– Senedd Cymru ar 8 Chwefror 2023.
Eitem 6 sydd nesaf, dadl y Ceidwadwyr Cymraeg ar borthladdoedd rhydd. Galwaf ar Paul Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8200 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y cyfleoedd i borthladdoedd rhydd fywiogi economi Cymru, creu swyddi o ansawdd uchel, hyrwyddo adfywio a buddsoddi.
2. Yn nodi bod tri chais o Gymru wedi cael eu cyflwyno i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau dau borthladd rhydd yng Nghymru, gan gydnabod y cynigion gwirioneddol eithriadol a gyflwynwyd a'r manteision trawsnewidiol y gallant eu cyflawni ar gyfer economi Cymru.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Mae’n bleser mawr gennyf arwain dadl ar fanteision porthladdoedd rhydd a thynnu sylw unwaith eto at y ceisiadau rhagorol a gyflwynwyd o bob rhan o Gymru. Byddwn yn pleidleisio yn erbyn y ddau welliant a gyflwynwyd, ac rwy'n siomedig eu bod wedi’u cyflwyno yn y lle cyntaf, gan eu bod yn ceisio dileu ein cynnig gwreiddiol. Roeddwn wedi gobeithio cael cefnogaeth drawsbleidiol i'r mater hwn.
Nawr, bydd yr Aelodau’n gwybod bod ceisiadau wedi cau ar gyfer cynigwyr sydd â diddordeb mewn sefydlu porthladd rhydd yng Nghymru, a disgwylir penderfyniad cyn bo hir ar y safle buddugol. Yn wir, rwy'n gobeithio y bydd mwy nag un cais yn llwyddiannus ac y bydd gan Gymru sawl porthladd rhydd ledled y wlad. Nawr, mae rhaglen porthladdoedd rhydd Llywodraeth y DU yn rhan allweddol o'i hagenda ffyniant bro ac yn rhan o ymdrechion y Llywodraeth i helpu i ailgodi'n gryfach ac ysgogi twf economaidd ar ôl y pandemig. Ildiaf i’r Aelod dros Ogwr.
Diolch am ildio mor fuan yn eich cyfraniad. Hoffwn ymateb i'r sôn am fater cefnogaeth drawsbleidiol. Fel y gwyddoch, mae Aelodau fel fi, David Rees ac eraill wedi siarad o blaid datblygu potensial y rhain. Credaf mai’r her yma yw na allwch ddianc rhag y ffaith bod yna anawsterau gwirioneddol gyda'r egwyddor o borthladd rhydd a phopeth sydd ynghlwm wrthynt, ac effaith hynny ar ardaloedd eraill. Mae anfanteision i borthladdoedd rhydd hefyd. Felly, er ein bod yn cefnogi'n gryf yr hyn y gallem ei gael o hyn nawr ac yn awyddus i weithio gyda chi ar hyn, peidiwch â chamgymryd hynny am gefnogaeth drawsbleidiol i'r syniad o borthladdoedd rhydd fel y cyfryw. Mae’n rhywbeth y mae eich plaid yn ei gefnogi'n gryf; byddwn i'n dweud bod yna ffordd fwy strategol y gallem wneud yr un peth.
Wel, mae angen i’r Aelod ddarllen ein cynnig, gan fod y cynnig gwreiddiol yn cydnabod bod porthladdoedd rhydd yn agwedd bwysig ar ddatblygu ein heconomi. A rhaid bod yr Aelod yn gallu gweld nad yw’r cynnig gwreiddiol yn ddadleuol mewn unrhyw ystyr, ac mai ei unig nod yw ceisio dangos cefnogaeth gan y Senedd hon i'r rhaglen porthladdoedd rhydd. Yn sicr, nid yw'n cyfiawnhau ymgais i ddileu unrhyw ran ohono.
O’r cychwyn cyntaf, mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn glir fod gan y model porthladdoedd rhydd dri amcan penodol. Y cyntaf o’r rheini yw sefydlu porthladdoedd rhydd fel hybiau cenedlaethol ar gyfer buddsoddi a masnachu byd-eang, a gwyddom, o adroddiad blynyddol y rhaglen porthladdoedd rhydd y llynedd, fod tystiolaeth i'w chael o fuddsoddiad newydd mewn ardaloedd porthladd rhydd. Er enghraifft, mae statws porthladd rhydd yn Humber wedi galluogi cwmni Pensana i sicrhau buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i sefydlu hyb prosesu prinfwynau cyntaf Ewrop yn Saltend, y disgwylir iddo gynrychioli oddeutu 5 y cant o farchnad y byd erbyn 2025. Bydd yr hyb hwnnw'n cynhyrchu cydrannau hanfodol ar gyfer cerbydau trydan ac offer alltraeth. Yn wir, mae gan yr hyb rôl hollbwysig yn helpu i sefydlu cadwyn gyflenwi metel magnetau annibynnol ar gyfer y DU a thu hwnt.
Nawr, fe ŵyr yr Aelodau fod porthladdoedd rhydd yn ardaloedd economaidd lle mae rhyddhad treth ar gael i fusnesau, ac mae digon o gymelliadau economaidd eraill i fusnesau yn yr ardaloedd hyn. Gall busnesau mewn ardaloedd porthladd rhydd fwynhau lwfansau cyfalaf uwch, yn ogystal â rhyddhad ardrethi ar gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr a rhyddhad ardrethi busnes. Ceir amrywiaeth o fanteision tollau mewn ardaloedd porthladd rhydd hefyd, gan gynnwys datganiadau symlach a thollau gohiriedig ar nwyddau a fewnforir. Ac felly, mae amrywiaeth o fanteision economaidd i fusnesau mewn ardaloedd porthladd rhydd i'w helpu i ddod yn hybiau masnach a buddsoddi ffyniannus.
Nawr, ail amcan y rhaglen porthladdoedd rhydd yw creu mannau gwych ar gyfer arloesi drwy ganolbwyntio ar fuddsoddiad y sector preifat a'r sector cyhoeddus mewn ymchwil a datblygu. Mae porthladdoedd rhydd wedi datblygu cynlluniau uchelgeisiol i arloesi, ac mae llawer yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi targed Llywodraeth y DU i gyflawni sero net erbyn 2050. Yn wir, yn nwyrain canolbarth Lloegr, mae’r porthladd rhydd yn defnyddio rhan o’i £25 miliwn o gyllid cyfalaf sbarduno i sefydlu academi sgiliau hydrogen. Mae disgwyl i'r academi, sy'n cael ei chefnogi gan nifer o brifysgolion, agor yn nes ymlaen eleni, a hon fydd canolfan hyfforddi ymarferol gyntaf y diwydiant yn y DU, gan roi dwyrain canolbarth Lloegr ar flaen y gad o ran uchelgais sero net y DU. Mae porthladdoedd rhydd, yn eu hanfod, yn amgylcheddau sy'n helpu i ddod ag arloeswyr ynghyd i gydweithredu mewn ffyrdd newydd a datblygu a threialu syniadau a thechnolegau newydd, a dyma'r union fath o gydweithio ac arloesi rwy'n edrych ymlaen at ei weld ym mhorthladdoedd rhydd Cymru yn y dyfodol.
Rwyf wedi cyfeirio ers tro at fy etholaeth i, Preseli Sir Benfro, fel prifddinas ynni Cymru, a phe bai cais y porthladd rhydd Celtaidd yn llwyddiannus, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddem yn gweld arloesi cyffrous iawn ar hyd arfordir de Cymru. Un maes o’r fath yw ynni gwynt arnofiol ar y môr, a gwyddom o weledigaeth y consortiwm y bydd cais llwyddiannus am borthladd rhydd Celtaidd yn cyflymu mewnfuddsoddiad mewn cyfleusterau gweithgynhyrchu newydd i gefnogi’r gwaith o greu prosiectau ynni gwynt arnofiol yn y môr Celtaidd. Buom yn dadlau’n ddiweddar ynglŷn â pha mor bwysig y gall ynni adnewyddadwy ar y môr fod i gynhyrchu ynni glân a rhad, yn enwedig ynni gwynt arnofiol ar y môr, ac felly rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau’n cefnogi’r ymgyrch bwysig hon. Ac yn y gogledd, gadewch inni beidio ag anghofio’r ymgyrch ragorol dros borthladd rhydd Cymru yn Ynys Môn, gyda gweledigaeth unwaith eto i ddatblygu hyb ar gyfer ynni cynaliadwy, a fyddai hefyd yn cefnogi’r DU ar ei thaith tuag at sero net.
Trydydd amcan y rhaglen porthladdoedd rhydd yw hybu adfywio drwy greu swyddi medrus iawn. Mae gan borthladdoedd rhydd botensial i greu cyfleoedd eang o ran creu swyddi, ac yn ôl amcangyfrifon ar gyfer y porthladdoedd rhydd, byddai dros 41,000 o swyddi uniongyrchol yn cael eu creu yn Teesside, dros 28,000 o swyddi yn Nwyrain Canolbarth Lloegr, a thros 10,000 o swyddi yn Ninas-ranbarth Lerpwl. Gwnaethpwyd rhai o’r amcangyfrifon swyddi hyn yn gynnar yn 2022, ac wrth gwrs, mae pob ardal yn wahanol, ond roeddwn am roi syniad i’r Aelodau o’r nifer sylweddol o swyddi y gellid eu creu yng Nghymru pe bai unrhyw un o’r ceisiadau'n llwyddiannus. Wrth gwrs, mae adfywio ardal yn dibynnu i raddau helaeth ar sicrhau bod gan bobl leol sgiliau i gael mynediad at y cyfleoedd a ddarperir gan y porthladd rhydd, a dyna pam fod gan borthladdoedd rhydd strategaethau sgiliau a gweithlu yn rhan o’u hachosion busnes; strategaethau sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd i sicrhau eu bod yn effeithiol ac yn cyflawni yn ôl y bwriad.
Ddirprwy Lywydd, fy ngobaith yw y bydd y cyhoeddiad sydd ar y ffordd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod sawl un o borthladdoedd rhydd Cymru yn llwyddiannus, fel y gellir teimlo manteision porthladdoedd rhydd ledled y wlad. Mae gan borthladdoedd rhydd allu i drawsnewid ein cymunedau, a gwn y bydd yr Aelodau'n awyddus i nodi pam y dylai ceisiadau yn eu hardaloedd fod yn llwyddiannus. Mae’r trafodaethau a gefais gyda rhanddeiliaid allweddol sy’n ymwneud â chais y porthladd rhydd Celtaidd yn parhau i fod yn gadarnhaol ac yn frwdfrydig, a gwn o fy sgyrsiau gydag Aelodau sy’n cynrychioli rhannau eraill o Gymru eu bod hwythau hefyd wedi cael eu hysbrydoli gan y gwaith a wnaed ar ddatblygu'r ceisiadau hyn.
