– Senedd Cymru am 3:18 pm ar 25 Mai 2022.
Eitem 5 y prynhawn yma yw dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar ddatgarboneiddio pensiynau'r sector cyhoeddus. Galwaf ar Jack Sargeant i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7964 Jack Sargeant
Cefnogwyd gan Alun Davies, Buffy Williams, Carolyn Thomas, Cefin Campbell, Heledd Fychan, Jane Dodds, Jayne Bryant, Llyr Gruffydd, Luke Fletcher, Peredur Owen Griffiths, Rhys ab Owen, Sarah Murphy, Vikki Howells
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) mai Llywodraeth Cymru oedd y cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd, gan gydnabod y bygythiad difrifol y mae newid yn yr hinsawdd yn ei achosi;
b) bod cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yn parhau i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil ac, ers blynyddoedd lawer, mae ymgyrchwyr wedi annog cynlluniau i ddadfuddsoddi;
c) bod partneriaeth bensiwn Cymru wedi symud yn gyflym i dynnu buddsoddiad o ddaliadau Rwsia yn ôl a'i fod wedi symud oddi wrth lo o'r blaen, gan ddangos felly ei bod yn bosibl i gronfeydd pensiwn wneud y penderfyniadau hyn;
d) bod Aelodau'r Senedd wedi cymryd y cam cyntaf i symud eu cronfeydd pensiwn eu hunain oddi wrth danwydd ffosil;
e) pe bai cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn dadfuddsoddi, Cymru fyddai'r wlad gyntaf yn y byd i gyflawni hyn, gan ddangos i ddarparwyr cronfeydd yr angen i greu cynhyrchion buddsoddi di-danwydd ffosil.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector cyhoeddus i gytuno ar strategaeth i ddatgarboneiddio pensiynau erbyn 2030, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â thargedau sero net presennol y sector cyhoeddus.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.
Mae syniadau'n aml yn cael eu moment, moment pan fo'r dystiolaeth ar gyfer gweithredu yn llethol. Mae ymgyrchwyr ymroddedig wedi gweithio'n ddyfal ar ddadfuddsoddi cronfeydd pensiwn ers blynyddoedd; mae'n bryd i Lywodraethau ledled y byd ymuno â'r frwydr yn awr. Credaf ei bod hefyd yn bryd i Gymru gymryd rhan ganolog ac arwain y byd ar roi diwedd ar fuddsoddiad cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus mewn tanwydd ffosil, ac wrth wneud hynny, sbarduno cyfnod newydd o fuddsoddi yn nyfodol ein planed, ynni cynaliadwy a thrafnidiaeth.
Fel y gŵyr llawer o fy nghyd-Aelodau, bûm yn gweithio gyda Chyfeillion y Ddaear Cymru ers peth amser bellach ar yr ymgyrch sy'n destun y cynnig heddiw: i Lywodraeth Cymru gyflwyno targedau ar gyfer dadfuddsoddi cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus. Mae'r cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i adlewyrchu ei tharged ar gyfer 2030 i'r sector cyhoeddus fynd yn garbon niwtral gyda tharged i gronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus gyflawni'r un peth. Byddai hyn yn golygu y byddai'r sector cyhoeddus a'i fuddsoddiadau yn wirioneddol garbon niwtral erbyn 2030.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn gofnodi fy niolch i'n Prif Weinidog beiddgar, Mark Drakeford, sydd wedi rhoi llawer o gefnogaeth ac anogaeth imi ar y mater hwn. Fis diwethaf, cynhaliais ddigwyddiad trawsbleidiol ar y mater, a'r Prif Weinidog a sicrhaodd fod un o uwch swyddogion Llywodraeth Cymru yn bresennol ac yn cyfrannu at yr hyn a oedd yn drafodaeth ragorol.
Felly, gadewch inni ofyn i ni'n hunain: pam ein bod yn trafod pensiynau'r sector cyhoeddus, sydd i'w weld yn bwnc mor sych, a pham fy mod gyffrous ynglŷn â'r cyfle y maent yn ei roi inni? Wel, y rheswm cyntaf dros wneud hyn yw oherwydd bod y ddynoliaeth yn wynebu trychineb. Y trychineb hwnnw yw cynhesu byd-eang. Achosir cynhesu byd-eang gan y defnydd o danwydd ffosil, a gwyddom nad oes gennym lawer o amser i osgoi'r trychineb hwnnw.
Mae cronfeydd pensiwn yn fuddsoddwyr enfawr, ac mae eu hatal rhag buddsoddi mewn tanwydd ffosil cyn gynted â phosibl yn hanfodol os ydym am atal cynnydd yn y tymheredd byd-eang a fydd yn peryglu dyfodol y ddynoliaeth. Nawr, ochr yn ochr â risg newid hinsawdd, mae'n ffaith bod tanwydd ffosil yn aml yn cael ei fewnforio o wledydd unbenaethol, gyda llawer ohonynt yn ansefydlogwyr difrifol ar lwyfan y byd. Maent yn gyfundrefnau annemocrataidd sy'n hyrwyddo gwerthoedd sy'n wrthun inni, ac ni ddylem barhau i fuddsoddi ynddynt. Mae tanwydd ffosil hefyd yn gyfyngedig ac mae eu pris yn amrywio'n aruthrol. Mae dadfuddsoddi'n anochel yn hirdymor, ond am y rhesymau a nodais eisoes heddiw, dylem geisio cyflymu'r broses honno, fel sydd eisoes wedi digwydd gyda buddsoddiadau cronfeydd pensiwn mewn glo.
Ceir myth hirsefydledig y dylid gadael lonydd i farchnadoedd a chronfeydd buddsoddi gyflawni'r enillion ariannol gorau posibl. Ond y realiti yw nad yw hyn byth yn digwydd. Mae pob math o weithredwyr ledled y byd yn ymyrryd yn gyson â marchnadoedd a phenderfyniadau buddsoddi cronfeydd pensiwn. Yr hyn y mae'r ymgyrch ddadfuddsoddi hon yn ei ddweud yw y dylem ni fod yn un o'r gweithredwyr hynny, a cheisio cynnwys cynaliadwyedd hirdymor fel maen prawf ar gyfer buddsoddi.
Rydym wedi gweld yn ddiweddar iawn, onid ydym, y gall rheolwyr cronfeydd sector cyhoeddus symud yn hynod o gyflym i symud buddsoddiadau sy'n creu risg i fywyd dynol? Ar yr achlysur hwn, cafodd buddsoddiadau cronfeydd pensiwn eu symud o ddaliadau yn Rwsia, yn dilyn eu rhyfel anghyfreithlon yn erbyn Wcráin. Ni allai neb ar draws y Siambr ddadlau nad dyma'r peth iawn i'w wneud.
Ddirprwy Lywydd, un o'r ffeithiau rhyfeddaf ynglŷn ag a yw cronfeydd pensiwn yn buddsoddi mewn tanwydd ffosil yw eu diffyg parodrwydd i gynnwys y rhai sy'n talu i mewn iddynt yn y broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â lle maent yn buddsoddi. Nawr, nid oes gennyf amheuaeth nad yw'r mwyafrif llethol o fuddsoddwyr yn cefnogi'r penderfyniad i beidio â buddsoddi mewn glo, ac yn cefnogi'r penderfyniad i beidio â buddsoddi yn Rwsia. A chredaf y byddent hefyd yn cefnogi'r penderfyniad i gronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus fynd yn garbon niwtral ar yr un pryd â gweddill y sector cyhoeddus, drwy ddadfuddsoddi o danwydd ffosil.
