2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 23 Tachwedd 2016.
Trown yn awr at gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau, a’r llefarydd cyntaf yw Simon Thomas.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae 2016 ar y trywydd i fod y flwyddyn gynhesaf ers dechrau cadw cofnodion, ac mae effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn cael eu teimlo’n barod, fel y gwelsom, yn wir, dros y dyddiau diwethaf yma yng Nghymru. Nawr, mae eich cyllideb ddrafft yn argymell toriadau o 38 y cant i’r gwariant cyfalaf ar gyfer lliniaru newid yn yr hinsawdd a phrosiectau amddiffyn rhag llifogydd. Yn dilyn cyhoeddiadau datganiad yr hydref heddiw fod rhywfaint, o leiaf, o gyllid cyfalaf ychwanegol i Lywodraeth Cymru, er nad yw ond tua’r un faint â’r swm y buasai ei angen i atgyweirio tŷ mawr yn Llundain, oni ddylech fod yn ystyried adfer rhywfaint o’r cyllid hwn yn awr i’ch cyllideb prosiectau cyfalaf ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd?
Rwy’n siŵr y bydd yr Aelod Cynulliad yn falch o glywed fy mod yn credu bod llythyr eisoes ar ei ffordd at fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Fe fyddwch wedi clywed Mark Drakeford yn dweud—yn amlwg, roedd ar ei draed yn ystod diwedd cyhoeddiad y Canghellor—yn sicr, ar ôl i ni edrych ar y print mân, ac ar ôl i’r Gweinidog gael cyfle i edrych ar ein cynigion i gyd, gallwn edrych ar ba arian ychwanegol sydd ar gael i bob un ohonom.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n falch ei bod yn manteisio ar y cyfle i ofyn am adfer y rheini. Rydym yn deall y bydd £400 miliwn ar gael ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Buasai hynny’n awgrymu tua £80 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol hon, er fy mod yn derbyn bod yn rhaid i ni edrych ar y manylion. Ond mae’n rhaid i ni ddangos arweiniad ar hyn, ac rydych newydd ddychwelyd o Gynhadledd y Partïon 22 yn Marrakech, ac roeddwn yn falch iawn eich bod wedi bod yno. Nawr, rydym yn deall bellach fod hyd yn oed Donald Trump yn derbyn bod rhywfaint o gysylltedd, fel y mae ef yn ei roi, rhwng newid yn yr hinsawdd a’n gweithgaredd ni, sy’n golygu bod Donald Trump wedi achub y blaen ar UKIP mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd. A gaf fi groesawu’r cyhoeddiad a wnaethoch yn Marrakech y bydd Cymru yn un o’r chwe rhanbarth Ewropeaidd i lofnodi Platfform Llwybrau 2050 y Cenhedloedd Unedig i gynyddu cydweithrediad rhwng pob lefel o Lywodraeth ar gyfer cyflwyno mesurau newid yn yr hinsawdd ar lawr gwlad? A allwch roi unrhyw fanylion pellach ynglŷn â sut rydych yn bwriadu cyflymu’r broses o gyflwyno ein mesurau newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys y nod hollbwysig o leihau allyriadau 40 y cant erbyn 2020?