Wrth gwrs, mae lefel y cymorth a ddarperir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn allweddol i lwyddiant unrhyw borthladd rhydd. Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi darparu pecyn cymorth i godi ymwybyddiaeth o borthladdoedd rhydd Prydain gyda buddsoddwyr, ac i dynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael i fuddsoddi ym mhorthladdoedd rhydd Prydain. Wedi i borthladd rhydd gael ei sefydlu, fy nealltwriaeth i yw y bydd yr Adran Masnach Ryngwladol yn ei gefnogi gyda mynediad at eu gwasanaethau cymorth buddsoddiadau ac allforio, ac mae hynny i’w groesawu’n fawr. Wrth gwrs, pe bai cais porthladd rhydd Cymreig yn llwyddiannus, byddai'n gallu defnyddio'r gwasanaethau cymorth buddsoddiadau ac allforio hyn; ac yn fwy na hynny, rwy'n gobeithio y byddai cymorth ôl-ofal ar gael iddynt gan Lywodraeth Cymru hefyd. Felly, wrth ymateb i’r ddadl hon, efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi porthladdoedd rhydd Cymru pan fyddant ar waith, a sut mae’n bwriadu gweithio gyda’r Adran Masnach Ryngwladol mewn perthynas â chymorth ôl-ofal.
Yn y tymor hwy, dylai porthladdoedd rhydd fod mewn sefyllfa i ddenu buddsoddiad a thyfu masnach ryngwladol yn annibynnol, ond yn y tymor byr iawn, mae gan Lywodraeth Cymru rôl yma, ochr yn ochr â’r Adran Masnach Ryngwladol, i hyrwyddo cyfleoedd porthladdoedd rhydd i fuddsoddwyr byd-eang.
Nawr, rwy’n sylweddoli nad yw’r Gweinidog yn mynd i ddatgelu llawer ynghylch pa safle neu safleoedd sy’n llwyddiannus, ac felly, diben y ddadl heddiw mewn gwirionedd yw i ni glywed mwy am y tri chais o Gymru sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd, a dysgu mwy am y rôl y bydd Llywodraeth Cymru yn ei chwarae wrth hyrwyddo unrhyw borthladdoedd rhydd yng Nghymru yn y dyfodol. Rwyf eisoes wedi sôn am gais Ynys Môn a chais y porthladd rhydd Celtaidd, ond mae yna gais rhanbarthol ar gyfer de-ddwyrain Cymru hefyd.
Ac felly, ar y nodyn hwnnw, rwy'n croesawu safbwyntiau'r Aelodau ar ddatblygu porthladd rhydd yng Nghymru, yn ogystal â chlywed mwy am y ceisiadau yn eu hetholaethau a’u rhanbarthau. Gallwn weld llwyddiant porthladdoedd rhydd mewn rhannau eraill o’r DU, ac mae’n bwysig nad yw Cymru’n cael ei gadael ar ôl. Gall porthladdoedd rhydd helpu i ddarparu cyfleoedd ar gyfer cenedlaethau i ddod, ac felly, ar y nodyn hwnnw, gofynnaf i’r Aelodau gefnogi ein cynnig heddiw a dangos eu cefnogaeth i’r rhaglen porthladdoedd rhydd a’r cyfleoedd y mae’n eu cynnig i Gymru. Diolch.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Luke Fletcher i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Gwelliant 1—Siân Gwenllian
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod bod porthladdoedd, harbwrs, cyrchfannau glan môr a chymunedau arfordirol eraill yn cael eu gadael ar ôl a bod angen buddsoddiad i sicrhau eu hyfywedd tymor hir.
2. Yn cydnabod ymhellach fod cymunedau arfordirol yn wynebu problemau strwythurol hir dymor amryfal, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, dlodi a newidiadau amgylcheddol.
3. Yn nodi polisi porthladdoedd rhydd Llywodraeth y DU a'r newidiadau y cytunwyd arnynt i gynnig gwreiddiol Llywodraeth y DU.
4. Yn nodi ymhellach y cyflwynwyd tri chais o Gymru i'w hystyried gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a bod awdurdodau lleol a phartneriaid eraill wedi llunio ceisiadau y maen nhw'n credu sy'n adlewyrchu anghenion eu cymunedau.
5. Yn credu bod angen ymateb ehangach i'r materion sy'n wynebu ein cymunedau arfordirol gan gynnwys gwella seilwaith a mesurau i fynd i'r afael â thlodi.
6. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gynyddu'n sylweddol y cyllid a ddarperir ar gyfer seilwaith a lleihau tlodi yn ein cymunedau arfordirol er mwyn mynd i'r afael â'r problemau sy'n eu hwynebu.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac mae arnaf ofn y gallai fy ffordd naturiol sinigaidd ac amheus o edrych ar y byd daflu dŵr ar gyfraniad hwyliog llefarydd y Blaid Geidwadol ar yr economi, ond ni chredaf y bydd yn syndod i'r Aelodau glywed nad wyf yn cefnogi'r cysyniad o borthladd rhydd. Mae nifer o ffyrdd y gallwn gyflawni'r hyn a nododd fy nghyd-Aelod, ac rwy'n cymryd llawer o'r hyn a ddywedir wrthym am y ceisiadau gyda llond dwrn o halen. Pan fydd pobl yn gwneud cais am gymorth, maent yn aml yn syrthio i’r fagl o ddweud wrth bobl yr hyn y maent am ei glywed, a chredaf fod angen inni fod yn ymwybodol o hynny, ac mae angen i bob un ohonom graffu ar yr hyn a ddywedir wrthym.
Mae'r cysyniad o borthladdoedd rhydd yn bolisi arall rydym wedi rhoi cynnig arno o'r blaen, ac nad yw wedi cael fawr o lwyddiant. Gadewch inni fod yn glir: economeg o'r brig i lawr yw'r cysyniad o borthladdoedd rhydd; rhywbeth y bu llawer o'r Aelodau yn y Siambr hon yn lambastio Liz Truss yn ei gylch ychydig fisoedd yn ôl; rhywbeth y mae pob grŵp, ac eithrio un, yn y Senedd yn ei ystyried yn un o fethiannau Thatcheriaeth.
Nawr, i droi at rai o’r dadleuon o blaid, un o’r dadleuon allweddol yw creu swyddi, ac ar olwg gyntaf, gwych, ond credaf fod y niferoedd a grybwyllir yn ofnadwy o optimistaidd ar y gorau, a hoffwn ofyn faint o’r swyddi hynny a fyddai'n swyddi newydd yn hytrach na swyddi sy'n cael eu dadleoli o rywle arall. A bod yn deg, mae'r ceisiadau wedi cydnabod y risg hon ac wedi dweud y byddant yn canolbwyntio ar greu swyddi newydd, ond nid wyf wedi derbyn unrhyw beth eto heblaw sicrwydd ar lafar i warantu na fydd swyddi'n cael eu dadleoli. Y gwir amdani yw y bydd hynny'n digwydd, ac ar draul economi ardaloedd y tu allan i unrhyw barth porthladd rhydd dynodedig. Nid oes ond angen inni edrych ar ardaloedd menter. Roedd 41 y cant o swyddi mewn ardaloedd menter, a sefydlwyd yn y 1980au, yn swyddi a gafodd eu hadleoli o rywle arall yn y DU. Gyda llaw, dywedwyd wrthyf y dylwn feddwl am borthladdoedd rhydd fel ardaloedd menter yn hytrach na phorthladdoedd rhydd traddodiadol, sydd ond yn ategu'r perygl y bydd swyddi'n cael eu dadleoli, yn fy marn i.
Nawr, nodaf y bydd telerau unrhyw gais yma yng Nghymru yn wahanol i Loegr. Mae gofynion i geisiadau gydnabod undebau llafur ac egwyddorion partneriaeth gymdeithasol, cydfargeinio a hawliau gweithwyr. Unwaith eto, mae'n edrych yn dda ar bapur, ond mae'n hawdd dweud y bydd hyn oll yn cael ei barchu mewn cais. Dim ond pan fydd cais yn llwyddiannus y gellir profi hynny. Bob tro y gofynnais y cwestiwn ynglŷn â'r elfen hon, boed hynny i'r Llywodraeth neu'r ceisiadau eu hunain, yr unig beth a gaf yw gwarant ar lafar. Pan ofynnir iddynt am fecanweithiau i ymdrin â chyflogwyr sy'n torri'r gofynion hyn a'r mecanweithiau ar gyfer eu monitro, mae'r atebion yn llawer rhy amwys i roi unrhyw gysur. Y gorau a gefais oedd y bydd cwmnïau sy'n torri amodau yn colli manteision bod yn rhan o ardal porthladd rhydd. Ond gadewch inni feddwl am ymarferoldeb hyn. Y rheswm pam fod y cwmnïau hyn yn dod yno yn y lle cyntaf yw er mwyn iddynt allu elwa o'r gostyngiadau treth. Os cewch chi wared ar y buddion hyn, heb os, byddant yn bygwth gadael—stori sydd bron mor hen ag amser—gan fynd â'r holl swyddi hynny y dywedir wrthym y byddant yn eu creu gyda hwy. Nid wyf yn hyderus y byddai unrhyw Lywodraeth yn fodlon colli hynny, yn enwedig os oes gan y cwmni dan sylw weithlu mawr. Felly, yn y bôn, bydd y gwir rym, unwaith eto, gan gwmnïau. Pan fydd eich cymorth yn seiliedig ar greu swyddi, wrth gwrs nad ydych am golli'r swyddi hynny. Dyna fyddai’r realiti, a byddai’r Llywodraeth, awdurdodau lleol ac awdurdod y porthladd rhydd yn cael eu rhoi mewn sefyllfa amhosibl.
