– Senedd Cymru am 4:21 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda heddiw, sef dadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21 ar yr adroddiad sefyllfa byd natur, a galwaf ar Simon Thomas i gynnig y cynnig. Simon.
Cynnig NDM6122 Simon Thomas, Huw Irranca-Davies, Vikki Howells, Sian Gwenllian, David Melding
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu'r Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016
2. Yn cymeradwyo gwaith y sefydliadau cadwraeth ac ymchwil sydd wedi cynhyrchu'r adroddiad
3. Yn pryderu am y canfyddiadau sy'n nodi:
a) bod 56 y cant o'r rhywogaethau a astudiwyd wedi dirywio ledled y DU dros y 50 mlynedd diwethaf
b) bod un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru bron â darfod
c) bod 57 y cant o blanhigion gwyllt, 60 y cant o löynnod byw a 40 y cant o adar yn dirywio
d) bod dros draean o rywogaethau fertebrat a phlanhigion morol (sy'n hysbys i ni) wedi prinhau, gyda thri chwarter o rywogaethau infertebrat morol yn dirywio ledled y DU.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i sicrhau bod gwyrdroi'r dirywiad yn ein bioamrywiaeth yn ganolog i bolisïau rheoli cynaliadwy.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n dda gen i agor y ddadl yma a bod gan gynifer o Aelodau Cynulliad ddiddordeb yn y ddadl ar yr adroddiad. Pwrpas y ddadl yw rhoi gerbron y Cynulliad yr adroddiad hwn gan ryw 56 o fudiadau gwahanol—cadwraeth, amgylcheddol, mudiadau anifeiliaid hefyd—ynglŷn â chyflwr natur yng Nghymru. Ac mae’r adroddiad yn un hawdd ei ddarllen ond yn anodd ei dderbyn, achos mae’r hyn mae’n ei ddweud am gyflwr ein hinsawdd a’n cynefin ni yn siomedig, a dweud y gwir, ac yn dweud llawer am y diffyg gofal sydd wedi bod dros y blynyddoedd, nid gan y Llywodraeth—nid beio’r Llywodraeth ydw i yn fan hyn—ond gennym ni i gyd fel cymdeithas, i beidio â chymryd hwn o ddifri.
Mae’r adroddiad yn darllen yn arswydus, mewn ffordd, i unrhyw un ohonom ni sy’n cofio cynefinoedd fel yr oedden nhw neu’n cofio gweld anifeiliaid gwyllt, neu’n dymuno jest bod ein plant a’n gorwyrion yn gallu gweld hynny. Mae un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru bellach ar y ffordd i drengi. Mae sawl un ohonyn nhw wedi eu cydnabod mewn deddfwriaeth Gymreig, o dan Ddeddf Amgylchedd (Cymru) 2016, fel rhai sy’n flaenoriaeth i’w cadw, ond eto mae’r dirywiad yn syfrdanol. Ers 1970 mae rhywbeth fel 57 y cant o blanhigion gwyllt, 60 y cant o bili-palod a 40 y cant o adar wedi gweld dirywiad yn ein cefn gwlad a’n cynefinoedd ni. Ac o’r rhai rŷm ni’n eu hadnabod yn ein deddfwriaeth fel rhai sy’n flaenoriaeth i’w cadw, dim ond rhyw 40 y cant ohonyn nhw sy’n cael eu dosbarthu fel rhai sy’n sefydlog. Felly, mae gwir berig y byddwn yn colli anifeiliaid sy’n naturiol i Gymru ac wedi cael eu creu yn y cyd-destun Cymreig, a’n bod wedyn yn colli rhywbeth sy’n cyfrannu tuag at y byd a rhywbeth sy’n arbennig amdanon ni fel cenedl.
Yn y cyd-destun hwnnw, felly, mae pawb yn derbyn ein bod ni’n byw bellach mewn byd lle mae gweithgaredd dynoliaeth yn cael mwy o effaith, o bosib, ar y byd ac ar fyd natur na phethau naturiol. Mae rhai pobl am alw hynny’n ‘anthropocene’—oes newydd, cyfnod newydd, lle mae dynion yn fwy pwysig na grymoedd naturiol. Ac mae’n cael ei weld, efallai, yn y ffaith bod mynegai o fioamrywiaeth yn cael ei gyhoeddi, nid jest i Gymru ond i Brydain gyfan, fel rhan o’r adroddiad yma, a’r dybiaeth yw ein bod ni angen rhywbeth fel 90 y cant, yn ôl y mynegai yma, i ddangos bod yr ecosystemau sydd gennym ni yn ddigon cryf i gynnal bywyd gwyllt wrth fynd ymlaen, ac, yn sgil hynny, wrth gwrs, i gynnal bywyd ffyniannus i ddynoliaeth hefyd. Yn ôl y mynegai hwnnw, mae Cymru ar hyn o bryd yn sgorio 82.8 y cant. Nawr, mae hynny’n uwch na gwledydd eraill Prydain, sydd yn beth da, ond mae’n brin o’r 90 y cant sydd yn cael ei gydnabod fel y trothwy ar gyfer ecosystem gref ac mae hefyd yn golygu ein bod ni ymhlith yr 20 y cant gwaelod o’r 218 o wledydd sydd yn cymryd rhan yn yr arolwg hwn. Felly, mae’n amlwg bod yn rhaid inni wneud rhywbeth yn wahanol. Mae’n rhaid inni ymateb yn bositif i’r her a sicrhau bod yna fwy o waith yn cael ei wneud dros fioamrywiaeth a chadw ac ehangu, yn wir, rhai o’r rhywogaethau naturiol sydd gennym ni yng Nghymru.
Rwyf eisiau bod yn bositif yn y ddadl yma, er bod y darlun, efallai, yn eithaf du yn yr adroddiad. Mae’r ffaith ein bod ni, bellach, yn effeithio mwy ar fywyd gwyllt ac ar y cynefinoedd hefyd yn golygu bod gennym yma yr arfau i wneud rhywbeth ynghylch hynny, achos mae’n amlwg, os ŷm ni’n defnyddio technoleg mewn ffordd mwy clyfar, os ŷm ni’n byw’n fwy clyfar, os ŷm ni’n defnyddio’r hyn rŷm ni’n ei ddeall yn awr o fioamrywiaeth yn fwy clyfar, fe fedrwn ni weithredu er mwyn gwarchod ac ehangu yn y maes yma. Yn cydnabod hynny, mae yna ddwy Ddeddf, wrth gwrs, wedi’u pasio gan y Cynulliad hwn—y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016—sydd yn gosod allan nifer o amcanion sydd yn ychwanegu at y posibiliadau positif sydd gennym i wyrdroi’r sefyllfa anffodus bresennol.
Mae angen gweld arweiniad gan y Llywodraeth yn y maes yma. Mae angen gweld arweiniad clir o dan Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn arbennig, rwy’n meddwl. Fe gyhoeddwyd amcanion, neu nodau, fe ddylwn ddweud—achos mae yna wahanol eiriau yn y Gymraeg a’r Saesneg yn y fan hyn—neu nodau llesiant, fel maen nhw’n cael eu hadnabod yn y Ddeddf, ddydd Gwener ddiwethaf. Un o’r rheini, rhif 12, yw rheoli defnyddio a gwella adnoddau naturiol Cymru i gefnogi llesiant hirdymor. Beth sy’n bwysig am y nod yna yw ei fod yn cydnabod bod cynnal a chryfhau amgylchedd naturiol cadarn, ac ynddo fioamrywiaeth ynghyd â systemau iach, yn helpu pobl, yn cyfrannu at iechyd, yn hwb i economi cynaliadwy, ac yn creu gwydnwch ecolegol a’r gallu i addasu i newid. Mewn geiriau eraill, mae edrych ar ôl bywyd gwyllt yn edrych ar ôl dynion hefyd, ac mae eisiau symud ymlaen ar sail hynny.
Rwyf eisiau cloi, cyn clywed gan Aelodau eraill ynglŷn â’u sylwadau nhw ar y ddadl yma, gydag enghraifft wael ac enghraifft dda o’r ffordd rŷm ni wedi mynd o gwmpas pethau’n ddiweddar yn y maes yma. Yn anffodus, mae’r penderfyniad i ganiatáu llusgrwydi cregyn bylchog eto ym mae Ceredigion, yn fy marn i, yn gam gwag ar hyn o bryd. Er ein bod yn chwilio am bysgodfa gynaliadwy o gregyn bylchog ym mae Ceredigion, nid wyf yn siŵr iawn bod gennym ni eto y wybodaeth am y cynefinoedd o dan y dŵr a sut y bydden nhw’n gwella pe bai llusgrwydo yn digwydd. Rwy’n gobeithio, o leiaf, y bydd y Llywodraeth yn monitro’n ofalus iawn, iawn effaith hynny ar y cynefinoedd o dan y dŵr, nid yn unig y cregyn bylchog eu hunain, sy’n cael eu bwyta, wrth gwrs, ond, yn fwy pwysig, yr effaith ar anifeiliaid prin sydd wedi’u gwarchod ym moroedd Cymru, yn arbennig y llamhidydd.