Gan fy mod yn ddemocrat go iawn ac eisiau grymuso pobl Cymru, byddwn yn mynd gam ymhellach eto. Byddwn yn gofyn iddynt fod yn rhan o'r gwaith o lunio cynllun buddsoddi newydd—cynllun sy'n darparu'r enillion iddynt ac yn gwella'r lleoedd y maent yn byw. Fel y dywedais, mae cyfle gwirioneddol yma i gael cynlluniau pensiwn i fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru. Mae digon o gyfle i gael enillion o fuddsoddiadau yma, a gallai sbarduno'r gwaith o greu ynni adnewyddadwy yn y wlad hon, adeiladu tai cymdeithasol—buddsoddiad gwych oherwydd yr enillion rhent gwarantedig—a thrafnidiaeth gyhoeddus carbon niwtral. Byddai'r cyfleoedd hynny ar eu pen eu hunain yn creu swyddi medrus iawn ar gyflogau uchel gan fuddsoddi yn nyfodol ein cymunedau lleol ar yr un pryd. Mae cynyddu ein lefelau diogeledd ynni o fudd i Gymru a gweddill y DU, ac mae'n ymwneud â hyrwyddo cynhyrchiant ynni yng Nghymru. A bydd sicrhau bod y sector cyhoeddus yn gwbl garbon niwtral erbyn 2030 o fudd i bob un ohonom.
Ddirprwy Lywydd, mae'r ddadl heddiw yn gyfle i Lywodraeth Cymru ddangos, unwaith eto, y math o arweiniad beiddgar a sicrhaodd mai ni oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd, ac i adeiladu ar lesiant cenedlaethau'r dyfodol mewn deddfwriaeth. Mae'r Dirprwy Lywydd yn gwybod fy mod, yn fy nghalon, yn optimist a gwn, yn Siambr y Senedd hon, ein bod yn gwbl o ddifrif ynglŷn ag osgoi trychineb hinsawdd. Felly, rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn i Siambr y Senedd heddiw, a hoffwn annog pob un ohonoch, yn drawsbleidiol, i gefnogi'r cynnig hwn ac ymuno â mi yn yr ymgyrch dros ddadfuddsoddi cronfeydd pensiwn ac annog Llywodraeth Cymru i weithredu yn awr. Diolch yn fawr.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy am gyflwyno'r ddadl ddiddorol hon heddiw? Cyn imi ddechrau, hoffwn gadarnhau y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ymatal ar y cynnig sydd ger ein bron heddiw.
Ni wnawn hynny oherwydd nad ydym yn cytuno â rhagosodiad y cynnig. Mae'n bwysig, os ydym am gyflawni ein hymrwymiadau newid hinsawdd, ein bod yn parhau i symud oddi wrth ein dibyniaeth ar danwydd ffosil, nid yn unig i bweru ein ceir a phweru ein cartrefi, ond hefyd er mwyn cynnal ein cyllid cyhoeddus. Wrth gwrs, mae buddsoddiadau cronfeydd pensiwn mewn pethau fel cwmnïau tanwydd ffosil wedi bod yn arfer safonol ers peth amser. Nid cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus yn unig sydd wedi'u defnyddio yn y ffordd hon, ond nifer o gronfeydd pensiwn y sector preifat hefyd. Felly, mae'n hen bryd inni ddechrau edrych ar ffyrdd gwahanol ac arloesol o fuddsoddi arian cyhoeddus mewn mentrau sy'n gyfrifol yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol.
Ac felly, yn hyn o beth rwy'n falch fod Partneriaeth Pensiwn llywodraeth leol Cymru wedi cyhoeddi menter ddatgarboneiddio newydd ar draws £2.5 biliwn o'i buddsoddiadau ym mis Ebrill y llynedd. Mae croeso hefyd i'r ffaith bod y bartneriaeth wedi datblygu polisi risg hinsawdd gydag uchelgais i adrodd ar gynnydd tuag at leihau cysylltiad â buddsoddiadau drud-ar-garbon. Mae cronfeydd pensiwn cynghorau ac awdurdodau lleol hefyd wedi gwneud cynnydd da ar ddatgarboneiddio eu buddsoddiadau. Er enghraifft, yn ôl yn 2018, cytunodd Cyngor Sir Fynwy, pan oedd o dan arweiniad y Ceidwadwyr, i ofyn i gronfa bensiynau Gwent ddadfuddsoddi mewn tanwyddau ffosil. Ddirprwy Lywydd, mae llwyth o waith da wedi'i wneud gan gynghorau yma yng Nghymru ar yr agenda hon, ond rwy'n cytuno'n llwyr fod angen gwneud mwy.
Fodd bynnag—ac i ddychwelyd at y rheswm pam ein bod yn ymatal ar y cynnig heddiw—hoffwn rybuddio y gallai unrhyw ddadfuddsoddi arwain at ganlyniadau anfwriadol i werth pensiynau pobl sydd wedi gweithio'n galed i'w hennill. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod gwerth dros £500 miliwn o gyllid pensiwn wedi'i gloi mewn cwmnïau o'r fath ar hyn o bryd. Ac felly, mae angen inni fod yn ofalus ynglŷn â sut y caiff hyn ei reoli ac mae'n bwysig fod pob ymddiriedolwr pensiwn yn cael annibyniaeth i wneud yr hyn sydd orau i'w cronfa, yn ogystal â defnyddio eu gwybodaeth i sicrhau bod unrhyw newid i strategaeth ariannu yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar enillion buddsoddiadau. Fodd bynnag, wrth ddweud hyn, credaf y dylid annog cyrff cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau bod unrhyw fuddsoddiadau a wneir gan eu cynlluniau pensiwn unigol yn gyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol, yn ogystal â bodloni anghenion eu haelodau. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i Jack Sargeant am ddod â'r ddadl bwysig hon ger bron y prynhawn yma. Hoffwn i ddechrau drwy adleisio geiriau pobl ifanc Cymru o neges heddwch ac ewyllys da Urdd Gobaith Cymru yr wythnos diwethaf:
'Mae'r cloc yn ticio ac mae'n byd ni ar dân'.
Ac yn wir, yn y datganiad pwysig hwn gan ein pobl ifanc, cawsom oll ein hatgoffa o'r perygl enbyd y mae'r argyfwng hinsawdd yn ei beri i'n byd a'n ffordd o fyw, a'r argyfyngau amgylcheddol, ecolegol a dyngarol sy'n debygol o godi os nad ydym ni, fel y rhai sydd â grym i newid pethau, yn gweithredu ar frys er mwyn achub ein planed.
Fel rhan o droi geiriau yn weithred, gallwn ddechrau drwy edrych ar bolisi buddsoddi rhai o'n pensiynau sector cyhoeddus i weld cymaint ohono sy'n dal i fod mewn tanwydd ffosil fel olew, nwy a glo. Mae hyn yn parhau'n bolisi cwbl anghyfrifol a ninnau mewn argyfwng newid hinsawdd. Ac rwy'n cytuno â Jack fod gan Gymru gyfle euraidd fan hyn i arwain y gâd ar fuddsoddi mewn cronfeydd mwy gwyrdd a chynaliadwy. Heb weithredu, erbyn yr amser fydd nifer o'r genhedlaeth iau—plant yr Urdd—yn ddigon hen i elwa o'u cronfeydd pensiwn, bydd y dinistr amgylcheddol yn parhau, gyda’r pegynau iâ wedi hen doddi, ein systemau bwyd wedi dadfeilio, a thywydd eithafol yn norm.
