon pwysig. Dyna'r argraff a gefais. Dyna'r math o agwedd yr ydym yn ei hwynebu, a dyna beth y mae angen inni ei oresgyn. Credaf fod angen inni ddysgu o'r pandemig a sylweddoli, mewn amgylchiadau esgusodol, y dylai gofalwyr sydd â phlant neu berthnasau oedrannus allu ymuno'n rhithwir lle bo angen yn awr, yn enwedig fel cymorth i ddychwelyd at waith ar ôl cael plentyn. Fel y mae'n digwydd, roeddwn yn y Siambr bythefnos wedyn beth bynnag, ond roedd gennyf rieni cefnogol iawn. Nid wyf yn gwybod sut y mae pobl yn ymdopi os nad oes ganddynt rieni cefnogol yn byw gerllaw, a'r rhwydwaith cymorth hwnnw, yn enwedig os nad oes gennych lawer o arian, fel o fy nghwmpas i yn sir Fynwy, fel y nodwyd yn awr, i fforddio'r lleoliadau gofal plant preifat drud iawn at ei gilydd.
Felly, nid yw'r rheini ond yn ychydig o'r pethau yr oeddwn eisiau tynnu sylw atynt, ond credaf y gallem osod esiampl a chywair o fewn y Senedd hon ei hun. Yn 2003 rwy'n credu, pan oeddwn yn Aelod Cynulliad am y tro cyntaf, addawyd y byddai gennym crèche yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, fel y bydd y Gweinidog wrth eich ochr, Jane Hutt, yn gwybod. Roedd y gymhareb menywod a dynion yn y Siambr yn 50:50, a chydnabuwyd bod angen inni gefnogi ein rhieni a'n gofalwyr gyda phobl ifanc yn dod i mewn i wleidyddiaeth. Câi ei ystyried yn un o'r rhwystrau i lawer o bobl a oedd yn dod i weithio ym myd gwleidyddiaeth, na allent ei wneud gyda phlant bach, ac mae'n rhywbeth y mae angen inni ei oresgyn. Rwy'n credu ei bod yn wrthun, pan ddeuthum yn ôl ym mis Gorffennaf 2020 yn disgwyl gweld crèche yma, nad oedd un i'w gael. Rwy'n credu bod hynny'n wendid, ac mae angen inni osod esiampl a cheisio sefydlu crèche yma'n fuan iawn. Mae 20 mlynedd wedi bod ers i'r Llywodraeth Lafur hon ei addo gyntaf, ac mae'n siomedig nad yw wedi digwydd. Felly, hoffwn gael eich barn ar hynny os gwelwch yn dda, Weinidog. Diolch yn fawr iawn.
A gaf i ddiolch i weddill y pwyllgor am eu gwaith, ac i'r sefydliadau hynny ddaeth i roi tystiolaeth i ni fel rhan o'n gwaith?
Diolch hefyd i Sam Rowlands am ymuno â ni. Gofal plant yw'r rhwystr a nodir amlaf i fenywod sy'n gweithio. Mae'n gost enfawr i deuluoedd sy'n gweithio, ac mae'n rhwystr i rieni sy'n awyddus i ailymuno â'r gweithlu, fel y clywsom gan Laura Anne. Mae hynny cyn ichi ystyried cymhlethdod y trefniadau a'r meini prawf cymhwysedd y mae angen i rieni a gofalwyr lywio drwyddynt, fel y mae Jenny Rathbone, ein Cadeirydd, eisoes wedi nodi.
Mae'n wych clywed ystod mor eang o gyfraniadau o'r Siambr, ond roeddwn am ganolbwyntio ar un argymhelliad, sef argymhelliad 2, sef mynd i'r afael â’r bwlch mewn gofal plant rhwng diwedd absenoldeb mamolaeth a chymhwystra ar gyfer y cynnig gofal plant. Mae'r cyfnod hwnnw rhwng y cyfnod mamolaeth a thair oed yn allweddol i blant. Mae mynediad at ofal plant o ansawdd da i bob plentyn, beth bynnag fo'u cefndir, yn hanfodol os ydym am greu dyfodol mwy disglair i bob plentyn yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae costau a chymhlethdod y trefniadau rhwng naw mis ac oedran ysgol yn anfantais i lawer o deuluoedd. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cynnig gofal plant ar hyn o bryd, rhaid i bob rhiant ar yr aelwyd fod yn gweithio ac yn ennill llai na £100,000 y flwyddyn. Felly, gallai plentyn y mae gan ei rieni incwm blynyddol cyfun o £99,999 fod yn gymwys, ond nid yw plentyn o deulu rhiant sengl nad yw’n gweithio, neu deulu dau riant lle nad yw un neu’r ddau riant yn gweithio, yn gymwys. Ni all hyn fod yn iawn. Mae chwiliad cyflym o feithrinfeydd dydd ar hyn o bryd ar draws fy rhanbarth yn dangos bod y prisiau oddeutu £800 i £1,000 y mis. Mae tystiolaeth gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn dangos bod rhagor o ddarpariaeth dysgu a gofal plant blynyddoedd cynnar yn gwella cyrhaeddiad plentyn mewn blynyddoedd diweddarach, gyda gwelliant parhaus mewn canlyniadau gydol oes ym maes iechyd, cyflogaeth ac addysg.