Rwyf am gloi, Lywydd, drwy gyfeirio at rywbeth y mae pob un ohonom yma yn y Senedd, yn drawsbleidiol yn y Siambr hon, yn ei gefnogi, neu o leiaf yn dweud ein bod yn ei gefnogi, sef cadw cyfoeth yng Nghymru. Ni fydd cyfoeth yn cael ei gadw yng Nghymru drwy borthladdoedd rhydd; i’r gwrthwyneb: bydd yn llifo allan drwy ei ddulliau arferol ac ni fydd unrhyw fodd o drethu elw’r busnesau sy’n gweithredu o'u mewn—elw y bydd gweithwyr Cymru wedi’i wneud i’r cwmnïau hynny. Rydym yn sôn am adeiladu economi Cymru drwy gefnogi mentergarwch Cymreig, cefnogi busnesau lleol, cwmnïau cydweithredol—dyna ble dylid buddsoddi a chanolbwyntio. Efallai y bydd ein ffordd ni'n cymryd amser, ond dyna'r ffordd fwy cynaliadwy a'r ffordd a fydd yn sicrhau'r budd mwyaf i weithwyr Cymru.
Credaf mai'r cwestiwn y dylem ei ofyn i ni'n hunain yw a ydym yn credu y dylai busnesau dalu trethi a chyfrannu at wasanaethau cyhoeddus fel pawb arall ai peidio, yn enwedig yn ystod argyfwng costau byw. Os mai 'ydw' yw eich ateb, yn fy marn i, nid oes gennych unrhyw fusnes yn cefnogi porthladdoedd rhydd.
Galwaf ar Weinidog yr Economi i gynnig yn ffurfiol welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 2—Lesley Griffiths
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod y tri chynnig a gyflwynwyd wrthi’n cael eu hasesu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn unol â’r meini prawf a gyhoeddwyd ym Mhrosbectws Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru: prosbectws ymgeisio a bydd canlyniad y broses yn benderfyniad ar y cyd rhwng Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Llywodraeth y DU fel rhan o broses agored a thryloyw.
Yn ffurfiol.
Diolch yn fawr iawn i fy nghyd-Aelod, Darren Millar, am gyflwyno’r ddadl bwysig hon. A minnau wedi siarad ar y pwnc droeon, gallaf ddweud yn ddiffuant nad wyf o'r un farn â chi, Luke Fletcher. A dweud y gwir, credaf fod porthladdoedd rhydd yn gyfle gwych i Gymru, gan y byddant yn bywiogi’r economi, yn creu swyddi o ansawdd uchel, ac yn ysgogi buddsoddiad, rhywbeth y byddwn wedi meddwl y byddai pawb yn y Siambr hon wedi bod yn awyddus i'w weld yng Nghymru, wrth symud ymlaen.
Nawr, ni waeth beth fo'ch barn ar Brexit, ni ellir gwadu na fyddai'r cyfle masnach newydd hwn wedi bod yn opsiwn pe baem yn dal i fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, mae gan borthladdoedd rhydd enw da am adfywio cymunedau yn y pen draw, gan ddarparu twf economaidd a chreu swyddi medrus iawn mawr eu hangen i lawer o bobl—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Na wnaf. [Chwerthin.] Ac ers imi fod yn Aelod, rwyf wedi cael nifer di-rif o gyfarfodydd ac wedi mynychu llu o ddigwyddiadau gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau ledled Cymru fel rhan o'u hymdrech i sicrhau bod eu cais yn cael ei gymeradwyo ac mae'n rhaid imi ddweud bod pob un ohonynt wedi creu cryn argraff arnaf.
Roeddwn yn falch iawn o glywed bod tri chais porthladd rhydd ardderchog wedi’u cyflwyno yng Nghymru, ac mae hynny’n newyddion gwych i’r wlad, gyda phob un yn darparu manteision sylweddol. Efallai fod hyn yn swnio braidd yn rhagfarnllyd, ond fel Aelod rhanbarthol dros Ddwyrain De Cymru, rwy'n siŵr na fydd yn syndod i unrhyw un yma fod gennyf le yn fy nghalon i gais Casnewydd. Mae'r manylion cymhleth wedi’u cadw'n gyfrinachol, ond o’r hyn y gwn i, mae cais Casnewydd yn cynnwys cyfres o safleoedd cyflogaeth sydd heb eu datblygu’n ddigonol ar draws y rhanbarth, gan gynnwys Maes Awyr Caerdydd, sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru. Wel, gadewch inni fod yn onest, mae hwnnw angen yr holl gymorth y gall ei gael. Pe bai'n llwyddiannus, byddai’r cais, sy’n cael ei arwain gan Gyngor Dinas Casnewydd, yn helpu i ddenu mwy o fusnes cenedlaethol a rhyngwladol i’r ardal, a fydd, yn ei dro, yn golygu miloedd yn rhagor o swyddi a chyfleoedd hyfforddi, nid yn unig i drigolion Casnewydd, ond i bobl ledled de-ddwyrain Cymru.
Gwn fod gan fy nghyd-Aelodau, Samuel Kurtz a Paul Davies, yr un lefel o frwdfrydedd ac ymroddiad i gais y porthladd rhydd Celtaidd yn eu hardal hwythau, a fyddai’n creu oddeutu 16,000 o swyddi o ansawdd uchel—swyddi gwyrdd, mewn gwirionedd—ac yn arwain at oddeutu £5.5 biliwn o fuddsoddiad newydd. Ar ôl cyfarfod â’r grŵp y tu ôl i gais y porthladd rhydd Celtaidd, ac ar ôl gweld eu cyflwyniad, roedd yn amlwg i mi o fewn munudau fod ganddynt gynlluniau gwirioneddol wych yn eu lle a fydd o fudd mawr i drigolion a mentergarwch lleol.
Rwyf hefyd wedi cael sgyrsiau di-rif ac wedi gweithio gyda fy nghyd-bleidwraig Virginia Crosbie, AS Ynys Môn, sydd wedi bod yn canu clodydd cais porthladd rhydd Ynys Môn ers y cychwyn cyntaf—yn fwy nag unrhyw un arall rwyf wedi’i weld, yn enwedig ar y pwnc hwn. Hoffwn ddweud y byddai cais porthladd rhydd Ynys Môn yn denu £1 biliwn o fuddsoddiad ac yn creu hyd at 13,000 o swyddi newydd ar gyflogau uchel ar yr ynys, felly credwch fi pan ddywedaf fy mod yn gwybod yn iawn pa mor angerddol yw fy holl gyd-bleidwyr mewn perthynas â chreu porthladdoedd rhydd yn eu hardaloedd.
Yn y cyfnod ôl-Brexit hwn, gall porthladdoedd rhydd chwarae rhan hollbwysig ar gyfer y DU, fel yr amlinellodd ein Prif Weinidog Rishi Sunak yn ddiweddar. Dywedodd hyn:
'Mae Parthau Masnach Tramor yn ffynnu ledled y byd—ac eithrio yn yr UE. Ar ôl Brexit, gallent chwarae rhan bwysig yn dangos pa mor agored yw Prydain i'r byd, yn ogystal ag ailgysylltu'r genedl â'i hanes morwrol balch.'
Aeth Prif Weinidog y DU ymlaen i ddweud yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod Paul Davies yn ei agoriad, y byddai porthladdoedd rhydd yn darparu nifer o fanteision megis 'cynllunio symlach',
'tollau rhatach–gyda thariffau, TAW neu dollau ffafriol’, a threthi is hefyd,
'gostyngiadau treth i annog adeiladu, buddsoddi preifat a chreu swyddi', rhywbeth y mae pob un ohonom yn dymuno'i weld yng Nghymru. Ni ellir gwadu bod y tri chais yn deilwng ac y byddent yn darparu buddion gwirioneddol ryfeddol i Gymru.
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £26 miliwn i greu porthladd rhydd yng Nghymru, ac rwy’n falch o weld bod Gweinidogion yma yng Nghymru ac yn Llundain yn gweithredu ar eu gair drwy gydweithio i wireddu hyn. Rwy’n arbennig o falch o glywed y gallai ail borthladd rhydd fod yn yr arfaeth pe cyflwynir cynnig gwirioneddol eithriadol, rhywbeth a bwysleisiwyd i mi pan gyfarfûm â’r Ysgrifennydd ffyniant bro ar y pryd, Michael Gove, ac mae’n neges rwyf wedi’i rhannu gyda'r holl ymgeiswyr y cyfarfûm â hwy hyd yma.
Yn bersonol, byddaf yn parhau i ddadlau dros greu dau borthladd rhydd yng Nghymru, gan y byddant heb os yn hwb gwirioneddol i economi Cymru ac yn darparu manteision di-rif i bob un ohonom. Rwy’n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU ac yn cydweithredu’n effeithiol i gyflawni’r cynigion cyffrous hyn, a fydd heb amheuaeth yn darparu manteision economaidd eithriadol i Gymru. Ddirprwy Lywydd, rwy'n croesi fy mysedd am ddau borthladd rhydd yma yng Nghymru, ac yn union fel fy holl gyd-bleidwyr ym mhob cwr o Gymru, edrychaf ymlaen at glywed y cyhoeddiad ar borthladdoedd rhydd yn cael ei wneud cyn bo hir.
Ie, wel, dyna ni. Dyna oedd y fersiwn honno; dyma fydd y fersiwn hon. Mae'n amlwg mai'r pwynt yma yw fy mod yn hynod amheus o borthladdoedd rhydd. Nid wyf yn cytuno â'r syniad hwn o fasnach rydd fel y'i disgrifiwch, a hoffwn ofyn i bobl feddwl am bwy sydd y tu ôl i hyn yn y pen draw. Rwy’n siŵr y gall rhai ohonom gofio Liz Truss, rwy’n siŵr y gall rhai gofio Kwasi Kwarteng, ac rwy’n siŵr y gallant gofio chwalfa’r economi, gan mai dyna’r mathau o bobl sydd y tu ôl i’r felin drafod asgell dde libertaraidd hon a'r gyllideb fach drychinebus rydym yn dal i dalu amdani. Rwy’n siŵr y gallwch gofio’r argyfwng sterling, cwymp y farchnad bondiau, y cronfeydd pensiwn, ymyrraeth y banc canolog, y codiadau i gyfraddau morgeisi. Dyna’r mathau o bobl sy’n cefnogi’r math hwn o gais.
