– Senedd Cymru am 4:18 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Eitem 7 yw'r ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Pwysau costau byw'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Paul Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw.
Ddirprwy Lywydd, yr wythnos diwethaf, fe wnaethom drafod ein hadroddiad ar adfer y sectorau twristiaeth, lletygarwch a manwerthu yng Nghymru, a sut roedd costau byw a chostau gwneud busnes yn effeithio arnynt. Yr wythnos hon, rydym yn trafod ein hadroddiad ar rai o'r materion mwyaf dybryd y mae ein cymunedau'n eu hwynebu: sut mae pwysau costau byw wedi bod yn effeithio ar aelwydydd a gweithwyr; effaith costau cynyddol gwneud busnes; ac anghenion penodol ein cymunedau gwledig.
Yn yr ymchwiliad hwn, fe wnaethom archwilio pa mor effeithiol yw'r mesurau cymorth y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi'u rhoi ar waith, a pha gymorth pellach y gallai fod ei angen dros y misoedd nesaf. Roeddem yn glir ein bod eisiau adeiladu ar waith pwyllgorau eraill y Senedd yn hytrach nag ailddyfeisio'r olwyn, ac mae'r pwyllgor yn ddiolchgar iawn i bawb a roddodd dystiolaeth i'n hymchwiliad.
Yn ôl yn yr haf, roedd costau byw cynyddol eisoes i'w teimlo ar draws Cymru ac yn effeithio ar bron bob agwedd ar fywyd cyhoeddus a phreifat. Nid oedd cyflogau ac incwm sefydlog yn ymestyn cyn belled, ac roedd pobl yn tynhau eu gwregysau ac yn gwneud dewisiadau anodd. Roedd busnesau'n wynebu ergyd ddwbl costau uwch a defnyddwyr yn lleihau eu gwariant dewisol. Ac mae'r holl faterion hyn yn cael eu chwyddo mewn cymunedau gwledig, sy'n wynebu premiwm gwledig am gael mynediad at nwyddau a gwasanaethau. Wrth gwrs, mae pethau wedi symud ymlaen yn sylweddol ers inni gyflwyno ein hadroddiad ddiwedd mis Gorffennaf, ond hyd yn oed bryd hynny roeddem yn edrych ar sut y gellid cefnogi busnesau ac unigolion drwy gyfnod yr hydref a'r gaeaf sydd bellach ar ein gwarthaf. Mae'r Gweinidog wedi rhoi ymateb cynhwysfawr iawn i'r adroddiad hwn, mewn modd amserol, a chredaf fod hynny'n adlewyrchu pwysigrwydd gweithredu yn y maes hwn.
Nawr, mae ein hadroddiad yn cynnwys 27 o argymhellion mewn pum maes. Fe wnaethom ganolbwyntio ar: y cymorth a oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ym mis Mai a Mehefin eleni, a lle roedd y bylchau; y pwysau ar aelwydydd bryd hynny; y pwysau ar y gweithlu; yr effaith ar gymunedau gwledig; a'r pwysau ar fusnesau. Rwy'n falch fod 23 o'r argymhellion wedi'u derbyn, gyda'r pedwar arall wedi'u derbyn mewn egwyddor. Mae yna lawer i'w groesawu yn ymateb Llywodraeth Cymru, a diolch i'r Gweinidog am ymateb yn gadarnhaol i'n hadroddiad a'n hargymhellion.
Mae ein pum argymhelliad cyntaf yn ymwneud â sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn casglu digon o ddata a'r math cywir o ddata i ddeall lle mae'r angen mwyaf a sicrhau bod yr arian sydd ar gael yn cael ei gyfeirio yn y ffordd orau bosibl. Fe glywsom dystiolaeth sy'n peri pryder ynghylch maint yr her i bobl sy'n ceisio cymorth, ac felly mae'r ffaith bod y pum argymhelliad wedi cael eu derbyn i'w chroesawu'n fawr.
Roedd ein chweched argymhelliad yn ymwneud â sicrhau cymaint o ymwybyddiaeth â phosibl a sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn manteisio ar y cymorth budd-daliadau sydd ar gael i unigolion, ac rydym hefyd yn croesawu ymdrechion Llywodraeth Cymru yn hyn o beth. Mae hyn yn cynnwys y gwaith sy'n cael ei wneud drwy'r ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi', a'r gweithgor pwyslais ar incwm, y cyfeirir ato mewn ymateb i'n seithfed argymhelliad. Byddai'r pwyllgor yn ddiolchgar am unrhyw ddiweddariadau ar y gwaith hwn gan y Gweinidog wrth inni symud drwy gyfnod y gaeaf ac i mewn i wanwyn 2023, ac efallai wrth ymateb i'r ddadl hon y cawn glywed ychydig mwy am y gwaith sydd wedi digwydd.
Hoffwn dalu teyrnged hefyd i'r rhai sy'n darparu gwasanaethau cyngor a chymorth i bobl sydd yn teimlo'r pwysau fwyaf ar hyn o bryd. Nid yw eu gwaith bob amser yn cael ei gydnabod yn llawn, a chlywsom am y straen sydd arnynt hwy wrth iddynt geisio cefnogi eraill yn eu cymuned. Yn wir, rydym yn ddiolchgar iawn i nifer o sefydliadau a gymerodd ran mewn grwpiau ffocws a chyfweliadau a gynhaliwyd gan dîm cysylltu â dinasyddion y Senedd. Mae canfyddiadau'r gwaith hwnnw ar gael ar ein gwefan ac maent wedi cael eu hadlewyrchu yn ein hadroddiad.
Mae Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, ACE, yn un o'r sefydliadau ar lawr gwlad sy'n cefnogi pobl ar incwm isel, ac mae eu tystiolaeth yn amlygu agwedd arbennig o bwysig ar yr ymchwiliad. Fe wnaethant y pwynt hynod bwysig nad yw ond o unrhyw fudd os ydych yn gwybod amdano. Nawr, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael, un o brif negeseuon ein hymchwiliad oedd y gellid gwneud mwy i resymoli'r broses o wneud cais am gymorth. Fe wnaeth Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan dynnu sylw at y nifer helaeth o ffurflenni y mae'n ofynnol i bobl eu llenwi er mwyn cael yr arian y mae ganddynt hawl iddo, ac fe anogodd Lywodraeth Cymru i gyflymu gwaith yn y maes hwn.
Ceir consensws fod angen i'r system fod yn fwy cydlynol, ac mae argymhellion 8, 9 a 10 yn galw am basbortio budd-daliadau yn well, mwy o gydlynu, a symleiddio gwasanaethau mewn dull siop un stop. Rydym yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru ar y pwynt hwn, ac yn croesawu'r ffaith bod siarter budd-daliadau wrthi'n cael ei datblygu. Rydym hefyd yn cydnabod bod rhai awdurdodau lleol gam ar y blaen, ac rydym eisiau i'r arferion gorau hynny ddod yn norm.
Mae argymhelliad 11 yn arbennig o berthnasol, gan ei fod yn cyfeirio at gymhwysedd i gael cymorth y tu hwnt i fudd-daliadau sy'n seiliedig ar brawf modd, ac yn tynnu sylw at drafferthion teuluoedd a allai fod yn colli allan o ychydig. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn yn y meini prawf ar gyfer ei chynllun cymorth tanwydd y gaeaf, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried yr argymhelliad hwn wrth lunio cynlluniau yn y dyfodol.
Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb i argymhelliad 12 ar sut y bydd grant atal digartrefedd Llywodraeth Cymru yn helpu i liniaru'r gostyngiad mewn taliadau disgresiwn at gostau tai, ac mae'r pwyllgor yn nodi y bydd Gweinidogion yn parhau i drafod gyda Llywodraeth y DU pa gyllid fydd ar gael yng nghyllideb 2023-24 i fynd i'r afael â phwysau costau byw.
Nawr, ni chafodd holl argymhellion y pwyllgor eu derbyn yn llawn, ac mae'n peri penbleth braidd i mi pam fod ein galwad ar Lywodraeth Cymru i lywio achrediad cyflogwyr y sector cyhoeddus fel cyflogwyr cyflog byw gwirioneddol ond wedi cael ei dderbyn mewn egwyddor. Argymhellwyd hefyd y dylai Llywodraeth Cymru archwilio defnyddio ei hysgogiadau mewn perthynas â chyflogau ac amodau'r sector cyhoeddus i gynyddu gwaith teg yng Nghymru, gan gynnwys drwy wella tâl salwch, lle mae gweithwyr sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus ei angen, gan ddechrau gyda threfniadau mwy hirdymor i weithwyr gofal cymdeithasol, a chefnogi'r rhai sy'n ennill leiaf drwy setliadau cyflog. Serch hynny, rwy'n nodi bod ymateb Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at waith hyd braich Cynnal Cymru i hyrwyddo manteision y cyflog byw gwirioneddol ar gyfer gweithwyr yng Nghymru, sy'n arbennig o briodol i'w gydnabod yr wythnos hon, gan ei bod yn Wythnos Cyflog Byw.