Hoffwn ailadrodd y galwadau y mae fy mhlaid wedi'u gwneud yn yr etholiad, a'r rhai a wnaed hefyd gan Chwarae Teg, am ofal plant am ddim i bob plentyn o enedigaeth hyd at bedair oed, ni waeth beth fo statws cyflogaeth eu rhieni. Credaf y byddai hyn yn trawsnewid bywydau rhieni a gofalwyr a'n heconomi, a dylai fod yn ddyhead sydd gan y Llywodraeth hon ar gyfer pob plentyn yng Nghymru. Gorau po gyntaf y byddwn yn cydnabod bod gofal plant, absenoldeb â thâl i rieni a gofalwyr a buddsoddiad mewn teuluoedd yn fuddsoddiad yn ein heconomi a'n dyfodol. Fel y clywsom, mae'n bwysig hefyd fod plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael gwell mynediad at ofal plant. Yn olaf, rwy'n croesawu'r adroddiad hwn yn fawr, ac rwy'n ddiolchgar am y gwaith y mae pawb ohonom wedi gallu ei wneud. Rwy'n gobeithio y gallwn gadw'r dyhead i bob plentyn a theulu gael gofal plant am ddim o ansawdd da er mwyn creu Cymru fwy cyfartal, mwy addysgedig, mwy iach, mwy brwd a mwy diddorol, a mwy gweithgar yn economaidd. Diolch yn fawr iawn.
Gadewch imi ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau a chlercod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, yn ogystal â phawb yr ymgynghorodd y pwyllgor â hwy i allu llunio'r adroddiad hwn. Fel Aelod o'r pwyllgor, roeddwn eisiau dweud pa mor hanfodol yw hi ein bod, fel cymdeithas, yn blaenoriaethu gofal plant ac yn sicrhau nad oes neb yn gorfod gwneud penderfyniadau ariannol neu benderfyniadau cyflogaeth yn seiliedig ar oblygiadau system gofal plant anghyfartal.
Rhaid imi ddatgan hefyd fy mod yn croesawu'r newyddion diweddaraf gan Lywodraeth Cymru am ymestyn mynediad at ofal plant i blant tair a phedair oed i rieni mewn addysg a hyfforddiant, yn ogystal â'r rhai sy'n cymryd absenoldeb mabwysiadu, ac edrychaf ymlaen at symud ymlaen ar y cytundeb cydweithio, sy'n mynd i ddarparu gofal plant i blant dwyflwydd oed. Ond ni allwn ddianc rhag y ffaith ei bod yn hen bryd i hyn ddigwydd. I lawer o rieni, mamau yn aml, myfyrwyr, rhai ar incwm isel, rhai mewn swyddi ansicr, gofal plant yn aml yw'r un mater mwyaf sy'n llywio eu penderfyniadau ar sut i symud ymlaen gyda'u cyflogaeth, a'r dewisiadau bywyd a wnânt. Rwy'n falch fod yr adroddiad yn cydnabod hyn. Mae etholwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cysylltu â mi'n aml gyda straeon gan rieni nad ydynt yn gwybod pa gymorth sydd ar gael, sydd wedi teimlo'n gaeth gyda'r opsiynau sydd ar gael ar hyn o bryd. Dyna pam, fel yr argymhellwyd yn yr adroddiad, ac fel a nododd fy nghyd-Aelodau, fod yn rhaid inni wneud mwy i sicrhau bod gwybodaeth am y ddarpariaeth gofal plant yn cael ei chyfathrebu i rieni yn yr un modd ag y mae gwasanaethau eraill.
