7. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Iechyd Menywod

– Senedd Cymru am 5:25 pm ar 5 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 5:25, 5 Gorffennaf 2022

Symudwn ymlaen at eitem 7, datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar iechyd menywod. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y ddatganiad. Eluned Morgan. 

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i wneud y datganiad pwysig hwn heddiw am gyhoeddi ein datganiad ansawdd ar iechyd menywod a merched. Rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed i wella ansawdd y gofal mae pawb yn ei dderbyn yng Nghymru ac i leihau lefel yr amrywiaeth yn y safonau rhwng gwasanaethau sydd ar gael mewn un rhan o Gymru a'r llall. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau dwfn a sefydledig iawn o hyd yn y ffordd mae dynion a menywod yn profi gofal iechyd. Mae'r rhain wedi'u dogfennu'n dda ac wedi'u hymchwilio'n dda ac nid ydynt yn unigryw i Gymru.

Menywod yw ychydig dros hanner ein poblogaeth ac maen nhw’n cyfrif am y rhan fwyaf o weithlu'r GIG yng Nghymru. Mae menywod yn ysgwyddo'r rhan fwyaf o gyfrifoldebau gofalu'r teulu ac yn parhau i wneud y rhan fwyaf o'r gwaith yn y cartref, yn ogystal â gweithio y tu allan i'r cartref. Ond yn rhy aml o lawer, mae menywod yn cael gofal iechyd yn seiliedig ar brofiad gwrywaidd o salwch, yn hytrach na chael yr help a'r gofal sydd eu hangen arnyn nhw, wedi'u teilwra i'w hanghenion fel menyw neu ferch. Gall rhagfarn ac anghydraddoldebau o'r fath olygu bod menywod yn aml yn cael gwasanaethau mwy gwael ac, mewn rhai achosion, rydym ni’n gweld canlyniadau gwaeth.

Mae ymchwil gan Sefydliad Prydeinig y Galon yn awgrymu y gellid bod wedi atal marwolaethau o leiaf 8,000 o fenywod pe baen nhw wedi cael triniaeth gardiaidd deg dros gyfnod o 10 mlynedd yng Nghymru a Lloegr. Dim ond un enghraifft yw hon, mewn un maes meddygaeth. Yn anffodus, mae'r anghydraddoldebau hyn yn amlwg ar draws meddygaeth. Llywydd, nid yw hyn yn iawn ac nid yw'n deg. Os ydym ni am fod yn driw i’n nod cyffredinol o ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yng Nghymru, yna rhaid i ni newid y ffordd rydym ni’n darparu gofal iechyd i fenywod a merched fel y gallant ei gael mewn modd amserol, fel bod y GIG yn ymateb i'w dewisiadau a'u hanghenion a bod ymchwil a datblygu yn adlewyrchu profiadau byw menywod a merched. Dyna pam yr wyf i, heddiw, yn cyhoeddi'r datganiad ansawdd ar iechyd menywod a merched.

Rwyf i eisiau cofnodi heddiw, pan fyddwn ni’n sôn am iechyd menywod a gofal iechyd menywod, nad sôn am wasanaethau gynaecolegol neu iechyd atgenhedlol yn unig yr ydym ni. Mae'r rhain, wrth gwrs, yn wasanaethau pwysig i fenywod ond nid dyma’r unig ofal iechyd i fenywod. Mae ystod eang o gyflyrau lle gall menywod fod â symptomau gwahanol i ddynion neu y gallen nhw gael eu heffeithio'n anghymesur, gan gynnwys awtistiaeth, asthma, meigryn, esgyrn a chlefyd y galon. Mae menywod hefyd yn profi patrymau gwahanol o angen a symptomau ar draws ethnigrwydd ac anabledd, beichiogrwydd a mamolaeth. Rhaid i'r GIG allu trin pobl sy'n profi'r cyflyrau hyn yn briodol er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl.

Y datganiad ansawdd yw'r cam cyntaf pwysig yn ein cynlluniau i drawsnewid y gofal mae menywod yn ei dderbyn yng Nghymru. Mae'n nodi'r hyn y disgwylir i'r GIG ei gyflawni i sicrhau gwasanaethau iechyd o ansawdd da i gefnogi menywod a merched drwy gydol eu bywydau. Mae'n disgrifio sut fydd ‘da' yn edrych. Yn dilyn y datganiad ansawdd bydd cynllun iechyd menywod 10 mlynedd yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref. Mae'r cynllun yn cael ei ddatblygu gan GIG Cymru gyda mewnbwn sylweddol gan grwpiau menywod. Gyda'i gilydd, bydd y datganiad ansawdd a'r cynllun yn gosod y cwrs ar gyfer y ffordd y caiff gwasanaethau i fenywod a merched eu darparu a'u datblygu yng Nghymru. Rydw i wedi bod yn glir y bydd y cynllun yn dilyn yr un dull cwrs bywyd ag a nodwyd gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr yn ei adroddiad 'Gwell i fenywod' yn 2019. Bydd yn hyrwyddo dull lle mae menywod yn gallu cael y driniaeth gywir drwy gydol eu hoes a rhaid i'r GIG weithio mewn man mwy ataliol.

Er y bydd y ddwy ddogfen hyn yn gosod y llwybr ar gyfer y dyfodol, nid ydym wedi bod yn aros am heddiw i wneud newidiadau i ofal iechyd menywod a merched yng Nghymru. Rydym ni wedi ariannu'r grŵp gweithredu iechyd menywod ac rydym ni wedi cyflwyno nyrsys endometriosis arbenigol a chydlynwyr iechyd a lles y pelfis ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru. Maen nhw’n sicrhau bod menywod yn cael eu cyfeirio at wasanaethau priodol ac yn cael eu cefnogi drwy ddiagnosis a thriniaeth. 

