– Senedd Cymru ar 21 Mawrth 2023.
Dadl ar adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru 2021-22. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i wneud y cynnig. Mick Antoniw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig.
Dwi'n falch o agor y ddadl hon ar adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru 2021-22, adroddiad blynyddol olaf Syr Wyn Williams fel llywydd. Cyn sôn am yr adroddiad blynyddol, dwi'n siŵr y bydd yr Aelodau eisiau ymuno â mi yn diolch i Syr Wyn am ei gyfraniad sylweddol fel llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Syr Wyn oedd y cyntaf i ddal y swydd, a gafodd ei chreu gan Ddeddf Cymru 2017. Mae'n ymddeol o'r rôl ar ddiwedd mis Mawrth. Mae ef wedi chwarae rhan hanfodol yn cymryd y grŵp o dribiwnlysoedd ar wahân oedd ddim wedi eu cadw nôl i awdurdodaeth Cymru a Lloegr, ac a gafodd eu grwpio gyda'i gilydd fel tribiwnlysoedd Cymru. Drwy ei arweiniad ef, cafodd system o dribiwnlysoedd Cymreig ei chreu gydag annibyniaeth farnwrol gryf. Byddaf yn parhau yn Saesneg nawr.
Dirprwy Lywydd, mae pob rhan o'r system gyfiawnder ar draws y Deyrnas Unedig wedi wynebu heriau sylweddol iawn yn sgil pandemig y coronafeirws, ac nid yw tribiwnlysoedd Cymru wedi bod yn ddim gwahanol. Caniataodd y newid cyflym i ffyrdd o weithio o bell i dribiwnlysoedd Cymru weithredu'n llawn drwy'r pandemig, ac mae'r defnydd parhaus o'r ffyrdd hynny o weithio o bell, gan wrthod y temtasiwn i ruthro yn ôl i achosion wyneb yn wyneb yn unig, wedi golygu nad yw oediadau ac ôl-groniadau yn gysylltiedig â'r pandemig wedi digwydd yma. Mae hyn er clod enfawr i'r rhai sy'n arwain ein tribiwnlysoedd ac mae'n adlewyrchu y gall penderfyniadau a wneir yng Nghymru yng ngoleuni anghenion Cymru gynnal mynediad pobl at gyfiawnder yn briodol.
Mae hynny'n dod a mi at y mater o ddiwygio. Felly, er ei fod er clod i bawb sy'n ymwneud â'n tribiwnlysoedd eu bod nhw wedi gallu gweithredu'n llwyddiannus, byddai pethau wedi bod yn llawer mwy effeithlon pe bai gennym ni strwythur tribiwnlysoedd cydlynol â rheolau a gweithdrefnau wedi'u symleiddio'n briodol. Bellach, mae gennym ni argymhellion ar gyfer diwygio gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, yr oedd Syr Wyn wedi gwasanaethu arno fel comisiynydd, wrth gwrs, a chan Gomisiwn y Gyfraith, y bydd yr Aelodau yn gyfarwydd â'i adroddiad.
Yn ei adroddiad blynyddol, mae Syr Wyn yn ei gwneud hi'n eglur iawn, wrth fod yn ofalus i beidio â chrwydro i fyd dewisiadau gwleidyddol, nid yn unig bod diwygio ein tribiwnlysoedd yn ddymunol, ond yn angenrheidiol. Mae un o'r argymhellion a wnaed gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, a hefyd gan Gomisiwn y Gyfraith, yn ymwneud ag annibyniaeth strwythurol uned Tribiwnlysoedd Cymru. Nid yn unig y mae hwn yn fater sydd wedi bod yn thema gyson ym mhob un o adroddiadau blynyddol y llywydd, mae'n un y mae'r llywydd wedi ei ailadrodd yn bersonol gerbron y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Y tro diwethaf i'r llywydd ymddangos gerbron y pwyllgor oedd ar y trydydd ar ddeg o'r mis hwn, pan ddywedodd nid yn unig bod yn rhaid i gyfiawnder gael ei sicrhau ond bod yn rhaid gweld bod cyfiawnder yn cael ei sicrhau trwy wneud y gwaith o weinyddu cyfiawnder sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan uned Tribiwnlysoedd Cymru yn annibynnol ar y Llywodraeth, ac mae hwn yn safbwynt nad wyf i'n anghytuno ag ef. Fel y mae ein system o dribiwnlysoedd yng Nghymru o dan Ddeddf Cymru 2017 wedi datblygu, felly hefyd y mae swyddogaeth uned Tribiwnlysoedd Cymru o ran eu gweinyddu.
Wrth gwrs, mae Comisiwn y Gyfraith wedi darparu cyfres o argymhellion, a nododd ddiwygiadau strwythurol sy'n ofynnol i foderneiddio ein system tribiwnlysoedd. Yn 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru', fe wnes i ein bwriad i ddeddfu i greu system dribiwnlysoedd integredig yn eglur. Mae ailfodelu'r broses o weinyddu cyfiawnder yn rhan hanfodol o'n taith tuag at adeiladu seilwaith cyfiawnder i Gymru sy'n gallu rheoli'r ymwahaniad cynyddol y gyfraith oddi wrth Loegr. Mae'n briodol, wrth ddatblygu cynigion deddfwriaethol, ein bod ni'n ystyried yr holl opsiynau ar gyfer annibyniaeth system tribiwnlysoedd newydd Cymru, ac rwyf i wedi dweud o'r blaen, ac fe wnaf i ailadrodd eto: annibyniaeth farnwrol yw'r egwyddor ganllaw ar gyfer y ffordd y mae sefydliadau barnwrol yn cael eu cefnogi yng Nghymru ac y byddan nhw'n parhau i gael eu cefnogi, ac ni fydd hyn yn cael ei golli yn y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ac yn paratoi i ddiwygio ein tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i'r gwaith hwn, a byddaf yn cyflwyno cynlluniau maes o law trwy gyhoeddi Papur Gwyn yn ystod y misoedd nesaf.
