– Senedd Cymru am 3:51 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Eitem 6 sydd nesaf, dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Codi'r bar: Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Paul Davies, i wneud y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a chynigiaf y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw.
Ddirprwy Lywydd, mae'r sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu yn hollbwysig i'n cenedl. Bydd eu pwysigrwydd i gefnogi a gwella bywydau yng Nghymru yn amlwg i bawb yn y Siambr hon. Boed hynny ar ffurf stryd fawr brysur, tafarn wledig braf, neu fwyty sy’n gwerthu bwyd a gynhyrchwyd yn lleol wedi’i goginio gan gogyddion arbenigol, mae’r diwydiannau manwerthu a lletygarwch yn rhan ganolog o'n cymunedau ledled Cymru.
Yn ogystal â gwneud defnydd o’n cynnig manwerthu a lletygarwch, a’i wella’n aml, mae twristiaeth yn ein galluogi i ddangos y gorau o Gymru i weddill y byd ac yn darparu 12 y cant o'r swyddi yng ngweithlu Cymru. Yn fyr, mae’r diwydiannau hyn yn gwbl hanfodol i feithrin, cefnogi a hyrwyddo diwylliant a’r bywyd da y mae pob un ohonom yn dymuno'i gael.
Y diwydiannau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu oedd un o’r meysydd cyntaf a nodwyd gennym i’w harchwilio pan wnaethom gyfarfod i gynllunio blaenoriaethau’r pwyllgor newydd. I ddechrau, gwnaethom nodi’r sectorau hyn gan ein bod yn gwybod eu bod yn wynebu heriau mawr o ganlyniad i’r pandemig. Roedd manwerthu a lletygarwch yn wynebu'r her enfawr o ymadfer ac addasu i'r byd ôl-bandemig newydd. Roedd twristiaeth yn wynebu her ychydig yn wahanol. Roedd y diwydiant wedi'i daro’n galed gan y pandemig hefyd, ond roedd yn wynebu sefyllfa o wledd neu newyn. Yn ystod y cyfyngiadau symud, bu’n rhaid i fusnesau twristiaeth gau, fel y rhan fwyaf o fusnesau manwerthu a lletygarwch, ond wedyn wrth i’r DU ddechrau ailagor, ond pan oedd teithio rhyngwladol yn dal i fod wedi'i wahardd, roedd y diwydiant wedi’i orlethu gan y galw.
Penderfynasom edrych ar y diwydiannau hyn o ddwy ochr. Un oedd hyfywedd economaidd a chynaliadwyedd y sectorau, gan edrych yn arbennig ar yr adferiad wedi COVID a hyfywedd hirdymor. Yr ail elfen roeddem am ymchwilio iddi oedd y gweithlu. Roedd hyn yn cynnwys gwella ansawdd swyddi yn y sector, mynd i’r afael â phrinder llafur, ac edrych yn gyffredinol ar sgiliau yn y gweithlu. Mae’r pwyllgor yn ddiolchgar iawn i’r rheini a roddodd dystiolaeth i’n hymchwiliad, yn enwedig yr unigolion dienw o bob rhan o’r wlad a gwblhaodd ein harolwg ac a roddodd gipolwg gwirioneddol i ni ar sut beth yw gweithio yn y sectorau hyn.
Dywedodd y cyfranogwyr wrthym am yr oriau hir, y cyflogau isel, yr ansicrwydd ynghylch swyddi, diffyg llais y gweithwyr, a'r diffyg parch gan gwsmeriaid a chyflogwyr. Fodd bynnag, dywedasant wrthym hefyd eu bod yn mwynhau gweithio yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu gan fod hynny'n caniatáu iddynt weithio yn eu cymuned leol, yn rhoi hyblygrwydd iddynt yn eu bywydau, ac yn darparu amgylchedd cymdeithasol iddynt. Dywedodd un cyfranogwr wrthym, ac rwy'n dyfynnu,
'Mae gweithio yn y sector manwerthu’n golygu does dim rhaid i mi symud allan o fy nghymuned ar gyfer gwaith. Dw i’n gallu byw yn yr ardal lle ces i fy magu, lle mae fy iaith yn cael ei defnyddio.'
Dywedodd un arall wrthym, ac rwy'n dyfynnu,
'Mae'r hyblygrwydd yn gyffredinol yn fy ngalluogi i weithio o amgylch agweddau eraill ar fy mywyd. Mae hefyd yn golygu fy mod i’n gallu gweithio yn fy nghymuned leol, ar gyfer cymaint o swyddi mae angen cymudo neu symud, ond dw i’n gallu aros a gweithio yn y gymuned lle ces i fy magu.'
A chredaf fy mod yn siarad ar ran pawb ar y pwyllgor pan ddywedaf ei bod yn wefreiddiol clywed y cyfranogwyr yn siarad mor angerddol am weithio yn eu cymunedau lleol a lle cawsant eu magu. Yn amlwg, ceir ymdeimlad o falchder ynglŷn â gweithio yn economi ymwelwyr fywiog Cymru, a dyna pam fod angen gweithredu ar unwaith i sicrhau bod gweithio yn y sectorau hyn yn gallu cynnig gyrfaoedd diogel a boddhaus ar gyfer y dyfodol.
Mae ein hadroddiad yn cynnwys 18 o argymhellion ar draws pedwar maes cyffredinol: cymorth busnes, y strategaeth fanwerthu, yr economi ymwelwyr a heriau’r farchnad lafur. Rwy’n falch fod yr holl argymhellion wedi’u derbyn naill ai’n llawn neu mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru, ac felly croesawaf ymrwymiad y Gweinidog i gefnogi’r sectorau hyn yn well.
I ddechrau, mae’r adroddiad yn ystyried cymorth busnes a sut y gellir cefnogi’r sector yn well ar ôl y pandemig. Nododd cynrychiolwyr o’r tri sector yn glir eu bod yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi darparu pecyn cynhwysfawr o fesurau cymorth ariannol i fusnesau yn ystod y pandemig, ac maent yn cydnabod bod rhywfaint o’r cymorth hwnnw wedi’i dargedu’n benodol at y diwydiannau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu. Fodd bynnag, nodwyd nifer o feysydd gan dystion fel rhai sydd angen cymorth a sylw parhaus gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys diwygio a rhyddhad ardrethi busnes, cymorth i fynd i’r afael â chynnydd mewn costau byw, a gwell cymorth i'r gadwyn gyflenwi a chaffael lleol.
Bydd yr ailbrisiad ardrethi annomestig nesaf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023, yn seiliedig ar werth eiddo ar 1 Ebrill 2021. Dylai hyn olygu y bydd y gwerthoedd ardrethol yn adlewyrchu effaith y pandemig coronafeirws, ac rwy'n falch, mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor, fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adolygu hyn ac a oes angen cymorth trosiannol, neu a yw'n briodol, wrth symud ymlaen. Nododd busnesau ym meysydd lletygarwch, twristiaeth a manwerthu yn glir fod ardrethi busnes yn system fwyfwy anghyfiawn, ac felly gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn ystyried eu neges ac yn defnyddio’r ysgogiadau sydd ganddo i helpu i sicrhau bod unrhyw ddiwygio i'r system yn arwain at lawer mwy o chwarae teg i fusnesau wrth symud ymlaen.
Gwyddom hefyd fod busnesau dan bwysau oherwydd y cynnydd mewn costau byw. Mae effaith y rhyfel yn Wcráin, materion yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi, chwyddiant cynyddol a chostau cynyddol ynni, tanwydd a bwyd oll wedi cyfrannu at gostau byw cynyddol, ac mae hynny’n cael effaith wirioneddol ar fusnesau Cymru. Fel y mae ein hadroddiad yn nodi'n glir, mae sectorau sy'n dibynnu ar wariant disgresiynol aelwydydd ar nwyddau a gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol yn cael eu gwasgu'n dynnach ac yn dynnach, ac mae gweithwyr a pherchnogion busnesau sydd eisoes wedi'u heffeithio'n wael gan y pandemig yn wynebu straen iechyd meddwl cynyddol. Yn wir, mae busnesau sy’n gweithredu mewn ardaloedd mwy gwledig yn enwedig yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan gynnydd mewn costau ynni a thanwydd i redeg eu busnes a chael mynediad at wasanaethau, yn ogystal ag wynebu mwy o brinder sgiliau.
Yng ngoleuni hyn, mae’r pwyllgor wedi argymell y dylai’r Gweinidog nodi a ellir rhoi hyblygrwydd ychwanegol i fusnesau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu wrth ad-dalu benthyciadau i Lywodraeth Cymru neu Fanc Datblygu Cymru yng ngoleuni’r pwysau ariannol parhaus y maent yn ei wynebu. Yn ogystal â hynny, mae’r pwyllgor hefyd wedi argymell y dylai Gweinidog yr Economi ystyried pa gymorth ychwanegol ar gyfer buddsoddiad cyfalaf y gellir ei ddarparu i’r sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n arbennig o falch fod y ddau argymhelliad hyn wedi'u derbyn gan y Gweinidog, oherwydd wrth eu derbyn, mae Llywodraeth Cymru yn dangos i ni eu bod yn gwrando ar y sectorau hyn a'u bod wedi ymrwymo i adolygu'r cymorth y gallant ei gynnig i fusnesau fel rhan o'r gwaith o fonitro'r gyllideb gyfalaf yn ystod y flwyddyn a'r broses o bennu'r gyllideb flynyddol.