Mae hyn yn fy arwain at argymhelliad arall, ar lenwi'r bwlch rhwng diwedd cyfnod mamolaeth a'r cynnig gofal plant presennol. Mae Chwarae Teg, Ymchwil Arad a'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod wedi dod â'r profiadau hyn i galon ein hadroddiad, yn ogystal ag ymgysylltu'n uniongyrchol â darparwyr gofal plant. Y realiti ariannol i lawer o rieni yw eu bod yn gorfod cwtogi ar waith am na allant fforddio gofal plant, neu weithio i ariannu lleoliad eu plentyn mewn feithrinfa. Rydym wedi bod yn sôn am ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru, y DU a'r byd gorllewinol ers dros 50 mlynedd. Yn aml, caiff ei drafod fel pe bai gofal plant cyffredinol yn rhyw fath o baradwys, rhywbeth na ellir byth ei gyflawni, ond nid yw hyn yn wir. Rhaid i Gymru weithredu i sicrhau bod gofal plant yn wasanaeth sydd yr un mor hygyrch i bawb. Mae Asiantaeth Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau Sweden yn dangos, os ydym o ddifrif am sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau, fod yn rhaid inni fwrw ymlaen â sefydlu pileri'r system honno. Byddwn yn croesawu unrhyw sylwadau gan y Gweinidog am eu safbwyntiau ar beth yw ein nod yn y pen draw, a sut y gallwn gyrraedd y nod hwnnw, a'u barn ar y gofal plant am ddim i bawb fel y nododd Sioned Williams a'r dull unedig a nodwyd gan Huw Irranca-Davies.
Rwyf am orffen fy nghyfraniad drwy dynnu sylw at un argymhelliad olaf a nodwyd yn yr adroddiad, sef argymhelliad ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y sector gofal plant. Roedd ein gweithwyr proffesiynol gofal plant ar y rheng flaen yn ystod y pandemig, ac maent yn gorfod wynebu gwaith ansicr a chyflog isel. Ar hyn o bryd rydym yn gwybod bod cynnydd yn nifer yr achosion o COVID yn ein cymunedau; mae'r meithrinfeydd yn cael eu taro'n galed gan hyn, gyda chymaint o blant yn gorfod aros gartref. Euthum i ymweld â chanolfan blant Corneli yn fy etholaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr wythnos diwethaf, ac nid oedd 10 o blant yn bresennol oherwydd COVID. Roeddwn hefyd eisiau dweud bod ansawdd y gofal y maent yn ei ddarparu, a'r gwaith y maent yn ei wneud i sicrhau datblygiad a hapusrwydd cenedlaethau'r dyfodol, yn rhagorol. Felly, mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau eu bod yn cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu gyda gwaith diogel, cydnabyddiaeth gyrfa a chyflog teg. Diolch.
Hoffwn rannu rhai o fy mhrofiadau fy hun fel mam i dri a oedd â rolau gwirfoddol yn y sector fel ysgrifennydd pwyllgor cylch chwarae a chodwr arian i dynnu sylw at pam fod mynediad at ofal plant mor bwysig i rieni sy'n gweithio.
Ar ôl i fy mhlentyn cyntaf gael ei eni—ac mae hyn yn mynd yn ôl ychydig flynyddoedd, pan oedd pethau'n haws—euthum yn ôl i fy swydd mewn swyddfa, ond roeddwn yn gwario'r rhan fwyaf o fy nghyflog ar ffioedd meithrinfa. Pan oedd gennyf ddau o blant yn dilyn cyfnod mamolaeth, roedd yn rhaid i mi roi'r gorau i fy swydd yn y swyddfa gan fod gofal plant yn rhy ddrud, ac euthum i weithio mewn siop gyda'r nos pan fyddai fy ngŵr yn dod adref o'r gwaith. Wedyn, bûm yn gweithio mewn tafarn ac yn gwneud rownd Avon am nifer o flynyddoedd. Pan gefais fy nhrydydd plentyn, roeddwn yn ffodus oherwydd roedd yn ystod y cyfnod cyn y credyd cynhwysol, cyn y toriadau i nawdd cymdeithasol, ac roedd gennym gredyd treth plant a chredyd treth gwaith o hyd, a olygai, gydag £80 ychwanegol yr wythnos at gyflog fy ngŵr, y gallwn fforddio treulio rhywfaint o amser gartref gyda fy mhlant ifanc am gyfnod byr, nes imi ddechrau mynd yn ôl i weithio ar sail ran amser, ac yna'n amser llawn, er y byddai'n rhaid i mi fynd â fy mhlentyn ieuengaf gyda mi weithiau.