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:30, 5 Gorffennaf 2022

Mae'r adnodd ymwybyddiaeth Mislif Fi/Bloody Brilliant—

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

nid yw'n cyfieithu i'r Gymraeg yn dda iawn—

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour

—hefyd yn cael ei ariannu drwy'r grŵp gweithredu ar iechyd menywod. Mae hwn wedi cael canmoliaeth eang, ac mae pobl mewn gwahanol rannau o'r byd wedi bod yn edrych arno ar y we. 

Gan weithio gyda chlinigwyr, rŷn ni wedi sefydlu grŵp gorchwyl i edrych ar yr arferion gorau er mwyn cynllunio llwybr gofal menopos newydd i Gymru. Bydd gwaith y grŵp yn cefnogi tasglu menopos y pedair gwlad. 

Rŷn ni hefyd wedi sefydlu bwrdd rhaglen gofal wedi'i gynllunio ym maes gynaecoleg i foderneiddio a thrawsnewid y ffordd mae gwasanaethau yn cael eu darparu. Mae'r gwaith yma'n cael ei arwain gan glinigwyr, a bydd yn helpu gwasanaethau i adfer o effaith y pandemig.  

Yn olaf, mae fy swyddogion yn archwilio'r syniad o greu cronfa ymchwil iechyd menywod. Byddai hwn yn cael ei ddefnyddio i ariannu cyfleoedd i wneud ymchwil i feysydd lle mae bylchau amlwg mewn gwybodaeth am iechyd menywod. Yn hanesyddol, mae menywod wedi bod o dan anfantais oherwydd diffyg ymchwil a data am gyflyrau sy'n effeithio arnyn nhw, neu am fod y gofal clinigol yn cael ei fodelu ar ddata ac ymchwil sydd wedi ei seilio'n bennaf ar ddynion a'u profiadau nhw.  

Llywydd, mae'n bryd inni gau'r bwlch rhwng y rhywiau a dileu'r anghydraddoldebau rhwng y rhywiau mewn gofal iechyd yng Nghymru. Bydd y datganiad ansawdd a'r cynllun, pan gaiff ei gyhoeddi, yn ein helpu i wella profiad menywod a merched o ofal iechyd a'r ffordd maen nhw'n cael gafael arno. Bydd y rhain yn trawsnewid y ffordd mae'r gwasanaeth iechyd yn cefnogi ac yn gofalu am fenywod a merched yng Nghymru. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. 

Photo of Russell George Russell George Conservative 5:32, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, a manteisio hefyd ar y cyfle i dalu teyrnged i'r GIG wrth iddo nodi ei ben-blwydd yn 70 oed heddiw, a 74 o flynyddoedd o wasanaeth rhyfeddol? A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am y datganiad heddiw a dweud fy mod yn falch iawn o glywed eich bod, wrth gwrs, yn cydnabod yr anghydraddoldebau sy'n bodoli, anghydraddoldebau, efallai, 18 mis yn ôl, cyn i mi ymgymryd â'r brîff iechyd, a chyn fy swyddogaeth ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, na fyddwn â fawr ddim dealltwriaeth ohonyn nhw fy hun. Ond yn sicr, rwy'n gwerthfawrogi'r angen am y cynllun. Nid yw'r datganiad ansawdd ei hun wedi creu argraff fawr arnaf, ond rwyf yn sicr yn edrych ymlaen at y cynllun iechyd menywod a fydd yn deillio ohono yn yr hydref. 

O ran y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, fe wnaethom ni gynnal ein hymgynghoriad ein hunain yr haf diwethaf yn gofyn i'n rhanddeiliaid am eu blaenoriaethau, ac roedd iechyd menywod ac iechyd merched yn uchel iawn ar yr agenda. O ganlyniad i hynny, gwnaethom bwynt o sicrhau bod iechyd menywod a merched yn flaenoriaeth i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer tymor y Senedd hon, dros y pum mlynedd nesaf. 

Dylwn i ddweud ein bod ni hefyd wedi gwneud rhywfaint o ymchwil pan wnaethom wahodd clymblaid iechyd menywod Cymru i ddod yn ôl ym mis Mawrth, a gwneud cyflwyniad i ni, a oedd yn ddefnyddiol o ran llywio fy marn yn sicr. Yr hyn a ddywedodd y glymblaid wrthym—a chyfeirioch chi at hyn yn eich datganiad heddiw—yw ein bod, pan fyddwn yn astudio calonnau a thrawiadau ar y galon, rydym yn astudio calonnau dynion a thrawiadau ar y galon ymhlith dynion. Ac mewn gwirionedd, mae angen i fenywod fod yn rhan o hynny, ac mae angen i ni ystyried bod y clefydau hyn yn bethau sy'n effeithio ar y ddau. Wrth gwrs, fel yr ydych chi wedi nodi eich hun, Gweinidog, efallai fod tangynrychiolaeth o fenywod mewn treialon clinigol. Rydym yn gwybod hefyd, yn sicr fe ddywedodd y glymblaid wrthym ni, fod menywod 50 y cant yn fwy tebygol o gael camddiagnosis cychwynnol o drawiad ar y galon, ac nid ydym yn gwybod beth yw'r rheswm dros hyn. Felly, Gweinidog, a wnewch chi gadarnhau y bydd y cynllun iechyd yn cynnwys ymrwymiad i gynyddu cynrychiolaeth menywod mewn treialon clinigol yng Nghymru?

Dywedoch chi hefyd y bydd y cynllun yn cael ei ddatblygu gyda grwpiau menywod, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr, wrth gwrs, ond, yn sicr, pan glywn am brofiadau menywod wrth ddatblygu'r cynllun gweithredu hwnnw, a gaf i hefyd ofyn a ydych chi'n mynd i gynnwys lleisiau'r menywod hynny yn hwnnw ac yn strwythurau llywodraethu ac arwain o fewn y GIG hefyd?

