– Senedd Cymru ar 11 Ionawr 2017.
Symudwn yn awr at eitem 6, sef dadl arall gan y Ceidwadwyr Cymreig, ac rwy’n galw ar Angela Burns i gynnig y cynnig. Angela Burns.
Cynnig NDM6196 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi, yng ngoleuni Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Gordewdra, bod lefelau gordewdra yng Nghymru ar gynnydd.
2. Yn mynegi pryder bod cymaint â 59 y cant o oedolion wedi cael eu cofnodi i fod dros eu pwysau neu’n ordew, fel y nodwyd yn yr Arolwg Iechyd Cymru diweddar, a bod 27.3 y cant o blant yng Nghymru yn ordew neu dros eu pwysau, fel y cofnodir yn Rhaglen Mesur Plant Cymru: Adroddiad Blynyddol Presennol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r diffyg cydlyniant rhwng ei mentrau iechyd cyhoeddus, a thoriadau i gyllid llywodraeth leol, sy’n rhwystro defnydd effeithiol o’r rhaglenni hyn.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gael y cyfle i gyflwyno’r ddadl hon i’r Cynulliad heddiw, yn ystod Wythnos Genedlaethol Gordewdra. Er bod llawer ohonom—ac rwy’n un ohonynt, yn bendant—yn poeni am y pwysau ychwanegol y maent wedi’u hennill o bosibl ar ôl ychydig o or-fwyta dros gyfnod y Nadolig, mae gordewdra yn dod yn broblem gynyddol yn y DU gyfan ac yng Nghymru yn yr achos penodol hwn.
Mae lefelau gordewdra yn cynyddu yng Nghymru. Yn ôl yr arolwg iechyd cyhoeddus diweddaraf, cofnodwyd bod bron i 59 y cant o oedolion yn ‘rhy drwm’ neu’n ‘ordew’, fod 25 y cant ohonynt yn ‘ordew iawn’ a bod 27 y cant o blant yn ‘rhy drwm’ neu’n ‘ordew’. Mae ein cynnig heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych eto ar ei mentrau iechyd y cyhoedd—y bore yma’n unig bu’r Gweinidog a minnau’n siarad am y Bil iechyd y cyhoedd a thoriadau i gyllideb llywodraeth leol—i helpu i gynyddu’r niferoedd sy’n dilyn rhaglenni iechyd y cyhoedd.
Dechreuaf drwy edrych ar un neu ddwy o ffeithiau allweddol. Mae un o bob pedwar oedolyn yn cael ei labelu’n ‘ordew iawn’ a dyma’r lefel uchaf yn y DU. Y rheswm pam y ceir pryderon ynglŷn â chario gormod o bwysau o’r fath yw’r cysylltiad rhwng hynny a chyflyrau meddygol cronig a difrifol sy’n arwain at dorri cymaint â 10 mlynedd oddi ar ddisgwyliad oes. Mae’n gyflwr y gellir ei atal ac mae’r GIG yng Nghymru yn gwario bron i £1 filiwn yr wythnos ar drin gordewdra, gydag unigolion gordew yn fwyaf tebygol o greu costau iechyd.
Er bod cynlluniau ar waith ar draws Cymru, y broblem yw bod y canlyniadau’n anghyson. Dau o saith bwrdd iechyd Cymru yn unig sy’n cynnig gwasanaethau gordewdra lefel 3 ac nid oes yr un yn cynnig y gwasanaethau bariatrig lefel 4, gan olygu bod y rhai sydd fwyaf o angen cymorth i golli pwysau yn methu â’i gael, neu’n gorfod mynd i Loegr i’w gael. Am y rhesymau hyn rydym yn galw am ymagwedd drawsbortffolio well gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r her gynyddol hon.
Cawn ein cefnogi gan Gymdeithas Feddygol Prydain, sydd wedi galw am adeiladu ar egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a glodforwyd gan lawer. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi tynnu sylw at y ffaith fod y Ddeddf wedi methu â chynnwys dangosyddion a fyddai’n mesur nifer yr achosion o ordewdra ym mhoblogaeth Cymru. Ddirprwy Weinidog, rydym yn awyddus iawn i wybod beth yw eich barn ynglŷn ag a ydych yn credu y gellid newid hynny—maddeuwch i mi, ‘Weinidog’, nid ‘Ddirprwy Weinidog’.
Ac nid yw’r Llywodraeth ychwaith yn cyfeirio at ordewdra yn ei amcan lles, a ddaeth gyda’r rhaglen ‘Symud Cymru Ymlaen’. Weinidog, pe baech yn unioni’r ddau ddiffyg mawr hwn, gallai helpu i ganolbwyntio mwy o sylw ar y problemau rydym yn eu profi ar hyn o bryd. Ni soniaf ormod am Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) gan eich bod chi a minnau wedi archwilio hwnnw’n fanwl iawn heddiw, ond yr hyn yr hoffwn ei wneud yw canolbwyntio gweddill fy nghyfraniad ar blant.
Mae’r Ymddiriedolaeth Datblygu Addysg wedi tynnu sylw at sut y gall ysgolion chwarae rhan yn mynd i’r afael â gordewdra drwy ymyriadau yn yr ysgol. Mae’n nodi bod yr ymyriadau canlynol wedi cael effaith gadarnhaol: ymestyn hyd gwersi addysg gorfforol ar hyn o bryd, rhywbeth y mae’n rhaid fy mod wedi’i nodi yn y Siambr hon ddwsinau o weithiau—mae’n ymddangos yn hurt ein bod yn torri’r amser y mae plant ifanc yn yr ysgol gynradd yn ei dreulio yn yr awyr agored, neu mewn neuaddau, yn rhedeg o gwmpas; newid y marciau ar feysydd chwarae i annog mwy o symud a chynyddu argaeledd rhaffau sgipio a mathau eraill o offer chwaraeon; bysiau cerdded i’r ysgol; tynnu sylw at niwed diodydd pefriog a chael gwared ar beiriannau sy’n gwerthu bwyd afiach; ymgorffori elfennau maethol mewn gwersi, gan adeiladu ar y Bil bwyta’n iach—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs, Bethan.
