– Senedd Cymru ar 27 Ebrill 2022.
Eitem 7—. Na, eitem 6. Wrong numbers today. Eitem 6, dadl Plaid Cymru ar yr argyfwng costau byw a thai. Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7989 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod yr argyfwng costau byw sy'n effeithio ar aelwydydd ledled Cymru yn cynyddu'r risg o ddigartrefedd.
2. Yn nodi bod gwerthoedd rhentu cyfartalog yng Nghymru wedi cynyddu i £726 y mis ym mis Mawrth 2022, i fyny 7.2 y cant o'i gymharu â mis Mawrth 2021.
3. Yn nodi, er bod y lwfans tai lleol wedi'i gynllunio i gwmpasu'r 30 y cant isaf o aelwydydd yng Nghymru, mai dim ond 3.8 y cant o aelwydydd sy'n cael eu cwmpasu ganddo mewn gwirionedd.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddiwygio'r lwfans tai lleol i sicrhau ei fod yn gweithio i Gymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried argymhellion map ffordd End Youth Homelessness Cymru.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi eisiau nodi ar y cychwyn fan hyn—neu roi datganiad o ddiddordeb sydd ar y record gyhoeddus. A gaf i hefyd ddweud fy mod i'n nodi mai'r Dirprwy Weinidog sy'n ymateb heddiw, ac ein bod ni oll ar yr ochr yma yn estyn ein meddyliau a'n cydymdeimladau i'r Gweinidog ar adeg anodd iddi hi a'i theulu?
Dwi am gynnig y cynnig yn ffurfiol.
Gadewch inni ddechrau gyda ffaith, rhywbeth y mae pawb ohonom yn ei wybod. Rydym yng nghanol argyfwng tai ac un o'r argyfyngau costau byw gwaethaf y gallwn ei gofio. Mae’r argyfyngau hyn sy’n ein hwynebu yn rhyng-gysylltiedig. Mae’r argyfwng tai—neu’n hytrach, llawer o’r problemau mwyaf hollbresennol sy’n gysylltiedig â thai—yn gyrru’r argyfwng costau byw, ac yn ei dro, mae’r argyfwng costau byw yn gwaethygu'r argyfwng tai.
Defnyddir y lwfans tai lleol i bennu uchafswm y cymorth y mae gan unigolyn sy’n cael budd-dal tai neu elfen tai y credyd cynhwysol hawl i’w gael tuag at ei gostau rhentu yn y sector rhentu preifat. Dylai roi sicrwydd y gellir talu'r rhent. Fel y nododd Sefydliad Bevan, un ffactor sydd wedi chwarae rhan sylweddol yn natblygiad yr argyfwng tai heddiw, ac yn ei dro, yr argyfwng costau byw a wynebwn yn awr, yw diwygiadau a wnaed i’r lwfans tai lleol. Fe'i cynlluniwyd i ganiatáu i denant rentu eiddo yn y 30 y cant rhataf o dai mewn ardal marchnad. Ond mae’r diwygiadau a wnaed i’r lwfans tai lleol yn golygu bod y swm o arian y mae aelwyd incwm isel yn ei gael drwy fudd-dal tai neu elfen tai y credyd cynhwysol yn aml yn llai na’u rhent, sy’n golygu bod yn rhaid iddynt ddod o hyd i'r gwahaniaeth rywsut.
Mae’r heriau hyn yn effeithio’n arbennig ar bobl sengl o dan 35 oed heb ddibynyddion, oherwydd bod cyfradd y lwfans tai lleol wedi’i gosod ar y gyfradd llety a rennir, sy’n golygu bod cymorth ariannol sydd ar gael iddynt drwy’r system nawdd cymdeithasol yn gyfyngedig. Y canlyniad yw bod 68 y cant o’r aelwydydd sydd mewn perygl o wynebu digartrefedd yn 2019 yn aelwydydd un person. Yn y pen draw mae hyn yn dangos pa mor agored i berygl digartrefedd yw pobl iau, yn rhannol o ganlyniad i'r materion sy'n ymwneud â'r lwfans tai lleol. Mae tystiolaeth yn dangos bod bwlch wedi datblygu rhwng lwfans tai lleol a rhenti. Mae ffigurau’r Adran Gwaith a Phensiynau ei hun hyd yn oed yn nodi bod cyfradd y lwfans tai lleol yn is na rhenti 67 y cant o rentwyr sy’n cael credyd cynhwysol yng Nghymru ac sydd â hawl i’r elfen tai.
Erbyn hydref y llynedd ac ar draws y 10 awdurdod lleol yr edrychwyd arnynt, dengys ymchwil gan Sefydliad Bevan mai dim ond 3.8 y cant o’r holl eiddo ar y farchnad a hysbysebwyd ar gyfraddau a oedd ar lefel y lwfans tai lleol neu’n is. Roedd y sefyllfa'n fwy difrifol i'r rhai mewn llety a rennir, gydag effeithiau gwaeth i bobl sengl o dan 35 oed heb ddibynyddion. At hynny, canfuwyd nad oedd unrhyw eiddo llety a rennir wedi cael ei hysbysebu ar gyfraddau’r lwfans tai lleol mewn tri o bob 10 awdurdod lleol, ac roedd y bwlch rhwng y lwfans tai lleol a rhenti mewn chwech o’r 10 awdurdod lleol yn fwy na £100 y mis. Rhewi'r lwfans tai lleol rhwng 2016 a 2020 yw'r rheswm mwyaf amlwg dros y bwlch rhwng lwfans tai lleol a rhenti. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a swyddogion awdurdodau lleol yn cytuno bod rhenti wedi codi yng Nghymru yn ystod 2021, fel y maent yn parhau i wneud yn 2022. Er gwaethaf cynnydd amlwg yn y rhent, mae’r lwfans tai lleol wedi’i rewi ar lefelau 2020-2021, gan ehangu’r bwlch ymhellach a sicrhau bod mwy o bobl ar eu colled.
Dylem hefyd ystyried mater taliadau disgresiwn at gostau tai. Mae awdurdodau wedi ceisio ymateb i’r problemau a grybwyllwyd drwy gymryd camau i gymell landlordiaid i rentu ar lefelau rhenti lwfans tai lleol, a defnyddiwyd taliadau disgresiwn at gostau tai at y diben hwn. Er mai mesur cymorth tymor byr yw’r defnydd a fwriadwyd ar eu cyfer er mwyn talu am ddiffygion rhent, blaendaliadau ac ôl-ddyledion rhent, defnyddiodd awdurdodau lleol daliadau disgresiwn at gostau tai dros gyfnodau hwy i ymateb i’r bwlch rhent lwfans tai lleol. Mae cymorth taliadau disgresiwn at gostau tai yn amrywio o un awdurdod lleol i'r llall, gyda pheth tanwariant sylweddol. Ac oherwydd ei natur fel mesur tymor byr, nid yw'n ddiogel yn hirdymor, ond byddem yn annog awdurdodau lleol i ddefnyddio'r taliadau hyn, fel bod y rhai sydd mewn angen yn cael rhyw fath o gymorth yn y tymor byr o leiaf.
Mae ein cynnig hefyd yn cyfeirio at ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Fel y nodwyd gennym eisoes, mae pobl iau, neu'n hytrach, rhai dan 35 oed, yn wynebu heriau unigryw gyda lwfans tai lleol, oherwydd bod cyfradd y lwfans tai lleol wedi'i gosod ar y gyfradd llety a rennir. Mae pobl iau, sy’n tueddu i fod â llai o adnoddau ariannol, hefyd yn cael eu cau allan o lety rhent fforddiadwy o ansawdd da, oherwydd arferion landlordiaid, megis gofynion ariannol. Mae pobl ifanc yn profi digartrefedd, a’r peryg ohono, mewn ffyrdd unigryw, ac mae angen inni drin digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn wahanol.