Rydym wedi clywed am lawer o broblemau yn ymwneud â chamgyfathrebu. Mae newidiadau i'r rhaglen sgrinio serfigol wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cyfathrebu clir a chywir. Ar y pwynt hwnnw, tybed, o ran gwella cyfathrebu, a wnewch chi egluro sut y mae'r cynllun yn mynd i wella cyfathrebu â menywod? Cyflwynwyd rhywfaint o dystiolaeth i ni hefyd, weithiau, wrth i fenywod ymadfer, y byddai llawer o gleifion yn cael eu llawdriniaeth ac yna byddai'r meddyg ymgynghorol yn dod o gwmpas i siarad â nhw wrth iddyn nhw ymadfer, a phan oedden nhw'n lled-ymwybodol ac yn methu cofio'r hyn a ddywedwyd. Felly, o ran pwysigrwydd cyfathrebu, byddai gennyf ddiddordeb yn eich syniadau pellach ynghylch sut y mae'r cynllun yn mynd i wella cyfathrebu yn yr elfen honno hefyd.

Yna, wrth gwrs, mae'r mater yn ymwneud ag atal hefyd. Gwn y byddwch, mae'n debyg, yn cytuno â'r asesiad hwnnw, ond byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod, Gweinidog, sut y bydd eich cynllun yn ymgorffori atal a sut y bydd hynny'n cyd-fynd, hefyd, â 'Pwysau Iach: Cymru Iach'.

Rydych chi hefyd, Gweinidog, yn sôn yn eich datganiad ansawdd,

'Bydd byrddau iechyd yn sicrhau lefelau priodol o gapasiti diagnostig, therapiwtig a llawfeddygol i alluogi menywod sydd angen ymyriadau ar gyfer anghenion iechyd sy'n benodol i fenywod a merched, gan gynnwys gofal mislif...a menopos, i dderbyn gofal mor agos â phosibl at y cartref heb orfod aros am gyfnod helaeth.'

Mae gennyf ddiddordeb yn y ffordd y bydd hynny'n cael ei ddatblygu, gan gadw ardaloedd gwledig mewn cof hefyd. Wrth gwrs, efallai y byddai'r rheini'n hawdd iawn eu cyflwyno yng Nghaerdydd, ond pan feddyliwn ni am ardaloedd gwledig, mae gennyf ddiddordeb yn y ffordd y bydd eich cynllun yn datblygu o ran sicrhau bod gennym ddigon o gapasiti mewn ardaloedd gwledig hefyd. Ac— 

Photo of David Rees David Rees Labour 5:37, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Russell, a wnewch chi gloi nawr, os gwelwch yn dda?

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

Iawn. Fe ofynnaf fy nghwestiwn olaf felly, Dirprwy Lywydd. Sut ydych chi'n rhagweld y bydd eich cynllun hefyd yn mynd i'r afael â'r cyfnod byr o amser—ni allaf hyd yn oed ddarllen fy ysgrifen fy hun yma, Gweinidog. [Chwerthin.] Mae fy amser ar ben, felly fe orffennaf gyda hynny, oherwydd ni allaf ddarllen fy llawysgrifen fy hun. 

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Gwych. Diolch, Russell. Yn gyntaf oll, diolch i'r pwyllgor am gymryd y mater hwn o ddifrif. Mae'n debyg bod gennyf apêl fach i chi, fel pwyllgor—gwn eich bod yn annibynnol a gallwch wneud fel y mynnoch chi, ond byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallech chi wneud hyn yn eithaf cyflym fel y gallwch chi ddylanwadu ar y cynllun. Yr hyn rwy'n awyddus iawn i'w wneud â'r cynllun hwn yw cael pawb i gyfrannu a theimlo y gallan nhw wneud gwahaniaeth yma, a dyna pam yr wyf wedi bod yn awyddus iawn o'r dechrau i gynnwys grwpiau menywod mewn gwahanol bethau dim ond i sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i gyfrannu.

Felly, pe gallech wneud hynny fel pwyllgor—rwy'n siŵr eich bod wedi dechrau ar y gwaith hwnnw eisoes—byddai'n ddefnyddiol iawn. Mae gennym amserlen eithaf tynn, ond rwy'n awyddus iawn i wneud hyn fel y gall ddylanwadu ar gynigion cynllun tymor canolig integredig y flwyddyn nesaf, felly byddai hynny'n dda iawn.

Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o ddatganiad y Gweinidog cyllid heddiw, ac roedd yn dweud ei bod hi wrth ei bodd yn rhannu 

'gyda'r Senedd y gwaith trawslywodraethol sydd ar y gweill i archwilio'r potensial ar gyfer pecyn gwaith penodol mewn ymchwil rhywedd sy'n gysylltiedig ag iechyd.'

Mae hyn yn bwysig iawn, rwy'n credu, i gael trefn ar y data fel y cawn wybod yn union beth sy'n digwydd. Mae hynny'n rhan o'r broblem; roedd yn broblem a nodwyd gan Caroline Criado Perez yn Invisible Women, ei llyfr hi, ac rwy'n siŵr bod y ffeministiaid yn ein plith wedi dadansoddi hynny'n eithaf gofalus ac wedi sylweddoli ein bod, fel y gwyddoch chi, yn byw mewn byd a gynlluniwyd gan ddynion ar gyfer dynion. Mae angen i ni ailgydbwyso hynny. Mae'n anodd iawn deall sut yr ydych chi'n mynd i'w newid oni bai eich bod yn cael y data'n iawn o'r dechrau, a chredaf fod hynny'n beth pwysig ac yn rhywbeth yr ydym ni'n awyddus iawn i fynd i'r afael ag ef.

