– Senedd Cymru ar 21 Medi 2016.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Gyfunol ar ysgolion gramadeg, ac rwy’n galw ar Michelle Brown i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6094 Neil Hamilton
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod rôl bwysig ysgolion gramadeg o ran hyrwyddo symudedd cymdeithasol a rhoi cyfle i blant o gefndiroedd tlawd gael mynediad at addysg o’r radd flaenaf.
2. Yn nodi bod llai o symudedd cymdeithasol wedi mynd law yn llaw â llai o lefydd mewn ysgolion gramadeg.
3. Yn credu mewn amrywiaeth mewn addysg uwchradd, sy’n rhoi hawl i blant gael addysg ramadeg os yw rhieni’n dymuno hynny, ac yn cefnogi statws uwch ar gyfer addysg dechnegol a galwedigaethol ac ailgyflwyno ysgolion gramadeg yng Nghymru i greu system addysgol sy’n rhoi’r cyfle gorau i blant o bob gallu.
Diolch i chi, Lywydd. Pwy allai fod wedi rhagweld 20 mlynedd yn ôl y byddai tîm Prydain yn mynd yn ei flaen i ennill 27 o fedalau aur yn y Gemau Olympaidd? Neb yn y Blaid Lafur yn ôl pob tebyg. Pam? Oherwydd bod yr enw ‘Llafur’ wedi dod yn gyfystyr â methiant, ac oherwydd nad oes ganddynt uchelgais dros eu gwlad a’u pobl eu hunain. Yn hytrach, maent yn dewis bychanu’r bobl sydd wedi ymddiried pŵer iddynt. Yn yr un modd ag y mae’r Llywodraeth Lafur hon yn dewis peidio â gwneud cais am Gemau’r Gymanwlad, mae’n ymddangos eu bod hefyd yn hapus i rwystro cenedlaethau’r dyfodol rhag elwa ar system addysg y mae llawer ohonynt eu hunain wedi elwa arni. Fesul tipyn, mae’r ysgol yn cael ei chodi o afael pobl ifanc. Yn gyntaf cafodd ysgolion gramadeg eu diddymu i bob pwrpas, ysgolion a oedd, i lawer o bobl ifanc, yn enwedig pobl ifanc o deuluoedd dosbarth gweithiol, yn cynnig yr unig obaith o gael gyrfa gadarn a dyfodol da. Yna cyflwynwyd ffioedd dysgu, sydd wedi gosod dyled yn faich ar genedlaethau o bobl ifanc, fel cosb am lwyddiant academaidd. Mae’n bryd i’r Llywodraeth Lafur hon ddilyn arweiniad Llywodraeth y DU a chyflwyno deddfwriaeth yn y Siambr hon i ganiatáu i awdurdodau lleol gynnig cymysgedd mwy amrywiol o ddewisiadau addysgol yn ôl anghenion yr ardal a dymuniadau rhieni. Felly, rwy’n defnyddio’r cyfle hwn i alw ar y Llywodraeth i wneud hynny. Mae parhau i wneud fel arall yn peri anfanteision i bobl ifanc, yn enwedig o gefndiroedd dosbarth gweithiol, na fyddant byth yn cael cyfle i fynychu ysgol o’r ansawdd gorau, tra bydd plant a aned i rieni ariannog yn elwa ar addysg breifat.
Na, dim diolch.
Na wnaf.
Rwyf hefyd yn galw ar fy nghyd-Aelodau Ceidwadol i ymuno â mi i roi pwysau ar y Llywodraeth i wella rhagolygon cenedlaethau o bobl ifanc yn y dyfodol ledled Cymru, waeth beth fo’u cefndir ariannol.
I’r rhai sy’n credu bod ysgolion gramadeg yn grair o ryw oes sepia o’r gorffennol, rwy’n cynnig un gair: PISA. Y mis Rhagfyr hwn, cyhoeddir y canlyniadau PISA diweddaraf, ac mae arwyddion cynnar yng nghoridorau’r lle hwn fod Llywodraeth Cymru eisoes yn paratoi ei hesgusodion. Ers 2007, mae Cymru wedi llithro i lawr y safleoedd PISA. Wrth i fwy o wledydd ymuno, mae Cymru wedi disgyn o safle 22 mewn gwyddoniaeth i rannu safle 36, mae wedi disgyn 10 safle mewn mathemateg, ac wedi disgyn o safle 29 mewn darllen i safle 41. Pa syndod annisgwyl a ddaw gyda PISA y tro hwn? Yn 2012, perfformiodd Cymru yn waeth ar gyfartaledd mewn gwyddoniaeth, mathemateg a Saesneg na Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Ar y pryd, trydarodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams:
Yn drist ac yn ddig fod 14 mlynedd o Bolisi Addysg Llafur Cymru wedi ein harwain at y canlyniadau #PISA hyn.
Nawr, fel Ysgrifennydd addysg, a fydd Kirsty Williams yn sefyll yn gadarn y tu ôl i’r datganiad hwn ac yn bwrw ymlaen â pholisi sy’n sicrhau newid go iawn?
Mae’r amser wedi dod am weledigaeth newydd feiddgar ar gyfer addysg yng Nghymru, a dylai egwyddor amrywiaeth fod yn ganolog i’r weledigaeth hon—amrywiaeth o arddulliau addysgu, amcanion a blaenoriaethau ysgol. Yn 2006, yn ôl Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolion Gramadeg, cynhyrchodd disgyblion yn yr 164 o ysgolion gramadeg yn Lloegr fwy na hanner cyfanswm y graddau A Safon Uwch yn y pynciau Safon Uwch mwy cadarn na’r hyn a gynhyrchwyd mewn hyd at 2,000 o ysgolion cyfun. Mae’n amlwg fod ysgolion gwladol detholus wedi cynhyrchu rhai o’r perfformiadau gorau mewn arholiadau, yn seiliedig ar dablau cynghrair. O’r profiad hwn—[Torri ar draws.] O’r profiad hwn, fel y mae gwas sifil uchaf Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am ansawdd addysg, y prif arolygydd ysgolion blaenorol, Chris Woodhead, yn datgan yn ddiamwys, mae ysgolion gramadeg wedi cyfrannu mwy at symudedd cymdeithasol nag unrhyw sefydliad arall y mae’r wlad hon wedi ei adnabod erioed.
Yn ei ddatganiad aeth Chris Woodhead ymhellach a dweud efallai y gellid gweld diddymu ysgolion gramadeg hefyd fel ceisio gosod un system addysg sy’n addas i bawb mewn ardal.
Yn ffodus i blant yn Lloegr, mae’r Llywodraeth wedi gwrando ar gyngor yr arbenigwyr ac wedi ailfeddwl ynglŷn â’r penderfyniad trychinebus cynharach i atal sefydlu ysgolion gramadeg newydd. Ond beth am Gymru? A fydd y Llywodraeth—[Torri ar draws.] A fydd y Llywodraeth yn rhoi dogma gwleidyddol o’r neilltu ac yn gosod pobl ifanc o flaen ideoleg? A wnewch chi hynny? Pan gyhoeddwyd y canlyniadau PISA ddiwethaf, dyfynnwyd y Prif Weinidog yn dweud wrth bob un o’r tair gwrthblaid, ‘Os nad ydych yn ei hoffi, beth fyddech chi’n ei newid?’ Felly, wrth Carwyn Jones, ar ran y plant ysgol sydd wedi’u difreinio a’u hanghofio ym mhob man, rwy’n dweud, ‘dewis’.
Mae ysgolion gramadeg yn rhoi cyfle i fyfyrwyr o deuluoedd incwm isel ddianc o afael tlodi a chael addysg o safon heb orfod troi at y sector sy’n talu ffioedd.
Na wnaf.
Mae nifer y myfyrwyr y mae Rhydychen a Chaergrawnt yn eu derbyn o ysgolion gwladol wedi gostwng ers diddymu ysgolion gramadeg i raddau helaeth ac mae astudiaethau wedi dangos bod symudedd cymdeithasol wedi lleihau. [Torri ar draws.] Gwrandewch eto: mae symudedd cymdeithasol wedi lleihau ers diddymu ysgolion gramadeg. Os nad ydych yn malio am blant dosbarth gweithiol, parhewch â’ch polisi. I’r rhai sy’n dweud mai ar gyfer yr elît y mae ysgolion gramadeg, rydym yn dweud, ‘Ie, maent ar gyfer yr elît academaidd, nid yr elît ariannol’. Yn yr un ffordd ag y mae ysgolion gramadeg yn gyfle i’r plant sy’n alluog yn academaidd, dylem ddatblygu colegau galwedigaethol i gynnig y cyfleoedd iawn i blant sydd â dyheadau gwahanol.
Cyfaddefodd rhagflaenydd Ms Williams, Mr Lewis, yn flaenorol y gallai fod cwestiynau ynglŷn â’r ffaith ein bod wedi tynnu ein llygaid oddi ar y bêl yng nghanol y 2000au mewn perthynas â’r pethau sylfaenol mewn addysg. Serch hynny, roedd yn dal i fynnu bod Gweinidogion Cymru yn cymryd sylw o’r sgoriau PISA gwael blaenorol yn 2009 a sefydlodd un o’r rhaglenni diwygio mwyaf radical ac uchelgeisiol a welodd y byd addysg yng Nghymru erioed. Ond y gwir amdani yw nad oedd unrhyw beth yn radical am y diwygiadau hyn. Mae’r Llywodraeth hon yn parhau i dincran â’r ymylon, yn debyg i aildrefnu’r cadeiriau haul ar y Titanic. Mae’r syniad y gallai menter polisi ysgafn arall neu ad-drefnu biwrocrataidd gyflawni newid o’r maint sydd ei angen yn nonsens llwyr. Mae arnom angen gwell addysg i bawb, ond mae cyflawni hynny’n galw am gamau beiddgar. Fel y mae’r cyn-brif arolygydd ysgolion yn ei gwneud yn glir, nid yw un ateb yn addas i bawb—mae’n dal i fod yn berthnasol. Ac mae’r syniad y dylai plant fod o dan anfantais am resymau gwleidyddol yn foesol anghywir ac ni ellir ei amddiffyn. Mae pobl ifanc angen i’w Llywodraeth gynrychioli eu buddiannau ac ymladd dros eu dyfodol. Mae eu hamddifadu o ddewis yn eu hamddifadu o gyfle.
Mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU ei bod wedi mabwysiadu polisi UKIP i’w groesawu, ond yn awr, yma yn y Siambr hon, mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i greu system sy’n gweithio i bawb. Mae angen i ni roi cyfle i bobl leol ddweud eu barn ynglŷn â pha systemau ysgol sy’n gweithio yn eu hardal ar gyfer eu plant. Rydym yn galw ar y Siambr hon i gefnogi’r cynnig hwn ac ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i ganiatáu i bobl leol, lle bo hynny’n ymarferol ac yn ddymunol, i greu ysgolion gramadeg newydd. Diolch.
Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i’r cynnig ac rydw i’n galw ar Darren Millar i gynnig y chwech gwelliant a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Rwy’n cynnig yr holl welliannau a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Paul Davies AC. Mae’n rhaid i mi ddweud, yn anffodus, na fyddwn yn cefnogi cynnig UKIP y prynhawn yma am fod y Ceidwadwyr Cymreig, a dweud y gwir, yn cydnabod bod Cymru yn wahanol i Loegr. Rydym yn credu bod y dirwedd addysg yn wahanol, ac o ganlyniad i hynny, nid ydym yn argyhoeddedig ar hyn o bryd—[Torri ar draws.] Nid ydym yn argyhoeddedig ar hyn o bryd mai cynnwys dethol yn ein system addysg yw’r ffordd gywir ymlaen i ysgolion yma. Yn lle hynny, credwn y dylai’r system addysg fod yn un sy’n ffynnu ar ddewis—dewis disgyblion, dewis dysgwyr, ac yn wir, dewis rhieni—ac un peth sy’n gwbl druenus ar hyn o bryd yw bod llawer o bobl yn cael eu hamddifadu o’r gallu i ddewis yr ysgol y maent am ei mynychu. Bob blwyddyn mewn rhai ysgolion, caiff cannoedd o ddisgyblion eu gwrthod gan yr ysgolion hynny yn syml am nad oes digon o leoedd ynddynt. Mae yna rwystrau ar hyn o bryd sy’n atal yr ysgolion hynny rhag cael creu mwy o lefydd ar gyfer y disgyblion sydd eisiau mynychu’r ysgolion hynny. Mae hynny’n anghywir. Rydym am weld Llywodraeth Cymru yn rhoi camau ar waith i gael gwared ar y rhwystrau hynny er mwyn i ysgolion da a llwyddiannus allu ffynnu, a thyfu lle mae galw am leoedd ynddynt.
Nawr, rydym yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru bolisi lleoedd gwag yma yng Nghymru, sy’n peri i awdurdodau lleol edrych ar y ddarpariaeth yn eu hardaloedd er mwyn ceisio mynd i’r afael â rhai o’r problemau hyn. Ond yn anffodus, mae cyflymder y newid o ran gallu darparu ar gyfer y galw am leoedd ychwanegol mewn ysgolion llwyddiannus yn golygu na ellir diwallu’r galw hwnnw ar hyn o bryd. Rydym am weld gallu ysgolion o’r fath i ehangu yn cyflymu. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn garedig yn ei hymateb i’n cyfraniad i’r ddadl hon y prynhawn yma oherwydd, fel hi, rwyf am weld ysgolion Cymru ymysg y gorau yn y byd. Rwy’n credu’n wirioneddol fod gennym rai ysgolion sydd ymhlith y gorau yn y byd ar garreg ein drws. Ond yn anffodus, nid yw pob ysgol yn ysgol wych yng Nghymru. Mae’n rhaid i ni dderbyn y ffaith honno ac mae angen i ni sicrhau bod pob ysgol yn gwella er mwyn i bob person ifanc gael y cyfle gorau posibl mewn bywyd y gall eu hysgol eu paratoi ar eu cyfer.
Nawr, rwy’n wleidydd na fydd byth yn dweud ‘byth’ wrth unrhyw syniad. Os daw adeg yn y dyfodol pan fo’r dystiolaeth yn awgrymu bod symudedd cymdeithasol yn gwella drwy gael ysgolion gramadeg neu drwy ddethol yn y system, yna byddaf yn barod i edrych ar hynny. Ond ar hyn o bryd, nid ydym yn argyhoeddedig fod y dystiolaeth yno.
Rwyf wedi edrych gyda diddordeb ar y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon lle mae mwy o ysgolion gramadeg yn y system wladol wrth gwrs. Mae eu perfformiad o ran cyrhaeddiad TGAU a Safon Uwch yn hynod o dda. Ond wrth gwrs, y gwahaniaeth mawr arall yng Ngogledd Iwerddon yw bod yna nifer fawr o ysgolion ffydd. Felly, beth sy’n arbennig am Ogledd Iwerddon sy’n gwneud y gwahaniaeth i gyrhaeddiad addysgol a pherfformiad ysgolion? Ni all unrhyw un roi ei ys ar y peth mewn gwirionedd a dweud mai ysgolion gramadeg yw’r rheswm. Nid wyf yn credu ei fod yn ymwneud â dethol yn unig chwaith. Felly, rwyf am weld rhagor o dystiolaeth ar hyn.
Nid wyf yn argyhoeddedig fod y sefyllfa yng Nghymru yn galw am newid i gynnwys dethol yn ein system addysg. Ond rwy’n credu mai’r ysgogiad gorau i wella perfformiad mewn ysgolion yw darparu ar gyfer dewis rhieni a chynnig mwy o ddewis i rieni a disgyblion yn gyffredinol. Tybed, Weinidog, mewn ymateb i’r ddadl hon heddiw, a allwch ddweud wrthym beth yw eich cynlluniau i ganiatáu i ysgolion da a llwyddiannus, lle mae galw ychwanegol, i ehangu. Nid wyf yn credu ei bod hi’n iawn nad yw miloedd o blant bob blwyddyn yn cael mynd i’r ysgolion y maent eisiau ei mynychu.
Gan fentro pechu rhai ACau mewn perthynas â thystiolaeth anecdotaidd—gwelaf fod Lee Waters newydd adael y Siambr—hoffwn ddweud efallai’n wir mai fi yw’r unig AC sy’n bresennol a brofodd addysg mewn ysgol uwchradd fodern ac mewn ysgol ramadeg, gan fy mod yn gyntaf wedi mynychu—[Torri ar draws.] Fe wnaf eithriad o fy nghyd-Aelod yn y fan honno, sydd hefyd wedi gwneud hynny o bosibl. Mynychais y gyntaf cyn mynd ymlaen i’r ail. Dywedaf hynny oherwydd roedd modd mynd o ysgol ramadeg i ysgol uwchradd fodern hefyd. Felly, efallai fod gennyf olwg unigryw ar y ddadl hon. Gallaf sicrhau’r Siambr hon fy mod, yn ystod fy amser yn yr ysgol uwchradd fodern, wedi cael fy nysgu fy mod i fod yn aelod cynhyrchiol a gwerthfawr o’r gymdeithas ac yn wir, pe bawn yn cael fy mhrentisiaeth, gallwn wneud beth bynnag y dymunwn ei wneud.
Felly, nid oedd methu arholiad yn 11 oed yn brofiad erchyll fel y mae rhai sylwebyddion yn ceisio ei ddisgrifio, gyda thrueiniaid yn cael eu condemnio i fin sbwriel y ddynoliaeth. Yn wir, câi unrhyw ddisgyblion a ddangosai rinweddau academaidd penodol eu trosglwyddo i ysgol ramadeg fel mater o drefn.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf wrth gwrs.
Yr hyn yr hoffwn ei wneud, ac rwy’n cydnabod eich bod wedi cael eich profiadau, yw gofyn i chi: pan oeddech yn yr ysgol uwchradd ac roeddent yn sefydlu prentisiaethau ar eich cyfer, ac rwy’n llwyr gefnogi hynny, a oeddent mewn gwirionedd yn eich annog chi hefyd i ddod yn athrawon y prentisiaethau hynny?
Yn bendant. Roedd hyn i gyd yn ymwneud â’ch galluoedd, a chymryd pob disgybl yn ôl ei alluoedd gwahanol.
Yn anffodus, mae dyfodiad ysgolion cyfun gyda chynifer â 1,500 o ddisgyblion wedi golygu bod y disgyblion sy’n meithrin sgiliau ymarferol yn hytrach nag academaidd yn cael eu gadael ar ôl. Ar wahân i ormodedd o addysg Technoleg Gwybodaeth, mae pynciau ymarferol wedi diflannu o gwricwlwm yr ysgol. Canlyniad anochel hyn yw prinder enfawr o drydanwyr medrus, plymwyr medrus, gwneuthurwyr offer medrus, ac yn y blaen, fel y profwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ynghyd â chenhedlaeth gyfan o bobl ifanc wedi’u dadrithio sy’n credu nad ydynt o fawr o werth i gymdeithas. Trwy wahanu’r disgyblion gwirioneddol academaidd oddi wrth y rhai sydd â sgiliau mwy ymarferol, gallwn ganolbwyntio ar amlygu potensial pob disgybl, waeth beth yw eu galluoedd academaidd. Wrth gwrs, dylid trosglwyddo disgyblion, fel pan oeddwn i’n ifanc, ond ar fformat estynedig o bosibl. Ni ddylai arholiad oddeutu 11 oed gael ei weld fel system o wahanu’r cyflawnwyr oddi wrth y rhai nad ydynt yn cyflawni, ond yn ddull syml o nodi galluoedd, dewisiadau a thueddiadau disgyblion unigol.