Dengys ymchwil fod 48 y cant o bobl ddigartref yng Nghymru wedi bod yn ddigartref am y tro cyntaf cyn eu bod yn 21 oed. Ymhellach, roedd 73 y cant wedi bod yn ddigartref fwy nag unwaith, sy'n dangos, os byddwch yn profi digartrefedd unwaith, mae'n debygol o ddigwydd eto. Dengys hyn fod angen ymyrryd yn gynnar i atal pobl ifanc rhag mynd yn ddigartref er mwyn rhoi diwedd ar ddigartrefedd ymhlith oedolion. Mae achosion ac effeithiau digartrefedd ar bobl ifanc yn wahanol i brofiadau oedolion mewn rhai ffyrdd allweddol. Mae pobl ifanc sy’n profi digartrefedd ar adeg allweddol o’u datblygiad, yn gymdeithasol, yn seicolegol ac yn ffisiolegol. Yn ogystal, pan wynebant argyfwng o'r fath, nid oes gan bobl ifanc brofiad o fyw'n annibynnol na'r gwytnwch sydd gan oedolion.
Mae pobl ifanc hefyd yn cael eu trin yn wahanol gan nifer o feysydd y gyfraith. Er enghraifft, ar hyn o bryd, ceir cyfyngiad ar faint o fudd-dal tai y gall pobl ifanc o dan 35 oed ei dderbyn i allu cael llety diogel. Yn ôl ffigurau’r Llywodraeth, tor-perthynas yw’r prif reswm uniongyrchol unigol dros ddigartrefedd. Mae chwalfa deuluol yn argyfwng i bobl o bob oed, ond mae’n debygol o fod yn fygythiad mwy uniongyrchol i unigolyn ifanc sy'n dibynnu ar aelodau teuluol am gartref.
Yn aml, ni fydd unigolyn yn gwybod ble i droi am gyngor a chymorth, gan eu gadael mewn sefyllfaoedd anniogel a allai arwain at gael eu cam-drin. Am yr holl resymau hyn, mae digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn galw am ddull gwahanol o weithredu i'r un a ddefnyddir i ymdrin â digartrefedd ymhlith oedolion. Mae map ffordd End Youth Homelessness Cymru, y cyfeiriwn ato yn ein cynnig, yn darparu fframwaith atal digartrefedd cynhwysfawr yr hoffem weld Llywodraeth Cymru yn ei roi ar waith yn llawn. Mae’r fframwaith yn pwyso ar argymhellion y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd, ac yn darparu fframwaith clir o’r macro i’r micro, o’r mentrau cymdeithas gyfan eang sydd eu hangen i atal y problemau sy’n tanseilio gallu pobl ifanc i gael mynediad at lety diogel, sefydlog a chynaliadwy, i ddulliau wedi’u targedu, sy'n edrych ar grwpiau risg uchel fel pobl ifanc agored i niwed a phobl ifanc drwy newid peryglus, megis gadael gofal, carchar neu driniaeth iechyd meddwl i gleifion mewnol. Gwyddom fod chwalfa deuluol yn gyfrannwr allweddol, ydy, ac mae’r map ffordd yn cynnig rhai camau clir ynglŷn â'r modd yr ymdriniwn â’r sefyllfaoedd hyn. Yn anffodus, fodd bynnag, fe wyddom mai’r ffactor sy’n cyfrannu fwyaf at wneud rhywun yn ddigartref yw tlodi. Dylai’r Llywodraeth gyflwyno strategaeth tlodi plant gynhwysfawr gyda cherrig milltir mesuradwy ac uchelgeisiol clir, i ddarparu digon o dai fforddiadwy ar gyfer pobl ifanc, ac rydym yn argymell bod awdurdodau lleol yn mynd ati’n rhagweithiol i geisio barn pobl ifanc wrth bennu’r angen am dai ar gyfer cynlluniau datblygu lleol.
Mae gennym argyfwng tai ac argyfwng costau byw sy'n effeithio ar bawb; fodd bynnag, mae pobl ifanc, yn enwedig pobl ifanc agored i niwed, mewn llawer mwy o berygl. Dyma’r genhedlaeth nesaf, y genhedlaeth a fydd yn gofalu amdanom ni wrth inni heneiddio. Mae’r bobl ifanc hyn yn ail-ddychmygu Cymru yr eiliad hon. Gallant weld nad yw'r hyn sydd gennym yn gweithio iddynt hwy. Maent eisiau gweld hyn yn newid, ac maent yn disgwyl i ni wrando ar eu pryderon a gweithredu. Mae'r drefn bresennol yn gwthio pobl i fyw mewn tlodi ac amddifadedd. Ai hon yw’r Gymru yr ydym am ei gadael i’r genhedlaeth nesaf? Diolch.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig a galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 3—Darren Millar
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a. ailgyflwyno hawl i brynu ddiwygiedig;
b. datblygu cynllun i Gymru gyfan i ddarparu cymhellion i sicrhau bod mwy o gartrefi gwag y mae angen eu hadnewyddu yn cael eu defnyddio unwaith eto;
c. ymateb i argymhellion map ffordd End Youth Homelessness Cymru;
d. diystyru cyflwyno rheolaethau rhent yng Nghymru.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n falch iawn o gynnig y gwelliannau hynny. Cyfeiriaf yr Aelodau hefyd at fy natganiad o fuddiant ar fater perchnogaeth ar eiddo.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i drafod yn ein Senedd yr argyfwng costau byw sy'n effeithio ar drigolion ym mhob un o'n hetholaethau. Eisoes, mae Llywodraeth y DU yn torri treth ar danwydd, er enghraifft, yn codi trothwyon yswiriant gwladol, ac yn darparu pecyn ad-daliad bil ynni sy’n werth £9.1 biliwn.
Rydych chi'n gofyn yn awr am ystyried diwygio'r lwfans tai lleol. Er yr hoffwn glywed rhagor o fanylion am y diwygio arfaethedig, gwn fod Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl am weld camau cadarnhaol pellach gan Lywodraeth y DU, megis ailadrodd y penderfyniad yn 2021 i ddadrewi elfen cymorth cost tai y credyd cynhwysol, ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn eithaf pryderus ynghylch nifer y bobl nad ydynt yn cael digon o arian i dalu eu rhent. I mi, mae'n hawl sylfaenol. Felly, byddaf yn sicr yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn iddi edrych ar hyn, oherwydd mae’n peri pryder imi fod bwlch rhwng y taliad lwfans tai lleol a’r rhent misol cymedrig cyfartalog o bron i £92. Fodd bynnag, mae’n ffaith bod faint y mae unigolyn yn ei dderbyn mewn budd-dal tai yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys y ffigur is o rent sy'n gymwys, neu gyfradd y lwfans tai lleol, incwm aelwyd, gan gynnwys budd-daliadau, pensiynau a chynilion dros £6,000, ac amgylchiadau megis oedran neu anabledd.
Rwy’n siŵr fod pob un ohonom fel Aelodau’r Senedd eisiau i bobl fod mewn cartrefi gweddus lle gallant wedyn fynd ar drywydd y swyddi y maent yn eu caru a chynilo—un diwrnod, y gallant gynilo—i gael cartref iddynt hwy eu hunain. Felly, rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n cytuno ag awgrym y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS fod hybu eiddo cymdeithasol ar rent yn ffordd allweddol i mewn i berchentyaeth, gan y bydd rhentwyr yn gallu cynilo mwy i brynu eu cartref eu hunain. A phwy ydym ni i ddweud nad yw pobl, neu na ddylai pobl haeddu cael cartref eu hunain?
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn glir y dylem gael targed uchelgeisiol i adeiladu 100,000 o gartrefi dros y 10 mlynedd nesaf, gan sicrhau digon o dai fforddiadwy yn ein cymunedau lleol, yn cynnwys 40,000 o gartrefi cymdeithasol. Ar adeg pan na chwblhawyd mwy na 4,616 o anheddau newydd yn 2021, pan ddylai’r ffigur fod wedi bod yn 12,000, mae’n ffaith yn y bôn na chaiff prosiectau tai newydd eu hyrwyddo.
Mewn gwirionedd, yr hyn a welwn yn awr o ganlyniad i’r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yw un sy’n gwneud y gwrthwyneb yn llwyr i wneud cartrefi’n fforddiadwy i bobl leol ar incwm isel. Dengys arolwg landlordiaid preifat Lloegr yn ddiweddar fod 70 y cant o landlordiaid yn cadw rhenti yr un fath yn hytrach na’u codi wrth ymestyn neu adnewyddu cytundeb tenantiaeth. Felly, dylai tenantiaid fod yn ymwybodol mai’r hyn y mae Plaid Cymru a Llafur Cymru yn galw amdano yw cynnydd yn y rhent a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru. Mewn gwirionedd, dylai tenantiaid sy’n gwylio hyn heddiw fod yn ymwybodol y gallai bwriad Plaid Cymru a Llafur Cymru olygu eich bod mewn tai o ansawdd gwaeth, oherwydd mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi canfod cydberthynas rhwng gwledydd sydd â'r rheolaethau rhent llymaf ac ansawdd gwaeth. Mae’r neges yn glir: dylem gefnogi tenantiaid drwy beidio â gorfodi landlordiaid i godi rhenti, a thrwy weld Cymru’n darparu mwy o dai cymdeithasol a stoc y farchnad.