Diolch. Oeddwn, roeddwn yn falch iawn i fynychu’r COP22, ac nid wyf yn credu fy mod yn gor-ddweud pan ddywedaf ei fod yn brofiad a newidiodd fy mywyd. Cyfarfûm â phobl ysbrydoledig, ac rwy’n gobeithio bod yr Aelodau wedi cael cyfle i ddarllen y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais neithiwr. Rydych yn hollol gywir yn dweud mai ein targed yw lleihau allyriadau carbon o 40 y cant erbyn 2020. Mae hwnnw’n ymrwymiad traws-lywodraethol. Cefais gyfarfodydd dwyochrog gyda fy nghyd-Aelodau Cabinet cyn i mi fynd i Marrakech er mwyn i mi gael gwybod beth roeddent yn ei wneud o fewn eu portffolios. Rwyf yn awr yn bwriadu cael cyfres arall o gyfarfodydd dwyochrog, oherwydd, yn amlwg, mae gennym lawer i’w ddysgu gan lawer o wladwriaethau a rhanbarthau. Manteisiais ar y cyfle i gael nifer o gyfarfodydd dwyochrog â Gweinidogion yr amgylchedd a gwleidyddion blaenllaw eraill o’r gwladwriaethau a’r rhanbarthau. Mae gennym lawer i’w ddysgu, wrth gwrs, ond rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yno. Roeddem yn rhan o ddirprwyaeth y DU, ond roedd yn bwysig iawn fy mod yn cyfleu’r neges ein bod ni yng Nghymru, er ein bod yn wlad fach, yn gwbl barod i chwarae ein rhan i leihau ein hallyriadau carbon.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd yn amlwg o’ch negeseuon trydar eich bod yn mwynhau eich hun yno, ac rwy’n golygu hynny mewn ffordd broffesiynol, a hefyd, wrth gwrs, o’r datganiad ysgrifenedig, a oedd, unwaith eto, yn llawn o negeseuon cadarnhaol o COP22. Nid wyf ond yn gresynu na lwyddodd y Cynulliad mewn pryd i ddod i ben ag anfon Aelodau Cynulliad yno yn gwmni i chi, oherwydd credaf y bydd hynny’n briodol yn y dyfodol.
Un o’r pethau a gytunwyd yno—ac unwaith eto, roedd yn neges gadarnhaol—oedd bod 47 o wledydd y byd yr effeithir arnynt fwyaf gan newid yn yr hinsawdd wedi addo na fyddant ond yn defnyddio tanwydd adnewyddadwy yn unig erbyn 2050. Fe ddywedoch wrth y gynhadledd hefyd, mewn blog rwy’n credu, y bydd yr holl drydan a brynir gan wasanaeth caffael Cymru ar gyfer y sector cyhoeddus yn adnewyddadwy 100 y cant, erbyn y flwyddyn nesaf, a chredaf fod hynny i’w ganmol, er bod cwestiwn bob amser ynglŷn â’r hyn sy’n cael ei ystyried yn adnewyddadwy 100 y cant dan gyfarwyddebau’r UE, ond mater arall yw hwnnw. Yr hyn rwy’n awyddus iawn i wybod yw sut y byddwch yn cyflawni, yn adeiladu ac yn cynnal hyn, ac onid ydych yn credu, wrth i ni symud tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy yn awr, mai dyma’r adeg, mewn gwirionedd, i gael cwmni ynni cyhoeddus nad yw’n rhannu elw sy’n eiddo i Gymru, i arwain y ffordd ac i fod yn rhan o’r newid sylweddol sydd ei angen arnom mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy?
Ie, roeddwn yn falch iawn o gyhoeddi y bydd yr holl drydan a brynir gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru o’r flwyddyn nesaf ymlaen yn adnewyddadwy 100 y cant, ac roedd llawer iawn o ddiddordeb gan wladwriaethau a gwledydd eraill ynglŷn â sut y byddwn yn cyflawni hynny. Byddaf yn gwneud datganiad y mis nesaf ynglŷn â pholisïau ynni ar gyfer tymor y Llywodraeth hon, ac mae’n sicr yn rhywbeth y gallaf ei ystyried.
Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding.
Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn siomedig fod Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru wedi dweud nad yw Gweinidogion wedi cyflawni ar bolisi newid yn yr hinsawdd eto, a bod WWF Cymru yn rhybuddio ynghylch bwlch uchelgais?
Wel, nid wyf yn credu bod yna fwlch uchelgais, a soniais yn fy ateb blaenorol i Simon Thomas fy mod wedi cael cyfarfodydd dwyochrog gyda fy nghyd-Aelodau Cabinet cyn i mi fynychu COP22. Gwnaed hynny’n benodol iawn. Nid wyf yn credu bod diffyg uchelgais mewn unrhyw bortffolio ar draws y Llywodraeth. Er mwyn i ni gyrraedd ein targed o leihau allyriadau carbon erbyn 2020, rwy’n derbyn bod angen i ni edrych ar wneud rhai pethau’n wahanol, a chrybwyllais eto y byddaf yn cael rownd arall o gyfarfodydd gyda fy nghyd-Aelodau dros yr wythnosau nesaf.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae cyllidebau carbon yn ganolog i Ddeddf yr amgylchedd, a bellach nid oes disgwyl iddynt ymddangos tan ddiwedd 2018. Ac rwy’n credu ei bod yn rhesymol i ni ofyn, ‘Pam yr oedi?’ A yw hi o ddifrif yn cymryd tair blynedd i gynhyrchu’r cyllidebau carbon cyntaf? Byddwn hanner ffordd drwy’r Cynulliad hwn, ac mae’r cyllidebau hynny i fod i’ch helpu i flaenoriaethu a’n helpu ni i graffu.