Roedd adroddiad y pwyllgor hefyd yn ystyried y strategaeth hir-ddisgwyliedig ar gyfer sector manwerthu Cymru. Cyhoeddwyd y strategaeth ym mis Mehefin, ac mae’r pwyllgor bellach yn edrych ymlaen at weld y cynllun cyflawni a addawyd, cynllun y mae’r Gweinidog yn dweud y bydd yn ystyried y dystiolaeth i ymchwiliad y pwyllgor hwn. Mae'n hanfodol fod pob un ohonom yn deall yn well sut y caiff unrhyw fesurau a chamau gweithredu eu hariannu i ddiwallu anghenion a nodwyd gan y fforwm manwerthu, ac i ba raddau y bydd y rhain yn cael eu hariannu drwy gyllid sy'n bodoli eisoes neu drwy gyllid newydd. A bydd y pwyllgor yn sicr yn monitro'r maes hwn ymhellach maes o law.
Bu’r pwyllgor hefyd yn ystyried ymagwedd Llywodraeth Cymru at yr economi ymwelwyr, a bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar hyn o bryd ar gyflwyno ardoll ymwelwyr. Daw hyn ochr yn ochr â rheoliadau diweddar sydd wedi’u rhoi ar waith i gynyddu nifer y dyddiau y mae’n rhaid i lety hunanddarpar gael ei osod bob blwyddyn er mwyn bod yn gymwys i dalu ardrethi busnes yn hytrach na thalu’r dreth gyngor, gan godi'r trothwy o 70 diwrnod i 182 diwrnod. Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog am ei esboniad manwl o’r rhesymeg sy'n sail i’r newidiadau yn ymateb Llywodraeth Cymru i’n hadroddiad. Mae'r ymateb yn nodi bod y mentrau hyn yn cael eu rhoi ar waith i gynyddu bywiogrwydd, annog mwy o ddefnydd o eiddo ac i sicrhau bod twristiaeth yn talu ffordd.
Fodd bynnag, clywodd y pwyllgor lawer o bryderon ynghylch y newidiadau hyn ac yn enwedig ynghylch cyflwyno’r ardoll. Lle mae trethi twristiaeth yn gweithio, clywsom dystiolaeth fod y gyfradd TAW ar gyfer twristiaeth a lletygarwch yn tueddu i fod yn is na'r lefel sydd gennym yng Nghymru, ac mai ardoll ymwelwyr oedd y dreth anghywir ar yr adeg anghywir. Felly, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y pwyllgor yn hyn o beth, gan ei bod yn amlwg fod angen gwneud mwy o waith i sicrhau bod y diwydiant yn gweld llygad yn llygad â'r Llywodraeth ar y mater penodol hwn.
Yn olaf, hoffwn sôn yn gryno am y gweithwyr yn y tri diwydiant. Dywedodd TUC Cymru wrthym fod 70 y cant i 75 y cant o weithwyr ym maes twristiaeth a lletygarwch yn ennill llai na’r cyflog byw gwirioneddol, a chafodd hynny ei ategu yn yr adborth a gafodd y pwyllgor o’n cyfweliadau. Fel y dywedais ar ddechrau fy sylwadau, clywodd y pwyllgor fod llawer o bobl wrth eu boddau'n gweithio ym maes lletygarwch, manwerthu a thwristiaeth, ond clywsom hefyd fod gweithwyr yn poeni am gyflogau isel, sicrwydd ynghylch swyddi a thelerau ac amodau gwael. Gyda thwristiaeth a lletygarwch yn cyflogi cymaint o weithwyr Cymru, mae’n hanfodol fod y Llywodraeth yn gweithio’n galed i wella ansawdd swyddi yn y sector drwy gefnogi busnesau i wella’r hyn a gynigir ganddynt a chynorthwyo gweithwyr i wella eu sgiliau.
Nododd y Gweinidog yn glir fod y contract economaidd yn bwysig i ymgrynhoi dull Llywodraeth Cymru o wella'r sefyllfa ar gyfer y sectorau hyn. Fodd bynnag, clywodd y pwyllgor dystiolaeth sy'n destun gofid gan undebau, y Ffederasiwn Busnesau Bach a Sefydliad Bevan nad oedd pobl yn deall y contract economaidd yn iawn a’i fod—ar y gorau—yn gyfyngedig ei effaith. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn rhoi sicrwydd fod y contract economaidd yn cael ei hyrwyddo'n well a bod y contract yn cael ei fonitro a'i orfodi'n ddigonol i sicrhau ei fod yn cael mwy o effaith ar weithwyr yn y sectorau hyn. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau bod gweithwyr yn y sectorau hyn yn cael eu gwerthfawrogi. Mae’r rhain yn weithwyr sydd wedi’u gwreiddio yn ein cymunedau lleol ac sy'n eu gwasanaethu, a rhaid i’r Llywodraeth fynd ati'n rhagweithiol i sicrhau bod y sectorau hyn yn cael eu cefnogi’n well yn y dyfodol.
Ar y nodyn hwnnw, hoffwn ailadrodd fy niolch yn gyflym i bawb a ymgysylltodd â’r pwyllgor yn ystod ein gwaith ar y mater pwysig hwn, a diolch hefyd i’r tîm a gynorthwyodd y pwyllgor i gynnal yr ymchwiliad hwn. Edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau ar fater allweddol cefnogi ein diwydiannau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu a’r bobl sy’n gweithio’n galed ynddynt i wneud Cymru’n wlad wych i fyw ynddi ac i ymweld â hi. Diolch.
Dwi am ddweud diolch i’r Cadeirydd a’r clercod am eu gwaith ar yr adroddiad hwn, a dwi am ddweud diolch yn benodol am y gwaith oedd wedi digwydd trwy’r tîm ymgysylltu, oedd yn help mawr wrth inni gasglu tystiolaeth gan y gweithwyr yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu, gweithlu sydd yn aml yn ei gweld hi'n anodd i sicrhau bod eu llais a'u profiadau yn cael eu clywed y tu fas i’r lle gwaith. Dwi'n gwybod bod nifer yn ddiolchgar iawn am y cyfle i gyfrannu at waith y pwyllgor.
Rwyf am ganolbwyntio ar letygarwch yn benodol. Mae'n sector arwyddocaol ynddo'i hun, gan gyflogi 200,000 o bobl yng Nghymru ar ei anterth, ac mae'n sector y mae gennyf lawer o brofiad ynddo. Fodd bynnag, bydd llawer o hyn yn berthnasol i fanwerthu a thwristiaeth.
Pan wnaethom gychwyn ein hymchwiliad i'r sector, roedd llawer ohono'n canolbwyntio ar yr effeithiau a gafodd y pandemig arno fel sector, a'r trafferthion a oedd yn wynebu'r sector wrth iddo fynd i'r afael â'r canlyniadau. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod llawer o hynny wedi ei fwrw i'r cysgod gan yr argyfwng costau byw. Mae pob un ohonom yn cael gohebiaeth ddyddiol gan fusnesau yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau sy'n ei chael hi'n anodd aros ar agor. Tynnwyd ein sylw at dreth ar werth ac ardrethi busnes mewn tystiolaeth a gawsom. Mae'r Cadeirydd eisoes wedi cyfeirio at ardrethi busnes; roedd treth ar werth hefyd yn ennyn diddordeb arbennig, o ystyried awydd y sector i beidio â dychwelyd i'r gyfradd o 20 y cant. Rwy'n credu bod Gweinidog yr Economi yn iawn yn yr hyn a ddywedodd: gallai dychwelyd i'r gyfradd o 20 y cant wneud mwy o ddrwg nac o dda i'r economi; yn fwy felly nawr, o ystyried yr argyfwng costau byw.
Diolch i gostau byw, gallwn ychwanegu costau ynni a chwyddiant uchel at y rhestr honno o bryderon hefyd erbyn hyn. Mae bil ynni blynyddol un busnes lletygarwch yn fy rhanbarth, er enghraifft, wedi codi o £15,000 i ychydig o dan £70,000. Dywedodd busnes arall mwy cyhoeddus, Ristorante Vecchio ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fod eu bil ynni bellach yn £8,000 y mis. Y gwir yw bod angen ymyrraeth ddifrifol gan y Llywodraeth nawr os yw nifer o fusnesau lletygarwch yn mynd i oroesi y tu hwnt i'r gaeaf.
Roedd staffio hefyd yn broblem a godwyd gyda ni fel pwyllgor, a'r frwydr wirioneddol y mae'r sector yn ei hwynebu gyda recriwtio. Clywsom gan y sector, a oedd yn barod i gyfaddef bod materion hirsefydlog yr oedd angen mynd i'r afael â hwy—fel cyflogau, diogelwch swyddi a chydbwysedd bywyd a gwaith—fel man cychwyn. Ond roedd yna awydd brwd iawn i broffesiynoli'r sector hefyd, i ddangos i newydd-ddyfodiaid fod yna lwybr cynnydd, yn ogystal â hyfforddiant, rhywbeth a amlygwyd yn gyson fel awydd o'r dystiolaeth a gasglwyd gan weithwyr. Yn y bôn, mae angen hyn, oherwydd byddwn yn gobeithio y byddai'n arwain at newid diwylliant a newid yn y modd y mae pobl yn trin gweithwyr lletygarwch yn gyffredinol. Ni allaf ddweud wrthych sawl gwaith y cefais i a'm cydweithwyr ein bychanu a'n trin yn nawddoglyd; roedd yn digwydd bob awr, os nad bob munud.
Byddaf bob amser yn cofio un digwyddiad yn benodol. Daeth cwpl i'r bar roeddwn yn gweithio ynddo ar y pryd. Fe wnaethant archebu dau espresso martini. Roeddwn yn gallu dweud yn syth eu bod yn fath penodol o bobl. Nid oherwydd y diodydd y gwnaethant eu harchebu, gan fy mod yn hoff o espresso martini a dweud y gwir, ond gallwn ddweud o'r ffordd y gwnaethant archebu'r diodydd. Dechreuais wneud y diodydd. Fe wnaethant ddechrau siarad am wyliau roeddent wedi ei gael yn ddiweddar, ar gwch hwylio gwerth £1 filiwn eu ffrind, ac fe wnaethant droi ataf a dweud, 'Rhaid bod hynny'n dipyn o sioc ddiwylliannol i chi, onid yw?' Rwy'n credu bod yr Aelodau'n fy adnabod yn ddigon da i wybod beth fyddai fy ymateb wedi bod i hynny, ond mae honno'n un enghraifft sydd gennyf. Mae gennyf lawer mwy o enghreifftiau, ond mae yna filiynau o enghreifftiau eraill allan yno hefyd.