Bydd yr adroddiad blynyddol nesaf y byddwn ni'n ei dderbyn, wrth gwrs, gan lywydd newydd Tribiwnlysoedd Cymru—
A wnaiff y Gweinidog ildio?
Gwnaf, yn sicr.
Rwy'n gwrando ar eich dadleuon ar y mater hwn o ddiwygio, ac ni fydd yn syndod i chi fy mod i'n cytuno'n fawr iawn â chi. Mae o ddiddordeb i mi felly bod y Llywodraeth yn gofyn i ni bleidleisio yn erbyn gwelliant y Ceidwadwyr ar y mater hwn yn y bleidlais y prynhawn yma, ac mae'n ymddangos i mi bod yr hyn y mae gwelliant y Ceidwadwyr yn ei wneud yn debyg iawn i'r hyn yr ydych chi newydd ei ddisgrifio, felly byddai gen i ddiddordeb clywed pam na fyddech chi eisiau cefnogi'r gwelliant hwnnw.
Wel, fe wnaf i ddod at hynny. Mae'n un o'r eironïau hynny fy mod i'n falch iawn bod gwelliant, oherwydd mae'n dangos bod rhywun wedi darllen y papur a'i bwysigrwydd i'r Senedd hon, ac mae hefyd yn adlewyrchu un o'r safbwyntiau o ran annibyniaeth. Rwy'n credu mai'r pwynt yw, os ydym ni'n mynd i gael Papur Gwyn ac rydym ni'n mynd i gael ymgynghoriad, wrth gwrs mae modelau eraill o sut y bydd annibyniaeth y tribiwnlysoedd yn gweithredu, fy unig safbwynt yw, er fy mod i'n amau efallai y byddwn ni'n dod yn ôl at hynny, ei fod yn gynamserol ar hyn o bryd, rwy'n credu, i fwrw ein coelbren a dweud mai dyma'r system benodol. Efallai'n wir mai dyma fydd y system, ond mae systemau eraill, ac rwy'n credu bod angen i ni fynd trwy broses o ystyried y rheini'n briodol cyn i ni ei chyrraedd, yn enwedig mewn deddfwriaeth o'r math hwn, sy'n diwygio rhan o'r system farnwrol.
Felly, fel yr oeddwn i'n ei ddweud, rwyf i wrth fy modd mai Syr Gary Hickinbottom fydd llywydd newydd y tribiwnlysoedd, ac, wrth gwrs, mae ganddo brofiad sylweddol nid yn unig yn y llysoedd yng Nghymru, ond hefyd yn y Llys Apêl, ac edrychaf ymlaen at weithio ag ef wrth i ni symud ymlaen tuag at wasanaeth tribiwnlysoedd diwygiedig.
I gloi, Dirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio y gwnaiff yr Aelodau hefyd ymuno â mi i ddiolch i lywydd Tribiwnlysoedd Cymru am ei adroddiad blynyddol, ac, wrth gwrs, rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn dymuno'n dda iddo ar gyfer ei ymddeoliad—ei ymddeoliad haeddiannol.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Mark Isherwood i gynnig y gwelliant, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Diolch yn fawr. Wrth holi'r Cwnsler Cyffredinol yma ym mis Medi 2021, gofynnais iddo am ei ymateb cychwynnol i gynigion ym mhapur ymgynghori Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru, yn benodol, i ddiwygio uned Tribiwnlysoedd Cymru, y rhan o Lywodraeth Cymru sy'n gweinyddu'r rhan fwyaf o dribiwnlysoedd datganoledig ar hyn o bryd, i fod yn adran anweinidogol.
Holais y Cwnsler Cyffredinol yma ym mis Gorffennaf y llynedd ar adroddiad terfynol Comisiwn y Gyfraith ym mis Rhagfyr 2021 ar dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru, a oedd yn cynnwys,
'rydym wedi ein hargyhoeddi mai model yr adran anweinidogol yw’r un y dylid ei fabwysiadu ar gyfer gweinyddu’r system tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol', ac a ddywedodd:
'Dylai’r gwasanaeth tribiwnlysoedd fod yn annibynnol yn weithredol ar Lywodraeth Cymru'.
Nodais hefyd, er nad oes athrawiaeth absoliwt o wahanu pwerau yn y DU, mae'r cysyniad o wahanu pwerau rhwng y ddeddfwrfa—h.y. y Senedd—Gweithrediaeth—h.y. Llywodraeth Cymru—a'r farnwriaeth, wedi bod yn berthnasol ers tro yn y DU ac ar draws y DU i atal canolbwyntio grym trwy ddarparu mesurau cadw cydbwysedd. A gofynnais i'r Cwnsler Cyffredinol:
'Pa gasgliadau y daethoch iddynt erbyn hyn ar ôl ystyried canfyddiadau Comisiwn y Gyfraith mewn perthynas â'r pwynt penodol hwn?'
Yn ei ateb, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol,
'mae'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu codi yn gwbl sylfaenol, sef bod yn rhaid i'r rhan honno o'r system gyfiawnder fod yn annibynnol ar y Llywodraeth...mae'n rhaid iddo fod yn fodel sy'n sicrhau gweithrediad annibynnol uned Tribiwnlysoedd Cymru'.
Gwelir hyn ar waith yn Yr Alban, lle mae barnwr yn cadeirio bwrdd yr adran anweinidogol yno.