Ond wrth gwrs, dylid cael polisïau eraill i ategu hyn, megis ailgyflwyno’r hawl i brynu, sy’n sicrhau bod elw gwerthiant yn cael ei ailfuddsoddi mewn mwy o dai cymdeithasol a diogelu’r cartrefi hynny sydd ar werth am 10 mlynedd; datblygu cynllun Cymru gyfan i ddarparu mwy o gymhellion i ailddefnyddio mwy o gartrefi gwag sydd agen eu hadnewyddu; a chamau pellach i fynd i'r afael â digartrefedd.
Nid wyf yn gwybod faint o’r Aelodau sydd wedi ystyried y map ffordd ar gyfer rhoi diwedd ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Mae’n amlwg ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r argymhellion yn fanwl, ond mae angen iddynt egluro i’r Senedd heddiw pam nad yw’n ofynnol i awdurdodau lleol fynd ati’n rhagweithiol ar hyn o bryd i geisio barn pobl ifanc wrth bennu’r angen am dai ar gyfer cynlluniau datblygu lleol. Nid yw pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn cael eu cynnwys ym mholisïau caffael cymdeithasol Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ac yn syml iawn, nid oes gennym strategaeth tlodi plant gynhwysfawr gyda cherrig milltir clir—
Janet, mae angen i chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.
—ac uchelgeisiol. Mae pobl Cymru yn haeddu cartrefi gweddus, ac rwy’n cymeradwyo’r llu o adeiladwyr a landlordiaid am sicrhau hynny. Diolch.
A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon? Rwyf hefyd yn falch nad fy llais i'n unig sy'n mynegi pryderon ynghylch tai mwyach—rydym yn siarad amdano fwy a mwy. A gaf fi ddweud rhywbeth mewn ymateb i'r hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders? Ac rwy'n fodlon derbyn ymyriad os yw'r hyn rwy’n ei ddweud yn anghywir. Hoffwn ddweud, yn ddiamwys, nad oes neb eisiau i landlordiaid godi rhenti. Nid oes neb eisiau i hynny ddigwydd.
Y prif ateb ar ôl y rhyfel i'r argyfwng tai oedd adeiladu tai cyngor. Fe weithiodd. Rwy'n credu mai dyma'r ateb hirdymor gorau o hyd. Fodd bynnag, fe gymerodd 25 mlynedd ar ôl yr ail ryfel byd i gyrraedd yn agos at gydbwysedd o ran tai. Felly, nid yw adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr yn ateb cyflym. Fodd bynnag, dyna’r unig ateb hirdymor a fydd yn gweithio, gyda’r tai a adeiladir yn rhai ynni isel, gan leihau costau ynni i’r bobl sy’n byw yn y tai hynny, a helpu i ddatrys y broblem arall sydd gennym, sef newid hinsawdd. Mae'n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill.
Fodd bynnag, rwy’n bryderus ar hyn o bryd fod gan dros 70 y cant o aelwydydd rhent preifat yng Nghymru sy’n dibynnu ar gredyd cynhwysol i dalu eu rhent ddiffyg rhwng y swm a gânt a’r rhent y maent yn ei dalu. Gyda’r lwfans tai lleol wedi’i rewi yn nhermau arian parod ers mis Ebrill y llynedd, mae’r gyfran hon gyda’r diffyg ariannu yn mynd i gynyddu ymhellach eto, er bod rhenti preifat yng Nghymru wedi codi llawer llai na chwyddiant. Nid yw landlordiaid preifat yn gwthio’r rhent i fyny, ond yr hyn sy’n digwydd yw nad yw’r lwfans tai lleol yn dod yn agos at gyrraedd yr hyn sydd ei angen.
O ystyried yr argyfwng costau byw, mae’n afresymegol ac yn greulon cael system budd-daliadau tai sy’n methu adlewyrchu realiti rhenti preifat. Mae angen i Lywodraeth y DU ddadrewi’r lwfans tai lleol ar fyrder a’i gysylltu â rhenti cyfartalog mewn unrhyw ardal benodol. Heb hyn, mae nifer cynyddol o rentwyr yn mynd i’w chael yn anodd talu eu rhent, bwyta a gwresogi eu cartrefi—bydd rhaid mynd heb rywbeth. Ac os ewch i weld y ciwiau mewn banciau bwyd, gallwch weld un o'r pethau y mae pobl yn mynd hebddo.
Mae llawer o bobl, teuluoedd sy'n gweithio yn bennaf, heb unrhyw fai arnynt hwy, yn wynebu gwasgfa ariannol ddifrifol. Nid oes unrhyw gyfiawnhad dros barhau i fethu darparu cymorth budd-dal tai sy’n rhoi sicrwydd o wybod y gall y rhai sy’n dibynnu arno dalu eu rhenti. Y cyfan y mae'n ei wneud yw gwaethygu'r argyfwng costau byw sydd eisoes yn ddifrifol y mae llawer o denantiaid ledled y wlad yn ei wynebu. Yn bwysig, ychydig o dystiolaeth a geir i awgrymu y byddai cynyddu’r lwfans tai lleol yn chwyddo rhenti yn artiffisial. Fel y nododd Ruth Ehrlich, rheolwr polisi gyda Shelter:
'Nid ydym wedi canfod unrhyw berthynas arwyddocaol rhwng cyfran y bobl sy'n hawlio lwfans tai lleol mewn ardal benodol a chwyddo rhenti.'
Galwaf ar y Canghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau i ddadrewi’r gyfradd tai leol, a galwaf hefyd ar Lywodraeth Cymru i alw am yr un peth gan Lywodraeth San Steffan.
Yn 2021, mewn ymateb i’r pandemig, wedi blynyddoedd lawer, penderfynodd Llywodraeth y DU ddadrewi elfen cymorth cost tai y credyd cynhwysol, a elwir yn lwfans tai lleol. Golygai y byddai’n talu'r 30 y cant isaf o brisiau rhent mewn unrhyw ardal benodol—heb fod yn agos at yr hyn a ddylai fod, ond roedd yn symud i’r cyfeiriad cywir. Yn ei adolygiad o wariant yn 2020, fodd bynnag, unwaith eto penderfynodd y Canghellor rewi cyfradd y lwfans tai lleol yn nhermau arian parod o 1 Ebrill 2021. Felly, bob blwyddyn sy’n mynd heibio, ceir 2 neu 3 y cant yn fwy o bobl nad ydynt yn cael digon. Wrth i renti godi, bydd y gyfran o'r eiddo y gall rhentwyr preifat sy'n cael credyd cynhwysol ei fforddio yn gostwng yn raddol. Mae swm y cymorth y bydd rhentwyr yn ei gael yn gysylltiedig â lefel y rhenti yn 2019, dair blynedd yn ôl, nid rhenti presennol. Nid yw’n syndod fod y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi disgrifio’r rhewi fel cam 'mympwyol ac annheg'. Byddwn yn ychwanegu dau air arall at hynny: angharedig a diangen.
Mae’r data diweddaraf sydd ar gael gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dangos, ym mis Tachwedd 2021, ledled Cymru, fod gan bron i 62,000, sef dwy ran o dair o’r tai rhent preifat sy’n cael budd-dal, fwlch rhwng eu dyfarniad lwfans tai lleol a’u rhent misol. Sut y gallant ddod o hyd i'r diffyg? Drwy ostwng y gwres, diffodd y gwres, peidio â phrynu'r tocynnau i dalu am y gwres ac yn fwy difrifol, mynd heb fwyd. Ac rwyf wedi dweud hyn o'r blaen, y bydd pobl, mamau yn bennaf, yn mynd heb fwyd, oherwydd nad oes ganddynt ddigon o fwyd i fwydo eu hunain a'u plant, felly eu plant sy'n dod yn gyntaf. Ai dyna’r math o gymdeithas rydym ei heisiau? Ai dyna’r math o gymdeithas y mae’r Ceidwadwyr eisiau ei gorfodi arnom?