Roedd hwnnw'n gyfnod anodd, ond roeddwn yn ffodus, oherwydd gyda chredyd cynhwysol, toriadau i fudd-daliadau nawdd cymdeithasol a chostau byw cynyddol, nid yw'r opsiwn hwnnw ar gael mwyach i gynifer o deuluoedd. I'r rhan fwyaf o bobl, mae cael plant a chydbwyso incwm yn anodd, gan fod y rhan fwyaf o deuluoedd yn dibynnu ar ddau gyflog. Mae gofal plant yn rhy ddrud, a gall neiniau a theidiau, a allai fod wedi helpu ar un adeg, fod yn gweithio eu hunain, fel roedd fy mam, neu'n byw'n rhy bell i ffwrdd. Ar ôl i'r plant gyrraedd tair a hanner a phedair blwydd oed a chael gofal plant am ddim mewn cylch chwarae neu feithrinfa ysgol, roedd yn gymaint o ryddhad—carreg filltir i mi ddychwelyd i'r gwaith.
Efallai y bydd rhai'n dweud na ddylem gael plant os na allwn eu fforddio, ond nid wyf yn credu fy mod erioed wedi gallu fforddio fy mhlant ac rwy'n falch o bob un ohonynt a'r hyn y maent wedi'i gyflawni, gan roi'n ôl i gymdeithas. Ac nid yw'n syndod fod gostyngiad pryderus yn y cyfraddau geni erbyn hyn, rhywbeth a fydd, os na fyddwn yn ei ddatrys, yn achosi problemau yn y blynyddoedd i ddod, gyda phoblogaeth sy'n heneiddio a neb i dalu trethi neu ofalu amdanynt. Mae'n ganlyniad i galedi ariannol, ansicrwydd a phryder cyffredinol am y dyfodol. Cododd y gyfradd enedigaethau yn ystod Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU, diolch i addysg feithrin am ddim, gofal plant, credydau treth, a 3,500 o ganolfannau plant Cychwyn Cadarn. Dechreuodd y gyfradd enedigaethau blymio eto yn 2012, sef yr adeg y dechreuodd y toriadau cyni didostur a oedd wedi'u targedu at blant. Roedd nifer y babanod a anwyd yn 2019 wedi gostwng cymaint â 12.2 y cant o'i gymharu â 2012, gyda gostyngiad pellach o 4 y cant dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Heb gartref diogel a sicrwydd o fwyd ar y bwrdd, nid yw pobl yn meiddio cael babanod.
Pan oeddwn ar bwyllgor y cylch chwarae, bu'n rhaid inni godi arian, gan nad oedd y swm a dalai rhieni a chyllid gan y Llywodraeth ar gyfer gofal plant am ddim yn ddigon i dalu cyflogau, llogi cyfleusterau, yr yswiriant, y deunyddiau. Ac yn union fel ysgolion cynradd, mae'n rhaid iddynt hefyd lynu wrth gwricwlwm ac arolygiadau'r cyfnod sylfaen. Mae'n rhaid prynu deunyddiau a theganau dysgu arbennig, rhaid darparu byrbrydau iach amrywiol—i gyd am gost ychwanegol.
Fel ysgolion, mae cylchoedd chwarae hefyd yn cael eu harolygu gan Estyn. Yn aml, telir isafswm cyflog i oruchwylwyr cylch chwarae am wasanaeth sydd bellach, oherwydd cwricwla ac arolygiadau, yn gofyn am sgiliau a hyfforddiant arbennig. Rwy'n cofio weithiau y byddai goruchwylwyr y cylch chwarae'n mynd heb gael eu talu am ychydig nes i'r arian ddod i law, a chofiaf weithiau ein bod yn arfer ceisio talu eu cyflogau hefyd, ni ein hunain yn bersonol. Mae'n rhaid i'w rôl yn awr gynnwys cynllunio, arsylwi ac asesu, a rhaid iddynt gadw at anghenion unigol plentyn er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial, sy'n iawn, ond dylent gael eu talu am hynny. Mae'n rhaid sicrhau bod hyn i gyd ar bapur at ddibenion archwilio ac mae'n rhaid i adroddiadau gael eu hysgrifennu.
Gan fod gofyniad cyfreithiol bellach i ysgolion recriwtio staff i gadw at y gymhareb 1:8, mae llawer o oruchwylwyr cymwysedig yn gadael cylchoedd chwarae i symud i ysgolion lle mae'r cyflog a'r amodau gwaith gymaint yn well. Felly, mae cadw staff sydd â chymwysterau addas bellach yn broblem fawr, yn syml iawn oherwydd na all cylchoedd chwarae fforddio rhoi'r gydnabyddiaeth ariannol y maent yn ei haeddu i'w staff. Mae cylchoedd chwarae'n chwalu oherwydd na all staff fforddio gweithio am gyflogau mor isel am y cyfrifoldeb sydd ganddynt mwyach. Mae angen inni fod yn well am gydnabod y gwaith pwysig y mae'r aelodau staff hyn yn ei wneud.