Mae'n dda gweld hefyd, mewn ymateb i argymhelliad 15, fod y Gweinidog a'r pwyllgor yn rhannu'r un safbwynt ynghylch mentrau i hyrwyddo gwaith teg. Yn yr un modd, gydag argymhelliad 16, mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd data da ar y farchnad lafur i gefnogi ymateb polisi Llywodraeth Cymru yn wyneb pwysau costau byw ar economi Cymru.
Mae salwch meddwl yn bryder mawr yn wyneb y pwysau costau byw, a chlywodd y pwyllgor dystiolaeth ofidus iawn gan yr undebau llafur a sefydliadau llawr gwlad am yr effaith y mae pryderon ariannol yn ei chael ar bobl. Roedd rhai o'r sylwadau rydym wedi'u cael drwy waith ymgysylltu'r pwyllgor yn cynnwys pethau fel, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae arnaf ofn rhoi'r gwres ymlaen',
'Rwy'n teimlo'n sâl ac nid wyf yn gallu bwyta',
'Rydym yn ennill cyflog da ond yn methu ymdopi â'r biliau', a, 'Rwy'n garcharor yn fy nghartref fy hun.' Felly, mae annog cyflogwyr i gefnogi eu gweithwyr drwy'r anawsterau hyn yn hollbwysig, ac felly roedd yn briodol ein bod wedi gwneud argymhelliad penodol ynglŷn â hyn.
Ddirprwy Lywydd, fel y dywedais ar ddechrau fy nghyfraniad, mae pwyllgorau eraill y Senedd hefyd wedi gwneud gwaith pwysig ar faterion costau byw. Er enghraifft, roedd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol eisoes wedi gwneud argymhellion pwysig am dlodi tanwydd a'r rhaglen Cartrefi Clyd ym mis Mai, ddeufis cyn i adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach, a Materion Gwledig gael ei gyhoeddi. Felly, mae'n hanfodol fod yr Aelodau'n cydnabod mai un rhan yw hon o waith mawr ar graffu ar gymorth Llywodraeth i fynd i'r afael â'r costau byw cynyddol.
Ddirprwy Lywydd, roedd ein hadroddiad hefyd yn rhoi ffocws pwysig i'r trafferthion sy'n wynebu aelwydydd oddi ar y grid a'r rhai mewn cymunedau gwledig, lle mae premiwm gwledig am gael mynediad at nwyddau a gwasanaethau. Rydym yn gwybod bod ffactorau lluosog ar waith yma: gwledigrwydd, dibyniaeth ar fathau drutach o danwydd gwresogi, costau cynyddol cludo nwyddau, ynysu, y pwysau ar ein cymunedau ffermio sy'n gorfod ymdopi â chostau cynyddol bwyd anifeiliaid, gwrtaith a thanwydd. Felly, mae argymhellion 19 i 23 yn ymdrin â mesurau i gynorthwyo aelwydydd oddi ar y grid gyda chostau tanwydd a darparu canolfannau cynnes, sydd bellach wedi'u cyflwyno yng Nghymru, a mwy o waith ymchwil a dadansoddiadau o anghenion cymunedau gwledig. Mae'n dda clywed bod materion gwledig yn cael eu hystyried yn benodol ar gyfer fersiynau yn y dyfodol o raglen Cartrefi Clyd, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am y gwaith hwn maes o law.
Mae ein pedwar argymhelliad olaf yn ymwneud â chymorth i fusnesau allu ymdopi â chostau cynyddol gwneud busnes. Nododd Llywodraeth Cymru mai ar lefel y DU y mae llawer o'r ysgogiadau ar gyfer darparu grym ariannol ychwanegol i oresgyn yr heriau, ac nad yw'r symiau canlyniadol Barnett a ddefnyddiwyd ar gyfer cymorth COVID mewn blynyddoedd blaenorol yno ar gyfer 2022-23. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad ynglŷn â chynorthwyo busnesau Cymru i ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon, ac i beidio â cholli golwg ar dargedau sero net yn wyneb yr heriau ariannol.
Yn olaf, mewn perthynas â rhyddhad ardrethi annomestig parhaus i fusnesau, nodwn yr ymrwymiad i adolygu'r angen am gymorth trosiannol pellach yn 2023, ac mae'r pwyllgor yn edrych ymlaen at glywed mwy ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru'n defnyddio rhyddhad ardrethi busnes i gefnogi'r busnesau yr effeithir arnynt fwyaf yng Nghymru ar yr adeg anodd hon.
I gloi, hoffwn ailadrodd fy niolch i bawb a fu'n ymgysylltu â'r pwyllgor yn ystod ein gwaith ar y mater pwysig hwn, a diolch hefyd i'r tîm a gynorthwyodd y pwyllgor i gynnal yr ymchwiliad hwn. Rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau Aelodau i'r ddadl bwysig hon. Diolch yn fawr iawn.
Rwyf am ddechrau, fel rydym bob amser yn tueddu i'w wneud yn y dadleuon hyn, drwy ddiolch i'r Cadeirydd am ei gadeiryddiaeth arbenigol ar ein pwyllgor, yn ogystal â'r holl waith y mae'r clercod yn ei wneud hefyd, ac yn arbennig y dystiolaeth a gawsom gan wahanol randdeiliaid a grwpiau gweithredu cymunedol. Rwyf am dynnu sylw at grŵp gweithredu Caerau a Threlái, fel y gwnaeth y Cadeirydd, a chyfeirio at y pwynt a wnaethant sef nad yw ond o fudd os ydych yn gwybod amdano. Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt hanfodol bwysig. Mae'n cysylltu â fy nghyfraniad blaenorol yn ymwneud â thariffau cymdeithasol band eang. Ond mae hefyd yn tynnu sylw at yr angen i godi ymwybyddiaeth am yr hyn sydd ar gael i bobl. Ac wrth gwrs, rwy'n credu'n sylfaenol y dylai pobl gael yr hyn y mae ganddynt yr hawl i'w gael beth bynnag a hynny'n ddiofyn.
Ond hoffwn ddechrau gyda busnesau. Nid yw'n gyfrinach fod yr argyfwng costau byw yn rhwygo drwy'r stryd fawr Gymreig wrth i rybuddion ynghylch cenhedlaeth goll o fusnesau bach ac annibynnol barhau. Mae effaith chwyddiant a phrisiau ynni esgynnol wedi cael ei theimlo gan fasnachwyr, ac mae llawer ohonynt wedi cael eu gorfodi i gau eu drysau'n barhaol neu i ystyried gwneud hynny. Mae'r argyfwng costau byw yn digwydd ochr yn ochr â'r argyfwng costau gwneud busnes—rhywbeth sydd wedi'i ddogfennu'n dda yn adroddiad ein pwyllgor. Mae prisiau'n codi i'r entrychion i fusnesau ar yr un pryd ag y mae pobl sy'n gweithio yn gorfod lleihau eu gwariant. Mae'n sicr yn ergyd ddwbl.
Mae'n werth nodi yma nad ydym yn sôn am warian pobl sy'n gweithio ar bethau moethus chwaith—mae llawer ohonynt yn methu fforddio hanfodion. Mae disgwyl y bydd y cynnydd sylweddol mewn tlodi tanwydd, y rhagwelir y bydd yn dilyn codi'r cap ynni ym mis Ebrill, lle mae disgwyl i 45 y cant o aelwydydd Cymru ymgodymu â thlodi tanwydd difrifol, yn cyd-redeg â'r cwymp mwyaf mewn incwm gwario o bosibl ers dechrau cadw cofnodion yn y 1950au. Ar ben hyn, mae llawer o fusnesau'n dal i adfer ar ôl y pandemig. Soniais am fusnesau bach, annibynnol a'r rhain sy'n cael eu taro waethaf mewn rhai sectorau. Dywedodd y Ffederasiwn Busnesau Bach fod biliau nwy busnesau bach wedi cynyddu 250 y cant ar gyfartaledd a bod 96 y cant o'r rhain yn poeni am eu biliau ynni cynyddol.