Mae data diweddar gan Gyfeillion y Ddaear, er enghraifft, yn dangos yng Nghymru bod dros £550 miliwn allan o gyfanswm o £17 biliwn o gyllid cronfeydd pensiwn llywodraeth leol wedi ei fuddsoddi mewn tanwydd ffosil. Mae hyn yn cyfateb i ryw 3.2 y cant o werth y cynlluniau, sy’n uwch na chanrannau yn Lloegr a’r Alban. Mae hyn yn cyfateb i bob un person yng Nghymru yn buddsoddi gwerth £175 tuag at y sector ynni sy’n creu’r drwg mwyaf i’r amgylchedd. Yn fy rhanbarth i yng Ngorllewin a Chanolbarth Cymru, mae’r darlun yn fwy trawiadol fyth, gyda bron i 5 y cant o gronfa bensiwn Dyfed wedi buddsoddi mewn tanwydd ffosil. Credwch neu beidio, hwn yw'r ail uchaf o ran canran yn holl wledydd Prydain, o'r holl gronfeydd pensiwn.
Rŷn ni’n gwybod yn barod bod nifer o gynghorau wedi cymryd camau i geisio mynd i’r afael â newid hinsawdd. Felly, mae’n rhwystredig bod ein cronfeydd pensiwn cyhoeddus yn parhau i fuddsoddi mewn cwmnïau tanwydd carbon. Ond yn fwy na hynny, nid yn unig mae cefnogi sector ynni anadnewyddadwy yn egwyddorol amheus, mae e hefyd yn ddwli economaidd. Gydag ymdrechion rhyngwladol i ddatgarboneiddio wedi digwydd, mae’n gynyddol glir, fel sydd eisoes wedi ei rybuddio gan Mark Carney, cyn lywodraethwr Banc Lloegr, nad yw’r carbon bubble presennol yn gyllidol gynaliadwy yn yr hirdymor. Felly, heb ddadfusoddiad i ffynonellau mwy gwyrdd, gall ein cronfeydd pensiwn ni yn y sector cyhoeddus fod ar eu colled yn fuan iawn.
Rwy’n croesawu’r ymdrechion, felly, sydd wedi cael eu gwneud gan gynghorau sir—yn eu plith, sir Gâr a Cheredigion—a phwysau gan fudiadau fel Divest Dyfed, sydd wedi bod ar y blaen yn rhoi pwysau ar gronfa bensiwn Dyfed i fuddsoddi mwy mewn cwmnïau ynni glân. Fel sydd wedi cael ei grybwyll gan Jack Sargeant yn barod, dangosodd argyfwng Wcráin, a’r penderfyniad i dynnu buddsoddiadau yn ôl o Rwsia, bod gweithredu pendant, egwyddorol ac unedig gan yr awdurdodau pensiwn yn bosibl wrth wynebu argyfwng. Felly, mae’n gyfrifoldeb a dyletswydd arnom ni i weithio i sicrhau bod y math o ewyllys da a phendantrwydd yma yn cael ei ailadrodd yng ngoleuni’r argyfwng hinsawdd, a sicrhau bod gweithredu go iawn yn digwydd i ddatgarboneiddio pensiynau’r sector cyhoeddus yng Nghymru er budd cenedlaethau’r dyfodol.
Diolch i fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant, am gyflwyno’r cynnig heddiw ar symud pensiynau oddi wrth danwydd ffosil. Rwy'n falch iawn o siarad o blaid y mater pwysig hwn, ac yn wir, mae'n rhywbeth rwyf wedi cytuno ers tro ei fod yn hanfodol. Er enghraifft, cynhaliais sesiwn galw heibio gyda Cyfeillion y Ddaear Cymru ar gyfer Aelodau’r Senedd rai blynyddoedd yn ôl, a diben penodol hyn oedd creu consensws o blaid symud cynllun pensiwn Aelodau’r Cynulliad, fel y'i gelwid ar y pryd, oddi wrth danwydd ffosil. Roeddwn wrth fy modd pan gytunodd y bwrdd pensiynau i wneud hyn ar ddechrau 2020, a hoffwn ddiolch i Aelodau’r bwrdd am gyflawni ar y mater pwysig hwn.
Roedd hwn yn gam pwysig iawn, wrth inni roi ein harian ar ein gair. Credaf mai ni oedd y cynllun pensiwn cyntaf ymhlith Seneddau'r DU i gymryd y camau hyn i ymrwymo i fuddsoddi yn ein cynllun pensiwn mewn modd cynaliadwy a moesegol. Ond roedd hwn yn ymyriad yr un mor bwysig o safbwynt symbolaidd, wrth inni roi arwydd clir y gellir ac y dylid symud pensiynau oddi wrth danwydd ffosil. Ers hynny, yn gwbl gywir, mae ffocws Llywodraeth Cymru, a llawer o’n sector cyhoeddus, wedi bod ar ein hymateb i'r pandemig coronafeirws, ond ni allwn golli golwg ar argyfwng hinsawdd sydd lawn mor ddifrifol. Ac fel y mae’r cynnig hwn yn dadlau, nawr yw’r amser i Lywodraeth Cymru a’n sector cyhoeddus gytuno ar strategaeth i ddatgarboneiddio pensiynau erbyn 2030.
Mae adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd dan nawdd mudiad llawr gwlad UK Divest yn rhoi darlun clir o faint y mae cynghorau'n ei fuddsoddi mewn glo, olew a nwy. Roedd llawer o'r ffigurau hyn ar gyfer y DU gyfan. Fodd bynnag, nodwyd bod pensiynau llywodraeth leol Cymru wedi buddsoddi £538 miliwn mewn tanwyddau ffosil, sydd ychydig dros 3.2 y cant o gyfanswm gwerth y cynlluniau. Nid oes unrhyw gronfa bensiwn yng Nghymru ymhlith y 10 buddsoddwr mwyaf mewn tanwyddau ffosil, ond Dyfed, fel y nodwyd eisoes gan fy nghyd-Aelod, Cefin Campbell, oedd y buddsoddwr mwyaf ond un fel cyfran o gyfanswm gwerth eu cronfa. Roedd ychydig yn llai na 5 y cant o'u cronfa wedi'i fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil.
Pwynt pwysig arall yn y cronfeydd hyn a fuddsoddir mewn tanwyddau ffosil yw bod £2 o bob £5 yn cael ei fuddsoddi mewn tri chwmni yn unig—BP, Royal Dutch Shell a BHP. Enwau cyfarwydd, ond maent hefyd yn gwmnïau sydd wedi'u nodi fel rhai sy'n gwneud elw enfawr o olew a nwy. Er enghraifft, gwnaeth Shell elw o dros $9 biliwn yn chwarter cyntaf 2022 yn unig, ac roedd hynny deirgwaith yn fwy na'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol. Mae’r rhain yn gwmnïau sy’n niweidio ein hamgylchedd, yn elwa o ddinistr byd-eang, ac yn gwneud eu cyfranddalwyr yn gyfoethog wrth wasgu’n dynnach fyth ar y bobl yr ydym yn eu cynrychioli wrth i filiau ynni cartrefi godi y tu hwnt i bob rheolaeth. Mae'n bwysig ein bod yn symud ein buddsoddiadau oddi wrth danwydd ffosil o safbwynt amgylcheddol, ond mae'r un mor bwysig gwneud hynny o safbwynt moesegol hefyd. Ac os gallwn wneud hyn, nid yn unig yn Senedd Cymru, ond yn ein gwlad yn ei chyfanrwydd, byddwn yn gosod esiampl bwysig.