O ran menywod mewn swyddi arwain a llywodraethu yn GIG Cymru, mae'n rhaid i mi ddweud wrthych fod nifer y menywod mewn swyddi arwain a llywodraethu yn y GIG yng Nghymru wedi creu argraff fawr arnaf. Rwy'n credu fy mod yn iawn wrth ddweud bod llawer o'r cadeiryddion yn fenywod, mae llawer o'r prif weithredwyr yn fenywod, ac yn sicr, mae llawer o'r bobl mewn rheolaeth ganol yn fenywod, felly nid dim ond bod y GIG yn cynnwys canran uchel iawn o fenywod, ond maen nhw mewn gwirionedd yn cyrraedd y swyddi uchaf hynny hefyd.

O ran cyfathrebu, felly, y peth pwysig am y rhaglen hon yw bod yn rhaid i'r GIG ei pherchnogi, a dyna pam yr wyf wir eisiau iddyn nhw ei datblygu. Mae'n rhaid iddyn nhw ei pherchnogi er mwyn iddyn nhw ei chyflawni. Nid wyf eisiau iddi gael ei gorfodi'n llwyr arnyn nhw. Rwy'n dweud wrthyn nhw beth yw ansawdd yr hyn y mae angen iddyn nhw ei gyrraedd, ond mae'n rhaid iddyn nhw benderfynu sut y byddan nhw'n mynd ati i wneud hynny. O ran cyfathrebu, rwy'n credu bod angen i ni fod yn ofalus iawn ynghylch cyfathrebu—rhaid i ni wneud hyn yn iawn. Rwy'n awyddus iawn i wthio llawer mwy ar ddigidol. Ar y llaw arall, mae llawer o'r bobl yn ein hysbytai, er enghraifft, yn gleifion dementia. Felly, rydych yn llygad eich lle, ond hyd yn oed os ydych—. Mae'n rhaid i chi fod yn sensitif gyda gwahanol bobl, a gobeithio bod hynny'n rhywbeth yr eir i'r afael ag ef.

Mae atal yn faes lle yr ydym yn awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud rhywfaint o waith ac mae'n debyg gen i, fod edrych ar y rhaglenni sydd gennym ni drwy lens rhywedd, rwy'n credu, yn bwysig iawn, felly bydd pethau fel 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn bwysig. Ac yna pan ddaw'n fater o ofal yn nes at gartref, yr hyn yr hoffwn ei weld, a byddaf yn sicr yn eu gwthio i weithio tuag at hyn, yw arbenigedd mislif neu fenopos yn y clystyrau gofal sylfaenol, fel ein bod yn cael un ym mhob clwstwr. Mae'n rhaid i mi sicrhau eu bod yn cefnogi hynny, ond dyna'r hyn yr hoffwn ei weld—y math hwnnw o arbenigedd a ddatblygwyd ac a ddarperir ar lefel leol.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:42, 5 Gorffennaf 2022

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad am y datganiad ansawdd. Mae'n gam arwyddocaol, dwi'n meddwl. Does yna ddim deufis ers oeddem ni ym Mhlaid Cymru yn cyflwyno cynnig o flaen y Senedd yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi sylw i faterion iechyd yn ymwneud â merched, a dwi'n falch ein bod ni yma rŵan yn gweld y datganiad yma heddiw.

Mae'n rhyfeddol ac yn gywilyddus, mewn difri, ei bod hi wedi cymryd tan rŵan inni ddechrau o ddifri, efallai, gweld pethau o bersbectif y ferch mewn iechyd.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ni'n dechrau sylweddoli yw pwysigrwydd gofal iechyd rhyw benodol yn ei ystyr ehangaf, a'r angen i deilwra gofal iechyd ar gyfer anghenion mwy na hanner y boblogaeth. Nid yw'n ymwneud yn benodol â chyflyrau neu afiechydon sy'n rhyw benodol yn unig, mae'n ymwneud â'r ffaith nad yw menywod wedi cael digon o sylw yn ein ffordd o feddwl am gyflyrau sy'n effeithio ar ddynion a menywod, ond lle mae persbectif penodol o ran menywod. Mae anghenion menywod wedi cael eu hanwybyddu neu heb gael digon o sylw hyd yn oed pan fo effaith anghymesur ar fenywod yn sgil y cyflyrau hynny. Sonioch chi am rai ohonyn nhw. Mae clefyd y galon yn un sy'n codi'n eithaf aml. Mae asthma yn un arall. Mae meigryn yn un arall. Ac mae'r Gweinidog wedi cyfeirio at y rheini.

Fodd bynnag, hoffwn dynnu sylw at y ffaith, er bod y Gweinidog, a chytunaf yn llwyr â hi, yn dweud ei bod am gofnodi, pan soniwn ni am iechyd menywod a gofal iechyd menywod, nad sôn am wasanaethau gynaecolegol neu iechyd atgenhedlol yn unig yr ydym ni, ac yna mae'n mynd ymlaen i enwi'r pethau sy'n cael eu gwneud eisoes, a dilyn y dull cwrs bywyd a nodwyd gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr, a siarad am y nyrsys endometriosis arbenigol a'r cydgysylltwyr iechyd a llesiant pelfis sy'n cael eu sefydlu, ac adnodd ymwybyddiaeth Bloody Brilliant, a'r gwaith ar y mislif. Mae'r rhain i gyd yn faterion sy'n rhyw benodol, ac rwyf eisiau sicrhau nad yw'r Llywodraeth eisoes yn syrthio i'r fagl o restru'r materion hynny sy'n rhyw benodol yn unig. Rwy'n ffyddiog, o ystyried yr olwg ehangach hon yn awr, na fydd hynny'n digwydd, ond mae angen i ni barhau i fynegi'r rhybudd hwnnw bob amser.