Yn yr adroddiad yr ydym ni'n ei drafod heddiw, mae llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, Syr Wyn Williams, yn tynnu sylw at ei gefnogaeth i naw argymhelliad mawr a wnaed gan y comisiwn, gan gynnwys y dylai gwasanaeth tribiwnlysoedd i Gymru gael ei greu fel adran anweinidogol, ac y dylai Gweinidogion Cymru ac eraill sy'n gyfrifol am weinyddu cyfiawnder yng Nghymru fod yn destun dyletswydd statudol i gynnal annibyniaeth tribiwnlysoedd Cymru. Ychwanegodd, fodd bynnag, er bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhoi llawer mwy o annibyniaeth i uned Tribiwnlysoedd Cymru, nid yw wedi ymrwymo i greu adran anweinidogol i weinyddu tribiwnlysoedd Cymru. Fel y dywedodd wrth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, mae'n teimlo bod dinasyddion yn mynd yn nerfus pan fo'n ymddangos bod gormod o gysylltiad rhwng y Llywodraeth a'r farnwriaeth, felly bydd angen gwneud uned Tribiwnlysoedd Cymru yn annibynnol. Rwy'n cynnig gwelliant 1 yn unol â hynny, gan alw am fwy o annibyniaeth i uned Tribiwnlysoedd Cymru trwy greu adran anweinidogol i weinyddu uned Tribiwnlysoedd Cymru.
Hoffwn gloi trwy ddyfynnu datganiad Syr Wyn nad yw rôl Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru
'yn un fewnblyg ac ni ddylai fod...rwyf wedi cael budd mawr o barodrwydd cydweithwyr yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban i rannu agweddau ar eu ffyrdd o weithio gyda mi' a thrwy ddiolch iddo—i orffen—am ei chwe blynedd yn y swydd hon, a dymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol yn ei fywyd wrth iddo symud ymlaen. Diolch.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Hoffwn ddiolch hefyd i Lywodraeth Cymru am drefnu'r ddadl mewn ffordd sy’n caniatáu i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ystyried yr adroddiad blynyddol.
Ac rwy'n ymuno, ar y cychwyn, â'r Cwnsler Cyffredinol ac eraill i dalu teyrnged i gyfraniad Syr Wyn, llywydd Tribiwnlysoedd Cymru dros y chwe blynedd diwethaf. Ac yn wir, fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei ddweud, daeth i'n pwyllgor ni ddim ond wythnos i ddydd Llun diwethaf—ie, wythnos yn ôl, y dydd Llun sydd newydd fynd heibio—ac fe wnaethom ni drafod ag ef mewn cryn fanylder rhai o'r materion allweddol sy'n codi o'i adroddiad. Ac rwy'n cytuno â sylwadau'r Cwnsler Cyffredinol yno: un o'r pethau sy'n eithaf nodedig yn yr adroddiad hwn a'i waith blaenorol yw'r annibyniaeth y mae wedi ei rhoi i'r swydd. A hefyd mae'n rhaid i mi ddweud y byddem ni ar y pwyllgor yn talu teyrnged i'r rhai sy'n cymryd rhan yng ngwaith y tribiwnlysoedd yng Nghymru hefyd. Mae ei gyfnod yn y swydd yn dod i ben y mis hwn ac rydym ni, yn wir, yn dymuno'n dda iawn iddo, ac yn diolch iddo am ei ymgysylltiad â'r pwyllgor.
Cawsom drafodaeth gyda Syr Wyn ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygiadau i dribiwnlysoedd Cymru. Dywedodd wrthym, yn ei ffordd arferol, mewn ffordd ddeallus a chynnil iawn hefyd—pwysleisiodd i ni, yn ei farn ef, fanteision adran anweinidogol i weinyddu'r tribiwnlysoedd, pwynt a godwyd gan Mark ac eraill, ac Alun funud yn ôl, y pwysigrwydd bod uned Tribiwnlysoedd Cymru yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru a manteision creu tribiwnlys apêl i Gymru i'r bobl hynny sy'n ceisio cael mynediad at gyfiawnder.
Nawr, rwy'n credu i mi glywed y Gweinidog yn cadarnhau—rwy'n credu—y byddai'r opsiynau hyn yno yn rhan o'r ymgynghoriad, ond tybed a allai gadarnhau y bydd y Papur Gwyn a'r ymgynghoriad yn ymdrin mewn gwirionedd ag awgrymiadau Syr Wyn, os yw'r Cwnsler Cyffredinol yn dweud nad yw'n eu cadarnhau nac yn eu diystyru ar hyn o bryd, ond yn derbyn y ddadl dros annibyniaeth. Rwy'n credu bod Syr Wyn yn eithaf cynnil yn yr hyn a ddywedodd. Er iddo gefnogi'n llwyr y farn ei fod yn gweld mantais cael adran anweinidogol ar gyfer annibyniaeth ychwanegol, fe wnaeth gydnabod bod ffyrdd eraill y gallech chi ei wneud hefyd. Felly, rwy'n credu y byddem ni'n chwilio am y sicrwydd bod yr holl opsiynau hynny yn mynd i fod yn yr ymgynghoriad. Nodaf, Cwnsler Cyffredinol, eich bod wedi dweud, o ran yr egwyddorion, egwyddorion canllaw Llywodraeth Cymru ar hyn, bod annibyniaeth farnwrol yn gwbl hanfodol.
Byddwn yn ddiolchgar, hefyd, o glywed eich disgwyliadau, Cwnsler Cyffredinol, ynghylch pryd y mae'r ddeddfwriaeth i ddiwygio tribiwnlysoedd Cymru yn debygol o gael ei chyflwyno, a tybed a allwch chi ymrwymo i'w chyflwyno yn y Senedd hon. Os ydym ni'n cydnabod ei bod hi'n bwysig gwella mynediad pobl at gyfiawnder, a fyddwn ni'n ei weld yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach?
Yn ystod ein sesiwn, clywsom hefyd asesiad Syr Wyn ynglŷn â pham roedd rhai o dribiwnlysoedd Cymru wedi derbyn cynnydd sylweddol i nifer y ceisiadau yn ddiweddar, tra bod eraill wedi gweld gostyngiad sylweddol. Er na rannodd â ni ei obaith nad oedd y gostyngiadau hyn yn awgrymu efallai nad yw pobl yn gallu cael mynediad at gyfiawnder—gallai fod rhesymau eraill—edrychwn ymlaen at glywed gan olynydd Syr Wyn ynghylch pa un a oes unrhyw berygl i'r ffigurau hyn droi'n duedd, a pha gamau fydd yn cael eu cymryd mewn ymateb wedyn.