Ond dyna pam fod angen i'r diwylliant newid, a dyna pam y cefais fy nghalonogi wrth weld bod y sector yn cydnabod bod angen y newid hwnnw hefyd. Rwyf wedi rhannu un stori negyddol am letygarwch, ond rwyf am gloi gyda stori gadarnhaol, oherwydd mae'n sector gwych i weithio ynddo, sydd unwaith eto'n cael ei gydnabod yn y dystiolaeth gan weithwyr. Roedd y profiadau a gefais yn wych, a'r ffrindiau a wneuthum yn ffrindiau oes. Fel sector, fe ddysgodd gymaint i mi am bobl, sut i ymdrin â phobl, yn enwedig sut i ymdrin â phobl gyda ffrindiau sydd â chychod hwylio gwerth £1 filiwn. Yn sicr fe roddodd hyder a sgiliau imi allu gwneud yr hyn rwy'n ei wneud nawr. Fe ddysgodd i mi hefyd sut i wneud coctel eithaf da, ac rwy'n siŵr y gallwn gytuno bod hwnnw'n sgìl bywyd gwerthfawr iawn. Ond ar nodyn difrifol, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn nifer o'n hargymhellion yn llawn, neu o leiaf mewn egwyddor, ond mae angen gweithredu i ddilyn hynny. Yn debyg iawn i'r sector, rwyf hefyd yn gweld Llywodraeth Cymru fel partner hanfodol yn adferiad a datblygiad y sector.
Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy adleisio sylwadau cyd-Aelodau sydd wedi diolch i'r tîm clercio a phawb a roddodd dystiolaeth a helpodd i lywio'r ymchwiliad hwn. Rwy'n credu ei fod yn waith pwysig iawn. Mae tua thraean o weithlu Cymru'n cael eu cyflogi yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu. Yr olaf yn unig, cyflogwr mwyaf y sector preifat yng Nghymru, sydd i gyfrif am ychydig dros 6 y cant o'n gwerth ychwanegol gros cenedlaethol. Felly, mae'r rhain yn rhannau hynod bwysig o'n heconomi.
Pan fyddwn fel arfer yn cynnal ymchwiliad o'r natur hon, rwy'n mynd i'r afael â'r gwaith gydag ysbryd cadarnhaol. Rydym yn ymchwilio i broblem, yn casglu data a thystiolaeth gadarn iawn, yn cyflwyno atebion amhleidiol, ac mae'r rhain, gobeithio, yn arwain at sefyllfa lle rydym yn unioni'r heriau a nodwyd. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, gyda'r ymchwiliad hwn, mae'r heriau wedi mynd yn llawer mwy difrifol, hyd yn oed yn y pum mis ers cyhoeddi ein hadroddiad. Gwn na fydd hyn yn syndod i gyd-Aelodau yn y Siambr, i'r rhai a roddodd dystiolaeth, neu i fusnesau a phobl a gyflogir yn y sectorau.
Cynhaliodd The Caterer, sy'n ymdrin â lletygarwch, arolwg o'r sector ym mis Medi. Dywedodd 80% o'r ymatebwyr fod prisiau ynni cynyddol wedi dileu eu helw. Roedd tri o bob pump yn ofni na fyddai eu busnes yn bodoli ymhen blwyddyn. Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr wedi nodi bod biliau ynni wedi codi dros 100 y cant, gyda 22 y cant yn dweud bod eu costau wedi cynyddu 400 y cant, sy'n syfrdanol. Ddechrau'r wythnos, cyhoeddodd prif weithredwr UKHospitality rybudd llwm ynghylch pa mor eithriadol o agored yw'r sector i amrywiadau prisiau ynni, ac fe gyhuddodd benaethiaid cwmnïau ynni o fudrelwa. Wrth gwrs, effeithir yn ddifrifol ar y sectorau lletygarwch a thwristiaeth gan y ffaith nad oes gan bobl gymaint o arian yn eu pocedi oherwydd yr argyfwng costau byw.
Yn yr un modd, mae'r pwysau hwn hefyd yn cael effaith aruthrol ar weithwyr yn y sectorau. Mae undeb llafur Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol (USDAW) yn cynrychioli gweithwyr siop. Rwy'n aelod o USDAW, ac yn eu harolwg diweddar o weithwyr manwerthu, datgelwyd bod eu hanner yn cael trafferth mynd i'r gwaith oherwydd costau teithio uwch, mae un o bob pedwar gweithiwr yn methu prydau bwyd bob mis i dalu biliau, ac mae tri o bob pedwar yn dweud bod eu hiechyd meddwl yn cael ei effeithio o ganlyniad i bryderon ariannol. Mae angen clir i'r pwyllgor hwn wneud rhagor o waith yn y maes hwn i archwilio effaith yr argyfwng a chraffu ar ymyriadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Rwy'n gobeithio bod hwn yn bwnc y gallwn ddychwelyd ato ac rwy'n gobeithio, ar ben hynny, y bydd ymchwiliadau yn y dyfodol yn gwneud imi deimlo ychydig yn fwy gobeithiol ar gyfer y dyfodol.
Gan droi at argymhellion penodol yr adroddiad, rwyf eisiau gwneud sylw ar ambell syniad allweddol. Yn gyntaf, mae argymhelliad 5 yn galw am gymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddiad cyfalaf. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Mae'n rhywbeth rwy'n ei gefnogi. Ond mae'n rhaid inni sylweddoli effaith pwysau gwariant ar gyllidebau Llywodraeth Cymru ers i'n hadroddiad gael ei ysgrifennu ac ers i Lywodraeth Cymru ymateb i'n hargymhellion. Nid costau byw a phrisiau cynyddol yn unig yw hynny, ond annigonolrwydd economaidd Prif Weinidogion Torïaidd olynol a'u criwiau. Fel y cawsom ein hatgoffa gan y Gweinidog cyllid y mis diwethaf, dros y cyfnod gwariant presennol o dair blynedd, bydd gwerth cyllideb Llywodraeth Cymru hyd at £4 biliwn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod y flwyddyn cynt—£4 biliwn yn llai. Mae'r her yn amlwg.
Wrth ddarllen argymhellion 9 i 12, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru yn ymateb i'n sylwadau. Mae ardoll ymwelwyr, yn fy marn i, yn ddull synnwyr cyffredin o gynhyrchu'r buddsoddiad i wella'r arlwy twristiaeth mewn ardal. Nid oes unrhyw beth newydd am y syniad, ac mae'n arfer safonol mewn llawer o wledydd a thiriogaethau. Yn ddiweddar, penderfynodd cyngor Caeredin gyflwyno ardoll ymwelwyr, a fydd yn cael ei defnyddio i gefnogi gwasanaethau gwastraff a glanhau, ac i sicrhau gwelliannau i fannau cyhoeddus a mannau gwyrdd. Ni fydd tâl bach yn atal ymwelwyr, ac nid wyf yn cytuno â'r sinigiaid sydd ond eisiau bychanu popeth sydd gan Gymru i'w gynnig.
Yn olaf, yr argymhellion sy'n ymwneud â gwaith teg. Unwaith eto, nodaf ymateb Llywodraeth Cymru mai cyfrifoldeb Gweinidogion y DU, i raddau helaeth, yw'r ymyriadau rydym wedi galw amdanynt. Fodd bynnag, edrychaf ymlaen at weld Gweinidogion Cymru yn defnyddio'r arfau sydd ar gael iddynt i wneud yn siŵr fod gweithwyr yn yr holl sectorau hyn yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael y cyflog teg y dylent allu ei ddisgwyl. Diolch.
Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy adleisio sylwadau fy nghyd-aelodau pwyllgor drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd a'r tîm clercio am lunio'r adroddiad hwn. Daw ar adeg hynod bwysig i'r diwydiant lletygarwch a thwristiaeth, yn enwedig yng nghyd-destun deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru, felly rwy'n falch ein bod yn cael cyfle i adolygu economi ymwelwyr Cymru a gosod set gadarn o argymhellion cymesur.
Mae'r diwydiannau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu yn gyflogwyr allweddol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Mae ein harddwch naturiol yn fyd-enwog ac yn cael ei fwynhau gan dwristiaid domestig a rhyngwladol. A phan fyddant yn ymweld, cânt eu croesawu gan ystod gyfan o fusnesau bach a chanolig, a phob un ohonynt yn cynnig cyfleoedd economaidd i fy etholwyr. Gyda hynny, fy mwriad y prynhawn yma yw canolbwyntio ar ddwy agwedd benodol ar yr adroddiad hwn: effaith treth dwristiaeth Llywodraeth Cymru, a'r ysgogiadau gwaith teg sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhwystrau i waith o fewn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu yn cael eu lleihau.