Mae Plaid Annibyniaeth y DU yn enwog am eu halergedd i ffeithiau a barn arbenigol. Felly, gadewch i ni roi ychydig o ffeithiau i UKIP am ysgolion gramadeg. Yn gyntaf, nid yw ysgolion gramadeg yn hyrwyddo symudedd cymdeithasol. Nid oeddent yn gwneud hynny yn y 1950au ac nid ydynt yn gwneud hynny yn awr. Mae’r Athrofa Addysg wedi dangos bod rhaniad cymdeithasol, wedi’i fesur yn ôl cyflogau, yn fwy mewn ardaloedd o Loegr sy’n dethol eu disgyblion nag yn yr ardaloedd sy’n cynnwys ysgolion cyfun. Yn syml, mae ysgolion gramadeg yn cadarnhau rhaniad cymdeithasol.
Yn ail, nid yw ysgolion gramadeg yn rhoi mynediad i blant o gefndiroedd tlotach at addysg o’r radd flaenaf, gan nad yw’r plant hynny’n mynd i ysgolion gramadeg yn y lle cyntaf. Dim ond 2.6 y cant o ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim yn Lloegr sy’n cyrraedd ysgolion gramadeg. Mae hynny o gymharu â thua 15 y cant mewn ysgolion cyfun. Roedd yn wir yn y 1950au ac mae’n wir heddiw.
Yn drydydd, ni fu erioed yn oes aur ar addysg ysgolion gramadeg y gallem ddychwelyd ati, hyd yn oed pe baem eisiau gwneud hynny. Yn 1959, ar anterth addysg ddetholus, pan oedd ysgolion gramadeg yn addysgu’r 20 y cant mwyaf disglair, methodd bron i 40 y cant o ddisgyblion ysgolion gramadeg gael mwy na thri lefel O. Dim ond 0.3 y cant o blant dosbarth gweithiol a lwyddodd i gael dau lefel A—0.3 y cant. Byddai unrhyw ysgol yng Nghymru a fyddai’n cynhyrchu canlyniadau o’r fath yn dod yn destun mesurau arbennig yn go gyflym. Ni fu unrhyw oes aur. Roedd ysgolion gramadeg yn sathru ar gyfleoedd bywyd plant tlotach yn y 1950au ac maent yn sathru arnynt yn awr. Dyna pam nad ydym eu heisiau yng Nghymru. Ond fel y dywedais, nid yw UKIP yn ymwneud â ffeithiau, nac ydyw? Felly, gadewch i ni ofyn ychydig o gwestiynau iddynt yn lle hynny.
Y cwestiwn cyntaf: pwy fydd yn penderfynu pa ysgol mewn ardal sy’n dod yn ysgol ramadeg newydd? Ar ba feini prawf y seilir y penderfyniad hwnnw? Mae eich cynnig yn gwneud iddo swnio fel pe bai pawb sydd eisiau newid i ysgol ramadeg yn cael gwneud hynny. Rydych yn dweud ‘Rhowch hawl i blant fynd i ysgol ramadeg’. Rydych yn sylweddoli mai’r ffordd y mae ysgolion gramadeg yn gweithio yw drwy amddifadu’r hawl honno i’r mwyafrif, onid ydych?
Yr ail gwestiwn: pan wneir y penderfyniad, beth a ddywedwch wrth holl lywodraethwyr, athrawon, rhieni a disgyblion yr holl ysgolion eraill yn yr ardal er mwyn eu darbwyllo y byddai eu hysgol yn well fel ysgol uwchradd fodern? A pheidiwch â thaflu llwch i’n llygaid ynglŷn â statws uwch addysg dechnegol a galwedigaethol—ysgol uwchradd fodern fydd hi.
Y trydydd cwestiwn: sut y mae UKIP yn bwriadu gwasgu’r sector cyfrwng Cymraeg yn rhan o’r system newydd y maent am ei mewnforio o Loegr? Mewn llawer o lefydd, mae llai o ysgolion cyfrwng Cymraeg ac maent yn fwy gwasgaredig. Pa mor bell fydd UKIP yn disgwyl i blant deithio bob dydd i gael mynd i ysgol ramadeg cyfrwng Cymraeg? 20 milltir, 50 milltir, mwy? Y gwir yw nad ydych wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i addysg Gymraeg.
Y pedwerydd cwestiwn: sut ydych chi’n argymell gorfodi’r system hon a fewnforiwyd ar awdurdodau lleol sydd â systemau trydyddol? A ydych yn cynnig y dylid gwthio ein colegau addysg bellach i’r cyrion? Faint y mae’n mynd i gostio i wrthdroi’r diwygiadau a gynlluniwyd yn ofalus yn yr ardaloedd hynny?
Mae’n ddigalon sefyll yma heddiw a chynnig gwrthddadleuon i bolisi ysgolion sombi a ddylai fod wedi marw a bod wedi’i gladdu ers amser maith bellach. Ond os oes rhaid i ni ymladd dros ddiogelu dyfodol ein plant rhag polisïau tu hwnt i’r bedd UKIP, yna fe wnawn ni hynny. Mae Llafur Cymru yn parhau’n ymrwymedig i bolisi ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi ei seilio ar ffeithiau a thystiolaeth. Rydym yn ceisio dysgu gan y goreuon. Nid yw’r system ysgolion sy’n perfformio orau ym Mhrydain yn rhan o system ddetholus Caint; fe gewch hyd iddi yn yr Alban, heb yr un ysgol ramadeg yn perthyn iddi. Yn gyson, mae’r system sy’n perfformio orau yn Ewrop ac yn y byd i’w gweld yn y Ffindir—system gyfun gant y cant.
Nid yw’r polisïau a fydd yn gwella ein system ysgolion i’w cael drwy deithio drwy amser i’r gorffennol. Maent gennym yn awr: yn hyrwyddo rhagoriaeth drwy ein consortia a thrwy Her Ysgolion Cymru, yn codi disgwyliadau athrawon drwy’r cytundeb newydd, yn mynd i’r afael â’r bwlch rhwng y lleiaf ariannog a’r gweddill drwy’r grant amddifadedd disgyblion a Dechrau’n Deg. Rydym yn galw am, ac yn gweithio tuag at system sy’n cyflawni mwy o drylwyredd a safonau gwell i bawb, nid i rai yn unig, oherwydd mae pob plentyn yn haeddu hynny. Gall UKIP ddweud yr hyn y maent yn ei ddweud yn y cynnig hwn oherwydd un peth yn unig: oherwydd eu bod yn credu hyn—mae rhai yn unig sy’n haeddu; rhai ysgolion yn unig, rhai athrawon yn unig, rhai plant yn unig, ac i’r gweddill, bydd ysgol uwchradd fodern yn gwneud y tro. Rydym oll wedi gweld sut y gall rhethreg ddi-dystiolaeth UKIP niweidio gwaith cydsyniol dros ddegawdau. Mae’n bryd i bawb sy’n poeni am gydlyniant cymdeithasol a chyfiawnder cymdeithasol wneud safiad—a gwrthod y cynnig gwag hwn.
Rwy’n cymeradwyo cyfraniad Cadeirydd y pwyllgor addysg. Mae hi’n berffaith iawn i danlinellu’r ffaith fod y rhai sydd o blaid ysgolion gramadeg am resymau’n ymwneud â gwella symudedd cymdeithasol i’w gweld yn gyndyn iawn i dderbyn y ffeithiau. Mae’n ymddangos bod gennych obsesiwn â’r sefyllfa yn Lloegr. Gadewch i ni edrych ar y ffeithiau yn Lloegr, oherwydd llai na 3 y cant o’r holl ddisgyblion sy’n mynd i ysgolion gramadeg sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim o gymharu â chyfartaledd o 18 y cant mewn ysgolion eraill yn yr ardaloedd lle maent wedi eu lleoli. Yng Nghaint, lle mae gennym y crynodiad mwyaf o ysgolion gramadeg, cofnodwyd mai 2.8 y cant yn unig o’r disgyblion a fynychai ysgolion gramadeg a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, o’i gymharu â 13.4 y cant yn ysgolion uwchradd annetholiadol Caint. Mae myfyrwyr difreintiedig yn economaidd- gymdeithasol sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu sy’n byw mewn cymdogaethau tlawd yn llawer llai tebygol o gofrestru mewn ysgolion gramadeg, hyd yn oed os ydynt yn sgorio’n uchel ym mhrofion cyfnod allweddol 2. Dyna’r ystadegau o Gaint.
