– Senedd Cymru ar 27 Ebrill 2022.
Symudwn ymlaen i eitem 4—na, eitem 5, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar dwristiaeth. Galwaf ar Tom Giffard i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7990 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn dathlu cryfder Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf i dwristiaid.
2. Yn gresynu at effaith ddinistriol cyfyngiadau COVID ar y diwydiant twristiaeth yng Nghymru.
3. Yn credu y bydd newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru i'r system ardrethu annomestig yn tanseilio llawer o fusnesau llety gwyliau.
4. Yn nodi data Cynghrair Twristiaeth Cymru sy'n dangos na fydd mwyafrif helaeth o fusnesau'n gallu bodloni'r meini prawf i fod yn gymwys fel busnes llety gwyliau.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) roi'r gorau i gynigion niweidiol ar gyfer treth dwristiaeth yng Nghymru;
b) cydnabod bod y rhan fwyaf o'r ymatebion i'w hymgynghoriad yn gwrthwynebu'r newidiadau arfaethedig i ardrethi annomestig ar gyfer llety gwyliau;
c) rhoi'r gorau i gynlluniau i ymestyn nifer y diwrnodau y mae'n rhaid gosod eiddo er mwyn bodloni'r gofyniad ardrethu annomestig.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Agoraf yn ffurfiol y ddadl hon heddiw ar dwristiaeth yng Nghymru, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.
Boed yn Borthcawl, Prestatyn, y Barri, Llandudno neu Ddinbych-y-pysgod, y Ceidwadwyr Cymreig yw’r blaid sy'n cynrychioli cymunedau twristiaeth yma yng Nghymru mewn gwirionedd. Mae gan Gymru gymaint i’w gynnig i ddarpar dwristiaid nid yn unig o’r DU, ond o bob rhan o’r byd. A gwn y bydd Aelodau ar draws y Siambr hon a'r rhai sy'n ymuno'n rhithwir yn awyddus iawn i sôn am gyrchfannau twristiaeth yn eu hardaloedd lleol yn y ddadl hon, felly roeddwn yn meddwl y byddwn yn achub ar y cyfle i sôn am rai yn fy ardal innau. Yn fy rhanbarth i yn unig, Gorllewin De Cymru, gallaf frolio ardal o harddwch naturiol eithriadol gyntaf y DU, sef penrhyn Gŵyr; mynachlog Nedd, a ddisgrifiwyd fel y fynachlog harddaf yng Nghymru; a Phorthcawl, cartref yr ŵyl Elvis flynyddol. Wrth ichi ddawnsio ar draws Gorllewin De Cymru, ni allwch lai na disgyn mewn cariad â'r lle, ond ni fyddwn yn argymell aros yn yr heartbreak hotel. [Chwerthin.]
Gŵyr pob un ohonom pa mor bwysig yw’r diwydiant twristiaeth i Gymru. Yn 2019, roedd 154,000 o bobl yng Nghymru yn gweithio mewn diwydiannau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, ac yn ôl Cynghrair Twristiaeth Cymru, cyn COVID, roedd un o bob saith swydd yng Nghymru ym maes twristiaeth, neu’n ddibynnol ar dwristiaeth. Ond mae'r diwydiant twristiaeth wedi cael amser caled dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn aml iawn, y busnesau a oedd yn gweithredu yn y sector hwn oedd y cyntaf i gau a’r olaf i ailagor, gyda llu o gyfyngiadau eraill yn y cyfamser. A gwn fod llawer o fusnesau twristiaeth yn ddiolchgar am rai pecynnau cymorth gan Lywodraeth Cymru, ond yn benodol, cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU a gadwodd lawer ohonynt i fynd, sy'n golygu bod gennym sector twristiaeth mor fywiog o hyd yng Nghymru heddiw. Ond y rheswm pam y cyflwynasom y ddadl hon yw nad yw nifer o'r rhai sy’n gweithredu yn y sector twristiaeth yn rhannu’r un optimistiaeth am y dyfodol. Yn benodol, maent yn poeni am effaith ddeublyg y beichiau ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu gosod arnynt.
Yn gyntaf, hoffwn sôn am y cynigion gan Lywodraeth Cymru i newid y trothwy defnydd ar gyfer llety hunanddarpar o 70 diwrnod o ddefnydd y flwyddyn i'r ffigur enfawr o 182 diwrnod. Ac er bod Llywodraeth Cymru yn ceisio gweithredu ar ail gartrefi, mae'n erfyn di-awch a fydd yn ergyd angheuol i'r sector twristiaeth yn y pen draw. A'r rheswm allweddol am hynny yw am fod Llywodraeth Cymru naill ai wedi methu neu'n anfodlon gwahaniaethu rhwng ail gartrefi a llety gwyliau hunanddarpar. Golyga hyn na fydd llawer o bobl normal ledled Cymru sy’n gosod fflatiau, tai a bythynnod i ymwelwyr yn gallu cyrraedd y trothwy newydd a byddant yn cael eu prisio allan yn llwyr o allu fforddio cynnig llety i ymwelwyr o bob rhan o Gymru a gweddill y byd. Ac nid dadl wleidyddol yw honno; mae'n rhywbeth a fydd yn effeithio ar weithredwyr twristiaeth go iawn yma yng Nghymru.
Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru wedi cynnal arolwg defnyddiol o rai o’u haelodau, a dyma rai o’r pethau a oedd ganddynt i’w dweud. Dywedodd un, 'Dros yr 20 mlynedd diwethaf, nid wyf erioed wedi gallu gosod y llety am 182 diwrnod y flwyddyn, ac ni fydd hynny'n newid ym mis Ebrill 2023.' Dywedodd un busnes gosod llety gwyliau yn sir Benfro, 'Rwyf o ddifrif yn ystyried gwerthu fy eiddo. Ni fydd hyn yn rhyddhau cartref parhaol i rywun lleol, ond o bosibl, bydd yn tynnu llety gwyliau fforddiadwy oddi ar y farchnad, ac felly'n lleihau incwm twristiaeth i'r economi leol.' Un arall—
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny?
Wrth gwrs.
Y pwynt yma, fodd bynnag, yw na allant hyd yn oed roi eu heiddo ar y farchnad dai gan nad yw’r caniatâd cynllunio a roddwyd yn caniatáu hynny. Felly, dyma'r broblem yma, lle y ceir anghysondeb llwyr y mae angen mynd i'r afael ag ef.
Na, rydych yn llygad eich lle, a chredaf fod fy nghyd-Aelod Mark Isherwood wedi codi hynny gyda'r Gweinidog yn gynharach, ac mae'n bwynt pwysig iawn ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cynnig hwnnw hefyd, gan y bydd llawer yn gweld eu hunain yn cael eu cau allan o hynny.
Wel, dywedodd gweithredwr arall yng Ngheredigion, 'Byddai effaith y rheol 182 ar fy musnes yn golygu y byddwn yn annhebygol o gyrraedd y trothwy hwn, gan imi gyrraedd 22 wythnos yn 2021, a oedd yn flwyddyn dda, a chyda 18 wythnos wedi'u harchebu hyd yn hyn eleni, rwy'n rhagweld ychydig o wythnosau'n rhagor efallai, ond mae 26 wythnos yn annhebygol.' Ar benrhyn Llŷn: 'Mae'r adeilad ar gael am 365 diwrnod y flwyddyn, ond ychydig iawn o bobl sy'n dymuno dod yn y gaeaf, er bod gennym system wresogi o dan y llawr a llosgyddion coed. Rwy'n ystyried bod 2021 wedi bod yn flwyddyn dda iawn, ac yn y flwyddyn dda iawn honno, llwyddais i gyrraedd 163 diwrnod.'
Dywedodd rhywun yn y Bala, Gwynedd, 'Nid ydym erioed wedi cyrraedd y lefel hon o ddefnydd yn ein pum mlynedd o fasnachu, gyda'r flwyddyn orau yn 152 noson y bwthyn ar gyfartaledd. Mae'r tymor yn fyr yma ac mae'n anodd iawn cael archebion ar gyfer misoedd y gaeaf. Byddai effaith methiant a diwedd ein busnes, a busnesau eraill fel ein busnes ni, yn cael ei theimlo ar draws ein cymuned wledig. Rydym yn cyflogi llawer o grefftwyr lleol i wneud gwaith cynnal a chadw—trydanwyr, plymwyr, addurnwyr, garddwyr. Rydym yn gwario arian mawr yn lleol bob blwyddyn ar nwyddau glanhau, darnau sbâr a chynnyrch ar gyfer ein basgedi croeso.' Ac mae'r straeon hyn yn mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen.
Ac ychydig cyn toriad y Pasg, bûm yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth, a gadeirir gan fy nghyd-Aelod Sam Rowlands ac roedd y neges i Lywodraeth Cymru yno’n glir hefyd: mae hwn yn gynllun gwirion a fydd yn cosbi busnesau twristiaeth, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru. Ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau Plaid Cymru yn gwrando ar rai o’r straeon hynny hefyd. Ceredigion, penrhyn Llŷn, Y Bala, mae pob un o’r rhannau hynny o’r wlad yn cael eu cynrychioli gan Aelodau Plaid Cymru o'r Senedd. Bydd pobl yn y diwydiannau hynny yn sylwi ar rôl Plaid Cymru yn hynny o beth hefyd.