Felly, ni waeth sut rydych yn ei becynnu, ac rwy'n siŵr ein bod wedi clywed rhywfaint ac y byddwn yn clywed mwy, mae porthladdoedd rhydd yn cynrychioli trethi isel, lefel isel o reoleiddio, ideoleg Llywodraeth gyfyngedig a ras i'r gwaelod. Felly, mae'n anghywir, yr ateb anghywir, wrth gwrs—a chlywsom am Brexit, yn rhyfeddol—dyma'r ateb anghywir i broblem Brexit a grëwyd gan y Llywodraeth asgell dde hon.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mae’r amcangyfrif diweddaraf yn awgrymu bod economi’r DU eisoes oddeutu 4 y cant yn llai o ganlyniad i adael yr UE. Eglurwyd i mi sut mae model y DU ar gyfer porthladdoedd rhydd yn cynnig amddiffyniadau cadarn—rydym wedi clywed y rheini o’r blaen—yn erbyn y troseddu a’r llygredd y maent wedi’i hwyluso mewn mannau eraill yn y byd.
Joyce, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mewn munud. Ond ar adeg pan fo’r ddyled genedlaethol yn £2.5 triliwn—treuliwch hynny—diolch i flynyddoedd o gamreoli Torïaidd, mae porthladdoedd rhydd yn dal i amddifadu’r Llywodraeth ganolog o incwm hanfodol drwy ystod eang o freintiau tollau a gostyngiadau treth.
Diolch am ildio, Joyce, ac mae’n araith ddiddorol. A allwch chi gadarnhau eich bod yn dweud nad ydych am fuddsoddi na chreu swyddi yn eich rhanbarth eich hun yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Roeddwn yn gwybod y byddech yn ymostwng i hynny. Felly, yr ateb, yn amlwg, i'r cwestiwn hwnnw yw 'nac ydw'. Rydych yn ceisio cymysgu pethau yma, yn gwbl fwriadol, a dyna pam eich bod wedi cyflwyno'r ddadl hon. Oherwydd rydych chi, yn ideolegol, yn credu ei bod yn syniad da rhoi gostyngiadau treth am ddim i gwmnïau cyfoethog iawn fel y gallant fynd ag arian o'n gwlad a'i roi ym mhle bynnag.
Mae dadl arall yn mynd rhagddi, sef: a ydym am gael buddsoddiad yn ein hardaloedd sy'n helpu pobl i gael swyddi da iawn gyda chyflogau da iawn a ddiogelir gan yr incwm a gynhyrchir, a allai hefyd helpu, mewn gwirionedd—pe na baech yn gadael i arian trethdalwyr gael ei gamddefnyddio yn y fath fodd—i fuddsoddi yn yr holl bethau y gofynnwch amdanynt yma o wythnos i wythnos? Ble mae'r arian? Wel, dyna fe.
Felly, gadewch inni fod yn glir ynglŷn â hyn. Mae angen inni gofio hefyd fod pobl yn streicio am fwy o gyflog ar hyn o bryd. Rydych wedi gofyn inni gytuno—yn gwbl briodol, ac rydym yn mynd i'r cyfeiriad hwnnw—ar delerau ac amodau da i weithwyr. Felly, gadewch inni gadw'r trethdalwyr yma. Nid fy nheimladau i yn unig yw'r rhain, ychwaith. Roedd dwy ran o dair o'r ymatebwyr i'r polisi porthladdoedd rhydd hefyd yn cytuno â phopeth rwyf newydd ei ddweud. Felly, fy nghwestiwn yw: sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i gyflawni ei haddewid, drwy fforwm ymgynghorol y gweithwyr, o waith teg a phartneriaethau cymdeithasol sy'n rhan o'n hideoleg ni ar yr ochr hon?
Wedi dweud hynny, mae ein porthladdoedd yn borth i dwf a chodi'r gwastad, ond fel canolfannau ynni glanach, nid fel lle i'r farchnad rydd wneud fel y myn. Dyna’r uchelgais rwyf am ei weld ar gyfer clwstwr ynni'r dyfodol yn Aberdaugleddau. Gall ein porthladdoedd ysgogi newid. Byddant yn ysgogi newid. Byddant yn galluogi datgarboneiddio ynni gwyrdd. Byddant yn dod â diwydiant a thrafnidiaeth a logisteg ynghyd, ac yn wir, maent mewn sefyllfa ddelfrydol i wasanaethu fel safleoedd cynhyrchu, storio a dosbarthu ar gyfer technolegau datblygol fel hydrogen gwyrdd ac ynni gwynt arnofiol ar y môr Celtaidd. Dyna’r dyfodol rwyf am ei weld i'n porthladdoedd, a dylai hynny fod yn ffocws gwleidyddol wrth symud ymlaen.
Clywais restr hir o, 'Dyma fyddant yn ei wneud i bobl.' Felly, os edrychwch ar 2.1.13 yn y ddogfen am borthladdoedd rhydd, mae'n dweud
'gallai hyn gynnwys ymrwymiadau ynglŷn â’r cyflog byw go iawn ac ymgysylltu ag undebau llafur.'
Mae’r gair ‘gallai’ yn allweddol yma, ac nid yw galluogi hawliau gweithwyr yn rhan o ideoleg y Torïaid, fel y maent wedi'i ddangos yn glir yn eu hymgyrch ddiweddar iawn yn erbyn undebau llafur a chwarae teg.
Ar ôl gwrando ar Luke Fletcher a Joyce Watson, yr unig beth y gallaf ei ddweud yw bod y gynghrair wrth-dwf yn fyw ac yn iach yn Siambr y Senedd yma heddiw. Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw, oherwydd nid yn unig y mae'n rhoi cyfle imi—[Torri ar draws.] Gallwch wneud ymyriad yn nes ymlaen, Huw; peidiwch â phoeni. Mae'n rhoi cyfle imi ddweud pa mor fuddiol fydd porthladdoedd rhydd i economi Cymru, ond gallaf hefyd ddweud wrthych pa mor wych fydd Port Talbot i gefnogi porthladd rhydd Celtaidd, fel y gŵyr y Dirprwy Lywydd yn iawn.
Roeddwn wedi gobeithio—ysgrifennais 'gobeithio' yma ond mae'r gobaith hwnnw wedi'i golli bellach—roeddwn wedi gobeithio y gallai pawb yma weld manteision ardal â chymelliadau treth a thollau, nid yn unig o ran y swyddi y maent yn eu creu, ond hefyd y cyfleoedd buddsoddi enfawr y maent yn eu cyflwyno i'r ardaloedd sydd eu hangen yn fawr. Heb os, bydd porthladd rhydd yng Nghymru yn ffactor mawr yn ein hadferiad economaidd ar ôl COVID-19, ac yn sbardun gwirioneddol i greu marchnadoedd yn y dyfodol ar gyfer cynhyrchion y DU ledled y byd.
Mae economi Cymru, o dan Lywodraeth Lafur Cymru, wedi’i chanoli'n ormodol o amgylch dinas Caerdydd, felly mae’n gyfle gwych inni ledaenu’r cyfoeth o un gornel o’n gwlad. Mae’n amlwg hefyd y gall porthladd rhydd hybu adfywiad yn yr ardal gyfagos, a bydd hynny’n cyflawni ar ran y cymunedau sydd angen y cymorth hwnnw fwyaf yng Nghymru, ac yn anghymesur, ein cymunedau arfordirol yw’r rheini'n tueddu i fod.
Mae porthladdoedd rhydd yn gweithio. Nodaf y ffaith bod buddsoddiad cyhoeddus bach mewn porthladdoedd rhydd yn debygol o sicrhau enillion economaidd enfawr. Er enghraifft, cafodd y ddau borthladd rhydd yn yr Alban £52 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU, a disgwylir iddynt arwain at £10.8 biliwn mewn buddsoddiad cyhoeddus a phreifat yn yr ardaloedd hyn. Dyna elw o ddau can gwaith y buddsoddiad.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
A gaf fi ei gyfeirio’n ôl at y Llywodraeth cyn 2020, a fuddsoddodd £16 miliwn yn arfordir ardal y gogledd-ddwyrain? Nid oedd angen porthladd rhydd—dim ond buddsoddiad ydoedd, a alluogodd Siemens wedyn i ddatblygu eu capasiti ar gyfer ynni gwynt ar y môr. Nid oes angen porthladdoedd rhydd i wneud hyn. Yr hyn sydd ei angen yw buddsoddiad strategol gan y Llywodraeth. Nawr, byddaf i, wrth gwrs, bob amser yn croesawu buddsoddiad yn fy ardal a'r potensial ar gyfer swyddi. A dweud y gwir, dyna pam y byddaf yn cefnogi hyn wrth symud ymlaen. Ond peidiwch ag esgus mai porthladdoedd rhydd sy'n gwneud hynny. Y cyfleoedd mewn ynni adnewyddadwy, a'r porthladdoedd a'r sgiliau yn ne Cymru sy'n gwneud hynny. Ideoleg yn unig yw porthladdoedd rhydd.
Nid ideoleg yw porthladdoedd rhydd, ac fel rwyf newydd ei ddweud, maent wedi newid yr economi yn yr Alban, lle buddsoddwyd ynddynt. Soniodd am y gogledd-ddwyrain—edrychwch ar yr effaith y mae wedi’i chael yng Teesside. Mae wedi cael effaith enfawr ar gymuned sydd wedi bod yn ddifreintiedig yn y gorffennol.
Yn ne-orllewin Cymru, rhagwelir y bydd y porthladd rhydd Celtaidd yn creu 16,000 o swyddi a £5.5 biliwn o fewnfuddsoddiad ar gyfer prosiectau ynni gwyrdd. Dyna 16,000 o swyddi ynni gwyrdd o ansawdd uchel sy'n talu'n dda, gyda chyfle gwirioneddol i ddatgloi rhan o'r diwydiant ynni gwynt arnofiol ar y môr sy'n werth £54 biliwn. Mae cysylltu dau o’n porthladdoedd môr dwfn yn Aberdaugleddau a Phort Talbot yn ddefnydd gwych o’r adnoddau sydd gennym yn barod, a dylai hynny ein gwneud yn fwy deniadol i’r sector ynni gwynt ar y môr, o ystyried y byddai’n cwmpasu rhan fawr o arfordir Cymru.
Nid oes gennyf amheuaeth y bydd hefyd yn helpu i gefnogi fferm wynt ar y môr arfaethedig Gwynt Glas ger arfordir sir Benfro. Mae gennym eisoes y seilwaith ym Mhort Talbot i gefnogi arloesedd y diwydiant blaengar hwn yn y môr Celtaidd a gwneud Cymru yn arweinydd byd-eang mewn ynni gwyrdd. Nid yn unig fod gennym borthladd môr dwfn, ond mae gennym eisoes weithfeydd dur parod i gefnogi'r ochr weithgynhyrchu mewn diwydiant ynni gwynt arnofiol ar y môr. Mae hefyd yn amlwg fod gennym gysylltiadau trafnidiaeth gwych, felly gallwn gyrraedd rhannau eraill o'r DU a thu hwnt yn hawdd.