Mae diwydiannau ynni-ddwys hefyd yn dioddef—nid yn unig y rhai sy'n dod i'r meddwl yn syth, fel dur, ond rhai rwyf wedi codi llais yn eu cylch o'r blaen hefyd, fel bragdai a lletygarwch. Er enghraifft, mae Bang-On Brewery, bragdy lleol yn fy rhanbarth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi gweld eu biliau'n cynyddu mewn ffordd sy'n dod â dŵr i'r llygaid. Er enghraifft, maent wedi gweld cynnydd o 549 y cant yn eu contract cyfleustodau newydd; cynnydd o 68 y cant yn eu les safle newydd; cynnydd o 165 y cant ym mhris grawn bragu ers dechrau 2021, gyda chynnydd pellach o 70 y cant yn cael ei gyflwyno ym mis Ionawr 2023, a chynnydd o 80 y cant yn y gost o redeg cerbydau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Os adiwch y rheini i gyd, bydd angen iddynt ddod o hyd i £198,000 ychwanegol ar ôl treth i wneud dim mwy na aros lle maent, a goroesi. Gyda chostau o'r fath, byddai'n rhaid i bris masnach newydd potel o gwrw fod yn £12.53 y botel a TAW. Nid wyf yn nabod llawer o bobl, os oes unrhyw un mewn gwirionedd, a fyddai'n ystyried talu hynny am botel o gwrw.
Mae costau fel hyn yn un o'r amryw o ffyrdd y mae'r argyfwng hwn yn gwanychu diwydiant lletygarwch sydd eisoes dan bwysau eithriadol. Mae sectorau fel lletygarwch, manwerthu a thwristiaeth yn hynod ddibynnol ar wariant dewisol pobl. Mae'r adroddiad yn nodi bod sectorau o dan bwysau sylweddol mewn mwy o berygl o ddadlwytho pwysau costau byw ar weithwyr. Ni fydd llawer sy'n gweithio mewn sectorau fel lletygarwch yn gallu bargeinio y tu hwnt i gontractau dim oriau neu waith heb gontract ysgrifenedig, ac oriau gwaith y gellir eu cadarnhau, eu canslo neu eu newid ar fympwy neges destun neu alwad ffôn.
Mae cyfarwyddwr gweithredol UKHospitality Cymru wedi dweud bod 13,000 o swyddi yng Nghymru yn y fantol os na fydd cymorth yn cael ei roi i'r diwydiant. Ac o hyn, gallwn weld natur gylchol yr argyfwng hwn. Mae'r argyfwng costau byw a'r argyfwng costau gwneud busnes wedi'u clymu wrth ei gilydd ac mae ei effaith ar bobl dosbarth gweithiol yn ddinistriol. Mae bywoliaeth pobl yn y fantol.
Rhywbeth a nodwyd gan Gyngres yr Undebau Llafur yn yr adroddiad oedd diffyg dealltwriaeth ddigonol o'r lefelau hyn o ansicrwydd, ac maent yn hollol gywir. Nid yw tlodi mewn gwaith, cyflogau isel a chyflogaeth ansicr yn bethau ymylol neu dros dro mewn rhai sectorau bellach—mae'n ffaith bywyd i lawer. Mae'n arwain at lu o frwydrau iechyd meddwl, ond gallai hefyd arwain at normaleiddio amodau cyflogaeth enbyd i lawer o bobl sy'n gweithio. Mae pobl yn gorfod gweithio oriau hwy, ac mae rhai'n gwneud nifer o swyddi am lai a llai o arian. Bûm yn siarad ag etholwr yn y feddygfa yng Nghaerau ddydd Llun sy'n gweithio tair swydd ar hyn o bryd ac eto £3 yn unig a oedd ganddi i'w henw y diwrnod hwnnw.
Luke, mae angen i chi ddod i ben nawr os gwelwch yn dda.
Fe ddof i ben drwy ddweud bod yn rhaid inni ymdrechu i gyflawni'r gwaith sy'n dadnormaleiddio hyn. Y gwir amdani yw nad yw hyn yn normal ac ni ddylai pobl orfod brwydro i allu fforddio'r pethau sylfaenol.
Unwaith eto, rwyf am ddechrau drwy adleisio'r hyn y mae Paul a Luke wedi ei ddweud. Diolch i fy nghyd-Aelodau, tîm y Senedd, y Cadeirydd, a phawb a fu'n ymwneud â'n Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig i roi'r adroddiad amserol a phwysig hwn at ei gilydd. Mae'r argyfwng hwn yn parhau i effeithio ar lawer yn ein cymunedau. I rai, gallai fod yn fater o fod yn fwy gofalus gyda chyllidebau, ond i eraill gallai ymwneud â'u gallu i roi bwyd ar y bwrdd iddynt hwy a'u plant yfory.
Mae'r TUC yn dweud bod un o bob saith o bobl yn mynd heb brydau bwyd yn barod neu'n mynd heb fwyd. Mae ffigyrau Ymddiriedolaeth Trussell yn dangos bod un o bob pump o bobl sy'n cael eu cyfeirio at eu canolfannau yn dod o aelwydydd lle mae rhywun yn gweithio. Mae hyn yn effeithio ar bobl a ddylai allu dibynnu ar eu cyflogau i fod yn ddiogel, ond mae rhai pobl sy'n gweithio yn methu talu costau byw sylfaenol, heb sôn am gyrraedd eu swydd. Mae biliau morgeisi ar eu huchaf ers 2008 o ganlyniad i'r gyllideb fach, mae prisiau bwyd wedi saethu i fyny, gyda rhai ohonynt dros 60 y cant yn uwch, ac mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi dweud mai yn 2023 y gwelir y cwymp mwyaf mewn safonau byw yn y DU ers dechrau cadw cofnodion.
Ond mae nifer fach o bobl yn ein cymdeithas yn gwneud elw. Gallai cynhyrchwyr ynni'r DU weld elw ychwanegol o £170 biliwn dros y ddwy flynedd nesaf. Gwnaeth BP elw o £7 biliwn yn nhrydydd chwarter 2022; mae Shell wedi gwneud elw byd-eang uwch nag erioed o bron i £26 biliwn ar gyfer tri chwarter cyntaf 2022, ond ni thalodd unrhyw dreth ffawdelw ynni yn y DU. Ar yr un pryd yn union, er inni apelio arni i beidio â gwneud hynny, fe wnaeth y Llywodraeth yn San Steffan newidiadau i gredyd cynhwysol a wnaeth dri chwarter yr aelwydydd yn waeth eu byd nag oeddent y flwyddyn flaenorol. Dywedodd adroddiad Sefydliad Banc Lloyds yn bendant fod y newidiadau hyn yn gwthio pobl i dlodi a dyled.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn gwneud popeth yn ei gallu i dargedu pobl sydd angen y gefnogaeth fwyaf, felly rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn, neu wedi derbyn mewn egwyddor, yr holl argymhellion yn ein hadroddiad. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gweithredu ar sawl un o'r argymhellion hyn ac wedi darparu ymyriadau drwy'r cyfnod economaidd llwm hwn. Mae hyn yn cynnwys cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, sydd wedi cael ei ymestyn i gynorthwyo mwy na 400,000 o gartrefi incwm isel; y taliad untro o £150 i rai ym mandiau treth gyngor A i D; a chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Mae argymhelliad 5 yr adroddiad yn pwysleisio'r angen i werthuso'r cymorth a dysgu gwersi o'r argyfwng costau byw. Rwy'n falch fod hyn eisoes yn digwydd o fewn Llywodraeth Cymru, ac fe arweiniodd y broses hon at ymestyn cymorth tanwydd y gaeaf, ar ôl dysgu gan y rhanddeiliaid nad oedd rhai aelwydydd a oedd angen y cymorth hwnnw'n gymwys yn wreiddiol.
Mae argymhelliad 6 hefyd yn tynnu sylw at yr angen i adeiladu ar lwyddiant yr ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi', gyda Llywodraeth Cymru'n cydnabod bod yna lawer o bobl sydd â hawl i gymorth nad ydynt yn ei hawlio, yn syml oherwydd nad ydynt yn gwybod ei fod ar gael iddynt. Rydym mewn sefyllfa nawr lle na all pobl fforddio mynd heb y cymorth y mae ganddynt hawl iddo, felly rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i barhau â'r gwaith hwn.
Y gwir amdani yw bod canlyniadau ansicrwydd economaidd yn cydblethu ag agweddau eraill ym mywydau pobl. Gwyddom fod anghyfartaledd iechyd, fel mewn iechyd meddwl, yn cael ei effeithio gan yr argyfwng costau byw. Dyna pam rwy'n arbennig o falch ein bod wedi cwmpasu hyn yn ystod yr ymchwiliad gan y pwyllgor a bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn argymhelliad 17. Yn fy nghymuned fy hun, mae'r mewnlifiad o bobl sydd angen cymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl wrth iddynt ymdopi â phwysau'r argyfwng yn effeithio ar lawer o grwpiau cymorth ar draws Pen-y-bont. Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio gyda'i phartneriaid cymdeithasol, gan gynnwys yr undebau llafur, i sicrhau nad yw gweithwyr o dan anfantais os ydynt yn dioddef gyda'u hiechyd meddwl. Hoffwn ofyn i swyddogion yn Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ymgysylltu ac ymgynghori â grwpiau cymorth ar lawr gwlad yn ein cymunedau er mwyn sicrhau eu bod yn cael arfau i gefnogi pobl yn ystod y caledi hwn. Maent yn achubiaeth i gymaint o bobl ar y dibyn.