Ond nid yw'r sector yn bod yn afresymol wrth ddweud nad ydynt am weld unrhyw newid. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn awgrymu codi’r trothwy defnydd o 70 diwrnod i 105 diwrnod, yn unol â throthwy Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi rhwng y dreth gyngor ac ardrethi busnes. Byddai hyn yn cyfateb i gynnydd o 50 y cant ac fe’i hawgrymwyd gan aelodau o sector proffesiynol sy’n deall tueddiadau archebu, marchnata ac ymddygiad cwsmeriaid. Mae’r sector yn fodlon cyfaddawdu â’r Llywodraeth yma, ond nid yw'r Llywodraeth yn fodlon gwrando.
Y bygythiad mawr arall ar y gorwel gan Lywodraeth Cymru yw’r cynnig i gyflwyno treth dwristiaeth. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru yn benthyg ei syniadau polisi asgell chwith eithafol o dudalennau canol y Morning Star, ond mae hyn gam yn rhy bell. Mae’r cynnig hwn yn gwbl anflaengar a bydd yn rhwystro’r union fusnesau y dylem eu cefnogi rhag dod allan yr ochr arall wedi'r ychydig flynyddoedd diwethaf.
Fel fy nghyd-Aelodau, nodais wrthwynebiad ein plaid i’r dreth hon ar sawl achlysur yn y Siambr hon ac rydym bob amser yn cael yr un hen ymateb treuliedig gan Lywodraeth Cymru fod gwledydd eraill ledled y byd wedi rhoi’r dreth hon ar waith, heb ystyried unrhyw ffactorau penodol Gymreig o gwbl. Felly, maent yn dweud na fyddai cyflwyno treth dwristiaeth yn cael unrhyw effaith o gwbl ar nifer yr ymwelwyr â rhai o’n lleoliadau twristiaeth allweddol yng Nghymru. Ond roeddwn yn credu efallai y byddai'r Gweinidogion yn awyddus i glywed y diweddaraf o Fenis, un o brif gyrchfannau twristiaeth y byd, sydd bellach wedi dweud eu bod yn cyflwyno treth dwristiaeth i atal mwy o ymwelwyr rhag mynd yno. Do, fe glywsoch hynny'n iawn; ymddengys bod trethi ychwanegol i ymwelwyr yn golygu bod llai o bobl yn dymuno ymweld. Gwyddom hefyd, o holi’r Prif Weinidog a’r Gweinidog cyllid, nad oes unrhyw sicrwydd o gwbl y bydd treth o’r fath yn arwain at wario unrhyw arian ychwanegol ar wella'r cynigion twristiaeth yn yr ardaloedd hyn. Ni all neu ni fydd y Llywodraeth yn gallu atal cynghorau rhag dileu cyllidebau twristiaeth presennol a chyflwyno'r dreth hon yn eu lle.
Felly, beth a wyddom mewn gwirionedd am ddau gynnig y Llywodraeth? Byddant yn arwain at lai o lefydd i aros, busnesau bach yn mynd i'r wal, llai o ymwelwyr yn gyffredinol a dim mwy o arian yn cael ei wario ar dwristiaeth. Rwy'n synnu na wnaethant roi hynny ar dudalen flaen y maniffesto. Ond mae amser o hyd gan Lywodraeth Cymru i newid eu trywydd. Mae busnesau’n fodlon gweithio gyda chi a chyfaddawdu, ond mae angen Llywodraeth arnynt sydd ar ochr y sector twristiaeth. Yr hyn nad ydynt ei angen yw Llywodraeth sy'n chwilio am ffordd anuniongyrchol o godi mwy o drethi i dalu am fwy o wleidyddion yn y lle hwn. Diolch.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod cryfder twristiaeth Cymru, sydd o’r radd flaenaf, ac yn croesawu’r cymorth sylweddol a roddwyd i’r diwydiant twristiaeth a gweithredwyr gan Lywodraeth Cymru drwy gydol pandemig COVID.
2. Yn cydnabod diffiniad Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig o dwristiaeth gynaliadwy: 'Twristiaeth sy’n ystyried yn llawn ei heffeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn awr ac yn y dyfodol, gan ddiwallu anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd a’r cymunedau sy’n croesawu ymwelwyr'.
3. Yn cydnabod bod ardollau twristiaeth yn gyffredin ar draws y byd, a bod yr incwm ohonynt yn cael ei ddefnyddio er lles cymunedau lleol, twristiaid a busnesau, sydd wedyn yn helpu i wneud twristiaeth yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus.
4. Yn croesawu’r ymrwymiad i gyflwyno ardollau twristiaeth lleol a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i godi ardoll dwristiaeth os byddant yn dewis gwneud hynny.
5. Yn nodi’r bwriad i gynnal ymgynghoriad sylweddol yn yr hydref yn 2022 fel rhan o broses ofalus o ddatblygu cynigion ar gyfer ardoll, a fydd yn cynnwys cymunedau, busnesau a gweithredwyr, ac yn nodi ymhellach y bydd y broses o drosi’r cynigion hynny yn ddeddfwriaeth yn destun craffu manwl a chymeradwyaeth gan y Senedd.
6. Yn croesawu penderfyniad y Senedd ar 22 Mawrth i gymeradwyo Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022, a gyflwynwyd fel rhan o ymrwymiad ehangach i fynd i’r afael â phroblemau ail gartrefi a thai anfforddiadwy sy’n wynebu llawer o gymunedau yng Nghymru ac i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.
7. Yn croesawu’r ymrwymiad i weithredu ar yr ymgyngoriadau eang sydd wedi’u cynnal hyd yma i sicrhau bod trethi lleol yn gwahaniaethu rhwng llety hunanarlwyo go iawn ac eiddo domestig ac yn nodi bod ymgynghoriad technegol ar reoliadau drafft i ddiwygio’r meini prawf gosod eiddo ar gyfer llety hunanarlwyo, a gynhaliwyd fel rhan o’r gwaith tuag at gyflawni’r ymrwymiad hwn, wedi dod i ben ar 12 Ebrill; y mae’r ymatebion iddo wrthi’n cael eu dadansoddi.
Yn ffurfiol.
Credaf y gall pob un ohonom gytuno bod yna fater y mae angen mynd i’r afael ag ef mewn perthynas â thwristiaeth, sef ei heffaith ar gymunedau lleol. Mae pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth i Gymru yn ddiamau, ond mae'n rhaid inni osgoi’r math o dwristiaeth echdynnol sy’n defnyddio Cymru fel adnodd. Mae pob un ohonom yn rhannu’r uchelgais o weld Cymru’n gyrchfan twristiaeth gynaliadwy o’r safon uchaf, ond mae'n rhaid i’r datblygiad ddigwydd gyda’r cymunedau y mae’n effeithio fwyaf arnynt, yn hytrach nag iddynt.
Y gair allweddol yma i mi yw 'cynaliadwy'. Mae iteriad presennol y sector yn rhoi straen ar ein hadnoddau naturiol, ein tirweddau a’n seilwaith a’n gwasanaethau lleol. Yn 2021, bu cynnydd mewn gwersylla anghyfreithlon, sbwriel a gwastraff dynol ar lwybrau ac mewn meysydd parcio yn awdurdodau parciau cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog a Phenfro. Os na chaiff twristiaeth ei rheoli’n gywir, bydd yn achosi erydiad i’n llwybrau, byddwn yn gweld mwy o sbwriel a llygredd yn ein tirweddau.
Gan droi at y cynnig, yn gyntaf, ar gynyddu ardrethi annomestig a’r trothwy defnydd, mewn cymaint o gymunedau yng Nghymru, mae prynu cartrefi preswyl i’w defnyddio fel ail gartrefi neu lety gwyliau ar osod drwy wasanaethau fel Airbnb yn prisio pobl leol allan o’u cymunedau eu hunain ac yn tanseilio'r Gymraeg. Down yn ôl at y gair allweddol hwnnw, 'cynaliadwy'. I mi, er mwyn i Gymru fod yn gyrchfan twristiaeth o safon fyd-eang, bydd diwylliant ein hardaloedd lleol yn allweddol er mwyn cyflawni hynny, felly mae prisio ein pobl leol allan, yn fy marn i, yn wrthgynhyrchiol. Gadewch inni fod yn blwmp ac yn blaen yma: mewn rhai o’n cymunedau gwledig, rydym yn gweld boneddigeiddio'n digwydd. Nid oes dwywaith am hynny.
Ar y cynnydd mewn defnydd, nid yw'r penderfyniad wedi'i wneud eto i godi'r trothwy defnydd. Mae’r ymgynghoriad wedi dod i ben, ond nid oes penderfyniad terfynol wedi'i wneud, ac fel y nododd Tom Giffard, yn gwbl briodol, mae Cynghrair Twristiaeth Cymru, UKHospitality Cymru a Chymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU wedi cydnabod y dylid ei gynyddu. Mae un o’u hargymhellion eu hunain yn eu hymateb i’r ymgynghoriad yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynyddu’r trothwy o 70 diwrnod i 105 diwrnod. Nid ydym wedi cyrraedd pen y daith eto, ond mae'n rhaid inni fynd i’r afael â’r bwlch yn y gyfraith yr ydym ni ym Mhlaid Cymru wedi bod yn tynnu sylw ato ers peth amser.