Dywedodd Syr Wyn wrthym hefyd am rai o'r heriau a wynebir yn penodi aelodau o dribiwnlysoedd Cymru, a rhannodd ei farn gref iawn y gallai canolfan tribiwnlysoedd, wedi'i lleoli yng Nghymru, a llai ddod â'r bobl hyn at ei gilydd a rhoi'r màs critigol hwnnw, fod o gymorth mawr i helpu i oresgyn rhai o'r heriau hyn. Felly, byddwn yn croesawu safbwyntiau'r Cwnsler Cyffredinol ar hynny.
Clywsom hefyd am y gostyngiad yn y defnydd o'r Gymraeg yn nhribiwnlysoedd Cymru dros y ddwy flynedd diwethaf, sy'n peri pryder. Byddwn yn cadw llygaid barcud ar y mater hwn pan fyddwn yn cynnal sesiynau yn y dyfodol gydag olynydd Syr Wyn.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Syr Wyn eto am ei waith fel llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, ac am ei barodrwydd i ymddangos gerbron fy mhwyllgor. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am y ddadl hon heddiw. Roeddwn i'n dirprwyo ar y pwyllgor pan drafodwyd yr adroddiad, a hoffwn hefyd ategu ein diolch ni i Syr Wyn Williams am ei gyfraniad yn y rôl bwysig hon.
Yn sicr, mae'n glod iddo ef a'i dîm eu bod nhw wedi cyflawni eu cyfrifoldebau gyda'r proffesiynoldeb a'r diwydrwydd mwyaf drwy gydol heriau digynsail y pandemig. Rydym wrth gwrs yn dymuno'n dda iawn i'w olynydd, Syr Gary Hickinbottom, a fydd yn ymgymryd â'r swydd ym mis Ebrill.
Ni wnaf i ailadrodd rhai o'r cwestiynau a ofynnwyd, ond rwy'n credu, o ran yr amserlenni, mae'n bwysig. Rydych chi wedi amlinellu heddiw yr ymrwymiad hwnnw o ran Papur Gwyn yn y misoedd nesaf, ond pe bai amserlen fwy penodol, rwy'n credu y byddai hynny'n cael ei groesawu.
Fe wnaeth Huw Irranca gyfeirio at y defnydd o'r iaith Gymraeg, ac yn sicr mi ddaeth hynny drwodd yn gryf iawn. Mae o ddim ond o ran materion sy'n ymwneud efo'r Gymraeg ar y funud, a dwi'n meddwl bod normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg a sicrhau bod pawb yn gwybod bod yr opsiwn o ran y Gymraeg yn rhywbeth sicr.
Mater arall oedd yn amlwg wrth inni drafod hefyd oedd o ran y gyllideb yn mynd rhagddi, bod yna ansicrwydd o ran y gostyngiad sydd wedi bod yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod, ond hefyd ei bod yn aneglur ar y funud beth fydd y costau yn y dyfodol. Yn amlwg, mae wedi gallu cynnal y gwrandawiadau yn rhithiol wedi costio llai, ond dydyn ni ddim yn gwybod, wrth i bethau fynd ymlaen, beth fydd y galw o ran hynny. Mi oedd o'n awyddus iawn i bwysleisio efo ni, yn amlwg, dydyn ni ddim yn gwybod chwaith faint o achosion sydd ddim wedi dod gerbron yn ystod COVID, a bod yn rhaid inni fod yn sicr, felly, fod y gyllideb yn mynd i fod yn ddigonol er mwyn i'r gwaith fynd rhagddo. Felly, roeddwn i jest eisiau adlewyrchu ar hynny hefyd.
Yn amlwg, o ran y Papur Gwyn, mae o'n bwysig iawn ein bod ni'n gweld hwn yn mynd rhagddo.
Yn amlwg iawn, roedd Syr Wyn yn eglur yn ei gefnogaeth i argymhellion Comisiwn y Gyfraith, a fyddai'n galluogi Tribiwnlysoedd Cymru i fod yn fwy ymatebol i'r dirwedd ddeddfwriaethol ddatganoledig, felly rwy'n credu bod angen i ni weld cynnydd yn hyn o beth.
Yn olaf, hoffwn fyfyrio ar gasgliad cyffredinol Comisiwn y Gyfraith, a ategwyd gan Syr Wyn yn ei adroddiad, sy'n nodi bod y trefniadau presennol ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru yn,
'gymhleth ac anghyson, ac mewn rhai achosion, anaddas i'w hymarfer', ac nad ydynt yn adlewyrchu cwmpas cymwyseddau'r Senedd yn ddigonol. Mae barn o'r fath, wrth gwrs, yn berthnasol i'r system gyfiawnder bresennol yn ei chyfanrwydd yng Nghymru, nad yw, fel y mae comisiwn Thomas a nifer o ysgolheigion cyfreithiol wedi ei gydnabod, yn addas i'r diben mwyach yn yr oes ddatganoledig. Rwy'n gobeithio, felly, y bydd yr adroddiad hwn yn hoelio sylw ar yr angen ehangach am ddatganoli pwerau cyfiawnder yn llawn yng Nghymru, i roi terfyn ar y sefyllfa niweidiol y mae ein cenedl yn ei chael ei hun ynddi ar hyn o bryd, o'i chymharu â gweddill y DU. Byddwn hefyd yn gobeithio y bydd yn sbarduno Aelodau Llafur yn arbennig i berswadio eu cydweithwyr yn San Steffan nad yw cynigion adroddiad Gordon Brown, sy'n wanhad sylweddol o safbwynt swyddogol Llywodraeth Cymru ar ddatganoli cyfiawnder, yn ddigon da.