Dylid nodi bod hyn i gyd yn digwydd—[Torri ar draws.] Yn sicr.
Diolch, Mike. Rwy’n cytuno â’r holl bwyntiau a nodwyd gennych, ac yn sicr nid dyma’r gymdeithas rydym ni ei heisiau. A gytunwch â mi, ddydd Iau nesaf, ei bod yn bryd anfon neges at Lywodraeth Geidwadol y DU a phleidleisio dros Lafur?
Dyna rwy’n ei ddweud bob amser, Jack Sargeant.
Dylid nodi bod hyn i gyd yn digwydd er bod rhenti preifat ar draws y DU wedi codi lawer llai dros y flwyddyn ddiwethaf na phob mesur o chwyddiant. A gaf fi gytuno â’r Ceidwadwyr ar un peth? Mae gormod o eiddo gwag. Ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’r tair wythnos ddiwethaf yn canfasio a dosbarthu taflenni, mae’n drist gweld cymaint o eiddo wedi'i adael yn wag, yn aml mewn ardaloedd y mae pobl eisiau byw ynddynt. Mae eiddo gwag yn adnodd a wastraffir, felly hoffwn weld unrhyw eiddo a adewir yn wag am fwy na phum mlynedd yn gallu cael ei brynu'n orfodol gan yr awdurdod lleol, a'i adnewyddu gan yr awdurdod lleol os oes angen gwneud hynny.
Ac yn olaf, rwyf am nodi mantais sefydlu arolwg tai Cymru a gwella data yn ymwneud â sector rhentu preifat Cymru, er mwyn inni allu gwybod yn union beth yw safon ac ansawdd tai.
Sioned Williams. Na, Sioned, arhoswch eiliad, nid ydych wedi eich dadfudo. Iawn, gallwn eich clywed yn awr.
Iawn?
Ydy.
Diolch . Fel y clywsom gan Mabon ap Gwynfor, mae’r argyfwng costau byw sydd ar hyn o bryd yn taro ein holl gymunedau yn uniongyrchol gysylltiedig â’r argyfwng tai difrifol yng Nghymru, gyda chanlyniadau dinistriol i’n pobl ifanc yn arbennig. Ac o'r sgyrsiau y mae pawb ohonom wedi bod yn eu cael wrth guro drysau dros yr wythnos ddiwethaf a thrwy ein gwaith achos, rwy'n siŵr eich bod chi wedi darganfod, fel finnau, mai un o'r prif ffyrdd y mae pobl wedi bod yn profi effaith yr argyfwng costau byw yw drwy’r codiadau enfawr yn eu biliau ynni a chanlyniadau methu fforddio talu’r biliau hynny.
Mae’r sgyrsiau gofidus ar garreg y drws ac e-byst pryderus gan etholwyr yn cael eu hadlewyrchu gan dystiolaeth yr asiantaethau sy’n ceisio helpu. Ym mis Mawrth, er enghraifft, helpodd Cyngor ar Bopeth fwy o bobl â phroblemau dyled tanwydd nag yn ystod unrhyw fis unigol dros y pum mlynedd diwethaf. Mae chwyddiant uwch hefyd yn gwthio costau bob dydd i fyny. Yr wythnos hon, cyrhaeddodd chwyddiant prisiau bwyd ei gyfradd uchaf ers 11 mlynedd.
Mae’r camau cyfyngedig y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i liniaru’r effaith ar gyllidebau aelwydydd a dyled i’w groesawu, ond hyd yn oed ar ôl ystyried y cymorth sydd ar gael, bydd person sengl ar fudd-daliadau yn dal i wario chwarter ei lwfans safonol, sef cyfradd sylfaenol y credyd cynhwysol, ar filiau ynni. Wrth edrych tuag at fis Hydref, gallai unigolyn sengl ar fudd-daliadau wario rhwng 39 y cant a 47 y cant o'i lwfans safonol ar filiau ynni. Y diffiniad o dlodi tanwydd yw gwario mwy na 10 y cant o’ch incwm ar ynni. Felly, fe wyddom fod y cyfnod anodd yma eisoes ac yn wynebu gormod o aelwydydd yng Nghymru, ac mae’n mynd i fod yn anos eto. Mae’r sefyllfa yn Wcráin, gweithredoedd Putin a diffyg gweithredu Llywodraeth San Steffan i dargedu cymorth lle mae ei angen fwyaf yn gwaethygu sefyllfa sydd eisoes yn wael. A chyda rhenti a phrisiau tai yn codi, mae pobl yn gorfod dewis rhwng symud i eiddo lle mae rhenti’n anghynaliadwy o uchel, symud i eiddo cost isel o ansawdd gwael neu wynebu digartrefedd, a gwyddom fod digartrefedd yn effeithio’n anghymesur ar rai grwpiau yn ein cymdeithas, gan waethygu ymhellach yr anghydraddoldebau y maent yn eu hwynebu.
Mae nifer anghymesur o uchel o bobl ifanc LHDTC+, er enghraifft, ymhlith y boblogaeth ddigartrefedd ehangach, maent yn fwy tebygol o adael llety sefydlog i ddianc rhag cam-drin emosiynol, meddyliol neu rywiol ac maent mewn mwy o berygl o niwed pan fyddant yn ddigartref na phobl nad ydynt yn LHDTC+. Er hynny, nid yw gwasanaethau cymorth a gynlluniwyd i ymateb i’w hanghenion penodol yn darparu'n ddigonol ar eu cyfer, ac yn ôl Stonewall Cymru, mae pobl LHDTC+ yn aml yn cael profiadau gwael o wasanaethau tai, gan gynnwys staff yn gwneud rhagdybiaethau ynghylch eu cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd neu heb wybodaeth ddigonol am y problemau y gallent fod yn eu hwynebu ym maes tai.
Canfu Ymddiriedolaeth Albert Kennedy fod 24 y cant o’r boblogaeth ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc ledled y DU yn nodi eu bod yn LHDT. Mewn cyferbyniad, mae ystadegau’r ONS yn awgrymu mai dim ond 4.1 y cant o’r boblogaeth sy’n LHDT. Yng Nghymru, mae ystadegau ar gyfer 2017-18 yn dangos bod 9 y cant o’r bobl ifanc sy’n defnyddio gwasanaethau tai â chymorth Llamau yn galw eu hunain yn LHDT. Yn ogystal â’r darlun dirdynnol a baentiwyd gan yr ystadegau a grybwyllwyd eisoes, canfu adroddiad ‘Out on the Streets’ End Youth Homelessness Cymru fod pobl ifanc LHDTC+ bedair gwaith yn fwy tebygol o fod yn ddigartref na’u cyfoedion nad ydynt yn LHDTC+—bedair gwaith yn fwy tebygol.
Mae digartrefedd yn drawmatig ac yn heriol i unrhyw un, ond mae pobl ifanc LHDTC+ yn aml yn gorfod ymdopi â thrais a gwahaniaethu homoffobig, deuffobig a thrawsffobig hefyd. O ganlyniad, maent yn wynebu mwy o risg o niwed seicolegol na phobl nad ydynt yn LHDTC+ ac yn fwy tebygol o ddatblygu problemau camddefnyddio sylweddau, o wynebu camfanteisio rhywiol, ac o gael mwy o anhawster i gael lloches ddiogel, aros yn yr ysgol, ennill cyflog a chael mynediad at gymorth cymdeithasol a gwasanaethau iechyd. Mae’n destun pryder fan lleiaf nad yw digartrefedd LHDTC+ yn cael ei grybwyll unwaith yn strategaeth ddigartrefedd Llywodraeth Cymru.
Lywydd, sut y gallwn beidio â gwneud popeth posibl i sicrhau bod y ffactorau sy’n arwain at ddigartrefedd, fel y cawsant eu hamlinellu y prynhawn yma, yn cael sylw brys gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru? Faint o adroddiadau, faint o ystadegau, faint o ymchwil sydd wedi’i rannu yn y lle hwn ac yn Nhŷ’r Cyffredin dros y blynyddoedd? Ond fe gymerodd ddigwyddiad unwaith mewn canrif—pandemig byd-eang—i weithredu go iawn ddigwydd er mwyn rhoi diwedd ar ddigartrefedd, gan brofi mai mater o ewyllys wleidyddol yn unig yw hyn mewn gwirionedd. Dylai tai yn gyntaf fod yn opsiwn diofyn ar gyfer unrhyw un ag anghenion cymhleth sy’n ddigartref, a dylai Llywodraeth Cymru benodi cyfarwyddwr cenedlaethol ar gyfer polisi tai yn gyntaf i gyflawni hyn ledled Cymru.
Rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig. Nid oes angen inni dderbyn y sefyllfa—yn wir, ni allwn wneud hynny heb wneud cam â’n pobl ifanc a'n pobl fwyaf agored i niwed.
Hoffwn ddiolch i Plaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig hon cyn y tswnami a fydd yn ein taro yn y gaeaf o ganlyniad i argyfwng costau byw'r Torïaid—yr argyfwng costau byw a ddyfeisiwyd ac a gyflwynwyd gan Lywodraeth Dorïaidd y DU. Rwy'n cytuno â phopeth y mae Mike Hedges yn ei ddweud. Mae angen inni wneud rhywbeth ar fyrder i fynd i’r afael â chostau byw cartrefi—nid yn unig y rhent, ond hefyd y gwresogi, ac rwy’n siŵr y down yn ôl i drafod hynny eto.
Hoffwn ganolbwyntio ar fater y lwfans tai lleol, gan y credaf, er bod y gyfradd wedi’i gosod er mwyn i'r 30 y cant isaf o eiddo fod yr hyn a elwir yn fforddiadwy, yr hyn sy’n wir mewn gwirionedd yw bod llai na 4 y cant o eiddo'n fforddiadwy—4 y cant. Dychmygwch hynny ym mha le bynnag y mae eich etholaeth. Os mai 4 y cant yn unig o'r eiddo sydd ar gael i rywbeth fel 25 i 35 y cant o'r bobl sy'n byw yno, mae'n amlwg fod yna broblem enfawr. Ac mae hynny wedi'i amlygu'n dda iawn ar dudalen Llywodraeth Cymru ar y lwfans tai lleol. Mae’r cwestiynau cyffredin yn nodi, os yw’ch rhent yn uwch na chyfradd y lwfans tai lleol, y bydd yn rhaid ichi dalu’r gwahaniaeth, ac os na allwch fforddio talu, bydd angen ichi ddod o hyd i lety sydd o fewn cyfradd y lwfans. Syniad da, ond nid yw'r gyfradd honno ar gael.
Caerdydd sydd â’r lefelau rhent uchaf yng Nghymru o bell ffordd, ac mae cysylltiad rhwng hynny a'r ffaith mai fy etholaeth i sydd â’r nifer uchaf o fyfyrwyr yn y DU. Yn amlwg, mae bodolaeth y farchnad dai myfyrwyr yn annog landlordiaid i godi’r rhenti ar gyfer myfyrwyr, gan wybod (a) nad ydynt yn gymwys i gael y lwfans tai lleol, ond (b) am eu bod yn gorfod cael cymaint o ddyled beth bynnag o fod yn mynd i'r brifysgol, cânt eu hannog i dderbyn y sefyllfa. Anaml iawn y bydd myfyrwyr yn dod ataf i gwyno am gyflwr truenus y tai y mae'r landlordiaid hyn yn codi symiau anferth amdanynt.
I fynd yn ôl at y teuluoedd cyffredin nad ydynt yn fyfyrwyr ond sy'n gorfod chwilota o gwmpas i edrych am y 4 y cant o eiddo sydd ar gael ac sy'n fforddiadwy, roedd un o'r etholwyr y bûm yn ymwneud â hwy dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf—i fynd yn ôl at yr hyn a oedd gan Janet Finch-Saunders i'w ddweud—yn credu bod ganddynt eu cartref eu hunain. Roeddent wedi bod yn byw yno am y naw mlynedd diwethaf, teulu o bump. Nid yw'r landlord yn gwneud fawr ddim gwaith cynnal a chadw arno, ond roeddent wedi bod yn gwneud y gwaith eu hunain er mwyn osgoi cael eu troi allan am ofyn am i’r gwaith atgyweirio gael ei wneud, neu fod eu teulu’n cael rhyw fath o ddamwain o ganlyniad i gyflwr yr adeilad.
Maent mewn eiddo rhad iawn ar hyn o bryd o ystyried safonau Caerdydd—eiddo tri llofft am £850. Ond mae hynny'n dal i olygu eu bod yn gorfod rhoi dros £75 y mis o'u harian eu hunain, o gyflog isel yr un unigolyn dan sylw, i sybsideiddio'r tŷ, ac mae hwnnw'n arian y maent i fod i'w ddefnyddio ar gyfer bwyd a chostau'r tŷ a chostau eraill. Mae’r teulu hwn, sydd wedi bod yn byw yn yr eiddo ers naw mlynedd, bellach ar fin bod yn ddigartref, gan fod y gorchymyn llys i’w troi allan eisoes wedi’i ganiatáu. Gallent gael eu hanfon i unrhyw le yng Nghaerdydd, ac yn y cyfamser, mae un o’r plant ym mlwyddyn 6 yn yr ysgol gynradd, ac mae hi’n wynebu naill ai sawl milltir i gyrraedd yr ysgol neu orfod symud ar y cam hwyr hwn yn ei gyrfa ysgol. Mae hyn yn gwbl ddinistriol, a dyma un o’r prif resymau pam nad yw tai rhent preifat yn addas ar gyfer pobl â phlant, gan nad yw’n rhoi dim o’r sicrwydd sydd ei angen arnoch er mwyn gwneud yn siŵr y gall eich plant barhau i fynd i'r un ysgol.
Ar wahân i hynny, mae lefelau’r diffyg tai yng Nghaerdydd yn wirioneddol ddinistriol. Ar gyfer tai dwy ystafell wely, mae’r diffyg yn y lwfans tai rhwng £100 a £350 y mis, gyda’r rhan fwyaf ohonynt ar y pen uchaf. Ar gyfer eiddo tair ystafell wely, fel y teulu rwyf newydd fod yn sôn wrthych amdano, bydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o bobl roi £1,100 i £1,400 o'u harian eu hunain. Dyma deulu lle rwy'n credu nad yw'r unigolyn dan sylw yn ennill cymaint â hynny o arian hyd yn oed—
Jenny, mae angen ichi ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda.
Mae hyn yn wirioneddol ddinistriol. I ymateb i Janet Finch-Saunders, os oes 60 y cant o landlordiaid yn cadw eu rhenti ar gyfraddau y llynedd, golyga hynny nad yw 40 y cant ohonynt yn gwneud hynny, a dyna sy’n achosi ton o achosion o droi allan yn fy etholaeth. Dyn a ŵyr beth sy'n mynd i ddigwydd yn y gaeaf.
Mae fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru wedi nodi risgiau a chanlyniadau system cymorth tai sy’n methu. Ffactor arall sydd ar waith gyda chymorth tai a digartrefedd yw'r farchnad dai a'r cyflenwad tai. Gyda'r farchnad dai, mae rhentwyr ar waelod y domen, ac felly mae eu risg o ddigartrefedd yn cynyddu. Mae gofyn i ddarpar rentwyr fynd drwy un felin ar ôl y llall yn ddiddiwedd, sy'n gwbl groes i'r syniad o hawl i gartref. Mae landlordiaid yn gosod nifer sylweddol o ofynion sy'n aml yn waharddol cyn iddynt ganiatáu i ddarpar denant rentu eu heiddo, megis blaendaliadau a gwarantwyr, gofynion isafswm incwm, gwiriadau credyd helaeth, geirdaon a rhenti ymlaen llaw. Mae'r gofynion hyn yn rhwystr i lawer o rentwyr incwm isel, sydd, yn ei dro, yn lleihau'r gronfa o dai sydd ar gael. Roedd gan draean o'r eiddo a arolygwyd ofynion o'r fath. Pan fyddwch yn ystyried y 3.8 y cant sy'n cael eu cwmpasu gan lwfans yr awdurdod tai lleol ac yn ychwanegu’r gofynion hyn, dim ond oddeutu 2.1 y cant o eiddo sy'n cael ei gwmpasu gan lwfans awdurdodau tai lleol o ystyried y gofynion gormodol. Golyga hynny mai un o bob 50 eiddo y gallwch gael mynediad ato fel tenant incwm isel.