Ar ochr fwy positif, ddydd Gwener diwethaf, bues i’n ffodus iawn i fynd i Bontarfynach—lle hyfryd, yn enwedig yn yr hydref, ac wrth gwrs, y dirwedd sydd yn cael ei defnyddio ar gyfer ffilmio ‘Y Gwyll’, i’r rhai sydd yn ei gwylio. Roeddwn i yno i weld yr arbrawf i ailgyflwyno bele’r coed i gefnwlad Cymru. Dyma’r anifail a oedd wedi darfod o’r tir, i bob pwrpas, yng Nghymru, ond erbyn hyn mae yna 40 o’r anifeiliaid wedi cael eu gollwng yn ôl i gefnwlad Ceredigion. Maen nhw’n dod o’r Alban; mae croeso mawr iddyn nhw, achos maen nhw’n dod yn ôl â rhywbeth a oedd wedi mynd ar goll o fywyd ein cynefin naturiol. Yn sgil gollwng y rhain i mewn i Gymru, mae yna nifer o bethau diddorol wedi dod i’r amlwg. Yn gyntaf oll, maen nhw’n teithio’n bell—aeth un mor bell ag Abergele. Yn ail, maen nhw’n cadw’r niferoedd y wiwer lwyd i lawr. Felly, rŷm ni’n gweld, wrth gymryd rhywbeth a oedd yn ‘predator’ yn yr ecosystem a’u lladd nhw, rŷm ni wedi creu lle i wiwerod llwyd gymryd drosodd ein coedwigoedd ni. Felly, mae hynny’n enghraifft bositif—rhywbeth rŷm ni eisiau gweld mwy ohono.
Felly, mae yna neges besimistaidd, bron, yn yr adroddiad ei hunain, ond drwy ymgymryd, â’n dwylo ein hunain, â’r gwaith yma, rŷm ni’n gallu bod yn bositif i adfer ein bywyd gwyllt ni a sicrhau bod bioamrywiaeth yn ffynnu yng Nghymru.
Rwyf hefyd yn croesawu adroddiad sefyllfa byd natur, adroddiad sydd wedi’i lunio ar y cyd gan dros 50 mudiad natur. Mae’r ail adroddiad pwysig yma yn darparu sylfaen dystiolaeth ar sefyllfa ein byd natur ni ac yn darparu sail ar gyfer gwneud rhywbeth am hyn ac ar gyfer gwneud penderfyniadau yng Nghymru. Fel y dywedodd Simon, nid yw’n gwneud darllen cyfforddus mewn mannau, ond mae angen i’r Llywodraeth weithredu ar y canfyddiadau sydd yn cael eu nodi yn yr adroddiad.
Mae rhai o’r canfyddiadau yn rhai difrifol iawn. Er bod Cymru yn gartref i dros 50,000 o rywogaethau, mae amrywiaeth y rhywogaethau a hyd a lled cynefinoedd naturiol a lled-naturiol wedi prinhau’n sylweddol, gyda llawer o rywogaethau sy’n bwysig yn ddiwylliannol ac yn ecolegol wedi diflannu’n llwyr. Rwy’n cytuno efo Simon mai un o’r ystadegau mwyaf ysgytwol yn yr adroddiad yw bod un o blith pob 14 o rywogaethau Cymru yn wynebu difodiant. Sut ydym ni’n mynd i egluro i’r genhedlaeth nesaf na fyddan nhw byth yn gweld yr eos—‘nightingale’; bras yr ŷd—‘corn bunting’; neu’r turtur, sef y ‘turtle dove’, yng Nghymru?
Mae gan natur werth cynhenid ynddo’i hun, ac mae hefyd yn hanfodol ar gyfer ein llesiant. Mae cynnal ecosystem iach yn hanfodol er mwyn cynnal ein ffordd o fyw, ac mae amgylchedd naturiol cryf yn darparu sylfaen ar gyfer ein cymdeithas a’n heconomi. Ond, yn ogystal â dangos lle mae’r problemau, mae’r adroddiad hefyd yn rhoi syniad o sut i weithredu. Yng Nghymru, fel ym mhob man arall, mae newid yr hinsawdd wedi arwain at golli cynefinoedd, disbyddu priddoedd, mwy o lifogydd a mwy o sychder. Mae amaethyddiaeth a’r sector amaethyddiaeth yn hollbwysig yng Nghymru, ac mae angen sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r sector wedi’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae awduron yr adroddiad yn galw ar lywodraethau yma ac yn y Deyrnas Unedig i ystyried canfyddiadau’r adroddiad hwn wrth lunio cynlluniau ffermio yn y dyfodol. Mae Deddf yr amgylchedd yn darparu fframwaith ar gyfer torri allyriadau carbon a tharged statudol o dorri allyriadau 80 y cant erbyn 2050, ond mae Plaid Cymru yn cydnabod mai newid hinsawdd ydy’r bygythiad mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth, ac mae’n rhaid i ni ddal i ddal Llywodraeth Cymru i gyfrif—bod ei pholisïau yn cyfrannu tuag at y targed hwn. Ac mae’n rhaid, fel roedd Simon yn sôn, gweithredu’r Deddfau llesiant cenedlaethau’r dyfodol ac amgylchedd, ac mae’n rhaid i hynny fod yn brif flaenoriaeth i’r Llywodraeth os ydym ni’n mynd i wrthdroi’r dirywiad i’n byd natur.
Felly, mae angen atebion gan Lywodraeth Cymru ar ddau gwestiwn pwysig. Pa wahaniaeth fydd y Deddfau yma yn ei wneud yn sut mae’r Llywodraeth yn gweithredu, gan gynnwys adrannau ar draws y Llywodraeth? A pha wahaniaeth ar lawr gwlad fyddwn ni’n ei weld drwy’r polisïau y mae’r Llywodraeth yn eu gweithredu yn sgil y Deddfau yma? Mae’r fframwaith deddfwriaethol yna yn ei le ar gyfer gwarchod ac ehangu ein bywyd gwyllt—rydym ni rŵan angen gweld gweithredu ar lawr gwlad.
Mae’r ddadl hon yn ein hatgoffa o’r heriau sy’n wynebu’r amgylchedd naturiol, nid yn unig yng Nghymru, ond yn y moroedd a’r cefnforoedd sy’n ffinio â’n gwlad. Y bygythiadau sy’n wynebu’r ecosystemau morol bregus hyn, a’r camau y gallwn eu cymryd i liniaru eu heffaith, fydd canolbwynt fy nghyfraniad heddiw. Wedi’r cyfan, ni ddylem byth anghofio bod dyfroedd tiriogaethol Cymru yn gorchuddio arwynebedd sy’n cyfateb i faint ein gwlad ei hun. Fel y mae ‘Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016’ yn ein hatgoffa, mae’r moroedd hyn yn gyfoethog mewn amrywiaeth o fywyd morol, mewn safle pwysig ar ffin tri pharth hinsawdd cefnforol ac yn meddu ar amrediad llanw mawr. Mae gwahanol rywogaethau wedi cael profiadau gwahanol dros y cyfnod y bu’r adroddiad yn archwilio. Yn ôl tueddiadau data hirdymor, mae 34 y cant o rywogaethau fertebratau morol a 38 y cant o rywogaethau planhigion morol wedi dirywio. O ran infertebratau morol, mae’r dirywiad hirdymor yn achosi mwy o bryder hyd yn oed, gyda thair o bob pedair rhywogaeth yn cael eu heffeithio, er fy mod yn falch fod y duedd hon yn llai yn y data tymor byr. Mae cymharu ag adroddiad Sefyllfa Byd Natur y DU 2016 yn dangos patrymau tebyg, gyda dirywiad mawr ymhlith infertebratau morol yn arbennig, a rhoddir tystiolaeth i gefnogi hyn unwaith eto. Mae darllen yr adroddiad hwn yng nghyswllt dogfen Cymru hefyd yn awgrymu bod llwyddiant fertebratau morol yn cael ei ysgogi i raddau helaeth gan gynnydd yn niferoedd pysgod.
Mae camau gweithredu cadarnhaol mewn perthynas â chadwraeth yn sicrhau canlyniadau buddiol, fel y mae’r adroddiad yn ei amlygu, ac mae monitro ac ymchwil yn arbennig yn arfau pwysig ar gyfer deall ymddygiad rhywogaethau a mynd i’r afael â materion sy’n codi o ryngweithiadau dynol. Mae’n newyddion da fod y boblogaeth o forloi llwyd sy’n bwysig yn fyd-eang ar Ynys Dewi yn gweld y lefelau uchaf a gofnodwyd o enedigaethau, a bod mesurau eisoes ar waith i wneud yn siŵr na therfir arnynt gan dechnoleg tyrbinau llanw. Mae hyn yn hanfodol, gan ein bod yn dal i ddal i fyny o ran mynd i’r afael ag effaith gweithgareddau dynol eraill ar y moroedd o amgylch Cymru, ac mae’r enghreifftiau a geir yn yr adroddiad yn cynnwys pysgota masnachol anghynaliadwy, datblygu, cyflwyno rhywogaethau anfrodorol a mewnbynnau halogion a maethynnau.
Mae adroddiad y DU hefyd yn sôn am effaith cynhesu byd-eang, gyda newidiadau yn nhymheredd y môr yn arwain at y broblem fod dosbarthiad nifer fawr o rywogaethau i’w weld yn drifftio tua’r gogledd. Mae niferoedd rhywogaethau dŵr oer yn lleihau, ond mae rhywogaethau sydd wedi addasu i fwy o gynhesrwydd ac sy’n symud tua’r gogledd yn aml yn wynebu ffynonellau bwyd nad ydynt yn ddigonol ar gyfer eu hanghenion.
