– Senedd Cymru am 5:11 pm ar 10 Ionawr 2023.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar amrywiaeth mewn democratiaeth—canlyniadau arolwg. Galwaf ar y Gweinidog, Rebecca Evans.
Diolch. Fel cynrychiolwyr etholedig, rydym ni mewn sefyllfa freintiedig. Mae'r bobl yr ydym ni'n eu gwasanaethu yn ymddiried ynom ni i wneud ein gorau glas drostynt. Ac er fy mod i'n sôn am lywodraeth leol heddiw, mae'r materion yn berthnasol i bob rhan o'n democratiaeth.
Mae'r penderfyniadau y mae ein cynghorwyr yn eu gwneud yn cael effeithiau gwirioneddol ar ein cymunedau ledled Cymru. Mae ein cymunedau'n cynnwys pobl sy'n wahanol—cefndiroedd gwahanol, diwylliannau gwahanol a dyheadau gwahanol. Ac mae gwahanol genedlaethau'n cael eu llunio gan newidiadau yn yr amgylchedd, gan ddatblygiadau technolegol, a gan eu profiadau beunyddiol. A dyna pam mae amrywiaeth mewn democratiaeth mor bwysig. Rhaid i unigolion fod yn hyderus bod y penderfyniadau sy'n cael eu cymryd, a bod yr effaith ar eu bywydau bob dydd a'u dyfodol, yn cael eu llunio drwy ystyried pob barn a safbwynt yn eu cymunedau.
Yn ôl canlyniadau diweddaraf y cyfrifiad, rhwng 2011 a 2021, cynyddodd cyfran y bobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru o 4.4 y cant i 6.3 y cant. Fodd bynnag, dangosodd arolwg ymgeiswyr llywodraeth leol 2017 mai dim ond 1.8 y cant o'r prif gynghorwyr etholedig, a 1.2 y cant o gynghorwyr tref a chymuned etholedig, a oedd yn dod o grŵp ethnig lleiafrifol, a bydd gennyf i ddiddordeb gweld canlyniadau arolwg llywodraeth leol 2022, a fydd ar gael yn fuan.
Rydym ni eisoes wedi cymryd camau i gefnogi amrywiaeth mewn democratiaeth yng Nghymru. Rydym ni wedi gostwng yr oedran ar gyfer pleidleisio yn y Senedd ac etholiadau llywodraeth leol i 16. Rydym ni wedi cyflwyno mwy o hyblygrwydd i gyfarfodydd y cyngor gael eu cynnal drwy amrywiaeth o wahanol ddulliau, gan gynnwys yn gwbl o bell a hybrid. Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno absenoldeb teuluol i brif gynghorwyr. Ac rydym ni'n cydnabod y costau ychwanegol y gall ymgeiswyr anabl eu talu ac rydym ni wedi treialu mynediad at gronfa swyddfa etholedig, ac mae chwech o'r unigolion sy'n cael eu cefnogi drwy'r gronfa nawr yn gynghorwyr cymuned. Rydym ni wedi cyflwyno trefniadau rhannu swyddi ar gyfer swyddi gweithredol, ac mae gan bedwar cyngor y trefniadau hyn ar waith ar hyn o bryd.
Fodd bynnag, rydym ni'n credu bod rhagor i'w wneud, a dyna pam yr ydym ni wedi comisiynu nifer o ddarnau ymchwil, gan gynnwys adolygu tystiolaeth o sut mae taliadau cydnabyddiaeth cynghorwyr yng Nghymru yn cymharu â gwledydd eraill; arolwg o agweddau'r cyhoedd; ac arolwg ar-lein o gynghorwyr yng Nghymru. Cafwyd dros 1,600 o ymatebion gan brif gynghorwyr a chynghorwyr tref a chymuned i'r arolwg ar-lein, ac mae cyfoeth o wybodaeth wedi'i chasglu ar bynciau fel dylanwad canfyddedig cynghorwyr, llwyth gwaith, tâl cydnabyddiaeth, ac ymddygiad ac agweddau tuag at gynghorwyr. Cafodd canfyddiadau'r arolwg hwn, a'r darnau eraill o ymchwil eu cyhoeddi'r llynedd. Yn ogystal, cafodd dau weithdy eu cynnal i ymchwilio'n ddyfnach i ganfyddiadau'r ymchwil gyda rhanddeiliaid, ac mae gweithdy ar-lein arall wedi'i drefnu ar gyfer 17 Ionawr.
Rwyf i wedi gwneud trefniadau i swyddogion sy'n gweithio yn y maes polisi hwn fod ar gael i Aelodau'r Senedd mewn sesiwn galw heibio, a bydd Aelodau'n cael gwybod am ddyddiad y sesiwn cyn gynted ag y bydd wedi'i gadarnhau. Bydd hyn yn galluogi Aelodau'r Senedd i drafod yr ymchwil a rhannu unrhyw farn a phrofiadau y maen nhw'n teimlo y bydd yn ddefnyddiol wrth lunio ein dull gweithredu yn y dyfodol.
Un o'r prif faterion sydd wedi deillio o'r gwaith ymchwil yw'r disgwyliad sydd gan y cyhoedd ynglŷn â llwyth gwaith cynghorwyr a pha mor aml y maen nhw ar gael. Mae hyn yn arwain at gwestiynau ynghylch a yw'r disgwyliadau hyn yn deg a sut mae cynghorwyr yn ymateb i hyn. Roedd canlyniadau'r arolwg cyhoeddus yn nodi bod bron i ddwy ran o dair o'r ymatebwyr yn teimlo y dylai cynghorwyr
'fod ar gael i'r gymuned unrhyw bryd'.
O ran cynghorwyr, nododd 63 y cant eu bod ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae hyn yn dangos y lefel uchel o ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus ymhlith ein haelodau etholedig lleol, ond mae hefyd yn codi pryder, gan fod y pwysau amser hyn yn creu anawsterau i lawer o bobl a allai fod ag ymrwymiadau gofalu, teulu, cyflogaeth neu fusnes, ac felly gallai achosi rhwystr posibl rhag cynyddu amrywiaeth.
Gwnaeth yr ymchwil hefyd archwilio'r gefnogaeth bresennol i gynghorwyr a pha gefnogaeth arall a allai fod o gymorth, yn ogystal ag a ddylai hyfforddiant gorfodol craidd fod ar gael i gynghorwyr, a yw'r model taliadau ar gyfer cynghorwyr yn parhau i fod yn ddilys, a sut y gallwn ni fod yn glir ynghylch y rhan y mae cynghorwyr yn ei chwarae yn y gymdeithas. Er nad oedd canlyniad clir ar fater hyfforddiant gorfodol, roedd nifer o gynghorwyr tref a chymuned yn teimlo bod angen mwy o hyfforddiant, yn enwedig ar faterion yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth.
Roedd amrywiaeth eang o safbwyntiau ynghylch y trefniadau taliadau cydnabyddiaeth presennol, y byddwn ni eisiau eu harchwilio'n ehangach. Roedd yn ymddangos bod gan ymatebwyr i arolwg omnibws Cymru ym mis Mawrth 2021 ddealltwriaeth dda o ran cynghorwyr llywodraeth leol yng Nghymru, ac roedden nhw'n cynnig amrywiaeth o safbwyntiau am eu gwaith o ddydd i ddydd. Gan edrych ymlaen, mae gennym ni raglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i ddiwygio etholiadau llywodraeth leol i leihau'r diffyg democrataidd ac ymestyn y gronfa mynediad i swyddi etholedig.