Ar yr ardoll dwristiaeth, nid yw hwn yn syniad newydd, fel y nododd Tom Giffard yn gywir unwaith eto. Mae gwledydd ledled y byd yn defnyddio ardoll dwristiaeth, er enghraifft, Awstria, Gwlad Belg, Bhutan, Bwlgaria, ynysoedd y Caribï, Croatia, y Weriniaeth Tsiec, Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Groeg, Hwngari, Indonesia, yr Eidal, Japan, Malaysia, Seland Newydd, yr Iseldiroedd, Portiwgal, Slofenia, Sbaen, y Swistir a'r Unol Daleithiau. Gallwn fynd ymlaen—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—ond y pwynt yw hwn: y DU yw'r eithriad yma. Ie, ewch amdani.
Diolch am dynnu sylw at y rhestr o wledydd a nodoch chi sydd wedi cyflwyno treth dwristiaeth. Tybed beth yw eich barn ar Fenis, sydd wedi cyflwyno treth dwristiaeth newydd i atal pobl rhag dod i Fenis, gan y gwyddant y bydd hynny'n annog ymwelwyr newydd i beidio ag ymweld.
Diolch am eich ymyriad, Tom, ac unwaith eto, rydych yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod Fenis yn ei defnyddio i anghymell twristiaeth, ond dyna bwynt treth: mae'n ysgogiad i annog pobl naill ai i wneud rhywbeth a fydd yn gadarnhaol i'r gymuned neu i atal gweithgarwch negyddol. Dyna'r pwynt ynglŷn â threth, onid e? Gŵyr pob un ohonom mai dyna bwynt treth.
Ac os ydym am ddefnyddio enghreifftiau, gadewch inni ddefnyddio enghraifft Barcelona. Ni chredaf, mewn gwirionedd, fod llawer o bobl yn gwadu bod Barcelona gyda'r gorau yn y byd pan ddaw'n fater o ddatblygu polisi twristiaeth. Mae’r refeniw a godir drwy eu hardoll dwristiaeth yn cael ei ailfuddsoddi yn y gymuned, gan wella'r profiad i dwristiaid yn rhinwedd y buddsoddiad hwnnw. Ers cyflwyno'r dreth hon, mae nifer y gwesteion mewn gwestai sydd wedi'u cofrestru yn Barcelona wedi bod yn cynyddu'n gyson.
Felly, mae’r ddadl hon y byddai ardoll yn drychineb i Gymru er ei bod yn gweithio mewn mannau eraill yn fy arwain i gredu nad yw pobl yn meddwl y gall Cymru gystadlu â’r cyrchfannau hyn, ein bod islaw'r safon rywsut. Nid mecanwaith i gosbi ydyw, ond yn hytrach, mae'n seiliedig ar y syniad o gynaliadwyedd a pharch rhwng yr ardal a'r ymwelydd. Credaf ei bod yn anodd dadlau yn erbyn codi tâl bychan ar ymwelwyr a fydd yn caniatáu i gymunedau lleol ffynnu a chael eu gwarchod, ac yn caniatáu i dwristiaid barhau i fwynhau popeth sydd gan Gymru i’w gynnig am flynyddoedd i ddod.
A'r pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yma, Ddirprwy Lywydd, yw nad oes ymgynghoriad wedi'i gynnal eto ar ardoll dwristiaeth, a bydd cyflwyno unrhyw ardoll yn benderfyniad i'r Senedd ei hun. Yn fy marn i, nid yw gwrthwynebiad y Torïaid i’r ardoll yn ddim mwy nag ymgais i dynnu sylw oddi ar fethiannau’r Canghellor ei hun i gefnogi’r sector twristiaeth a lletygarwch. Nid fi'n unig sy'n dweud hynny; mae busnesau yn y sector yn dweud hynny hefyd. Gadewch inni edrych ar TAW: fe'i gostyngwyd i 12.5 y cant yn ystod y pandemig ar gyfer y sector lletygarwch a thwristiaeth—a chafodd hynny ei groesawu'n fawr. Bellach, mae wedi saethu i fyny i 20 y cant. Mae hyn yn ychwanegol at y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol a gwahardd y sector rhag defnyddio diesel coch, a ddefnyddir gan lawer mewn ardaloedd gwledig. Os ydych am helpu'r sector, yna lobïwch eich Canghellor ar y materion hyn gan mai dyna sy'n peri'r loes fwyaf i'r sector ar hyn o bryd. Dyna’r bygythiad mwyaf i’r sector yn awr, nid ardoll dwristiaeth.
Mae’r sector twristiaeth yng Nghymru yn bwysig iawn i economi Cymru ac i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma yng Nghymru. Mae twristiaeth yn chwarae rhan enfawr yn fy etholaeth i, Brycheiniog a Sir Faesyfed, o Ystradgynlais i Lanbadarn Fynydd, tref lyfrau’r Gelli Gandryll, gŵyl y Dyn Gwyrdd. Gallwn barhau, gan mai Brycheiniog a Sir Faesyfed yw canolbwynt twristiaeth Cymru.
Mae gormod o bobl yn y lle hwn yn credu bod ein sector twristiaeth yn ffynhonnell ddiddiwedd o arian. Mae gennyf farn lawer mwy cadarnhaol. Ydy, mae ein gwlad yn wynebu anawsterau, ond nid trethu ein sector twristiaeth yw’r ateb. Mae’n bosibl y bydd cynghorau ledled Cymru yn gweithredu cynnydd o hyd at 300 y cant mewn trethi ar lety gwyliau dilys. Bydd hyn yn cael effaith aruthrol ar yr economi leol ac ar ein perchnogion busnes yma yng Nghymru.
Gallaf weld pam fod y Llywodraeth am fynd i’r afael â pherchnogaeth ail gartrefi, ac rwy'n cydymdeimlo â’ch amcanion. A yw’n iawn fod rhywun 500 milltir i ffwrdd yn gallu prynu tŷ yng nghefn gwlad sir Faesyfed a’i ddefnyddio fel llety gwyliau am rai wythnosau o’r flwyddyn i osgoi talu trethi, gan yrru pobl leol o’r ardal a chodi prisiau tai? Rwy'n amau y byddai llawer yn dweud bod hyn yn dderbyniol. Drwy drethu busnesau twristiaeth dilys, gyda rhai ohonynt yn wynebu cyfyngiadau cynllunio ar ddefnydd, byddant yn cael eu cosbi a’u gorfodi i roi'r gorau iddi. Bydd y polisi treth, ni waeth pa mor dda yw'r bwriad y tu ôl iddo, yn arwain at ganlyniadau anfwriadol i'n cymuned fusnes. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw mynd i’r afael â’r nifer fawr o gartrefi gwag a thai gwag neu’r diffyg adeiladu tai. Dylai’r cartrefi hyn gael eu blaenoriaethu ar gyfer pobl leol er mwyn helpu i ddatrys yr argyfwng tai. Ond beth a welwn gan y Llywodraeth Lafur sosialaidd hon? Dim cynllun, dim ond cynllun treth.
Mae’r polisi hwn, yn ogystal â threth dwristiaeth sy’n cael ei chynllunio gan y sosialwyr o fy mlaen, yn ffordd sicr o wneud llanast ohoni: effaith ddeublyg treth ar fusnesau a phobl sy’n darparu gwasanaeth hanfodol ac yn rhoi profiad gwych i bobl sy’n ymweld â Chymru. Gwn y bydd llawer ar draws y llawr a fy nghyd-Aelodau newydd ar y dde yn dweud bod angen treth dwristiaeth arnom. Maent yn ein cymharu ag Ewrop ac yn dweud bod gan ddinasoedd fel Amsterdam a Budapest dreth dwristiaeth. Felly, pam nad oes gennym un yma yng Nghymru? Clywn y Prif Weinidog yn dweud yn eithaf rheolaidd, 'Yng Nghymru, fe'i gwnawn yn ein ffordd ein hunain.' Felly, pam fod yn rhaid inni ddilyn pawb arall? Gallwn wneud pethau'n wahanol. Gadewch inni beidio â chael treth dwristiaeth. Gadewch inni gael sgwrs go iawn am y sefyllfa.