Roeddwn i eisiau mynd ymlaen at ochr arall y ddadl a gwneud yn siŵr hyd yn oed pan soniwn am ordewdra nad ydym yn annog pobl i fynd y ffordd arall tuag at ddatblygu anhwylderau bwyta. Rwyf wedi cyfarfod â llawer o bobl sydd wedi cael problemau gyda’u pwysau, sydd wedi bod yn ordew, ac yna maent wedi mynd i’r pegwn arall. Felly, os caf fi ychwanegu hynny at y ddadl yma heddiw.
Ac rwy’n credu bod hwnnw’n bwynt da iawn. Rwy’n meddwl mai’r hyn y gallwn ei wneud yw defnyddio ysgolion i sicrhau bod pobl ifanc, erbyn iddynt adael ysgol, yn cario pwysau addas, yn deall yr holl werthoedd maethol, ac yn deall pwysigrwydd ymarfer corff a phleser ymarfer corff, gan fod cymaint o bobl ifanc mewn gwirionedd yn ystyried bod ymarfer corff yn gwbl amhleserus yn yr ysgol, a dyna pam y mae angen dawns a symud a’r holl bethau eraill hyn, yn enwedig ar gyfer menywod ifanc. Oherwydd bydd plentyn iach, Weinidog, yn troi’n oedolyn iach.
Holl bwynt y cynnig hwn yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod ein dinasyddion o ddifrif yn deall a’u bod yn dechrau eu bywydau fel oedolion yn ffit, yn y lle iawn yn feddyliol ac yn gorfforol, oherwydd byddant wedyn yn aros yn fwy gosgeiddig am fwy o amser, gan olygu mwy o fanteision i’w hiechyd personol ac wrth gwrs, mantais anferth i’r GIG ac i gymdeithas yn gyffredinol.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi:
a) a hithau’n Wythnos Ymwybyddiaeth Genedlaethol Gordewdra, mai ychydig o newid sydd wedi bod yn nifer yr oedolion sydd dros eu pwysau neu’n ordew yng Nghymru ers 2012 —ond ein bod am weld y niferoedd hynny’n gostwng;
b) bod yr Arolwg Iechyd Cymru diweddaraf yn dangos bod 59% o oedolion yn cael eu cyfrif yn rhai sydd dros eu pwysau neu’n ordew, a bod Adroddiad Blynyddol Presennol Rhaglen Mesur Plant Cymru yn cofnodi bod 26.2% o blant dros eu pwysau neu’n ordew; a
c) bod Llywodraeth Cymru’n parhau i fuddsoddi ar draws pob maes portffolio—gan gynnwys drwy GIG Cymru, addysg, chwaraeon a llywodraeth leol—i helpu pobl Cymru i fyw bywydau iach.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2, ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi bod trethi ar gynnyrch afiach a rheolau’n ymwneud â hysbysebu cynnyrch o’r fath yn faterion nad ydynt wedi’u datganoli, ac yn gresynu bod llywodraethau dilynol y DU wedi methu â defnyddio’r pwerau hyn i fynd i’r afael â gordewdra.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser i symud y gwelliant yma sydd yn nodi bod trethi ar gynnyrch afiach a rheolau’n ymwneud â hysbysebu cynnyrch o’r fath yn faterion nad ydynt wedi’u datganoli ac yn gresynu bod Llywodraethau dilynol y Deyrnas Unedig wedi methu â defnyddio’r pwerau hyn i fynd i’r afael â gordewdra. Dyna beth mae ein gwelliant ni yn ei ddweud. Wrth gwrs, rydym yn mynd i’r afael yn y fan yna efo’r agenda ataliol yn y maes yma, drwy gydnabod Wythnos Ymwybyddiaeth Genedlaethol Gordewdra. Wrth gwrs, mae eisiau mynd i’r afael efo’r agenda ataliol ac, fel yr oeddem yn sôn yn y pwyllgor iechyd y bore yma yng nghyd-destun y Bil iechyd cyhoeddus, mae yna bethau y gellid eu gwneud yn nhermau safonau maeth y bwyd rydym ni’n ei fwyta, yn ogystal â hygyrchedd gwell i ymarfer corff. Wrth gwrs, mae yna bosibiliadau trethi ar siwgr a diodydd sydd yn llawn siwgr, a hefyd mae yna le i drethu i gael gweld realiti isafswm pris alcohol hefyd. Mae’r materion hyn i gyd yn achosi gordewdra. Oes, mae yna agenda addysg, wrth gwrs, yn naturiol, ond mae yna le cryf hefyd i fod yn deddfu er mwyn gwthio’r agenda addysgiadol ymlaen.
Wrth gwrs, mae’r rhan fwyaf o’r rhain y tu allan i’n gallu ni yma yn y Cynulliad, ond lle mae’r gallu i fyny yn San Steffan, nid oes yna rhyw lawer o awydd i fynd i’r afael efo’r agenda ataliol yna. Achos nid oes dwywaith, mae angen cydnabod bod y diwydiant bwyd a diod yn hynod bwerus yn y math hwn o beth, ac yn gallu dylanwadu yn drwm iawn. Rydym ni’n gresynu gweld gwanhau ar y safonau sy’n dod o San Steffan yn ddiweddar gogyfer hybu’r gwaith ataliol sy’n mynd ymlaen yn y mater yma o ordewdra.