Rhaid i mi ddweud, wyddoch chi, fod yr holl systemau addysg gorau yn y byd yn rhai cyfun. Clywsom am y Ffindir yn y cyfraniad blaenorol—Korea, Canada ac eraill. Nid ydym bellach yn byw mewn byd lle mae’n gwneud synnwyr i 20 y cant yn unig o’r boblogaeth gael addysg academaidd o safon uchel. Y llynedd, daeth adroddiad y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant i’r casgliad fod anghydraddoldeb incwm yn y Deyrnas Unedig rhwng gwahanol grwpiau dosbarth cymdeithasol wedi cynyddu’n sylweddol ers 1979, ond daw i’r casgliad eu bod wedi eu seilio ar dri ysgogwr cymdeithasol ac economaidd cyffredin: yn gyntaf, newidiadau strwythurol yn y farchnad swyddi; yn ail, effaith barhaus a chynyddol cefndir ar ganlyniadau i oedolion; ac yn drydydd, mynediad anghyfartal at addysg uwch a swyddi proffesiynol—dim sôn o gwbl am y toriad yn nifer yr ysgolion gramadeg fel ffactor. Yn wir, mae’r adroddiad yn mynd rhagddo i ddweud bod yr hen ‘11-plus’ wedi creu rhaniad cymdeithasol ar ddiwedd yr ysgol gynradd. Fe’i beirniadwyd yn haeddiannol am y manteision a gynigiai i rai plant yn hytrach nag i eraill.
Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod wedi synnu bod y Torïaid, ar lefel y DU yn arbennig, yn efelychu UKIP ar y mater penodol hwn, ac nid oes ganddynt unrhyw fandad, mae’n amlwg. Fe’i diystyrwyd yn bendant gan David Cameron pan oedd yn Brif Weinidog. Dywedodd nad yw’n syniad da, nid yw’n syniad y gellir ei werthu ac nid yw’n syniad cywir. Ond mae hynny’n golygu fy mod hyd yn oed wedi fy nrysu’n fwy byth yn awr gan agwedd y Ceidwadwyr Cymreig, gan fod gennym lefarydd addysg a oedd yn dweud ychydig o ddyddiau yn ôl na ddylem ei ddiystyru. Roedd y llefarydd addysg blaenorol yn dweud y dylid cyflwyno ysgolion gramadeg yng Nghymru pan oedd David Cameron yn eu diystyru mewn gwirionedd. Yn awr mae Theresa May yn eu hystyried, ac rydych yn cyflwyno gwelliannau sy’n mynd yn groes i bolisi eich plaid eich hun. O ddifrif, ni allech greu’r fath beth.
Mae yna beth a elwir yn ddatganoli; efallai nad ydych wedi sylwi arno. Mae gennym bolisïau gwahanol yng Nghymru i’r hyn sydd gan eich plaid yn Lloegr, am fod ein system addysg yn wahanol; mae gan Gymru anghenion gwahanol. Nawr, yr hyn a ddywedais y diwrnod o’r blaen oedd na ddylem byth ddweud ‘byth’ a chau’r drws yn llwyr ar unrhyw syniadau. Nid ydym yn barod i wneud hynny. Mae’n ymddangos eich bod chi’n gallu rhagweld beth y gallai fod gan y dyfodol i’w ddweud o ran tystiolaeth, ond a bod yn onest, rhowch y gorau i refru am Loegr; dywedwch wrthym beth yw eich polisi chi ar y pethau hyn yma yng Nghymru.
Gallwn anghofio am arholiad yr ‘11-plus’, mae gennym ‘11 a mwy’ o agweddau gwahanol tuag at ysgolion gramadeg ar y meinciau Ceidwadol hyn yma’n unig, iawn. Wyddoch chi, gallwch alw eich hun yn blaid yr wrthblaid—plaid ddynwaredol ydych chi, rhaid i mi ddweud, yn efelychu a dynwared UKIP ar ormod o bolisïau yn fy marn i. Gadewch i ni fod yn glir ar hyn, iawn. Lle ceir ysgolion gramadeg heddiw, dengys ymchwil fod mynediad atynt yn gyfyngedig i’r rhai mwyaf cefnog. Ac mae cyrhaeddiad y rhai sy’n methu mynd i mewn i ysgolion gramadeg yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Maent yn annog anghydraddoldebau addysgol a dyna pam y mae Plaid Cymru eisiau sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad at yr un cyfleoedd, waeth beth yw eu cefndir, a dyna pam y bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y cynnig y prynhawn yma.
Pan euthum i goleg hyfforddi athrawon gyntaf, roedd y dirwedd addysg yn wahanol iawn i’r hyn a welwn heddiw. Roedd y rhai â thueddiad academaidd yn mynd i ysgolion gramadeg, ond roedd y rhai a oedd yn tueddu mwy at alwedigaeth yn mynd i ysgol uwchradd fodern. Roedd ysgolion gramadeg gwladol yn addysgu cannoedd o filoedd o ddisgyblion, ac yn cynnig addysg am ddim y gellid ei chymharu ag addysg ysgolion a oedd yn codi ffioedd. Yn anffodus, lansiwyd ymgyrch gan y rhai oedd â gwrthwynebiad ideolegol i unrhyw fath o ddethol i ddinistrio pob ysgol ramadeg yn y wlad a chyflwyno’r system gyfun. Rhoddodd y system gyfun ddiwedd ar ddethol academaidd a gorfodi pob disgybl i fynd i’w hysgol leol, hyd yn oed os oedd hynny’n golygu dosbarthiadau mwy o faint ac addysg israddol. O dan y system gyfun, rydym wedi gweld cyrhaeddiad disgyblion yn gostwng, rwy’n teimlo. Mae dosbarthiadau mwy o faint wedi golygu bod llai o gyswllt un i un rhwng athro a disgybl, ac mewn llawer o achosion, mae rôl yr athro wedi cael ei chyfyngu i rôl hwylusydd yn hytrach na hyfforddwr.
Mae un astudiaeth ar ôl y llall wedi dangos bod prosiect peirianneg gymdeithasol y system gyfun yn methu. Rydym wedi gweld y gostyngiad yn y safonau’n cyflymu ac rydym yn disgyn ar ôl ein cymheiriaid yn y tablau cynghrair rhyngwladol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, mae’n ddrwg gennyf, Llyr, ni wnaf.
Mae’r galw am ysgolion gramadeg yn yr ychydig bocedi lle maent yn dal i fodoli wedi saethu i’r entrychion. Felly, unwaith eto, nid ydym yn edrych ar yr hyn y mae pobl ei eisiau, rydym yn edrych ar orfodi rhywbeth nad ydynt ei eisiau o bosibl. Yn anffodus, nid yw’r ysgolion gramadeg hyn ond yn bodoli yn y rhannau cyfoethocach o dde Lloegr ac yn ogystal â phrisiau tai yn codi, mae hynny wedi golygu bod llai a llai o ddisgyblion o gefndiroedd tlotach yn mynychu ysgolion gramadeg.
Bachwyd ar hyn ac fe’i hystyriwyd yn dystiolaeth fod ysgolion gramadeg yn cyfyngu ar symudedd cymdeithasol ac felly y dylid ei wrthwynebu. Ni ddylid cyfyngu addysg ragorol i’r cyfoethog yn unig—y rhai sy’n gallu fforddio talu am addysg breifat neu symud i ardal gydag ysgolion rhagorol. Dylai addysg ragorol fod ar gael i bawb a dylai herio ein plant mwyaf disglair yn ogystal. Addysg ragorol yw’r llwybr go iawn at symudedd cymdeithasol.
Dyma beth y mae cynnig UKIP ger eich bron heddiw yn ei argymell. Rydym am weld ysgolion gramadeg yn cael eu hailgyflwyno yng Nghymru i gynhyrchu system addysg sy’n cynnig y cyfleoedd gorau i blant o bob gallu ac o bob cefndir. Pam y dylai plant o gefndiroedd tlotach gael eu hamddifadu o addysg o’r radd flaenaf? Pam y dylai plant nad ydynt yn alluog yn academaidd gael eu hamddifadu o addysg o’r radd flaenaf, sy’n canolbwyntio ar bynciau technegol a galwedigaethol? A pham y dylai gwleidyddiaeth barhau i lesteirio dyfodol ein plant?
Pe baem yn gwbl ymrwymedig i gael gwared ar fraint, byddem wedi diddymu addysg breifat yn hytrach na mynd i ryfel yn erbyn ysgolion gramadeg. Ond o gofio bod llawer o wleidyddion wedi bod mewn ysgol breifat, nid oedd hynny byth yn mynd i ddigwydd. Bydd ysgolion gramadeg yn cynnig dewis i rieni: dewis i anfon eu plant i ysgol sy’n cynnig addysg gyfartal i’r hyn a geir yn y sector preifat; dewis i anfon eu plant i ysgol a fydd yn eu herio ac yn hyrwyddo’u potensial i’r eithaf; a dewis i anfon eu plant i ysgol nad yw’n poeni am eu cefndir cymdeithasol, ond sy’n cynnig symudedd cymdeithasol iddynt.
Anogaf yr Aelodau i gefnogi ein cynnig, ond hoffwn ddweud nad wyf i’n berson a aeth i ysgol ramadeg. Methais yr ‘11-plus’, ond nid yw’n eich dal yn ôl, am eich bod yn mynd i ysgol uwchradd fodern a rhywbeth yn y canol a fynychais i: Ysgol y Pant. Roedd yn cynnig yr un cyfleoedd i mi ag ysgol ramadeg, yn addysgol. Os ydych o ddifrif eisiau mynd ar drywydd addysg, gallwch ddod â hynny i sylw’r athrawon. Ond wrth ddod allan o goleg hyfforddi athrawon, digalon iawn oedd gweld yn sydyn nad oeddech yn gwybod pwy oedd y disgyblion—roedd gennych lun o’ch blaen i’ch atgoffa pwy oeddent. Nid yw hynny’n ffafrio dysgu. Nid yw hynny’n ffafrio’r bregus mewn cymdeithas—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Aethoch yn eich blaen i gael hyfforddiant athrawon, cefais innau hyfforddiant athrawon, a chredwch fi, roeddwn yn adnabod pob un o’r disgyblion y bûm yn eu dysgu. Nid oedd angen lluniau arnaf—
Mewn ysgolion cyfun?