Bydd gadael yr UE hefyd yn peri heriau sylweddol i’n hymagwedd tuag at bolisi morol. Gosodwyd targed gan gyfarwyddeb fframwaith strategaeth forol yr UE, a grëwyd i wella iechyd ein moroedd, i Lywodraethau weithredu i reoli’r pwysau dynol ar ein dyfroedd er mwyn cyflawni statws amgylcheddol da, a chreu moroedd sy’n iach, yn gynhyrchiol, ac yn fiolegol amrywiol—sy’n hanfodol yng nghyd-destun y ddadl hon. Byddwn yn cefnogi’r alwad gan Cyswllt Amgylchedd Cymru a rhanddeiliaid eraill ar Lywodraeth Cymru i gadw ei huchelgais i gyflawni’r fframwaith strategaeth erbyn 2020, ac yn gobeithio y gallai hyn gael ei integreiddio’n rhan o gynllun morol cenedlaethol Cymru pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno’i chynigion. Yn yr un modd, mae’n rhaid i’r gwaith sydd ynghlwm wrth ardaloedd morol gwarchodedig ystyried ein hymwahaniad oddi wrth Ewrop, a bydd y polisi pysgodfeydd yn drydydd maes polisi y bydd ein hymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd yn effeithio arno, lle y mae’n bwysig ein bod yn sicrhau cydbwysedd cynaliadwy.
Mae gennym ddyletswydd i warchod amrywiaeth ein hamgylchedd morol, ond os nad ydym yn gwneud hynny, gallem hefyd golli cyfleoedd a allai fod yn ddefnyddiol i economi Cymru. Mae ‘Future Trends in the Celtic Seas’, adroddiad newydd pwysig a gyhoeddwyd heddiw gan WWF, yn awgrymu bod y moroedd gyda’i gilydd yn werth £15 biliwn y flwyddyn i economïau’r DU, Iwerddon a Ffrainc ac yn cynnal tua 400,000 o swyddi. Rwyf wedi siarad o’r blaen am yr her enfawr o oresgyn ein hanhwylder diffyg natur, lle y mae plant a phobl ifanc yng Nghymru yn ystyried bod ganddynt gysylltiad gwannach â byd natur na’u cyfoedion yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban, neu hyd yn oed Llundain, a byddwn yn gofyn i ni ystyried eto sut y gallem gysylltu’r rhain â dealltwriaeth ddifrifol o bwysigrwydd ein hamgylchedd morol.
Mae’r adroddiad hwn yn rhybudd o’r angen i ni wneud mwy, ond fel y mae David Attenborough yn ei ddweud yn y rhagair i adroddiad sefyllfa byd natur y DU, dylai hyn roi gobaith i ni hefyd. Rhoddwyd camau ar waith yn dilyn cyhoeddi adroddiad 2013, ac rwy’n gobeithio y bydd mesurau clir yn dilyn o hyn yn eu tro.
Rwy’n ddiolchgar iawn fy mod yn gallu cymryd rhan yn y ddadl i Aelodau unigol heddiw, a hoffwn drosglwyddo ymddiheuriadau David Melding nad yw’n gallu bod yma i siarad yn y ddadl. Mae’r adroddiad sefyllfa byd natur yn ddarn allweddol o dystiolaeth i’n helpu i ddeall pa gamau y gallwn eu cymryd i amddiffyn a gwarchod ein byd natur a’n hecosystemau gwerthfawr, a bydd yn ddarn allweddol o dystiolaeth i’n helpu i graffu ar waith Llywodraeth Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn benodol ar weithrediad Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol a chyrhaeddiad ac effaith Deddf yr Amgylchedd (Cymru).
Rydym wedi siarad eisoes—rhai o’r cyfranogwyr eraill yma—am y nifer o ystadegau y mae’r adroddiad sefyllfa byd natur yn tynnu sylw atynt: y dirywiad yn ein rhywogaethau, y rhywogaethau â blaenoriaeth sydd wedi eu colli, a’r rhywogaethau sydd mewn perygl difrifol. Pan fyddwn yn sôn am rywogaethau, byddwn yn aml yn siarad am anifeiliaid, ond wrth gwrs mae’r holl blanhigion, y glöynnod byw a’r pryfed ar y ddaear yn gwbl hanfodol i gynnal ein hecosystem. Fe gawsom beth newyddion da gan Vikki Howells, a soniodd am sefyllfa’r morloi llwyd, ac wrth gwrs mae niferoedd belaod coed wedi cynyddu ac mae hynny i’w groesawu’n fawr iawn. Ond mewn gwirionedd rwy’n pryderu mwy ynglŷn â’r sefyllfa fyd-eang rydym ynddi nag am yr hyn sydd yn yr adroddiad sefyllfa byd natur.
Mae nifer yr anifeiliaid gwyllt sy’n byw ar y Ddaear yn mynd i ostwng dwy ran o dair erbyn 2020, ac mae hyn yn rhan o ddifodiant torfol sy’n dinistrio’r byd naturiol rydym i gyd yn dibynnu arno. Plymiodd poblogaethau anifeiliaid dros 58 y cant rhwng 1970 a 2012. Erbyn 2020, byddwn ni, fodau dynol, a’n ffordd o fyw wedi lladd oddeutu 67 y cant o holl anifeiliaid y Ddaear. Mae honno’n etifeddiaeth ofnadwy i ni ei gadael i’n plant. Rydym i gyd yn gwybod bod y gostyngiad mawr yn niferoedd anifeiliaid yn deillio o ffermio, torri coed, effaith pobl—a 15 y cant yn unig sy’n cael ei ddiogelu ar gyfer natur—a physgota a hela anghynaliadwy. Mae’n mynd ymlaen ac ymlaen. Afonydd a llynnoedd yw’r cynefinoedd sy’n dioddef fwyaf, gyda phoblogaethau anifeiliaid i lawr 81 y cant ers 1970. Mae hyn i gyd o’n herwydd ni, oherwydd echdynnu dŵr gormodol, oherwydd ein llygredd, oherwydd yr argaeau a adeiladwn. Mae’r holl bwysau hyn yn cael eu chwyddo gan gynhesu byd-eang, sy’n newid yr ystodau y gall yr anifeiliaid gwerthfawr hyn sy’n helpu i gynnal ein hecosystemau fyw o’u mewn.
Ceir rhywfaint o newyddion da. Nid am ein morloi’n unig, nid am ein belaod yn unig, ond credir bod niferoedd teigrod yn cynyddu ac mae’r panda mawr wedi cael ei dynnu oddi ar y rhestr o rywogaethau mewn perygl yn ddiweddar. Rwy’n crybwyll hyn—rwy’n siarad am y sefyllfa fyd-eang—am fy mod eisiau cadarnhau, Ysgrifennydd y Cabinet, y bydd beth bynnag a wnawn yma yn ein gwlad fach, yn ein ffordd fach, yn cyfrif. Mae hyn yn hanfodol bwysig oherwydd ni allwn ddathlu ein hymdrechion eto. Mewn ychydig bach mwy o newyddion drwg i’r amgylchedd byd-eang, mae gennym ddarpar Arlywydd newydd sydd wedi dweud,
Cafodd y cysyniad o gynhesu byd-eang ei greu gan ac ar gyfer y Tsieinïaid er mwyn gwneud gweithgynhyrchu’r Unol Daleithiau yn anghystadleuol.
Mae’n destun pryder mawr fod darpar arweinydd y byd rhydd â’r agwedd hon tuag at fater mor ddifrifol. Os yw’n tynnu Unol Daleithiau America allan o gytundeb Paris, bydd yn bygwth ein holl ymdrechion i sefydlogi newidiadau tymheredd ac i ddechrau datrys newid hinsawdd. Dyna pam y mae angen i ni wneud ein rhan. Rwy’n teimlo’n angerddol iawn ynglŷn â hyn, nid yn unig er ein mwyn ni, nid yn unig er mwyn yr anifeiliaid ar ein planed—eu planed, yr ‘ein’ mawr—ond rwy’n poeni am ddyfodol fy mhlant, am ddyfodol eich plant, a’n holl blant. A fydd ganddynt blaned ar ôl i fyw arni? Rwy’n poeni’n wirioneddol am eu dyfodol.
Rwyf fi hefyd yn croesawu’r ddadl hon heddiw ac adroddiad ‘Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016’, ac rwy’n meddwl bod llawer o sefydliadau wedi chwarae rhan werthfawr iawn yn helpu i’w gynhyrchu a thynnu sylw ato. Wrth gwrs, mae yna bethau sy’n peri pryder wedi cael sylw eisoes gan yr Aelodau, ac mae angen i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill weithredu i fynd i’r afael â’r pryderon hynny.