Rwyf wedi gweld dogfennau a strategaethau'n datgan bod plant ifanc yn dechrau mewn ysgolion meithrin gyda sgiliau cyfathrebu gwael, a pha mor bwysig yw hi iddynt fynychu cylchoedd chwarae, a hefyd pa mor bwysig yw hi i addysg drwy'r cyfnod sylfaen ddechrau cyn gynted â phosibl, yn ddwyflwydd a hanner hyd yn oed, ond nid oes cyllid i gefnogi hyn.
Mae ysgolion yn dweud cymaint haws yw hi i blant sydd wedi bod mewn cylch chwarae ac i athrawon gan eu bod eisoes wedi cael eu dysgu i gadw tegannau, i ddewis drostynt eu hunain, ac wedi cael rhywun yn dangos iddynt sut i wneud yr holl bethau hyn. Maent gymaint yn fwy parod ar gyfer yr ysgol, ac mae hynny yn ei dro yn cynorthwyo athrawon i symud ymlaen gyda'r cyfnod sylfaen.
Mae angen i chi ddirwyn i ben nawr.
Iawn, diolch ichi. Mae'n wych fod Llywodraeth Cymru eisiau ariannu plant dwyflwydd oed i fynychu lleoliadau gofal plant o ansawdd uwch, ond cytunaf â chanfyddiadau'r adroddiad na fydd ond yn effeithiol os gall y lleoliadau aros ar agor a bod y cyllid yn ddigonol i dalu cyflog byw gwirioneddol i staff. Diolch.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.
Diolch, ac yn gyntaf hoffwn ddiolch i'r pwyllgor ac i'm cydweithwyr yn fan hyn am gymryd rhan yn y drafodaeth bwysig hon.
Credaf fod hon wedi bod yn ddadl gwbl wych, ac mae wedi bod mor dda clywed gan bawb a phrofiadau personol pobl a'r ymrwymiad mawr a ddangoswyd yn y Siambr hon a chan y pwyllgor i ehangu gofal plant a chydnabod ei bwysigrwydd, oherwydd credaf na ddylai lle'r ydych yn byw na'r amgylchiadau y cewch eich geni iddynt benderfynu eich dyfodol. Mae angen inni fod â dyheadau uchel ar gyfer pob plentyn a theulu yng Nghymru, a gwyddom fod mynediad at addysg a gofal cynnar o ansawdd uchel yn amhrisiadwy i blant, ac yn enwedig i'r rheini o gymunedau mwy difreintiedig. A sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael cefnogaeth o ansawdd uchel, a'r addysg a gofal cynnar a gânt, yw'r allwedd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, fel y dywedodd Jenny Rathbone yn ei chyflwyniad i'r ddadl.
Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi canolbwyntio'n gryf ar blant. Mae Llywodraethau olynol wedi rhoi hawliau ac anghenion plant yn uchel ar yr agenda, o benodi Comisiynydd Plant Cymru, y cyntaf yn y DU, i arwain ar hyrwyddo chwarae plant a chyflwyno cwricwlwm sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Mae Llywodraeth Cymru yn gweld gwerth plant a phobl ifanc Cymru ac mae wedi ymrwymo i wneud Cymru'n lle gwych i dyfu i fyny ynddo. Ac yng Nghymru mae gennym ddarpariaeth gofal plant ragorol ar draws y blynyddoedd cynnar a chynnig addysg gynnar hirsefydlog ac uchel ei barch i blant tair a phedair blwydd oed. Ac mae ein hagwedd at addysg a gofal plentyndod cynnar yn adeiladu ar y sylfeini hyn, ac yn ganolog iddo, mae'r nod y bydd pob plentyn yn cael profiad dysgu a gofal ysgogol o ansawdd uchel mewn unrhyw leoliad addysg a gofal y byddant yn ei fynychu, yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog. Mae'r math o leoliad y maent yn ei fynychu yn amherthnasol os ydynt yn cael eu cefnogi a'u meithrin yn ôl yr angen. Ac mewn ymateb i gyfraniad Huw Irranca-Davies, rwy'n hyderus ein bod yn symud tuag at ddyfodol pan fydd pob plentyn ledled Cymru yn gallu manteisio ar brofiadau gofal plant a chwarae ysgogol, cyffrous a buddiol, a bydd hyn yn galluogi eu teuluoedd i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd a gynigir iddynt. Felly, rydym ar y daith honno tuag at addysg a gofal plentyndod cynnar y gwn ei fod, fel Gweinidog, yn gefnogol iawn iddo pan oedd yn y rôl hon, ac yn ddiweddarach yn yr haf, byddwn yn cyhoeddi disgrifiad manylach o sut y byddwn yn ei gyrraedd. Ond rwyf am sicrhau'r Siambr ein bod ar y daith hon a'n bod yn credu ei bod yn un o'r pethau pwysicaf y mae angen inni ei wneud.