Mae argymhellion 9 i 11 o'r adroddiad hwn yn gosod gofyniad penodol i Lywodraeth Cymru ddarparu gwybodaeth, tystiolaeth a sail resymegol bendant dros gyflwyno eu treth dwristiaeth. Gofynnwn nid yn unig am y broses feddyliol sy'n sail i'r penderfyniad i fynd ar drywydd y polisi hwn, rydym hefyd eisiau cael gwell dealltwriaeth o allbwn tri phrosiect ymchwil unigol a ymchwiliodd i'r posibilrwydd o gyflwyno treth dwristiaeth yng Nghymru. Fe wnaeth y pwyllgor dynnu sylw'n briodol at farn y diwydiannau twristiaeth a lletygarwch nad oeddent angen nac eisiau unrhyw fath o dreth neu ardoll dwristiaeth. Awgrymodd cymdeithas twristiaeth Cymru y byddai polisi Llywodraeth Cymru yn fath o drethiant dwbl, ac fe ddywedodd UKHospitality Cymru fod ardoll yn dreth anghywir ar yr adeg anghywir. Yn wir, mae sefydliad arall wedi disgrifio'r polisi hwn fel cam hynod anflaengar ac adwaith difeddwl. Nid yw'n gymeradwyaeth frwd i'ch cynlluniau, Weinidog, a byddwn yn mynd mor bell â dweud mai dyma'r gwrthwyneb llwyr i'r hyn y mae'r diwydiant ei eisiau a'i angen—nid 'sinigiaid', fel y byddai'r siaradwr blaenorol yn ei ddweud, ond y diwydiant ei hun.
Rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y tri argymhelliad, ond wrth gyfeirio at argymhellion 9 a 10, roedd y ffaith bod rhaid i'r pwyllgor wthio Llywodraeth Cymru tuag at dryloywder yn siomedig. Rwy'n siomedig na chafodd yr wybodaeth y gofynnwyd amdani ei rhannu gyda'r pwyllgor tan lai na dwy awr yn ôl, ond o leiaf fe gawsom yr wybodaeth honno.
Un ffordd o gefnogi twf busnes yw drwy sicrhau bod busnesau'n gallu tyfu. Wrth wneud hynny, rydym yn buddsoddi'n ôl yn yr economi leol, ac yn ogystal, rydym yn defnyddio ysgogiadau sy'n bodoli eisoes i fynd i'r afael â diffygion cyflogaeth o fewn y diwydiant. Fel y mae argymhelliad 18 yn nodi, ceir rhwystrau sylweddol i waith teg, yn benodol mewn perthynas â chyflogaeth, tâl ac amodau. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae anawsterau wedi codi o ganlyniad i fylchau cyflogaeth lleol, a dangoswyd hyn orau yr haf diwethaf, pan fu'n rhaid i fusnesau yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro gau yn ystod y tymor prysur oherwydd lefelau staffio isel.
Mae gennym gyfle gwirioneddol i sicrhau bod eich deddfwriaeth yn dryloyw ac yn atebol, ac er efallai y bydd y meinciau hyn a'r diwydiant ei hun yn anghytuno â'ch polisi treth dwristiaeth, mae'n bendant yn ddyletswydd arnoch i ddangos eich sail dros ei chyflwyno i'r diwydiant lletygarwch a thwristiaeth a'r miloedd lawer sy'n cael eu cyflogi ynddo. Gyda'r farn hon, hoffwn annog Llywodraeth Cymru i weithredu a chyflawni'r argymhellion a wnaed o fewn yr adroddiad hwn cyn gynted â phosibl. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Rwyf am ddechrau, unwaith eto, fel pawb arall, drwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau a'r clercod am eu gwaith ar yr adroddiad hwn. Fel y dywedodd ein Cadeirydd, Paul Davies, dyma un o'r pethau cyntaf i ni ddweud ein bod eisiau ymchwilio iddo, ac mae'n ymddangos yn amser hir iawn yn ôl bellach. Fel y gwnaethoch nodi yn eich rhagair, roeddem yn edrych ar y sefyllfa pan oedd pobl yn cael gwyliau yn y wlad hon, onid oeddem—y bownsio'n ôl ar ôl y pandemig COVID-19. Ac fe wnaeth ailgynnau ymdeimlad o falchder yn ein sectorau twristiaeth, manwerthu a lletygarwch lleol ledled Cymru. Nawr, bron i 18 mis yn ddiweddarach, ar y cyd â hyn, yr union sectorau hyn a gafodd eu cosbi fwyaf gan y cyfyngiadau COVID hynny ar fusnesau, yn enwedig yr economïau bach a lleol yn ein trefi a'n cymunedau, ac maent bellach yn wynebu'r argyfwng costau byw a gallwn ddisgwyl y bydd busnesau, os nad ydynt eisoes yn dioddef, yn wynebu llawer gwaeth.
Felly, rwy'n falch iawn fod hwn wedi'i gyhoeddi bellach a'n bod wedi llwyddo i ymgorffori'r ddwy agwedd ar yr hyn sy'n digwydd i'n busnesau, ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn, neu wedi derbyn mewn egwyddor, yr holl argymhellion a nodir yn yr adroddiad. Mae yna ymdeimlad llethol o fod angen inswleiddio'r sectorau hyn, ond hefyd, byddai'n braf gweld a allant barhau i ffynnu hefyd yn hytrach na dim ond goroesi drwy'r cyfnod economaidd gwirioneddol anodd hwn.
Fel y crybwyllwyd gan ein Cadeirydd, Paul Davies AS, mae argymhelliad 13 yn hanfodol iawn, oherwydd mae'n nodi'r cyfleoedd ar gyfer llwybrau gyrfa yn y sector lletygarwch a thwristiaeth, gan gynnwys gradd-brentisiaethau. Yn ystod y sesiynau tystiolaeth, clywsom gan weithwyr o amrywiaeth o gefndiroedd a oedd eisiau gweithio yn yr ardaloedd lle cawsant eu magu. Rhaid i'r Llywodraeth a'r sectorau hyn weithio ar y cyd i sicrhau bod cyfleoedd ar gael yn lleol i gamu ymlaen yn yrfaol i gefnogi hyn. Rwy'n falch o weld bod y gwaith hwn ar yr economi sylfaenol yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n gobeithio gweld cyfleoedd pellach yn y dyfodol.
Roeddwn eisiau tynnu sylw hefyd at argymhelliad 18 am bwysigrwydd gwaith teg, oherwydd nid yw'n gyfrinach fod llawer o weithwyr yn y sectorau hyn yn parhau i wynebu ansicrwydd. Mae Cyngres Undebau Llafur Cymru, Unite Cymru, Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol ac eraill wedi cyfrannu at sesiynau tystiolaeth gan fanylu ar realiti cytundebau ansicr a oedd yn gwneud iddynt deimlo fel pe baent yn ddiwerth, a'r ffaith bod gweithwyr yn wynebu tâl gwael a phrinder staff wedyn. Dywedodd un cyfrannwr nad oedd ganddi syniad beth oedd ei hawliau yn y gwaith, a hoffwn bwysleisio bod rhaid inni wneud mwy i rymuso gweithwyr i ddeall eu hawliau, drwy rôl undebau llafur a phartneriaeth gymdeithasol. Ni ddylai unrhyw weithiwr wynebu camdriniaeth am wneud eu gwaith, neu fel yr amlygodd fy nghyd-Aelod, Luke Fletcher, gael eich trin fel pe baech islaw pobl eraill oherwydd eich gwaith. Dylid grymuso gweithwyr i godi llais ar y materion hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y rhain mewn perthynas â phartneriaeth gymdeithasol yn y sectorau hyn.
Yn olaf, hoffwn dynnu sylw at y nifer o argymhellion sy'n ymwneud â'r ardoll dwristiaeth. Mae Porthcawl yn fy etholaeth i yn dibynnu'n helaeth ar y sector twristiaeth; yn amlwg, mae gennym Draeth Coney, mae gennym ŵyl Elvis ac mae gennym syrffio yn Rest Bay. Rwyf wedi bod yn siarad gyda fy nghymuned ers tro am y cynnig hwn. Pryd bynnag y cawn sgwrs am y peth, rwy'n teimlo bod yna lawer o gamsyniadau, ac fe amlygwyd rhai o'r rheini yn ein hadroddiad pwyllgor. Oherwydd ceir nifer o enghreifftiau o wledydd ar draws Ewrop a'r byd sydd ag ardoll dwristiaeth, ac mae hyn yn cynnwys cyrchfannau twristaidd megis Ffrainc, Gwlad Belg, Sbaen, Gwlad Thai a Seland Newydd, i enwi rhai yn unig. Mae sail yr ardollau hyn yn amrywio o wlad i wlad, gyda rhai'n gosod cyfradd y person; eraill yn ôl ystafell, lleoliad neu sgôr seren y llety. Ym Mwlgaria, mae'r ardoll wedi'i gosod yn lleol ac yn amrywio o 10 cent i €1.53 am y noson gyntaf. Mae'r arian sy'n cael ei godi o'r ardoll hon yn cael ei ailfuddsoddi'n ôl wedyn i'r sector twristiaeth. Yn Rwmania, defnyddir yr arian a godir drwy'r ardoll ar gyfer hyrwyddo twristiaeth; yn Sbaen, fe'i defnyddir ar gyfer prosiectau twristiaeth gynaliadwy. Ac er bod llawer o bosibiliadau o ran sut y gellid gosod ardoll dwristiaeth, mae'n hanfodol fod cymunedau'n cael dweud eu barn ynglŷn â'r modd y caiff ei gwario. Nid wyf am ddangos rhagfarn ynglŷn â hyn; rwy'n rhannu'r hyn sy'n cael ei ddweud pan siaradaf â phobl yn fy nghymuned. Oherwydd y gwir amdani yw bod pobl ym Mynydd Cynffig a Nant-y-moel, drwy eu treth gyngor hwy, yn talu am y traethau hynny a'r toiledau cyhoeddus hynny yn ystod yr haf, a phan gynhelir gŵyl Elvis a'r stryd yn cael ei chau, mae hynny'n costio tua £35,000 i gyllideb y cyngor, a'r bobl yn y cymunedau hynny sy'n talu amdano. Felly nid wyf yn credu y byddai twristiaid yn malio talu er mwyn inni allu cadw tref brydferth Porthcawl y maent eisiau dod i ymweld â hi yn lân ac yn daclus.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad am fabwysiadu dull o weithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth wrth gynnig yr ardoll dwristiaeth, a'u bwriad yw ymgysylltu â'r rhanddeiliaid yn ystod y broses ymgynghori ar hyn, a dyna'r cyfan rwy'n gofyn amdano—rwyf eisiau ymgynghoriad lle mae pobl a rhanddeiliaid yn cael y ffeithiau ar hyn, yn cael persbectif rhyngwladol ar hyn, posibiliadau hyn, a hefyd, yn ddelfrydol, ei dreialu. Felly, diolch i bawb am y gwaith caled sydd wedi'i wneud ar yr adroddiad hwn. Mae'n newid ac yn symud o hyd, ond rwy'n croesawu ymateb Llywodraeth Cymru. Diolch.