Mae deiet yn rhan bwysig o’r mater yma ynglŷn â gordewdra. Rydw i’n derbyn, yn naturiol, y pwynt a wnaeth Bethan wrth fy ochr i. Hefyd, mae ffitrwydd hefyd yn rhan arall o hyn. Ond, wrth gwrs, mae hefyd eisiau bod yn synhwyrol ynglŷn â hynny, ac mae eisiau ei gwneud hi’n hawdd i bobl allu dod yn fwy ffit. Mae angen cerdded dim ond 10,000 o gamau bob dydd i gyrraedd lefel o ffitrwydd sy’n gallu dylanwadu’n ffafriol ar eich iechyd chi—10,000 o gamau. Rydym ni i gyd yn gallu gwneud hynny—y rhan fwyaf ohonom ni—yn fan hyn drwy jest defnyddio’r grisiau y rhan fwyaf o’r amser ac nid bod yn wastadol yn y lifftiau. Nid wyf i’n edrych ar neb yn benodol yn y fan yma, ond 10,000 o gamau yw e. Nid oes angen mynd—. Rwy’n deall beth mae’r Dirprwy Lywydd yn ei feddwl am hyn bob tro rydw i’n ei godi, ond petai ffitrwydd yn dablet—. Mae ffitrwydd yn golygu gostwng 30 y cant o’ch pwysau chi, ac os ydych chi’n ffit, mae lefel eich colesterol chi 30 y cant yn is ac mae’ch pwysau gwaed chi 30 y cant yn is. Petai hwnnw’n dablet, buasai pawb yn gweiddi arnom ni fel meddygon i fod yn ei ragnodi fe, ond, wrth gwrs, nid ydy ffitrwydd yn dablet, ac felly mae gofyn inni wneud rhywbeth ynglŷn â fe.
Hefyd, ar ddiwedd y dydd, mae yna rai pobl efo gordewdra nad ydym ni’n gallu gwneud dim byd drostynt drwy dabledi neu’r holl ffitrwydd ac ati. Mae yna rhai pobl sydd yn dew iawn, iawn ac mae angen gwell darpariaeth ar y rheini yng nghyd-destun llawdriniaeth bariatrig yma yng Nghymru. Rwy’n credu, ar y cyfrif diwethaf, mai dim ond tri llawfeddyg sydd yn arbenigo yn y maes yma o gael llawdriniaeth benodol i gael gwared â phwysau mawr iawn mewn unigolion. O gofio bod gan dros 50,000 o drigolion Cymru BMI o fwy na 40, sydd yn golygu eich bod chi’n beth maen nhw’n ei alw’n ‘morbidly obese’, ac mae yna ganran hefyd sydd efo BMI sydd yn fwy na 50, sydd yn golygu eich bod chi’n ordew tew iawn, ar ddiwedd y dydd mae’r bobl yna wedi ffaelu pob math o driniaethau ac ati a phob math o gyngor, felly mae angen i rywun—llawfeddyg—wneud rhywbeth i fynd i’r afael â’r broblem yna. Nid yw’r gwasanaethau, yn sylfaenol, ar gael. Fel rydw i’n ei ddweud, tri llawfeddyg sydd yma yng Nghymru sy’n gallu darparu’r gwasanaeth yna ac mae’r galw amdano fe yn sylweddol yn fwy. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, am fy ngalw i siarad yn y ddadl hon. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cadw mater gordewdra ar yr agenda, ac yn ogystal â’r ffaith ei bod yn Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Gordewdra, ar ôl gormodedd y Nadolig, fel y soniodd Angela Burns yn ei haraith wrth gyflwyno’r ddadl, rwy’n credu bod llawer o bobl yn meddwl am droi at fwyta’n iach. Rwy’n cymeradwyo ymdrechion pobl i fod yn fwy iach ym mis Ionawr. Nid wyf yn llwyddiannus iawn fy hun, ond rwy’n credu bod gwneud mis Ionawr sych, torri’n ôl ar fwydydd sy’n cynnwys llawer o siwgr neu ddechrau ar drefn ymarfer corff newydd yn bwysig iawn. Rwy’n credu bod angen i bawb ohonom annog ein gilydd i wneud hynny.
Ond mewn gwirionedd, y cwestiwn yw sut rydym yn cyfleu’r neges honno ar hyd y flwyddyn gyfan, er mwyn meithrin arferion da yn y tymor hir. Rwy’n credu ein bod yn magu cenhedlaeth o blant a bwytawyr sy’n fwy ymwybodol o iechyd, oherwydd, yn sicr, dyma rywbeth sy’n cael sylw yn yr ysgolion cynradd. Rydym yn gwybod bod plant nad ydynt yn iach yn tyfu’n oedolion nad ydynt yn iach. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn i ni gyfleu’r neges i’r genhedlaeth iau.
Ond fel y crybwyllwyd eisoes, mae’r ffaith fod 26.2 y cant o blant Cymru yn rhy drwm yn peri pryder mawr. Ond rwy’n falch o weld bod 64 y cant o blant yn dweud eu bod yn bwyta ffrwythau bob dydd. Hoffwn pe bai’r ffigur yn uwch, ond serch hynny, mae’n 62 y cant, ac mae 52 y cant yn bwyta llysiau bob dydd, ac rwy’n meddwl mai 32 y cant o oedolion a ddywedodd eu bod wedi bwyta pum cyfran neu ragor o ffrwythau a llysiau y diwrnod cynt. Felly, yn amlwg, mae llawer o waith i’w wneud, ond rwy’n credu bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhai camau cadarnhaol iawn ar waith i fynd i’r afael â’r mater hwn.