Cefnogi teuluoedd â chostau gofal plant yw un o'n prif flaenoriaethau, ac rwy'n falch iawn fod ein cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yn ein cefnogi yn yr uchelgais hwn, oherwydd mae mynediad at ofal plant fforddiadwy a hyblyg yn rhan bwysig o gefnogi rhieni, a mamau yn enwedig, fel y clywsom heddiw—roeddwn yn falch iawn o glywed gan Sam hefyd—i oresgyn un o'r prif rwystrau sy'n eu hatal rhag gweithio neu rhag gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd, ac mae hynny wedi'i ddangos yn y ddadl hon. Oherwydd mae gofal plant ar bob ffurf yn gwneud hynny: mae'n rhoi dewisiadau i rieni, dewisiadau ynglŷn ag a allant, er enghraifft, fynd am ddyrchafiad, newid gyrfa, gweithio oriau hwy i wneud mwy o incwm yn y cyfnod ariannol cynyddol heriol hwn, oherwydd mae gofal plant yn alluogwr, mae'n helpu i gynyddu twf economaidd, trechu tlodi a lleihau anghydraddoldebau. Ac yn y cyfnod ofnadwy hwn, pan fo cynifer o deuluoedd yn ei chael hi'n anodd, mae gofal plant wedi'i ariannu yn elfen hanfodol yn y frwydr yn erbyn tlodi, a chredaf fod Sioned wedi sôn am yr amgylchiadau anodd iawn sy'n wynebu cynifer o bobl yma yng Nghymru heddiw, ac rwy'n ystyried bod gofal plant yn ffordd hanfodol o fynd i'r afael â'r anawsterau enfawr hynny y mae pobl yn eu profi.
Mae darparu model cymysg o ddarpariaeth sy'n addas i anghenion gwahanol deuluoedd yn heriol, ac rwy'n falch fod gennym sbectrwm eang o wasanaethau yng Nghymru i gefnogi'r gwahanol anghenion a darpariaethau hynny drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Ond rwy'n ymwybodol hefyd y gall ystod enfawr o ffactorau ddylanwadu ar yr opsiynau sydd ar gael i deuluoedd. Er enghraifft, mewn ardaloedd gwledig ac mewn ardaloedd llai cefnog, gwelwn fod llai o ddewis i rieni yn bendant ac mae angen inni wneud mwy i sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. Ar ddechrau ei chyfraniad, soniodd Jenny am blant, plant anabl, sydd efallai'n cael eu symud o gwmpas rhwng gwahanol fathau o ddarpariaeth, a byddem yn amlwg eisiau osgoi hynny, ac rydym yn annog darpariaeth gofal plant ar safleoedd ysgol, ac rwy'n gobeithio y cawn gefnogaeth rai penaethiaid i barhau i wneud hynny, a hefyd mae ein grantiau cyfalaf, ein grantiau cyfalaf gofal plant, wedi ei gwneud hi'n bosibl darparu mwy o ofal plant ar safleoedd.
Hoffwn ddweud fod sawl Aelod wedi gwneud y pwynt fod llawer o bobl nad ydynt yn gwybod pa ofal plant sydd ar gael, a chredaf fod hwn yn bwynt pwysig iawn y mae'r pwyllgor wedi'i godi. Rydym yn dibynnu'n fawr ar y gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd, oherwydd credwn ei bod yn dda cael yr wybodaeth mewn un man. Ac rydym yn gweithio'n galed gyda'r gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd i sicrhau ei fod mor eang ag y gall fod. Rydym hefyd yn gweithio gyda Cwlwm i sicrhau bod yr hyn sydd ar y wefan yn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl. Felly, credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn, fod yn rhaid inni wybod beth sydd ar gael.
Rydym wedi ymrwymo i ariannu gofal plant i fwy o rieni mewn addysg a hyfforddiant drwy ein cynnig gofal plant i blant tair a phedair blwydd oed, ac rydym hefyd, fel y crybwyllwyd lawer gwaith yma heddiw, yn ehangu gofal plant i bob plentyn dwyflwydd oed yng Nghymru, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, rhywbeth sydd wedi'i groesawu'n fawr, ac mae hwnnw'n ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Felly, bydd cam 1 yr ehangu yn cynnwys cynnig pob un o bedair elfen Dechrau'n Deg i tua 2,500 o blant ychwanegol. A bydd y plant dwyflwydd oed yn derbyn y gofal plant a ariennir. Credaf ei bod yn bwysig iawn nodi bod yr ymchwil sydd wedi'i wneud ar Dechrau'n Deg wedi dangos ei fod wedi lleihau'r bwlch, a'i fod wedi bod yn llwyddiannus iawn. A dyna pam y penderfynasom ehangu'r ddarpariaeth i blant dwyflwydd oed drwy Dechrau'n Deg, oherwydd mae'r cyfuniad o bedair elfen Dechrau'n Deg wedi pontio'r bwlch hwnnw, ac wedi'i bontio'n llwyddiannus iawn. Felly, credaf ein bod wedi gwneud y penderfyniad cywir i ehangu drwy Dechrau'n Deg.