Rwy'n credu bod y mynediad at bob math o gyfiawnder yn aruthrol o bwysig, ac mae'r materion y mae tribiwnlysoedd yn ymdrin â nhw yn amlwg yn gwbl hanfodol i'r unigolion dan sylw. Dyma ni eto ar ymyl miniog y system gyfiawnder. Wrth ddarllen yr adroddiad blynyddol hwn, roedd yn ddiddorol iawn darganfod bod llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn cael ei gyflwyno gan Senedd y DU, tra bod y gweision sifil sy'n gweinyddu'r tribiwnlysoedd yn uned o fewn Llywodraeth Cymru.
£4.2 miliwn yw'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn bresennol hon. A yw hynny'n dod allan o gyllideb Llywodraeth Cymru neu gyllideb Llywodraeth y DU? Mae'r rhain yn faterion pwysig wrth i ni benderfynu sut yr ydym ni'n mynd i ddatganoli plismona a chyfiawnder i Gymru, ac i sicrhau bod gennym ni drosglwyddiad didrafferth, gyda'r cyllid i fynd gyda nhw. Sylwais fod Syr Wyn Williams wedi cyfarfod â'r Arglwydd Wolfson yn 2022 ynghylch y bil hawliau arfaethedig ar y pryd, rhywbeth a fydd efallai neu ddim yn ailymddangos yn y niferoedd diweddaraf o Weinidogion sydd wedi meddu ar y swydd hon, ond, yn amlwg, rhywbeth yr ydym ni i gyd yn mynd i fod eisiau lleisio barn arno maes o law os bydd yn digwydd.
Hoffwn ganolbwyntio gweddill fy sylwadau ar y tribiwnlys adolygu iechyd meddwl, sef y pwysicaf o'r holl dribiwnlysoedd yn amlwg, o ystyried y niferoedd sy'n mynd drwyddo. Yn gyntaf oll, hoffwn longyfarch Syr Wyn am gasglu data cywir, oherwydd ni allwn wneud penderfyniadau priodol oni bai ein bod ni'n gwybod yn union beth rydym ni'n ymdrin ag ef ac, yn ddiddorol, ei esboniad o pam mae'r niferoedd yn 2019-20, o 1,900 a rhyw fymryn, wedi mynd i lawr i 1,291 ym mis Ebrill i fis Rhagfyr 2022. Yn amlwg, nid yw hynny'n flwyddyn lawn. Ond os yw'r fethodoleg a fabwysiadwyd o dorri a gludo gweithgarwch tribiwnlysoedd yn atal gwallau dynol wrth ddyblygu pethau, mae hynny'n bwysig dros ben.
Roeddwn i eisiau mynegi fy mhryder ynghylch yr uchelgais i benodi dau aelod cyflogedig llawn amser o'r tribiwnlys adolygu iechyd meddwl, ac mae'n siomedig darllen nad oedd yn bosibl gwneud penodiad neu benodiadau o'r fath oherwydd safon yr unigolion a ymgeisiodd—yn syml, nid oedd y sgiliau angenrheidiol ganddyn nhw. Felly, byddai'n ddefnyddiol cael gwybod gan y Cwnsler Cyffredinol tybed ai'r ffaith na chawsant eu hysbysebu yn ddigon eang oedd y rheswm, neu nad oedd y tâl cydnabyddiaeth yn ddigonol i adlewyrchu dyletswyddau trwm iawn unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r broses o benderfynu a ddylid amddifadu rhywun o'i ryddid, naill ai oherwydd y risg iddyn nhw eu hunain neu i eraill.
Hefyd, nodaf nad oedd yn bosibl ailbenodi aelod Cymraeg ei iaith profiadol iawn o'r tribiwnlys adolygu iechyd meddwl oherwydd ei hoed, dim ond oherwydd bod yr Arglwydd Ganghellor wedi methu ag ystyried cymal yn Neddf Pensiynau ac Ymddeoliadau Barwnol 1993, na chafodd ei drosglwyddo draw wedyn yn Neddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol 2022, sy'n dangos pam y mae angen dod a'r materion hyn ynghyd, wedi'u datganoli i Gymru, fel nad ydyn ni'n dod ar draws y fath sefyllfa eto. Yn amlwg, mae'r rhain yn faterion pwysig iawn sy'n cael eu trafod yma, ac rwy'n falch iawn bod yr adroddiad blynyddol hwn wedi cael ei gyflwyno y prynhawn yma.
Rydym ni'n aml yn trafod datganoli cyfiawnder yn y lle hwn, a byddwch yn clywed dadleuon yn dweud na allwn ni o bosibl gael awdurdodaeth gyfiawnder i Gymru, ond dyma ni. Heddiw mae gennym ni brawf bod awdurdodaeth fach i Gymru yng ngwasanaeth Tribiwnlysoedd Cymru sy'n ymdrin—fel y gwnaeth Jenny Rathbone ein hatgoffa ni—ag agweddau pwysig iawn ar fywyd bob dydd: iechyd meddwl; addysg; tai. Nawr, nid oes unrhyw gydlyniant o gwbl o fewn tribiwnlysoedd Cymru. Mae'r ffaith fod rhywfaint o gydlyniant erbyn hyn yn deillio o waith Syr Wyn, a hoffwn ailbwysleisio'r deyrnged a dalwyd iddo.
Un ddadl fawr o blaid datganoli cyfiawnder i Gymru yw ein bod ni'n gwneud yr hyn sydd gennym ni eisoes yn dda. Ni allaf ddweud y gallwn ni ddweud hynny am dribiwnlysoedd Cymru bob amser. Ailadroddaf yr hyn a ddywedodd Heledd Fychan: pwysigrwydd cyllideb briodol i dribiwnlysoedd Cymru yn y dyfodol. Er enghraifft, rydym ni'n aml yn beirniadu cyflwr llysoedd a thribiwnlysoedd yn y system a gadwyd yn ôl, ond y gwir amdani yw nad yw'r canolfannau o fewn tribiwnlysoedd Cymru yn dda iawn, a dydw i ddim hyd yn oed yn siŵr a oedd gennym ni rai canolfannau sefydlog ar gyfer rhai ardaloedd. Er enghraifft, roedd canolfan yn Nhŷ Southgate ers talwm, yma yng nghanol Caerdydd—yn gyfleus iawn ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus—ac mae honno bellach wedi cau. Gwn fod sôn am ddyfodol y ganolfan yng Nghasnewydd. Felly, hoffwn glywed, Cwnsler Cyffredinol, am yr hyn sy'n digwydd o ran canolfannau tribiwnlys Cymru.