Yn syml, nid oes gennym yr un niferoedd o bobl yn ymweld â nifer helaeth o'n cyrchfannau yng Nghymru o gymharu â llawer o leoliadau Ewropeaidd. Dylem fod yn annog twristiaeth ac yn hyrwyddo Cymru fel lle y mae pobl yn dymuno dod i ymweld ag ef, i dyfu ein heconomi, gan ddarparu swyddi a chyfleoedd i bawb. Mae treth dwristiaeth yn peryglu ein heconomi. Mae hyn, yn ei dro, yn rhoi swyddi mewn perygl ar adeg pan fo angen swyddi ar bobl yn fwy nag erioed. Mae angen Llywodraeth gefnogol ar bobl Cymru a phobl Brycheiniog a Sir Faesyfed, Llywodraeth sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng tai ac yn cefnogi ein busnesau, nid un sy'n defnyddio ymwelwyr a gweithwyr fel bwch dihangol i wneud iawn am fethiannau’r Llywodraeth hon. Mae’r Ceidwadwyr yn cefnogi ein cymuned fusnes, mae’r Ceidwadwyr yn cefnogi twristiaeth, a byddwn yn gwrthwynebu unrhyw reoliadau gwarthus a gyflwynir gan y glymblaid anhrefnus hon rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Ni yw plaid busnes, a dyna pam fy mod yn annog pawb yn y Siambr i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon a'r cyfle i wyntyllu'r cynnig, felly gobeithio y bydd y wybodaeth gywir yn hysbys, wrth symud ymlaen, am yr hyn sy'n cael ei gynnig a pha gam y mae arno. Mae rhai penawdau wedi bachu sylw yn y wasg, ac mae'n cael ei ddefnyddio fel pêl droed wleidyddol. Un pennawd sy'n cael ei rannu yw bod Llywodraeth Cymru yn cynnig y byddai'n rhaid i dwristiaid dalu £15 y noson i aros yng Nghymru. Roedd un arall, y rhannodd fy mam, sy'n byw dros y ffin, yn bryderus â mi, yn dweud y gallai fod yn rhaid i drigolion swydd Gaer dalu i ymweld â Chymru mewn cynllun treth newydd, fel pe bai toll ar y ffin wrth i chi ddod i mewn i Gymru. Felly, roedd yn rhaid i mi dawelu ei meddwl hithau hefyd.
Wrth fynd i ymgynghoriad, mae angen i bobl gael yr wybodaeth gywir. Rwyf wedi ceisio sicrhau pobl y bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn yr hydref, nad oes ffi wedi'i phennu, a mater i awdurdodau lleol unigol fydd codi ardoll dwristiaeth os ydynt yn dewis gwneud hynny. Os bydd ardoll, dylai fod yn swm rhesymol. Mae llawer o wledydd yn codi ardoll dwristiaeth o €2, nid £15 y noson. Byddai'n codi refeniw mawr ei angen i awdurdodau lleol i alluogi cynghorau a pharciau cenedlaethol i reoli a buddsoddi mewn gwasanaethau a seilwaith sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant, megis cadw traethau a phalmentydd yn lân, cynnal parciau, toiledau a llwybrau cerdded lleol—y seilwaith hanfodol sy'n cynnal twristiaeth. Dylai gael ei gefnogi gan bawb sy'n dibynnu arno.
Pe na bai Llywodraeth Geidwadol y DU wedi gwneud toriadau i wasanaethau cyhoeddus, a arweiniodd at gau neu drosglwyddo gofal am doiledau cyhoeddus, mannau chwarae, llyfrgelloedd a chyfleusterau eraill yn ystod cyni, gwasanaethau glanhau strydoedd dan bwysau—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr, gymydog newydd.
Oni chytunwch â mi mai'r rheswm pam y bu'n rhaid i'r Llywodraeth Geidwadol gymryd camau doeth i adfer trefn ar gyllid cyhoeddus yw oherwydd bod Llywodraeth Cymru a'r Llywodraeth Lafur ar y pryd wedi gadael y wlad hon mewn cyflwr ariannol gwael? Fel y dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, nid oedd arian ar ôl.
A dweud y gwir, nac ydw. Yr argyfwng bancio ar y pryd ydoedd a'r ffordd y cafodd yr arian ei drin ar draws y byd, a dyna sut yr ymdriniwyd ag ef. Aeth cyni ymlaen yn rhy hir o lawer. Nid ydym yn trafod cyni ar hyn o bryd, ond roeddwn eisiau ei grybwyll oherwydd ei fod yn effeithio ar wasanaethau cyhoeddus. Mae gennyf greithiau o hyd ar ôl 14 mlynedd o fod yn gynghorydd, 10 mlynedd o doriadau, flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan fod yn rhaid ailstrwythuro cynghorau. Aethom o chwe depo i lawr i un depo yng nghyngor sir y Fflint lle'r oeddwn yn aelod cabinet, a gwelwn yn awr sut y mae swyddi wedi cael eu dileu dros y blynyddoedd. Mae gennym swyddi gwag na allwn eu llenwi yn awr, ac mae gwasanaethau dan bwysau. Dyma'r meysydd gwasanaeth y soniais amdanynt, megis glanhau strydoedd, swyddogion llwybrau cerdded, a thoiledau hefyd. Dros y blynyddoedd, maent wedi cael eu trosglwyddo i ofal cynghorau tref a chymuned neu wedi cau, yn y bôn. Ond pe bai gennym arian, gallem fod wedi'u cadw ar agor. Rhywbeth arall y mae'n rhaid imi ei egluro'n eithaf aml yw'r ffaith bod y dreth gyngor yn talu am ddarparu 25 y cant i 30 y cant o'r gwasanaethau hyn. Yn aml iawn, mae pobl yn dweud, 'Ar beth y mae fy nhreth gyngor yn cael ei wario? Beth y mae fy nhreth gyngor yn talu amdano?' Daw'r gweddill gan y Llywodraeth a daw cyfran fach o daliadau incwm. Diolch.
Hoffwn gyfeirio'r Aelodau at fy natganiadau o fuddiant.
Ers blynyddoedd, mae Llafur Cymru wedi tanbrisio a thanwerthu twristiaeth yma yng Nghymru. A hithau'n genedl chwaraeon fawr, gyda pharciau cenedlaethol gwych, arfordiroedd ysblennydd, bariau a bwytai prysur yn ein trefi a'n dinasoedd, mae Cymru'n rhan unigryw o'r Deyrnas Unedig. Ond bydd cyfarwyddyd polisi gwael gan Blaid Lafur Cymru yn parhau i fygwth cymunedau yng Nghymru, ac os na chânt eu cefnogi, gallai pobl Cymru wynebu'r adferiad mwyaf araf yn yr ynysoedd hyn o'r pandemig COVID-19. Os yw'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi dangos unrhyw beth, mae wedi dangos bod y diwydiant twristiaeth a'r bobl sy'n gweithio yn y sectorau hyn yn gryf, a'u bod hwy eu hunain wedi ymrwymo i adeiladu Cymru fwy a gwell. Mae'n rhaid dweud bod hynny'n fwy nag y gellir ei ddweud am y Llywodraeth Lafur gysglyd a diflas hon ym Mae Caerdydd.
Mae'r Prif Weinidog a'i gyd-Aelodau wedi bod yn brolio am eu hymrwymiad i ailadeiladu'r sector twristiaeth yn ddiweddar. Fodd bynnag, fel bob amser, mae gweithredoedd yn dweud mwy na geiriau, a'r hyn a welwn yw strategaeth erydol. Pe bai Llywodraeth Cymru yn mynegi unrhyw ddiddordeb mewn cefnogi ein sector twristiaeth, byddent yn rhoi'r gorau i gynigion niweidiol ar gyfer treth dwristiaeth yng Nghymru. Byddent yn cydnabod mwyafrif yr ymatebion i'w ymgynghoriad—oes, mae ymgynghoriad wedi bod eisoes—ar dreth dwristiaeth, yn ogystal â gwrthwynebu'r newidiadau arfaethedig i ardrethi annomestig ar gyfer llety gwyliau. Mae angen iddynt gydnabod eu bod wedi methu codi'r diwydiant i lefelau a welir mewn rhannau eraill o'r DU. Efallai fod angen atgoffa'r Gweinidog—mewn gwirionedd, credaf fod angen atgoffa Llywodraeth Lafur Cymru—mai trethi is sy'n denu entrepreneuriaeth a buddsoddiad busnes. Mae hyn wedyn yn sicrhau bod y gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi dirywio cymaint yng Nghymru erbyn hyn, fel y soniodd Carolyn—. Wyddoch chi, os oes gennym sector preifat gwell, gyda gwell busnes, yn talu trethi—trethi naturiol sydd wedi'u gosod eisoes, nid cyflwyno rhai newydd—bydd mwy o arian mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Rydych hefyd yn mynd ar drywydd treth dwristiaeth ar adeg pan ydym yn dychwelyd at TAW o 20 y cant. Mae gan yr holl wledydd eraill sydd wedi'u crybwyll, lle mae ganddynt dreth dwristiaeth, drothwyon is o TAW. Ni all y diwydiant lletygarwch oroesi hyn i gyd. Mae'n ymosodiad epig, ac mae'n dangos camddealltwriaeth lwyr o'r sector twristiaeth. Rhaid imi ddweud, rwy'n hoff iawn o fy nghyd-Aelod, Luke Fletcher, ond mae ei rethreg gwrth-ymwelwyr, gwrth-dwristiaeth bellach yn dechrau bwydo'n ôl i fusnesau yn ei etholaeth, ac mae bellach yn ffaith bod y diwydiant ei hun yn gweld Plaid Cymru, a'r Blaid Lafur erbyn hyn, yn anffodus, fel gelynion i'r diwydiant twristiaeth.