Mewn ysgolion cyfun. Fe euthum i ysgol gyfun—
Gyda 3,000 o ddisgyblion—
Roeddwn yn dysgu mewn ysgol gyfun, roeddwn yn adnabod y disgyblion ac yn fwy na hynny, roedd yr addysg a gawsant cystal â’r un. Nid yw’n ymwneud ag addysg ysgol ramadeg, mae’n ymwneud â’r modd y caiff addysg ei darparu.
Rwy’n anghytuno’n llwyr â chi ar y pwynt hwnnw. Credaf fod dosbarthiadau llai ac ysgolion llai—rydych yn helpu’r mwyaf bregus yn yr ysgolion hynny, ond rydych yn eu colli yn y system gyfun. Diolch.
Mae’r cynnig hwn yn mynd at wraidd yr hyn y mae UKIP yn ei wneud mewn gwirionedd, sef dethol a gwahanu. Mae Cylchlythyr 10/65 yn drobwynt pwysig a roddodd siâp i addysg yn y wlad hon yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif. Hanner cant ac un o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’n dal i fod yn un o lwyddiannau blaengar diffiniol Llywodraeth Lafur radical Wilson 1964-1970, a byddwn yn sôn am ychydig o arbenigwyr ac ychydig o bobl deilwng yn fy araith. Anthony Crosland oedd yr Ysgrifennydd Addysg a anfonodd femorandwm pwysig at yr awdurdodau lleol. Roedd y ddogfen yn cyfarwyddo swyddogion lleol i ddechrau newid ysgolion gramadeg yn ysgolion cyfun. Roedd Anthony Crosland yn gawr yn y mudiad Llafur ac yn gyfan gwbl benderfynnol o ddiddymu ysgolion gramadeg anflaengar ac ôl-syllol, ac rwy’n rhannu safbwynt Crosland. Rwy’n falch iawn o godi yn y ddadl hon i wrthwynebu’r cynnig hwn gan UKIP sydd i’w weld fel pe bai wedi ei estyn o gypyrddau llychlyd Pencadlys y Blaid Geidwadol yn y 1950au, er fy mod yn deall nad ydynt hwy mewn gwirionedd yn cytuno.
Mae’n bwysig i ni atgoffa ein hunain am destun y memorandwm hwn, un o’r rhai prydferthaf a ysgrifennwyd erioed yn fy marn i, ac mae’n dweud fel hyn:
Amcan datganedig y Llywodraeth yw rhoi diwedd ar ddethol drwy arholiad yn 11 oed a dileu ymwahaniaeth mewn addysg uwchradd. Cymeradwywyd polisi’r Llywodraeth gan Dŷ’r Cyffredin mewn cynnig a basiwyd ar 21 Ionawr 1965.
Ac mae hyn yn bwysig:
o fod yn ymwybodol o’r angen i godi safonau addysg ar bob lefel, ac o fod yn gresynu bod gwireddu’r amcan hwn yn cael ei rwystro gan wahanu plant i wahanol fathau o ysgolion uwchradd, noda’r Tŷ hwn gyda chymeradwyaeth ymdrechion awdurdodau lleol i ad-drefnu addysg uwchradd ar batrwm cyfun a fydd yn diogelu popeth sy’n werthfawr mewn addysg ysgol ramadeg i’r plant sy’n ei chael ar hyn o bryd ac yn sicrhau ei bod ar gael i fwy o blant; mae’n cydnabod y dylai dull ac amseriad ad-drefnu o’r fath amrywio yn ôl anghenion lleol; ac mae’n credu ei bod bellach yn bryd cael datganiad o bolisi cenedlaethol.
Mae’r angen, fel y mae’r memorandwm yn dweud, i godi safonau addysgol ar bob lefel mor allweddol heddiw ag yr oedd 51 mlynedd yn ôl ac fel y nododd Aelodau eraill yn y Siambr hon. Mae’n gwbl druenus fod aelodau o UKIP yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, nid yn unig yn dymuno cael gwared ar eu harweinydd cenedlaethol yng Nghymru, yr AC annibynnol newydd, Nathan Gill, ond maent hefyd yn awyddus i yrru plant Cymru yn ôl dros hanner canrif i oes y trowsus byr, rhaniadau dosbarth a byd o gyfleoedd cyfyngedig.
Pwy oedd yn gyfrifol am ddisodli’r cylchlythyr hwn? Gadewch i mi ddyfalu: un o’r enw Margaret Thatcher, yn debyg i Theresa May sydd ar hyn o bryd yn dal i gefnogi hynny, pan ddaeth yn Ysgrifennydd addysg yn 1970, ac mae hyn yn bwysig yn y cyd-destun. Mae gennych y cyfan sydd angen i chi ei wybod pan fydd UKIP yn canu clodydd Margaret Thatcher, ac mae ganddynt yr wyneb i bortreadu eu hunain fel etifeddion Llafur yng Nghymoedd de Cymru. Ar ôl y penderfyniad i adael yr UE, nid oes ganddynt ddim i’w gynnig i bobl Cymru ond polisïau Torïaidd a’r syniad o faes awyr Maggie Thatcher, ond rwy’n crwydro. Fel y dywedodd yr Arlywydd Obama yn gofiadwy unwaith, gallwch roi minlliw ar wyneb mochyn, ond mochyn fydd e o hyd.
Rydym i gyd yn gwybod am gynghorwyr annibynnol ar gynghorau sy’n rhy ofnus i sefyll dan faner y Torïaid. Nawr, mae gennym UKIP Cymru—cartref i wleidyddion a wrthodwyd gan y Torïaid gyda’u harweinydd yng Nghymru yn Aelod annibynnol—gyda’r Torïaid, eu cyfeillion, yn y Siambr, gyferbyn. Felly, beth sy’n ysbrydoli—[Torri ar draws.] Ni chlywais hynny. Beth sy’n ysbrydoli’r chwiw anflaengar hon gan Brif Weinidog y DU? Gadewch i ni ofyn cwestiwn difrifol iawn. Beth sy’n ei hysbrydoli yn awr gydag aelodau UKIP ar ei hochr?
Yn sicr nid yw’n awydd poblogaidd ymysg y bobl. Un o bob tri o bobl Lloegr yn unig sy’n credu bod Llywodraeth y DU yn iawn i gynyddu nifer yr ysgolion gramadeg a dethol mwy o ddisgyblion ar sail gallu academaidd. Rydym wedi clywed pam yn y fan hon y prynhawn yma, oherwydd o ran addysgeg, mae’n hen ffasiwn, mae’n anflaengar ac nid yw’n gweithio. Gadewch i ni edrych ar y Ffindir am atebion; gadewch i ni beidio ag edrych ar draws y ffin ar Loegr. Os ydych yn parchu ac yn deall, mae yna bôl piniwn YouGov ar gyfer ‘The Times’ sy’n dweud mai 34 y cant yn unig o’r rhai a holwyd a gefnogai’r polisi—sef cael gwared ar ysgolion gramadeg—ac nid oedd y gweddill yn ei gefnogi.
Felly, mae gwahanu cymdeithasol drwy addysg yn amrywio. Y rhai sy’n parhau i wadu yn unig sydd ar ôl. Maent yn rhyw lun o geisio datgladdu’r corff, fel Heathcliff anobeithiol yn rhefru am ei Catherine yn ‘Wuthering Heights’, er bod yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn arwr Byronaidd annhebygol.
Felly, beth yw barn yr arbenigwyr addysg? Dywedais y byddwn yn siarad am y rheini. Ar y mater hwn, mewn gwirionedd fe lwyddodd y cynigydd, Theresa May, i uno’r cyn-Ysgrifenyddion addysg Llafur a Cheidwadol, yr undebau addysgu a’r Blaid Lafur seneddol yn eu gwrthwynebiad. Felly, yn ystod y cwestiynau i’r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, ni allodd y Prif Weinidog May ddyfynnu un arbenigwr sy’n cefnogi camau i ymestyn ysgolion gramadeg. Gadewch i ni edrych ar Syr Michael Wilshaw felly, pennaeth mawr ei barch a’i glod y corff gwarchod addysg yn Lloegr, y Swyddfa Safonau mewn Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau. Mae Syr Michael wedi datgan bod y model addysg ddetholus, a dyfynnaf, ‘yn gam mawr yn ôl’. Pennaeth y corff gwarchod yn Lloegr yw hwn.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mae’n ddrwg gennyf, ni wnaf. Ac ymhellach, fod ei hanes o dderbyn plant o gefndiroedd heb fod yn ddosbarth canol ‘yn eithaf truenus’. Rydym wedi clywed y geiriau hynny eisoes—eithaf truenus. Gwn y byddai aelodau UKIP yn hoffi pe baem yn byw ym myd Michael Gove a’i fydysawd cyfochrog. Datganodd y cyn-Ysgrifennydd Addysg Torïaidd hwnnw’n gynharach eleni,
Rwy’n credu bod pobl yn y wlad hon wedi cael digon ar arbenigwyr.
Wel, gadewch i mi ddweud wrth y Siambr hon fod pobl Cymru sy’n frwd ynghylch lles addysg ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn dal i gredu mewn arbenigwyr, ac yn benodol, maent yn credu mewn arbenigwyr addysgol ac maent yn credu mewn penaethiaid. Felly, pan fydd pennaeth Ofsted yn Lloegr yn dweud wrth uwchgynhadledd addysg i gynghorau Llundain—
Mae angen i chi ddod â’ch cyfraniad i ben yn awr.