Fel yr Aelod cyntaf i siarad yn y ddadl hon nad yw ar y pwyllgor, a gaf fi ddiolch i aelodau'r pwyllgor sydd wedi siarad hyd yma, yn enwedig Paul Davies fel y Cadeirydd, yn ogystal â'i dîm ymchwil a chlercio a phawb a roddodd eu tystiolaeth i'r adroddiad ar y sector pwysig hwn, am yr argymhellion i Lywodraeth Cymru ac am gyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr heddiw? Mae'r pwyllgor wedi cyflwyno adroddiad diddorol iawn i ni heddiw, un sy'n cynnwys llawer i ni fel Aelodau, a Llywodraeth Cymru hefyd, ei ystyried o ran sut y gallant gefnogi'r diwydiant, nid yn unig yn ariannol, ond fel ffrind sy'n gwrando ar bryderon yn y diwydiant hefyd. Felly, roeddwn yn falch o weld bod un o'r brawddegau cyntaf un yn yr adroddiad yn nodi'r 'ergyd aruthrol' y mae'r sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu wedi'i wynebu dros y blynyddoedd diwethaf. Yn y cyd-destun hwnnw, mae'n hollbwysig ein bod ni, nawr yn fwy nag erioed, yn ffrind cefnogol i'r sector.
Gydag amser mewn golwg, rwyf wedi dewis ychydig o argymhellion adroddiad y pwyllgor i ganolbwyntio arnynt yn fy nghyfraniad heddiw. Mae argymhelliad 8 yn dweud:
'Dylai Llywodraeth Cymru amlinellu’n fanwl ei rhesymeg dros y cynnydd yn nifer y diwrnodau o’r flwyddyn y mae’n rhaid i eiddo hunanddarpar fod ar gael i’w osod i 252, a’r diwrnodau y caiff ei osod i 182'.
Fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, rwyf wedi codi'r mater hwn ar sawl achlysur yn y Siambr ac ni chefais fawr o esboniad gan Weinidogion ynghylch y rhesymeg dros y newid hwnnw. Mae llety hunanddarpar yn rhan bwysig o'r cymysgedd yn yr economi dwristiaeth, sy'n ddiwydiant allweddol mewn sawl rhan o Gymru. Ar ben hynny, mae'n darparu llety mewn ardaloedd gwledig i ffwrdd o ganolfannau, gan eu galluogi i elwa o'r economi dwristiaeth hefyd, ac mewn rhai rhannau o Gymru, dyma'r unig ffordd hyfyw o droi taith undydd mewn cymuned Gymreig anghysbell ond hyfryd i fod yn arhosiad dros nos.
Ond yr hyn nad yw wedi'i nodi o hyd yw'r rhesymeg dros y 182 diwrnod a sut y penderfynwyd ar y nifer hwnnw o ddyddiau, ac mae'r naid o 70 i 182 diwrnod cymwys yn ymddangos yn hynod sylweddol, yn enwedig o ystyried y ffaith bod nifer helaeth o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn ei wrthwynebu. Felly, byddai cyfiawnhad y Gweinidog dros y newidiadau'n rhesymol ac i'w groesawu. Yr hyn yr hoffai'r diwydiant ei glywed gan y Llywodraeth yw sut y bydd hyn yn cael ei fesur. A yw'r trothwy newydd yn gysylltiedig â gweithgarwch tymhorol, neu faint o ddyddiau y maent yn eu disgwyl mewn tymor twristiaeth arferol? Sut beth fydd y ffigur hwnnw? Mewn rhai ardaloedd lle mae diffyg gweithgarwch a darpariaeth i dwristiaid ar hyn o bryd, ond lle byddai'n fuddiol iddo gael ei ddatblygu, efallai y byddem yn dymuno gwasgaru cyrchfannau twristaidd ymhell i ffwrdd o gyrchfannau poblogaidd. Felly, gallai fod rheswm da dros gymell llety gwyliau i fod ar gael, a gallai fod angen rhywfaint o hyblygrwydd i ganiatáu ar gyfer hynny'n lleol. Mae'n ymddangos bod y trothwyon hyn yn uchel iawn yn y cyd-destun hwnnw, felly a fyddai lle i addasu i'r amgylchiadau lleol hynny? Ac er bod gennym gynnig twristiaeth gwych yma yng Nghymru, gyda marchnad ymwelwyr bresennol y sector twristiaeth mewn cyfnod ansicr ac ansefydlog iawn ar ôl COVID, rwyf wedi ailadrodd droeon y dylid ystyried yr effaith hon, ynghyd â phwysau costau byw a'r argyfwng costau busnes a drafodwyd yma ychydig wythnosau yn ôl, mewn unrhyw ddadl newydd dros y trothwyon newydd hyn.
Mae argymhelliad 9 yn gofyn i Lywodraeth Cymru,
'nodi’r sylfaen dystiolaeth a ystyriodd wrth benderfynu cyflwyno ardoll dwristiaeth leol ar hyn o bryd.'
Nid oes rhaid i mi ailadrodd y dadleuon a wnaethpwyd i wrthwynebu'r dreth hon, ond o ystyried yr hinsawdd y mae'r busnesau hyn yn gorfod gweithredu ynddi ar hyn o bryd, dylai fod yn amlwg i Lywodraeth Cymru nad nawr yw'r amser i osod mwy o drethi ar fusnesau, pan fo'r sector yn wynebu heriau cynyddol. Gofynnodd Sarah Murphy am bersbectif rhyngwladol. Wel, fe wyddom fod Fenis wedi cyflwyno treth dwristiaeth yn benodol i leihau niferoedd y twristiaid sy'n mynd i Fenis, yn hytrach nag ychwanegu at y niferoedd. Felly, mae'n anghredadwy fod Llywodraeth Cymru i'w gweld yn ffafrio'r opsiwn o ddyblygu model Fenis yma.
Ac yn olaf, Lywydd, mae argymhelliad 11 yn dweud,
'Dylai Llywodraeth Cymru nodi’n fanwl y dull arfaethedig o ymgynghori ar y
ddeddfwriaeth ddrafft ar gyfer ardoll dwristiaeth leol arfaethedig.'
Er fy mod yn derbyn bod yr ymgynghoriad yn dal ar y gweill—ac rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i annog pawb yn y sector i ddweud eu barn—byddwn wedi hoffi gweld Llywodraeth Cymru'n ymgysylltu mwy â'r sector mewn perthynas â hyn oherwydd, unwaith eto, rwyf wedi ceisio dod â llais y diwydiant i'r Siambr dro ar ôl tro, ac maent yn dweud wrthyf, dro ar ôl tro, eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cosbi gan Lywodraeth Cymru. Gadewch inni beidio ag anghofio mai dyma'r busnesau sydd eisoes yn buddsoddi yn eu cymunedau drwy'r cadwyni cyflenwi lleol, sy'n cyflogi pobl leol ac sy'n ailfuddsoddi'r arian hwnnw yn eu cymunedau. Mae trethiant ychwanegol yn peryglu rhagor o fuddsoddiad mewn cymunedau ledled Cymru. Mae'r bobl yn y sector twristiaeth yn glir, ac maent yn dweud wrthyf o hyd fod yr ysbryd o fewn y diwydiant ar ei isaf erioed, a hynny o ganlyniad uniongyrchol i gamau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn sy'n targedu eu diwydiant yn benodol. Ac felly, mae cyfraniad Vikki Howells yn gynharach yn dweud eu bod i gyd yn sinigiaid yn siomedig iawn yn y cyd-destun hwnnw hefyd. Felly, wrth ystyried yr adroddiad, rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn gweld hwn fel cyfle i gefnogi'r diwydiant twristiaeth, cefnogi ein cymunedau lleol a diogelu'r un o bob saith swydd sy'n dibynnu ar ei weld yn ffynnu.
A gaf fi ddiolch hefyd i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, dan gadeiryddiaeth wych Paul Davies wrth gwrs, am gyflwyno'r adroddiad pwyllgor pwysig hwn heddiw, 'Codi'r Bar: Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu'. Rwy'n eithaf hoff o'r teitl hwnnw, mewn gwirionedd—'Codi'r Bar'. Fel rwy'n siŵr y bydd Aelodau o bob rhan o'r Siambr yn gwybod, ac o gyfraniadau gennyf fi yn y Senedd dros y 18 mis diwethaf, ac yn enwedig fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar dwristiaeth, rwy'n frwd fy nghefnogaeth i sector lletygarwch a thwristiaeth Cymru, a dyna pam fy mod eisiau cyfrannu at ddadl adroddiad y pwyllgor heddiw—rhywbeth y mae Alun Davies yn aml yn gwneud sylwadau wrthyf arno, fy nghefnogaeth frwd i'r sector, ac rwy'n falch ei fod yn sôn amdano eto draw acw—oherwydd mae'r adroddiad hwn yn amlwg yn tynnu sylw at bwysigrwydd y sector, ond mae hefyd yn amlinellu llawer o'r heriau y mae'n eu hwynebu hefyd.
Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad ar un neu ddau o feysydd pwysig yn yr adroddiad, ac yn gyntaf, hoffwn dynnu sylw unwaith eto at bwysigrwydd y sector yn ein heconomi yng Nghymru. Fel bob amser, rwy'n un sy'n cymryd sylw o allbwn Ffederasiwn y Busnesau Bach, ac roedd gennyf ddiddordeb mawr yn eu hadroddiad dros yr haf ar dwristiaeth a ddangosodd, unwaith eto, mai twristiaeth sydd i gyfrif am fwy na 17 y cant o gynnyrch domestig gros Cymru, ond twristiaeth hefyd sydd i gyfrif am dros 12 y cant o gyflogaeth yma yng Nghymru. Fel y mae eraill wedi crybwyll, os ydych yn cynnwys lletygarwch a manwerthu o fewn hynny, rydym yn siarad am draean o'r economi yma yng Nghymru, sy'n dangos yn glir pa mor bwysig ydyw i'n cymunedau ac i'r trigolion rydym yn eu cynrychioli ar hyd a lled Cymru. Amlinellwyd hyn hefyd yn rhagair y Cadeirydd i adroddiad y pwyllgor, ac fe wnaf ei ddyfynnu'n uniongyrchol,
'Mae’r sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu yn gwbl hanfodol i lwyddiant ein cenedl. Ochr yn ochr â’r nifer fawr o swyddi y maent yn eu creu, maent hefyd yn asgwrn cefn i’r byd adloniant a’r bywyd cymdeithasol y mae pobl yng Nghymru, a’n hymwelwyr, yn ei fwynhau, ac sy’n gwneud Cymru yn lle gwych i fyw ynddo neu i ymweld ag ef'
Ond mae yna heriau'n wynebu'r sector, wrth gwrs, ac mae eraill eisoes wedi tynnu sylw at rai o'r rheini y prynhawn yma. Fel y gwyddom, mae treth dwristiaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru yn destun pryder enfawr i'r sector twristiaeth, a dyna pam fy mod, fel eraill, yn falch o weld ystyriaeth yn cael ei rhoi i hyn fel rhan o nifer o argymhellion y pwyllgor i Lywodraeth Cymru ac yn wir i'r Gweinidog. Fel yr amlinellwyd yn argymhellion 9, 10 ac 11, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn nodi'r dystiolaeth sy'n sail i dreth dwristiaeth, ond hefyd yn rhannu eu prosiectau ymchwil ar hyn, ac yn nodi eu dull arfaethedig o weithredu mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth ddrafft hon.
Os ydym am gyflwyno treth dwristiaeth, mae'n hanfodol fod cynghorau'n gallu ei gwario ar gynnal, yn ogystal â chryfhau, twristiaeth yn eu hardal leol. Ac rwy'n credu hefyd, er mwyn gwneud hyn mor effeithiol â phosibl, ei bod yn bwysig iawn fod yna fecanweithiau ar waith i gynnwys busnesau a'u llais yn y broses o wneud penderfyniadau mewn perthynas â sut y bydd y refeniw newydd hwn yn cael ei wario yn eu hardaloedd.
Pryder arall a fynegwyd wrthyf fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth yw pryder parhaus y sector twristiaeth, ac yn arbennig, y sector hunanddarpar, ynglŷn â'r rheol 182 diwrnod, sydd eisoes wedi cael ei grybwyll yma heddiw, ac y cyfeirir ato yn argymhelliad 8 yr adroddiad. Ac fel y crybwyllwyd gan eraill, mae hyn yn rhan o restr hir o newidiadau y mae'r Llywodraeth yn eu gorfodi ar y sector, sy'n achosi cryn bryder i lawer o berchnogion busnes ac atyniadau twristiaeth ledled Cymru. Ac os ydym yn disgwyl mwy gan y sector o ran deddfwriaeth a chydymffurfio, dyma pam y mae mor bwysig y dylid cynnig mwy i'r sector ar ffurf cymorth ac eiriolaeth. A dyna pam rwy'n croesawu argymhelliad 7 yn yr adroddiad, sy'n ceisio dangos yn glir lle caiff y cymorth ei ddarparu a'i ffocysu fel y gellir sicrhau'r sector ei fod yn cael ei drin gyda'r lefel o barch a phwysigrwydd y mae'n ei haeddu.
Ac mae hyn yn arwain at fy sylwadau terfynol sy'n ymwneud â'r angen am gefnogaeth i'r sector ac eglurder o ran yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol, sy'n hynod bwysig, yn dilyn yr anawsterau a wynebwyd yn ystod y pandemig COVID-19 a nawr gyda phwysau chwyddiant byd-eang hefyd. Ac yn wir, mae angen cymorth ariannol, ond o ran cymorth mwy meddal, mewn perthynas ag eiriolaeth a thynnu sylw at y cyfleoedd sydd gan y sector i Gymru ac i'n cymunedau, gwn y bydd y Gweinidog eisiau gwneud yn siŵr fod y cyfleoedd hynny'n cael eu hamlygu ac y bydd ganddynt bob amser bethau da i'w dweud am y sector hefyd.
Oherwydd, yn wir, fel yr amlinellodd UKHospitality Cymru, cyn COVID-19 roedd y sector lletygarwch a thwristiaeth yn tyfu oddeutu 10 y cant y flwyddyn, gan greu cannoedd o swyddi newydd i bobl leol ar hyd a lled Cymru. Ac mae'n amlwg o dystiolaeth y pwyllgor gan UKHospitality Cymru fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi darparu cymorth da i'r sector yn ystod y pandemig COVID-19. Felly, mae cyhoeddiad y Gweinidog ynghylch ailasesu'r egwyddorion y sy'n sail i ardrethi busnes hefyd yn cael ei groesawu yn yr ysbryd parhaus hwn o gymorth.
Rwy'n ymwybodol o'r amser, Ddirprwy Lywydd, felly hoffwn ddiolch i'r pwyllgor eto am gyflwyno'r adroddiad a'r argymhellion sydd ynddo, ac i'r Gweinidog am wrando ar y pwyllgor, ac edrychaf ymlaen at weld sut y bydd yr argymhellion hynny'n datblygu dros y misoedd nesaf.
Mae llawer i'w groesawu yn yr adroddiad hwn a hoffwn ddiolch i'r pwyllgor a'i aelodau, dan arweiniad fy nghyd-Aelod Paul Davies, am eu gwaith ar lunio'r adroddiad gwych hwn.
Fel y noda'r adroddiad, roedd yna ddarogan gwae y byddai diweithdra torfol yn ystod y pandemig, ond diolch i gynllun ffyrlo Llywodraeth y DU, llwyddwyd i osgoi diweithdra torfol yng Nghymru oherwydd Llywodraeth y DU. Rwy'n falch hefyd fod y Gweinidog wedi derbyn argymhellion yn yr adroddiad, ond eto mae amseroedd anodd i ddod o hyd i'n sector lletygarwch, twristiaeth a manwerthu, yn enwedig ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, sy'n dibynnu'n fawr ar hyn.
Rydym ynghanol anawsterau byd-eang ac mae cysgod hir COVID yn dal uwch ein pennau, ond rwy'n credu bod dau beth mawr y gallai Llywodraeth Cymru eu gwneud i helpu busnesau Cymru. Wrth ddarllen yr adroddiad, roedd yn amlwg iawn fod yr ardoll twristiaeth a drafodwyd gan Lywodraeth Cymru yn bryder mawr i gyrff y diwydiant a gweithwyr proffesiynol. Felly un peth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yw dileu'r dreth dwristiaeth ac unrhyw fesurau gwrth-fusnes eraill sydd wedi eu hanelu at y sector twristiaeth. Mae ein busnesau twristiaeth yn dod â symiau enfawr o arian i mewn i Gymru, gydag un o bob saith swydd yn dibynnu ar y diwydiant hwnnw. Felly, hoffwn annog Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i ymosod ar bobl sy'n gweithio'n galed ar hyd a lled y wlad i geisio gwneud Cymru'n gyrchfan deniadol gyda'u gwestai, eu llety gwely a brecwast a'u bythynnod.
Cafodd ardrethi busnes sylw yn yr adroddiad hefyd. Ac mae llawer o bobl yn dweud eu bod yn anflaengar iawn yng Nghymru ac y gallai pethau gael eu gwneud yn wahanol yma i ddenu busnes a helpu busnes. Felly gallech ostwng ardrethi busnes yng Nghymru. Dan arweiniad Llafur, yma yng Nghymru y ceir yr ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain gyfan. Mae hyn yn ein gwneud yn llai cystadleuol. Mae baich treth ar fusnesau'n rhy uchel a dylai busnesau Cymru allu cadw mwy o'u harian eu hunain i'w wario ar gyflogau a gwella busnes. [Torri ar draws.] Rwy'n siŵr y bydd Alun Davies yn hoffi'r pwynt hwn; mae'n mwmian draw yno. Ond rwy'n deall ac rwy'n cydnabod nad oes gan Lywodraeth Cymru yr holl ysgogiadau at ei defnydd i helpu pobl yng Nghymru. Ac roeddwn yn siomedig iawn ynglŷn â thro pedol Llywodraeth y DU ar rewi'r ardoll ar alcohol. Roedd hynny'n mynd i arbed £300 miliwn i'r diwydiant lletygarwch a thafarndai. Ac rwy'n credu, ar adeg pan fo ein tafarndai'n cau—mae 40 yn cau bob mis yng Nghymru a Lloegr—y dylai Llywodraeth y DU wneud mwy i ddiogelu ein diwydiant tafarndai. A hoffwn glywed beth mae'r Gweinidog yn ei wneud mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU i achub ein tafarndai, oherwydd hwy yw asgwrn cefn ein cymunedau.