Fel Aelodau eraill yma, rwy’n hyrwyddwr rhywogaeth benodol, drwy’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt—llygoden y dŵr yn fy achos i. Mae’r dirywiad ym mhoblogaeth llygod y dŵr ym Mhrydain yn eithaf dramatig. Yn wir, dyna’r dirywiad mwyaf difrifol o holl famaliaid gwyllt Prydain yn ystod y ganrif ddiwethaf. Rhwng 1960 a 2004, amcangyfrifir bod y gostyngiad oddeutu 95 y cant. Felly, yn amlwg, mae yna bryderon difrifol iawn ynglŷn â phoblogaeth llygod y dŵr yng Nghymru, a thu hwnt i Gymru ym Mhrydain yn gyffredinol. Felly, mae’r sefydliadau sy’n ymwneud â bioamrywiaeth a phoblogaeth llygod y dŵr yn tynnu sylw at y cynefin a gollwyd, fel y byddech yn ei ddisgwyl, a darnio cynefinoedd fel ffactorau sy’n cyfrannu at y dirywiad hwnnw; eu hysglyfaethu gan y minc, wrth gwrs, sydd wedi bod yn ffactor mawr; tynnu dŵr a llygru’r dyfrffyrdd; a rheoli ffosydd draenio a ffosydd, a rôl amaethyddiaeth ddwys yn hynny. Felly, mae’n fwy na thebyg fod cryn dipyn o gonsensws ynglŷn â phrif achosion y gostyngiad hwnnw ym mhoblogaeth llygod y dŵr a hefyd, rwy’n credu, cryn dipyn o gytundeb o ran yr hyn sydd angen ei wneud—rhai o’r pethau sydd fwyaf o angen eu gwneud i fynd i’r afael â’r gostyngiad—felly, rhaglenni ailgyflwyno llygod y dŵr, rheoli poblogaeth minc, adfer cynefin a’i newid yn ôl, ac yn sicr, atal y dirywiad yn y cynefin sy’n eu cynnal, sef dyfrffyrdd a glannau afonydd ac ardaloedd mwy estynedig o gynefin naturiol nad yw wedi’i ddarnio gan ddatblygiad. Felly, pan edrychwn ar bob un o’r materion hynny, Lywydd, rwy’n credu ei bod yn amlwg fod Deddf yr amgylchedd a Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, fel y crybwyllwyd gan eraill, yn gwbl hanfodol i’r darlun cyffredinol ac i lygod y dŵr yn ogystal. Mae angen i ni wneud yn siwr eu bod yn cael eu gweithredu mor effeithiol â phosibl. I mi, rwy’n dyfalu, yn lleol, mae fy mhrofiad o boblogaeth llygod y dŵr yn bennaf o amgylch gwastadeddau Gwent. Mae gennym rwydwaith anhygoel o ffosydd a dyfrffyrdd yno. Maent wedi cael eu rheoli’n ofalus dros y canrifoedd. Serch hynny, maent dan fygythiad, wrth gwrs. Un o’r prif fygythiadau yw ffordd liniaru arfaethedig yr M4 ar draws gwastadeddau Gwent. Felly, rwy’n meddwl y bydd yn brawf mawr i’r ddeddfwriaeth y cyfeiriais ati o ran a yw materion bioamrywiaeth, gan gynnwys poblogaeth llygod y dŵr, yn cael eu hystyried yn ddigonol wrth benderfynu ar y cynnig hwnnw. Yn sicr, rwy’n gweithio’n agos iawn gyda’r ymddiriedolaethau bywyd gwyllt ac amrywiaeth o sefydliadau eraill i geisio cyfleu’r neges allweddol—nad yw sicrhau bioamrywiaeth dda yng Nghymru yn gwneud unrhyw les i neb os mai siarad gwag a wnawn. Gyda phenderfyniadau allweddol, mae’n rhaid i ni fod cystal â’n gair.
Rwy’n llongyfarch Simon Thomas ac Aelodau eraill am gael y ddadl hon, ac rwy’n cytuno â’r cynnig a gynigir. Rydym yn croesawu’r adroddiad ‘Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016’, ac rydym yn cymeradwyo’r mudiadau sy’n ymwneud â datblygu’r adroddiad hwnnw. Fodd bynnag, yn ogystal â’r adroddiad ‘Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016’ gan nifer o sefydliadau, yn bennaf yn y trydydd sector, cefais fy nharo gan y ffaith ein bod wedi cael yr adroddiad sylweddol iawn hwn gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddiweddar—adroddiad ar sefyllfa adnoddau naturiol. Cefais fy synnu gan y modd y mae’r ddau adroddiad i’w gweld wedi symud ymlaen ochr yn ochr heb lawer o gefnogaeth neu groesffrwythloni rhyngddynt. Yn ein pwyllgor, rydym wedi siarad â Cyfoeth Naturiol Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet ac eraill am y broses a oedd gennym ar gyfer gwneud hyn. Yn ôl pob tebyg, credaf fod rhywbeth arbennig am yr adroddiad cyntaf hwn a gawsom gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Maent wedi esbonio bod yr amserlenni yn ei gwneud yn anodd iddynt fod mor agored ac ymgynghorol gyda sefydliadau trydydd sector a grwpiau amgylcheddol ag y gallent fod wedi bod fel arall, ac oherwydd natur yr adroddiad cyntaf, efallai fod yna fwy o rannu drafftiau a phwyso ar gymorth gan Lywodraeth Cymru yn ogystal ag o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru wrth ddatblygu’r adroddiad hwnnw. Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig, fodd bynnag, ar gyfer y dyfodol nad oes canfyddiad fod Llywodraeth Cymru mewn unrhyw fodd yn marcio ei gwaith cartref ei hun ar fioamrywiaeth neu’r hyn a wnawn yn y meysydd hyn. Rydym yn disgwyl i Cyfoeth Naturiol Cymru gael dull gweithredu annibynnol wrth gadw sgôr neu wrth adrodd ar ble y ceir gwelliannau, neu ble y mae dirywiad yn y materion sy’n cael eu monitro. Rwy’n gobeithio y bydd mwy o le i’r nifer o sefydliadau teilwng iawn a gynhyrchodd yr adroddiad rhagorol sy’n destun y ddadl heddiw i ymwneud â Cyfoeth Naturiol Cymru a’r gwaith adrodd ac ymchwilio y maent yn ei wneud. Nid yw’r sylfaen o bobl sy’n cael eu cyflogi ac sy’n gweithio yn y meysydd hyn yng Nghymru yn fawr, ac rwy’n credu y dylai fod lle i groesffrwythloni, a byddai cyfanswm y rhannau’n fwy nag os yw pobl yn gweithio’n gyfan gwbl ar wahân.
Cefais fy nharo gan gyfraniad Vikki Howells. Roeddwn yn drist braidd ynglŷn ag un agwedd ar yr hyn a ddywedodd. Cyfeiriodd, rwy’n meddwl, at blant yng ngwledydd eraill y DU, a hyd yn oed yn Llundain, yn dweud bod ganddynt gysylltiad agosach â’r amgylchedd naturiol na sydd ganddynt yng Nghymru. O safbwynt personol, rwy’n teimlo bod hynny’n destun syndod mawr oherwydd, yn sicr, gyda fy mhlant i, rwy’n teimlo bod ganddynt gysylltiad llawer agosach â’r amgylchedd naturiol ers i ni symud yma nag oedd ganddynt yn ne-ddwyrain Lloegr. Pan edrychaf ar faint o amgylchedd gwyrdd sydd yng Nghaerdydd, neu pan fyddaf yn ymweld â gwlyptiroedd Casnewydd a’r hyn y mae’r RSPB wedi ei wneud yno, neu ei chymuned ei hun neu lawer o gymunedau eraill y Cymoedd—mae natur y datblygiad rheiddiol ar hyd llawr y dyffryn a’r llethrau is yn golygu bod cymaint o’r boblogaeth mor agos at natur, ac o leiaf mae potensial ar gyfer hygyrchedd o’r fath. Hoffwn orffen fy sylwadau ar y nodyn cadarnhaol hwnnw. Edrychwn ymlaen at welliannau gyda chefnogaeth y Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon, ac rwy’n llongyfarch yr Aelodau sydd wedi ei chyflwyno, oherwydd credaf fod y materion sy’n codi yn gwbl allweddol, ac rwy’n meddwl mai’r rhain yw’r pethau bara a menyn y dylem fod yn eu gwneud yma yn y Cynulliad i warchod bywyd gwyllt Cymru. Mae’n fater o bryder mawr fod ein bioamrywiaeth wedi dirywio. Rhestrodd siaradwyr blaenorol y dirywiad, ac rwy’n credu y dylai fod yn bolisi allweddol gan Lywodraeth Cymru i leihau’r dirywiad—ac yn wir, i bob un ohonom. A soniwyd bod gennym offerynnau deddfwriaethol—Deddf yr amgylchedd a Deddf cenedlaethau’r dyfodol—ac mae gennym benderfyniadau allweddol i’w gwneud, fel y dywedodd John Griffiths yn ei gyfraniad, lle y mae’n rhaid i ni benderfynu beth sy’n rhaid i ni ei gadw a mesur hynny yn erbyn enillion eraill. Felly, mae yna benderfyniadau allweddol sy’n rhaid i ni eu gwneud.
Er bod fy etholaeth yn un drefol yn bennaf, mae rhywogaethau pwysig iawn i’w cael mewn ardaloedd trefol, ac mae clytiau gwyrdd o fywyd gwyllt y credaf ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn eu cadw, nid yn unig ar gyfer y bywyd gwyllt sydd yno, ond er mwyn iechyd a lles y boblogaeth, oherwydd credaf ei fod eisoes wedi cael ei grybwyll, y ffaith fod bywyd gwyllt a natur a’r amgylchedd yn gwella eich lles a’ch iechyd.
Fel John Griffiths, rwy’n hyrwyddwr rhywogaeth, a fi yw hyrwyddwr rhywogaeth y ffwng cap cŵyr, sy’n bwysig iawn i Ogledd Caerdydd. Mae’r glaswelltiroedd o amgylch cronfa ddŵr Llanisien yn gartref i’r ffwng cap cŵyr. Mae’n bosibl eich bod wedi clywed, gan fy mod wedi crybwyll y mater yn y Siambr gryn dipyn o weithiau, fod yna ymgyrch hir y mae fy nghyd-Aelod, Jenny Rathbone, a minnau wedi bod yn rhan ohoni i atal datblygu cronfa ddŵr Llanisien. Ein nod yw ei droi’n barc gwledig ac ail-lenwi’r gronfa ddŵr. Mae’r ymgyrch wedi para 15 mlynedd, a gwrthwynebodd Western Power Distribution ddymuniadau cyffredinol y cyhoedd yng Ngogledd Caerdydd yn ddiarbed a gwneud popeth a allai i adeiladu dros y gronfa ddŵr, gan gynnwys mynd i ddau ymchwiliad cyhoeddus. Roedd yn ymdrech enfawr i geisio cadw’r safle.