Hoffwn ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno’r ddadl bwysig hon y prynhawn yma. Nid wyf yn cytuno’n llwyr â holl gynsail y cynnig, ond mae’n dal yn bwysig, ar yr un pryd, ein bod yn cael y ddadl. Dywedaf o'r cychwyn cyntaf y dylai datgarboneiddio fod yn brif flaenoriaeth i ni, gan ein bod yng nghanol argyfwng hinsawdd, ac mae fy etholwyr eisoes yn dioddef effeithiau tymereddau sy'n codi'n fyd-eang. Fodd bynnag, ni chredaf y bydd cymryd y camau a awgrymir yn y cynnig sydd ger ein bron yn gwneud unrhyw beth i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Os na fyddwn yn ofalus, byddwn yn cymryd cam gwag nad yw’n gwneud fawr ddim ond niweidio gweithwyr tlotaf ein sector cyhoeddus. Os byddwn yn atal cronfeydd pensiwn rhag buddsoddi yn rhai o’r busnesau mwyaf proffidiol yn y DU, rydym yn mynd i gyfyngu’n ddifrifol ar dwf y cronfeydd hynny a lleihau pensiynau rhai o’n gweithwyr sydd ar y cyflogau isaf—ein staff gofal cymdeithasol, staff ein GIG, y cogyddion a'r glanhawyr yn ein hysgolion a'n canolfannau gofal dydd, a'r degau o filoedd o weithwyr cyngor eraill a staff ysbytai sy'n darparu gwasanaeth gwerthfawr i bob un ohonom yma.
Rydym yn lwcus. Gallwn fforddio talu ychydig yn rhagor i arbed ychydig yn rhagor. Ni allant hwy wneud hynny. Mae'n rhaid ichi ofyn i chi'ch hun hefyd beth fyddwn ni'n ei gyflawni drwy wahardd buddsoddi mewn sefydliadau fel BP a Shell. A fyddwn yn eu gorfodi i newid eu hymddygiad? Nid wyf yn credu hynny. Maent yn gwneud hynny eu hunain. Y cwmnïau olew a nwy hyn yw rhai o'r buddsoddwyr mwyaf mewn ynni adnewyddadwy. Mae BP newydd bartneru gyda chwmnïau ynni o Abu Dhabi, ADNOC a Masdar, i ddatgarboneiddio systemau ynni a thrafnidiaeth y DU a’r Emiradau Arabaidd Unedig. Maent yn pwmpio biliynau i mewn i hydrogen gwyrdd mewn ymdrech i ddatgarboneiddio diwydiannau lle mae'n anodd lleihau'r defnydd o garbon, megis cynhyrchu dur. Maent hefyd wedi dod yn bartner blaenllaw yn y Ganolfan Fyd-eang ar gyfer Datgarboneiddio Morol, gan fod morgludiant yn un o’r cyfranwyr mwyaf at allyriadau carbon byd-eang. Dylid cymeradwyo hyn yn hytrach na'i gosbi. Gadewch inni annog rheolwyr cronfeydd pensiwn i fuddsoddi mewn cwmnïau proffidiol sy'n mynd ati'n weithredol i ddatgarboneiddio yn hytrach na’u hanwybyddu am eu bod yn ddiwydiant tanwydd ffosil yn unig ar hyn o bryd.
A ddylai'r cwmnïau mawr rhyngwladol a'r corfforaethau byd-eang hyn fod yn fwy moesegol? Yn sicr, dylent. Ond ni fyddwn yn cyflawni newid drwy gyfyngu ar ein cronfeydd pensiwn. Ni chlywaf unrhyw un yn galw am i gronfeydd pensiwn gael eu symud oddi wrth gwmnïau fel Nestlé neu Apple. Mae Apple yn defnyddio llafur gorfodol yn Tsieina ac arferion gwrth-gystadleuol ledled y byd i ddod yn gorfforaeth gyfoethocaf y byd. [Torri ar draws.] Nid ydym yn gweld pobl yn neidio i fyny ac i lawr ynglŷn â hynny, ydym ni, Llyr? Felly, gadewch inni fabwysiadu ymagwedd fwy pwyllog. Gallwn weithio gyda’n gilydd i annog newid, ond ni fyddwn yn ei orfodi drwy gyfyngu ar arian y sector cyhoeddus. Rwy'n annog yr Aelodau i ymatal ar y cynnig hwn y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n rhaid imi ddweud, Jack, fy mod yn anghytuno ag un peth a ddywedoch chi. Nid yw hyn yn ddiflas i mi; credaf fod hyn yn hynod ddiddorol, gan fod pensiynau’n effeithio ar bob un ohonom. Ysgrifennodd un etholwr ataf, 'Nid yw'n gwneud llawer o synnwyr i boeni am hyfywedd ariannol pensiwn y gallaf gael mynediad ato ymhen 32 mlynedd pan ddywed y rhagamcanion presennol y bydd fy nhŷ, yma yng Nghaerdydd, o dan ddŵr erbyn 2050, a byddaf yn wynebu dyfodol o brinder bwyd, digwyddiadau tywydd mwy eithafol a risg uwch o farwolaeth oherwydd tymereddau uchel.' Felly, dyna rydym yn sôn amdano yn awr: rhoi camau go iawn ar waith. Ni allaf ddirnad yr hyn a ddywedodd Gareth Davies. Mae bron yn ddadl dros wneud dim byd. [Torri ar draws.] Na, rydych yn seilio dadl ar ffeithiau. Ychydig iawn o ffeithiau a glywais yno. Un peth rwy'n cytuno ag ef: mae'n mynd y tu hwnt i danwydd ffosil. Dylem fod yn edrych ar gynlluniau pensiwn moesegol, sy’n cynnwys y fasnach arfau, tybaco ac yn y blaen. Argyfwng hinsawdd yw hwn. [Torri ar draws.] Wrth gwrs y gwnaf dderbyn ymyriad.
Gan nad oedd yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd yn barod i dderbyn ymyriad, rwyf am wneud y pwynt yr oeddwn am ei wneud bryd hynny. Un o’r pethau cadarnhaol a allai ddeillio o ddadfuddsoddi fel hyn fyddai perswadio’r cwmnïau sy'n draddodiadol wedi gwneud eu helw o danwydd ffosil i newid cyfeiriad. Mae a wnelo hyn â’u perswadio i weithio mewn ffordd foesegol drwy ddweud, 'Byddwn yn buddsoddi yn y rhan honno o’ch busnes, ond mae'r amser ar ben ar y rhan arall acw’.