Rwyf am gyfeirio, unwaith eto, at y Ddeddf teithio llesol, am fy mod yn credu bod hon yn bwysig iawn a bydd yn cael effaith wrth annog pobl i gynnwys cerdded a beicio yn eu bywydau bob dydd. Ar hyn o bryd, gwyddom fod awdurdodau lleol yn paratoi i greu mapiau rhwydwaith integredig, a byddant yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn mis Medi y flwyddyn nesaf. Rwy’n gobeithio y bydd y mapiau hynny’n dangos ardaloedd ar gyfer llwybrau cerdded a beicio lleol y bydd y cymunedau eu hunain yn credu y dylid eu blaenoriaethu. Felly, rwy’n gobeithio y gall bawb ohonom dynnu sylw at grwpiau cymunedol ac at y broses hon, ac annog etholwyr i gyfrannu.
Fel pob un ohonom, rwy’n bryderus iawn am effaith yfed llawer o ddiodydd llawn siwgr, ac roeddwn yn falch iawn heddiw o weld bod arbenigwyr iechyd wedi galw am wahardd taith lori Nadolig Coca-Cola. Cafodd hyn sylw eang yn y cyfryngau. Rwy’n teimlo o ddifrif bod hwn yn ddigwyddiad niweidiol iawn—lori Nadolig Coca-Cola. Mae’n aros mewn 44 o leoedd ledled y DU, gan gynnwys Caerdydd. Y Nadolig hwn, roedd ar Stryd y Frenhines, ac roedd ciwiau am samplau am ddim, sy’n cael eu rhannu ac mae hynny’n annog plant yn arbennig i yfed mwy byth o Coca-Cola. Yn ôl ei wefan ei hun, mae saith llwyaid o siwgr ym mhob can o Coke arferol. Rwy’n teimlo’n arbennig o gryf yn erbyn yr ymgyrch arbennig hon oherwydd, yn 2016—
Iawn, mewn eiliad. Yn 2016, pan arhosodd yn Asda yn Coryton yn fy etholaeth, cafwyd tagfa draffig drwy Gaerdydd am fod cymaint o bobl yn mynd i gael y Coca-Cola am ddim. Nid wyf yn gallu gweld bod hynny’n gydnaws ag iechyd da.
Mae’n ddrwg gennyf eich bod yn teimlo mor grintachlyd ynglŷn â lori Nadolig Coca-Cola. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Coca-Cola, fodd bynnag, am y ffordd y maent wedi cyfyngu ar siwgr yn eu diodydd ac wedi ehangu’r modd y mae’n hyrwyddo’r dewisiadau amgen heb siwgr, sef dros 50 y cant o’u gwerthiant yn y DU bellach?
Rwy’n croesawu unrhyw gyfyngu ar siwgr mewn diodydd, ond rwyf o’r farn nad yw’r gweithgaredd penodol hwn i’w groesawu. Rwyf hefyd yn siomedig ei bod yn ymddangos bod treth siwgr Llywodraeth y DU wedi cael ei glastwreiddio ac y bydd pethau fel ysgytlaeth sy’n cynnwys siwgr yn cael eu heithrio, gan y gall y rhain gynnwys yr un faint o siwgr â diodydd swigod. Nid wyf yn credu mewn gwirionedd fod yr ardoll arfaethedig mor uchel ag y gallai fod.
Yn olaf, hoffwn sôn am yr her milltir ddyddiol, sydd wedi cael ei chrybwyll yma yn y Siambr hon o’r blaen ac wedi cael ei mabwysiadu gan ysgolion yn y DU. Wrth gwrs, roedd un o’r rhai cyntaf i wneud hyn yn yr Alban ac roeddwn yn meddwl tybed a oes unrhyw enghreifftiau yng Nghymru. Ni allwn ddod o hyd i unrhyw enghreifftiau, ond rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu dweud wrthym, pan fydd yn siarad, pa un a oes unrhyw enghreifftiau yng Nghymru. Mae’n ymddangos bod hwn yn gysyniad gwych ac mor syml i’w wneud, pan fydd y plant yn cyrraedd yr ysgol, i fynd i redeg milltir. Diolch.
Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig heddiw am gyflwyno’r ddadl hon ar ordewdra, yn enwedig yn union ar ôl y Nadolig, fel y mae Angela wedi dweud. Mae gwneud rhywbeth da ar gyfer mis Ionawr yn addewid y gall pawb ohonom ei gefnogi yn ystod Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Gordewdra. Mae’n fater o gywilydd cenedlaethol fod bron i ddwy ran o dair o oedolion Cymru a thraean o blant Cymru yn rhy drwm neu’n ordew. Ond mae’n rhaid i ni ymdrin â gordewdra mewn modd sensitif gan fod pobl yn ymateb yn wahanol, ac nid ydym am i bobl edrych ar faint sero mewn cylchgrawn a chredu mai dyna’r ffordd sy’n rhaid iddynt fynd. Felly, mae’n rhaid iddo fod yn fater o addysgu pobl mewn ffordd synhwyrol.