Ond beth bynnag, yn 2003, darganfuwyd ffwng cap cŵyr wrth y gronfa ddŵr, a chawsant eu darganfod gan grŵp gweithredu’r preswylwyr, sy’n cynnwys ecolegwyr a phobl sy’n arbenigwyr, ac yn 2005, cafodd ei ddynodi’n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, a oedd yn destun gorfoledd mawr. Nawr, roedd ffwng cap cŵyr yn gyffredin ar un adeg ledled glaswelltiroedd gogledd Ewrop, ond oherwydd dulliau ffermio dwys, maent fwy neu lai wedi diflannu mewn nifer o leoedd. Ac mewn gwirionedd, darganfuwyd 29 o rywogaethau o ffwng cap cŵyr wth y gronfa ddŵr, sy’n golygu ei fod yn safle o bwysigrwydd rhyngwladol yn achos y mathau hyn o ffwng. Roedd yn ddarganfyddiad cyffrous iawn, ac rwy’n gwybod—. Rwy’n meddwl bod Simon Thomas wedi dweud ei fod eisiau bod yn gadarnhaol pan fyddwn yn trafod y materion hyn, ac roedd hyn yn gadarnhaol iawn, oherwydd cawsant eu darganfod yn ystod—wel, yn ystod yr ymgyrch honno mewn gwirionedd.
Y llynedd, cawsom y newyddion da iawn fod y safle bellach wedi ei brynu’n ôl gan Dŵr Cymru, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru wedi bod yn monitro’r capiau cŵyr yn ofalus iawn gydag ecolegwyr, ac rwy’n deall eu bod yn dal i wneud yn dda iawn ar y safle. Mae Dŵr Cymru yn bwriadu ail-lenwi’r gronfa ddŵr mewn gwirionedd a’i agor i’r cyhoedd, ond byddai’n rheoli ffyngau’r glaswelltir ac yn diogelu’r safle dinesig unigryw hwn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Felly, dyna pam mai fy rhywogaeth i yw’r ffwng cap cŵyr. Ac rwy’n dathlu’r ffaith eu bod yn unigryw, ond hefyd eu bod wedi helpu i achub y gronfa ddŵr. Rwy’n credu ei bod yn hollol hanfodol, ar nodyn mwy cyffredinol, ein bod yn cadw mannau gwyrdd trefol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol er mwyn hybu bioamrywiaeth ym mhob rhan o Gymru. Diolch yn fawr iawn.
Diolch am y cyfle i gyfrannu at y ddadl yma. Rydw i am ganolbwyntio ar bwysigrwydd safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, neu SSSIs. Fel mae eraill wedi nodi yn barod, rŷm ni’n colli rhywogaethau ar raddfa ddychrynllyd ar hyn o bryd, ac, fel mae’r adroddiad sefyllfa byd natur yn nodi, un o achosion colli bioamrywiaeth ydy dirywiad cynefin. Mae angen lle ar fywyd gwyllt i ffynnu, ac mae’r safleoedd gwarchodedig sydd gennym ni yn cynnig hynny. Mae SSSIs yn drysor naturiol cenedlaethol. Maen nhw’n cynnwys rhai o’n cynefinoedd mwyaf trawiadol ni, o wlypdiroedd i dwyni tywod, o ddolydd blodau i goedwigoedd derw hynafol, ac nid yn unig maen nhw’n dda i’n bywyd gwyllt ni, ond mae yna werth economaidd mawr iddyn nhw hefyd. Mae pob punt sy’n cael ei gwario ar reolaeth dda o SSSIs, mae’n debyg, yn dod â buddsoddiad o £8 yn ôl, ac mae unrhyw un sydd wedi ymweld ag un o ardaloedd yr RSPB yn Ynys Môn, er enghraifft, yn gwybod pa mor boblogaidd ydyn nhw efo ymwelwyr, ac efo pobl leol—yn gyfle i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt yn eu cynefin.
Rydw i am dynnu sylw at ddwy enghraifft benodol yn fy etholaeth i sy’n dangos pwysigrwydd buddsoddi mewn SSSIs i sicrhau eu bod nhw yn y cyflwr gorau ar gyfer ein bywyd gwyllt ni. Y cyntaf ydy’r newyddion da iawn bod aderyn y bwn yn nythu a bridio yng Nghymru eto am y tro cyntaf ers dros 30 o flynyddoedd, a hynny yng nghors Malltraeth ar Ynys Môn. Mae yna ambell aderyn wedi bod yng Nghymru, ond dyma’r tro cyntaf iddyn nhw fridio ers tair degawd. Mi gafodd y warchodfa ei ffurfio nôl yng nghanol y 1990au, efo’r nod o ddenu yr aderyn yma yn ôl i Ynys Môn, ac ar ôl tipyn o aros a gweld amryw o rywogaethau eraill bregus yn ffynnu yn yr ardal, mi oedd darganfod bod aderyn y bwn wedi dewis nythu yno eleni yn deyrnged, rwy’n meddwl, i waith caled y tîm cadwraethol, a chefnogaeth y gwylwyr adar lleol hefyd.
Yr ail stori o lwyddiant ydy gwarchodfa natur ryfeddol Ynys Lawd, yn SSSI Glannau Ynys Gybi, sy’n cefnogi amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau, ac un o’r rhain ydy’r frân goesgoch. Mae’n ffasiynol iawn, mae’n ymddangos, i fod yn bencampwr dros rywogaeth, ac roeddwn i’n ‘chuffed’, mae’n rhaid i mi ddweud—maddeuwch i mi—i fod wedi cael fy newis yn bencampwr rhywogaeth i’r aderyn prin a rhyfeddol yma. Mae gan yr aderyn yma anghenion cynefin llawer mwy arbenigol na rhai o’i pherthnasau yn nheulu’r frân, a dyna pam fod arfordir creigiog gorllewinol Ynys Gybi yn ddelfrydol iddi hi. A drwy reolaeth o’r rhostir a chaeau pori arfordirol, mae niferoedd y brid Celtaidd eiconig yma wedi cael eu cynnal.
Yn y ddau achos yna rwyf wedi’u crybwyll, mae rheolaeth ofalus o’r safleoedd gwarchodedig wedi arwain at lwyddiannau cadwraethol, ond yn anffodus, wrth gwrs, nid yw’r darlun ddim yr un fath ar draws Cymru gyfan. Nid ydym ni’n gwybod, er enghraifft, beth ydy cyflwr rhai o’n safleoedd gorau ar gyfer bywyd gwyllt, hyd yn oed. Mi gafodd yr adolygiad diwethaf o statws ein safleoedd gwarchodedig ei wneud mewn adolygiad cyflym o sampl o safleoedd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru dros 10 mlynedd yn ôl, a doedd y canlyniadau ddim yn rhai calonogol. Mae’n hanfodol bwysig, rwy’n meddwl, ein bod ni’n buddsoddi yn y monitro a’r asesu o’r safleoedd yma er mwyn gwybod a ydyn nhw’n darparu ar gyfer y rhywogaethau y maen nhw wedi cael eu dynodi i’w gwarchod.
Rydw i’n gobeithio y bydd y Llywodraeth heddiw yn cydnabod bod wir angen adolygiad o’r modd mae’n safleoedd gorau ni yn perfformio er lles bywyd gwyllt, ac yn cydnabod pwysigrwydd rheoli safleoedd gwarchodedig yn iawn, a phwysigrwydd monitro hefyd er mwyn deall ac adennill natur Cymru. Os nad ydy’n safleoedd gorau ni ar gyfer bywyd gwyllt mewn cyflwr da, yna sut y gallwn ni obeithio diogelu dyfodol bioamrywiaeth yng Nghymru a gwella’r rhagolygon i fywyd gwyllt yng Nghymru?
Fel hyrwyddwr rhywogaeth y gylfinir yng Nghymru, ymwelais ag Ysbyty Ifan yn Eryri yr haf hwn gyda’r RSPB, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r ffermwr tenant, a chlywais, yn lle rhagnodi, fod angen i gynlluniau amaeth-amgylcheddol dalu ffermwyr yn ôl canlyniadau, a gwneud pethau gyda hwy. Clywais hefyd mai’r prif reswm pam fod magu’n methu yw ysglyfaethu nythod, gyda’r llwynog a’r frân yn brif droseddwyr, a dyna pam y mae llwybrau gylfinirod, brain a llwynogod yn cael eu monitro mewn ardal dreialu a rheoli, cyn cyflwyno dulliau o reoli ysglyfaethwyr o bosibl.
Mae angen sylw cadwraethol ar ucheldiroedd Cymru. Mae 55 y cant o’r rhywogaethau a astudiwyd yn yr adroddiad sefyllfa byd natur wedi bod yn dirywio ers amser hir ac mae helaethrwydd rhywogaethau yn gostwng. Mae cymaint â 15 y cant o rywogaethau’r ucheldir dan fygythiad o ddarfod. Mae cynefinoedd yr ucheldir yn arbennig o bwysig i ylfinirod sy’n nythu, sydd bellach yn brin ar lawr gwlad. Mae’r gylfinir yn hynod o bwysig fel rhywogaeth, yn ddiwylliannol ac yn ecolegol yng Nghymru. Rhwng 1993 a 2006, gwelwyd dirywiad cyflym o 81 y cant yn niferoedd gylfinirod yng Nghymru. Heb ymyrraeth, mae’r tueddiadau hyn yn debygol o barhau. Mae’r gylfinir yn awr wedi ei restru yng nghategori bron dan fygythiad yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur ar lefel fyd-eang ac mae’n wynebu’r perygl o ddarfod ar lefel Ewropeaidd. Mae’r RSPB wedi cychwyn rhaglen fawr i adfer y gylfinir ar draws y DU, gydag ardaloedd treialu wedi’u sefydlu mewn chwe man, gan gynnwys Hiraethog, y Migneint ac Ysbyty Ifan, yr ardal yr ymwelais â hi yr haf hwn, gydag ymyrraeth rheoli’n dechrau yn ystod gaeaf 2015-16, ac arolygu yr haf diwethaf.