Mae amrywiaeth ein cynrychiolwyr etholedig lleol yn hanfodol i'n hiechyd democrataidd fel cenedl. Mae cefnogi ac annog ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol yn rhan annatod o annog pobl i ymgysylltu â'n democratiaeth ni. Byddwn ni felly'n defnyddio'r dystiolaeth o'r ymchwil hon, a'r gwaith arall yr ydym ni wedi'i gomisiynu o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, i ddatblygu'r camau nesaf i gyflawni'r ymrwymiadau hyn.
Cyn bo hir, byddaf i'n cyhoeddi'r canlyniadau o arolwg ymgeiswyr mis Mai 2022. Ond, hyd yn oed heb y canlyniadau, rydym ni'n gwybod bod cynnydd yn nifer y seddi gwag a diymgeisydd yn ein cynghorau tref a chymuned. Roedd ychydig dros 60 y cant o seddi cynghorau tref a chymuned â dim ond un ymgeisydd, ac roedd ychydig dros 20 y cant yn wag. Roedd 29 o gynghorau heb gworwm i ddechrau
Mae dau fater allweddol i ni weithio arnyn nhw. Yn gyntaf, sicrhau bod cymunedau'n teimlo cysylltiad â'u cyngor cymuned ac eisiau ymgysylltu â'u cyngor cymuned. Yn ail, gwneud yn siŵr bod pobl yn teimlo wedi'u hymgysylltu digon i fod eisiau cynnig eu hunain i gael eu hethol i gynghorau cymuned. Er mwyn ymdrin â'r materion hyn, rwy'n sefydlu gweithgor gweinidogol, grŵp gorchwyl a gorffen iechyd democrataidd. Rwy'n awyddus iawn bod hwn yn adolygiad cyflym, pragmatig o'r rhwystrau a'r cyfleoedd a fydd yn cyflwyno ffordd newydd o feddwl ynghylch sut yr ydym yn cynyddu cyfranogiad.
Yn olaf, er bod peth tystiolaeth o'r arolwg cenedlaethol sy'n awgrymu bod mwy o bobl yn teimlo'u bod yn rhan o benderfyniadau lleol ac yn teimlo fod ganddyn nhw berthynas gyda chynghorwyr, mae yna hefyd fwy o negyddiaeth tuag at gynghorwyr. Tynnodd arolwg y cynghorwyr sylw at bryderon penodol am y lefelau cynyddol o bolareiddio yn y ddadl gyhoeddus. Roedd llawer yn teimlo bod yr agwedd negyddol hon wedi dwysáu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi'u hysgogi gan y dadleuon ynghylch Brexit a'i effaith, sut yr ymdrinwyd â COVID-19, a lefelau ymddiriedaeth yn dirywio'n gyffredinol mewn gwleidyddion. Dangosodd canfyddiadau fod tua hanner yr ymatebwyr wedi wynebu neu wedi bod yn dyst i ymddygiad amhriodol gan aelodau'r cyhoedd tuag at gynghorwyr. Yn amlwg, mae hyn yn annerbyniol.
Rwyf i hefyd wedi cael fy siomi fod rhywfaint o'r gamdriniaeth y mae cynghorwyr wedi'i hwynebu wedi dod oddi wrth gynghorwyr eraill. Roedd dau o bob pum ymatebwr wedi bod yn dyst, neu wedi wynebu ymddygiad amhriodol gan gynghorwyr eraill. Mae risg bod camdriniaeth yn cael ei normaleiddio a'i gweld fel rhan o'r swydd, ond yn amlwg, nid ydyw. Rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i sefydlu dim goddefgarwch a nodi camau y gallwn ni eu cymryd i ymdrin â chamdriniaeth ac aflonyddu yn y dyfodol. Rwy'n cefnogi gwaith CLlLC yn y maes hwn, ac yn gofyn i'r Aelodau amlygu camdriniaeth ar bob cyfle.
Diolch i'r Aelodau am eu diddordeb parhaus yn yr agenda hon, ac rwy'n annog cyd-Aelodau i ddod i'r sesiwn galw heibio. Bydd Aelodau'n cael gwybod am y dyddiad cyn gynted ag y bydd yn cael ei gadarnhau.
Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw, 'Amrywiaeth mewn Democratiaeth—Canlyniadau Arolwg'. Diolch Gweinidog, am olwg o flaen llaw ar y datganiad i Aelodau heddiw hefyd. Fel y gwnaethoch chi ei amlinellu yn eich datganiad, Gweinidog, mae'r penderfyniadau y mae cynghorwyr yn eu gwneud yn cael yr effaith wirioneddol honno ar ein cymunedau ledled Cymru gyfan, ac ar yr ochr hon i'r meinciau, yn sicr, rydym ni'n croesawu'r datganiad heddiw, yn croesawu'r gefnogaeth sy'n cael ei rhoi i'n cynghorwyr gwych ac yn cymeradwyo eu hymdrechion i gynrychioli eu cymunedau orau.
Dim ond tri phwynt o'ch datganiad yr hoffwn i eu codi ac ehangu arnyn nhw. Mae'r cyntaf yn ymwneud â hyblygrwydd. Gwnaethoch chi amlinellu'r gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau mwy o hyblygrwydd ar gyfer cyfarfodydd y cyngor, sydd, wrth gwrs, i'w groesawu, i annog y gynrychiolaeth eang honno a gwella hygyrchedd. Fodd bynnag, mae'n hollbwysig nad yw ein cynghorwyr lleol yn colli golwg ar natur cyfarfod wyneb yn wyneb ychwaith. Yn aml, mae rhywfaint o'r gwaith gorau yn cael ei wneud yn bersonol. Yn anffodus, nid yw nifer o gynghorwyr yng Nghymru yn cwrdd mewn modd hyblyg—maen nhw'n mynnu cyfarfod ar-lein yn unig ac mae'n ymddangos eu bod yn manteisio ar y ffordd hon o gyfarfod, sydd, yn fy marn i, yn cyfyngu ar y broses ddemocrataidd. Felly, o ran hyn, byddai ddiddordeb gennyf i glywed am eich ystyriaeth o ganllawiau wedi'u diwygio ar sut y byddai modd cynnal cyfarfodydd hybrid neu y dylid eu cynnal mewn cynghorau i sicrhau, ie, yr hyblygrwydd hwnnw, sy'n bwysig iawn ar gyfer amrywiaeth, ond hefyd—ac mae rhai yn gwneud hyn nawr—i atal cynghorau rhag golygu trafodion cyfarfodydd, ac i sicrhau bod ymddygiad rhithwir yn cyd-fynd â'r hyn a ddisgwylir wyneb yn wyneb. Dim ond y mis diwethaf y gwnaethom ni weld enghraifft o gynghorydd yn ôl y sôn yn pleidleisio wrth yrru. Rwy'n credu y byddai'r canllawiau hynny'n ddefnyddiol iawn, cyn gynted â phosibl.