Mae’n rhaid i ni wrthsefyll yr awydd i geisio datrys yr argyfwng gordewdra drwy gyflwyno deddfwriaeth. Nid yw treth siwgr yn mynd i atal pobl yn wyrthiol rhag yfed diodydd llawn siwgr, yn yr un modd nad yw ardoll ar sigaréts wedi arwain at y canlyniad dymunol roeddem i gyd ei eisiau ac yn ei ddisgwyl. Nid ydym wedi gweld llawer o ostyngiad yn nifer y bobl sy’n smygu. Mae’n cosbi’r rhai sydd leiaf abl i fforddio talu’r costau. Ar wahân i fod yn dreth anflaengar, ni fydd y dreth siwgr yn gwneud llawer i ddatrys y ffaith ychwaith fod bwyta’n iach yn aml yn ddrutach na bwyta bwyd sothach. Hynny yw, pa mor aml y mae pobl drwy—. Wyddoch chi, mae angen iddynt fynd adref yn gyflym ac maent yn galw heibio i gael McDonalds yn hytrach na mynd adref a choginio. Mae rhandiroedd bellach yn rhan o’r gorffennol, mewn gwirionedd, lle roedd gennym lysiau a ffrwythau gwych, a phopeth wedi’i dyfu gartref, pethau rydym yn awr yn eu galw’n organig, ac sydd i’r rhan fwyaf o bobl ymhell y tu hwnt i’r pris y gallant ei fforddio, neu eu cyllideb. Felly yr hyn y gallwn ei wneud yw sicrhau ein bod wedi ein haddysgu’n well am y bwydydd rydym yn eu bwyta. Mae cynlluniau fel Newid am Oes yn ddechrau gwych, ond yn hytrach na dibynnu ar ymgyrchoedd hysbysebu cenedlaethol dylem fod yn cyflwyno’r negeseuon hyn i bob plentyn ysgol yng Nghymru. Dylai rhan o’r cwricwlwm cenedlaethol newydd ganolbwyntio ar addysgu pobl ifanc sut i fwyta’n iach a sut i fyw bywyd iach. Nid yw’r dull o’r brig i lawr wedi gweithio hyd yn hyn, felly gadewch i ni ddewis dull o’r gwaelod i fyny yn lle hynny. Diolch i chi—diolch yn fawr.
Mae Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Gordewdra yn ymwneud â hyrwyddo’r ffyrdd y gall unigolion, y Llywodraeth a busnesau wella iechyd y cyhoedd. Y nod yw darparu’r wybodaeth a’r adnoddau a all greu newidiadau cadarnhaol hirdymor. Mae gwir angen hyn yng Nghymru hefyd. Mae yna lefel o ordewdra mewn plant ac oedolion sy’n her fawr i iechyd y cyhoedd. Mae bron i chwarter pobl Cymru yn cael eu hystyried yn ordew ar hyn o bryd.
Ddirprwy Lywydd, yn ôl Rhaglen Mesur Plant Cymru, mae mwy na 26 y cant o blant Cymru yn ordew ac yn rhy drwm. Yr hyn ydyw mewn gwirionedd yw’r hyn rydym yn ei gymryd i mewn a’r hyn nad ydym yn ei dynnu allan yn y corff—mewn gwirionedd, nid ydym yn llosgi calorïau. Dyna’r maes y mae’n rhaid i ni edrych arno’n ofalus iawn, ac mae’n rhaid i ni ddechrau gyda’r plant, fel y mae fy nghyd-Aelodau anrhydeddus wedi’i grybwyll eisoes. Mae’r plant, pan fyddant yn mynd i ysgolion cynradd—rwy’n credu y dylai pob ysgol yng Nghymru feddu ar drampolîn. Dylai’r plant fwynhau’r chwarae a llosgi eu calorïau hefyd. Mae’r rhan fwyaf o gaeau ysgol wedi mynd ar gyfer datblygiadau tai. Er mwyn Duw, rhowch y gorau i nonsens o’r fath a gadewch y caeau chwarae hyn i blant fynd i chwarae ar dir yr ysgol a gwneud yn siŵr fod y calorïau’n cael eu llosgi, fel y gwnaethom ni yn ystod ein plentyndod.
Yn y bôn, mae yna lawer o bethau eraill mewn bywyd sy’n rhaid i ni ddysgu. Dim ond sefyll am ddwy neu dair awr y dydd—peidio â gwneud unrhyw beth—a fy ffrind, bydd yn cael gwared ar 4 kg mewn blwyddyn yn eich corff mewn gwirionedd, os ydych yn sefyll; trueni nad ydym ond yn sefyll yma am bum munud. Ond os adiwch mewn blwyddyn hanner awr o sefyll—menywod yn y gegin, plant yn chwarae, yr holl fân bethau hyn. Yr holl—[Torri ar draws.] Rhaid i ni, yn y bôn—[Torri ar draws.] Mae gordewdra yn tyfu’n broblem ddifrifol. Mae gennym un meddyg yn y Siambr hon. Mae yna glefydau difrifol iawn sy’n cysylltu’n uniongyrchol â’r broblem hon—y galon, yr ysgyfaint, yr arennau, yr afu; pa un bynnag—mae yna glefydau angheuol difrifol.
A’r plant, o 16 oed—a phan fyddwch yn ifanc ac yn olygus, ond pan fyddwch yn 40 a hŷn fe fyddwch yn mynd yn ordew. Nid yw hynny’n iawn. Mewn gwirionedd nid yw’n rhoi’r corff mewn bywyd gweithgar go iawn ac yna cyfrannu at y gymuned. Mae’n costio i Lywodraeth Prydain bron—mae’n costio i ni, Lywodraeth Cymru, £1.4 miliwn yr wythnos. Y gwasanaeth iechyd gwladol—mae hwn yn arian mawr. Nid yw’n destun chwerthin, fy ffrindiau. Mae’n bwynt difrifol: £1.4 miliwn yr wythnos. Mae ein GIG o dan bwysau i ofalu am y clefydau hyn sy’n uniongyrchol gysylltiedig â gordewdra. Felly, mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth am y peth.
Dywed Sefydliad Prydeinig y Galon mai gan Gymru y mae’r nifer uchaf o achosion o fethiant y galon yn y Deyrnas Unedig, gyda mwy na 30,000 o bobl yn cael diagnosis. Dyna drueni. Mae’n amlwg fod angen rhaglen o fentrau ataliol i hybu iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Ond mae dull Llywodraeth Cymru o fynd i’r afael â gordewdra yn cyflawni canlyniadau anghyson, heb fawr o arwydd y bydd y lefel yn gostwng. Mae’r Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) arfaethedig eisoes wedi cael ei feirniadu am beidio â chynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n anelu’n benodol at fynd i’r afael â gordewdra. Mae arnom angen strategaeth ar gyfer addysgu pobl a rhaid i hyn ddechrau yn ein hysgolion, fel y dywedais yn gynharach.