Yn ychwanegol at y problemau a wynebir gan rentwyr, ceir y rheini sy'n bodoli mewn tai amlfeddiannaeth. Gall materion sy'n ymwneud â darpariaeth tai waethygu heriau personol i unrhyw un, ond mae tystiolaeth uniongyrchol ac ymchwil ategol yn nodi bod nifer anghymesur o bobl ag anghenion lluosog a chymhleth yn byw mewn tai amlfeddiannaeth. Mae llawer o denantiaid yn nodi bod heriau iechyd meddwl wrth wraidd eu hanghenion, naill ai wedi’u gwaethygu neu wedi’u hachosi gan brofiadau bywyd niweidiol. Maent yn fwy tebygol o gael profiadau negyddol o ran tai, dryswch ynghylch taliadau, dyled i landlordiaid, a phryderon diogelwch yn ymwneud â gweithgarwch troseddol mewn tai amlfeddiannaeth yn fwyaf amlwg. Ychydig iawn o ddyletswydd gofal sydd gan landlordiaid a pherchnogion tai amlfeddiannaeth mewn perthynas â lles tenantiaid. Lle mae cymorth ar gael, yn aml caiff ei roi drwy rwydweithiau anffurfiol neu sefydliadau sector gwirfoddol.
Ceir cydnabyddiaeth ers tro fod amgylcheddau preswyl yn benderfynydd lles allweddol, gyda llenyddiaeth o ystod eang o ddisgyblaethau yn dangos tystiolaeth o gysylltiad rhwng tai a chanlyniadau iechyd. Yn ychwanegol at hynny, oherwydd y gwiriadau cyn-denantiaeth cosbol a wneir gan landlordiaid, mae’n debygol iawn fod hyn yn gwaethygu mater sydd eisoes yn gyffredin, sef tangofnodi salwch meddwl. Canfu Amser i Newid Cymru yn 2016 fod un o bob 10 o'r bobl a holwyd yn credu bod unigolion â phroblemau iechyd meddwl yn llai dibynadwy na phobl heb broblemau o’r fath. Canfu arolwg barn yn 2010 gan YouGov, a gomisiynwyd hefyd gan Amser i Newid, na fyddai 66 y cant o’r bobl a arolygwyd yng Nghymru yn gosod ystafell mewn fflat a rennir i rywun â chyflwr iechyd meddwl. Ymddengys i mi fod angen inni ddatblygu naratifau cydymdeimladol a thosturiol i herio’r diwylliant o stigmateiddio. Mae rhai problemau strwythurol gwirioneddol i’w goresgyn. Ni all y math hwn o lety fod yn ateb parhaol i’r diffyg cyflenwad tai, ond mae’n ganlyniad amlwg. Ceir manteisiaeth a gorelwa, ond yn y pen draw, yr amodau a grëwyd yn bennaf gan bolisi Llywodraeth sydd wedi creu'r hinsawdd i hyn allu ffynnu.
Mae’r cyflenwad o unedau tai cymdeithasol newydd yn dal i fod is na'r hyn ydoedd yn y 1990au, y rhan fwyaf o’r 1980au ac yn sylweddol is nag ail ran y 1970au. Mae hyn yn adlewyrchu diffyg parodrwydd Llywodraethau olynol i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd dros y cyfnod hwn. Mae 67,000 o aelwydydd ar restrau aros am dai ledled Cymru ar hyn o bryd. Cam hanfodol i ddatrys yr argyfwng tai yng Nghymru yw cynnydd aruthrol yn y cyflenwad tai, dan arweiniad y sector cyhoeddus, nid y sector preifat. Dylai tai a adeiledir yn gyhoeddus ddod yn opsiwn prif ffrwd ar gyfer pobl ar incwm cyfartalog, nid pobl ar incwm is yn unig. Edrychaf ymlaen yn eiddgar at weld yr hyn y gall Unnos, y cwmni adeiladu cenedlaethol a sefydlwyd o ganlyniad i’r cytundeb cydweithio, ei gyflawni. Rwy'n gobeithio y gall y buddsoddiad mewn rhaglen dai cyhoeddus sy’n cynhyrchu cartrefi gwyrddach o ansawdd gwell ein rhoi ar lwybr tuag at ddiwedd yr argyfwng tai, yn ogystal â lliniaru pwysau arall sy’n deillio o iechyd gwael, iechyd meddwl gwael a thlodi. Diolch yn fawr.
Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon yn y Siambr heddiw. Mae ansicrwydd ynghylch tai yn parhau i fod yn broblem allweddol sy’n wynebu trigolion ledled Cymru, fel y clywsom, ac yn enwedig ar draws Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, fy nghymuned i. Mae hyn, heb os, wedi’i waethygu gan argyfwng costau byw Llywodraeth Geidwadol y DU.
Mae’r adroddiad gan End Youth Homelessness Cymru yn datgan bod cartref sicr a diogel yn hollbwysig i blentyn, ac rwy'n cytuno na ddylem danamcangyfrif yr effeithiau y gall ansicrwydd tai eu cael ar ddyfodol plant yn ein cymunedau. Mae hyn yn sicr yn wir yn fy nghymuned i. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae gennym y Wallich, sefydliad sy'n partneru â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gynorthwyo gyda digartrefedd yn ein cymuned. Yn eu hadroddiad, mae'r Wallich yn dyfynnu Aaron, sy'n 18 oed, a ddywedodd,
'Mae'n anodd cyrraedd lle y dymunwch fod mewn bywyd pan fyddwch yn byw mewn hostel, ond byddai'n well gennyf fod [mewn hostel] nag ar y strydoedd'.
A dywedodd Lacey mai'r cyfan y mae hi ei eisiau yw lle i'w alw'n gartref diogel a hapus. Ymhellach, dangosodd yr adroddiadau gan End Youth Homelessness Cymru fod y ffactorau sy'n cyfrannu at ddigartrefedd yn deillio o wahaniaethu yn erbyn pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol a phobl LHDTC+, anfanteision y systemau y mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn eu hwynebu, a’r rheini sydd wedi cael profiad o fod mewn gofal, gyda dros draean y bobl sy'n gadael gofal yn wynebu digartrefedd yn y ddwy flynedd gyntaf ar ôl gadael gofal. Mae hyn yn annerbyniol. Rydym angen system a chymdeithas sy’n caniatáu i bob unigolyn ifanc ddewis eu llwybr eu hunain, ni waeth beth fo’u cefndir. Ni ddylai tlodi tai fod yn rhwystr byth. Dyna pam fy mod yn llwyr gefnogi gwarant Llywodraeth Cymru i bawb o dan 25 oed gael cynnig swydd, addysg, prentisiaeth neu gymorth i ddechrau busnes. Rwyf hefyd yn optimistaidd i weld sut y bydd y cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol i bawb sy’n gadael gofal yn helpu i rymuso, ac rwy’n falch fod cynllun peilot ar gyfer hyn yn cael ei ystyried ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Fodd bynnag, hoffwn bwysleisio y bydd angen cymorth cynhwysfawr a chyson ar bobl ifanc sy’n cymryd rhan er mwyn iddynt allu ymdopi â newid a chyfleoedd yn eu bywydau.
Mae llawer o waith amhrisiadwy yn mynd rhagddo ledled Cymru. Adlewyrchir hyn yn ymrwymiadau Llywodraeth Cymru a'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar lawr gwlad yn ein cymunedau. Mae ein helusen leol ein hunain ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cynllun mentora Bridge, a’u canolfan gymunedol, y Zone, yng nghanol y dref, yn achubiaeth fawr i gynifer o bobl a phobl ifanc sydd ar drothwy digartrefedd. Mae cael rhywle i droi a chael cynnig paned o de neu gyngor a chael eu cyfeirio yn hollbwysig i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Heb gynllun Bridge, efallai na fyddai gan lawer o bobl unman arall i droi.