Yn olaf, mae ardal Castell-nedd Port Talbot hefyd yn rhan o Grŵp Colegau NPTC sydd ag enw da iawn eisoes am ddarparu addysg bellach ac sy’n gweithio gydag arweinwyr y diwydiant a phrifysgolion, felly mae gennym botensial hefyd i ddarparu’r cymysgedd sgiliau cywir, a fydd yn helpu i ategu a chyflawni'r prosiect hwn ymhell i'r dyfodol.
Ni allaf orbwysleisio bod taer angen gwasgaru buddsoddiad o’r math hwn y tu hwnt i’r lleoedd arferol. Dylai fod yn anghyfforddus clywed—yn enwedig i Luke Fletcher, sy’n cynrychioli Castell-nedd Port Talbot fel fi—fod gwerth ychwanegol gros cyfartalog y pen yng Nghastell-nedd Port Talbot, lai nag awr i lawr y ffordd, yn llai na hanner gwerth ychwanegol gros y pen yng Nghaerdydd. Yn anffodus, mae sgôr ffyniant a gyhoeddwyd yn 2022 ar gyfer Castell-nedd Port Talbot yn eu rhoi'n bedwerydd ar bymtheg o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, ac yn safle 337 o'r 374 o awdurdodau yn y DU o ran lles economaidd a chymdeithasol. Felly, mae porthladdoedd rhydd yn gyfle i newid y naratif, a chredaf mai dyna'r pwynt y mae Luke Fletcher a Phlaid Cymru a’r gynghrair wrth-dwf yn ei gamddeall yn ôl pob golwg.
Felly, er gwaethaf y gwir botensial hwn yn yr ardal, nid ydym yn creu’r allbwn economaidd, nid ydym yn cael yr incymau priodol, ac nid ydym yn harneisio’r potensial a’r sgiliau sydd gennym. Gall porthladd rhydd newid y sefyllfa honno, a chredaf fod gan y porthladd rhydd Celtaidd botensial di-ben-draw yn sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot. Gall coridor arloesi ynni gwyrdd, wedi’i ategu gan y buddsoddiad hwn, wneud gwahaniaeth gwirioneddol ac arddangos y dalent sydd gennym yng Nghymru i’r byd.
Gadewch inni obeithio hefyd y bydd hyn yn cael effaith ganlyniadol yng nghanol trefi mewn lleoedd fel Port Talbot, yn ogystal ag ar fusnesau bach yn yr ardal a'r cyffiniau, sy'n dibynnu ar nifer cwsmeriaid. Rwy'n clywed yn aml y bydd y prosiect hwn yn drawsnewidiol i'r rhanbarth. Gan weithio gydag amrywiaeth enfawr o bartneriaid ar draws y de, credaf y gallwn wneud y rhan hon o Gymru yn enghraifft wych o’r hyn y gall porthladdoedd rhydd ei gynnig, ac rwy'n dweud fy mod yn llwyr gefnogi’r cais am borthladd rhydd Celtaidd yn ne-orllewin Cymru. Diolch.
Cyn imi alw’r unigolyn nesaf, byddai’n well imi nodi ac atgoffa’r Aelodau fy mod yn cynrychioli Port Talbot, er bod hynny wedi’i grybwyll nid wyf yn gwybod sawl gwaith yn y cyfraniad diwethaf. [Chwerthin.] Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn. Mae’n dda cael cyfle eto i siarad am y cais sydd wedi cael ei baratoi a'i gyflwyno gan Gyngor Sir Ynys Môn a Stena Line i ddynodi Caergybi ac Ynys Môn yn borthladd rhydd, a hynny ar ran y gogledd i gyd. Mi ddywedaf i ar y cychwyn fel cefnogwr i’r cais, ac un sydd wedi cydweithio efo’r awduron, mae angen tipyn o onestrwydd o gwmpas y ddadl yma, ac mae eisiau dos o realiti yn hytrach nag ideoleg gwleidyddol ar y meinciau cyferbyn, hefyd.
Dydy hi ddim yn eglur i bawb beth ydy porthladd rhydd. Mae’n deg dweud bod gan lawer amheuon amdanyn nhw, ac rydyn ni wedi clywed rhai o’r amheuon hynny heddiw. Ac mae’n bwysig cymryd yr amheuon hynny o ddifri, a herio drwy’r amser—ac dwi wedi gwneud digon o hynny fy hun—achos rydym ni’n gwybod o hanes fod porthladdoedd rhydd sydd ddim yn dilyn rheolau clir a chadarn yn gallu dod â sgil-effeithiau negyddol. Ac mae'n rhaid cofio hefyd fod yna ffyrdd eraill o wneud buddsoddiadau sydd yn gallu osgoi y mathau yna o effeithiau negyddol. Felly, dyna ydy'r gonestrwydd dwi'n chwilio amdano fo.
Ond, i fi, beth sy'n bwysig ydy bod y cais yma, o fewn y fframwaith sydd gennym ni, yn gais sydd wedi ei lunio ar yr ynys, dan arweiniad partneriaid sydd wedi hen arfer gweithio efo'i gilydd—y cyngor sir a Stena; cais sydd dwi'n meddwl yn adlewyrchu ein dyheadau ni a'n buddiannau ni fel cymuned, tra, ar yr un pryd, yn dod â buddion economaidd ehangach. Ond hefyd, mae'n gais sydd yn adlewyrchu ein gwerthoedd ni fel cymunedau, efo'i awduron o, a minnau fel cefnogwr, wedi mynnu gweithredu o fewn set o egwyddorion clir. [Torri ar draws.]
Os caf i gario ymlaen am funud fach. Felly, oedd, mi oedd yn rhaid mynnu a chael nifer o gonsesiynau a sicrwydd ar nifer o faterion cyn cychwyn ar y fenter. Mi oedd yna frwydr ariannol i'w hennill yn gyntaf. Yn wreiddiol, mi oedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynnig £26 miliwn i bob porthladd rhydd yn Lloegr ac £8 miliwn i bob un yng Nghymru. Mi dynnais i sylw at ba mor annheg oedd hynny; mi oedd pawb yn gallu gweld bod hynny'n hollol annerbyniol, ac mi ddigwyddodd y trafodaethau. Roeddwn i'n falch bod Llywodraeth Cymru yn gweld llygad yn llygad â fi ar hyn. Mi ddaeth yna fuddugoliaeth ar yr alwad yna am faes chwarae gwastad a chwarae teg ariannol, efo £26 miliwn bellach ar y bwrdd i Gymru hefyd.
Ond mi oedd angen mwy na hynny; mi oedd hefyd angen gwybod y byddai hawliau gweithwyr yn cael eu diogelu fwy ynghyd â'r amgylchedd. A drwy drafodaeth hefyd, mi gawsom ni fwy o'r sicrwydd hynny mewn prosbectws Cymreig newydd. Ond hyd yn oed wedyn, mi fydd angen monitro parhaus—mi fydd hynny'n allweddol er mwyn bod yn ymwybodol o'r effeithiau negyddol posib—a dwi'n falch o glywed Llywodraeth Cymru hefyd yn gwneud sylwadau i'r perwyl hwnnw hefyd.
Felly, ar y sylfeini newydd hynny, roedd cyngor Ynys Môn yn rhydd i ymuno â Stena i roi cais at ei gilydd. Cawsant fy nghefnogaeth lawn. Mae'r cais ei hun yn ymwneud â sicrhau buddsoddiad, cyfleoedd gwaith ac annog entrepreneuriaeth ar yr ynys ac ar draws y gogledd, ac mae’n bwysig fod cynghorau ar draws y gogledd yn ei gefnogi. Felly, ar draws y rhanbarth, ar draws y pleidiau hefyd, mae'r prosbectws newydd hwn a wnaed yng Nghymru wedi gallu dod â phobl ynghyd.
Mae sgiliau'n hanfodol: mae Prifysgol Bangor, Coleg Llandrillo Menai yn rhan bwysig ohono. Mae hefyd yn fesur lliniaru o ran Brexit. Ni fydd yn dad-wneud difrod Brexit, ond drwy greu gweithgarwch economaidd newydd ym mhorthladd Caergybi, gall fod yn ffordd o fynd i’r afael â’r dirywiad ôl-Brexit mewn masnach drwy’r porthladdoedd. Ac mae manteision ehangach i fuddsoddi mewn annog traffig i ddychwelyd i'r bont dir, gan gynnwys yn nhermau amgylcheddol.
Ac mae'r amgylchedd, wrth gwrs, yn ganolog i'r cais. Rwyf am i borthladd Caergybi fod yn hyb ar gyfer y genhedlaeth nesaf o gynhyrchiant ynni gwynt ar fôr Iwerddon. Gallai hyn fod yn hwb i hynny, o'i wneud yn dda. Ac rwy'n edrych y tu hwnt i'r gogledd hefyd. Mae cyfle yma i ddyrchafu uchelgeisiau Cymru ym maes ynni adnewyddadwy yn gyffredinol, mewn ffordd fwy cydgysylltiedig. Rwyf wedi myfyrio ar sawl achlysur yn y Senedd hon ar fanteision posibl cael dau borthladd rhydd, gyda'r un egwyddorion o ran ynni gwyrdd. Ond credaf fod cais Caergybi, Ynys Môn, gogledd Cymru yn sefyll allan.
Nid oes un ateb hollgynhwysol i adfywio economaidd. Mae unrhyw un sy'n awgrymu mai porthladdoedd rhydd yw'r ateb i'n holl broblemau yn anghywir, ac rwy'n clywed gormod lawer o hynny y prynhawn yma a dweud y gwir. Wrth gwrs, mae’r Ceidwadwyr yn brandio hyn fel rhan allweddol o'r agenda i godi'r gwastad. Gwn eu bod yn ysu i guddio'r ffaith nad yw polisi economaidd y Ceidwadwyr yn gwneud unrhyw beth heblaw gostwng y gwastad i bawb. Ac mae'n rhaid inni hefyd ystyried y £26 miliwn hwnnw yng nghyd-destun y cannoedd o filiynau a gollwyd i gymunedau fel fy un i, a gweddill y DU, oherwydd polisïau cyfeiliornus y Ceidwadwyr a'u celwyddau am Brexit.