Ac yn yr haf, byddwn yn cyflwyno ein cynlluniau ynglŷn â sut y byddwn yn bwrw ymlaen ag ehangu Dechrau'n Deg, oherwydd mae gennym y nod o sicrhau bod pob plentyn dwyflwydd oed yn gallu cael gofal plant wedi'i ariannu yn ystod tair blynedd y cytundeb cydweithio—erbyn diwedd y tair blynedd. Ac mae'n uchelgeisiol iawn—mae'n gynllun uchelgeisiol iawn. Mae'n rhaid inni weithio mewn partneriaeth wirioneddol â'r sector i sicrhau ein bod yn cyflawni'r cynllun hwn. Rhaid inni siarad â'r holl wahanol sefydliadau sy'n ymwneud â'r sector i sicrhau ein bod yn cyflawni hyn yn llwyddiannus. Ac mae llawer o olwynion cysylltiedig yn y system hon, ac rydym eisiau sicrhau mai'r gwelliannau a wneir yw'r rhai cywir i blant Cymru, a chynnig gwasanaethau sy'n cynnwys yr holl anghenion a phrofiadau.
Roeddwn yn credu ei bod yn bwysig iawn gwneud y pwynt ein bod, fel Llywodraeth, wedi ymrwymo i greu Cymru wrth-hiliol. Dyna un o'r meysydd rydym eisiau edrych arno mewn perthynas â'r sector gofal plant. Oherwydd bydd y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol yn cael ei gyhoeddi, rwy'n credu, ac mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yma, erbyn mis Mai 2022—
Mae angen ichi ddirwyn i ben yn awr.
—a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth i ddatblygu camau gweithredu ar gyfer y sector gofal plant a chwarae, oherwydd credaf fod hwn yn sector hollol hanfodol.
Felly, i gloi—credaf fod llawer o bwyntiau eraill yr hoffwn eu trafod, ond i gloi, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo'n llwyr i ymestyn gofal plant. Credwn y dylai gofal plant am ddim fod ar gael i'r holl blant sydd ei angen yng Nghymru, ac rydym gam yn nes ar y daith honno. Diolch.
Galwaf ar Jenny Rathbone i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr am gyfraniadau pawb; mae wedi bod yn ddadl wirioneddol gyfoethog. Sam Rowlands, diolch am gymryd rhan yn ein hymchwiliad. Yn sicr, mae rôl bwysig i neiniau a theidiau. Os ydynt yn rhy fusgrell i eistedd ar y llawr, sef yr hyn sydd ei angen arnoch yn y blynyddoedd cynnar, mae yna rôl bwysig iawn iddynt helpu plant i ddarllen yn yr ysgol wrth gwrs. Ond mae yna rôl, mewn gwirionedd, i unrhyw un sy'n canolbwyntio ar y plentyn i weithio gyda phlant ifanc iawn.
Pwysleisiodd Sioned effaith ofnadwy'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, sydd i raddau helaeth, fel y dywed Chwarae Teg, yn deillio o ddiffyg gofal plant. Ac yn amlwg, roeddech yn dadlau o blaid y safon aur, y dylem ddarparu gofal plant i bob plentyn o un oed ymlaen. A rhaid inni anelu at hynny wrth gwrs, ond mae Sweden wedi bod wrthi ers y 1970au i gyrraedd lle maent heddiw ac ni allwn ond symud ymlaen fesul cam, a bod yn onest.
Sioned, fe wnaethoch chi hefyd bwysleisio pwysigrwydd ehangu Dechrau'n Deg a holi ble y caiff ei dargedu. A fydd, er enghraifft, yn cael ei dargedu at bocedi o dlodi nad ydynt yn cael eu cwmpasu gan Dechrau'n Deg, rhywbeth y gwn fod y Dirprwy Weinidog bob amser wedi bod yn canolbwyntio arno.