O ran gwella democratiaeth ac amrywiaeth mewn democratiaeth, un o'r meysydd mwyaf o gyfle, rwy'n credu, yw gweithio gyda chyflogwyr i alluogi eu staff i gyflawni eu swyddogaeth fel cynghorwyr—yr hyblygrwydd hwnnw i weithwyr sydd â chyflogwyr. Yn ystod fy 14 mlynedd fel cynghorydd, am 10 mlynedd roedd gennyf swydd llawn amser, ond roeddwn i'n lwcus i weithio i gwmni a welodd fanteision fy swyddogaeth fel cynghorydd gan ganiatáu'r hyblygrwydd i mi gyflawni'r ddwy swyddogaeth. Ond, yn anffodus, nid yw llawer o sefydliadau yn deall o hyd y manteision hyn, sy'n ei gwneud hi'n anodd i gynghorwyr a'r rhai sydd eisiau bod yn gynghorwyr gyflawni eu swyddogaeth ynghyd â'u swyddi bob dydd. Felly, dyma gwestiwn, Gweinidog, yn sgil hyn, a fyddwch chi'n gweithio gyda chyflogwyr i'w hannog i ddarparu bod eu staff yn gallu cyflawni swyddogaeth cynghorydd, a fydd, wrth gwrs, yn cynyddu amrywiaeth?
Yr ail bwynt i'w ehangu arno, Gweinidog—mae'n fater yr ydw i wedi ei godi gyda chi nifer o weithiau yn y gorffennol, ac rydych chi'n sicr wedi gwneud sylwadau arno yma heddiw—sef yr ymddygiad drwg a ffiaidd a'r gamdriniaeth y mae llawer o gynghorwyr ac ymgeiswyr yn eu dioddef. Fel y gwnaethoch chi ei nodi, dywedodd 40 y cant o'r ymatebwyr i'r arolwg cyhoeddus hwnnw eu bod naill ai wedi gweld neu wedi wynebu ymddygiad amhriodol cynghorwyr eraill. Ac fel yr ydych chi'n ei amlinellu yn eich datganiad, mae risg bod camdriniaeth yn cael ei normaleiddio ac yn cael ei weld fel rhan o'r swydd, y mae'n rhaid i ni beidio â chaniatáu i hynny ddigwydd gan ei fod yn sicr yn perswadio pobl rhag sefyll mewn etholiadau ac yn sicr yn cael effaith ar amrywiaeth yn ein cynghorau. Felly, y cwestiwn yma, Gweinidog yw: pa waith arall ydych chi'n credu y mae modd ei wneud i sicrhau ein bod ni'n gweld gostyngiad yn yr ymddygiad ffiaidd hwn?
A'r pwynt olaf i ehangu arno, Gweinidog, o ran y pwynt y gwnaethoch chi ei godi ynghylch lefel yr ymrwymiad y mae llawer o'n cynghorwyr yn ei roi. Oherwydd, fel y dywedoch chi, yn yr arolwg cyhoeddus, nododd 63 y cant o gynghorwyr eu bod ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, sy'n ymrwymiad mawr ac yn adlewyrchu'r gwaith sy'n cael ei wneud gan gynghorwyr, ond efallai y byddwn i'n dadlau ei fod yn ddisgwyliad anodd ei gynnal. Ac mae'r disgwyliad hwn yn ei gwneud hi'n anodd iawn i gynghorwyr a darpar gynghorwyr gydbwyso bywyd teuluol, gyrfa, ac yna hefyd gynrychioli eu cymuned. Byddwn i'n dadlau bod hyn yn gysylltiedig â nifer y seddi sydd yn ddiymgeisydd, oherwydd, i lawer o bobl nid yw'n realiti y gallan nhw ymrwymo iddo. Dyna pam yr ydw i hefyd yn credu ein bod ni'n gweld y ddemograffeg honno lle mae bron i hanner ein cynghorwyr dros 60 oed. Felly, tybed, Gweinidog, yng ngoleuni hyn, er fy mod i'n falch o'r gwaith y mae ein cynghorwyr yn ei wneud, o ran cael y cydbwysedd yn iawn ynghylch yr hyn a ddisgwylir o ran gallu cyrraedd ein swyddogion etholedig, pa waith gellir ei wneud, yn eich tyb chi, i sicrhau bod yr hyn a ddisgwylir gan ein pobl iau sydd eisiau dod yn gynghorwyr neu sydd eisoes yn gynghorwyr yn deg, o ran yr amser a'r egni y mae'n bosibl iddyn nhw eu rhoi i'r swyddogaeth hon? Diolch.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Sam Rowlands am y cwestiynau a'r sylwadau yna. Rwy'n cysylltu fy hun yn llwyr â'i sylwadau agoriadol cychwynnol, a oedd ynghylch cydnabod a chymeradwyo ymdrechion pobl sy'n gwasanaethu bob dydd yn ein cymunedau fel cynghorwyr cymunedol, cynghorwyr tref, ac fel cynghorwyr sir hefyd. Rydym ni'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu holl waith.
Rwy'n credu ein bod ni wedi gwneud cynnydd da o ran hyblygrwydd drwy'r Ddeddf llywodraeth leol ac etholiadau. Gwnaeth hynny ddileu rhai o'r rhwystrau hynny drwy gyflwyno'r gallu i gael y cyfarfodydd hybrid hynny, yr ydym ni'n gwybod eu bod wedi bod yn bwysig iawn i bobl sydd â chyfrifoldebau gofalu, cyfrifoldebau teuluol, ymrwymiadau cyflogaeth sy'n golygu bod yr amseroedd y maen nhw ar gael yn fwy cyfyngedig. Mae perchnogion busnesau bach yn ogystal yn ei weld yn adnodd defnyddiol iawn.
Rwy'n cytuno y dylem ni ddisgwyl yr un ymddygiad gan bobl yn yr amgylchedd rhithwir ag yr ydym ni mewn bywyd go iawn, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr ydym ni wedi'i fabwysiadu yma yn y Senedd. Rwy'n credu bod gennym ni fodel da o ran sut yr ydym ni'n ymwneud â phobl a'u trin yn gyfartal, p'un a ydyn nhw yma yn bersonol neu beidio. A dim ond i gydnabod hefyd bod cyfarfodydd ffurfiol gosodedig pwyllgorau, o'r cyngor llawn, cyfarfodydd ein cynghorau tref a chymuned, yn hanfodol bwysig, ond dim ond rhan o'r swydd y mae cynghorwyr yn ei chyflawni ydyn nhw. Rwy'n gwybod bod llawer o gynghorwyr yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod nhw allan yn eu cymunedau—bob dydd, yn aml—yn cysylltu wyneb yn wyneb â phobl. Felly, rwy'n credu bod ffyrdd o gynnal y cyswllt wyneb yn wyneb hwnnw o hyd, hyd yn oed wrth gyfarfod mewn amgylchedd hybrid. Ond os oes mwy o gyngor ac arweiniad y gallwn eu rhoi, yna fe geisiwn ni wneud hynny.
Rwy'n credu bod y pwynt am ymgysylltu â chyflogwyr wedi'i wneud yn dda iawn. Ysgrifennais i at arweinwyr pob un o'n sefydliadau sector cyhoeddus yn weddol ddiweddar, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cynghorwyr a'r rhan y maen nhw'n ei chwarae yn ein cymunedau, a hefyd gofyn iddyn nhw ystyried ffyrdd y gallen nhw gefnogi eu gweithwyr i fod yn gynghorwyr, a nodi'r manteision, o bosibl, i'r sefydliad o gael cynghorwyr yn gweithio yno hefyd. Ond rwy'n credu, mwy na thebyg, fod mwy y gallwn ni ei wneud. Rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd drwy amrywiol fforymau gwahanol gyda Chonsortiwm Manwerthu Cymru, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r Ffederasiwn Busnesau Bach, ac rwy'n credu bod cyfleoedd yna i mi gyfleu iddyn nhw bwysigrwydd cefnogi pobl i fod yn gynghorwyr. Felly, yn sicr, fe wnaf i gymryd hyn fel gweithred yn deillio o'n trafodaethau yn y Siambr y prynhawn yma.