Er bod llawer o argymhellion i'w nodi yn y ddadl hon, rwyf am sôn am un i orffen, sef 22, ar gyflwyno'r hybiau cynnes, neu fanciau cynnes, yn ein cymunedau i bobl alw heibio a chadw'n gynnes yn lle defnyddio ynni ar eu haelwydydd eu hunain, yn ogystal â mynd i rywle am gefnogaeth a chyfeillgarwch. Roedd nifer y bobl yn fy nghymuned sydd wedi estyn allan ataf am fwy o wybodaeth am hyn yn eithriadol. Mae'n ein hatgoffa o'r ysbryd cymunedol a welsom yn ystod y pandemig, wrth inni edrych ar ôl ein gilydd mewn cyfnod o angen. Rwy'n falch fod y Prif Weinidog wedi cadarnhau cyllid cychwynnol o £1 filiwn i gynorthwyo sefydliadau ac awdurdodau lleol i ddarparu banciau cynnes y gaeaf hwn, ond mae'n bwysig eto ein bod yn ystyried sut rydym yn estyn allan at bobl sydd angen cael mynediad at y cymorth hwn.
Cyfarfûm â'r cwmni band eang Ogi yn ddiweddar, a thrafod gyda hwy agweddau ymarferol ar ddarparu Wi-Fi yn yr hybiau cynnes. Gyda phobl yn gorfod torri cyllidebau, i'r rhai mwyaf bregus, efallai mai eu band eang fydd y bil sy'n gorfod mynd. Mae'n debyg y byddant yn blaenoriaethu bwyta a chadw'r gwres ymlaen ar draul hynny. Gallai Wi-Fi yn yr hybiau cynnes sicrhau y gall pobl gael mynediad at eu budd-daliadau ar-lein, chwilio am wasanaethau lleol, gwneud eu siopa bwyd, yn ogystal â denu teuluoedd a rhieni na fyddai fel arfer yn ystyried eu defnyddio. Felly, hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru ystyried hyn a gweld sut y gallant ddarparu cefnogaeth. Unwaith eto, diolch i fy holl gyd-aelodau o'r pwyllgor. Diolch, Weinidog.
Rwy'n ddiolchgar i bawb a gyfrannodd tuag at ffurfio adroddiad y pwyllgor hwn. Fel y clywsom eisoes y prynhawn yma, mae hwn yn fater eithriadol o berthnasol i deuluoedd ac aelwydydd ledled Cymru. Ond fel y mae'r adroddiad hwn yn nodi'n briodol, mae'r cynnydd mewn costau byw i'w deimlo hyd yn oed yn fwy difrifol yng nghymunedau gwledig Cymru, fel y rhai yn fy etholaeth fy hun, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.
Mae cefn gwlad Cymru bob amser wedi wynebu heriau cysylltedd, boed yn ffisegol gyda thrafnidiaeth, neu'n dechnolegol gyda seilwaith band eang a chyfathrebu. Os cyfunwch hyn â stoc dai hŷn, oerach ac oddi ar y grid, mae'r problemau hyn sy'n bodoli'n barod yn dwysáu'r straen cynyddol a'r niwed i gostau byw. Dyma pam roeddwn yn falch o nodi argymhelliad 20 o'r adroddiad hwn,
'Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ganddi gynlluniau cadarn i gefnogi aelwydydd oddi ar y grid drwy’r gaeaf eleni. Dylai hyn gynnwys naill ai ymestyn y gallu i aelwydydd oddi ar y grid gael cymorth drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol neu’r cynllun Talebau Tanwydd.'
Mae'n ceisio lleddfu'r sefyllfa, ac rwy'n falch o ddeall bod yr argymhelliad hwn wedi'i dderbyn yn llawn gan Lywodraeth Cymru. Wedi dweud hynny, mae'n bwysig ein bod yn gweld costau byw fel sefyllfa sy'n esblygu a gallai fod adeg—nawr, gellid dadlau—pan nad yw'r pecyn cymorth ariannol presennol yn mynd yn ddigon pell. Caiff hyn ei waethygu pan ystyriwn ddylanwad materion cysylltedd a stoc dai, sydd wedyn yn gwaethygu'r argyfwng a nodwyd ymhellach. Ac felly pan soniwn am gymunedau gwledig yn y cyd-destun hwn, rydym yn cydnabod bod unigolion yn talu cost uwch i fyw yng nghefn gwlad Cymru, lle nad yw cyflogau'n adlewyrchu hynny.
Mae cost uwch i gynhesu eich cartref oherwydd eich bod yn byw mewn bwthyn 150 oed heb foethusrwydd modern insiwleiddio thermol, cost uwch i deithio oherwydd eich bod yn byw 45 munud i ffwrdd o'ch archfarchnad agosaf, 55 munud i ffwrdd o ysbyty, neu awr a hanner i ffwrdd o'ch dinas agosaf. Felly, nid yw eich cartref yn cael ei wresogi mor effeithlon ac rydych yn llenwi eich car â thanwydd yn amlach, ac yn talu gordal am y pellter y mae eich nwyddau a'ch gwasanaethau wedi teithio. Dyma realiti costau byw yng nghefn gwlad, ac o'm rhan i a fy etholwyr, nid yw'n ffactor sy'n cael ei gydnabod yn ddigonol.
Mae paragraff 76 o'r adroddiad yn nodi sylwadau'r Gweinidog materion gwledig am y sefyllfa hon. Dywedodd wrth aelodau o'r pwyllgor
'Ar gyfer yr eiddo oddi ar y grid, rydym ni'— sef Llywodraeth Cymru—
'yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi.'
Dylwn nodi i'r sylwadau hyn gael eu gwneud ym mis Mehefin, ac eto, sawl mis yn ddiweddarach, mae ein cymunedau gwledig yn dal i fod yn yr un sefyllfa. Felly, o ystyried y cyfle y mae'r adroddiad hwn wedi'i gyflwyno, hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru a oes ganddynt unrhyw fwriad i ymestyn y cymorth i gynorthwyo ein cymunedau ymhellach.
I gloi, mae'r adroddiad wedi rhoi sylw pwysig i fater sy'n esblygu drwy'r amser. Yn allweddol, mae costau byw presennol yn fater sy'n mynd i fod gyda ni am y dyfodol rhagweladwy, felly ym mhob penderfyniad ar gymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, hoffwn eich annog i ystyried y premiwm costau gwledig i sicrhau nad yw cymunedau'n cael cam oherwydd eu cod post.
Hoffwn orffen drwy adleisio geiriau Luke, fy nghyd-aelod o'r pwyllgor, a diolch i'n Cadeirydd, Paul Davies, am ei gadeiryddiaeth ragorol o'r pwyllgor hwn, ein tîm clercio pwyllgorau, a phawb a gyfrannodd drwy dystiolaeth lafar neu ysgrifenedig i'r adroddiad hwn. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, rwy'n croesawu argymhellion yr adroddiad pwysig hwn. Fel y soniodd Paul Davies, mae nifer o'r argymhellion hyn yn adleisio ac yn tanlinellu llawer o'r rhai a wnaed gan nifer o adroddiadau gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar faterion sy'n ymwneud â thlodi a'r argyfwng costau byw, yn ogystal â galwadau a wnaed gan lawer o sefydliadau ac ymgyrchwyr gwrthdlodi.
Mae canfyddiadau'r adroddiad ynghylch maint yr argyfwng costau byw yn amlwg yng nghyd-destun ffigyrau chwyddiant heddiw a chanfyddiadau arolwg y comisiynydd plant a ryddhawyd heddiw, a ganfu fod 45 y cant o blant yn dweud eu bod yn poeni ynglŷn â chael digon i'w fwyta. Maent yn tystio i argyfwng na welwyd ei debyg o'r blaen. Efallai ein bod wedi dechrau dod yn rhy gyfarwydd â'r ystadegau brawychus, cywilyddus hyn sy'n datgelu pa mor fregus yw ein dinasyddion yn wyneb sioc economaidd, sut mae ein lefelau o dlodi sydd eisoes yn frawychus wedi golygu bod gormod o bobl wedi bod ar ymyl dibyn peryglus am gyfnod rhy hir, a'u sefyllfa ariannol ansicr yn fregus ac yn dila yn wyneb y storm economaidd sy'n eu taro mor galed. Ond mae'r penawdau, sydd mor llwm a brawychus yn yr adroddiad hwn, yn werth eu hailadrodd. Cymru yr haf hwn oedd â'r ganran uchaf o aelwydydd mewn trafferthion ariannol difrifol o gymharu ag unrhyw un o'r gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr—chwarter y bobl yn torri'n ôl ar gyfleustodau, traean yn torri'n ôl ar fwyd, niferoedd uwch yn benthyca a mynd i ddyled, a galw digynsail am gymorth argyfwng. Mae hyn i gyd yn cael effaith anghymesur ar fenywod, sy'n cael ei waethygu gan effeithiau sy'n cydblethu ar fenywod anabl a menywod o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig.
Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys rhybuddion ynghylch y sefyllfa ddifrifol a chynyddol wael sy'n wynebu cartrefi Cymru a gyhoeddwyd yn adroddiad cyntaf Pwyllgor Cydraddoldebau a Chyfiawnder Cymdeithasol y chweched Senedd hon ar ddyled a'r pandemig, a'n hymchwiliad i'r rhaglen Cartrefi Clyd nesaf, pan gafwyd llawer o dystiolaeth ar dlodi tanwydd. Mae'r adroddiad sydd o'n blaenau heddiw yn dweud wrthym fod talwr bil yng Nghymru, bob 40 eiliad, yn gwneud galwad ffôn i Cyngor ar Bopeth am eu bil tanwydd. Mae cyflawniad cynlluniau cymorth, y nifer fechan sy'n manteisio arnynt ac ymwybyddiaeth o gynlluniau cymorth eto'n cael eu cydnabod yma fel her a phryder. Eto ac eto, gwelwn mewn adroddiad ar ôl adroddiad, o bwyllgorau'r Senedd ac o ymchwil sefydliadau polisi a thrydydd sector, fod yna brinder data wedi'i ddadgyfuno ar effeithiau costau byw cynyddol ar grwpiau penodol mewn perthynas â dangosyddion fel tlodi, amddifadedd a dyled.
Mae argymhellion 1 i 13 i gyd yn ymwneud â'r angen am dargedu, cydlynu a chyflwyno'r cymorth costau byw sydd ar gael yn well. Mae'n rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi dadlau drosto'n gyson. Mae angen gwneud yn siŵr fod pob punt o gymorth Cymreig yn mynd i'r lle iawn ar yr adeg iawn, ac mae angen inni wybod faint o gymorth sydd ei angen ac ym mha le. Mae argymhellion 5 a 6 eto yn ailadrodd galwadau a wnaed lawer gwaith ynghylch cynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Rhaid inni weld bod y cymorth a gaiff ei gynnig gan Lywodraeth Cymru yn cael ei werthuso'n briodol ac yn gyflym fel bod cynlluniau dilynol yn cael eu gwneud yn fwy effeithlon byth i gyflawni eu diben.
Mae argymhelliad 8 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfuno cynlluniau cymorth yn seiliedig ar brawf modd i aelwydydd incwm isel drwy system fudd-daliadau Gymreig, ac mae sôn hefyd am elfen statudol i ddarpariaeth awdurdodau lleol o daliadau cymorth yn argymhelliad 10. Ar ôl dod â thrafodaeth ar gynnig deddfwriaethol i'r Senedd ychydig wythnosau yn ôl ar yr union fater hwn, cynnig a gafodd ei basio gan y Senedd, roeddwn yn falch iawn o weld bod hyn eto'n cael ei gymeradwyo gyda chytundeb trawsbleidiol. Mae'r adroddiad diweddar gan Archwilio Cymru yn dweud, am nad oes system symlach, haws ar gyfer hawlio taliadau, nad yw'r help sydd ar gael mor effeithiol ag y gallai fod, gyda phobl yn gorfod cwblhau nifer o geisiadau am daliadau gwahanol sy'n aml yn gofyn am yr un wybodaeth.
Mae'r adroddiad hwnnw hefyd wedi dangos bod pobl ym mhob rhan o Gymru yn profi tlodi ac mae'r nifer yn tyfu. Fe wyddom na fydd y newyddion o San Steffan yfory yn dda i naill ai'r un o bob wyth aelwyd yng Nghymru sy'n cael trafferth fforddio eitemau bob dydd, na'r aelwydydd ar fudd-daliadau sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd. Bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i mewn fwy a mwy gyda thaliadau cymorth gwahanol am fod San Steffan wedi methu amddiffyn y rheini yng Nghymru sydd angen y gefnogaeth fwyaf. Mae yna blant sy'n llwglyd heddiw. Mae yna bobl anabl a phobl oedrannus sy'n methu cadw eu cartrefi'n gynnes. Mae yna deuluoedd sy'n wynebu digartrefedd. Ni allant ddibynnu ar y Torïaid yn San Steffan a fyddai'n gosod polisïau cyni mwy dinistriol arnynt, ac ni allant aros ychwaith am newid Llywodraeth yn San Steffan. Fe wnaethant ethol Llywodraeth yng Nghaerdydd i'w gwasanaethu, ac fe ddylai ei gwasanaethu drwy weithredu'n gyflym ar yr argymhellion pwysig hyn. Diolch.
'Y realiti dychrynllyd y gaeaf hwn, yw ein bod yn debygol o weld elusennau'n cael eu gorfodi i roi'r gorau i fwydo'r llwglyd fel y gallant helpu'r newynog, i dorri'n ôl ar gymorth i'r rhai mewn tai gwael fel y gallant ganolbwyntio ar y niferoedd cynyddol o bobl ddigartref, a rhoi'r gorau i helpu'r llai ffodus am fod rhaid iddynt flaenoriaethu'r anghenus.'
Nid fy ngeiriau i yw'r rhain, ond rhai Dr Rowan Williams a Gordon Brown yn eu rhagair i adroddiad Theos, sef melin drafod grefyddol sy'n canolbwyntio'n arbennig ar waith eglwysi wrth ymdrechu i leddfu'r lefel hon o bryder a phoen y mae ein cymunedau'n mynd drwyddo. Mae'n adleisio arolwg diweddaraf Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, a ddaeth allan heddiw, ar effaith costau byw cynyddol ar fyfyrwyr yng Nghymru, oherwydd, yn amlwg, nid ydynt yn gymwys i gael unrhyw un o'r budd-daliadau hyn. Dywedodd naw o bob 10 o'r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg fod eu hiechyd meddwl yn cael ei effeithio gan bryderon ariannol, a dywedodd eu chwarter fod yr effaith yn sylweddol, yn ogystal â nifer cynyddol yn prynu llai o nwyddau hanfodol, gan gynnwys, er enghraifft, cynnyrch mislif, yn ogystal â pheidio â rhoi'r gwres ymlaen cymaint yn eu cartrefi a bwyta llai. Yr hyn sy'n peri mwy o bryder i mi, rwy'n credu, yw eu bod yn dychwelyd at eu teuluoedd, neu gynilion, am help, ond yn gynyddol, mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar eu teuluoedd hefyd. Felly, nid oes unman i'r bobl yma droi.
Mae pawb sydd wedi siarad hyd yma wedi cytuno bod y sefyllfa'n hynod ddifrifol, a chawn wybod yfory a fydd gan wasanaethau cyhoeddus lai fyth o adnoddau i ymdopi â hwy, i'n tywys drwy'r gaeaf ofnadwy hwn. Felly, mae'n rhaid inni feddwl am ffyrdd eraill y gallwn ymdrechu i liniaru'r boen y mae ein cymunedau'n mynd drwyddi.
Roeddwn yn falch o gynnal lansiad y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi yn y Pierhead heddiw. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau a'i mynychodd, gan gynnwys y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a roddodd amser i wrando ar beth oedd gan Catherine Brown, y cadeirydd, i'w ddweud, ac i gytuno i weithio gyda hi. Mae gan Catherine Brown yrfa hir a disglair fel gwas sifil, felly, fel cadeirydd y corff anstatudol hwn i Gymru a Lloegr, bydd ganddi lawer o brofiad o drafod gyda chyrff cyhoeddus a gorfodi rheoliadau. Mae'n gorff anstatudol, a sefydlwyd gan y diwydiant gorfodi sifil, a elwir fel arall yn feilïaid, ac a gefnogir gan sawl elusen flaenllaw ym maes cyngor ar ddyled, yn cynnwys Money Advice Trust, Christians Against Poverty a StepChange.