Hoffwn glywed hefyd pryd ydych chi'n meddwl y byddwn ni'n cael tribiwnlys apêl yma yng Nghymru. Pryd fydd yn agor? Nid yn unig y bydd yn hanesyddol, ond hefyd bydd yn ei gwneud hi'n llawer haws i bobl wybod mwy am y system apelio, oherwydd mae'r cyfan yn blith draphlith ar hyn o bryd. Rwyf i o'r farn bod tribiwnlysoedd Cymru yn chwarae rhan hanfodol o ran mynediad at gyfiawnder, fel y soniodd Jenny Rathbone hefyd.
Does dim ffi gwrandawiad gydag achosion y tribiwnlysoedd; does dim angen cyfreithiwr arnoch chi ar gyfer achosion yn y tribiwnlysoedd. Mae wedi cael ei wneud fel ei fod yn rhwydd i bobl ei ddeall. Mae'n cael ei wneud mewn ffordd bod pobl yn cael eu cynghori lot. Mae'n lot llai adversarial na'r system llysoedd. Felly, beth yw cynlluniau'r Cwnsler Cyffredinol i ehangu hynny ac i'w wneud e hyd yn oed yn haws i bobl i ddod at dribiwnlysoedd Cymru?
Dim ond i gloi gyda'r pwynt annibyniaeth— ac rwy'n credu bod hyn yn bwysig—fel y dywedodd Syr Wyn Williams, mae'n rhaid gweld cyfiawnder yn cael ei weithredu. Mae uned Tribiwnlysoedd Cymru—fel y gwnaethoch chi sôn, ac fel y pwysleisiwyd ym mhob adroddiad blynyddol gan Syr Wyn—yn annibynnol, ond y ffaith amdani yw ei bod wedi'i lleoli ym Mharc Cathays, ym mhencadlys Llywodraeth Cymru, a allai fod yn barti mewn tribiwnlys. Pe bai hyn yn digwydd yn San Steffan, byddem ni'n protestio, a hynny'n gwbl briodol. Ni ddylai ddigwydd yng Nghymru, ac nid yw'n adlewyrchiad da o sut rydym ni'n gwneud pethau yma yng Nghymru. Felly, os nad adran anweinidogol, pa opsiynau eraill ydych chi'n eu hystyried, Cwnsler Cyffredinol? Diolch yn fawr.
Fel eraill yn y ddadl y prynhawn yma, hoffwn dalu fy nheyrnged fy hun i Syr Wyn Williams ar adeg ei ymddeoliad. Roedd yn braf gallu cael y sgwrs ag ef yr wythnos diwethaf yn y pwyllgor. Rwy'n credu weithiau ei fod yn dangos y grym o fod yn bresennol gyda rhywun yn yr un ystafell, oherwydd rydym ni wedi cael sgyrsiau ar wahanol achlysuron gyda Syr Wyn sydd wedi bod ar y sgrin erioed, sgyrsiau rhithwir, ond yr wythnos diwethaf fe wnaethom ni lwyddo i gael y sgwrs wyneb yn wyneb honno, ac roedd yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig gan ei fod yn wrandawiad ymadawol mewn sawl ffordd, lle'r oeddem ni'n gwrando ar ei fyfyrdodau ar ei gyfnod fel llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, a lle'r oeddem ni'n gallu cael sgwrs gyda Syr Wyn, yn hytrach na gwrandawiad syml. Mae'n sicr yn rhywbeth yr oeddwn i'n teimlo oedd yn werthfawr iawn. Rwy'n siŵr bod aelodau eraill o'r pwyllgor a oedd yno o'r farn ei fod yn werthfawr hefyd. Mae'n bwysig, rwy'n credu, ein bod ni'n gallu cael y sgyrsiau hyn wrth i ni symud ymlaen i ddiwygio'r system.
Cefais fy nghalonogi'n fawr gan ymateb y Cwnsler Cyffredinol i'm hymyriad cynharach yn ei araith. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n edrych i weld sut y gallwn ni sicrhau annibyniaeth tribiwnlysoedd—annibyniaeth briodol ar y Llywodraeth ac ar y lle hwn—a sicrhau ein bod ni'n cael sgwrs ynghylch sut rydym ni eisiau bwrw ymlaen â'r materion hyn. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt sydd newydd gael ei wneud gan Rhys ab Owen am yr angen am dribiwnlys apêl, i broses apelio gael ei rhoi ar waith, a fydd hefyd rwy'n credu yn cryfhau gwaith y tribiwnlysoedd.
Pan oeddwn i'n darllen adroddiad Syr Wyn, mae'n rhaid i mi gyfaddef i'm llygaid gael eu denu'n syth at y bennod olaf, lle mae'n dweud ei fod eisiau gwneud ambell i fyfyrdod. Rwy'n cytuno'n fawr â'r hyn a ddywedodd, gan ddiolch i bobl a oedd yn ymddeol. Fel Gweinidog addysg, rwy'n cofio gwaith Rhiannon Walker, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gofnodi yma heddiw ddiolch iddi hi am ei gwaith yn ei hymddeoliad.