Mae diwydiant twristiaeth Cymru wedi'i greu o ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig eu maint i raddau helaeth. Mae'r sector yn hanfodol bwysig i gymunedau gwledig yn ogystal ag economïau trefol, gan wella'r ddarpariaeth o gyfleusterau ac amwynderau a ddefnyddir gan drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Yng Nghymru, mae 25 y cant o'r holl fusnesau cofrestredig yn yr economi ymwelwyr. Maent yn cynnig cyfleoedd gwaith sylweddol lle bo dewisiadau eraill yn gyfyngedig iawn. Yma yn sir Conwy, mae twristiaeth yn werth £887 miliwn, a gynhyrchir gan 9.5 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae effaith COVID eisoes wedi gadael ei ôl ar fusnesau yn ardal Aberconwy, gyda cholledion refeniw yn amrywio o tua 60 y cant i 85 y cant.
Yn ogystal â chefnogi tua 10,000 o swyddi yn Aberconwy drwy ffyrlo, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn buddsoddi ymhellach yn yr economi leol, yn enwedig twristiaeth, er enghraifft £51,000 yn y gwaith o wella promenâd bae Llandudno, £219,000 yn natblygiad strategaeth ddiwylliant Conwy, a £850,000 mewn canolfan arloesi twristiaeth. Er bod Llywodraeth y DU yn buddsoddi yn sector twristiaeth Cymru, mae arnaf ofn fod Llywodraeth Lafur Cymru yn ceisio ei gosbi. Synnwyr cyffredin yn economaidd yw rhoi'r gorau i'r cynigion niweidiol ar gyfer treth dwristiaeth yng Nghymru. Mae angen inni hefyd ddileu'r trothwy 182 diwrnod arfaethedig ar gyfer llety gwyliau. Dylem i gyd fod yn gweithio gyda busnesau i weld pa gymorth sydd ei angen arnynt i barhau i greu swyddi a rhannu'r gorau yng Nghymru gyda'r byd. Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol UKHospitality Cymru, David Chapman:
'Mae'r diwydiant hwn angen mwy o ofal a llai o drethi. Ar ôl dwy flynedd hir o ansefydlogrwydd masnachol, gyda chau gorfodol a chyfyngiadau, rydym yn awr yn wynebu argyfwng costau a hyfywedd a'r peth diwethaf sydd ei angen yw mwy byth o drethiant.'
Ar ôl y pandemig—
Janet, mae angen ichi ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda.
Iawn. Ddirprwy Lywydd, os ydym am roi hwb gwirioneddol i economi a diwydiant twristiaeth Cymru, mae Cymru angen gweinyddiaeth yn awr sy'n cefnogi'r sector twristiaeth, nid un sy'n ceisio ei dinistrio drwy'r amser. Diolch.
Dwi'n gwaredu, mae'n rhaid dweud, weithiau, pan dwi'n gweld cynigion y Ceidwadwyr sy'n dod ger ein bron. Mae'r cynnig yma'n dangos nad oes gan y grŵp yna unrhyw ddiddordeb mewn cyfrannu'n adeiladol, ond yn hytrach yn trafod potensial hwyrach fod yna dreth yn mynd i fod rhywbryd yn y dyfodol. Mae yna ymgynghoriad yn mynd i fod, does yna ddim sicrwydd am y peth, ond dyna ni, rydyn ni'n gwastraffu amser yma heddiw yn trafod rhywbeth dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd ei ddyfodol o.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, wnaf i ddim cymryd un y tro yma, mae'n flin gennyf fi, â phob parch.
Nid wyf am dderbyn ymyriad yn y cyfraniad hwn, mae'n ddrwg gennyf, Andrew.
Rwyf weithiau'n anobeithio ynghylch tactegau'r Blaid Geidwadol. Mae'r cynnig hwn yn cyfeirio at y posibilrwydd o ardoll dwristiaeth, a'r cyfan y mae'n ei wneud yw tynnu sylw oddi ar fethiannau eich plaid eich hun i lawr y lôn, yr M4, yn Llundain bell. Nid yw'r dagrau crocodeil a welwn gan y Ceidwadwyr yn twyllo neb. Mae'r Ceidwadwyr yn arwain yn Ynys Wyth, ac maent yn argymell treth dwristiaeth ar gyfer ymwelwyr ar dripiau undydd. Mae Cyngor Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf, dan arweiniad y Torïaid, wedi galw dro ar ôl tro am dreth dwristiaeth ar gyfer Caerfaddon. Rydych chi'n cwyno y byddai'n gwneud Cymru'n fwy anghystadleuol. Wel, cyflwynodd Bourton-on-the-Water yn y Cotswolds dâl twristiaeth y llynedd. Yn ôl eich rhesymeg eich hun, dylai hyn arwain at bob ymwelydd yn mynd i Chipping Norton neu Cirencester gerllaw, ond na, mwynhaodd Bourton wyliau Pasg llawn o bobl eto eleni.
Mae'r egwyddor eisoes wedi'i derbyn beth bynnag. Mae gan gyrchfannau gwyliau ledled y DU daliadau tymhorol amrywiol, er enghraifft yn y meysydd parcio, gyda thaliadau parcio ceir yn ddrutach yn ystod y tymor ymwelwyr ac yn rhatach yn y gaeaf. Nid yw hynny'n ddim mwy nag ardoll ar ymwelwyr. Pam fod y Ceidwadwyr yn credu ei bod hi'n iawn i'r sector preifat arfer y polisi hwn, ond nid y Llywodraeth? Mae mynediad i Gadeirlan Caerefrog yn rhad ac am ddim i bobl leol, ond pe bawn i'n ymweld â hi, byddai'n rhaid i mi dalu £12.50. Pe bawn i eisiau mynd i un o'r palasau brenhinol hanesyddol—Tŵr Llundain, er enghraifft—byddwn i'n talu £29.90, ond mae'n rhad ac am ddim i grwpiau cymunedol yn Kensington a Chelsea, Westminster, Hammersmith a Fulham a Brent. Ond na, nid oes gan yr Aelodau gyferbyn unrhyw gwynion o gwbl am gynlluniau prisio amrywiol pan fo'r arian yn mynd i gyfrifon banc preifat. Yr hyn nad ydynt yn ei hoffi yw'r syniad o ddosbarthu cyfoeth—arian rhywun yn talu am ofal iechyd neu addysg rhywun arall, er enghraifft. Byddwch yn onest am y peth o leiaf.
Wedyn, wrth gwrs, mae'r gŵyn y byddai treth dwristiaeth yn ei gwneud yn anodd i'r sector yn ystod cyfnod anodd. Ac mae'n gyfnod anodd. Ond nid yw'r ddadl honno gan yr Aelodau gyferbyn â mi yn ddim mwy na chodi bwganod. Mae'r sector lletygarwch yn dioddef ar hyn o bryd, ac maent yn dioddef oherwydd y codiadau treth a'r costau cynyddol a osodwyd arnynt gan y Llywodraeth Geidwadol ddideimlad yn Llundain, dan arweiniad twyllwr a chelwyddgi profedig. Mae'r busnesau hyn yn wynebu bygythiad dirfodol heddiw. Bydd codi'r cap ar brisiau ynni yn golygu mai hwn fydd y tymor olaf i lawer o fusnesau. Roedd un busnes yn fy etholaeth, er enghraifft, yn talu £350 y mis am drydan yn ôl yn 2003. Heddiw, maent yn talu £4,700 y mis, yn seiliedig ar 17c yr uned, a bydd y contract hwnnw'n cynyddu i 50c yr uned ym mis Tachwedd. Bydd hyn yn amhosibl iddynt. Eich Llywodraeth chi sydd ar fai am hynny.
Yn ogystal â hynny, ni all y sector lletygarwch ddefnyddio diesel coch mwyach, felly mae angen dod o hyd i ffynhonnell danwydd lawer drutach diolch i'r Llywodraeth Geidwadol. Mae TAW wedi codi o 12.5 y cant i 20 y cant ar gyfer y sector lletygarwch. Eich Llywodraeth chi sydd ar fai am hynny. Mae cyfraniadau yswiriant gwladol wedi codi 1.25 y cant. Eich Llywodraeth chi sydd ar fai am hynny. A dyma'r wasgfa y mae cyflenwyr yn ei theimlo, gan wthio prisiau cwrw a bwyd i fyny hefyd. Y Ceidwadwyr sydd ar fai am hyn i gyd, ac mae'n digwydd yn awr, heddiw. Nid oes diben ichi rygnu ymlaen am y posibilrwydd y gallai'r dreth dwristiaeth wneud rhywfaint o niwed—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na wnaf, mae'n ddrwg gennyf. Mae'r busnesau hyn yn galw am help yn awr—[Torri ar draws.]—ac mae'r Torïaid yn troi eu cefnau.
Dwy eiliad, Mabon. Hoffwn glywed diwedd cyfraniad yr Aelod, felly a gaf fi dawelwch ar y meinciau gyferbyn, os gwelwch yn dda?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi ysgrifennu at Rishi Sunak ac wedi gofyn iddo wrthdroi'r toriadau niweidiol. Tybed a wnewch chi ymuno â mi ac ysgrifennu at Rishi Sunak hefyd i'w annog i wrthdroi'r toriadau hyn.