Mae gwir angen ffrind ar fusnesau lletygarwch a thwristiaeth, ac maent angen cefnogaeth Llywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth Geidwadol y DU. Nid oes angen eu tanseilio ar adeg pan fônt yn wynebu'r perygl o fynd i'r wal. Felly, hoffwn groesawu'r adroddiad a diolch am yr holl waith y mae'r pwyllgor wedi'i wneud, ac edrychaf ymlaen at glywed ymateb y Gweinidog.
A galwaf ar Weinidog yr Economi, Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn innau hefyd ddiolch i aelodau Pwyllgor yr Economi, Masnach, a Materion Gwledig am eu hymchwiliad manwl a'u hadroddiad ar ddyfodol lletygarwch, twristiaeth a manwerthu a arweiniodd at y ddadl hon heddiw.
Fel y gwyddom i gyd, mae profiad y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn her sylweddol i'r rhan fwyaf o fusnesau yn y rhan fwyaf o sectorau yma yng Nghymru, gan gynnwys, wrth gwrs, y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu. Nawr, nid wyf am ddilyn Luke Fletcher drwy adrodd am rai o fy mhrofiadau personol yn gweithio yn y sector lletygarwch, ond rwy'n cydnabod nad oedd pawb yr ymdriniais â hwy yn garedig nac yn barchus. Ac mewn gwirionedd, rydym wedi gweld y duedd honno'n cynyddu, yn anffodus; mae nifer o'r Aelodau wedi sôn am hynny, yn enwedig o ystyried y prinder llafur sylweddol sy'n bodoli yn llawer o'r sectorau hyn, ac yn ehangach yn wir. Ac rwy'n cael fy atgoffa'n rheolaidd, er bod prinder staff yn y rhan fwyaf o'r byd ar hyn o bryd, byddwch yn garedig ac yn barchus wrth y bobl sydd yno, ac mae hynny'n bwysig iawn i'r math o awyrgylch rydym eisiau ei greu i bobl sy'n gweithio yn y sector hwn a phob sector arall.
Nawr, yn ystod ac ers y pandemig, mae'r Llywodraeth hon wedi gweithio'n ddi-baid i geisio cefnogi busnesau a gafodd eu heffeithio, nid yn unig y cymorth sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU drwy ffyrlo—ac rwy'n meddwl bod hwnnw'n un o'r mesurau gwell a gyflwynodd Llywodraeth y DU yn ystod y pandemig, ac roeddwn i'n sicr yn ei groesawu—ond wedyn hefyd darparodd Llywodraeth Cymru y gronfa cadernid economaidd ac yn wir, rhyddhad ardrethi busnes ychwanegol, ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth yn y busnesau sydd wedi goroesi ac sydd wedi llwyddo i ddod drwy'r pandemig mewn cyflwr cymharol gadarnhaol. Ond wrth gwrs, mae ein heconomi'n wynebu heriau sylweddol yn y tymor byr ac yn hirdymor: yr argyfwng costau byw presennol, costau ynni uwch, ac wrth gwrs, prinder o ran sgiliau a recriwtio sy'n dal i fod gyda ni. Rwy'n cydnabod maint a nifer yr heriau sy'n wynebu busnesau yn llawn. Rwy'n deall pam fod pobl sy'n arwain, rheoli a gweithio yn y busnesau hynny'n bryderus, ac nid oes amheuaeth gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â difrifoldeb y sefyllfa. Mae angen inni ymadfer yn sgil niwed economaidd y pandemig, y ffaith bod llawer o fusnesau bellach heb arian yn weddill ar ôl goroesi; mae angen inni fynd i'r afael â realiti ein cysylltiadau masnachu newydd ar ôl Brexit ac effaith hynny ar lawer o fusnesau yn y sectorau hyn, ac wrth gwrs, yr argyfwng costau byw a'r argyfwng costau busnes.
Felly, mae ein cenhadaeth economaidd newydd a gyhoeddwyd gennyf y llynedd yn nodi'n glir y gwerthoedd a'r blaenoriaethau a fydd yn llywio'r dewisiadau y byddaf yn eu gwneud i gefnogi dyfodol ein heconomi. Ond Ddirprwy Lywydd, rydym eisoes wedi clywed gan nifer o siaradwyr am effaith y cynnwrf yn San Steffan a beth mae hynny wedi ei wneud i'r darlun economaidd ehangach, ac a dweud y gwir, y berthynas y gallwn ei chael gyda Llywodraeth y DU gyda chymaint o newidiadau gweinidogol. Ac nid wyf yn credu y gallaf agor y ddadl hon heddiw heb gydnabod yr her ryfeddol y mae'r ddau fis diwethaf yn arbennig wedi'i chreu i fusnesau ac yn wir, fel y cydnabu Vikki Howells, y ffaith—ac mae'n ffaith na ellir ei gwadu—fod gwerth cyllideb Llywodraeth Cymru, yn y cyfnod adolygu gwariant hwn, wedi gostwng tua £4 biliwn mewn termau real. Ac roedd Vikki Howells hefyd yn cydnabod bod y darlun economaidd wedi gwaethygu'n sylweddol ers cwblhau'r adroddiad, a dyna realiti na ellir ei wadu. Bydd yn newid ffocws busnesau; bydd yn newid gallu'r Llywodraeth hon ac eraill i gynorthwyo busnesau nid yn unig i oroesi ond i ffynnu yn y dyfodol.
Mae'r heriau sy'n gysylltiedig â'r ffaith bod llai o incwm gwario gan gwsmeriaid i'w teimlo'n arbennig o fewn y sectorau hyn. Mae heriau pobl sy'n gweithio yn dod i mewn, ac unwaith eto, mae adroddiad Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol wedi cael eu cydnabod—yr effaith ar weithwyr nid yn unig o gael llai o arian yn eu pacedi cyflog eu hunain, ond yr effaith eto ar gwsmeriaid sy'n dod i mewn. Ac yn sicr, byddwn i'n croesawu ymchwiliad gan y pwyllgor hwn yn y dyfodol i edrych ar y darlun economaidd sy'n newid, a phan fydd Llywodraeth y DU wedi cwblhau ychydig rhagor o'i chyfleoedd a'r dewisiadau nid yn unig yn y gyllideb, ond y cynllun cymorth ynni yn y dyfodol, beth fydd hynny'n ei olygu i sectorau yn yr economi wrth symud ymlaen yn y dyfodol. Ac fe fyddai hynny'n sicr yn helpu i lywio dewisiadau y mae angen i Lywodraeth Cymru eu gwneud yma yng Nghymru.
Nawr, rwy'n cydnabod bod cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth y DU am y gyllideb wedi cynnig rhywfaint o gymorth. Mae'r cynllun rhyddhad ar filiau ynni a gafodd ei gyhoeddi ym mis Medi yn rhoi rhywfaint o ryddhad tymor byr i fusnesau, ond mae yna angen, sy'n cael ei gydnabod yn drawsbleidiol rwy'n siŵr, am olwg fwy hirdymor i fusnesau allu cynllunio. Ni allwch gynllunio i wneud dewisiadau dros y flwyddyn nesaf os nad ydych ond yn sicr o elfen o gymorth a fydd yn dod i ben ym mis Mawrth, ac nid yn unig eglurder ynglŷn â'r hyn a fydd yn digwydd ar ôl hynny, ond pryd fydd yr eglurder hwnnw'n cael ei ddarparu. Ac fel y dywedais, rwy'n siŵr y bydd cydnabyddiaeth drawsbleidiol o'r angen nid yn unig am eglurder ynglŷn â beth yw'r dyfodol, ond i'r gostyngiadau gael eu trosglwyddo'n gyflym i fusnesau i wneud yn siŵr eu bod yn gallu goroesi i edrych ymlaen at y flwyddyn newydd. Mae angen inni ddeall hefyd, wrth gwrs, beth fydd yn digwydd ar 17 Tachwedd. Bydd realiti'r dewisiadau hynny'n effeithio ar fwy na wasanaethau cyhoeddus yn unig; fe fyddant yn effeithio ar yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi'r economi, byddant yn effeithio ar gwsmeriaid, byddant yn effeithio ar weithwyr, byddant yn effeithio ar fusnesau a swyddi.
Ond wrth gwrs, pan edrychaf ymlaen at ein gallu i gefnogi busnesau, rydym yn trafod y materion hyn yn rheolaidd gyda busnesau eu hunain. Mae'r fforwm economi ymwelwyr yn cyfarfod yn rheolaidd; rwyf i fod i'w cyfarfod yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwyf i fod i gyfarfod â mwy o fusnesau unigol, nid yn unig mewn perthynas â heriau uniongyrchol, ond yn syth ar ôl 17 Tachwedd, byddwn yn cyfarfod eto. Cawsom uwchgynhadledd economaidd yn ddiweddar, unwaith eto i wrando ar sectorau ar draws yr economi ac yna i geisio teilwra ein hymateb a chael y sgwrs onest honno. Yr hyn sy'n wahanol am Gymru, wrth gwrs, yw ein bod yn gwneud hynny mewn ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol, gyda'n cynrychiolwyr undebau llafur. Ddoe mewn gwirionedd, cyfarfûm â'r sector manwerthu i fwrw ymlaen â'r weledigaeth sydd wedi'i chydgynhyrchu gan y Llywodraeth, busnesau ac undebau llafur, dan arweiniad ein cydweithwyr yn USDAW, ac i edrych ar y cynllun cyflawni i ddeall beth y gallwn ei wneud gyda'n gilydd i gynnal y sector hwnnw ac i'w weld yn cael dyfodol teilwng, gyda gwaith gweddus yn ogystal â gwasanaethau gweddus sy'n cael eu gwerthfawrogi ym mhob un o'n cymunedau. Felly, rwy'n parhau i fod eisiau gweld grŵp llewyrchus o fusnesau o fewn y sectorau rydym yn eu trafod heddiw, a gweld hefyd sut y gallwn wneud hynny o fewn realiti'r cyd-destun. Mae ein huchelgais yn parhau, er enghraifft, mewn twristiaeth, i dyfu'r sector er lles Cymru. Mae hynny'n golygu twf economaidd sy'n sicrhau manteision i bobl a lleoedd, gan gynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol, cyfoethogi cymdeithasol a diwylliannol, a'r manteision iechyd sy'n dod o waith da.