Heddiw, dywedodd un o'r cynghorwyr arbenigol ar ddyled a oedd yn bresennol wrthyf beth a ddigwyddodd ar ôl iddi symud i gartref newydd a arferai fod yn eiddo i rywun a oedd i'w weld fel pe bai wedi cronni nifer fawr o ddyledion. Profodd gyfres o ymweliadau gan feilïaid, y rhan fwyaf ohonynt yn gwrtais ac yn gywir yn y ffordd y gwnaent eu gwaith. Ond roedd gan un yn arbennig, a oedd yn gweithredu ar ran awdurdod lleol, ymddygiad ymosodol ac adlewyrchai beth o'r dystiolaeth a glywsom yn ein hymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i ddyled yn y pandemig. Mae hyn yn amlwg yn peri pryder mawr, ac mae angen inni sicrhau nad yw awdurdodau lleol, wrth orfodi dyled y dreth gyngor er enghraifft, yn cyflogi pobl sy'n gowbois nad ydynt yn cydymffurfio â'r gyfraith yn y diwydiant. Mae'n ffaith drist mai un o'r meysydd twf yn yr economi yn yr argyfwng hwn yw asiantaethau casglu dyledion, ac mae llawer o'r rheini'n masnachu yn niflastod pobl drwy brynu gorchmynion gorfodi llysoedd er mwyn ymdrechu i wneud arian ohonynt. Mae hon yn sefyllfa ofidus iawn, oherwydd pan fyddwch yn ymwneud â chasglwyr dyledion rydych chi felly, yn amlwg, yn cynyddu faint o ddyled sydd arnoch chi, ac weithiau mae'r taliadau a godant yn ddifrifol o afresymol.
Roeddwn eisiau mynd ar drywydd pwynt a wnaeth Paul Davies, ynghylch llenwi ffurflenni a'r anawsterau i lawer o bobl wrth wneud hynny. Rwy'n aml yn cofio geiriau Lynne Neagle yn dweud nad yw'r talebau Cychwyn Iach yn mynd i nifer fawr o'r bobl sydd â hawl i'w cael. Mewn uwchgynhadledd ynni a drefnais yn fy etholaeth, roedd hi'n ofidus clywed bod ymwelwyr iechyd yn dweud bod ceisio llenwi'r ffurflen i gael talebau Cychwyn Iach mor llafurus fel nad oes ganddynt amser i gwblhau'r cais ar ran y menywod incwm isel ar fudd-daliadau sydd angen yr £8.25 ychwanegol ym mlwyddyn gyntaf bywyd plentyn, a £4.25 y plentyn hyd at bedair blwydd oed. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni edrych ar ffyrdd y gallwn helpu i wneud y sefyllfa hon yn haws. Rwy'n gobeithio y gallwn siarad â Llywodraeth y DU ynglŷn â gwneud Cychwyn Iach yn haws i'w gael.
Roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn ymateb y Llywodraeth i'ch adroddiad a ddywedai fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i edrych ar fodel cyflawni a fydd yn ei gwneud hi'n bosibl defnyddio ffynonellau data awdurdodau lleol i dargedu gwybodaeth credyd pensiwn i aelwydydd a allai fod ar eu colled—
Jenny, mae angen i chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
—ac rwy'n credu mai dyma'r model y gallem ei ddefnyddio ar gyfer pob math o hawliau y mae pobl yn eu cael.
Mae'r argyfwng costau byw wedi bod yn datblygu ers 12 mlynedd, wedi'i waethygu gan Brexit, y rhyfel yn Wcráin a pholisïau Llywodraeth y DU, sy'n torri cyllid gwasanaethau cyhoeddus, yn gwthio cynhyrchiant i drothwy afrealistig ac yn torri taliadau nawdd cymdeithasol. Hoffwn groesawu argymhellion 8 a 9 yr adroddiad. Mae gorfod gwneud cais am fudd-daliadau a grantiau yn ddryslyd ac yn flêr. Mae trigolion yn clywed pytiau o wybodaeth ar y newyddion, efallai mewn perthynas â chyhoeddiad gan Lywodraeth y DU—ond nid yw ar gael eto, ac nid ydym yn siŵr sut y caiff ei gyflawni.
Mae Llywodraeth Cymru yn llenwi'r bylchau sy'n cael eu gadael ar ôl gan gynlluniau cyllido Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr nad yw pobl yn cael eu gadael ar ôl. Ond mae cynghorau'n wynebu bylchau ariannu enfawr, ac mae disgwyl mai hwy yw'r corff dosbarthu, ac ni fyddant yn gallu camu i mewn. Byddai porth un stop neu asesydd grant yn syniad da, lle gellir dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf. Ond mae'n rhaid inni wneud yn siŵr fod pob cyswllt yn cyfrif. Dywedodd yr Hwb Lles yn Wrecsam, pan fydd pobl yn dod am ymgynghoriadau COVID hir, eu bod yn gofyn iddynt a ydynt yn iawn, ac a oes angen help arnynt gydag unrhyw beth arall, fel cael mynediad at grantiau. Yn sir y Fflint, ceir un pwynt cyswllt ar gyfer grantiau therapi galwedigaethol, nyrsys ardal, gan ei gwneud yn haws i gael cymorth. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid gwneud yn fawr o bob cyfle nawr.
Mae cynhyrchiant ac arbedion effeithlonrwydd wedi cael eu gwthio i'r eithaf dros y 15 i 20 mlynedd diwethaf. Mae patrymau shifft yn hir, ac nid ydynt yn gyfeillgar i deuluoedd; nid ydynt yn cydweddu â gofal plant. Nid yw'r defnydd cynyddol o gontractau dim oriau neu gontractau rhan-amser gyda goramser gorfodol yn dda iawn i deuluoedd. Cafodd rowndiau gweithwyr y Post Brenhinol eu hymestyn y llynedd i 13 milltir ar gyfartaledd bob dydd. Eto i gyd, mae'r Post Brenhinol eisiau torri tâl salwch, ac mae gweithiwr sy'n cerdded 13 milltir y dydd yn mynd i gael mwy o broblemau iechyd, ond maent am dorri tâl salwch a chynyddu'r defnydd o weithwyr asiantaeth.
Rwy'n falch fod yr adroddiad hwn yn cydnabod yr effaith y mae'r farchnad lafur bresennol yn ei chael ar weithwyr, ac rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi adnewyddu ei hymrwymiad i gefnogi pobl sy'n gweithio drwy bartneriaeth gymdeithasol. Ond nid yn y sector preifat yn unig y mae'r broblem; mae arian gwasanaethau cyhoeddus i gynghorau ac iechyd wedi cael ei dorri, ac mae cyflogau wedi aros yn eu hunfan. Mae gweithwyr yn cael eu llethu ac maent yn gadael y sector. Maent wedi ymlâdd. Pe bai Llywodraeth y DU yn gwrthdroi toriadau'r sector cyhoeddus ac yn buddsoddi yn y sector gofal ehangach, byddai'n creu llawer mwy o swyddi na buddsoddiad yn y diwydiant adeiladu. Mae'n cyflogi mwy o fenywod, yn wyrdd ac yn cefnogi pobl a theuluoedd ar draws ein cymunedau. Byddai'n helpu i fuddsoddi yn ein cymunedau hefyd, gan y byddent yn gwario'n lleol. Byddai buddsoddi mewn gofal yn ysgogiad economaidd da yn ystod yr argyfwng costau byw, a byddai hefyd yn tynnu'r pwysau oddi ar y GIG.
Byddai buddsoddi mewn gofal plant hefyd yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw a chefnogi 46 y cant o rieni sengl sy'n dlawd—86 y cant ohonynt yn fenywod. Nid nawr yw'r amser i dorri gwariant gwasanaethau cyhoeddus, pan fo'i angen yn fwy nag erioed i helpu pobl mewn argyfwng. Clywsom hyn yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai heddiw. Mae digartrefedd wedi cyrraedd pwynt o argyfwng.
Rwy'n gwybod bod cymorthdaliadau bysiau yn ôl ar y bwrdd, gan eu bod yn edrych ar gyni hefyd a mwy o doriadau, ac yn ymdopi â'r bwlch ariannu canol blwyddyn. Mae diswyddiadau ar y bwrdd. Mae cau cyfleusterau hamdden, pyllau nofio ac yn bwysicaf oll, y gwasanaethau cymorth rydym angen i gynghorau eu darparu—yr holl help a'r holl gymorth—ar y bwrdd hefyd. Felly, mae angen inni fuddsoddi cyllid gwasanaethau cyhoeddus a gwariant cyhoeddus nawr er mwyn cefnogi teuluoedd drwy'r argyfwng costau byw hwn, ac nid eu torri ymhellach. Diolch.