Mae'r Torïaid yn gywir i ddweud bod twristiaeth yn sector pwysig, a'i fod angen ein cefnogaeth. Mae arnom angen sector cynaliadwy, un sydd o fudd i bob cymuned ac sy'n sicrhau bod y cyfoeth a grëir yn cael ei gadw yn y cymunedau hynny. Bydd yr ymgynghoriad ar ardoll dwristiaeth yn helpu i'r perwyl hwn. Bydd y sector yn cael cyfle i rannu eu barn a sicrhau bod polisi newydd yn cael ei gynllunio o amgylch anghenion y sector yng Nghymru, polisi Cymreig wedi'i deilwra'n arbennig sy'n ymateb i anghenion Cymru. Os caiff ei wneud yn iawn a'i gydgynhyrchu gan y sector, fe allai ac fe ddylai ardoll dwristiaeth fod o fudd i'r sector a'n cymunedau. Felly, anwybyddwch gynnig y Torïaid a chefnogwch y gwelliant. Diolch.
Rwy'n teimlo bod angen i mi gael fy ngwynt ataf ar ôl y cyfraniad hwnnw. Iawn. Yn gyntaf, gadewch imi ddechrau drwy ddweud bod gan Gymru dirwedd unigryw, hanes unigryw a diwylliant unigryw. Am flynyddoedd, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo, ac yn ddiweddar dros wyliau'r Pasg, gwelodd pob un ohonom ymwelwyr yn cyrraedd Cymru i fwynhau ein mynyddoedd, ein cefn gwlad a'n traethau. Mae llawer yn dod i Gymru i ymweld â'n cestyll, ein tai hanesyddol, yn ogystal â'n gerddi a'n safleoedd treftadaeth ddiwydiannol. Maent yn dod i fwynhau ein diwylliant bywiog, ein gwyliau celfyddydol, ein gwyliau cerddorol a'n heisteddfodau.
Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth i Gymru. Roedd 143,500 o bobl yng Nghymru yn gweithio mewn diwydiannau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth yn 2020, i lawr o 154,000 yn y flwyddyn flaenorol. Mae un o bob saith swydd yng Nghymru mewn diwydiannau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, ac mewn rhai rhannau o Gymru dyma brif gynheiliad yr economi. Byddai'n anghywir ystyried bod twristiaeth yn wasanaeth eilradd. Mae twristiaeth yn farchnad hynod gystadleuol sy'n galw am sgiliau, talent a menter. Cyn y pandemig, cyfrannai 6 y cant o'r holl werth ychwanegol gros, dros £3 biliwn i economi Cymru. O ystyried y ffigurau hyn, mae pwysigrwydd twristiaeth yn glir. Dylai fod yn glir hefyd, gydag asedau aruthrol Cymru, y dylai'r Llywodraeth flaenoriaethu'r potensial ar gyfer tyfu'r sector hwn o'r economi.
Ni all neb wadu bod y sector twristiaeth wedi dioddef yn sylweddol o ganlyniad i'r pandemig, cyfyngiadau symud, cyfyngiadau ar deithio, a gwestai, lletygarwch ac atyniadau i ymwelwyr yn cael eu gorfodi i gau. Mae angen cymorth ac anogaeth ar y diwydiant i sicrhau ei adferiad a manteisio i'r eithaf ar y potensial enfawr ar gyfer twf sy'n dal i fodoli. Y peth diwethaf sydd ei angen arnynt yw bod Llywodraeth Cymru'n llesteirio eu hadferiad drwy roi rhwystrau yn eu ffordd. Yn hytrach na marchnata Cymru'n gadarnhaol ac annog mwy o ymwelwyr i ddod i Gymru, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno treth dwristiaeth niweidiol.
Ceir pryderon sylweddol o fewn y diwydiant ynghylch gweithredu treth o'r fath, ac mae llawer o gwestiynau o hyd. Tynnwyd sylw at y rhain gan y grŵp hollbleidiol seneddol ar letygarwch ym mis Mai 2019. Roeddent yn gofyn sut y byddai ardoll yn cael ei chodi'n effeithiol yn absenoldeb cofrestr gynhwysfawr o'r cyflenwad o lety. Aethant ati i dynnu sylw at y ffaith bod ymwelwyr undydd yn gwario llawer llai o gymharu ag ymwelwyr dros nos a gallai cost arall ar ystafelloedd gwestai gymell ymwelwyr i beidio ag aros dros nos. Byddai hyn yn ddrwg i'r diwydiant gwestai a gallai arwain at ostyngiad sylweddol yng ngwariant defnyddwyr mewn dinasoedd.
Hoffwn sôn am yr hyn a grybwyllodd fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, yn ei chyfraniad, sef bod sector gwestai y DU eisoes ymhlith y rhai sy'n talu fwyaf o dreth o gymharu â gwledydd yn yr UE. Mae gan wledydd yn yr UE sydd â threth dwristiaeth gyfraddau TAW is, gyda'r Eidal a Ffrainc ar 10 y cant, yr Almaen ar 7 y cant, Gwlad Belg a'r Iseldiroedd ar 6 y cant. O'i gymharu, mae TAW ar y sector gwestai yma yn y DU yn 20 y cant. Hoffwn hefyd—[Torri ar draws.] Byddwn—[Anghlywadwy.]
Hoffwn hefyd i'r Gweinidog, wrth ymateb—yn fy rôl fel Gweinidog trafnidiaeth yr wrthblaid—ddiystyru cyflwyno taliadau atal tagfeydd yma yng Nghymru, gan fod hyn yn peri pryder imi, nid yn unig i ymwelwyr ond i drigolion Cymru sydd eisiau mynd â'u teulu am wyliau byr i ran arall o Gymru. Oherwydd nid yn unig y byddai taliadau atal tagfeydd yn gosod baich ar drigolion Cymru ond byddai'n ychwanegu baich ychwanegol ar dwristiaid sy'n dod i drefi a dinasoedd Cymru, ac yn y pen draw byddai'n niweidio'r gobaith am adferiad i fusnesau sy'n dibynnu ar dwristiaid i oroesi.
Ddirprwy Lywydd, yn ddi-os, mae twristiaeth yn rhan allweddol o economi Cymru ac mae sicrhau ei bod mewn iechyd da yn hanfodol. Mae gennym gyfrifoldeb yma fel gwleidyddion yn y Senedd i gefnogi'r sector yma yn awr. Mae'n sector diwydiant a gafodd ei daro'n arbennig o wael gan y pandemig ac nid oes angen gosod rhwystrau diangen i'w adferiad. Galwaf ar Lywodraeth Cymru yma heddiw i gael gwared ar unrhyw gynlluniau ar gyfer treth dwristiaeth a thaliadau atal tagfeydd, a mynd ati, yn hytrach, i lunio strategaeth gyda rhanddeiliaid allweddol a fydd yn mynd i'r afael â'r problemau hyn ac yn caniatáu i'r sector hanfodol hwn o'n heconomi dyfu a ffynnu fel y mae'n haeddu ei wneud ar ôl dioddef cymaint yn y gorffennol. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans.
Diolch. Nid oes anghytundeb o gwbl fod twristiaeth yn gwneud cyfraniad economaidd sylweddol tu hwnt i Gymru, gyda gwariant sy'n gysylltiedig â thwristiaeth yn cyrraedd mwy na £5 biliwn bob blwyddyn yn 2019, cyn y pandemig, ac wrth gwrs mae Llywodraeth Cymru eisiau gweld diwydiant twristiaeth ffyniannus ac adferiad cryf o COVID-19. I gydnabod effaith COVID rydym wedi darparu cymorth ariannol digynsail i'r sector. Mae busnesau twristiaeth wedi bod yn gymwys i gael gwerth £2.6 biliwn o grantiau o'r gronfa cadernid economaidd, sydd wedi diogelu 28,500 o swyddi ledled Cymru. Mae llawer o fusnesau twristiaeth hefyd wedi elwa o'r gronfa adferiad diwylliannol gwerth £108 miliwn, sy'n cefnogi digwyddiadau diwylliannol a'r unigolion sy'n gweithio yn y sector, ac mae busnesau twristiaeth hefyd wedi elwa o'r £730 miliwn a ddarparwyd gennym drwy ein cynlluniau rhyddhad ardrethi i'r sector manwerthu, hamdden a lletygarwch. Mae'r mesurau hyn, yn ogystal â'r grantiau sy'n gysylltiedig ag ardrethi annomestig a'r grantiau dewisol a ddarperir gan awdurdodau lleol, yn amlwg wedi galluogi'r sectorau hyn i oroesi.
Mae'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa gref i adfer ac ailadeiladu ar ôl y pandemig. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Cymru wedi croesawu'r nifer uchaf erioed o ymwelwyr o'r DU. Mae ein diwydiant twristiaeth yn aeddfed, mae'n brofiadol ac mae ganddo'r gallu i dyfu o hyd, ond mae hefyd wedi dweud wrthym fod yn rhaid i dwf gynnal, nid bygwth, y pethau pwysicaf. Ein huchelgais yw cefnogi datblygiad twristiaeth gynaliadwy sy'n mynd i'r afael ag anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd a'r cymunedau sy'n cynnal y dwristiaeth honno, ac mae honno'n egwyddor sylfaenol sy'n sail i'n cynnig ar gyfer ardoll dwristiaeth.