Iawn. Y cwestiwn y byddwn yn ei ofyn i’r rhai sy’n crochlefain am gael dychwelyd at system ddethol yw: a ydych chi wir eisiau gwahanu disgyblion Cymru? Mae’r ateb yn glir: rydych yn dymuno rhannu a gwahanu plant Cymru. Rwy’n gwrthwynebu’r cynnig hwn yn gryf.
Rhai troeon ymadrodd diddorol yn y fan honno. Rwy’n credu bod y Blaid Lafur wedi diddymu ysgolion gramadeg pan oedd y Blaid Lafur yn Blaid Lafur. Nid wyf yn siŵr beth yw hi bellach. O ran y ddadl, mae ysgolion gramadeg yn amlwg yn syniad gwael. Maent yn ymrannol; rydych yn diystyru pobl yn 11 oed. Mae’r dystiolaeth yno nad oedd y system yn gweithio, ond nid yw hynny’n golygu bod yr hyn sydd gennym heddiw yn gweithio. Rwy’n credu mai’r Prif Weinidog a ddywedodd yn ystod y tymor diwethaf fod y Llywodraeth wedi tynnu ei llygad oddi ar y bêl. Byddwn yn cytuno â hynny oherwydd rwy’n credu nad yw’r addysg y mae llawer o’n plant yn ei chael yn awr yn ddigon da. Nid yw’r adeiladau mewn cyflwr digon da, mae gormod o doriadau, mae gormod o ddileu swyddi, mae gweithgareddau y tu allan i’r ystafell ddosbarth yn gyfyngedig—ac rwy’n siarad fel athro gyda 23 mlynedd o brofiad. Y broblem fwyaf ym maes addysg yw’r farchnad, a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr ac a barhawyd gan y Blaid Lafur. Os edrychwch ar y farchnad gymwysterau, nid ydynt yn gweithio. Yr hyn rydym ei angen yw safonau aur y gall pawb anelu atynt, oherwydd, ar y funud, ceir llu o gymwysterau ac mae rhai cwmnïau preifat yn gwneud llond sach o arian ar hynny.
Rwy’n edrych ar y diwylliant sy’n cael ei ysgogi gan dargedau—[Torri ar draws.] Nid wyf am ildio. Mae’r diwylliant a ysgogir gan dargedau yn beth gwael. Mae’n dadbroffesiynoli addysgu, ac rwy’n credu bod hynny’n gyffredin ym mhob man.
Rhai syniadau’n unig, a dweud y gwir. Os edrychwch ar Estyn, rwy’n meddwl bod y gwerth yn amheus. Rwy’n credu y byddai’n llawer gwell i ni gael athrawon profiadol iawn ar gyfnodau sabothol i arolygu, ond mewn modd sy’n debycach i fentora, yn hytrach na cheisio dal pobl ar eu bai. Rwy’n meddwl bod yr holl—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, ni wnaf. Na wnaf. Yr holl beth am addysg yng Nghymru yw ei fod, i mi, yn rhy wleidyddol, ac rwy’n meddwl mai’r hyn yr hoffwn ei weld, mewn gwirionedd, yw comisiwn hollbleidiol ar addysg sy’n edrych 20 mlynedd i’r dyfodol, gan fod popeth yng Nghymru heddiw yn fyrdymor tu hwnt. Os edrychwch ar y Ffindir—. Wel, mae’r Ysgrifennydd addysg yn ysgwyd ei phen; nid wyf yn gwybod pam. Mae popeth yn fyrdymor. Os edrychwch ar y Ffindir, mae ganddynt ddosbarthiadau o 15. Felly, os ydych yn mynd i gyflwyno dosbarthiadau llai o faint, yn y bôn, gwych, ond o un neu ddau? Wyddoch chi, beth yw’r pwynt? Rwy’n meddwl bod angen cwestiynu’r gwariant yno, oherwydd, os ydych yn mynd i leihau maint dosbarthiadau o ddwsin, bendigedig; gadewch i ni fwrw ymlaen â hynny, gadewch i ni fod yn radical.
Ieithoedd modern: mae gennym gyfle gwych yng Nghymru i fagu pawb yn ddwyieithog o dair oed ymlaen. Pam ddim? Dylai pob plentyn ddysgu Cymraeg o dair oed ymlaen. Dylent ddysgu iaith Ewropeaidd hefyd—Sbaeneg, Ffrangeg. Pan gyrhaeddant flynyddoedd yr arddegau efallai, beth am ddysgu iaith economi sy’n datblygu? Maent yn ei wneud yn yr Iseldiroedd; pam na allwn ei wneud yma? Ond er mwyn cael y sgiliau sydd eu hangen, unwaith eto, byddwn yn dweud bod angen i chi gael cynllun 20 mlynedd, yn fras.
Dof â fy sylwadau i ben yn awr, ond rwyf am ddweud un peth, gan fod pawb yn sôn am addysg. Rwyf wedi clywed hyn o bob rhan o’r Siambr, gan gynnwys gennyf fi, ond rwyf am ofyn cwestiwn yn hytrach na rhoi ateb. A’r cwestiwn yw: beth rydym ei eisiau o’n system addysg mewn gwirionedd? Hyd nes y byddwn yn gwybod hynny—. Ac nid wyf yn golygu safonau uwch yn unig, a rhethreg wleidyddol. Beth rydym ei eisiau o ran addysg mewn gwirionedd? Beth rydym ei eisiau gan y plant sy’n dod allan ar y pen arall? A hyd nes yr atebwn y cwestiwn hwnnw, hyd nes y byddwn yn gwybod yn union beth rydym ei eisiau a lle rydym yn mynd, nid wyf yn credu ein bod yn mynd i fod yn llwyddiannus.
Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gyfrannu i’r ddadl. Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwyf wedi gwrando gyda diddordeb, ac anobaith ar adegau, ar bopeth sydd wedi cael ei ddweud y prynhawn yma. Nawr, er bod y cynnig mewn trefn yn ddi-os, mae hon yn ddadl na ddylem fod yn ei chael. Nid a ddylem ailgyflwyno ysgolion gramadeg yng Nghymru ddylai’r cynnig fod—ysgolion sy’n rhan o system addysg hen ffasiwn, ymrannol y rhoddwyd y gorau iddi yn ein gwlad bron i 50 mlynedd yn ôl. Dylai’r drafodaeth ymwneud â sut rydym yn gwneud yn siŵr fod pob un—ac rwy’n golygu pob un—o’n plant yn cael addysg o’r radd flaenaf. Mae fy ffocws ar wella addysg ym mhob un o’n hystafelloedd dosbarth, ym mhob un o’n hysgolion, ac i bob un o’n disgyblion. Ac a dweud y gwir, nid oes gennyf fawr o ddiddordeb mewn strwythurau. Nid dyna fy mlaenoriaeth. Ansawdd yr addysg sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc, nid pa fath o ysgol y maent yn ei mynychu. Ac yn sicr, Lywydd, nid wyf yn meddwl bod edrych yn ôl at orffennol euraid yn fuddiol iawn i Gymru.
Mae’r cynnig a gynigiwyd gan Michelle Brown yn mynd yn groes i dystiolaeth ryngwladol. Bythefnos yn ôl, ymwelais â’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd—yr OECD. Cyfarfûm ag arbenigwyr sy’n arwain y byd fel Andreas Schleicher, ac mae’r dystiolaeth ryngwladol o’r OECD yn glir: nid oes cyswllt o gwbl rhwng dethol disgyblion mewn systemau ysgolion a gwella sgoriau. Ac nid oes cyswllt rhwng hynny ychwaith a chynyddu symudedd cymdeithasol. Cadarnhawyd hyn gan dystiolaeth gan Ymddiriedolaeth Sutton y mae Lynne Neagle, Cadeirydd y pwyllgor addysg, a Llyr Huws Gruffydd eisoes wedi cyfeirio ati heddiw. Gwelsant fod llai na 3 y cant o blant ysgolion gramadeg yn cael prydau ysgol am ddim, o gymharu â 20 y cant ar draws gweddill y wlad. Ac mae pennaeth presennol OFSTED hyd yn oed wedi dal ei ben mewn anobaith ynglŷn â’r argymhellion ar draws y ffin ac wedi dweud nad ydynt yn gwneud dim—ac rwy’n ailadrodd, nid yw ysgolion gramadeg yn gwneud dim—i wella symudedd cymdeithasol.
Lywydd, pan gynhaliodd yr OECD eu hadolygiad o addysg yng Nghymru yn 2013, nid oeddent yn dal unrhyw beth yn ôl. Roeddent yn glir ac yn ddiamwys iawn ynglŷn â’r heriau sy’n wynebu ein system addysg, ac maent yn heriau rwy’n barod i’w hwynebu. Roeddent yn nodi’n glir iawn beth oedd angen ei newid, ond roeddent hefyd yn nodi bod ein system gyfun yma yng Nghymru yn un o’n cryfderau. Pam y byddem eisiau newid hynny? Dyna pam y byddaf yn cefnogi gwelliant cyntaf Paul Davies i’r cynnig yma y prynhawn yma. Ond, yn union fel Llyr Huws Gruffydd, rwy’n ddryslyd braidd, gan mai bythefnos yn ôl yn unig y dywedodd llefarydd addysg y Torïaid fod digon o dystiolaeth i gefnogi ysgolion gramadeg ar sail symudedd cymdeithasol, a dyfynnaf,
Ni ddylai rhieni a phobl ifanc gael eu hamddifadu o’r cyfle i ddewis ysgol ramadeg.