Mae'r pwyntiau am gamdriniaeth, rwy'n credu, yn bwysig iawn. Gwnaethom ni ganfod yn yr arolwg cynghorwyr fod hwn yn rhywbeth yr oedd llawer o gynghorwyr yn hynod bryderus yn ei gylch ac wedi ei hwynebu naill ai'n bersonol neu wedi'i gweld yn digwydd, ac roedden nhw'n ategu'r pwyntiau yr ydych chi wedi'u gwneud, mewn gwirionedd, sef bod hyn o bosibl yn rhwystro pobl. Rwy'n credu mai dyna pam y mae'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud drwy ganllawiau'r cynghorydd da mor bwysig, ond wedyn hefyd y gwaith mae CLlLC yn ei arwain hefyd gyda Debate Not Hate. Roedd hynny wir yn ymwneud â cheisio meithrin y math cywir o ddiwylliant ac amgylchedd o fewn lleoliad llywodraeth leol hefyd. Ond rwy'n credu bod y gwaith yr ydym ni wedi'i wneud drwy'r arolwg wedi ein helpu ni i ddeall bwlio'n well, a deall diwylliannau amharchus yn well, felly rwy'n credu y bydd y gwaith y byddwn ni'n parhau i'w wneud gyda CLlLC, ac wrth gwrs gydag Un Llais Cymru, sy'n gwneud gwaith gwych yn y maes hwn, yn gynyddol bwysig yn y dyfodol hefyd.
Mae'r hyn y mae'r cyhoedd yn ei ddisgwyl oddi wrth gynghorwyr yn enfawr—62 y cant o bobl yn credu y bydd eu cynghorwyr ar gael iddyn nhw 24/7 sy'n anhygoel. Mae'r ffaith bod cymaint o gynghorwyr—bron i ddwy ran o dair ohonyn nhw—ar gael 24/7 i'w hetholwyr yn dangos yr ymrwymiad sydd gan bobl i'r swyddogaeth hon, ond hefyd, rwy'n credu ei bod yn rhwystro pobl hefyd, efallai yn ormod o faich i rai cynghorwyr da a allai benderfynu nad yw'n rhywbeth y maen nhw eisiau'i wneud dros y tymor hwy. Felly, rwy'n credu bod llawer i ni ei ystyried yn yr arolwg yn y maes hwnnw hefyd.
Mae'r pwynt cyffredinol ynghylch sicrhau bod gan gynghorwyr y canllawiau cywir, rwy'n credu, yn bwysig. Rydym ni'n ymgynghori ynghylch a ddylai fod hyfforddiant gorfodol i gynghorwyr ai peidio, o ystyried yr hyn y mae cynghorwyr wedi dweud wrthym ni am y ffaith y bydden nhw'n aml, yn enwedig mewn cynghorau tref a chymuned, yn gwerthfawrogi hyfforddiant ac arweiniad, yn enwedig ym meysydd cydraddoldeb. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig. O bosibl, gallem ni gysylltu'r gwahanol bethau hyn o ran helpu pobl i ddeall yr hyn a ddisgwylir oddi wrthyn nhw a'r hyn sy'n rhesymol pan fyddan nhw'n dechrau'r swyddogaethau hyn, ond yna hefyd beth sy'n gyfystyr â diwylliant democrataidd iach o fewn sefydliadau. Felly, rwy'n credu bod yr arolwg wedi ein helpu ni i hogi ein ffordd o feddwl, mewn gwirionedd, am y pethau y mae angen i ni fod yn gweithio arnyn nhw ochr yn ochr, a gyda'n cydweithwyr.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Dwi'n meddwl mai diolch yw'r hyn sydd angen inni ei wneud ar y cychwyn, sef diolch, wrth gwrs, i'r unigolion hynny sydd wedi rhoi eu hunain ymlaen i fod yn lladmeryddion dros eu cymunedau, er dwi'n siŵr efallai nad ydyn nhw'n teimlo mai dyna yw e yn aml iawn, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni o orfod torri gwasanaethau ac yn y blaen. Yn sicr, does neb yn mynd i mewn i lywodraeth leol er mwyn gwneud hynny. Ond mae yn cyfrannu, wrth gwrs, at y teimlad negyddol, efallai, sydd o gwmpas y rolau yma yn anffodus, a'r modd y mae'r gymuned ehangach—y canfyddiad sydd yna, efallai, o'r hyn y mae rhai o'r cynghorwyr yma'n ei wneud. Ond boed ein bod ni'n cytuno neu beidio â'i gwleidyddiaeth nhw, mae'n rhaid inni gyd gydnabod eu bod nhw wedi bod yn barod i gamu lan ac i gymryd y cyfrifoldeb yna a'u bod nhw'n ei wneud e am y rhesymau gorau, boed ein bod ni'n cytuno, wrth gwrs, fel roeddwn i'n dweud, neu beidio â'r penderfyniadau terfynol.
Ond mae'r disgwyl yma o fod ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, gallwn ni uniaethu â hynny, gallwn, ond rydyn ni'n broffesiynol, rŷn ni'n cael ein talu'n dda i wneud hyn fel swydd llawn amser. Fel rŷch chi'n dweud, mae disgwyl i bobl i wneud hyn ar ben ymrwymiadau gwaith, ar ben ymrwymiadau teuluol. Rŷn ni dal â rhai cynghorau sy'n cwrdd yn ystod adegau o'r dydd sydd ddim yn addas i bobl i allu cyfrannu fel y buasem ni'n dymuno. Felly, mae yna ffordd bell i fynd; mae yna lawer i fynd i'r afael ag e. Ac mae ystyried y sefyllfa o ran cydnabyddiaeth ariannol, ie, yn rhywbeth sydd angen ei wneud, fel rŷch chi'n dweud yn y datganiad. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn derbyn bydd ryw £100 neu £200 yn ychwanegol ddim yn datrys y broblem, ac mae hynny'n dod â fi i ganolbwynt fy neges i, mewn gwirionedd. Dwi yn credu bod yn rhaid inni edrych ar faterion tipyn mwy strwythurol o safbwynt llywodraeth leol—cynghorau sir a chynghorau bro a thref—na jest edrych ar ambell i ymyriad i drio gwella'r amrywiaeth a'r gynrychiolaeth sydd gennym ni.
Mae yna ddiffyg eglurder o ran rôl y cynghorau—cynghorau bro a thref yn enwedig—rŷch chi'n ei ddweud. Yn sicr, mae hwnna'n awgrymu i fi bod y gyfundrefn ddim yn gweithio. Mae methu 'connect-io' gyda'r cyngor bro a thref lleol, mae'r ffaith bod yna gymaint o seddi gwag, gymaint o seddi wedi mynd heb etholiad, mae hwnna'n sgrechian i fi yr angen i fynd i'r afael go iawn â'r haen yna yn enwedig o lywodraeth leol yng Nghymru. Felly, fy nghwestiwn i yw: faint o barodrwydd sydd yna o safbwynt y Llywodraeth i edrych ar ymyriadau mwy strwythurol o safbwynt llywodraeth leol yng Nghymru, yn enwedig efallai y lefel yna o gynghorau bro a thref? Oes angen inni edrych ar rymuso cynghorau bro a thref er mwyn denu mwy o bobl i gyfrannu, i ehangu'r rheini sydd â diddordeb, i rannu'r baich ychydig ar draws y gwahanol haenau o awdurdodau lleol? Nawr, gallaf glywed cynghorau sir efallai'n cwyno am hynny, ond mae angen cael y drafodaeth, dwi'n teimlo, am le mae nifer o'r cyfrifoldebau yma'n eistedd.