Galwaf ar Weinidog yr Economi, Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch eto i'r pwyllgor am eu gwaith yn paratoi'r adroddiad hwn, sydd wedi arwain at y ddadl. Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o'r argyfwng costau byw. Mae'n cael ei ysgogi gan ystod o ffactorau. Ond wrth gwrs, mae prif gyfradd chwyddiant heddiw'n cael ei gyrru'n rhannol gan ynni, ond wrth gwrs, fel y soniais yn gynharach, mae prif gyfradd chwyddiant bwyd yn llawer uwch na'r brif gyfradd o 11.1 y cant, gyda mwy nag 16 y cant yn chwyddiant bwyd.
Y gwir na ellir ei wadu yw bod dewisiadau a wnaed gan Lywodraethau Ceidwadol olynol y DU wedi cyfrannu at ble rydym ni: y cyfnod cyntaf o gyni, y gostyngiadau mewn budd-daliadau—maent wedi helpu i greu amodau sydd wedi ychwanegu at y pwysau real iawn ar gyllidebau cartrefi, hyd yn oed cyn cyfundrefn Truss-Kwarteng a'i heffaith fyrhoedlog ond trychinebus ar gyllid cyhoeddus, a'r effaith real iawn y mae hynny wedi'i chael ar deuluoedd. Fel y nododd Sarah Murphy, asesiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yw y bydd y flwyddyn ariannol nesaf yn gweld y cwymp mwyaf mewn safonau byw ar draws y DU ers dechrau cadw cofnodion.
Ac ers cyhoeddi’r adroddiad hwn, yn anffodus, mae’r sefyllfa wedi gwaethygu. Mae llawer o Aelodau wedi tynnu sylw at y realiti echrydus i ormod lawer o deuluoedd, a chan ddychwelyd at un o’r pwyntiau a wnaeth Jenny Rathbone, bydd heriau gwirioneddol i'r bobl sy'n helpu, a chredaf ei bod yn wir y bydd help i’r llwglyd yn cael ei atal er mwyn rhoi mwy o gymorth i'r newynog. Dyna fydd y gwir mewn gormod lawer o’n cymunedau.
Ac mae’r ansefydlogrwydd yn Llywodraeth y DU, heb os, wedi arwain at fwy o ansicrwydd ynghylch yr ymyriadau i gefnogi teuluoedd a busnesau, yng Nghymru a ledled y DU. Arweiniodd y gyllideb fach flaenorol a arweiniodd at gwymp y bunt, yr anhrefn yn y marchnadoedd ariannol, at ganlyniadau gwirioneddol, nid yn unig i gronfeydd pensiwn y DU a fu bron â methu'n llwyr, ac ymyrraeth Banc Lloegr—arweiniodd at gostau benthyca cynyddol a phwysau pellach ar chwyddiant a chyfraddau llog, ac mae hynny’n taro busnesau, teuluoedd, ac wrth gwrs, yr holl bobl sydd â morgeisi, gan gynnwys y miloedd lawer o bobl sy’n dod oddi ar gytundeb pris sefydlog bob mis ac yn mynd ar gyfradd safonol a fydd bellach yn llawer mwy nag oeddent yn ei ddisgwyl.
Nawr, cafodd rhywfaint o gymorth ei roi. Y cap o £2,500 ar bris ynni—y pris ynni cyfartalog yw hynny, wrth gwrs; gwyddom nad oedd yn gap caled—roedd hwnnw i fod i bara am ddwy flynedd, ac yna fe'i newidiwyd i gyfnod o chwe mis. Ond hyd yn oed gyda'r cymorth hwnnw, mae bil ynni cyfartalog cartrefi bron wedi dyblu o gymharu â mis Ebrill 2021. A dylai'r cynllun rhyddhad ar filiau ynni leddfu rhywfaint o'r pwysau ar fusnesau, ond mae gwir angen i Lywodraeth y DU basio'r ddeddfwriaeth angenrheidiol yn gyflym, i sicrhau bod taliadau’n mynd i mewn i gyfrifon busnesau fel nad ydynt yn mynd i'r wal cyn i’r cymorth gael ei ddarparu, a’u bod yn cael eu trosglwyddo i gwsmeriaid annomestig, ac nid busnesau’n unig yw'r rheini, wrth gwrs; mae llawer o'n gwasanaethau cyhoeddus allweddol, gan gynnwys ysgolion, yn y categori hwnnw, ac mae gwir angen y cymorth a gyhoeddwyd arnynt.
Nawr, er fy mod yn croesawu'r cymorth a gyhoeddwyd, efallai na fydd yn ddigon i rai o'n busnesau bach a chanolig sy'n dal i wynebu costau ynni hyd at chwe gwaith yn uwch. Roedd cyfran uchel o'r busnesau hynny'n ei chael hi'n anodd gyda chyflymder yr adferiad ar ôl y pandemig. Mae Banc Lloegr yn rhagweld gostyngiad hanesyddol o 14 y cant yng nghynnyrch domestig gros y DU eleni, yn ogystal, wrth gwrs, â dirwasgiad hirdymor y gallem fod ynddo eisoes.
Rwyf wedi ymateb yn ffurfiol i’r argymhellion, ac fel y nodwyd, mae’r Llywodraeth yn cytuno â’r mwyafrif helaeth ohonynt, naill ai’n llawn neu mewn egwyddor. Mae’r Llywodraeth eisoes wedi sefydlu is-bwyllgor Cabinet yn benodol er mwyn trafod a mynd i’r afael â’r cymorth y gallwn ei ddarparu, ac rydym yn gwneud hynny gyda’n partneriaid yn y trydydd sector, mewn llywodraeth leol, ac ystod o rai eraill yn wir. Mae’r argymhellion a wnaed yn rhan o’r gwaith rydym yn bwrw ymlaen ag ef, ac mae hynny’n cynnwys y gwaith ar hybiau cynnes y tynnodd Sarah Murphy sylw ato. Ac rydym yn pryderu am yr angen i wneud hyn. Mae’n rhyfeddol ein bod, mewn gwlad fel ein gwlad ni, yn gorfod ystyried sut i wneud hynny, ond i wneud hynny mewn ffordd lle nad oes stigma ynghylch y ddarpariaeth ac sy'n darparu cyfeillgarwch a chwmnïaeth. Rwy’n sicr yn cydnabod y pwynt a wnaeth Sarah Murphy ynglŷn â sicrhau bod mynediad da at Wi-Fi ar gael—rheswm da i bobl fynd yno. Mae hynny eisoes ar gael mewn amryw o’r hybiau, ond wrth gwrs, byddwn yn edrych i weld, ac mae’n beth da fod y Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol yma, sut y gallwn sicrhau bod gan yr hybiau hynny fynediad da at Wi-Fi.
Rydym yn gweithio gyda dadansoddwyr ar draws y Llywodraeth, fel y crybwyllwyd, ar gasglu, dadansoddi a chyhoeddi data ar agweddau ar realiti costau byw, a sicrhau bod hynny’n helpu i lywio ymyriadau’r Llywodraeth. Bydd y prif ystadegydd yn rhoi gwybodaeth cyn bo hir ynglŷn â sut i gael mynediad at ddata costau byw. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Data Cymru ar ffyrdd eraill hawdd eu defnyddio o gael mynediad at y data hwnnw. Mae'r banc datblygu'n parhau i gefnogi busnesau Cymru. Rydym hefyd wedi ymrwymo i fuddsoddi mwy na £20 miliwn y flwyddyn yng ngwasanaeth Busnes Cymru rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2025. Mae hynny'n dangos ein hymrwymiad i entrepreneuriaid, microfusnesau a busnesau bach a chanolig, i helpu i roi'r wybodaeth, y cymorth a'r arweiniad sydd eu hangen arnynt i oroesi’r heriau gwirioneddol sy’n ein hwynebu.
Rydym hefyd yn parhau i fuddsoddi yn ein rhaglen sgiliau i gefnogi cyflogwyr. Byddwn yn parhau â chyllideb o £30 miliwn sydd wedi’i dyrannu tuag at wella effeithlonrwydd ynni domestig mewn aelwydydd incwm isel, gan gynnwys eiddo nad yw ar y grid, drwy ystod o raglenni Llywodraeth Cymru. Ac yn y flwyddyn ariannol nesaf, rydym am barhau i gefnogi busnesau bach a chanolig, a byddwn yn parhau i edrych ar yr hyn a fydd ar gael i ni ar ardrethi annomestig, ond wrth gwrs, bydd rhaid inni aros i weld beth sy'n digwydd yfory i ddeall beth y mae hynny'n ei wneud i realiti adnoddau Llywodraeth Cymru. Byddwn yn gwneud popeth a allwn i gefnogi pobl drwy’r argyfwng costau byw hwn drwy dargedu cymorth a chefnogaeth, ond bydd rhaid inni fod yn onest am yr ystod o fesurau sydd ar gael i ni, gan ein bod, mae arnaf ofn, yn disgwyl cyfyngiadau pellach ar allu ariannol y Llywodraeth hon yn dilyn y datganiad yfory, ac o bosibl, yn y blynyddoedd i ddod.