Nawr, rwy’n rhoi’r bai am hynny efallai ar swyddog y wasg brwdfrydig iawn a ryddhaodd y datganiad cyn i Darren ei weld. [Torri ar draws.] Ond rwy’n croesawu’n fawr iawn yn wir heddiw y datganiad clir iawn na fydd y Ceidwadwyr yn cefnogi dychwelyd at addysg ddetholus.
Mae ein hymgyrch i wella safonau yn seiliedig ar dystiolaeth, o ddiwygio’r cwricwlwm—. A byddwn yn dweud wrth Mr McEvoy, os ydych am wybod beth y mae’r Llywodraeth hon ei eisiau o’i system addysg, yna darllenwch Donaldson. Mae’n gwbl glir—yn glir iawn. O ddiwygio’r cwricwlwm i wella arferion addysgeg, dyna rydym yn ei wneud, ac rwy’n awyddus i sicrhau ein bod yn gwneud y cynnydd cywir. Dyna pam y gofynnais i’r OECD, pan gyfarfûm â hwy, ddychwelyd i Gymru i roi cyngor i mi ar ba un a oes gennym strategaethau cywir ar waith i ymateb i’w hadolygiad a gyhoeddwyd yn 2014, a byddant yn gwneud hynny yr hydref hwn.
Rwyf o ddifrif ynglŷn â dysgu gan y gorau ym mhob cwr o’r byd er lles Cymru, a dyna pam rwy’n gwrthwynebu ail welliant Paul Davies i’r cynnig. Mae ein polisïau’n ymwneud â chodi safonau yn ein holl ysgolion, fel bod pob plentyn, waeth ble mae’n byw, yn cael y profiad dysgu gorau posibl. [Torri ar draws.] Na, Darren.
Ni ddylai dewis i rieni ymwneud yn unig â phwy sy’n gallu gweiddi uchaf am gael mynd i’r ysgolion gorau. Dylai pob ysgol yng Nghymru fod yn rhagorol, ac mae’r OECD eto, Darren, yn cydnabod bod systemau ysgolion sy’n perfformio’n dda â systemau cydweithredu yn ganolog iddynt, ac nid y gystadleuaeth sydd ymhlyg yn eich gwelliant.
Fodd bynnag, rwy’n cefnogi trydydd a phedwerydd gwelliant Paul Davies y prynhawn yma. Mae’n iawn y dylai addysg uwchradd fod yn amrywiol. Mae’n iawn y dylai addysg uwchradd feddu ar gynnig academaidd a galwedigaethol cyfoethog. Mae’n iawn y dylem gael addysg sy’n darparu’r cyfleoedd gorau i bob person ifanc.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Os caf wneud rhywfaint o gynnydd, os gwelwch yn dda. Yn ogystal â chanolbwyntio ar ansawdd addysgu a dysgu, mewn gwirionedd mae gan Gymru stori gadarnhaol iawn i’w hadrodd ar y cynnig galwedigaethol. Ers rhai blynyddoedd rydym wedi bod â pholisi cryf iawn ar gyfer y llwybr dysgu 14-19, sy’n darparu cwricwlwm eang i ddysgwyr. Fe ildiaf.
Diolch. Os yw’r system gyfun wedi bod mor wych, ac wedi gweithio mor dda, pam rydym yn siarad yn awr—? Bob tro y byddaf yn clywed unrhyw un yn siarad am addysg yn y Siambr hon, mae’n ymwneud â newid pethau, addasu pethau; fod yn rhaid gwneud pethau’n well. Pam eich bod yn sydyn yn awr, ar ôl 50 mlynedd o system gyfun, yn dihuno i’r ffaith fod cymwysterau galwedigaethol ac academaidd yn ddau beth gwahanol, a bod yna wahanol ddisgyblion sy’n rhaid eu defnyddio o ran y ddau allu academaidd gwahanol hynny?
Ac mae’r disgyblion hynny yn gwneud defnydd o gwricwlwm eang yn ein hysgolion ar hyn o bryd. Ond nid wyf fi, yn bendant, yn barod i orffwys ar fy rhwyfau, Mr Rowlands. Rwyf eisiau ysgolion sydd hyd yn oed yn well yng Nghymru—ar gyfer fy mhlant, ac ar gyfer holl blant y wlad hon. Mae gennym rai enghreifftiau gwych o ysgolion yn cydweithio â cholegau addysg bellach, sydd, fel y dywed Lynne Neagle, i’w gweld wedi eu hanghofio’n llwyr yn y geiriau hallt a gawsom gan UKIP y prynhawn yma. Mae gennym beirianneg a gweithgynhyrchu yn cael eu cynnig yng Ngholeg Menai. Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn gweithio’n agos iawn gydag awdurdod lleol y brifddinas i gyflwyno cyrsiau galwedigaethol yn nwyrain y ddinas. Mae Coleg Penybont yn cynnig cyrsiau gyda’r hwyr ar gyfer pob dysgwr rhwng 14 a 19 oed, ac maent yn helpu i gyflwyno’r Safon Uwch ar ran Ysgol Gyfun Pencoed. Mae gennym gysylltiadau cryf iawn, ac rwyf am weld y rheini’n cael eu datblygu.
Gan droi at bumed gwelliant Paul Davies, rwy’n pwysleisio ein bod unwaith eto yn gweithio’n galed i godi safonau ym mhob ysgol. Mae gennym raglen ddiwygio uchelgeisiol. Rydym yn gweithio gydag arbenigwyr rhyngwladol ac yn cymryd rhan mewn prosiectau OECD allweddol, megis yr ysgolion dysgu cynnar rhyngwladol ac ysgolion fel sefydliadau dysgu, ac asesu cynnydd mewn meddwl yn greadigol ac yn feirniadol. Ac rydym yn gweithio gyda’r proffesiwn addysgu. Rwyf am i bob ysgol fod yn rhagorol ac nid oes unrhyw ddisgybl nac unrhyw ysgol yn cael eu gadael ar ôl.
Mae chweched gwelliant Paul Davies yn galw am gyflwyno ysgolion rhydd ac academïau ac rwy’n credu mai ffurf arall ar ddethol yw hynny. Rwy’n gwrthwynebu’r polisi hwn yn gryf. Rwyf wedi ymrwymo i system addysg gyfun sy’n gwasanaethu pob dysgwr yng Nghymru. Unwaith eto, rwy’n ailadrodd bod yn rhaid i ni ddilyn y dystiolaeth. Yn syml iawn, nid oes unrhyw dystiolaeth fod ysgolion rhydd neu academïau yn ateb i bob problem mewn perthynas â chodi safonau. Mae adroddiad y Gyfnewidfa Bolisi yn 2015 yn datgan na cheir tystiolaeth i gefnogi’r honiadau fod ysgolion rhydd yn codi safonau, a dywedodd adroddiad gan bwyllgor addysg Tŷ’r Cyffredin nad oedd unrhyw dystiolaeth argyhoeddiadol o’r effaith ar gyrhaeddiad. Yn wir, argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth y DU roi’r gorau i orliwio llwyddiant yr ysgolion hyn.
Mae’r gorau a geir yng Nghymru yn cynnwys traddodiad o hunan-wella, gwybodaeth sy’n democrateiddio ac arweinyddiaeth addysgol. Mae ein diwygiadau addysg wedi eu hysbrydoli gan y gwerthoedd hynny. Mae’r ychydig flynyddoedd nesaf yn allweddol er mwyn cyflawni’r uchelgeisiau sy’n cael eu rhannu a’u mynnu ar draws Cymru: cyflwyno cwricwlwm newydd a wnaed yng Nghymru, ond wedi ei siapio gan y gorau o bedwar ban byd; un a fydd yn sicrhau bod ein pobl ifanc yn gallu byw bywydau boddhaus, yn bersonol, yn ddinesig ac yn broffesiynol mewn democratiaeth fodern.
Rwyf am i bob rhiant fod yn hyderus fod eu plentyn yn mynd i ysgol sy’n eu helpu i dyfu fel dinasyddion galluog, iach a chyflawn. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i athrawon gael eu cynorthwyo i fod y gorau y gallant fod, gan godi safon y proffesiwn yn ei gyfanrwydd. Mae athrawon yn rhannu cenhadaeth fel unigolion, yn broffesiynol ac yn genedlaethol i helpu ein plant i lwyddo. Gan weithio’n agos gyda’r proffesiwn, byddwn yn gwella safonau addysgu a chyfleoedd ar gyfer datblygu. Nid wyf fi, Lywydd, yn mynd i gael fy nargyfeirio oddi ar y llwybr hwn ac ni fydd y Llywodraeth hon. Rwy’n ofni nad yw’r alwad hon am ysgolion gramadeg yn ddim mwy na dargyfeiriad.
Rwy’n galw ar Neil Hamilton i ymateb i’r ddadl.
Rwy’n credu y gallwn i gyd gytuno ein bod wedi cael dadl ysbrydoledig a difyr. Rwy’n siomedig nad yw Rhianon Passmore yn fy ngweld fel arwr Byronaidd, ond heddiw’n unig yw hynny. Pe bai wedi fy adnabod 40 mlynedd yn ôl, gallai fod wedi dod i gasgliad gwahanol. Ond rwy’n hapus iawn i gyfnewid cyfeiriadau llenyddol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda hi: mae hi wedi fy atgoffa, gyda’r angerdd y cyflwynodd ei haraith heddiw, am gymeriad yn ‘A Tale of Two Cities’, sef Madame Defarge, y weuwraig a eisteddai wrth waelod y gilotîn ac a anfonai negeseuon cod at bwyllgor diogelwch y cyhoedd yn ôl cyflymder ei gweu i nodi’r rhai a oedd i’w condemnio i’r gilotîn. Felly, mae’n dangos o leiaf ei bod hi wedi cael addysg weddus gan ei bod yn deall pwynt fy sylw bachog.