Does dim cysondeb ar draws Cymru o ran cynghorau bro a thref. Mae gennym ni 70, 80 o gynghorau bro a thref mewn rhai siroedd, ac wedyn does dim un o gwbl mewn rhai siroedd eraill. Mae rhai ohonyn nhw â precept efallai o £1,000 neu £2,000 y flwyddyn, ac wedyn mae rhywle fel cyngor Barri, dwi'n credu, yn cynrychioli poblogaeth sydd bron mor fawr â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae angen, dwi'n meddwl, o ddifrif ystyried rhyw fath o reset ar yr haen yna. Ac wrth gwrs, fel rhan o'r broses yna wedyn, mi allwn ni fod tipyn mwy rhagweithiol yn cyflwyno ymyriadau bwriadol wedyn. Rydyn ni wedi derbyn yr egwyddor o safbwynt y Senedd a diwygio'r Senedd yn fan hyn—ein bod ni eisiau symud, os gallwn ni, at system etholiadol sydd yn sicrhau cynrychiolaeth fwy hafal o safbwynt dynion a merched. Wel, os ydy'r egwyddor yna'n ddilys ar gyfer y Senedd, onid yw'r un egwyddor yn ddilys ar gyfer llywodraeth leol? Ydy'r Llywodraeth yn barod i ystyried rhyw fath o gamau tebyg i hynny? Mi fuaswn i'n falch i glywed hynny gennych chi.
Rydych chi'n sôn am y grŵp tasg a gorffen ar iechyd democratiaeth, ac wrth gwrs gwnawn ni gefnogi gwaith grŵp felly, ond a allwch chi ehangu ychydig ar remit y grŵp yna? I ba raddau y maen nhw'n mynd i fod yn edrych ar rai o'r cwestiynau ehangach yma? Neu, ydyn nhw jest yn mynd i ffocysu ar greu neu annog un neu ddau o ymyriadau in isolation? A dwi ddim yn teimlo bod hwnna, yn ei hanfod, yn mynd i chwildroi'r sefyllfa efallai yn y modd y buaswn i'n dymuno ei weld. Mae angen, wrth gwrs, herio unrhyw agweddau sy'n normaleiddio bwlio ac aflonyddu cynghorwyr—misogyny, hiliaeth, homoffobia; maen nhw i gyd yn elfennau y mae’n rhaid inni weithredu i gyfyngu arnyn nhw. Mi oedd hi'n hynod o siomedig gweld peth o’r dystiolaeth yn dweud bod rhai pobl yn teimlo ei bod hi'n anodd codi’r materion yma, ei bod hi'n anodd sicrhau eu bod nhw'n cael eu hymchwilio. Mae hynny, i fi, yn canu clychau o safbwynt yr angen i fynd i'r afael â hynny. Ond, mi gefnogwn ni'r Llywodraeth, ond mi fydden ni yn licio gweld ymrwymiad ehangach, mwy strwythurol i fynd i'r afael â rhai o'r problemau yma, yn hytrach, efallai, na jest trio delio gydag un neu ddau o issues ar y tro. Diolch.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y sylwadau yna ac eto yn dechrau gyda'n gwerthfawrogiad o bobl sy'n cyflwyno eu hunain ar gyfer y swyddogaethau hyn, rwy'n credu mai un o'r pethau diddorol o'r arolwg cynghorwyr oedd bod cyfran fawr o'r ymatebwyr hynny wedi dweud eu bod wedi penderfynu cyflwyno eu hunain fel cynghorwyr yn y lle cyntaf i wella eu cymuned a'i gwneud yn lle gwell i fyw. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod yn llwyr mai dyna fan cychwyn pobl, ac wedyn wrth feddwl am y gamdriniaeth yr ydym ni wedi siarad amdani yn y Siambr y mae pobl yn ei dioddef am gyflwyno eu hunain o le mor dda, rwy'n credu bod hynny wir yn peri pryder mawr.
Rheswm arall a nodwyd yn glir yn yr arolwg ynghylch pam yr oedd pobl yn cyflwyno eu hunain, oedd er mwyn iddyn nhw allu helpu pobl a rhoi llais i bobl leol, ac eto, rwy'n credu bod y pethau hynny mor gymeradwy. Dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr i'r arolwg hefyd—felly dyna 91 y cant—mai swyddogaeth bwysicaf cynghorydd oedd cynrychioli barn ac anghenion trigolion lleol, ac yna, wedyn, cefnogi'r gymuned leol a gweithio gyda thrigolion i ymdrin â materion lleol. Felly, rwy'n credu y gallwn ni fod yn galonogol iawn oherwydd ansawdd a safon y bobl sy'n cyflwyno eu hunain ar gyfer y swyddogaethau hyn.
Un peth a oedd hefyd yn ddiddorol o'r arolwg, rwy'n credu, oedd bod tua hanner, mewn gwirionedd, ar ôl dechrau ar eu gwaith yn teimlo bod ganddyn nhw lai o ddylanwad a chyfle i newid pethau nag oedden nhw wedi dychmygu y byddai ganddyn nhw ar y cychwyn pan ddechreuon nhw eu swyddogaethau, a dim ond tua thraean oedd yn credu bod ganddyn nhw'r lefel o ddylanwad yr oedden nhw'n ei ddisgwyl. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth diddorol i ni fyfyrio arno hefyd.
Mae'n galonogol iawn i mi fod 80 y cant o gynghorwyr yn dweud y bydden nhw'n argymell i eraill hefyd gyflwyno eu hunain fel cynghorwyr. Dim ond 6 y cant ddywedodd na fydden nhw'n ei hargymell fel swyddogaeth, sydd wir yn gadarnhaol yn fy marn i. Ond, roedd y pwyntiau a gafodd eu gwneud am daliadau cydnabyddiaeth yn bwysig iawn. Edrychom ni'n fanwl iawn ar hyn, ac rydym ni'n gwybod, mewn gwirionedd, yn enwedig yn y sector cyngor tref a chymuned, fod yna wir amharodrwydd i hawlio unrhyw faint o'r arian sydd ar gael ac sydd ar gael yn briodol yno i'w hawlio i gefnogi pobl i ymgymryd â'u swyddogaethau. Roedd y mwyafrif o'r prif gynghorwyr yn ymwybodol y gallen nhw hawlio cyflog sylfaenol i gyflawni eu dyletswyddau, ac roedden nhw wedi hawlio eu cyflog yn llawn. Dim ond tua un o bob pump ohonyn nhw ddywedodd eu bod wedi hawlio ad-daliad llawn am gostau teithio a chynhaliaeth. Eto, mae'n bosibl bod pryder ynghylch canfyddiad y cyhoedd pan fyddwch chi'n hawlio costau teithio a chynhaliaeth, ond mae'r rhain yn gostau sydd ar gael i bobl mewn swyddi mewn pob math o feysydd, ond rwy'n credu, unwaith eto, bod cynghorwyr yn teimlo bod disgwyl iddyn nhw gadw at safonau gwahanol ac uwch nag eraill. Felly, eto, mae hynny'n rhywbeth rwy'n credu sydd angen i ni edrych arno o ran sut yr ydym ni'n cefnogi cynghorwyr i hawlio'r hyn mae ganddyn nhw berffaith hawl iddo i'w cefnogi nhw i wneud eu swyddogaethau penodol.