Yr hyn sy’n achosi’r dirywiad yw: colli cynefin addas, newidiadau yn amaethyddiaeth yr ucheldir mewn mannau, ac mae cynyddu stociau o anifeiliaid pori—ac i’r gwrthwyneb, gostyngiad mewn rhai eraill—wedi arwain at ostyngiad yn ansawdd cynefinoedd. Mae coedwigaeth yn yr ucheldir wedi arwain at golli cynefin yn uniongyrchol ac o ystyried bod y niferoedd yn isel bellach, mae ysglyfaethu bellach yn arwain at golledion mawr yn ogystal. Mae gorgorsydd yn un o’r mathau pwysicaf o gynefin a geir yng Nghymru, os nad yn fyd-eang. Yn ogystal â darparu cartrefi i blanhigion prin, infertebratau ac adar megis y gylfinir, maent yn darparu llawer o’n dŵr yfed, yn sail i’r economi wledig, ac yn cynnal dalfeydd carbon mawr. Fodd bynnag, dros y blynyddoedd, mae gorgorsydd yng Nghymru ac ar draws y byd wedi dioddef dan law dynoliaeth. Yn y gorffennol, mae gweithgareddau megis draenio, llosgi a phlannu coedwigaeth wedi andwyo’r corsydd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn unig y daethom i ddeall pa mor werthfawr yw’r cynefin hwn pan na fydd dim wedi amharu arno.
Felly, a yw’r Gweinidog yn ymuno â mi i gydnabod bod angen i ni wneud mwy i ddiogelu’r cynefin pwysig hwn? Mae’n hanfodol i ddyfodol y gylfinir ein bod yn cael y polisi defnydd tir yn iawn ar gyfer y dyfodol. Wrth i ni adael yr UE, mae gennym gyfle i ddiffinio ein polisi rheoli tir yn gynaliadwy ein hunain. Rhaid i’r polisi hwn fynd i’r afael â dirywiad bioamrywiaeth, a dirywio amgylcheddol ehangach hefyd drwy sicrhau dŵr glân, storio dŵr i atal llifogydd, a storio carbon yn ein mawndiroedd. A yw’r Gweinidog yn cytuno felly fod rhaid i bolisi defnydd tir fynd i’r cyfeiriad hwn yn y dyfodol yng Nghymru?
Y gylfinir yw’r aderyn hirgoes Ewropeaidd mwyaf, a gellir ei adnabod ar unwaith ar aberoedd yn y gaeaf ac yn ei diroedd nythu yn yr haf wrth ei faint mawr, ei big hir sy’n crymu ar i lawr, ei rannau uchaf brown a’i goesau hir. Mae ei gân yn iasol ac yn hiraethus; i lawer o bobl, dyna alwad ardaloedd yr ucheldir gwyllt. Mae rhosydd gogledd Cymru bellach yn cynnal y boblogaeth fwyaf o ylfinirod nythu yng Nghymru, gydag adar yn dychwelyd i nythu yn y gwanwyn. Mae gylfinirod yn nythu ar gorsydd agored, gwastad neu ychydig yn donnog, ar rostir, ar dir ffermydd mynydd ac ar borfeydd gwlyb ar dir isel, ac yn bwydo’n bennaf ar amrywiaeth o infertebratau, gan gynnwys pryfed genwair, cynrhon lledr, chwilod, pryfed cop a lindys. Er eu bod yn dal i fod yn gymharol gyffredin yn yr ucheldir, mae parau magu, fel y nodwyd, bellach yn brin ar lawr gwlad. Roedd yr amcangyfrif diwethaf yn 2006 yn ystyried nad oedd ond ychydig dros 1,000 o barau o ylfinirod yn nythu yng Nghymru.
Felly, mae’r camau gweithredu sy’n ofynnol yn cynnwys cymorth a chyngor i berchnogion a rheolwyr tir lle y ceir gylfinirod neu ble y gellid disgwyl eu gweld, i weithredu rheolaeth ffafriol ar gyfer gylfinirod fel rhan o’u busnes fferm. Gallai hyn gynnwys adfer rheolaeth a gollwyd yn flaenorol. Cam gweithredu sy’n ofynnol hefyd yw monitro effeithiolrwydd cynllun amaeth-amgylcheddol Glastir yn drylwyr i lywio opsiynau cynllun a rheolaeth ehangach, ac yn olaf, pwysigrwydd treialu atebion rheoli cynhwysfawr i atal y gostyngiad yn niferoedd gylfinirod sy’n nythu yn yr ucheldir. Diolch.
Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o siarad yn y ddadl hynod o bwysig hon heddiw, ac wrth gwrs, rwy’n ei chroesawu ac rwy’n croesawu adroddiad ‘Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016’. Yn gyntaf oll, rwyf am ddechrau drwy ddiolch i’r holl sefydliadau cysylltiedig am eu gwaith caled yn cynhyrchu’r hyn sy’n bapur manwl a llawn gwybodaeth, ac yn bwysicaf oll, cydnabod y miloedd o wirfoddolwyr ymroddedig ac angerddol sydd, drwy eu cariad at natur, yn rhoi eu hamser. Heb eu cymorth, ni fyddem mor wybodus am sefyllfa byd natur yng Nghymru a byddai hynny’n ei gwneud yn hynod o anodd gwybod ble y mae fwyaf o angen ymyrryd.
Mae’r adroddiad yn rhoi cipolwg llwm ar golli bioamrywiaeth yma yng Nghymru ac yn wir, mae’n ddarlun cymysg o golledion difrifol, megis y durtur, crec yr eithin a’r gylfinir, er nad yw’r newyddion yn ddrwg i gyd. Roedd yn galonogol darllen am enillion i nifer o rywogaethau a straeon llwyddiant, sy’n amlwg yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd rhanddeiliaid yn gweithio gyda’i gilydd. Fel Aelodau etholedig, rwy’n credu ein bod yn warcheidwaid yr amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac mae hynny wedi cael ei ddweud yma heddiw. Wedi’r cyfan, nid yw ond wedi cymryd 50 mlynedd i weld gostyngiad o 56 y cant yn y rhywogaethau a astudiwyd. Oherwydd hynny, mae angen i ni weithredu ar frys, fel arall ni fyddwn yn atal y dirywiad hwn. Nid wyf yn credu bod unrhyw un ohonom yma am barhau i drosglwyddo’r dirywiad hwnnw yn y gwaith a etifeddir gennym.
Os edrychwn ar adroddiad sefyllfa byd natur y DU, mae’n gwneud ychydig o sylwadau. Un o’r sylwadau hynny yw mai dwysáu amaethyddiaeth sydd wedi effeithio fwyaf ar fywyd gwyllt, ac mae hynny wedi bod yn hynod o negyddol. Diolch byth, mae yna lawer o dirfeddianwyr a ffermwyr sy’n pryderu am effeithiau amaethyddiaeth ar natur ac sydd am greu newid cadarnhaol drwy ffermio sy’n parchu bywyd gwyllt. Rwy’n credu bod hynny’n hanfodol bwysig i adfer ac adennill cynefinoedd a bywyd gwyllt, o gofio bod 84 y cant o’r tir yma yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth yn wir. Wrth gwrs, i lawer o ffermwyr a thirfeddianwyr, ni fyddai’n bosibl rheoli tir yn gynaliadwy, sy’n effeithio’n gadarnhaol ar natur, heb y cymorth ariannol sy’n cael ei dderbyn drwy gynlluniau grantiau gan Lywodraeth Cymru a’r UE fel Glastir. Felly, rwy’n bryderus iawn ynglŷn â chyllid yn y dyfodol i’r cynlluniau hanfodol bwysig hyn pan fydd Cymru yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn wir, am y posibilrwydd o golli llawer o ddarnau sylweddol o ddeddfwriaeth yr UE sy’n diogelu bywyd gwyllt, megis y gyfarwyddeb cynefinoedd, y gyfarwyddeb adar a rheolaethau ar blaladdwyr, a fyddai’n effeithio negyddol ar ein hymdrechion i atal y dirywiad.
Rwy’n ymwybodol, wrth gwrs, fod Llywodraeth y DU wedi dweud y byddant yn anrhydeddu contractau datblygu gwledig a lofnodwyd cyn i Gymru adael yr Undeb Ewropeaidd, a bydd y taliadau uniongyrchol i ffermwyr yn cael eu cadw tan 2020. Ond yr hyn sy’n rhaid i ni edrych arno yw beth sy’n digwydd ar ôl hynny. Felly, hoffwn wybod a gyflwynwyd unrhyw sylwadau gan Ysgrifennydd y Cabinet i Lywodraeth San Steffan ynghylch y cyllid hirdymor i gynlluniau amaeth-amgylcheddol ar gyfer Cymru yn y cyfnod ar ôl gadael yr UE, ac a fyddwn, o fewn y cynlluniau amaeth-amgylcheddol hynny, yn cael yr arian, wrth gwrs, a addawyd i ni mor frwd ar gyfer ffermwyr a fyddai’n cael ei rannu hefyd i edrych ar ôl yr amgylchedd rydym yn sôn amdano heddiw.
Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch, Lywydd. Croesawaf y ddadl hon ar yr adroddiad sefyllfa byd natur yn fawr iawn ac rwy’n hapus i gefnogi’r cynnig. Rwy’n cydnabod y gwaith pwysig a wneir gan y bartneriaeth sefyllfa byd natur a diolch iddynt am gynhyrchu’r adroddiad pwysig hwn. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi’r gwaith hanfodol a phwysig a wnaed gan wirfoddolwyr yng Nghymru y cyfrannodd eu hymdrechion yn monitro a chofnodi rhywogaethau a chynefinoedd at yr adroddiad hwn hefyd.