Ond dechreuasom y ddadl gyda’r darlun difyr o fy ffrind, Darren Millar, yn sefyll ar ei ben. Mae’n anodd gweld pam y dylai’r Blaid Geidwadol yng Nghymru fod mor amlwg o wahanol yn ei pholisi ar addysg i’r drefn newydd yn Lloegr, gan fod Theresa May wedi cyfiawnhau’r newid yn y polisi yn sylfaenol ar sail dewis i rieni. Mae hynny’n rhywbeth rwy’n credu na ddylid amddifadu pobl Cymru ohono. Mae tua saith o bob 10 o Brydeinwyr, yn ôl datganiad i’r wasg Llywodraeth y DU, am weld y gwaharddiad ar ysgolion gramadeg newydd yn cael ei godi ac mae wyth o bob 10 yn credu y gall ysgolion gramadeg hybu symudedd cymdeithasol pan gaiff pleidleiswyr sydd heb benderfynu eu heithrio.
Wrth gwrs, rydym wedi cael gan wahanol gyfranwyr i’r ddadl—Llyr Gruffydd a Lynne Neagle; rwy’n parchu’r ddau ohonynt yn fawr fel seneddwyr—cawsom ganddynt amrywiol honiadau fod system yr ysgolion gramadeg i’w chondemnio am eu bod yn gwadu mynediad i blant rhieni cymharol dlawd, ac mae hynny’n wir yn Lloegr gan mai dim ond 163 ohonynt sydd ar ôl. Yn Lloegr, yr hyn a gewch yw dethol ar sail cyfoeth yn hytrach na dethol ar sail gallu, oherwydd bod pobl yn symud i ddalgylchoedd yr ysgolion gorau. Mae hynny’n rhywbeth na ellir ei gefnogi. Wrth gwrs, nid oes gennym broblem o’r fath yng Nghymru oherwydd nid oes gennym ysgolion gramadeg. Ond mae hynny hefyd yn golygu bod gennym system sy’n un ateb i bawb.
Gan Lynne Neagle a Rhianon Passmore, cawsom olwg ar y gorffennol ynghylch gorfodi system gyfun. Cafodd Anthony Crosland ei grybwyll gan Rhianon ac wrth gwrs, roedd yn enwog am ei ddatganiad na fyddai’n fodlon hyd nes ei fod wedi dinistrio pob effing ysgol ramadeg yn y wlad. Polisi o orfodaeth oedd ganddo a chael gwared ar ddewis rhieni. Nid wyf yn meddwl fod hynny’n rhywbeth y dylem ei gefnogi yn y byd modern.
Yn y cynnig hwn nid ydym yn argymell y dylem ddychwelyd at y sefyllfa fel yr oedd yn y 1950au a’r 1960au. Euthum i ysgol ramadeg, Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, yn y 1960au ac roedd yn fyd o ysgolion gramadeg ac ysgolion uwchradd modern. Dangosodd David Rowlands a Caroline Jones efallai nad oedd lawn mor anhyblyg yn eu hardaloedd ag y gallai fod wedi bod mewn mannau eraill. Y cyfan y mae’r cynnig hwn yn ei wneud, nid yw’n alwad i ddychwelyd at ysgolion gramadeg ac ysgolion uwchradd modern fel yr oeddent, ond yn hytrach i gyflwyno strwythur llawer mwy hyblyg i’r system addysg, fel yn yr Almaen, er enghraifft, lle mae gennych bedwar math gwahanol o ysgol uwchradd, yn seiliedig, yn y bôn, ar allu neu a ydych am gael addysg fwy academaidd neu dechnegol a galwedigaethol. Ymwneud â hynny y mae’r cyfan. Nid yw’n ymwneud â rhannu’r plant yn 11 oed yn ddefaid a geifr; rydym am gael system hyblyg gan fod plant yn datblygu ar gyflymder gwahanol ar oedrannau gwahanol, wrth gwrs. Y broblem fawr gyda’r system ysgolion gramadeg ac ysgolion uwchradd modern yn fy nydd oedd nad oedd ganddynt ddigon o hyblygrwydd, ac mae’n wir mai’r ysgolion uwchradd modern oedd sinderela’r system addysg. Nid oes neb yn gofyn am gael dychwelyd at hynny. Yr hyn rydym ei eisiau yw fersiwn wedi ei huwchraddio a’i moderneiddio o’r system ddewis i rieni, nad yw’n ddadleuol mewn gwledydd eraill.
Y broblem fawr gydag agwedd Kirsty Williams at addysg yw ei bod hi’n mynnu cynnwys cyfyngiad yn y system addysg sy’n golygu, hyd yn oed os ydych yn byw yn nalgylch ysgol nad yw’n cynnig addysg weddus i blant, eich bod yn cael eich gorfodi i dderbyn y canlyniad hwnnw ac ni allwch symud o un i’r llall. Yr hyn y mae’r cynnig hwn yn ceisio ei wneud—a rhai o welliannau’r Ceidwadwyr rydym yn eu cymeradwyo—. Yr hyn y mae’r cynnig hwn yn ceisio ei wneud yw dweud mai rhieni, yn y pen draw, a ddylai ysgogi polisi addysg, yn hytrach na gwleidyddion a biwrocratiaid. Mae hynny, mewn byd modern a democrataidd—[Torri ar draws.] Wel, nid wyf yn siŵr fod gennym amser i wneud hynny. Mae gennym, oes?
Oes, mae gennych.
A allech egluro eich safbwynt drwy’r cynnig hwn mewn perthynas ag ysgolion gramadeg cyfrwng Cymraeg?
Wel, mae problem, yn amlwg, gydag ysgolion cyfrwng Cymraeg—[Torri ar draws.] Wrth gwrs bod, yn syml oherwydd, ar hyn o bryd, ac mae hyn yn mynd yn ôl at y ddadl gynharach a gawsom ar yr iaith Gymraeg—efallai, mewn rhai rhannau o Gymru, na fyddai’n gymaint o broblem, ond mewn rhannau eraill o Gymru, mae’n sicr y byddai, gallu darparu’r ddarpariaeth hon. Felly, yn y pen draw, ni all fod yr un math o ddewis â sydd gennych yn y sector preifat, fel y mwynhaodd Kirsty Williams, lle mae gan rieni ryddid llwyr i ddewis anfon eu plant i ble bynnag y maent yn dymuno.
Mr Hamilton, darllenais gyda diddordeb eich sylwadau ar ddewis fy rhieni. Rwy’n credu eich bod ar fai yn ymosod ar fy rhieni, nad ydynt bellach yn fyw ac felly’n methu ateb dros eu penderfyniadau. Yn sicr, yr hyn a fyddai’n llawer mwy perthnasol, Mr Hamilton, yw’r dewisiadau rwyf fi wedi eu gwneud ar gyfer fy mhlant, ac rwy’n falch iawn eu bod yn mynychu ysgolion cyfun yn fy etholaeth.
Mae Kirsty Williams yn camgymryd bwriad fy sylw. Nid oeddwn yn ymosod ar ei rhieni mewn unrhyw fodd—rwy’n eu canmol, mewn gwirionedd, am y dewisiadau a wnaethant. Mae’n amlwg eu bod wedi gweithio. Ond yr hyn rwyf am ei ddweud yw y dylai pob rhiant gael y math hwnnw o ddewis. Hwy yw’r rhai a ddylai benderfynu drostynt eu hunain, fel y mae hi’n ei wneud dros ei phlant, ynglŷn â’r math o addysg y mae hi ei eisiau iddynt. Ymwneud â hynny y mae hyn i gyd. Wrth gwrs, ni allwn ailadrodd hynny mewn system addysg wladol. Rhaid cael rhyw fath o system benderfynu weinyddol, ond dylem wneud y gorau o allu rhieni i fod yn ysgogwyr go iawn y ffordd y mae’r system yn gweithio. Arian y trethdalwyr sy’n darparu’r system addysg. Yn y pen draw, dylai trethdalwyr gael mwy o lais yn y system o wneud penderfyniadau a’r polisïau sy’n cael eu cyflawni.
Felly, efallai mai’r gyntaf o lawer o ddadleuon y byddwn yn eu cael ar addysg yw hon. Mae amryw o’r Aelodau heddiw wedi gwatwar safbwyntiau UKIP, ond fe gawn gyfle efallai i ganiatáu i’r cen syrthio oddi ar eu llygaid drwy gael mwy o brofiad ohonom mewn dadleuon yn y dyfodol. Felly, byddaf yn ystyried hon yn ddadl archwiliadol ar y pwnc yn unig, ac rwy’n gobeithio y gallwn archwilio priffyrdd a chilffyrdd pellach maes o law. Ond yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â dewis i rieni a sicrhau cymaint â phosibl o ryddid i rieni benderfynu drostynt eu hunain pa bolisïau mewn addysg sydd orau ar gyfer eu plant, a bydd y canlyniadau sy’n deillio o hynny, rwy’n meddwl, yn bendant yn welliant ar y system bresennol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Cytunwyd y dylid cynnal y cyfnod pleidleisio cyn y ddadl fer. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rwy’n symud yn syth i’r cyfnod pleidleisio.