Ddirprwy Lywydd, mae yna ardaloedd eraill, mae yna lawer o ardaloedd yn y byd—. Mae’r Tseiniaid—pan ewch i Tsieina, India a gwledydd eraill, byddwch yn mynd allan yn y bore ac mae’r parciau’n llawn o bobl yn gwneud ymarferion. Ond edrychwch ar ein parciau, ein hardaloedd. Mae gennym dirweddau hardd yng Nghymru, ond rwyf eto i weld y bobl yn mynd allan i wneud ymarfer corff. Beth yw’r broblem? Mae hyn yn—[Torri ar draws.] Pam rydym yn gwario arian? Ni fydd yn costio dim i ni. Dowch allan i’ch gerddi a gwnewch rywfaint o ymarfer corff.
Rwy’n gwybod nad fi yw’r enghraifft iawn fy hun, ond—[Torri ar draws.] Rhaid i mi gyfaddef—[Torri ar draws.] Mae’n rhaid i ni wneud yr hyn rydym yn ei bregethu, ond y ffaith yw, mae ein plant—rydym yn sôn am genhedlaeth, credwch fi. Menywod sy’n ordew, nid yw’n helpu ar gyfer ein cenhedlaeth nesaf. Mae’r rhai o oedran cael plant yn cael problemau; nid ydynt yn gallu cynhyrchu mwy o blant. Mae gordewdra yn un o’r achosion uniongyrchol—[Torri ar draws.] Mae’r meddyg yno. Mae’r meddyg yn eistedd yno. Gallwch gadarnhau hyn gyda’r meddyg. Mae hyn yn dirywio mewn gwirionedd. Mae yna hefyd—[Torri ar draws.] Fel y dywedais, mae yna lawer o broblemau yn uniongyrchol gysylltiedig, o ran iechyd, â gordewdra.
Ddirprwy Lywydd, y pwynt olaf yw bod yn rhaid i ni gefnogi—
Na. Na, rwyf—
Iawn, diolch.
Diolch yn fawr iawn. Mae’n rhaid i fi ddweud, fodd bynnag, hoffwn feddwl y gallai dynion sy’n sefyll mewn ceginau yn ogystal wneud rhywfaint o ymarfer corff wrth sinc y gegin. Mae fy ngŵr yn sicr yn ei wneud pan fydd yn golchi’r llestri. Galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hefyd, diolch i chi am ymdrin â’r pwynt hwnnw fel nad oedd rhaid i mi wneud. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am yr hyn sydd wedi bod ar y cyfan, rwy’n meddwl, yn ddadl ddiddorol a defnyddiol iawn. Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn ein hymrwymo i ddatblygu a darparu pedair strategaeth drawsbynciol ar draws y Llywodraeth, gan gynnwys ein strategaeth iach a gweithgar. Felly, bydd y dull hwn yn ysgogi newid yn y ffordd rydym yn nodi ac yn ymateb i rai o’r materion cymdeithasol ystyfnig iawn sy’n gymhleth a thrawsbortffolio ac sy’n galw am ddull aml-bartner o weithredu. Mae mynd i’r afael â gordewdra yn amlwg yn un mater o’r fath.
Rwy’n credu ei bod yn deg dweud ein bod yn gwneud llawer iawn i gynorthwyo pobl yng Nghymru i wneud dewisiadau iach a gweithgar ac i geisio cynnal pwysau iach, ond mae’n amlwg na allwn wneud y gwelliannau rydym am eu gwneud ar ein pen ein hunain. Os ydym i sicrhau bod gweledigaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael ei gwireddu, mae angen ymagwedd cymdeithas gyfan i sicrhau cymaint o lesiant â phosibl heddiw ac i sicrhau bod y patrymau ymddygiad sydd o fudd i iechyd yfory yn cael eu deall yn dda a’u rhoi ar waith gan y Llywodraeth, ein partneriaid eraill, ac yn allweddol, gan unigolion eu hunain.
Bydd Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn datblygu ymhellach ein hymdrechion i ymgorffori iechyd a llesiant ym mhob polisi a rhaglen. Mae’n adeiladu ar waith Deddf cenedlaethau’r dyfodol drwy ddarparu pŵer i Weinidogion bennu’r amgylchiadau pan fo’n rhaid i gyrff cyhoeddus gynnal asesiadau o effaith ar iechyd, gan eu cynorthwyo i ystyried yn fwy systematig sut y gall eu penderfyniadau a’u cynlluniau gyfrannu at wella iechyd a llesiant gan leihau unrhyw effeithiau negyddol.
Mae gordewdra’n broblem gymhleth heb unrhyw ateb hawdd. Rydym yn gwybod bod mynd i’r afael â gordewdra’n galw am ymrwymiad ar draws Llywodraeth Cymru. Mae llawer o feysydd polisi eisoes yn chwarae eu rhan: cynllunio, addysg, iechyd, caffael, chwaraeon—maent ganddynt hwy ac eraill gyfraniad mawr i’w wneud. Mae hefyd yn galw—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Yng Nghasnewydd, Weinidog, fel y gwyddoch rwy’n credu, mae gennym grŵp Ffit ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n dwyn ynghyd yr holl sectorau hynny a grybwyllwyd gennych i geisio cael poblogaeth leol sy’n gwneud mwy o ymarfer corff. Ai dyna’r math o fenter y gallai’r bondiau lles eu cefnogi maes o law?