Rwy'n cytuno'n llwyr â fy nghyd-Aelod yno. Credaf fod Jack yn iawn yn y cynnig i nodi'r cynnydd mewn perthynas â’n cronfeydd pensiwn ein hunain fel Aelodau o’r Senedd, ond efallai y bydd yn syndod i rai Aelodau yma heddiw nad yw’r un peth yn wir am ein staff. A dweud y gwir, mae'n fater y mae un o aelodau fy nhîm wedi bod yn ceisio mynd i'r afael ag ef ers dechrau gyda mi. Roedd yr unigolyn, mewn gwirionedd, wedi gwrthod swydd gydag awdurdod lleol am nad oeddent yn gallu cynnig pensiwn amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu, a gwnaethant gytuno i rôl yn fy nhîm am eu bod o dan yr argraff fod cynllun pensiwn y Senedd yn eu cofrestru'n awtomatig ar gynllun amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu. Fodd bynnag, ar ôl bod drwy’r broses o gofrestru ar gyfer pensiwn, roedd yr unigolyn yn siomedig o glywed y canlynol: nad yw staff yn cael eu cofrestru’n awtomatig ar y cynllun, ni chânt wybod bod opsiwn ar gael i gymryd rhan yn y cynllun—
Heledd, a wnewch chi dderbyn ymyriad? Mae gennyf gais am ymyriad gan Mark Isherwood.
Na, diolch. Gall staff gofrestru eu hunain—[Torri ar draws.] Ni chymeroch chi ymyriad gennyf fi, felly, os gwelwch yn dda—
Peidiwch ag ymateb iddo. Nid oes angen i chi. [Torri ar draws.]
A gaf fi barhau, os gwelwch yn dda? Diolch. Gall staff gofrestru eu hunain ar gyfer yr opsiwn amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu sydd ar gael, ond mae angen iddynt wybod pa gwestiynau i'w gofyn. Mae'r aelod o fy nhîm bellach wedi cael manylion—[Torri ar draws.] A gaf fi siarad, os gwelwch yn dda? Diolch—rheolwr y gronfa bensiwn fel y gellir mynd i'r afael â hyn. Fodd bynnag, dywedodd yr aelod o fy nhîm wrthyf, ‘Fel aelod o staff, rwy’n gweld fy mod yn gorfod gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith caib a rhaw er mwyn darganfod lle'n union y mae pensiwn fy ngweithle newydd yn cael ei fuddsoddi.' Credaf fod gwers i bob un ohonom yn hyn, o ran sicrhau ein bod yn ei gwneud mor hawdd â phosibl i’n staff ein hunain, yn ogystal â’r sector cyhoeddus ehangach, sicrhau bod eu pensiwn yn un moesegol. Wedi'r cyfan, oni ddylai hyn fod yn rhywbeth y gallwch optio allan ohono yn hytrach nag optio i mewn iddo yn y dyfodol?
A pham fod hyn yn bwysig? Nid yn unig mai dyma'r peth iawn i'w wneud o safbwynt moesegol, ond dyma'r peth iawn i ni ei wneud ar gyfer dyfodol ein planed. Rwy’n ddiolchgar i bob un o fy etholwyr sydd wedi cysylltu â mi ynghylch y mater gan rannu ymchwil a wnaed gan Aviva gyda Route2, ar y cyd â Make My Money Matter, ac fel rhan o bartneriaeth Aviva â WWF UK. Canfu fod symud y cyfoeth pensiwn cyfartalog cenedlaethol i’r gronfa gynaliadwy gan ddefnyddio eu cyfrifiad 21 gwaith yn fwy effeithiol na’r arbedion carbon blynyddol cyfunol o newid i ddarparwyr trydan adnewyddadwy, teithio ar drenau yn lle awyrennau, a mabwysiadu deiet llysieuol.
Mae fy etholwyr sy’n teimlo’n gryf am hyn hefyd yn iawn i deimlo nad yw gosod targed ar gyfer 2030 yn ddigon da ac y dylid gwneud y newid hwn ar unwaith. Wedi'r cyfan, gwelsom yn ystod anterth y pandemig bethau a oedd yn arfer cael eu hystyried yn amhosibl yn dod yn bosibl, a chydweithredu rhyngwladol yn adlewyrchu'r brys. Ac eto, mewn perthynas â'r argyfwng hinsawdd a natur, ac fel y gwelsom yn COP26, rydym yn parhau i weld amharodrwydd i weithredu, er gwaethaf y sefyllfa y mae ein planed yn ei hwynebu. Ni ddylem gymryd yr hyn a ddywed y cwmnïau tanwydd ffosil wrthym ar ei olwg gyntaf. Rwy’n siŵr fod llawer ohonoch wedi gweld ymddiswyddiad tanbaid Caroline Dennett o'i swydd fel uwch ymgynghorydd diogelwch gyda Shell, gan gyhuddo’r cynhyrchydd tanwydd ffosil o beri niwed eithafol i’r amgylchedd, a chan ddatgan:
'Ni allaf weithio mwyach i gwmni sy'n anwybyddu'r holl rybuddion ac yn diystyru risgiau newid hinsawdd a chwalfa ecolegol oherwydd, yn groes i ddatganiadau cyhoeddus Shell ynghylch sero net, nid ydynt yn dirwyn olew a nwy i ben, ond yn hytrach, maent yn cynllunio i archwilio ac echdynnu llawer mwy ohonynt.'
Mae'n rhaid inni wneud hyn. Nid yw'n opsiwn. Gallwn ei wneud yma yng Nghymru o ran pensiynau sector cyhoeddus. Dywedir wrthym dro ar ôl tro ei fod yn rhy gymhleth, ond fel y dangoswyd gan Cefin Campbell, mae cenedlaethau’r dyfodol yn mynnu ein bod yn gwneud hyn. Fel arall, ni fydd unrhyw bwynt iddynt gael unrhyw fath o gronfa bensiwn.
Cyn imi symud ymlaen, a gaf fi atgoffa’r holl Aelodau fod gan bob Aelod hawl i wneud cais am ymyriad, ond mae gan yr Aelod sy’n siarad bob hawl i dderbyn neu wrthod y cais hwnnw? Hoffwn annog yr Aelodau i beidio ag ymateb i sylwadau gan rai yn eu seddau, gan fod hynny'n caniatáu ichi barhau i siarad yn naturiol. Sarah Murphy.
Diolch. Hoffwn ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno’r cynnig hwn i’r Siambr heddiw. Llywodraeth Cymru oedd un o’r rhai cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd, ac roedd yn arloesol. Cofiaf glywed y cyhoeddiad a meddwl am bob un yn ein cymunedau sydd wedi addasu i ailgylchu eu gwastraff, beicio i’r gwaith, cerdded i’r gwaith i liniaru llygredd aer, plant ysgol sy’n defnyddio poteli dŵr y gellir eu hailddefnyddio i leihau’r defnydd o blastig. Nid yw'r gweithredoedd hyn yn ofer pan fydd gennym Lywodraeth sy'n cydnabod y wyddoniaeth. Yng Nghymru, mae gennym Lywodraeth sy’n gwybod bod yn rhaid inni weithredu ar unwaith. Cyn y pandemig, roeddwn hefyd yn falch o sefyll ochr yn ochr â phobl ifanc ledled Cymru, ond yn enwedig y rheini o Ben-y-bont ar Ogwr, wrth gwrs, a ddaeth i lawr i orymdeithio gyda streiciau hinsawdd y bobl ifanc. Roeddent yn arfer dod i eistedd ar risiau’r Senedd bob mis a rhoi areithiau anhygoel.