I droi at argymhellion y pwyllgor, rwy'n credu ei bod hi'n braf clywed croeso cyffredinol i ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion a sut y byddwn yn ceisio gweithio ochr yn ochr â'r rheini, ac yn rhoi diweddariad i'r pwyllgor maes o law, wrth gwrs, ynglŷn â'r cynnydd a wnawn ar yr argymhellion hynny.
Ar beth o'n hymateb ar ardrethi busnes, wrth gwrs, gydag argymhellion 1 a 2, rydym yn darparu'r pecyn £116 miliwn ychwanegol hwnnw. Bydd hwnnw ar gael tan ddiwedd y flwyddyn ariannol. Fodd bynnag, mae angen inni weld realiti'r hyn sy'n mynd i ddod yn y gyllideb ar 17 Tachwedd ac a oes digwyddiad cyllidol i ddod yn y gwanwyn hefyd. Ond mae yna ymgynghoriad yn gofyn am safbwyntiau ar ddiwygio ardrethi annomestig, a bydd hwnnw ar agor tan 14 Rhagfyr, a hoffwn annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwnnw.
Ar fuddsoddiad cyfalaf, mae Croeso Cymru yn darparu buddsoddiad cyfalaf i gefnogi busnesau sy'n gweithredu ym maes twristiaeth a lletygarwch, gyda thair sianel benodol: sef cronfa buddsoddi mewn twristiaeth Cymru sy'n £50 miliwn; y buddsoddiad cyfalaf strategol sy'n £2.5 miliwn; ac wrth gwrs, rhaglen flynyddol y Pethau Pwysig.
Ar argymhelliad 8, rydym wedi gwneud newidiadau i drothwyon hunanarlwyo yn ddiweddar. Nod y rhain yw cymell y defnydd o eiddo a helpu i ddod ag eiddo gwag a heb ei ddefnyddio'n ddigonol yn ôl i ddefnydd. Os nad yw eiddo'n cael ei weithredu fel busnes, bydd treth gyngor i'w dalu arno.
Ar argymhellion 9 a 10, rydym yn ymgynghori ar roi'r pŵer i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr, a dechreuodd ymgynghoriad llawn ar 20 Medi. Mae'n braf clywed mwy nag un ochr i'r ddadl hon, a Sarah Murphy, yn amlwg, yn amlinellu safbwyntiau gwahanol o fewn ei hetholaeth ei hun a thystiolaeth ryngwladol o hyn. Rwy'n sylweddoli y byddai rhai cyfranwyr yn hoffi gweld y Llywodraeth hon yn ymuno ag eraill i wneud tro pedol yn rheolaidd ac osgoi ymrwymiadau eu maniffesto, ond rydym yn benderfynol o wneud yr hyn y dywedasom wrth bobl Cymru y byddem yn ei wneud drwy lunio, cyflawni ac ymgynghori ar ardoll.
Rwy'n gallu gweld bod fy amser yn brin, ond hoffwn orffen—
Mae'r amser wedi dod i ben yn barod mewn gwirionedd.
Rwyf am orffen drwy ei gwneud yn glir i aelodau'r pwyllgor ein bod o ddifrif ynghylch yr adroddiad a ddarparwyd i ni, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd a wneir ar yr argymhellion, ac rwy'n edrych ymlaen at waith pellach gyda'r pwyllgor hwn drwy weddill y tymor.
Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Paul Davies, i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma? Mae'r Aelodau oll wedi crybwyll sut mae'r diwydiannau manwerthu, twristiaeth a lletygarwch yn ganolog i'n holl gymunedau, a dyna pam ei bod mor bwysig fod Llywodraeth Cymru'n deall ac yn ymateb i'r heriau sy'n wynebu'r sectorau hyn.
Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd cael y polisïau cywir ar yr adeg gywir; yn wir, mae'n hanfodol ar gyfer economi Cymru a'r gallu i fyw'n weddus ynddi. Rydym i gyd eisiau i'n trefi a'n dinasoedd fod yn fannau ffyniannus, bywiog, cymunedol, ac mae cefnogi'r sectorau hyn yn rhan enfawr o adeiladu'r rhwydweithiau cymunedol ffyniannus hynny yma yng Nghymru. Nawr, fel y dywedodd yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, a'r Aelod dros Ogledd Cymru, mae llawer o'n busnesau yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau yn gyflogwyr allweddol yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu.
Mae Aelodau, megis Luke Fletcher a Tom Giffard, yr Aelodau dros Orllewin De Cymru, yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed a'r Gweinidog yn wir oll wedi crybwyll y pandemig a'i effeithiau economaidd ar ein sectorau manwerthu, lletygarwch a thwristiaeth. Roedd yn sioc economaidd nad oedd unrhyw ddiwydiant yn barod ar ei chyfer, a dylem gymryd eiliad i fyfyrio ar wytnwch a gwaith caled y rhai sy'n gweithio ym maes lletygarwch, twristiaeth a manwerthu mewn cyfnod a oedd o reidrwydd yn eithriadol o anodd. Wrth gwrs, mae helpu'r sectorau hyn i ymadfer yn sgil y pandemig ac esblygu i ffyrdd newydd o weithio yn her fawr, ond rwy'n credu ei fod yn gyfle gwych hefyd i Lywodraeth Cymru ailystyried sut mae'n gweithio gyda'r sectorau hyn wrth symud ymlaen. Mae'r diwydiannau hyn yn wynebu heriau o bob cyfeiriad, boed yn bolisïau trethiant, yn newid i fasnach ar-lein, neu lai o hyder ymhlith pobl ifanc i ymgeisio am swyddi. Roedd Arwyn Watkins o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yn iawn i ddweud,
'Pe bai nifer y swyddi sydd wedi'u colli yn y sector hwn dros y 24 mis diwethaf wedi'u colli mewn unrhyw sector arall, byddai pawb yn gandryll a bod yn onest, ac nid oes neb yn dweud unrhyw beth yn ei gylch o gwbl, ar wahân i'r cyflogwyr sy'n ceisio llenwi'r swyddi gwag.'
Ac felly, mae'r neges yn eithaf syml; mae angen i Lywodraeth Cymru wneud yn well a blaenoriaethu'r diwydiannau hyn a'r bobl sy'n gweithio ynddynt.
Mae Aelodau, fel yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, wedi siarad yn gwbl briodol am wella sgiliau, a fydd yn helpu i greu gwell swyddi ac o fudd i'r sectorau hyn a'n heconomi yn fwy cyffredinol. A dyna pam mae'r pwyllgor wedi argymell yn benodol y dylai Llywodraeth Cymru nodi mwy o fanylion ynglŷn â lle mae'n gweld posibiliadau o fewn ei gynlluniau arfaethedig i ehangu'r rhaglen brentisiaethau ar gyfer llwybrau gyrfa lefel uwch mewn twristiaeth a lletygarwch, gan gynnwys ar gyfer gradd-brentisiaethau.
Hefyd, nododd Aelodau fel yr Aelod dros Gwm Cynon bwysigrwydd gwaith teg, ac rwy'n credu ein bod i gyd yn derbyn bod cyfleoedd gwirioneddol i symud gwaith teg yn ei flaen drwy'r strategaeth fanwerthu newydd a chynllun gweithredu'r economi ymwelwyr. Mae'r pwyllgor hefyd yn galw am fwy o eglurder ynghylch rôl contract economaidd Llywodraeth Cymru i sbarduno canlyniadau gwaith teg, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy gan Lywodraeth Cymru am y cynnydd sy'n cael ei wneud yn y maes hwn.
Ddirprwy Lywydd, galwyd ein hadroddiad yn 'Codi'r bar' oherwydd mai dyna'n union sydd angen i Lywodraeth Cymru ei wneud. Fel y dywedodd Luke Fletcher, mae'r Llywodraeth wedi derbyn argymhellion y pwyllgor yn llawn neu mewn egwyddor, ond nawr, rydym am weld yr union argymhellion hynny'n cael eu gweithredu. Mae codi lefel yr uchelgais ar gyfer y sectorau hyn yn hanfodol a bydd yn helpu i wella ansawdd bywyd ein dinasyddion a'n hymwelwyr.
Felly, rydym wedi clywed cyfraniadau hynod ddiddorol gan yr Aelodau heddiw, ac ymateb adeiladol gan y Gweinidog, ac rwyf am ei gwneud yn glir y prynhawn yma, fel y dywedodd yr Aelod dros Gwm Cynon, y bydd hyn yn parhau i fod yn faes blaenoriaeth i'r Pwyllgor Economi, Masnach, a Materion Gwledig. Rwyf am sicrhau'r Gweinidog y bydd y pwyllgor yn parhau i ganolbwyntio ar y maes hwn wrth symud ymlaen, yn enwedig o ystyried bod yr heriau ariannol wedi cynyddu i'r sectorau hyn ers cyhoeddi ein hadroddiad.
Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddiolch i'r rhai a gyfrannodd at y drafodaeth y prynhawn yma a dweud bod y pwyllgor yn edrych ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wneir ar weithredu ein hargymhellion maes o law? Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.