Ond drwy weithio’n ofalus, credaf y gallwn elwa o ddefnyddio’r amrywiaeth gyfan o arfau economaidd sydd ar gael i ni. Mae'r cyhoeddiad diweddar ynghylch yr ymgynghoriad ar gau 2 Sisters Food Group yn ein hatgoffa eto o'r heriau sy'n ein hwynebu, a dyna pam fy mod yn dymuno'n dda i gyngor Ynys Môn a Stena gyda'u cais ar ein rhan.
Rwyf bob amser yn ddiolchgar iawn am gael siarad o blaid rhywbeth rwy’n angerddol yn ei gylch yn y Siambr hon, ac rwyf wedi ailysgrifennu’r araith hon bedair neu bum gwaith yn fy mhen, ar ôl gwrando ar y cyfraniadau y prynhawn yma, a chan gofio'r edrychiad a gefais gan y Dirprwy Lywydd ychydig wythnosau yn ôl, byddaf yn ofalus i gadw fy nghyfraniad yn gadarnhaol ac yn galonogol y prynhawn yma.
Ond ni fydd yn syndod o gwbl i Aelodau’r Siambr hon y byddaf yn siarad o blaid un porthladd rhydd yn arbennig, sef y porthladd rhydd Celtaidd yn fy etholaeth i, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Rydym wedi clywed yr ystadegau gan Tom Giffard, sy’n cynrychioli’r rhanbarth y mae’r porthladd rhydd hwn yn ei gynrychioli, gan ei fod dros ddau leoliad daearyddol, ac mae’n dod â rhanbarth cyfan o sefydliadau ynghyd, boed yn Associated British Ports, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Porthladd Aberdaugleddau, Tata Steel, RWE, Prifysgol De Cymru neu Goleg Sir Benfro. Dyma borthladdoedd ymddiriedolaeth, porthladdoedd preifat, awdurdodau lleol a cholegau addysg uwch yn dod ynghyd, gan weld y manteision y gall y cais porthladd rhydd hwn eu cynnig, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n hynod gadarnhaol yn fy marn i.
Ond y pwynt rwy'n ceisio'i wneud, Ddirprwy Lywydd, yw nad yw cais y porthladd rhydd Celtaidd wedi'i gyfyngu i un gymuned yn unig. Mae’n rhoi cyfle i ranbarth cyfan ryddhau’r hualau, ac yn rhoi bywyd newydd i’r cymunedau hyn ar draws de a gorllewin Cymru. A chlywsom gan Tom Giffard am y buddsoddiad newydd o £5.5 biliwn a'r 16,000 o swyddi newydd o ansawdd uchel. A’r pwynt a wnaeth Luke Fletcher o ran swyddi’n cael eu hail-leoli neu eu hailddosbarthu o un ardal i’r llall, rwy’n deall y pryderon hynny, ond dyna sydd mor bwysig gyda chais y porthladd rhydd Celtaidd hwn: mae’r rhain yn swyddi newydd oherwydd y cyfleoedd ynni adnewyddadwy sy'n cael eu darparu i ni gydag ynni gwynt arnofiol ar y môr. Mae’r rhain yn swyddi newydd mewn diwydiannau sydd wedi goroesi drwy weithio yn y diwydiannau hydrocarbon a fu yn yr ardal. Rwy'n fwy na pharod i dderbyn ymyriad gan fy nghyd-Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.
Diolch am dderbyn yr ymyriad. Rydych yn cymysgu pethau eto. Gallem gael yr holl fuddsoddiad hwnnw, gallai’r Llywodraeth Dorïaidd fod yn hael iawn a rhoi’r holl arian y maent yn ei addo i ni, ond ni fyddai’n rhaid inni golli’r derbyniadau treth o’r manteision rydych wedi’u disgrifio, ac rwyf i am eu gweld, fel chithau—rwyf wedi cynrychioli'r ardal hon ers 1995, felly rwyf am weld y buddsoddiad hwnnw. Yr hyn nad wyf am ei weld yw colli'r trethi sy’n perthyn i’r wlad hon, ac mae'r fantais, fel y’i disgrifiwyd, i haen uchaf un y bobl a fydd, yn ôl pob tebyg, yn symud yr arian hwnnw yn ei flaen eto.
Diolch i'r Aelod am ei hymyriad, ac mae'n debyg i ymyriadau'r Aelod dros Ogwr o fy mlaen—'Pam fod angen y rhain arnom? Gellir gwneud y pethau hyn beth bynnag.' Ond credaf fod hynny'n camddeall y pwynt o ran yr hyn y mae'n ei wneud. Mae'n gatalydd. Ydy, mae'n bosibl y gall y diwydiannau hyn ffynnu a goroesi heb gais porthladd rhydd a heb y buddion a ddaw yn sgil porthladd rhydd. Ond yr hyn y mae'n ei wneud yw ei wneud yn gatalydd ar un eiliad benodol, fel nad yw'r cyfleoedd hyn yn cael eu colli. Gallwn weld busnesau a diwydiannau lleol ar flaen y gad o ran technoleg a diwydiannau, a chredaf mai'r hyn sy’n wirioneddol bwysig yw ei bod hi'n bur debyg, os nad ydym yn achub ar y cyfleoedd hyn, mai cwmnïau y tu allan i Gymru, y tu allan i’r Deyrnas Unedig, a fydd ar flaen y gad yn manteisio ar y cyfleoedd a gynigir i gwmnïau lleol a busnesau lleol. A dyna pam fy mod yn credu na fydd swyddi'n cael eu gwasgaru yng Nghymru drwy gais porthladd rhydd, yn enwedig cais y porthladd rhydd Celtaidd. Credaf fod hynny'n wirioneddol amlwg ac mae angen iddo fod yn glir iawn, gan fod cyfle gwirioneddol i'w gael.
Ond mae'r porthladd rhydd Celtaidd yn ymwneud â mwy na sicrhau buddsoddiad economaidd yn unig. Mae'n hanfodol i'r elfen o ddiogelu ffynonellau ynni'r DU, gyda'r fantais ychwanegol o ddatgarboneiddio diwydiannau presennol, a chadw swyddi gan roi'r gallu inni gyflawni ein huchelgeisiau sero net. Mae'n galonogol i minnau fod Llywodraethau’r DU a Chymru wedi cydweithio ar hyn, gan sicrhau bod y polisi porthladdoedd rhydd yng Nghymru yn iawn i Gymru. Ac fel y mae Paul Davies, fy nghymydog etholaethol ym Mhreseli Sir Benfro, wedi nodi'n gwbl gywir yn ei sylwadau agoriadol, mae potensial heb ei ail gan Gymru. Ac er fy mod yn anghytuno ag ef efallai mai Preseli Sir Benfro yw'r brifddinas ynni, gyda gorsaf ynni RWE a phurfa olew Valero yn fy etholaeth i, mae honno'n ddadl y gall ef a minnau ei chael rywbryd eto.
Ond mae'n bwysig iawn ein bod yn gallu gweld y gallu sydd yma, felly er bod y cydweithio hwn yn galonogol—a gwelaf y Gweinidog o fy mlaen yn gwenu—edrychaf i fyny'r M4 ac annog pawb sy'n gwneud y penderfyniadau allweddol i sicrhau y gellir rhyddhau potensial Cymru drwy ddau gais porthladd rhydd llwyddiannus. Gall hyn sicrhau y gellir rhoi'r cyfleoedd a gaiff eu datgloi drwy statws porthladd rhydd ar waith ledled Cymru o un gornel i'r llall. Gallwn weithio’n drawsbleidiol ar hyn, gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gweithio law yn llaw, gan roi hwb i economi werdd Cymru, a sicrhau y gall Cymru fod wrth wraidd y gwaith o ddiogelu ffynonellau ynni’r Deyrnas Unedig, gyda phob rhan o Gymru yn chwarae eu rhan. Gyda hynny, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi nid yn unig ein cynnig yma heddiw, ond hefyd cais y porthladd rhydd Celtaidd. Diolch yn fawr.
Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw fel cefnogwr cryf i gais y porthladd rhydd Celtaidd. Mae’r cyfleoedd a gynigir gan y porthladd rhydd Celtaidd i fy rhanbarth i ac ardal ehangach de-orllewin Cymru yn aruthrol. Dyna pam fod gan y cais gefnogaeth ar draws y sbectrwm gwleidyddol ac ar draws y rhanbarth. Pe bai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cais, gallai sefydlu porthladd rhydd i gynnwys dociau Port Talbot ac Aberdaugleddau arwain at fwy na £5.5 biliwn o fewnfuddsoddiad i’r rhanbarth. Ond pigyn y rhewfryn yn unig yw hyn, a dyna pam fod Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Penfro yn chwarae rhan allweddol yng nghonsortiwm y cais.
Bydd sefydlu’r porthladd rhydd Celtaidd yn arwain at ffrwydrad o swyddi gwyrdd wrth i’r rhanbarth geisio harneisio potensial y môr Celtaidd a manteisio ar hydrogen gwyrdd. Bydd ynni gwynt arnofiol ar y môr yn drawsnewidiol, nid yn unig o ran helpu i ddatgarboneiddio a diogelu ein cyflenwad ynni yn y dyfodol, ond bydd y diwydiant gwerth £54 biliwn yn sbardun allweddol i drawsnewid y porthladdoedd ym Mhort Talbot ac Aberdaugleddau yn hybiau ynni gwyrdd modern, porthladdoedd a fydd yn adeiladu ar arbenigedd diwydiannol ein gorffennol gan sicrhau dyfodol mwy disglair a gwyrddach i Gymru. Gan adeiladu ar sylfaen sgiliau arbenigol helaeth, seilwaith trawsyrru a phiblinellau, cyfalaf naturiol a chyfleusterau dosbarthu'r rhanbarth, bydd y porthladd rhydd Celtaidd yn darparu’r sgiliau, y gwasanaethau a’r gofod i ddiwydiannau ffynnu—diwydiannau fel Tata Steel ym Mhort Talbot, un o gyflogwyr mwyaf fy rhanbarth ac un o ddiwydiannau strategol ein gwlad.