Mae lefelau’r môr yn codi, mae newidiadau i’r tywydd yn effeithio ar ein ffermwyr, mae newid hinsawdd yn effeithio ar ein bioamrywiaeth a’n bywyd gwyllt. Felly, nid mater o nodi’r bygythiad yma yng Nghymru yn unig yw datgan argyfwng hinsawdd, mae’n rhaid inni osod esiampl yn awr a mynd ati i wneud pethau’n wahanol. Mae hyn yn cynnwys cydweithredu rhwng gwledydd i greu modd o fyw’n gynaliadwy, cydweithredu ar flaenoriaethau sy’n sicrhau nad yw’r rhai mwyaf agored i niwed yn dioddef, cydweithredu rhwng Llywodraethau a’u pobl lle mae trigolion yn chwarae eu rhan gyda'n Llywodraeth hefyd yn gweithio i fynd i’r afael ag effaith newid hinsawdd. Mae’r cynnig heddiw yn cyflwyno’r union egwyddorion hyn. Unwaith eto, nid yw'n ymwneud â gorfodi hyn ar y sector cyhoeddus ychwaith. Mae’r cynnig yn nodi'n glir iawn fod hyn yn ymwneud â chydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus, er mwyn cyrraedd targedau sydd eisoes ar waith i sicrhau bod y sector cyhoeddus yn cyrraedd sero net erbyn 2030. Mae angen i bobl gael sicrwydd gan eu Llywodraeth a'u sector cyhoeddus eu bod yn gwneud pethau sydd er eu lles hwy ac er lles y blaned.
Mae cynllun pensiwn y sector cyhoeddus yn fuddsoddiad i sicrhau bod eu dyfodol yn un o sicrwydd ariannol i bobl pan fyddant wedi rhoi'r gorau i'w gwaith. Mae cynllun sy'n buddsoddi mewn tanwyddau ffosil, gan gyfrannu at ddinistr y blaned, yn mynd yn groes i'r union sicrwydd y mae'r pensiwn yn anelu i'w greu. O ddiwydiannau i fusnesau lleol i drigolion a phlant ysgol, mae pob un ohonom yn edrych ar ffyrdd newydd o fyw'n gynaliadwy sy'n seiliedig ar ddiogelu ein planed. Byddai symud pensiynau oddi wrth y cynllun yn enghraifft arall o’r ffordd y mae Cymru’n arwain ar ddiogelu’r amgylchedd, a dyma’r peth iawn i’w wneud hefyd er budd pawb. Byddai hefyd yn golygu mai ni fyddai'r genedl gyntaf yn y byd i wneud hynny. Byddai hynny'n gwbl anhygoel. Onid yw pob un ohonom yn dymuno bod yn rhan o genedl a Llywodraeth a all wneud hynny?
Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Ni allwn ganolbwyntio mwyach ar gynyddu twf economaidd a chynnyrch domestig gros i’r eithaf ar draul gwneud penderfyniadau ar sail buddion cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae'n rhaid inni ailfuddsoddi egni o arferion niweidiol megis ariannu olew a nwy i mewn i bolisïau arloesol, cydweithredol a thryloyw sy’n rhoi pobl a’r blaned o flaen gwneud elw.
Hoffwn ddiolch i Jack am gyflwyno’r ddadl bwysig hon i’r Senedd ac am ei ymgyrch ragorol, ochr yn ochr â Cyfeillion y Ddaear Cymru, i sicrhau bod y mater hwn yn cael ei drafod.
Rwyf wedi sôn o’r blaen yn y Siambr hon am y polisïau Thatcheraidd y mae Cymru a’r DU yn parhau i dalu’r pris amdanynt, boed hynny ar ffurf argyfwng tai neu drychineb dadreoleiddio bysiau—mae pensiynau’n rhywbeth arall i’w ychwanegu at y rhestr hon. Yn y 1980au, roedd Llywodraeth Thatcher yn wrthwynebus i'r hyn roeddent yn ei alw’n ddibyniaeth ar fudd-daliadau gan y wladwriaeth, ac yn lle hynny, aethant ati i gymell pobl i ymrwymo i lefelau uwch o ddarpariaeth pensiynau preifat. Arweiniodd hynny at sgandal camwerthu pensiynau personol—. Mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn yn disgwyl cael fy ngalw. Mae'n wir ddrwg gennyf.
Yn y 1980au, roedd Llywodraeth Thatcher yn wrthwynebus i'r hyn roeddent yn ei alw’n ddibyniaeth ar fudd-daliadau gan y wladwriaeth, ac yn lle hynny, aethant ati i gymell pobl i ymrwymo i lefelau uwch o ddarpariaeth pensiynau preifat. Arweiniodd hynny at sgandal camwerthu pensiynau personol, lle cafodd byddinoedd o werthwyr ar gomisiwn eu talu i argyhoeddi’r cyhoedd y dylent roi’r gorau i’w cynlluniau pensiwn cyflog terfynol ac ymrwymo i bensiynau personol mwy mentrus. Arweiniodd hyn at nifer enfawr o bensiynau'n cael eu rheoli gan reolwyr asedau preifat, a dyna yw'r norm ers hynny. Yn hytrach na gadael cronfeydd pensiwn yn nwylo’r sector preifat, dylid eu rheoli’n ddemocrataidd ac er budd y cyhoedd. Mae hynny'n fwy angenrheidiol byth mewn perthynas â buddsoddiadau cronfeydd pensiwn mewn tanwyddau ffosil, ac ar hyn o bryd, mae cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gweithredu fel ffynhonnell ynni ar gyfer dinistrio'r hinsawdd ymhellach. Mae'r cronfeydd hyn yn gwaethygu'r argyfwng hinsawdd, ac maent hefyd yn fuddsoddiadau gwael. Bydd angen i unrhyw drawsnewid gwyrdd sy’n deilwng o’r enw gynnwys targed i leihau dibyniaeth ar danwydd ffosil, gan arwain at ddibrisiant sylweddol buddsoddiadau mewn tanwydd ffosil, gan gynyddu risg cronfeydd pensiwn cyfredol.
Caiff pensiynau eu cynllunio i roi sicrwydd i weithwyr pan fyddant yn ymddeol. Mae parhau i fuddsoddi cronfeydd pensiwn mewn tanwyddau ffosil dinistriol yn gwneud yn union i’r gwrthwyneb, yn debyg iawn i’r argyfwng hinsawdd ei hun. Mae'r buddsoddiadau hyn yn fomiau amser, ac nid oes rhaid i bethau fod fel hyn. Dychmygwch system lle mae cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus yn cael eu rhoi mewn bargen newydd werdd, ac yn hytrach nag ariannu dinistr y blaned, gallem fod yn ariannu'r gwaith o'i hachub. Gallem ddefnyddio’r buddsoddiad hwn er lles cymdeithasol ac amgylcheddol, gan fuddsoddi mewn swyddi sy’n talu’n dda ac sy'n cydnabod undebau llafur yn niwydiannau cynaliadwy’r dyfodol. Mae'r amser ar gyfer camau gweithredu difrifol ar newid hinsawdd wedi hen fynd heibio. Yma yng Nghymru, rydym eisoes wedi dangos ein parodrwydd i arwain ar faterion amgylcheddol drwy ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019. Ac fel y mae cynnig Jack yn ei nodi, gall Cymru arwain y ffordd unwaith eto. Gallwn fod yn genedl gyntaf y byd i symud cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus oddi wrth danwydd ffosil yn gyfan gwbl, ac mae'n rhaid inni barhau i ategu ein geiriau â chamau gweithredu difrifol. Mae angen symud oddi wrth danwydd ffosil, ac mae angen gwneud hynny ar unwaith. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans.