Mae’r fenter a ddisgrifiwch yng Nghasnewydd—nid wyf wedi cael cyfle eto i ddod i ymweld, ond buaswn yn awyddus iawn i wneud hynny gan fy mod yn gwybod fod honno’n enghraifft dda iawn o bartneriaid yn dod at ei gilydd er mwyn ymdrin â gweithgarwch corfforol a llesiant ac iechyd yn ehangach.
O ran y bond lles, mae’r prosiect hwn ar gam cynnar iawn o ran y cysyniad ac rydym yn gweithio gyda swyddogion, unwaith eto ar draws gwahanol adrannau’r Llywodraeth, i ddwyn ynghyd y weledigaeth ar gyfer y bond lles. Byddwn yn sicr o fod mewn sefyllfa i ddweud mwy am hynny maes o law.
Mae mynd i’r afael â gordewdra, fodd bynnag, yn galw am ymrwymiad gennym ni yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys Llywodraeth y DU a’r diwydiant bwyd ei hun. Mae llawer ohono’n dibynnu ar bobl eu hunain yn ein cyfarfod hanner ffordd a chymryd y cyfrifoldeb personol hwnnw. Ond i gefnogi hyn, mae angen i ni greu’r amgylchedd cywir, lle y mae dewis bwydydd a diodydd iachach yn opsiwn hawdd a lle nad oes rhwystrau i fod yn weithgar yn gorfforol. Mae angen hefyd i ni rymuso unigolion drwy sicrhau eu bod yn meddu ar ddigon o sgiliau, gwybodaeth ac ysgogiad i wneud y dewisiadau cywir.
Gan ymateb yn benodol i welliant Plaid Cymru, byddwn yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU i roi camau llymach ar waith mewn perthynas â hyrwyddo bwydydd afiach i blant yn enwedig. Rydym yn monitro datblygiad yr ardoll siwgr ar ddiodydd meddal yn agos a’r camau sy’n cael eu datblygu i leihau siwgr drwy dargedau gwirfoddol y diwydiant bwyd. Rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud bod y rhain wedi gweithio o ran cyfyngu ar halen, ond os nad yw’n llwyddiannus ar gyfer siwgr, yna byddwn yn sicr yn ystyried galw am ddull gorfodol o weithredu.
O fewn ein cymhwysedd, rydym yn parhau i weithio drwy ddulliau sy’n seiliedig ar leoliadau, gan gynnwys drwy ysgolion, ysbytai a gweithleoedd, ac rydym yn gweithredu’r dulliau deddfwriaethol drwy Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a’n safonau maeth. Rydym hefyd yn defnyddio marchnata cymdeithasol ac ymgyrchoedd eraill, megis 10 Cam i Bwysau Iach Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae yna nifer o gynlluniau gwahanol yn cael eu datblygu ar lefel gymunedol, ac rwy’n credu bod yn rhaid i’r rhain sicrhau rhywfaint o hyblygrwydd, digon i gydnabod gwahanol anghenion ein cymunedau lleol gwahanol. Ni fuasai gennyf ddigon o amser, mewn gwirionedd, yn yr oddeutu pedwar munud sydd gennyf i siarad yn fanwl am bob un o’r rhain heddiw, ond rwyf wedi eu disgrifio mewn datganiadau a dadleuon blaenorol ac rwy’n fwy na pharod i roi manylion pellach yn y dyfodol, ond rwy’n cydnabod mai un peth nad wyf wedi sôn amdano’n fanwl yn y Siambr o’r blaen yw’r llwybr gordewdra ar gyfer Cymru gyfan, sy’n nodi ein dull o fynd ati i atal a thrin gordewdra, a chafodd ei grybwyll gan nifer o siaradwyr heddiw. Mae’n cynnwys gofynion sylfaenol ar gyfer gwasanaethau y dylai byrddau iechyd fod yn gweithio tuag atynt, ac roeddwn eisiau rhoi sicrwydd i’r Aelodau fy mod wedi herio’r byrddau iechyd yn bersonol drwy fy nghyfarfodydd â’r cadeiryddion i gyflymu’r broses o weithredu’r llwybr hwnnw, yn enwedig ar lefel 3 a lefel 4 ac yn amlwg buaswn yn awyddus i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau maes o law hefyd.
Rwy’n gobeithio, mewn gwirionedd, fod yr hyn rwyf wedi gallu ei nodi wedi rhoi sicrwydd i’r Aelodau fod gordewdra a mynd i’r afael â gordewdra yn bendant yn ffocws allweddol i’r Llywodraeth hon, ac rydym yn rhoi’r seilwaith angenrheidiol yn ei le ar gyfer gweithio mewn ffordd lawer mwy systematig ac effeithiol ar draws adrannau a phortffolios Llywodraeth er mwyn mynd i’r afael â hyn.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Suzy Davies i ymateb i’r ddadl. Suzy.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, bawb, am gymryd rhan yn y ddadl heddiw. Rwyf fi, fel Oscar, yn sefyll yma heb fod mewn sefyllfa o gryfder yn union, ond rwyf am gyfrannu a chrynhoi’r drafodaeth heddiw. Cawsom ddadl Aelod unigol ychydig cyn toriad y Nadolig, os cofiwch, a gosodwyd y cefndir ar gyfer y ddadl hon bryd hynny. Agorodd Jenny Rathbone y drafodaeth honno gyda thair ffordd o fynd i’r afael â’r hyn rwy’n meddwl ein bod i gyd yn derbyn bellach sy’n broblem gynyddol gydag effeithiau hirdymor, cyflwr y mae cymdeithas yn tueddu i’w ddarlunio drwy gyfrwng ffasiwn, drwy ddelwedd y corff, drwy ddeietau mympwyol—y mathau o bethau roedd Caroline Jones yn sôn amdanynt. Ac os nad yw’r cylchgronau a brynwn a’r rhaglenni a wyliwn a’r hysbysebion a welwn yn dechrau newid y naratif hwnnw, yna o ddifrif, rwy’n meddwl eich bod chi fel Llywodraeth a ni fel Cynulliad yn mynd i wynebu brwydr anodd yn ceisio cael ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth achlysurol yn seiliedig ar anogaeth i gael unrhyw effaith o gwbl. Ac ar yr un pryd, mae pobl o bob oed yn parhau i fod yn agored i ochr dywyll y cylchgronau sgleiniog hynny a chyfryngau cymdeithasol a’r rhaglenni Sky Living rydym i gyd yn gwybod amdanynt, fel ein bod yn y pen draw yn wynebu’r math o bethau—neu’r bygythiadau, gawn ni ddweud—y soniodd Bethan Jenkins amdanynt yn gynharach yn y ddadl, yn ei hymyriad i Angela.