Mae'n bwysig hefyd edrych ar beth yw'r profiad yng Nghymru a sut mae modd rhoi'r profiad hwnnw ar waith ar gyfer y dyfodol. Cefais fy nharo'n fawr gan yr hyn a ddywedodd am effaith COVID a'r ffordd y mae hynny wedi herio ffyrdd o weithio, ac rwy'n credu o ran darparu cyfiawnder, mae'n bwysig ein bod ni'n edrych eto ar y cwestiynau y mae COVID wedi'u codi o ran ein rhagdybiaethau ynghylch sut y mae'r pethau hyn i fod i weithredu. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n edrych ar waith y tribiwnlysoedd o safbwynt yr unigolyn y maen nhw'n ei wasanaethu ac nid o safbwynt pobl sy'n gweinyddu neu'n rhedeg y tribiwnlysoedd. Rwy'n credu bod gan Syr Wyn nifer o bwyntiau diddorol iawn i'w gwneud ynglŷn â sut yr oedd effaith COVID wedi effeithio ac efallai cryfhau llais pobl sy'n dod i dribiwnlys.
Mae'n bwysig hefyd ein bod ni'n edrych eto ar rai o'r strwythurau. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedwyd y prynhawn yma am ddatganoli cyfiawnder. Yn sicr, rydym ni'n clywed rhai areithiau o'm hochr chwith yn y Siambr hon—o'm hochr dde yn wleidyddol—yn dadlau yn erbyn datganoli cyfiawnder, fel pe baem ni'n ceisio gyrru rhyw fath o hollt rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig, ein bod ni eisiau gwahanu, mewn rhai ffyrdd y—[Torri ar draws.] Dylech chi wrando ar yr hyn yr wyf i ar fin ei ddweud; byddech chi'n dysgu rhywbeth. O ran mynd i'r afael â sut rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd, yr hyn a ddywedodd Syr Wyn—[Torri ar draws.] Dydych chi ddim wedi darllen yr adroddiad. Yr hyn a ddywedodd yn y pwyllgor oedd bod y ffordd y mae'r tribiwnlysoedd yn gweithio gyda'i gilydd ac yn dysgu oddi wrth ei gilydd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn bwysig. Mae'n bwysig ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd. Mae'n bwysig ein bod ni'n dysgu oddi wrth ein gilydd. Ond allwn ni ddim ond gweithio gyda'n gilydd a dysgu oddi wrth ein gilydd os yw'r rhyddid gennym ni i wneud penderfyniadau yn rhydd o'n gilydd hefyd. Dyna'r pwynt yr oedd rhywun sydd â llawer mwy o brofiad o'r materion hyn yn ei ddweud wrthym ni. Byddwn yn awgrymu y dylai'r Aelodau wrando ar y llais profiadol hwnnw.
Wrth groesawu Syr Gary Hickinbottom i'r swydd yn ystod yr wythnosau nesaf, nodaf ei fod yn etifeddu system sydd wedi bod mewn cyflwr da iawn, sydd wedi cael ei chynnal o ganlyniad i waith y llywydd sy'n ymddeol. Ond mae hefyd, wrth gwrs, yn etifeddu rhestr aruthrol o heriau. Mae'r diwygiad y siaradodd y Cwnsler Cyffredinol amdano yn bwysig. Siaradodd Syr Wyn hefyd am leoliad a strwythurau'r farnwriaeth a'r ffordd y mae aelodau barnwrol y tribiwnlys yn gallu cydweithio. Rwy'n credu ei fod wedi gwneud rhai pwyntiau da iawn i'r pwyllgor, a byddwn yn annog y Cwnsler Cyffredinol i ddarllen y trawsgrifiad o'r pwyllgor hwnnw er mwyn adnewyddu ei safbwyntiau ei hun ar y materion hyn. i gloi, Llywydd, mae'n amhosibl edrych ar y materion hyn a thrafod yr adroddiad hwn heb drosolwg o strwythurau llywodraethu. Mae'n amhosibl dod o hyd i unrhyw aelod uwch o'r farnwriaeth sy'n credu bod y strwythur presennol o lywodraethu cyfiawnder o unrhyw les o gwbl i Gymru a'i phobl. Gorau po gyntaf y caiff ei ddiwygio o'r brig i'r gwaelod, a gorau po gyntaf y bydd y materion hyn yn cael eu datganoli i'r wlad hon, y gorau y bydd hi i bob un ohonom ni.
Y Cwnsler Cyffredinol i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. Rwy'n sylwi ein bod ni cyn pryd. Mae'r ffaith bod y pwnc pwysig hwn wedi cael cymaint o gyfraniadau yn tanio brwdfrydedd rhywun, felly rwy'n gobeithio y gallaf fanteisio ar yr amser sydd gen i geisio ateb rhai o'r cwestiynau yna.
Y peth cyntaf y gwnaf i roi sylw iddo yw pwynt Mark Isherwood, a'r pwynt a wnaeth pobl eraill, ar y mater hwn o'r model a'r annibyniaeth. Yn sicr, nid wyf i wir yn anghytuno â llawer o'r hyn a ddywedwyd; rwy'n credu ei fod yn ymwneud â'r amseru a'r broses yr ydym ni'n mynd drwyddi i'w gyflawni mewn gwirionedd. Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi, wrth gwrs, yn gweithredu ar sail model asiantaeth weithredol. Gallai'r math arall o fodel fod yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru a fyddai'n cyflawni'r swyddogaeth benodol honno.
Mae gen i farn weddol gadarn yn fy meddwl fy hun o ran pwysigrwydd adran anweinidogol. Mae hefyd wedyn yn arwain, wrth gwrs, at yr angen i greu, maes o law, adran gyfiawnder benodol yma a gweinidogaeth gyfiawnder, ac ati. Mae'n debyg mai materion ar gyfer y Senedd nesaf yw'r rheini. Dim ond meddwl ydw i ei fod yn gynamserol ar hyn o bryd, ar gefn yr adroddiad hwn, gyda llywydd newydd tribiwnlysoedd ar fin dechrau, cyn y Papur Gwyn, cyn i ni gyflwyno deddfwriaeth mewn gwirionedd, i ddweud, 'Dyma'r model rydyn ni'n mynd i'w gael'. Credaf pe bai'r gwelliant yn y bôn wedi cadarnhau pwysigrwydd yr annibyniaeth, credaf y byddai undod llwyr. Felly, nid anghytuno â chi ydw i o reidrwydd, ac rwy'n falch eich bod wedi cyflwyno gwelliant mewn gwirionedd oherwydd ei fod wedi agor y ddadl honno. Nid wyf i'n annog cefnogaeth iddo oherwydd rwy'n credu ei fod yn gynamserol am y rheswm penodol hwnnw.