Ar ôl i ni gwblhau'r manylion, rwy'n credu efallai y byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig i roi'r cylch gorchwyl i gyd-Aelodau ynghylch y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar iechyd democrataidd, a hefyd mwy o wybodaeth am aelodaeth y grŵp a fydd yn cefnogi'r gwaith hwnnw, oherwydd rwy'n credu y bydd hynny'n ddefnyddiol iawn i gyd-Aelodau. Ac wedyn, mae'n rhan o ddarn ehangach o waith yr ydym ni'n ei wneud i gefnogi cynghorau tref a chymuned yn arbennig. Rwy'n gwybod bod gan fy ffrind lawer o ddiddordeb yn y maes penodol hwn, ac rwyf i bob amser yn paratoi fy hun ar gyfer y ddiweddaraf pan fyddaf yn dod at gwestiynau'r Gweinidog, rhag ofn y bydd yn ymddangos yr wythnos honno. Ond rwy'n gwybod ein bod ni wedi croesi cleddyfau sawl tro ar hyn, a bydd yn gwybod bod y gwaith yr ydym ni wedi bod yn ei wneud o ran y pecyn cymorth cyllid a llywodraethu ar gyfer cynghorau tref a chymuned wedi bod yn bwysig iawn o ran sicrhau bod gan aelodau'r cyngor hwnnw a'r clerc y mathau o adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i allu arfer eu cyfrifoldebau'n effeithiol. Cafodd hwnnw ei gyd-ddatblygu gydag Un Llais Cymru a hefyd Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol, ac mae ganddo gefnogaeth Archwilio Cymru hefyd. Felly, mae honno wedi bod yn ymyrraeth bwysig a diweddar iawn, yn ogystal â'r gefnogaeth yr ydym ni wedi'i rhoi i glercod ennill cymhwyster tystysgrif gweinyddiaeth cynghorau lleol. Rydym yn darparu'r gost lawn iddyn nhw wneud hynny, ac mae hynny'n bwysig, oherwydd dyna un o'r pethau sydd ei angen arnom ni, i gynghorau tref a chymuned arfer pŵer cyffredinol cymhwysedd, a allai, unwaith eto, fod yn chwyldroadol o ran cefnogi rhai cynghorau tref a chymuned i wir gyflawni i'r eithaf ar gyfer eu cymunedau.
Unwaith eto, rydym ni wedi darparu cefnogaeth ychwanegol ar gyfer hyfforddiant i gynghorwyr yn y sector hwnnw a chefnogaeth nawr gan y prif swyddog digidol, sy'n gweithio gyda chynghorau tref a chymuned i fanteisio i'r eithaf ar eu defnydd o dechnoleg yn y maes hwn hefyd. Felly, mae llawer o waith da iawn yn digwydd ar hyn o bryd yn y sector hwnnw, ond rwy'n cydnabod yn llwyr y pwynt sydd wedi'i wneud i mi nifer o weithiau sef bod y sector hwn mor amrywiol ac mae gennym ni gynghorau tref a chymuned hollol anhygoel sydd wedi ymgysylltu'n llwyr, ond mae yna eraill sydd angen dysgu gan edrych tuag at y rhai sy'n gwneud yn eithriadol o dda.
Rydym wedi defnyddio ein holl amser sydd wedi'i ddyrannu hyd yma, ond rwy'n bwriadu galw'r pedwar Aelod sy'n dymuno siarad. Felly, byddwch yn gryno, cadwch at eich amser, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn gwneud yn union yr un fath.
Fe wnaf i.
Fy nghwestiwn cyntaf, Gweinidog: mae symud at fodel arweinydd a chabinet wedi arwain at wneud penderfyniadau mwy strategol, fodd bynnag, gall hefyd leoli'r penderfyniadau hynny o fewn grŵp llai. Felly, pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r haen uchaf hon o lywodraeth leol a sut gallwn ni sicrhau bod y cabinetau hefyd yn adlewyrchu amrywiaeth cymunedau? Mae fy ail gwestiwn a'r olaf ynghylch pleidleisio yn 16 oed. Rwy'n croesawu eich sylwadau ynglŷn â hynny, ac rwy'n credu ei fod yn gam pwysig iawn, ond rydym ni'n gwybod, er enghraifft, mai ar amcangyfrif, dim ond un o bob pump o bobl ifanc 16 ac 17 oed yng Nghymru sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn etholiadau'r cyngor eleni. Felly, hoffwn i ofyn: pa waith parhaus sy'n digwydd ar draws y Llywodraeth i annog mwy o bobl ifanc 16 ac 17 oed i gofrestru?
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau yna. O ran cabinetau, rwy'n credu mai un o'r pethau pwysig iawn y gwnaethom ni ei gyflwyno drwy'r Ddeddf llywodraeth leol ac etholiadau oedd dileu'r rhwystrau rhag trefniadau rhannu swyddi ymhlith swyddogion gweithredol prif gynghorau. Felly, mae hynny wedi galluogi pobl na fyddai fel arall wedi gallu ymgymryd â'r swyddogaethau gweithredol hynny i allu camu i'r adwy a'i wneud ar sail rhannu swyddi; rwy'n credu bod hynny'n gyffrous iawn. Mae pedwar cyngor yn defnyddio hynny ar hyn o bryd, felly rydym ni'n dysgu llawer o'u profiadau nhw a phrofiadau'r cynghorwyr perthnasol er mwyn ein helpu ni i ystyried a oes yna swyddogaethau eraill o fewn llywodraeth leol a allai elwa ar y cyfle i rannu swyddi hefyd, felly rwy'n credu y bydd hynny'n helpu ac y mae'n helpu o ran cynyddu'r amrywiaeth yn y maes hwnnw. A hefyd y gwaith yr ydym ni wedi'i wneud drwy'r Ddeddf eto, sy'n rhoi dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i hyrwyddo safonau uchel o fewn eu grwpiau. Rwy'n credu bod hynny, unwaith eto, yn arloesedd pwysig yr ydym ni wedi'i gyflawni i geisio sicrhau ein bod ni'n parhau i wella amrywiaeth.
O ran y pleidleisiau ar gyfer 16 oed, rwy'n credu ein bod ni'n siomedig nad oedd y lefelau cyfranogi yn uwch ar y cyfle cyntaf a oedd ar gael iddyn nhw, felly rydym ni'n gwneud gwaith gyda nifer o sefydliadau sy'n ymdrin yn uniongyrchol â phobl ifanc. Bydd llawer ohonom ni wedi bod yn ymwneud â'r prosiect democratiaeth ac wedi treulio amser yn siarad â phobl ifanc am ein swyddogaeth. Felly, mae yna lawer mwy i'w wneud yn y maes hwn, ond rwy'n credu bod gennym ni gynghrair dda o sefydliadau sy'n arbenigwyr ar weithio gyda phobl ifanc sy'n ein helpu ni yn y maes hwnnw.