Dau gwestiwn, yn eithaf syml, ar y diwedd gennyf i: pa adnoddau sy'n cael eu neilltuo nawr ar gyfer y cynllun 10 mlynedd? Oherwydd, er mor bwysig yw'r datganiad ansawdd heddiw, hwnnw sy'n fy nghyffroi i, gan fy mod yn gweld bod hynny'n mynd i wneud gwahaniaeth mewn gwirionedd o ran sicrhau bod y gwasanaethau hynny ar gael i fenywod. Felly, pa adnoddau sy'n cael eu neilltuo ar gyfer hwnnw o ran pobl, ac, yn ariannol, a fydd adnoddau ychwanegol, ynteu a fydd hyn yn ymwneud â sicrhau bod ein byrddau iechyd, o fewn eu hadnoddau presennol, yn gwneud digon i sicrhau bod iechyd menywod yn cael y sylw y mae'n ei haeddu? A hefyd, fel y gallwn ddwyn y Llywodraeth i gyfrif am hyn, sut y bydd menywod, a sut y byddwn ni fel seneddwyr, yn gwybod bod y cynllun hwnnw'n gwneud gwahaniaeth? Sut y bydd menywod yn gallu gweld a synhwyro a chael teimlad bod newid wedi bod a bod hynny'n cael effaith glir ar y gofal a gânt yn ein gwasanaethau iechyd a gofal?

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:46, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ei gwneud yn gwbl glir nad oes unrhyw wrthddweud yn y ffaith ein bod eisoes wedi dechrau gwneud gwaith ym maes gynaecoleg. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yma yw ehangu y tu hwnt i hynny, ac, yn sicr, roedd hyn yn rhywbeth a amlygwyd i mi yn gynnar iawn ar ôl i mi gael fy mhenodi, ac nid oeddwn yn ymwybodol ohono, y ffaith bod clefyd y galon yn lladd mwy o fenywod na chanser y fron.

Mae'r holl bethau hyn, ac rydych chi'n meddwl, 'Arhoswch funud, mae un o bob 10 menyw hefyd yn dioddef o endometriosis. Ble mae'r arian i gyd-fynd â hynny? A fyddai hynny'n wir pe bai'n faes dynion traddodiadol?' Felly, nid wyf yn credu bod gwrthddweud yma. Yr hyn yr wyf yn ei wneud yn gwbl glir yw, pan gawsom ni grŵp gweithredu iechyd menywod—. Felly, dyma'r pwynt—rydych yn dweud, 'Pam nad ydych wedi bwrw ymlaen ag ef?' Y pwynt yw ein bod wedi bwrw ymlaen ag ef; roeddem yn gwneud pethau o dan y grŵp gweithredu iechyd menywod. Mae hyn yn cymryd cam yn ôl ohono ac yn edrych arno'n wirioneddol, y system gyfan, o safbwynt rhywedd. Ac fe welwch chi restr yn yr atodiad, ac mae'r swyddogion druan sy'n gweithio i mi yn cael llond bol arnaf yn dweud, 'Rwyf wedi dod o hyd i un arall; rwyf wedi dod o hyd i un arall. Mae hwn yn faes arall lle nad ydym wedi edrych ar yr agwedd rhywedd', ac yn sicr mae'r rhestr yn yr atodiad yn rhoi dealltwriaeth i chi o faint o gyflyrau sydd yn effeithio'n wahanol ar fenywod, ac felly gall meddygon teulu fethu'r symptomau oherwydd bod y symptomau'n amlygu eu hunain yn wahanol. Felly, dyna'r math o beth, ac yna bydd goblygiadau o ran hyfforddi'r gweithlu a'r holl fathau hynny o bethau, felly mae'n rhaid i ni gadw'r holl bethau hynny mewn cof.

O ran adnoddau, mae hwn yn gynllun a fydd yn eiddo i'r byrddau iechyd. Bydd yn rhaid iddyn nhw ddefnyddio eu hadnoddau nhw ar ei gyfer. Y syniad yw eu bod yn mabwysiadu dull sy'n rhywedd benodol wrth gyflawni'r hyn y maen nhw'n ei wneud eisoes. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw ein bod, mewn gwirionedd, wrth ddatblygu'r cynllun ei hun, wedi neilltuo £160,000 o adnoddau ychwanegol ac rydym wedi secondio i gydweithfa GIG Cymru rywun sy'n ymwneud â datblygu cynlluniau mewn mannau eraill, i weithio nawr gyda'r prif swyddog nyrsio i helpu i greu'r cynllun hwn, felly mae gennym rywun sydd wedi bod drwy hyn o'r blaen i'n helpu ni ac i sicrhau ein bod yn cyrraedd y lle iawn.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:48, 5 Gorffennaf 2022

Mae gen i chwe Aelod sy'n dal i ddymuno siarad, a gobeithiaf i alw pawb, felly a all pawb fod yn gryno yn eu cyfraniadau, os gwelwch yn dda? Ac mae hynny'n cynnwys y Gweinidog. Jenny Rathbone.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 5:49, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Nododd Ignaz Semmelweis pam yr oedd gan fenywod a oedd yn rhoi genedigaeth a oedd o dan ofal bydwragedd—bron i gyd yn fenywod—gyfradd marwolaethau llawer is na charfan ar hap union yr un fath o dan ofal meddygon—i gyd yn ddynion—ym 1847, ond cymerodd dros 100 mlynedd mewn proffesiwn a oedd yn cael ei reoli gan ddynion, i olchi dwylo rhwng cleifion a chyn llawdriniaeth fod yn arfer gorfodol. Ac felly mae hynny'n dangos maint y problemau sy'n ein hwynebu mewn sawl agwedd ar fywyd, ac mae hynny'n cynnwys meddygaeth. Pe bai dynion yn beichiogi, rwy'n awgrymu na fyddem ag ymosodiadau mor warthus ar hawl menywod a merched i ddewis yn o leiaf hanner gwledydd y byd. Ac yn ffodus, mae Gweinidog iechyd Cymru wedi diogelu hawl menywod yng Nghymru i gael mynediad cyflym at erthyliadau telefeddygol, a'r arloesedd a gyflawnwyd gennym yn ystod COVID i fod yn nodwedd barhaol yn y GIG yng Nghymru. 