Er bod yr adroddiad sefyllfa byd natur yn tynnu sylw at y gostyngiad mewn nifer o rywogaethau a chynefinoedd yng Nghymru, ac achosion sylfaenol y gostyngiad yn y niferoedd hynny, yn bendant nid yw’r adroddiad i gyd yn negyddol. Mae’n nodi nifer o rywogaethau sydd wedi eu hadennill yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, megis y titw penddu a’r troellwr mawr, gyda’r dystiolaeth hefyd yn dangos bod ystlumod yng Nghymru i’w gweld yn gwneud yn dda.
Yn ein hamgylchedd morol, er bod yr adroddiad yn nodi rhai enghreifftiau o ddirywiad, mae hefyd yn amlygu bod mwy na hanner y rhywogaethau morol ym moroedd y DU wedi cynyddu. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y materion sy’n ymwneud â dirywiad bioamrywiaeth ers amser hir. Mae ein hymrwymiad i wrthdroi’r dirywiad hwn drwy ddatblygu cydnerthedd ecosystemau yn allweddol i gyflawni ein cynllun adfer natur ar gyfer Cymru. Ni chaiff hyn ei gyflawni heb wneud bioamrywiaeth yn rhan annatod o’r broses o wneud penderfyniadau ar bob lefel, gan adeiladu ar y cyfraniad y mae bioamrywiaeth yn ei wneud i’n lles.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gymryd cwestiwn?
Gwnaf.
A gaf fi ofyn ar yr union bwynt hwnnw: oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio cymaint ar fioamrywiaeth, a allai roi rhywfaint o sicrwydd i ni heddiw y bydd cynrychiolaeth gref o Lywodraeth Cymru yng nghonfensiwn Cancun sydd ar y gorwel ar amrywiaeth biolegol, naill ai hi’n bersonol, yn ddelfrydol, neu fel arall, gan uwch swyddogion?
Nid wyf yn gallu bod yn bresennol, ond byddaf yn sicrhau bod uwch swyddog yn mynd yn fy lle.
Fel y soniodd Simon Thomas yn ei sylwadau agoriadol, mae gennym bellach fframwaith deddfwriaethol sy’n mynd i’r afael â’r materion hyn. Mae ein deddfau arloesol, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn golygu mai gennym ni y mae’r sylfaen gryfaf yn y DU, ac rydym yn cael ein cydnabod yn rhyngwladol fel enghraifft dda yn y modd rydym yn gweithredu ein hymrwymiadau rhyngwladol i ddatblygu cynaliadwy a bioamrywiaeth.
Mae’r ddwy Ddeddf yn cydnabod bod diogelu a rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy yn allweddol i’n lles. O dan y Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, mae dyletswydd ar gyrff cyhoeddus bellach i gyfrannu at y saith nod lles, sy’n cynnwys cynnal a gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol, gydag ecosystemau iach sy’n gweithio. Rydym bellach wedi cyhoeddi ein hamcanion lles, sy’n nodi sut y byddwn yn defnyddio Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol i helpu i gyflawni ein rhaglen lywodraethu a sicrhau ein bod yn cyfrannu cymaint ag y bo modd i’r saith nod lles. Mae ein hamcanion lles yn cynnwys rheoli, defnyddio a gwella adnoddau naturiol Cymru er mwyn cefnogi lles hirdymor.
Mae Deddf yr amgylchedd yn pwyso ar y dull rheoli ar lefel yr ecosystem a nodir yn y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol. Bydd y Ddeddf yn sicrhau bod cydnerthedd ecosystemau yn amcan allweddol o ran y modd rydym yn rheoli ac yn defnyddio ein hadnoddau naturiol, fel bod ein cynefinoedd a’n rhywogaethau yn gallu ffynnu ac addasu i’r pwysau y maent yn eu hwynebu.
A wnaiff y Gweinidog gymryd cwestiwn?
Gwnaf.
Ar y pwynt hwnnw’n unig: fe’m synnwyd bod nodau ac amcanion Deddf cenedlaethau’r dyfodol a gyhoeddwyd ddydd Gwener yn nodi systemau yn hytrach nag ecosystemau. A allwch fy sicrhau nad oes arwyddocâd i’r ffaith fod y nodau’n sôn am systemau, a’r Ddeddf yn sôn am ecosystemau, ac mai’r hyn y mae’r Llywodraeth yn sôn amdanynt yw ecosystemau?
Ie, rydym yn sôn am ecosystemau.
Felly, i sefydlu hyn, mae’r Ddeddf yn nodi fframwaith cyflawni cydgysylltiedig. Lansiais y cyntaf o’r rhain, adroddiad ar sefyllfa adnoddau naturiol a gynhyrchwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, y mis diwethaf. Mae’n creu sylfaen dystiolaeth genedlaethol, ac yn nodi’r pwysau a’r cyfleoedd ar gyfer rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy. Yn fuan, byddaf yn cynnal ymgynghoriad ar yr ail o’r rhain, polisi adnoddau naturiol cenedlaethol statudol, a fydd yn nodi ein blaenoriaethau i fynd i’r afael â’r pwysau a’r cyfleoedd hyn ar draws y Llywodraeth a thu hwnt. Yn drydydd, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynhyrchu datganiadau ardal yn nodi materion sy’n codi’n lleol a blaenoriaethau ar gyfer gweithredu.
Mae ein hymgynghoriad cyfredol ar ansawdd aer lleol a rheoli sŵn yng Nghymru wedi’i osod o fewn y fframwaith hwn. Rydym yn cynnig arweiniad polisi newydd i bwysleisio’r manteision mwy i iechyd y cyhoedd sy’n debygol o ddeillio o gamau gweithredu i leihau llygredd aer a sŵn mewn modd integredig dros ardal ehangach. [Torri ar draws.] Na, ni allaf—rwyf eisoes wedi cymryd dau.
Bydd y dull hwn hefyd o fudd i fioamrywiaeth. Ar ben hynny, mae Deddf yr amgylchedd yn cyflwyno dyletswydd i wella bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau ar awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. Bydd hyn yn sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn rhoi bioamrywiaeth wrth wraidd eu penderfyniadau mewn modd cydgysylltiedig ac integredig, gan sicrhau manteision lluosog i gymdeithas. Er enghraifft, mae ein hymgynghoriad cyfredol ar barthau perygl nitradau yn dangos sut rydym wedi ymrwymo i adeiladu ecosystemau cydnerth. Mae hyn yn golygu mabwysiadu ymagwedd ataliol, mynd i’r afael â’r materion gwaelodol yn hytrach na thrin y symptomau, a gwella gallu hirdymor ein hecosystemau i ddarparu gwasanaethau ac addasu i bwysau a newidiadau.
O ran ein hamgylchedd morol, mae’n bwysig ein bod yn parhau i weithio mewn partneriaeth i adeiladu cydnerthedd. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru’n cyfrannu at rwydwaith ecolegol cydlynol wedi’i reoli’n dda o ardaloedd morol gwarchodedig, ac at gyflawni’r cynllun morol cenedlaethol Cymreig cyntaf sy’n integreiddio polisïau ar draws Llywodraeth Cymru ar gyfer yr amgylchedd morol. Bydd y cynllun yn cynnwys polisïau penodol i fioamrywiaeth a mynd i’r afael â rhywogaethau estron goresgynnol. Trwy gyflawni ein hymrwymiadau o dan y rhaglen newid morol, rydym yn sicrhau bod bioamrywiaeth yn rhan annatod o wneud penderfyniadau yng Nghymru. Rwyf hefyd yn dymuno dweud ychydig eiriau am ein hymrwymiad i fioamrywiaeth yng nghyd-destun gadael yr UE. Oes, wrth gwrs bod llawer o heriau a risgiau, ond mae yna lawer o gyfleoedd hefyd. Cefais fy nghalonogi’n fawr iawn gan y consensws o safbwyntiau a fynegwyd yn y trafodaethau bwrdd crwn a gynhaliais ers y bleidlais. Mae cydweithio’n allweddol ar draws pob sector i ddiffinio’r Gymru rydym ei heisiau ar ôl gadael yr UE, a’r mecanweithiau i gyflawni ein gweledigaeth. Bydd adeiladu ar, a dysgu o’r mecanweithiau ariannu presennol yn hanfodol ar ôl gadael yr UE, o gynlluniau fel y cynllun rheoli cynaliadwy a Glastir, yn ogystal â datblygu cyfleoedd ariannu newydd yn seiliedig ar y farchnad, gan gynnwys taliadau am wasanaethau ecosystemau.
Gofynnodd Joyce Watson yn benodol ynglŷn â chyllid ar ôl gadael yr UE, ac rwyf am dawelu ei meddwl hi a’r holl Aelodau fod trafodaethau’n bendant ar y gweill. Ddoe ddiwethaf, cynhaliais gyfarfod rhyngof fi a fy nghymheiriaid gweinidogol yn Llywodraeth y DU—roedd yr Alban, a Gogledd Iwerddon yn cael eu cynrychioli gan yr Ysgrifennydd Parhaol. Mae’r sgyrsiau hynny’n parhau, nid yn benodol ynglŷn ag ariannu, er bod hynny’n amlwg yn rhan o’r trafodaethau. Hefyd, bydd Joyce Watson yn ymwybodol o Gydbwyllgor Gweinidogion yr UE y mae’r Prif Weinidog yn ei fynychu, ynghyd â Phrif Weinidogion eraill lle y mae cyllid, unwaith eto, yn amlwg yn brif bwnc. Rydym yn bryderus iawn—yn amlwg, rydym wedi cael sicrwydd gan y Trysorlys y byddwn yn cael cyllid hyd at 2020, ond ar ôl hynny, ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod.