Rwy’n ofni mai dyna pam nad wyf yn cefnogi defnyddio anghymeradwyaeth gyhoeddus o fwyd a bwyta fel offeryn ar gyfer newid patrymau ymddygiad y boblogaeth fel rydym wedi ei wneud, efallai, gydag ysmygu ac fel rydym yn dechrau ei wneud yn awr gydag alcohol. Mae’n bendant yn galw am ymagwedd hollol wahanol. Ni ellir anwybyddu’r un o’r syniadau a glywsom heddiw. Maent oll wedi bod yn syniadau gwirioneddol dda; clywsom lawer ohonynt o’r blaen, ond mae’n rhaid i ni wynebu realiti mewn rhyw ffordd, rwy’n meddwl, o ran sut olwg y gallai fod ar y pethau hyn mewn bywyd go iawn. Mae angen ewyllys wleidyddol ddiffuant a chadarn yma yn ogystal ag addysg gyhoeddus er mwyn torri drwodd, neu wneud yn siŵr nad yw’r syniadau gwirioneddol dda hyn yn cael eu dal yn ôl gan bethau nad ydynt yn gweithio, a rhoddaf rai syniadau i chi ynglŷn â’r hyn rwy’n siarad amdano.
Felly, er enghraifft, rwy’n meddwl ein bod i gyd, yn ein tro, dros y pum mlynedd diwethaf, wedi canmol y syniad o ailgyflwyno economeg y cartref, a soniodd Angela heddiw am ragor o le i addysg gorfforol ar gwricwlwm yr ysgol, ond a oes yna ewyllys wleidyddol i greu lle ar y cwricwlwm hwnnw, neu hyd yn oed i greu diwrnod ysgol hwy i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei gynnwys? Mae’r cynlluniau ysgolion iach amrywiol—roeddwn yn hoff iawn, mewn gwirionedd, o’r dystiolaeth a roesoch yn y ddadl flaenorol, Jenny, am brofiad Sir y Fflint a’r hyn sy’n digwydd yno, ond wyddoch chi, rwy’n tueddu i feddwl, pa mor wybodus bynnag yw person ifanc yn ei arddegau, pa mor gynnar bynnag y dywedwn fod bwyta afalau yn dda, fel rydym yn ei wneud yn yr ysgolion cynradd yn eithaf effeithiol, rhowch chi gyfle i berson ifanc cyffredin yn ei arddegau i fynd allan amser cinio a bachu McDonalds a dyna fydd yn ei wneud. Felly, a oes ewyllys wleidyddol i ddweud, ‘A dweud y gwir, ni ddylai neb adael yr ysgol yn ystod amser cinio’? Nid wyf o reidrwydd yn argymell hynny, ond mae’r rhain yn gwestiynau rwy’n credu y bydd yn rhaid i ni eu hateb er mwyn gwneud i’r pethau hyn ddigwydd.
Treth siwgr: pa mor uchel rydych chi’n mynd? Yn drist iawn, rwyf wedi olrhain cost bar siocled Mars, o’r adeg pan gyflwynwyd y system ddegol, o 3c i 65c dros oes. Mae maint Mars wedi crebachu’n sylweddol. Rwy’n dal i’w prynu. Gwn eu bod yn ddrwg i mi. Pa mor ddrud sy’n rhaid i chi eu gwneud er mwyn gwneud i bobl roi’r gorau i’w prynu? Ac mae’r cwestiwn hwnnw’n bwysig mewn cymunedau tlotach lle y mae mynediad at amrywiaeth o siopau’n wirioneddol anodd.
Ar ymarfer corff, Dai, fel person byr, mae’n debyg fy mod yn cymryd llawer mwy o gamau dros bellter penodol na Nathan Gill yma. [Chwerthin.] A wyddoch chi, rydych yn llygad eich lle ynglŷn â cherdded: mae am ddim, ond mae unigolion swrth heb ddigon o amser—ac nid wyf yn siarad amdanaf fy hun hyd yn oed y tro hwn—yn colli awydd i gerdded oherwydd pethau syml fel y tywydd ac mewn perthynas â phobl iau, oherwydd diogelwch. Mae pobl wedi bod yn y Cynulliad hwn ers digon o amser i wybod fy mod wedi siarad am ddiogelwch. [Torri ar draws.] Fe soniaf am feicio mewn eiliad, ond rwy’n brin o amser, iawn? Felly, yn olaf, yr hyn roeddwn eisiau ei ddweud am deithio llesol, ac am feicio hefyd, yw hyn: gwnewch ‘ddiogelwch yn gyntaf’ yn brif elfen, oherwydd os na wnewch hynny, nid yw’n mynd i weithio.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch yn fawr. Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.