Sonioch chi yn eich datganiad am endometriosis, ac roeddwn eisiau ymchwilio ychydig ymhellach i hyn. Ydym, rydym wedi cyflwyno nyrsys endo arbenigol i bob bwrdd iechyd yng Nghymru, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr iawn, ond nid yw menywod yn cael mynediad cyfartal at ofal eilaidd a thrydyddol, ac felly mae hynny'n amlwg yn her fawr i ni ac i GIG Cymru.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:50, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Jenny, mae angen ichi ofyn eich cwestiwn, os gwelwch yn dda. Rwy'n rhedeg allan o amser.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Ocê. Felly, beth yw statws y ganolfan dros dro yn Ysbyty Singleton, a sut ydych chi'n rhagweld y byddwch yn sicrhau y bydd pob menyw yng Nghymru yn cael gofal eilaidd a thrydyddol, pan fo angen?

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:51, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. A, Jenny, hoffwn eich cefnogi chi o ran eich safbwynt ar hawl menywod i ddewis. Rwyf yn gwbl anobeithiol o ran yr hyn sy'n digwydd yn yr Unol Daleithiau, ac rwy'n credu ei fod yn gam trist iawn yn ôl i fenywod ac, yn wir, i ddynion yn y wlad honno.

O ran endometriosis, byddwch yn ymwybodol bod gennym ni bellach ym mhob bwrdd iechyd nyrs endometriosis. Rwyf wedi cwrdd â nhw ychydig o weithiau. Mae eu brwdfrydedd, mi wn, yn dal i fod yn heintus iawn. Gwn eu bod yn gwneud gwaith gwych, ac maen nhw'n hyfforddi pobl, rwy'n gwybod, oherwydd—rwy'n datgan buddiant—yr oedd fy ngŵr ar gwrs, fel meddyg teulu, y diwrnod o'r blaen gydag un o'r bobl hyn, yn dysgu am endometriosis. Yr hyn yr wyf i'n ei gydnabod, pan ddaw i ofal eilaidd a thrydyddol, yw bod llawer mwy o waith i'w wneud ac, wrth gwrs, y bydd yn rhaid i ni edrych ar beth arall y gallwn ni ei wneud yn y maes hwnnw o ran recriwtio llawfeddygon sy'n gallu helpu gyda'r cyflwr anodd iawn hwn y mae pobl yn byw gydag ef.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 5:52, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ceisio cwtogi ar fy araith yma. Rwy'n croesawu'r datganiad hwn yn fawr a'r cyfle i siarad am iechyd menywod. Ers gormod o amser yn ein cymdeithas, rydym wedi gweld iechyd, diogelwch a llesiant menywod yn cael eu hesgeuluso a'u hanwybyddu. Rwy'n croesawu'n fawr y bydd cynllun iechyd menywod 10 mlynedd yn yr hydref, ac rwy'n croesawu llawer o rannau o'r datganiad hwn yn fawr iawn. Bydd yn gyfle enfawr i'r Senedd hon wneud cyfraniad sylweddol mewn sawl ffordd i fenywod ledled Cymru.

Un maes pwysig sy'n peri pryder i mi, wrth gwrs, yw gofal amenedigol—rhywbeth y mae Buffy a minnau wedi siarad â rhywfaint o angerdd yn ei gylch, oherwydd y profiadau a gawsom. Oherwydd effeithiau sylweddol a pharhaol yn sgil peidio â thrin iechyd amenedigol, beth, Gweinidog, ydych yn ei wneud o ran sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau amenedigol ledled Cymru, a pha adnoddau, fel y dywedodd Rhun, sydd wedi'u neilltuo i fynd i'r afael â hynny? 

Ac rwy'n croesawu'n fawr eich datganiad am endometriosis, a chymeradwyaf y gwaith a gyflwynodd Suzy Davies, cyn gyd-Aelod, i'r Siambr hon am dynnu sylw at yr holl faterion hynny. Beth ydych chi'n ei wneud i dynnu sylw at ymwybyddiaeth o'r mater hwn, endometriosis, gan weithio gyda'r Gweinidog dros addysg, gyda'r cwricwlwm newydd, ond hefyd perimenopos a menopos a holl faterion menywod? Sut ydych chi'n gweithio gyda Gweinidogion eraill i dynnu sylw at y rheini yng Nghymru? Diolch.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:53, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Yn sicr, rwy'n ymwybodol iawn, ac rwyf wedi eich clywed ar sawl achlysur yn sôn am eich profiadau o ran iechyd amenedigol, a'r un peth gyda Buffy—profiadau trawmatig iawn, ac rydych yn gynrychiadol o filoedd lu o fenywod sydd wedi bod drwy gyfnod trawmatig iawn. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn meddwl yn ofalus, a dyma pam mae cwrs bywyd yn bwysig iawn. Nid yw'n ymwneud â'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn unig, mae'n ymwneud â'r hyn sy'n digwydd, o ganlyniad, am weddill eich bywyd, i'r pwynt pan fo gan lawer o bobl, er enghraifft, broblemau anymataliaeth. Mae'n rhaid i ni feddwl beth yw'r effaith drwy gydol cylch bywyd unigolyn. Felly, mae'r rhain yn bethau, gobeithio, y cânt eu cyflwyno yn y cynllun, lle bydd pwyslais. Yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano yma yw datganiad ansawdd, pryd y disgwylir y bydd mynediad, a bydd mynediad cyfartal. 