Ym mis Chwefror amlinellais y nodau polisi a'r amserlen ar gyfer datblygu cynigion ardollau twristiaeth. Mae ein cynigion yn gyfle i fuddsoddi yn y cymunedau lleol hynny a'r gwasanaethau sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiannus, ac nid yw ond yn deg fod ymwelwyr yn gwneud cyfraniad. Rydym ar ddechrau'r drafodaeth ynglŷn â sut y bydd yr ardoll yn cael ei defnyddio i gynnal a chefnogi'r ardaloedd yr ydym yn ymweld â hwy ac yn eu mwynhau.
Wrth gwrs, mae ardollau twristiaeth, fel y clywsom, yn gyffredin iawn ledled y byd, gyda'r rhan fwyaf o wledydd yn Ewrop yn eu defnyddio. Maent wedi'u llunio i fod yn gymesur a chanran fach o'r bil cyfan i ddefnyddwyr ydynt. Prin yw'r dystiolaeth fod ardollau twristiaeth yn cael effaith economaidd negyddol. Cânt eu defnyddio i fod o fudd i'r ardaloedd a'r cymunedau lleol sy'n dewis eu defnyddio. Bydd y pwerau'n ddewisol, gan rymuso awdurdodau lleol i wneud eu penderfyniadau eu hunain a phenderfynu beth sydd orau i'w cymunedau. Wrth gwrs, rwy'n croesawu pob barn a thystiolaeth wrth inni barhau i gydweithio â'n partneriaid i helpu i lunio'r cynigion hyn. Cynhelir ymgynghoriad mawr yn ddiweddarach eleni, a bydd hwnnw'n gyfle i bob barn gael ei chlywed a'i hystyried. Drwy'r broses hon byddwn yn llunio treth sy'n cyd-fynd â'n hegwyddorion craidd ar gyfer trethiant, ac un sy'n gweithio i gymunedau yng Nghymru.
Ar 2 Mawrth cyhoeddais y camau nesaf a gymerwn yn dilyn yr ymgynghoriad ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar. Mae'r camau'n rhan o'n cynlluniau i sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg i'r cymunedau lle mae ganddynt gartrefi neu'n lle maent yn rhedeg busnes. Mae hyn yn ei dro yn rhan o'n dull triphlyg o fynd i'r afael â'r effaith y gall nifer fawr o ail gartrefi a llety gwyliau ei chael ar gymunedau a'r iaith Gymraeg. Mae'r safbwyntiau a gyflëir yn yr ymgynghoriad, gan gynnwys o'r sector twristiaeth ehangach, yn amlwg yn cefnogi newid i'r meini prawf ar gyfer dosbarthu llety hunanddarpar fel llety annomestig. Roedd yr ymatebion yn dangos y byddai busnesau llety gwyliau dilys yn gallu cyrraedd trothwyon gosod uwch ac awgrymwyd amrywiaeth eang o ddewisiadau amgen posibl. Bydd codi'r trothwyon yn dangos yn gliriach fod yr eiddo dan sylw yn cael ei osod yn rheolaidd ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r economi leol.
Yn dilyn ein hymgynghoriad, rydym o'r farn y dylai eiddo hunanddarpar sy'n cael ei osod yn anfynych fod yn gymwys ar gyfer y dreth gyngor. Bydd cynyddu meini prawf gosod yn sicrhau nad yw eiddo o'r fath ond yn cael ei ddosbarthu fel eiddo annomestig os caiff ei ddefnyddio at ddibenion busnes am y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Felly, cyhoeddais ein bwriad i ddiwygio'r meini prawf o 1 Ebrill 2023 ac rwyf bellach wedi lansio ymgynghoriad technegol ar y ddeddfwriaeth ddrafft. Daeth yr ymgynghoriad hwnnw i ben ar 2 Ebrill ac mae'r ymatebion yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd. Ac rwy'n bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r rheini a chyhoeddi'r camau nesaf yn fuan.
Yn amodol ar unrhyw newidiadau sy'n deillio o'r ymgynghoriad, pan wneir y ddeddfwriaeth, cynhelir asesiad effaith rheoleiddiol i gyd-fynd â hi, a diolch i Gynghrair Twristiaeth Cymru a chynrychiolwyr eraill am roi gwybodaeth ychwanegol inni, a byddwn yn ystyried yr wybodaeth honno yn yr asesiad effaith.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Weinidog, credaf mai'r broblem sydd gennyf fi, a busnesau gwyliau yn fy etholaeth yn sicr, yw nad yw 180 diwrnod yn ddigon i allu llenwi eu llety, o gofio ei bod yn anodd iawn gosod llety gwyliau yn ystod misoedd y gaeaf. Ac nid yw cael defnydd o 100 y cant am 182 diwrnod yn ymddangos yn gynnig realistig o gwbl. Hoffwn ichi roi ymrwymiad heddiw y bydd hyn o ddifrif yn cael ei archwilio'n briodol, oherwydd credaf mai dyma'r rhwystr mawr. A bydd yn rhaid i lawer o fusnesau twristiaeth yn y sector llety gwyliau drosglwyddo eu heiddo i ardrethi busnes. Ni fyddant hyd yn oed yn gallu eu gosod i breswylwyr fel stoc dai, oherwydd nid yw caniatâd cynllunio yn caniatáu hynny, a bydd y busnes yn mynd i'r wal. Rwy'n erfyn arnoch, Weinidog, i archwilio hyn yn iawn gyda'ch swyddogion, oherwydd credaf fod problem wirioneddol yma gyda'r mater penodol hwn o 182 diwrnod.
Mewn ymateb i Mark Isherwood yn gynharach mewn cwestiynau y prynhawn yma, dywedais fy mod yn cael cyngor pellach yn dilyn y trafodaethau gyda Chynghrair Twristiaeth Cymru ynglŷn â'r goblygiadau sy'n gysylltiedig â chynllunio, yn arbennig, ac edrychaf ymlaen at gael cyngor pellach ar hynny cyn bo hir. Ac wedyn, o ran ein dull gweithredu cyffredinol, rydym eisiau sicrhau ein bod yn ystyried busnesau—y busnesau sy'n gwneud cyfraniad sylweddol i'r economi leol. A nod y ddeddfwriaeth hon yw mynd i'r afael â'r materion yr ydym o ddifrif yn eu cydnabod o ran bod eiddo ledled Cymru'n cael ei danddefnyddio, mewn perthynas â'r sector twristiaeth a'r ffaith nad yw ar gael i ddarparu tai i bobl leol yn y cymunedau hyn—cânt eu prisio allan, fel y clywsom yn y cyfraniad oddi ar feinciau Plaid Cymru yn gynharach y prynhawn yma.
Rydym hefyd yn ceisio ymestyn cyfnod y flwyddyn dwristiaeth yng Nghymru. Felly, bydd cyd-Aelodau'n gyfarwydd â'r gwaith hybu twristiaeth 'Dyma Gymru' a wnawn, ond rydym hefyd wedi gwneud 'Dyma'r Gaeaf' yn ddiweddar, sy'n hyrwyddo'r cynigion sydd gennym yma yng Nghymru drwy gydol tymor y gaeaf fel y gallwn roi Cymru ar y map fel lle y gall pobl ymweld ag ef nid yn unig yn ystod misoedd yr haf ond drwy gydol y flwyddyn. Ac rydym hefyd yn gwneud gwaith i sicrhau, pan fydd ymwelwyr rhyngwladol yn dechrau dod yn ôl i'r DU, ac yn chwilio am wyliau ar y rhyngrwyd, yn chwilio am leoedd i fynd yn y DU, fod Cymru'n ymddangos fel un o'r pethau cyntaf a welant o ganlyniad i'w chwiliadau ar y rhyngrwyd. Felly, rydym yn edrych ar nifer o ffyrdd o hyrwyddo Cymru a busnesau twristiaeth Cymru, ac fel y cyfryw, y sector twristiaeth a'r sector llety gwyliau yn rhan o'r gwaith hwnnw. Ond byddwn yn ystyried yr ymatebion ymhellach, wrth inni ddod at yr ymgynghoriad technegol hwnnw, fel y disgrifiais, ac yn edrych yn ofalus iawn ar y dystiolaeth bellach a ddarparodd Cynghrair Twristiaeth Cymru i ni gyda'r ymgynghoriad a wnaeth gyda'i haelodau.
I gloi, felly, Ddirprwy Lywydd, fel rhan o'r cytundeb sydd gennym gyda Phlaid Cymru, rydym yn cymryd y camau uniongyrchol hyn i fynd i'r afael ag effaith ail gartrefi a thai anfforddiadwy mewn cymunedau ledled Cymru, gan ddefnyddio nifer o ddulliau gweithredu. Felly, rydym yn defnyddio'r system gynllunio, yn edrych ar systemau eiddo a systemau trethu, ac yn cydnabod, wrth gwrs, fod y rhain yn faterion cymhleth sy'n galw am ymateb amlochrog ac integredig. Mae'n amlwg na fydd newidiadau i drethiant lleol yn unig yn darparu'r ateb cyfan, a dyna pam ein bod yn datblygu pecyn ehangach o ymyriadau, a hoffwn ofyn i fy nghyd-Aelodau bleidleisio dros welliant y Llywodraeth heddiw. Diolch.