Mae llawer o fusnesau yng Nghymru yn cefnogi eu cwsmeriaid, a'u staff yn wir. Mae Iceland, er enghraifft, wedi darparu ystod o wasanaethau i gynorthwyo eu cwsmeriaid, gan gynnwys gostyngiadau o 10 y cant ar ddydd Mawrth i bobl dros 60 oed, a benthyciadau di-log i rai o'u cwsmeriaid. A Valero, enghraifft o gyflogwr gwahanol yn sir Benfro, wel, maent hwy hefyd yn rhoi cymorth ychwanegol i fanciau bwyd sir Benfro ac yn edrych ar ymgyrch hylendid i helpu i ddarparu nwyddau i deuluoedd a phlant.
Fel y soniais ar y dechrau, mae llawer wedi digwydd ers cyhoeddi’r adroddiad hwn: gwahanol Brif Weinidogion y DU—mwy nag un—a bellach mae gennym ein pedwerydd Canghellor eleni. Mae’r ansicrwydd a’r diffyg eglurder yn golygu nad ydym yn gwybod, mewn gwirionedd, beth fydd ein sefyllfa o ran y gyllideb y flwyddyn nesaf, ac mae hynny’n effeithio ar ein gallu i gynllunio ar gyfer y dyfodol, yn wir, fel teuluoedd, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio’r holl ysgogiadau sydd ar gael iddi, gan gynnwys treth ffawdelw ystyrlon ar gwmnïau ynni, sydd eu hunain yn dweud y dylent dalu mwy i gefnogi pobl drwy’r argyfwng costau byw.
Rydym wedi nodi ein blaenoriaethau i gefnogi pobl a busnesau yn glir. Bydd cyllideb fach 2, yfory, yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Gallai helpu, ond gallai'n hawdd wneud pethau hyd yn oed yn waeth. Bydd yr ychydig ddyddiau nesaf yn anodd, ond mae arnaf ofn y gallai’r flwyddyn nesaf fod hyd yn oed yn anos i lawer gormod o ddinasyddion a busnesau yng Nghymru a ledled y DU.
Galwaf ar Paul Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r Aelodau am gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma? Rydym wedi clywed safbwyntiau cryf gan Aelodau heddiw ar yr heriau a wynebir gan weithwyr, busnesau a chymunedau ledled Cymru. Fel y mae’r Gweinidog wedi dweud, yn gwbl briodol, mae mwy wedi digwydd ers inni gyhoeddi ein hadroddiad ym mis Gorffennaf nag y gallem fod wedi’i ddychmygu erioed, ond mae pob un ohonom yn cytuno ein bod eisiau cefnogi ein hetholwyr drwy’r cyfnod anodd hwn.
Nawr, mae Aelodau wedi sôn am y diffyg sylfaen dystiolaeth ar sut mae pwysau costau byw'n effeithio ar wahanol gymunedau ledled Cymru, a'r angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod data rheolaidd ar lefel Cymru gyfan ar gael. Mae'n rhaid inni gael darlun cywirach o effaith costau byw ar aelwydydd, fel y gallwn ddeall effaith pwysau costau byw ar wahanol grwpiau economaidd-gymdeithasol yn well.
Wrth gwrs, mae Aelodau wedi tynnu sylw’n huawdl at effaith y costau byw cynyddol ar aelwydydd. Gwyddom fod pobl yn gorfod tynhau eu gwregysau a gwneud dewisiadau anodd, a dyna pam fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithio’n galed i sicrhau bod y rheini sy’n ei chael hi'n anodd yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael. Mae Aelodau hefyd wedi cyfeirio at y pwysau ar y gweithlu, a gwyddom fod sectorau economaidd penodol dan fwy o bwysau nag eraill, gyda risg uwch o bwysau costau byw ar gyflogwyr yn cael eu trosglwyddo i weithwyr. Ac mae’r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, a Sioned Williams, yr Aelod dros Orllewin De Cymru, wedi ein hatgoffa bod llawer o bobl a theuluoedd eisoes yn wynebu heriau enfawr o ddydd i ddydd. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Aelod dros Ganol Caerdydd am dynnu sylw at y ddyled y mae rhai eisoes yn ei hwynebu wrth geisio talu eu biliau dydd i ddydd.
Nawr, roedd y Gweinidog yn llygad ei le wrth ddweud bod effaith costau ynni ar fusnesau, ac yn wir, ar wasanaethau cyhoeddus, yr un mor syfrdanol â chanlyniadau costau ynni i ddefnyddwyr. Fel yr Aelod dros Ogledd Cymru, Carolyn Thomas, mae’r pwyllgor yn croesawu ymdrechion i sicrhau bod mwy o weithwyr Cymru yn cael y cyflog byw gwirioneddol ac i gefnogi gweithwyr a sectorau economaidd sy’n arbennig o agored i effaith costau byw cynyddol, a hoffwn roi sicrwydd i’r Aelodau y byddwn yn parhau i graffu ymhellach ar y maes hwn.
Credaf ein bod wedi cyflwyno rhai awgrymiadau adeiladol i lenwi'r hyn a nodwyd gennym fel bylchau yn y cymorth. Gwyddom fod y pwysau wedi cynyddu, ac mae'n rhaid inni weld beth a ddaw yn sgil datganiad yr hydref yfory. Yn y cyfamser, gallaf gadarnhau bod gan y pwyllgor hwn gynlluniau eisoes ar gyfer craffu yn y maes hwn yn y dyfodol. Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, byddwn yn cynnal ymchwiliad undydd o’r enw ‘Costau Byw 2’, lle byddwn yn gwrando ar gynrychiolwyr busnesau Cymru yn nodi'r hyn sydd wedi newid iddynt ers mis Gorffennaf a sut maent yn ymdopi â chostau cynyddol gwneud busnes. A hefyd, yn bwysig iawn, byddwn yn edrych ar effaith pwysau costau byw ar sgiliau a hyfforddiant mewn gwaith i'r rheini sy'n ceisio mynd i mewn i'r farchnad swyddi neu ailsgilio. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys edrych ar gynlluniau cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, yn enwedig y warant i bobl ifanc a sut mae pwysau costau byw'n cael effaith ar yr ymdrechion hynny i adfer.
Rydym hefyd yn bwriadu gwneud gwaith ar gost gynyddol gwneud busnes. Mae aelodau fel Luke Fletcher, yr Aelod dros Orllewin De Cymru, hefyd wedi nodi effaith y pwysau hwn ar fusnesau, gyda llawer ohonynt heb adfer yn llwyr eto wedi’r pandemig. Ac am y rheswm hwnnw, mae'n bwysicach fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r ysgogiadau sydd ganddi i helpu ein busnesau drwy ryddhad ardrethi busnes, cymorth grant a thrwy sefydlu rhaglen gyllido cymorth brys, gan ddefnyddio mecanweithiau tebyg i'r rhaglenni cymorth COVID, i helpu'r busnesau yr effeithir arnynt yn fwyaf difrifol drwy adegau gwaethaf y pwysau costau byw.
Nawr, mae Aelodau fel yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro hefyd wedi nodi’r premiwm gwledig, a gwyddom fod costau byw cynyddol i'w teimlo’n fwy difrifol gan y rheini sy’n byw mewn cymunedau gwledig, o ran cael mynediad at wasanaethau ac mewn perthynas â chostau ynni, a dyna pam ein bod wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynlluniau i gefnogi aelwydydd nad ydynt ar y grid drwy’r gaeaf hwn yn gadarn, ac rydym hefyd wedi galw am wneud mwy o ymchwil ar y premiwm gwledig a’r effaith y mae costau byw'n ei chael ar ein cymunedau gwledig.
Ddirprwy Lywydd, mae'r pwyllgor yn parhau i roi blaenoriaeth uchel i archwilio'r materion hyn, o ystyried eu bod mor bwysig i economi Cymru. Byddwn hefyd yn croesawu Gweinidog yr Economi i gyfarfod â ni ar 7 Rhagfyr, lle rwy’n siŵr y bydd pwysau costau byw ar yr agenda. Ac felly, i gloi, a gaf fi ddiolch i'r rheini a gyfrannodd at y ddadl y prynhawn yma? Edrychwn ymlaen at gael diweddariadau pellach gan Lywodraeth Cymru ar eu gwaith yn y maes hwn ac mewn perthynas â rhoi argymhellion ein hadroddiad ar waith. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf wedi clywed gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.