Mae Deddf yr amgylchedd a Deddf lles cenedlaethau’r dyfodol yn seiliau cadarn i adeiladu arnynt ac yn bwrw ymlaen â’n hymrwymiad i fioamrywiaeth. Yn dilyn y penderfyniad i adael yr UE, ni fyddwn yn gwrthdroi ein deddfwriaeth bresennol, na’n hymrwymiad i fioamrywiaeth. Bydd ein deddfwriaeth yn caniatáu i ni hyrwyddo dulliau newydd blaengar, arloesol a hirdymor o reoli ein bywyd gwyllt. Rydym wedi ymrwymo i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth ac yn wir, i’w gweld yn ffynnu. Rwy’n hyderus y gellir cyflawni hyn drwy’r dull rwyf wedi’i amlinellu, sy’n ein gosod ar wahân fel arweinydd byd-eang—er ein bod yn wlad fach, fel y dywedodd Angela Burns—o ran y modd rydym yn rheoli ein hadnoddau naturiol. Diolch.
Rwy’n galw ar Huw Irranca-Davies i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am naws a natur gadarnhaol ei hymateb cynhwysfawr iawn? Ond a gaf fi hefyd ategu’r holl siaradwyr heddiw, llawer ohonynt, a’r rhai a ofynnodd am y ddadl hon, yn enwedig Simon Thomas, a gyfeiriodd at sut rydym yn byw yn yr oes anthroposen? Ond roedd natur gadarnhaol i’w gyfraniad, a oedd yn dweud os ydym yn dewis gwneud gwahaniaeth, fe allwn wneud gwahaniaeth. Dyna oedd y thema a ddaeth yn amlwg gan lawer o’r siaradwyr.
Cyffyrddodd Sian Gwenllian ar fater a ailadroddwyd gan Joyce Watson—sut rydym yn esbonio hyn i’r genhedlaeth nesaf oni bai ein bod stiwardio hyn yn iawn, oni bai ein bod yn gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth ac oni bai ein bod yn atgyweirio’r difrod i’n gwasanaethau ecosystemau fel y’u disgrifir yn yr adroddiad sefyllfa byd natur.
Canolbwyntiodd Vikki Howells yn gywir ar yr amgylchedd morol a’r gwaith y gellir ei wneud yno, oherwydd, yn aml iawn, rydym yn edrych ar y glesni mawr draw, a glesni mawr draw ydyw hefyd. Nid yw pobl yn edrych ar iechyd a lles yr ardal honno yn y ffordd rydym yn ei wneud mewn perthynas â’r amgylchedd naturiol ar y tir.
Cawsom ein hatgoffa gan Angela Burns am y rheidrwydd byd-eang ar ddiwrnod pan welwn hynny’n cael ei beryglu braidd mewn gwirionedd, gydag un o genhedloedd mwyaf a mwyaf gwych y byd yn dewis rhywun sy’n gwadu bodolaeth newid hinsawdd. Mae’n rhaid i ni weithio ddwywaith mor galed yn awr i gadw’r ysgogiad byd-eang i gyflawni ar fioamrywiaeth, newid hinsawdd ac yn y blaen.
Cawsom hefyd nifer o hyrwyddwyr yr amgylchedd naturiol yma heddiw—mae pob un ohonynt yn hyrwyddwyr—John Griffiths, hyrwyddwr llygoden y dŵr; Julie Morgan, y ffwng cap cŵyr; a Mark Isherwood, y gylfinir. Cawsom Rhun ap Iorwerth yn dweud pa mor ‘choughed’, yn wir, yr oedd i fod yma. [Chwerthin.] A Mark Reckless, Cadeirydd y pwyllgor newid hinsawdd, amgylchedd a materion gwledig, yn gwbl gywir—nid wyf yn siŵr beth y mae’n ei hyrwyddo, ond fe hyrwyddodd yr angen i fonitro a gwerthuso cynnydd Llywodraeth Cymru yn annibynnol ar yr holl faterion hyn.
Nawr, rwy’n falch o fod yn hyrwyddwr y gornchwiglen yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac mae’r cwestiwn i ble’r aeth yr holl gornchwiglod yn crynhoi holl themâu mawr y ddadl hon yn ardderchog, gan nodi dirywiad a chwymp yr ymerodraeth wych flaenorol o fywyd yn y môr ac ar y tir, o blanhigion ac adar a glöynnod byw, dirywiad rhywogaethau a chynefinoedd, a thrasiedi colli bioamrywiaeth. Yn y blynyddoedd a fu, roedd cornchwiglod du a gwyn i’w gweld yn hedfan drwy gydol y flwyddyn ledled Cymru. Roeddent mor niferus â’r dolydd blodau gwyllt a’u cynhaliai. Yn awr, maent yn brin ac yn arbennig. Y gornchwiglen yw ein fersiwn fodern o ganeri’r glowyr. Mae eu tranc araf yn dangos i ni fod natur mewn trybini. Er eu mwyn hwy, ac er ein mwyn ninnau, mae angen i ni weithredu.
Nawr, i’r gornchwiglen, mae’r atebion i’w gweld mewn ffermio a rheoli’r dirwedd, ac mae angen rhoi sylw i hyn yn ein polisïau ar gyfer amaethyddiaeth, datblygu gwledig ac yn anad dim, yn y dirwedd ôl-Brexit hon. Mae arnom angen ffermio hyfyw, cymunedau gwledig hyfyw, a rhywogaethau a chynefinoedd hyfyw hefyd. Mae angen i ni ailfeddwl ein dull o gael y gorau oll o bob byd, gan adfer y gorau yn y byd hwn, lle rydym yn stiwardiaid ac nid yn feistri. Beth bynnag am adael yr UE, dylem fod yn edrych ar fyd newydd dewr, ac yn y byd newydd dewr hwn ni ddylai fod unrhyw wrthdaro rhwng cynnal ein gallu i dyfu bwyd a gofalu am y tir a’r natur y mae’n dibynnu arni. Mae’r cyntaf yn gwbl ddibynnol ar yr ail. Felly, gadewch i ni fachu ar y cyfle hwn i weithio tuag at ffermio deallus a chynaliadwy, rheoli’r dirwedd a rheolaeth amgylcheddol, lle rydym ni, y dinasyddion, yn buddsoddi mewn ffermio, nid yn unig mewn perthynas â bwyd a hyfywedd cymunedau gwledig ond drwy ddefnyddio arian cyhoeddus i gynhyrchu nwyddau cyhoeddus pendant, megis dŵr glân, atal llygredd, cynnal pridd iach, gofalu am natur, lliniaru ac addasu i newid hinsawdd, gan gynnwys ail-greu amddiffynfeydd llifogydd naturiol, megis gorlifdiroedd gyda glaswelltir gwlyb a choetir gwlyb.
Nid wyf yn siŵr a oes gennyf amser. Rwy’n ymddiheuro.
Rydym wedi creu rhywfaint o’r adnoddau i wneud hyn yng Nghymru. Rydym yn arwain y ffordd mewn deddfwriaeth a pholisi. Mae gennym Ddeddf yr amgylchedd. Mae Rhan 1 yn disgrifio rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol. Mae’n galluogi adnoddau Cymru i gael eu rheoli mewn ffordd fwy rhagweithiol, cynaliadwy a chydgysylltiedig. Mae’n helpu i fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu. Mae’n canolbwyntio ar y cyfleoedd y mae ein hadnoddau yn eu cynnig. Ar y ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau yn adran 6(1):
‘Rhaid i awdurdod cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, ac wrth wneud hynny hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau, i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaethau hynny’n briodol.’
Yn adran 7 y Ddeddf,
‘Heb ragfarnu adran 6, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) cymryd pob cam rhesymol er mwyn cynnal a gwella’r organeddau byw a’r mathau o gynefinoedd a gynhwysir ar unrhyw restr a gyhoeddir o dan yr adran hon, a
(b) annog eraill i gymryd camau o’r fath.’
A soniwyd eisoes am Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol sy’n disgrifio Cymru gydnerth—
‘Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).’
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet o’n blaenau, sy’n arwain ar hyn, yn y gynhadledd Joint Links:
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn cynnig cyfle i ddod â bioamrywiaeth i mewn i brosesau canolog cyrff cyhoeddus ar gyfer gwneud penderfyniadau, gan ddylanwadu ar fioamrywiaeth a’r adnoddau sy’n ei chynnal. Mae angen i ni ddefnyddio hyn yn y modd mwyaf effeithiol, gan sicrhau bod mecanweithiau arian grant yn cydymffurfio â’r Ddeddf i gyflawni’r nodau lles, a nodau Cymru gydnerth yn benodol.
Clywyd amrywiaeth wych o gyfraniadau. Fe wnaeth ein hamrywiaeth gwleidyddol, rhaid i mi ddweud, greu rhywfaint o harmoni, gyda phawb yn cytuno mai un cyfeiriad teithio sydd yma: mae angen i ni ailadeiladu ac adfer ein hamgylchedd naturiol, ailgyflenwi’r fioamrywiaeth, gwrthdroi colli cynefin, adfer ansawdd ein hecosystemau naturiol. Mae’n dda i ni, mae’n dda i’r blaned, mae’n dda i’r genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol. Gwyddom fod gennym yr offer, gwyddom fod gennym yr uchelgais—mater i ni yn awr yw gweithio gyda’n gilydd, a gwnaeth yr holl siaradwyr yma y pwynt hwn heddiw, i wrthdroi colli bioamrywiaeth, atgyweirio ein hecosystemau briwiedig, a throsglwyddo planed sy’n gwella a phlaned iach i genedlaethau’r dyfodol. Ni yw’r stiwardiaid, nid y meistri.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.