Mae’r cyfleoedd y mae’r porthladd rhydd Celtaidd yn eu cynnig i waith dur Port Talbot yn niferus, ond y pwysicaf oll yw’r cyfle i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o weithgynhyrchu cydrannau ynni gwynt arnofiol ar gyfer y môr Celtaidd, ac yna adeiladu ar y cyfleoedd hynny i allforio i weddill y DU a ledled y byd. Mae gan Tata, gan weithio ochr yn ochr â'r porthladd rhydd Celtaidd, botensial i ddod yn un o gynhyrchwyr dur gwyrdd cyntaf y byd ac i ddatblygu arbenigedd gweithgynhyrchu ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ynni adnewyddadwy. Rydym mewn ras i ddatgarboneiddio ein diwydiannau, ein sectorau ynni a’n seilwaith. Os gallwn wneud hynny gyda'r rhain yn gyntaf, gallwn arwain y ffordd, a gallwn elwa hefyd o'r cyfleoedd economaidd ehangach.
De Cymru a arweiniodd y chwyldro diwydiannol cyntaf, ac os gallwn chwarae ein cardiau’n iawn, gallwn arwain yr un nesaf. Mae fy rhanbarth yn gartref i’r nifer fwyaf o bobl sy’n gweithio mewn gweithgynhyrchu o gymharu ag unrhyw le arall yng Nghymru, ac er ein bod wedi gweld dirywiad gweithgynhyrchu a diwydiant trwm dros y degawdau diwethaf, mae’r potensial i adeiladu ar y sgiliau hynny'n anfesuradwy. Gyda’r cynllun cywir ar waith, gallwn drawsnewid y rhanbarth a chreu swyddi newydd medrus iawn y mae galw mawr amdanynt, swyddi gwyrdd ym mhob maes, o weldio i wyddor data. Credaf mai cais y porthladd rhydd Celtaidd yw’r cynllun cywir, ac rwy’n annog Llywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraeth y DU, i gefnogi cais y porthladd rhydd Celtaidd. Hoffwn ofyn i fy nghyd-Aelodau gefnogi ein cynnig heddiw hefyd er mwyn cyfleu neges glir i’r ddwy Lywodraeth fod y Senedd hon yn cefnogi'r cais ar gyfer porthladd rhydd yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Weinidog yr Economi, Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle hwn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd am y rhaglen porthladdoedd rhydd yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth yn fodlon cefnogi'r cynnig, yn amodol ar welliant 2. Rydym am fod yn glir nad ydym wedi ymrwymo i nifer penodol o borthladdoedd rhydd, a byddaf yn sôn am hynny yn nes ymlaen hefyd. Rwy’n cydnabod ffocws Plaid Cymru ar yr heriau a wynebir gan gymunedau arfordirol yn eu gwelliant. Ni fydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliant 1. Ar wahân i unrhyw beth arall, ni fyddai'n arwain at ein gwelliant ninnau, ond credaf fod eu gwelliant yn codi dadl ehangach rwy'n fwy na pharod i'w chael ac y byddwn, heb os, yn ailymweld â hi maes o law.
Ffocws y cynnig a gyflwynwyd heddiw yw porthladdoedd rhydd, ac mae’r model porthladdoedd rhydd wedi’i gynllunio i fod yn berthnasol i borthladdoedd o bob math—porthladdoedd môr, meysydd awyr a gorsafoedd trên. Rwy’n cydnabod bod gwahanol safbwyntiau yn yr ystafell—rhai'n fwy gwahanol na'i gilydd—ar yr ymagwedd bragmatig at borthladdoedd rhydd a rhai o’r safbwyntiau ideolegol ehangach ynghylch ble mae pobl yn dechrau ac yn cyrraedd yn y pen draw.
Mae gan borthladdoedd Cymru hanes hir wrth gwrs ac maent wedi helpu i lunio gwead economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru. Heddiw, maent yn parhau i fod yn nodwedd ganolog wrth sefydlu cysylltiadau masnachu newydd ar draws y byd ac wrth dyfu potensial masnach a buddsoddi rhyngwladol y DU a Chymru. Mae'r rhaglen porthladdoedd rhydd yn gyfaddawd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae ganddi’r potensial i gefnogi ein blaenoriaethau economaidd ledled Cymru i ysgogi twf net mewn swyddi, creu cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel, a chefnogi datgarboneiddio fel rhan o’n taith tuag at sero net. Rwyf wedi dweud yn glir iawn ein bod yn ceisio tyfu yn hytrach na dadleoli gweithgarwch economaidd, ac rwyf wedi dweud yn glir iawn fod gwaith teg yn rhan hanfodol o’r hyn y mae’n rhaid i unrhyw gais porthladd rhydd ei sicrhau.
A wnaiff y Gweinidog ildio ar y pwynt hwnnw?
Gwnaf.
Weinidog, diolch am ildio, gan fod perygl y gall y ddadl hon droi'n un begynol fel bod rhywun yn gyfan gwbl o blaid neu'n gyfan gwbl yn erbyn porthladdoedd rhydd. Ond mewn gwirionedd, mae'r dull pragmatig o weithio gyda'r dec o gardiau sy'n cael ei ddelio i ni a gwneud hynny mewn ffordd bragmatig, rhwng un Llywodraeth a'r llall ac ati, yn iawn, dyma'r ffordd iawn i fynd, ond mae'n rhaid inni warchod yn erbyn y syniad fod pawb yn elwa yma. Oherwydd y peth gwaethaf i mi yn y rhanbarth gweithgynhyrchu mawr rydych wedi sôn amdano ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw ein bod wedi gweld rhywfaint o hynny'n cael ei sugno ymaith i ardal porthladd rhydd a cholli swyddi o ardaloedd lle gellir cerdded i'r gwaith, rhan o'r economi sylfaenol, swyddi yn y Cymoedd ac ati. Felly, os yw hyn yn mynd i weithio, mae angen i Lywodraeth Cymru fynd ati'n weithredol i ddweud wrth Lywodraeth y DU, 'Y ffordd y bydd hyn yn gweithio, er mwyn cadw swyddi mewn ardaloedd, yw fel hyn, ac nid rhyddid i bawb wneud fel y myn.'
Credaf ei bod yn deg dweud, os edrychwch ar y rhaglen porthladdoedd rhydd yn Lloegr, ei bod yn wahanol i’r un sydd gennym yng Nghymru. Mae'r paramedrau ar gyfer y ceisiadau'n wahanol—mae hynny oherwydd inni gael sgwrs synhwyrol yn y pen draw rhwng y ddwy Lywodraeth. Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd Samuel Kurtz yn gynharach am y ffaith bod Llywodraeth Cymru a’r DU wedi cydweithio. Nid oedd hynny heb ei anawsterau. Yn y pen draw, fe lwyddwyd i gael yr un cynnig gan Drysorlys y DU. Fe gofiwch ar un adeg y dywedwyd wrthym y byddai Cymru'n cael hanner arian y porthladdoedd rhydd eraill. Fe wnaethom hefyd sicrhau cytundeb ar ein blaenoriaethau—ymrwymiad i'r gofyniad i gais fodloni gofynion nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac i fodloni ein gofynion ar waith teg hefyd. Ni fyddai’r pethau hynny wedi bod yno pe na bai Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o'r broses o ddod i gytundeb pragmatig ar gyfaddawd y gallwn fyw gydag ef.
Rydym yn ceisio sicrhau nawr fod y gystadleuaeth yn cyrraedd pen draw. Y dyddiad cau ar gyfer y cynigion oedd 24 Tachwedd y llynedd. Fel y nodwyd, daeth tri chais i law. Mae fy swyddogion yn y broses o asesu’r ceisiadau hynny ar y cyd â swyddogion Llywodraeth y DU. Felly, fel y rhagwelais wrth gynnig y ddadl hon, ni allaf wneud sylw ar fanylion penodol unrhyw gynnig, er mawr syndod i neb. Gobeithiwn allu cyhoeddi’r canlyniad y gwanwyn hwn. Felly, ni ddylai gymryd llawer mwy o amser.
Dylwn ddweud, serch hynny, ac mae hyn yn rhan o'r rheswm pam fod gwelliant gan y Llywodraeth sy'n ceisio newid pwynt 3, sef, os oes mwy nag un porthladd rhydd, bydd angen i Drysorlys y DU ddarparu'r adnoddau ariannol. Dylai fod yn wir o hyd na ddylid cyflwyno porthladd rhydd yng Nghymru gyda phwerau datganoledig lle byddai angen inni hepgor trethi datganoledig gyda setliad llai gan Drysorlys y DU nag unrhyw borthladd rhydd yn unman arall. Ac felly, mae her yn hynny ynghylch y ceisiadau eu hunain. Ac os oes mwy nag un cais yn sefyll allan, bydd angen i Drysorlys y DU weithredu i wireddu hynny.
Dylwn hefyd nodi'r pwynt hwn yn glir: nid porthladdoedd rhydd yw'r unig gyfleoedd buddsoddi er mwyn sicrhau swyddi da, cynaliadwy mewn perthynas â'n porthladdoedd yng Nghymru. Bydd yr Aelodau’n cofio imi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd ychydig wythnosau’n ôl yn unig, gan wneud datganiad llafar ar ein blaenoriaethau economaidd a rhai o’r prosiectau sydd ar waith gennym ar y cyd â Llywodraeth y DU. Ceir manteision gwirioneddol pan fo Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’i gilydd, gyda phartneriaeth sy’n seiliedig ar barch cydradd, lle mae Llywodraeth y DU yn cyflawni ei chyfrifoldebau yn unol â’r setliad datganoli, nid ar ei draul. Mae'n anffodus nad yw'r dull gweithredu hwn wedi'i ymestyn i raglenni a pholisïau eraill, megis y gronfa ffyniant gyffredin a'r gronfa ffyniant bro.
Yn fy natganiad llafar blaenorol, nodais ein cynllun hirdymor ar gyfer twf economaidd sefydlog sy’n canolbwyntio ar y dyfodol yn erbyn rhagolygon economaidd cyffredinol sy’n gwaethygu, a’r prif achosion am hynny yw cyfuniad gwenwynig o Brexit, tanfuddsoddiad a’r difrod a achoswyd gan gyllideb fach yr hydref diwethaf. Roeddwn yn ddiolchgar i Tom Giffard am ei egwyl gomedi. Nid wyf yn rhannu barn Liz Truss ynglŷn â'r gynghrair wrth-dwf, nac yn wir ei bod wedi syrthio i fagl cynllwyn asgell chwith, yn hytrach nag ymateb trychinebus gan y farchnad, a’r dynion mewn siwtiau llwyd o bwyllgor 1922 yn ymweld â hi i ddweud wrthi fod ei hamser ar ben.