Serch hynny, os ydym am weld diwedd ar ddigartrefedd, mae'n rhaid inni ddechrau drwy fynd i’r afael ag argyfwng costau byw Llywodraeth Geidwadol y DU. Mae budd-daliadau wedi gostwng i'w lefel isaf ers 50 mlynedd; bydd tri chwarter yr aelwydydd yn waeth eu byd nag a oeddent flwyddyn yn ôl. Ar ôl blynyddoedd o doriadau, nid yw lwfans tai lleol Llywodraeth y DU yn adlewyrchu’r caledi ariannol a wynebir gan ein cymunedau. Gan mai tlodi yw prif achos digartrefedd ymhlith pobl ifanc, rwy’n ofni mai’r argyfwng hwn fydd y sbardun sy’n achosi i’n pobl ifanc a’n plant mwyaf agored i niwed ddod yn ddigartref. Mae'r rhwydweithiau cymorth yn gweithio hyd eithaf eu gallu. Mae ein cymunedau'n ymestyn eu breichiau mor llydan ag y gallant i amddiffyn ein pobl ifanc rhag digartrefedd, ond yn awr, mae angen i San Steffan hefyd ddarparu cymorth a rhyddhad teg a phriodol. Diolch.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Mabon ap Gwynfor am ei sylwadau ynglŷn â sefyllfa deuluol y Gweinidog, a byddaf yn eu trosglwyddo iddi?
Mae rhoi terfyn ar ddigartrefedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol yng Nghymru, ac adlewyrchir hynny yn ein rhaglen lywodraethu ac yn y cytundeb cydweithio. Mae’r ymateb brys i ddigartrefedd drwy gydol y pandemig, ac sy’n parhau heddiw, wedi bod yn aruthrol, fel y cydnabu Sioned Williams yn gwbl briodol. Ond rydym wedi dweud yn glir fod yn rhaid inni beidio â llithro'n ôl, ac ni fyddwn yn mynd yn ôl, Ddirprwy Lywydd. Rydym wedi ymrwymo i roi diwedd ar bob math o ddigartrefedd, ac adlewyrchir hyn yn ein cynllun gweithredu ar roi diwedd ar ddigartrefedd ymhlith pobl o bob oed a gyhoeddwyd fis Tachwedd diwethaf. Mae hwnnw’n nodi sut y byddwn yn cyflawni ein huchelgais hirdymor, ac wrth ei wraidd, mae’r newid radical sydd ei angen i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Yn sail i hyn, ceir ein targed uchelgeisiol i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i’w rhentu yn y sector cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon.
Mae ein hymrwymiad i'w weld yn y buddsoddiad a wnawn: dros £197 miliwn mewn gwasanaethau atal digartrefedd a chymorth tai yn y gyllideb derfynol eleni a £310 miliwn mewn tai cymdeithasol, sef y swm uchaf erioed. Ond nid ydym yn tanamcangyfrif maint yr her hon, a dyna pam ein bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth i ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd gennym yng Nghymru i gyflawni ar gyfer y rheini sydd â'r angen mwyaf. Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol eisoes wedi sôn am yr ystod o fesurau a roddwyd ar waith gennym fel Llywodraeth i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw. Mae’r pecyn £380 miliwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn cynnwys taliad costau byw o £150 i bob aelwyd mewn eiddo ym mandiau treth gyngor A i D ac i bob aelwyd sy’n cael cymorth drwy gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor ym mhob un o fandiau'r dreth gyngor. Mae'r pecyn hefyd yn cynnwys cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, a roddodd daliad o £200 i aelwydydd cymwys i'w helpu i dalu biliau hanfodol dros y gaeaf. Mae hwn yn gymorth diriaethol, arian ym mhocedi pobl a fydd yn eu helpu gyda'u costau dydd i ddydd.
Ond yn nwylo Llywodraeth y DU y mae'r pwerau a’r adnoddau cyllidol sydd eu hangen i helpu pobl gyda chostau cynyddol biliau ynni a chostau tai cynyddol, ac yn anffodus, mae ein galwadau arnynt i gymryd y camau y mae angen iddynt eu cymryd yn syrthio ar glustiau byddar. Yn ddiweddar, ysgrifennodd y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol at Lywodraeth y DU i alw arnynt unwaith eto i roi camau brys ar waith i fynd i'r afael â'r argyfwng ynni a chostau byw ehangach sy’n achosi cymaint o ofid a phryder i ddinasyddion Cymru. Mae data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod rhenti wedi codi 1.6 y cant ar gyfartaledd yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae rhenti eiddo sy'n cael ei osod o'r newydd a rhenti mewn ardaloedd penodol o Gymru yn codi’n gyflymach o lawer, ac mae hyn yn ddi-os yn rhoi pwysau pellach ar bobl sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd.
Gall awdurdodau lleol ddefnyddio cyllideb y taliadau disgresiwn at gostau tai i gefnogi’r bobl yr effeithir arnynt fwyaf gan y toriadau i fudd-daliadau. Ond eleni, cyflwynodd y Llywodraeth Geidwadol doriad o oddeutu £2.3 miliwn yn y gyllideb honno, sef toriad o 27 y cant, o gymharu â’r llynedd, a hynny yn ychwanegol at doriad blaenorol o 18 y cant. Nawr, mae hwn yn ostyngiad enfawr mewn cyllid, a bydd yn gwaethygu sefyllfa'r rheini sydd eisoes yn ymdopi â'r argyfwng costau byw. Mae Julie James eisoes wedi galw ar Lywodraeth y DU i adfer cyllideb y taliadau disgresiwn at gostau tai yn llawn yn ei datganiad ysgrifenedig diweddar, ond nid oes unrhyw arwydd y bydd Llywodraeth y DU yn gwrando ar y galwadau hynny. Mae’r Gweinidog hefyd wedi pwysleisio nad yw cyfraddau'r lwfans tai lleol wedi codi mewn tair blynedd a hanner erbyn mis Mawrth 2023, ac felly nad ydynt yn ystyried rhai o’r codiadau sylweddol iawn yn lefelau rhenti mewn rhai ardaloedd—enghraifft glir iawn arall o ddiffyg cysylltiad Llywodraeth y DU a pha mor barod ydynt i eistedd yn ôl a gwylio’r argyfwng yn datblygu.
Nawr, roeddwn yn synnu wrth glywed Janet Finch-Saunders yn dweud iddi gael sioc wrth glywed am y bwlch rhwng y lwfans tai a lefel gymedrig y cyfraddau lleol. Ble mae hi wedi bod yn byw? Mae hyn wedi’i godi’n gyson gan sefydliadau anllywodraethol, ac yn wir, gan y Blaid Lafur drwy gydol y blynyddoedd o gyni a achoswyd gan y Llywodraeth Dorïaidd. Rhestrodd Jenny Rathbone yr hyn y bydd yn ei olygu’n ymarferol yn ei hetholaeth a’r dewis ffiaidd y mae’n ei gyflwyno i bobl sydd eisoes ar incwm isel. Ond mae Janet Finch-Saunders yn gwneud iddo swnio fel ffenomen annisgwyl, rhywbeth y mae hi newydd ddod ar ei draws. Mae'n fwriadol. Mae wedi bod yn un o nodau bwriadol polisi Llywodraeth y DU, fel y nododd Peredur Griffiths mor ofalus yn ei araith, ac mae’n ideolegol. Mae’n rhan o’u hagenda i bardduo’r tlawd a gwneud bwch dihangol o bobl sydd angen budd-daliadau. Nawr, rwy'n falch iawn fod Janet Finch-Saunders o'r diwedd wedi sylweddoli beth sy'n digwydd, ac yn wir, y bydd hi'n ysgrifennu at Lywodraeth y DU, ac rwy'n siŵr y bydd y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS yn darllen y llythyr â chryn ddiddordeb, ond peidiwch ag esgus, Janet, mai ffenomen ddamweiniol yw’r argyfwng tai sy'n gwaethygu, mae’n ganlyniad uniongyrchol i bolisi tai’r Torïaid.
Yng Nghymru, byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn, gyda’r pwerau sydd gennym, i gyflawni ar ran y rheini sydd â’r angen mwyaf. Ym mis Ionawr, lansiwyd cynllun lesio Cymru, gwerth £30 miliwn dros bum mlynedd, i wella mynediad at dai fforddiadwy mwy hirdymor yn y sector rhentu preifat. Bydd yn rhoi sicrwydd i denantiaid a hyder i landlordiaid. Mae’r cynllun wedi’i gynllunio i gefnogi’r unigolion a’r aelwydydd mwyaf difreintiedig sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Bydd tenantiaid y cynllun yn elwa ar ddiogelwch deiliadaeth mwy hirdymor o rhwng pump ac 20 mlynedd, ar renti wedi’u cyfyngu i gyfraddau'r lwfans tai lleol, a bydd cyllid ychwanegol i sicrhau eu bod yn cael y lefel o gymorth y byddent yn ei disgwyl gyda thai cymdeithasol.