Ie, rydym wedi dechrau ar y broses o gael ein cyllidebau carbon yn eu lle. Unwaith eto, rwy’n credu bod angen i ni wneud mwy i sicrhau cysondeb rhwng y cyllidebau carbon a’n cyllidebau ariannol, a rhywbeth a ddysgais yn COP22 oedd sut y caiff hyn ei wneud mewn gwledydd eraill. Os gallaf gyflymu’r broses mewn unrhyw ffordd, fe wnaf hynny.
Weinidog, i bwysleisio’r gwyro wrth weithredu’r polisi, mae’n rhaid i mi ofyn pam fod yr asesiadau effaith strategol ar gyfer eich adran mor amwys. Maent yn ganolog i Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol, ac nid yw’n ymddangos eu bod wedi chwarae llawer o ran ym mlaenoriaethau a phenderfyniadau eich cyllideb. Onid y gwir yw bod y Llywodraeth hon yn frwd ynglŷn â deddfu, ond yn wael iawn am weithredu, fel roedd Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru a WWF mor gywir yn ei nodi?
Rydych yn gywir yn dweud bod gennym Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol, mae gennym Ddeddf yr amgylchedd, mae gennym ddeddfwriaeth na welwyd mo’i thebyg, ac mae’r cyfan yn ymwneud bellach â’u gweithredu. Nid wyf yn credu bod fy asesiadau effaith strategol yn amwys. Rwy’n credu eu bod yn amlwg yn rhan bwysig iawn o’n cyllideb. Credaf y gellir eu gwella wrth symud ymlaen, ac rwy’n credu, pan soniais yn fy ateb blaenorol am gysoni cyllidebau carbon a chyllidebau ariannol, mai’r rheswm pam y dywedais hynny yw er mwyn iddo wella o flwyddyn i flwyddyn.
Diolch i Simon Thomas am weithredu fel codwr hwyl ar gyfer y gyfres o gwestiynau rwyf ar fin eu gofyn ar bynciau cysylltiedig. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Gyngor Sir Powys gynyddu ei dargedau cynhyrchu ar gyfer trydan o ynni adnewyddadwy—o ynni gwynt, mewn gwirionedd—o 50 MW, i 600 MW. Gallai hynny arwain at 200 i 300 melin wynt arall yn halogi tirwedd canolbarth Cymru, dros 40 y cant o holl dir Powys y tu allan i barc cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a gallai hyd at 14 o dyrbinau gael eu cymeradwyo’n awtomatig felly oherwydd y rhagdybiaeth o ganiatâd cynllunio o dan y cynllun datblygu yn Abergwesyn, y Begwns, Pen Pant-y-Llyn, Merthyr Cynog, Llandeglau, Abaty Cwm-hir, a Hirnant. Mae trigolion lleol yn bryderus iawn ynglŷn â’r effaith y buasai datblygiadau o’r fath yn ei chael ar eu bywydau bob dydd. O ystyried na all y prosiectau hyn wneud unrhyw wahaniaeth sylweddol i’r newid yn yr hinsawdd, a hyd yn oed os ydych yn credu yn y cysylltiad rhwng cynnydd mewn carbon deuocsid a chynhesu byd-eang, a yw’n werth dinistrio tirwedd a bywydau pobl mewn gwirionedd?
Wel, roeddwn yn falch iawn o ateb cwestiynau Simon Thomas am y gynhadledd bwysig iawn a fynychais yr wythnos ddiwethaf. Nid wyf am drafod a wyf yn credu rhywbeth gydag Aelod o UKIP, a bod yn onest. Mae’r wyddoniaeth honno wedi bod yno ers blynyddoedd lawer.