O ran endometriosis, hoffwn ganmol hefyd y gwaith a wnaeth Suzy Davies, a gwn mai un o'r pethau olaf a wnaeth yn y Senedd hon oedd sicrhau, mewn gwirionedd, y byddai hyn yn rhywbeth a oedd wedi'i gynnwys yn y cwricwlwm, ac felly bydd pobl yn dysgu amdano yng nghwricwlwm ysgolion Cymru.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:55, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Rwyf i hefyd yn croesawu'r datganiad yn fawr. Hoffwn amlygu rhywbeth am effaith prinder therapi adfer hormonau ar fenywod sy'n mynd drwy'r menopos. Mae un etholwr wedi codi rhywbeth eithaf penodol gyda mi, sef yr effeithir yn arbennig o wael ar fenywod sy'n mynd drwy fenopos llawfeddygol. Felly, menopos llawfeddygol yw pan fydd llawdriniaeth, yn hytrach na'r broses heneiddio, yn achosi i'r menopos ddigwydd. Dywedodd fy etholwr wrthyf, i fenywod fel hi heb hormonau, nad yw mynd heb HRT yn fater o'i gwneud yn anos codi hwyl, mae'n ei gwneud bron yn amhosibl gweithredu, ac mae meddyliau hunanladdol yn cymryd drosodd ei bywyd weithiau. Felly, a ellir gwneud unrhyw beth, os gwelwch yn dda, i flaenoriaethu menywod sydd angen HRT fwyaf, oherwydd ni fydd menopos pawb yr un fath? Ac, fel yr wyf wedi dweud o'r blaen, sylweddolaf mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gynnal y cyflenwad o feddyginiaethau, ond byddwn yn croesawu rhagor o wybodaeth am yr hyn yr ydych yn ei wneud ar draws y Llywodraeth ynghylch hyn, os gwelwch yn dda. 

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:56, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Wel, yr hyn yr ydym wedi'i weld yw cynnydd o 40 y cant yn y galw dros y pum mlynedd diwethaf o ran HRT. A'r broblem wirioneddol yw nad yw gweithgynhyrchwyr wedi llwyddo i ateb y galw hwnnw. Felly, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, sydd, wrth gwrs, yn gyfrifol am gaffael hwn ar ein rhan, ac, yn amlwg, mae pobl yn cael eu cynghori i fynd at bethau amgen sydd ar gael efallai. Byddaf yn edrych ar y mater hwnnw mewn cysylltiad â menopos llawfeddygol; nid yw'n fater yr wyf wedi dod ar ei draws o'r blaen, ond byddwn yn sicr yn gofyn i swyddogion edrych ar hynny hefyd.

Photo of Sarah Murphy Sarah Murphy Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog, am hyn. Gwn fod iechyd menywod yn flaenoriaeth i chi a'n Llywodraeth, ac felly rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr heddiw.

Nid wyf eisiau dweud pethau sydd eisoes wedi'u dweud; rwyf eisiau cefnogi'r hyn yr ydych chi, Gweinidog, a Jenny Rathbone wedi'i ddweud am y dyfarniad a gafodd ei wrthdroi yn yr Unol Daleithiau—y Roe v. Wade—ac rwy'n credu mewn gwirionedd y bydd yn gyfnod tywyll iawn yng nghymdeithas America yn awr, fel y dywedoch chi, i ddynion a menywod, oherwydd y penderfyniad hwn. Rwy'n credu ei fod yn frawychus iawn hefyd i lawer iawn o bobl ledled y byd oherwydd bod hyn wedi digwydd. Gellir tynnu ein hawl i ymreolaeth ac i ofal iechyd oddi wrthym gydag ewyllys wleidyddol, a dyna pam y mae'n rhaid i ni barhau i frwydro i ddiogelu hawliau menywod ledled y byd.

Rwyf eisiau dweud, serch hynny, mewn gwirionedd—. Hoffwn dalu teyrnged i'r menywod yn fy nghymuned sydd wedi rhannu eu profiadau o ofal iechyd a rhywedd, o sgrinio serfigol a menopos i niwrowahaniaeth. Fel yr wyf wedi dweud o'r blaen, mae'n hanesyddol, mae wedi ymwreiddio yn ein systemau, oherwydd nid yw'r penderfyniadau a wneir am ein gofal iechyd bob amser wedi'u gwneud gyda menywod mewn golwg, gan fenywod. Felly, roeddwn eisiau gofyn a wnewch chi roi ychydig mwy i ni am niwrowahaniaeth, a dweud y gwir, oherwydd mae hyn yn rhywbeth yr wyf i wedi cael ymateb syfrdanol yn ei gylch, a chredaf y byddai llawer o fenywod yn hoffi'r sicrwydd hwnnw ei fod yn cael ei gymryd o ddifrif gan ein Llywodraeth yng Nghymru. Diolch.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:58, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. O ran sgrinio serfigol, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod hefyd yn cymryd nid yn unig—. Mae'n amlwg yn fater o rywedd, ond mae mater anghydraddoldebau o fewn hynny. Felly, mae'n amlwg ein bod yn gweld llai o bobl o ardaloedd tlotach yn cyflwyno eu hunain i'w sgrinio, felly mae'n rhaid i ni ystyried hynny hefyd, a sicrhau ein bod yn gwneud iawn am hynny, nid yn unig o ran sgrinio serfigol ond yn fwy cyffredinol o ran sgrinio. O ran niwrowahaniaeth, fe welwch yn yr atodiad fod niwrowahaniaeth yn fater sydd wedi'i restru yno sy'n amlwg, rwy'n credu, angen ychydig o sylw pan ddaw'n fater o ddeall y gall menywod ddangos symptomau gwahanol i rai dynion. A gwn y bydd gan fy nghyd-Aelod Julie Morgan, sy'n gyfrifol am hynny, ddiddordeb mewn mynd ar drywydd hynny hefyd.