Gan droi yn gryno at ymgyrch End Youth Homelessness a gafodd sylw yn y cynnig, mae’r ymgyrch hon a Llywodraeth Cymru yn rhannu nod cyffredin—rhoi diwedd ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Mae’r nod hwn yn elfen ganolog ym mhob dim a wnawn i roi diwedd ar bob math o ddigartrefedd. Mae angen inni gael un strategaeth i roi diwedd ar ddigartrefedd—bydd y fframwaith trosfwaol sydd ei angen i gyflawni’r nod hwn yn diwallu anghenion amrywiol pob grŵp. Yn ein cynllun gweithredu a’n dull strategol cyffredinol, mae angen tai sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc a chamau gweithredu ategol, yn ogystal â’r rheini sy’n canolbwyntio ar grwpiau eraill er mwyn sicrhau'r croestoriadedd hwn. Ar gyfer pobl ifanc yn benodol, rydym yn bwrw ymlaen â chyfres o fesurau'r Llywodraeth sy'n darparu ymateb cyfannol i drechu digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Yn wir, rydym eisoes yn ariannu llawer o’r prosiectau sy’n rhan o’r map ffordd pwysig hwnnw, gan gynnwys Tai yn Gyntaf i Ieuenctid, llety â chymorth, cyfryngu teuluol, cymorth tenantiaeth, fflatiau hyfforddi, Tai Ffres a Tŷ Pride, a phrosiectau cymorth tai LHDTC+. Wrth gwrs, byddwn yn ystyried yr argymhellion a nodir yn y map ffordd, ac yn wir, fe wnaethom ystyried fersiwn gynharach ohono yn ein cynllun gweithredu. Ond ein ffocws parhaus yw rhoi'r argymhelliad ar gamau gweithredu ar ddigartrefedd ar waith gyda Phlaid Cymru i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd yn gyfan gwbl er mwyn sicrhau bod digartrefedd yn ddigwyddiad prin, nad yw'n para ac nad yw'n cael ei ailadrodd, fel y nodir yn y cytundeb cydweithio a’r rhaglen lywodraethu.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, rydym yn cydnabod yr argyfwng costau byw enfawr y mae cartrefi yng Nghymru yn ei wynebu, ac rydym yn gwneud, a byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn, gyda'r ysgogiadau sydd gennym, i gefnogi pobl drwy'r cyfnod heriol hwn.
Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bob un ohonoch am y cyfraniadau ystyriol ac adeiladol iawn i'r ddadl hon heddiw. Rwy'n cytuno â’r Dirprwy Weinidog pan gyfeiriodd at gyfraniad Janet Finch-Saunders a’i phryder ynghylch nifer y bobl nad ydynt yn cael digon o arian i dalu eu rhent, ac rwy’n falch iawn ei bod bellach wedi sylweddoli bod yna argyfwng, ac y bydd yn cysylltu â Llywodraeth y DU. Mae’n argyfwng sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers blynyddoedd lawer, Janet, ond croeso i’r gêm o’r diwedd.
Mike, diolch am fod yn hyrwyddwr tai dros y blynyddoedd diwethaf a sicrhau eich bod wedi bod yn codi llais, fel y dywedoch chi, a diolch am nodi nad oes cysylltiad rhwng chwyddiant rhent a'r lwfansau tai cynyddol. Gwnaeth Sioned bwynt fod y gymuned LHDTC+ yn cael ei chynrychioli’n anghymesur mewn ystadegau digartrefedd, a bod angen inni edrych yn benodol ar y cymunedau hynny. Gwnaeth Jenny Rathbone bwynt ynghylch yr astudiaeth achos sydd gennych yn eich etholaeth; rwy’n mawr obeithio y bydd y teulu hwnnw y cyfeirioch chi ato'n dod o hyd i dŷ cyn bo hir, ond mae’n enghraifft o'r modd y mae hyn yn effeithio ar bobl ledled Cymru, o Gaernarfon i lawr i Gaerdydd.
Gwnaeth Peredur bwynt, wrth gwrs, o ganolbwyntio ar dai amlfeddiannaeth, a’r ffaith bod tenantiaid yn fwy tebygol o gael profiadau rhentu negyddol mewn tai amlfeddiannaeth. Diolch am eich cyfraniad. Sarah, fe gyfeirioch chi at y Wallich, ac Aaron a Lacey, dau unigolyn ifanc a oedd yn chwilio am dai, ond yn benodol, fe ddywedoch chi y byddai incwm sylfaenol cyffredinol o gymorth. Rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at weld effaith incwm sylfaenol cyffredinol, a chredaf y bydd yn gam cadarnhaol ymlaen.
Yna, yn olaf, y Dirprwy Weinidog—diolch iddo ef am ei gyfraniad. Edrychaf ymlaen at weld effaith yr ymyriadau y bydd y Llywodraeth yn eu gwneud dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ar y cyd â Phlaid Cymru, rai ohonynt yn gyffrous iawn, a sicrhau ein bod yn rhoi diwedd ar ddigartrefedd. Fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog, Llywodraeth y DU sydd â’r pwerau a’r adnoddau cyllidol i helpu pobl—mae hynny'n gwbl wir. Dyma pam fod angen inni ddatganoli lles. A dweud y gwir, byddwn yn mynd ymhellach a dweud mai dyma pam fod angen annibyniaeth arnom, fel bod Cymru'n penderfynu ar ein polisïau cyllidol ac economaidd ein hunain, ac yn cyfarwyddo ein dyfodol ein hunain.
Mae gwelliant y Ceidwadwyr yn sôn am yr hawl i brynu. Unwaith eto, nid yw'r hawl i brynu yn rhan o'r ateb, mae'n rhan o'r broblem. Mae llawer o'r eiddo yr ydym yn eu hystyried yn drafferthus erbyn hyn yn dai a oedd yn arfer bod yn mewn dwylo cyhoeddus, a bellach mae llai o reolaeth ansawdd drostynt, ac mae arian cyhoeddus bellach yn llenwi pocedi preifat yn hytrach na chael ei ailfuddsoddi mewn tai cyhoeddus. Felly, na, bydd ailgyflwyno’r hawl i brynu yn gwthio prisiau tai i fyny ac yn gwthio prisiau rhent yn uwch eto.
Mae ein cynnig yn galw'n glir ar Lywodraeth y DU i ddiwygio’r lwfans tai lleol i wneud iddo weithio i Gymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried argymhellion map ffordd End Youth Homelessness Cymru. Fel y mae, mae cyfraddau'r lwfans tai lleol wedi'u gosod ar lefelau sy'n rhy isel i dalu rhenti rhentwyr incwm isel, fel y dywedwyd wrthym dro ar ôl tro. Mae diwygio’r lwfans tai lleol yn allweddol os ydym am ddod o hyd i atebion hirdymor i’r problemau a drafodwyd gennym yma heddiw.
Mae’n rhaid i Lywodraeth y DU godi'r lwfans tai lleol yn flynyddol fel ei fod yn codi gyfuwch â rhenti cynyddol. Mae'n rhaid iddi gael gwared ar y gyfradd lwfans tai lleol ar gyfer llety a rennir, gyda thenantiaid sengl o dan 35 oed â hawl i’r gyfradd lwfans tai lleol ar gyfer un ystafell wely. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd ystyried yr argymhellion a wnaed gan Sefydliad Bevan ar gyfer gwella data ar renti, camau gweithredu ar renti atodol, camau gweithredu ar reolaethau rhent, yn ogystal ag amddiffyn tenantiaid. Ar wahân i ddilyn map ffordd End Youth Homelessness Cymru, dylai’r Llywodraeth hefyd ystyried, er bod yn rhaid i roi diwedd ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc fod yn nod, mae’n debyg y bydd bob amser angen am lety mewn argyfwng, llety brys a llety adfer, ynghyd â mesurau atal. Pan fydd pobl ifanc yn dod yn ddigartref, mae angen i awdurdodau lleol gael ystod wahanol o opsiynau i ateb anghenion pobl ifanc.
Felly, dyna ni. Dyna’r rhesymau pam fod angen inni gefnogi’r cynnig hwn. Gwnewch hynny os gwelwch yn dda. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Clywais wrthwynebiad. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Ac rydym nawr wedi cyrraedd yr amser hwnnw. Byddwn yn cymryd egwyl fer i baratoi ar gyfer y bleidlais.