Diolch, a diolch i Jack Sargeant am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Yn sicr, nid yw wedi bod yn ddadl sych, rwy'n tybio iddi fod yn fwy bywiog nag y byddai unrhyw un ohonom wedi'i ragweld, ond mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn hefyd.
Mae’n gwbl amlwg fod yn rhaid i sero net fod yn uchelgais a rennir gennym ar draws y Senedd, ar draws Llywodraeth Cymru ac ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru yn fwy cyffredinol, ac rydym wedi trafod droeon yn y Siambr hon mai newid hinsawdd yw’r her fwyaf a wynebwn, a'r ffordd y mae angen inni weithredu a gweithredu ar unwaith.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r uchelgeisiau a nodir yn y cynnig i ddatgarboneiddio cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus sy’n cael eu hariannu drwy fuddsoddiadau. Felly, mae hyn yn cynnwys y cynllun pensiwn llywodraeth leol a chynlluniau Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac wrth gwrs, ein cynllun ein hunain ar gyfer Aelodau’r Senedd.
Y cynllun pensiwn llywodraeth leol yw’r mwyaf o’r rhain, ac mae'n darparu pensiynau bron i 400,000 o aelodau yng Nghymru. Wrth gwrs, nid yw mor syml â phleidleisio heddiw i symud cronfeydd penodol oddi wrth danwydd ffosil. Mae'n rhaid i’n cronfeydd pensiwn, fel gweddill y system, ymateb yn llawn i’r argyfwng hinsawdd a natur. Ac rydym wedi nodi, yn gyfreithiol, ein targed i gyflawni sero net erbyn 2050, ac wrth gwrs, yr uchelgais ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru yw sero net erbyn 2030. I wneud hyn, mae'n rhaid i bensiynau'r sector cyhoeddus, fel pensiynau eraill, ddatblygu dealltwriaeth gydlynol o’r allyriadau presennol a hanesyddol sydd ynghlwm wrth eu buddsoddiadau. Mae angen iddynt nodi cyfleoedd cadarnhaol i fuddsoddi mewn datblygiadau sy'n cefnogi'r newid i'r byd datgarbonedig. Mae angen iddynt ddeall ac ymateb i'r risgiau ariannol y mae'r argyfwng hinsawdd yn eu creu.
Weinidog, mae gennyf gais am ymyriad gan Mark Isherwood.
Os caf orffen yr adran hon, byddaf yn fwy na pharod i dderbyn yr ymyriad. Mae'n rhaid iddynt hefyd ymateb mewn modd tryloyw ac mae'n rhaid iddynt ddatblygu cynlluniau pontio credadwy i gyrraedd sero net, ac wrth gwrs, mae'n rhaid iddynt weithio'n agos gyda'r rheini sydd wedi cyfrannu at y cronfeydd, gan gynnwys y gweithwyr a'u hundebau llafur, i sicrhau eu bod yn ymgysylltu ac yr ymgynghorir yn llawn â hwy mewn unrhyw ddull gweithredu yn y dyfodol—pwynt a wnaed yn gryf iawn gan Jack Sargeant. Rwy’n fodlon derbyn yr ymyriad.
Mark Isherwood.
Diolch yn fawr iawn yn wir. Rwy'n siŵr fod pob un ohonom yn rhannu'r un nodau. Cyrhaeddodd y byd anterth ei gynhyrchiant olew ychydig flynyddoedd yn ôl, ac mae’r byd yn rhedeg allan o danwydd ffosil, p’un a ydym yn eu caru neu’n eu casáu, ac felly ychydig flynyddoedd yn unig sydd gennym i roi system ynni amgen ar waith, ond nid yw'r dechnoleg yn gwbl barod eto. Sut rydych yn ymateb i'r dystiolaeth y gallai cannoedd o filiynau neu hyd yn oed biliynau o bobl farw heb gyflenwad tanwydd ffosil wrth gefn yn ystod y cyfnod pontio?
Credaf mai'r pwynt yn y fan hon yw trosglwyddo buddsoddiad tuag at y technolegau hynny, technolegau y mae eu hangen arnom ar gyfer y dyfodol, ac os na fyddwn yn buddsoddi yn y dechnoleg honno a’r arloesedd, byddwn yn aros am byth am y dewisiadau amgen yn lle tanwydd ffosil. Felly, bydd buddsoddi yn y dewisiadau amgen hynny ac yn yr arloesedd a’r ymchwil i ddod o hyd i’r dewisiadau amgen hynny yn gwbl hanfodol. Ac ni chredaf y byddai unrhyw un ohonom yn dadlau o ddifrif yn erbyn y pwynt hwnnw.
Fel y nododd un rheolwr pensiwn, gosod targed sero net hirdymor yw'r rhan hawdd; yr her yw cael y fframwaith credadwy a thryloyw sy’n galluogi eich cronfa i droi’r bwriad hwnnw yn benderfyniadau a chamau gweithredu ymarferol. Credaf fod hynny’n ateb pryder Mark Isherwood.
Ond wrth gwrs, mae'n wirioneddol bwysig nodi'n glir iawn yn y cyswllt hwn nad oes gan Weinidogion Cymru bwerau i gyfarwyddo awdurdodau neu ymddiriedolwyr cynllun pensiwn y sector cyhoeddus i fuddsoddi neu i beidio â buddsoddi mewn ffyrdd penodol. Ymddiriedolwyr pensiynau, aelodau etholedig a swyddogion a rheolwyr pob cronfa sy’n gyfrifol am ofalu am fuddiannau aelodau’r cronfeydd, ac mae buddiannau eu haelodau yn amlwg yn cynnwys sicrhau enillion da, ond yn yr un modd, mae’n golygu ymateb—ymateb i ddymuniadau’r aelodau ac ymateb i’r risgiau ariannol a achosir gan newid hinsawdd, a chwarae eu rhan, hefyd, i sicrhau bod planed gyfanheddol ar ôl i genedlaethau’r dyfodol gael mwynhau eu hymddeoliad, fel y dywedodd cynifer o'r Aelodau yn y ddadl y prynhawn yma.
Felly, credaf mai rôl y Llywodraeth yw gweithio gydag awdurdodau pensiwn ar draws y sector cyhoeddus. Mae'n ymwneud â galw'r trafodaethau hynny ynghyd a sicrhau y ceir dysgu ar y cyd er mwyn inni allu bod yn sicr eu bod yn cydnabod y risgiau a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil yr argyfwng hinsawdd. Mae'n ymwneud â chefnogi arferion gorau a lleihau rhwystrau yn ogystal ag annog uchelgais a chyflymder lle mae eu hangen.