Photo of Buffy Williams Buffy Williams Labour 5:59, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog, am y datganiad heddiw. Fel y gwyddoch chi, mae cymorth iechyd meddwl amenedigol a'r bwlch rhwng y rhywiau sy'n dioddef trawiad ar y galon yn eithriadol o bwysig i mi, ond mae angen i ni siarad am y menopos hefyd. Mae'r menopos yn broses naturiol y mae pob menyw yn mynd drwyddi. Fodd bynnag, mae llawer o fenywod yn mynd drwy gyfnod llawn straen, fel a geir ar unrhyw adeg o newid. Rwy'n hapus iawn i weld llai a llai o fenywod yn ofni neu'n teimlo anghyfforddus wrth siarad am y newid hwn a mwy a mwy o fenywod yn dewis cael triniaeth, ond mae angen i ni fod yn barod i ateb y galw hwn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig dros ben ein bod yn cofio bod y menopos yn newid personol iawn. Rydym ni i gyd yn mynd ar ein taith ein hunain a bydd yn effeithio ar bob un ohonom yn wahanol.

Ar ôl bod ag angen llawdriniaeth dros 11 mlynedd yn ôl, cefais fy nhaflu i'r menopos, ac, ar ôl sgwrsio gyda fy meddyg ymgynghorol, dewisais driniaeth HRT. Roeddwn i'n ofni ar y dechrau, ar ôl clywed rhai o'r risgiau posibl sy'n dod gyda HRT, ond dyna a weithiodd i mi ac ni fyddwn hebddo. Gan adleisio cyfraniad Delyth, gwn i'r Gweinidog gyhoeddi, yn gynharach eleni, y bydd yn cymryd rhan yn nhasglu menopos y DU yn dilyn trafferthion cyflenwi HRT. A gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y tasglu hyd yma? Diolch.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 6:00, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Buffy, ac rwy'n gwybod eich bod chithau hefyd wedi bod â phroblemau o ran iechyd menywod. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod pobl yn siarad am y menopos nawr, ac mae'n wych bod pobl ychydig yn fwy agored am y peth. Ac rwy'n credu bod llawer y gallwn ni ei wneud i gefnogi menywod â'r menopos ac mae'n rhaid i ni ddeall—. Yn y gweithle hefyd, rwy'n credu bod gwaith i undebau ei wneud i dynnu sylw pobl at hyn, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod pobl yn deall, fel y dywedwch chi, fod taith pawb yn wahanol. O ran y menopos, mae gennym bellach grŵp gorchwyl a gorffen yng Nghymru sy'n edrych ar y menopos, a bydd hynny'n gwneud cyfraniadau i dasglu menopos y DU, y mae Carolyn Harris, wrth gwrs, yn weithgar iawn arno ac yn arwain y ffordd ymlaen yn y DU. Diolch yn fawr.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf eisiau sôn am fater menywod sy'n dioddef anafiadau trawmatig i ardal y pelfis o ganlyniad i enedigaeth. Gwn i chi ddweud bod hyn yn ehangach, ond, serch hynny, mae'n faes nad yw wedi cael ei drafod. Mae rhai ohonyn nhw'n cael anaf difrifol, megis anafiadau i sffincter yr anws, sy'n gallu arwain at anymataliaeth ysgarthol. Yn ôl Sefydliad MASIC, mae un o bob 50 o fenywod yn y DU yn dioddef o anaf obstetrig a sffincter, ac mae'r effaith ar y menywod hynny'n sylweddol, ar eu llesiant corfforol a meddyliol, heb sôn am y teulu ehangach. Nid wyf erioed wedi clywed unrhyw un yn sôn amdano, ac rwy'n falch iawn bod unigolyn wedi derbyn fy nghynnig i ddod i siarad â mi am y peth.

Rwyf hefyd yn ymwybodol bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi agor hwb pelfig yn ddiweddar i helpu i wella'r gofal i gleifion sydd wedi profi'r anafiadau hynny. Maen nhw'n gwneud gwaith gwych iawn, ac rwy'n gobeithio cwrdd â'r llawfeddyg yn ystod toriad yr haf. Ond dim ond yno y ceir y cymorth hwnnw, felly mae'n ymwneud ag anghydraddoldeb mynediad. Felly, Gweinidog, pa drafodaethau ydych chi'n eu cael, fel Llywodraeth Cymru, gyda byrddau iechyd ledled Cymru ynghylch y posibilrwydd o agor hybiau pelfig mewn rhannau eraill o Gymru a fydd yn trin menywod sydd, o ganlyniad i fod yn fenywod, yn cael mynediad teg a chyfartal? A gadewch i ni agor dadl arall am yr effeithiau sy'n digwydd yn uniongyrchol yn aml iawn o ganlyniad i gael plant.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 6:03, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Joyce, ac mae hwn yn faes sydd, unwaith eto, yn un o'r meysydd hynny lle mae'n bwysig iawn ein bod yn dechrau siarad amdano'n gyhoeddus, oherwydd mae'n effeithio'n wirioneddol ar fenywod hŷn yn benodol, y mae llawer ohonyn nhw ag ofn gadael eu cartrefi yn awr oherwydd y stigma cymdeithasol y maen nhw'n ei deimlo os oes ganddyn nhw broblemau fel hynny. Rwy'n siŵr y byddwch yn falch iawn o glywed bod gennym ni, mewn gwirionedd, rwydwaith o gydlynwyr iechyd a llesiant pelfig ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru, ac mae hynny wedi digwydd o ganlyniad i'r grŵp gweithredu iechyd menywod. Felly, mae hynny eisoes ar waith, felly os oes angen i chi gyfeirio pobl at y rheini, rwy'n siŵr y gallaf eich helpu o ran ble mae'r rheini wedi'u lleoli.

Photo of David Rees David Rees Labour 6:04, 5 Gorffennaf 2022

Diolch i'r Gweinidog. Cyn inni symud i ddadl Cyfnod 3 ar y Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu), byddwn yn gohirio'r trafodion am 10 munud yn unol â Rheol Sefydlog 12.18. Bydd y gloch yn cael ei chanu pum munud cyn ailymgynnull. A fyddech cystal â sicrhau bod pob Aelod yn dychwelyd yn brydlon, fel y gellir gwneud paratoadau pleidleisio?

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:04.

Ailymgynullodd y Senedd am 18:19, gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.