Mae hwn yn fforwm democrataidd, onid yw? Pam rydym ni yma?
Mewn perthynas â ffermydd gwynt, rwy’n deall bod gan rai pobl bryderon yn eu cylch, ond buaswn hefyd yn credu y buasai gan y bobl hynny bryderon pe na bai’r golau yn dod ymlaen wrth iddynt wasgu’r swits. Mae’n ymwneud â sicrhau ein bod yn bendant yn buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy wrth symud ymlaen.
Wel, yn amlwg nid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn deall mai rhan o’r broblem gyda bod yn ddibynnol ar ynni adnewyddadwy yw ei bod yn bosibl iawn na fydd y goleuadau’n dod ymlaen wrth i chi wasgu’r swits. Ar hyn o bryd, mae’r Grid Cenedlaethol yn cynhyrchu 3.33 y cant o bŵer o ffynonellau adnewyddadwy, o’i gymharu â 17.32 y cant o lo a 49.68 y cant o dyrbinau nwy cylch cyfun. Mae’n rhaid cynnal tyrbinau nwy cylch cyfun er mwyn ymdopi â natur ysbeidiol y gwynt. Mae’r Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig wedi dweud bod dibynnu ar ffynonellau ynni ysbeidiol yn ofer oherwydd dyblu’r gost yn y ffordd hon, gan mai 20 y cant yn unig yw ffactor capasiti cyfartalog tyrbinau gwynt. Felly, am 80 y cant o’r amser nid ydynt yn cynhyrchu digon o wynt ac felly, mae’n rhaid cael ffynonellau cynhyrchu eraill yn ogystal, sy’n dyblu’r costau cyfalaf ac sydd hefyd, wrth gwrs, yn rhyddhau allyriadau carbon deuocsid yn y broses oherwydd natur ynni-ddwys yr hyn sydd angen ei greu drwy eu costau cyfalaf.
Rwy’n sicr yn cydnabod bod ffynonellau ynni sy’n bodoli’n barod, megis glo, yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac yn darparu ynni i ni, ond mae angen i ni edrych, nid yn unig ar y gymysgedd ynni ar hyn o bryd ond y gymysgedd ynni yn y dyfodol. Mae’n bosibl nad ydych am ymrwymo i gytundeb Paris ond rwy’n hollol hapus i ymrwymo iddo ac rwy’n credu y buasai’r rhan fwyaf o’r Aelodau yn y Siambr yn hapus i ymrwymo iddo, ac rydym yn ymrwymedig i newid y ffynonellau ynni hynny oni bai bod technolegau datgarboneiddio priodol yn dod yn weithredol. Felly, mae’n gwbl hanfodol ein bod yn buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy a ffynonellau ynni amgen yn y dyfodol.
Wel, o dan gytundebau Paris, wrth gwrs, bydd India yn treblu ei hallyriadau carbon deuocsid yn y 15 mlynedd nesaf a bydd Tsieina yn eu dyblu tra ydym ni’n aberthu, a’r aberth hwnnw oedd testun fy nghwestiynau y prynhawn yma. Ond mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn gyfrifol am faterion gwledig a chefn gwlad, ac mae twristiaeth yn hanfodol bwysig yng nghanolbarth Cymru. Ni fydd llenwi cefn gwlad â melinau gwynt yn gwneud dim o gwbl i ddenu twristiaid i ganolbarth Cymru. Rwy’n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet—er mwyn cael rhywfaint o gymesuredd ar hyn—mae digon o leoedd lle y gallwch adeiladu ffermydd gwynt neu gynhyrchu trydan mewn ffyrdd adnewyddadwy eraill drwy ddefnyddio paneli solar ac yn y blaen mewn ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol nad ydynt yn barciau cenedlaethol o bosibl; oni fuasai’n well peidio â chael y ffermydd gwynt hyn a chanolbwyntio ar eu hadeiladu mewn mannau eraill?
Wel, efallai pan fydd yr Aelod wedi dysgu rhywfaint mwy am Gymru fe welwch ein bod yn gyfoethog iawn mewn adnoddau adnewyddadwy. Mae’n ymwneud â chydbwysedd, felly yr ateb byr i’ch cwestiwn yw ‘na’.