Er nad wyf yma i egluro gweithredoedd yr awdurdodau pensiwn a’r ymddiriedolwyr, credaf eu bod yn ymateb i’r mater. Mae gan gronfa'r cynllun pensiwn llywodraeth leol bolisi newid hinsawdd a pholisi buddsoddi cyfrifol, yn ogystal â chronfa garbon isel nad yw'n buddsoddi mewn cwmnïau sy’n dibynnu ar lo i gynhyrchu refeniw. Maent hefyd wedi cyflwyno adroddiadau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu annibynnol ac adroddiadau annibynnol ar risgiau hinsawdd, ac mae cronfeydd pensiwn llywodraeth leol Cymru wedi trosglwyddo’r rhan fwyaf o’u buddsoddiadau goddefol i gronfeydd olrhain carbon isel. Mae pensiwn Aelodau’r Senedd wedi ymrwymo i symud buddsoddiadau oddi wrth danwydd ffosil. Ac rwyf eisoes wedi cyfarfod ag aelodau o awdurdodau pensiwn llywodraeth leol, ac fe wnaethom gytuno i drafod y mater penodol hwn gydag arweinwyr llywodraeth leol yn y cyngor partneriaeth statudol, fel rhan o'n ffocws parhaus ar ymateb i newid hinsawdd.
Wrth gwrs, rydym eisiau gweld camau gweithredu uchelgeisiol, cyflymach ar yr agenda hon, ac yng Nghymru, mae gennym gyfleoedd i gronfeydd pensiwn fuddsoddi wrth inni gynyddu’r defnydd o ynni adnewyddadwy. Rydym yn sefydlu swyddogaeth datblygu ynni adnewyddadwy cyhoeddus a fydd yn ceisio sicrhau buddsoddiad i gyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy mewn ffordd sy'n sicrhau'r gwerth economaidd a chymdeithasol mwyaf posibl i Gymru. Felly, rydym eisiau gweithio gyda chronfeydd pensiwn yng Nghymru i archwilio'r cyfle i gysylltu'r datblygiad hwnnw yng Nghymru â buddsoddiad o Gymru, ac nid yw hwn yn faes lle y gall Llywodraeth Cymru fandadu newid. Os ydym yn dymuno newid, mae'n rhaid inni helpu i wneud i hynny ddigwydd, ac mae'n rhaid iddo ddigwydd drwy'r dull partneriaeth cydweithredol hwnnw. Ond mae gan Lywodraeth Cymru rôl hanfodol o ran arwain, cefnogi a hwyluso. Mae angen inni weithio ar y cyd â phartneriaid mewn llywodraeth leol ac ar draws y sector cyhoeddus, gan gynnwys ein hundebau llafur, ar yr hyn sydd, wedi’r cyfan, fel y dywedais ar y dechrau, yn uchelgais a rennir. Felly, rwy’n cefnogi’r cynnig i weithio gyda’r sector cyhoeddus i gytuno ar strategaeth i ddatgarboneiddio pensiynau erbyn 2030. Diolch.
Galwaf ar Jack Sargeant i ymateb i'r ddadl.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar am gyfraniadau’r Aelodau i’r ddadl hon a’r cyfraniadau cadarnhaol gan y rhan fwyaf o Aelodau’r Siambr y prynhawn yma. Fe ddechreuaf, Lywydd, drwy grynhoi—nid wyf yn siŵr a oedd yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd wedi cael ei Shreddies y bore yma, neu ei eirin Dinbych, ond rwy’n sicr yn anghytuno â’r rhan fwyaf o’i gyfraniad. Ond rwy'n croesawu ei fwriad i ymatal a’r cyfraniad a wnaeth y prynhawn yma.
Ond Ddirprwy Lywydd, rwy'n benderfynol o weld y cynnig hwn yn cael ei dderbyn yn Siambr y Senedd heddiw, ac y byddwn yn dangos bod Senedd genedlaethol Cymru eisiau i’n sector cyhoeddus fod yn wirioneddol garbon niwtral erbyn 2030. Diolch i’r Aelodau am eu hymgysylltiad cadarnhaol, ond hefyd am y gwaith y maent wedi'i wneud mewn blynyddoedd blaenorol. Gwn fod Jenny Rathbone a Mike Hedges wedi gweithio ochr yn ochr, a soniodd Vikki Howells yn ei chyfraniad am ein Haelodau, pan oeddem yn Aelodau'r Cynulliad, ein cronfeydd pensiwn ein hunain a’r gwaith y maent wedi llwyddo i'w wneud ar hynny. Ond soniodd Heledd Fychan am rywbeth y mae gwir angen i holl Aelodau’r Siambr edrych arno mewn perthynas â'n staff cymorth a’u cynllun pensiynau, a byddwn yn annog y Comisiwn i nodi hynny hefyd.
Ond Ddirprwy Lywydd, byddai'n chwerthinllyd pe bai gweddill y sector cyhoeddus yn dod yn garbon niwtral a bod cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus yn buddsoddi mewn echdynnu tanwydd ffosil. Fel y mae Carolyn Thomas wedi’i ddweud, byddem yn ariannu'r gwaith o achub y blaned pe baem yn gwneud hyn yn iawn.
Hoffwn dalu teyrnged yma hefyd, wrth gloi, i’r holl ymgyrchwyr sydd wedi bod yn gweithio’n galed ar y mater hwn ers blynyddoedd lawer. Mae’r ddadl hon heddiw'n ymwneud â dangos arweiniad gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru ac anfon neges at fuddsoddwyr cronfeydd pensiwn fod angen cydweithredu a bod angen dadfuddsoddi, ac nad tanwydd ffosil yw’r dyfodol.
Fel y nodwyd yn y Siambr hon, cafodd cronfeydd pensiwn eu dadfuddsoddi o Rwsia mewn ychydig ddyddiau. Rwy'n croesawu sylwadau Peter Fox ac rwyf hefyd yn cydnabod, fel y gwnaeth Cefin Campbell, y gwaith da a wnaed eisoes gan gynghorau ledled Cymru. Ond mae hyn yn ymwneud â safoni'r arfer ledled Cymru gyfan. Ac wrth gwrs, soniodd Peter Fox am y canlyniadau anfwriadol a allai ddod yn sgil hyn. Wel, rydym yn rhoi wyth mlynedd iddynt wneud hyn gyda tharged 2030, ac fel y dywedodd y Gweinidog, yn rhan o’r cydweithredu â Llywodraeth Cymru, mae cael y sgyrsiau gyda’n cyd-Aelodau a’n hundebau llafur i sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn sgil symud i'r cyfeiriad hwn. Ond rydym yn rhoi wyth mlynedd iddynt.
Hoffwn ystyried pobl ifanc, cenedlaethau'r dyfodol, streic hinsawdd ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr a’r bobl ifanc a ddisgrifiodd Cefin Campbell. Mae'r cloc yn tician ar hyn; mae gwir angen inni weithredu, neu fel arall, ni fydd diben cael pensiynau yn y dyfodol beth bynnag.
Lywydd, rwyf am gloi drwy ddweud un peth olaf. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i fuddsoddi yn nyfodol Cymru, yn ein cymunedau a’i seilwaith. Ni allwn ddatrys yr argyfwng hinsawdd ar ein pen ein hunain, ond gallwn ddadfuddsoddi yng nghronfeydd pensiwn ein sector cyhoeddus, ac os gwnawn hynny, Cymru fydd y genedl gyntaf yn y byd i'w wneud, a bydd yn dangos arweiniad real a beiddgar i weddill y byd. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pledleisio.