Galwaf ar Sam Rowlands i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau o bob rhan o'r Siambr y prynhawn yma sydd wedi cyfrannu heddiw. Mae wedi bod yn ddadl bwysig iawn ac ar adegau, yn ddadl angerddol iawn am sector gwirioneddol bwysig yma yng Nghymru. Wrth gloi'r ddadl heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar dri mater sydd, yn fy marn i, wedi dod i'r amlwg yn ein plith, a'r cyntaf yw pwysigrwydd twristiaeth yng Nghymru, fel yr amlinellwyd yn huawdl gan Tom Giffard wrth agor y ddadl heddiw. Fel y gwyddom, mae Cymru'n croesawu tua 100 miliwn o ymweliadau bob blwyddyn. Mae'r rhain yn bobl sy'n dod i'n gwlad wych, yn gwario eu harian, yn cefnogi swyddi lleol ac yn mwynhau ein hatyniadau ysblennydd. Rwy'n siomedig braidd, mewn gwirionedd, na wnaeth yr Aelodau enwi rhagor o atyniadau neu ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, ond crybwyllwyd rhai ohonynt heddiw, ac mae gennym bum ardal o harddwch naturiol eithriadol wedi'u dynodi eisoes, a hefyd, wrth gwrs, y parciau cenedlaethol ledled Cymru ac atyniadau gwych. Mae tair o'r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol hynny, wrth gwrs, yn y gogledd, ac efallai y bydd rhai'n dadlau mai dyna'r rhan fwyaf deniadol o Gymru, ond ni feiddiaf ddweud hynny yn awr. Mae pwynt 1 yn ein cynnig yn datgan ein bod yn dathlu
'cryfder Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf i dwristiaid.'
Roeddwn yn rhyfeddu, mewn gwirionedd, fod Llywodraeth Cymru wedi dewis dileu'r rhan honno o'n cynnig. O'r holl rannau o'n cynnig, mae dathlu Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf i dwristiaid yn eithaf diniwed. Roeddwn yn siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gwneud hynny. Dyna oedd y peth cyntaf. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, a ydych eisiau gwneud—?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr.
Diolch am dderbyn ymyriad. Yn bendant—rwy’n meddwl ein bod ni i gyd yn y Siambr hon eisiau dathlu’r hyn sydd gennym i’w gynnig mewn perthynas â thwristiaeth. Mae’r gwahaniaeth yma rhwng dathlu, gwneud y gorau o, a chamfanteisio, ac mewn gwirionedd rwy’n croesawu’r gwahaniaethau a wnaed yn glir heddiw. Mae’n ymddangos bod y Ceidwadwyr ym mhob dim a ddywedoch chi yn awyddus iawn i weld twristiaeth fel rhywbeth i gamfanteisio ar Gymru. Mae fy mhlaid yn awyddus i gefnogi ein cymunedau lle mae twristiaeth yn digwydd, a chefnogi busnesau twristiaeth sydd am fod yn broffidiol ac yn gynaliadwy. A hoffwn wahodd yr Aelod i ystyried rhai o’r sylwadau heddiw sy’n ymddangos yn ddi-hid iawn ynghylch y cymunedau yr effeithir arnynt yn fawr gan y dwristiaeth sy’n digwydd yng Nghymru.
Rwy’n meddwl efallai fod yr Aelod yn drysu rhwng ein cefnogaeth i fusnesau ac economïau lleol a’r effaith y mae hynny’n ei chael ar gymunedau. Mae cymaint o fusnesau twristiaeth yn cefnogi’r union gymunedau sy’n bwysig i chi ac i ninnau i’r un graddau.
Yr ail bwynt a godwyd, rwy'n credu, ac a amlinellwyd gan Natasha Asghar yn enwedig oedd yr effaith a gafodd COVID-19 ar ein sector twristiaeth yma yng Nghymru—arweiniodd cyfyngiadau symud at gau nifer o fusnesau, tra bod eraill wedi cael trafferth i ddal i fynd—a chydnabod y cymorth a gafodd y busnesau hynny gan Lywodraeth y DU ond hefyd gan Lywodraeth Cymru yn eu gwaith allgymorth yn ystod y cyfnod hwnnw, anodd iawn i’r busnesau hynny.
Roedd llawer o Aelodau, wrth gwrs, yn angerddol iawn ynghylch y syniadau ynglŷn â’r dreth dwristiaeth, a grybwyllwyd gan Janet Finch-Saunders dros Zoom yno. Roedd gan James Evans, yn arbennig, farn gref iawn nad oedd yn syniad da i’r sector yma yng Nghymru. Fel yr amlinellodd yr Aelodau, mae ffigurau blaenllaw o bob rhan o’r sector twristiaeth yn unfryd eu barn nad ydynt yn cefnogi cyflwyno’r dreth hon. A nododd Natasha Asghar hefyd fod y busnesau hynny eisoes yn talu mwy na threthiant drwy TAW o gymharu â gwledydd eraill. Felly, efallai fod treth bellach eto yn rhywbeth nad yw o gymorth ar hyn o bryd.
Cyfeiriodd Janet Finch-Saunders at nifer y bobl sy’n gweithio mewn diwydiannau’n ymwneud â thwristiaeth—143,500 o bobl yma yng Nghymru. Yr union gymunedau y mae Rhun ap Iorwerth yn sôn amdanynt, yr union bobl yn y cymunedau hynny sydd wedi cael eu cynnal gan y swyddi hynny. Ac wedyn hefyd, wrth gwrs, nododd Tom Giffard, ynghylch treth dwristiaeth, ei bod yn cael ei defnyddio mewn rhai rhannau o'r byd, mewn gwirionedd, i leihau twristiaeth. Nawr, byddem i gyd yn cytuno bod angen twristiaeth gynaliadwy, a’i bod yn bwysig inni, ond nid yw twristiaeth gynaliadwy yn golygu llai o ymwelwyr na llai o dwristiaid. Nid yw'n golygu llai o fusnesau. Mewn gwirionedd mae'n golygu ei wneud mewn ffordd sy'n cynnwys ein cymunedau, ac sydd hefyd yn sicrhau bod gennym brofiad gwych i'n twristiaid allu ymweld dro ar ôl tro. Roeddwn yn falch, wrth gwrs, fod hyd yn oed Mabon ap Gwynfor wedi gallu dweud pa mor bwysig yw’r sector i’r economi yma yng Nghymru.
Rwy’n meddwl mai’r pwynt olaf, Ddirprwy Lywydd, a drafodwyd yn helaeth wrth gwrs, ac yn briodol felly, yw’r newidiadau arfaethedig gan Lywodraeth Cymru i’r system ardrethi annomestig a’r effaith a gaiff hynny ar lawer o fusnesau gosod tai gwyliau. Roedd ymyriadau Russell George yn arbennig o angerddol ar y mater—ar ddiwrnod pwysig i Russell George heddiw, rwy’n credu. Ond mae’n fater difrifol iawn ac mae angen mynd i’r afael ag ef yn sicr.
Mae’r meini prawf ar gyfer newid i 182 diwrnod o ran gwneud llety hunanarlwyo yn agored i dalu ardrethi busnes—mae cymaint o fusnesau presennol yn dweud na fyddant yn gallu cyflawni hynny. Efallai mai mater technegol ydyw, ond mae’n un pwysig iawn pan fo cymaint o’r busnesau hynny yn methu wedyn, a dim modd defnyddio’r eiddo hwnnw ar gyfer unrhyw beth arall a’u bod yn wag o ganlyniad. Mae’n ymddangos fel rhywbeth y mae Llywodraeth— . Rwy’n gwerthfawrogi sylwadau’r Gweinidog ynghylch myfyrio ar y mater hwnnw.
Soniodd Tom Giffard fod y mater wedi'i drafod gyda swyddogion Llywodraeth Cymru yn y grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth a gynhaliwyd fis diwethaf. Rwy’n ddiolchgar iddynt am ddod i’r cyfarfod hwnnw. Mae’n amlwg y byddai newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru yn niweidiol iawn i fywoliaeth llawer o bobl, ac rwy’n sicr yn gobeithio y caiff y sylwadau hynny eu hystyried o ddifrif.
Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, mae angen inni gofio mai nawr yw’r amser i annog menter a busnes yma yng Nghymru. Mae angen inni annog pobl i ymweld â Chymru a gwario eu harian yn ein busnesau, gan gynnal y swyddi a’r cymunedau sydd mor hanfodol bwysig. Mae ymwelwyr â Chymru yn gwario arian sylweddol ac yn buddsoddi’n sylweddol yn ein gwlad, er budd ein heconomïau lleol, o westywyr i fwytai i’r rhai sy’n rhedeg atyniadau anhygoel ar hyd a lled Cymru.
Ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw’r diwydiant hwn i’n gwlad: 145,000 o swyddi wedi’u cynnal o’i herwydd. Nawr yw’r amser i ddathlu’r sector hwn a gwerthfawrogi bod pobl o bob rhan o’r byd yn dod i ddewis Cymru fel lle i ymweld ag ef. Yn y ddadl heddiw, mae gennym gyfle gwych i ddangos i’r sector twristiaeth ein bod ar eu hochr hwy, ein bod yn cydnabod y gwaith eithriadol y maent yn ei wneud yn darparu swyddi, a pha mor bwysig yw hynny i economi Cymru. Felly, heddiw rwy’n annog pawb i gefnogi’r cynnig sydd o’n blaenau. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.