Roedd 36 y cant o'r cynghorwyr a gafodd eu hethol yn yr etholiadau yn 2022 yn fenywod—cynnydd o 8 y cant ers 2017, ond ymhell o fod ble ddylem ni fod o ran cydraddoldeb, wrth gwrs. Er bod dau gyngor yn gydradd o ran rhywedd, mae'r darlun mewn ardaloedd eraill yn annerbyniol, ble mae cynrychiolaeth menywod mor isel â 18 y cant. Pa gamau penodol, felly, ydy'r Llywodraeth yn eu cymryd i wella cynrychiolaeth menywod mewn llywodraeth leol? Fe sonioch chi yn y cyflwyniad i'ch datganiad fod y materion dan sylw yn berthnasol i bob rhan o'n democratiaeth, nid llywodraeth leol yn unig. Allaf i ofyn, felly, am ddiweddariad ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Llywodraeth i archwilio dichonoldeb ac opsiynau posib ar gyfer rhannu swydd yn y Senedd fel rhan o'r gwaith ar gyfer Bil diwygio'r Senedd? Diolch.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau yna a'r pwynt pwysig am gynrychiolaeth menywod mewn llywodraeth leol. Rydym ni'n bell iawn o'r sefyllfa y dylem ni fod ynddi o ran nifer y menywod sy'n ymgymryd â swyddogaeth cynghorwyr, ond hefyd arweinwyr y cynghorau. Ychydig iawn, iawn o arweinwyr cynghorau benywaidd sydd gennym ni yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth y byddem ni eisiau'i weld yn cynyddu yn y dyfodol hefyd.
Rwy'n credu bod y gwaith sy'n ymwneud â phresenoldeb o bell yn bwysig iawn i gefnogi menywod yn enwedig, sydd fel arfer â'r cyfrifoldebau gofalu a'r cyfrifoldebau teuluol, i allu cymryd rhan mewn cyfarfodydd mewn ffordd sy'n fwy cyfleus iddyn nhw—felly, mae hynny'n bwysig—a hefyd ymdrin â bwlio hefyd. Rydym ni'n gwybod bod menywod yn aml iawn yn y blaen—yn y rheng flaen—o ran dioddef camdriniaeth ar-lein ac yn bersonol ac ati, felly mae angen i ni, yn amlwg, fod yn dyblu ein hymdrechion yn y maes hwnnw hefyd. Rwy'n credu, ar sail wleidyddol bleidiol, fod yna swydd i bob un ohonom ni o ran meithrin talent o fewn ein pleidiau, gan nodi menywod a allai, dim ond gydag ychydig o anogaeth a chefnogaeth, ystyried cyflwyno eu hunain ar gyfer y swyddogaeth hon hefyd. Felly, rwy'n credu, yn unigol, y gallwn ni gyd gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am hynny hefyd. Felly, rwy'n credu bod gwaith da yn digwydd, ond rydym ni wir yn bell o ble fyddem ni'n dymuno bod yn y maes hwn.
O ran rhannu swyddi yn y Senedd, nid yw hwnnw'n rhywbeth rwy'n ymwneud yn uniongyrchol ag ef. Rwy'n credu y byddai hynny'n gwestiwn o bosibl i'r Llywydd ar y pwynt hwn, neu gydweithwyr sy'n gweithio o fewn Llywodraeth Cymru ar hynny. Nid yw'n rhywbeth yr ydw i'n ymwneud ag e'n bersonol, ond gwnaf i geisio cael ateb ar hynny.
Diolch, Gweinidog, am yr wybodaeth ddiweddaraf heddiw. Rwyf i eisiau dechrau drwy grybwyll ein cyngor ieuenctid ardderchog ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd hefyd, fel cynghorwyr, yn gwneud llawer iawn o waith yn eu hamser eu hunain. Heddiw fe wnaethon nhw bostio eu cod ymddygiad y maen nhw wedi'i greu, sy'n cynnwys bod yn anfeirniadol, parchu gwerthoedd eraill, yn ogystal â dim iaith liwgar na fepio. Person ifanc gwych arall yr hoffwn i dynnu sylw ato yw Tyler o Gorneli, a gymerodd ran, yn ystod yr etholiadau llywodraeth leol y llynedd, yn y cynllun treialu ynghylch pleidleisio o'i ysgol, Ysgol Gyfun Cynffig, yn y Pîl, fel pleidleisiwr tro cyntaf 16 oed, ac anogodd lawer, llawer mwy o'i gyd-fyfyrwyr i wneud yr un peth.
Roeddwn i eisiau codi un pwynt cyflym. Y llynedd, fe wnes i noddi cynllun mentora arweinyddiaeth Chwarae Teg, pryd daeth llawer o ferched ifanc i gael eu mentora gan lawer ohonom ni yma heddiw. Ac mae un o'r rhai a gafodd ei mentora, sef Seren, sy'n dod o Borthcawl, wedi mynd ymlaen i greu deiseb yn galw am fwy o gynrychiolaeth yma yn y Senedd ac yn ehangach. Fel dywed hi, mae hi eisiau i bobl sy'n gwneud penderfyniadau ar ran pobl Cymru adlewyrchu pobl Cymru, ac rwy'n gofyn i bawb gymryd golwg ar yr hyn y mae hi'n ymgyrchu drosto.
Ac yna, i orffen, roeddwn i eisiau codi rhai pryderon yr wyf i wedi'u cael gan Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru, sydd wedi gwneud gwaith aruthrol ers iddyn nhw gael eu hethol gyntaf ym mis Rhagfyr 2018. Ond rwy'n gwybod, o siarad â rhai ohonyn nhw, y gall fod yn rhwystredig pan fydd argymhellion yn parhau yr un fath oherwydd nad ydyn nhw wedi cael eu gweithredu. Felly, er enghraifft, mae crynodeb yr adroddiad iechyd meddwl 'Young Minds Matter', a gafodd ei gyhoeddi ddiwedd y llynedd, bron yn union yr un fath ag adroddiad 2020. Gall hyn fod yn ddiflas iawn i Aelodau ein Senedd Ieuenctid, sydd, gobeithio, eisiau mynd ymlaen i fod yn eiriolwyr dros eraill, cynghorwyr ac Aelodau'r Senedd yn y dyfodol. Felly, fy nghwestiwn i, mewn gwirionedd, Gweinidog, yw: sut ydym ni'n mynd i sicrhau bod y canlyniadau hyn o'r arolwg hwn a'r gwaith sy'n cael ei wneud wir yn gwneud newid ystyrlon, gweladwy sy'n rhoi sicrwydd i'n pobl ifanc yn enwedig bod Llywodraeth Cymru yn weithredol ac yn gwrando? Mae yna lawer o bobl ifanc sy'n ceisio ymgysylltu â'r systemau hyn a'r strwythurau sydd ar waith, ond mae angen iddyn nhw weld mewn gwirionedd fod pethau'n cael eu gwneud.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y pwyntiau yna. Hoffwn i gydnabod y gwaith anhygoel y mae ein cynghorau ieuenctid yn ei wneud ledled Cymru a myfyrio ar rai trafodaethau y cefais i'n ddiweddar gydag Un Llais Cymru ynglŷn â'r swyddogaeth bosibl i gynghorau tref a chymuned ieuenctid; mae gennym ni rai eisoes yn dechrau ymddangos ar draws Cymru. Yr hyn a ddywedwyd wrthyf yw, yn ogystal ag ymgysylltu â phobl ifanc â'r materion lleol, ei fod wir yn darparu ffrwd o bobl dalentog a brwd, wedi ymgysylltu o fewn y gymuned a fydd yn gynghorwyr tref a chymuned y dyfodol. Felly, rwy'n credu po fwyaf y gallwn ni ei wneud i hyrwyddo a chefnogi'r gwaith hwnnw, gorau oll. Mae'r gwaith yr ydych chi wedi'i wneud gyda Chwarae Teg wedi bod yn bwysig iawn. Rydw i wedi bod yn fentor fy hun yn y gorffennol ac fe ges i lawer o'r profiad hwnnw hefyd, ac rwy'n gobeithio bod y person yr oeddwn i'n ei fentora wedi cael hynny hefyd, ond roeddwn i wir yn ei chael hi'n werthfawr iawn. Rwy'n gwybod ein bod ni i gyd yn awyddus i barhau i gefnogi'r mathau hynny o fentrau.