Ar rai o'r materion eraill a godwyd, cododd Huw gryn nifer o faterion yn ymwneud â'r Papur Gwyn ac ymdrin â phob opsiwn. Bydd, bydd yn ymdrin â phob opsiwn, yn union hynny. Yn y bôn, mae'n rhaid iddo ystyried y rheiny, i ddadansoddi'r rheiny, ac yna mater i'r Llywodraeth fydd cyflwyno deddfwriaeth yn y pen draw, ac yna i'r Senedd ystyried hynny ac i drafod yr opsiynau hynny a'r model cywir ar gyfer hynny.
Rydych yn hollol gywir o ran y tribiwnlysoedd, a'r pwyntiau eraill a wnaeth Rhys, ac eraill, o ran y lleoliad. Rwy'n mynd i weld safle'r tribiwnlys sydd gennym yng Nghasnewydd yn Oak House. Er hynny, rwy'n credu o bosibl gan edrych ymlaen at ddatganoli meysydd cyfiawnder eraill hefyd, efallai y bydd angen i ni edrych yn ehangach o ran lleoliad gwasanaeth llys a gwasanaeth tribiwnlys i Gymru y tu allan i adeiladau'r Llywodraeth, yn enwedig yn sgil y sylwadau rydw i wedi'u gwneud yn y gorffennol am sefyllfa a chyflwr y ganolfan cyfiawnder sifil, ac ati. Dim ond pethau rwy'n cyffwrdd â nhw i'w harchwilio yw'r rheiny, ond rwy'n credu efallai fod opsiynau'n bodoli.
O ran materion a gododd Jenny Rathbone o ran y Tribiwnlys Iechyd Meddwl, wrth gwrs, mae'n arwyddocaol iawn o ran niferoedd. Mae'n rhaid i'n system tribiwnlys ymdrin â'r galw sydd yno. Fe welwch chi, er y buont yn wrandawiadau ar-lein yn bennaf, bod llawer o ddewis wedi'i roi i alluogi unigolion i ddewis pa fodel yr hoffen nhw. O ran y ddau aelod cyflogedig, mae'r rhain yn swyddi barnwrol pwysig a sylweddol. Maen nhw'n swyddi barnwrol chwe ffigur. Rwy'n credu ei bod hi'n ddigon posib bod y mater yn un o eglurder ynghylch beth yn union yw'r swydd, beth yw cartref y barnwyr i bob pwrpas, ac mae'n debyg yr agwedd o hysbysebu hynny. Rwy'n hyderus y bydd hynny'n cael ei ddatrys, ond mae'n adlewyrchu pwysigrwydd yn enwedig sefyllfa'r tribiwnlys iechyd meddwl.
O ran y Gymraeg, rwy'n ymwybodol iawn o hynny. Rwy'n credu mai mater mawr yn hyn o beth yw datblygu hyder pobl i gymryd rhan mewn gwirionedd yn y system llysoedd, yn y system tribiwnlys. Mewn sawl ffordd, maent yn fodel delfrydol ar gyfer defnyddio'r Gymraeg o fewn hynny, oherwydd bod ganddynt lai o ffurfioldeb penodol. Ond mae'n bwysig bod hynny'n cael ei annog a'i gefnogi. Mi grybwyllais hynny pan gwrddais i â Syr Wyn Williams sef bod yna fater pwysig yna. Mae'n hyderus, mewn gwirionedd, bod ganddyn nhw'r cadeiryddion a'r gallu i ddarparu ar gyfer hynny mewn gwirionedd. Yr hyn sy'n bwysig yw'r anogaeth a'r gefnogaeth i gynnal rhai o'r tribiwnlysoedd hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.
Llywydd, rydych chi wedi bod yn hael iawn gyda mi; mae'n siŵr gen i fy mod i wedi mynd ymlaen am lawer rhy hir ar rai o'r agweddau hyn. Y cwestiwn pwysig, wrth gwrs, sydd wedi ei godi, yw o ran amserlen, ac ati. Mater i'r Prif Weinidog yw gwneud datganiad, rwy'n credu ym mis Gorffennaf, o ran y rhaglen ddeddfwriaethol. Ond rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn glir bod angen y diwygio yng nghyfnod y Senedd hon. Bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno. Bydd, mae'n siŵr, gyhoeddiadau maes o law. Wrth gwrs, gall y Papur Gwyn barhau beth bynnag, ac rwy'n siŵr y bydd rhagor o fanylion yn y dyfodol agos iawn.
Un peth yn unig i gloi, sef, wrth gwrs, y cyfeiriad at gomisiwn Thomas ar ddatganoli cyfiawnder, ac ati. Yn amlwg, rydyn ni mewn amgylchedd sy'n newid. Mae'r holl ymagwedd, rwy'n credu, at gyfiawnder, sicrhau cyfiawnder a sicrhau cyfiawnder yn well wrth wraidd hynny. Mae'r sefyllfa sydd gennym ni gyda thribiwnlysoedd yn rhoi'r cyfle i greu'r strwythur embryonig hwnnw, mewn gwirionedd, gyda chyfres o dribiwnlysoedd, rhan o'r system farnwrol weinyddol sydd wedi dod atom pan oedd angen hynny. Yr hyn yr ydym yn ei wneud yw creu nid yn unig system farnwrol a fydd o'r rhagoriaeth uchaf, ond bydd hynny hefyd yn creu, fel y dywedoch chi, y strwythur apeliadol cyntaf erioed yn hanes Cymru. Diolch, Llywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 1, ac felly byddwn ni'n gohirio'r bleidlais o dan yr eitem yma yn gyfan gwbl i'r cyfnod pleidleisio.