Mae'n ddefnyddiol iawn clywed gan Huw Irranca-Davies, a oedd yn arfer gwneud y swydd hon yn y Llywodraeth. Wrth gwrs, y blynyddoedd cynnar iawn—. Mae plant yn dechrau dysgu o'u genedigaeth. Nid oes ond raid i chi weld y ffordd y mae'r ffotograffau'n ei ddal—y lluniau geni hyn, gyda'r plentyn yn edrych ar y fam. Cyfathrebu yw hynny a dyna pryd y mae'n dechrau. Felly, credaf fod Huw Irranca wedi gwneud pwynt pwysig iawn, sef nad oes mantais ariannol i gynnig y ddarpariaeth mewn ardaloedd difreintiedig, a dyna lle mae'n rhaid i'r wladwriaeth ymyrryd, os nad yw'r farchnad yn gweithio. Yn amlwg, mae angen inni sicrhau bod y rheini sy'n chwarae rhan werthfawr iawn yn y sectorau preifat a chymunedol yn gallu ei wneud.
Laura Anne Jones—ni ddylech ymddiheuro o gwbl am gyfrannu at hyn. Nid ydym yn siarad â ni ein hunain; rydym yn siarad â'r Senedd gyfan. Mae hwn yn fater y mae angen i bob un ohonom roi sylw iddo, oherwydd mae tystiolaeth Darpariaeth Effeithiol Addysg Cyn Ysgol yn gwbl glir, a chyhoeddwyd hwnnw yn 2004: mae addysg cyn ysgol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i anfantais, a dyna y mae angen inni ei wneud. Felly, mae gofal plant i blant dan dair oed yn gwbl hanfodol.
Jane Dodds, roeddech chi hefyd yn galw am y nod pennaf, sef gofal plant o ddiwedd y cyfnod mamolaeth ymlaen, ond gan dynnu sylw hefyd at y ffaith nad yw'r cynnig gofal plant presennol yn cynnwys rhai nad ydynt yn gweithio neu lle mae gennych deulu dau riant lle nad yw un rhiant yn gweithio.
Sarah, fe wnaethoch chi gyfleu trafferthion eich etholwyr—y myfyrwyr, pobl ar gyflogau isel—y rheini y mae gofal plant yn rhwystr mwyaf iddynt, a phobl sy'n gweithio i ariannu eu gofal plant. Ac yna Carolyn Thomas—am gyfraniad gwych—eich profiad eich hun o hynny'n union, gorfod ennill digon o arian i ariannu'r gofal plant. Dyna dynged y rhan fwyaf o bobl ar enillion is na'r cyfartaledd. Yn gyffredinol, nid yw'n bosibl gweithio oni bai bod gennych neiniau a theidiau defnyddiol neu aelodau eraill o'r teulu sy'n barod i'ch cynorthwyo. A chredaf eich bod hefyd wedi sôn am frwydr y sector gwirfoddol, am orfod codi arian er mwyn talu cyflogau, talu costau, a phrynu cyflenwadau. Mae hyn mor bwysig.
Ac yna, Julie Morgan, diolch yn fawr am groesawu ein hadroddiad. Yn amlwg, mae llawer iawn o gwestiynau heb eu hateb y bydd angen inni ddychwelyd atynt. Er enghraifft, y gofal plant i rai dwyflwydd oed—ai addysg gynnar neu ofal plant ydyw? Oherwydd mae hynny'n gwbl allweddol. O'm rhan i, credaf y dylai fod yn addysg gynnar, oherwydd dyna sy'n mynd i fod o fudd i'r plentyn ac yn y pen draw, mae tri pheth mewn gwirionedd, rwy'n credu—
A gaf fi wneud ymyriad byr?
Yn gyflym.
Ymyriad byr iawn. Yn syml, hoffwn ddweud bod yr holl brofiad rhyngwladol yn dangos, o oedran priodol—. O oedran ifanc iawn, o naw mis ymlaen, yr hyn sydd ei angen arnoch yw’r dull unedig hwnnw sy'n dod ag addysg y blynyddoedd cynnar a gofal plant ynghyd. Mae hynny’n cynnwys chwarae, ond mae’r dull unedig hwnnw’n allweddol i lwyddiant a chanlyniadau.
Rydym yn cytuno. Gŵyr pob un ohonom mai dysgu drwy chwarae yw’r peth gorau oll i’w wneud, ac mai dyna’r canlyniad gorau i blant ifanc.
Ond credaf mai'r tair her y mae pob un ohonom yn eu hwynebu—. Un yw cost, yr ail yw'r angen i ganolbwyntio ar y plentyn a'r trydydd yw cysondeb y cwricwlwm ar draws pob lleoliad, lle bynnag y caiff y gofal plant ei ddarparu. Dyna’r tri pheth y mae angen inni symud ymlaen arnynt.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad, felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.