Ac o ran cwotâu rhywedd—, cafodd hyn ei godi gan Llyr Gruffydd, ac ni wnes i ymateb i hynny ar y pryd—rydym ni'n archwilio sut y gallen nhw gael eu cyflwyno i'r system etholiadol ar gyfer y Senedd, yn amlwg, ac rydym ni'n parhau i weithio gyda'r pleidiau gwleidyddol i annog a chefnogi ymgeiswyr o gefndiroedd mwy amrywiol i sefyll mewn etholiadau Cymreig datganoledig. Ond mae cynghorau tref a chymuned a chynghorau sir yn wahanol, yn yr ystyr eu bod nhw'n cael eu cynnal ar sail y cyntaf i'r felin. Felly, byddai'n ei gwneud hi'n anoddach, rwy'n credu, i ni ddod o hyd i ffordd i gyflwyno'r cwotâu hynny. Yn sicr, mae yna rywbeth y mae angen i ni ei archwilio i'r eithaf, ond rwy'n credu bod hynny wir yn creu'r angen i ni, mewn gwirionedd, fod yn ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud ar sail gwleidyddiaeth plaid hefyd.
Ac rwy'n credu bod y pwynt olaf, mewn gwirionedd, a oedd yn ymwneud â sut yr ydym ni'n ymgysylltu â phobl ifanc—mae angen i ni ei wneud drwy'r flwyddyn yn ein holl swyddogaethau gwahanol. Felly, i mi mae'n bwysig iawn fy mod i'n ymgysylltu â phobl ifanc ac yn clywed eu barn nhw drwy amrywiaeth o fforymau gwahanol pan ydym ni'n gosod cyllideb Llywodraeth Cymru. Yn y gorffennol, rydw i wedi ymgysylltu â myfyrwyr economeg ac wedi cael trafodaethau gyda nhw. Mae fy swyddogion wedi mynd i mewn i ysgolion a siarad am gyllidebau. Rydw i wedi mynd i ysgol hefyd ac wedi siarad â nhw am gyfraddau Cymreig o dreth incwm a phethau felly. Felly mae pethau fel yna, rwy'n credu—yr ymgysylltu gydol y flwyddyn—yn bwysig iawn hefyd.
Ac yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ein hawdurdodau lleol yn gwneud gwaith rhagorol, ond weithiau maen nhw'n ei wneud gydag un llaw wedi'i chlymu y tu ôl i'w cefnau. Mae'r system gabinet mewn lle, ond mae'n ymddangos mai ychydig iawn o gefnogaeth sydd i Aelodau wneud gwaith craffu. Er mwyn craffu'n dda, maen nhw angen rhywfaint o gefnogaeth gan ymchwilwyr, ac, hyd y gwn i, mae hynny ar goll.
Felly, o ran y bobl hynny sy'n gyfrifol—ac rydyn ni wedi deall yn eithaf da heddiw mai dynion sydd yn y system gabinet yng Nghymru gan fwyaf—mae'n golygu, felly, bod yr ychydig fenywod sy'n cael eu gadael ar ôl yn gorfod gwneud y rhan fwyaf o graffu, gydag, fel rydw i'n ei ddweud, ychydig iawn o gefnogaeth i wneud hynny. Yn sicr, byddwn i'n croesawu rhai cwotâu, fodd bynnag, gallwn ni ei wneud, i gael mwy o fenywod i mewn i lywodraeth leol. Wrth gwrs, o ble rwy'n dod, yr ardal rwy'n ei chynrychioli, Canolbarth a Gorllewin Cymru, ni fydd hynny'n cael ei wneud drwy system y pleidiau oherwydd, yn y mwyafrif o'r awdurdodau lleol hynny, mae'r seddi'n cael eu dal gan annibynwyr—beth bynnag mae hynny'n ei olygu, dydw i'n dal heb ei weithio allan, ond mae'n ffaith, ac mae'n rhywbeth mae angen i ni fynd i'r afael ag ef o ddifrif, yn fy marn i.
Ydy, mae hwnnw'n bwynt pwysig a diddorol iawn, mewn gwirionedd, bod yr annibynwyr yn grŵp mawr iawn, iawn o unigolion o ran llywodraeth leol. Felly, mae'n anoddach i gael y math yna o ddull strategol y byddwn ni, gobeithio, yn ei ddefnyddio o fewn ein pleidiau o ran nodi a meithrin grŵp mwy amrywiol o bobl ar gyfer y dyfodol. Yn sicr, byddaf i'n rhoi rhywfaint mwy o ystyriaeth i'r pwynt hwnnw am gefnogaeth i graffu o ran cael mynediad at gyngor a'r ystod o gefnogaeth y bydd ei angen arnynt—y bydd cynghorwyr ei angen—o ran ymgymryd â chraffu'n effeithiol.
Rydym yn ystyried pa ganllawiau pellach allai fod eu hangen, ond hefyd y pwynt pwysig hwnnw ynglŷn â p'un a ddylai hyfforddiant gorfodol fod ar waith i gynghorwyr hefyd. Rwy'n credu, o bosib, mai un o'r meysydd hyfforddi y dylem ni fod yn ei ystyried fyddai craffu effeithiol hefyd. Oherwydd, pan fydd pobl yn dod yn gynghorydd am y tro cyntaf, mae hyn i gyd yn newydd. Dydych chi ddim yn gwybod pa gwestiynau i'w gofyn, o reidrwydd, a dydych chi ddim yn gwybod beth yw'r llwybrau cywir i'w dilyn i gael yr atebion rydych chi eu hangen.
Felly, rwy'n credu bod angen i ni fod yn ystyried pa gefnogaeth bellach allai fod yn angenrheidiol ar gyfer trefniadau craffu, ac roedd y pwynt wedi'i wneud yn dda iawn mai menywod sy'n aml yn gwneud y gwaith craffu, sy'n bwysig yn fy marn i hefyd, pan fyddwn yn meddwl am fod ag amgylcheddau lle mae pobl yn teimlo'n gyfforddus ac yn gallu ymgymryd â'r rôl. Felly, rwy'n credu bod y sesiwn y prynhawn yma wedi rhoi rhywbeth i mi gnoi cil drosto ar gyfer rhai pethau pellach y gallwn ni fod yn eu gwneud yn y gofod hwn.
Diolch i'r Gweinidog.