Fodd bynnag, mae ei hamser byr wedi achosi niwed gwirioneddol a pharhaol i ddeiliaid morgeisi, darpar brynwyr tai, a buddsoddiad busnes. Rydym yn dal i fyw gyda chanlyniadau ei dewisiadau. Mae’r Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi gwneud ail ragolwg yn ddiweddar a nodai mai’r DU fydd yr unig economi fawr i grebachu yn 2023—rhagolwg ar gyfer y DU sy'n debyg iawn i un Banc Lloegr. Mae asesiad llwm y banc na all economi'r DU dyfu mwy nag 1 y cant y flwyddyn heb gynhyrchu chwyddiant yn peri llawn cymaint o bryder.
Wrth ymateb i’r cynnig heddiw, hoffwn ailadrodd mai’r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd i fywiogi economi’r DU yn ei chyfanrwydd yw cyfeiriad economaidd cydlynol ar gyfer adferiad a thwf, un sy’n seiliedig ar gryfderau a dewisiadau strategol pob un o'r gwledydd cyfansoddol, ac un sy’n parchu datganoli a mandad uniongyrchol y Senedd hon a Llywodraeth Cymru. Yng Nghymru, mae gennym gynllun, a’n cenhadaeth economaidd yw ein ffocws o hyd ar gyfer cenedl wyrddach, fwy llewyrchus a mwy cyfartal. Gofynnaf i’r Aelodau gefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru yn y ddadl heddiw.
Galwaf ar Sam Rowlands i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud ei bod yn bleser gallu cloi dadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ar borthladdoedd rhydd, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar? Fel yr amlinellwyd gan Paul Davies wrth agor y ddadl heddiw ac fel y nodwyd ym mhwynt 1 ein cynnig, mae gan borthladdoedd rhydd rôl i'w chwarae yn hybu economi Cymru. Fel y mae'r Gweinidog newydd ei grybwyll, yn sicr, nid ydynt yn ateb i bob dim, ond mae ganddynt rôl bwysig i'w chwarae wrth helpu ein heconomi i symud ymlaen. Rydym wedi dweud yn glir ar y meinciau hyn heddiw fel Ceidwadwyr ein bod yn cydnabod y cyfleoedd sylweddol a ddaw yn sgil porthladdoedd rhydd, ac mae hyn yn cynnwys y buddsoddiad, swyddi o ansawdd uchel, ac adfywio. Roeddwn yn siomedig i glywed na chafwyd lefel debyg o gydnabyddiaeth gan feinciau eraill yn y Siambr yma heddiw, oherwydd fel y nododd Paul Davies wrth agor, mae polisi porthladdoedd rhydd yn darparu buddsoddiad, masnach a mwy o swyddi ledled Cymru, i sicrhau bod busnesau newydd gwyrdd ac arloesol sy'n tyfu'n gyflym yn dod i gymryd lle diwydiannau ddoe.
Yn y ddadl heddiw, clywsom rywfaint o sinigiaeth ac amheuaeth gan Luke Fletcher ynghylch porthladdoedd rhydd, a oedd i'w weld yn groes i’r cais gan gyngor sir Ynys Môn, cyngor Plaid Cymru yno, ac wrth gwrs, yn groes i gyd-aelodau o Blaid Cymru yng ngogledd Cymru, sy'n frwd eu cefnogaeth i rai o'r ceisiadau. Clywsom hefyd gan Natasha Asghar am y statws gwirioneddol sydd gan borthladdoedd rhydd i ddenu gweithgarwch masnach a gweithgynhyrchu newydd, rhywbeth roedd Sam Kurtz yn awyddus i’w ddisgrifio fel masnach newydd, busnesau newydd a swyddi newydd y gellir eu creu drwy'r rhain. Tynnodd nifer o'r Aelodau sylw at y mannau lle mae porthladdoedd rhydd eisoes ar waith yn y DU. Rydym yn gweld miloedd o'r swyddi newydd medrus hynny'n cael eu creu, gyda buddsoddiad gan y sector cyhoeddus a'r sector preifat.
Yr hyn sydd wedi bod yn amlwg heddiw, wrth gwrs, yw Aelodau’n ceisio tynnu sylw at y porthladdoedd rhydd yn eu hardaloedd hwy. Wrth gwrs, rwy'n awyddus iawn i dynnu sylw ac i atgoffa Aelodau o'r cais am borthladd rhydd yn Ynys Môn, ond fe soniwn fwy am hynny mewn eiliad, gan i fy nghyd-Aelodau—Samuel Kurtz, Paul Davies, Tom Giffard ac Altaf Hussain—dynnu sylw at gais y porthladd rhydd Celtaidd, sy'n cynnig creu coridor arloesi a buddsoddi gwyrdd gyda safleoedd ym Mhort Talbot ac yn Aberdaugleddau, gyda chyngor sir Benfro yn credu y bydd y datblygiadau ynni glân arfaethedig, terfynellau tanwydd, gorsaf ynni ac arloesedd tanwydd hydrogen oll yn ffynnu. Mae rhai geiriau anodd ei dweud yno. Ond yn anffodus, nid oedd yn ymddangos bod gan Joyce Watson yr un lefel o frwdfrydedd dros y cais hwnnw, a oedd yn siomedig i'w glywed o'r cyfraniad hwnnw. Tynnodd Natasha Asghar sylw, hefyd, at gais Cyngor Dinas Casnewydd, a lansiodd y cais porthladd rhydd ar gyfer Maes Awyr Caerdydd, a fyddai’n arwain at borthladdoedd rhydd aml-safle yn y de-ddwyrain i gwmpasu nifer o safleoedd cyflogaeth nad ydynt wedi’u datblygu’n ddigonol ar draws prifddinas-ranbarth Caerdydd.
A’r trydydd cais porthladd rhydd y tynnwyd sylw ato, fe ddywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn cefnogi cais porthladd rhydd Caergybi yn llwyr, sydd hefyd wedi cael cryn dipyn o gefnogaeth gan Gyngor Sir Ynys Môn, Stena Line, busnesau eraill, ac wrth gwrs, cefnogaeth gyson a chlir gan AS Ynys Môn, Virginia Crosbie. Fel y gwyddom, mae gan Ynys Môn nodweddion a chyfleoedd unigryw sy’n ei wneud yn lle hynod ddeniadol ar gyfer sefydlu porthladd rhydd newydd. Caiff hanes masnachu balch yr ardal ei ategu gan seilwaith porthladd o'r radd flaenaf a'r potensial i ddod yn uwch bŵer ynni gwyrdd. [Torri ar draws.] A oeddech am wneud ymyriad, Mike?
Na, nid wyf yn cael—[Anghlywadwy.] Dim ond gofyn a yw AS Ynys Môn—
Ai ymyriad yw hwnnw, Ddirprwy Lywydd? [Chwerthin.]
Rwy'n credu y gwnawn ni barhau. Sam, parhewch.
Diolch yn fawr iawn. Yn ogystal â hyn, mae dadansoddiad a gyflawnwyd gan y Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes yn dangos y gallai porthladd rhydd Ynys Môn ddod â hyd at 13,000 o swyddi i ogledd Cymru dros gyfnod o 15 mlynedd. Gallai hefyd godi cynnyrch domestig gros ar draws y DU erbyn 2030. Hefyd, mae Stena Line, fel y soniwyd eisoes, yn dweud y byddai statws porthladd rhydd yn symleiddio'r gwaith o symud lorïau drwy'r porthladd yno hefyd.
Pwynt olaf fy nghyfraniad heddiw yr hoffwn orffen gydag ef, Ddirprwy Lywydd, yw ein hatgoffa na ellir tanbrisio manteision porthladd rhydd i ddod â swyddi a buddsoddiad mawr eu hangen i mewn i rai o ardaloedd Cymru sydd fwyaf o angen gweld y twf hwnnw. Mae hynny'n rhywbeth roedd Tom Giffard yn awyddus i dynnu sylw ato. I ardaloedd Cymru sydd fwyaf o angen y twf hwnnw, bydd porthladdoedd rhydd yn gallu ei gynnig. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf?
A wnewch chi ildio?
Gwnaf, yn sicr.
Pwynt byr yn unig, oherwydd nid yw'r gwahaniaethau y bûm yn eu mynegi heddiw yn ymwneud ag unrhyw un o'r ceisiadau unigol, ond yn hytrach â'r anfanteision y mae astudiaethau achos wedi'u dangos gyda phorthladdoedd rhydd ac ardaloedd menter—mae hynny yn eich gwelliant mewn gwirionedd. Felly, nid ydych wedi cydnabod o gwbl fod yna anfanteision nac wedi mynd i'r afael â sut rydym yn eu hosgoi.
Gyda phob cynnig, mae pethau anodd i ymdrin â hwy yn fy marn i, ond nid yw'r cyfleoedd yma'n cael eu cydnabod gan y meinciau ar ochr arall i'r Siambr ychwaith—nid yw'r cyfleoedd ar gyfer creu swyddi'n cael eu cydnabod, nid yw'r swyddi newydd, y busnes newydd a'r arloesedd newydd yn cael eu cydnabod ar yr un lefel neu'n cael eu bachu'n frwdfrydig. Os na wnawn ni hynny yma yng Nghymru, rwy'n tybio mai'r risg yw y bydd y swyddi hynny'n mynd i fannau eraill ar draws y Deyrnas Unedig neu rywle arall y tu allan i'r Deyrnas Unedig yn gyfan gwbl.
Fel y mynegwyd yn huawdl ac yn angerddol gan Aelodau ar draws y Siambr, ac yn wir ym mhob man ledled Cymru, bydd y ceisiadau hyn yn helpu i drawsnewid ein cymunedau lleol, ac rwy'n gwerthfawrogi ymateb y Gweinidog yn amlinellu ei rôl yn darparu cefnogaeth bragmatig lle bo hynny'n bosibl drwy hyn. Ac mae'n hanfodol, wrth gwrs, fod y gefnogaeth honno'n parhau, gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cydweithio gystal â phosibl i ddarparu'r porthladdoedd rhydd hynny i ni yma yng Nghymru, gan wneud y gorau o'r cyfleoedd sy'n deillio o'r ceisiadau hyn. Felly, diolch i'r holl Aelodau a'r Gweinidog am ymateb i'r ddadl heddiw, ac rwy'n galw ar bob Aelod i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig heb ei ddiwygio. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.